-
www.gwyneddbusnes. net 01
Rhifyn 14, Haf 2015
Bwyta Chwaethus ar lan y dŵr yng NghriciethMae tŷ bwyta
poblogaidd ‘Dylan’s’ ar Ynys Môn newydd agor ei safle newydd ar lan
y môr yng Nghricieth. Mae’r bwyty newydd, mewn adeilad a
gynlluniwyd yn wreiddiol gan Syr Clough Williams-Ellis,
Portmeirion, wedi elwa ar raglen adnewyddu helaeth gwerth £500,000,
ac mae’n argoeli’n gyrchfan hanfodol i rai sy’n ymddiddori mewn
bwyd lleol o’r safon uchaf.
Cyflogwyd 47 o staff newydd i redeg y bwyty ac mae’r
cydberchnogion, David Evans a Robin Hodgson, yn awyddus i weld y
gymuned ehangach yn elwa ar y fenter. Maent yn bwriadu defnyddio
cynnyrch lleol ffres pan fo hynny’n bosibl a defnyddio cyflenwyr
yng Ngogledd Cymru, gyda 62% o’r holl gynnyrch a fydd yn cael ei
brynu ar gyfer y safle newydd yn cael ei brynu yn lleol neu yn yr
ardal. Mae hyfforddiant staff a datblygiad gyrfa hefyd yn cael eu
hystyried yn gynhwysion hanfodol ar gyfer cwmni llewyrchus. Mae
David a Robin yn gobeithio ailadrodd y fformiwla wobrwyedig a
sefydlwyd
eisoes ym Mhorthaethwy, a bydd Dylan’s Cricieth yn arbenigo mewn
bwyd môr, cynnyrch fferm a bwyd pob. Mae’n argoeli i fod yn safle
cysurus a fydd yn croesawu teuluoedd, a bydd yn agored saith
niwrnod yr wythnos, o 11.00 am - 11.00 pm bob dydd.
Llwyddodd y partneriaid busnes i sicrhau prydles adeilad
Morannedd, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, ym mis Tachwedd 2014,
ac yna bu rhuthr i ofalu bod y gwaith o adnewyddu’r adeilad yn cael
ei gwblhau erbyn mis Mai pan gafodd ei agor. Mae naws art deco i’r
eiddo a adeiladwyd ym 1952, er na chafodd y weledigaeth gyntaf ar
gyfer yr adeilad ei gwireddu’n llwyr gan fod y prosiect wedi cael
trafferthion ariannol. Mae cynlluniau’r adeilad bellach yn cael eu
harddangos yn Dylan’s, ac ynddynt gwelir fod mynediad y bwyty wedi
cael ei adfer i gyd-fynd yn well â’r cynllun gwreiddiol.
Mae David yn amlwg wrth ei fodd gyda’r ymateb i’r bwyty newydd:
“Rydym wedi agor nawr ers tair wythnos ac mae’r ffigurau eisoes
wedi rhagori ar ein targedau. Mae’r adborth gan ymwelwyr yn dangos
eu bod wedi cael profiad ardderchog. Ein nod yw cydweddu safon yr
adeilad â bwyd chwaethus a gwasanaeth cynnes. Rydym yn gwbl fodlon
drwyddi draw.”
Magwyd David a Robin yn Swydd Efrog ac roeddynt yn adnabod ei
gilydd ers eu harddegau a daethant yn wŷr busnes llwyddiannus.
Cychwynnodd David yn y maes adwerthu dillad ym Manceinion, lle
gwerthai ddillad wedi eu mewnforio o’r Unol Daleithiau. Yna aeth yn
ei flaen i sefydlu ei frand ei hun, Hooch, ac i brynu’r brand
Bench, ac erbyn 2001 roedd trosiant y cwmni hwnnw wedi codi i £20
miliwn. Yna cychwynnodd fusnes datblygu eiddo. Bu Robin yn rhedeg
siop ddillad vintage a siop goffi yn Leeds a ddatblygodd yn dŷ
bwyta a bar llwyddiannus. Cafodd fwy o fewnwelediad i’r farchnad
arlwyo pan agorodd gaffi a marchnad ffermwyr ynBrighton. Adunwyd y
ddau gyfaill yn ddiweddarach yn ystod gwyliau rheolaidd ar Ynys
Môn, ar ôl i David brynu tŷ ym Mhorthaethwy.
Mae Dylan’s yn awyddus i barhau i ehangu eu busnes tai bwyta a
hoffent ddatblygu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Cyn hyn
mynegodd y cwmni ddiddordeb mewn agor tŷ bwyta ar y Cei yng
Nghonwy, gan gyflwyno cynigion manwl, ond mae’r cynlluniau hyn yn
parhau i ddisgwyl penderfyniad ar ôl i gabinet Cyngor Conwy newid
ei feddwl yn annisgwyl. Y gobaith yw y bydd cynlluniau Conwy yn
parhau i gael eu gwireddu rywbryd yn y dyfodol neu y bydd yn bosibl
datblygu safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru. Am y tro, mae’r
dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn ar lan y môr yng
Nghricieth!
www.dylansrestaurant.co.ukRobin Hodgson & David Evans
(Canol) gyda
Ken Skates a Liz Saville-Roberts
RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD
-
Parc Carafanau Moethus yn Cael Caniatâd
Mae Morris Leisure, y gweithredwr parc cartrefi gwyliau moethus
a charafanau teithiol, wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu parc
carafanau pum seren newydd wrth droed yr Wyddfa. Harrison Pitt
Architects a ddewiswyd i gynllunio’r cyfleuster cwbl fodern
hwn.
Mae’r parc newydd ar safle Glyn Rhonwy ger Llanberis a bydd yno
ddigon o le ar gyfer 54 carafán deithiol. Hyd at 1930 roedd chwarel
lechi ar y safle, a defnyddid y tir i storio arfau yn ystod yr Ail
Ryfel Byd ac yna fe’i defnyddiwyd gan y Bwrdd Cynhyrchu Trydan
Canolog tra oedd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn cael ei hadeiladu yn
nechrau’r 80au. Bydd y gwaith o ailddatblygu’r safle yn golygu
gwaith tirlunio sylweddol a bydd y cyfleusterau yn cynnwys
derbynfa, siop, toiledau a blociau amwynderau, yn ogystal â
chowrtiau’r wardeiniaid. Cychwynnodd y gwaith ar y safle ym mis
Ionawr a rhagwelir y bydd y Parc wedi ei gwblhau erbyn diwedd yr
haf.
Roedd profiad Harrison Pitt Architects yn y farchnad hamdden yn
allweddol wrth sicrhau’r caniatâd cynllunio. Meddai Richard
Wooldridge, pensaer Harrison Pitt: “Dyma’r pumed prosiect inni
weithio arno gyda Morris Leisure ac rydym yn falch o fod yn rhan o
gynllun mor hyglod yn un o ardaloedd mwyaf prydferth y Deyrnas
Unedig, ac ar safle sy’n gyforiog o hanes.”
Mae Morris Leisure eisoes yn berchen ar bum parc cartrefigwyliau
moethus a charafanau teithiol yng nghefn gwlad Swydd Amwythig ac ym
Mharc Cenedlaethol Eryri. Meddai Edward Goddard, Cyfarwyddwr y
cwmni: “Bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn Llanberis yn cynnig
cyfleusterau unigryw ym ‘maes chwarae antur’ Parc Cenedlaethol
Eryri. Bydd yn llinyn arall ym mwa economi ymwelwyr yr ardal.”
Mae’r datblygiad yn sicr o gadarnhau statws Llanberis fel un o
brif gyrchfannau Cymru i ymwelwyr. Mae’r pentref ar fin y llyn yn
gartref i rai o’r atyniadau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys
Rheilffordd yr Wyddfa, Y Mynydd Gwefru, Parc Gwledig Padarn, yr
Amgueddfa Lechi Genedlaethol a Rheilffordd Llyn Llanberis.
www.morris-leisure.co.uk
www.gwyneddbusnes. net02
Nifer archebion Navsar ar fin torri RecordMae Navsar Ltd ym
Mhwllheli wedi gweld nifer archebion yn cyrraedd y lefel uchaf
erioed eleni, gyda chynnydd yn y diddordeb gan y sector hamdden a’r
sector masnach. Mae’r flwyddyn fasnachu ragorol wedi arwain at yr
angen i gyflogi a hyfforddi dau hyfforddwr lleol ychwanegol.
Canolfan Hyfforddi’r RYA yw Navsar. Mae wedi ei lleoli yn adeilad
yr Harbwr Feistr, yn yr Harbwr Allanol a’r nod yw rhoi’r sgiliau
a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl fwynhau hwylio yn ddiogel.
Mae’r nifer uchel o archebion yn cael ei briodoli i sawl ffactor
gan gynnwys cymryd rhan yn Sioe Gychod Cymru Gyfan (AWBS) ym mis
Mai, sef un o’r digwyddiadau
cyntaf ym Mhlas Heli, Academi Hwylio newydd Pwllheli. Roedd
Navsar hefyd yn allweddol wrth ddod â’r iot Challenge Wales i Hafan
Pwllheli ar gyfer achlysur AWBS. Noddwyd hyn gan fusnesau lleol a
bu’n bosibl i ddeg o bobl ifanc o Ysgol Glan y Môr ac Ysgol
Botwnnog hwylio’r cwch 72 troedfedd o Aberdaugleddau, a chael
profiad o dridiau anturus rhyfeddol yn rhad ac am ddim.
Mynychodd Ken Skates, Y Gweinidog Twristiaeth â’r Sioe Gychod
AWBS ac mae wedi datgan y bydd 2018 yn Flwyddyn y Môr yng Nghymru.
Mae hyn yn rhan o ymgyrch tair blynedd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo
Cymru fel canolfan o’r safon uchaf un ar gyfer twristiaeth antur,
ac yn canolbwyntio ar weithgareddau, digwyddiadau ac atyniadau fel
elfennau allweddol y ddarpariaeth yng Nghymru ar gyfer
twristiaeth.
Mae Phil Geddes, Rheolwr Busnes Navsar, wrth ei fodd gyda’r
datblygiadau sy’n digwydd ym Mhwllheli. Mae’r cwmni yn cydnabod y
bydd gweithio’n agos â busnesau morol eraill yn sicrhau’r
manteision gorau o’r ddeutu, yn cynyddu atgyfeiriadau ac, yn y pen
draw, yn lleihau nifer y digwyddiadau peryglus ar y dŵr.
Meddai Phil: “Heb os nac oni bai, bydd Plas Heli yn dod yn
fagnet i rai sy’n ymddiddori mewn hwylio, ac yn darparu
cyfleusterau o’r radd flaenaf i hwylwyr profiadol ac amhrofiadol
fel ei gilydd. Bydd darparu canolfan ragoriaeth yn rhoi cyfle
rhagorol i Bwllheli ei chyfrif ei hun fel prif ganolfan hyfforddi a
chystadlu yn y math hwn o chwaraeon ym Mhrydain. Dylai hyn, yn ei
dro, fod o fantais i fusnesau morol, adwerthu a lletygarwch yn yr
ardal. Mae Navsar Ltd yn edrych ymlaen at dwf parhaus ynghyd â
buddsoddiad ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ac offer.”
Mae Navsar Ltd yn masnachu ers tair blynedd a’r trosiant wedi
cynyddu yn flynyddol, gyda chynnydd o 30% yn ystod 2014. Yn ystod
2015 mae’r busnes wedi ehangu ei bortffolio o wasanaethau, gan
gynnwys prynu iot griwsio a fydd, gobeithio, yn denu mwy o ymwelwyr
tymhorol i’r ardal. www.navsar.com
-
03www.gwyneddbusnes. net
Y Gorau a’r DisgleiriafChris Allwood, Rheolwr Gyfarwyddwr Welsh
Slate, Bethesda, yw enillydd gwobr Person Busnes Gwynedd 2015.
Cafodd gwobr Rhwydwaith Busnes Gwynedd, sy’n cadarnhau ei gyfraniad
unigryw i sector busnes y sir, ei chyflwyno iddo gan Dr Dafydd
Roberts, a glodforodd lwyddiannau sylweddol yr enillydd.
Cyflwynwyd y wobr yn ystod Cinio Gala yng Nghanolfan Reolaeth,
Prifysgol Bangor, ac roedd yn un o uchafbwyntiau Wythnos Busnes
Gwynedd. Mae Wythnos Busnes Gwynedd, sydd bellach yn dathlu ei
degfed flwyddyn, wedi dod yn achlysur blynyddol sy’n dwyn cwmnïau o
bob rhan o’r sir at ei gilydd drwy gyfres o ddigwyddiadau cymorth
busnes a rhwydweithio.
Y siaradwr gwadd yn y cinio oedd Dr Fraser C Logue, Siemens
Healthcare Diagnostics Products Ltd. Bu’n amlinellu cynlluniau’r
cwmni ac yn mynegi ei barodrwydd i gydweithio â busnesau eraill yr
ardal. Cyflwynwyd gwobrau gan Arweinydd Cyngor Gwynedd, y
Cynghorydd Dyfed Edwards, i Zip World, Harlech Foodservice a
Pharciau Gwyliau Y Bala fel cydnabyddiaeth o’u cyfraniad i’r
economi. Hefyd, cyflwynodd cangen Gwynedd o Ffederasiwn Busnesau
Bach wobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn i Louis Hiatt, o Scrubadub
Cleaning Aberdyfi. (Gweler Y Newyddion yn Gryno.)
Gyda 30 mlynedd o brofiad rhyngwladol ym maes adeiladu,
dechreuodd Chris Allwood yn Welsh Slate yn 2012, ar ôl dal uwch
swyddi yn Aggregate Industries, Kingspan Access Floors ac Arcelor
Construction UK. Mae Chris yn disgrifio’r ffaith ei fod wedi ymuno
â Welsh Slate fel cyfle rhagorol ac un o sialensiau mwyaf cyffrous
ei yrfa.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor
Gwynedd dros yr Economi: “Llongyfarchiadau lu i’r holl fusnesau a
gafodd eu cydnabod – roedd y Cinio Gala yn uchafbwynt gwirioneddol
i Wythnos Busnes Gwynedd ac yn gyfle ardderchog i arddangos yr
amrywiaeth cyfoethog o gwmnïau sy’n llwyddo yma yn y sir.”
www.welshslate.com
Chris Allwood a Dr Dafydd Roberts
Entrepreneur Ifanc yn Goruchwylio EhangiadBu cytundeb diweddar
gyda’r GIG i ddarparu ffrwythau a llysiau ffres yn gyfrifol am
gynnydd o 25% bron ym musnes Frwythau DJ Fruits, y cyfanwerthwyr
bwyd o Borthmadog. Dywedodd Gethin Dwyfor, sydd hefyd yn berchen
siop groser yng Nghricieth, fod y cynnydd yn yr archebion wedi
rhoi’r hyder iddo fwrw ymlaen â buddsoddiadau newydd a wnaed yn y
cwmni. Bellach mae system gyfrifiadurol newydd yn gweithredu, dwy
fan newydd wedi eu prynu, ac un aelod staff llawn amser ac un
gweithiwr dan hyfforddiant wedi eu cyflogi.
Ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth rai blynyddoedd ynghynt,
cymerodd Gethin yr awenau gan ei rieni i redeg y busnes teuluol yn
2013. Erbyn hyn
mae’n cyflogi 15 o staff ac yn cyflenwi 350 o fân werthwyr,
gwestyau, tai bwyta, ysgolion ac ysbytai ledled Gwynedd. Dechreuodd
y broses dendro ar gyfer y cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr y GIG ddiwedd gwanwyn 2014, ac, o’r diwedd,
dechreuwyd gweithredu’r cytundeb ym mis Ionawr 2015. Arweiniodd
Business Wales Gethin drwy’r broses dendro, ac er nad oedd, cyn
hynny, yn gyfarwydd â’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig,
sylweddolodd fod eu cymorth yn amhrisiadwy.
Meddai Gethin: “Cyn hyn, roedd y busnes wedi tyfu yn organig yn
bennaf a gall y weithdrefn dendro ymddangos yn ddyrys tu hwnt.
Roedd yn braf gwybod fod rhywun arall bob amser ar ben arall y ffôn
i’ch helpu ac i’ch arwain drwy’r broses. Gall talu am arbenigedd
fod yn ddrud, felly roedd yn rhagorol cael y cymorth hwn.”
Gan nad yw maes bwydydd yn adnabyddus fel arfer am ei
entrepreneuriaid ifanc mentrus, mae Gethin yn sicr yn gwneud enw
iddo ef ei hun. Mae’n edrych ymlaen at barhau ei berthynas â’r tîm
yn Business Wales, ar ôl cael rhagor o gyngor ynghylch rheoli
gwastraff a chytundebau staff ganddynt, ac mae’n gobeithio mwynhau
cyfnod o ehangu cyson a pharhaus yn sgil rhaglen fuddsoddi’r
cwmni.
ffrwythaudjfruit.co.uk
Helpwch eich busnes i dyfu gydachefnogaeth am ddim gan Busnes
Cymru
Help your business grow with freesupport from Business Wales
Cysylltwch â Busnes Cymru am wybodaeth, cyngor a chymorth i
ddechrau neu dyfu eich busnes.Contact Business Wales for
information, advice and support to start or grow your business.
03000 6 03000 busnes.cymru.gov.uk
business.wales.gov.uk@_busnescymru
facebook.com/busnes.cymru.gov.uk@_businesswales
facebook.com/business.wales.gov.uk
P’run ai eich bod yn dechrau arni, wedi hen sefydlu, yn
gwmniteuluol neu’n gydweithfa, gall Busnes Cymru helpu i gefnogitwf
cynaliadwy ar gyfer pob math o fentrau yng Nghymru.
Gwasanaeth cymorth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yw Busnes
Cymru, yn cynnigarweiniad arbenigol a chefnogaeth am ddim i fentrau
bach a chanolig yn y sectoraupreifat, cyhoeddus a’r trydydd
sector.
Dyma un yn unig o’r cwmnïau y mae Busnes Cymru yn ei helpu i
fynd o nerth i nerthyng ngogledd Cymru.
Ffrwythau DJ Fruits
Mae Ffrwythau DJ Fruits yng Nghriccieth yn cael ei redeg gan
Gethin Dwyfor a gymeroddawenau’r busnes oddi wrth ei rieni yn 2013.
Yn cyflogi 14 o aelodau staff ac yn cyflenwi350 o adwerthwyr,
gwestai, bwytai, ysgolion ac ysbytai ar draws Gwynedd, mae’r
busnesyn cynnwys siop fwyd yn Stryd Fawr Criccieth a chyfanwerthwyr
ym Mhorthmadog.
Pan ddaeth y cyfle i sicrhau contract â Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr y GIGi gyflenwi ffrwythau a llysiau ffres, trodd
Ffrwythau DJ Fruits at Fusnes Cymru amgymorth gyda’r broses dendro.
O ganlyniad i sicrhau’r contract, mae trosiant wedicynyddu ac mae
dau aelod ychwanegol o staff yn gweithio i’r cwmni.
Eglurodd Gethin: “Roedd y ffaith fod cyngor a chefnogaethBusnes
Cymru ar gael yn golygu ein bod yn gallu caelarweiniad clir a
diduedd yn ymwneud ag unrhyw ran o’rbusnes. Wedyn roeddem yn gallu
gwneud penderfyniadaugwybodus ynglŷn â’r ffordd orau i symud
ymlaen.
“Rwy’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth a roddwyd i ni gan BusnesCymru
yn fawr iawn a dim ond gwasanaeth cwsmer rhagorolrwyf wedi’i brofi.
Roedd y cynghorwyr bob amser yn fwy napharod i helpu ein busnes
mewn unrhyw ffordd y gallent.”
Mae’r cwmni hefyd wedi derbyn cymorth ar reoli gwastraff a
chytundebau staff abyddant yn parhau i droi at Busnes Cymru am
gyngor yn y dyfodol.
Ychwanegodd Gethin: “Mae Busnes Cymru yn ffynhonnell o gymorth a
gwybodaethamhrisiadwy, a megis dechrau mae ein perthynas â hwy.
Rwyf eto i ddefnyddiopotensial eu cymorth yn llawn.”
Whether you’re just starting out, well-established, a
family-runcompany or a cooperative, Business Wales can help
supportthe sustainable growth of all types of enterprises in
Wales.
Business Wales is the Welsh Government’s business support
service, offering free,expert guidance and support to small and
medium sized enterprises in the private,public and third
sectors.
Here’s just one company that Business Wales is helping to
flourish in north Wales.
Ffrwythau DJ Fruits
Criccieth-based Ffrwythau DJ Fruits is run by Gethin Dwyfor who
took the businessover from his parents in 2013. Employing 14
members of staff and supplying 350retailers, hotels, restaurants,
schools and hospitals across Gwynedd, the businesscomprises a
grocery shop on Criccieth High Street and a wholesalers in
Porthmadog.
When the opportunity to secure a contract with NHS Betsi
Cadwaladr UniversityHealth Board to supply fresh fruit and
vegetables, Ffrwythau DJ Fruits turned toBusiness Wales for help
with the tendering application process. As a result of securingthe
contract, turnover has increased and the company has taken on two
additionalstaff.
Gethin explained: “To have the advice and support of
BusinessWales available to us has meant that we can have
clearunbiased guidance on any part of our business. We are ableto
then make informed choices on what is the best way totake things
forward.
“I value the support given by Business Wales very highlyand have
experienced nothing but fantastic customerservice. The advisors
have always been more than happy tohelp our business in any way
they can.”
The company has also received support on waste management and
staff contractsand will continue to seek Business Wales’ advice in
the future.
Gethin added: “Business Wales is an invaluable source of support
and information andour relationship is still in its infancy. I am
yet to utilise the full potential of theirsupport.”
http://www.ffrwythaudjfruit.co.uk
-
RhBG yn Dathlu’r Deg!Cynhaliwyd digwyddiad arbennig i ddathlu 10
mlynedd o fodolaeth Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn Neuadd Hercules ym
Mhortmeirion ar nos Fawrth 12 Mai. Cafwyd anerchiadau byrion gan
nifer o gyn-enillwyr gwobr Person Busnes y Flwyddyn – lle’r oeddynt
yn trafod llwyddiant eu busnes, a’r hyn yr oedd ennill y wobr hon
wedi ei olygu iddynt. Yn eu plith yr oedd Sean Taylor, y mae ei
brosiectau diweddaraf yn cynnwys atyniad Zip World ymMethesda a
Blaenau Ffestiniog; Gwion Llwyd, perchennog Bythynnod Dioni Holiday
Cottages; a Fred Foskett,cyn-Gyfarwyddwr Harlech Frozen Foods, ond
sydd bellach wedi ymddeol, a sylfaenydd Rhwydwaith Busnes
Gwynedd. Hefyd ymhlith y siaradwyr yr oedd: Stephen ac Andrea
Bristow, perchnogion yr atyniad ecogyfeillgar i deuluoedd – Parc
Coedwig y Gelli Gyffwrdd; a Richard Gloster, cyn-Reolwr Gyfarwyddwr
Hufen Iâ Cadwaladr a fu’n gyfrifol am ddatblygiad cyflym y cwmni.
Ymunodd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd â chyflwynwyr gwadd
o Ffederasiwn Busnesau Bach ac ef a gyflwynodd yr anerchiad
agoriadol.
Meddai Gill Richards, aelod Bwrdd Rhwydwaith Busnes Gwynedd:
“Roedd yn noson gwbl eithriadol ac roedd yn ffordd briodol o
ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn. Roedd yn gyfle rhagorol i
fusnesau ledled y sir ddod ynghyd i rannu syniadau ac i rwydweithio
ac roeddem wrth ein bodd o gael cydweithio â Ffederasiwn Busnesau
Bach wrth drefnu’r digwyddiad.”
www.gwyneddbusnes.net
© Off the Ground Aerial ImagingSiaradwyr Gwadd - O’r chwith i’r
dde : Stephen ac (trydydd ar y chwith) Andrea Bristow - Parc
Coedwig y Gelli Gyffwrdd, Richard Gloster –
Hufen Iâ Cadwalader , Sean Taylor – Zip World, Fred Foskett –
Harlech Gwasanaeth Bwyd, Gwion Llwyd – Bythynnod Dioni Holiday
Cottages
Enillydd yr iPadO’r chwith i’r dde:
Ian Nellist, FBBEnillydd iPad – Michelle Deeman, Cambrian
Clearance
Mandy Williams-Davies, Cyngor Gwynedd
Aelodau’r bwrddO’r chwith i’r dde:Sian M Williams, John Lloyd,
John Morris, Gill Richards, Owain Lloyd Williams, Samantha
Evans.
www.gwyneddbusnes. net04
MLYNEDDPEN-BLWYDD
-
www.gwyneddbusnes. net 05
Gwynedd yn Cipio Aur yn y Gwobrau Twristiaeth
CenedlaetholCipiodd Parc Gwyliau Pen Y Garth Lodge Park y wobr aur
yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru eleni. Enillodd y parc,
yn y Bala, wobr y categori Lle Gorau i Aros – Parc Gwyliau,
Carafanau Teithiol neu Wersylla.
Sefydlwyd y parc pum seren yn y 70au ond prynwyd ef gan y teulu
Williams ym mis Mawrth 2013 ac maent wedi buddsoddi’n helaeth yn y
busnes. Mae’r gwelliannau diweddar yn cynnwys adeiladu canolfan
ymwelwyr newydd sbon, ystafell gemau a chyfleusterau toiledau, yn
ogystal â gwaith
diweddaru’r holl system drydanol. Bellach ceir mannau parcio
preifat ar gyfer yr holl gabanau, ac mae’r safle wedi ei dirlunio’n
llwyr ac yn cynnwys ardal chwarae, pwll amgylcheddol a llwybr
natur. Gwnaed y gwelliannau hyn gyda chymorth Visit Wales, Parc
Cenedlaethol Eryri a Chynllun Cadwraeth David Bellamy.
Meddai Gareth Williams, cydberchennog Pen Y Garth: “Fel teulu
rydym wedi bod yn gweithio yn y busnes hamdden am ddwy genhedlaeth
a gwelsom gyfle i greu parc gwyliau a gosod cabanau o safon.
Roeddem ni’n awyddus i roi’r profiadau gorau i ymwelwyr ac rydym
bob amser yn ceisio gwella a datblygu’r parc fel y bydd cwsmeriaid
yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Cyflwynwyd gwobr Seren Dwristiaeth y Dyfodol i Sean Taylor – a
enwyd yn “Frenin y Wifren Wib” yn y seremoni wobrwyo. Cychwynnodd
Sean ar ei yrfa yn y Morlu Brenhinol cyn dychwelyd at ei wreiddiau
yng Ngogledd Cymru i greu busnes llwyddiannus ym maes twristiaeth
awyr agored. Agorodd Tree Top Adventure ym Metws-y-Coed yn 2007 ac
yna cafodd y syniad o greu Zip World sydd bellach yn cynnwys dwy
ganolfan, y naill ym Methesda a’r llall yng Ngheudyllau Llechi
Llechwedd. Agorodd Zip World Titan yn 2014, a’r honiad yw mai
dyma’r wifren wib ‘pedwar person’
Sean “Frenin y Wifren Wib” Taylor gyntaf yn Ewrop. Wedyn, yn
ddiweddarach y llynedd agorwyd Bounce Below – a ddisgrifir fel
“maes chwarae tanddaearol” lle ceir trampolinau anferth, rhodfeydd,
llithrennau a thwneli a phopeth wedi ei wneud o rwydau, ym mhell
islaw yng
nghrombil ceudyllau llechi Llechwedd.
Meddai Sean: “Rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â rhoi Cymru ar y
map ym maes twristiaeth antur, a’r nod yw cynnig rhywbeth unigryw i
gwsmeriaid, lle gall pawb, yr hen a’r ifanc, gymryd rhan, waeth
beth yw eu lefel ffitrwydd. Ar ôl gweld gŵr 94 oed yn cael reid ar
ein gwifren wib, sydd ychydig llai na milltir o hyd ac yn cyrraedd
buaneddau o hyd at 100mya, rwy’n credu ein bod ar y trywydd
iawn.”
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Vale Resort, Hensol, Bro
Morgannwg. Derbyniwyd mwy na 300 o enwau ymgeiswyr a chyrhaeddodd
58 o fusnesau ac unigolion y rhestr fer mewn 14 categori ac
is-gategori. www.penygarth.com / www.zipworld.co.uk
Pen y Garth
Chwistrelliad Ariannol yn Diogelu Swyddi AdeiladuDiolch i
gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru sicrhawyd 30 o swyddi yn
Williams Homes yn y Bala. Mae’r chwistrelliad ariannol hefyd wedi
caniatáu ailwampio adeiladau’r cwmni yn llwyr ym Mharc Menter y
dref. Mae Williams Homes, busnes teuluol sy’n cael ei redeg gan y
ddau frawd Sion ac Owain Williams, yn arbenigo mewn adeiladu tai
ffrâm bren nodedig, ecogyfeillgar a charbon isel. Mae’r cymorth
grant wedi caniatáu buddsoddi hyd at £360,000 ym mhencadlys y
cwmni.
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn bosibl i Sion
ac Owain gwrdd â’r galw drwy ehangu’r gofod sydd ar gael a chynyddu
effeithiolrwydd yr un pryd. Maent hefyd wedi gallu gwneud y gorau
o’r gofod sydd ar y safle a gwella’r cyfleusterau ar gyfer eu
staff, gan gynnwys swyddfeydd newydd, ffreutur, ystafelloedd
cyfarfod ac ystafell gyfarfod y bwrdd. Uwchraddiodd y cwmni hefyd
ei isadeiledd technoleg gwybodaeth ac mae’n manteisio ar y rhaglen
band-eang Cyflymu Cymru. Mae 17 o swyddi wedi cael eu diogelu o
ganlyniad i’r chwistrelliad ariannol, a chyflogwyd 13 o brentisiaid
newydd.
Mae Williams Homes, a sefydlwyd yn 2003, yn cynnig gwasanaeth
cynhwysfawr, o ddylunio a chyflenwi citiau yn benodol ar gyfer
cwsmeriaid sydd eisiau adeiladu eu hunain, a chan gynnwys codi tai
cyfain. Un o’u prosiectau oedd Trefor Wen ar Ynys Môn, adfail
ffermdy a ddifrodwyd gan dân, ac sydd bellach wedi ei droi yn
gartref ffrâm bren ysblennydd. Canolfan Iechyd Ardudwy yn Harlech
yw’r prosiect di-garbon cyntaf o’r math hwn yn y Deyrnas
Unedig.
Meddai Sion Williams: “Wrth brynu ein hadeilad ein hunain cawsom
ysgogiad i fuddsoddi yn yr eiddo ac roedd cymorth gan y Gronfa Twf
Economaidd yn amhrisiadwy. Helpodd ni i fuddsoddi mewn gwelliannau
ac i greu swyddi, ac ar yr un pryd, gefnogi cyflogaeth
anuniongyrchol gyda nifer o’r isgontractwyr yr ydym yn eu
defnyddio’n rheolaidd.” www.williams-homes.co.uk
Trefor Wen
Sean Taylor - "Brenin y Wifren Wib"
-
Yn GrynoBlwyddyn Hynod Lwyddiannus i Gyllid Busnes
Cynyddodd CyllidCymru, is-gwmni Llywodraeth Cymru, ei
fuddsoddiad mewn
busnesau Cymreig rhwng 2014 a 2015 yn ôl ffigur record o 46%.
Cafodd £48.2 miliwn i gyd ei chwistrellu i fusnesau ledled y wlad,
gyda £18.3 miliwn arall yn cael ei gymryd o Grŵp Cyllid Cymru.
Roedd hyn yn cynnwys £16.1 miliwn gan FW Capital a £2.2 miliwn gan
xénos, y rhwydwaith angylion busnes. Mae wedi creu neu ddiogelu
2,897 o swyddi drwy fuddsoddi mewn 164 o fusnesau ledled Cymru.
Denodd y buddsoddiad hwn £56.2miliwn eto o ffynonellau eraill a
arweiniodd at hwb o fwy na £100 miliwn i gyd i economi Cymru.
Meddai Ian Johnson, y Cadeirydd: “Rydym yn parhau i fuddsoddi
gymaint ag erioed a’r flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd blwyddyn
orau Cyllid Cymru eto. Cynyddodd ein heffaith ar economi Cymru o
fwy na £100m i £856m ac ers 2001 mae ein buddsoddiadau wedi helpu i
greu neu i ddiogelu mwy na 38,000 o swyddi yng Nghymru.”
www.financewales.co.uk
Buddsoddiad Rondo Media
Ar ôl gweld potensial i dyfu, mae Rondo Media wedi buddsoddi
£3/4 miliwn mewn offer a thechnoleg ôl-gynhyrchu ar gyfer ei
stiwdio yng Nghaernarfon. Mae’r gwaith o ffilmio Clwb, y rhaglen
chwaraeon ar S4C,
eisoes yn cael ei wneud yno, a bydd O Flaen Eu Gwell, drama llys
barn newydd, sy’n cael ei ffilmio’n lleol, yn cael ei darlledu yn
yr hydref.
Mae gan Rondo Media ganolfannau hefyd ym Mhorthaethwy a
Chaerdydd, sy’n cyflogi 64 o bobl i gyd ac yn cynhyrchu rhaglenni
ar gyfer BBC Wales a Channel 4 yn ogystal ag S4C.
Meddai Susan Waters, y Cyfarwyddwr: “Mae’r cwmni mewn safle da i
gryfhau ei bortffolio cynhyrchu - o ran cynnal a chadw a hefyd
datblygu ei raglen gyfredol o gynyrchiadau ar gyfer S4C a BBC
Wales, a hefyd o ran ehangu i gynhyrchu mwy ar gyfer rhwydweithiau
y tu allan i Gymru.”
www.rondomedia.co.uk
Scrubadub
Cipiodd Louis Hiatt, perchennog Scrubadub Cleaning Aberdyfi,
Wobr ‘Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn - 2015
’ Rhwydwaith Busnes Gwynedd’ a noddwyd gan Ffederasiwn Busnesau
Bach. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Ganolfan Reolaeth, Prifysgol
Bangor, a chyflwynwyd y wobr,
oedd yn cydnabod synnwyr busnes cyffredinol a phenderfyniad i
lwyddo, gan Ian Nellist, Cyfarwyddwr Cyllid y Ffederasiwn.
Ers cychwyn ei gwmni yn 2010 ac ennill y wobr eisoes yn 2011,
mae Louis wedi datblygu’r busnes yn ardal De Gwynedd. Ar hyn o
bryd, mae’r cwmni yn glanhau’n rheolaidd ar gyfer nifer o eiddo
masnachol a domestig. Mae Scrubadub bellach yn cyflogi wyth aelod o
staff yn ystod y tymor prysur a fis Awst diwethaf yn unig newidiodd
fwy na 1400 o welyau mewn lletyau gwyliau. Meddai Louis: “Rydym yn
bwriadu ehangu ymhellach yn y dyfodol drwy archwilio sianeli
masnachol newydd a changhennau newydd ar gyfer portffolio glanhau
Scrubadub, felly gwyliwch y gofod ...”
www.scrubadub.co.uk
Gwobrau LEAD Wales
Daeth oddeutu 268 o gynrychiolwyr i seremoni wobrwyo nodedig
LEAD Cymru a gynhaliwyd ar 14 Mai yn Venue Cymru. Roedd pob un
ohonynt wedi cwblhau rhaglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Cafodd un o’r saith o wobrau Astudiaeth Achos ei chyflwyno i
Geraint Hughes, sy’n rhedeg tri busnes lleol: Madryn, cwmni
ymgynghori ynghylch amaeth-bwyd; Calon Lân, brand bwyd
arbenigol; a Bwtri, y deli a chanddi ganolfannau manwerthu ym
Mhorthmadog a Phwllheli.
www.leadwales.co.uk
Unrhyw Sylwadau
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr
diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi
cael unrhyw ymateb gennych.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau ar ffyrdd y gallwn
ei wella, cofiwch adael inni wybod.
E-bostiwch y Golygydd Jacquie Knowles ar:
[email protected]
I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy
am y Rhwydwaith ewch i:www.gwyneddbusnes.net
www.gwyneddbusnes. net 06
Chwith i’r dde: Yr Athro Gareth Griffiths, Prifysgol Bangor.
Geraint Hughes, Y Bwtri Cyf a Rhun ap Iorwerth
Louis Hiatt ac Ian Nellist
© Tim O’Brien
© 2015 Rhwydwaith Busnes GwyneddYsgrifennwyd a golygwyd gan :
Jacquie Knowles
Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol
am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.