O'R DRWS I'R DDESGHelpu rhagor o blant i gerdded neu feicio i'r ysgol
Mae'r dull rydym yn ei ddewis i deithio yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau, gan gynnwys nodweddion ffisegol y gymuned rydym ni'n byw ynddi. Mae pobl broffesiynol o
sectorau gwahanol yn gallu cyfrannu ar y cyd tuag at greu amgylcheddau a llwybrau drwy gymunedau sy'n gwneud cerdded neu feicio i'r ysgol yn ddewis haws.
YSGOL
PENSEIRI
Dylunio lle addas yn y cartref i storio
esgidiau, cotiau a beiciau
DATBLYGWYR TAI
Llunio strydoedd sy'n rhoi blaenoriaeth
i bobl yn hytrach na cheir
PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH Lleihau cyflymder
traffig ar strydoedd mewn ardaloedd
preswyl
PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH
Darparu llwybrau diogel ar gyfer
cerdded a beicio
CYNGHORWYR LLEOL
Ymgyrchu dros gwell defnydd o'r cyllid
sydd ar gael
HEDDLU
Gorfodi cyfyngiadau parcio a
chyfyngiadau cyflymder
CYNLLUNWYR
Gosod cysylltiadau trafnidiaeth
gyhoeddus yn agos i ysgolion
ADRANNAU ADDYSG
Lleoli ysgolion newydd yn agos
i gartrefi pobl
LLYWODRAETHWYR YSGOLION
Gosod mannau storio diogel ar gyfer beiciau a dillad i'w gwisgo yn
yr awyr agored
Bydd cynyddu teithio llesol yn helpu i greu Cymru fwy iach, a chymdeithas garbon isel ffyniannus o gymunedau diogel sy’n cyd-gysylltu’ndda â’i gilydd. (Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015)
Cymrulewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymru o gymunedau
cydlynus
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymru sy’ngyfrifol ar lefel
fyd-eang
Mae angen i bob plentyn yng Nghymru fod yn gorfforol weithgar bob dydd. Mae cerdded a beicio i’r ysgol yn ffordd effeithiol o gynnwys mwy o weithgarwch corfforol mewn bywyd plentyn.
Mae 2% o blant cynradd yn beicio i’r ysgol.
Mae 49% o blant cynradd yn cerdded i’r ysgol.(Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2014–15)
Mae teuluoedd yn dewis cerdded neu feicio i’r ysgol yn fwy rheolaidd os ydynt o’r farn bod y pellter yn llai nag un filltir.(Potoglou, D. & Arslangulova, B. 2017)
Plant yn teimlo’n hyderus ac yn cael cefnogaeth i ffafrio cerdded a beicio fel dull o drafnidiaeth.
Dim ond 36% o blant rhwng 4–15 mlwydd oed sy’n llwyddo i gyflawni’r 60 munud o ymarfer corff a argymhellir bob dydd.(Arolwg Iechyd Cymru, 2015 a Chanllawiau’r Prif Swyddog Meddygol, 2011)
Hyd yn oed ar gyfer teithiau sy’n llai na hanner milltir i’r ysgol, bydd 30% o blant yn teithio yn y car. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2014–15)
Mae’r plant sy’n cerdded neu’n beicio i’r ysgol yn llwyddo i gyflawni tua 20 munud mwy o weithgarwch corfforol bob dydd na’r plant sy’n teithio yno yn y car. (Davidson, K.K. et al. 2008)
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol yng Nghymru, i alluogi rhagor o bobl i fwynhau buddion cerdded a beicio
Gall fuddsoddi mewn cerdded a beicio gynyddu gwerthiannau adwerthu lleol o hyd at
30%(Living Streets, 2014)
Mae cerdded a beicio yn ddulliau trafnidiaeth sy’n rhyddhau sero allyriadau wrth deithio
a thrwy gynyddu teithio yn y dulliau hyn byddwn yn helpu i fodloni safonau ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon.(Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010)
CO2
EIN SEFYLLFA AR HYN O BRYD
PAM MAE ANGEN I NI WEITHREDU
Bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i wneud gwelliannau bach yn lleol, a fydd yn cael effaith fawr ledled Cymru.
RYDYM AM WELD... DRWY...
Mae cerdded a beicio yn helpu pobl a’r gymuned i deimlo’n fwy cysylltiedig. Gall gynyddu ymdeimlad pobl o gynhwysiant a’u canfyddiad o ddiogelwch.
Gallai teulu arferol arbed £642 bob blwyddyndrwy gyfnewid gyrru i’r ysgol am gerdded neu feicio (Sustrans, 2014)
Mae 78%o blant Cymru am gael mwy o lais wrth wneud y strydoedd yn fwy diogel i gerdded, beicio neu fynd ar sgwter i’r ysgol. (Comisiynydd Plant Cymru 2015)
© Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017. Mae’r ffeithlun hwn wedi cael ei gynhyrchu drwy ymgynghoriadau â Grwp Randdeiliaid Cenedlaethol Teithio Llesol i’r Ysgol.