-
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion
uwchraddThema 3: Parhau i ddysgu, taflenni adnoddau
Blwyddyn 7
Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd, ac
ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau
Plant
Dyddiad cyhoeddi: 05-2009
Cyf: 00043-2009-12-CYMRU
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
1
© Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau
Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd:
Taflenni Adnoddau Thema 3
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.1 Darganfod pâr
papur cyllell esgid
pâst dannedd cath ci
bwrdd llygoden soser
sosban teledu cadair
teclyn rheoli o bell ysgrifbin pysgodyn
coler ci trwyn caead
brwsh gwallt fforc brwsh dannedd
gwialen bysgota
brwsh bocs o hancesi
hosan rhaw lwch gwallt
goleuadau traffig
cwpan car
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
2
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion
uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU ©
Hawlfraint y Goron 2009
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.2 Elin, Steffan a’r creaduriaid
arian
Wyt ti’n cofio Elin a Steffan a’u taith i’r dyfodol? Roedden
nhw’n chwilio am blanedau newydd heb neb yn byw arnyn nhw, y gallai
pobl o’r Ddaear symud iddyn nhw. Roedd y llong ofod yn teithio’n
gynt na goleuni. Roedd ei synwyryddion yn chwilio am blaned oedd â
dŵr ac atmosffer a fyddai’n addas i bobl.
Yn hwyr un noson, cafodd prentisiaid y gofod eu galw i’w
monitorau i edrych ar y blaned gyntaf y bydden nhw’n ymweld â hi.
Arafodd y llong ofod a hofran uwchben y blaned. Gallai’r
prentisiaid weld tir cyfoethog â llynnoedd a choedwigoedd tebyg
iawn i’r rhai sydd ar y Ddaear. Wrth iddyn nhw edrych, sylweddolodd
Elin bod creaduriaid arian yn byw ar y blaned, a’u bod nhw’n methu
credu’r hyn yr oedden nhw’n ei weld wrth i’r llong ofod ddechrau
disgyn yn araf ac yn ofalus. Yn sydyn, trodd y rhyfeddod ar eu
hwynebau’n ofn wrth i’r llong ofod grynu a llithro i’r ochr i
gyfeiriad llyn ag adeiladau prydferth o’i amgylch. Roedd gwres y
llong ofod yn troi’r dŵr yn stêm ac yn dinistrio’r adeiladau.
Dysgodd y prentisiaid wedyn bod y creaduriaid yn cael eu holl
fwyd o’r llyn. Amser maith yn ôl, roedden nhw wedi datblygu system
bysgota awtomatig. Y cyfan yr oedd yn rhaid i’r creaduriaid ei
wneud oedd troi switsh ymlaen, a byddai rhwydi enfawr yn codi
cannoedd o lysywod o waelod y llyn. Yna, byddai’r llysywod yn cael
eu troi’n awtomatig yn fwyd blasus tu hwnt. Doedd y creaduriaid
ddim yn gwybod beth i’w wneud heb y peiriant. Roedd y peiriant mor
ddibynadwy fel na fu’n rhaid ei drwsio na chael un newydd yn ei le
erioed. Nawr felly, doedd y creaduriaid ddim yn gallu ei drwsio nac
adeiladu un newydd yn ei le. Bu prentisiaid y gofod yn ymchwilio,
gan ddysgu bod y blaned yn frith o lynnoedd a oedd yn llawn
llysywod a physgod o bob lliw a llun. Dangosodd synwyryddion y
llong ofod bod modd eu bwyta a’u bod nhw’n flasus iawn.
Roedd prentisiaid y gofod yn poeni am beth oedd wedi digwydd, ac
roedden nhw am wneud iawn am y llanast yr oedden nhw wedi’i greu.
Buon nhw’n trafod beth allen nhw ei wneud yng nghyfarfod y
Cyngor.
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
3
© Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau
Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd:
Taflenni Adnoddau Thema 3
Taflen adnoddau
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
6
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion
uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU ©
Hawlfraint y Goron 2009
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.4 Beth ydy fy agwedd i?
Cardiau sefyllfa
Rwyt ti’n gadael dy feic y tu allan i’r siop, ond rwyt ti’n
anghofio’i gloi. Mae’n cael ei ddwyn.
Mae sip dy fag di’n torri, ac mae dy ffôn di’n syrthio allan
ohono ac yn torri.
Rwyt ti’n colli’r bws. Dyma’r trydydd tro i ti fod yn hwyr, ac
rwyt ti’n cael dy gosbi.
Rwyt ti’n colli cyfle i sgorio gôl.
Rwyt ti’n gadael i ffrind fenthyca dy dop newydd. Mae’n ei
rwygo.
Rwyt ti’n cael dy wahardd rhag mynd allan am dy fod ti’n hwyr
eto. Cefaist dy rybuddio, ond ddechreuaist di ddim ar dy ffordd tan
yr eiliad olaf. Roedd olwyn dy feic yn fflat, a bu’n rhaid i ti
gerdded.
Rwyt ti’n cnoi afal, ac mae gwenynen ynddo sy’n dy bigo di.
Rwyt ti’n dawnsio yng nghyngerdd yr ysgol. Dyma dy berfformiad
cyntaf di. Rwyt ti’n baglu ac yn troi dy figwrn.
Rwyt ti’n gwylio ffilm arswyd, a dwyt ti ddim yn gallu cysgu
wedyn.
Rwyt ti’n mynd â chacen i barti pen-blwydd ffrind sy’n byw yr
ochr arall i’r ffordd. Mae’n bwrw glaw, ac mae’r eisin yn cael ei
ddifetha.
Rwyt ti’n esgus ymladd â dy frawd, ac rwyt ti’n gollwng dy
chwaraewr MP3 ar y llawr.
Rwyt ti’n prynu losin ar dy ffordd adref ac yn eu bwyta i gyd.
Rwyt ti eisiau prynu cryno-ddisg newydd, ond does gen ti ddim digon
o arian.
Cardiau cymeriad
Fi sy’n gyfrifol Pam fi? Fi sy’n iawn
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
7
© Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau
Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd:
Taflenni Adnoddau Thema 3
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.5 Fi sy’n gyfrifol
Gallai tri gwirfoddolwr actio’r tri chymeriad yn y sefyllfaoedd
canlynol, neu gallech chi eu hactio.
Mae Mr Fisyniawn yn cerdded trwy’r goedwig ac yn camu ar faw ci.
Mae’n edrych i lawr ac yn dweud, ‘Hen gŵn diawledig, ddylen nhw
ddim cael dod ‘ma. Os dalia i’r ci a’i berchennog mochaidd, fe wna
i’n siŵr na fyddan nhw’n gallu cerdded byth eto!’
Mae Mr Pamfi? yn cerdded trwy’r goedwig ac yn camu ar faw ci.
Pan mae’n edrych i lawr ac yn gweld beth sydd wedi digwydd, mae’n
dweud, ‘Does dim byd yn newid. Dwi mor anlwcus. Dyw pethau fel hyn
byth yn digwydd i unrhyw un arall. Mae popeth yn fy erbyn i...
mae’r byd i gyd yn fy erbyn i...’’
Mae Mr Fisyngyfrifol yn cerdded trwy’r goedwig ac yn camu ar faw
ci. Pan mae’n edrych i lawr ac yn gweld beth sydd wedi digwydd,
mae’n dweud, ‘O daro! Dyna niwsans! Dylwn i fod wedi talu mwy o
sylw – mae llawer o gŵn o gwmpas y goedwig ‘ma. Y tro nesa’, bydd
yn rhaid i fi edrych ble dwi’n mynd.’
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
8
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion
uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU ©
Hawlfraint y Goron 2009
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.6 Cyrraedd dy nod
Cam 1
Cam 2
Cam 3
Cam 4
Cam 5
Nod
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
9
© Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau
Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd:
Taflenni Adnoddau Thema 3
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.7 Rhwystrau
Diflasu
Drysu
Meddwl am rywbeth arall
Methu deall
Cael dy demtio
Teimlo’n rhwystredig
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
10
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion
uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU ©
Hawlfraint y Goron 2009
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.8 Her ‘Wrth gwrs y gallwn
ni!’
Byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau i helpu’ch gilydd i gyrraedd
eich nodau a gwneud eich marc. Her eich grŵp ar gyfer y sesiwn yw
creu cynllun i ddangos sut y byddwch yn helpu pawb yn eich grŵp i
gyrraedd eu nodau. Bydd angen i chi baratoi cyflwyniad ar gyfer
gweddill y grŵp i ddangos sut y byddwch yn gwneud hynny.
Dylai eich cyflwyniad roi syniad clir i’r gynulleidfa o bob
agwedd ar eich cynllun. Bydd angen y canlynol ar eich
cynulleidfa:
• rhywbeth i edrych arno;
• rhywbethdiddorolifeddwlamdano;
• rhywbethi’whelpuigofionodeichgrŵp;
• rhywbethiddangosbethsy’ngwneudeichgrŵp yn arbennig.
Dylai eich cynllun gynnwys:
• manylion sy’n dangos sut y bydd pethau pan fyddwch chi i gyd
wedi cyrraedd eich nodau;
• syniadauarsutioresgynrhwystrau;
• manylionsy’ndangosblerydychchinawrmewnperthynasâ’ch nodau;
• gwybodaethamsutybyddwchchi’ncefnogieich gilydd;
• manylionunrhywwobrausyddeuhangeni’channog i ddal ati pan
fyddwch chi eisiau rhoi’r ffidil yn y to;
• rhywbethiddangoseichcynnydd;
• gwobri’rgrŵpamgyrraeddnodaueichgrŵp.
Bydd gennych 30 munud i gynllunio beth rydych chi’n mynd i’w
wneud, a thair munud i gyflwyno’ch syniadau a’ch cynlluniau i
weddill y dosbarth. Bydd gennych weddill y tymor i weithredu’ch
syniadau.
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
11
© Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau
Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd:
Taflenni Adnoddau Thema 3
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.9 Dilema Llinos
‘Llinos, Llinos... helpa fi! Dere ‘ma, Llinos!’ Ceisiodd Llinos
beidio â gwrando, ond aeth ei weiddi’n uwch ac yn uwch. Roedd hi’n
gwybod mai dagrau fyddai nesaf. Meddyliodd Llinos, ‘Sut yn y byd
ydw i’n mynd i allu gorffen fy ngwaith cartref os nad ydy Dafydd yn
stopio gofyn i fi chwarae gyda fe?’ Trodd Llinos. Roedd Dafydd
yno’n gwenu arni, ac mewn chwinciad roedd wedi ymestyn a gafael yn
ei llyfr braslunio ac roedd yn ei dynnu tuag at ei geg. Roedd yn
rhy hwyr erbyn iddi fynd â’r llyfr oddi wrtho – roedd hi’n gwybod y
byddai’r braslun wedi’i ddifetha, ac roedd Miss Tomos yn dibynnu
arni i baratoi llun da ar gyfer yr arddangosfa.
Roedd hi ar fin gweiddi ar Dafydd, ond stopiodd ei hun – i beth?
Nid fe oedd ar fai. Dylai hi fod wedi bod yn fwy gofalus. Roedd
Llinos yn meddwl y byd ohono – yn amlach na pheidio roedd Dafydd yn
llawer o hwyl. Ond yn bwysicach fyth, roedd e’n meddwl y byd o
Llinos; roedd e’n meddwl mwy ohoni na neb arall a byddai’n fodlon
gwneud unrhyw beth drosti.
Roedd Llinos a Dafydd yn byw gyda’u mam. Gadawodd eu tad nhw’n
fuan wedi i Dafydd gael ei eni, ac roedd e’n byw’n ôl yng Ngwlad
Pwyl erbyn hyn. Roedd e’n ffonio Llinos bob wythnos, ond doedd e
byth yn gofyn am gael siarad â Dafydd. Roedd hynny’n brifo mam
Llinos, ond doedd Dafydd ddim yn poeni. Aeth Llinos i lawr y
grisiau.
‘Paid anghofio ymarfer dy ffliwt!’ dywedodd ei mam. ‘Ddoi di
byth i chwarae’r ffliwt yn dda fel Mam-gu os na fyddi di’n ymarfer
bob dydd. Mae’n dweud bod gen ti’r ddawn. Os gwnei di ymarfer yn
galed, efallai y cei di dy ddewis.’ Roedd Llinos ar fin codi’r
ffliwt pan ganodd ei ffôn. Morgan oedd yno. Roedd e eisiau i Llinos
gwrdd ag e mewn hanner awr er mwyn mynd i’r dre gyda gweddill eu
ffrindiau.
Rhoddodd Dafydd ei hoff lyfr i Llinos, a chwtsiodd gan ddisgwyl
iddi ei ddarllen iddo. Dyna pryd y sylweddolodd hi ei bod wedi
anghofio am ei gwaith cartref mathemateg. Sut gallai hi fod wedi
anghofio? Roedd hi wedi addo i Dad y byddai’n canolbwyntio ar
fathemateg am ei fod e am iddi fynd i’r Brifysgol. Roedd e wedi
dweud na fyddai Llinos yn gallu cael lle yn un man heb fathemateg a
Saesneg.
Rhoddodd Llinos ei phen yn ei dwylo.
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
12
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion
uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU ©
Hawlfraint y Goron 2009
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.10 Meini’r athronydd
-
Agw
eddau cymdeithasol ac em
osiynol ar ddysgu: Thema 3 P
arhau i ddysgu
13
© Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau
Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd:
Taflenni Adnoddau Thema 3
Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.11 Dy darian gyflawni
Yn y rhan uchaf, defnyddia eiriau a/neu luniau i nodi sut
llwyddaist ti i gyrraedd dy nod.
Yn y rhan chwith, defnyddia eiriau a/neu luniau i nodi rhywbeth
rwyt ti wedi’i gyflawni yn yr ysgol.
Yn y rhan dde, defnyddia eiriau a/neu luniau i nodi rhywbeth
rwyt ti wedi’i gyflawni y tu allan i’r ysgol.
-
Cyf: 00043-2009-12-CYMRU
© Hawlfraint y Goron 2009
Seiliwyd y deunyddiau hyn ar y deuyddiau Secondary Social and
Emotional Aspects of Learning a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Yr
Adran Addysg a Sgiliau yn Lloegr. Addaswyd a chyfieithwyd y
deunyddiau hyn i’w defnyddio yng Nghymru gan Yr Adran Plant,
Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda chaniatâd yr Adran Plant,
Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr.
Tîm Ennyn Diddordeb DisgyblionAPADGOSLlywodraeth Cynulliad
CymruParc Cathays CaerdyddCF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 1556Ffacs: 029 2080 1044Ebost:
[email protected]/topics/educationandskills/learningproviders/schools/pseseal/?lang=cy
Ymwadiad
Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan
yn glir nad yw’r Adran a’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb
am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu hawgrymu’n
ffynonellau gwybodaeth yn y ddogfen hon, boed y deunyddiau hynny ar
ffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.
Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau
eu defnyddio am resymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith
eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n golygu bod cwmnïau penodol neu’u
cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.
Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli
pan gafodd y deunyddiau eu hargraffu. Dylai tiwtoriaid wirio pob
cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedi newid, a
dylid eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.