Rhian Jones yw Swyddog Datblygu’r Celfyddydau a’r Dyniaethau sy’n gyfrifol am: Farchnata’r pynciau Chwilio am gyfleoedd newydd Hwyluso gwaith y paneli Cefnogi prosiectau’r Coleg Beth yw “O’r Llwyfan”? Diweddariad tymhorol i aelodau panel pwnc Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyfle i rannu gwybodaeth, newyddion a chyfleoedd yn y sector a’r diwydiant. Er mwyn trafod syniadau neu er mwyn ymateb i unrhyw fater yn y rhifyn hwn o “O’r Llwyfan”, cysylltwch â Rhian! 01267 610 442 [email protected]Y Llwyfan, Caerfyrddin. O’r Llwyfan Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth Hydref 2015 Rhifyn DCC03 Yn y flwyddyn academaidd hon bydd Rhian yn datblygu deunyddiau hyrwyddo i athrawon ysgolion uwchradd a thiwtoriaid Colegau Addysg Bellach. Nod y deunyddiau fydd codi ymwybyddiaeth o’r opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael i barhau gydag astudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau . Mwy i ddod yn rhifyn nesaf “O’r Llwyfan”. Y Diweddaraf o’r Diwydiant Penawdau: Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol sy’n ceisio sicrhau parhad yn narpariaeth gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel yng Nghymru http://tinyurl.com/o5nz7df 50,000 yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru http://tinyurl.com/og6tsek Cynnwys am Gymru yn y cyfryngau wedi gostwng yn ‘sylweddol’ http://tinyurl.com/pbfuemk Llai i gael grantiau gan Gyngor y Celfyddydau http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34333894 Angen cydweithio strategol ar addysg alwedigaethol ddwyieithog: y neges o Wlad y Basg http://tinyurl.com/pulz6jz Blaenoriaethau’r Swyddog Datblygu yn y meysydd eraill Celf a Dylunio: ail-ddrafftio’r Cynllun Pwnc i adlewyrchu newidiadau yn y ddarpariaeth a chydlynu dau brosiect newydd wedi eu cyllido gan y Coleg Ieithoedd Modern: cynorthwyo gyda threfniadau’r Cwrs Preswyl Ieithoedd Modern a chefnogi gwaith y Fforwm newydd Y Gymraeg: parhau i adnabod a chyfrannu at fforymau a rhwydweithiau a chefnogi prosiectau Llongyfarchiadau! Darllenwch hanes Trystan Ap Owen, un o raddedigion BA Theatr a Drama Prifysgol De Cymru eleni, ac enillydd cyntaf Gwobr Merêd http://www.southwales.ac.uk/story/1724/ Mae Dr Rhiannon Williams (yn y llun), darlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ennill doethuriaeth am ei hastudiaeth o’r ‘Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’. Cipiodd Wyn Mason, darlithydd Ffilm a Sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru, y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni am ei ddrama 'Rhith Gan' http://www.southwales.ac.uk/story/1746/ Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot Llysgenhadon y Coleg Cymraeg llynedd rydym am eh angu’r cynllun eleni i gynnwys dau lysgennad o bob prifysgol. Byddant yn cynorthwyo’r Coleg gydag amrywiol ddigwyddiadau/weithgareddau rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016. Mae’r holl wybodaeth ar sut i ymgeisio yma: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/llysgenhadon/
2
Embed
O’r Llwyfan Diwydiannau Creadigol a Cherddoriaeth Hydref 2015 - Y … · 2016. 12. 14. · Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Theatr a Drama yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Califfornia
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Yn y flwyddyn academaidd hon bydd Rhian yn datblygu deunyddiau hyrwyddo i athrawon ysgolion uwchradd a thiwtoriaid
Colegau Addysg Bellach. Nod y deunyddiau fydd codi ymwybyddiaeth o’r opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael i barhau
gydag astudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mwy i ddod yn rhifyn nesaf “O’r Llwyfan”.
Y Diweddaraf o’r Diwydiant
Penawdau:
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol sy’n ceisio sicrhau parhad yn narpariaeth
gwasanaethau cerddoriaeth o ansawdd uchel yng Nghymru http://tinyurl.com/o5nz7df
50,000 yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru http://tinyurl.com/og6tsek
Cynnwys am Gymru yn y cyfryngau wedi gostwng yn ‘sylweddol’ http://tinyurl.com/pbfuemk Llai i gael grantiau gan Gyngor y Celfyddydau http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/34333894
Angen cydweithio strategol ar addysg alwedigaethol ddwyieithog: y neges o Wlad y Basg http://tinyurl.com/pulz6jz
Blaenoriaethau’r Swyddog Datblygu yn y meysydd eraill
Celf a Dylunio: ail-ddrafftio’r Cynllun Pwnc i adlewyrchu newidiadau yn y ddarpariaeth a chydlynu dau brosiect newydd
wedi eu cyllido gan y Coleg
Ieithoedd Modern: cynorthwyo gyda threfniadau’r Cwrs Preswyl Ieithoedd Modern a chefnogi gwaith y Fforwm newydd
Y Gymraeg: parhau i adnabod a chyfrannu at fforymau a rhwydweithiau a chefnogi prosiectau
Llongyfarchiadau!
Darllenwch hanes Trystan Ap Owen, un o raddedigion BA Theatr a Drama Prifysgol De
Cymru eleni, ac enillydd cyntaf Gwobr Merêd
http://www.southwales.ac.uk/story/1724/
Mae Dr Rhiannon Williams (yn y llun), darlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De
Cymru dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ennill doethuriaeth am ei
hastudiaeth o’r ‘Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’.
Cipiodd Wyn Mason, darlithydd Ffilm a Sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru, y Fedal
Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni am ei ddrama 'Rhith Gan'
http://www.southwales.ac.uk/story/1746/
Yn dilyn llwyddiant cynllun peilot Llysgenhadon y Coleg Cymraeg llynedd rydym am ehangu’r cynllun eleni i gynnwys dau
lysgennad o bob prifysgol. Byddant yn cynorthwyo’r Coleg gydag amrywiol ddigwyddiadau/weithgareddau rhwng Ionawr a
Rhagfyr 2016. Mae’r holl wybodaeth ar sut i ymgeisio yma: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/llysgenhadon/
Bydd Rhian yn cylchredeg amlinelliad o’r gweithgareddau a’r prosiectau cydweithredol sy’n digwydd
yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn 2015/2016, fel rhan o’r crynodeb blynyddol i’r holl baneli pwnc yn y
maes.
Rydym yn hynod falch i gyhoeddi y bydd Gŵyl MAP (Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio) yn digwydd
yn Y Galeri, Caernarfon ar Fawrth 18f ed
ac 19eg
2016 https://www.facebook.com/gwylmap a
https://twitter.com/gwylmap Mwy i ddilyn a chroeso i bawb ddod i weld y myfyrwyr yn perfformio!
Newyddion a rhag-hysbys
Prifysgol De Cymru - Pob hwyl i’r graddedigion Sarah-Louise Jones, bydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn
Terfel ddiwedd Hydref www.southwales.ac.uk/story/1634/; Aaron Davies a Rhianna Davies sydd wrthi'n teithio
Cymru a Lloegr yn perfformio gyda chwmni Theatr Arad Goch yn eu cynhyrchiad o 'Mwnci ar Dan' (llun isod) sydd
wedi ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Sera Moore Williams, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd y radd BA Theatr
a Drama; a Lloyd Meredith bydd yn ymuno gydag Arad Goch, ar gyfer eu cynhyrchiad o 'SXTO'.
Pob hwyl i Gareth Thomas, sydd ar fin serennu yng nghynhyrchiad Theatr Ieuenctid yr Urdd o 'Les
Miserables' www.southwales.ac.uk/story/1893/
Cafodd staff a myfyrwyr BA Theatr a Drama brofiad theatraidd unigryw wrth fynychu perfformiad o'r 'Iliad' gan
National Theatre Wales yn Theatr Ffwrnes, Llanelli a hynny dros nos!
Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Theatr a Drama yn gweithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Califfornia Los Angeles
eleni. Bydd y ddau garfan o fyfyrwyr yn dilyn yr un darlleniadau cwrs, cyn cwrdd yn Los Angeles ddiwedd Ebrill y
flwyddyn nesaf, i drafod profiadau o ddwyieithrwydd mewn perthynas â pherfformio.
Aberystwyth – Bu Euros Lyn, y cyfarwyddwr teledu arobryn (gyda Dr Kate Woodward yn y llun isod) yn rhannu ei
brofiadau gyda myfyrwyr yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu http://tinyurl.com/obwyyu6
Enwyd Rhodri ap Dyfrig sy'n Gymrawd Dysgu yn yr Adran fel un o'r hanner cant o ffigyrau mwyaf dylanwadol ar gyfryngau cymdeithasol mewn AU ym Mhrydain: https://www.jisc.ac.uk/blog/uk-higher-education-social-media-influencers-named-05-oct-2015
Bydd myfyrwyr cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr yn perfformio'r ddrama Rhys Lewis, addasiad o 1910 gan J.M. Edwards o nofel Daniel Owen, yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, Rhagfyr 2
il - 5
ed.
Abertawe - Ar sianel YouTube Academi Hywel Teifi mae modd gweld cynnwys a ffilmiwyd yn y Lolfa Lên yn yr
Eisteddfod. Bu dwy fyfyrwraig o'r Academi, Lauren Evans a Cerian Davies yn cynorthwyo trwy gynllun SPIN,
cynllun Interniaeth Academi Cyflogadwyedd y Brifysgol. A hithau yn gyfnod dathlu T. Llew Jones, dyma sesiwn
o'r Lolfa Lên: https://www.youtube.com/watch?v=3Z7LtLkslQI
Bu staff a myfyrwyr y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn clywed am bwysigrwydd sgiliau dwyieithrwydd yn
ystod ymweliadau â chwmni teledu Telesgop sydd bellach wedi ymgartrefu yn Stiwdios y Bae, a Swyddfa Wasg
tîm pêl-droed yr Elyrch a roddodd fynediad egsliwsif i'r cae ei hun, Ystafell y Wasg a’r ystafelloedd newid!
Bydd sioe Gymraeg ar orsaf radio Xtreme Undeb Myfyrwyr y Brifysgol gyda myfyrwyr Academi Hywel Teifi yn
cyflwyno tu ôl y meic ac yn cynhyrchu tu ôl y llenni.