Modiwl 9: Arian tramor
Amcanion y modiwl
•Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae addysgu dysgwyr am gyfrifo gan ddefnyddio arian tramor yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.•Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor.
Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses o gyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau cyfenwid ac arian tramor. Bydd dysgwyr yn gallu:
• gwerthfawrogi lleoedd/ffyrdd gwahanol o brynu arian tramor• gwneud cyfrifiadau gan ddefnyddio cyfradd cyfnewid benodol• deall a dangos y broses go iawn o gyfnewid arian tramor.
Nodau’r dysgwyr
Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh)
Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd:
•Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol•Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif•Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur•Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRh
Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif
Elfennau:•Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau•Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb•Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig•Amcangyfrif a gwirio•Rheoli arian
Deilliannau dysgu’r FfLlRhMae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu
fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh.
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y pwnc arian tramor ac mae’r deilliannau dysgu penodol wedi’u
hamlygu mewn teip trwm.
Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 7 • defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon
banc, gan gynnwys cardiau banc• gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â
gostyngiadau a chynigion arbennig.
Blwyddyn 8 • gwneud cyfrifiadau mewn perthynas â TAW, cynilo a benthyca
• gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca.
Blwyddyn 9 • cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a graddfeydd cyfnewid
• deall y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a buddsoddi
• disgrifio pam bod yswiriant yn bwysig a deall effaith peidio â threfnu yswiriant.
Ymestyn • defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog• deall a dangos y broses o gyfnewid arian tramor• deall a chyfrifo treth incwm.
Gweithgaredd cychwynnol:
Arian tramor
Beth yw cyfradd cyfenwid?
Pam mae cyfraddau cyfnewid yn bodoli?
Arian tramor a chyfraddau cyfenwid
Ble allwch chi brynu arian
tramor?Ydyn nhw i gyd yn cynnig yr un
gyfradd cyfnewid?
Gweithgaredd trafod:
Adding up to a lifetimeAdnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl:•Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn)•Bywyd gwaith•Perthnasoedd•Bywyd newydd•Ymddeoliad egnïol.
Mae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian.
www.addinguptoalifetime.org.uk
Mae tiwtorial sain gyda phob
modiwl y gallwch wrando
arno yn Gymraeg neu yn
Saesneg.
Adding up to a lifetimeMae’r modiwl ‘Bywyd fel myfyriwr (Life as a student)’ yn archwilio amryw o bynciau.
Ewch i www.addinguptoalifetime.org.uk (Saesneg yn unig), cliciwch ar ‘Menu’ a dewiswch y pwnc ‘Holidays’.
Mae’r adnodd yn cwmpasu cyllidebu ar gyfer gwyliau, cyrchfannau, arian (tramor) ac yswiriant. Gall y gwaith gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr ac unrhyw waith prosiect ar wyliau.
Gwlad Arian tramor Cyfradd (y £)
Ardal yr Ewro Ewro 1.17
UDA Doler UDA 1.54
Yr Aifft Punt yr Aifft 10.82
Japan Yen Japan 151.15
Twrci Lira Twrci 2.97
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid
Gwlad Arian tramor Cyfradd (y £)
Ardal yr Ewro Ewro 1.17
UDA Doler UDA 1.54
Yr Aifft Punt yr Aifft 10.82
Japan Yen Japan 151.15
Twrci Lira Twrci 2.97
Ar gyfer pob punt rwy’n cael ychydig llai na 3 lira Twrci.
Ar gyfer pob punt rwy’n cael 1.17 ewro.
Ar gyfer pob punt rwy’n
cael ychydig dros un a
hanner gwaith yn fwy o
ddoleri UDA.
Gwlad Arian tramor symbol
Ardal yr Ewro Ewro €
UDA Doler UDA
Y Deyrnas Unedig
Punt Sterling £
Arwyddion arian tramorMae arwydd arian tramor yn symbol graffig a ddefnyddir fel llaw-fer ar gyfer enw’r arian tramor, a chaiff ei ddefnyddio i gynrychioli swm o arian.
Ble mae’r arwydd wedi’i leoli – o flaen neu ar ôl y rhifau?
Wrth ysgrifennu swm o arian mae safle'r symbol yn amrywio yn ôl yr arian tramor. Mae arian tramor yn defnyddio pwynt degol weithiau ac mae rhai yn defnyddio coma.
$
Arian tramor Symbol Rydym ni hefyd yn defnyddio
Ewro € c (ar gyfer sentiau)
Doler UDA ¢ (ar gyfer sentiau)
Punt Sterling £ c (ar gyfer ceiniog)
Papurau punt a cheiniogau
$
Syniad trafod: Faint o geiniogau sydd
mewn punt? Faint o sentiau sydd mewn un doler UDA? Sawl sent sydd mewn un ewro?
Syniad trafod: Oes papur £3? Neu ddarn arian 25¢?
Beth yw’r darn arian mwyaf sydd ar gael
mewn ewros?
Gwlad Arian tramor
Ceiniogau Papurau punt
Ardal yr Ewro
Ewro €2, €1, 50c, 20c, 10c, 5c, 2c
ac 1c
€500, €200, €100, €50, €20,
€10, €5
UDA Doler UDA
1$, 50¢, 25¢, 10¢ ac 1¢
$100, $50, $20, $10, $5,
$2, $1
Gall dysgwyr ymchwilio i ba ddarnau arian a phapurau punt sy’n cael eu defnyddio yn yr arian tramor o’u dewis. Rhoddir dwy enghraifft uchod. Mewn cyd-destun go iawn, wrth efelychu prynu arian tramor ar-lein, efallai y bydd dysgwyr yn sylwi y caiff y swm ei dalgrynnu i’r papur neu’r darn arian agosaf. Mae’n bosib y bydd hyn yn cynnwys comisiwn.
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfnewid
Defnyddiwch y cyfraddau cyfenwid a roddwyd i gyfrifo swm yr arian tramor y byddwch chi’n ei gael am £400.
Ceisiwch annog y dysgwyr i feddwl hefyd am y gwerthoedd bras y gallen nhw eu defnyddio i wneud y cyfrifiad.
Gwlad Arian tramor Cyfradd (y £) Brasamcan
Ardal yr Ewro Ewro 1.17 1 (neu 1.2)
UDA Doler UDA 1.54 1.5
Yr Aifft Punt yr Aifft 10.82 10 (neu 11)
Japan Yen Japan 151.15 150
Twrci Lira Twrci 2.97 3
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfnewid
Defnyddiwch y cyfraddau cyfenwid a roddwyd i gyfrifo swm yr arian tramor y byddwch yn ei gael am £400.
Ceisiwch annog y dysgwyr i feddwl hefyd am y gwerthoedd bras y gallen nhw eu defnyddio i wneud y cyfrifiad.
Arian tramor Cyfradd (y £) Brasamcan Swm ar gyfer £400
Ewro 1.17 1.2 x 400 = 480 1.17 x 400 = 468
Doler UDA 1.54 1.5 x 400 = 600 1.54 x 400 = 616
Punt yr Aifft 10.82 11 x 400 = 4400 10.82 x 400 = 4328
Yen Japan 151.15 150 x 400 = 60000 151.15 x 400 = 60460
Lira Twrci 2.97 3 x 400 = 1200 2.97 x 400 = 1188
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid
Aeth Finley ar daith i Efrog Newydd.
(a)Newidiodd £750 i ddoleri ($) pan oedd y gyfradd cyfnewid yn £1 = $1.54.Faint o ddoleri oedd ei wedi’u cael?
(b)Yn Efrog Newydd, prynodd Finley gamera newydd am $199. Gan ddefnyddio’r un gyfradd cyfenwid, cyfrifwch gost y camera, gan roi eich ateb i’r bunt agosaf.
(c)Pan ddaeth Finley adref newidiodd $115 yn ôl i bunnoedd (£) pan oedd y gyfradd cyfenwid yn £1 = $1.64. Faint oedd e wedi’i gael?
YmestynOedd Finley ar ei ennill oherwydd bod y gyfradd cyfnewid yn $1.64 yn lle $1.54 pan newidiodd ei ddoleri yn ôl i bunnoedd? Rhowch esboniad i gefnogi eich ateb.
Prisiau Ewro-wersylla(taliadau fesul noson)
Y person 5 ewro
Safle pabell (bach) 4 ewro
Safle pabell (mawr) 6 ewro
Trydan 10 ewro
Anifeiliaid anwes 2 ewro
Mae Olivia a James yn rhannu un babell ac yn aros dau noson yn safle gwersyllfa Ewro-wersylla. Maen nhw’n newid punnoedd i ewros ar gyfradd cyfnewid o 1.13 ewro i’r bunt. Cyfrifwch y gost, mewn punnoedd am aros dau noson mewn pabell fach heb unrhyw drydan.
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid
Cyfnewid arian tramor ac ieithoedd tramor modern
Syniadau i’r dysgwyr:• Lluniwch fwydlen bwyty/caffi gyda’r prisiau wedi’u newid o brisiau go iawn.• Prisiwch wyliau o wefan safle gwersylla neu barc thema Ewrop yn eich iaith dramor o ddewis. Os yw’r prisiau mewn ewros, rhan o’r dasg yw cyfrifo’r pris mewn sterling.• Newidiwch y gost i brynu eitemau o wefan ar-lein lle mae’r prisiau a’r wybodaeth yn cael eu rhoi yn yr iaith dramor a addysgir.• Cymharwch arian poced a gweithgareddau gwario dysgwyr o wlad wahanol, neu cymharwch gyflogau mewn ewros â galwedigaethau cyfatebol mewn sterling.
Gwefannau ac adnoddauGellir defnyddio’r canlynol i helpu gyda gwaith ar arian tramor.•www.nationwideeducation.co.uk Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffiadwy a gemau ar-lein).* Fersiynau Cymraeg ar gael. •www.Addinguptoalifetime.org.uk Mae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian gan gynnwys cyllidebu.•www.pfeg.org Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion.• www.xe.com/currencyconverter Cyfraddau cyfnewid ac aps newid arian tramor am ddim ar gael.