Borth (De / South) Taith gerdded arfordirol Coast path walk Start RNLI Lifeboat Station Borth Distance 5 miles (out and back) Time 2-3 hours Grade Moderate Parking Car park near RNLI station Grid ref at start point SN 607 889 Grid ref at turnaround point SN 590 857 It’s not every village that can boast longshore drift as the reason for its existence, Borth however is one that can and seems to be a recent phenomenon. Along the beach beyond the buildings of Borth, the submerged forest can be seen at low tide. Bones and tree remains have been seen here and the recent discovery of deer antlers confirm that this stretch of land once flourished when the sea-level was lower. Sarn Cynfelyn is the most southerly of three such formations and together with the sunken forest at Borth have been the inspiration for the legend known locally as the lost land of Cantre’r Gwaelod. Cantre’r Gwaelod was a rich lowland part of Ceredigion with ramparts and sluices. The responsibility of closing the sluices fell to Seithennyn. A combination of a great storm at sea and Seithennyn’s regrettable dereliction of duty, led the sea to breach the defences and sweep inland leaving Gwyddno, the Kingdom’s ruler, high and dry on a relatively infertile part of his kingdom. Six thousand years later and Borth has the modern-day accolade of being one of the key filming locations for the BBC Wales Nordic Noir television series Hinterland. Cors Fochno, the boat yard where the River Leri reaches the sea and Borth station have featured prominently in the internationally acclaimed award-winning series. Today on a calm and quiet day, some say they can hear the bells of the drowned church of Cantre’r Gwaelod. Sit and wonder at the story and possibly listen quietly for the ringing of that submerged bell. Uchafbwyntiau’r daith Walk highlights Os ewch chi am dro ar hyd arfordir Bae Ceredigion fe gewch chi brofiad arbennig iawn o Lwybr Arfordir Cymru. Dyma rai o uchafbwyntiau’r daith. The route along the crescent of Cardigan Bay through Ceredigion forms a very special part of the Wales Coast Path experience. Here are some of the highlights you can expect to discover along the way. Dechrau Gorsaf Bâd Achub yr RNLI Pellter 5 milltir (allan ac yn ôl) Amser 2-3 awr Gradd Cymedrol Parcio Maes parcio ger gorsaf yr RNLI Cyfeirnod grid yn y man cychwyn SN 607 889 Cyfeirnod grid yn y man troi’n ôl SN 590 857 Nid pob pentref all honni mai’r rheswm dros ei fodolaeth yw drifft arfordirol. Mae’r Borth yn un ohonynt ac ymddengys yn ffenomen ddiweddar. Ar hyd y traeth y tu hwnt i adeiladau Borth, gellir gweld y fforest danfor pan fydd y môr ar drai. Mae esgyrn a gweddillion coed wedi cael eu gweld yma ac, yn ddiweddar, cadarnhawyd bod cysylltiad rhwng cyrn carw a ddarganfuwyd ar y traeth a’r ddamcaniaeth bod y darn yma o dir ar un adeg wedi ffynnu pan oedd lefel y mor yn is. Sarn Cynfelyn yw’r mwyaf deheuol o dri ffurfiant o’r fath ac ynghyd â’r fforest danddwr yn Y Borth, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r chwedl a elwir yn lleol fel tir coll Cantre’r Gwaelod. Roedd Cantre’r Gwaelod yn ardal o dir isel cyfoethog yng Ngheredigion gyda gwrthgloddiau a llifddorau. Cyfrifoldeb Seithennyn oedd cau’r llifddorau. Arweiniodd cyfuniad o storm fawr ar y môr a Seithennyn yn esgeuluso’i ddyletswyddau, at y môr yn chwalu’r amddiffynfeydd ac yn llifo dros y tir gan adael Gwyddno, rheolwr y deyrnas, ar dir cymharol anffrwythlon o’i deyrnas. Chwe mil o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae Borth yn enwog am fod yn lleoliad allweddol ar gyfer ffilmio cyfres deledu BBC Cymru, Y Gwyll. Mae Cors Fochno, yr iard gychod lle mae Afon Leri yn cyrraedd y môr a gorsaf Y Borth yn amlwg yn y gyfres sydd wedi cael sylw mawr yn rhyngwladol. Heddiw, ar ddiwrnod tawel, dywed rhai eu bod yn gallu clywed sŵn clychau eglwys Cantre’r Gwaelod. Eisteddwch a rhyfeddwch at y stori a gwrandewch yn ofalus am sŵn y gloch danddwr honno. www.four.cymru CCC2928 09/2016 Cronfa Cymunedau’r Arfordir Cronfa nedau’r Coastal Communities Fund Coast Path Information • Always make sure you are suitably equipped both for your walk and for changing weather conditions. For your own safety, keep to the Coast Path and do not walk by the cliff edge. • Be prepared for bad weather and take extra care in windy conditions. Wear or carry warm and / or waterproof clothes on long walks. Please check tidal conditions in advance. • For all up-to-date travel information visit traveline-cymru.info Ceredigion tide times for can be found at www.discoverceredigion.wales Take the Ceredigion Coast Path Challenge Walk the Ceredigion Coast Path in its entirety and answer seven questions to claim your personalised challenge certificate. Contact the Ceredigion Tourist Information Centres for more information or visit www.discoverceredigion.wales Gwybodaeth i Ymwelwyr / Tourist Information www.darganfodceredigion.cymru www.discoverceredigion.wales www.facebook.com/discoverceredigion twitter.com/visitceredigion Gwybodaeth Llwybr Arfordir • Sicrhewch bob amser fod gennych yr offer addas i wneud eich taith gerdded ac i ymdopi â thywydd cyfnewidiol. Er eich diogelwch personol, cadwch at Lwybr yr Arfordir a pheidiwch â cherdded ger ymyl y clogwyn. • Byddwch yn barod am dywydd gwael a chymerwch ofal pellach pan fydd hi’n wyntog. Gwisgwch neu cariwch ddillad cynnes a/neu ddillad sydd yn medru gwrthsefyll glaw ar deithiau cerdded hir. • Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio gan traveline-cymru.info Gellir dod o hyd i amserlenni llanw ar www.darganfodceredigion.cymru Sialens Llwybr Arfordir Ceredigion Beth am gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion o un pen i’r llall ac ateb saith cwestiwn i dderbyn dystysgrif sialens y llwybr. Am fwy o fanylion cysylltwch â Chanolfannau Croeso Ceredigion neu ymwelwch â www.darganfodceredigion.cymru