Top Banner
2010/11 mewn cydweithrediad ag Eclipse printing Cyfres o Ddarlithoedd Agoriadol a Phroffesiynol UWIC UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD
12

Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

Mar 09, 2016

Download

Documents

UWIC’s Professorial and Inaugural Lecture series brings this research to a public forum and welcomes all to attend.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

2010/11

mewn cydweithrediad ag Eclipse printing

Cyfres oDdarlithoedd Agoriadol a

Phroffesiynol UWIC

UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 1

Page 2: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

01 cyfres o ddarlithoedd 10/11 uwic.ac.uk

Ailgyflwyno'r bwrdd du:pwy sydd angen TGCh mewn addysg?

Nos Fercher 20 Hydref 20105.45pm i ddechrau am 6pmAdeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd

Yr Athro Gary Beauchamp /Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC

Dim ond yn ddiweddar y sefydlodd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ei hun argwricwlwm ysgolion. Yn ogystal â dod yn bwnc yn y cwricwlwm, mae TGCh wedi dod yn ddullac yn adnodd pwysig i athrawon a dysgwyr o bob oedran. Fel rhan o'r datblygiad hwn, maeathrawon wedi gorfod datblygu sgiliau TGCh ymarferol yn ystod eu hyfforddiant a thrwy gydoleu gyrfa. Wrth i galedwedd a meddalwedd ddatblygu, mae'r sgiliau gofynnol yn newid a gallantfynd yn hen yn gyflym iawn. Yr hyn sy'n newid yn llai cyflym, ond yn ddi-au sy'n bwysicach, yw'rfeddylfryd ym maes addysgeg sy'n tanseilio'r defnydd o TGCh mewn sefydliadau addysgol.

Mae cyflwyno technoleg, yn enwedig y bwrdd gwyn rhyngweithiol, yn yr ystafell ddosbarth,wedi caniatáu gwell mynediad i TGCh gan ddysgwyr a mwy o ddefnydd ohoni. Mae hyn wediarwain at well ymreolaeth i ddisgyblion a'r potensial i gael amrywiaeth o ryngweithio ym maesaddysgeg ag adnoddau TGCh, yn ogystal â mwy o ryngweithio rhwng athrawon a disgyblion acymhlith disgyblion. Caiff natur yr achosion hyn o ryngweithio, pwy sy'n gwneud penderfyniadauam eu caniatáu a sut maent yn wahanol i'r rhyngweithio mwy traddodiadol (ond nid o reidrwyddyn llai effeithiol) eu hystyried yn y ddarlith hon. Gall TGCh gynnig amrywiaeth o nodweddionunigryw i addysgwyr a dysgwyr, nad ydynt ar gael drwy ddefnyddio dulliau eraill. Bydd yr AthroBeauchamp yn ystyried sut a phryd y gall TGCh fod yn effeithiol wrth ddysgu ac addysgu ac, ynfwy sylfaenol, a oes ei angen o gwbl?

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 2

Page 3: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

Ymarfer corff a'r galon: Gwersi gan Pheidippides a Da Vinci

Nos Fercher 26 Ionawr 20115.45pm i ddechrau am 6pmAdeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd

Yr Athro Rob Shave / Ysgol Chwaraeon Caerdydd, UWIC

Os yw rhywfaint o ymarfer corff yn dda i'r galon, ayw mwy yn well? Yn aml caiff ymarfer corff eihyrwyddo fel y feddyginiaeth i bob clefydcardiofasgwlaidd. Fodd bynnag, mor bell yn ôl â450 BC a chwedl Pheidippides, awgrymwyd y gallymarfer corff fod yn niweidiol i swyddogaethgardiaidd ac mewn amgylchiadau eithafol gallhyd yn oed arwain at farwolaeth. Er gwaethafdatblygiadau sylweddol ym maes meddygaeth, athechnoleg delweddu yn benodol, ychydig ynfwy a wyddom am ddulliau sylfaenolswyddogaeth gardiaidd na'r hyn addangoswyd gan astudiaethau Leonardo DaVinci ar ddechrau'r 16eg Ganrif. Yn eiddarlith agoriadol, bydd yr Athro Shaveyn defnyddio gwaith blaenorol acastudiaethau parhaus UWIC iystyried dulliau cymhlethswyddogaeth gardiaidd ac ynarbennig, ddylanwadymarfer corff ac ymarfercorff gwytnwch eithafol ary galon.

uwic.ac.uk cyfres o ddarlithoedd 10/11 02

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 3

Page 4: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

03 cyfres o ddarlithoedd 10/11 uwic.ac.uk

Chwerthin yr holl ffordd i'r blwchpleidleisio: Hiwmor a dychan etholiadol

Nos Fercher 9 Chwefror 20115.45pm i ddechrau am 6pmAdeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd

Yr Athro Russell Deacon /Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC

Caiff gwleidyddiaeth eihystyried yn aml yn fater difrifolheb lawer o gyfleoedd amhiwmor. Cawn ein hatgoffa'naml o'r ffaith na ddylem bythdrafod gwleidyddiaeth nachrefydd, er mwyn sicrhau nadydym yn tramgwyddo. Yr hynna ŵyr pobl yw fod hiwmor adychan gwleidyddol wedi bodyn rhan o'r broses etholiadolers i'r etholiadau modern cyntafgael eu cynnal yng Nghymru yn 1868.

Mae darlith yr Athro Deacon ynolrhain rhai o'r defnyddiau ohiwmor yn fwriadol ac ynanfwriadol yn etholiadauCymru a Phrydain ers ybedwaredd ganrif ar bymtheg.Mae'n ystyried y defnydd odaflenni, posteri ac areithiauetholiadau digrif gydagenghreifftiau hefyd gan arwyrgwerin gwleidyddol Cymrumegis David Lloyd George acAneurin Bevan. Mae'r AthroDeacon hefyd yn defnyddio

enghreifftiau mwy cyfoes, sefhiwmor anfwriadol yn ystod ybroses etholiadol neurefferenda yn ystod yr ychydigddegawdau diwethaf. Ynbenodol, mae'n ystyried ydefnydd o'r jôc wleidyddolmewn ymgyrchoeddetholiadol.

Fe welwch mai 'hen gêmddoniol' yw gwleidyddiaethwedi'r cyfan.

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 4

Page 5: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

Celf a'r meddwl ymwybodol

Nos Fercher 23 Mawrth 20115.45pm i ddechrau am 6pmAdeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd

Yr Athro Robert Pepperell /Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC

Mae dwy nodwedd ar ein cyflwrsydd mor unigryw ac morgyffredinol fel eu bod bron yndiffinio beth yw bod yn ddynol:rydym yn gwneud gweithiau celfac mae gennym feddyliauhunanymwybodol. Beth yw'rcysylltiad rhwng celf a'r meddwlymwybodol? Beth allcanfyddiadau ym maesniwrowyddoniaeth eu dweudwrthym am y ffordd rydym yndeall celf? Beth all celf ei ddatgeluam y meddwl ymwybodol, acefallai natur bodolaeth ei hun?Dyma rai o'r cwestiynau yr eiri'r afael â nhw yn y ddarlithagoriadol hon.

Mae'r degawd diwethaf wedigweld nifer o wyddonwyr enwogyn cynhyrchu llyfrau am gelf a'ipherthynas â'r ymennydd,canfyddiad, gweledigaeth acymwybyddiaeth. Yn y ddarlithhon, bydd yr Athro Pepperell ynystyried y cwestiynau hyn osafbwynt artist a damcaniaethwrymarferol sydd wedicydweithredu mewn arbrofion

niwrowyddonol ac sydd wediymyrryd mewn trafodaethau arastudiaethau o ymwybyddiaeth.Drwy wneud hyn mae'ngobeithio datgelu'r cyfraniadnewydd a sylweddol a esgeulusiri raddau helaeth y gall artistiaid eiwneud i'n dealltwriaeth o'r fforddrydym yn canfod ac yn deall ybyd.

uwic.ac.uk cyfres o ddarlithoedd 10/11 04

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 5

Page 6: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

05 cyfres o ddarlithoedd 10/11 uwic.ac.uk

Beth sy'n bris teg? Achos lleihad ym mhrisiau'r farchnad DVDs

Nos Fercher 4 Mai 20115.45pm i ddechrau am 6pmAdeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd

Yr Athro Mark Goode / Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC

Mae tystiolaeth sylweddol bodperthynas gadarnhaol rhwngcanfyddiad defnyddiwr o bristeg a'i lefel o wariant. At hynny,mae defnyddwyr yn tueddu iwario mwy o arian gydamanwerthwyr os ystyrir bod yprisiau'n deg neu'n rhesymol(mae enghreifftiau'n cynnwysarchfarchnadoedd awww.amazon.com). Mae gwaithymchwil blaenorol wedi dangos,mai cost yw'r prif ffactor mewnpenderfyniadau ar brisiau i lawero reolwyr o hyd, gydagagweddau sy'n gysylltiedig âgalw, gwerthiannau agweithgareddau cystadleuwyrhefyd yn cael eu hystyried. Foddbynnag, mae agweddauansoddol megis cymhelliant,canfyddiad ac agweddaudefnyddwyr yn ystyriaethau llaipwysig ac yn aml cânt euhanwybyddu.

Mewn marchnad fel DVDs, maehyn yn arwain at agendor eangrhwng prisiau manwerthu aphrisiau a ystyrir yn rhai teg ganddefnyddwyr. Mae'r bwlchrhwng prisiau manwerthu a'rprisiau a ystyrir yn rhai teg ganddefnyddwyr yn ehangu wrth iDVDs fynd yn hen - iddefnyddwyr mae'r DVDs hynyn werth llai gan nad oesganddynt y ffactor 'newyddbeth'sydd gan ffilmiau sy'n fwynewydd. I ddefnyddwyr, maegwerth DVDs yn lleihau'n gyflyma chyda hynny, y pris a ystyrir ynun teg. Ni chaiff y lleihad hwnmewn pris ei adlewyrchu mewnprisiau manwerthu.

At hynny, caiff disgwyliadaudefnyddwyr eu dylanwaduhefyd gan hyrwyddiadaugwerthu megis 'biniaubargeinion'. Os caiff rhai hen

DVDs eu gwerthu am brisiau iseliawn neu os cânt hyd yn oed eurhoi i ffwrdd am ddim mewnpapurau newydd ar ddydd Sul,mae'r prisiau llawer uwch amhen DVDs a brynir yn y fforddarferol yn mynd yn groes ibrisiau cyfeirio meddyliolcwsmeriaid ar gyfer hen DVDs.Mae sawl canlyniad i'r sefyllfahon. Fel marchnad ddigidol, caiffelw yn y farchnad DVD eifygwth yn ddifrifol gan ladrad, acun o'r ffactorau hysbys sy'neffeithio ar ladrad yw pris. Byddy ddarlith hon yn trafod y lleihadym mhrisiau'r farchnad DVD,sy'n dilyn y gyfres harmonig ynôl pob golwg.

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 6

Page 7: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

uwic.ac.uk cyfres o ddarlithoedd 10/11 06

'Hanesion o'r Portofino Lounge...Ffotogyfosodiad, Pync-roc, Jo Orton a Blackpool’

Nos Fercher 1 Mehefin 20115.45pm i ddechrau am 6pmAdeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd

Yr Athro David Ferry / Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC

Ar ddechrau'r 1990au, dechreuodd David Ferry wneud gweithiau celf drwy addasu a difwynollyfrau a oedd eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae'r prosiect hwn bellach wedi tyfu'n llyfrgell amgen sy'ndarlunio Ynysoedd Prydain mewn ffyrdd nas bwriadwyd erioed ar gyfer y teithiwr cyffredin nadiddordeb daearyddol.

Yn y ddarlith hon bydd yr Athro Ferry yn ystyried ei atgofion gweledol a chymdeithasol cynnar odref lan y môr Blackpool, hyd at ei gyfnod yn ysgol gelf Llundain yn ystod y blynyddoedd Pync-roc. Bydd yn disgrifio sut mae'r dylanwadau unigryw a phwerus hyn wedi helpu i greu cymeriadyn ei weithiau celf.

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 7

Page 8: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

07 cyfres o ddarlithoedd 10/11 uwic.ac.uk

Proffiliau academig

Yr Athro Gary BeauchampYr Athro Gary Beauchamp yw Cyfarwyddwr Ymchwil yr YsgolAddysg ac mae'n Athro mewn Addysg. Ar ôl blynyddoedd yngweithio fel athro ysgol gynradd, symudodd Gary i addysg uwch feldarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth yn GyfarwyddwrRhaglen ar gyfer y cwrs TAR cynradd yn ogystal â darlithio mewngwyddoniaeth, cerddoriaeth ac addysg gynradd ac astudiaethauproffesiynol. Hefyd, addysgodd ar amrywiaeth o fodiwlau MA agoruchwyliodd fyfyrwyr ymchwil. Aeth ymlaen i gyflawni'r undyletswyddau yn Ysgol Addysg Abertawe cyn derbyn swyddCyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y radd Astudiaethau Addysg BA(Anrh) yn UWIC yn 2007.

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Beauchamp yn canolbwyntio arbedwar prif faes: TGCh mewn addysg, addysg gynradd, addysggerddoriaeth ac addysg gwyddoniaeth ysgolion cynradd. Mae wedicyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion academaidd a phroffesiynol, ynogystal â chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a ariennir. Maewedi gwasanaethu fel arholwr allanol ar gyfer sawl prifysgol, mae'nArolygydd Ychwanegol i Estyn ac yn Gadeirydd Llywodraethwyrmewn ysgol gynradd leol. Yn ei amser rhydd mae'n arwain cerddorfaysgolion cynradd y sir (200 o blant) ar gyfer plant 8 i 11 oed.

Yr Athro Rob ShaveRob Shave yw'r Athro Ffisioleg mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corffyn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi'n eang, mewncyfnodolion gwyddor chwaraeon a'r prif gyfnodolion meddygol,ym maes cardioleg chwaraeon. Cyn dilyn ei yrfa academaidd,gweithiodd yr Athro Shave fel gwyddonydd cymwysedig yngNghanolfan Feddygol Olympaidd Prydain yn helpu i baratoiathletwyr ar gyfer cystadlaethau Olympaidd. Mae'n parhau igyfuno ei ddiddordebau ymchwil â'r byd cymwysedig drwy ei rôlfel cyd-drefnydd Cynhadledd flynyddol Gwyddoniaeth aMeddygaeth Marathon Llundain.

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 8

Page 9: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

uwic.ac.uk cyfres o ddarlithoedd 10/11 08

Yr Athro Russell DeaconMae Russell Deacon yn Athro Hanes Gwleidyddol Cyfoes Cymruyn Adran Dyniaethau, Ysgol Addysg Caerdydd. Mae wedicyhoeddi'n eang ar hanes gwleidyddol Cymru a datganoligwleidyddol. Mae ei waith ar ddatganoli a hanes gwleidyddolwedi'i gyhoeddi gan sawl gwasg academaidd gan gynnwysEdinburgh University Press, Manchester University Press ac ynfwyaf diweddar, Pearson/Longman. Yn fwy diweddarcyhoeddodd yr Athro Deacon 'A History of Welsh Liberalism’, ganWasg Academaidd Cymru. Dyma hanes cyntaf y Blaid Ryddfrydolyng Nghymru. Cyn cael ei gyflogi yn UWIC, gweithiodd yr AthroDeacon yn Is-adran Materion Ewropeaidd y Swyddfa Gymreig agwasanaethodd hefyd ar secondiad rhwng 1999 a 2000 yn sefydluswyddfa ymchwil Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yngNghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers 2007 mae'r Athro Deaconwedi bod yn gadeirydd Grŵp Astudiaethau GwleidyddolRhyddfrydol Prydain. Mae hefyd yn aelod o sawl corff arall, gangynnwys Archifau Gwleidyddol Cymru yn Llyfrgell GenedlaetholCymru, Grŵp Hanes y Democratiaid Rhyddfrydol a ChyngorEwropeaidd Cymru. Mae'r Athro Deacon hefyd wedi cyflawnigwaith ymchwil sylweddol ar symudedd myfyrwyr a'r rhaglenERASMUS. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae wedi bod yn ddarlithyddgwadd ym maes hanes gwleidyddol mewn prifysgolion yngNgwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, yr Almaen a Phortiwgal.

Yr Athro Robert PepperellAstudiodd Robert Pepperell PhD yn Ysgol Gelf Slade, Llundain.Yn ystod y 1980au a'r 1990au arddangosodd nifer o weithiauelectronig arloesol, gan gynnwys Ars Electronica, Oriel Barbican,Oriel Celf Gyfoes Glasgow, yr ICA, a'r Millennium Dome. Maewedi cyhoeddi tri llyfr, The Posthuman Condition(1995/2003/2009), The Postdigital Membrane (gyda MichaelPunt, 2000), Screen Consciousness (gyda Michael Punt, 2006),yn ogystal â sawl erthygl, adolygiad a phapur ar gyfer cyfnodoliona chylchgronau, gan gynnwys papurau gwyddonol cydweithredolar niwrowyddoniaeth a chanfyddiad. Ar hyn o bryd mae'n AthroCelfyddyd Gain ac yn Bennaeth Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf aDylunio Caerdydd, yn aelod o adran Ymwybyddiaeth a SeicolegArbrofol Cymdeithas Seicolegol Prydain, y Gymdeithas ar gyferAstudiaeth Wyddonol o Ymwybyddiaeth, ac yn GymrawdCymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Rhwng 2000 a 2008 roeddyn Olygydd Cyswllt ar gyfer adran adolygiadau'r cyfnodolyn,Leonardo. Mae'n arddangos ei waith yn rheolaidd.

www.robertpepperell.com

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 9

Page 10: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

Yr Athro Mark GoodeMae Dr. Mark M. H. Goode yn Athro Marchnata yn Ysgol ReoliCaerdydd, ac mae wedi ennill gwobr addysg nodedig gan BrifysgolAbertawe. Mae gan Mark ddwy radd mewn Economeg a PhDmewn Marchnata ac mae wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd,Prifysgol Abertawe ac UWIC. Mae ei brif ddiddordebau ymchwilym maes ymddygiad defnyddwyr, yn arbennig o ran modeluboddhad, ffyddlondeb a lleoliad gwasanaeth defnyddwyr. Maewedi cyhoeddi dros 40 o bapurau academaidd mewn amrywiaetheang o gyfnodolion, gan gynnwys y cyfnodolyn clodwiw 'Journal ofRetailing’. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr yr MBA Gweithredol ynUWIC ac mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd i sawl cwmnilleol ac wedi cyhoeddi llyfr o'r enw ‘Quantitative Methods inMarketing Management’ (John Wiley, 1998).

Yr Athro David FerryMae llyfrau diwygiedig a phrintiau gwreiddiol David Ferry yn creu ôltroed prin ac unigol iawn yng nghyd-destun delweddau graffegcyfoes sy'n dystiolaeth o ddylanwadau John Heartfield a'rtraddodiad ffotogyfosodiad clasurol.

Mae gwaith Ferry mewn sawl casgliad rhyngwladol a chasgliadaumewn amgueddfeydd, gan gynnwys The Ashmolean ynRhydychen, The Art Institute of Chicago, Museum of Modern Art,Efrog Newydd, The Victoria & Albert Museum, M & C Saatchi,Llundain, The Strang Collection, Coleg Prifysgol Llundain aPhrifysgolion Rhydychen, Southampton, Vermont a GorllewinLloegr, Bryste. Mae wedi derbyn gwobr gelf fawr Pollock / Krasneryn y gorffennol. Enillodd y Fedal Efydd yn y Gystadleuaeth CelfLlyfrau Ryngwladol Gyntaf a gynhaliwyd yn Seoul, Korea yn 2004.

Ers gadael Ysgol Celfyddyd Gain Slade, Coleg Prifysgol Llundain yn1981, mae wedi arddangos ei waith mewn sawl cystadleuaeth acarddangosfa fawr ryngwladol. Cynhaliwyd ei arddangosfa unigol ynddiweddar yn Oriel Llyfrau Prin Woodfinch / SimonFinch ynMayfair yn 2010.

Mae'n gyn-Bennaeth yr Is-adran Celfyddyd Gain yn Ysgol GelfCaer-wynt. Cyn hynny roedd yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol LongIsland, Efrog Newydd, ac yn gyn-uwch ddarlithydd yn SefydliadCelf a Dylunio Caint yng Nghaergaint.

09 cyfres o ddarlithoedd 10/11 uwic.ac.uk

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 10

Page 11: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

Ffurflen archebu

Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) yn cynnal gwaithymchwil sydd wrth wraidd y broses o greu gwybodaeth newydd a'idefnyddio. Felly, gellir defnyddio'r gwaith ymchwil yn uniongyrcholmewn busnes, diwydiant, y proffesiynau a'r gymuned yn gyffredinol.

I fod yn rhan o'r darlithoedd unigryw hyn ar waith ymchwil yn UWIC, cwblhewch y ffurflen ganlynola'i hanfon at: Jill Doran, Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau, AdranCyfathrebu a Marchnata, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB

ffôn: 029 2041 6053 e-bost: [email protected]

Neu, ewch i: www.uwic.ac.uk/lectures i gwblhau ein ffurflen ar-lein.

Mae gennyf ddiddordeb yn y darlithoedd canlynol::

Nos Fercher 20fed Hydref 2010 Yr Athro Gary Beauchamp

Nos Fercher 26ain Ionawr 2011 Yr Athro Rob Shave

Nos Fercher 9fed Chwefror 2011 Yr Athro Russell Deacon

Nos Fercher 23ain Mawrth 2011 Yr Athro Robert Pepperell

Nos Fercher 4ydd Mai 2011 Yr Athro Mark Goode

Nos Fercher 1af Mehefin 2011 Yr Athro David Ferry

Cadwch sedd ar gyfer pob darlith a nodir .

Enw Llawn:…..………………………………………………………………………………………………………………………………….........................................................................................................

Cyfeiriad:…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………......................................................................................................

…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………........................................................................................…..………………………….….........

…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………........................................................................................…..………………………….….........

…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………........................................................................................…..………………………….….........

Ebost:…………………………………………………………………………………………………………….............................................Rhif Ffôn:……………............................................…….........

uwic.ac.uk cyfres o ddarlithoedd 10/11 10

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 11

Page 12: Cyfres oDdarlithoeddAgoriadol aPhroffesiynolUWIC

UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD

Mae'r holl bren/mwydion a ddefnyddiwyd yn y daflen hon yn tarddu o gynhyrchwyrcynaliadwy a choedwigoedd

a reolir yn gyfrifol sy'n cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd.Ailgylchwch y daflen hon.

Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 12