Top Banner
Cymru chwarae-gyfeillgar dros Gymru Chwarae Rhifyn 40 Haf 2013 Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae
16

Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Mar 29, 2016

Download

Documents

Play Wales

Mae’r rhifyn Cymru chwarae-gyfeillgar yn cynnwys: erthyglau newyddion amrywiol; dadansoddiad o’r dyletswydd Asesu Digonolrwydd Chwarae; Ymateb i’r ymchwil (Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, Cymru); Agweddau arloesol tuag at ddigonolrwydd chwarae; Prosiect ysgolion Llwybrau Porffor; Cyfweliad gyda Ken Worpole; Newydd da: datblygiadau P3; Astudiaeth: y gweithlu a digonolrwydd chwarae; Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Cymru chwarae-gyfeillgar

dros GymruChwaraeRhifyn 40 Haf 2013

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Page 2: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

2 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:

Chwarae Cymru, Ty Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050 I Ebost: [email protected]

Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 I ISSN: 1755 9243

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchgrawn hwn.

Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai

o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Argreffir y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Crewyd gan Carrick | carrickcreative.co.uk

Ers y rhifyn diwethaf o Chwarae dros Gymru, yn unol â’r gofyniad y dylai pob Awdurdod Lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardal, dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, cyflwynodd pob awdurdod lleol yng Nghymru Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) i Lywodraeth Cymru.

Mae cydweithwyr o bob cwr o’r byd wedi disgrifio’r ‘Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’, fel y caiff ei adnabod bellach, fel syniad ‘arloesol’ ac ‘arbrawf mentrus’.

Tra ’roedd yr ADCh yn cael eu paratoi roedd Grwp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) Cymru yn paratoi eu hadroddiad interim ar faint y mae’r gyfraith, polisi ac arfer wedi datblygu yng Nghymru, ers i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ryddhau Sylwadau Terfynol y DU yn 2008.

Mae’r adroddiad interim yn pwysleisio, tra bo Llywodraeth Cymru’n amlwg wedi cymryd camau

i drosglwyddo ei ymrwymiad i chwarae plant, bod diffyg cyllid wedi ei neilltuo ar gyfer monitro a gwerthuso effaith y mentrau ehangach.

Mae gan raglenni ariannu hanes o ddod â chanllawiau cysylltiedig aneffeithlon sydd, yn aml, wedi arwain at gamddehongliad wrth lunio penderfyniadau ar lefel leol. Yn anffodus, mae diffyg arweiniad eglur a chryno, a diffyg craffu cadarn ar lefel cenedlaethol, yn ymddangos fel pe bae wedi arwain at weld tybiaethau a bwriadau da a wnaed ar lefel polisi cenedlaethol sydd heb gael eu trosi’n realiti ar lawr gwlad.

Yn ddiweddar, mae’r penderfyniad i gynnwys ffrwd ariannu unedig Cymorth o dan y cynllun Teuluoedd yn Gyntaf wedi arwain at fwlch sylweddol mewn ariannu ar gyfer darpariaeth chwarae ar draws Cymru. Yn y mwyafrif o achosion, mae’r heriau a gododd wedi eu datrys, ond mewn ychydig achosion gwelwyd gostyngiad eang yn ariannu’r Llywodraeth a ddefnyddir i gefnogi darpariaeth chwarae.

Gan ystyried hyn, ariannodd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerloyw,

ymchwil i ymatebion awdurdodau lleol i’r ADCh. Yn ogystal, rydym yn chwilio am ariannu ar gyfer ail gam, er mwyn gwerthuso effaith y dyletswydd i sicrhau digonolrwydd cyfleoedd chwarae wedi cychwyn y rhan hwnnw o’r dyletswydd.

Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru yn adrodd ar ddadansoddiad o’r Dyletswydd Asesu Digonolrwydd Chwarae ac yn cynnwys enghreifftiau o’r modd y mae awdurdodau lleol ar draws Cymru’n ymateb mewn modd arloesol ac arbrofol at greu amodau ffafriol ar gyfer cefnogi digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Bydd yr ymchwil yn hysbysu gwaith Chwarae Cymru yn y dyfodol sy’n ymwneud â deddfwriaethau a dyletswyddau a bydd yn helpu i lywio gwaith ein hymgyrch, Mae’n ymgyrch i hyrwyddo ac amddiffyn yr hawl i chwarae mewn cymunedau yng Nghymru a gall cymunedau ei defnyddio i sefydlu eu ymgyrchoedd lleol eu hunain ar gyfer chwarae plant a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol ar yr un pryd.

www.chwaraecymru.org.uk/cym/gwladchwaraegyfeillgar

2 Golygyddol

3-5 Newyddion

6-7 Dadansoddiado’rdyletswyddAsesuDigonolrwyddChwarae

8-9 Ymatebi’rymchwil

10-11 Agweddauarloesoltuagatddigonolrwyddchwarae

12 LlwybrauPorfforyngweithiogydagYsgolMaesyMorfa

GwobrgenedlaetholiFeithrinfaCogan

13 CyfweliadgydaKenWorpole

14-15 Datblygu’rgweithlu

16 Cymru–Gwladchwarae-gyfeillgar

Cynnwys

Golygyddol

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi.

Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o adran newyddion ein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk

Diolch yn fawr

Page 3: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 3

NewyddionTaflenni gwybodaeth newyddYn ddiweddar cyhoeddodd Chwarae Cymru ddwy daflen wybodaeth newydd a arianwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiadau sy’n deillio o’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a gwblhawyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal.

Chwarae a’r blynyddoedd cynnar: genedigaeth i saith oedMae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Janet Moyles, yn archwilio beth yn union yw chwarae a’i bwysigrwydd i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar (o enedigaeth i saith mlwydd oed). Mae hefyd yn archwilio pwysigrwydd rolau oedolion, eiriolaeth a hawl y plentyn i chwarae.

Chwarae a risgMae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Tim Gill, yn anelu i amlinellu pam fod angen agwedd gytbwys, feddylgar tuag at reoli risgiau mewn chwarae plant. Mae’n anelu hefyd i gynnig trosolwg o asesu risg-budd, y mae llawer yn cydnabod sy’n agwedd briodol.

Mae’r ddwy daflen wybodaeth ar gael i’w lawrlwytho o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/taflennigwybodaeth

Diwrnod Chwarae 2013 – Mannau ChwareusCynhelir Diwrnod Chwarae eleni ar Ddydd Mercher 7 Awst. Mae’r ymgyrch Mannau Chwareus yn galw ar bawb i helpu i sicrhau bod y mannau ble y mae plant yn byw a chymdeithasu ynddynt yn fannau gwych ar gyfer chwarae.

Adnoddau

Mae amrywiaeth eang o adnoddau i gefnogi trefnwyr digwyddiadau ar gael ar wefan Diwrnod Chwarae – o gardiau post a phosteri i hyrwyddo’r digwyddiad, i ganllawiau ar gynllunio digwyddiadau.

Mae canllaw ‘Get Organised!’ ar gael i’w lawrlwytho hefyd – mae’n llawn gwybodaeth defnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich digwyddiad Diwrnod Chwarae. Mae’r canllaw cynhwysfawr yn cynnwys popeth y byddwch angen ei wybod er mwyn trefnu digwyddiad

cyhoeddus ar raddfa fawr, ac mae’r un mor ddefnyddiol os ydych yn trefnu digwyddiad llai o faint – o syniadau ar gyfer digwyddiadau i syniadau ariannu i sicrhau cyhoeddusrwydd.

Cofrestru digwyddiad

Waeth os ydych yn trefnu digwyddiad bychan gyda ffrindiau a pherthnasau, parti stryd gyda chymdogion, digwyddiad cymunedol neu strafagansa mewn dinas i ddathlu Diwrnod Chwarae, cofiwch gofrestru eich digwyddiad ar wefan Diwrnod Chwarae! Wedi ichi gofrestru, cewch gyfle i gyhoeddi eich digwyddiad ar y wefan er mwyn cynyddu cyhoeddusrwydd ac fe dderbyniwch becyn cofrestru yn rhad ac am ddim (tra pery’r cyflenwad).

www.playday.org.uk

Page 4: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

4 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

A yw hawliau plant yn realiti yng Nghymru?

Torfaen: Nod Barcud y Safonau CyfranogiadYn ddiweddar derbyniodd Gwasanaeth Chwarae Torfaen ‘Nod Barcud Y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc’. Dyfernir y wobr hon i ddarparwyr gwasanaethau plant a phobl ifainc sydd â chyfranogaeth ag ymgynghori wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn eu harfer dyddiol.

Yn ystod y broses gwelwyd grŵp o Arolygwyr Ifainc yn asesu’r gwasanaeth chwarae o ran y dulliau a ddefnyddir i ddosbarthu a chasglu gwybodaeth gan blant a phobl ifainc yn ogystal â gwerthuso’r gwasanaeth yn gyffredinol i benderfynu os yw’n cael ei arwain gan y defnyddiwr ac a yw’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Roedd yr Arolygwyr Ifainc i gyd yn aelodau o Fforwm Ieuenctid Torfaen a gyflawnodd gyfres o sesiynau hyfforddi cyn ymgymryd â’u rôl.

Meddai Andrea Sysum, Swyddog Polisi Chwarae Torfaen, ‘Galluogodd y broses hon i Wasanaeth Chwarae Torfaen asesu a myfyrio ar y modd y byddwn yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â’r plant a’r bobl ifainc y byddwn yn gweithio â hwy, yn ogystal â gyda’n staff a’n gwirfoddolwyr. Yn ogystal, amlygodd y broses sut y mae barnau a safbwyntiau ein plant a’n pobl ifainc yn hanfodol ar gyfer datblygiad ein gwasanaeth’.

Athro Newydd Astudiaethau Chwarae

Mae’r Play Safety Forum wedi cychwyn prosiect ar y cyd rhwng y bedair gwlad i gynhyrchu canllaw cryno ar weithredu asesu risg-budd mewn chwarae. Caiff gwaith y prosiect ei reoli gan Chwarae Cymru.

Nod y canllawBydd y canllaw, a ysgrifennir gan Yr Athro David Ball, Tim Gill a Bernard Spiegal, gyda chyfraniadau gan y Play Safety Forum a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn ehangu ar waith Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu. Bydd yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol ar ffurf ysgrifenedig.

Y bwriad yw gwneud yr argymhellion a geir yn Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw

Gweithredu yn fwy hygyrch a rhwydd i’w gweithredu gan bobl sydd ynghlwm â chreu, cynnal ac archwilio mannau y bydd plant yn chwarae ynddynt bob dydd.

Ar gyfer pwy y mae hwn? Mae wedi ei anelu at y bobl hynny sydd yn rhan o’r rheng flaen o reoli risg mewn gwasanaethau a chyfleusterau sy’n cynnig cyfleoedd chwarae a hamdden ar gyfer plant, gan gynnwys rheolwyr ardaloedd chwarae, rheolwyr tiroedd ysgol, gweithwyr chwarae a darpariaeth chwarae arall wedi ei staffio, arolygwyr chwarae, dylunwyr, gwneuthurwyr a swyddogion iechyd a diogelwch.

Cyhoeddir y canllaw yr hydref hwn.

Mae Hawliau Nawr, Hawliau Heddiw: A yw hawliau plant yn realaeth yng Nghymru? yn adroddiad interim gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru ar i ba raddau y mae’r gyfraith, polisi ac arfer yng Nghymru wedi datblygu ers i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gyhoeddi Arsylwadau Terfynol y DU 2008 ar gyfer Llywodraeth y DU.

Mae adrodd yn ôl i Bwyllgor y CU wedi ei ohirio ar hyn o bryd tan

2015; mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru’n credu ei bod yn amserol i gyflwyno llais cryf, cytûn cyrff anllywodraethol (NGO’s) ar faterion hawliau plant yng nghyd-destun Cymru cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn dwy flynedd.

Mae Pennod 7 yr adroddiad, a ysgrifennwyd gan Gyfarwyddwraig Gynorthwyol Chwarae Cymru, Marianne Mannello, yn canolbwyntio ar chwarae ac yn cynnwys y newyddion diweddaraf

am ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi, materion o bwys ac argymhellion allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru.

www.savethechildren.org.uk/where-we-work/united-kingdom/wales

Mae Perry Else wedi derbyn y teitl Athro mewn Astudiaethau Chwarae

gan Brifysgol Sheffield Hallam fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad i’r proffesiwn gwaith chwarae yn y DU ac yn rhyngwladol dros y pymtheg mlynedd diwethaf.

Yn ogystal â’i gyhoeddiadau ar chwarae a gwaith chwarae, rheoli gwasanaethau chwarae, cyfranogaeth

plant a pholisi chwarae, mae’r Athro Perry Else yn cyfrannu’n rheolaidd i gyhoeddiadau’r sector ac mae’n aelod o nifer o grwpiau sy’n cefnogi chwarae, gan gynnwys yr International Play Association. Mae diddordebau ymchwil ac addysgu Perry’n cynnwys rôl yr oedolyn wrth gefnogi chwarae, ansawdd profiadau awyr agored ar gyfer cefnogi chwarae, ac effeithiau ar chwarae a bennir gan eneteg a dylanwadau diwylliannol a chymdeithasol.

Canllaw asesu risg-budd

Page 5: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 5

Cyfryngau Cymdeithasol

www.facebook.com/ChwaraeCymru

twitter.com/ChwaraeCymru

Polisi rheoli risg Wrecsam Ym mis Ebrill 2013 cymeradwyodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bolisi rheoli risg newydd ar gyfer ei wasanaethau chwarae. Mae’r polisi’n anelu i greu agwedd gyson, gydlynol a chytbwys tuag at reoli risg mewn gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer plant a phobl ifainc ar draws Wrecsam ac i sicrhau gwell eglurder a dealltwriaeth am y mater hwn.

Mae’r polisi’n rhywfaint o her i natur ofn risg presennol ein cymdeithas all gyfyngu ar brofiadau chwarae plant, ac felly’n cynnig mwy o gefnogaeth i weithwyr awdurdodau lleol yn eu rôl o weithio gyda, ac ar ran, plant a phobl ifainc.

Mae’r polisi, a ddatblygwyd gan grŵp o weithwyr chwarae o bob cwr o Wrecsam a Chonwy, yn sail i fframwaith ar gyfer rheoli risg sy’n ymgorffori asesu cyffredin yn ogystal ag asesiadau risg-budd dynamig; fe’i hysbysir gan arfer a damcaniaethau cyfredol ac mae’n seiliedig ar yr agwedd a amlinellir yn Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu.

Mae Chwarae Cymru wedi derbyn cyllid gan Rwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Cymru (CYPRN) i gynorthwyo gyda hwyluso gwaith Grŵp Datblygu Ymchwil Digonolrwydd Chwarae.

Bydd y Grŵp yn darparu llwyfan cydweithrediadol ar gyfer datblygu prosiectau a cheisiadau ymchwil fydd yn archwilio dehongliad, gweithrediad ac effaith y dyletswydd i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Adran 11.

Mae natur arloesol y ddeddfwriaeth, y diddordeb rhyngwladol yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac agwedd Cymru yn cynnig dadl gref dros ymchwilio i hyn; gyda buddiannau ar gyfer y gymuned academaidd a’r gymuned polisi genedlaethol a rhyngwladol fel ei gilydd.

Mae aelodaeth y grŵp ymchwil yn cynnwys:

Dr Owain Jones (Prifysgol Swydd Gaerloyw – Athrofa Ymchwil Cymunedau a Chefn Gwlad)

Dr Simon Hoffman (Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe / Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc)

Mike Biddulph (Prifysgol Caerdydd – Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth)

Chwarae Cymru

Yr Athro Marcus Longley (Prifysgol De Cymru – Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru)

Yr Athro Ronan Lyons (Prifysgol Abertawe – Coleg Meddygaeth)

Stuart Lester (Prifysgol Swydd Gaerloyw – Chwarae a Gwaith Chwarae)

Wendy Russell (Prifysgol Swydd Gaerloyw – Chwarae a Gwaith Chwarae)

www.chwaraecymru.org.uk/cym/grwpymchwil

Grant i’r Grŵp Ymchwil Plant

Darlledwyd erthygl yn ddiweddar ar raglen ‘The One Show’ ar y BBC, am y prosiect Chwarae Allan ble y caiff strydoedd preswyl eu cau’n rheolaidd er mwyn atal ceir am gyfnodau byrion a chaniatáu amser i blant chwarae’n rhydd. Bwriad yr erthygl oedd cynyddu ymwybyddiaeth am y prosiect ac arddangos bod modd cyflawni hyn ar draws y wlad.

Mae’r prosiect, wnaeth ddechrau ym Mryste ac sydd bellach wedi ei ehangu i rannau eraill o’r DU, yn dangos y gall cau strydoedd yn rheolaidd, trwy gefnogaeth cymunedol a gweithio ar y cyd, helpu i droi chwarae ar y stryd yn elfen ‘normal’ unwaith eto a chyfrannu at wneud ein cymunedau’n rhai chwarae-gyfeillgar.

Fel rhan o’r clip dywedodd yr arbenigwr plentyndod, Tim Gill: ‘Mae chwarae’r tu allan yn wych ar gyfer plant – mae’n dda i’r plant, i’w rheini

ac mae’n dda i’r gymuned. Rydym yn ystyried y stryd fel man ar gyfer ceir ond, mewn gwirionedd, yr hyn y byddwn yn ei ddysgu oddi wrth Chwarae Allan yw … y gallwn feddwl am ffyrdd ar gyfer rhannu stryd fel y gallwn dynnu plant oddi wrth y sgrîn ac allan i gael amser da.’

Gellir defnyddio’r clip byr yma i geisio cefnogaeth ar gyfer cau strydoedd er mwyn cefnogi cyfleoedd chwarae plant yn ogystal â chyfrannu at leddfu pryderon a heriau lleol posibl.

Mae Chwarae Cymru’n edrych ymlaen at ddatblygiad prosiectau tebyg sy’n cael eu peilota yng Nghymru ar hyn o bryd. I weld enghraifft gyfoes yn Wrecsam, gweler tudalennau 10-11.

I weld y clip ymwelwch â blog Tim Gill ar:

http://rethinkingchildhood.com

www.playingout.net

Cau strydoedd i chwarae

Page 6: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

6 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Mae Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, Cymru yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil graddfa fechan oedd yn archwilio sut y bu i awdurdodau lleol ymateb i gyflwyno’r dyletswydd i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant, rhan cyntaf y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae, fel yr amlinellwyd ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Adran 11.

Mae’n defnyddio data o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) 20 o awdurdodau lleol, ynghyd â dogfennau perthnasol eraill, cyfweliadau a nodiadau o gyfarfodydd rhanddeiliaid tri astudiaeth achos o awdurdodau lleol, nodiadau a gasglwyd wrth arsylwi cyfarfodydd rhanbarthol, cyfweliadau â swyddog o Lywodraeth Cymru a swyddogion allweddol o bartneriaid cenedlaethol (Chwarae Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) ac arolwg arlein ar gyfer rhanddeiliaid allweddol oedd ynghlwm â’r broses ADCh.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Stuart Lester a Wendy Russell o Brifysgol Swydd Gaerloyw ac fe’i ariennir ar y cyd gan Brifysgol Swydd Gaerloyw a Chwarae Cymru.

Daw’r teitl o stori y bydd gweithwyr chwarae’n ein hadrodd sy’n crynhoi’r holl amrywiol bethau sy’n

rhan o greu diwylliant o dderbyn, sy’n golygu nad yw plentyn sy’n gwisgo’r pethau hyn yn hynod o gwbl ond sy’n dweud popeth am gymdogaeth chwarae-gyfeillgar.

Themâu allweddol sy’n codi o’r dadansoddiad

1. Mewn llawer o awdurdodau lleol mae’r Dyletswydd wedi atgyfnerthu partneriaethau sy’n bodoli eisoes, o fewn yr awdurdod yn ogystal â gyda rhanddeiliaid allweddol eraill, yn enwedig y sector gwirfoddol, er nad oedd hyn yn gyffredinol wir. Mae wedi dwyn ynghyd adrannau o awdurdodau lleol sydd, yn draddodiadol efallai, heb fawr ddim yn gyffredin o ran chwarae plant, yn arbennig cynllunio a datblygu lleol, trafnidiaeth a phriffyrdd, ac amgylchedd.

2. Mae rhai ADCh wedi datblygu ystod o agweddau ar gyfer ymgynghori â phlant (ac mewn rhai achosion, ag oedolion) sy’n ymestyn y tu hwnt i arolygon haniaethol a symbolaidd i ddatgelu bod gan blant gyfoeth o wybodaeth lleol am eu hamgylcheddau a’r modd y bydd lle, amser ac agweddau’n ffurfio eu rhyngweithiadau o ddydd i ddydd.

3. Pan roddir proffil uwch i wybodaeth lleol plant a’i gyfuno ag arbenigedd proffesiynol a ffynonellau gwybodaeth allweddol eraill, bydd partneriaethau’n llunio ‘cyd-ddoethineb’ am y modd y gall amgylcheddau lleol gyfoethogi neu lesteirio gallu plant i ganfod amser a lle ar gyfer chwarae.

4. Mae’r doethineb cynyddol yma, ynghyd â’r naratif cyffredin cysylltiedig, yn caniatáu meithrin agwedd sy’n fwy rhesymegol a chydlynol tuag at ddelio â’r Materion ADCh, yn hytrach na’u trin fel hanfodau ar wahân. Mae’n creu sail ar gyfer delio â’r newidion niferus, aflêr a chymhleth sy’n cyfrannu at greu amgylcheddau chwarae-gyfeillgar. Er enghraifft, gall agwedd partneriaeth integredig, sy’n seiliedig ar y gwerth y bydd plant yn ei osod ar chwarae mewn mannau anffurfiol yn agos i’w cartref, fynd i’r afael â materion sy’n amrywio o weithredu ar lefel ‘stryd’ (arwyddion, cau strydoedd, ymyriadau gwaith chwarae, amddiffyn llecynnau bychain o ‘dir diffaith’), materion sy’n ymwneud ag ymgysylltiad cymunedol (eiriolaeth, archwiliadau chwarae cymunedol), i faterion polisi ehangach (rheoliadau traffig, gweithdrefnau cau strydoedd hygyrch).

Casgliadau

Dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru a’i bartneriaid, Chwarae Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn galonog am gymryd y cam beiddgar hwn i’r hyn sydd o bosibl yn dirwedd cwbl newydd o ran dealltwriaeth llywodraeth am chwarae plant.

Os y gellir cynnal y momentwm yma mewn cyfnod o lymder, gellid ystyried hwn fel cam cyntaf siwrnai fuddiol, ble y gall llywodraethau werthfawrogi effaith eu gweithredoedd a gweithio â’i gilydd i greu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar.

Dadansoddiad o’r dyletswydd Asesu Digonolrwydd Chwarae

Page 7: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 7

Mae’r themâu allweddol yn y dadansoddiad yn tanlinellu’r modd cymhleth y mae pob agwedd o fywyd plant wedi eu cysylltu â’i gilydd. ’Dyw chwarae ddim yn ffenomenon ar wahân sy’n digwydd mewn mannau penodedig ac ar adegau penodol, yn hytrach mae wedi ei wau i mewn i fywyd bob dydd plant a bydd yn codi i’r wyneb pryd bynnag fo amgylchiadau’n caniatáu. Er mwyn parhau â’r momentwm a grewyd gan ofyniad statudol yr ADCh, bydd angen inni ddatblygu ymwybyddiaeth o’r amgylchiadau fydd yn cefnogi awdurdodau lleol gyda’r gwaith yma, a gallai’r rhain gynnwys:

Cynnal dialog: Bydd angen i’r partneriaethau strategol a grewyd neu a ddatblygwyd gael eu meithrin er mwyn parhau â’r dialogau sydd wedi digwydd yn ystod y broses ADCh. Mae dialog yn cydnabod y bydd gwahanol ddealltwriaethau, gwahanol flaenoriaethau a gwahanol lefelau o ymroddiad i’w hystyried; o fewn awydd cytûn i greu Cymru sy’n chwarae-gyfeillgar. Bydd y dialog poenus yma’n galw am gefnogaeth ac arweiniad strategol ar lefel leol yn ogystal â chenedlaethol.

Meithrin cymuned barhaus o ddysg ac arfer: Mae’r gwaith hyd yma wedi datblygu cyd-ddoethineb ynghylch amodau sy’n cefnogi neu’n cyfyngu ar chwarae plant. Mae’r doethineb yma wedi ei greu, nid yn unig o ddata ffeithiol, ond hefyd trwy hanesion, greddf, atgofion, arsylwadau, profiad a dialog uniongyrchol. Mae datblygu’r gweithlu’n elfen bwysig o hyn, o ran hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae ac o ran datblygiad proffesiynol parhaus sy’n meithrin dealltwriaeth cytûn ar draws sectorau proffesiynol

a chymunedol. Unwaith eto, mae hyn yn galw am arweiniad strategol ar lefel leol a chenedlaethol.

Cymhwysedd plant a chyfrifoldeb oedolion tuag at gyd-ddoethineb: Mae gan y rhan fwyaf o blant gyfoeth o wybodaeth lleol am eu hamgylcheddau ac mae angen i oedolion ddatblygu agweddau mwy hyblyg a dilys sy’n cydnabod a gwerthfawrogi hyn. Fodd bynnag, all oedolion fyth wybod yn llwyr am chwarae plant, a ddylen nhw ddim. Yr hyn sy’n fwy perthnasol yma yw i ddatblygu doethineb ynghylch arferion lleol a chenedlaethol sy’n cefnogi neu’n llesteirio gallu plant i gymryd amser a lle ar gyfer chwarae yn, a thrwy eu hamgylcheddau. Mae gan blant hawl i fod ar wahân, i gael amser a lle i’w hunain sydd y tu hwnt i olwg oedolion. Ar yr un pryd, ’dyw plant ddim yn gwbl ar wahân oddi wrth oedolion; bydd gan oedolion bresenoldeb â phlant hyd yn oed pan eu bod yn bell i ffwrdd, a gall y perthnasau hyn gefnogi neu lesteirio amodau ar gyfer chwarae.

Arbrofi: Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae, felly ’does dim patrwm penodol i’w ddilyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cam beiddgar gan gydnabod bod mynd i’r afael â digonolrwydd cyfleoedd chwarae’n galw am arbrofi, nid yn yr ystyr arbrawf gwyddonol sy’n ceisio rheoli’r holl newidion rheolyddol, ond trwy archwiliad beirniadol o arferion a pholisïau cyffredin cyfoes a mentro i wneud pethau’n wahanol.

Mae’r broses ADCh wedi creu ymdeimlad o gyffro. Mae hyn angen ei feithrin trwy rwydweithiau cefnogol a chydweithrediadol, fydd ddim yn gyfeillgar a chydsyniol bob amser (fel gyda chwarae plant ei hun), ond gyda ymroddiad ar y cyd i greu amgylcheddau mwy teg a democrataidd ar gyfer plant. Dylai’r broses o ddatblygu cyd-ddoethineb o fewn cymuned arfer o oedolion, anelu i gefnogi chwarae plant gan adlewyrchu rhai o nodweddion chwaraegarwch: bod yn agored i bethau newydd, ymdeimlad o chwilfrydedd a’r hyn allai ddigwydd, parodrwydd i ofyn gwahanol fathau o gwestiynau – agwedd ‘beth pe bae …?’.

Mae crynodeb weithredol o’r adroddiad ymchwil ar gael i’w lawrlwytho ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ymchwil

Mae copïau electronig o’r adroddiad llawn ar gael ar gais: [email protected] 029 2048 6050

Digonolrwydd Chwarae

Page 8: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

8 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Owain JonesDarllenyddmewndaearyddiaethdiwylliannol;tirwedd,lleacamgylchedd,AthrofaYmchwilCymunedauaChefnGwlad,PrifysgolSwyddGaerloyw.

Ar adegau, mae’n ymddangos y gall cyrff deddfwriaethol gamu allan o ddryswch diddiwedd gwleidyddiaeth bob dydd i gyflwyno polisi newydd sy’n llawn gweledigaeth. Mae’n ymddangos bod Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Llywodraeth Cymru’n un esiampl o ‘lywodraeth weledigaethol’ o’r fath.

Mae angen ei ystyried ochr-yn-ochr â Sylw Cyffredinol diweddar y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Dywed Helen Brocklehurst bod CCUHP bellach ‘y cytundeb hawliau dynol a gadarnhawyd fwyaf o weithiau erioed’. Ond a yw hynny wedi cael unrhyw effaith wrth newid amgylchiadau plant mewn meysydd megis gwrthryfel, tlodi, camfanteisio, yr amgylchedd a diraddioli?

Mater i’w groesawu’n wresog yw i ymchwilwyr â’r fath brofiad a sensitifrwydd tuag at chwarae plant, a’i lu o realaethau, â Wendy Russell a Stuart Lester gael cyfle i fwrw golwg manwl ar y modd y mae’r Dyletswydd yn cael ei weithredu.

Mae eu casgliadau’n nodi’r heriau y mae awdurdodau lleol, a chymdeithas yn fwy cyffredinol, yn eu wynebu wrth ‘wneud gwahaniaeth’ mewn gwirionedd ar lawr gwlad yng nghyd-destun chwarae plant. Fodd bynnag, mae’r sôn am newid mewn diwylliant yn galonogol gan ei bod yn ymddangos bod cydnabyddiaeth cynyddol bod cyfleoedd chwarae

plant wedi eu gwreiddio yn, ac yn tarddu o, amgylchiadau ehangach cymdeithas.

Marcus LongleyCyfarwyddwrAthrofaIechydaGofalCymdeithasolCymruacAthroPolisiIechydCymhwysol,PrifysgolDeCymru.

Dylai Cymru fod yn wlad wych ar gyfer plant – dyma’r wlad gyntaf yn y byd i edrych yn drylwyr ar y modd y gellir hwyluso chwarae plant. Mae hyn yn her sylweddol i gyrff statudol a’r trydydd sector, i ganfod ffyrdd o weithio â’i gilydd, ac hefyd i ddeall cymhlethdod a’r berthynas rhwng y ffactorau all ryddhau neu gyfyngu chwarae.

Mae’r archwiliad sensitif a chynnil hwn o realaethau ymrwymiad hanesyddol Cymru i wneud yr union beth yma’n datgelu natur y broses, ac yn amlygu nifer o wersi gwerthfawr fydd o ddiddordeb i bob gwlad fydd (gobeithio) bellach yn dilyn yn ôl troed Cymru. Yn bennaf oll, mae’n cynnig neges sy’n llawn gobaith ac anogaeth – mae hwyluso chwarae’n brosiect cwbl ymarferol, os y bydd oedolion yn mynd ati’n y modd cywir.

Ben Tawil Uwch-ddarlithyddynadranAstudiaethauTeuluaPhlentyndod,PrifysgolGlyndŵr

Mae Welingtons Croen Llewpard yn bwysig gan ei fod yn cynnig cyfle i bob un sydd â diddordeb mewn plentyndod, cymuned, polisi a llywodraeth ac yn bennaf oll chwarae, i ymgolli’n llwyr mewn adolygiad a dadansoddiad craff a chynhwysfawr o’r broses Asesu Digonolrwydd Chwarae (ADCh).

Mae’r awduron yn gweithio’n galed i ddwyn ynghyd a chyfleu themâu cyffredinol sy’n codi o’r ADCh. Mae’n bosibl i ddirnad, i raddau, pa ffurf fydd ar egin bolisïau, strategaethau a chynlluniau gweithredu dros y blynyddoedd i ddod, o ran sicrhau cyfleoedd digonol ar gyfer chwarae plant. Fodd bynnag, yr hyn y mae’r awduron yn ei wneud orau, a’r hyn sydd fwyaf defnyddiol, yw’r modd y mae’r dadansoddiad yn cyfleu natur tymhorol, byrhoedlog, cydgysylltiedig a chyd-ddibynnol, lleoledig a chyd-destunol chwarae a sut y bydd angen ystyried pob un o’r ffenomena sy’n effeithio ar chwarae ar draws gwahanol lefelau dadansoddol.

Mae dwy elfen benodol o’r dadansoddiad yn arbennig o ddefnyddiol i’r rheini sy’n dymuno cyfrannu tuag at gynnal, sicrhau ac ehangu hawl plant i chwarae. Mae Adran 2 (Prosesau polisi ar lefel genedlaethol) yn cynnig trosolwg manwl o ddatblygiad a naratifau polisi. Mae hon yn adran ddefnyddiol iawn ar gyfer ‘cysylltu’r smotiau’ i’r rheini sydd, efallai, yn amharod i ystyried bod plentyndod a chwarae’n ganolog i bolisi Llywodraeth. Mae’r ‘mesurau’ (Atgyweirio a chynnal a chadw, Gradd perthynas, Hawliau, Ail-hudo) a ddefnyddir i fframio’r dadansoddiad yn arbennig o ddarllenadwy ac yn fframwaith defnyddiol ar gyfer meddwl am a chynllunio ar gyfer digonolrwydd cyfleoedd i chwarae.

Am fwy o wybodaeth am y Grŵp Datblygu Ymchwil Digonolrwydd Chwarae, ymwelwch â:

www.chwaraecymru.org.uk/cym/grwpymchwil

Fe ofynnom i aelodau’r Grŵp Datblygu Ymchwil Digonolrwydd Chwarae a sefydliad partner i rannu eu sylwadau ar Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, Cymru.

Page 9: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 9

‘Rwy’n cwrdd â llawer o blant a phobl ifainc fel rhan o’r gwaith y byddaf yn ei wneud fel Comisiynydd Plant Cymru ac rwy’n gwbl ymwybodol pa mor bwysig yw chwarae iddynt. Mewn cyfnod o gyni ariannol, rwy’n pryderu efallai y caiff darpariaeth ar gyfer chwarae ei ystyried fel elfen ychwanegol ddymunol yn hytrach nac fel hawl i bob plentyn.

Mae’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’n garreg filltir ar y daith o’r ymrwymiad polisi a wnaeth Llywodraeth Cymru i wireddu’r hawl hwnnw gan y plant.

Mae’r ymchwil yma’n darparu’r dystiolaeth cyntaf am y modd y mae bwriadau polisi’n cael eu trosi’n weithredu strategol lleol ar ddigonolrwydd chwarae.

Mae’n amlwg bod llawer o waith yn dal i’w wneud ond mae’r broses Asesu Digonolrwydd Chwarae’n fan da i symud ymlaen ohono.’

Fe ofynnom hefyd i sefydliadau partner rannu eu barn am yr ymchwil. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chwarae Cymru ar ddatblygu’r canllawiau statudol a’r pecyn cymorth ar gyfer yr Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Cyfeiriwyd at lwyddiant y cydweithredu parhaus hwn yn yr adroddiad ymchwil.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:‘Rydym yn falch iawn bod yr adroddiad hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i bwysigrwydd chwarae. Byddwn yn parhau i weithio’n agos â Chwarae Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn atgyfnerthu ein polisïau plant-gyfeillgar sy’n sicrhau buddiannau tymor hir ar gyfer plant Cymru.

‘Gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae, nid oes unrhyw gynsail ar gyfer ein gwaith yn y maes. Credwn y bydd ystyried y cefndir a’r prosesau a ddefnyddiwyd i ddatblygu ein strategaeth yn helpu i hysbysu datblygiadau pellach yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill sydd â diddordeb yn ein hagwedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 CCUHP, ynghyd â’r argymhelliad y dylai pob gwlad lofnodol ystyried deddfu ar gyfer chwarae.’

Peter GomerYmgynghoryddPolisiDrosDro(Hamdden,DiwylliantaThreftadaeth)CymdeithasLlywodraethLeolCymru(CLlLC)

‘Gwych, addysgiadol, eglur, darllenadwy, yn peri ichi feddwl ac yn crynhoi fy nhrosolwg cyffredinol o’r holl broses Asesu Digonolrwydd Chwarae.

‘Rwy’n credu’n gryf y bydd yr arddull yr ysgrifennwyd y ddogfen hon o gymorth mawr i’r ffordd ymlaen. Mae’r awduron wedi llwyddo i daro cydbwysedd gofalus a didwyll rhwng yr hyn yr wyf fi’n eu hystyried yn selogion chwarae, yn ymarferwyr profiadol â’r pegwn arall sydd braidd yn sinigaidd.’

Keith TowlerComisiynyddPlantCymru:

Page 10: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

10 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Yn argymhellion clo Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, Cymru mae’r awduron, Stuart Lester a Wendy Russell, yn awgrymu pedwar amod allweddol ar gyfer cynorthwyo awdurdodau lleol i barhau â’r momentwm a gynhyrchwyd gan y broses Asesu Digonolrwydd Chwarae (ADCh).

Ar draws Cymru mae awdurdodau lleol a chymdeithasau chwarae rhanbarthol yn datblygu agweddau arloesol tuag at gyflawni’r pedwar argymhelliad hwn, fel yr amlinellir yn eu Cynlluniau Gweithredu Asesu Digonolrwydd Chwarae. Dyma rai enghreifftiau o’r datblygiadau newydd a chyffrous sydd ar y gweill.

Meithrin cymuned barhaus o ddysg ac arferMae Comisiwn Dylunio Cymru’n pwysleisio bod angen i awdurdodau lleol gyfathrebu’n gwbl glir yr hyn y maent yn ei ddisgwyl oddi wrth ddatblygwyr ystadau tai newydd. Trwy’r broses ADCh mae swyddogion cynllunio a dylunio nifer o awdurdodau lleol wedi mynegi eu ymrwymiad i sicrhau y caiff cynnwys mannau agored penodedig, fel mannau ar gyfer chwarae, eu hystyried ar ddechrau’r broses ddylunio.

Yn Abertawe, cydnabyddir y bydd cyfraniad cynnar swyddogion chwarae yn y broses ddylunio’n helpu i sicrhau creu cymunedau sy’n iachach ac yn fwy chwarae-gyfeillgar. Amlinellwyd yr angen i ymgynghori â swyddogion chwarae ynghylch dylunio a datblygu mannau chwarae integredig yn y Canllawiau Cynllunio Atodol newydd (CCA) ar gyfer datblygiadau preswyl newydd ar draws Abertawe gyfan. Unwaith iddo gael ei fabwysiadu bydd yr arweiniad yma’n cyfannu polisïau cynllunio lleol a amlinellwyd yn y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) presennol a’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) arfaethedig.

Yng Ngheredigion, mae’r swyddog cynllunio lleol wedi trefnu cyfarfod rhwng y Swyddog Arweiniol ADCh, RAY Ceredigion a Chwarae Cymru i drafod yr agwedd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei fabwysiadu tuag at fannau agored yn y Cynllun Datblygu Lleol. Yn ogystal, bydd y cyfarfod hwn yn archwilio sut y gellir cynorthwyo datblygwyr i arddangos eu bod wedi ystyried cyfranogaeth plant a phobl ifainc yn y gwaith o ddylunio mannau chwarae newydd.

ArbrofiMae Prosiect Chwarae Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru’n brosiect partneriaeth rhwng Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam sy’n cyflwyno timau o weithwyr chwarae i gymunedau penodedig am gyfnod o rhwng chwech a 12 mis, gyda’r nod o wella cyfleoedd chwarae ar gyfer plant.

Ers mis Ionawr 2013, mae un o’r timau hyn wedi bod yn gweithio mewn cymuned yn Wrecsam sydd ag un o barciau mwya’r sir yn ei chanol. Cynhaliwyd y mwyafrif o’r sesiynau chwarae a hwyluswyd y

tu allan i ysgolion yn y parc hwn sy’n fan, a gydnabyddir yn ffurfiol, ar gyfer chwarae ac sy’n cynnwys amrywiol nodweddion y gellid ystyried bod ganddynt werth chwarae uchel. Fodd bynnag, mae’r nifer fu’n mynychu’r sesiynau’n isel (rhwng wyth a deg) ac mae’r plant wedi tueddu i gael eu hebrwng gan eu rhieni, fydd yn dod â nhw i’r safle.

Ar yr un pryd, bu staff o’r prosiect hwn ynghlwm â phroses ADCh Wrecsam. Wrth i’r data a gynhyrchwyd gan yr asesiad gael ei ddadansoddi dechreuodd y tîm drafod sut y gellid addasu darpariaeth sy’n bodoli eisoes er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r blaenoriaethau ddaeth i’r amlwg, yn arbennig yr angen am: strydoedd mwy diogel i chwarae arnynt; lle agored yn agos i gartrefi plant; mynediad i ystod ehangach o fannau i chwarae; cynnydd mewn caniatâd rheini i chwarae, a gwell agweddau’n gyffredinol tuag at blant.

O ganlyniad i hyn, gofynnodd y gweithwyr chwarae i rieni o bedair ysgol yn y gymuned benodedig i enwebu strydoedd fyddai’n addas ar gyfer chwarae plant. Yn dilyn ymweliadau maes, dynodwyd lleoliad penodedig ac ymwelodd y gweithwyr chwarae â phob ty ar y stryd i gynyddu ymwybyddiaeth am y prosiect, i eiriol dros chwarae ac i ymateb i unrhyw bryderon.

Agweddau tuagat

Page 11: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 11

Mynychodd 24 o blant y sesiwn ‘chwarae stryd’ cyntaf; roedd y mwyafrif ohonynt yn newydd i’r prosiect ac wedi cerdded yno ar eu pen eu hunain neu gyda’u ffrindiau i ddefnyddio’r ddarpariaeth. Ers hynny, mae’r lefel presenoldeb wedi parhau i gynyddu gydag oedolion yn dod allan hefyd i weld beth sy’n digwydd a gyrwyr ceir yn symud yn araf i lawr y stryd er mwyn caniatáu ar gyfer chwarae plant.

Mae Cynllun Gweithredu ADCh Torfaen ar gyfer 2014 yn nodi y

bydd yr awdurdod lleol yn archwilio cynlluniau

newydd er mwyn cynnig yswiriant

awdurdod lleol ar gyfer darparwyr trydedd sector. Byddai hyn yn rhywfaint

o gymorth ar gyfer cynnig

gwell cefnogaeth i ddarparwyr cymunedol

fel y gallant barhau i gynnig darpariaeth chwarae i blant lleol heb y baich gwaith a’r pryder y bydd gweithdrefnau yswiriant trafferthus yn eu hachosi weithiau.

Cymhwysedd plant a chyfrifoldeb

oedolion tuag at ddoethineb cyffredinUn o’r amcanion ar gyfer Cynllun Gweithredu ADCh Conwy, dros y tair blynedd nesaf, yw i ehangu ar y wybodaeth eang a gasglwyd gan y plant trwy’r ymgynghoriad am y rhwystrau i chwarae a chreu darlun

mwy trylwyr o brofiadau plant o chwarae mewn cymunedau unigol a’u gwybodaeth leol eu hunain.

Ar hyn o bryd mae tîm Datblygu Chwarae Conwy’n gweithio ym mhentref Llansannan, sy’n nodweddiadol iawn o lawer o gymunedau gwledig Conwy. Mae’r tîm yn cynnal cyfres o dri neu bedwar gweithdy dilynol yn yr ysgol gaiff eu seilio ar weithdy ‘Hawl i Chwarae’ cychwynnol a gwaith i fapio’r gymuned yn erbyn meysydd gweithgarwch cyfyngedig, gweithgarwch a hyrwyddir a gweithgarwch cwbl rydd. Y nod yw cynnwys plant, mewn modd cwbl weithredol, yn eu asesiad digonolrwydd chwarae lleol eu hunain er mwyn dynodi camau gweithredu ystyrlon gaiff effaith cadarnhaol ar brofiadau chwareus plant yn eu cymuned.

Caiff y gwaith â’r plant ei gefnogi gan gyfweliadau uniongyrchol â rhieni ac oedolion eraill ac arsylwadau gwaith chwarae o fannau yn y pentref ble y bydd plant yn chwarae, er mwyn datblygu darlun manwl o natur chwareus y gymuned.

Wrth ddatblygu’r agwedd hon, mae’r tîm hefyd yn dra ymwybodol o’r geiriau rhybuddiol a geir yn Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch a’u cyfrifoldebau fel gweithwyr chwarae i sicrhau bod gan blant fannau y tu hwnt i olwg oedolion ac y gallai gor-ddadansoddi rhai mannau ac ymddygiadau chwarae gael effaith andwyol ar brofiadau chwarae plant.

Wedi cwblhau’r gwaith yn Llansannan, mae’r tîm yn anelu i dargedu o leiaf dair cymuned arall y flwyddyn er mwyn creu darlun mwy cyflawn o brofiadau chwarae bob dydd plant yn eu cymunedau, er mwyn eu defnyddio fel rhan

o’r ADCh nesaf ac wrth sicrhau digonolrwydd dros y blynyddoedd i ddod.

Cynnal dialogYn ddiweddar, lansiodd Powys ei Adduned Chwarae: Siartr ar gyfer Chwarae. Gwahoddwyd llunwyr penderfyniadau a rhanddeiliaid allweddol i ffurfio Siartr fel bod gan fudiadau berchenogaeth ohoni, ac fel y gallant arddangos eu hymrwymiad i chwarae plant.

Bydd hyn yn sicrhau y gall mudiadau uniaethu â’i gilydd yn rhwydd a bydd yn helpu i feithrin dialog i’r dyfodol a chyfleoedd i rannu arfer da ar draws y sir. Bydd yn galluogi mudiadau i ddechrau deall sut y dylid ystyried anghenion chwarae plant a phobl ifainc wrth gynllunio a throsglwyddo gwasanaethau. Bydd hyn yn ehangu ar y cyfraniadau a wnaeth mudiadau i hysbysu’r ADCh ac yn helpu i roi’r Cynllun Gweithredu ar waith. Yn ogystal, caiff meddyliau plant a’u teuluoedd eu tawelu bod mudiadau’n parchu hawl plant i chwarae.

Yn ogystal, hyderir y bydd mudiadau’n cydnabod gwerth chwarae ac yn cefnogi ei ddatblygiad trwy gyfrannu tuag at sicrhau adnoddau ar gyfer chwarae, mewn modd ymarferol a gydag ariannu.

www.chwaraecymru.org.uk/cym/digonolrwydd

Page 12: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

12 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Ariennir Prosiect Chwarae Llwybrau Porffor trwy raglen Chwarae Plant y Gronfa Loteri FAWR, i drosglwyddo chwarae cymunedol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Ethos y prosiect yw annog aelodau o’r gymuned i gefnogi datblygiad chwarae yn eu hardaloedd lleol, gan gydnabod hawl y plentyn i chwarae, yr effaith y mae’n ei gael ar fywyd a phwysigrwydd chwarae i bawb.

Mae Llwybrau Porffor wedi bod yn trosglwyddo sesiynau chwarae mynediad agored rhad ac am ddim mewn 16 o gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ble y bydd plant a phobl ifainc yn cymryd rôl weithredol yn eu chwarae, a ddewisir o wirfodd.

Ym mis Tachwedd 2012, dechreuodd Llwybrau Porffor gynnig sesiynau chwarae amser cinio, rhad ac am ddim, i bob ysgol gynradd ar draws y ddwy sir, er mwyn hybu sesiynau cymunedol a’r defnydd o adnoddau ar diroedd ysgolion. Cafodd y sesiynau chwarae dderbyniad gwresog iawn gan bob ysgol yn ogystal â’r defnydd o ddeunyddiau sgrap ar diroedd yr ysgol.

Sylwodd un ysgol ar unwaith ar fuddiannau cael tîm o weithwyr

chwarae ar dir yr ysgol. Dros y misoedd diwethaf mae Ysgol Maes y Morfa, Llanelli wedi bod yn cyflogi tîm Llwybrau Porffor i gynnal sesiynau chwarae amser cinio bob dydd a sesiynau prynhawn Gwener yn ystod amser ‘CPA’ y staff.

Meddai Joe Cudd, Pennaeth Ysgol Maes y Morfa:

‘Ers dyfodiad Llwybrau Porffor rydym wedi sylwi bod llawer llai o gecru a dadlau. Mae’r gweithwyr chwarae’n gwbl ymroddedig ac wedi ymrwymo’n llwyr i hybu amgylchedd chwarae cadarnhaol ar dir yr ysgol. Fe fyddwn yn clustnodi cyllid er mwyn i’r Llwybrau Porffor barhau i ddod i’r ysgol am byth pe gallwn!’

Bydd y tîm yn mynd â llond fan o adnoddau chwarae i dir yr ysgol ac meddai un bachgen, ‘Byddwn yn adeiladu cuddfannau, yn gwneud sgiliau syrcas ac yn creu pethau allan o sgrap, ac mae pawb yn ei fwynhau! Mae’n gwneud inni deimlo’n hapus, yn gyffrous, yn llawn adrenalin ac allan o wynt … Mae Llwybrau Porffor wedi newid yr

ysgol, mae pawb yn chwarae ac yn mwynhau dod i’r ysgol oherwydd bod Llwybrau Porffor yn wych. Mae nhw i gyd yn hwyl, yn deg ac yn gyffrous!’

Mae Llwybrau Porffor yn awyddus i barhau i weithio ag ysgolion trwy gydol y flwyddyn a mwy. Hyderir, trwy arddangos yr effaith cadarnhaol y gall chwarae ei gael yn ystod sesiynau ysgol y bydd plant, ysgolion a chynaladwyedd Llwybrau Porffor i gyd yn elwa.

www.purpleroutes.co.uk/cy/

Mae Ysgol Feithrin Cogan ym Mro Morgannwg wedi ennill y teitl ‘Tîm Ysgol Neilltuol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Addysgu Blynyddol Pearson dros Gymru.

Meddai’r pennaeth Pauline Rowland: ‘Roeddem i gyd wrth ein bodd i gael ein enwebu, ond i ennill … rydym ar ben ein digon.’

Mae Ysgol Feithrin Cogan yn gosod pwyslais mawr ar ddysgu trwy chwarae, y tu mewn a’r tu allan, ac mae’n Ysgol Fforest. Trwy chwarae bydd y plant yn cael cyfle i ddysgu am yr amgylchedd naturiol, sut i ddelio â risgiau a defnyddio eu menter eu hunain i ddatrys problemau a chydweithredu ag eraill.

Yn ystod cynhadledd fyd-eang yr IPA yn 2011, a drefnwyd gan Chwarae Cymru yng Nghaerdydd, ymwelodd grwpiau bychain o gyfranogwyr ag Ysgol Feithrin Cogan a gwnaeth y cyfleoedd chwarae oedd ar gael i’r plant argraff mawr arnynt.

www.cogannursery.co.uk

Llwybrau Porffor yn gweithio gydag Ysgol Maes y Morfa

Gwobr genedlaethol i Feithrinfa Cogan

Cydlynydd Prosiect Llwybrau Porffor, Jo Owen, sy’n sôn wrthym am sesiynau chwarae’r prosiect yn Ysgol Maes y Morfa, Llanelli.

Page 13: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 13

Yn dilyn cyflwyniad allweddol yng nghynhadledd flynyddol Ysbryd, fe wnaethom gyfweld â’r awdur a’r amgylcheddwr Ken Worpole am gysylltiad plant â lleoliad a phwysigrwydd cymunedau plant-gyfeillgar.

Maecysylltiadplentynâlleoliadynberthynasddofnachaiffyreffeithiaueuteimlotrwygydoleubywydau.Bethsyddangeninnieiddeallamycysylltiadhwnâlle?

Rwy’n credu ei bod hi’n ddiddorol bod cymaint o nofelau am blentyndod yn ymwneud yn sylweddol ag ymdeimlad o le, boed hynny’n Huckleberry Finn, llyfrau ‘William’ Richmal Crompton neu ‘Pipi Hosan Hir’ Astrid Lindgren. Mae ble y byddant yn tyfu i fyny a’r tirwedd y byddant yn tyfu ynddo a’r mannau y byddant yn chwarae ynddynt yn aros â phobl am weddill eu hoes. Rwy’n credu bod hynny’n ddiddorol iawn hyd yn oed os y byddwn weithiau, fel pobl ar y tu allan, yn meddwl bod y man ble y tyfodd rhywun arall i fyny’n gymharol ddiflas ac anniddorol neu’n ddiffaith a thlodaidd neu beth bynnag. Er hynny, mae gan bob oedolyn y cysylltiad cryf iawn yma â’r mannau cynnar, y strydoedd a’r tai, y maent yn eu cofio o’u plentyndod.

Rwy’n credu inni weld newid mawr yn y berthynas hon yn ystod yr ugeinfed ganrif o ganlyniad i ddistryw cyffredinol y stryd gan y car. Mae pedair gwaith cymaint o geir ym Mhrydain ag sydd o blant. Fodd bynnag, rwy’n credu bod dominyddiaeth y car, o ran polisïau trafnidiaeth a pholisïau cynllunio trefol, wedi cyrraedd penllanw mewn gwirionedd, ac mae’n bosibl ei fod bellach ar drai. Nawr rwy’n gymharol optimistaidd: gwelir symudiad yn ôl tuag at adennill y gymdogaeth a’r llwybrau sy’n cysylltu’r maestrefi, canol y dref ac yn y blaen ar gyfer plant, seiclwyr a cherddwyr. Rwy’n credu bod hwn yn gyfnod diddorol iawn ym maes cynllunio trefol a chynllunio

traffig ble rydym yn ail-gyflunio’r gymdogaeth a’r stryd i’w gwneud yn llawer mwy cyfeillgar ar gyfer plant.

Sutalloedolionhelpuplantaphoblifainciarchwilioagwerthfawrogi’rmannaubleybyddantynchwarae?

Rwy’n amau na fydd hyn yn digwydd cymaint yn awr rhwng rhieni neu ofalwyr unigol a’r plentyn, er bod cyfle gwych yn dal i fodoli yn yr ysgol, yn arbennig yn yr ysgol gynradd. Mae cyfleoedd yn dal i fodoli i wneud y math o waith ddatblygodd Colin Ward ar gyfer y Gymdeithas Trefi a Chynllunio yn y 1970au, a alwodd bryd hynny’n ‘waith stryd’. Roedd hyn yn cynnwys mynd â’r plant allan o’r ystafell ddosbarth a chreu mapiau o ble roeddent yn byw, y daith o’u cartref i’r ysgol, y pethau y byddent yn eu gweld ar y ffordd, eu cyflwyno i’r orsaf dân, deall pwy oedd yn gweithio yn y dref; sut oedd y ffôn, y trydan a’r nwy wedi eu cysylltu trwy’r gymdogaeth, a deall yn iawn eu bod yn byw mewn cyfuniad gweddol gymhleth o leoliadau a pherthnasau economaidd.

Ydychchi’ncredubodchwarae’nhelpuplantaradegauoargyfwngcymdeithasol?

Ydw, yn gryf iawn. Fe hyfforddais i fod yn athro ac un o’r bobl y gwnaethom ei astudio bryd hynny oedd y seicolegydd o’r Swisdir, Jean Piaget, ysgrifennodd lyfr adnabyddus iawn ar ddatblygiad moesol y plentyn. Dywedodd Piaget mai dim ond trwy chwarae y bydd plant yn dysgu rheolau moesoldeb, fel rhannu, gwrando ar bobl eraill, cymryd eu tro a deall cysyniadau fel cyfran deg. Bydd plant sydd ddim yn chwarae â phlant eraill yn colli’r elfen o gymryd a rhoi, o ‘rydan ni’n mynd i chwarae’r gêm yma a dyma ble rydan ni am ei chwarae’ ac ‘os wyt ti’n y cylch yna alli di ddim bod allan’ – creu’r rheolau, trafod y rheolau. Os nad yw plant ynghlwm â’r gweithgarwch grwp, cymunedol, ar y cyd hwnnw, fyddan nhw ddim

yn dysgu sut i fod yn gymdeithasol, byddant yn parhau i fod, yn ddi-syfyd, fel unigolion. Fyddan nhw ddim yn dysgu’r holl egwyddorion sylfaenol o rannu a datblygu rheolau er mwyn i bobl allu cyd-dynnu â’i gilydd. Mae chwarae’n ymwneud yn llwyr â chyd-dynnu â’ch gilydd.

YnamlcyfeiriratBrydainfel‘gŵrdrwgEwrop’oranansawddtiriogaethcyhoeddus,achefydfelunowledyddlleiafcyfeillgariblantEwrop.Aywhynynfeirniadaethdeg?

Mae’n ddiddorol nodi, pan wahoddodd Maer Llundain y cynllunydd a’r pensaer Danaidd Jan Gehl, i ddod i Lundain tua deng mlynedd yn ôl i edrych ar gynllunio strydoedd, y peth cyntaf i’w daro oedd cyn lleied o blant oedd i’w gweld ar y strydoedd o’i gymharu â dinasoedd eraill Ewrop. Rwy’n dal i gredu bod hynny’n wir. Mewn gwirionedd, mae gennym sefyllfa ym Mhrydain bellach ble rydym yn ystyried grwpiau o blant ar y stryd fel bygythiad. Mae rhaid inni newid ein hagwedd tuag at hyn. Wrth gwrs, os yw plant yn cymdeithasu’r tu allan a bod dim iddynt ei wneud mae’n bosibl, yn hwyr neu hwyrach, y byddant yn troi at ryw ddrygioni. Ond y gwir yw na fyddwn yn datrys hyn trwy ddweud na ddylai’r un plentyn fod allan ar y stryd.

Mae Ken yn gyn-athro ac ymgyrchydd cymunedol, ac yn awdur nifer o lyfrau ar bolisi cymdeithasol, tirwedd a phensaernïaeth, yn cynnwys polisi chwarae. Bu’n aelod o Dasglu Mannau Gwyrddion Trefol Llywodraeth y DU, ac yn Ymgynghorydd ar fannau cyhoeddus gyda’r Comisiwn dros Bensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig (CABE). Mae Ken yn Athro Emeritws yn Athrofa Dinasoedd, Prifysgol Fetropolitan Llundain.

www.worpole.net

Page 14: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

14 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Ym mis Medi 2012, cyhoeddodd y Play Safety Forum (PSF) a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ddatganiad lefel uchel ar y cyd i hybu agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant.

Mae’r datganiad, Chwarae a Hamdden Plant: hyrwyddo agwedd gytbwys, yn pwysleisio, tra’n cynllunio a darparu cyfleoedd chwarae, y nod fydd nid dileu risg, ond pwyso a mesur y risgiau a’r buddiannau.

Ym mis Mawrth 2013, trosglwyddodd Chwarae Cymru ddau seminar rhanbarthol ar gyfer swyddogion iechyd a diogelwch awdurdodau lleol i hyrwyddo ac annog gweithredu’r datganiad lefel uchel ac i ystyried defnyddio asesu risg-budd mewn darpariaeth chwarae plant.

Comisiynodd Chwarae Cymru Bernard Spiegal (PLAYLINK) i drosglwyddo’r seminarau hyn. Mae’n ymgynghorydd i’r PSF a gweithiodd gyda Chwarae Cymru ac aelodau eraill o’r PSF a’r HSE i ddatblygu’r datganiad lefel uchel. Mae’n un o awduron Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu (2008) – dogfen a gymeradwywyd gan yr HSE, sydd ag egwyddorion ac elfennau ymarferol asesu risg-budd yn rhedeg trwyddi.

Archwiliodd y seminarau:

• werth cynhenid gweld plant yn cael profiad o amgylcheddau sy’n llawn ansicrwydd sy’n darparu her personol trwy eu chwarae

• y modd y gellid datblygu polisïau iechyd a diogelwch i adlewyrchu’r egwyddor, ac

i ymgorffori’r gwerth o weld plant yn gallu profi risg a her

• yr heriau a’r cyfleoedd y bydd agwedd gadarnhaol tuag at gymryd risg yn ei olygu i swyddogion iechyd a diogelwch a staff rheng flaen.

Ar y cyfan, bu’r adborth yn gadarnhaol ac mae’n ymddangos bod cyfranogwyr y seminar am fabwysiadu agwedd fwy cytbwys tuag at asesu risg.

Darparodd y seminarau wybodaeth i Chwarae Cymru ar gyfer dynodi camau er mwyn cynnig cymorth i swyddogion awdurdodau lleol a sefydliadau sydd wedi dechrau defnyddio, neu sydd am ddechrau defnyddio’r agwedd asesu risg-budd. Ein nod yw cyfrannu at gynnydd mewn hyder a gallu mewnol mudiadau i ymgymryd ag asesiadau risg-budd.

Mae darnau olaf y jig-sô Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) yn dod at ei gilydd bellach. Yn ddiweddar arianwyd SkillsActive i gynnal prosiect o dan raglen Peilot 2 Ariannu Blaenoriaethau Sector (SPFP 2) i ymgymryd â datblygu deunyddiau hyfforddwyr a dysgwyr Tystysgrif a Diploma P3 ar lefel 3, ac i gwblhau deunyddiau’r Wobr.

Mae’r rhaglen SPFP 2 yn rhaglen ariannu ar y cyd sy’n defnyddio cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac ariannu punt am bunt gan Lywodraeth Cymru er mwyn hysbysu argymhellion fydd yn sicrhau bod trosglwyddiad darpariaeth sgiliau ôl-16 yn fwy ymatebol a pherthnasol i anghenion cyflogwyr.

Mae Chwarae Cymru’n hynod o falch i gyhoeddi, wedi cyflwyno tendr am y gwaith, inni ennill y

cytundeb. Mae’r gwaith ysgrifennu wedi dechrau eisoes a gobeithiwn gwblhau deunyddiau’r Dystysgrif yn barod ar gyfer cynnal peilot ym mis Rhagfyr a’r Diploma erbyn mis Medi 2014.

Cynhaliwyd peilot llwyddiannus o’r Wobr eisoes ac mae’n ymddangos ei bod yn ddigon heriol ar gyfer y dysgwyr. Mae tystiolaeth hyd yma yn dangos newidiadau anhygoel eisoes mewn arfer ymysg y rheini sydd wedi cwblhau’r cymhwyster. Rydym yn bwriadu cynnal peilot o’r deunyddiau trwy gydol y prosiect a byddwn yn ymgynghori ar eu haddasrwydd gyda’r sector.

Byddwn hefyd yn ffurfio Grŵp Cynghori Y Gymraeg i’n cynorthwyo i sicrhau bod cyfieithu’r deunyddiau a datblygiad fframwaith trosglwyddo cyfrwng Cymraeg yn ateb anghenion dysgwyr Cymraeg eu hiaith.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a SkillsActive i archwilio rhaglenni ariannu ar gyfer trosglwyddo’r cymwysterau hyn yng Nghymru er mwyn cefnogi’r agenda Digonolrwydd Chwarae. Mae’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) wedi cadarnhau’r her, o ran trosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae trwy Gymru gyfan. Rydym yn gwybod ers amser mai dyma oedd y sefyllfa; bydd y dystiolaeth a ddarperir trwy’r ADCh yn ein cynorthwyo i chwilio am ariannu, a byddwn yn edrych ar ariannu Cronfa Gymdeithasol Ewrop i weld pa bosibiliadau sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymwysterau P3 ar lefel 2 a 3, cysyllter â [email protected]

www.chwaraecymru.org.uk/cym/p3

Newydd da: datblygiadau P3

Seminar mabwysiadu agwedd gytbwys tuag at risg

Page 15: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

Chwarae dros Gymru | Haf 2013 | 15

Ym mis Mawrth 2013 comisiynwyd Chwarae Cymru i gynhyrchu astudiaeth dichonoldeb graddfa fechan i edrych ar raglenni dysgu i’r dyfodol yng nghyd-destun y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae ac i wneud argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen a strategaethau ariannu posibl i gefnogi’r gwaith datblygu angenrheidiol.

Cydgasglwyd adborth gan y rheini fu’n gyfrifol am gwblhau Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) ac am lunio Cynlluniau Gweithredu Digonolrwydd Chwarae er mwyn hysbysu adroddiad sy’n amlinellu’r negeseuon a’r argymhellion allweddol. Roedd y fethodoleg ar gyfer yr astudiaeth dichonolrwydd yn cynnwys holiadur arlein, a ddyfeisiwyd i gasglu adborth gan Awdurdodau Lleol i asesu os oedd diddordeb mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynorthwyo gyda ADCh yn y dyfodol. Yn ogystal, archwiliodd yr holiadur wahanol raglenni dysgu y gellid eu cyflwyno a’r gefnogaeth allai fod ei angen.

Anfonwyd yr holiadur arlein at Swyddogion Arweiniol yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ac at Rwydwaith Chwarae Strategol Cymru. Cyfrannodd cyfanswm o 21 o bobl at yr holiadur a chymerodd 10 o bobl ran mewn cyfweliadau dros y ffôn i ystyried yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae, a Mater G ‘Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae’ yn benodol.

Canfyddiadau

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod awydd amlwg i randdeiliaid gael eu hysbysu a’u diweddaru ynghylch datblygiadau. Pwysleisiodd yr atebwyr yr angen am i wybodaeth ac arweiniad allweddol sy’n ymwneud â hyfforddiant gwaith chwarae, fod yn hawdd i’w ganfod. Byddai hyn

yn darparu cefnogaeth i fudiadau ac awdurdodau lleol wrth wneud cymunedau’n fwy cyfeillgar tuag at blant a gyda mwy o gyfleoedd i chwarae.

Cyfeiriwyd nifer o weithiau at werth (a cholled) Gwaith Chwarae Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae, wrth helpu i gydlynu a darparu fframwaith ar gyfer addysg a hyfforddiant chwarae a gwaith chwarae. Gyda chyflwyniad y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae, mae sicrhau dulliau ar gyfer rhaeadru gwybodaeth, cefnogi trosglwyddiad hyfforddiant a chymwysterau chwarae a gwaith chwarae ynghyd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar bob lefel, yn bwysicach fyth bellach.

Argymhellion

Trwy goladu’r adborth gan atebwyr bu modd i’r ymchwilwyr gydgasglu nifer o negeseuon allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Rhoi ystyriaeth pellach i ffyrdd y gellid atgyfnerthu dulliau rhaeadru gwybodaeth a darparu fframwaith i gynorthwyo gyda throsglwyddo hyfforddiant a chymwysterau chwarae a gwaith chwarae, gyda chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar bob lefel.

• Adolygu ansawdd, safoni a datblygiad hyfforddiant chwarae a gwaith chwarae cychwynnol sy’n cael ei gynnal ar draws Cymru. Mae’n ymddangos bod rhywfaint o’r hyfforddiant yma o safon uchel ac yn cael ei drosglwyddo mewn modd safonol, er nad yw hyn yn wir am bob darpariaeth. Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

• Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i bobl mewn gwahanol rolau swydd ar y lefel gywir a’i gynnwys, yn fwyaf priodol, yng nghymwysterau penodol gwahanol sectorau.

• Rhoi ystyriaeth pellach i gyflwyno hyfforddiant a chymwysterau rheolaeth strategol proffesiynol lefel uwch ar gyfer gweithwyr chwarae a swyddogion chwarae er mwyn cefnogi trosglwyddo digonolrwydd chwarae yn y dyfodol.

• Cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd chwarae ar draws mudiadau plant yng Nghymru.

• Ariannu ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau Digonolrwydd Chwarae er mwyn cynyddu a datblygu diddordeb traws-sector mewn chwarae plant ac ysgogi ymrwymiad rhanddeiliaid.

• Cydnabod bod ariannu ar gyfer hyfforddiant gwaith chwarae’n fater o bwys. Mae llawer o awdurdodau lleol heb gyllideb benodedig ar ei gyfer.

– Mae darparu prentisiaethau gwaith chwarae’n bosibilrwydd ond, ar hyn o bryd, nid yw Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) ar y Fframwaith Prentisiaethau; bydd angen cynnal trafodaethau â SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector.

– Argymhellir hefyd y dylid rhoi ystyriaeth pellach i efelychu’r broses ariannu sydd yn ei lle ar gyfer gwaith ieuenctid, ble y rhoddir cyllid i awdurdodau lleol.

– Yn olaf, o ystyried bod cyfle ar gael ar hyn o bryd i drafod manylion ariannu strwythurol Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol (2014 – 2020), ar gyfer rhaglenni ar ôl 2013 gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae’n bosibl y gellid trefnu menter newydd ble y byddai Llywodraeth Cymru’n cefnogi cyflwyno hyfforddiant chwarae wedi ei ariannu bunt am bunt ag ariannu Ewropeaidd er mwyn, o bosibl, gynyddu’r cyllid sydd ar gael.

Astudiaeth: y gweithlu a digonolrwydd chwarae

Page 16: Chwarae dros Gymru (rhifyn 40)

16 | Chwarae dros Gymru | Haf 2013

Mae Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar yn ymgyrch gan Chwarae Cymru i helpu i greu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru. Gellir rhannu’r hyn sy’n digwydd yn lleol, sydd unai’n gwarchod neu’n gwahardd hawl plant i chwarae, ar dudalen yr ymgyrch ar Facebook. Dyma enghraifft o raglen sy’n cyfrannu tuag at ddatblygu mannau cyfeillgar ar gyfer plant sy’n chwarae.

Dros y deng mlynedd diwethaf mae Ymddiriedolaeth Cyfran Deg wedi buddsoddi ariannu ar gyfer prosiect chwarae strategol ar Ynys Môn. Cafodd y gwaith yma ei arwain a’i gefnogi gan banel lleol o bobl: cynrychiolwyr cymunedol yr oedd eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o anghenion a heriau lleol yn golygu eu bod mewn sefyllfa dda i benderfynu ar y modd gorau i fuddsoddi cronfa grantiau Ymddiriedolaeth Cyfran Deg eu hardal hwy.

Penderfynodd panel Ynys Môn flaenoriaethu chwarae plant fel elfen allweddol o ran gwelliant cymunedol, iechyd a lles. Roedd adroddiad wedi amlygu bod ‘absenoldeb agwedd strategol tuag at chwarae’ a dynododd hefyd fod cyflwr meysydd chwarae Ynys Môn yn destun pryder.

Nid y mannau chwarae newydd mewn cymunedau ar draws Ynys Môn yw’r unig waddol o fuddsoddiad Ymddiriedolaeth Cyfran Deg, er efallai mai’r rhain sydd fwyaf gweledol. Mae gan werth chwarae safle sicr ar agenda’r awdurdod lleol. Mae mudiadau cymunedol wedi gweld cymaint

y gallant ei gyflawni o ganlyniad i’w egni a’u hymrwymiad, ac mae ganddynt hyder cynyddol yn eu gallu i ‘wneud Ynys Môn yn fan chwarae-gyfeillgar’.

Ar ddiwedd prosiect chwarae deng-mlynedd o hyd, mae Cyfran Deg wedi cynhyrchu ffilm fer am y gwaith a gyflawnwyd ar Ynys Môn, ei effaith a’i fuddiannau i gymunedau lleol. Mae’r ffilm yn cynnwys sylwadau gan blant a rhieni lleol:

www.youtube.com/watch?v=Za0uWBB8TiY

Derbyniodd Chwarae Cymru grant er mwyn helpu i weithredu buddsoddiad Cyfran Deg ac roedd y gwaith yn cynnwys:

• Datblygu cynllun busnes ar gyfer cyfnod terfynol ariannu Cyfran Deg sy’n sicrhau bod holl flaenoriaethau’r rhaglen wedi eu cyflawni ac yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.

• Cynhyrchu pecyn cymorth sy’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd eglur i grwpiau cymunedol sy’n datblygu a rheoli mannau chwarae.

• Darparu rhaglen hyfforddi wedi ei thargedu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ar Ynys Môn ar chwarae a chynhwysiant, chwarae a chyfranogaeth ac archwiliadau meysydd chwarae arferol.

• Datblygu canllawiau a chriteria ar gyfer cynllun grantiau bychain wedi ei anelu at waith cynnal a chadw hanfodol neu ddigwyddiadau chwarae.

• Darparu cefnogaeth parhaus i’r Swyddog Chwarae ar bob agwedd o’r rôl.

• Seminar Chwarae Cymunedol ar gyfer grwpiau cymunedol ar reoli ardaloedd chwarae, yn arbennig yng nghyd-destun rheoli risg a dylunio mannau chwarae.

• Datblygu adnoddau a throsglwyddo peilot o raglen ‘Hawl i Chwarae’ ar ffurf gweithdai i bum ysgol i hyrwyddo’r hawl i chwarae.

Wrth gyfeirio at rôl Chwarae Cymru wrth gynhyrchu pecyn cymorth cymunedol Datblygu a rheoli mannau chwarae meddai Liza Kellett, Prif Weithredwraig Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ‘Llongyfarchiadau i Chwarae Cymru ar eu gwaith datblygu wrth greu pecyn cymorth mor flaengar, gwerthfawr ac arloesol, sy’n cyflawni nifer o amcanion strategol ond sydd hefyd yn hygyrch, effeithlon a hynod o ddefnyddiol.’

http://on.fb.me/gwladchwaraegyfeillgar

Gwlad Chwarae-Gyfeillgar