Top Banner
O'R DRWS I'R DDESG Helpu rhagor o blant i gerdded neu feicio i'r ysgol Mae'r dull rydym yn ei ddewis i deithio yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau, gan gynnwys nodweddion ffisegol y gymuned rydym ni'n byw ynddi. Mae pobl broffesiynol o sectorau gwahanol yn gallu cyfrannu ar y cyd tuag at greu amgylcheddau a llwybrau drwy gymunedau sy'n gwneud cerdded neu feicio i'r ysgol yn ddewis haws. Y S G O L PENSEIRI Dylunio lle addas yn y cartref i storio esgidiau, cotiau a beiciau DATBLYGWYR TAI Llunio strydoedd sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl yn hytrach na cheir PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH Lleihau cyflymder traffig ar strydoedd mewn ardaloedd preswyl PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH Darparu llwybrau diogel ar gyfer cerdded a beicio CYNGHORWYR LLEOL Ymgyrchu dros gwell defnydd o'r cyllid sydd ar gael HEDDLU Gorfodi cyfyngiadau parcio a chyfyngiadau cyflymder CYNLLUNWYR Gosod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn agos i ysgolion ADRANNAU ADDYSG Lleoli ysgolion newydd yn agos i gartrefi pobl LLYWODRAETHWYR YSGOLION Gosod mannau storio diogel ar gyfer beiciau a dillad i'w gwisgo yn yr awyr agored
2

O'R DRWS I'R DDESG - NHS Wales 'Doorstep to Desk... · O'R DRWS I'R DDESG Helpu rhagor o blant i gerdded neu feicio i'r ysgol Mae'r dull rydym yn ei ddewis i deithio yn cael ei ddylanwadu

Aug 19, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: O'R DRWS I'R DDESG - NHS Wales 'Doorstep to Desk... · O'R DRWS I'R DDESG Helpu rhagor o blant i gerdded neu feicio i'r ysgol Mae'r dull rydym yn ei ddewis i deithio yn cael ei ddylanwadu

O'R DRWS I'R DDESGHelpu rhagor o blant i gerdded neu feicio i'r ysgol

Mae'r dull rydym yn ei ddewis i deithio yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau, gan gynnwys nodweddion ffisegol y gymuned rydym ni'n byw ynddi. Mae pobl broffesiynol o

sectorau gwahanol yn gallu cyfrannu ar y cyd tuag at greu amgylcheddau a llwybrau drwy gymunedau sy'n gwneud cerdded neu feicio i'r ysgol yn ddewis haws.

YSGOL

PENSEIRI

Dylunio lle addas yn y cartref i storio

esgidiau, cotiau a beiciau

DATBLYGWYR TAI

Llunio strydoedd sy'n rhoi blaenoriaeth

i bobl yn hytrach na cheir

PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH Lleihau cyflymder

traffig ar strydoedd mewn ardaloedd

preswyl

PRIFFYRDD A THRAFNIDIAETH

Darparu llwybrau diogel ar gyfer

cerdded a beicio

CYNGHORWYR LLEOL

Ymgyrchu dros gwell defnydd o'r cyllid

sydd ar gael

HEDDLU

Gorfodi cyfyngiadau parcio a

chyfyngiadau cyflymder

CYNLLUNWYR

Gosod cysylltiadau trafnidiaeth

gyhoeddus yn agos i ysgolion

ADRANNAU ADDYSG

Lleoli ysgolion newydd yn agos

i gartrefi pobl

LLYWODRAETHWYR YSGOLION

Gosod mannau storio diogel ar gyfer beiciau a dillad i'w gwisgo yn

yr awyr agored

Page 2: O'R DRWS I'R DDESG - NHS Wales 'Doorstep to Desk... · O'R DRWS I'R DDESG Helpu rhagor o blant i gerdded neu feicio i'r ysgol Mae'r dull rydym yn ei ddewis i deithio yn cael ei ddylanwadu

Bydd cynyddu teithio llesol yn helpu i greu Cymru fwy iach, a chymdeithas garbon isel ffyniannus o gymunedau diogel sy’n cyd-gysylltu’ndda â’i gilydd. (Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015)

Cymrulewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru iachach

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau

cydlynus

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymru sy’ngyfrifol ar lefel

fyd-eang

Mae angen i bob plentyn yng Nghymru fod yn gorfforol weithgar bob dydd. Mae cerdded a beicio i’r ysgol yn ffordd effeithiol o gynnwys mwy o weithgarwch corfforol mewn bywyd plentyn.

Mae 2% o blant cynradd yn beicio i’r ysgol.

Mae 49% o blant cynradd yn cerdded i’r ysgol.(Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2014–15)

Mae teuluoedd yn dewis cerdded neu feicio i’r ysgol yn fwy rheolaidd os ydynt o’r farn bod y pellter yn llai nag un filltir.(Potoglou, D. & Arslangulova, B. 2017)

Plant yn teimlo’n hyderus ac yn cael cefnogaeth i ffafrio cerdded a beicio fel dull o drafnidiaeth.

Dim ond 36% o blant rhwng 4–15 mlwydd oed sy’n llwyddo i gyflawni’r 60 munud o ymarfer corff a argymhellir bob dydd.(Arolwg Iechyd Cymru, 2015 a Chanllawiau’r Prif Swyddog Meddygol, 2011)

Hyd yn oed ar gyfer teithiau sy’n llai na hanner milltir i’r ysgol, bydd 30% o blant yn teithio yn y car. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2014–15)

Mae’r plant sy’n cerdded neu’n beicio i’r ysgol yn llwyddo i gyflawni tua 20 munud mwy o weithgarwch corfforol bob dydd na’r plant sy’n teithio yno yn y car. (Davidson, K.K. et al. 2008)

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol yng Nghymru, i alluogi rhagor o bobl i fwynhau buddion cerdded a beicio

Gall fuddsoddi mewn cerdded a beicio gynyddu gwerthiannau adwerthu lleol o hyd at

30%(Living Streets, 2014)

Mae cerdded a beicio yn ddulliau trafnidiaeth sy’n rhyddhau sero allyriadau wrth deithio

a thrwy gynyddu teithio yn y dulliau hyn byddwn yn helpu i fodloni safonau ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon.(Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010)

CO2

EIN SEFYLLFA AR HYN O BRYD

PAM MAE ANGEN I NI WEITHREDU

Bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i wneud gwelliannau bach yn lleol, a fydd yn cael effaith fawr ledled Cymru.

RYDYM AM WELD... DRWY...

Mae cerdded a beicio yn helpu pobl a’r gymuned i deimlo’n fwy cysylltiedig. Gall gynyddu ymdeimlad pobl o gynhwysiant a’u canfyddiad o ddiogelwch.

Gallai teulu arferol arbed £642 bob blwyddyndrwy gyfnewid gyrru i’r ysgol am gerdded neu feicio (Sustrans, 2014)

Mae 78%o blant Cymru am gael mwy o lais wrth wneud y strydoedd yn fwy diogel i gerdded, beicio neu fynd ar sgwter i’r ysgol. (Comisiynydd Plant Cymru 2015)

© Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017. Mae’r ffeithlun hwn wedi cael ei gynhyrchu drwy ymgynghoriadau â Grwp Randdeiliaid Cenedlaethol Teithio Llesol i’r Ysgol.