sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 13 Mawrth 30, 2017 50c.
Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
Mae Cyfundeb
Gorllewin
Caerfyrddin - sy’n
cynrychioli bron i
3,000 o aelodau
eglwysi
Annibynnol - wedi
pleidleisio yn
unfrydol i wneud
popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant,
merched a dynion sy’n chwilio am
noddfa rhag peryglon rhyfel a therfysg.
Wrth groesawu’r penderfyniad,
dywedodd y Parchedig Aled Jones,
Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr
Gorllewin Caerfyrddin, bod ffoaduriaid
yn aml yn cael eu dilorni a’u gwrthod am
nifer o resymau, gan gynnwys ofn y
byddent rywsut yn dinistrio hunaniaeth y
wlad sy’n eu derbyn ac yn peryglu lles
cymdeithas.
“Mae disgwyl i ni Gristnogion i
groesawu’r gwrthodedig a’r anghenus, i
ddarparu lloches i’r rhai sydd mewn
angen,” meddai’r Parchg Aled Jones.
“Mae’r croeso hwn yn ymestyn, wrth
gwrs, i’r rhai sy’n ddilynwyr crefyddau
eraill, yn ogystal â phobl nad ydynt yn
ystyried eu hunain i fod yn grefyddol.
Roedd Iesu, mab Joseph a Mair, yn
ffoadur rhag erledigaeth ym Mhalestina.
Yn y diwedd, lladdwyd ef gan bwerau
crefyddol, gwleidyddol a milwrol am
feiddio byw yn unol â chariad Duw lle
bynnag yr aeth.
“Er cymaint yw’r demtasiwn i godi
muriau ac eithrio pawb rydym yn ystyried
sy’n wahanol i ni, mae ein gwlad yn lle
gwell pan fyddwn yn agor ein drysau i’r
sawl sydd angen ein help. Rydym yn
gwrthod rhyfel fel modd i setlo
anghydfod rhwng pobloedd, ond rhaid
inni beidio â chuddio ein hwynebau pan
welwn ein chwiorydd a brodyr yn dioddef
oherwydd hynny. Yn yr un modd, fel
Cristnogion rhaid i ni beidio â gwahardd
o’n cymdeithas bobl nad ydynt yn rhannu
ein credoau ni. Mae byd Duw yn ddigon
mawr i bawb, a’n dyletswydd ni yw
dysgu sut i rannu’r byd hwnnw yn deg ac
yn gyfiawn gyda’r holl bobloedd.”
Cynhaliwyd Cwrdd Chwarter y Cyfundeb
yng nghapel Pant-teg, achos a sefydlwyd
yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg mewn dyffryn
gwledig anghysbell gan Anghydffurfwyr
cynnar oedd yn cael eu gwthio i’r cyrion
a’u herlid am eu ffydd a’u cred.
Mae croeso iffoaduriaid yma -Annibynwyr Sir Gâr
Mawl a ChawlMae adeg Gŵyl Ddewi yn gyfnod prysur
iawn yn ein capel gan fod cymaint o
weithgareddau’n cael eu cynnal.
Dechreuwyd ar y dathliadau ar fore Sul
Chwefror 27 gyda gwasanaeth arbennig a
drefnwyd gan Marie-Lynne ac athrawon yr
ysgol Sul. Braf oedd gweld ystod eang o
oedran yn dod at ei gilydd i gynnal y
gwasanaeth. Cyflwynwyd eitemau
cerddorol, adroddiadau, darlleniadau a
chafwyd cyflwyniad pwynt pŵer ar hanes
Dewi Sant. Gwasanaeth bendithiol iawn.
Gwledda
Y nos Fawrth canlynol daeth rhyw 100
ynghyd i fwynhau cawl blasus iawn a
ddarparwyd gan wragedd y capel. Rhaid
diolch i Gwenda Evans a’i thîm gweithgar
am wledd arbennig. Yn dilyn y gwledda
cawsom ein diddanu gan blant yr Ysgol
Sul a pharti Lleisiau Lliw o dan arweiniad
Berian Lewis. Diolch o galon iddynt am eu
cyfraniadau gwerthfawr.
Cân a Choffi
Yna fore Mercher tro’r clwb Babanod oedd
hi i ddathlu. Braf oedd gweld rhai o
aelodau’r capel yn troi i mewn i wrando ar
berfformiadau’r artistiaid lleiaf oll!
Brynhawn Mercher ‘roedd y capel yn
gyfforddus lawn unwaith eto ar gyfer
Cyngerdd Gŵyl Ddewi Ysgol Gymraeg
Bryniago ac yna i gloi’r cyfan ar y bore
Gwener, cynhaliwyd ein bore coffi misol
gyda phlant dosbarth Derbyn Ysgol
Gymraeg Bryniago yn diddanu selogion y
boreau coffi. Wythnos i’w chofio.
Jennifer Clarke
Mwy o luniau ar y dudalen gefn
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mawrth 30, 2017Y TYsT
Cyfundeb Arfon yn Derbyn Rhodd HaelYn dilyn gweddi agoriadol
estynnwyd
croeso i gapel Bethlehem, Tal y Bont gan y
Llywydd Y Parchg Gareth Edwards,
Cyffordd Llandudno, i bawb a oedd yn
bresennol. Arweiniwyd y defosiwn gan
aelodau eglwys Bethlehem a chyd
ddarllenwyd Salm 46
Y Gynhadledd
Derbyniwyd Cofnodion Pwyllgor Gwaith a
gynhaliwyd ym Methlehem, Tal y Bont ar y
10fed Ionawr 2017 fel rhai cywir.
Materion yn codi:
• Eglwys Salem, Caernarfon yn fodlon
cydweithio i lunio, a chadw at, Gynllun
Datblygu 5 mlynedd yn gydag un, neu
fwy, o Eglwysi di-fugail o mewn y
Cyfundeb. Ni lwyddwyd, hyd yn hyn, i
dderbyn cytundeb gydag Eglwys o’r fath
serch fod Ysgol Sul Bosra, Penisarwaun
yn ystyried y posibilrwydd.
• Rhannwyd gwybodaeth am Gynllun EFE
Diolchwyd i’r 24 o wirfoddolwyr ar draws y
Cyfundeb a baratôdd y Calendrau Gweddi
misol tros y ddwy flynedd diwethaf.
Nodwyd y bydd y cynllun yn dod i ben
gyda Chalendr Chwefror 2017.
• Nodwyd y byddai Mrs Megan Tomos
[Carmel, Llanllechid] a’r Parchg Dylan
Rhys Parry [Gofalaeth y Creuddyn] yn
parhau fel cynrychiolwyr y Cyfundeb ar
Gyngor Cenedlaethol Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg am y tair blynedd
nesaf hyd at Fehefin 2020. Bydd Mrs
Edwina Parry [Salem, Caernarfon] yn
gweithredu fel Dirprwy i’r ddau
gynrychiolydd.
• Eglurodd y Trysorydd fod tros £86,000 yng
nghronfa gyffredinol y Cyfundeb erbyn hyn
– yn bennaf yn dilyn cyfraniad o ychydig
tros £80,000 a dderbyniwyd yn dilyn dod
a’r achos ym Methania, Bethesda i ben yn
ddiweddar. Anogwyd yr ysgrifennydd i
anfon gair o ddiolch at Mrs Mair Pierce
(Cyn Ysgrifennydd Eglwys Bethania) i
ddiolch am y rhodd ariannol.
• Anogwyd y Pwyllgor Gwaith i gyfarfod yn
fuan er mwyn trafod manylion cynlluniau
rhannu o’r arian hwn i Eglwysi’r Cyfundeb.
Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Chwarter
nesaf: 26ain Ebrill 2017 yn Salem,
Caernarfon, pryd y bydd y Parchg Ddr
Geraint Tudur a’r Dr. Hefin Jones yn trafod
‘Darganfyddiadau Arolwg y Cyfundebau’
Adroddodd Ifor Glyn, Ysgrifennydd y
Cyfundeb hanes yr achos yn Eglwys Bethel,
Arfon a nodwyd y cynhelir oedfa olaf un yr
Eglwys ar ddydd Sul, 30ain Gorffennaf 2017.
Cydymdeimlo a Dymuno’n dda:
Cydymdeimlwyd â theuluoedd: Mr Ieuan
Bryn Jones [Unedig Gymraeg Llandudno] a
Mrs Rhian Jones & Mr W. E. Roberts [Salem,
Caernarfon] yn ogystal â pherthnasau agos i
Mrs Elen Medi a Mrs Margaret Parry [Salem,
Caernarfon] Anfonwyd cyfarchion am
wellhâd at: Elsie Bennett, Edith Powell a
Dafydd Owen [Salem, Caernarfon], Laura
Roberts, John Williams a Gwynfor Roberts
[Unedig Llandudno] Gweddïwyd yn addas a
phwrpasol gan y Parchg Mererid Mair
Ail ran y Cyfarfod: Bu i’r Parchg Gareth Edwards urddo’r
Parchg
D John Pritchard yn Llywydd newydd y
Cyfundeb am y ddwy flynedd nesaf [hyd at
ddiwedd Rhagfyr 2018] a chyflwynwyd
Beibl y Cyfundeb. . Ymatebodd y Llywydd
newydd yn briodol. Mynegwyd croeso’r
Cyfundeb i’r Llywydd newydd gan Mr
Neville Hughes. Wrth ddirwyn ei
lywyddiaeth i ben fe siaradodd y Parchg
Gareth Edwards yn bwrpasol am ein
PERTHYN GYDA’N GILYDD. Yn ystod ei
gyflwyniad cyfeiriodd ar,
• Perthyn i’n gilydd — Perthyn i Grist —
Perthyn i gyfnod
• Manylwyd ymhellach yn ystod y pennau
uchod ar y pwyntiau isod:
i. Darganfod gyda’n gilydd
ii. Dulliau gwahanol o addoli
iii. Yr hŷn yn gwrando ar y genhedlaeth
ifanc
iv. Hanfodion Ffydd trwy siarad yn iaith
heddiw
v. Atebion i gwestiynau mawr ein
dyddiau ni
vi. Mynegi cysur a gobaith yn y cyfnod
wedi ‘Brexit’
vii. Rôl Eglwys Gymraeg mewn ardal
Saesneg
viii. Arwyddocâd geiriau’r Iesu –
Gwthiwch i’r dwfn; bwriwch eich rhwydi
ix. Rôl y lleiafrif / yr ychydig / y gweddill
x. Pwysigrwydd dyfalbarhad yn wyneb
siom
Diolchwyd i Swyddogion ac aelodau ym
Methlehem, Tal y Bont am y croeso hynod
gynnes a’r lluniaeth a baratowyd, gan
ysgrifennydd y Cyfundeb. Daeth 22 o
gynrychiolwyr ynghyd i Gyfarfod Chwarter
Arfon a hynny ar y 26ain o Hydref 2016.
Ifor Glyn - Ysgrifennydd y Cyfundeb
Y Parchedig W. O. JONES1936 - 2017
Bu farw William Owen Jones, mab Richardac Irene Jones ychydig
wythnosau wedidathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Efallai bodWilliam
wedi gadael Nefyn ond doeddNefyn byth yn bell o’i feddwl na’i
galon.
Roedd yn hoff iawn o’r ysgol yn Nefyn acroedd y pulpud wedi ei
ddenu ers dyddiauei blentyndod yn Soar, Nefyn lle cafodd eifagu ar
aelwyd grefyddol. Aeth yn fyfyriwrar gyfer y weinidogaeth yn
Aberhonddu acwedyn i’r Coleg Coffa yn Abertawe, llecafodd amser
gorau ei fywyd, medde fo.Roedd y gymdeithas, y gwmnïaeth a’r cyflei
fynd o gwmpas Cymru yn casglu arian i’rcoleg drwy bregethu ar y Sul
yn cyflawniholl freuddwydion plentyndod. Ac roedd ynmwynhau bod yn
fyfyriwr yn y chwedegau.
Pregethu
Roedd yn bregethwr swmpus. Arddulldraddodiadol ond syniadau
cyfoes. Roeddyn ffyrnig yn erbyn ffwndamentaliaeth
ddiderfyn. Roedd yn ddarllenwr mawr, yn
wrandäwr cyson o Radio Cymru ac yn
gwylio S4C - yn enwedig Pobl y Cwm - bob
nos. Roedd bob amser yn barod i ddweud ei
farn ac mae llawer hyd a lled Cymru wedi
clywed y farn honno ar Taro’r Post. Beth
bynnag oedd y pwnc, mi fyddai W O Jones
o’r Barri yn barod i godi’r ffôn a dweud ei
ddweud.
Diolchgar
Wnaeth William erioed briodi. Fe ddaeth yn
agos dair neu bedair gwaith, mae’n debyg,
ond hen lanc oedd William, yn byw
ynghanol ei lyfrau. Mae wedi gadael
atgofion hapus i ffrindiau a chydweithwyr,
ac wedi’n dysgu ni i gyd mor bwysig yw
dweud “Diolch yn Fawr”. Fel byddai
William yn ei ddweud ar ôl pob cymwynas,
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon”.
Cafwyd gwasanaeth er cof amdano yn y
Tabernacl yn y Barri dan arweiniad y Parchg
Kevin Davies ac yn Soar, Nefyn dan
arweiniad y Parchg Glenys Jones. Claddwyd
ei weddillion ym medd ei dad a’i fam ym
mynwent Nefyn.
Euryn Ogwen Williams
oedd, yn ei farn ef yn osgoi cymhlethdodau’r
gwirionedd oedd yn y Beibl. Dyn adnabod y
gair oedd William, nid dyn gwybod y geiriau.
Ar waethaf trafferthion iechyd yn ddiweddar,
doedd dim yn rhoi mwy o bleser iddo na
phregethu ac ni fu neb erioed yn fwy hael eu
gwerthfawrogiad o bregeth rhywun arall.
Roedd yn aelod ffyddlon o’r Tabernacl yn y
Barri ac yn mwynhau’r gymdeithas yno.
Sain Ffagan
Er iddo gael ei urddo’n weinidog yn 1965, ni
chymerodd ofal eglwys. Cafodd swydd gan
Dr Iorwerth Peate wrth iddo sefydlu’r
Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan; roedd
W.O. wedi taro ar yr yrfa ddelfrydol. Roedd
yn cael dysgu am hanes Cymru, yr hen ffordd
o fyw, a rhannu’r wybodaeth mewn sgwrs
gyda’r ymwelwyr. Ar ben hynny, roedd
cwmnïaeth a brawdgarwch ei gydweithwyr
wrth ei fodd ac yn estyniad o’i fywyd yn
Abertawe a gallai bregethu ar y Sul.
Gweithiodd yn Sain Ffagan am dros 30
mlynedd.
Gwladgarwr
Roedd yn wladgarwr a chenedlaetholwr pybyr
a’i gariad at Gymru a’r iaith Gymraeg yn
Mawrth 30, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Barn AnnibynnolDim fel y Buont
Dydi pethe ddim fel y buon nhw yn ycapeli. Nac ydyn. Mae pethe’n
well mewnsawl ffordd! Efallai bod cynulleidfaoedd,oedfaon a
phregethwyr yn prinhau ondmae sawl peth yn well am fynd i’r
capelerbyn hyn.
 siarad am ein cynulleidfa ni:
Nid o Raid
Er bod llai o bobl yn ygynulleidfa nag a fu, mae’rbobl sydd
yno’n dymunobod yno. Maen nhw’n dodoherwydd eu hawydd igydaddoli a
gwrando arbregeth, nid oherwyddrhyw deimlad o reidrwydd.Mae llai na
hanner ein cynulleidfa arferolwedi’u magu yn yr eglwys – mae’r
lleillnaill ai wedi priodi iddi, wedi symud i’rardal neu wedi ymuno
ar ôl i addoldaieraill y pentref gau. Rwy’n credu bodhynny’n help i
greu awyrgylch braf – pawbyno o’u gwirfodd, nid oherwydd
traddodiadteuluol – er y byddai’n dda cael aelodaunewydd i’r
gynulleidfa, beth bynnag eucefndir, wrth gwrs.
Festri Glyd
Peth arall sydd wedi cyfrannu at yrawyrgylch braf yw ein bod yn
addoli yn yfestri lle mae pawb yn agos at ei gilydd –ac mae hyn
hefyd yn hwb i’r canu! Raiblynyddoedd yn ôl fe wnaethom ni newidyr
hen feinciau caled am gadeiriau ac mae
hyn eto’n fuddiol. Er bod rhai pobl yn cadwat “eu sêt”, mae
eraill yn dewis lle i eisteddar y noson – sy’n beth braf. Mae hefyd
ynhaws symud y cadeiriau o gwmpas i gaelpaned ar ddiwedd oedfa neu
ar gyfercyfarfodydd canol wythnos ac mae’n wychgallu cael canol y
llawr yn glir ar gyfergwaith plant.
Ers i ni gael y cadeiriau hefyd, maepobl yn fwy tebygol o aros
ar y diwedd amsgwrs ac mae pawb gyda’i gilydd ynhytrach na bod y
pregethwr a’r diaconiaidyn gaeth yn y sêt fawr.
Diwyg
Mae gwisgoedd pobl wedi newid hefyd –mae teis a hetiau’n brin a
high heels ynbrinnach ac mae hynny’n ychwanegu at ynaws gartrefol.
Dwi’n credu bod pobl ynfwy tueddol o wisgo dillad y maen
nhw’ngyfforddus ynddyn nhw yn hytrach nachadw’u ‘dillad gorau’ at y
Sul – er, mae’rrhan fwyaf o bregethwyr yn dal i wisgosiwt neu o
leia drwsus a siaced.
Jargonllyd
Mae rhai ymadroddion capelaidd ffurfiolwedi diflannu hefyd. Dydw
i ddim wediclywed y cyhoeddiad “A wneith ychwiorydd aros ar ôl?”
ers blynyddoedd,diolch byth! Os bydd angen trefnu bwydneu baned,
mae pawb yn aros ar ôl acmae’r dynion yr un mor barod â’rmenywod i
helpu. Un arall o’rymadroddion jargonllyd sydd wedidiflannu yn y
blynyddoedd diwethaf yw’r
cyhoeddiad “Fe wneir y casgliad ynbresennol”. Doedd neb yn
gwneud dimbyd arall “yn bresennol”, pam y casgliad?!Mae iaith
pregethau wedi newid hefyd,gan ddod yn fwy naturiol. Mae
dyddiau“Egyr Efengyl Ioan…” wedi mynd! Rhaiddathlu dyfodiad y Beibl
Cymraeg Newydda beibl.net yn hyn o beth yn dangos nadoes raid i
iaith Cristnogaeth berthyn i’r oeso’r blaen.
Adnoddau
Un peth sydd wedigwella’n fawr iawn yn yblynyddoedd diwethafyw’r
adnoddau sydd argael i gynulleidfaoeddac, yn arbennig i blant,ac
mae llawer o’rdiolch am hyn ynddyledus iGyhoeddiadau’r Gaira’r
Cyngor Ysgolion Sul. Mae cynllun YFfordd hefyd yn eithriadol o
werthfawr ynannog trafodaeth ymhlith aelodau. Yn wir,yn ein heglwys
ni, ar ôl dechrau dilyncynllun Y Ffordd, rydym erbyn hyn yncynnal
Ysgol Sul oedolion ar yr un pryd â’rYsgol Sul plant yn yr wythnosau
rhwngunedau Y Ffordd ac yn cael blas arni.
Felly, bob tro mae rhywun yn cwynonad ydi pethau ddim fel y buon
nhw yn eincapeli, beth am feddwl am yr agweddauhynny ar fywyd ein
heglwysi sy’n wellerbyn hyn a meddwl sut y gallwn niddefnyddio’r
rheiny i’w llawn botensial?
siân Roberts(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o
reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yrAnnibynwyr na’r tîm
golygyddol.)
Law yn Llaw at
Gymru sy’n
Deall Dementia
Mae modd i chi gyfrannu tuag at yr
ymgynghoriad pwysig yma gan
Lywodraeth Cymru trwy wneud eich
sylwadau neu adrodd profiad ar
ffurflen ar-lein trwy fynd i’r ddolen
hon.
Y dyddiad cau yw 3 Ebrill 2017.
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru
/ymgyngoriadau/drafft-
strategaeth-ddementia-
genedlaethol