Top Banner
Cylchlythyr Chwarterol Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ar gyfer mentrau bwyd cymunedol a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir yn gysylltiedig â llai o straen a heneiddio’n iach Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi bod yn archwilio a yw gweithgareddau corfforol a hamdden yn yr awyr agored yn cynnig mwy o fuddion iechyd yn nes ymlaen mewn bywyd o’i gymharu â gweithgareddau dan do. Mewn astudiaeth ddiweddar, canfuant fod garddwyr rhandir dros 50 oed yn dioddef llawer llai o straen o’u cymharu ag oedolion eraill o oed tebyg a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau egnïol eraill yn yr awyr agored a dan do. Bu cynnydd yn ddiweddar yn y diddordeb ym manteision yr amgylchedd naturiol o ran iechyd a lles, ac yng Nghymru yn arbennig, cafwyd mwy o ffocws ar bwysigrwydd garddio rhandir a chymunedol. Y llynedd, cynhyrchodd Lywodraeth Cymru adroddiad ar ddarpariaeth rhandiroedd yng Nghymru a oedd yn cynnwys cynllun gweithredu ar fwyd sy’n cael ei dyfu yn y gymuned. Yn dilyn hyn, cafodd arian ei roi i Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol er mwyn datblygu rhaglen tair blynedd sy’n cynorthwyo prosiectau tyfu bwyd cymunedol i lwyddo a dysgu o arfer gorau. Cyhoeddwyd astudiaeth yr ymchwilwyr yn rhifyn mis Hydref o HortTechnology – cyfnodolyn yr American Society for Horticultural Science, sydd ar gael yn http://horttech. ashspublications.org/content/21/5/577.abstract. Yn siarad am y prosiect, dywedodd Jemma Hawkins, Cynorthwy-ydd Ymchwil Seicoleg Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd: “Gall lefelau is y straen a arsylwir ymysg garddwyr rhandir fod oherwydd cyfuniad o weithgaredd corfforol, rhyngweithio cymdeithasol ac ymgysylltu â natur. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil er mwyn deall sut y gallai’r rhinweddau garddio rhandir hyn gydweithio i leihau straen a bod o fudd i les ac iechyd cyffredinol.” Parhad ar dud. 2
12

Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

Feb 24, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

1

Cylchlythyr Chwarterol Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ar gyfer mentrau bwyd cymunedol a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34

Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir yn gysylltiedig â llai o straen a heneiddio’n iachMae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi bod yn archwilio a yw gweithgareddau corfforol a hamdden yn yr awyr agored yn cynnig mwy o fuddion iechyd yn nes ymlaen mewn bywyd o’i gymharu â gweithgareddau dan do.

Mewn astudiaeth ddiweddar, canfuant fod garddwyr rhandir dros 50 oed yn dioddef llawer llai o straen o’u cymharu ag oedolion eraill o oed tebyg a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau egnïol eraill yn yr awyr agored a dan do.

Bu cynnydd yn ddiweddar yn y diddordeb ym manteision yr amgylchedd naturiol o ran iechyd a lles, ac yng Nghymru yn arbennig, cafwyd mwy o ffocws ar bwysigrwydd garddio rhandir a chymunedol. Y llynedd, cynhyrchodd Lywodraeth Cymru adroddiad ar ddarpariaeth rhandiroedd yng Nghymru a oedd yn cynnwys cynllun gweithredu ar fwyd sy’n cael ei dyfu yn y gymuned. Yn dilyn hyn, cafodd arian ei roi i Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol er mwyn datblygu rhaglen tair blynedd sy’n cynorthwyo prosiectau tyfu bwyd cymunedol i lwyddo a dysgu o arfer gorau.

Cyhoeddwyd astudiaeth yr ymchwilwyr yn rhifyn mis Hydref o HortTechnology – cyfnodolyn yr American Society for Horticultural Science, sydd ar gael yn http://horttech.ashspublications.org/content/21/5/577.abstract.

Yn siarad am y prosiect, dywedodd Jemma Hawkins, Cynorthwy-ydd Ymchwil Seicoleg Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd: “Gall lefelau is y straen a arsylwir ymysg garddwyr rhandir fod oherwydd cyfuniad o weithgaredd corfforol, rhyngweithio cymdeithasol ac ymgysylltu â natur. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil er mwyn deall sut y gallai’r rhinweddau garddio rhandir hyn gydweithio i leihau straen a bod o fudd i les ac iechyd cyffredinol.” Parhad ar dud. 2

Page 2: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

2

Yn ddiweddar, mae’r tîm ymchwil wedi cael cyllid i gymryd camau dilynol yn ymwneud â’r gwaith hwn gyda chyfranogwyr garddio cymunedol a rhandir dros gyfnod o ychydig fisoedd er mwyn olrhain buddion posibl y gweithgareddau hyn. Enw’r prosiect ymchwil newydd yw ‘Tyfu Poblogaeth Hyn Iach yng Nghymru’ neu GHOP yn fyr a bydd yn rhedeg hyd at Ebrill 2013.

Mae’r Athro Paul Milbourne o Brifysgol Caerdydd yn cydweithredu ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ymwneud â’r prosiect hwn. Dywedodd: “Mae tyfu cymunedol yn cynyddu o ran graddfa a phwysigrwydd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi ar draws Cymru, gan arwain at gynhyrchu a bwyta mwy o fwydydd sy’n cael eu tyfu’n lleol, gwella amgylcheddau, mwy o ymwybyddiaeth ynghylch materion cynaliadwyedd lleol, a datblygiad mathau newydd o berthyn i gymuned a grymuso cymunedau. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at gorff cynyddol o ymchwil yn ymwneud â garddio cymunedol yng Nghymru trwy archwilio effaith garddio rhandir ar iechyd a lles pobl hyn.”

Dywedodd Katie Jones, Rheolwr Datblygu Cymru, Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol, “Mae’r gwaith ymchwil hwn yn eithriadol o werthfawr i’r gymuned ac i arddio ffermio, yng Nghymru a’r DU. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd dramatig yn y gofod tyfu cymunedol sy’n dod i’r amlwg a diddordeb mewn tyfu cymunedol yn gyffredinol. Mae’r prosiectau hyn yn rhoi ystod eang o fuddion; dod â phobl at ei gilydd, eu hailgysylltu â bwyd a natur, ond yr hyn sydd ar goll ar hyn o bryd yw’r dystiolaeth gadarn yn dangos yr effaith y gall cymryd rhan mewn garddio cymunedol a rhandir ei gael, yn arbennig ar iechyd. Ein gobaith yw y bydd y gwaith ymchwil hwn yn rhoi’r dystiolaeth werthfawr sydd ei hangen ar y mudiad, a allai newid y ffordd y caiff gwasanaethau a darpariaeth iechyd, yn arbennig ar gyfer pobl hyn, eu cyflenwi yn y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth am yr ymchwil cysylltwch â Jemma Hawkins Cynorthwy-ydd Ymchwil [email protected] neu 029 2020 1172.

Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir yn gysylltiedig â llai o straen a heneiddio’n iach Parhad o dud. 1

Cnoi Cil

Mae Ffactor ‘Ff’ (Gwyliau Hwyl gyda Bwyd a Ffitrwydd) yn brosiect Mannau Iach a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych.Mae Gwyliau Hwyl gyda Bwyd a Ffitrwydd yn seiliedig ar fodel ‘Mannau Iach’ rhaglen ‘Ffordd o Fyw’ y Gronfa Loteri Fawr. Prif ddiben Gwyliau Hwyl gyda Bwyd a Ffitrwydd yw cynyddu bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol ymysg plant o dan 12 oed. Cyflawnwyd hyn trwy ystod o wyliau a gweithgareddau ymgysylltiol a diddorol mewn ysgolion ac yn y gymuned.

Mae’r prosiect wedi bodoli ers tair blynedd ac wedi gweithio gyda thros 1,400 o blant 8-12 oed yn ystod y cyfnod hwnnw. Llenwodd y plant, ar draws Sir Ddinbych, holiadur yn ymwneud â deiet, gweithgaredd corfforol a ffordd o fyw a chymryd rhan mewn cyfres o brofion ffitrwydd ac iechyd yn ystod Diwrnodau Ffitrwydd Hwyliog Ffactor ‘Ff’.

Ym mhob un o’r tri chyfnod profi, cafwyd rhaniad o 60-40 y cant gyda 60 y cant o’r plant a gafodd eu mesur â phwysau’r corff o fewn yr ystod ddelfrydol a 40 y cant naill ai o dan eu pwysau neu dros eu pwysau yn ôl Mynegai màs y corff (BMI).

Page 3: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

3

O ran sgôr ffitrwydd, cafodd y pwysoliad ei wrthdroi gyda 40 y cant yn cael sgorau cyfartalog neu well a 60 y cant â sgorau islaw’r cyfartaledd neu’n isel o ran ffitrwydd. Roedd y prosiect yn bryderus ynghylch lefelau uchel y plant y canfuwyd eu bod dros eu pwysau neu’n ordew ynghyd â’r lefelau ffitrwydd gwael; mae’r ffactorau hyn yn gysylltiedig â pherygl cynyddol o ddatblygu Clefyd Coronaidd y Galon a Diabetes Math 2.

Dangosodd ganlyniadau’r holiadur nad oedd cyfran uchel o’r plant yn cael y pum darn o ffrwythau/llysiau y dydd a argymhellir. Dangosodd y canfyddiadau hefyd fod nifer uchel iawn o blant yn bwyta llawer iawn o siwgr trwy yfed diodydd egni, yn bwyta melysion, siocledi a bwydydd a diodydd eraill yn cynnwys llawer o siwgr. Yn gadarnhaol, nododd 16 y cant o’r plant nad oeddent yn cael unrhyw fwydydd cyflym e.e McDonald’s / siop sglodion mewn wythnos arferol. I’r gwrthwyneb, nododd 34 y cant o’r plant eu bod yn cael dau neu fwy o brydau bwyd cyflym bob wythnos ynghyd â 5 y cant a nododd eu bod yn cael y prydau hyn yn ddyddiol bron.

Nododd y rhan fwyaf o’r plant eu bod yn treulio amser sylweddol yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnos yn

chwarae gemau cyfrifiadurol ac ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nododd nifer fawr o’r plant eu bod yn treulio awr o leiaf mewn diwrnod arferol yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu ryw fath o weithgaredd corfforol.

Yn anffodus, nododd 8 y cant o’r plant nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd corfforol ar ddiwrnod arferol (wythnos neu benwythnos). Ymddengys hefyd nad yw lefelau iechyd a ffitrwydd cydnabyddedig y plant, wrth iddynt raddio eu hunain yn rhagorol, yn cyd-fynd â sgorau gwirioneddol y diwrnodau ffitrwydd hwyliog.

O ganfyddiadau Ffactor ‘Ff’, argymhellir bod gwersi Addysg Gorfforol a chlybiau gweithgaredd corfforol sy’n cael eu darparu ar gyfer plant ar draws Sir Ddinbych yn cynyddu o ran amlder, dwyster, hyd a math/ansawdd y gweithgareddau. Yr argymhellion cenedlaethol yw bod plant 5-18 oed yn gwneud o leiaf 60 munud o weithgaredd cymedrol i egnïol bob dydd yn cynnwys gweithgareddau egnïol sydd yn gwella dwysedd esgyrn a chryfder y cyhyrau o leiaf tri diwrnod yr wythnos. Mae’r prosiect yn cynghori bod plant Sir Ddinbych yn cael eu hannog i fodloni’r canllawiau hyn ynghyd â bwyta deiet cytbwys yn unol â chanllawiau pump y dydd.

Am fwy o wybodaeth am ganfyddiadau’r prosiectau, cysylltwch â Will Morecombe ar 01745 344751.

“Mae’r prosiect yn cynghori bod plant Sir Ddinbych yn cael eu hannog i fodloni’r canllawiau hyn ynghyd â bwyta deiet cytbwys yn unol â chanllawiau pump y dydd.”

Page 4: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

4

Cynllun Arfer Da Iechyd Y CyhoeddMae Cynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddull sy’n cefnogi ymarferwyr a sefydliadau ym meysydd maeth, gweithgaredd corfforol, iechyd rhywiol a hybu iechyd meddwl.

Mae’r cynllun yn cynnwys cronfa ddata o arfer da, marc safon, dyfarniadau ac mae’n darparu cymorth. Mae’n gwobrwyo arfer da ac yn darparu dull systematig o rannu gwybodaeth am fentrau.

Mae mwy o fanylion am y prosiectau sydd yn rhan o’r cynllun yn ogystal â gwybodaeth am gyllid, rhesymeg, cysylltiadau â pholisi, nodau ac amcanion, tystiolaeth, partneriaid, dulliau monitro a gwerthuso, cynaliadwyedd a’r gwersi a ddysgwyd ar gael ar Gronfa Ddata’r Cynllun Arfer Da.

Mae’r cyntaf mewn cyfres o daflenni ffeithiau y gellir eu llwytho i lawr i gynorthwyo ymarferwyr i gynllunio a datblygu prosiectau bellach ar gael ar dudalen Cynllun Arfer Da gwefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru. Mae’r taflenni ffeithiau yn adlewyrchu’r cwestiynau a ofynnir yn Holiadur Cynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddant yn diffinio’r hyn y mae rhywfaint o’r derminoleg sydd wedi ei chynnwys yng Nghynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei olygu, yn darparu astudiaethau achos ac enghreifftiau a dolenni i ddeunydd darllen pellach ac adnoddau.

Y taflenni ffeithiau sydd ar gael ar hyn o bryd yw:

Beth am rannu eich llwyddiannau a’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu trwy gyflwyno menter yr ydych yn rhan ohoni i’r cynllun arfer da? Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb mewn digwyddiad i ddod, ewch i wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru neu cysylltwch â Beth Preece.

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Buddiolwyr - mae hyn yn cyflwyno ei bwysigrwydd wrth gynllunio menter, yr hyn a olygir wrth ‘grwp anodd ei gyrraedd’, yn nodi rhanddeiliaid, rhwystrau rhag ymgysylltu, technegau penodol a deunydd darllen pellach. Mae’r daflen ffeithiau hon yn seiliedig ar y gweithdy “Ymgysylltu â Dinasyddion Nas Clywir yn Aml” a gyflwynir ar gyfer Cyfranogaeth Cymru. Roedd y gweithdy hwn ar gael i aelodau’r Rhwydwaith mewn cydweithrediad â Thîm Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Tachwedd 2011. Roedd galw mawr am y gweithdy hwn a’r gobaith yw y bydd ar gael eto yn y dyfodol.

Gwerthuso – mae hwn yn cyflwyno pam y dylid gwerthuso, cynllunio’r gwerthusiad, casglu’r dystiolaeth, coladu’r wybodaeth a deunydd darllen pellach. Mae’r daflen ffeithiau hon yn cefnogi’r digwyddiad DDP “Cyflwyniad i Werthuso” a ddarperir gan Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Glyndwr ar gyfer y Rhwydweithiau. Mae’r diwrnod cyflwyniadol yn rhoi trosolwg o’r broses werthuso, damcaniaeth werthuso hanfodol ac yn canolbwyntio ar astudiaeth achos rhyngweithiol o fenter maeth a gweithgaredd corfforol gymunedol. Cynhaliwyd dau weithdy rhanbarthol llwyddiannus pellach ym mis Rhagfyr, yn cynnwys 50 o gyfranogwyr.

Page 5: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

5

Rhaglen Byw’n Iach ar Gyfer Teuluoedd Caerdydd – Yn Recriwtio Nawr! Mae rhaglen Meddwl, Ymarfer Corff, Maeth...Ewch amdani! (MEND) bellach yn recriwtio plant a theuluoedd ar gyfer ei chwrs ffordd o fyw iach diweddaraf.

Mae’r fenter sydd am ddim yn gwrs deg wythnos â’r nod o roi ffitrwydd i blant a chyfle iddyn nhw a’u teuluoedd fod yn fwy egnïol, yn iachach ac yn hapusach.

Rhaglen MEND yw’r cynllun cenedlaethol mwyaf sy’n mynd i’r afael â phroblemau pwysau a gordewdra mewn plentyndod a chafodd ei datblygu yn Ysbyty Plant Great Ormond Street a Sefydliad Iechyd Plant Coleg Prifysgol Llundain. Mae MEND yn targedu plant rhwng 7 a 13 oed sydd dros yr ystod pwysau iach ar gyfer eu hoedran a’u taldra, i fod yn iach ac yn egnïol gyda chymorth eu rhieni neu eu gofalwyr.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o sesiynau hwyliog sydd yn cynnwys y teulu cyfan i helpu plant i newid eu harferion bwyta ac ymarfer corff gyda nodau a gwobrau i hybu gwelliannau parhaus mewn iechyd cyffredinol, ffitrwydd a lles.

Ceir taith grwp i’r archfarchnad ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer bwyta’n iach gartref, yn cynnwys y ffordd i leihau siwgr, brasterau a halen a deall labeli cynnyrch.

Ceir sesiynau newid ymddygiad ar gyfer oedolion a phlant â’r nod o helpu gyda materion fel datrys problemau, ymdrin â sbardunau bwyta bwyd afiach a bwlio.

Gwneir gweithgareddau fel gemau, chwaraeon tîm a nofio a cheir gwiriad tyfiant cyn ac ar ôl y rhaglen i gofnodi pwysau, taldra a maint o amgylch y canol.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Howells, Aelod Gweithredol Diwylliant, Hamdden a Chwaraeon: “Mae rhaglen MEND wedi gwneud gwahaniaeth eithriadol i fywydau plant yng Nghaerdydd.

“Mae’n hybu iechyd a ffitrwydd ac mae’n helpu i leihau pwysau a lefelau gordewdra ymysg plant tra’n newid agweddau tuag at fwyd a ffitrwydd ar gyfer y dyfodol”.

Dywedodd Samar Wafa, Rheolwr Rhaglen MEND: “Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi ein bod yn cynnal mwy o raglenni MEND mewn ardaloedd gwahanol ar draws Caerdydd a’r Fro yn y Flwyddyn Newydd”.

Cynhelir y rhaglenni 10 wythnos yn rheolaidd ar draws Caerdydd a chânt eu cynnal ddwywaith yr wythnos ar ôl ysgol. Mae croeso i deuluoedd o Gaerdydd a Bro Morgannwg wneud cais am un o’r lleoedd cyfyngedig ar y cyrsiau.

Cynhelir y cynllun mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Ariennir rhaglenni MEND gan Lywodraeth Cymru a chânt eu darparu ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru y tymor hwn. Croesewir atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol, a hunan-atgyfeiriadau gan rieni. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 230 0263, ewch i www.mendcentral.org, neu i ddod o hyd i’ch rheolwr rhaglen lleol, anfonwch e-bost [email protected].

“Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o sesiynau hwyliog sydd yn cynnwys y teulu cyfan i helpu plant i newid eu harferion bwyta ac ymarfer corff gyda nodau a gwobrau i hybu gwelliannau parhaus mewn iechyd cyffredinol, ffitrwydd a lles.”

Page 6: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

6

Mae Dysgu ar gyfer Iechyd wedi cael cymorth ariannol gan fwrdd Creu Sir y Fflint Egnïol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol i gael eu cynnal yn ardal gorllewin Sir y Fflint yn cynnwys dwy ardal Cymunedau yn Gyntaf Gogledd Sir y Fflint Wledig a Threffynnon.

Mae’r rhaglen yn gynllun peilot, a chaiff ei chynnal dros gyfnod o chwe – saith wythnos gyda’r sesiynau rhwng dwy i dair awr o hyd. Mae cynnwys bob sesiwn yn newid bob wythnos ac mae ganddynt agwedd holistaidd iawn tuag at fyw’n iach a lles. Mae’r sesiynau’n cynnwys ymweliad â champfa leol, cerdded Nordig, sesiwn coginio a bwyta gyda gweithgareddau ychwanegol fel y bo’n briodol. Fel cymhelliant i fynychu, ar ddiwedd pob sesiwn, mae’r cyfranogwyr yn cael darn o offer, sy’n berthnasol i’r cwrs. Ar ôl y sesiwn yn y gampfa, mae pob cyfranogwr yn cael cerdyn egnïol am ddim gan y ganolfan hamdden sy’n rhoi hawl iddynt gael dwy sesiwn am ddim yr wythnos. Unwaith y maent wedi dechrau defnyddio’r sesiynau am ddim, y gobaith yw y byddant yn manteisio ar y gostyngiadau y mae’r cerdyn egnïol yn eu cynnig ac yn defnyddio gweithgareddau eraill yn y ganolfan hamdden.

Mae cwrs cyntaf y rhaglen wedi bod yn llwyddiannus gyda thros 15 o gyfranogwyr yn cymryd rhan dros y ddwy ardal. Wrth i’r cynllun peilot ddatblygu, mae’r fformat yn esblygu er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r cyfranogwyr mewn cyrsiau yn y dyfodol.

Yn ogystal, ceisiwyd cyllid i brynu offer perthnasol i grwpiau cymunedol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ei ddefnyddio’n annibynnol, yn cynnwys Wii Fit a phwysau bach. Mae aelod o dîm Cymunedau yn Gyntaf wedi cael Hyfforddiant Campfa Lefel dau er mwyn hwyluso aelodau’r gymuned i ddefnyddio’r offer. Mae hyn yn galluogi’r gymuned i fwynhau ochr gymdeithasol byw’n iach.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, cyflwynwyd cais i gynnal y cwrs ar draws y ‘Clwstwr Gwledig’ dros y tair blynedd nesaf. Mae’r tîm yn aros i glywed a fu hyn yn llwyddiannus. Os yw’r ymateb yn un cadarnhaol, mae cynlluniau ar waith i’w gynnal mor bell â Bryn Gwalia yn yr Wyddgrug.

Dyddiad ac amser y cyrsiau nesaf yw: 21 Chwefror 9:30am Mill on the Hill, Treffynnon, a 23 Chwefror 9:30am Sefydliad Gronant. I archebu lle ar y cwrs, ffoniwch Teresa Allen (Gogledd Sir y Fflint Wledig) 01745 854881 neu Vera Davey (Treffynnon) 01352 712483.

Dysgu ar gyfer Iechyd

Os hoffech fwy o wybodaeth am agor neu ddod o hyd i gydweithfa fwyd, cysylltwch â’ch Gweithiwr Datblygu Bwyd lleol:

June Jones (Gogledd Cymru) 01766 890637 / 07717 202215

Natalie Edwards (Gogledd-ddwyrain Cymru) 07772 109695

Karen Robertson (Gogledd-ddwyrain Cymru) 07879 611670

Hannah James (De-ddwyrain Cymru) 029 2023 2943 / 07717 205438

Jessica Meller (De-ddwyrain Cymru) 07918 715719

Richard Reast (De-ddwyrain Cymru) 01443 402317 / 07918 715718

Abigail Morrison (Gorllewin Cymru) 07875 224718

Rhaglen Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol

Page 7: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

7

Cydweithfa Gwreiddiau a Ffrwythau...Blwyddyn Yn DdiweddarachGwneud gwahaniaeth...Yr hyn y mae’n ei olygu i Bartneriaeth Parc Caia - Caroline Harry, Cydlynydd Gwirfoddol.

“Yn ystod y flwyddyn, mae’r Gydweithfa Fwyd wedi galluogi ein sefydliad i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli amgen. Mae hefyd wedi atgyfnerthu’r gwaith yr ydym yn ei wneud ar ein rhandir, yn ein ty gwydr, ein gwelyau blodau uchel a’n borderi perlysiau ac mae’n dangos dilyniant ymarferol o’r hedyn i’r bwrdd.

Mae gan wirfoddolwyr a chwsmeriaid fwy o ddiddordeb mewn bwyd iach ac yn aml yn trafod ryseitiau neu’r ffordd y maent yn defnyddio’u ffrwythau a’u llysiau ffres yn y cartref.”

Gwneud gwahaniaeth...Yr hyn y mae’n ei olygu i Dîm Iechyd Parc Caia - Jo Spooner, Tîm Iechyd Parc Caia.

“Mae’r Gydweithfa Fwyd yn enghraifft ragorol o brosiect cymunedol yn hybu ffordd o fyw iach. Mae’r prosiect wedi ymgysylltu ysgolion, gweithleoedd, teuluoedd a grwpiau rhianta yn llwyddiannus er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch bwyta’n iach, bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, dileu rhwystrau rhag cael gafael ar opsiynau iachach a grymuso unigolion i wella eu hiechyd a’u lles.

“Mae’r cymorth gwirfoddol a ddarparwyd gan Bartneriaeth Parc Caia wedi bod yn ddylanwadol iawn yn sefydlu rhwydwaith o ‘hyrwyddwyr iechyd’, sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu cymuned ac, yn ogystal, datblygu ffrydiau gwaith cynaliadwy. Mae Gwreiddiau a Ffrwythau yn bwydo llawer o raglenni eraill sy’n cael eu darparu gan Dîm Iechyd Parc Caia, gan sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy ac effaith gadarnhaol yn y gymuned leol.

Er enghraifft, y bagiau ffrwythau sy’n cael eu cynnig fel byrbryd amgen, iachach mewn grwpiau cymorth rhianta / bwydo ar y fron, cynnwys bagiau llysiau ar gyfer rhaglenni ‘coginio a bwyta’ ac mae’r cynnyrch yn weledol bob wythnos er mwyn denu cwsmeriaid newydd mewn lleoliadau cymunedol. Mae’r bagiau hefyd yn gyfle i hybu negeseuon iechyd a lles gan weddill y Tîm Iechyd. Mae ychwanegu adnoddau Newid am Oes, manylion mentrau newydd a chysylltiadau ar gyfer cymorth pellach, yn galluogi’r tîm i ymgysylltu pobl ‘sydd yn fwy anodd eu cyrraedd’.”

Gwneud gwahaniaeth...Yr hyn y mae’n ei olygu i’r Uned Adfywio Gwledig - Natalie Edwards, Gweithiwr Datblygu Wrecsam a Sir y Fflint, Uned Adfywio Gwledig.

“Mae’r Gydweithfa Fwyd Gwreiddiau a Ffrwythau yn gaffaeliad mawr i gymuned Parc Caia. Mae’r fenter iechyd hon, sy’n cynnig bagiau mawr o ffrwythau, llysiau a salad i’r gymuned, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, yn wirioneddol gynaliadwy a gall arbed dros £200 y flwyddyn i gwsmeriaid. Mae’r cynllun hefyd yn derbyn talebau Dechrau’n Deg fel taliad.

“Mae’r Gydweithfa’n ymateb i geisiadau cwsmeriaid ac, o ganlyniad, mae’n cynnig ystod eang o fagiau â phrisiau gwahanol ac eitemau ychwanegol fel compost ac wyau.”

Gwneud gwahaniaeth...Yr hyn y mae’n ei olygu i’r Gymuned Leol.

• Amrywiaeth o ddewisiadau i gyd-fynd â’u hanghenion – bagiau bach/mawr, archebion wythnosol/bob pythefnos

• Cynnyrch fforddiadwy, o ansawdd ar drothwy’r drws

Ym mis Rhagfyr, cynhaliodd yr Uned Adfywio Gwledig Gystadleuaeth Dylunio Cerdyn Nadolig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Yr enillydd haeddiannol oedd George Evans, 10 oed o Ysgol Bro Carmel yn Sir y Fflint, a’i Santa Llysiau ef oedd cerdyn Nadolig yr Uned Adfywio Gwledig ar gyfer 2011.

Da iawn ti George, oddi wrth bawb yn yr Uned Adfywio Gwledig.

Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig

Page 8: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

8

Canmoliaeth i gydweithfa fwyd yn ennill gwobr ffrwythau a llysiauMae barn Judith Gavin, o’r Rhyl, am fwyd iach a llysiau, yn un gadarn, ac mae brawddeg yn canmol y Gydweithfa Fwyd lle mae’n gweithio wedi ennill cyflenwad o ffrwythau, llysiau a salad am ddim iddi am fis.

Mae Judith yn gweithio ym mhrif swyddfa Grwp Tai Pennaf yn Llanelwy lle mae’r staff wedi sefydlu Cydweithfa Fwyd wythnosol gyda chymorth yr Uned Adfywio Gwledig. Bob wythnos mae staff yn archebu bag o ffrwythau, llysiau neu eitemau salad tymhorol am £3 yr un, sy’n cael eu darparu gan ffermwr lleol, Huson Produce ym Mhenarlâg, a’u rhoi mewn bagiau gan y staff eu hunain er mwyn cadw’r costau’n isel.

“Y cwbl wnes i oedd anfon gair i’r Uned Adfywio Gwledig yn dweud fy mod wrth fy modd yn defnyddio’r Gydweithfa Fwyd am ei bod yn cefnogi ffermwyr lleol, yn cwtogi ar yr ôl troed carbon, yn lleihau fy miliau bwyd ac yn ffordd hwyliog o gadw’n iach.”

Derbyniodd Judith y cyntaf o’i chyflenwad pedair wythnos ddydd Gwener diwethaf gan Weithiwr Datblygu Bwyd yr Uned Adfywio Gwledig, Karen Robertson.

Dywedodd Karen fod yr Uned Adfywio Gwledig wedi trefnu cystadlaethau ledled Cymru i helpu i hyrwyddo

Cydweithfeydd Bwyd ac ychwanegodd fod brawddeg fuddugol Judith o Gonwy a Sir Ddinbych wedi crynhoi’r fenter yn berffaith:

“Mae Cydweithfeydd Bwyd mewn llawer o leoliadau cymunedol ac yn ogystal â threfnu un yn eu Prif Swyddfa yn Llanelwy, mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, sydd yn rhan o Grwp Pennnaf, wedi mynd ati i’w sefydlu mewn cynllun tai gwarchod yn Abergele, ac mewn Cynllun Gofal Ychwanegol ar gyfer pobl Hyn yn y Rhyl. Diolch i bawb sydd yn helpu i gynnal y gydweithfa fwyd yn Pennaf am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i’r prosiect. Daeth hyn i’r amlwg ym mrawddeg Judith yn y gystadleuaeth” dywedodd Karen.

Am fwy o fanylion am eich Cydweithfa Fwyd leol, neu am wybodaeth ynglyn â’r ffordd i sefydlu un eich hun, ewch i wefan yr Uned Adfywio Gwledig yn www.ruralregeneration.org.uk.

Ffrwythau a llysiau am ddim i un cwsmer lwcusYm mis Tachwedd 2011, Gaenor Watts, un o gwsmeriaid cydweithfa fwyd, oedd enillydd lwcus y gystadleuaeth ‘Un Mis Am Ddim’ ar gyfer cydweithfeydd bwyd Wrecsam a Sir y Fflint. Mae Gaenor wedi cael ei ffrwythau, ei llysiau a’i salad am ddim am un mis yn ei chydweithfa fwyd leol yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt, Wrecsam.

Cymerodd Gaenor ran yn y gystadleuaeth trwy ddweud wrth yr Uned Adfywio Gwledig;

“Rwyf wrth fy modd yn defnyddio’r gydweithfa fwyd am ei bod yn adnodd lleol i’r gymuned gyfan, sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr cymunedol. Mae’n gynnyrch lleol, ffres, sydd yn rhoi gwerth ac amrywiaeth rhagorol. Byddwn yn ffôl i beidio!”

Swyddog CC Pennaf, Judith Gavin, Canol, yn derbyn y cyntaf o’i phedair wythnos o ffrwythau a llysiau am ddim gan Karen Robertson, chwith, Gweithiwr Datblygu Bwyd Gogledd Cymru i’r Uned Adfywio Gwledig a Lisa Dodd, Cynghorydd CC Pennaf a threfnydd Cydweithfa Fwyd, ar y dde.

(o’r Chwith i’r Dde) Gwirfoddolwyr- Eunice Curbishley, Elaine Roberts, Jackie Naylor, Enillydd – Gaenor ac Osian Watts

Page 9: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

9

AdnoddauPrydau Arbennig Newid Am Oes Mae llyfryn newydd Newid am Oes newydd wedi cael ei greu gan Lywodraeth Cymru. Mae ‘Prydau Arbennig’ yn llyfryn ryseitiau sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac yn hawdd i’w ddefnyddio gydag awgrymiadau am brif brydau am bythefnos. I archebu copi o Brydau Arbennig, cysylltwch â Newid am Oes yn [email protected].

Catalog Adnoddau Canolfan Genedlaethol Sefydliad Prydeinig Y GalonMae catalog adnoddau a hyfforddiant newydd ar gael gan Ganolfan Genedlaethol Sefydliad Prydeinig y Galon. Mae’r catalog yn rhoi manylion adnoddau sy’n addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda phlant/pobl ifanc, oedolion hyn ac mewn gofal sylfaenol. Am fwy o wybodaeth ac i gael gafael ar y catalog, ewch i www.bhfactive.org.uk/homepage-resources-and-publications-item/288/index.html.

Fforwm Cenedlaethol y Galon Mae Fforwm Cenedlaethol y Galon yn gynghrair elusennol o sefydliadau proffesiynol a budd y cyhoedd sydd yn gweithio i leihau’r perygl o glefydau cronig y gellir eu hosgoi trwy ddatblygu polisïau iechyd y cyhoedd yn seiliedig ar dystiolaeth a chynorthwyo i’w gweithredu trwy eiriolaeth a gwybodaeth.

Mae Fforwm Cenedlaethol y Galon yn darparu ystod o offer ac adnoddau gwybodaeth arbenigol sydd wedi eu cynllunio i gefnogi ymarferwyr iechyd y cyhoedd.

Gellir defnyddio’r adnoddau yn rhad ac am ddim, ac maent yn cynnwys diweddariadau ymwybyddiaeth gyfredol, eLyfrgell Clefydau Cronig sydd yn gronfa ddata chwiliadwy o wybodaeth am iechyd y cyhoedd, a gwefannau’r Ganolfan Dysgu am Ordewdra a Panacea. Mae’r gwasanaethau i gyd ar gael neu ceir dolenni iddynt ar wefan Fforwm Cenedlaethol y Galon www.heartforum.org.uk.

Am fwy o wybodaeth am Fforwm Cenedlaethol y Galon ffoniwch 020 7831 7420.

Teithiau cerdded trefol Sir Gaerfyrddin Yn ystod mis Chwefror 2012, bydd Am Dro am Glonc Sir Gâr, mewn partneriaeth ag Urbanwalks a Chyngor Sir Gaerfyrddin, yn ail-lansio cyfres o lyfrynnau teithiau cerdded trefol yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd llyfrynnau Urbanwalks yn help i annog pobl yn Sir Gaerfyrddin i fynd allan i’w cymuned leol a cherdded. Mae fformat unigryw y llyfrynnau yn hyrwyddo amrywiaeth o lwybrau cylchol hyd gwahanol yn nhrefi Sir Gaerfyrddin. Gall y llwybrau helpu pobl i weithio tuag at y canllaw o 30 munud bum gwaith yr wythnos a helpu i gyflawni’r her o 10,000 o gamau’r dydd gyda phob llwybr yn cael ei fapio mewn camau.

Mae’r llyfrynnau dwyieithog yn cynnwys Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Phorth Tywyn.

Am fwy o wybodaeth am y llyfrynnau, cysylltwch â: Caroline Nichols, Ymarferydd Hybu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 01267 225073 neu ebost [email protected].

Page 10: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

10

Cynllun cynyddu gallu deietegol – hyfforddiant sgiliau bwyd a maeth cymunedol I lawrlwytho Diweddariad diweddaraf y Cwrs Maeth ar gyfer y rheiny sydd wedi gwneud Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol, ewch i dudalen Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol yn adran Mentrau Cymunedol gwefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru www.gweithgareddcorfforolamaethcymru.org.uk.

Cysylltwch â Beth Preece os ydych eisiau cael copi called o ddiweddariad y Cwrs Maeth.

Hysbysfwrdd

Mae Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Wrecsam ar gyfer Cludfwyd Cynnes yn gorfodi ardal dan waharddiad o 400 metr (10 munud o gerdded) o amgylch ysgolion a cholegau trydyddol ar gyfer ceisiadau newydd am siopau cludfwyd cynnes newydd. Mae’r darn pwysig hwn o waith polisi yn rhan fach o Strategaeth Bwyta’n Iach a Bod yn Fwy Egnïol llawer ehangach lle mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu nifer sylweddol o fentrau i gyfrannu tuag at leihau gordewdra yn Wrecsam, yn arbennig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Cafodd y polisi ei lywio gan Ganllaw Iechyd y Cyhoedd 25 NICE (Mehefin 2010), sef Atal clefydau cardiofasgwlaidd ar lefel y boblogaeth – Argymhelliad 11.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected]

Wrecsam yn cael llwyddiant cynllunio i fynd i’r afael â gordewdra mewn plentyndod

Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol yn cyhoeddi Bwrdd Rheoli Cenedlaethol newydd Cymru.

Mae’r Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA) wedi cyhoeddi manylion Bwrdd Rheoli Cenedlaethol newydd Cymru.

Bwriad y Sefydliad, a lansiwyd yn 2011, yw cynrychioli’r miliwn o weithwyr proffesiynol yn y DU sy’n gweithio ym myd chwaraeon a gweithgaredd corfforol gydag un llais unedig. Cafodd ei brif amcan – codi safonau ar draws y sector – ei gydnabod trwy ddyfarniad statws Siartredig gan y Cyfrin Gyngor, a ddaeth i rym fis diwethaf.

Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan Julian Leybourne, Prif Swyddog Gweithredol ICON TRAINING, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau amrywiol y sector chwaraeon a gweithgaredd corfforol: Richard Proctor o Bay Leisure, sy’n rhedeg yr LC yn Abertawe; Kerry Ann Sheppard o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Simon Hughes o Parkwood Leisure a Jeremy Rowe o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Nathan Harris, myfyriwr Datblygu Chwaraeon ym Mhrifysgol Morgannwg, hefyd wedi cael ei groesawu ar y Bwrdd fel rhan o Raglen genedlaethol ‘Rising Talent’ CIMSPA (@cimspa_rt), sydd yn ceisio annog gweithlu yfory i groesawu datblygiad proffesiynol ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Yn arbennig, mae Mr Leybourne yn ceisio cynorthwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflenwi strategaeth Llywodraeth Cymru i ‘Greu Cymru egnïol’, ac mae wedi cael gwahoddiad i ymuno â Grwp Cynghori’r Gweinidog ar Weithgaredd Corfforol. Nododd, “Yn CIMSPA Cymru rydym yn gweithio i godi safonau a phroffil y sector, ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn gwella iechyd a lles y genedl.”

Am fwy o wybodaeth am waith CIMSPA a sut i gymryd rhan, ewch i’r wefan yn www.cimspa.co.uk.

Cyhoeddi Bwrdd Rheoli Cenedlaethol Newydd Cymru

Page 11: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

11

Digwyddiadau

Digwyddiad Cau Mentro AllanCynhaliwyd digwyddiad cau prosiect Mentro Allan yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2011.

Roedd Mentro Allan yn rhaglen bum mlynedd a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr a wnaeth fynd i’r afael â nodau strategol strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cymru gan geisio datblygu sail dystiolaeth er mwyn i bobl yng Nghymru ddeall:

Cefnogodd y rhaglen 14 o brosiectau amrywiol ledled Cymru gan weithio gyda phobl ifanc oedd mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol, pobl o ardaloedd difreintiedig, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl hyn, pobl ag anableddau corfforol a dysgu a phobl mewn ardaloedd gwledig a gofalwyr.

Mae’r rhaglen wedi arwain at gyfres o adnoddau dysgu sydd ar gael yn sgil trosolwg o’r materion ar gyfer grwpiau dethol a gwybodaeth ymarferol ynglyn â’r ffordd i ddylunio rhaglen o weithgareddau a pha gymorth sydd ei angen. Ceir dros 20 o astudiaethau achos yn rhoi enghreifftiau gwirioneddol ac yn awgrymu dulliau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth neu i lawrlwytho adroddiadau’r prosiect, ewch i wefan Mentro Allan http://www.mentroallan.co.uk/index.php

Dylunio Plât IachMae Adran Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnal cystadleuaeth ‘dylunio plât iach’ yn eu hysgolion cynradd dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Cafodd y ceisiadau buddugol eu dethol i’w cynnwys ar Fwydlen yr Ysgol ac mae’r disgyblion wedi derbyn tystysgrif. Mae’r gystadleuaeth yn ategu Grwpiau Gweithredu ar Faeth yn yr ysgol, sy’n cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Joshua Davies sy’n mynychu Ysgol Stryd y Rhos yn Rhuthun, Sir Ddinbych

Mae Mend ym Mhowys yn ymestyn i gynnwys ardal y Trallwng. Mae rhaglen newydd yn dechrau ym mis Chwefror 2012.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Craig Jones – Rheolwr Prosiect MEND ar 01639 844854 neu ebost [email protected] neu www.mendcentral.org

Mend ym Mhowys yn Ymestyn

• y ffordd y mae pobl nad ydynt yn egnïol yn draddodiadol yn newid eu hymddygiad

• pa anghenion cymorth sydd eu hangen ar gyfer grwpiau demograffig penodol

• swyddogaeth gweithgaredd mewn lleoliadau awyr agored yn newid ymddygiad

• pa strwythurau trefniadaeth a phartneriaeth sy’n gweithio orau

Page 12: Cnoi Cil - Home | Public Health Network Cymru€¦ · a gweithgarwch corfforol yng Nghymru Cnoi Cil Chwefror 2012 | Rhifyn 34 Ymchwil newydd yng Nghymru’n datgelu bod garddio rhandir

12

Canolfan Iechyd Cymru sy’n gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu’r cylchlythyr Cnoi Cil ond mae’n defnyddio cwmni allanol i ddosbarthu copïau ohono, sef RMG: Research and Marketing Group. Os nad ydych yn fodlon i’ch manylion cyswllt gael eu trosglwyddo i Research and Marketing Limited er mwyn dosbarthu’r cylchlythyr Cnoi Cil cysylltwch â: Iechyd Cyhoeddus Cymru, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu ffoniwch 029 2022 7744. Chwefror 2012 © Hawlfraint y Goron

Amdanom Ni

Cnoi Cil yw cylchlythyr copi caled Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru wedi ei anelu at fentrau bwyd a gweithgaredd corfforol cymunedol.

Anfonwch eich cyfraniadau ar gyfer rhifynnau o Gnoi Cil yn y dyfodol at Beth Preece yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu anfonwch e-bost [email protected].

Mae’r wefan www.gweithgareddcorfforolamaeth cymru.org.uk yn cynnwys ystod eang o wybodaeth am faeth a gweithgaredd corfforol yng Nghymru. Ewch i’r wefan i gofrestru fel aelod o’r Rhwydweithiau.

Mae bwrdd cynghori yn arwain ac yn goruchwylio gwaith Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru.

Os hoffech roi mewnbwn neu adborth ar waith y Rhwydweithiau, ffoniwch 029 2022 7744 neu ewch i’r adran Amdanom Ni ar wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru.

Mae adroddiad blynyddol ar gyfer 2010 – 2011 wedi cael ei ddatblygu yn rhoi manylion gweithgaredd Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ac mae ar gael ar y wefan neu gan Beth Preece.

Digwyddiadau

Mae Food Glorious Food: Are You What You Eat? (Cwrs Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth) yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Technoleg Amgen, Machynlleth.

Mae’n gwrs dwys dros benwythnos o 10am-4.30pm ar 23-25 Mawrth 2012. £80 (Mae Consesiynau a Hepgoriadau Tâl ar gael).

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno elfennau sylfaenol o’r ffordd y mae’r system dreulio ddynol yn gweithio: pa faethynnau sy’n bresennol yn y bwydydd: sut i ddehongli labeli bwyd a’r ffordd i gael deiet cytbwys.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Paula Hughes ebost [email protected].

Food Glorious Food

Bydd Cynlluniau Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yng Nghymru yn recriwtio atgyfeiriadau addas i gymryd rhan mewn taith gerdded o dan oruchwyliaeth ar hyd “Llwybr Arfordir Cymru”; i hybu’r defnydd o’r awyr agored er mwyn cynyddu gweithgaredd i wella iechyd a lles. Bydd pob taith gerdded iechyd NERS yn dechrau am 10am ar 5 Mai 2012. Dymuna Jeannie Wyatt-Williams (Cydlynydd NERS ar gyfer Cymru) ddiolch i Gymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn llawn cymorth yn nodi llwybrau cerdded addas.

Am fwy o wybodaeth am deithiau cerdded yn eich ardal, ewch i http://www.ccw.gov.uk/enjoying-the-country/wales-coast-path.aspx

Taith Gerdded Arfordirol Fawr Cymru Y Cynllun Atgyfeirio Cleifion I Wneud Ymarfer Corff