Help Llaw Byw Yn y rhifyn hwn.... Td 13 Tan y Fron yn Croesawu Preswylwyr Td 3 Gwefan Newydd Clwyd Alyn Y tu mewn hefyd.... Td 5 Y Diweddaraf am Gredyd Cynhwysol Td 7 Ymweliad â’r Senedd Td 12 Byw’n Iach A llawer llawer mwy ...... Cylchlythyr Preswylwyr – Haf 2014 Preswylwyr o bob oed yn Nhreuddyn yn helpu i wella bioamrywiaeth eu hardal. Gweler tudalen 8-9. Ffoniwch: 0800 183 5757 neu 01745 536800 E-bost: [email protected]Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus Elusennol. www.clwydalyn.co.uk Agor Drysau – Gwella Bywydau 1
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn: Cylchlythyr Preswylwyr.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Help llaw
Byw
Yn y rhifyn hwn....
Td 13 Tan y Fron yn Croesawu Preswylwyr
Td 3 Gwefan Newydd Clwyd Alyn
Y tu mewn hefyd....
Td 5 Y Diweddaraf am
Gredyd Cynhwysol
Td 7 Ymweliad â’r Senedd
Td 12 Byw’n iach
A llawer llawer mwy......
Cylchlythyr Preswylwyr – Haf 2014
Preswylwyr o bob oed yn Nhreuddyn yn helpu i wella
WRTH FYND i’R WASG! AELODAu NEWYDD BWRDD CLWYD ALYNRydym yn falch o gyhoeddi, yn dilyn proses ymgeisio lwyddiannus fod gennym ddau Aelod Newydd o’r Bwrdd sydd hefyd yn breswylwyr a gymerodd eu lle ar y Bwrdd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Clwyd Alyn ar 8 Gorffennaf. Sef Michael Spencer o Fochdre a Harold Martin o Brestatyn. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth ar yr hyn y byddant yn ei wneud yn ein cylchlythyr nesaf.
EiN PANEL GOLYGYDDOL
Rydym wedi ein cyffroi yn fawr o gael cyhoeddi ein bod wedi lansio ein gwefan newydd ar gyfer Clwyd Alyn. Mae’r safle newydd yn llawer haws ei ddefnyddio, yn apelio i’r llygad ac yn rhoi sylw i’r holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Byddwch yn gallu cael mynediad cyflym a rhwydd at wybodaeth hanfodol, gallwch weld pa ddigwyddiadau sy’n digwydd yn eich sir, cartrefi sy’n cael eu datblygu, gweld pwy yw eich Swyddog Tai a llawer mwy!
Pam na wnewch chi gael golwg ar y safle newydd, ewch i: www.clwydalyn.co.uk
Byddem yn croesawu eich adborth ar y wefan newydd, anfonwch e-bost at: [email protected]
CYNNWYS td
ÃÃ Brandio Newydd 3
ÃÃ Fforwm Prydleswyr 4
ÃÃ Y Diweddaraf am 5 Gredyd Cynhwysol
ÃÃ Tlodi Bwyd 6
ÃÃ Ymweliad â San Steffan 7
ÃÃ Digwyddiadau 8 Cymunedol
ÃÃ Arbed Ynni 10
ÃÃ Anrheg Hurst Newton 11
ÃÃ Byw’n iach 12
ÃÃ Tan y Fron 13
ÃÃ Llifogydd Llanelwy 14
ÃÃ Cynnal a Chadw wedi 15 ei Gynllunio
ÃÃ Dyddiau Cysgodi 16 Staff Clwyd Alyn
ÃÃ Cystadleuaeth Arddio 16
Gareth Hughes-Roberts. Cylchlythyr y Preswylwyr, 72 Ffordd William Morgan , Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.
BRANDiO NEWYDD
3
Gwefan newydd i Clwyd Alyn
Gw
yb
od
ae
th
ar y
Cyfry
ng
au
Cym
de
itha
sol
Peidiwch ag anghofio cael
golwg ar ein tudalennau Facebook a
Twitter, lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd. Rhowch
neges ar ein wal os byddwch am ofyn rhywbeth,
darganfod rhagor am yr hyn sy’n mynd ymlaen
yn eich ardal a beth yr ydym yn ei wneud yn
eich cymuned. Byddwn yn rhoi’r diweddaraf am
wasanaethau yn ogystal â newyddion gan y Grŵp,
datblygiadau, swyddi gwag, gwybodaeth
am bartneriaid a digwyddiadau lleol.
Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup
Dilynwch ni: @PennafHGroup
Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn gweithio ar frand newydd i Grŵp Tai Pennaf! Mae’r brand
yn adleisio’r cwlwm Celtaidd trwy siâp hecsagon, yn arddangos pob un o frandiau’r sefydliad mewn
ffordd gyfeillgar, fywiog a deinamig.
Mae pob un o’r brandiau unigol hefyd yn darlunio ac yn dangos y cyswllt o fod yn rhan o Grŵp, trwy fod ar siâp hecsagon.
Mae’r symbolau a’r brandio gwreiddiol yn cael eu dangos yn glir yn y canol, er enghraifft ar
gyfer Clwyd Alyn, mae’r tŷ CTCA wedi ei osod yn y canol mewn ffordd lawer
mwy modern.
BRANDiO NEWYDD!
ÃÃ Is-osod – cytunwyd na fyddid yn dilyn mwy ar y mater hwn ac atgoffa prydleswyr nad yw eu prydles yn caniatáu i brydleswyr rentu eu heiddo i eraill
ÃÃ Cytunodd y Cyfarfod ar Gynllun Gweithredu i ymdrin â’r materion a godwyd yn yr arolwg bodlonrwydd diweddar (gweler yr erthygl Cynllun Gweithredu)
ÃÃ Ffioedd Rheoli
ÃÃ Adroddiad archwilio prydlesu
ÃÃ Rhestr o gontractwyr lleol cymeradwy
ÃÃ Cynllun Gweithredu i ymdrin â chanlyniadau’r arolwg bodlonrwydd.
Cyhoeddwyd canlyniadau’r arolwg diweddar o’r holl brydleswyr yn y Cylchlythyr diwethaf. Ers hynny, mae’r Fforwm Prydleswyr wedi cytuno ar Gynllun Gweithredu sy’n cynnwys y canlynol:
ÃÃ Bydd y Tîm yn mynychu’r holl ddigwyddiadau yn y dyfodol sy’n rhyngweithio gyda phreswylwyr a hybu’r gwaith y mae’r Tîm yn ei wneud
ÃÃ Yn ystod 2014/2015 cynhelir adolygiad llawn o daliadau rheoli i geisio cael taliadau tebyg ar draws yr holl gynlluniau
ÃÃ Rhaid i archwiliadau misol gael cylch ehangach i gyfathrebu gyda’r rhanberchenogion mewn stoc gwasgaredig
ÃÃ Yn ystod 2014/2015 bydd y Tîm yn anelu i ffurfio o leiaf un Gymdeithas Breswylwyr arall sy’n cael ei chydnabod
ÃÃ Bydd y Tîm yn hyrwyddo’r prosesau ‘Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael’ ac yn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gwybod am bob ffurf ar ddewisiadau perchenogaeth cartref
ÃÃ Bydd Fforwm y Prydleswyr yn cynhyrchu cylchlythyr prydleswyr arbenigol yn ystod 2014/2015.
Diogelwch NwyAtgoffir yr holl brydleswyr bod pob perchennog eiddo, (gan gynnwys prydleswyr rhanberchenogaeth) yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod eu ffitiadau nwy a’u hoffer yn ddiogel ac yn gweithio’n dda – fe’ch cynghorir i gael gwiriad ar bopeth yn flynyddol gan osodwr sydd wedi cofrestru â Gas Safe.
Un broblem fawr sy’n cael ei hachosi gan ddiffygion yw gwenwyno oherwydd carbon monocsid, a all ladd mewn llai na 2 awr. Mae’n nwy heb unrhyw arogl na blas ac mae’n hollol anweledig, gan ladd hyd at 50 o bobl y flwyddyn ac achosi cannoedd o anafiadau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar yr holl faterion diogelwch nwy o wefan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch: www.hse.gov.uk/gas/index
Ffenestri Newydd Trwy gydol 2013/2014 fe wnaeth y Tîm waith newid ffenestri ar yr holl gynlluniau prydlesu i’r henoed. Y cynllun diweddaraf yw Tŷ Gwylfa, Prestatyn. Mae’r preswylwyr yn rhoi adborth da am ein contractwr – Snowdonia Windows.
Fforwm y PrydleswyrCynhaliwyd y Fforwm Prydleswyr ar 6 Chwefror 2014, a daeth 8 prydleswyr yno, gan drafod y materion canlynol:
PRYDLESWYR
4
GWEiTHDREFN GWYNiON A CHANmOLiAETHAtgoffir y preswylwyr, os oes gennych unrhyw gwynion am berfformiad ein gwasanaeth prydlesu, neu yn wir unrhyw ganmoliaeth yr ydych am ei rhoi, yn y lle cyntaf cysylltwch â Rob Hopkins – Rheolwr Prydlesu a Gwerthu ar 0745 536824 neu trwy e-bost at:
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 5
Y DiWEDDARAF Am GREDYD CYNHWYSOL
Yng Ngogledd Cymru, cychwynnodd Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno yng Nghanolfan Waith Shotton o 7 Ebrill 2014. Ond, ar hyn o bryd, dim ond i ymgeiswyr newydd sy’n byw yn yr ardaloedd cod post CH5 1,CH5 2,CH5 3,CH5 4 a CH5 9 sy’n bodloni’r meini prawf hawlydd y bydd hyn yn berthnasol, ac ar gyfer y cam hwn mae’n eithrio cyplau, aelwydydd â phlant, a’r rhai sy’n byw mewn rhai mathau o dai â chefnogaeth. Yn ychwanegol mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i rai o oedran gwaith ac felly ni fydd yn berthnasol i rai sydd o oedran pensiwn.
Y Diweddaraf am Gredyd CynhwysolCredyd Cynhwysol yw’r Budd-dal newydd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gyflwyno dros y blynyddoedd nesaf a dan eu cynigion bydd y rhan fwyaf o’r amrywiaeth o fudd-daliadau y gall Preswylwyr eu derbyn yn cael eu dwyn at ei gilydd mewn un taliad misol i’r Preswyliwr.
Mae rhai elfennau allweddol o Gredyd Cynhwysol y dylai Preswylwyr fod yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys:
à Bydd taliadau yn cael eu gwneud yn fisol yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc
à Dim ond un taliad misol y byddwch yn ei dderbyn a fydd yn cynnwys cymorth gyda Chostau Tai (Budd-dal Tai)
O ganlyniad rhaid i Breswylwyr ystyried unrhyw oblygiadau o ran cyllideb o dderbyn taliadau misol
yn ofalus, yn arbennig os ydych yn arfer derbyn taliadau bob pythefnos. Hefyd, gan y bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys help tuag at y rhent, rhaid i Breswylwyr sicrhau eu bod wedi gwneud trefniadau i dalu eu rhent yn unol ag ymrwymiadau eu tenantiaeth.
Mae gan Clwyd Alyn swyddogion a all gynorthwyo Preswylwyr gydag unrhyw anawsterau cyllidebu a phetai arnoch angen help yna cysylltwch â ni ar 0800 183 5757.
Felly, os ydych yn berson sengl o oedran gwaith sy’n hawlio o’r newydd yn unrhyw un o’r ardaloedd uchod, byddwch yn awr yn derbyn Credyd Cynhwysol ac nid y budd-daliadau ar sail modd y mae’n eu disodli fel Cymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Ar Sail Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Ar Sail Incwm), Credydau Treth a Budd-dal Tai. Bydd yr hawlwyr presennol yn parhau i dderbyn eu budd-daliadau presennol fel Cymorth Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i’r Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd.
AwgrymiadauamgylcheddolChwiliwch am y logo. Wrth brynu offer newydd;
chwiliwch am y logo ‘Energy Saving Recommended’. Bydd offer
‘Energy Saving Recommended’ yn arbed arian i chi ac yn helpu’r
amgylchedd.
Bob dydd bydd pobl yn y Deyrnas Unedig yn mynd heb fwyd am resymau yn amrywio o ddiswyddo i dderbyn bil annisgwyl ar incwm isel.
Yn 2013-14 fe wnaeth banciau bwyd fwydo 913,138 o bobl trwy Brydain. O’r rhai a dderbyniodd help roedd 330,205 yn blant.
Mae’r cynnydd ym mhrisiau bwyd a thanwydd, incwm ddim yn codi, diweithdra a newidiadau i fudd-daliadau yn rhai o’r rhesymau pam fod niferoedd cynyddol yn cael eu cyfeirio at fanciau bwyd i gael bwyd rhag argyfwng.
Mae banciau bwyd yn helpu i atal troseddu, colli tai, teuluoedd yn chwalu a phroblemau iechyd meddwl. Mae bocs syml o fwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae’r holl fwyd yn cael ei roi gan y cyhoedd a’i ddidoli gan wirfoddolwyr. Mae gweithwyr gofal proffesiynol fel meddygon a gweithwyr cymdeithasol yn dynodi pobl sydd mewn argyfwng ac yn rhoi taleb bwyd iddyn nhw.
Bydd y cleientiaid yn derbyn tri diwrnod o fwyd sy’n gytbwys o ran maeth, na fydd yn pydru yn gyfnewid am eu taleb bwyd. Mae banciau bwyd hefyd yn rhoi amser i siarad ac i gyfeirio cleientiaid at wasanaethau eraill fydd o gymorth.
Pam fod ar bobl angen bwyd argyfwng?
Heddiw mae pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn cael trafferth bwydo eu hunain a’u teuluoedd. Gall colli gwaith, salwch, oedi wrth dderbyn budd-daliadau, trais domestig, dyledion, teulu yn chwalu a thalu am gostau ychwanegol gwresogi yn ystod y gaeaf fod yn rhai o’r rhesymau pam fod pobl yn mynd heb fwyd.
Y cynnydd pryderus mewn tlodi bwyd yn y Deyrnas unedig
TLODi BWYD
6
Mae 13 miliwn o bobl yn byw dan y terfyn tlodi yn y Deyrnas Unedig.
AwgrymiadauamgylcheddolMae mantelli lampau tywyll yn rhoi llai o olau, felly
defnyddiwch rai goleuach i wneud y mwyaf o’r ynni.
Rhoddwyd y wybodaeth yn yr erthygl hon gan y
Trussell Trust, un o’r banciau bwyd mwyaf yn y Deyrnas
Unedig. Am ragor o wybodaeth am fanciau bwyd ewch i www.
trusselltrust.org/foodbank-projects neu ffoniwch nhw ar
01722 580 180
Beth sydd mewn bocs bwyd?
Mae pob bocs bwyd yn cynnwys o leiaf dri diwrnod o fwyd cytbwys o ran maeth na fydd yn pydru.
Mae banciau bwyd yn dibynnu ar gefnogaeth cymunedau lleol. Bydd parsel nodweddiadol yn cynnwys y rhan fwyaf o’r canlynol:
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 7
mae 71 eiddo yn cael ei ailfeddiannu
(ar sail tueddiadau Ch1 2014).
Mae’n costio cyfartaledd o
£29.65 y dydd i fagu plentyn o’i eni
hyd 21 oed.
Bu preswylwyr o Gynllun Byw â Chefnogaeth Llys Emlyn Williams yn Nhreffynnon, yn ymweld â San Steffan yn ddiweddar ar ôl gwneud argraff ar eu AS lleol gyda’u diddordeb mewn materion sy’n effeithio ar bobl ifanc yn yr ardal.
Yn ddiweddar bu David Hanson AS Delyn mewn ‘Trafodaeth Fawr’ yn Llys Emlyn Williams. Fe wnaeth eu brwdfrydedd
a’u diddordeb mewn materion cyfoes a’r problemau sy’n effeithio arnyn nhw gymaint o argraff arno fel ei fod wedi gwahodd grŵp ohonynt i lawr i gael taith o gwmpas Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Ariannwyd y costau teithio ar gyfer y daith gan Clwyd Alyn, gyda grant o £606 o’r Gronfa Gyffredin Gorfforaethol.
Roedd y preswylwyr wrth eu bodd â’u taith, a wnaeth nid yn unig helpu i hyrwyddo eu hannibyniaeth a’u hunan hyder, ond hefyd ddangos sut y gall pobl ifanc gael llais gwirioneddol yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
AwgrymiadauamgylcheddolMae mantelli lampau tywyll yn rhoi llai o olau, felly
defnyddiwch rai goleuach i wneud y mwyaf o’r ynni.
Rhoddwyd y wybodaeth yn yr erthygl hon gan y
Trussell Trust, un o’r banciau bwyd mwyaf yn y Deyrnas
Unedig. Am ragor o wybodaeth am fanciau bwyd ewch i www.
trusselltrust.org/foodbank-projects neu ffoniwch nhw ar
01722 580 180
Mae 277 o bobl yn cael eu datgan
yn fethdalwyr. Mae hyn yn cyfateb i
un unigolyn bob 5 munud 12 eiliad.
Casglwyd y wybodaeth hon ac fe’i cyflenwyd gan themoneycharity.org.uk
DigwyDDiaDau CymuneDol
Bu’n 6 mis prysur iawn, gyda llawer o brosiectau cyffrous a digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal ar draws Gogledd Cymru, o gerfio pwmpen Galan Gaeaf i wneud DVD ar gyfer yr Wythnos Arbed Ynni Fawr a gwneud blychau nythu!
Lucas Scott o’r Rhy
l, yn ennill ein
cystadleuaeth liwio i
rai 7-11 oed
dan nawdd Tesco, Yr
Wyddgrug.Layton Burns o Gaergybi, yn ennill ein cystadleuaeth liwio i rai 7-11 oed dan nawdd Tesco, Yr Wyddgrug. Da iawn Layton!
Helfa Pryfa
id a hel
ysbwriel y
n Aberkins
ey,
y Rhyl gy
da’r prif
gasglwyr
ysbwriel,
Maddie Ro
yles, Mason
Higgins a R
oan Oakley
.
Hwyl yn codi ofn gyda hud a lledrith a cherfio pwmpen yng Ngaerwen ar noson Calan Gaeaf.
Trigolion Treuddyn
yn rhoi anrhegion i’r
bywyd gwyllt lleol
gyda byrddau adar a
gwesty pryfed fel bod
pryfed yn gallu cadw’n
gynnes dros y gaeaf.
AwgrymiadauamgylcheddolArbedwch ynni trwy olchi ar dymheredd is. Gall golchi
dillad ar 30o C yn hytrach na
thymheredd uwch ddefnyddio tua 40% yn llai o drydan.
8
Ymweliad Ysgol Glan Gele a chynllun tai cysgodol Pentre Mawr i ganu carolau Nadolig!
Preswylwyr yn dysgu sut i
wneud bara yn Tesco, iym!
Preswylwyr o Gynllun
Gofal Ychwanegol Gorwel
Newydd a gododd £350 at
gronfa Lifogydd y Maer,
da iawn pawb a rhoddwyd
y siec i Faer y Rhyl.
Cychwyn tymo
r y Nadolig
trwy wneud to
rchau blodau
yng Nghynllun
Gofal Ychwaneg
ol
Llys Eleanor gy
da phreswylwy
r
o Hafan Glyd,
Shotton.
Preswylwyr ifanc gyda Kirsty Amarakoon sydd yn y llun, yn Llys David Lord, Wrecsam, yn helpu bywyd gwyllt lleol trwy adeiladu byrddau bwyd adar a blychau nythu!
Plant a phobl ifanc o gymunedau Garden City a Sealand yng Nglannau Dyfrdwy yn dathlu eu gwyliau hanner tymor gyda disgo cymunedol.
AwgrymiadauamgylcheddolArbedwch ynni trwy olchi ar dymheredd is. Gall golchi
dillad ar 30o C yn hytrach na
thymheredd uwch ddefnyddio tua 40% yn llai o drydan.
9Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014
Gwiriwch eich biliau yn ofalus a darllen eich mesurydd yn gyson. Trwy hyn gallwch wirio faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio a sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir.
Siaradwch â’ch cyflenwr os byddwch yn meddwl fod eich bil yn anghywir neu eich bod yn cael trafferth talu. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi am y gefnogaeth sydd ar gael neu drafod eich dewisiadau ad-dalu.
Os yw arian yn brin, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth yn lleol. Fe fyddan nhw’n gallu gwirio i weld os ydych yn cael y budd-daliadau y mae gennych hawl i’w derbyn neu os gallwch chi gael help i dalu eich biliau.
Sicrhewch eich bod ar y tariff rhataf. Gwiriwch gyda’ch cyflenwr a defnyddio gwefan newid cyflenwr sydd wedi ei hachredu i weld pwy sy’n cynnig y fargen orau. Mae’r prisiau yn newid yn 2014 felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod am eich cynllun presennol ac unrhyw newidiadau y mae eich cyflenwr yn bwriadu eu gwneud.
Mae’r rhan fwyaf o gyflenwyr ynni yn cynnig tariff pris sefydlog, lle bydd pris uned o ynni yn aros yr un fath ar hyd y cytundeb. Gall y rhain fod yn rhatach yn y tymor hir a’i gwneud hi’n haws i gynllunio gwariant – ond efallai y bydd angen i chi dalu trwy ddebyd uniongyrchol a bydd eich biliau yn mynd yn uwch os byddwch yn defnyddio mwy o ynni.
Os byddwch yn defnyddio mesurydd talu ymlaen llaw, cofiwch y bydd taliadau sefydlog yn cael eu hychwanegu bob dydd - hyd yn oed pan na fyddwch yn defnyddio ynni. Gwiriwch faint fyddan nhw a gofalu bod arian yn y mesurydd yn ystod tywydd poeth hyd yn oed i osgoi taliadau annisgwyl.
Os byddwch yn defnyddio tanwydd gwresogi fel eich prif danwydd, prynwch cyn y gaeaf ac edrychwch a oes unrhyw glybiau prynu olew lleol y gallwch ymuno â nhw. Os na, efallai y byddwch am ddechrau un eich hun.
Gwnewch eich cartref yn effeithlon o ran ynni - insiwleiddiwch y nenfydau a’r waliau, rhowch wydr dwbl neu defnyddiwch lenni tew i gadw’r gwres i mewn. Rhowch wasanaeth i’ch bwyler neu newidiwch hi i sicrhau ei bod yn effeithlon o ran ynni. Mae cynlluniau ar gael i’ch cynorthwyo gyda hyn.
Arbedwch arian ac ynni – peidiwch â gadael offer ar y botwm coch neu adael gliniaduron a ffonau symudol i wefru heb angen. Trwsiwch dapiau sy’n gollwng a chofiwch ddiffodd y golau pan fyddwch yn gadael ystafell.
Cynhaliwch wiriad ynni cartref i gael gwybod am arbediadau o hyd at £250 y flwyddyn ar filiau ynni’r aelwyd. Ewch i wiriad ynni cartref
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: hec.est.org.uk.
Defnyddiwch hwn i wirio i gael
adroddiad llawn gyda manylion am ddefnydd ynni eich cartref a’r arbediadau y gallech eu gwneud.
Tenantiaid yn helpu eraill i arbed arian ar ynni
ARBED YNNi
10
Mae tenantiaid wedi bod yn helpu eraill i arbed arian ar eu biliau tanwydd. Bu Mandie Bassett yn gweithio gyda Louise a Gareth (Tîm Ymlyniad a Datblygu Cymunedol y Gymdeithas) i gynhyrchu DVD i rannu gwybodaeth am arbed ynni gydag eraill o bob rhan o’r ardal.
Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.bigenergysavingweek.org.uk
Deg awgrym defnyddiol i’ch helpu i wirio, newid ac inswleiddio
1 6
7
8
9
10
2
3
4
5
www.facebook.com/PennafHGroup
“Mae Mandie yn un o nifer o’n preswylwyr sydd wedi bod yn ein helpu i
gyfleu’r neges ble i gael cyngor a sut i arbed arian ar danwydd,” dywedodd
Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014
Ar 5 Tachwedd, daeth Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 i rym yng Nghymru. Daeth i rym yn Lloegr ym mis Hydref. Is-osod tai cymdeithasol yn anghyfreithlon yw’r categori unigol mwyaf o golledion oherwydd twyll i lywodraeth leol, yn ôl y Comisiwn Archwilio. Amcangyfrifir fod rhyw 98,000
eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu his-osod yn anghyfreithlon (i fyny o
50,000 yn 2009), ar gost o £1.8bn i’r pwrs cyhoeddus.
Nod y Ddeddf yw sicrhau bod tai cymdeithasol yn
parhau ar gael i’r rhai sydd â mwyaf o angen am dai.
Bwriad y Ddeddf yw ymdrin â thwyll tai cymdeithasol trwy:
1. greu trosedd newydd o is-osod tai cymdeithasol;
2. rhoi pwerau i awdurdodau lleol erlyn, boed ar eu rhan eu hunain neu ar ran cymdeithasau tai;
3. darparu na fydd preswylwyr sy’n is-osod yn anghyfreithlon yn gallu cael sicrwydd daliadaeth trwy symud yn ôl i’r eiddo; a
4. rhoi hawliau i adfer unrhyw elw a wnaed o is-osod yn anghyfreithlon gan y preswylwyr trwy “orchymyn elw anghyfreithlon”, er budd y landlord.
Gellir cosbi’r drosedd â dirwy o £5,000 os bydd y tenant yn “fwriadol” wedi is-osod yr eiddo – hynny yw ei fod yn gwybod ei fod yn torri amodau ei denantiaeth. Mae trosedd waeth o is-osod “yn anonest” – sy’n berthnasol pan fydd tenant wedi mynd at i yn fwriadol i wneud elw ar draul y landlord. Gellir cosbi’r drosedd hon â dirwy nad oes cyfyngiad arni a hyd at ddwy flynedd o garchariad.
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhagweld y bydd mwy o bwerau yn cael eu rhoi i’r rhai sy’n ymchwilio i dwyll posibl i gael mwy o fynediad at ddata, a fydd yn cael ei ganiatáu trwy reoliadau.
11
Ymwelodd dau o breswylwyr Hurst Newton, Richard Davies a Jacob Grey ag Ecosystems gyda’r staff i nôl y gliniaduron a roddwyd fel anrheg. Fe wnaeth clywed am y gwahaniaeth y byddai’r rhodd yn ei wneud i’r bobl ifanc gymaint o argraff ar Ecosystems fel eu bod wedi cynnig rhoi 12 gliniadur arall i’r cynllun 12 gwely.
Mae medru defnyddio cyfrifiaduron eisoes wedi cael dylanwad cadarnhaol iawn ar y preswylwyr. Mae’n eu galluogi i ddiweddaru eu CV a chael gwybodaeth am hyfforddiant, swyddi a llety ‘symud ymlaen’ ar-lein, a hefyd mae’n eu helpu wrth iddyn nhw gwblhau cyrsiau hyfforddi a gynigir trwy raglen hyfforddi ODEL Clwyd Alyn.
Dywedodd Chris Littlewood Rheolwr Gyfarwyddwr Ecosystems IT:
“Mae cynllun Hurst Newton yn gynllun rhagorol sy’n cynnig llety diogel a chyfforddus i bobl ifanc ddigartref rhwng 16 a 25 oed. Yn anffodus, mae’n ymddangos fod y grŵp oedran hwn o bobl ddigartref yn llithro trwy gefnogaeth llywodraeth leol a chanolog ac yn y rhan fwyaf o achosion rhaid iddyn nhw edrych ar eu holau eu hunain.
Rhoi lle diogel i’r grŵp hwn yw’r cam cyntaf iddyn nhw fedru cymryd rhan bositif yn ein cymdeithas. Os ydym ni, trwy roi’r offer yr ydym wedi eu casglu a’u hadnewyddu gan gwmnïau lleol fel Moneysupemarket.com, yn gallu helpu i wella bywydau’r bobl sydd ar y cynllun, yna rydym wedi cyflawni gwir ystyr ailgylchu cynaliadwy moesegol.”
Am ragor o wybodaeth am Ecosystems IT gweler eu gwefan www.ecosystems-group.co.uk
Rhodd o gyfrifiadur i gynllun byw â chefnogaeth Hurst Newton
Twyll tai cymdeithasol
“Dywedodd ein cyfeillion yn Moneysupermarket.
com wrthym am Ecosystems sy’n adnewyddu eu holl hen
gyfrifiaduron a phan wnaethom gysylltu â nhw roeddem yn falch iawn eu bod wedi cytuno i roi dau gyfrifiadur, bysellfyrddau, a sgriniau,”
Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol.
i oedolion Gall yr arweiniad bras isod eich helpu i weld a ydych yn cael eich 5 Y DYDD
Mae dogn o ffrwythau (80g) yn fras yn cyfateb i:
ÃÃ Sleisen neu hanner ffrwyth mawr, e.e. sleisen o felon neu hanner grawnffrwyth, sleisen fawr o binafal.ÃÃ 1 ffrwyth canolig e.e. afal, banana,
gellygen, nectarîn ÃÃ 2 ffrwyth bach e.e. 2 eirinen neu
satswma, 7 mefusen.
Mae dogn o ffrwythau sych (30g) yn fras yn cyfateb i:
ÃÃ Llwy fwrdd lawn o ffrwythau sych e.e. sultanas, resins, ffigys.
Mae dogn o lysiau (80g) yn fras yn cyfateb i:
ÃÃ 3 llwy fwrdd lawn o bys, ffa neu godlysiau, e.e. ffa Ffrengig, ffacbysÃÃ 2 sbigyn o frocoli, 4 llwy fwrdd lawn
o ffa gwyrddÃÃ Bowlen bwdin o salad.
i blantMae faint y dylai plant ei fwyta yn dibynnu ar eu maint a’u hoedran. Canllaw da o ran dogn iddyn nhw fyddai faint y gallan nhw ei roi ar gledr eu llaw. Nid oes raid i hyn fod yn ddrud! Gallwch gadw costau yn isel trwy brynu ffrwythau a llysiau tun, sydd ddim yn difetha yn gyflym ond osgowch duniau gyda surop a halen. Mae ffrwythau a llysiau wedi rhewi yn para’n hirach ac mae marchnadoedd lleol yn fannau gwych i gael ffrwythau a llysiau ffres yn rhatach.
Ewch i’r canllawiau a meintiau dognau 5 Y DYDD ar wefannau Change 4 Life a’r GIG: http://www.nhs.uk/Change4Life/Pages/five-a-day.aspx
Byw’n iach –
cael eich 5 y dydd trwy gydol y dydd
12
Rydym yn gwybod i gyd ei bod yn bwysig i ni fwyta amrywiaeth o bum dogn o leiaf y dydd. Ond faint ohonom sy’n llwyddo i wneud hynny mewn gwirionedd?
Maint dogn 5 Y DYDD – faint yw dogn o ffrwythau a llysiau?
Awgrymiadau
amgylcheddol
Defnyddiwch ficrodon yn hytrach
na’r popty pryd bynnag y gallwch.
Maen nhw’n gyflym, rhwydd ac yn
rhad i’w defnyddio. Nid dim ond ar
gyfer ail dwymo a dadrewi y maen
nhw, ond ar gyfer bwyd ffres hefyd.
Mae Tan y Fron yn cynnwys 46 o fflatiau unigol un a dwy ystafell wely o safon o gwmpas iard drawiadol lle gall rhai dros 60 oed fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gan gael mynediad at wasanaethau gofal ac
ystod eang o gyfleusterau cymunedol.
Fe wnaeth symud i Dan y Fron wahaniaeth anferth i fywydau’r preswylwyr:
Tan y Fron – Agor Drysau – Gwella Bywydau
TAN Y FRON
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 13
Mae’r holl denantiaid yn awr wedi symud i gynllun Gofal Ychwanegol newydd Llandudno, gan nodi cyfnod newydd o fyw’n annibynnol i bobl hŷn yn yr ardal.
mrs Beryl Ellison, 82 oed.
“Cyn symud i Dan y Fron roeddwn yn byw mewn cynllun fflatiau preifat ac roedd problem fawr gyda’r cymdogion. Roeddwn yn bryderus y rhan fwyaf o’r amser ac nid oeddwn yn bwyta’n iawn.
Mae symud yma wedi gwneud gwahaniaeth anferth i’m bywyd. Dwi’n fwy parod i gymysgu, dwi’n bwyta’n well, mae fy iechyd a’m lles wedi gwella’n wirioneddol. Mae cael gofal wrth law yn rhoi tawelwch meddwl mawr. Yn Nhan y Fron, mae’r preswylwyr yn byw llawer iawn ac yn chwerthin llawer iawn! Dyna’r gwahaniaeth gwirioneddol y mae wedi ei wneud”.
mr Philip Arnold, 90 oed.
Roedd Mr Arnold yn byw yn Abergele cyn symud i Dan y Fron. Datblygodd ei wraig glefyd Alzheimer a bu raid iddi symud i gartref nyrsio yn Llandrillo yn Rhos.
“Roedd byw ar fy mhen fy hun yn anodd iawn. Roedd mor ynysig. Dwi erioed wedi gallu coginio felly roeddwn yn byw ar brydau parod. Mae bwyty gwych yma a bwyd gwirioneddol dda o’r radd flaenaf. Dwi’n hapus iawn yma ac mae’n rhaid i mi ddweud fod y cogydd a’i dîm yn wych!”
Awgrymiadau
amgylcheddol
Defnyddiwch ficrodon yn hytrach
na’r popty pryd bynnag y gallwch.
Maen nhw’n gyflym, rhwydd ac yn
rhad i’w defnyddio. Nid dim ond ar
gyfer ail dwymo a dadrewi y maen
nhw, ond ar gyfer bwyd ffres hefyd.
Daeth grŵp a sefydlwyd i helpu dioddefwyr llifogydd Llanelwy at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd un o’u cymdogion yn 100 oed.
Daeth Age Connects â’r preswylwyr o Lys Esgob Morgan y gwnaeth y llif difrifol a darodd y dre yn Nhachwedd 2012 effeithio arnyn nhw at ei gilydd trwy’r prosiect Ark.
Yn ddiweddar, fe ddaethant at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd eu cymydog Rose Jennings yn 100 oed, gan brynu blodau, balŵns a threfnu i fainc gyda’i henw arni gael ei gosod.
Lluniwyd y cynllun yn ystod eu cyfarfodydd coffi a grwpiau cefnogi a sefydlwyd i helpu pobl i gynyddu eu hyder ar ôl trawma’r llifogydd ac i gryfhau’r gymuned yr un pryd.
Llifogydd Llanelwy
LLiFOGYDD LLANELWY
14
Y Preswylwyr y gwnaeth Llifogydd Llanelwy effeithio arnynt yn Trefnu Dathliad i Gymydog 100 Oed.
OUR GROUPJust round the corner, up the street
Thursday at two, our small group meet
Warm welcome for people of the f lood
It helps to talk and can only do good.
Most of us worry about the river
It really does make us all shiver
And Yes! It may never happen again
Who knows what happens come the rain?
Some need a shoulder as we go along
We’ll f ind an answer – perhaps sing a song.
We’ve shared so much within that group
Thanks to ‘Age Connects’ we let out a whoop!
Things are looking brighter again
Weather’s improving – much less rain
It’s good to meet and have a chat
With that lovely lady – whose name is Pat.
Irene Gibbons,
Llys Esgob Morgan,
Llanelwy.
Mawrth 2014
“Fydden ni ddim wedi gwneud hyn oni bai am
ein cyfarfodydd wythnosol. Mae wedi helpu i greu
cymuned gryfach. Felly mae rhywbeth da wedi dod o
rywbeth drwg.”
Teresa Higgins a enillodd y wobr ac fe’i henwebwyd gan Shirley Lewis.
Mae Teresa yn aelod o Eglwys y Santes Fair, a rhoddwyd y wobr iddi am, ‘y caredigrwydd a’r cydymdeimlad a ddangosodd tuag at ei chymdogion, gan fynd heibio a helpu cymdogion mewn oed yn ogystal â chodi arian i elusennau.’
Dywedodd Teresa: “Mae ennill y wobr hon wedi fy nghyffroi yn fawr. Nid oeddwn yn disgwyl dim byd fel hyn. Mae’r gwobrau yma yn dangos tref mor wych ydi’r Rhyl.”
Cyflwynwyd y wobr gan Mrs Eurwen Edwards OBE, BEM Llywydd Anrhydeddus Pennaf a’r Dr Sarah Horrocks, Cadeirydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.
Cyflwynwyd gwobr hefyd i denant Clwyd Alyn, Harold Martin, ar y noson pan dderbyniodd ‘Wobr Arbennig y Maer’ am ei waith fel Cyfarwyddwr Gorsaf Radio Point FM a gyflwynwyd i’r orsaf radio am ei sylw i’r ardal.
“Rydym yn falch iawn o ennill y wobr. Mae’n cydnabod yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud dros y gymuned. Rydym yn ceisio rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned,” dywedodd Mr Martin.
Yn y llun o’r chwith i’r dde mae: Shirley Lewis a enwebodd Teresa am y wobr; Dr Sarah Horrocks, Cadeirydd ac Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn; Tu blaen: Teresa Higgins Enillydd
y Wobr ‘Cymydog Gorau’ a Mrs Eurwen Edwards OBE, BEM Llywydd Anrhydeddus Pennaf.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 15
Noson Wobrwyo Elusennol Y RhylNoddodd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn y Wobr ‘Cymydog Gorau’ yn Noson Wobrwyo Elusennol y Maer yn y Rhyl am 2014 yn Theatr y Pafiliwn.
Ar ddiwedd Mawrth 2009, roedd 85% o’n heiddo yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein holl eiddo yn cyrraedd neu’n mynd tu hwnt i’r safon hwn erbyn diwedd 2015.
BETH YDYm Ni’N Ei WNEuD i GYFLAWNi HYN?
Rydym yn gweithio’n galed i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru trwy weithio gyda chontractwyr a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw wedi eu cynllunio i ddiweddaru rhannau o’ch cartref.
Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys: Newid ceginau, adnewyddu ystafelloedd ymolchi yn rhannol ac yn llawn, newid ffenestri a bwyleri.
Am ragor o wybodaeth am hyn a gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd yn eich ardal chi ewch i:
www.clwydalyn.co.uk/planned-maintenance
Cynnal a Chadw wedi ei Gynllunio
AwgrymiadauamgylcheddolPeidiwch â gadael eich cyfrifiadur
neu liniadur ymlaen trwy’r dydd
a’r nos pan na fyddwch yn eu defnyddio. Os byddwch yn
gadael eich cyfrifiadur am gyfnod
sylweddol yna diffoddwch o neu
o leiaf gofalwch ei fod yn ‘cysgu’.
WELCOME
Clwyd Alyn Housing Association Residents’ Newsletter - Summer 20141
Y llynedd daeth David Lewis, Pennaeth Cynnal a Chadw yn Clwyd Alyn ataf i ofyn i mi gysgodi nifer o staff. O Chwefror 2013 i Ragfyr 2013 fe dreuliais 6 diwrnod yn cysgodi gwahanol weithwyr gan gynnwys, Swyddogion Rheoli Asedau o Dîm Cynnal a Chadw Clwyd Alyn, Swyddogion Rheoli Asedau sy’n ymdrin ag eiddo gwag, diwrnod gyda Goruchwyliwr Cynnal a Chadw yn PenAlyn a phrynhawn gydag aelod o Dîm y Ganolfan Alwadau. Ar ôl pob diwrnod, ysgrifennais adroddiad ar fy nghanfyddiadau a’i gyflwyno i David Lewis.
Roedd cysgodi’r staff amrywiol yn brofiad gwych, gan roi cyfle i mi weld sut y mae staff Clwyd Alyn yn ymddwyn yn ystod eu diwrnod gwaith. Roedd y profiad yn agoriad llygad yn sicr. Rwyf yn deall yn awr sut y maen nhw’n ymdrin â gwahanol ddarnau o waith, pan fydd rhai darnau o waith yn cael eu caniatáu a rhai ddim. Rhoddodd ddealltwriaeth i mi hefyd pam fod rhai darnau o waith yn cael eu gwrthod.
Wrth gysgodi’r staff Canolfan Alwadau, fe welais eu bod yn gwneud llawer mwy na dim ond ateb galwadau. Maen nhw’n cymryd taliadau rhent, prosesu ceisiadau am dai a llawer mwy. Am hyn, rwy’n eu canmol.
Hoffwn ddiolch i staff Clwyd Alyn, y bûm yn eu cysgodi, fe wnaethant i mi deimlo’n gyfforddus ac yn fwy na dim bod croeso i mi. Diolch i Gareth Williams, Stuart Williams, Andy Roberts (PenAlyn) a Karen Davies (o’r Ganolfan Alwadau).
Dwi ar nifer o baneli yn Clwyd Alyn. Mae’r holl staff o’r Prif Weithredwr i lawr yn groesawus iawn ac yn gwneud i chi deimlo’n gyfforddus. I mi mae fel teulu estynedig ac mae wedi rhoi bywyd newydd i mi.
Diolch i chi.
Fy Nyddiau’n Cysgodi gyda staff Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
CLWYD ALYN
16
Gan Mike Bradshaw (Un o breswylwyr Clwyd Alyn, Partner Ansawdd, rhan o’r Pwyllgor Gwella Gwasanaethau, Llysgennad y Preswylwyr ac aelod o nifer o grwpiau eraill).
YN GALW GARDDWYR BRWD!Sut mae pethau yn yr ardd?
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dangos eich gardd i’n panel o feirniaid?
Gallwch ymgeisio fel gardd unigol neu gallwch ymgeisio fel cynllun neu stad yn y categori cynllun.
Eleni rydym hefyd wedi ychwanegu adran basgedi crog/potiau yn arbennig pan na fydd gennych ardd a chlwt llysiau/rhandir gorau (ond nid ydym yn beirniadu cynnyrch unigol ar eu pen eu hunain). Bydd gwobr ariannol o £40 i’r enillydd ym mhob categori, ail wobr o £20 a £10 am ddod yn drydydd.
Hefyd, rydym yn annog pobl i anfon eu lluniau eu hunain i mewn, rhai digidol os yn bosibl, fel eich bod yn medru gwneud yn siŵr eich bod yn medru dangos eich ymgais ar ei gorau.
Felly, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw anfon eich llun digidol trwy e-bost at [email protected] cyn gynted ag y gallwch, ond gyda dyddiad cau o 31 Awst 2014, gan nodi ym mha gategori yr ydych am gystadlu.
Os nad ydych yn medru anfon eich llun i mewn eich hun, peidiwch â phoeni. Gallwch gysylltu â Gareth Hughes-Roberts ar: 01745 536843 a byddwn yn trefnu bod llun eich ymgais yn cael ei dynnu.