Top Banner
Rhifyn 19 Newyddion chwarae a gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol ar gyfer chwarae Gaeaf 2006 Chwarae dros Gymru Rhaglen FAWR Chwarae Plant – £13m i Gymru Gweler y stori lawn ar dudalennau 6-8 www.chwaraecymru.org.uk
14

Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Mar 24, 2016

Download

Documents

Play Wales

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Rhifyn 19

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan y sefydliad cenedlaethol ar gyfer chwarae Gaeaf 2006

Chwarae dros Gymru

Rhaglen FAWRChwarae Plant –£13m i GymruGweler y stori lawn ar dudalennau 6-8

www.chwaraecymru.org.uk

Page 2: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Golygyddol Bu hon yn flwyddyn wych i ddarparwyr chwarae yngNghymru. Yn ein rhifyn diwethaf dathlwyd lansioCynllun Cyflawni Polisi Chwarae Llywodraeth CynulliadCymru, ac yn y rhifyn hwn byddwn yn ymhelaethu arraglen ariannu newydd £13m y Loteri FAWR ar gyferChwarae Plant.

Mae llawer o’r uchelgeisiau yrydym wedi gweithio tuag atynt yn

ystod y degawd diwethaf yn dechraucael eu gwireddu. O ganlyniad i laweriawn o feddwl ymlaen, gwaith caled alobïo gan gymaint o bobl syddynghlwm â chwarae plant, mae’rariannu a’r gefnogaeth wleidyddol ichwarae a darpariaeth chwarae arlefel genedlaethol yn dechrausefydlogi. Yr her i ni yn awr ywmanteisio ar y cyfle y mae’r rhaglenChwarae Plant yn ei gynnig i sicrhau ycaiff plant fynediad i ddarpariaethchwarae o safon ar draws y wlad.Hyderwn, gyda’n cymorth ni, y byddariannu MAWR ar gyfer datblyguisadeiledd yn sicrhau y bydd gan bobrhanbarth o Gymru bartneriaeth traws-sector ystyrlon a chynaliadwy fydd yncynllunio a throsglwyddo prosiectauchwarae fel rhan o agwedd strategol.

Rydym wedi bod yn ymwybodol ersamser efallai bod rhai darparwyrchwarae sy’n gyfrifol am ddatblygu achynnal ardaloedd chwarae lleol, ynteimlo nad yw’r datblygiadau presennolyn adlewyrchu eu blaenoriaethau. Erenghraifft, cawsom ein cynghori bodceisiadau am ariannu Chwarae Plant argyfer cwblhau gwaith adnewyddusylweddol ar ardaloedd chwarae syddag offer sefydlog yn annhebygol olwyddo, petai ond oherwydd y byddai’nanodd arddangos bod yr arian yn caelei wario i ddarparu rhywbeth ynychwanegol at yr ymrwymiad presennol.Fodd bynnag, dynododd MAWR y gallaicynigion am dirlunio creadigol sy’nystyried chwarae ac ardaloedd chwaraewedi eu hadeiladu gan y gymuned,gaiff eu cynllunio, eu hadeiladu a’ugofalu amdanynt gan bobl leol, fod ynllwyddiannus fel rhan o gais ehangachprosiect chwarae strategol. Cawsom eincalonogi gan sgyrsiau a gafwyd yn ystoddigwyddiadau briffio Chwarae PlantMAWR yn ddiweddar, oedd yn awgrymuy byddai rhai o’r rheini sy’n gyfrifol am

ardaloedd chwarae offer sefydlog yncroesawu agwedd newydd a dyfeisgar.

Mae hwn yn gyfnod hynod o bwysig ichwarae plant yng Nghymru. Mae £13myn wobr loteri barchus i’n plant, ond o’irhannu dros bedair blynedd, dros Gymrugyfan, mae’n amlwg y bydd yn rhaidystyried yn ofalus iawn sut i ddefnyddio’rarian yn ddoeth ac i beidio â’i wastraffu.Mae’r rhaglen Chwarae Plant a ChynllunCyflawni Chwarae’r Cynulliad yn cynnigcyfle inni symud oddi wrth y syniad y gallplant ond chwarae mewn meysyddchwarae sydd ag offer sefydlog amatiau meddal oddi tanynt a ffens o’uhamgylch, ac ystyried gwlad ble y caiffchwarae plant ei werthfawrogi’ngyffredinol mewn ystod o wahanolamgylcheddau, yn wledig a threfol.

Gyda gofynion newydd y Ddeddf Plant,bod awdurdodau lleol yn cydweithredugyda throsglwyddo darpariaethchwarae, mae gwir gyfle amddatblygiadau fydd yn elwa ararbenigedd a gwybodaeth awdurdodaulleol a’r sector wirfoddol fel ei gilydd.Mae’r Ddeddf Plant hefyd yn dechrauparatoi’r ffordd ar gyfer ariannu tymor hirchwarae plant, er mwyn sicrhau y caiff yrisadeiledd a’r prosiectau y byddwn yneu datblygu dros y blynyddoedd nesafeu cynnal ac na fyddant yn diflannuwedi i’r rhaglen Chwarae Plant gau.

Y Golygydd

Hwn yw ond yr ail rifyn o Chwaraedros Gymru eleni, ond y flwyddynnesaf byddwn yn cyhoeddipedwar rhifyn. Os hoffechgyfrannu, lleisio eich barn, gofynam ragor o gopïau, ychwanegueich enw i’r rhestr ar gyfer derbynfersiwn electronig o’r cylchlythyrhwn, neu hysbysebu digwyddiad,cysylltwch â’n swyddfagenedlaethol.

Cynnwys tudalen

Golygyddol 2

Chwarae yn y Strydoedd – Diwrnod Chwarae 2007 3

Ymddeoliad Tony 3

Aelodaeth 3

Cynnydd y Cynllun 4

Y Loteri FAWR ar Chwarae Plant yng Nghymru 4

Buddiannau i aelodau Chwarae Cymru sy’n Gyflogwyr 5

Newidiadau i reoliadau gofal dydd 5

Rhaglen FAWR Chwarae Plant 6

Staff Newydd 9

Comisiynu Ymgynghorwyr Chwarae 10

Herio’r Hyfforddwyr 11

Cyfweliad gyda Hyfforddai Gwaith Chwarae 12

Gwthio Eddie yn y Danadl Poethion gyda Connor 13

Digwyddiadau, Adnoddau ac Ariannu 14

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru ganChwarae Cymru bedair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:Chwarae Cymru, Ty^ Baltig,Sgwâr Mount Stuart,Caerdydd CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050E-bost: [email protected]

Rhif Elusen Gofrestredig. 1068926

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’rfarn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydymyn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nidydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrchna’r digwyddiadau a hysbysebir yn neugyda’r cyhoeddiad hwn.

Ffotograffau ar dudalennau 6, 7, 8, 10, 11a 13 gan Green Bay Media.

Dyluniwyd ac argraffwyd gan Carrick Business Services Cyf.

Ffôn: 029 2074 1150

E-bost: [email protected]

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006GOLYGYDDOL

2

Page 3: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Ymddeoliad Tony

Rhoddodd Tony gyfraniad oes i ddarpariaethchwarae a gwaith chwarae – o ddatblygiad

ymarferol meysydd chwarae antur, i ysgrifennuhyfforddiant gwaith chwarae, i’w ran yndrafftio’r polisi chwarae cenedlaethol – bu eiwaith yn bellgyrhaeddol a chafodd ei yrru ganei werthfawrogiad o blant a’i ymrwymiadangerddol i hawliau plant. O adnabod Tony,credwn ei bod yn bur annhebyg y bydd yn rhoiei draed lan a chymryd hoe haeddiannol.

Dymunwn y gorau iddo ar ei ymddeoliad – iechyd da a phob hapusrwydd!

Ymddeolodd Tony Chilton, ein Uwch SwyddogDatblygu yng Ngogledd Cymru, ar y 19 Hydref 2006.

YmgynghoriadLlywodraeth Leol

Canmoliaeth i GyflwrChwarae yng Nghymru

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006NEWYDDION

3

Chwarae yn y Strydoedd– Diwrnod Chwarae 2007

Mae Chwarae Cymru yn cydweithiogyda Play England i gynhyrchu

pecyn gwybodaeth dwyieithogcynhwysfawr i rai sydd am gynnaldigwyddiad chwarae yn y stryd. Bydd ypecyn yn cynnwys cyngor ar sut iddefnyddio’r cyfryngau lleol i dynnusylw at yr ymgyrch, a sut i weithio tuagat newidiadau tymor hir. Hyderwn ybydd y pecyn ar gael o fis Chwefrorymlaen, ond os ydych am gau stryd igynnal digwyddiad chwarae mae’nwerth ymholi’n fuan gydag AdranPriffyrdd eich awdurdod lleol er mwyngwneud cais am Orchymyn Cau Ffordd.Efallai y byddwch angen trwydded osydych am gynnwys cerddoriaeth neuadloniant fel rhan o’r diwrnod.

Mae gwaith ymchwil o Sir Fynwy ynawgrymu bod plant cefn gwlad ynwynebu problemau tebyg i blant sy’n bywmewn dinasoedd – traffig yn gyrru,strydoedd gorlawn mewn pentrefi, bawcw^ n, ac ofn oedolion rheibus a bwlis.Rydym wedi gwneud cais am gynnalrhagor o waith ymchwil i strydoeddgwledig a chwarae plant cefn gwlad felrhan o brosiect Diwrnod Chwarae.

Caiff gwefan Diwrnod Chwarae eiailgynllunio maes o law, a chyhoeddirlogo newydd – ac yn y Gymraeg hefyd!

Am ragor o wybodaeth ymwelwch âwww.playday.org.uk

Bydd yr ymgyrch Diwrnod Chwarae yn dechrau’n fuan yny flwyddyn newydd ac yn gorffen gyda dathliad ochwarae yn y strydoedd ar Ddydd Mercher 1 Awst 2007. Ysyniad yw, y bydd pawb sydd ynghlwm â’r ymgyrch yngweithio dros nifer o fisoedd i dynnu sylw at y diffyg gofoddiogel ar y strydoedd i blant chwarae, ac i amlygu arferda wrth gynllunio strydoedd chwarae-gyfeillgar.

Newidiadau iReoliadau

Gwiriadau’r Swyddfa CofnodionTroseddol

Mae’r Ddeddf newydd ar gyfer DiogeluGrwpiau Bregus yn newid y modd ycaiff Gwiriadau’r Swyddfa CofnodionTroseddol eu gweithredu a’u rheoli.Gallwch ddysgu rhagor arhttp://findoutmore.dfes.gov.uk/2006/03/safeguarding_vu.html ac yn adrannewyddion www.wcva.org.uk

Rheoliadau Tân

Daeth newidiadau i’r ddeddfdiogelwch tân i rym ym mis Hydref.Dysgwch ragor am y GorchymynDiwygio Rheoliadau (Diogelwch Tân) arwww.communities.gov.uk

Bydd angen adnewyddu aelodaeth blynyddol Chwarae Cymru ym mis Ionawr, pryd ycaiff ardal arbennig ar gyfer aelodau ei lansio ar ein gwefan newydd. Gweler y daflenamgaeëdig am fanylion pellach neu galwch ni ar 029 2048 6050 am ragor o wybodaethneu i archebu pecyn gwybodaeth, neu ymwelwch â www.chwaraecymru.org.uk

Aelodaeth

Sefydlwyd yr Uned Ddata LlywodraethLeol i “wella ansawdd ac argaeledddata sy’n berthnasol i Awdurdodau Lleola’u cymunedau”. Ar hyn o bryd mae’rUned Ddata’n cynnal ymgynghoriad arDdangosyddion Perfformiad 2007/08.Ymysg y rhai a argymhellir o dan‘Hamdden a Diwylliant – Chwaraeonac Adloniant’ ceir dangosydd newyddsy’n ymwneud â chwarae plant:

‘Y nifer o ardaloedd chwaraecymunedol, a ddyluniwyd ar gyfer plant0-11 mlwydd oed, sy’n cydymffurfio â’rsafon, i bob 1,000 o’r boblogaeth syddrhwng 0-11 mlwydd oed’.

Os y cytunir ar safon foddhaol, byddChwarae Cymru’n ymateb i’rymgynghoriad hwn gan groesawu’rcynnig.

Gellir cael gafael ar yr ymgynghoriad arwww.lgdu-wales.gov.uk a bydd ar agortan 22 Rhagfyr 2006.

Mewn cyflwyniad yng nghynhadledd‘The Value of Play: a Forum on Risk,Recreation and Children’s Health’ agynhaliwyd yn Washington D.C., buRoger Hart, yr awdur ar ymchwilyddbyd-enwog ar gyfranogiad plant, yncanmol yr hyn a gyflawnwyd yngNghymru. Dywedodd: “Mae’r Cymry’nenwedig yn oleuedig ynghylch gwaithchwarae. Maent yn amddiffynproffesiwn yr ydym ni wedi ei golli”.

Am gopi electronig o bapurau’rgynhadledd cysylltwch gydagAngharad yn swyddfa genedlaetholChwarae Cymru (029 2048 6050 neu [email protected])

Page 4: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006NEWYDDION

4

Cynnydd y CynllunYn ein rhifyn diwethaf dathlwyd lansio Chwarae yng Nghymru, Cynllun Cyflawni Polisi ChwaraeLlywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma ddiweddariad cryno am y cynnydd hyd yma:

Cam Gweithredu 1 – Canllawiau cynllunio a’rDdeddf PlantGan ddechrau yn 2008 bydd Cynlluniau Strategol Plant aPhobl Ifanc a bydd angen i ganllawiau cynllunio statudolymateb i anghenion chwarae plant a phobl ifanc. Caifffersiwn drafft o’r canllawiau ei gyhoeddi ddechrau 2007 argyfer ymgynghoriad, cyhoeddir y canllawiau terfynol yn haf2007.

Cam Gweithredu 3 – y Loteri FAWR a LlCC i weithioar raglen ariannuCafodd Y Rhaglen Chwarae Plant ei lansio ym mis Tachwedd– gweler rhagor ar dudalen 6 ac isod.

Cam Gweithredu 6 – Canllawiau ar ddarpariaethchwarae mewn Ysgolion BroComisiynwyd Chwarae Cymru i gyflawni’r gwaith yma acrydym yn cydweithio gyda Marc Armitage yr ymchwilydd, yrhyfforddwr a’r ymgynghorydd ar chwarae mewn ysgolion, iysgrifennu canllawiau clir a hygyrch y gellir eu haddasu atddefnydd mewn unrhyw ysgol. Cyhoeddir adroddiad ar ycanfyddiadau ddechrau 2007.

Cam Gweithredu 7 – Nodiadau Cyngor Technegol arGynllunio yn ymwneud â mannau agored, chwarae

ac adloniantDaeth yr ymgynghoriad ar hyn i ben ddiwedd mis Hydref.

Cam Gweithredu 10 – hyfforddiant addas i weithwyrchwaraeMae trafodaethau ynghylch Canolfan Genedlaethol GwaithChwarae yn parhau rhwng LlCC, Chwarae Cymru aSkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector dros Waith Chwarae.

Cam Gweithredu 12 – delio â materion recriwtioMae Cytundeb Sgiliau Sector yn cael ei drafod rhwng LlCC aSkillsActive.

Cam Gweithredu 13 – effaith ‘beio a hawlio’ archwarae plantMae Jane Davidson, Y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu GydolOes, wedi ysgrifennu at yr Adran Materion Cyfansoddiadol.

Cam Gweithredu 16 – rhaglenni chwarae a magu plantDosbarthwyd dwy daflen ar gyfer rhieni, a noddwyd gan yCynulliad, yn ystod 2006. Mae 'O Amser Brecwast i AmserGwely' ac 'Ymddygiad Dros Benllestri Mewn Plant Dan 10,’ yntynnu sylw at werth chwarae. Dosberthir rhagor o daflenni ynystod 2007.

Y Loteri FAWR arChwarae Plant yng NghymruGofynnwch i blant sut y byddent yn

gwario arian wedi ei ennill ar yloteri, ac mae’n sicr y byddai cael lle ichwarae’n uchel iawn ar y rhestr. Mae’nfwriad gan Gronfa’r Loteri Fawr iwireddu dymuniad plant Cymru. Trwyein partneriaeth gyda Chwarae Cymru,bydd MAWR yn dyrannu £13 miliwn oarian y loteri i ddatblygu cyfleoeddchwarae newydd i blant ar draws ywlad.

Fel rhan o Fenter Teuluoedd Iach MAWR,bydd Chwarae Plant yn cyfrannu atddatblygu agwedd holistig tuag at fyndi’r afael ag anghenion iechyd plant abydd yn helpu i frwydro’n erbyngordewder plentyndod a bod yn rhydrwm.

Dywedodd Ceri Doyle, Cyfarwyddwraig YLoteri FAWR yng Nghymru, ei bod ynbleser ganddi groesawu Chwarae Cymruatynt: “Ar ran pawb yng Nghronfa’r LoteriFAWR, hoffwn longyfarch Chwarae Cymruar eu llwyddiant ac rwy’n siw^ r y bydd eugwybodaeth arbenigol o gymorth inniglustnodi meysydd penodol sydd angendelio â hwy ym maes chwarae plant.Gyda’n gilydd, byddwn yn datblygublaenoriaethau ac yn clustnodi achefnogi prosiectau allai ehangu’rrhaglen. Mae’n rhaid inni weithredu iwarchod iechyd y genhedlaeth nesaf acrydym yn edrych ymlaen at weithio gydaChwarae Cymru i drosglwyddo cyfleoeddfydd yn annog plant i arwain bywydauiachach a mwy bywiog.”

Darllenwch ragor yn nes ymlaen yn ycylchlythyr hwn, a dysgwch ragor am yFenter Teuluoedd Iach, y RhaglenChwarae Plant a rhaglenni ariannu eraill y Gronfa Loteri FAWR arwww.biglotteryfund.org.uk

Derbyniodd Chwarae Cymru gytundeb ihelpu i drosglwyddo’r Rhaglen. Byddwnyn cefnogi sefydlu rhwydweithiau lleol,rhanbarthol a chenedlaethol a datblygupartneriaethau rhwng sefydliadaustatudol a gwirfoddol. Nid ydym yngyfrifol am ddyfarnu cyllid, ond maeMAWR yn argymell yn gryf y dylaiymgeiswyr ddatblygu eu ceisiadaugyda’n cymorth ni.

Rhagor o fanylion ar dudalennau 6-8.

Page 5: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006NEWYDDION

5

Buddiannau i aelodauChwarae Cymru sy’n GyflogwyrGallwn yn awr gynnig aelodaeth SkillsActive am ddim i holl aelodau Chwarae Cymru sy’ncyflogi gweithwyr chwarae. SkillsActive yw’r Cyngor Sgiliau Sector dros Waith Chwarae, adyma fuddiannau bod yn aelod:

Bydd SkillsActive yn cynnig ywybodaeth ddiweddaraf…Byddwch yn derbyn gwasanaethnewyddion dyddiol trwy e-bost fydd yncynnwys penawdau allweddol ydiwydiant, ac e-gylchgrawn misol abwletinau chwarterol yn cynnwysmanylion deddfwriaethau newydd,newidiadau i bolisïau’r llywodraeth,ymgynghoriadau, digwyddiadaudiwydiant a chyfleoedd ariannu newydd.

Bydd SkillsActive yn eichcefnogi…Cewch fynediad i’n llinell gymorth igyflogwyr, gyda chyngor arbenigol arben arall y ffôn, yn ogystal â’r data-bas

safonau galwedigaethol cenedlaethol.Rydym yn darparu adroddiadau ymchwilsy’n llawn gwybodaeth trylwyr o faterioncyfredol, a byddwn yn cynnaldigwyddiadau a gweithdai rhwydweithio igreu cysylltiad rhyngoch chi a’chcymuned.

Bydd SkillsActive ar gael 24/7…Mae gennym wefan gynhwysfawr sy’nllawn gwybodaeth defnyddiol, a chaiffaelodau fynediad neilltuol trwy systemmewngofnodi unigryw.

Bydd SkillsActive yn arbed arian ichi…Rydym wedi trefnu gostyngiadau i nifer o

wasanaethau yn arbennig ar gyfer einhaelodau, fel digwyddiadau diwydiannol,gwefannau recriwtio, a hyd yn oedbrosesu trafodion cardiau credyd (mewnpartneriaeth â Lloyds TSB), gan arbedeich harian a’ch amser.

Bydd SkillsActive yn cynllunio argyfer y dyfodol…Dim ond y dechrau yw hyn; yn SkillsActiverydym yn ymdrechu i ddatblygucynnyrch a gwasanaethau i gwrdd â’changhenion ac i gryfhau ein sector.

Ymwelwch â www.playwork.org.ukam ragor o wybodaeth ynghylchSkillsActive

Newidiadau iReoliadau Gofal DyddMae newidiadau allweddol i’r Rheoliadau Gofaluam Blant a Gofal Dydd (Cymru) ar y gweill. Daw’rnewidiadau i rym ar y 1af o Ionawr 2007, wediiddynt gael eu cymeradwyo gan GynulliadCenedlaethol Cymru.

Mae’r pedwar Rheoliad newydd yn ymwneud ag Adolygiad AnsawddGofal, Asesu Gwasanaeth, Hysbysiad Cydsynio a Chwynion.

Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) sy’n gyfrifol am reoleiddio’rgwasanaethau sy’n cael eu heffeithio gan y Rheoliadau hyn. Maent yncynghori darparwyr i ystyried unrhyw oblygiadau i’r systemau presennol argyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i ddefnyddwyr ygwasanaethau, a’r gofynion newydd ynghylch delio gyda chwynion.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau gweithrediadol ynghylch y Rheoliadau,cysylltwch â swyddfa leol ASGC.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau polisi ynghylch y rheoliadau, e-bostiwcheich ymholiad at [email protected]

Miliwn i gyfleusterau chwarae ar gyfer plant anablDdechrau mis Rhagfyr cyhoeddodd Sue Essex, Y Gweinidog dros Gyllid, £14.4m o gyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaethaucyhoeddus fydd yn cynnwys £1m ar gyfer cyfleusterau chwarae i blant anabl. Yn ei chyhoeddiad dywedodd Sue Essex iddi“wrando ar alwadau gan y cyhoedd”, a bod yr arian ychwanegol yn cael ei dynnu o gronfeydd arian wrth gefn y Cynulliad.

Dysgwch ragor ar new.wales.gov.uk/news/presreleasearchive/budget?lang=cy

Plant yn dweudeu dweud arChwaraeYn ddiweddar cynhaliodd SwyddfaComisiynydd Plant Cymruddau ddigwyddiad Cymru-gyfan ar Chwarae aHamdden i 150 o blant aphobl ifanc o grwpiauamrywiol achynrychioliadol.Chwarae a Hamddenoedd un o’r achosion prydera glustnodwyd gan y plant a’rbobl ifanc eu hunain yn nigwyddiadau’rllynedd, a bwriad yr ymarfer oedd canfod yrhyn y maent yn ei feddwl y dylai’rComisiynydd Plant ei wneud nesaf. Bydd einrhifyn nesaf yn cynnwys cyfweliad gydag uno’r plant gymerodd ran.

Dysgwch ragor ar http://www.childcom.org.uk

Page 6: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006ARIANNU

6

Rhaglen FAWRChwarae Plant O dan Raglen FAWR Chwarae Plant gall ymgeiswyr geisio am grantiau ar gyferprosiectau i ddatblygu isadeiledd chwarae lleol. Dylid cyflwyno ceisiadau argyfer y rownd gyntaf o ariannu erbyn mis Mai 2007.

Mae nodiadau arweiniol y Rhaglenyn diffinio isadeiledd fel ‘y

rhwydweithiau a’r staff datblygu sy’nofynnol i ddatblygu a throsglwyddochwarae plant’.

Beth yw isadeiledd?Mae MAWR yn chwilio am geisiadau ganbartneriaethau ystyrlon a chynaliadwysy’n cynnwys y sector wirfoddol ynogystal ag awdurdodau lleol. Ni fydd ynystyried ceisiadau am ariannu isadeileddsy’n eithrio unrhyw un o’r rhain. Mae’nhanfodol bod partneriaethau’n cynnwysaelodau sydd â phrofiad o waithchwarae a datblygu chwarae, a ble nadyw hyn yn bosibl, eu bod yn derbyncyngor gan Dîm Datblygu ChwaraeCymru.

Bwriad MAWR yw ariannu nifer cyfyngedigo brosiectau isadeiledd. Golyga hyn ycaiff siroedd sydd â chysylltiadauhanesyddol, tebygrwydd daearyddol a’rrheini sydd wedi cyrraedd lefel tebyg oddatblygiad o ran strategaeth chwaraea datblygu chwarae, eu hannog i weithioar y cyd. Mae rhwydweithiau, neugymdeithasau chwarae, sy’n bodolieisoes mewn rhai ardaloedd yngNghymru – efallai y bydd angen i’r rhainadolygu eu cyfansoddiad er mwyncaniatáu partneriaeth traws-sirol, er mwyniddynt allu gwneud y gorau o’r cyfleariannu hwn.

Mae rhwydwaith neu gymdeithaschwarae’n gweithredu fel canolbwynt iddarparwyr chwarae awdurdodau lleola’r sector wirfoddol; gan gynnal fforwm,cytuno ar flaenoriaethau lleol, sicrhau

bod gwasanaethau’n cael eu cydlynu igwrdd ag anghenion plant lleol, arhannu gwybodaeth a chefnogidarparwyr chwarae gwerin gwlad. FyddMAWR ond yn rhyddhau arian pan ybydd yn hyderus bod isadeiledd lleolwedi ei greu i ddarparu a chynllunio argyfer cyfleoedd chwarae plant.

Ble nad oes rhwydweithiau’n bodolieisoes, bydd Chwarae Cymru’n gweithiogyda chyrff gweithredol, er enghraifftGynghorau Gwirfoddol Cymunedol, fel ygallant gynnal partneriaeth ac, yn y pendraw, swyddog datblygu.

Bydd swyddogion datblygu, gaiff euhariannu gan grantiau isadeiledd y LoteriFAWR, yn cefnogi eu rhwydwaithchwarae lleol i ddarparu ar gyferchwarae plant ac i drosglwyddoprosiectau cynaliadwy.

Page 7: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006ARIANNU

7

Sut y gall prosiectau lleol wneudy gorau o Chwarae PlantY ffordd orau i fanteisio ar y cyfle ariannuhwn yw i chwarae rhan weithredol gydarhwydwaith chwarae neu gymdeithaschwarae leol. Bydd swyddogion datblyguchwarae awdurdodau lleol a’r sectorwirfoddol yn gwybod pwy y dylid cysylltuâ hwy. Cyhoeddwyd rhestr o gysylltiadaudatblygu chwarae yn ein rhifyn diwethaf.Os oes gennych unrhyw ymholiadau,cysylltwch â Kate yn ein swyddfagenedlaethol ([email protected])neu cysylltwch gydag Annette yn einswyddfa yng Ngogledd Cymru([email protected]).

Beth yw rôl Chwarae Cymru?Mae MAWR yn cynghori’n gryf y dylaipob ymgeisydd ddatblygu eu cais gydachymorth Chwarae Cymru.

Ein rôl ni yw: datblygu arolwg strategol ochwarae plant yng Nghymru; gweithiogyda sefydliadau lleol er mwyn eu helpui glustnodi bylchau mewn darpariaeth achytuno ar flaenoriaethau ar gyferbuddsoddiad; darparu cyngor arbenigoli ymgeiswyr a’u cynorthwyo i ddatblyguprosiectau sy’n ateb gofynion lleol ycytunwyd arnynt ac sy’n cydweddu âstrategaethau cenedlaethol.

Y Cyd-destunGellir ystyried hanes ariannu darpariaethchwarae plant yng Nghymru fel un ogyfleoedd a gafodd eu methu acymateb tameidiog. Er y cafwyd, yn ystody blynyddoedd diwethaf, ffynhonnellariannu wedi ei neilltuo ar gyferdarpariaeth chwarae wedi ei staffio trwyCymorth, yn ogystal â grantiau NOF argyfer y fenter Canolfan Plant Integredig,mae gwahanol awdurdodau lleol wedidewis dehongli’r canllawiau mewngwahanol ffyrdd a byddai’n deg dweudbod mynediad plant i ddarpariaethchwarae wedi ei staffio o ansawdd, ynamrywio’n fawr rhwng ardaloedd.

Mae’r Rhaglen Chwarae Plant yncydnabod bod angen i ariannu ar gyferdarpariaeth chwarae fod wedi ei gysylltuâ blaenoriaethau a nodau strategol ycytunwyd arnynt – caiff ei hysbysu ganBolisi Chwarae a Chynllun GweithreduLlywodraeth Cynulliad Cymru acargymhellion Grw^ p Gweithredu PolisiChwarae LlCC.

Tra ein bod yn cydnabod na fyddagwedd gyffredinol yn gweithio ar drawsCymru – mae gan wahanol ardaloeddwahanol heriau daearyddol ademograffaidd – mae hwn yn gyfle igreu ‘maes chwarae gwastad’, i lanw’r

bylchau a datblygu prosiectau newyddcyffrous. Mae’r loteri FAWR yn gwbl eglur ybydd yn cefnogi prosiectau sy’n cynnig‘elfen ychwanegol’. Golyga hyn na fyddyn cefnogi prosiectau sy’n bodoli eisoes ibarhau â’r gwaith y maent yn ei wneudeisoes, ac na fydd yn cefnogi prosiectauddylai gael eu hariannu gan ffynonellauariannu sy’n bodoli eisoes.

Gweithio mewn PartneriaethDyma gyfle gwirioneddol i gynllunio acannog agwedd partneriaeth ystyrlon achynaliadwy. Ni fydd MAWR yn derbynceisiadau gan bartneriaethau sy’n eithriounai’r sector wirfoddol neu’r sectorstatudol.

Mae Adolygiad diweddar Beecham iLywodraeth Cynulliad Cymru yn annoggweithio traws-sirol a gweithio traws-sector. Wrth annerch cynhadleddCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynLlandudno dywedodd y Cyng DerekVaughan, Arweinydd CLlLC: “Mae’n rhaidi bob darparwr gwasanaethaucyhoeddus newid. Mae’n rhaid i bawbfod yn barod i ymuno mewn gweithio ary cyd, cronni adnoddau a phenodiadauar y cyd. Mae’n rhaid inni feddwl fel ungwasanaeth cyhoeddus.”

Page 8: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006ARIANNU

8

Prosiectau Chwarae PosiblAgwedd arall y ffynhonnell ariannu honyw prosiectau chwarae strategol priodolsy’n cynnig chwarae annibynnol addewisir yn rhydd i blant o 0 – 12 mlwyddoed, ac yn enwedig i rai rhwng 8 – 12mlwydd oed. Disgwylir y bydd pobdarpariaeth chwarae yn rhad ac amddim i’r plant fydd yn ei ddefnyddio.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr ymgynghorigyda chyfranddalwyr a darparwyrgwasanaethau gan gynnwys pobl fyddyn elwa o’r prosiect a’u cynnwys ynnatblygiad y prosiect. Bydd ChwaraeCymru’n gweithio gyda sefydliadau aphartneriaethau rhanbarthol er mwynhelpu i glustnodi bylchau yn yddarpariaeth a blaenoriaethau ar gyferdatblygiad.

Dyma rai enghreifftiau o ddarpariaeth ygellid eu cynllunio fel rhan o brosiectstrategol ehangach:

mae meysydd chwarae antur ...

yn cael eu staffio gan weithwyr chwaraehyfforddedig, maent ar agor trwy gydol yflwyddyn a gall plant gymryd rhan ynrhad ac am ddim. Yma, caiff plant hyd iddeunyddiau a chefnogaeth fel ygallant greu ac ailgreu eu gofodchwarae eu hunain i weddu i’wanghenion eu hunain. Maent yn cynnigamgylchedd chwarae cyfoethog ble ygall plant brofi annibyniaeth a dewis.Maent yn gwneud yn iawn am y diffyggofod naturiol hygyrch sydd ohoniheddiw, ble y gall plant chwarae’nannibynnol o oedolion.

yn leoedd ble y gall plant adeiladucuddfannau neu dai pen coed,adeiladu tanau gwersyll, palu gerddi,cael ymladdfeydd dw^ r, chwarae yn ymwd a’r glaw. Maent yn leoedd y dylaiplant allu eu galw yn eiddo i’w hunain –ble y gallant gyfeirio eu chwarae euhunain, bod yn ddigymell, yn swnllyd, ynfudr, yn aflêr, yn wirion, a ble y gallantbrofi eu hunain yn erbyn euhamgylchedd a phobl eraill.

yn lleoedd cynhwysol ble y gall plantchwarae a chymdeithasu gydag eraill areu telerau eu hunain a dilyn eu agendaeu hunain. Ceir ethos o gyfranogaeth ahunan-gymorth; caiff plant eu cynnwysmewn prosesau gwneudpenderfyniadau a chynllunio ac fe’ucefnogir i feddwl drostynt eu hunain.

Yn leoedd ble y gall plant wynebu adysgu i reoli risg. Gall plant arbrofi,gwthio’n erbyn y ffiniau, dyfeisio,adeiladu a chwalu gan wybod bodgweithwyr chwarae hyfforddedig wrth lawi’w cefnogi os fydd angen.

a gellir cymhwyso ethos y maeschwarae antur at nifer o fathau eraill oddarpariaeth chwarae

caiff ardaloedd chwarae aadeiladwyd gan y gymuned ...

eu datblygu, eu hadeiladu a’u cynnalgan bobl leol – plant, pobl ifanc acoedolion – i gwrdd ag anghenioncymuned benodol. Bydd pobl newyddyn dysgu sgiliau newydd ac yn berchenar y gofod chwarae.

caiff prosiectau chwarae rhiniog drws ...

eu datblygu a’u rhedeg gan bobl leol erbudd plant iau sy’n methu teithio ymhello gartref. Gallant ddarparu offer, agedwir efallai mewn sied neu gist, agofod diogel ble y gall plant chwarae.

caiff darpariaeth chwarae symudol ...

ei staffio gan weithwyr chwaraehyfforddedig, a gall ddelio aganghenion chwarae plant mewncymunedau gwledig ac ardaloedd eraillble fo cyfleoedd chwarae yngyfyngedig.

mae’n cynnwys bysiau chwarae allddarparu cyfleoedd chwarae awyragored a dan do, ac unedau chwaraesymudol ble y bydd gweithwyr chwarae’ncludo offer a deunyddiau o un lle i’r llallgan ddefnyddio fan neu lori.

mae prosiectau gwaith chwaraeperipatetig ...

yn ddarpariaeth gwasanaeth gweithwyrchwarae mewn unrhyw ardal ble y gelliddisgwyl i blant chwarae’n naturiol – erenghraifft: ar stryd, mewn coedwig,mewn mannau agored cyhoeddus, neumewn hen feysydd parcio. Bydd ygweithiwr chwarae’n amddiffyn ac yncyfoethogi’r gofod ar gyfer y plant – gangynnig ymdeimlad o ddiogelwch yn euhamgylchedd lleol.

mae canolfannau chwarae...

yn gweithredu mewn modd tebyg ifeysydd chwarae antur. Maent ynagored i bawb a cheir gweithwyrchwarae hyfforddedig yno. Byddant wedieu lleoli mewn adeilad.

mae cynlluniau chwarae ...

yn ddarpariaeth dros dro gaiff eu staffiogan weithwyr chwarae, yn aml byddantyn cael eu cynnal yn ystod gwyliau’rysgol. Gellir eu lleoli mewn adeilad neumewn man agored.

mae canolfannau adnoddau,storfeydd sgraps a llyfrgelloeddteganau ...

yn darparu deunyddiau, gwybodaeth acoffer sy’n cefnogi gwaith pob un o’ruchod.

Mae’n annhebygol iawn y byddceisiadau i ariannu prosiectau iadnewyddu neu sefydlu ardaloeddchwarae offer sefydlog newydd ynllwyddiannus.

Tîm Datblygu Chwarae CymruEin tîm datblygu sy’n gyfrifol amgefnogi ymgeiswyr i’r Rhaglen ChwaraePlant. Rydym wedi penodi aelodaunewydd i’r tîm sydd ag arbenigedd ymmaes datblygu darpariaeth chwaraeawdurdodau lleol a’r sector wirfoddol,ac mewn datblygu a monitrostrategaeth chwarae ar lefel leol. Maegan dîm Chwarae Cymru gryn brofiado ddatblygu polisi a strategaeth ar lefelleol a sirol ac rydym wedi cynorthwyoLlywodraeth Cynulliad Cymru iddatblygu polisi a strategaethcenedlaethol ar chwarae adarpariaeth chwarae.

Rydym wedi ymrwymo i weithio ardraws Cymru – bydd ein Tîm Datblygu’ngweithio ym mhob rhanbarth. Lleolir ySwyddogion Datblygu yn ein Swyddfayng Ngogledd Cymru ac yn einSwyddfa Genedlaethol yngNghaerdydd. Mae’n bosibl y bydd rhaio’r tîm yn cymryd rôl traws-ranbartholwrth gefnogi datblygiad mathaupenodol o brosiectau, er enghraifft,meysydd chwarae antur.

Cysylltwch â ni ar:[email protected]

Y Swyddfa Genedlaethol: 029 2048 6050Swyddfa Gogledd Cymru: 01745 851816

I dderbyn eich copi personol o nodiadauarweiniol y Rhaglen Chwarae Plant,galwch 029 2067 8200, [email protected] ymwelwch âwww.cronfaloterifawr.org.uk

Page 9: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006STAFF NEWYDD

9

Mae gennym dri SwyddogDatblygu newydd:Mae Sarah Southern wedi bod ynghlwm â chwaraeplant ers tair blynedd ar ddeg, gan weithio mewnamrywiol sefyllfaoedd yng Ngorllewin Cymru, ymwyafrif yn wirfoddol a di-dâl. Wedi dychwelyd i DdeCymru gweithiodd Sarah fel Swyddog DatblyguChwarae ym Mlaenau Gwent.

Cyn ymuno â Chwarae Cymru roedd Michelle Jonesyn Swyddog Datblygu Chwarae gyda ChymdeithasMudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), a leolir yngNghaerffili. Yn ystod y deuddeg mlynedd y bu’ngweithio ym maes chwarae plant, mae ei rôl wediamrywio rhwng gwarchod plant, i ofal plant, i waithieuenctid a dysgu, cyn yn y diwedd ddod at waithchwarae a datblygu chwarae.

Ein trydydd Swyddog Datblygu yw Martin King-Sheard, sy’n awyddus i ddychwelyd i faes chwaraeyn dilyn blwyddyn yn gweithio fel Swyddog DatblyguYsgolion Estynedig yn Ninas Derby. Cyn y swydd honbu’n gweithio ym meysydd datblygu chwarae,cefnogi cynhwysiad, chwarae ar gyfer plant anabl arhedeg ei fusnes ei hun fel jyglwr a diddanwr.

Trist iawn oedd ffarwelio â Phil Macleod, eincynorthwywraig weinyddol wych, sydd wedi eingadael i ddilyn gyrfa ym maes Meddygaeth. Gwelwnei heisiau’n fawr iawn. Ond ... mae gennym dairCynorthwywraig Weinyddol newydd yn ein Swyddfayng Nghaerdydd:

Yn dilyn gweithio fel cynorthwy-ydd gyda chwmnicynhyrchu digwyddiadau bydd Kate Barron yn helpui drefnu digwyddiadau Chwarae Cymru. Treulioddamser yn teithio trwy Awstralia, Gwlad Thai a Fiet-nam.Bydd Helen Jones, sy’n siarad Cymraeg, yncynorthwyo ein Swyddog Cyllid. Yn y gorffennolgweithiodd fel derbynnydd, ac fel cynorthwy-ydd igwmni rheoli recordiau. Bydd Mel Welch, a raddioddyn y gyfraith yn ddiweddar, yn cynorthwyo ein TîmDatblygu’r Gweithlu. Bu Mel ynghlwm â gwaithchwarae yn ystod ei gwyliau yn Lloegr.

Cwblhaodd Angharad Wyn Jones, ein Cynorthwy-yddGwybodaeth newydd, ei thesis MPhil yn y Gymraeg ynddiweddar. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf treulioddamser yn teithio trwy Awstralia ac America.

Sarah Southern Michelle Jones Martin King-Sheard

O’r chwith i’r dde: Angharad Wyn Jones, Mel Welch, Helen Jones, Kate Barron

Staff Newydd

Page 10: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006BRIFFIAD

10

Comisiynu Ymgynghorwyr ChwaraeGyda dyfodiad Rhaglen Chwarae Plant y Loteri FAWR, a Cymorth yn ariannuarweiniad ynghylch mabwysiadu strategaethau chwarae sirol, mae rhaidarparwyr chwarae’n ystyried comisiynu ymgynghorwyr i’w cynorthwyo i ddarparua chynllunio’r cyfleoedd chwarae gorau ar gyfer eu hardal. Nid yw ChwaraeCymru, fel rhan o’n polisi, yn argymell neu’n ardystio unrhyw ymgynghorwyrchwarae, ond rydym yn gwbl fodlon cynnig cyngor ar sut i ddethol cymorthpriodol, ac i gynnig cefnogaeth wrth ysgrifennu brîff neu gyfweld ymgynghorwyr.

Y ffordd orau i osgoi gwastraffu arian yw ifod yn gwbl bendant os ydych angenymgynghorydd ai peidio. Bydd gwirymgynghorwyr yn anfodlon derbyncomisiwn pan fyddant yn gwybod naallant fod o gymorth.

Byddem yn awgrymu y dylai unrhyw unsydd ynghlwm â phenodiadau ofyn amhanes gwaith cynhwysfawr. Dylech ofynam eirda gan waith neu brosiectau

diweddaraf y darpar ymgynghorwyr - nidyn unig yn ysgrifenedig ond hefyd trwysgwrsio â chyflogwyr blaenorol – efallai ybyddant yn fwy agored mewn sgwrsanswyddogol. Mae’n bwysig iawn boddarpar ymgynghorwyr yn sensitif i lefelgwybodaeth, profiad a hyder y rhai fyddyn eu comisiynu. Ar lefel ymarferol, byddangen iddynt arddangos y gallantdrosglwyddo gwaith sydd wedi eiysgrifennu’n dda a’i gyflwyno’n ddestlus,a hynny ar amser.

Dylai’r darpar ymgynghorydd hefyd fodwedi cyflawni gwiriad manwl y Swyddfa

Cofnodion Troseddol. Hyd yn oed os nadyw ef neu hi mewn cysylltiaduniongyrchol â phlant fel rhan o’rcomisiwn, mae’n well cynnal gwiriad ynhytrach na dysgu am orffennol rhywunmewn stori yn y papur lleol.

Mae’n hanfodol bod darparymgynghorwyr yn cynnig crynarbenigedd a phrofiad ym maes gwaithchwarae a datblygu chwarae. Pan fo

arian ar gael, yn sydyn bydd pob math obobl yn hawlio eu bod yn arbenigwyr.Ond, yn union fel y byddai’n annoeth ialw person trin gwallt i drwsio piben sy’ngollwng gan ei fod yn gweithio gyda dw^r,byddai hefyd yn annoeth gofyn i athroysgol neu reolwr gofal plant i ddrafftiostrategaeth chwarae neu i gynnig cyngorar ei gweithredu oherwydd eu bod yngweithio gyda plant. Cafodd gweithwyrchwarae eu hyfforddi i hwyluso chwaraeplant. Gweithwyr chwarae hyfforddedig,profiadol all gynnig tystiolaeth oddatblygiad proffesiynol parhaus a’r

wybodaeth ddiweddaraf am theorichwarae, ac sydd â chofnod oymwneud llwyddiannus gyda darpariaethchwarae a strategaeth chwarae, yw’rarbenigwyr yn y maes hwn.

Mae’n allweddol hefyd bod unrhywddarpar ymgynghorwyr yn meddu arwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o’rnodau a’r bwriadau y tu ôl i BolisiChwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru,Cynllun Cyflawni Polisi Chwarae acArgymhellion Grw^ p Gweithredu PolisiChwarae LlCC. Bydd MAWR yn disgwylceisiadau gaiff eu hysbrydoli gan yr hollddogfennau hyn. Mae gwybodaeth,profiad a gwerthfawrogiad o waithawdurdodau lleol a’r sector wirfoddolhefyd o bwys mawr.

Nod terfynol y darn o waith gaiff eigomisiynu yw gwella cyfleoedd chwaraear gyfer plant o fewn eu cymunedau.Felly, mae’n hynod o bwysig fod ganunrhyw ddarpar ymgynghorydddystiolaeth profedig o gynnalymgynghoriadau ystyrlon a llwyddiannusgyda phlant a’u cymunedau. Weithiau,gall gweithio yn y modd hwn amlygugwrthdaro buddiannau a bydd angen iunrhyw ddarpar ymgynghoryddarddangos agwedd wrthrychol, sy’n rhoi y plentyn wrth galon y gwaith ynogystal â phrofiad o lwyddo i reoligwahaniaeth barn.

Mae gan The Children’s PlayInformation Service yn y NationalChildren’s Bureau yn Llundain restr oymgynghorwyr chwarae – cysylltwchag Anna Kassmann ar 020 7843 6303neu ymwelwch â www.ncb.org.uk

Cyhoeddwyd canllaw hawdd eiddefnyddio gan Russell House sef:‘Commissioning Consultancy,managing outside expertise toimprove your services,’ Kara and Muir,2003. Mae hwn ar gael yn ein llyfrgellneu gellir ei brynu mewn siopau llyfrau da.

Page 11: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006DATBLYGU’R GWEITHLU

11

Herio’r HyfforddwyrYn ddiweddar mynychodd tri ar ddeg o weithwyr chwarae gwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr,ein prosiect hyfforddi gwaith chwarae – maent eisoes yn trosglwyddo’r hyfforddiantnewydd a ddatblygwyd gennym i weithwyr chwarae hen a newydd ar draws Cymru.

Cafodd y tri ar ddeg eu herio ganPete Duncan, Jess Milne ac Ali

Wood, sydd i gyd yn weithwyr chwaraeac yn hyfforddwyr profiadol dros ben,ac sydd hefyd wedi bod ynghlwm âdatblygu deunyddiau’r cwrs newydd.Eu her hwy oedd ysbrydoli’rcyfranogwyr gydag angerdd y gellir eidrosglwyddo i eraill – ac wrth gwrs idaflu goleuni ar sut i gyflwyno’r cwrsmewn modd agored a chyffrous.

Yn ein rhifyn nesaf cyhoeddir cyfweliadgydag un o’r hyfforddwyr newydd, ondyn y cyfamser dyma ddyfyniadau gan yrhai ddaeth trwyddi:

“Agwedd newydd iachusol – hen bryd!”

“Fe wnaeth fy nhynnu o fy mancyfforddus a gwneud i mi feddwl.”

“Braf iawn i fod gyda phoblysbrydoledig sy’n gallu ysbrydoli eraill.”

“Gwych – llawer o syniadau newyddsy’n rhwydd i’w trosglwyddo – ac fewnaeth gynorthwyo fy nysgu innau.”

Hwn oedd y cyfle olaf i gwblhau’r cwrsHyfforddi’r Hyfforddwyr ar ei ffurfpresennol. Os hoffech ddysgu rhagor amy cyrsiau y mae’r hyfforddwyr newydd yneu trosglwyddo’n awr, cysylltwch âRichard Trew, Rheolwr Prosiect, yn einswyddfa genedlaethol (029 2048 6050neu â [email protected])

Page 12: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Sut ddes ti i fynychu un o gyrsiauhyfforddiant peilot cynnar ChwaraeCymru?

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael swyddfel arweinydd tîm gyda phrosiectchwarae symudol PlayRight yn Abertawe.PlayRight oedd un o’r sefydliadau cyntaf igynnal y cwrs peilot.

Oeddet ti wedi gwneud unrhyw waithchwarae o’r blaen?

Oeddwn. Roedd yr hyfforddiant yma’nwahanol iawn i’r hen fath – mae’r cwrsyma’n peri i chi feddwl llawer mwy –mae’n rhaid i chi feddwl llawer mwy ameich arddull gweithio. ’Dyw e ddim ynymwneud â darparu gemau agweithgareddau ar gyfer y plant – mae’nymwneud â chael y plant i feddwldrostynt eu hunain.

Roedd yr hyfforddiant yn para tridiwrnod a gall hynny fod yn eithaftrwm. Oedd e’n hwyl?

Oedd, ac mae’n cynnig sail da i chi arsut i weithio gyda phlant. Fe fyddwch yndysgu’r theori ac yna’n ceisio eigymhwyso i’ch gwaith gyda phlant. Unpeth oedd yn ddiddorol oedd i bethaufynd yn weddol danllyd rhwng cyd-weithwyr – roedd ein cred a’n barn yncael eu herio.

Pa fath o bethau wnes ti eu dysgu ar ycwrs?

Fe ddysgais lawer, ond yn bwysicaf ollcefais gyfle i fyfyrio ar yr hyn yr oeddwnyn ei ddysgu.

Roedd yn ddiddorol gweld sut y gall ypeth lleiaf y byddwch yn ei wneudeffeithio ar chwarae, a hynny heb i chisylweddoli.

Mae’n rhoi cyfle i chi ddeall sut a phryd iymyrryd rhwng y plant. Fe fyddwch ynsylweddoli y bydd plant yn gwneudpethau, ac efallai na fyddwch yn cytunogyda nhw, ond mae’n bwysig peidioymyrryd a gadael iddynt roi tro ar bethaudrostynt eu hunain.

Tra’n gweithio ar y prosiect symudol felrhan ymarfer gwaith y cwrs, dysgais laweram risg – a pha mor bwysig yw hi i blantfentro tra’n sicrhau bod lefel y risg yn

briodol i’r plentyn. Un enghraifft oedd panoedd cwch ar gael i’r plant chwarae arni,roeddent yn gallu neidio oddi ar y cefn adringo’r mast. Roedd yn ddiddorolymweld â gwahanol gymunedau agweld y gwahaniaethau rhwng euagweddau. Er enghraifft, ar y Gw^ yr, roeddy plant yn fwy ansicr ac roedd rhai yn rhyofnus i neidio i ffwrdd. Roedd mwy oddiddordeb gan y plant yma gynlluniopethau ar gyfer y cwch a rhoi eu stampeu hunain arni. Mewn cymunedau eraillroedd yn rhaid inni ddarparu llawer ofatiau – roedd lefelau risg y plant ynllawer uwch ac roeddent yn mwynhaudringo’r mast a neidio i ffwrdd.

Mae’r cwrs yn dangos grym dychymyg yplentyn i chi; eu byd a’u syniadau euhunain – y pethau bychain all fod ynddibwys i oedolyn ond all fod ynrhywbeth hynod o ddwfn ac ystyrlon i’rplentyn. Ar brydiau, fydd plant ddim ynystyried bod chwarae’n chwarae; byddyn debycach i waith, i dasg neu igennad.

Mae’n ddefnyddiol iawn cyfeirio at yregwyddorion Gwaith Chwarae: maemeddu ar ddealltwriaeth o pam fodplant yn chwarae a’ch rôl chi yn bwysigiawn.

Beth am y modd y cafodd y cwrs eidrosglwyddo – sut rai oedd y tiwtoriaid?

Roedd yn braf iawn cael tiwtoriaid oeddyn weithwyr chwarae. Gallaf siarad yn fwyagored gyda nhw ac fe fyddant yn deallfy sefyllfa. Weithiau, fydd y sefyllfaoedd yr

ydych wedi eu hymarfer ddim yngweithio cystal mewn gwirionedd, acmae’n dda cael trafod hyn gydagweithwyr chwarae eraill sydd wedi profisefyllfaoedd tebyg.

A fu unrhyw fuddiannau i’r plant yr wytyn gweithio gyda nhw?

Mae fy agwedd wedi newid – fydda’iddim yn neidio i mewn gyda’n nhraed yngyntaf bellach – dylai’r plant ei weithioallan drostynt eu hunain. Mae’n dda iblant ddadlau a gweiddi a galw enwauar ei gilydd a datblygu sgiliau cyfathrebu.Bydd pawb yn cael problemau yn ystodeu bywyd ac mae’n bwysig deall o oedifanc iawn na fydd modd i chi gael yrhyn yr ydych ei eisiau bob amser. Mae’rcwrs yma’n ymwneud â rhoi’r arfau a’rcyfleoedd i blant i archwilio a datblygugwerthoedd a gwahanol gredoau. Maemor bwysig i blant wneud hyn, os nafyddant yn cael y cyfle hwn gall fod ynhynod o niweidiol.

Fyddet ti’n argymell y cwrs hwn i eraill?

Byddwn – yn bendant.

Beth yw dy gynlluniau ar gyfer ydyfodol?

Fe hoffwn barhau gyda’r cwrs gwaithchwarae – mae wedi rhoi dealltwriaethmwy trylwyr i mi o waith chwarae ac ynsicr mae wedi fy ngwneud yn wellgweithiwr chwarae.

Dysgwch fwy am addysg, hyfforddianta chymwysterau gwaith chwarae arein gwefan yn yr adran Dysgu GwaithChwarae – ble y gallwch, yn fuaniawn, wrando ar fersiwn wedi eigolygu o’r cyfweliad hwn.

Os hoffech ddysgu rhagor am einProsiect Hyfforddiant GwaithChwarae, cysylltwch â Richard Trewar 029 2048 6050 neu [email protected]

I ddysgu rhagor am PlayRight,cymdeithas chwarae sectorgwirfoddol Abertawe a Chastell-neddPort Talbot, galwch 01792 794885neu ymwelwch âwww.playright.org.uk

Cyfweliad gyda Hyfforddai Gwaith ChwaraeRichard Trew, Rheolwr Prosiect, prosiect hyfforddiant gwaith chwarae CWLWM sy’n cyfweld Will,gweithiwr chwarae o Abertawe, a fynychodd un o’r cyrsiau peilot yn ystod yr haf diwethaf.

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006DATBLYGU’R GWEITHLU

12

Will, Gweithiwr Chwarae

Page 13: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006DATBLYGU’R GWEITHLU

13

Gwthio Eddie yn y DanadlPoethion gyda ConnorSut allwch chi esbonio ehangder ac amrywioldeb syfrdanol chwarae plant i’r bobl sy’ngwneud y penderfyniadau ac i ddarpar weithwyr chwarae? a beth allwch chi ei alw?

Tynnwyd yr holl ffotograffau o blant yn chwarae yn y rhifyn hwn yn ystod y cyfnod ffilmio.

Ein hateb ni oedd ymgeisio am arian gan raglen EQUAL YGronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i greu ffilm ‘pryf ar y

pared’. Byddwn yn defnyddio’r un deunydd i greu ffilm arallhefyd fydd yn ein galluogi i ddadansoddi chwarae plant felrhan o’n prosiect hyfforddiant chwarae plant CWLWM.

Dros yr haf a thrwy’r Hydref bu criw bychan o wneuthurwyr ffilmproffesiynol yn recordio plant yn chwarae. O oerfel RhaeadrauOernant yng Ngogledd Cymru i draethau euraid penrhyn Gw^ yr,o ardd gefn gysgodol i gynlluniau chwarae haf, o feysyddchwarae antur prysur i goedwig fwdlyd, mae’r criw wedi ffilmiooriau ac oriau o luniau o blant yn chwarae.

Nid oedd sgript i gael – yn syml iawn, cafodd y plant eu ffilmio’ngwneud yr hyn y maent yn ei wneud orau ac yna eu cyfweld ar ydiwedd. Dyma rai o’u sylwadau:

“Chwarae ydi’r pethau gorau i mi ei wneud erioed.”

“My favourite kind of play is Shakespeare ... ha ha.”

“Mae merched yn gwneud pethau merchetaidd ... ac ynsgrechian lot ... ac mae’r bechgyn yn gwneud pethau da – feladeiladu cuddfannau, chwarae gemau ar y stryd ac ar y traeth.”

“Rhedeg trwy’r coed a thaflu dw^r ar ein gilydd ... a gwneudteisennau mwd a rholio i lawr y bryniau.”

“Pam chwarae? Oherwydd ei fod yn hwyl ... oherwydd ei fod ynrhan o dy fywyd ...”

“Fe gewch chi rai plant sydd ddim yn cael cyfle i chwarae. Mae’ndda iddyn nhw gael chwarae.”

“Ar feysydd chwarae mae’r lle wedi ei adeiladu’n barod, tyrau asiglenni a phethau felly. Yn y fan hyn, fe gewch chi wneud hynnyeich hun a theimlo’n falch a’i ddefnyddio oherwydd mai eich unchi ydi o.”

Mae’r ffilm yn dangos plant yn adeiladu eu mannau chwarae euhunain, yn chwarae gyda’r bedair elfen ac yn defnyddiodeunyddiau naturiol, yn mentro ac yn gwerthuso risg, yn datrysanghydfodau a llawer, llawer mwy.

Dyma sydd gan Quirine Robbins, Isgynhyrchydd gyda Green BayMedia, i ddweud am ei phrofiad:

“Bu creu y ffilm hon ar gyfer Chwarae Cymru yn agoriad llygad goiawn. Fe fu’n antur – cawsom ein dal ynghanol ymladdfeydd dw^ ra mwd, rydym wedi dringo twyni tywod a sbecian i mewn iguddfannau. Ac rydym wedi cwrdd â phlant a gweithwyrchwarae gwych. Fydd chwarae fyth yr un fath i mi.”

Yn anffodus, oherwydd natur yr ariannu ar gyfer y ffilm hon niallwn ei gwerthu, ond bydd ar gael i gyrff yng Nghymru a’r DUsydd â dylanwad ar ansawdd cyfleoedd chwarae plant yn eingwlad. Caiff hefyd ei defnyddio fel rhan o hyfforddiant GwaithChwarae, Chwarae Cymru. Cewch gyfle i wylio’r ffilm yn eincynhadledd Ysbryd Chwarae Antur ym mis Mai ac ynnigwyddiadau eraill Chwarae Cymru, a chaiff clip byr ei osod ar ein gwefan ym mis Ionawr unwaith i’r gwaith golygugael ei gwblhau.

Page 14: Chwarae yng Nghymru rhifyn 19

Digwyddiadau31 Ionawr 2007Chwarae Hygyrch & Chynaliadwy

The Centennial Centre, Birmingham

Ymysg y siaradwyr bydd: Marguerite Hunter Blair acAdrian Voce

Archebwch le ar www.playconference.com

9 a’r 10 Mai 2007Ysbryd Chwarae Antur Cynhadledd flynyddol Chwarae Cymru i bob un sy’n ymwneudâ chwarae antur. Ymysg y siaradwyr bydd: Brian Sutton Smith,Wendy Russell a Hitoshi Shimamura. Gellir archebu lle yn yFlwyddyn Newydd, edrychwch ar dudalen Digwyddiadau eingwefan. Neu cysylltwch â’r swyddfa genedlaethol i roi eich enwar y rhestr bostio 029 2048 6050.

17 – 20 Mai 2007 Cynhadledd Genedlaethol CYWU –Caeredin

Mae’r Gynhadledd yn agored i holl aelodau’r Undeb.Am ragor o fanylion ymwelwch â www.cywu.org.uk

14 Mehefin 2007 Cynhadledd Rhyngwladol DiogelwchChwarae

Cofrestrwch eich diddordeb trwy e-bostio:[email protected] a gadael eich manylion cyswllt.

Cyhoeddiad Newydd‘PlayTypes – Speculations andPossibilities’ gan Bob Hughes, cyhoeddir gan The London Centrefor Playwork Education and Training.

I brynu’r llyfr, cysylltwch â John Fitzpatrick: 020 7527 5824

AriannuOs ydych yn chwilio am arian i’ch sefydliad neu i’chprosiect, gall WCVA gyflawni archwiliad ariannu i’waelodau trwy’r ‘Grantfinder’. Cysylltwch â’r DdesgGymorth ar 0870 607 1666, [email protected]

Y Rhaglen Ariannu – gweithdai hyfforddiant i gynnigcymorth i’r sector wirfoddol er mwyn helpu i glustnodi,ceisio am, ac ennill cyllid:

Dydd Mercher 17 Ionawr 2007; Dydd Iau 15 Chwefror2007; Dydd Mawrth 20 Mawrth 2007 yn PembrokeHouse, Treganna, Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch:[email protected]

Ysgolion Bro Mae fersiynau cynnar o gyllideb ddrafft LlCC ar gyfer 2007-8 wedi cynnwys estyniad o’r gyllideb (ar yr un lefel) i Ysgolion Bro hyd at 2010.

Ymwelwch âwww.chwaraecymru.org.ukCymerwch gip ar ein gwefan newydd gyffrous sy’nrhwydd iawn i’w defnyddio. Caiff ei diweddaru’nrheolaidd wrth i newyddion gyrraedd ein swyddfa, acmae’n fwriad gennym ei ehangu dros amser gangynnwys rhagor o luniau, erthyglau, gwybodaeth,briffiadau i’w llwytho i lawr a ffeithddalenni.

Un bwriad arall syddgennym yw cyhoeddistraeon chwarae a gwaithchwarae gan ddarparwyrchwarae, gweithwyrchwarae a phlant, acrydym yn croesawucyfraniadau gan unrhyw unsy’n byw neu’n gweithio yngNghymru (byddwn yn gwirio neu efallai’n golygucyfraniadau cyn eu gosod ar y wefan ac ni allwnwarantu cyhoeddi pob cyfraniad).

PosterRydym ar fin cyhoeddi poster newydd sy’n dangos plant ynchwarae mewn cymuned yng Nghymru – yn y parc, yn yrysgol, mewn maes chwarae antur ac ar y stryd. Unwaith etomae’n arddangos gallu Les Evans i greu cartwnau gwych.

Caiff y poster ei gynnwys yn rhad ac am ddim fel rhan o’npecyn croeso i aelodau yn 2007, ond os nad ydych yn aelodgallwch unai ei brynu yn ein siop ar-lein arwww.chwaraecymru.org.uk neu galwch ni ar 029 2048 6050 iarchebu copi. Y pris yw £4 a £1 am bostio a phacio.

Chwarae dros Gymru Rhifyn 19 GAEAF 2006DIGWYDDIADAU, ADNODDAU AC ARIANNU

14