-
Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewnlleoliadau Cyfnod
Sylfaena ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff
awdurdodau lleol aGwasanaethau Plant
Agweddau cymdeithasol acemosiynol ar ddysgu – Cymru
Thema 1 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
Cynradd
Dyddiad cyhoeddi: 09-2010
Cyf: 1323-2010-CYMRU
-
Ymwadiad
Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan
yn glir nad yw’r Adran
a’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys
unrhyw ddeunyddiau a gaiff
eu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y
deunyddiau hynny ar
ffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.
Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau
eu defnyddio am
resymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n
cael eu defnyddio’n
golygu bod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu
cymeradwyo.
Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli
pan gafodd y
deunyddiau eu cyhoeddi. Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn
ofalus er mwyn gweld
a ydynt wedi newid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill
lle bo hynny’n briodol.
-
Set Las – y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed
Cyflwyniad
Mae’r set Las wedi’i rhannu’n bedair elfen, wedi’u gosod yn
nhrefn datblygiad o 1 i 4. Mae’r
rhain yn cyfeirio at Feysydd Dysgu tebyg y Cyfnod Sylfaen. Bydd
ymarferwyr yn ymwybodol
o’r gwahanol gamau datblygu bydd plant yn y lleoliad/ysgol
wedi’u cyrraedd o ran eu dysgu
a bydd yn rhaid iddyn nhw bwyso a mesur pa elfen sy’n briodol
iddyn nhw. Mae’n bosib
hefyd y byddan nhw am ddefnyddio rhai rhannau o’r set Felen
(sydd wedi’i hanelu at
Flynyddoedd 3 a 4).
Mae’r thema hon, Dechrau newydd, yn canolbwyntio ar ddatblygu
sgiliau, gwybodaeth adealltwriaeth plant mewn pedair prif agwedd
gymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu:
• empathi
• hunanymwybyddiaeth
• sgiliau cymdeithasol
• cymhelliant.
Mae’r thema’n rhoi cyfle i blant weld eu hunain fel unigolion a
werthfawrogir o fewn cymuned,
ac i gyfrannu at siapio cymuned ddysgu sy’n groesawgar, yn deg
ac yn ddiogel i bawb. Drwy
gydol y thema, bydd y plant yn archwilio teimladau o hapusrwydd,
cyffro, tristwch, pryder ac
ofn, wrth ddysgu (a gweithredu) modelau a rennir ar gyfer
‘ymdawelu’ a ‘datrys problemau’.
Disgrifir y deilliannau dysgu bwriedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen
isod a thros y dudalen.
Deilliannau dysgu bwriedig
Elfennau 1 a 2
1
Caiff plant sawl cyfle i werthfawrogi a dathlugwahaniaethau ac i
ddeall sut beth yw perthyn igrŵp a pha mor bwysig ydyw. Byddan
nhw’nystyried sut gall pawb gael cymorth i deimlo’nddiogel ac yn
hapus yn y lleoliad, ac i ddeall y drefna’r disgwyliadau yno.
Byddan nhw’n cael cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliaucymdeithasol
angenrheidiol ar gyfer gweithio mewngrŵp.
Perthyn Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i fy
ngrŵp/dosbarth.Dwi’n adnabod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth. Dwi’n
hoffi fy mod yn perthyn i fyngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol. Dwi’n
gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi. Dwi’n hoffi
sut mae pob un ohonom yn wahanol.
Hunanymwybyddiaeth Dwi’n gallu dweud rhywbeth arbennig amdanaf
i.
Deall fy nheimladau Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus neu’n
drist. Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’nhapus, yn
llawn cyffro, yn drist neu’n ofnus. Dwi’n gwybod ei bod yn iawn i
ni gael teimladau ondnad yw’n iawn ymddwyn mewn unrhyw ffordd
yrhoffwn (os yw’n brifo pobl eraill).
Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
-
2
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
Byddan nhw’n edrych ar y teimladau craidd sefhapusrwydd, cyffro,
tristwch ac ofn ac yn dysguffyrdd o adnabod a labelu’r teimladau
hyn, ganwahaniaethu rhwng teimladau cysurus acanghysurus. Byddan
nhw’n gwybod bod pawb yngallu teimlo’r un emosiynau, ond nid yn yr
unsefyllfaoedd bob tro. Byddan nhw’n cael cyfleoedd i ddatblygu
empathi a cheisio gweld beth ywteimladau pobl eraill.
Byddan nhw’n gwybod sut gall ein gweithredoeddeffeithio ar
deimladau pobl a bod pob teimlad yniawn ond nid yw pob gweithred yn
iawn. Byddannhw’n cael cyfleoedd i ddysgu ymdawelu a
dysgustrategaethau syml ar gyfer rheoli ofn a gofid.
Rheoli fy nheimladau Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan
dwi’nteimlo’n ofnus neu’n ofidus.
Deall teimladau pobl eraill Dwi’n gwybod bod gan bawb yn y byd
deimladau.
Sgiliau cymdeithasol Dwi’n gallu rhannu mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu cymryd tro mewn grŵp/dosbarth. Dwi’n gallu ymuno â
phlant eraill wrth chwarae gêm. Dwi’n gwybod sut mae bod yn garedig
wrth bobl sy’nnewydd neu sy’n ymweld â’r lleoliad/ystafell
ddosbarth.
Deall hawliau a chyfrifoldebau Dwi’n gwybod beth i’w wneud yn
fyngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig
Caiff plant gyfleoedd i werthfawrogi a dathlugwahaniaethau a
thebygrwydd rhyngddyn nhw ac ibrofi cymaint o gefn yw perthyn i
grŵp/dosbarth achael eich gwerthfawrogi gan y
grŵp/dosbarthhwnnw.
Caiff y plant gyfleoedd i fod yn rhan o siapioamgylchedd y
lleoliad/ystafell ddosbarth, gan helpupawb i gyd-dynnu a dysgu,
helpu i wneud ygymuned yn un groesawus a deall hawliau
achyfrifoldebau yn y lleoliad/ystafell ddosbarth.
Bydd plant yn canolbwyntio ar y teimladau cysurus ofod yn
perthyn i grŵp/dosbarth, gan ddathlugwahaniaethau ac edrych mwy ar
hapusrwydd achyffro, tristwch ac ofn. Byddan nhw’n caelcyfleoedd i
ddatblygu empathi at blant sy’n newyddneu sy’n teimlo’n drist neu’n
ofnus, a meddwl amffyrdd o’u cefnogi.
Byddan nhw’n defnyddio sgiliau datrys problemau igreu atebion,
penderfynu ar gamau gweithredu, eurhoi ar waith a’u hadolygu, ac
edrych ar ffyrdd o reolieu teimladau drwy ymdawelu.
Perthyn Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i gymuned.
Dwi’n teimlo’n ddiogel ac yn fodlon yn fyngrŵp/dosbarth.
Dwi’n teimlo’n dda am y ffyrdd rydym yn debyg yn ygrŵp/dosbarth
a’r ffyrdd yr ydw i’n wahanol.
Dwi’n gwybod sut mae gwneud i rywun deimlo bodcroeso iddyn
nhw.
Hunanymwybyddiaeth Dwi’n gallu dweud wrthych chi pa mor debyg
i’mffrindiau ydw i a pha mor wahanol.
Dwi’n teimlo’n dda ynghylch fy nghryfderau.
Rheoli fy nheimladau Rydw i’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu
pan rwyfyn teimlo’n ofnus neu’n ofidus.
Deall teimladau pobl eraill Dwi’n gallu dweud weithiau os yw
pobl eraill ynteimlo’n drist neu’n ofnus a dwi’n gwybod sut
maegwneud i bobl deimlo’n well.
Gwneud dewisiadau Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o ddatrys
problem.
Deall hawliau a chyfrifoldebau Dwi’n gwybod beth mae’n rhaid i
mi ei wneud ermwyn gwneud y dosbarth/lleoliad/ysgol yn lle diogel a
theg i bawb, ac nad yw’n iawn i bobl eraill ei wneudyn anniogel
neu’n annheg.
Dwi’n gallu helpu i wneud fy ngrŵp/dosbarth yn lle da i
ddysgu.
Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig
Elfennau 3 a 4
-
3
Deilliannau dysgu: canllawiau cwricwlwm ar gyfer y Cyfnod
Sylfaen
Ceir cyfleoedd i ddatblygu’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol
ar ddysgu (ACEDd) ym
mhob un o Feysydd Dysgu’r Cyfnod Sylfaen. Dylid nodi deilliannau
dysgu drwy arsylwi
ymddygiad dysgu o fewn darpariaeth barhaus y Cyfnod Sylfaen.
Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth
Ddiwylliannol
Dyma’r cysylltiadau penodol gyda Datblygiad Personol a
Chymdeithasol, Lles ac
Amrywiaeth Ddiwylliannol.
Sylwer: Rhaid pwysleisio er bod gan ACEDd y potensial i gyfrannu
at y Maes Dysgu hwn,ceir elfennau eraill o fewn Sgiliau ac Ystod
mae angen rhoi sylw iddyn nhw hefyd o fewn y
rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer y lleoliad/ysgol.
Sgiliau
Datblygiad personol
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• fynegi a chyfleu gwahanol deimladau ac emosiynau – rhai eu
hunain yn ogystal â rhaipobl eraill
• dangos chwilfrydedd a datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a
phrofiadau newydd
• mentro a thyfu’n chwilotwyr hyderus yn eu hamgylchedd dan do
ac yn yr awyr agored
• dod yn feddylwyr ac yn ddysgwyr annibynnol
• datblygu ymwybyddiaeth o’r hyn y maent yn ei wneud yn dda, a
deall sut y gallant wellaeu dysgu a defnyddio adborth i wella eu
gwaith
• gwerthfawrogi eu gwaith dysgu, eu llwyddiant a’u cyraeddiadau
eu hunain yn ogystal ârhai pobl eraill.
Datblygiad cymdeithasol
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• fod yn ymwybodol o anghenion pobl eraill a’u parchu
• cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain
• ystyried goblygiadau geiriau a gweithredoedd iddynt hwy eu
hunain ac eraill
• datblygu dealltwriaeth o ddisgwyliadau’r lleoliad/ysgol o ran
ymddygiad, a deall bodrheolau’n hanfodol mewn cymuned drefnus
• datblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n deg ac yn annheg, a bod yn
barod i gyfaddawdu
• ffurfio perthnasoedd a theimlo’n ddigon hyderus i gyd-chwarae
a chydweithio ag eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau a theuluoedd, a dangos gofal a bod yn
ystyriol
• deall yr hyn sy’n gwneud ffrind da
• datblygu hunanddelwedd gadarnhaol ac ymdeimlad o berthyn fel
aelod o wahanolgymunedau, a deall eu Cymreictod eu hunain
• datblygu ymwybyddiaeth o ddiwylliannau gwahanol ac anghenion,
safbwyntiau achredoau amrywiol pobl eraill sy’n perthyn i’w
diwylliant hwy a diwylliannau eraill
• trin pobl o bob cefndir diwylliannol mewn modd sy’n dangos
parch a goddefgarwch.© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y
Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
-
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
Datblygiad moesol ac ysbrydol
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• ymateb i syniadau a chwestiynau’n frwdfrydig, yn sensitif, yn
greadigol ac yn reddfol
• siarad am yr hyn sy’n dda ac yn ddrwg, yn gywir ac yn
anghywir, yn deg ac yn annheg,yn ofalgar ac yn anystyriol
• siarad am y penderfyniadau a wneir mewn storïau neu
sefyllfaoedd, neu benderfyniadaupersonol, a myfyrio yn eu cylch gan
awgrymu ymatebion eraill
• ymateb yn bersonol i sefyllfaoedd moesol dychmygol syml gan
roi rhesymau dros ypenderfyniadau a wneir
• defnyddio storïau neu sefyllfaoedd i godi cwestiynau ynghylch
pam y mae rhai pethau’narbennig
• mynegi syniadau a theimladau yn greadigol, gan esbonio pam eu
bod yn arwyddocaol
• siarad am y dewisiadau sydd ar gael i unigolion, a thrafod
p’un a yw’r dewisiadauhynny’n golygu bod gwneud penderfyniad yn
haws neu’n fwy cymhleth
• gofyn cwestiynau ynghylch sut a pham y dylid trin pethau
arbennig â pharch ac ymatebyn bersonol
• gofyn cwestiynau ynghylch beth sy’n bwysig mewn bywyd o
safbwynt personol ac osafbwynt pobl eraill.
Lles
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• werthfawrogi eu lles eu hunain a lles pobl eraill, a chyfrannu
ato
• bod yn ymwybodol o’u teimladau eu hunain a datblygu’r gallu
i’w mynegi mewn fforddbriodol
• deall y berthynas rhwng teimladau a gweithredoedd, a deall bod
gan bobl eraill deimladau
• dangos gofal, parch a hoffter at blant eraill, oedolion a’u
hamgylchedd
• datblygu diddordeb cynyddol yn y byd o’u cwmpas a deall yr hyn
sydd gan euhamgylchedd i’w gynnig iddynt pan fyddant yn chwarae ar
eu pen eu hunain a gydag eraill
• gofyn am gymorth pan fo’i angen.
Ystod
Trwy gydol y Cyfnod Sylfaen, dylid rhoi cyfleoedd i blant
ddatblygu eu sgiliau, eu
gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy gymryd rhan mewn ystod o
brofiadau, gan gynnwys:
• gweithgareddau mewn amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr
awyr agored
• gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o
weithgareddau a gaiff eucynllunio, gan gynnwys y rheiny a
gychwynnir gan y plant
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt fabwysiadu ystod o rolau,
gan gynnwys rôlarweinydd mewn grŵp bach, gwaith dysgu mewn pâr neu
waith a wneir mewn tîm
• gwahanol adnoddau megis adnoddau printiedig a
rhyngweithiol
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt dyfu’n ddysgwyr
annibynnol
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddefnyddio eu synhwyrau a
bod yn greadigol adychmygus4
-
5
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt gyfleu eu syniadau, eu
gwerthoedd a’u credoaumewn perthynas â hwy eu hunain, pobl eraill
a’r byd
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddatrys problemau a
thrafod canlyniadau
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt deimlo’n ddiogel a theimlo
eu bod yn cael eugwerthfawrogi
• gweithgareddau sy’n cyfrannu at eu diogelwch eu hunain
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt wneud dewisiadau iach, a
datblygu a deall eu cyrffeu hunain a sut y gallant eu cadw’n
ddiogel ac yn iach.
Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant
ddatblygu’r sgiliau meddwl a
chyfathrebu a amlinellwyd yn y Fframwaith sgiliau ar gyfer
dysgwyr 3 i 19 oed yngNghymru. Dyma’r cysylltiadau penodol yn y set
hon.
Datblygu meddwl ar draws y cwricwlwm
Cynllunio Gofyn cwestiynau
Datblygu Meddwl am syniadau a’u datblygu.
Meddwl am achos ac effaith, a dod i gasgliad
Llunio barn a gwneud penderfyniadau
Myfyrio Gwerthuso eu dysgu a’u meddwl eu hunain
Datblygu cyfathrebu ar draws y cwricwlwm
Llafaredd Datblygu gwybodaeth a syniadau
Darllen Ymateb i’r hyn a ddarllenwyd
Sgiliau cyfathrebu ehangach Cyfleu syniadau ac emosiynau
Cynllunio
Er mwyn helpu gyda’r gwaith cynllunio, mae’r math o ddysgu ac
addysgu sy’n gysylltiedig â
phob cyfle dysgu yn cael ei ddangos gan eiconau ar ochr chwith y
llyfr hwn.
Ar gyfer Elfennau 1 a 2
Dan arweiniad oedolyn – lle caiff iaith a syniadau eu cyflwyno
a’u datblygu’n benodol gan yr
ymarferydd.
Dan arweiniad plentyn – lle bydd plant yn ysgogi’r dysgu, gyda
chymorth addasiadau i’r
amgylchedd dysgu a rhyngweithio cymdeithasol sy’n hyrwyddo
llwybrau penodol o
archwilio a thrafod.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
-
6
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
Ar gyfer Elfennau 3 a 4
Nodir syniadau gan ymarferwyr ar ochr dde’r llyfr hwn. Mae’r
syniadau’n cynnwys ffyrdd y
cynlluniodd ymarferwyr ar gyfer amrywiaeth yn eu dosbarth neu
grŵp, er enghraifft, er
mwyn cefnogi dysgu plant ag anghenion caffael iaith neu
anghenion dysgu ychwanegol.
Geirfa allweddol (i’w chyflwyno o fewn y thema ac ar draws y
cwricwlwm)
Ar gyfer Elfennau 1 a 2
teimladau hapus dig
cysurus ofnus/pryderus teg
anghysurus ymdawelu perthyn
Ar gyfer Elfennau 3 a 4
hapus nerfus/pryderus gosod nod trist
cysurus ymdawelu ofnus anghysurus
croeso llawn cyffro datrys problem perthyn teg
Adnoddau
Dyma restr o’r adnoddau y gellir eu defnyddio i ategu’r gwaith
yn y llyfr hwn. Mae’r rhain ar
gael yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan.
Adnoddau
Elfennau 1 a 2 Identikit teimladauPoster ditectif
teimladauGwyntyll teimladau Cardiau llun – hapus, trist, ofnus,
llawn cyffro
Elfennau 3 a 4 Poster datrys problemauSut i ymdaweluPoster
ditectif teimladauBaromedr emosiynauCardiau llun – hapus, trist,
llawn cyffro, ofnusPoster Ydyn ni’n barod am amser cylch?
Dosbarth cyfan Parau
Unigolyn Grŵp bach
-
Pwyntiau allweddol o storïau’r gwasanaeth
Stori gwasanaeth 1
1. Mae Polly a Digory yn ymweld â byd newydd lle nad oes dim byd
yno ac mae’n hollol dywyll.
2. Maen nhw’n clywed llais yn canu.
3. Daw’r awyr yn oleuach a ffurfir y bryniau a’r mynyddoedd.
4. Cerdda lew tuag atyn nhw dros y tir. Y llew sy’n canu.
5. Daw’r llew â’r coed yn fyw, yna cerdda ymlaen dan ganu.
Stori gwasanaeth 2
1. Yn Awstralia, mae dau blentyn yn cerdded am filltiroedd
gyda’u taid.
2. Maen nhw’n dod o hyd i bwll dŵr ac yn edrych i mewn i’r adeg
cyn y ‘freuddwyd’. Does
dim byd yno.
3. Maen nhw’n gweld y cyndadau’n deffro ac yn dod o’r
ddaear.
4. Daw Djanggawul a’i ddwy chwaer. Maen nhw wedi dilyn yr haul
yr holl ffordd o Ynys y Meirw.
5. Mae Djanggawul a’i ddwy chwaer yn gwneud tyllau gyda ffyn
cloddio ac mae planhigion,
anifeiliaid, coed a phobl yn ymddangos.
Stori gwasanaeth 3
1. Mewn dinas yn Tsieina, mae dau blentyn yn eistedd ger
ffownten mewn dinas ac maen
nhw’n gweld wy. Maen nhw’n dymuno bod yr holl sŵn a dwndwr yn y
ddinas yn diflannu.
2. Caiff y ddinas ei chipio ymaith a does dim byd ar ôl heblaw’r
wy anferth. Mae’r plant yn
clywed ochenaid o’r wy – ochenaid Ch’i – yr hyn sy’n dechrau
popeth.
3. Caiff y duw Pan Gu ei greu a daw allan o’r wy.
4. Mae Pan Gu’n gwneud bwlch rhwng yr awyr a’r ddaear ac yn
naddu’r mynyddoedd a’r
dyffrynnoedd.
5. Mae Pan Gu’n marw. Ei gorff yw gogledd, de, dwyrain a
gorllewin y byd cyfan. Ei waed
yw’r afonydd a’r moroedd a’i gnawd yw’r pridd.
Nodweddion yr awgrymir i’r lleoliad/ysgol gyfan ganolbwyntio
arnyn nhw ermwyn sylwi ar gyflawniad a’i ddathlu
Defnyddiwch ffordd arferol y lleoliad/ysgol o ddathlu (canmol,
nodiadau i’r plentyn a’r
rhieni/warcheidwaid, tystysgrifau, enwebiadau gan gyfoedion, ac
ati) i sylwi ar blant (neu
oedolion) a welwyd yn cyflawni’r canlynol a’u dathlu:
• gwneud i rywun deimlo bod croeso iddyn nhw
• gwneud rhywbeth dewr – goresgyn teimladau o ofn
• datrys problem/cofio defnyddio’r broses datrys problemau
• ymdawelu/helpu rhywun i ymdawelu.
Bydd angen penderfynu ar yr amserlen ar gyfer pob nodwedd gan
ystyried y lleoliad/ysgol
gyfan. 7
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
-
Set Las: Elfen 1 y Cyfnod Sylfaen
Gemau cylch a rowndiau
Gemau cylch
Cyflwynwch gemau cylch yn y ffordd o’ch dewis, ond gwnewch yn
siŵr eich bod
yn siarad am y sgiliau bydd y plant yn eu defnyddio bob tro y
byddan nhw’n
cymryd rhan mewn gweithgaredd cylch:
• llygaid (i weld)
• clustiau (i glywed)
• ceg (i siarad)
• pen (i feddwl)
• dwylo yn eu col (i ganolbwyntio).
Gallwch lunio cân ar gyfer hyn neu bwyntio at y rhannau hynny
o’r corff.
Caneuon enwau a gweithgareddau
‘Beth am ddweud helo wrth ... , beth am ddweud helo wrth ... ,
beth am ddweud
helo wrth ... , mae croeso i chi yma heddiw.’
Mae hyn yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro nes bod enw pawb
wedi’i gynnwys. Os
ydyn nhw’n dymuno, gall plant sefyll pan fyddan nhw’n cael eu
cyfarch. Mae
modd canu’r gân hon fel cân ffarwelio ar ddiwedd y dydd
hefyd.
Drwy ddweud helo a ffarwel, rydych chi’n dangos pa mor bwysig
yw’r plentyn
a’ch bod yn falch o’u gweld neu eich bod am weld eu heisiau nes
daw yfory.
Sefwch mewn cylch a gofynnwch i bob plentyn yn ei dro i ddweud
‘Fy enw i
yw ... ’ ac yna curo ei droed deirgwaith.
Mae’r gweithgaredd cylch hwn yn well mewn grŵp llai, efallai
hanner y grŵp cyfan
os yw’n fawr. Rholiwch bêl at rywun ar draws y cylch, wrth i chi
eistedd ar y llawr.
Allwch chi enwi’r person hwnnw? Os na allwch, yna bydd y plentyn
hwnnw’n
helpu drwy ddweud ei enw. Gwnewch yn siŵr fod y bêl yn rholio
at bawb yn
ystod yr amser cylch.
Canu: ‘Gwna fel dwi’n ei wneud, dilyn, dilyn fi, gwna fel dwi’n
ei wneud, dilyn,
dilyn fi.’
Gwnewch rywbeth mae’n rhaid i bawb ei ddilyn, ac yna pasio hyn o
amgylch y
cylch, gan roi enw’r plentyn yn lle ‘fi’ wrth iddyn nhw ddewis y
weithred. Byddwch
yn barod i helpu plant sy’n ei chael yn anodd meddwl am
weithred. Eto, mae hyn
yn fwy llwyddiannus gyda hanner y grŵp, os yw’r grŵp yn
fawr.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi.
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu
dweud
rhywbeth arbennig amdanaf i.
Mae ein lleoliad yn
gosod plant mewn
grwpiau teulu o tua
deg plentyn gyda
gweithiwr allweddol
sy’n darllen storïau
ac yn gwneud
gwaith amser cylch
a charped gyda
nhw. Dwi’n meddwl
bod hyn yn helpu’r
plant i ddatblygu
hunaniaeth grŵp
yn gyflym iawn.
Aethom ati i
ddefnyddio ‘Albwm
lluniau llafar’ gyda
phlentyn yn ein
dosbarth oedd â
nam ar y golwg
(lluniau mawr o
wyneb pob plentyn
a recordiad byr
ohonyn nhw’n
dweud helo a’u
henw).
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
8
-
Gemau cylch ar gyfer datblygu hunaniaeth grŵp ac ymdeimlad
ogymuned
Clapio’ch dwylo
Mae ‘Clapio’ch dwylo ac ysgwyd eich bysedd’ yn gân arall y
gellir ei haddasu, gan
ddefnyddio awgrymiadau’r plant (er enghraifft, ‘Clapio’ch dwylo
a churo’ch traed’).
‘Clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, clapiwch eich dwylo
ac ysgwyd
eich bysedd, clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, yn awr
rydyn ni wedi
gwneud patrwm.’
Gêm ‘Rydyn ni’n arbennig’
Mae’r dosbarth cyfan yn sefyll mewn cylch ac yn dal dwylo. Mae
pob plentyn yn
siglo eu dwylo’n ysgafn yn ôl ac ymlaen ac yn canu neu’n dweud
‘Rydyn ni’n
arbennig, rydyn ni’n glyfar, ni yw plant lleoliad/ysgol ...
’.
Fe gewch eich synnu gan effaith hyn ar y plant a’r oedolion!
Rowndiau
Pasiwch y tedi o gwmpas. Dylai pob plentyn gymryd ei dro i roi
mwythau i’r tedi
yn dyner a dweud helo.
Gallai’r ymarferydd fynd o amgylch y cylch a chael y plant i
ddweud eu henw wrth
y tedi, mor aml ag sy’n bosib. Y diwrnod nesaf, mae’r tedi yn
dangos ‘bod ei gof
yn wael’ a bydd angen i’r plant eraill yn y grŵp ei atgoffa o’r
enwau wrth iddo
fynd o gwmpas. Gellid ymestyn hyn i gynnwys rhywbeth mae’r
plentyn wedi’i
fwynhau neu rywun maen nhw wedi chwarae gyda nhw yn y
lleoliad/ysgol.
Cyfleoedd dysgu: perthyn
Cyn i’r plant ddechrau
Mewn ymweliad cyflwyno, ewch â thegan meddal (ag enw iddo) gyda
chi a’i roi i’r
plentyn i chwarae ac esboniwch y bydd yn aros am y plentyn yn y
lleoliad/ysgol.
Gwnewch yn siŵr ei fod yno i ‘gyfarch’ y plentyn pan fyddan
nhw’n cyrraedd y tro
cyntaf. Gallech hefyd ddarparu llyfr neu bos i’r plentyn ei
ddarllen/chwarae gartref
a’i ddychwelyd ar ei ddiwrnod cyntaf.
Rhowch restr o rai o enwau’r plant a fydd yn ymuno (efallai’r
rheini a fydd yng
ngrŵp teulu’r plentyn) er mwyn i’r rhiant neu warcheidwad allu
siarad amdanyn
nhw gan ddefnyddio eu henwau.
Ysgrifennwch lythyr i’r plentyn yn ei wahodd i’r lleoliad/ysgol
ar ei ddiwrnod
cyntaf. Cyfeiriwch y llythyr at y plentyn.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n adnabod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n hoffi fy mod yn perthyn i fy
ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Yn fy nosbarth mae
gen i un bachgen
bach sy’n dysgu’r
iaith. Mewn gemau
cylch, yr hyn a
welais i’n fuddiol
oedd sicrhau ei fod
yn cael llawer o gyfle
i glywed plant eraill
cyn iddo ‘gael tro’.
Wrth sicrhau ei fod
gyda’r olaf i gael tro,
cafodd gyfle i wrando
a sylwi ar gyfraniadau
plant eraill.
Mae plant yn ein
hysgol yn siarad
gwahanol ieithoedd.
Gwnaethom
ymdrech i sicrhau
bod ein llythyrau
wedi’u hysgrifennu
mewn cynifer o
wahanol ieithoedd
ag y gallem ...
Defnyddiwyd y
llythyrau croesawu i
wneud arddangosfa
gyda labeli ieithoedd
y gellid eu tynnu i
ffwrdd. Cafodd y
plant (a’r rhieni)
hwyl wrth geisio
paru pob iaith gyda
label. Enw’r
arddangosfa oedd
‘Un llythyr, sawl
iaith; pob un yr un
fath a phob un yn
wahanol’.
9
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
-
Dod i adnabod ein gilydd
Hunan-gofrestru: Gofynnwch i rieni/warcheidwaid a phlant
gofrestru eu hunaindrwy lynu enwau ar fwrdd clipiau ffabrig
bachyn-a-dolen. Gellir glynu ffotograffau
gyda’r enwau er mwyn helpu plant a rhieni i ddod i wybod ‘pwy di
pwy’ yn y
lleoliad/ysgol. Defnyddiwch hwn i weld pwy sydd yno yn y grŵp
bach. Dylai staff
gofrestru eu hunain hefyd fel bod plant yn gallu gweld eu henwau
a’u lluniau.
Gellir defnyddio ffotograffau hefyd gydag enwau sydd ar begiau
cotiau. Gellir
tynnu’r ffotograffau wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, fel sy’n
briodol. Mae modd
defnyddio gwyddor â chlipiau ffabrig bachyn-a-dolen er mwyn
storio enwau a
lluniau.
Lluniau magnetig: Tynnwch ffotograff o bob plentyn, ei dorri
allan, ei lamineiddioa rhoi tâp magnetig ar y cefn. Mae’r rhain yn
ddefnyddiol ar gyfer dod i adnabod
enwau ac ar gyfer siarad am debygrwydd a gwahaniaethau.
Defnyddiwch y ffotograffau wrth ganu caneuon – er enghraifft,
‘Pum plentyn yn
lleoliad/ysgol ... ’.
Defnyddiwch nhw wrth adrodd storïau. Adroddwch storïau
cadarnhaol am fod yn
ffrindiau, bod yn garedig, ac ati, gan ganolbwyntio ar y rheolau
a gytunwyd ar
gyfer y lleoliad/ysgol.
Gadewch nhw allan i’r plant gael chwarae gyda nhw ar fwrdd
magnet. Gallan
nhw feddwl am y syniad o wneud ffrindiau gydag unrhyw un sydd yn
y llun maen
nhw’n ei ddewis.
Gêm disgrifio: Ceisiwch annog y plant i dynnu lluniau digidol o
bobl yn gwneudgwahanol bethau yn y lleoliad/ysgol. Gallai’r rhain
gael eu defnyddio i gefnogi
gweithgaredd lle disgrifir y prif briodoleddau – er enghraifft,
‘Dwi’n edrych ar
rywun sydd â gwallt brown, ffrog goch a ... Pwy yw’r person
hwn?’.
Dylai plant (gyda chymorth os oes angen) enwi’r person ar sail y
disgrifiad. Dylen
nhw wneud yn siŵr eu bod yn gywir drwy edrych ar y
ffotograff.
Gêm parau: Gan ddefnyddio’r ffotograffau a dynnwyd, gwnewch ddwy
set achwarae snap neu barau gyda nhw.
Gallech chwarae gêm disgrifio yma hefyd, lle rydych yn disgrifio
rhywun a lliw eu
gwallt, dillad ac ati, ac mae’r grŵp yn ceisio darganfod y
cerdyn hwnnw. Dyma
ffordd dda arall o dynnu sylw at yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol
rhyngom.
Trefnwch y cardiau mewn grwpiau. Pwy sy’n gwisgo rhywbeth coch?
Pwy sy’n
fachgen/merch? Pwy sy’n gwenu?
Arddangos: Gofynnwch i rieni ddod â ffotograffau o’u plant yn eu
cartref, neugyda pherson arbennig, er mwyn eu harddangos (neu
defnyddiwch ffotograff a
dynnwyd adeg yr ymweliad â’r cartref). Siaradwch am y
ffotograffau gyda’r plant.
Gofynnwch i’r plant gymryd eu tro i ddweud rhywbeth am y llun
wrth y grŵp.
Gofynnwch i rieni neu warcheidwaid ymuno â’r cylch a chyflwyno
eu hunain a’u
plant i’r grŵp.
Cardiau croeso: Gofynnwch i’r plant wneud cerdyn croeso i rywun
arall yn yrystafell, ar ôl tynnu eu henw o dwba. Gallen nhw roi’r
cerdyn a diolch i’w gilydd
yn bersonol fel bod pawb yn cael cyswllt cadarnhaol yn y
dosbarth neu’r grŵp.
Gwelsom fod
defnyddio’r
ffotograffau yn ffordd
wych o annog
datblygiad iaith
ymysg dysgwyr.
Roedd y plant yn
hoffi grwpio’r
ffotograffau mewn
gwahanol ffyrdd.
Bu un o’r plant yn
grwpio’r lluniau yn
ôl lluniau o oedolion
a lluniau o blant.
Dywedodd hi
wrthym eu bod
nhw’n ‘fawr’ ac yn
‘fach’, ac ymunodd
plant eraill drwy
ddweud ‘maen
nhw’n oedolion ac
maen nhw’n blant’.
Grwpiodd rhywun
arall y lluniau yn ôl
dynion a menywod.
Aeth y plant ymlaen
i elfennau eraill llai
amlwg yn ymwneud
â thebygrwydd a
gwahaniaethau,
ac roedden ni’n
gallu datblygu
brawddegau megis
‘Mae ganddyn nhw
wallt du, a does gan
y rhain ddim.’
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
10
-
Cyfleoedd dysgu: deall hawliau a chyfrifoldebau
Archwilio’r lleoliad/ysgol
Pan mae plant yn newydd i’r lleoliad/ysgol, byddwch yn eu hannog
i archwilio’r gwahanol
fannau gyda chi wrth iddyn nhw chwarae, gan edrych ar silffoedd
ac mewn droriau er
mwyn iddyn nhw allu dod i adnabod popeth sydd yno.
Rhowch le arbennig i bob plentyn neu grŵp bach gadw eu pethau
eu hunain. Labelwch
rhain gyda’u henw a’u llun neu enw eu grŵp a llun o’r
grŵp.
Rhowch wahoddiad i rieni/warcheidwaid i’r lleoliad/ysgol i
glywed am yr hyn mae’r plant
wedi bod yn ei wneud.
Codwch fwrdd gwybodaeth ar gyfer rhieni neu warcheidwaid. Rhowch
wybodaeth am
yr hyn mae’r plant wedi’i wneud yn y lleoliad/ysgol a cheisiwch
eu hannog i siarad am
ddiwrnod y plentyn gyda nhw.
Efallai hoffech chi chwarae gêm debyg i ‘Cuddio’r tedi’, i
helpu’r plant i ddod i adnabod y
lleoliad/ysgol. Cuddiwch dedi neu degan meddal arall rywle yn y
lleoliad/ysgol a rhowch
gliwiau i’r plant ynghylch lle mae’r tedi, megis:
Mae tedi yn y blwch tywod.
Mae tedi’n cuddio mewn man arbennig – mae yna ddŵr a phaent
yma.
Mae tedi’n cuddio yn y man lle cedwir y beiciau.
Mae tedi’n cuddio dan fat y car.
Mae tedi’n cuddio yn y blwch gwisg ffansi.
Mae un plentyn yn mynd i chwilio am y tedi ac yn cael cymorth
gan y plant eraill.
Gallai plant dynnu ffotograffau o’r tedi yn ei wahanol fannau
cuddio.
Tynnwch ffotograffau o blant yn chwarae. Rhowch rhain i’r plant
a gofyn iddyn nhw eu glynu
wrth ymyl y man byddai’r gweithgaredd hwnnw yn cael ei
gynnal.
Gosodwch lwybrau drwy’r lleoliad/ysgol i’r plant eu dilyn (er
enghraifft, ‘Dilynwch yr olion
traed’); yna gofynnwch iddyn nhw ddweud yr hyn a welon nhw ar eu
taith.
Ymgyfarwyddo â’r drefn
Amserlen luniau: Byddwch yn glir ynghylch y drefn yr hoffech ei
chyflwyno pan fydd plantyn newydd i’r lleoliad/ysgol. Tynnwch
ffotograffau o rannau penodol o’r diwrnod (amser
rhannu, amser cylch, amser cinio, amser grŵp, ac ati) a’u
lamineiddio fel eu bod yn para
am y flwyddyn. Mae modd rhoi clipiau bachyn-a-dolen ffabrig ar
gefn y ffotograffau.
Rhowch stribyn o glipiau bachyn-a-dolen ffabrig ar gerdyn wedi’i
osod mewn man sy’n
gyfleus i’r plant yn eich dosbarth. Gallwch chi, neu’r plant,
osod y ffotograffau mewn trefn,
a bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r plant sy’n llai hyderus ynghylch
beth fydd yn digwydd y
diwrnod hwnnw. Mae modd defnyddio’r gweithgaredd hwn hefyd i
siarad yn rheolaidd am
y drefn a chynnwys y plant wrth geisio cofio beth sy’n dod
nesaf. Gellir tynnu ffotograffau
unigol i ffwrdd pan fydd y rhan honno o’r sesiwn wedi dod i
ben.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod beth i’w wneud yn fy
ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
11
-
Sbarduno: Siaradwch am yr hyn sy’n dod nesaf drwy gydol y dydd.
Mae hyn ynarbennig o bwysig yn yr wythnosau cyntaf. Po fwyaf y
gwnewch chi hyn, y mwyaf
diogel bydd eich plant yn teimlo. Gallech roi rhybudd 5 munud
cyn yr hyn a fydd
yn digwydd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar y plant hynny
nad ydyn nhw’n
hoffi newid neu sy’n ei chael yn anodd gorffen pethau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad am y drefn yn y
lleoliad/ysgol yn rheolaidd,
fel bod pob plentyn yn cael cyfle i ddeall ac i deimlo’n sicr yn
ei chylch. Sicrhewch
fod eich trefn yn gyson a cheisiwch beidio â’i newid gormod yn y
dechrau.
Cyflwynwch bethau newydd yn araf, gan roi rhybuddion ac
esboniadau ynghylch
pryd, ble a sut.
Canu: Canwch am ddigwyddiadau’r dydd ar alaw boblogaidd bydd y
rhan fwyafo’r plant yn ei hadnabod.
Llyfr igam-ogam: Gwnewch lyfr igam-ogam am y drefn gan
ddefnyddio’r unffotograffau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr amserlen
luniau. Treuliwch amser gyda’r
plant, yn edrych ar y llyfr ac yn siarad am y drefn.
Meim: Meimiwch ddigwyddiadau’r dydd ar ddiwedd y sesiwn am
hwyl.
Gallwch ddefnyddio caneuon cyfarwydd hefyd megis ‘Llwynog coch
yn cysgu,
Mae’r ffermwr eisiau gwraig, Mewn a mas drwy’r blodau glas’, ac
ati, a gellir
cynnwys symudiadau ynddi.
Siarad am y diwrnod: Defnyddiwch y ffotograffau o’r drefn
ddyddiol a dynnwydar gyfer eich amserlen luniau. Gwasgarwch nhw
dros y bwrdd ac awgrymwch fod
y plant yn cymryd tro i ddweud beth maen nhw’n ei hoffi am yr
amser hwnnw o’r
dydd, neu ddim yn ei hoffi. Mae hyn yn rhoi adborth gwerthfawr i
chi am yr hyn
sy’n gweithio a’r hyn mae angen ei addasu yn eich trefn. Un
ffordd o amrywio
hyn yw gwneud dwy set o ffotograffau (syniad da rhag ofn yr aiff
un ar goll) a
chwarae gêm parau. Bydd hyn yn atgyfnerthu’r enwau a roddwch i
wahanol
rannau’r dydd.
Defnyddiwch stori: Darllenwch stori Rhian yn y feithrinfa o’r
taflenni adnoddau i helpu’r plant i feddwl am y sgiliau mae eu
hangen arnyn nhw i gydweithio a
chyd-chwarae.
Cyfleoedd dysgu: hunanymwybyddiaeth
Pasiwch dedi o amgylch y cylch a gofynnwch i bob plentyn ddweud
rhywbeth
arbennig amdanyn nhw eu hunain wrth y tedi. Gwnewch yn siŵr fod
gennych o
leiaf un neu ddau beth arbennig yr ydych yn ei wybod am bob
plentyn rhag ofn
na fyddan nhw’n gallu meddwl am un.
Ailadroddwch yr uchod, ond tro hwn gofynnwch i’r plentyn ddweud
rhywbeth
arbennig am y plentyn sy’n eistedd wrth ei ymyl.
Gwnewch ‘lyfr arbennig’ o rywbeth mae pob plentyn yn dda yn ei
wneud, gan
ddefnyddio eu hawgrymiadau yn ystod amser trafod.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu
dweud
rhywbeth arbennig amdanaf i.
Gwnaethom
amserlen luniau
bersonol ar gyfer
un plentyn gan
ddefnyddio
arwyddion a
chlipiau bachyn-a-
dolen ffabrig.
Cafodd gymorth
gennym i dynnu’r
arwyddion pan
oedd wedi gorffen
gweithgaredd a’u
postio mewn blwch
arbennig.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
12
-
Fe wnaethon ni
wynebau cyffyrddol
o does halen ac
ambell symbol
gweledol gan
ddefnyddio
botymau wedi’u
glynu ar gerdyn ar
siâp gwên neu wg.
Fe gawson nhw eu
defnyddio gan un
o’r grŵp â nam ar
y golwg – a gan
lawer o’r plant eraill
hefyd.
Cyfleoedd dysgu: deall fy nheimladau
Atgoffwch y plant o stori Rhian yn y feithrinfa. Gofynnwch iddyn
nhw geisio cofiosut roedd Rhian yn teimlo, gan gymell yn ôl yr
angen. Dyma’r pedwar teimlad i
ganolbwyntio arnyn nhw:
• hapus
• trist
• ofnus/wedi dychryn
• llawn cyffro.
Mae’n bwysig ein bod yn helpu plant i sylweddoli bod rhai
teimladau yn ‘gysurus’
a rhai yn ‘anghysurus’, a pheidio â chyfleu’r neges bod cael
rhai teimladau yn
‘ddrwg’ – mae pob teimlad yn dderbyniol (er nad yw pob ymddygiad
yn
dderbyniol). Mae’n well felly peidio â defnyddio’r geiriau
teimladau ‘drwg’ a ‘da’.
Defnyddiwch y gweithgareddau grŵp bach a awgrymir isod er mwyn
edrych ar y
teimladau hyn. Efallai yr hoffech ddefnyddio’r Identikit
teimladau o’r Ffeiladnoddau ysgol gyfan i helpu’r plant i
ganolbwyntio ar sut mae ein hwynebau’n
mynegi pob teimlad. Bydd angen i chi benderfynu pa elfennau, os
o gwbl, o’r
Poster ditectif teimladau (o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan) sy’n
briodol i’wdefnyddio yn y Cyfnod Sylfaen. Efallai yr hoffech
ddysgu’r plant hefyd sut mae
defnyddio’r Gwyntyll teimladau (o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan)
a gofyn iddyn nhwddewis yr wyneb priodol ar gyfer pob teimlad yr
edrychir arno isod.
Hapus
Trefnwch fod gennych ddetholiad o luniau neu ffotograffau o
blant yn gwneud
pethau ac yn edrych yn hapus. Mae rhai ar gael yn y Ffeil
adnoddau ysgol
gyfan, neu efallai yr hoffech chi ddefnyddio lluniau eich
hunain.
Dangoswch lun i’r grŵp a gweld a oes unrhyw un yn gwybod sut
mae’r
person yn teimlo.
Gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n gwybod hynny.
All y plant ddangos i chi sut olwg sydd ar eu hwynebau pan
fyddan nhw’n
hapus?
Rhowch ddetholiad o luniau yng nghanol y cylch a gofyn i’r plant
ddweud, yn
eu tro, ‘Dwi’n teimlo’n hapus pan ... ’.
Rhywbeth i helpu yw’r lluniau. Os nad yw plant swil yn gwybod
beth i’w
ddweud, gallan nhw bwyntio. Efallai bydd plant mwy hyderus yn
meddwl am
eu syniadau eu hunain.
Gorffennwch gyda’r gân ‘Mr Hapus ydw i, ydw i’.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus, yn drist, yn llawn cyffro
neu’n ofnus.
Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’n hapus, yn
drist, yn llawn
cyffro neu’n ofnus.
Fe wnaethon ni
ddefnyddio’r
termau ‘cynnes’
a ‘clyd’ ac ‘oer’
a ‘pigog’.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
13
-
Trist
Trefnwch fod gennych ddetholiad o luniau o blant yn edrych yn
drist (ffotograffau
rydych wedi’u tynnu gyda grwpiau blaenorol lle maen nhw’n smalio
bod yn
drist am rywbeth, neu gardiau lluniau o’r Ffeil adnoddau ysgol
gyfan).
Dewiswch lun a gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod sut mae’r
plentyn
hwnnw’n teimlo.
Sut maen nhw’n gwybod?
All y grŵp ddangos i chi sut olwg sydd ar eu hwynebau a’u cyrff
pan fyddan
nhw’n drist?
Disgrifiwch beth rydych chi’n ei weld: ‘O dwi’n gallu gweld dy
fod yn edrych yn
drist oherwydd bod gen ti geg gam, mae dy lygaid yn edrych yn
ddwl, ac mae
dy ben yn isel.’
Gofynnwch i’r plant basio brawddeg o amgylch y grŵp: ‘Dwi’n
teimlo’n drist pan ... ’.
Eto, defnyddiwch y lluniau sydd gennych i helpu unrhyw un sy’n
cael trafferth.
Os yw plant yn cael trafferth gyda’r dasg hon, siaradwch yn lle
hynny, ond
gwnewch yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i ddweud rhywbeth.
Gorffennwch gyda chân neu pasiwch y wên i godi calonnau
pawb.
Ailadroddwch y patrwm hwn ar gyfer teimladau allweddol eraill –
llawn cyffro ac
ofnus/wedi dychryn. Mae’n bwysig cadw cydbwysedd rhwng teimladau
‘cysurus’
ac ‘anghysurus’ bob amser er mwyn i blant ddechrau sylweddoli ei
bod yn
dderbyniol ac yn iawn dangos eu teimladau i bobl, pwy bynnag
ydyn nhw.
Ar ôl gweithgareddau cylch ar deimladau allweddol, gallech ofyn
i’r plant edrych
yn y drych a gwneud wyneb hapus/trist/ofnus/llawn cyffro.
Tynnwch lun o’r
wyneb. Beth sy’n gwneud i chi deimlo fel hyn yn y
lleoliad/ysgol?
Bydd oedolion yn ysgrifennu hyn ac yna yn ei deipio mewn swigen
siarad i fynd
gyda’r llun. Rhowch rhain i gyd ar boster grŵp i’w arddangos yn
y lleoliad/ysgol
neu i gynulleidfa ehangach mewn neuadd neu goridor.
Er mwyn helpu plant i adnabod eu teimladau, gallech gael lein
ddillad gyda
gwahanol ‘wynebau teimladau’ arni. Gallai plant baru eu llun/enw
eu hunain
â’r wyneb teimlad sy’n dangos orau sut maen nhw’n teimlo.
Gallech hefyd
ddefnyddio cardiau symbolau ar gyfer hapus, trist ac ofnus i
annog plant i
ddangos sut maen nhw’n teimlo.
Cyfle dysgu: rheoli fy nheimladau
Atgoffwch y plant o stori Rhian yn y feithrinfa. Yn y stori,
rhedodd Rhian ar drawsyr ystafell ddosbarth am ei bod wedi dychryn,
ar ôl iddi a Semera daro pennau ei
gilydd. Cymerodd cryn dipyn o amser iddi ymdawelu digon i allu
dweud wrth Miss
Deilliant dysgu bwriedig
Rydw i’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan rwyf yn teimlo’n
ofnus
neu’n ofidus.
Aethom ati i lunio
blwch teimladau
yn llawn gwahanol
siapiau a gwead,
a gofyn i’r plant
ddweud pa rai
oedd yn cynrychioli
‘hapus’, ‘trist’,
‘dig’, ac ati.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
14
-
Roberts beth oedd wedi digwydd. Gofynnwch i’r plant beth maen
nhw’n ei
wneud pan fyddan nhw’n teimlo’n ‘anghysurus’. Beth fydden nhw’n
cynghori
Rhian i’w wneud? Os yn bosib, gofynnwch i’r plant ddangos (er
enghraifft,
gwneud rhywbeth maen nhw’n hoffi ei wneud/anadlu’n ddwfn tair
gwaith).
Sicrhewch fod pob un o’r plant yn gallu anadlu’n ddwfn. Gwnewch
arddangosfa,
‘Pan dwi’n teimlo’n anghysurus, dwi’n gallu ... ’ drwy dynnu
lluniau â chamera o
blant yn dangos eu strategaethau.
Atgyfnerthwch y strategaethau ymdawelu lle bo’n bosibl mewn
sefyllfaoedd go
iawn. Ewch ati i ymarfer ac annog y plant i ddefnyddio’r dechneg
anadlu’n dawel
ar gyfer ymdawelu.
Defnyddiwch y stori Rhian yn y feithrinfa, neu stori addas arall
rydych chi’n eich darlleni’r plant, i’w hatgoffa i ‘stopio a
meddwl’ neu ‘stopio a dweud’ os oes problem.
Cyfle dysgu: deall teimladau pobl eraill
Esboniwch fod Dewi Draenog (neu degan meddal o’ch dewis) wedi
dod o bell i
ymweld â’r lleoliad/ysgol. Mae’n teimlo’n drist. Gofynnwch i’r
plant nodi’r holl
bethau da yn y lleoliad/ysgol. Mae’r rhain yn gwneud iddo deimlo
tipyn bach yn
well, ond mae dal yn teimlo’n drist.
Gofynnwch i’r plant feddwl am resymau pam mae Dewi’n teimlo’n
drist. Ceisiwch
annog y plant i feddwl pam y gallan nhw deimlo’n drist yn y
lleoliad/ysgol.
Ysgrifennwch rhain ar y bwrdd gwyn i’ch atgoffa. Dewiswch un o’r
rhesymau hyn
a chael Dewi i nodio’i ben i esbonio mai dyna pam mae’n teimlo’n
drist.
Dylai’r plant weithio mewn grwpiau bach gyda chymorth oedolyn i
feddwl am
syniadau a allai wneud Dewi’n hapus yn y lleoliad/ysgol. Efallai
yr hoffen nhw
dynnu llun o’u syniadau neu eu gwneud neu roi cynnig arnyn nhw –
er enghraifft,
drwy gofleidio Dewi (efallai byddai modd tynnu ffotograff o
hyn).
Cyfleoedd dysgu: sgiliau cymdeithasol
Ymhelaethwch ar stori Rhian yn y feithrinfa (gan bwyso a mesur,
efallai, y pethausydd wedi digwydd yn y lleoliad/ysgol, neu bethau
a allai ddigwydd) er mwyn rhoi
cyd-destun ar gyfer addysgu sgiliau cymdeithasol. Adroddwch
storïau am bethau
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod sut mae bod yn garedig wrth bobl sy’n newydd neu
sy’n
ymweld â’r lleoliad/ystafell ddosbarth.
Dwi’n gwybod bod pawb yn y byd yn gallu teimlo’r un
teimladau.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gallu rhannu mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu cymryd tro mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu ymuno â phlant eraill wrth chwarae gêm.
Mae gen i sawl
plentyn yn fy
nosbarth sy’n
newydd i’r wlad
hon. Esboniais fod
Dewi’n siarad iaith
wahanol, a’i fod
wedi’i defnyddio i
gyfarch y dosbarth.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
15
-
a welwch yn mynd o le yn y grŵp, a drwy’r storïau, dysgwch y
pethau cywir, gan
roi ymadroddion posibl a all fod yn fuddiol i blant. Lluniwch
rigwm neu gân i helpu
Rhian a’i ffrindiau.
Trefnwch weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i annog cymryd tro
a rhannu, gyda
chymorth oedolyn. Nodwch gwestiynau allweddol i helpu gyda hyn
a’u dangos yn
y lleoliad/ysgol – er enghraifft, ‘Tro pwy ydy hi’n awr?’, ‘Ydy
hyn yn deg?’, ‘Ydy
hynny’r un fath?’, ‘Beth fyddai’n gwneud hynny’n well?’.
Daliwch ati i greu awyrgylch lle caiff ymddygiad cadarnhaol ei
annog (er enghraifft,
rhoi cymaint o groeso ag sy’n bosib a chanolbwyntio drwy’r amser
ar yr hyn mae’r
plant yn ei gael yn gywir yn hytrach na’r hyn sydd ganddyn nhw
i’w ddysgu eto).
Daliwch blant yn ‘ymddwyn yn dda’. Gan ddefnyddio enw’r plentyn,
rhowch
ganmoliaeth benodol i blant a welwch yn gwneud y peth cywir.
Mae’n bwysig rhoi
gwybod i’r plentyn yn union beth rydych chi wedi’i hoffi am yr
hyn a wnaeth – er
enghraifft, ‘Owain, mi wnes i hoffi’n fawr iawn y ffordd y
gwnest ti godi’r brics o’r
llawr a’u cadw yn y man cywir. Diolch am ofalu am ein
teganau.’
Tynnwch ffotograffau o’r plant yn gwneud y pethau cywir yn
gymdeithasol,
dangoswch nhw a chyfeirio atyn nhw’n aml.
Gweithgareddau parhaus
Mae strategaethau effeithiol i ddatblygu amgylchedd sy’n ategu’r
sgiliau a
nodwyd yn y thema hon yn cynnwys y canlynol.
Trefnu’r diwrnod
• Trefnu cyfleoedd i gyflwyno iaith teimladau – er enghraifft,
drwy chwarae rôl acamser cylch.
• Sicrhau cydbwysedd rhwng gweithgareddau, deunyddiau ac offer
newydd,ysgogol a heriol a gweithgareddau, deunyddiau ac offer
cyfarwydd.
• Darparu amser i chwarae’n unigol gyda chymorth oedolyn pan
fydd angen.
• Amser dewis rhydd, gyda chydbwysedd rhwng gweithgareddau.
• Cyfleoedd i blant ysgwyddo cyfrifoldeb o fewn y lleoliad/ysgol
– er enghraifft,bod yn rhan o drefn lleoliad/ysgol.
• Deilliannau mae’r plant yn penderfynu arnyn nhw.
• Systemau sefydliadol sy’n annog plant i fod yn rhan o
gynllunio beth maennhw’n mynd i’w wneud – er enghraifft, bwrdd
cynllunio.
• Cyfleoedd drwy gydol y dydd er mwyn i’r plant ddangos neu
ddweud wrtheraill am yr hyn maen nhw’n ei wneud.
• Cynnwys rhieni yn y lleoliad/ysgol a darparu gwybodaeth er
mwyn iddyn nhwallu siarad gyda’r plentyn am yr hyn maen nhw’n ei
wneud yn dda a’u helpu i
ddefnyddio iaith teimladau.
Yr amgylchedd
• Darparu amgylchedd sy’n annog annibyniaeth.
• Darparu ardaloedd ar gyfer gwahanol weithgareddau a dewisiadau
personol(er enghraifft, ardaloedd tawel i orffwys, ardaloedd â
drychau).
Roedd gan Siân,
plentyn a chanddi
anabledd iaith a
lleferydd, gerdyn
eisoes i ddynodi
‘stop’ a ‘help’.
Ychwanegwyd at y
rhain drwy gynllunio
cardiau a oedd yn
dweud ‘Dydw i
ddim yn ei hoffi’,
‘Ga’ i chwarae?’,
a ‘Fy nhro i’.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
16
-
• Sicrhau amgylchedd cynhwysol lle caiff pob plentyn ei gynnwys
yn llawn yn ylleoliad/ysgol, gyda chymorth i’w helpu i fanteisio ar
gyfleoedd pan fo’n briodol.
• Darparu amgylchedd aml-ddiwylliant lle caiff yr amrywiaeth
ddiwylliannol o fewn ylleoliad/ysgol ei chydnabod a’i dathlu.
• Defnyddio arddangosfeydd rhyngweithiol.
• Darparu adnoddau i annog chwarae ar y cyd.
• Arddangos gwaith y plant yn ofalus, gan ddangos y parch sydd
gennych iddyn nhw a’udysg. Cynnwys llawer o eiriau’r plant yn eich
arddangosfeydd gan fod hyn yn dangos
iddyn nhw eich bod yn rhoi gwerth ar yr hyn maen nhw’n ei
ddweud.
Rôl oedolion
• Amgylchedd sy’n cwestiynu a lle rhoddir tasgau datrys
problemau penagored i blant.
• Awyrgylch anfeirniadol lle ystyrir ei bod yn iawn i wneud
camgymeriadau a dysgu oddiwrthyn nhw.
• Oedolion sy’n cefnogi syniadau plant ac yn defnyddio technegau
cwestiynu i annog creusyniadau newydd.
• Oedolion sy’n defnyddio arddull rheoli tawel a bwriedig.
• Oedolion sy’n defnyddio llawer o ganmoliaeth benodol.
• Cyfleoedd i blant siarad ag oedolion ar eu pen eu hunain neu
mewn grwpiau.
• Strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol yn gysylltiedig â
disgwyliadau ac ymyriadaupriodol.
• Oedolion sy’n cefnogi plant i ddatrys gwrthdaro os bydd
angen.
• Modelau rôl da o gonfensiynau a rhyngweithio cymdeithasol.
• Oedolion sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwarae plant,
gan gynnwys chwaraellawn dychymyg.
• Oedolion sy’n cefnogi pob plentyn i adnabod ei ddoniau a’i
dalentau ac i fyfyrio yn eucylch.
• Cyfleoedd ar gyfer adborth, ffurfiannol a chadarnhaol, ac i
blant adolygu eu cyflawniadaua rhoi sylwadau arnyn nhw.
Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi
Mae’r cwestiynau hyn yn cynnig cyfle i feithrin teimladau plant
o hunanwerth a rhoi gwybod
iddyn nhw eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion unigryw,
yn ogystal â datblygu eu
gallu cymdeithasol a’u gallu gwybyddol. Rhowch wybod i’r plant
pan fyddwch chi wedi
dysgu rhywbeth newydd amdanyn nhw. Dangoswch eich bod yn trin
pob unigolyn gyda
pharch. Rhowch le i’r plant ddysgu amdanyn nhw eu hunain. Rhowch
amser iddyn nhw
siarad am yr hyn sydd wedi digwydd a sut gallai fod yn wahanol y
tro nesaf.
• Beth ddigwyddodd yn y lleoliad/ysgol heddiw?
• Tybed beth oedd eich hoff beth? Pam oedd hynny?
• Sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo?
• Tybed pam wnaeth … hynny? Beth yw eich barn chi?
• Pe bai chi’n ... beth ydych chi’n meddwl byddai’n digwydd?
• Beth ddigwyddodd pan wnaeth ... hynny ddoe?
• Beth yn eich barn chi fydd yn digwydd nesaf? Sut ydych chi’n
gwybod?
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
17
-
Adolygu
• Dewch â dol fawr neu byped i’r lleoliad/ysgol. Dywedwch eu bod
wedi dod i weld y lleoliad/ysgol er mwyn dysgu popeth am y lle.
Gofynnwch i’r plant esbonio popeth
maen nhw’n ei wybod am y lleoliad/ysgol.
• Gallai’r plant gymryd eu tro i ddangos y lleoliad/ysgol i’r
pyped ac esbonio beth sy’ndigwydd ble a phryd.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
18
-
Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr ‘ofnus’.
Trafodwch eu syniadau ac
ychwanegwch atyn nhw os oes angen. Gallech fynd ymlaen i ofyn a
oes unrhyw un wedi
teimlo fel hyn o’r blaen.
‘Pam, yn eich barn chi, mae Rhian yn teimlo’n ofnus pan mae hi’n
edrych ar y plant yn y
gornel tŷ bach?’
Rhowch gydnabyddiaeth i’w syniadau yn ogystal ag ychwanegu rhai
eich hun os bydd
angen gwneud hynny. Trafodwch y syniad bod peidio â gwybod beth
i’w wneud a beth
allai ddigwydd fod yn ofnus.
Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gwybod beth allai hi wneud
nesaf. Helpwch y plant i
feddwl am syniadau, gan gynnwys cael cymorth drwy ofyn amdano
gan yr oedolyn.
‘Beth am i ni weld beth fydd Rhian yn ei wneud nesaf?’
‘Pam yn eich barn chi ei bod hi wedi rhedeg i ffwrdd?’
(Atgoffwch y plant o’r geiriau trist
ac ofnus/wedi dychryn.)
‘Pam yn eich barn chi ei bod hi’n ofnus/wedi dychryn?’
Roedd Rhian yn hapus dros ben. Roedd hi newydd ddechrau mynd i’r
feithrinfa.
Roedd hi’n hoffi Miss Roberts. Roedd hi wrth ei bodd yn chwarae
gyda’r holl deganau.
Roedd hi’n hoffi ffrwythau amser byrbrydau.
Pan oedd Rhian yn cyrraedd y feithrinfa, roedd hi eisiau chwarae
yn y gornel tŷ bach.
Gallai weld bod yna bobl eraill yno’n barod. Gwyliodd am funud
neu ddau, gan
deimlo bach yn ofnus.
Cerddodd Rhian ychydig bach yn nes at y gornel tŷ bach gan ddal
i edrych ar y plant
eraill. Trodd Tom ac edrych arni. Ni wenodd, a doedd ddim yn
edrych yn gyfeillgar.
Teimlai Rhian yn drist a thipyn bach yn ofnus hefyd. Teimlai’n
boeth ac yn
anghyfforddus, doedd hi ddim yn hoffi’r teimlad hwn o gwbl.
Rhedodd i ochr arall y feithrinfa gan daro yn erbyn merch arall
o’r enw Semera.
Tarodd y ddwy eu pennau yn erbyn ei gilydd a dechreuodd y ddwy
grio.
‘O diar’, dywedodd Miss Roberts. ‘Beth ddigwyddodd yma?’
Pwyntiodd Semera at
Rhian a chuddiodd Rhian ei phen yn ei dwylo. Teimlai’n drist
iawn erbyn hyn a
daliodd i grio, nes i Miss Roberts ei chofleidio a gofyn iddi a
allai ddweud beth oedd
wedi digwydd. Pan oedd Rhian wedi ymdawelu, llwyddodd i ddweud
wrth Miss
Roberts pam ei bod wedi rhedeg i ochr arall y feithrinfa.
Esboniodd Miss Roberts wrth Rhian y gallai fod wedi bod yn
syniad da pe bai wedi
ceisio siarad gyda Tom a’r plant eraill yn y gornel tŷ
bach.
Taflen adnoddau set Las: Elfen 1 y Cyfnod Sylfaen
Rhian yn y feithrinfa
Defnyddiwch luniau magnetig o bobl neu bypedau i adrodd y
stori.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
19
-
‘A allai rywun helpu Rhian drwy ddweud wrthi beth i’w ddweud
wrth y plant os yw hi am
chwarae?’
Yn dibynnu ar yr ymatebion a gewch, dyma rai o’r ymadroddion
gallai’r plant ymarfer eu
dweud gyda’i gilydd:
Os gwelwch yn dda, ga’ i ddod i chwarae yma hefyd?
Oes ’na le i mi ddod i chwarae hefyd?
Fe hoffwn i chwarae hefyd. Ydy hynny’n iawn?
‘Dwi’n meddwl bydd Rhian yn gwybod yn awr beth i’w wneud pan
fydd hi am chwarae
hefyd. Gallai hyn ei helpu i wneud ffrindiau hefyd. Gadewch i ni
weld beth ddigwyddodd y
diwrnod nesaf.’
(Yn dibynnu ar rychwant canolbwyntio’r plant, gallech orffen y
stori yn y pwynt hwn a
pharhau’r diwrnod canlynol. Gallwch wastad eu hatgoffa o’r stori
cyn i chi fwrw ymlaen
â hi wedyn.)
‘Yn eich barn chi, sut bydd Rhian yn teimlo am ddod i’r
feithrinfa eto yn awr?’
‘Dwi’n meddwl bydd Rhian a Semera’n chwarae gyda’i gilydd eto ac
yn cael hwyl. Beth
ydych chi’n meddwl bydd Rhian a Semera yn ei wneud y tro nesaf
byddan nhw yn y
feithrinfa?’
Doedd Rhian ddim mor hapus pan ddaeth i’r feithrinfa’r diwrnod
canlynol, am ei bod
yn cofio pa mor ofnadwy yr oedd wedi teimlo’r diwrnod
blaenorol.
Pan gyrhaeddodd, gwelodd bethau cyffrous ar y bwrdd peintio.
Roedd rhai plant eisoes
yn gwneud siapiau paent mawr ar ddarn mawr o bapur. Cofiodd
Rhian fod angen
ffedog arni i beintio. Aeth at y bachau, ond doedd dim ffedogau
ar ôl. Dechreuodd
deimlo’n drist unwaith eto. Edrychodd o’i chwmpas a gwelodd Miss
Roberts. Aeth ati a
dywedodd, ‘Os gwelwch yn dda, ga’ i chwarae yma hefyd?, Dywedodd
Miss Roberts,
‘aros yma gyda fi nes i Tom orffen, yna fe gei di gyfle.’
Teimlai Rhian yn falch iawn ei bod wedi cofio beth i’w ddweud
fel bod Miss Roberts yn
gwybod beth oedd arni ei heisiau. Roedd Miss Roberts yn falch
iawn o Rhian am ofyn
fel hyn.
Cafodd amser braf yn peintio ac roedd Semera yno hefyd. Rhoddodd
Rhian a Semera
eu dwylo yn y paent i wneud patrymau. Bu’r ddwy yn chwerthin ac
yn giglan.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
20
-
Set Las: Elfen 2 y Cyfnod Sylfaen
Gemau cylch a rowndiau
Gemau cylch
Cyflwynwch gemau cylch yn y ffordd o’ch dewis, ond gwnewch yn
siŵr eich bod yn siarad
am y sgiliau bydd y plant yn eu defnyddio bob tro byddan nhw’n
cymryd rhan mewn
gweithgaredd cylch:
• llygaid (i weld)
• clustiau (i glywed)
• ceg (i siarad)
• pen (i feddwl)
• dwylo yn eu col (i ganolbwyntio). Gallwch lunio cân ar gyfer
hyn neu bwyntio at y rhannau hynny o’r corff.
Gemau am deimladau
Rhoddir cerdyn i bob plentyn sy’n dangos wyneb teimlad, ond nid
ydyn nhw’n edrych ar
y cerdyn hwn. Mae’r ymarferydd yn gofyn i’r plant, yn eu tro, i
droi’r cerdyn a dynwared yr
wyneb ar y cerdyn: ‘Wyneb hapus/trist/llawn cyffro/ofnus sydd ar
fy ngherdyn i’. Gallech
ddefnyddio’r Identikit teimladau sydd yn y Ffeil adnoddau ysgol
gyfan sy’n cyd-fynd â’rdeunyddiau hyn i greu’r cardiau. Os yw’r
plant wedi’u cyflwyno i’r Gwyntyll teimladau (o’rFfeil adnoddau
ysgol gyfan), gallan nhw ddal rhain yn yr awyr i ddangos beth yn eu
barn
nhw mae’r plentyn yn ei ddynwared.
Canwch y gân ‘Mr Hapus ydw i, ydw i ... ’ ac ychwanegu penillion
a symudiadau ar gyfer
teimladau eraill. Er enghraifft, trist/dig/llawn cyffro:
Mr Trist ydw i, ydw i (Bw! Hw!), Mr Trist ydw i, ydw i (Bw!
Hw!), Mr Trist ydw i, ydw i,
Mr Trist ydw i, Mr Trist ydw i, ydw i (Bw! Hw!)
Mr Dig ydw i, ydw i (Gr! Gr), Mr Dig ydw i, ydw i (Gr! Gr), Mr
Dig ydw i, Mr Dig ydw i,
Mr Dig ydw i, ydw i (Gr! Gr)
Mr Balch ydw i, ydw i (Da iawn!), Mr Balch ydw i, ydw i (Da
iawn!), Mr Balch ydw i,
Mr Balch ydw i, Mr Balch ydw i, ydw i (Daw iawn!)
Mr Cyffrous ydw i, ydw i (Hwrê!), Mr Cyffrous ydw i, ydw i
(Hwrê!), Mr Cyffrous ydw i,
Mr Cyffrous ydw i, Mr Cyffrous ydw i, ydw i (Hwrê!)
Caneuon enwau a gweithgareddau
‘Beth am ddweud helo wrth ... , beth am ddweud helo wrth ... ,
beth am ddweud helo
wrth ... , mae croeso i chi yma heddiw.’
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi.
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu
dweud rhywbeth
arbennig amdanaf i.
Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus neu’n drist.
Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’n hapus, yn
drist, yn llawn cyffro neu’n ofnus.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
21
-
Mae hyn yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro nes bod enw pawb
wedi’i gynnwys.
Os ydyn nhw’n dymuno, gall plant sefyll pan fyddan nhw’n cael eu
cyfarch.
Mae modd canu’r gân hon fel cân ffarwelio ar ddiwedd y dydd
hefyd.
Drwy ddweud helo a ffarwel, rydych chi’n dangos pa mor bwysig
yw’r plentyn
a’ch bod yn falch o’u gweld neu eich bod am weld eu heisiau nes
daw yfory.
Sefwch mewn cylch a gofynnwch i bob plentyn yn ei dro ddweud ‘Fy
enw i yw ... ’
ac yna curo eu traed dair gwaith.
Mae’r gweithgaredd cylch hwn yn well mewn grŵp llai, efallai
hanner y grŵp cyfan
os yw’n fawr. Rholiwch bêl at rywun ar draws y cylch, wrth i chi
eistedd ar y llawr.
Allwch chi enwi’r person hwnnw? Os na allwch, yna bydd y plentyn
hwnnw’n
helpu drwy ddweud ei enw. Gwnewch yn siŵr fod y bêl yn rholio
at bawb yn
ystod yr amser cylch.
Canu: ‘Gwna fel dwi’n ei wneud, dilyn dilyn fi, gwna fel dwi’n
ei wneud, dilyn dilyn fi.’
Gwnewch rywbeth mae’n rhaid i bawb ei ddilyn, ac yna pasio hyn o
amgylch y
cylch, gan roi enw’r plentyn yn lle ‘fi’ wrth iddyn nhw ddewis y
weithred. Byddwch
yn barod i helpu plant sy’n ei chael yn anodd meddwl am
weithred. Eto, mae hyn
yn fwy llwyddiannus gyda hanner y grŵp, os yw’r grŵp yn
fawr.
Ewch o amgylch y cylch, gyda phob plentyn yn dweud ei enw a
rhywbeth maen
nhw’n hoffi ei wneud. Yna maen nhw’n pasio sach ffa neu degan
meddal o
gwmpas. Mae’r oedolyn yn chwarae cerddoriaeth neu’n creu
cerddoriaeth, gan
ddefnyddio tambwrîn neu offeryn taro arall. Y plentyn a fydd yn
dal y bag ffa neu
degan meddal pan fydd y gerddoriaeth yn stopio, neu pan ddaw’r
sŵn a gytunwyd,
yw’r ‘un’ a dylai’r plant eraill geisio cofio ei enw a’r hyn
mae’n hoffi ei wneud.
Gemau cylch ar gyfer datblygu hunaniaeth grŵp a chymuned
Clapio’ch dwylo
Mae ‘Clapio’ch dwylo ac ysgwyd eich bysedd’ yn gân arall y
gellir ei haddasu, gan
ddefnyddio awgrymiadau’r plant (er enghraifft, ‘Clapio’ch dwylo
a churo’ch traed’).
‘Clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, clapiwch eich dwylo
ac ysgwyd
eich bysedd, clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, yn awr
rydyn ni wedi
gwneud patrwm.’
Gêm ‘Rydyn ni’n arbennig’
Mae’r dosbarth cyfan yn sefyll mewn cylch ac yn dal dwylo. Mae
pob plentyn yn
siglo ei ddwylo’n ysgafn yn ôl ac ymlaen ac yn canu neu’n dweud
‘Rydyn ni’n
arbennig, rydyn ni’n glyfar, ni yw plant derbyn lleoliad/ysgol
... ’.
Fe gewch eich synnu gan effaith hyn ar y plant a’r oedolion!
Cyfnewid llefydd
Dylai’r plant sefyll. Dylen nhw gyfnewid llefydd os gofynnir
iddyn nhw. Neu gallan
nhw ddal gwrthrych neu arwydd yn yr awyr os yw’r datganiad yn
wir amdanyn
nhw. Dylai’r ymarferydd ddweud:
‘Newidiwch le os ydych chi’n hoffi bwyta ffa’
‘Newidiwch le os ydych chi’n hoffi chwarae yn y tywod’
‘Newidiwch le os ydych chi’n hoffi mynd i’r parc’
ac ati.
Mae ein
lleoliadau/ysgolion
yn gosod plant
mewn grwpiau teulu
o tua deg plentyn
gyda gweithiwr
allweddol sy’n
darllen storïau ac
yn gwneud gwaith
amser cylch a
charped gyda’r
plant. Dwi’n meddwl
bod hyn yn eu helpu
i ddatblygu
hunaniaeth grŵp
yn gyflym iawn.
Fe wnaethon ni
addasu’r gêm
‘cyfnewid llefydd’
er mwyn i blentyn
a chanddo
anawsterau symud
allu ymuno. ‘Codi
bawd’ neu ‘codi
llaw yn yr awyr’
wnaethon ni ei
ddefnyddio.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
22
-
Pasio’r wên o gwmpas y cylch ar ddiwedd yr amser cylch neu ar
ddiwedd y dydd.
Pasio’r gwasgiad, sy’n golygu bod pawb yn dal dwylo ac yn
gwasgu’n ysgafn o amgylchy cylch.
Mae Pasio’r cwtsh yn gêm dda ar gyfer helpu pobl i deimlo’n rhan
o’r grŵp. Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio bod yn rhaid i hyn
fod yn dyner. Byddwch yn sensitif i
wahaniaethau diwylliannol o ran pa mor gyfforddus yw’r plant
gyda’r math hwn o gysylltiad.
Rowndiau
Pasiwch y tedi o gwmpas. Dylai pob plentyn gymryd ei dro i roi
mwythau i’r tedi yn dyner a
dweud helo.
Gallai’r ymarferydd fynd o amgylch y cylch a chael y plant i
ddweud eu henw wrth y tedi,
mor aml ag sy’n bosib. Y diwrnod nesaf, mae’r tedi yn dangos
‘bod ei gof yn wael’ a bydd
angen i’r plant eraill yn y grŵp ei atgoffa o’r enwau wrth iddo
fynd o gwmpas. Gellid
ymestyn hyn i gynnwys rhywbeth mae’r plentyn wedi’i fwynhau neu
rywun maen nhw wedi
chwarae gyda nhw yn y lleoliad/ysgol.
Fy hoff liw yw ...
Rydw i eisiau ... yn yr ysgol heddiw.
Rydw i eisiau gwybod ...
Dwi’n teimlo’n drist/llawn cyffro/ofnus/hapus pan ...
Cyfleoedd dysgu: perthyn
Cyn i’r plant ddechrau
Mewn ymweliad cyflwyno, ewch â thegan meddal (ag enw iddo) gyda
chi a’i roi i’r plentyn i
chwarae ac esboniwch y bydd yn aros amdano yn y lleoliad/ysgol.
Gwnewch yn siŵr ei fod
yno i ‘gyfarch’ y plentyn pan fyddan nhw’n cyrraedd y tro
cyntaf. Gallech hefyd adael llyfr
neu bos i’r plentyn ei ddarllen/chwarae gartref a’i ddychwelyd
ar ei ddiwrnod cyntaf.
Rhowch restr o rai o enwau’r plant a fydd yn ymuno (efallai’r
rheini a fydd yng ngrŵp teulu’r
plentyn) er mwyn i’r rhiant neu warcheidwad allu siarad amdanyn
nhw gan ddefnyddio eu
henwau.
Ysgrifennwch lythyr i’r plentyn yn ei wahodd i’r lleoliad/ysgol
ar ei ddiwrnod cyntaf.
Cyfeiriwch y llythyr at y plentyn.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n adnabod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n hoffi fy mod yn perthyn i fy
ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi.
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu
dweud rhywbeth
arbennig amdanaf i.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
23
-
Dod i adnabod ein gilydd
Hunan-gofrestru: Gofynnwch i rieni/warcheidwaid a phlant
gofrestru eu hunain drwy lynuenwau ar fwrdd clipiau ffabrig
bachyn-a-dolen. Gellir glynu ffotograffau gyda’r enwau er
mwyn helpu plant a rhieni i ddod i wybod ‘pwy di pwy’ yn y
lleoliad/ysgol. Defnyddiwch
hwn i weld pwy sydd yno yn y grŵp bach. Dylai staff gofrestru
eu hunain hefyd fel bod plant
yn gallu gweld eu henwau a’u lluniau.
Hefyd, gellir defnyddio ffotograffau gydag enwau a’u hongian ar
begiau cotiau. Gellir tynnu’r
ffotograffau hyn wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, fel sy’n
briodol.
Mae modd defnyddio gwyddor â chlipiau ffabrig bachyn-a-dolen er
mwyn storio enwau a
lluniau.
Ffotograffau magnetig: Tynnwch ffotograff o bob plentyn, ei
dorri allan, ei lamineiddio arhoi tâp magnetig ar y cefn. Mae’r
rhain yn ddefnyddiol ar gyfer dod i adnabod enwau ac ar
gyfer siarad am debygrwydd a gwahaniaethau. Defnyddiwch nhw wrth
ganu caneuon – er
enghraifft, ‘Pum plentyn yn lleoliad/ysgol ... ’. Defnyddiwch
nhw wrth adrodd storïau.
Adroddwch storïau cadarnhaol am fod yn ffrindiau, bod yn
garedig, ac ati, gan
ganolbwyntio ar reolau a gytunwyd ar gyfer y lleoliad/ysgol.
Gadewch nhw allan i’r plant
gael chwarae gyda nhw ar fwrdd magnet. Gallan nhw feddwl am y
syniad o wneud ffrindiau
gydag unrhyw un sydd yn y llun maen nhw’n ei ddewis.
Y gymuned ysgol ehangach: Dros y flwyddyn, dechreuwch godi
ymwybyddiaeth o’rgymuned ysgol ehangach y gall eich lleoliad/ysgol
fod yn rhan ohoni. Un syniad yw cael
dosbarth partner o blant hŷn a’u bod yn cwrdd unwaith yr
wythnos i ddarllen llyfr, chwarae
gêm parasiwt, sgwrsio neu ddatblygu diddordebau eraill
cyffredin. Gallai’r dosbarth hŷn
wneud llyfrau ar gyfer eu partneriaid. Gallai’r dosbarth iau
wneud cardiau a llythyrau ar gyfer
eu partneriaid, neu wahodd y plant hŷn i’w dosbarth i weld
rhywbeth maen nhw wedi’i
wneud gyda’i gilydd fel dosbarth.
Pan fydd y plant iau yn mynd i’w gwasanaeth ysgol gyfan cyntaf,
parwch nhw gyda
phlentyn hŷn, a gadewch i’r plant hŷn esbonio beth sy’n
digwydd. Gwnewch yr un peth
wrth fynd i’r neuadd fwyta am ginio.
Gemau cylch: Mae’r plant yn eistedd mewn cylch a’u llygaid ar
gau. Mae’r ymarferydd yn dweud un enw, ac mae’r person a enwir yn
enwi person arall wedyn ac yn y blaen.
Gofynnwch i rieni neu warcheidwaid ymuno â’r cylch a chyflwyno
eu hunain a’u plant i’r
grŵp.
Gêm disgrifio: Ceisiwch annog y plant i dynnu lluniau digidol o
bobl yn gwneud gwahanolbethau yn y lleoliad/ysgol. Gallai’r rhain
gael eu defnyddio i gefnogi gweithgaredd lle disgrifir
y prif briodoleddau – er enghraifft, ‘Dwi’n edrych ar rywun sydd
â gwallt brown, ffrog goch
a ... Pwy yw hwn?’. Dylai plant (gyda chymorth os oes angen)
enwi’r person ar sail y
disgrifiad. Dylen nhw wneud yn siŵr eu bod yn gywir drwy edrych
ar y llun.
Arddangos: Gofynnwch i rieni ddod â ffotograffau o’u plant yn eu
cartref, neu gydapherson arbennig, er mwyn eu harddangos (neu
defnyddiwch y ffotograff a dynnwyd adeg
yr ymweliad â’r cartref). Siaradwch am y ffotograffau gyda’r
plant. Gofynnwch i’r plant
gymryd eu tro i ddweud rhywbeth am y llun wrth y grŵp.
Snap/parau: Gan ddefnyddio’r ffotograffau a dynnwyd gennych yn
yr ymweliad â’r cartref,gwnewch ddwy set a chwarae snap neu barau
gyda nhw.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
24
-
Gallech chwarae gêm disgrifio yma hefyd, lle rydych yn disgrifio
rhywun a lliw eu gwallt,
dillad ac ati, ac mae’r grŵp yn ceisio darganfod y cerdyn
hwnnw. Dyma ffordd dda arall
o dynnu sylw at yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhyngom.
Trefnwch y cardiau mewn
grwpiau. Pwy sy’n gwisgo rhywbeth coch? Pwy sy’n fachgen/merch?
Pwy sy’n gwenu?
Tynnu llun: Defnyddiwch ddull ar gyfer paru plant ar hap (er
enghraifft, rhoi hanner llunanifeiliaid neu wynebau teimladau –
mae’n rhaid i bob plentyn ddod o hyd i’r plentyn sydd
â’r hanner arall sy’n cyfateb). Efallai hoffai’r plant dynnu
llun o’u partner. Helpwch nhw i
edrych ar liw eu gwallt a’u llygaid, siâp eu hwyneb, a’u
dillad.
Cardiau croeso: Gofynnwch i’r plant wneud cerdyn croeso i rywun
arall yn yr ystafell, ar ôl tynnu eu henw o dwba. Gallen nhw roi’r
cerdyn a diolch i’w gilydd yn bersonol fel bod
pawb yn cael cyswllt cadarnhaol yn y dosbarth neu’r grŵp.
Enw dosbarth/grŵp cyfan
Os oes gan eich lleoliad/ysgol grwpiau teulu neu gartref bach
gyda gweithiwr allweddol,
gallech osod her i bob grŵp greu enw grŵp eu hunain a baner
neu arfbais. Dylai’r faner
neu’r arfbais gynnwys elfen unigol ar gyfer pawb a gynrychiolir.
Gallai hyn gynnwys eu
diddordeb, eu hanifeiliaid anwes, eu hoff degan, rhywbeth am lle
maen nhw’n byw, ac
yn y blaen. Byddai hyn yn cael ei gopïo neu byddai rhywun yn
tynnu ffotograff ohono,
a byddai’n cael ei ddefnyddio mewn arddangosfa ac ar gyfer nifer
wahanol o ddibenion.
Dylid gadael cylch bach yn wag yn y canol.
Gellir lleihau’r faner neu’r arfbais er mwyn iddi fod yn rhan o
label enw personol pob
plentyn. Gellid tynnu llun neu ysgrifennu eu henw neu symbol
arbennig yn y canol. Gallai
hyn labelu eu man gwag personol – er enghraifft, blwch a/neu
beg. Dylai’r dosbarth neu’r
grŵp cyfan ddewis enw dosbarth/grŵp cyfan. Dylai hyn ddangos
sut mae’r dosbarth yn
dymuno bod, neu gynrychioli rhywbeth am eu dosbarth. Gellid
gwneud baner dosbarth
o faneri neu arfbeisiau’r grŵp teulu i gynrychioli
hunaniaethau’r plant o fewn y grŵp – fel
unigolyn o fewn grŵp bach o fewn grŵp mawr neu ddosbarth.
Hanfod cymuned y dosbarth/grŵp cyfan yw cydbwyso anghenion y
grŵp cyfan, y grŵp llai
a’r unigolyn. Rydyn ni’n annog plant i deimlo’n ddiogel o fewn y
gymuned hon. Mae’r darn
hwn o waith yn ymwneud â helpu’r plant i deimlo eu bod yn
perthyn o fewn y tair elfen hyn
yng nghymuned y dosbarth.
Cyfleoedd dysgu: hunanymwybyddiaeth
Pasiwch dedi o amgylch y cylch a gofynnwch i bob plentyn ddweud
rhywbeth arbennig
amdanyn nhw eu hunain wrth y tedi. Byddwch yn barod i gynnig
awgrym ar gyfer pob
plentyn, neu i ofyn cwestiwn symlach.
Ailadroddwch y gweithgaredd uchod, ond tro hwn gofynnwch i’r
plentyn ddweud rhywbeth
arbennig am y plentyn sy’n eistedd wrth ei ymyl.
Gwnewch ‘lyfr arbennig’ o rywbeth mae pob plentyn yn dda yn ei
wneud, gan ddefnyddio
eu hawgrymiadau yn ystod amser trafod.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n gallu dweud rhywbeth arbennig amdanaf i.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
25
-
Gofynnwch i’r plant ddod â rhywbeth arbennig o’u cartref i
siarad amdano neu
i’w arddangos ar fwrdd arbennig.
Cyfleoedd dysgu: deall hawliau a chyfrifoldebau
Archwilio’r lleoliad/ysgol
Mewn parau neu drioedd, ewch â’r plant ar daith o amgylch y
lleoliad/ysgol.
‘Beth, yn eich barn chi, rydyn ni’n ei wneud yma?’, ‘Pam eich
bod yn meddwl
hynny?’, ‘Ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n hoffi hynny?’,
‘Ydych chi wedi
chwarae hyn o’r blaen?’.
Rhowch lun i’r plant o rywbeth nad yw’n cael ei arddangos yn y
lleoliad/ysgol.
Gofynnwch iddyn nhw fynd i chwilio lle caiff y gwrthrych ei
gadw. Dylai’r plant
ddod yn ôl i ddweud lle maen nhw wedi dod o hyd iddo. Byddai
gofyn iddyn nhw
esbonio hyn i bâr arall o blant yn gwneud y dasg hon yn
anoddach.
Chwaraewch ‘Dwi’n gweld â’m llygad bach i’ gan roi priodoleddau
yn hytrach na
sŵn llythyren – er enghraifft, ‘Dwi’n gweld â’m llygad bach i
rywbeth sy’n fawr ac
wedi’i wneud o bren, a gall plant ddringo drosto’.
Ewch â phlant o amgylch rhannau o’r lleoliad/ysgol mae angen
iddyn nhw wybod
amdanyn nhw gyntaf. Dangoswch dirnodau iddyn nhw, pethau hawdd
er mwyn
eu helpu i gofio lle maen nhw’n mynd. Cofiwch drafod llawer wrth
i chi fynd o
gwmpas. Rhowch sicrwydd, a cheisiwch sylwi ar fynegiant a
sylwadau’r plant er
mwyn gallu adnabod unrhyw ofnau neu bryderon.
Gosodwch lwybrau drwy’r lleoliad/ysgol i’r plant eu dilyn – er
enghraifft, ‘Dilynwch
yr olion traed’. Yna gofynnwch iddyn nhw ddweud yr hyn a welon
nhw ar eu taith.
Ymgyfarwyddo â’r drefn
Creu llyfrau: Gwnewch lyfr grŵp/dosbarth am gyfnodau allweddol
yn y dydd, ganddangos beth sy’n digwydd yn y cyfnod hwnnw. Cofiwch
gynnwys y plant drwy
ofyn iddyn nhw ‘Beth fyddai’n rhaid i berson newydd ei wybod am
amser cinio?’.
Tynnwch ffotograffau; lle bo’n bosibl, gadewch i’r plant dynnu’r
lluniau hefyd.
Gellid gwneud llyfrau am amser cylch, amser grŵp, amser cinio,
amser mynd
adref, ac yn y blaen. Gallech helpu’r plant i wneud llyfr
igam-ogam mawr sy’n
dangos rhythm y gweithgareddau ar ddiwrnod arferol. Dyma ffordd
dda o
gynnwys y plant sydd wedi arfer â’r lleoliad/ysgol i helpu
unrhyw blant newydd i
deimlo’n hyderus ac yn ddiogel.
Canu: Canwch am ddigwyddiadau’r dydd ar alaw boblogaidd bydd y
rhan fwyafo’r plant yn ei hadnabod.
Meim: Meimiwch ddigwyddiadau’r dydd ar ddiwedd y sesiwn am
hwyl.
Gallwch ddefnyddio caneuon cyfarwydd hefyd, a gellir cynnwys
symudiadau ynddi.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod beth i’w wneud yn fy
ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Pan fyddai plentyn
newydd yn ymuno
â’m dosbarth,
byddai un o’r plant
a oedd wedi arfer
â’r lleoliad/ysgol
yn cael ei baru â’r
plentyn newydd.
Un o’r tasgau cyntaf
fyddai dangos ein
llyfr dosbarth i’r
plentyn newydd,
ac roedden nhw’n
cael cadw’r llyfr
hwn wrth iddyn
nhw ymgyfarwyddo.
Bob tro byddai
un o’n plant newydd
yn cyflwyno
ymholiad neu bryder
newydd (chwarae
gwlyb, er
enghraifft), roedden
ni’n ychwanegu
tudalen arall. Yn
y diwedd, fe
wnaethon ni ‘lyfr
llafar’ ar y cyfrifiadur
a bu’r holl blant
yn recordio eu
hesboniadau eu
hunain. Buon
nhw’n gwneud
fersiynau mewn
gwahanol ieithoedd
hyd yn oed.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
26
-
Siarad am y diwrnod: Defnyddiwch y ffotograffau o’r drefn
ddyddiol a dynnwydar gyfer eich amserlen luniau (gweler isod).
Gwasgarwch nhw dros y bwrdd ac
awgrymwch fod y plant yn cymryd tro i ddweud beth maen nhw’n ei
hoffi am yr
amser hwnnw o’r dydd, neu ddim yn ei hoffi. Mae hyn yn rhoi
adborth gwerthfawr
i chi am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn mae angen ei addasu yn
eich trefn. Un ffordd
o amrywio hyn yw gwneud dwy set o ffotograffau (syniad da rhag
ofn yr aiff un ar
goll) a chwarae gêm parau. Bydd hyn yn atgyfnerthu’r enwau a
roddwch i
wahanol rannau’r dydd.
Labelu mannau chwarae: Trafodwch rai gweithgareddau allweddol
aphenderfynwch sawl plentyn fyddai’n gallu defnyddio’r offer neu
fan chwarae
(megis man chwarae rôl) ar unrhyw un adeg. Labelwch rhain ag
wynebau llawen
fel bod nifer yr wynebau’n cyfateb i nifer y bobl a all fod yn y
man chwarae’r un
pryd. Os oes gormod o bobl, gofynnwch iddyn nhw weld faint sydd
yno o’i
gymharu â nifer yr wynebau llawen.
Amserlen luniau: Byddwch yn glir ynghylch y drefn yr hoffech ei
chyflwyno panfydd plant yn newydd i’r lleoliad/ysgol. Tynnwch
ffotograffau o rannau penodol o’r
diwrnod (amser rhannu, amser cylch, amser cinio, amser grŵp, ac
ati)
a’u lamineiddio fel eu bod yn para am y flwyddyn. Mae modd rhoi
clipiau
bachyn-a-dolen ffabrig ar gefn y ffotograffau. Rhowch stribyn o
glipiau
bachyn-a-dolen ffabrig ar gerdyn wedi’i osod mewn man sy’n
gyfleus i’r plant
yn eich dosbarth. Gallwch chi, neu’r plant, osod y ffotograffau
mewn trefn,
a bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r plant sy’n llai hyderus ynghylch
beth fydd yn
digwydd y diwrnod hwnnw. Mae modd defnyddio’r gweithgaredd hwn
hefyd i
siarad yn rheolaidd am y drefn a chynnwys y plant wrth geisio
cofio beth sy’n dod
nesaf. Gellir tynnu ffotograffau unigol i ffwrdd pan fydd y rhan
honno o’r sesiwn
wedi dod i ben. Gofynnwch i blentyn ddod i ddweud wrth bawb
arall beth fydd yn
digwydd heddiw, gan ddefnyddio’r amserlen luniau i’w helpu.
Gellid gwneud hyn
ar sail rota fel bod pawb yn cael cyfle.
Sbarduno: Siaradwch am yr hyn sy’n dod nesaf drwy gydol y dydd.
Mae hyn ynarbennig o bwysig yn yr wythnosau cyntaf. Po fwyaf y
gwnewch chi hyn, y mwyaf
diogel bydd eich plant yn teimlo. Rhowch rybudd 5 munud cyn yr
hyn a fydd yn
digwydd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar y plant hynny nad
ydyn nhw’n
hoffi newid neu sy’n ei chael yn anodd gorffen pethau.
Gellir defnyddio grwpiau cartref neu deulu i helpu’r plant i
ddeall y drefn yn y
lleoliad/ysgol. Gellid symud y faner neu’r arfbais mae’r grŵp
wedi’i gwneud i ran
o’r ystafell ddosbarth bydd y grŵp yn chwarae ac yn dysgu
ynddi. Gellid annog y
plant i ddefnyddio’r grwpiau hyn fel ffynhonnell gymorth. Er
enghraifft, os yw
plentyn yn cael trafferth, gellid ei annog i ofyn am gymorth gan
rywun yn ei grŵp
cartref. Os ydyn nhw’n teimlo’n unig ar yr iard chwarae, gellid
annog aelod o’r
grŵp cartref neu deulu i’w helpu.
Trafodwch yn rheolaidd yr hyn mae plant yn ei hoffi a ddim yn ei
hoffi am y diwrnod.
Ceisiwch annog y rhieni i wneud yr un peth gartref (gan
ddefnyddio gweithgareddau’r
set Aur) ac i roi gwybod i chi a oes pethau y dylid delio â nhw
yn yr ysgol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad am y drefn yn y
lleoliad/ysgol yn rheolaidd,
fel bod pob plentyn yn cael cyfle i ddeall ac i deimlo’n sicr yn
ei chylch. Sicrhewch
fod eich trefn yn gyson a cheisiwch beidio â’i newid gormod yn y
dechrau.
Cyflwynwch bethau newydd yn araf, gan roi rhybuddion ac
esboniadau ynghylch
pryd, ble a sut.
Yn ein hysgol, mae
gennym lyfr
nodiadau cartref-
ysgol ar gyfer plant
sy’n ei chael yn
anodd cofio beth
maen nhw wedi’i
wneud – rydym yn
ysgrifennu un neu
ddau o nodiadau
cymell ar gyfer
rhieni/warcheidwaid.
Fe wnaethon ni
ychwanegu
gwrthrychau
cyfeirio at y
ffotograffau yn y prif
fannau (e.e. rhaw
ar gyfer y lle tywod,
creon ar gyfer y
lle celf). Roedd
gennym flwch
wedi’i addurno, ac
ynddo roedd yr un
set o wrthrychau
fel bod merch a
chanddi anawsterau
dysgu’n gallu
dweud wrthon ni
beth oedd ei
hangen arni drwy
ddewis o’r blwch.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
27
-
Cyfleoedd dysgu: deall fy nheimladau
Trefnwch fod gennych ddetholiad o luniau neu ffotograffau sy’n
dangos teimladau,
gan gynnwys hapus, trist, ofnus a llawn cyffro. Gallech
ddefnyddio’r taflenni
Identikit teimladau neu’r Gwyntyll teimladau sydd yn y Ffeil
adnoddau ysgolgyfan. Os ydych yn defnyddio ffotograffau, byddwch yn
sensitif i wahaniaethau
diwylliannol o ran y modd y mynegir emosiynau a chofiwch gynnwys
ystod o
wahanol ethnigion. Gallech ddefnyddio’r cardiau llun o’r Ffeil
adnoddau ysgol
gyfan, neu gallech dynnu lluniau’ch hun.
Darllenwch stori Y bachgen newydd o’r taflenni adnoddau (gweler
tudalennau34–36) neu defnyddiwch stori arall debyg rydych chi
wedi’i darllen i’r plant.
Atgoffwch y plant o rai o’r pethau a ddigwyddodd yn y stori a
gofyn iddyn nhw
bwyntio at yr wyneb sy’n dangos orau sut yr oedd Atiq yn teimlo
ar y pwynt
hwnnw yn y stori.
Rhowch gyfle i bawb yn ei dro ddweud rhywbeth am yr wyneb wrth y
grŵp.
Ceisiwch eu hannog i sgwrsio’n helaeth am yr wynebau, safle’r
llygaid, y geg a’r
aeliau. Efallai byddai rhai elfennau o’r Poster ditectif
teimladau o’r Ffeil adnoddauysgol gyfan yn ddefnyddiol yma.
Gofynnwch i’r plant ddangos i chi sut siâp fyddai ar eu cyrff pe
bydden nhw’n
teimlo fel hyn. Disgrifiwch beth rydych chi’n ei weld: ‘O, dwi’n
gallu gweld dy fod
yn edrych yn drist oherwydd bod gen ti geg gam, mae dy lygaid yn
edrych yn
ddwl, ac mae dy ben yn isel.’
Gofynnwch a fyddai rhywun yn hoffi dweud am adeg pan oedden
nhw’n teimlo fel hyn.
Gallech ddatblygu ymwybyddiaeth plant o fynegiant wyneb drwy
wneud cardiau o
aeliau, cegau, trwynau, ac ati, wedi’u torri allan o
gylchgronau. Rhowch un
nodwedd wyneb ar bob cerdyn. Chwaraewch gêm, gan ddewis y
nodweddion
mae eu hangen arnoch i wneud wyneb. Gofynnwch i’r plant edrych
ar yr wyneb
maen nhw wedi’i wneud a dweud beth mae eu person yn ei
deimlo.
Defnyddiwch ffotograffau neu luniau o’r plant yn cymryd rhan
mewn
gweithgareddau ac yn edrych yn hapus, yn drist, yn ofnus neu’n
llawn cyffro.
Gwasgarwch nhw fel bod y plant yn gallu gweld pob un ohonyn
nhw.
Chwaraewch ‘Pasio’r frawddeg’. Mewn cylch, bydd y plant yn
dweud, yn eu tro,
‘Dwi’n teimlo’n hapus (neu’n drist neu’n ofnus neu’n llawn
cyffro) pan ... ’. Os nad
ydyn nhw’n siŵr beth i’w ddweud, gallan nhw ddefnyddio’r
lluniau i’w helpu.
Mae’n bwysig cadw cydbwysedd rhwng emosiynau cysurus ac
anghysurus bob
amser er mwyn i blant ddechrau sylweddoli ei bod yn dderbyniol
ac yn iawn
dangos eu hemosiynau i bobl, pwy bynnag ydyn nhw. Dywedwch wrth
y plant ei
bod yn iawn profi pob teimlad, hyd yn oed os nad yw rhai’n
teimlo’n gysurus iawn
y tu mewn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi bwysleisio nad yw’n
iawn ymddwyn
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod ei bod yn iawn i ni gael teimladau ond nad yw’n
iawn
ymddwyn mewn unrhyw ffordd yr hoffwn (os yw’n brifo pobl
eraill).
Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus neu’n drist.
Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’n hapus, yn llawn
cyffro, yn
drist neu’n ofnus.
Rydym yn
defnyddio ein
‘cardiau teimladau’
cyffyrddadwy
wedi’u gwneud â
botymau, fel bod
plentyn â nam ar
y golwg yn gallu
cymryd rhan yn y
gweithgaredd hwn.
Fe ddefnyddiais
weithgaredd gefn
wrth gefn yma.
Rhoddwyd llun o
wyneb i un plentyn
yn dangos teimlad
ac roedd y plentyn
hwnnw wedyn yn
disgrifio’r wyneb i’w
bartner a oedd yn
gorfod tynnu llun
o’r wyneb ar sail y
disgrifiad.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
28
-
mewn ffyrdd sy’n brifo pobl eraill, hyd yn oed os ydym yn
teimlo’n anghysurus neu’n ddigalon.
Siaradwch gyda’r plant am ymddygiad y plant yn y stori ac a oedd
eu hymddygiad yn iawn
neu beidio.
Ar ôl amser cylch ar brif teimladau, gallech ofyn i’r plant
edrych yn y drych a gwneud wyneb
hapus/trist/ofnus/llawn cyffro ac yna tynnu llun o’r wyneb.
Gofynnwch: ‘Beth sy’n gwneud i
chi deimlo fel hyn yn y lleoliad?’ Bydd oedolion yn ysgrifennu
hyn ac wedyn yn ei deipio
mewn swigen siarad i fynd gyda’r llun. Rhowch rhain i gyd ar
boster grŵp i’w arddangos yn
yr ystafell neu i gynulleidfa ehangach mewn neuadd neu
goridor.
Er mwyn helpu plant i adnabod eu teimladau, gallech gael lein
ddillad gyda gwahanol ‘wynebau
teimladau’ arni. Yn ystod y diwrnod, gallai plant baru eu
ffotograff/enw eu hunain â’r wyneb
teimlad sy’n dangos orau sut maen nhw’n teimlo. Neu defnyddiwch
gardiau symbolau ar
gyfer hapus, ofnus, trist a llawn cyffro i annog plant i ddangos
sut maen nhw’n teimlo.
Cyfleoedd dysgu: rheoli fy nheimladau
Atgoffwch y plant o’r stori Y bachgen newydd (gweler tudalennau
34–36). Yn y stori, roeddKaltuun yn teimlo’n ofidus ac yn ddig am
ei bod am i Sam chwarae gyda hi, ac nid gydag
Aled. Mi gymerodd cryn amser iddi ymdawelu. Gofynnwch i’r plant
beth maen nhw’n ei
wneud pan fyddan nhw’n teimlo’n ‘anghysurus’ – beth fyddai eu
cyngor i Kaltuun? Os yn
bosib, gofynnwch i’r plant ddangos (er enghraifft, gwneud
rhywbeth maen nhw’n hoffi ei
wneud/anadlu’n ddwfn bum gwaith). Sicrhewch fod pob un o’r plant
yn gallu anadlu’n
ddwfn. Wrth iddyn nhw ymarfer hyn, byddai o gymorth pe bydden
nhw’n chwythu’n ysgafn
ar gefn eu llaw wrth iddyn nhw anadlu allan. Gwnewch
arddangosfa, ‘Pan dwi’n teimlo’n
anghysurus, galla i ... ’ drwy dynnu lluniau â chamera o blant
yn dangos eu strategaethau.
Atgyfnerthwch y strategaethau hyn lle bo’n bosibl mewn
sefyllfaoedd go iawn.
Rhowch gydnabyddiaeth i deimladau plant bob tro, hyd yn oed os
oes angen i chi weithio
ar y ffordd maen nhw’n delio â nhw. Mae pob teimlad yn
ddilys.
Cyfleoedd dysgu: sgiliau cymdeithasol
Ymhelaethwch ar stori Aled, gan bwyso a mesur, efallai, y pethau
sydd wedi digwydd,
neu a allai ddigwydd yn y lleoliad/ysgol, er mwyn rhoi
cyd-destun ar gyfer addysgu sgiliau
cymdeithasol fel sy’n briodol, ac atgyfnerthu’r drefn. Adroddwch
storïau am bethau a
welwch yn mynd o le yn y dosbarth a drwy’r storïau, dysgwch y
pethau cywir, gan roi
ymadroddion posibl a all fod yn fuddiol i blant er mwyn iddyn
nhw ymuno mewn gêm – er
enghraifft, dweud ‘mae’n ddrwg gen i’, gofyn am gael benthyg
rhywbeth ac ati.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gallu rhannu mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu cymryd tro mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu ymuno â phlant eraill wrth chwarae gêm.
Dwi’n gwybod sut mae bod yn garedig wrth bobl sy’n newydd neu
sy’n ymweld â’r
lleoliad/ystafell ddosbarth.
Deilliant dysgu bwriedig
Rydw i’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan rwyf yn teimlo’n
ofnus neu’n ofidus.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
29
-
Cynhaliwch brynhawn chwaraeon, a’r nod fydd cael y timau cymysg
i orffen gan fod mor
garedig ag sy’n bosibl wrth ei gilydd. Rhowch wobrau am hyn yn
hytrach nag am ennill.
Daliwch ati i greu’r awyrgylch lle gellir annog ymddygiad
cadarnhaol – er enghraifft, rhoi
cymaint o groeso ag sy’n bosib a chanolbwyntio drwy’r amser ar
yr hyn mae’r plant yn ei
gael yn gywir yn hytrach na’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddysgu
eto.
Daliwch blant yn ‘ymddwyn yn dda’. Gan ddefnyddio enw’r plentyn,
rhowch ganmoliaeth
benodol i blant