Top Banner
Cylchlythyr Chwarterol Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ar gyfer mentrau bwyd cymunedol a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Sir Gaerfyrddin (wedi ei leoli yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli, Castellnewydd Emlyn), wedi bod yn brosiect tair blynedd ar thema ‘Ffrindiau Iach’. Bu’n gweithio’n bennaf gyda phlant oed 7 i 8 a 10 i 11 oed trwy brosiect ‘bydi’, gan ymestyn i gyrraedd plant iau a’u teuluoedd, o 2 flwydd oed i fyny. Cychwynnodd y prosiect ym mis Tachwedd 2008 a daeth i ben ym mis Hydref 2011. parhad ar dud. 2 Cafwyd dathliad o gyflawniadau prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach yng Nghanolfan Haliwell, Caerfyrddin ar 7 Hydref.
12

Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

Feb 24, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

1

Cylchlythyr Chwarterol Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ar gyfer mentrau bwyd cymunedol a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33

Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach

Mae prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Sir Gaerfyrddin (wedi ei leoli yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli, Castellnewydd Emlyn), wedi bod yn brosiect tair blynedd ar thema ‘Ffrindiau Iach’.

Bu’n gweithio’n bennaf gyda phlant oed 7 i 8 a 10 i 11 oed trwy brosiect ‘bydi’, gan ymestyn i gyrraedd plant iau a’u teuluoedd, o 2 flwydd oed i fyny. Cychwynnodd y prosiect ym mis Tachwedd 2008 a daeth i ben ym mis Hydref 2011. parhad ar dud. 2

Cafwyd dathliad o gyflawniadau prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach yng Nghanolfan Haliwell, Caerfyrddin ar 7 Hydref.

Page 2: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

2

Food for ThoughtEi nod fu cynyddu ymwybyddiaeth o werth gweithgaredd corfforol, bwyta’n iach a chyflwyno syniadau ar gyfer ‘bydis’ mewn amgylchedd nad yw’n addysgol yn draddodiadol.

Yn aml, mae gwaith yn y maes hwn yn canolbwyntio ar raglenni iechyd a gyflwynir trwy ysgolion. Ond roedd y prosiect hwn yn ‘dysgu trwy chwarae’.

Prif ffocws y gweithgareddau oedd darparu ‘bydis’ gyda phlant iau oedd yn mynychu clybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol ac yn mynd at warchodwyr plant. Rhoddwyd hyfforddiant a chefnogaeth i bob plentyn a wirfoddolodd i fod yn ‘fydi’.

Yn ogystal â’r elfen o blant hyˆn yn ‘fydi’, cafodd rhai adnoddau eu rhoi ar brawf gyda phlant iau/cyn-ysgol. Wrth wneud hyn sicrhawyd bod y negeseuon a’r adnoddau cysylltiedig yn cyrraedd cymuned ehangach ynghynt, a bod plant, teuluoedd a gweithwyr gofal plant yn dod yn gyfarwydd â’r cynnwys. Gwerthuswyd effaith y prosiect gyda’r plant, y rhieni a’r gweithwyr gofal plant.

Cafodd y prosiect ei ariannu gyda £425,797 o Fenter Ffordd o Fyw y Gronfa Loteri Fawr, â’r nod o ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo bwyta, gweithgaredd a chwarae iach ymysg plant trwy brosiectau sy’n cynnwys y teulu cyfan.

Datblygwyd a threialwyd cardiau gweithgaredd dwyieithog i’r ‘bydis’ eu defnyddio trwy gydol y prosiect. Llywiwyd datblygiad y cardiau trwy ymgynghori’n barhaus â’r plant ac asiantaethau proffesiynol.

Derbyniodd pob lleoliad a gymerodd ran becyn yn cynnwys 70 o gardiau yn canolbwyntio ar weithgareddau corfforol, maetheg a gwerthuso. Cafodd y cardiau dderbyniad da yn ein holl leoliadau, a buont yn llwyddiant yn ymgysylltu plant mewn clybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol, â gwarchodwyr plant ac mewn grwpiau cyn-ysgol.

Casglwyd data bob tymor gan ddefnyddio holiaduron cyfrifiadurol rhyngweithiol, hwyliog, a dyma’r cynnydd a wnaed:

• Gwellodd 71% o’r cyfranogwyr (51%) neu gadw at (20%) lefel ddyddiol y llysiau y maent yn eu bwyta. (O’r rhai hynny a gynhaliodd eu lefelau gwreiddiol, roedd 76% eisoes yn bwyta rhwng 3 a 5 darn y dydd.)

• Cynyddodd 78% o’r cyfranogwyr (40%) neu gadw at (38%) eu lefelau gweithgaredd corfforol. (O’r rhai hynny a gadwodd at eu lefelau gwreiddiol, roedd 92% eisoes wedi dweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol mwy na 3 gwaith yr wythnos.)

• Gwellodd 76% o’r cyfranogwyr (33%) neu gadw at (43%) eu lefelau gwreiddiol parthed ymwybyddiaeth faethegol. (O’r rhai hynny a gadwodd at eu lefelau gwybodaeth gwreiddiol, roedd 95% yn gwybod y dylent fod yn bwyta 5 darn neu fwy y dydd.)

• Gwellodd 76% (40%) neu gadw at (36%) eu lefelau ymwybyddiaeth parthed gweithgaredd corfforol. (O’r rhai hynny a gadwodd at eu lefelau gwreiddiol, roedd dros 75% eisoes wedi datgan eu cred y dylent fod yn gwneud ymarfer corff mwy na 3 gwaith yr wythnos.)

• Roedd 93% (38%) wedi gwella neu gadw at (55%) eu hagwedd tuag at fwyta llysiau. (O’r rhai hynny a wnaethant gadw at eu lefel wreiddiol, dywedodd 96% eu bod yn hoff iawn o fwyta llysiau.)

• Gwellodd 91% (16%) neu gadw at (75%) eu hagwedd tuag at weithgaredd corfforol. (O’r rhai hynny a gadwodd at eu lefelau gwreiddiol, roedd 96% o’r cyfranogwyr eisoes wedi datgan eu bod yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath yn fawr.)

Mae Clybiau Plant Cymru bellach yn darparu’r cwrs Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach ledled Cymru er mwyn darparu gwybodaeth ac arweiniad ynglyn â sefydlu system ‘fydi’ mewn lleoliadau unigol. Mae’r cwrs yn cynnwys pecyn sy’n cynnwys 50 o gardiau gweithgaredd dwyieithog, 10 cerdyn canlyniadau, 9 gweithgaredd gwerthuso hwyliog a cherdyn cyfarwyddiadau.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Karen Pereira, Rheolwr y Prosiect ar 07977 200318 neu Pamela McIntosh ar 07977 485993.

Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Parhad o dud. 1

Page 3: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

3

Cnoi Cil

Ewch i coginioEwch i Goginio yw enw cyfres o gyrsiau ymarferol sy’n dangos sut i baratoi bwyd sylfaenol ar gyllid isel, mewn awyrgylch pleserus a hamddenol.

Mae’r cyrsiau am ddim ac wedi eu hanelu at rieni ifanc sydd â phlant ysgol. Maent yn bwysig iawn am na wnaeth rai rhieni ddysgu sgiliau coginio yn yr ysgol ond maent eisiau coginio prydau bwyd bod dydd iachus i’w teuluoedd ar gyllideb.

Mae hyd at 8 rhiant yn mynychu’r cyrsiau byr anffurfiol (6 wythnos) sy’n cael eu cynnal bob wythnos am 2-3 awr. Caiff y cyrsiau eu harwain gan diwtoriaid Sefydliad y Merched (WI) ac mae’r cynllun yn cael ei reoli gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched (NFWI)

- Cymru a’i ariannu gan Her Iechyd Cymru. Cynigir cyrsiau yng Ngheredigion, Clwyd-Dinbych, Morgannwg, Gwent, Gwynedd-Caernaerfon, Sir Benfro a Phowys-Trefaldwyn.

Mae aelodau o Sefydliad y Merched yn mynychu sesiynau cymunedol ar Fws Coginio Her Iechyd Cymru sydd wedi bod yn ymweld ag ysgolion cynradd yng Nghymru ac sy’n annog rhieni i ymuno â’r cyrsiau Ewch i Goginio. Mae’r cyrsiau hefyd wedi eu hysbysebu i grwpiau eraill drwy Gydlynwyr Lles ym mhob awdurdod lleol.

Fel rhan o’r cylch mwyaf diweddar o gyllid gan Her Iechyd Cymru a ddechreuodd yn 2009, mae 41 o gyrsiau wedi cael eu cynnal ac mae dros 200 o unigolion wedi cymryd rhan. Mae’r cyrsiau wedi cael eu cyflwyno i grwpiau fel Dechrau’n Deg, Cychwyn Cadarn, Cymunedau yn Gyntaf, Canolfannau Teuluol a Galw Heibio ynghyd â grwpiau rhianta eraill.

O’r cyrsiau hyn, mae dealltwriaeth y rhieni o fuddion maeth ac arbedion cyllidebol wrth ddefnyddio bwyd ffres wedi gwella ac atgyfnerthir y buddion hyn ym mhob sesiwn.

Mae hylendid personol, golchi dwylo, ffedogau amddiffynnol, diogelwch bwyd, cadw bwyd, dyddiad ar ei orau cyn a bwyta erbyn a chynhwysion sylfaenol y cwpwrdd bwyd i gyd yn cael eu pwysleisio ym mhob sesiwn goginio.

Dywedodd tiwtor o Went:

“Mae’n galonogol ac yn rhoi boddhad gweld gwelliant yn sgiliau pob aelod o’r grwp ac mae’r cardiau rysáit yn fonws ychwanegol ac yn ddefnyddiol iawn. Mae’r cyrsiau yn llwyddiannus iawn ac maent wedi hybu buddion ‘dechrau coginio o’r dechrau’. Maent yn brofiad cadarnhaol i’r cyfranogwyr a’r tiwtoriaid”.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa NFWI-Cymru by telephone on 029 20221712 trwy ffonio 02920 221712 neu dros e-bost – [email protected].

Page 4: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

4

1,000 o bobl yn Ymweld â Sioe Deithiol Ffordd o Fyw Iach Diabetes UK yng Ngwyl Fwyd y Fenni

Ymwelodd tua 1,000 o bobl â Sioe Deithiol Ffordd o Fyw Iach Diabetes UK yng Ngwyl Fwyd y Fenni penwythnos diwethaf.

Aethant i’r sioe deithiol ym maes parcio Stryd y Castell ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Medi i ganfod mwy am ddiabetes ac i fwynhau dawnsio byw, zumba ac arddangosiadau coginio iach.

Helpodd y sioe deithiol hefyd 60 o bobl i ganfod a ydynt mewn perygl o ddatblygu diabetes Math 2 yn y 10 mlynedd nesaf yn dilyn asesiadau risg diabetes Math 2 am ddim. Cafodd y rheiny y canfuwyd bod y perygl yn gymedrol neu’n uchel eu cyfeirio at eu meddyg teulu am fwy o gyngor neu am brofion.

Yn dilyn ymweliad llwyddiannus y sioe deithiol yn 2010, roedd sioe deithiol eleni yn cynnwys adloniant byw gan Folddawnswyr y Fenni, Dance Blast Sir Fynwy, India Dance Wales, dosbarthiadau ffitrwydd zumba Olivia Sweeney a DJ Shai (Ali Boksh) Radio Dinas Casnewydd. Roedd

pobl hefyd yn gallu cael cyngor am fwyta’n iach gan y deietegydd Clare Davies. Rhoddodd y pen-cogyddion Jon Wellington a Steve Bennett berfformiad ysgubol hefyd gyda’u harddangosiadau coginio’n iach byw a chafodd y gynulleidfa wledd wrth flasu eu hymdrechion.

Nod y sioe deithiol oedd amlygu pwysigrwydd ffordd o fyw iach i leihau’r perygl o ddatblygu’r cyflwr ac i adnabod rhai o’r 900 o bobl yr amcangyfrifir bod ganddynt ddiabetes Math 2 yn Sir Fynwy yn ddiarwybod iddynt. Cododd y sioe deithiol ymwybyddiaeth ynghylch pobl sydd mewn perygl uwch o ddatblygu diabetes Math 2, yn cynnwys y rheiny sydd dros bwysau neu’n fawr o amgylch eu canol, pobl dros 40 oed, neu dros 25 mewn cymunedau pobl dduon a De Asiaidd, a’r rheiny â pherthynas agos sydd eisoes yn byw gyda’r cyflwr.

Gall pobl leol nad oeddent yn gallu mynychu’r Sioe Deithiol gael prawf i weld a ydynt mewn perygl o gael diabetes trwy wneud prawf Sgôr Risg Diabetes UK am ddim ar-lein yn www.diabetes.org.uk/roadshow/riskscore1.

Clare, y dietegydd, sy’n rhoi cyngor bwyta’n iach

Bola ddawnswyr y Fenni sy’n perfformio

Page 5: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

5

Adnodd cynaliadwy’n cael ei ddatblygu ar gyfer goruchwylwyr amser cinio yn Sir y FflintMae’r Deietegydd a Chydlynydd Blas am Oes, Karen Erlandson, yn ddiweddar wedi dosbarthu llawlyfr yn cefnogi hyfforddiant Goruchwylwyr Amser Cinio mewn ysgolion cynradd yn Sir y Fflint.

Mae gan Oruchwylwyr Amser Cinio rôl allweddol yn cyfleu negeseuon cadarnhaol yn ymwneud â bwyta’n iach i blant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol.

Datblygodd prosiect Blas am Oes Sir y Fflint weithdai hyfforddiant ar gyfer Goruchwylwyr Amser Cinio a gafodd eu cyflwyno ar draws y wlad yn 2009 a 2010.

Roedd y gweithdai’n cynnwys:

• Cyflwyniad i ganllawiau Blas am Oes yn cynnwys pam y cafodd y canllawiau eu datblygu a pham y mae ‘Dull ysgol gyfan’ yn bwysig

• Addysg yn ymwneud â’r Plât Bwyta’n Iach

• Gwybodaeth am fuddion plant yn cael cinio ysgol

• Cyflwyniad i strategaethau syml i annog ymddygiad cadarnhaol yn ymwneud â bwyta a throsglwyddo negeseuon cadarnhaol am fwyd i blant

• Pwysigrwydd y profiad amser cinio a rhannu syniadau i annog bwyta’n iachach ymysg plant.

Yn dilyn llwyddiant y gweithdai, lluniodd tîm Blas am Oes Sir y Fflint lawlyfr hyfforddiant i weithredu fel adnodd cynaliadwy strwythuredig i athrawon gyflwyno gwybodaeth am egwyddorion allweddol bwyta’n iach i oruchwylwyr amser cinio.

Mae hefyd yn rhoi ffordd i ysgolion nodi cyfleoedd pellach i hybu maeth da i blant oed ysgol.

Mae’r llawlyfr yn cynnwys cynllun gwers a llawer o adnoddau y gellir eu llungopïo neu eu hargraffu o CD ROM sydd ynghlwm.

Cafodd yr adnodd ei hybu yn nigwyddiad dathlu Ysgolion Iach Sir y Fflint ym mis Gorffennaf, ac mae ar fin cael ei ddosbarthu i bob ysgol gynradd yn y sir. Bwriad tîm Blas am Oes yw cynnal gwerthusiad o’r defnydd maes o law.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag arweinydd Blas am Oes, Karen Erlandson, dros e-bost: [email protected].

Page 6: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

6

Mae staff o 70 o ysgolion ar draws Bwrdeistref Caerffili wedi mynychu hyfforddiant i weithredu’r adnodd Materion Iechyd yn eu hysgolion.

Mae set adnoddau Materion Iechyd yn cynnig deunydd addysgu sy’n benodol i oedran er mwyn helpu plant i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am iechyd a ffitrwydd.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llyfrau athrawon sy’n llawn syniadau am weithgareddau, cardiau gemau’n ymwneud ag iechyd yn cynnwys ymarferion cynhesu, gweithgareddau byr a phrif weithgareddau dysgu, CDau cerddoriaeth, CD ROMau, taflenni gwaith plant a mapiau prosiect sy’n dangos sut mae’r adnoddau’n cefnogi dysgu ar draws y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Mae gweithredu Addysg Materion Iechyd yn helpu ysgolion i gyflawni eu targedau ysgolion iach; er mwyn bodloni cydran iechyd a lles Cwricwlwm Addysg Gorfforol CA2 ac mae’n rhoi tystiolaeth ategol ar gyfer cydran lles Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn.

Cynhaliwyd yr hyfforddiant dros gyfres o sesiynau gyda’r hwyr o dan arweiniad yr awdur, Vicky Bowen. Derbyniodd pob ysgol a fynychodd becyn cwricwlwm llawn yn werth £300.

Mae’r adborth gan yr ysgolion wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae athrawon wedi croesawu’r gweithgareddau ymarferol a’r cynlluniau gwersi wedi eu strwythuro, y gellir eu defnyddio i wella gwaith y cwricwlwm a’r gwaith allgyrsiol.

“Wedi mwynhau’r gweithgareddau ymarferol. Roedd yr adnoddau a ddefnyddiwyd yn rhagorol, yn gyfeillgar iawn i blant. Wedi ein plesio gan y defnydd o ddeunydd ar draws y cwricwlwm”

Yn ogystal â hyn, mae Busy Feet, yr adnodd Materion Cyn-ysgol, ynghyd â hyfforddiant, wedi cael ei gynnig i bob lleoliad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ar draws Caerffili.

Cafodd yr adnodd ei ariannu gan grant Blas am Oes Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Carin Quinn neu Sarah Jenkins, Ysgolion Iach Caerffili ar 01443 864947.

Materion Iechyd Caerffili

Page 7: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

7

“Reaching Out” yn mynd ymhellachAr 13 Medi, dathlodd Prosiect Down to Earth yn Abertawe gyflawniadau eu prosiect dysgu awyr agored arloesol “Reaching Out”.

Mae prosiect “Reaching Out” y Gronfa Loteri Fawr wedi galluogi Down to Earth i weithio’n ddwys gyda 132 o bobl ifanc sydd mewn perygl o ddadrithiad ar raglenni 20 wythnos o hyd dros y 3 blynedd diwethaf.

Cymerodd y bobl ifanc a gymerodd ran ym mhrosiect “Reaching Out” ran mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored yn cynnwys gwaith coed gwyrdd, dringo coed, adeiladu cob, coginio yn yr awyr agored, garddio organig, hwsmonaeth anifeiliaid, hirdeithiau gwylltir a llawer mwy. Cyflawnwyd amrywiaeth o achrediadau Rhwydwaith y Coleg Agored ac ardystiad lefel darganfod John Muir. Gyda’i gilydd, llwyddodd y bobl ifanc a gafodd fynediad i’r ddarpariaeth gyflawni 171 o ddyfarniadau Rhwydwaith y Coleg Agored a 114 o Ddyfarniadau John Muir.

Roedd y diwrnod dathlu, a gynhaliwyd ar dyddyn 4 erw Down to Earth yn Murton, Abertawe yn cynnwys detholiad o weithgareddau rhagflas ymarferol, arddangosiadau a chyflwyniad yn ymwneud ag effaith y prosiect ar fywydau pobl ifanc.

Mae ymchwil a wnaed fel rhan o’r prosiect yn dangos, yn ystod darpariaeth y cwrs, bod 75% o’r bobl ifanc wedi cynyddu eu hunan-barch a bod 80% o’r bobl ifanc a gymerodd ran wedi gwella eu dealltwriaeth o ddeallusrwydd emosiynol. Roedd lefelau presenoldeb, 76% ar gyfartaledd, yn uchel hefyd, yn dangos ysgogiad a brwdfrydedd y bobl ifanc tuag at brosiect “Reaching Out”.

“Gan fod llawer o’r bobl ifanc a gymerodd ran wedi cael eu hatgyfeirio i’r prosiect yn dilyn diffyg ymgysylltu ag addysg prif ffrwd a darpariaethau eraill”, esbonia Lois Woodward, Gweithiwr Datblygu Therapiwtig “mae hwn yn trawsnewid bywyd llawer ohonynt.”

Roedd ymchwil arall a gasglwyd yn cynnwys barn y bobl ifanc am y prosiect: roedd “Nid wyf eisiau i’r prosiect ddod i ben” yn ymateb rheolaidd.

Cafodd y rheiny oedd wedi elwa fwyaf ar y prosiect eu gwahodd yn ôl ar gyfer y dathliad er mwyn dangos rhai o’r cynlluniau traddodiadol a chynaliadwy yr oeddent wedi helpu eu creu. Mynychodd athrawon, gweithwyr ieuenctid ac arweinwyr cymunedol hefyd i weld effaith y prosiect hwn sydd yn newid bywydau.

“Er bod cyllid prosiect ‘Reaching Out’ wedi dod i ben”, dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Mark McKenna, “mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain - mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â dysgu ymarferol â chymorth, cael achrediad sgiliau galwedigaethol, mynediad i’r awyr agored, hunan-barch a hunanddibyniaeth a datblygu dealltwriaeth o fyw’n fwy cynaliadwy.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan Down to Earth yn www.downtoearthproject.org.uk, ebost [email protected] neu ffôn 01792 346566.

Pedal PowerMae Pedal Power wedi cael cyllid i redeg nifer o gyrsiau am ddim ar gyfer pobl hyn. Mae’r cyrsiau’n cynnwys dysgu i feicio oddi ar y ffordd a hyfforddiant ar y ffordd.

Maent hefyd yn darparu cwrs arweinyddiaeth beicio a chyrsiau cynnal a chadw beiciau.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Pedal Power ar 029 20390713, e-bost [email protected] neu ewch i www.cardiffpedalpower.org.

Page 8: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

8

Os hoffech fwy o wybodaeth am agor neu ddod o hyd i gydweithfa fwyd, cysylltwch â’ch Gweithiwr Datblygu Bwyd lleol:

June Jones (Gogledd Cymru) 01766 890637 / 07717 202215

Natalie Edwards (Gogledd-ddwyrain Cymru) 07772 109695

Karen Robertson (Gogledd-ddwyrain Cymru) 07879 611670

Hannah James (De-ddwyrain Cymru) 029 2023 2943 / 07717 205438

Jessica Meller (De-ddwyrain Cymru) 07918 715 719

Richard Reast (De-ddwyrain Cymru) 01443 402317 / 07918 715718

Abigail Morrison (Gorllewin Cymru) 07875 224718

Rhaglen Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol

Cydweithfeydd Bwyd NewyddDiolch yn fawr i Faer a Maeres Wrecsam am fynychu achlysur lansio Cydweithfa Fwyd Penycae ar 14 Hydref 2011 yn Eglwys Nazarene, Stryd Issa, Penycae, Wrecsam. Mewn partneriaeth â’r Uned Adfywio Gwledig, mae trigolion lleol wedi dod ynghyd i ddarparu ffrwythau, salad a llysiau ffres yn wythnosol am brisiau cyfanwerthu.

Mae Keeley Langford a Holly Valentine wedi cael eu dewis i helpu’r athrawes Deborah Hughes i drefnu a chynnal eu cydweithfa fwyd yn Ysgol y Babanod Gwenfro, Wrecsam. Y merched sy’n gyfrifol am yr archebion, rhoi’r cynnyrch mewn bagiau a’u dosbarthu i staff yr ysgol.

Mae cyfle i gwsmeriaid Cydweithfeydd Bwyd yng Nghymru gael eu Ffrwythau, eu Llysiau a’u Salad AM DDIM trwy gydol mis Tachwedd. Gofynnir i gwsmeriaid ysgrifennu i Flwch SP 2366, Wrecsam LL11 OJT yn dweud wrth yr Uned Adfywio Gwledig pam y maent wrth eu bodd yn defnyddio’u cydweithfa fwyd. Dewisir y goreuon ym mhob rhanbarth. I gymryd rhan, ewch i’n cydweithfa fwyd agosaf a gallwch fod yn gwsmer cyn diwedd mis Hydref!

Page 9: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

9

Diwrnod Afalau PontypriddMae’r Uned Adfywio Gwledig wedi gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ledled Cymru i sefydlu cydweithfeydd bwyd cymunedol. Mae maint y ffrwythau lleol sy’n mynd i mewn i’r bagiau yn isel yn rhai ardaloedd o Gymru oherwydd diffyg tyfwyr yn yr ardal. Mae hyn yn wir yng nghymoedd De Cymru.

Roedd Diwrnod Afalau Pontypridd yn ateb ymarferol i’r broblem hon. Ariannodd yr Uned Adfywio Gwledig y gwaith o blannu perllan o 10 coeden afalau draddodiadol yn Ysgol Gynradd Coedpenmaen ym mis Hydref. Gweithiodd y gweithiwr datblygu bwyd, Richard Reast, mewn partneriaeth ag aelodau o grwp Cyfeillion y Ddaear i gyflwyno’r digwyddiad hydrefol ar gyfer Gwyl “Tamaid Bychan Cymreig”. Mae’r wyl yn dathlu bwyd lleol a chynaliadwy gan godi ymwybyddiaeth o effaith amgylcheddol y bwyd yr ydym yn ei fwyta mewn ffordd hwyliog.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda’r disgyblion, y rhieni ac aelodau’r cyhoedd i gyd yn dysgu mwy am afalau a thyfu afalau. Roedd y berllan (un goeden fesul dosbarth) yn cynnwys mathau prin fel Ynys Enlli, Channel Beauty, Diamond a St Cecilia. Mae afal Ynys Enlli wedi cael ei gynhyrchu o hadau’r goeden olaf a ganfuwyd ar yr ynys ym 1998 a chynhyrchwyd Diamond o afalau a olchwyd i fyny ar y lan yng Ngorllewin Cymru o longddrylliad llong oedd ar ei ffordd i America ym 1825.

Gwnaeth pob dosbarth ymchwil i’w math nhw o afal. Gwasgwyd afalau a gasglwyd yn lleol, gwnaed siytni afalau, rhoddwyd cyngor am docio a chadw gwenyn a gwybodaeth ynglyn â sut i sefydlu gerddi cymunedol. Mynychodd garddwr rhandir Radio 2, Terry Walton, er mwyn ymuno yn yr hwyl. Bydd rhai coed yn dechrau dwyn ffrwyth y flwyddyn nesaf a byddant yn cael eu cynnwys ym magiau cydweithfa fwyd yr ysgol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Richard Reast yn [email protected] neu ffoniwch 01443 402317/ 07918 715718.

Ymgyrch Newid am Oes

Dathlu Newid am Oes yng Nghymru – digwyddiadau cefnogwyrRoedd yn braf gweld cymaint o bobl yn y tri digwyddiad hanner diwrnod rhanbarthol a gynhaliwyd gan Newid am Oes ar ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Roedd y rhain yn rhoi gwybodaeth am ddatblygiadau newydd Newid am Oes yng Nghymru, yn dathlu cyflawniadau, yn rhannu profiadau a chlywed sut mae’r cyfryngau cymdeithasu wedi cael eu defnyddio yn yr ymgyrch.

Ar 19 Hydref, cafodd ymgyrch Newid am Oes i oedolion ei lansio.

Y chwe ymddygiad allweddol ar gyfer yr ymgyrch i oedolion yw:

1. Cyfnewid Dognau2. Cyfnewid Byrbrydau3. 5 y dydd4. Cyfnewid diodydd5. 150 o Funudau

Egnïol6. Cyfnewid Ffibr

Mae oedolion yn cael eu hannog i ymuno ar-lein. Ar ôl cofrestru, maent yn cael adborth personol. Anogwch bobl i ymuno yn www.cymru.gov.uk/newidamoes.

Mae Pecyn y Gaeaf yn edrych ar amserau bwyd a 5 y Dydd. Mae’n llawn syniadau am brydau bwyd fel cawl a chaserol, y gall y teulu cyfan eu mwynhau dros y Gaeaf. Hefyd mae syniadau da am focsys bwyd iach a ffyrdd cyflym a hawdd o fwyta 5 y Dydd. Dyma’r pecyn olaf y bydd y teuluoedd yn ei dderbyn, ond nid dyma ddiwedd Newid am Oes.

Mae Newid am Oes yn cynllunio rhywbeth ychydig yn wahanol ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Bydd hyn yn cynnwys anfon holiaduron gwerthuso allan yn y Gwanwyn. Yn y cyfamser, gall teuluoedd gael mwy o gymorth, awgrymiadau a syniadau ar y wefan ac ar dudalen Facebook www.facebook.co.uk/C4LWales a’n cyfrif ar Twitter (@C4LWales).

Page 10: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

10

Y Daith Gerdded Arfordirol Fawr GymreigMae Cerddwyr Cymru yn trefnu cyfres o deithiau cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer y penwythnos lansio sef 5 Mai 2012. Yr uchelgais yw cael cymaint o bobl â phosibl i gerdded o amgylch arfordir Cymru yn y digwyddiad cyfranogiad torfol mwyaf yng Nghymru erioed. Bydd aelodau’r Cerddwyr ar draws Cymru yn cynnwys eu cymunedau lleol mewn pob math o deithiau cerdded sy’n addas ar gyfer pobl math o bobl.

Bydd y teithiau cerdded hyn yn cyflwyno harddwch Llwybr Arfordirol Cymru i gynulleidfa newydd a all barhau i’w werthfawrogi am flynyddoedd i ddod.

Mae Cerddwyr Cymru’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, o dan arweiniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Caiff ei ariannu gan gronfa gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd. Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr parhaus, 850 milltir o hyd o amgylch y wlad, fydd ar gael yn gyfan gwbl i gerddwyr ac i feicwyr a phobl sy’n marchogaeth lle y bo’n ymarferol.

Bydd y Daith Gerdded Arfordirol Fawr Gymreig yn cynnwys cymaint o arfordir Cymru â phosibl dros y penwythnos gyda theithiau hir, teithiau byr, teithiau cerdded mewn llinell syth ac mewn cylch - mewn gwirionedd, bydd teithiau ar gyfer pawb.

Am fwy o wybodaeth ac i ymuno ewch i www.ramblers.org.uk/wales.

Hysbysfwrdd

© Andrew Morgan, Cerddwyr Abertawe

AdnoddauMy Wellbeing gan Sefydliad Maetheg PrydainMae Food a Fact of Life Sefydliad Maetheg Prydain wedi lansio offeryn deiet a gweithgaredd corfforol ar-lein ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.

Mae’n ffordd i bobl ifanc werthuso eu dewisiadau o fwyd a diod a’u lefelau gweithgaredd corfforol yn ogystal â rhoi arweiniad ar ddeiet cytbwys trwy ei gymharu â’r plât bwyta’n iach ac awgrymiadau ar gyfer bwyta’n iach, yn ogystal â’r lefelau gweithgaredd corfforol a argymhellir ar gyfer eu hoed.

Mwy o Ddeunydd Iaith Gymraeg ar gael gan Food a Fact of LifE Mae dwy set arall o ddeunyddiau yn Gymraeg bellach ar gael ar wefan Food a Fact of Life sydd wedi eu hanelu at athrawon ysgol gynradd ac uwchradd. Ewch i wefan Food a Fact of Life www.foodafactoflife.org.uk.

Bwyta’n dda ar gyfer pobl hyn a phobl hyn â dementia: Canllaw YmarferolMae Ymddiriedolaeth Caroline Walker wedi datblygu adroddiad a CD Rom yn amlinellu pam y mae bwyta bwyd da yn bwysig i bobl hyn ac mae’n rhoi argymhellion ar gyfer y mathau o fwyd a faint o fwyd sy’n briodol ar gyfer pobl hyn er mwyn bodloni eu hanghenion maethol. Ceir enghreifftiau o fwydlenni, prydau a byrbrydau ar gyfer y rheiny sy’n gallu bwyta’n dda, y rheiny y mae angen deiet bwydydd meddal, deiet o fwyd bysedd neu ddeiet piwrî arnynt.

Bydd hwn yn fan cychwyn defnyddiol i bawb sy’n cynorthwyo pobl hyn a phobl hyn â dementia i fwyta’n dda a gellir defnyddio’r deunyddiau a’u datblygu gan unrhyw un sy’n ceisio hybu iechyd gwell ymysg pobl hyn sy’n agored i niwed.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Caroline Walker ar 01923 445374 neu ewch i www.cwt.org.uk/order.html.

Page 11: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

11

Digwyddiadau Cyflwyniad i werthuso ar gyfer mentrau ffordd o fyw iachsMae’r Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth yn darparu gweithdai sy’n cynnwys trosolwg o’r prosesau a’r camau o werthuso menter gymunedol, gan ganolbwyntio ar astudiaethau achos rhyngweithiol. Cynhelir gweithdai rhanbarthol yng Nghaerdydd ar 8 Rhagfyr ac yn Wrecsam ar 12 Rhagfyr. Mae gweithdy Caerdydd yn llawn. Bydd y gweithdy’n esbonio’r mathau gwahanol o werthuso, beth i’w werthuso, sut i ddefnyddio’r canfyddiadau ac ystyriaethau moesegol. Bydd yn disgrifio ac yn cymhwyso fframwaith gwerthuso i astudiaethau achos mentrau ffordd o fyw iach. Bydd digon o gyfle ar gyfer trafodaethau a rhwydweithio. Mae’r gweithdy hwn yn hanfodol ar gyfer ymarferwyr cymunedol sydd heb gael unrhyw hyfforddiant ffurfiol yn gwerthuso neu y mae angen diweddariad arnynt. I gadw lle cysylltwch â Lauren Ellis yn [email protected] neu 029 20826642 i gael ffurflen gofrestru.

Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol CymruYn ei adroddiad blynyddol yn 2010, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn nodi bod iechyd cyffredinol yng Nghymru’n dda ac yn parhau i wella. Cafwyd gostyngiad yng nghyfraddau marwolaethau cyn pryd (o dan 65 oed) oherwydd canser a chlefydau cylchrediad y gwaed. Dywed yr adroddiad, er gwaetha’r ffaith fod disgwyliad oes yn gwella, mae pryderon bod Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â rhannau eraill o’r DU gyda bylchau’n ehangu rhwng yr iach a’r afiach. Ceir hefyd meysydd sy’n gwaethygu, fel cynnydd mewn marwolaethau oherwydd clefyd cronig yr iau a sirosis.

Mae’r adroddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://wales.gov.uk/topics/health/ocmo/publications/annual/report2010/?lang=en&ts=3

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cyflogi tîm newydd o Ddeietegwyr trwy Gynllun Grant Gallu Deieteg Cymru Gyfan. Bydd Tîm Maeth Cymunedol Cwm Taf yn darparu hyfforddiant maeth safonol gydag ansawdd wedi ei sicrhau ar draws ardal bwrdd iechyd Cwm Taf ar gyfer gweithwyr cymunedol a phroffesiynol i’w galluogi i gyfleu negeseuon bwyta’n iach cywir i’r boblogaeth ehangach. Byddant yn cynorthwyo aelodau cymunedol i ymgorffori maeth yn y gwaith sy’n cael ei wneud gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac maent hefyd yn ymestyn eu cylch gorchwyl i fynd i’r afael â diffyg maeth ymysg oedolion hyn.

Mae Tîm Maeth Cymunedol Cwm Taf yn cynnwys Shelley Powell, Chloe Lilley a Louise Gillam sydd i gyd yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith da a wnaed gan eu holynwyr a datblygu’r partneriaethau pwysig sydd wedi cael eu creu hyd yma. Mae’r tîm wedi eu lleoli gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf ym Mharc Busnes y Triongl, Merthyr Tudful.

Lansiodd Llywodraeth Cymru’r Cynllun 5 Mlynedd Bwyd a Ffitrwydd – Hybu Bwyta’n Iach a Gweithgaredd Corfforol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn 2006. Fel rhan o’r gwaith o weithredu’r cynllun hwn, cafod y cynllun grant ei lansio i gynyddu nifer y Deietegwyr sy’n gweithio yn y gymuned ac i hysbysu a chefnogi ffyrdd o fyw iach.

Yn gynharach eleni, roedd y cynllun lleol yn gysylltiedig â chreu ystod eang o gemau ac adnoddau maeth dwyieithog a enillodd Wobr yr Iaith Gymraeg mewn Gofal Iechyd. Mae’r rhain ar gael bellach i’w benthyg gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf.

Mae’r cynllun wedi cael ei groesawu ledled Cymru ac mae gwerthusiad allanol gan Brifysgol Glyndwr wedi nodi bod mewnbwn y Deietegwyr wedi dod yn amlwg ar lefel sefydliadol a chymunedol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r tîm maeth cymunedol ar 01685 358568.

Deietegwyr Cymunedol Cwm Taf yn gwneud gwahaniaeth

Page 12: Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iacha gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2011 | Rhifyn 33 Dathlu prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Mae prosiect

12

Canolfan Iechyd Cymru sy’n gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu’r cylchlythyr Cnoi Cil ond mae’n defnyddio cwmni allanol i ddosbarthu copïau ohono, sef RMG: Research and Marketing Group. Os nad ydych yn fodlon i’ch manylion cyswllt gael eu trosglwyddo i Research and Marketing Limited er mwyn dosbarthu’r cylchlythyr Cnoi Cil cysylltwch â: Iechyd Cyhoeddus Cymru, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu ffoniwch 029 2022 7744. Tachwedd 2011 © Hawlfraint y Goron

Amdanom Ni

Cnoi Cil yw cylchlythyr copi caled Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru wedi ei anelu at fentrau bwyd a gweithgaredd corfforol cymunedol.

Anfonwch eich cyfraniadau ar gyfer rhifynnau o Gnoi Cil yn y dyfodol at Beth Preece yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu anfonwch e-bost [email protected]. Anfonwch y cyflwyniadau ar gyfer y rhifyn nesaf erbyn 23 Ionawr 2012.

Mae’r wefan www.gweithgareddcorfforolamaeth cymru.org.uk yn cynnwys ystod eang o wybodaeth am faeth a gweithgaredd corfforol yng Nghymru.

Ewch i’r wefan i gofrestru fel aelod o’r Rhwydweithiau.

Mae bwrdd cynghori yn arwain ac yn goruchwylio gwaith Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru. Os hoffech roi mewnbwn neu adborth ar waith y Rhwydweithiau, ffoniwch 029 2022 7744 neu ewch i’r adran Amdanom Ni ar wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru.

Mae adroddiad blynyddol ar gyfer 2010 – 2011 wedi cael ei ddatblygu yn rhoi manylion gweithgaredd Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ac mae ar gael ar y wefan neu gan Beth Preece.

Digwyddiadau

Cynhadledd Gweithgaredd Corfforol Sefydliad Maetheg PrydainMynychodd Rebecca May, aelod newydd o Dîm Prosiect y Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth, Gynhadledd Gweithgaredd Corfforol Sefydliad Maetheg Prydain (BNF) ar 13 Hydref yn Llundain.

Agorwyd y gynhadledd hynod ddiddorol a llawn gwybodaeth hon gan EHB y Dywysoges Anne. Cafwyd anerchiadau gan academwyr blaenllaw am y cysylltiadau rhwng gweithgaredd corfforol a chydbwysedd egni, atal a thrin diabetes, canser, gweithrediad a dirywiad gwybyddol a chanllawiau newydd y DU ar gyfer gweithgaredd corfforol. Mynychodd ystod o broffesiynau’r diwrnod yn amrywio o academia i’r diwydiant bwyd.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyniad yn edrych ar astudiaethau achos o ymyriadau deiet a gweithgaredd corfforol, yn rhoi enghreifftiau ymarferol y gallai’r cynadleddwyr ddysgu oddi wrthynt.

Yn ogystal, roedd y gynhadledd yn gyfle i rwydweithio, cael mwy o wybodaeth gan y BNF a’r sefydliadau eraill oedd yn cael eu cynrychioli.

Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd, i lawrlwytho’r cyflwyniadau a’r 10 Ffaith Allweddol am Weithgaredd Corfforol, ewch i adran ddigwyddiadau’r BNF ar wefan Sefydliad Maetheg Prydain yn www.nutrition.org.uk/bnfevents/pastevents/physical-activity.