RHIFYN 34 | MEHEFIN 2010 Cylchlythyr Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk C ynhaliodd Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan eu cynhadledd flynyddol ar ddydd Mercher 24 Mawrth 2010, ar thema Cynlluniau Cerdyn-C (Cerdyn Condom) yng Nghymru. Mae llawer o Gynlluniau Cerdyn-C ar waith yng Nghymru, sydd i gyd yn unigryw o ran strwythur, trefniadaeth a chyllid, ond eto mae ganddynt i gyd yr un amcanion: lleihau beichiogrwydd nas dymunir a lleihau lledaeniad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Nod y gynhadledd oedd dod â chynrychiolwyr ynghyd o Gynlluniau Cerdyn-C lleol a rhanbarthol mewn ymdrech i rannu profiad a gwybodaeth yn sgil eu cynlluniau priodol. Mynychodd bron 100 o gynadleddwyr Stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd i wrando ar gyflwyniadau gan dri siaradwr gwâdd yn sesiwn y bore gyda gweithdai yn y prynhawn o dan arweiniad ymarferwyr sy’n gweithio gyda Chynlluniau Cerdyn-C ar draws Cymru yn sesiwn y prynhawn. Dechreuodd Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru y trafodion gyda’i chyflwyniad a oedd yn ymwneud ag adolygiad diweddar o Gynlluniau Cerdyn-C yng Nghymru, gan gyfeirio at wybodaeth ystadegol, hanes y cynlluniau a chyd-destun polisi gweithredu a chyflwyno Cynlluniau Cerdyn-C. Siaradodd Lisa Bartlett o Brook am y canllawiau ar gyfer Cynlluniau Cerdyn-C yn Lloegr yr oedd Brook wedi eu cynhyrchu ar y cyd â’r Adran Iechyd, a siaradodd Jonathan Upton o The Campaign Company am ddefnyddio dull marchnata cymdeithasol mewn prosiectau iechyd rhywiol. Yn sesiwn y prynhawn, cafwyd gweithdai o dan arweiniad ymarferwyr sydd yn gweithio gyda Chynlluniau Cerdyn-C ar draws Cymru. Roedd y gweithdai yn cynnwys ystod o destunau yn ymwneud â Chynlluniau Cerdyn-C, yn cynnwys: gwerthusiadau, ymgysylltu a rhwydweithio cymdeithasol, safonau ansawdd ac anghydraddoldebau. Rhoddodd Sarah Andrews, Llinos Owen ac Eiriann Turner gyflwyniad ar ddatblygiad Cynllun Cerdyn-C Ynys Môn a Gwynedd, trwy eu hymgysylltiad â phobl ifanc wrth ddyfeisio brand y Cynllun, a’u defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol i hyrwyddo’r Cynllun. Arweiniodd Geinor Medi Jones o Dîm Iechyd y Cyhoedd Ceredigion Yn parhau ar dudalen 2 ›› Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan yn canolbwyntio ar Gynlluniau Cerdyn-C Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2000 fel rhan o’r Cynllun gweithredu i weithredu’r Fframwaith Strategol ar gyfer Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru, a chaiff ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch ag Adam Jones Cydlynydd Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9LJ. Ffôn: 029 2022 7744 Ebost: [email protected]Yngly ˆn â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan Uchafbwyntiau Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan Tudalen 1 Rhyddhau Adroddiad ar Y Tueddiadau HIV/STI Diweddaraf yng Nghymru Tudalen 2 Edrych ar gam-drin: ymchwil gan bobl ag anableddau dysgu Tudalen 4 Sgrinio Clamydia ar y Campws Tudalen 4 Lansio Rhwydwaith Prosiectau Gwaith Rhyw Cymru Gyfan Tudalen 5 Dyddiadur RHYWdwaith Tudalen 5 FPA yn lansio llyfr newydd ar ddulliau atal cenhedlu Tudalen 6
6
Embed
Cylchlythyr Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan ... · gonorea yn 2008. Mae nifer yr achosion o siffilis heintus a nodwyd ar y cynllun gwyliadwraeth siffilis datblygedig
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Rhifyn 34 | MEhEfin 2010
Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shnwales.org.uk
Cylchlythyr Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
Cynhaliodd Cyswllt Iechyd
Rhywiol Cymru Gyfan eu
cynhadledd flynyddol ar
ddydd Mercher 24 Mawrth 2010,
ar thema Cynlluniau Cerdyn-C
(Cerdyn Condom) yng Nghymru.
Mae llawer o Gynlluniau Cerdyn-C
ar waith yng nghymru, sydd i gyd yn
unigryw o ran strwythur, trefniadaeth
a chyllid, ond eto mae ganddynt
i gyd yr un amcanion: lleihau
beichiogrwydd nas dymunir a lleihau
lledaeniad heintiau a drosglwyddir
yn rhywiol. nod y gynhadledd
oedd dod â chynrychiolwyr ynghyd
o Gynlluniau Cerdyn-C lleol a
rhanbarthol mewn ymdrech i rannu
profiad a gwybodaeth yn sgil eu
cynlluniau priodol.
Mynychodd bron 100 o
gynadleddwyr Stadiwm SWALEC
yng nghaerdydd i wrando ar
gyflwyniadau gan dri siaradwr gwâdd
yn sesiwn y bore gyda gweithdai
yn y prynhawn o dan arweiniad
ymarferwyr sy’n gweithio gyda
Chynlluniau Cerdyn-C ar draws
Cymru yn sesiwn y prynhawn.
Dechreuodd Dr Marion Lyons o
iechyd Cyhoeddus Cymru y trafodion
gyda’i chyflwyniad a oedd yn
ymwneud ag adolygiad diweddar o
Gynlluniau Cerdyn-C yng nghymru,
gan gyfeirio at wybodaeth ystadegol,
hanes y cynlluniau a chyd-destun
polisi gweithredu a chyflwyno
Cynlluniau Cerdyn-C. Siaradodd
Lisa Bartlett o Brook am y canllawiau
ar gyfer Cynlluniau Cerdyn-C yn
Lloegr yr oedd Brook wedi eu
cynhyrchu ar y cyd â’r Adran iechyd,
a siaradodd Jonathan Upton o The
Campaign Company am ddefnyddio
dull marchnata cymdeithasol mewn
prosiectau iechyd rhywiol.
yn sesiwn y prynhawn, cafwyd
gweithdai o dan arweiniad
ymarferwyr sydd yn gweithio
gyda Chynlluniau Cerdyn-C ar
draws Cymru. Roedd y gweithdai
yn cynnwys ystod o destunau yn
ymwneud â Chynlluniau Cerdyn-C,
yn cynnwys: gwerthusiadau,
ymgysylltu a rhwydweithio
cymdeithasol, safonau ansawdd ac
anghydraddoldebau.
Rhoddodd Sarah Andrews, Llinos
Owen ac Eiriann Turner gyflwyniad
ar ddatblygiad Cynllun Cerdyn-C
ynys Môn a Gwynedd, trwy eu
hymgysylltiad â phobl ifanc wrth
ddyfeisio brand y Cynllun, a’u
defnydd o safleoedd rhwydweithio
cymdeithasol i hyrwyddo’r Cynllun.
Arweiniodd Geinor Medi Jones o
Dîm iechyd y Cyhoedd Ceredigion
Yn parhau ar dudalen 2 ››
Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan yn canolbwyntio ar Gynlluniau Cerdyn-C
Sefydlwyd y Rhwydwaith yn2000 fel rhan o’r Cynllun gweithredu i weithredu’r fframwaith Strategol ar gyfer hybu iechyd Rhywiol yng nghymru, a chaiff ei reoli gan iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch ag Adam JonesCydlynydd Cyswllt iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, 14 ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd Cf11 9LJ. ffôn: 029 2022 7744Ebost: [email protected]
Ynglyn â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan
UchafbwyntiauCynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan Tudalen 1
Rhyddhau Adroddiad ar Y Tueddiadau HIV/STI Diweddaraf yng Nghymru Tudalen 2
Edrych ar gam-drin: ymchwil gan bobl ag anableddau dysgu Tudalen 4
Sgrinio Clamydia ar y Campws Tudalen 4
Lansio Rhwydwaith Prosiectau Gwaith Rhyw Cymru Gyfan Tudalen 5
Dyddiadur RHYWdwaith Tudalen 5
FPA yn lansio llyfr newydd ar ddulliau atal cenhedlu Tudalen 6
Yn ddiweddar, mae’r Gronfa Loteri fawr wedi ariannu prosiect 3 blynedd arloesol wedi ei
leoli ym Mhrifysgol Morgannwg mewn partneriaeth â gwasanaeth cwnsela new Pathways a Rhoi Pobl yn Gyntaf RhCT, grwp eiriolaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Daeth y syniad ar gyfer yr ymchwil hwn gan bobl ag anableddau dysgu oedd yn poeni am gam-drin ac yn gweld angen i ddatblygu ffyrdd o gadw pobl yn ddiogel. Roedd grwpiau hunaneiriolaeth yn rhan o’r tîm ysgrifennu cais ac mae tri o bobl ag anableddau dysgu wedi cael eu recriwtio fel ymchwilwyr.
Prif ffocws y prosiect bydd gweithdy preswyl, pan fydd y rhan fwyaf o’r data’n cael ei gasglu. Bydd copïau o arolwg hefyd yn cael eu hanfon i grwpiau ar draws Cymru.
Dyma 4 cwestiwn yr ymchwil:Beth mae pobl ag anableddau dysgu yn ei ddeall o’r 1. term cam-drin?Beth yw barn pobl ag anableddau dysgu am gam-2. drin?
Pa gymorth a chefnogaeth sydd ei angen ar bobl 3. ag anableddau dysgu i’w cadw yn ddiogel? Pan fydd rhywun wedi cael ei gam-drin, beth yw’r 4. ffyrdd gorau o helpu?
Mae pob aelod o’r tîm ymchwil yn cadw cyfnodolion adlewyrchol i gasglu gwybodaeth fanwl ynglŵn â’r ffordd y mae ymchwil gyfranogol yn gweithio i bawb sydd yn gysylltiedig, felly bydd ymchwil gyfranogol yn y dyfodol yn gallu rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ymchwilwyr a phobl ag anableddau dysgu i fodloni heriau cynhwysiant gwirioneddol.
nod new Pathways, gwasanaeth cwnsela ar draws De Cymru ar gyfer pobl sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol, yw gweithredu canfyddiadau o’r ymchwil i wneud eu gwasanaeth yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau dysgu.
Cysylltwch â Joyce howarth ar 01443 483881 neu ebost [email protected] n
Edrych ar gam-drin: ymchwil gan bobl ag anableddau dysgu
Os yw pobl ifanc yn amharod i ymweld â gwasanaeth iechyd rhywiol i gael eu sgrinio ar
gyfer clamydia, beth am fynd â’r sgrinio atynt hwy? Cafodd myfyrwyr yng ngholeg Glan hafren yng nghaerdydd y cyfle i gael eu sgrinio ar gyfer clamydia ar gampws eu coleg ym mis Ebrill.
Gweithiodd Tîm Lleol iechyd y Cyhoedd Caerdydd mewn partneriaeth ag ymddiriedolaeth GiG Caerdydd a’r fro a yMCA Caerdydd i ddarparu gweithdai addysgol a sgrinio clamydia ar gyfer y myfyrwyr ar ddau safle Coleg Glan hafren yn y ddinas.
Cyflwynodd Caroline Ryan, Gweithiwr ieuenctid a Chymunedol o yMCA Caerdydd, gyfres o weithdai ar gyfer dros 200 o fyfyrwyr yn canolbwyntio ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gyda phwyslais penodol ar glamydia. Dysgodd y myfyrwyr am STi, yr hyn yr oedd y broses o brofi yn ei olygu a’r hyn fyddai’n digwydd pe byddai angen unrhyw driniaeth arnynt.
yn dilyn y gweithdai, cynigiodd dwy nyrs o’r Gwasanaeth iechyd Rhywiol integredig yn ymddiriedolaeth GiG Caerdydd a’r fro, sef Kareen Lewis a Cerys Edwards, brofion clamydia yn y ddau gampws. Gwnaed 94 o brofion dros bedwar diwrnod ar gyfer myfyrwyr, ac fe wnaeth rhai o’r tiwtoriaid gael eu profi hyd yn oed. yna anogwyd unrhyw un â chanlyniad
positif i fynychu’r Clinig iechyd Rhywiol integredig i gael triniaeth.
Mae’r adborth gan bob sefydliad a gymerodd ran yn y fenter hon wedi bod yn gadarnhaol, gan fod llawer wedi ymgymryd â’r gwasanaeth sgrinio. fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r gweithdai addysgol a rhoddodd y coleg gefnogaeth dda i’r fenter.
Dywedodd Cheryl Joscelyne, Uwch Arbenigwr hybu iechyd gyda Thîm Lleol iechyd y Cyhoedd Caerdydd: ‘Croesawodd Coleg Glan hafren y cyfle i gynnal peilot o’r fenter hon, gan alluogi sgrinio clamydia i gael ei gynnig i bobl ifanc mewn lleoliad addysgol. Mae’r gweithdai addysgol a ddarparwyd cyn i’r profion gael eu cynnal yn allweddol i lwyddiant y fenter hon, gan alluogi’r myfyrwyr i gael dealltwriaeth glir o’r hyn yw clamydia, sut yr ydych yn ei gael a sut y mae’r broses o brofi’n gweithio. Gall pobl ifanc fod yn amharod weithiau i fynychu cyfleuster
“meddygol” am eu bod yn ofn embaras, neu’n poeni am yr hyn y mae’r prawf yn ei olygu. Trwy fynd â’r prawf atynt hwy a dweud wrthynt amdano ymlaen llaw, cafodd rhai o’r pryderon hynny eu dileu.’
Cysylltwch â: Cheryl Joscelyne, Uwch Arbenigwr hybu iechyd, Tîm Lleol iechyd y Cyhoedd (iechyd Cyhoeddus Cymru), 029 20556029, [email protected] n
Sgrinio Clamydia ar y Campws
Rhifyn 34 | MEhEfin 2010
TUDALEN 5 | Rhifyn 34Peidiwch anghofio gwefan y Rhwydwaith www.shncymru.org.uk
8fed cwrs STIF
5 – 6 Gorffennaf 2010A drefnir gan Adran Meddygaeth Genhedlol-wrinol a HIV Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Gwynedd Bangor, Gogledd Cymru, y cwrs yn rhoi gwybodaeth, sgiliau ac agweddau i gyfranogwyr i’w gallogi i reoli heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn effeithiol. Mae’r cwrs, sydd wedi ei anelu at feddygon, nyrsys mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, ymarferwyr cynllunio teulu, nyrsys ysgol, ymarferwyr GUM Gradd Gyrfa Anymgynghorol, nyrsys a chynghorwyr iechyd. Cysylltwch â Iorwen Flanagan ar 01248 384384 (est 5242) neu ebost [email protected]
Gwasanaeth Seraf Barnardo’s – Hyfforddiant Aml-asiantaeth 1 Diwrnod ar Ddiogelu Plant a Phobl Ifanc y Camfanteisir arnynt yn Rhywiol Lefel 1
Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2010 Swyddfeydd Barnardo’s Cymru, Llys Trident, Caerdydd Mae Barnardo’s Cymru yn cynnal digwyddiad hyfforddi ar ddiogelu plant a phobl ifanc y camfanteisir arnynt yn rhywiol. Mae’r digwyddiad hwn wedi ei anelu at y rheiny sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Nod y digwyddiad hwn yn disgrifio ac esbonio’r broses o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, archwilio agweddau a chredoau’n ymwneud â phuteindra a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, galluogi ymarferwyr i adnabod plant/pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio’n rhywiol ar blant gan ddefnyddio elfennau sy’n eu gwneud yn agored i niwed a nodwyd trwy arfer gorau ac ymchwil, asesu plant/pobl ifanc sydd mewn perygl gan ddefnyddio offeryn
Asesu Risg Seraf a chymhwyso categori risg ac ymyriad cysylltiedig i bob plentyn, a defnyddio canllawiau lleol a chenedlaethol y llywodraeth a deddfwriaeth sy’n berthnasol i gamfanteisio’n rhywiol ar blant i lywio gwaith gyda phobl ifanc yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad wedi ei anelu at bawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, fel y rheiny mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol, y Sector Gwirfoddol, Iechyd Rhywiol, Cyfiawnder Troseddol, Addysg/Hyfforddiant, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Camddefnyddio Sylweddau a Thai.
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Mercher 21 Gorffennaf 2010, am £75 y pen (yn cynnwys TAW) a darperir cinio.
Am fwy o wybodaeth am hyn neu ddigwyddiadau eraill a gynhelir gan Barnardo’s Cymru ar draws Cymru, neu i gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â [email protected] neu [email protected].
Wythnos Iechyd Rhywiol FPA
13–19 Medi 2010Bydd ymgyrch eleni wedi ei anelu at gael pobl dros 50 oed i fod yn fwy deallus am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a’u hiechyd rhywiol. Bydd pecynnau’r ymgyrch ar gael am ddim. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected] neu ewch i www.fpa.org.uk.
Hyfforddiant FPA Elfennau Sylfaenol Atal Cenhedlu
17–18 Tachwedd 2010Mae’r cwrs cyflwyniadol hwn ar gyfer proffesiynolion sy’n dymuno cael dealltwriaeth o atal cenhedlu a’r sgiliau angenrheidiol i gyfathrebu amdano. Mae’r cwrs yn rhoi gwybodaeth fanwl, anghlinigol am bob math o atal cenhedlu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Shipley ar [email protected] neu 0845 122 8661.
Lansio Rhwydwaith Prosiectau Gwaith Rhyw Cymru Gyfan