-
www.gwyneddbusnes. net 01
Rhwydwaith Busnes GwyneddRhifyn 1 , Mai 2010
Croeso i rifyn cyntaf CylchlythyrRhwydwaith Busnes Gwynedd!Mae’r
rhwydwaith yn grŵp o berchnogion a gweithredwyr busnes yng Ngwynedd
a ffurfiwyd yn 2005 i ddarparu fforwm ar gyfer pob busnes yn y Sir
er mwyn:
• Rhwydweithio a rhyng-fasnachu• Cyfathrebu â sectorau eraill
(cyhoeddus ac academaidd)• Adnabod, datblygu a datrys problemau
sy’n wynebu busnesau yn yr ardal.
Cwmni cyfyngedig drwy warant, mae ein bwrdd o saith cyfarwyddwr
i gyd yn gweithio’n wirfoddol:
Cyfarwyddwyr
John LloydInigo Jones a’i Gwmni Cyf, Y Groeslon
Gill Richards MBEAtebion Recruitment Cyf, Bangor
John MorrisJ Morris Consultancy, Y Bermo
Wyn RobertsMarchnata Aqua Cyf, Caernarfon
Samantha EvansMwnci Bach Cyf, Blaenau Ffestiniog
Gwyn JonesOriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog
Sian M WilliamsGriffith, Williams a’i Gwmni, Pwllheli
Os hoffech chi gyfrannu i’r cylchlythyr neu hysbysebu eitem
newyddion neu ddigwyddiad, anfonwch e-bost i
[email protected] Rhaid i bob eitem fydd yn cael ei chyhoeddi
fod yn ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg.
YmaelodiMae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob
busnes yng Ngwynedd. Gallwch gofrestru drwy ein gwefan
www.gwyneddbusnes.net. Er bod modd cael mynediad i’r rhwydwaith heb
gofrestru’n ffurfiol, rydym yn eich annog i wneud hynny. Trwy wneud
hynny bydd yn bosibl ichi gael mynediad i bob rhan o’r wefan, yn
cynnwys y rhestr o aelodau a byddwch yn derbyn e-byst a
chylchlythyrau rheolaidd a fydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf ichi
am ddigwyddiadau, cyfarfodydd a gwybodaeth fusnes.
Fred Foskett yn derbyn ‘Gwobr Cyfraniad Arbennig’ yng Ngwobrau
Busnes Gwynedd 2009. Ac yntau’n un o sefydlwyr Rhwydwaith Busnes
Gwynedd ac yn ŵr busnes llwyddiannus am 40 blynedd, cafodd
cyfraniad Fred i fusnes yng Ngwynedd ei gydnabod a’i werthfawrogi.
Yn ddiweddar ymddeolodd o Fwrdd RhBG ond bydd yn parhau i fod yn
brysur fel Capten Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech.
Ym mis Gorffennaf cyflwynodd Tywysog Cymru wobrau MBE i
gydberchnogion Parc y Gelli Gyffwrdd, Stephen ac Andrea Bristow o
Lansadwrn, Ynys Môn, am eu gwasanaeth i’r diwydiant ymwelwyr yng
Ngogledd Cymru. Hwy hefyd a gipiodd wobr Personau Busnes y Flwyddyn
2009, a chawsant eu henwebu gan Rwydwaith Busnes Gwynedd, yng
Ngwobrau Busnes Gwynedd 2009. Cyflwynir y Gwobrau fel
cydnabyddiaeth o’r parc antur arloesol i deuluoedd a sefydlwyd
ganddynt ym 1993. Mae Parc Gelli Gyffwrdd wedi ei leoli ar gyrion
Eryri ac yn cyfuno’r elfennau o hwyl ac antur ag addysg i blant ac
oedolion. Yn ogystal â chynnig yr adloniant gorau posibl ar thema
werdd, dyma’r unig barc antur i deuluoedd yn y DU sy’n darparu
reidiau cwbl ecogyfeillgar, gan gynnwys yr unig reid ffigar êt yn y
byd sy’n cael ei gyrru gan bobl.
-
www.gwyneddbusnes. net02
Adolygiad BlynyddolHoffai’r Cyfarwyddwyr adrodd ar gynnydd a
gweithgareddau’r rhwydwaith dros y 12 mis diwethaf. Nid oes
amheuaeth fod hon wedi bod yn flwyddyn galed drwyddi draw, ac eto
mae’r rhwydwaith yn fywiog ac yn ffynnu. Yn fwy nag erioed, mae ein
haelodau eisiau cyfarfod, cyfnewid syniadau a chefnogi ei gilydd.
Mae’r Wasgfa Gredyd a siglodd y wlad fwy na 18 mis yn ôl wedi
effeithio ar gwmnïau lleol ac mae’n parhau hyd heddiw. Yng
ngoleuni’r hinsawdd fasnachu anodd hon ein blaenoriaeth ar gyfer y
flwyddyn oedd helpu busnesau Gwynedd i “oroesi’r storm”.
Cymerodd ein haelodau ran mewn cyfarfodydd gyda Chyngor Gwynedd
i drafod economi Gwynedd a mentrau a fyddai’n cynorthwyo’r gymuned
fusnes. Ymysg y materion a godwyd oedd:
• Yr angen i Gyngor Gwynedd agor llinellau cyfathrebu, i
weithio’n fwy adeiladol gyda busnesau a rhoi gwybod iddynt pa
gytundebau a chyfleoedd tendro oedd ar gael • Yr angen i ddiogelu
swyddi drwy ddwyn ymlaen brosiectau cyfalaf ac adfywio • Pryderon
sylweddol ynghylch llif arian a’r ariannu sy’n sicrhau parhad
masnachu• Grantiau busnes ar gyfer datblygu a hyfforddi• Pryder
ynghylch codiadau mewn cyfraddau busnes
Arweiniodd y cyfarfodydd hyn at lunio Cynllun Gweithredu ar
gyfer Gwynedd a chafodd hwn ei gadarnhau gan y Cyngor a
gweithredwyd eisoes ar rai o’r pwyntiau a godwyd.
Trefnodd y Cyngor arolygon economaidd chwarterol i’w llenwi gan
ein haelodau a darparu data cyfredol ar yr economi.
Cynhaliwyd tair “Syrjeri Cyflenwyr” ym mis Medi 2009 er mwyn i
fusnesau lleol gyfarfod cynrychiolwyr o Uned Gaffael Gorfforaethol
y Cyngor i drafod cyfleoedd tendro a chymorth i gyflwyno
tendrau.
Cylchlythyru gwybodaeth am y Gronfa Fuddsoddi Leol sy’n cynnig
hyd at £5,000 o arian grant.
Gwnaed datganiadau fod arian wedi ei glustnodi ar gyfer adfywio
canolau trefi.
Mynegwyd pryderon ynghylch cyfraddau busnes wrth Lywodraeth y
Cynulliad.
Bydd y cyfarfodydd yn parhau.
Profodd llwyddiant Wythnos Fusnes Gwynedd, a gynhaliwyd ym mis
Mai, i fod yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr busnes ein
haelodau – roedd yn cynnig rhywfaint o galondid yn y tywyllwch
economaidd i ddathlu llwyddiant cwmnïau newydd a sefydledig.
Cefnogwyd hon a’r Cinio Gwobrwyo yn llwyr gan RhBG.
Cyflwynwyd Gwobr Pobl Busnes y Flwyddyn Gwynedd, ac a ddewiswyd
gan RhBG, i Stephen ac Andrea Bristow o Barc Gelli Gyffwrdd.
Cyflwynwyd gwobr am gyfraniad arbennig hefyd i Fred Foskett am ei
waith yn sefydlu RhBG. Ymddeolodd Fred o’r Bwrdd fis Hydref
diwethaf.
Yn ogystal â threfnu digwyddiadau ein hunain, rhoesom
gyhoeddusrwydd i bron i 60 o gyfarfodydd busnes, gweithdai a
seminarau a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru.
Mae gwaith wedi ei gomisiynu i uwchraddio gwefan RhBG gan
ychwanegu nodweddion newydd a’i gwneud yn fwy ymarferol a dyma
rifyn cyntaf Cylchlythyr RhBG. Mae gennym hefyd, bellach, bolisi
dwyieithog ffurfiol.
Digwyddiadau a NewyddionTrefnwyd 9 digwyddiad gennym yn 2009 yn
cynnwys “Goroesi’r Wasgfa Gredyd”, nosweithiau rhwydweithio brys ac
anffurfiol, a chinio busnes ar y cyd â Chlwb Busnes Ynys Môn. I
gloi’r flwyddyn cynhaliwyd cinio Nadolig ar 17 Rhagfyr yng Nghlwb
Golff Caernarfon.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad “Goroesi’r Wasgfa Gredyd” yng
Nghaernarfon ym mis Mawrth ac ym Mhorthmadog ym mis Ebrill gydag
arbenigwyr wrth law i roi cyngor ar grantiau a chyllid, treth,
materion cyfreithiol a thendro.
Aelodau yn mwynhau
digwyddiad rhwydweithio
brys yng Ngwesty Meifod,
Bontnewydd ym mis Hydref.
Mae rhwydweithio brys yn
un o’n digwyddiadau mwyaf
poblogaidd. Mae’n rhoi
cysylltiad uniongyrchol i
aelodau â chwmnïau lleol eraill
ac mae’n ffordd ardderchog o
sicrhau busnes newydd.
-
www.gwyneddbusnes. net 03
Gweithio mewn Partneriaeth
Mae Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn gweithio’n glos â nifer o
sefydliadau er mwyn cyflawni un o’i brif amcanion sef
“cyfathrebu â sectorau eraill (Cyhoeddus ac Academaidd)”.
Yn amlwg, mae’n hanfodol bod RhBN yn gweithio’n agos â Chyngor
Gwynedd. Mae’r berthynas hon wedi gwella’n sylweddol dros y
blynyddoedd diwethaf ac ymgynghorwyd â RhBN mewn perthynas â’u
cynllun gweithredu Ymateb i’r Dirwasgiad. Mynychodd cyfarwyddwyr
RhBN gyfarfodydd a darparu nifer o awgrymiadau yng nghynllun
cymorth y sector busnes, a chafodd y rhain eu mabwysiadu yn y
cynllun gweithredu terfynol. Mae RhBN yn cymeradwyo rhagwelediad
Cyngor Gwynedd wrth lunio’r cynllun gweithredu hwn a’r sialens sy’n
wynebu pawb bellach yw rhoi’r cynllun hwn ar waith.
Mae cyfarwyddwyr RhBN hefyd yn mynychu ac yn cyfrannu i
gyfarfodydd Tîm Rheoli Gwynedd. Mae’r corff hwn yn trafod, ac yn
adrodd ar faterion busnes sy’n effeithio ar fusnesau yng Ngwynedd.
Mae trafodaethau diweddar wedi cynnwys stoc a deiliadaeth unedau a
thir diwydiannol Gwynedd, twristiaeth yng Ngwynedd ac Wythnos
Busnes a Chinio Gwobrau Busnes.
Mae RhBN hefyd yn gweithio’n agos â Menter a Busnes. Trefnwyd
nifer o ddigwyddiadau ganddynt ar gais RhBN ac mae’n bwysig fod y
berthynas hon yn parhau i’r dyfodol.
Mae’r Ganolfan Reolaeth Busnes newydd ym Mhrifysgol Bangor yn
gaffaeliad pwysig i’r ardal a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yno
gan RhBN, megis cinio Nadolig lle’r oedd Dafydd Wigley yn siaradwr
gwadd. Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynllunio ar gyfer y
dyfodol yn y ganolfan hon ac mae’n bwysig fod aelodau’n gwneud
defnydd llawn o’r cyrsiau busnes ardderchog a gynhelir yn y
Ganolfan Reolaeth Busnes.
Mae RhBN hefyd wedi gweithio’n agos â Busnes ym Môn, sef y
rhwydwaith busnes cyfatebol ar Ynys Môn a thros y 12 mis diwethaf
trefnwyd nifer o ddigwyddiadau ar y cyd ganddynt.
Hefyd, lobïwyd Llywodraeth y Cynulliad gyda golwg ar nifer o
faterion busnes megis codi tâl am fagiau plastig, cymorth grant
ProAct a chyllid Ewropeaidd.
Bydd RhBN yn parhau i weithio yn y dyfodol gyda’r holl gyrff
uchod a rhai newydd hefyd i sicrhau fod busnesau yng Ngwynedd yn
cael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sydd bosibl, gan fod
llwyddiant busnesau yng Ngwynedd yn hanfodol i ffyniant economi yn
yr ardal.
Cynllun Gweithredu Ymateb i’r DirwasgiadYmgynghorwyd yn llawn â
Rhwydwaith Busnes Gwynedd a chyfrannodd tuag at Gynllun Gweithredu
Ymateb i’r Dirwasgiad Cyngor Gwynedd.
Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd i gytuno ar y cynllun gweithredu
ac roedd RhBG yn un o’r ymgyngoreion a chyfrannodd yn helaeth at y
cynllun terfynol.
Mae Cynllun Cymorth y Sector Busnes yn amcanu i helpu gyda golwg
ar gyfraddau busnes, cynghori mewn argyfwng, olrhain effeithiau ac
o bosibl benthyciadau busnes i’r dyfodol. Ymatebodd aelodau RhBN i
holiaduron diweddar a gwnaeth hyn hi’n bosibl i fonitro sut y mae’r
dirwasgiad yn effeithio ar fusnesau yng Ngwynedd.
Mae rhannau eraill o’r cynllun yn cynnwys mesurau ar Wybodaeth
Busnes a hyder, yn ogystal ag ymrwymiad i gefnogi Canolau Trefi a’r
Sector Manwerthu ac i gymryd camau mewn perthynas â Gwaith a
Phrosiectau Cyfalaf ac i ailymweld â threfniadau caffael y cyngor.
Mae cefnogi swyddi a sicrhau fod gan yr ardal y sgiliau cywir yn
elfennau pwysig eraill o’r Cynllun Gweithredu.
Ceir manylion llawn Cynllun Gweithredu Gwynedd
yn:http://www.gwyneddbusnes.net/Portals/57ad7180-c5e7-49f5-b282-c6475cdb7ee7/Cynllun%20Gweithredu’r%20Dirwasgiad-Recession%20Action%20Plan.pdf
Y sialens bellach yw rhoi’r Cynllun Gweithredu ar waith ac mae
RhBN wedi ymrwymo’n llwyr i weithio gyda’r holl bartneriaid i
sicrhau ei fod yn llwyddo. Cafodd y cyfarfod diweddaraf i adolygu’r
cynllun ei gynnal ar Ebrill 28fed.
-
www.gwyneddbusnes. net04
Cwmni o Wynedd yn Ennill Cytundeb Twristiaeth RhyngwladolMae
Cwmni Marchnata o Gaernarfon wedi ennill cytundeb â thalaith Chubut
yn yr Ariannin, sef ardal ym Mhatagonia sydd wedi ei thrwytho yn y
diwylliant Cymreig a grëwyd gan ymsefydlwyr o Gymru yn y 19eg
ganrif.
Cafodd Marchnata AQUA Cyf ei ddewis gan lywodraeth leol y
dalaith i ddatblygu strategaeth farchnata i hyrwyddo’r ardal i’r
farchnad Gymreig, a chaniataodd rhan o’r broses i Wyn Roberts,
Cyfarwyddwr AQUA, ymweld â’r ardal i ddysgu popeth am ei photensial
o ran twristiaeth.
“Prif nod y strategaeth yw manteisio’n llawn ar y cyswllt
Cymreig rhwng y ddwy ardal, yn ogystal â hyrwyddo Patagonia i
deithwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg. Rydym wedi bod yn ddigon
ffodus i gynnal gwaith marchnata cyrchfan sylweddol iawn yng
Nghymru, a’n bwriad yw rhannu rhywfaint o’r profiad hwnnw â’n
cydweithwyr ym Mhatagonia”.
Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Wyn â Gweinidog dros Fasnach
Ryngwladol, Twristiaeth a Buddsoddi Chubut, ac â chyfarwyddwyr
twristiaeth yr ardal, a gwelodd nifer o’r prif atyniadau â’i lygaid
ei hun.
Ychwanegodd Wyn: “Un peth a ddaeth yn amlwg yn dilyn fy ymweliad
yw bod gan yr ardal gymaint mwy i’w gynnig i ymwelwyr o Gymru na
chapeli a thai bwyta! Mae ‘na gyrchfan sgïo ardderchog, rafftio dŵr
gwyn gyda dyfroedd gwyllt gradd 5, a lletygarwch rhyfeddol
yno”.
Croeso Cynnes i Fusnesau Twristiaeth
G. Perch Cyf yw’r unig ddarparwr hyfforddiant yng Ngwynedd sydd
wedi ennill y cytundeb i gyflwyno modiwl Croeso Cynnes rhaglen
Gwobr Croeso Cynnes Cymreig a ddatblygwyd gan Lywodraeth y
Cynulliad a Chroeso Cymru i ddisodli Gwobr Cynllun Croeso.
Mae’r wobr newydd hon wedi ei hanelu at bob busnes yn y sector
twristiaeth yn cynnwys; atyniadau, darparwyr llety, tai bwyta,
caffis, bariau a busnesau adloniant i enwi ychydig yn unig. Gyda
diweddariad Gwobr Croeso Cymru i Croeso Cynnes Cymreig, bydd y
Cynllun Croeso yn cael ei newid rhwng nawr a 2011.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y wobr a’r
manteision y bydd ei hennill yn ei gynnig i’ch busnes, eich staff
a’r rheolwyr neu os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth am
Croeso Cynnes Cymreig mae croeso ichi gysylltu â ni gan
ddefnyddio’r manylion canlynol;
[email protected] neu 01766 781 145 / 07866 599
860.
-
www.gwyneddbusnes. net 05
AelodaethMae gennym 682 o aelodau yn cynrychioli 593 o gwmnïau a
sefydliadau. Mae aelodaeth yn parhau i fod yn ddi-dâl.
Anfonwyd arolwg i aelodau yn gofyn am eu barn ynghylch gwaith
RhBN a’r digwyddiadau a drefnwyd ar eu rhan. Roedd y mwyafrif
ohonynt yn fodlon iawn â’r ddarpariaeth, yn arbennig gyda’r
cyfleoedd i gyfarfod a rhwydweithio.
Cyflwynasom farn yr aelodau mewn perthynas â’r ariannu busnesau
i Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn a anfonodd gais i Lywodraeth y
Cynulliad am grant cyllido. Cafodd aelodau hefyd eu cylchlythyru
gydag arolygon chwarterol ar yr economi, ac ymgynghorwyd â hwy mewn
perthynas â darpariaeth gofal plant yng Ngwynedd.
Y BwrddMae’r Cyfarwyddwyr yn gweithio’n wirfoddol ac maent wedi
cynnal chwe chyfarfod o’r Bwrdd yn ystod y 12 mis diwethaf, yn
ogystal â chyfarfodydd i gynllunio digwyddiadau. Maent hefyd wedi
cynrychioli’r Rhwydwaith yng Nghyfarfodydd Cyngor Gwynedd: Tîm
Rheoli Busnes Gwynedd, sy’n is-grŵp o PEG - Partneriaeth Economaidd
Gwynedd; Is-bwyllgor Sgiliau i Wynedd; Uwch-gyfarfodydd Economi
Gwynedd. Maent hefyd wedi cyfarfod gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr
Ieuan Wyn Jones, i gyfleu pryderon ein haelodau ynglŷn â’r wasgfa
gredyd. Ystyrir bod y cyfarfodydd hyn yn bwysig gan eu bod yn gyfle
i drafod gyda, a dylanwadu ar Gyngor Gwynedd a chyrff cyllido a
hyfforddi eraill yng Nghymru.
Mae RhBG ar hyn o bryd mewn trafodaethau â Phrifysgol Bangor i’r
diben o adnabod a chydweithio ar brosiect ymchwil a fydd o fudd i
economi Gwynedd. Rydym hefyd yn trafod gyda’r Ganolfan Reolaeth ym
Mangor i drefnu digwyddiadau a fydd yn dod ag aelodau RhBG, Clwb
Busnes Bangor a rhwydweithiau lleol eraill at ei gilydd.
Ariannu a ChymorthRydym wedi gallu parhau i gynnal ein
gweithgareddau drwy gymorth ariannol a gweinyddol parhaus Cyngor
Gwynedd. Mae Menter a Busnes hefyd wedi rhoi cymorth sylweddol
gyda’r gwaith o drefnu a marchnata digwyddiadau. Mae ein
gwerthfawrogiad yn fawr i’r ddau sefydliad hyn am eu cymorth
parhaus a diolch yn arbennig i Colin Morris a’i staff yn Uned
Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd.
Ein bwriad yn y flwyddyn sydd o’n blaenau yw parhau i gydweithio
i gynorthwyo busnesau Gwynedd gymaint ag sydd bosibl fel y gallwn
oroesi’r dirywiad hwn a diogelu swyddi ac economi Gwynedd.
A E L O D
M E M B ER
A E L O D
M E M B ER
AE
LO
D
M
EM
BE
R
A
E L O D · M E MB E
R
rhw
ydw
aith
.bus
nes.gw
ynedd.business.network
J MorrisConsultancy
-
www.gwyneddbusnes. net 06
Rhaglen Datblygu’r Gweithlu
Gall Llywodraeth y Cynulliad ddarparu cynghorydd Datblygu
Adnoddau Dynol dan y ‘Rhaglen Datblygu’r Gweithlu’ yn ddi-dâl i
helpu i gynllunio a chyflawni cynllun dysgu. Mae cyllid ar gael ar
gyfer yr hyfforddiant cyfan neu ran ohono dan y cynlluniau hyn –
Dysgu Seiliedig ar Waith, Prentisiaethau Modern, PROACT i
gyflogeion sy’n gweithio am gyfnod byr cyn ystyried colli swyddi,
REACT ar gyfer gweithwyr di-waith, Datblygu Arweinyddiaeth a
Rheolaeth.
Rhagor o Wybodaeth
http://wales.gov.uk/dcells/publications/informationforemployers/workforcedev/workforcedevelop-ment.pdf?lang=en
Cronfa Gynaladwyedd Gwynedd
Grantiau cyfalaf a refeniw hyd at £5000 (75% o’r gost gyfan) i
grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd. Prif nod y grant yw cefnogi
prosiectau a fydd yn gwella ansawdd bywyd preswylwyr, grwpiau a
chymunedau yng Ngwynedd.
I gael rhagor o wybodaeth gan Gyngor Gwynedd ewch i
www.gwynedd.gov.uk a chlicio ar Busnes a’r Economi > Grantiau,
neu cysylltwch â’r Cydlynydd Cynaladwyedd 01286 679 233.
Menter Gymdeithasol A Chymorth Cydweithredol
Mae Canolfan Gydweithredol Cymru yn cefnogi datblygiad a thwf
entrepreneuriaeth gymdeithasol, mentrau cymdeithasol a chwmnïau
cydweithredol mewn ardaloedd o Gymru. Rhoddir cymorth drwy ddarparu
cyllid ar gyfer cynghorydd pwrpasol neu drwy hyfforddi, mentora,
cynnal dosbarthiadau meistr a rhwydweithio. Mae’n cael ei hariannu
drwy raglenni Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd gydag arian cyfatebol
gan Lywodraeth y Cynulliad.
Rhagor o wybodaeth
yn://www.walescoop.com/what-we-do/social-enterprise-and-co-operative-support
Benthyciadau 0% yr Ymddiriedolaeth Garbon – Effeithlonrwydd
Ynni
Benthyciadau di-log anwarantedig o £3,000 - £500,000 i ddisodli
hen offer ag offer newydd mwy ynni-effeithlon. Cyfrifir y bydd
ad-daliadau yn cael eu gosod yn erbyn arbedion egni misol. I gael
rhagor o wybodaeth ffoniwch 01865 885 878 neu ewch i
www.carbontrust.co.uk/loans.
Grantiau a Chynlluniau Cyllido
Cronfa Fuddsoddi Leol
Pecyn cymorth ariannol hyblyg yw’r Gronfa Fuddsoddi Leol (CFL) i
gynorthwyo busnesau newydd a rhai sydd wedi sefydlu’n barod drwy
gynnig grantiau cyfalaf o 40% o brosiectau cymwys, gydag isafswm
grant o £1000 ac uchafswm o £5000. Er mwyn cael eich ystyried,
rhaid ichi gyflogi llai na 250 o bobl; rhaid i’ch prosiect fod wedi
ei leoli yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych neu Sir Fôn a rhaid
cwrdd ag un neu fwy o’r amcanion canlynol:
• Creu neu gynnal swyddi • Cynyddu trosiant neu sicrhau arbedion
effeithlonrwydd • Cynorthwyo twf busnes • Cynyddu’r awydd i
gystadlu • Cynyddu cynaladwyedd • Sbarduno buddsoddiad a thwf
pellach • Cyflwyno cynhyrchion, gwasanaethau neu farchnadoedd
newydd • Cefnogi sector allweddol • Creu / datblygu menter
gymdeithasolI gael rhagor o wybodaeth ewch i www.gwynedd.gov.uk a
chliciwch ar Fusnes a’r Economi > Grantiau, neu cysylltwch â
Chyngor Gwynedd ar 01286 679 231 neu [email protected].
Cronfa Fuddsoddi Sengl (Cfs)
Os yw eich busnes yn gweithredu y tu hwnt i’r farchnad leol a
bod angen help arnoch gyda phrosiect yng Nghymru, gallech fod yn
gymwys i gael cymorth ariannol drwy CFS. Os ydych yn Fenter
Gymdeithasol gallech hefyd fod yn gymwys i dderbyn cymorth os ydych
yn gweithredu’n fasnachol (rhaid i o leiaf 50% o’ch incwm neu o’ch
elw ddeillio o fasnach busnes). Yn anffodus, os ydych yn gweithredu
yn y sector manwerthu, yn y farchnad leol yn unig, neu mewn
marchnad sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu’n dda, mae’n annhebygol
y byddwch yn cael cymorth.
CYMORTH HYBLYG I FUSNES a CFSFfoniwch 03000 6 03000 neu ewch i
www.business-support-wales.gov.uk.
Cymhorthdal Recriwtio Jobcentreplus
£1000 o arian yn ôl pan fyddwch yn cyflogi gweithiwr newydd
Mae Jobcentre Plus yn cynnig £1000 am bob person cymwys ydych
chi’n ei recriwtio, sydd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am
chwe mis neu fwy. Gall y bydd grant hyfforddiant mewn swydd o hyd
at £1,500, ar gael hefyd.
Rhagor o wybodaeth
http://www.jobcentreplus.gov.uk/jcp/Employers/AdvertiseaVacancy/recruitmentsubsidy
© 2010 Rhwydwaith Busnes Gwynedd
Golygu gan: aqua-marketing.co.uk Dylunio gan: