-
Yn y cyfnod sydd ohoni mae llawer yngorfod aros adref gan geisio
dod o hyd iweithgarwch gwahanol i’r arferol. Daethgeiriau’r Salmydd
i gof. “Felly dysg ni igyfrif ein dyddiau, inni gael
calonddoeth.”(Salm 90 12).
O safbwynt ein Cyfundeb caraf eichsicrhau ein bod fel
swyddogioncanolog y corff yn ceisio gweithredu’nddoeth mewn cyfnod
annisgwyl ahollol eithriadol. Mae’r wybodaethddiweddaraf i’r
eglwysi i’w weld ar eingwefan ac yn y broses o gael eiddosbarthu.
Gyda diolch i’rYsgrifennydd Cyffredinol a hollswyddogion y Gymanfa
Gyffredinolmae yn tynnu eich sylw at faterionymarferol ac yn rhoi
gwybod ein bodyn ceisio cefnogi’r cyfeillion sydd yngwneud eu gorau
i fod yn ofalus o’npobl mewn ysbytai a chartrefi henoed.
Fe fydd ein heglwysi yn gwerthfawrogiystyriaeth y Swyddogion o’r
sefyllfaariannol yn lleol mewn cyfnod pan maepob adeilad ar gau. Y
penderfyniad arhyn o bryd ydi ad-dalu i’r eglwysicyfwerth a 25% o’r
CyfraniadGweinidogaeth a ChenhadaethCyfundebol am y chwarter Ebrill
iGorffennaf. Bydd y sefyllfa yn cael eiadolygu yn rheolaidd ac fe
fyddwn ynceisio ymateb fel daw newidiadau i’nrhan.
Mae’r cyngor yn ceisio atgoffa einheglwysi o’r pwysigrwydd o
gadw dfir
yn iach yn ein hadeiladau drwy sicrhaufod unrhyw ddfir sy’n
sefyll yn ypibellau/systemau ar hyn o bryd yn caeleu fflysio drwodd
nes dod o hyd igyflenwad ffres.
Mae apêl hefyd i gofio am sefyllfatenantiaid yn ein heiddo gan
ystyried euhanghenion mewn cyfnod heriol. Osafbwynt ein capeli
gwag. Er nad ydicwmni yswiriant (Congregational &General) yn
mynnu y dylai rhywunymweld â’r adeilad yn wythnosol efallaimai
doeth byddai cadw golwg er mwyndiogelwch a rhag unrhyw ddifrod.
Gobeithiaf i chwi gytuno fod y rhain ollyn gamau doeth. Yn
bersonol rwyf ynfalch o’r cyfle i edrych ar hen ffeiliaullawn o
bapurach sydd wedi bod yneistedd ar silffoedd fy swyddfa
gartref
am rhy hir! Pleser o’r mwyaf ydi euchwynnu gan ailgylchu unrhyw
bapurnad yw’n ddefnyddiol bellach. Carafawgrymu fod hyn yn syniad
da nid ynunig yn fy swyddfa ond yn ein holl ffyrdd
o weithredu fel cymunedau o ffyddmewn dyddiau newydd. Doeth yn
wirbyddai ystyried a ydi’r ffordd rydymwedi arfer gwneud pethau
ynberthnasol i’r dyfodol.
Wedi clywed cymaint yn siarad amfwynhau cadw cysylltiad
rheolaiddgyda theulu a chyfeillion tros ff�ntraddodiadol a’r holl
gyfryngaugweledol digidol. Teimlaf fod hyn ynagor y drws fwyfwy i
ystyried sut iddefnyddio’r cyfryngau hyn yn eincenhadaeth naturiol
i’r dyfodol.Mae’n amlwg fod nifer o blant syddyn gaeth gartref wedi
bod yndefnyddio rhai o’r pecynnau
addysgiadol sydd wedi eu paratoi ganrhai o’n gweithwyr (a diolch
iddynt).
Mewn oes pan mae plant yn arferderbyn addysg trwy’r cyfrifiadur
mae’nbwysig defnyddio’r amser yma i ystyriedein ffyrdd o gyfathrebu
yn effeithiol i’rdyfodol.
Ie, Arglwydd “dysg ni i gyfrif eindyddiau” ac er dy fwyn deall
sut iweithredu’n ddoeth yn ein cyfnod. Pobbendith.
Parch Marcus Wyn Robinson,Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.
Y bocs sebon … t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod
hyfryd iawn … t. 8
CYFROL CXLVIII RHIF 18 DYDD GWENER, MAI 1, 2020 Pris 50c
yn calonogi
yn ysbrydoli
yn adeiladu
yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U
Defnyddio Amser yn Ddoeth
Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd y lloer a’r ser
aroddaist yn eu lle… Beth yw meidrolyn, i ti ei gofio? (Salm 8)
Dirfodaeth ddoe? Dirfodaeth heddiw?Weithiau dwi’n gorwedd yn
effroyn y nos yn gofyn, Pam dwi yma?
“Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,inni gael calon ddoeth.”
(Salm 90 12)
-
Rhyddid a ChyfrifoldebFe hoffwn ddiolch yn fawr i’r
Parch.Ddr.John Tudno Williams am ei adolygiad(Goleuad 14.02.2020)
ar lyfr LlionWigley, Yr Anymwybod Cymreig. Pangyhoeddwyd y llyfr y
llynedd prynaisgopi – a chael rhannau ohono yn
anodd.“Seicdreiddiad|”? Fy niffyg i, nid yrawdur.
Cefais adolygiad Dr. Williams yn gymorthi weld undod y llyfr a’i
amrywiaethcyfoethog. Ac yn deffro atgofion.
Clywais sôn am ddirfodaeth (neu“existentialism”) gyntaf ymhell
yn ôl yn1950. Bûm mewn ysgol haf y FabianSociety yn Ffrainc, nid
nepell o’rbrifddinas. ‘Roedd yno siaradwyrarbennig a M. Ramadier, y
cynbrifweinidog yn eu plith, yn trafod sefyllfaEwrop wedi’r rhyfel
– a’r gobeithion i’rdyfodol. A bu sawl cyfeiriad at feddylwyradain
chwith, megis Jean-Paul Sartre acAlbert Camus. Pell, pell yn
ôl.
Ond, a neidio deng mlynedd, a minnauyn fy ngofalaeth gyntaf,
tynnodd cyfaill fysylw at Gynhadledd Athrofa’r Bala ymmis Mai 1960,
a’r testun, un gair,Dirfodaeth. A dyma ddechrau deall nadmaterion o
bwys i dramorwyr Marcsaidd
di-gred oedd hyn, ond perthnasol, acefallai yn her hefyd i’r
Cristion.
Mae rhaglen y Gynhadledd o fy mlaen,ynghyd â phentwr o nodiadau
(na allaf,bellach, mo’u darllen na’u deall) wedi eucadw’n ddiogel
yng nghefn un o’r llyfraugosod, sef Existential Thought 1955,
ganRonald Grimsley, Aberystwyth.Athronydd, gyda llaw, y mae
LlionWigley yn ei ganmol yn ei lyfr yn 2019.
Y darlithydd gwadd oedd Mr. JohnGwilym Jones, Bangor, yn cael ei
ddilyngan chwech o weinidogion y Corff arfaterion megis dirfodaeth
adiwinyddiaeth, y dyn syrthiedig, yreglwys a’r Cristion, ac i gloi,
pregethudirfodol. A thrafodaeth i ddilyn pob darlith– a bu trafod
brwd.
Cedwais hefyd ddau doriad o’r Goleuad.Llythyr hir gan y Parch.
Harri Williams,Bangor yn sôn am y ddadl rhyngddo efa’r Parch.
S.O.Tudor am y gair Cymraegcywir am “existentialism”, ynghyd
âthudalen o adroddiad am y Gynhadleddgan y Parch. J.R.Roberts,
Penycae.Gwerthfawr yn wir, a hanes amarweinwyr y Corff yn cymryd
dirfodaetho ddifrif.
Wrth drafod meddylwyr o Gymru, megisMyrddin Lloyd, J. R. Jones a
HarriWilliams, dywed Llion Wigley (tud. 120)“…bu syniadau Sartre a
dirfodwyrmodern eraill yn ganllaw ac arweiniadsy’n parhau yr un mor
werthfawrheddiw”.
Ond beth am heddiw gyda’i wacter ystyra’i bryderon? Yn
ddiddorol, ac efallai ynarwyddocaol, y mae’r gair “existential”
ynair poblogaidd, yn gam neu’n gymwys,ar y cyfryngau. Un dydd, wrth
baratoihyn o lith, gwelais y gair mewn ysgrif
flaen yn y Guardian, a’i glywed wedynyn newyddion hwyr y B.B.C.
A chyd-destun y ddau oedd Feirws Corona.
Cyfoes? Delio y mae o hyd a dirgelion, aphwysigrwydd bodolaeth.
Ac fel y dywedWigley – y mae’n ddyrys.
Fel eraill ‘rwyf i’n cael dirfodaeth yn fwyfel agwedd (attitude)
neu ymdeimlad, ynhytrach na chyfundrefn athronyddol.
Mewn oes dorfol, arch-fasnachol ceisiopwysleisio gwerth a
phwysigrwydd pobunigolyn y mae dirfodwyr. A phob un ynei ryddid, ei
ddewis, a’i gyfrifoldeb.
Dewis anodd yw yn aml; nid mater o ddua gwyn yw. ‘’The Moral
Maze’” yw enwun rhaglen drafod boblogaidd ar y radio.Ond bodau
cyfrifol ydym oll.
Yn ei lyfr God’s Theatre, cawn T. J.Goringe yn defnyddio
delweddau sy’ngymorth i mi. Nid eistedd megiscynulleidfa yn gwylio
a gwrando ydym nii fod, ond ar y llwyfan, lle mae’r ddramayn
digwydd. A’r dramodydd, ycynhyrchydd a’r actorion mewnperthynas
greadigol a’u gilydd.Digwyddiad byw, a phawb a’i ran –a’i
gyfrifoldeb.
A heddiw, yn nyddiau Brexit, Corona, aphryder am barhad y
greadigaeth, ymae pwyslais dirfodaeth – Bod – yn einherio i fod yn
weithredol a chyfrifol. Ac, i’rCristion, y cyfan gerbron Duw.
Diolch i Llion Wigley am ei gyfrolgyfoethog. Braidd gyffwrdd un
rhan ynunig ydw’i yma. Haedda ei ymchwil sylwgofalus pawb
ohonom.
Arthur Meirion Roberts
2 Y Goleuad Mai 1, 2020
Y BOCS
SEBON
Prosiect Omwabini a Bangor
Cafodd y clybiau CIC gyflwyniad gan Mr Alun Prichard ynglªn â’i
waith arbenniggyda phrosiect yng Nghenia o’r enw Omwabini, gair
Swahili sy’n golygu “camauachub”.
Prif amcanion y project yw helpu pobl dlawd drwy:
• rhoi to uwch eu pennau• sicrhau eu bod yn gallu tyfu bwyd i
gynnal eu hunain• sicrhau fod ganddynt ddfir glân i’w yfed.
Bydd y plant a’r Ieuenctid yn codi arian dros y misoedd nesaf i
gefnogi’r project.
Owain Davies
Mea CulpaYmddiheuriad. Mae hyd yn oed yGolygyddion mwyaf trylwyr
yn llithro arbrydiau! A llithrodd golygydd y Goleuadyr wythnos
diwethaf drwy briodolierthygl gan y Parch Emlyn Richards i’rParch
Arthur Meirion Roberts.Ymddiheurwn yn fawr am y llithriad.
CydymdeimloDerbyniwyd y newyddion ar 15 Ebrillam farwolaeth Syr
John Houghton.Yn wreiddiol o Ddyserth, dringodd iuchelfannau ei
faes gan fod ynbennaeth Physeg Atmosfferig ymMhrifysgol Rhydychen.
Ef oeddllywydd y Panel ar Newid Hinsawdd aenillodd y wobr Nobel.
Ond heblawam fod yn wyddonydd uchel ei barchac ymhlith y cyntaf i
adnabodperyglon cynhesu byd-eang roeddyn flaenor gostyngedig a
gweithgaryn ei gynulleidfa yn Aberdyfi.Cawn gyfle yn y man i
dderbyngwerthfawrogiad o’i gyfraniad.Estynnwn ein cydymdeimlad
a’ideulu a’i gynulleidfa.
-
Gwers 33 – Sul, 10 Mai
Ond buddugoliaeth Calfarî enillodd hon yn ôl i mi
(Caneuon Ffydd, 522)
Obadeia
“Ond ym Mynydd Seion bydd rhaidihangol a fydd yn
sanctaidd;meddianna tª Jacob ei eiddo’i hun.”(Obadeia 1:17, tud.
267 yn y Gwerslyfr)
Darllen: Obadeia 1–21; Effesiaid2:1–10
Gweddi: O fryniau Caersalem ceir gweled holl daith yr anialwch i
gyd, pryd hyn y daw troeon yr yrfa yn felys i lanw ein bryd;cawn
edrych ar stormydd ac ofnau ac angau dychrynllyd a’r bedd, a
ninnau’n ddihangol o’u cyrraedd yn nofio mewn cariad a hedd.
Amen
(Caneuon Ffydd, 747)
‘Daw eto haul ar fryn.’ Ydych chi wedisylwi ar yr ymadrodd
yma’nddiweddar? Neges syml, nad yw’rcyfyngder presennol am barhau
ambyth. Mae teimlad tebyg i’n hadnod ytro hwn: na fydd y trychineb
presennolyn parhau, ond yn hytrach, ‘ymMynydd Seion bydd rhai
dihangol’.Ymddengys fod Obadeia (enw sy’n
golygu ‘gwas’ neu ‘addolwr IAFE’) ynysgrifennu yn y cyfnod wedi
i’rgaethglud ddechrau, oherwydd ceirbeirniadaeth o Edom, gwlad
gyfagos,sy’n manteisio ar Jwda yn ei gwendid.Mae’r feirniadaeth am
iddi sefyll o’rneilltu tra anrheithiwyd Jwda: ‘Ni ddylitsefyll ar y
groesffordd i ddifa euffoaduriaid; ni ddylit drosglwyddo’rrhai a
ddihangodd ar ddydd gofid.’(adn. 14)Yn wyneb y trychineb ddaeth i
ran
Jwda, mae Obadeia yn cyhoeddi’nhyderus nad Duw Jwda yn unig
ywIAFE, ond Duw’r holl genhedloedd, acmai ef fydd yn eu barnu yn ôl
eugweithredoedd. Mae adlais o eiriau Iesuyma, mai â’r mesur y
rhoesant ybyddant yn derbyn: ‘Fel y gwnaethost tiy gwneir i ti’
(adn. 15). Ond, wrth gwrs,dychwelyd barn arnynt yw’r byrdwnyma,
sy’n rhybudd i ni wrth feddwl amMathew 7:1–6.Yna, daw newid sydyn
yn y
cyweirnod gydag un o eiriau pwysicaf yBeibl: ‘Ond …’ Yng nghanol
y gwae ymae gwaredigaeth a llwybr i’rdychweledigion, y rhai
dihangol. Er nawelodd Obadeia gyflawni eibroffwydoliaeth, mae yma
gysgod o’rGroes, mai ar fynydd Seion yr enilloddIesu’r frwydr,
rhwygo’r llen, ac arwainy ffordd yn ôl i ni i bresenoldeb Duw:‘Bydd
gwaredwyr yn mynd i fyny iFynydd Seion … a bydd y frenhiniaethyn
eiddo i’r ARGLWYDD’ (adn. 21).
Mae yna ‘OND’ mawr arall yn yr ailbennod o Lythyr Paul at yr
Effesiaid.Fel Obadeia, mae’n dechrau â’r farnsydd arnom i gyd: ‘Bu
adeg panoeddech chwithau yn feirw yn eichcamweddau a’ch pechodau’
(2:1).Mae’n dangos mai ein rhan yn y bydyma yw bod o dan deyrnasiad
‘tywysoggalluoedd yr awyr, yr ysbryd sydd ynawr ar waith yn y rhai
sy’n anufudd iDduw’ (2:2). Yn yr awr dywyllaf daw’r‘Ond’: ‘Ond gan
mor gyfoethog ywDuw yn ei drugaredd, a chan fod eigariad tuag atom
mor fawr.’Gweithreda Duw o’i gariad a’i fawr
drugaredd ac nid yn ôl ein haeddiant;trwy ffydd a gras Duw mae’r
breintiausy’n eiddo i Grist drwy ei ufudd-dod yndod i’n rhan ni.
Cawn ein hunain, drwyffydd yn Iesu, yn cael ein codi o feirwyn fyw
gydag ef, i gydeistedd ag ef yn ySeion nefol. A’r fraint ryfeddol o
gaelmwynhau’r bywyd nefol hwn yn awr,wrth fyw ein bywyd o
weithredoedd da,ein hymateb i’w waith ef ynom, traydym yn cerdded y
bywyd hwn.
Trafod ac ymateb:
1. Yn wyneb yr ofnau sy’n cydio einbyd heddiw, a oes gennych
olwg arFynydd Seion, a gwaith gorffenedigIesu?
2. Ydych chi wedi profi ‘Ond’ mawrDuw yn eich bywyd? Os nad
ydych,yna dyma gyfle i’w geisio ynwirioneddol. Os ‘do’ yw
eichtystiolaeth, yna rhannwch eichprofiad â’r rhai sydd yn
ofnusheddiw.
3. Myfyriwch ar emyn David Charles,‘Mae ffrydiau ’ngorfoledd
yntarddu’ (Caneuon Ffydd, 747).Gweddïwch ar i hyn fod yn wir yneich
profiad chwi.
Mai 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a
thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys
gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod
personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John
Treharne,
sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)
Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards
Gair o WeddiGweddi pan mae’r dyfodol ynteimlo’n ddigalon ac
ansicr
Pryd fydd y cyfan yn gorffen, Arglwydd?Pryd fydd yr hunllef
yma’n dod i ben?Rydym yn clywed y bydd y sefyllfa’n gwaethygu cyn
gwellagyda mwy o farwolaethaua nifer y rhai sy’n dioddef o’r haint
yn dal i gynyddu,ar waetha pob ymdrech i rwystro hyn.
Ond rydym yn cael addewid hefydy bydd yr afiechyd yma’n cyrraedd
penllanw yn y diwedd,ac y gallwn wedyn ddechrau ailafael yn ein
bywydau,ailadeiladu’r economi,gan obeithio y byddwn yn gallu
dychwelyd i ryw fath onormalrwydd yn raddol.
Ond, fydd hynny’n digwydd,neu fydd y feirws yma’n gyndyn o
gilio,yn anoddach i gael gwared ohono nag roeddem wedi
eiddychmygu?Dydyn ni ddim yn gwybod.Rho’r amynedd i ni wneud pa
aberth bynnag sydd ei hangen,waeth pa mor hir fydd y cyfnod yma.Rho
inni’r nerth a’r penderfyniad,cryfder a doethinebi ymateb yn
synhwyrol i ba her bynnag fyddwn yn eihwynebu.A helpa ni i gadw’r
ffydd,waeth pa mor ddiderfyn mae’r twnnel yn ymddangos,y byddwn, yn
y diwedd, yn gweld golau yn y pen draw.Amen.
Nick Fawcett
Addasiad Cymraeg Ioan ac Owenna Hughes (oddi ar y
dudalenFacebook: Gair o Weddi)
-
Saith deg pum mlynedd yn ôl, ar 9 Ebrill1945, crogwyd Dietrich
Bonhoeffer, ydiwinydd Lutheraidd o’r Almaen, gydachwe aelod arall
o’r cynllwyn iddymchwel Adolf Hitler, yng ngwersylldienyddio
Flossenbürg yn yr Almaen.Roedd yn 39 oed.
O’i flynyddoedd olaf fel myfyriwr ynBerlin hyd at ei farwolaeth
ar grocbren yNatsïaid yn Flossenbürg, roedd y mudiadeciwmenaidd yn
ganolog i Bonhoeffer.Yn ystod y blynyddoedd hyn,cyflawnodd sawl rôl
wahanol: diwinyddac athro academaidd, hyrwyddwr mwyafblaenllaw’r
Eglwys Gyffesol, gweinidog,cyfarwyddwr seminarau ac – yn
fwyafdramatig a dadleuol – cyfranogwr parodym mudiad gwrthsafiad yr
Almaen a’rcynllwyn i ddymchwel Hitler. Ond eiymrwymiad i’r mudiad
eciwmenaidd a’iran weithredol ynddo sy’n ffurfio’r llinynmwyaf
cyson yn ei fywyd a’iweithgaredd ac sy’n cysylltu eiymrwymiadau
amrywiol. RoeddBonhoeffer yn ffrind i Willem Visser ’tHooft, a
fyddai’n dod yn ysgrifennyddcyffredinol cyntaf Cyngor Eglwysi’rByd,
a byddai’n ymweld ag ef yngNgenefa yn ystod blynyddoedd y rhyfelgan
ddod â newyddion iddo am ygwrthwynebiad i Hitler, ond hefyd
yntrafod materion fel y goblygiadaueciwmenaidd sydd i fedydd.
Bonhoeffer a’r hyn y mae’n ei olygu ifod yn eglwys
Daeth Bonhoeffer â’i ddiwinyddiaeth eihun i’r mudiad,
diwinyddiaeth a luniwydganddo yn ei draethawd doethuriaethSanctorum
Communio gyda’i gysyniadsylfaenol o’r eglwys: “Crist yn bodoli
felcymuned”. Credai Bonhoeffer fod yreglwys yn gorff o bobl mewn
perthynasâ’i gilydd wedi’u casglu ynghyd o dan airCrist – Crist fel
y’i canfyddir yn ei waitho “weithredu cynrychioliadol dirprwyol”–
ac y mae ei haelodau, yn sgil hynny,wedi ymrwymo i’w gilydd yn yr
unberthynas honno. Nid oeddgan Bonhoeffer
“ddiwinyddiaetheciwmenaidd” heblaw am yddealltwriaeth hon o’r hyn
mae’n eiolygu i fod yn eglwys, ar y raddfaehangaf, yn wir yn
fyd-eang.
I Bonhoeffer, eciwmeniaeth oeddyr alwad hefyd yn y bôn i
gyhoeddiac ymgorffori heddwch yn y byd.Felly, gwelwn ef yng nghyn
-hadledd eciwmenaidd Fanø ym 1934yn Nenmarc yn cyhoeddi eiapêl
drawiadol ar i eglwysi’r byd,fel y “cyngor eciwmenaidd” mawra oedd
yn dal i eistedd, gyhoeddi
galwad i’r cenhedloedd i roi eu harfaui lawr.
Yr Eglwys Gyffesol a’r mudiadeciwmenaidd
Serch hynny, er ei holl ymrwymiad iddo,yr oedd Bonhoeffer ar rai
adegau ynanghyffyrddus â symudiad eciwmenaiddei ddydd. Ysgrifennwyd
ei bapur ‘TheConfessing Church and the EcumenicalMovement’ yn 1935,
ar adeg dynged -fennol yn Ymryson Eglwys yr Almaen.Fe’i hysgogwyd
yn benodol gan safiadadain Ffydd a Threfn y mudiadeciwmenaidd, nad
oedd yn derbyn nac yndeall haeriad yr Eglwys Gyffesol mai hioedd
gwir Eglwys Efengylaiddyr Almaen. Ni ellid osgoi cwestiwny
gwirionedd gan y mudiadeciwmenaidd, dadleuai Bonhoeffer,gan mai ar
y cwestiwn hwnnw yroedd yr Eglwys Gyffesol yn mentro’ibywyd.
Roedd angen ei gilydd ar y mudiadeciwmenaidd a’r Eglwys
Gyffesol,meddai. Yn y papur hwn, cyflwynoddddealltwriaeth o
eciwmeniaeth feleglwysi a Christnogion yn yr oikoumeneyn cymryd
rhan mewn tystiolaethgyffredin i wirionedd Crist, yn yr hwn ymae eu
cyd-ddibyniaeth yn hollbwysig,wedi’i grynhoi mewn un
frawddegogoneddus: “nid delfryd [y mudiadeciwmenaidd] sydd wedi’i
osodgerbron ond gorchymyn ac addewid –nid gweithredu eich amcanion
mawr -eddog eich hun sy’n ofynnol ondufudd-dod.”
Eglwys i eraill
Gwelir Bonhoeffer yn aml yn ystodblynyddoedd y rhyfel, o 1940
hyd nes
iddo gael ei arestio ar 5 Ebrill 1943, felffigwr unig yng
nghysgodion tywyll yrasiant dwbl, yn symud i’r arenawleidyddol ac
oddi wrth “faterioneglwysig”, â’i unig fynegiant diwinyddoli’w weld
wrth iddo ysgrifennu ei Foesegar ei ben ei hun. Ac eto, camddeall
natury cynllwyn a gweithgaredd Bonhoefferynddo fyddai hyn. Roedd
gwerthoeddCristnogol ei brif hyrwyddwyr wedidylanwadu’n aruthrol ar
y gwrth -wynebiad gwleid yddol. Yn wir, bron ygellid ei ddisgrifio
fel mudiadeciwmenaidd lleyg ar ei ben ei hun – acar yr ochr
Babyddol roedd yn cynnwysnifer dda o glerigion hefyd. Yn ystod
ycyfnod hwn dechreuodd Bonhoeffergymryd mwy a mwy o ddiddordeb
mewncwestiynau eciwmenaidd a rhyng-eglwysig, rhai
rhyng-Brotestannaidd aChatholig–Brotestannaidd.
Nid yw’r diddordeb hwn yn cael eidewi yn ei ysgrifau carchar
ychwaith.Mae ei lythyrau “radicalaidd” yn canoliar y cwestiwn: beth
yw ystyr bod yneglwys yn y “byd a ddaeth i’w oed”. Nidoes gan
Bonhoeffer gonsýrn am weldCristnogaeth “ddi-eglwys”, yn gymaint
âChristnogaeth a ymgorfforir mewneglwys sy’n uniaethu â’r
byd,Cristnogaeth heb freintiau crefyddol, gangymryd ffurf Crist yn
ei fodolaeth droseraill.
Mae hyn yn golygu “perthyn yn gyfangwbl” i’r byd, gan gyrraedd y
pwynthwnnw o uniaethu dwys â’r byd yn eigryfderau yn ogystal â’i
wendidau, eiobeithion yn ogystal â’i ofnau. YngNghrist, mae Duw a’r
byd yn unedig, acni ellir cwrdd â Duw na’r byd heb y llall.Yn yr
ymgysylltiad hwnnw rhwng ffydda’r byd y mae delw Duw yng Nghrist
yncael ei chreu ynom. Wrth rannudioddefiadau Duw yn y byd y
dawrhywun yn “fod dynol, yn Gristion”. Maehwn yn wahoddiad i gael
eichtrawsnewid, yn gymaint ag i drawsnewid.
Uwchlaw buddiannau a gwrthdarocenedlaethol
Ar Sul y Pasg Bach 1945, noswyl eiddienyddiad, mewn ysgoldy
ymmhentref Schönberg yn Bavaria,cynhaliodd Bonhoeffer wasanaeth ar
gaisei gyd-garcharorion a oedd yn cael eucludo i’r de o wersyll
crynhoiBuchenwald. Roedd ei gynulleidfa fachyn cynnwys pobl o
wahanolgenhedloedd, o draddodiadau eglwysigamrywiol a heb
draddodiad – achlysureciwmenaidd yn wir.
tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 1, 2020Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Dietrich Bonhoeffer:Proffwyd beirniadol y Mudiad Eciwmenaidd
Llun: Bonhoeffer Bildarchive
(parhad ar y dudalen nesasf)
-
Prin y mae wedi gorffen pan ddaw dauswyddog o’r Gestapo i
mewn:“Carcharor Bonhoeffer, paratowch iddod gyda ni.” Roedd pawb yn
gwybodbeth oedd hynny’n ei olygu. Fesibrydodd Bonhoeffer wrth Payne
Best,swyddog o Brydain, “Dyma’r diwedd, imi mae’n ddechrau bywyd.”
A rhoddoddneges iddo ar gyfer ei ffrind agosaf ynLloegr, George
Bell, esgob Chichester:“Dywedwch wrtho fy mod gydag ef yndal o hyd
i gredu yn realiti einbrawdoliaeth Gristnogol sy’n codiuwchlaw pob
diddordeb a gwrthdarocenedlaethol, a bod ein buddugoliaeth ynsicr.”
Roedd geiriau hysbys olafBonhoeffer yn ailddatgan gweledigaethac
ymrwymiad eciwmenaidd, y sêl aryrfa gyfan o ymroddiad i’r achos
hwnnw.Adeg ei farwolaeth ym 1945, roedd
Bonhoeffer yn amlwg o flaen ei oes. Abydd yn aros o’n blaenau am
amser hir iddod.
Gellir lawrlwytho llyfr KeithClements oddi ar wefan
Oikoumene,Cyngor Eglwysi’r Byd (WCC), dan yradran ‘Resources’ am
gyfnod byr eto.Neu gellir dilyn y ddolen a roddir isod osydych yn
darllen yr erthygl hon ar ffurfPDF gyda mynediad i’r we:
https://www.oikoumene.org/en/resources/publications/dietrich-bonhoeffers-ecumenical-quest-by-keith-clements
Gan Keith Clements (Cyf. Gol.)
Mae’r Parch. Ddr Keith Clements yngyn-ysgrifennydd cyffredinol
Cynhad leddyr Eglwysi Ewropeaidd, ac yn awdur nifero lyfrau ac
erthyglau ar DietrichBonhoeffer, gan gynnwys DietrichBonhoeffer’s
Equmenical Quest, agyhoeddwyd gan WCC Publications yn2015. Mae’r
erthygl hon wedi’i seilio aranerchiad a roddwyd yn lansiad y
llyfryn y Ganolfan Eciwmenaidd ar 4 Mawrth2015, ac a gyhoeddwyd
wedi hynnyyn The Ecumenical Review, Gorffennaf2015.
Mai 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Dietrich Bonhoeffer(parhad)
Oedfa deledu – gwerthfawrogiadOs ydych wedi gwerthfawrogi
caelgwasanaeth Cymraeg ar y teledu ar foreSul (a Gwener y
Groglith), yna beth amanfon gair o werthfawrogiad at S4C iddweud
hynny ac i ofyn iddynt ystyriedparhau â’r ddarpariaeth yma ar ôl
i’rcyfwng presennol fynd heibio? Gellirysgrifennu at y cwmni, anfon
negesebost at: [email protected] neuadael neges ar eu gwefan o
dan ypennawd ‘cysylltwch â ni’. (Gol.)
Wythnos Cymorth Cristnogol ar lein!Mewn ychydig wythnosau,
maepandemig y Coronafirws wedi creunewid rhyfeddol yn ein
cymdeithas.Mae’r haint wedi effeithio ar bob
rhan o fywyd. Daeth â dioddefaint acansicrwydd i gynifer, yma a
thramor,gan wthio’i hun i flaen ein meddwl, einsgyrsiau a’n
gweddïau. Ac rydyn ni igyd yn gorfod addasu o’i oherwydd.Mae
eglwysi Cymru hefyd wedi
addasu, wrth iddynt gael eu cau allano’u hadeiladu. Ond mae
nifer wediymateb i’r her, a bellach ceir gwledd ooedfaon a
myfyrdodau ar lein i’n helpui barhau i addoli.Yn yr un ffordd, mae
Cymorth
Cristnogol hefyd yn gorfod addasu. Amy tro cyntaf ers degawdau
lawer, niallwn gynnal yr Wythnos CymorthCristnogol arferol ym mis
Mai eleni.Ond tydi hynny ddim yn golygu ein bodam wneud dim. Bydd
cyfle i gynnal y
gweithgareddau arferol yn yr hydref,ond mae cyfle i ymuno
mewngweithgareddau ar lein ym mis Mai.Mae Trefn Gwasanaeth,
Gweddïau aNodiadau Pregeth i gyd yn barod ar eingwefan. Gallwch eu
defnyddio ar eichcyfrifiadur neu eich dyfais, neu euhargraffu ar
bapur gartref.I’r eglwysi hynny sy’n paratoi
oedfaon ar lein bob Sul i’w haelodau,beth am ddefnyddio’r
‘TrefnGwasanaeth’ arbennig sy wedi eibaratoi ar gyfer Sul, 10 Mai?
Mae’n troi
o amgylch yr arfer pwysig o olchidwylo.Yn ychwanegol, bydd
gennym
ddefosiwn dyddiol ar fideo ar eincyfryngau cymdeithasol a chwis
arFacebook y gall Cymru gyfan ymunoynddo! A does dim yn eich atal
rhagcreu eich syniadau codi arian ar leineich hun. Byddem wrth ein
bodd yncael dathlu’ch syniadau creadigol.Meddai Cynan Llwyd,
Pennaeth
Cymorth Cristnogol Cymru dros dro,‘Mae wedi bod yn wych
derbynnegeseuon cefnogol gan ein cefnogwyrtuag at ein chwiorydd a’n
brodyrdramor, a phobl yn gofyn sut allen nhwbarhau i gefnogi
Wythnos CymorthCristnogol mewn cyfnod mor anodd.
‘Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwchyn gallu ymuno yng
ngweithgarwch yrWythnos ar lein ym mis Mai, wrth innigynnig
adnoddau arbennig i’ch helpu iweddïo a chodi arian dros y rhai
aeffeithir gan dlodi.‘Nid yw cariad byth yn darfod. Mae’r
Coronafirws yn ein heffeithio i gyd.Ond mae cariad yn ein huno i
gyd.Gadewch inni i gyd uno drosWythnos Cymorth Cristnogol a
sefyllmewn undod dros y mwyaf bregus ynein byd.’
Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddarafa’r adnoddau ar ein
gwefan:https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/coronafirws
Dechrau CanuDechrau Canmol
Sul, 3 Mai
Yr wythnos yma cawn fwynhauemynau o bob rhan o Gymru yngnghwmni
Nia Roberts.
Cofiwch hefyd am oedfa DechrauCanu Dechrau Canmol am 11 fore
Sular S4C.
Llun: Tim Cymorth Cristnogol yng Nghymru
Dymunwn bob bendith i Mari Mcneill (chwith yn y blaen) wrth iddi
ddechrau ar gyfnodmamolaeth, ac i Cynan Llwyd (dde yn y cefn) wrth
iddo gymryd at gyfrifoldebau
Pennaeth gweithredol yng Nghymru dros dro. Cadwn y tîm yn gyfan
yn ein gweddïauyn ystod y cyfnod hwn.
-
Mae yna un pwynt arall i’w wneud amyr Ysbryd: sef mai ef yw
ysbrydcymdeithas. Ef sy’n cyffroi’r cariadsydd gan y Tad a’r Mab
tuag at eigilydd, ac mae’n dwyn teulu ynghyd argyfer y Tad. Fel y
ceir cymdeithas yny nefoedd, felly y’i ceir ar y ddaearhefyd.
Ar bob pwynt fe welsom fod gweddiyn syml yn cymryd gafael ar
wirioneddCristnogol: ein bod yn anghenus, einbod yn blant i Dduw ac
ymlaen. Ond,oherwydd natur ein Duw, dydy’r Ysbrydddim yn ein dwyn
ar ein pennau einhunain yng Nghrist at y Tad – mae’n eindwyn ynghyd
ato ef fel teulu’r Tad.Felly, fe fyddwn hefyd yn gweddïogyda Christ
fel brodyr a chwioryddgerbron ein Tad.
Yn gryno felly, y bywyd Cristnogolyw’r bywyd o weddi ynghyd:
teulu’rTad yn dod at ei gilydd ato ef i rannu ynei ewyllys a’i
gonsýrn. Dyma pam,mewn rhai ffyrdd, fod y cyfarfodgweddi yn gymaint
o frwydr rhwng ycnawd a’r ysbryd: fyddi di’n colbio dy
frodyr a’th chwiorydd â’th weddïaumawreddog gan anwybyddu
Duwmewn gwirionedd, neu a fyddi di’n
wirioneddol yn ceisio’r Tad ac ynceisio’i fendith iddyn nhw?
Gall fod ynffurfioldeb, yn gyfle i gystadlu â’r nailla’r llall –
neu fe all feithrin undod mewnmodd rhyfeddol. Mae hyn yn wir
panfyddwn ni’n gweddïo dros rywun aphan fyddwn ni’n gweddïo
gydarhywun. Os byddi di’n gweddïo drosrywun sy’n dy wylltio ac yn
dygythruddo, fe fyddi di’n ei chael hi’nanoddach o lawer i ddal
gafael mewndicter, chwerwder, amheuaeth neugasineb pan fyddi di’n
gweddïo drostynnhw. Gall weddïo gyda rhywun hefydfod yn brofiad
nerthol. Pan fyddffrindiau yn penderfynu’n ddiffuant iweddïo gyda’i
gilydd, efallai’nddigymell, fe fydd modd yn aml iddynnhw synhwyro
agosrwyddanghyffredin, teuluaidd, gyda’i gilydd.Yr ydych yn bod yn
deulu gyda’chgilydd. Rhannu trugaredd ein Tad ywgweddi dros ein
gilydd. Bod yn deuluyw gweddi gyda’n gilydd, ac fefeithrin yr undod
hwnnw y mae Duw’nei garu.
tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 1, 2020Y PEDAIR
TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t
Yn y gyfres hon byddwn yn cyflwyno rhai penodau o lyfr Michael
Reeves, Enjoying your prayerlife (10ofthose publishing) er mwyn ein
hybu a’n helpu yn ein bywyd o weddi
Mwynhau ein Bywyd Gweddi – 10YR YSBRYD YN EIN DWYN YNGHYD MEWN
CYMDEITHAS Â DUW
Llun gan Nathan Dumlao ar Unsplash
(llun: Barnabas Fund)
Mae’r ail don o locustiaid ifanc sydd bellach yn ymledu
drwyddwyrain Affrica yn fwy o lawer na’r don gyntaf a
gafwydddechrau 2020.
Ofnir y bydd yr ail don o locustiaid ifanc ugain gwaith ynfwy
difrifol na’r pla cyntaf a ddinistriodd gnydau dwyrainAffrica
ddechrau’r flwyddyn.
Dywedodd Sefydliad Bwyd ac Amaeth y CenhedloeddUnedig fod pla’r
locustiaid yn Affrica yn parhau i fod yn‘hynod frawychus’ wrth i
fwy o heidiau o’r locustiaid difaol
hyn ffurfio a thyfu yn Kenya, Ethiopia a Somalia. Maedyfodiad yr
ail don hon yn digwydd yr un pryd â’r tymorplannu ac yn ‘fygythiad
digynsail’ i ddiogelwch bwyd, yn ôl yCenhedloedd Unedig.
Mae’r tymor glawog yn cynnig amodau bridio delfrydol arhagwelir
y bydd heidiau’n deor ac yn aros yn yr unfan. Byddymfudo pellach i
Uganda a de Swdan hefyd yn debygol erbyndiwedd mis Mehefin a mis
Gorffennaf, pan fydd y cynhaeafnesaf yn barod. Mae’r ail don yn
cynnwys mwy o oedolionifanc, a fydd wedi etifeddu tueddiadau’r
genhedlaeth flaenoroli heidio ac sy’n fwytawyr arbennig o
farus.
Ffynhonnell: Barnabas Fund, cronfa sy’n cynorthwyoCristnogion
dan erledigaeth ar draws y byd
Ofnau y bydd yr ail don o locustiaid yn Nwyrain Affricaugain
gwaith yn waeth na’r don gyntaf
Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALENHuw Powell-Davies
neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 1QH
Anfonwch eich erthyglau, hysbysebion a.y.y.b. i’r cyfeiriad
uchod.
Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yn cael eu cynnwys yn rhano
bapurau wythnosol tri enwad, sef Y Goleuad (EglwysBresbyteraidd
Cymru), Seren Cymru (Undeb Bedyddwyr
Cymru) a’r Tyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).
[email protected]
-
Y CAPEL A’R DAFARN
Mae pawb sy’n gyfarwydd â dinasBangor yn gwybod am Westy’r Belle
Vueym Mangor Uchaf. Yn fy nghyfnod iroedd teulu’r Belle Vue yn
aelodau yngnghapel y Tfir Gwyn – rhai ohonynt ynarbennig o
ffyddlon. Yr oedd ganddyntun arferiad anghyffredin. Yn ystod yremyn
cyn y Cymun byddant yn gadael ygwasanaeth yn dawel. Eu rheswm
amwneud hynny oedd eu bod fel petaent ynteimlo na ddylent fod yn
derbynelfennau’r Cymun ar ôl bod yn darparudiodydd cadarn i’w
cwsmeriaid yn ydafarn! Er i mi geisio’u darbwyllo bodIesu yn derbyn
pawb wrth ei fwrdd a bodhanesion amdano’n derbyn publicanod
aphechaduriaid, doedd dim yn tycio. Dilynesiampl eu mam oedd y
teulu cyfan.
Yn yr un cyfnod, mewn seiat undebol,aeth y drafodaeth i
gyfeiriad cau’rtafarndai ar y Sul, gan mai hwnnw oeddy pwnc llosg
ar y pryd a’r bobl o blaidagor wedi ennill y dydd. Mentrodd MrT. M.
Bassett, darlithydd hanes yn yColeg Normal a hanesydd y
Bedyddwyr,
ddweud mai camgymeriad mawrYmneilltuaeth Cymru oedd gwneudgelyn
o’r dafarn. Bu’r hen dafarnGymraeg yn gyrchfan beirdd, llenorionac
athronwyr y cylch ac yn ffocws i’rgymdogaeth.
Trwy Gymru aeth y dadlau yn ffyrnig arhannwyd ardaloedd.
Dyfynnwydffeithiau a ffigurau oedd yngamarweiniol. Dadl llawer oedd
y byddaiagor y tafarnau yn golygu byw gyda SulCyfandirol; er nad
oedd gan nifer fawrohonynt unrhyw brofiad o Sul Cyfandirol.Y gwir
yw bod y Sul ar y Cyfandirheddiw yn llawer mwy parchus adefosiynol
na’r Sul yng Nghymru, gydagamser yn cael ei neilltuo ar
gyferaddoliad, ar gyfer chwaraeon a’r teulu.
Yn ôl adroddiad panel o esgobion yn yChurch Times dylai’r
enwadau, ypleidiau gwleidyddol a’r llywodraeth fodwedi sefydlu rhyw
fath o ymgynghoriad iroi llais i’r farn Gristnogol ac i chwilio
amffordd ymlaen.
A yw’n rhy hwyr i geisio ffurfioymgynghoriad o’r fath? Fe fiyr
yrawdurdodau secwlar fod yr eglwysierbyn hyn wedi colli tir ac wedi
peidio âbod yn rym yn y wlad.
Er hynny, ein gwaith yw ceisio codipontydd, yn enwedig rhwng y
gwahanolffactorau a’r pleidiau fu yng ngyddfau eigilydd cyn y
bleidlais. A bu llawer iawn odrais, a bygwth trais dros y
blynyddoedders hynny; cafwyd pobl yn ymosod ar eigilydd, a bu
cynnydd mewnllofruddiaethau ar strydoedd eindinasoedd. Ffactor
newydd a pheryglusyw’r “diwylliant cyllell” sy’n denu plantmor
ifanc â deuddeg neu dair-ar-ddegoed i gario cyllell i’w hamddiffyn
euhunain.
‘Does bosibl nad oes gan yr eglwysirywbeth i’w ddweud yn wyneb y
mathyma o feddwl. Wedi’r cyfan, y maentwedi gweithio ymysg plant a
phobl ifancers cenedlaethau. Yr oedd grfip o boblifanc yn ymateb i
adroddiad yr esgobion
ac yn cyfeirio’n benodol at bethau syddheddiw’n codi pontydd ac
yn hybutrafodaeth. Diolch am gael clywed ambrosiectau, bach a mawr,
sy’n estynallan ac yn cyffwrdd bywydau ifanc,ofnus.
Ond rhaid dechrau ble mae nhw. Nidmynd i dafarn y mae pobl ifanc
heddiwond i far. Yn y bar mae’r dodrefn yn fwymoethus, yn fwy
modern, ac i lawer unyn fwy soffistigedig. Yno y maent ynteimlo’u
hunain yn fwy diogel ac yn fwypwysig. Ond ble bynnag y cyfarfyddwn
ânhw, y cyfarfod, nid y man cyfarfod syddyn bwysig.
Ond yn ôl i Westy’r Belle Vue. Bob nosSadwrn byddai fy
rhagflaenydd, y ParchGwilym Wiliams, yn mynd i’r Belle Vue ibrynu
ei hoff botel o win coch i gaelgyda’i swper. Yno, wedi ychydig
funudauo sgwrs, byddai wedi dod i nabodrhywun o’r newydd a byddai
rhan fechano’r wal rhwng tafarn a chapel wedi eithynnu i lawr.
Elfed ap Nefydd Roberts
Mai 1, 2020 Y Goleuad 7
O hwnt ac yma
Y da a’r diawledig!Nid oes dim byd gwell na chlywed amrhywun, yn
rhywle, yn gwneudcymwynas ardderchog â rhywun arallmewn helbul.
Clywed am y dyn trwsioceir yn cael galwad i achub dynes mewncar
styfnig. Wrth weld ei bathodyn NHS,cytunodd drwsio’r car am ddim! Y
nyrsdruan newydd fod yn brwydro cyfnod o12 awr yn erbyn Covid-19;
ei char weditorri cyn cyrraedd adref. Go dda fo ynwir – dyn da.
Dyn oedrannus arall ar ei wely angau yngwrthod mynd i’r ysbyty
rhag iddo foamddifadu neb iau na fo o ddefnyddawyrydd ocsigen –
aberthu ei hunan.Dyn da a dewr arall yn wir.
Clywed wedyn am rhywun yn dwyntuniau bwyd o’r banc bwyd yn
yrarchfarchnad. Roedd prindercyfraniadau i’r banc bwyd beth bynnag
–pawb dros ei hunan bid siwr. Dyn drwgeto!
Hanes arall am wraig oedrannus abregus yn ateb y drws a chael
eipherswadio gan ddynes ifanc oedd amgynnig siopa iddi. Rhoddodd
£20 arhestr siopa byr iddi. Ni welodd dim o’isiopa na’i £20
ychwaith ! Yr hen gythrauldrwg!
Yn bendant mae prinder – rhai yn poeniam y bar sebon nesaf, y
botel nesaf oddiheintydd godidog. Eraill yn poeni ameu pryd bwyd
nesaf, lle diogel i gaellloches. Cofiwch am Cymorth Cristnogol–
rhowch yn hael trwy’r post neu trwy’rWê wrth gwrs – os gwelwch yn
dda!
A ninnau yn parhau I fod yng nghysgody Pasg, rydym yn cofio am
un gfir ifanca aberthodd y cwbl, er mwyn i ni gaelbywyd, ni y rhai
da a’r rhai drwg. Rhoi’rcwbl dros BAWB.
Diolch iddo – Amen.
Llun gan © Philip Halling (cc-by-sa/2.0)
-
• Wythnos nesaf – Neges gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol •
8 Y Goleuad Mai 1, 2020
Yn ystod y cyfnod hwn gwerthfawr yw oedi a threulio amser yn
myfyrio ar air Duw yng nghwmni’n gilydd.Yr ydym yn dilyn
awgrymiadau gan y Llithiadur Diwygiedig Cyffredin am thema a
darlleniadau ar gyfer y
pedwerydd Sul wedi’r Pasg, Mai 3, 2020.
Dyma gyfarfod hyfryd iawn…
Y Bugail DaGWEDDI
Arglwydd, wrth dy draed o dysg i mi,beth wyf fi, a phwy wyt ti.
Gad i miganfod o’r newydd mawredd dyogoniant, ysblander
dysancteiddrwydd, grym dy allu, haelionidy drugaredd yn Iesu Grist.
Tyrd atomdrwy’r Ysbryd Glân. Amen.
EMYN – Caneuon Ffydd 62Yr Arglwydd yw fy Mugail da
Mae nifer o ddarlleniadau gennymheddiw. Byddai cael Beibl o’ch
blaenyn cyfoethogi’r munudau nesaf. –Salm 23 – Ioan 10:1-10;Actau
2:42-47; 1 Pedr 2:19-25 -
MYFYRDOD
Wrth i dymor wyna ddirwyn i benbyddwn sy’n ddigon ffodus i fyw
yngnghefn gwlad yn sylwi ar y miloedd ofiyn bach yn prancio yn
heulwen ygwanwyn. Cawn ein cymell unwaith ynrhagor i godi’n het i
anrhydeddu’rbugeiliaid hynny a dreuliodd oriau yngwylied eu praidd
liw nos. Mae’r fiyn,bob un ohonynt, yn dystiolaeth i’wdawn, eu
hadnabyddiaeth o’u praiddeu doniau a’i hymroddiad.
Yn y Beibl mae gofal yr ArglwyddDduw o’i bobl yn cael ei gymharu
âgofal bugail.
Darllen – Salm 23
Yn Salm 23 cawn ein cyflwyno i’rArglwydd sy’n Fugail. Ef yw’r un
sy’nein tywys i borfeydd gwelltog, a’nharwain ar hyd llwybrau
cyfiawnder. Efyw’r un nad yw’n ffoi pan gerddwn“glyn cysgod angau”
ond sy’n darparugwledd gerbron ein gelynion. Ef sy’nsicrhau bod
daioni a thrugaredd ynein canlyn fel bod diwedd ein taithdaearol
byrhoedlog yn baratoad –mae’n preswylfa yn nhª yr Arglwyddyn
dragwydd. A rhyfeddod ein ffyddyw y gallwn ddweud mai yr Arglwyddyw
“fy Mugail.” Nid mewn egwyddor,nid trwy ddefod, ond trwy berthynas
athrwy adnabyddiaeth.
Pan drown i’n darlleniad nesaf gwelwnfod gan yr Arglwydd hwnnw
enw!
Darllen – Ioan 10:1-11
Os yw addewidion Duw i fod yn fugailgofalus o’i bobl yn
rhyfeddol maegeiriau Iesu yn y darlleniad yr un morrhyfeddol. Yma
mae’n uniaethu ei hun,yn mynnu mai ef ei hun yw’r bugailhwnnw.
Lladron ac ysbeilwyr yw pawbarall, meddai, nad ydynt yn fodlonnesáu
at Dduw drwyddo ef. Ef wedi’rcwbl yw’r “drws” hefyd. Mae’n
fugailsy’n adnabod ei braidd, ac y mae eibobl yn adnabod ei lais ac
yn eiganlyn wrth iddo eu “harwain hwyallan” i ddod o hyd i borfa.
Daeth,meddai, er mwyn i’w bobl fwynhauBywyd – bywyd yn ei holl
gyflawnder.Ef yw’r Bugail da cyflawnder yraddewidion a chyflawniad
yraddewidion.
Ond pa fath o fywyd yw’r bywyd hwn?Pa wahaniaeth mae o’n ei
wneud i ni?Sylwch wrth i ni ddarllen am hanes yrEglwys Fore sut y
mae cred acarferiad yn cael eu trawsffurfio ymmhresenoldeb Iesu
Grist.
Darllen – Actau 2:42-47
Yn ddiweddarach yn ei yrfaysgrifennodd Pedr at y Cristnogionoedd
ar wasgar, rhai oedd yn wynebuerledigaeth a gwrthwynebiad i’w
ffydda’u gwerthoedd. Yn ei lythyr mae amiddynt ymgorffori
“gostyngeiddrwydd”.Mae canlyniadau pendant meddai odroi at y bugail
“a ddygodd einpechodau yn ei gorff ar y croesbren ermwyn i ni
ddarfod â’n pechodau abyw i gyfiawnder.”
Ac nid yw ei eiriau’n gorwedd ynesmwyth ar ein clyw na’n
calonheddiw.
Darllen – 1 Pedr 2:18-25
Cafodd disgyblion Iesu ein “hiachau”drwy ei archoll ef. Cawsom
ni, oedd arddisberod ein gwahodd “at Fugail agwarchodwr eich
eneidiau.” Ond ymae ei wahoddiad hefyd yn heriol.Roedd ei
ddioddefaint yn “esiampl” osut i ymddwyn mewn cynni acerledigaeth.
Nid oedd yn difenwi, nacyn bygwth ond yn cyflwyno’i hun i’rbarnwr
cyfiawn.
Beth tybed yw oblygiadau hyn yn einbywydau ni?
GWEDDI
Arglwydd, diolch mai Ti yw’r bugail da,mewn bywyd a llawnder,
mewndyffrynnoedd tywyll a galar. Diolch dyfod wedi addo bod gyda
ni. Ti yw’rbugail da sy’n rhoi dy fywyd trosom.TI yw’r Arglwydd da
a ddaeth er mwyni ni gael bywyd cyflawn, bywydtragwyddol ei sylwedd
a’i barhad.Caniatâ i ni fedru dweud amdanat“Yr Arglwydd yw fy
mugail.”
Arglwydd gwyddom beth yw’rymdeimlad o fod ar goll, ar
ddisberod,heb glywed nac adnabod dy lais.Gweddïwn dros ein calonnau
einhunain, dros ein cynulleidfaoedd, einbröydd a’n cenedl y cawn
ddysgu o’rnewydd adnabod dy lais ac i droi atat.
Ond gweddïwn hefyd am y gallu ifyw i’r “hyn y’n galwyd” i fywyd
sy’ngymeradwy gan Dduw. Maddau i niein dyledion. Yr ydym ninnau
hefydam faddau i’r bobl rheiny wnaeth gamâ ni. Maddau i ni ein bod
yn cadwcyfrif o gam, yn coleddu dicter moraml. Os y gadewaist
“esiampl” i nicaniatâ i ni dy efelychu a’th ddilynheddiw.
A gweddïwn drachefn dros einteuluoedd, drosom ein hunain ybyddet
ti’n ein cadw’n ddiogel yn dylaw – beth bynnag a ddaw. Er nad wytti
wedi addo i ni y byddwn yn osgoibob helbul rwyt ti wedi addo bod
gydani. Helpa fi i gredu hynny, i bwyso arhynny, ac i obeithio yn
hynny.
Gweddïwn dros ysbytai, drosfeddygon a nyrsys, dros bob un
sy’ncyflawni gwaith holl bwysig- er nadoeddem wedi ei gwerthfawrogi
cynhyn.
Gweddïwn dros ein byd a thros eidyfodol. Nid yn unig y Cofid 19
ond ycynhesu byd-eang a’r heriau sy’n einhwynebu. Cyflwynwn i ti
arweinwyr ygwledydd. A chyflwynwn i ti ein byd.Dduw da, trugarha
wrthym. Trugarhawrthym. Trugarha wrthym.Er mwyn Iesu Grist.
GWEDDI’R ARGLWYDD.
EMYN – Caneuon Ffydd 118Canaf yn y bore
Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd
yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth,
newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James,
Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost:
[email protected]
Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg
y Bwthyn, Caernarfon.