Top Banner
2 Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl ac ymlaen Tud. 2 Ystlumod ar Brom Aberhonddu Tud. 4 Estyn allan at ein hysgolion Tud. 5 Ystlumod v Gwyfynod Tud. 6 ‘Y Chaps’ Tud.7 Blwyddyn i’w chofio Tud. 8 Tud. 11 Y BBC yn dod i ddyffryn yr Afon Wysg Frank Greenaway c Newyddion Dewch draw i helpu gyda’r diwrnod plannu coed ar ddydd Mercher Ionawr 9fed & 12fed. Cysylltwch gyda Jane Sedgeley os am ragor o wybdoaeth. Blwyddyn y mywyd ystlum pedol lleiaf Tud. 10 Y Bannau - Bro’r Ystlum Prosiect 3 blynedd yw OB4B. Ariennir ef gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith cadwraeth a wnaed gan y VWT yn rhan uchaf dyffryn yr afon Wysg ers blynyddoedd nawr. Mae’r prosiect yn ymestyn gwaith cadwraeth gam ymhellach y tu hwnt i’r glwydfan ac i mewn i’r dirwedd ehangach gan weithio gyda phobl leol er mwyn creu amgylchedd gynaliadwy sy’n addas i ystlumod a cheisio annog trigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr ystlumod sy’n byw o fewn eu milltir sgwar. Jane Sedgeley Swyddog Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum Mae wedi bod yn dymor prysur o ran ystlumod. Fe fuon ni wrthi’n rhoi sgyrsiau i’r cyhoedd, cynnal gweithdy hyfforddiant, ymweld â chlwydfannau, cynnal arolygon, mynychu sioeau amaethyddol ac arwain teithiau ‘slumota – 16 o ddigwyddiadau i gyd. Gweithiwyd cyfanswm o 673 awr wirfoddol rhwng Mai a Medi. Diolch enfawr i bawb gymerodd ran, ac mae’n rhiad i ni sôn yn arbennig am Margaret, Charlotte a Peter a dreuliodd gyfanswm rhyfeddol o 391 awr ar brosiect gwrychoedd ac ystlumod pedol lleiaf.
12

Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Feb 26, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

2Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20

Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum.

2012 – edrych nôl ac ymlaen

Tud. 2

Ystlumod ar Brom Aberhonddu

Tud. 4

Estyn allan at ein hysgolion

Tud. 5

Ystlumod v Gwyfynod

Tud. 6

‘Y Chaps’

Tud.7

Blwyddyn i’w chofio

Tud. 8

Tud. 11

Y BBC yn dod i ddyffryn yr Afon Wysg

Frank Greenawayc

Newyddion

Dewch draw i helpu gyda’r diwrnod plannu coed ar ddydd Mercher Ionawr 9fed & 12fed. Cysylltwch gyda Jane Sedgeley os am ragor o wybdoaeth.

Blwyddyn y mywyd ystlum pedol lleiaf

Tud. 10

Y Bannau - Bro’r Ystlum

Prosiect 3 blynedd yw OB4B. Ariennir ef gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith cadwraeth a wnaed gan y VWT yn rhan uchaf dyffryn yr afon Wysg ers blynyddoedd nawr.

Mae’r prosiect yn ymestyn gwaith cadwraeth gam ymhellach y tu hwnt i’r glwydfan ac i mewn i’r dirwedd ehangach gan weithio gyda phobl leol er mwyn creu amgylchedd gynaliadwy sy’n addas i ystlumod a cheisio annog trigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr ystlumod sy’n byw o fewn eu milltir sgwar.

Jane SedgeleySwyddog Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum

Mae wedi bod yn dymor prysur o ran ystlumod. Fe fuon ni wrthi’n rhoi sgyrsiau i’r cyhoedd, cynnal gweithdy hyfforddiant, ymweld â chlwydfannau, cynnal arolygon, mynychu sioeau amaethyddol ac arwain teithiau ‘slumota – 16 o ddigwyddiadau i gyd. Gweithiwyd cyfanswm o 673 awr wirfoddol rhwng Mai a Medi. Diolch enfawr i bawb gymerodd ran, ac mae’n rhiad i ni sôn yn arbennig am Margaret, Charlotte a Peter a dreuliodd gyfanswm rhyfeddol o 391 awr ar brosiect gwrychoedd ac ystlumod pedol lleiaf.

Page 2: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Tudalen 2

2012 – edrych nôl ac ymlaen!Jane Sedgeley, Swyddog Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum

Roedd y Gweithdy Datgelydd Ystlumod a’r diwrnod hyfforddiant nôl ym mis Mai yn ffordd o ail-danio diddordeb ein gwirfoddolwyr a denu rhai newydd. Roedden ni’n ffodus i gael cwmni Dr Henry Schofield, sy’n arbenigwr ar ystlumod pedol lleiaf ac yn rheolwr rhaglenni cadwraeth y VWT, i arwain y dydd gyda chymorth Swyddog Prosiect OB4B Jane Sedgeley. Roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ecoleg yr ystlum pedol lleiaf, dull ystlumod o ecoleoli a sut i gynnal arolygon ar gyfer ystlumod drwy ddefnyddio gwahanol fathau o ddatgelyddion. Sesiynau diddorol i gyd. Allan â ni wedyn, ac er oerfel y gwanwyn fe lwyddon ni gofnodi sawl math o ystlum gwahanol ar hyd y gamlas yn Nhalybont ar Wysg, ynghyd ag ystlum pedol lleiaf ar dir cyfagos.

Ac ar ôl i bobl ddysgu sut i ddefnyddio datgelyddion fe drefnwyd sawl digwyddiad arolwg er mwyn ceisio darganfod sut mae ystlumod pedol lleiaf yn defnyddio’r dirwedd rhwng dwy o’r clwydfannau mwyaf dan ofalaeth VWT. Drwy gynnal arolygon ar hyd yr A40 canfuwyd wyth croesfan newydd lle mae’r ystlumod yn mentro herio’r traffig er mwyn cyrraedd ardaloedd bwydo da i’r gogledd ac i’r dwyrain o’r ffordd. Gwelodd Lyndon a Colin 14 ystlum pedol lleiaf yn croesi’r ffordd ar uchder pen, gan ddilyn clawdd trwchus ar un ochr i’r ffordd a llinell o goed ar y llall er mwyn helpu pontio’r bwlch. Cynhaliwyd arolwg hefyd ar hyd

Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

rhyw 22km o gamlas Brycheniog a Mynwy, rhwng Llanfrynach a Llangatwg. Cofnodwyd ystlumod pedol lleiaf, yn ogystal â niferoedd da o rywogaethau mwy cyffredin, ar hyd y darn hwn. Mae’r wybodaeth o’r arolygon hyn eisoes yn cael ei defnyddio er mwyn helpu penderfynu ar y ffordd orau o reoli ymylon ffyrdd a’r llwybr camlas, er mwyn i’r coridorau gwyrdd pwysig hyn gael eu cynnal fel y gall yr ystlumod symud yn rhwydd rhwng clwydfannau a thiroedd hela.

Ffig. 1: Henry Schofield a rhai o’r gwirfoddolwyr yn ein gweithdy Datgelydd Ystlumod nôl ym mis Mai

I nodi diwedd y tymor o arolygon haf gwahoddwyd ein gwirfoddolwyr i wylio ystlumod yn ymddanogs yn y gwyll ar ein gwarchodfa ystlumod ym Mhencelli. Bydd yr holl gofndion ystlum a gasglwyd yn ystod yr haf hwn yn cael eu

Ffig. 2: Ystlum Pedol Lleiaf

Frank Greenawayc

Page 3: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Tudalen 3Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Byddwn yn cynnal diwrnod i rai o wirfoddolwyr canol-wythnos ffyddlon y Parc Cenedlaethol er mwyn plannu dau floc mawr o goed ar dir fferm ger Talybont-ar-Wysg. Bwriedir gwneud hyn ar Ionawr 9fed 2013. Os bydd amser yn caniatáu rydym yn gobeithio mynd i chwilio am gabanau tanddaearol o‘r Ail Ryfel Byd, rhewdai a selerau oer gan obeithio canfod safleoedd clwydo nos, safleoedd gorffwyso ac efallai safleoedd gaeafgysgu. Efallai bydd hi’n bosib i nifer fechan o wirfoddolwyr helpu gyda’r gwaith hwn on bydd hyn yn ddibynnol ar y safle.

Os hoffech gymryd rhan yn ein gweithgaredd plannu coed yn Nhalybont- ar-Wysg neu’r gwaith i asesu cabanau tanddaearol o’r 2il Ryfel Byd yna cysylltwch gyda ni. Mae’r ddau brosiect yn cynnig cyfle ardderchog i fynd allan i’r awyr agored ac i golli ychydig o’r pwysau Nadolig yna!

Ffig. 3: Jane Sedgeley gyda’r gwirfoddolwyr a gymerodd ran yn yr arolwg ystlumod

Ffig. 4: Ystlumod pedol lleiaf yn clwydo Frank Greenawayc

rhannu gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Nid yw ystlumod yn symud rhyw lawer yn ystod y gaeaf ond ry’n ni’n bwriadu cael gaeaf prysur wrth i’r Prosiect OB4B symud ymlaen i’r cymal nesaf. Mae misoedd y gaeaf yn ddelfrydol ar gyfer plannu coed. Byddwn yn plannu gwrychoedd newydd ar nifer o ffermydd dros y gaeaf nesaf, yn cynnwys un prosiect mawr sydd ar y gweill gydag Asiantaeth Amgylchedd Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Page 4: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Blwyddyn i’w chofioDavid Jermyn, Swyddog Gwarchodfeydd

Haf 2012 oedd y gwlypaf i ni ddioddef mewn canrif. Derbyniodd rhai rhannau o’r wlad fis o lawiad mewn diwrnod yn ystod Mehefin – tywydd a oedd i weld yn llawer mwy ffaffriol i anifeiliaid gyda thraed gweog! Ond er y cyflyrau soeglyd hyn fe lwyddodd ein hystlumod pedol lleiaf yn rhyfeddol ac fe welwyd, yn 60% o’r clwydfannau y mae VWT yn eu rheoli trwy Gymru ac ar hyd y gororau, fwy nag erioed o ystlumod yn ymddangos gyda’r nos.

Fig.5: Aelodau’r Grŵp Crwydro U3A yn mwynhau gweld ystlumod yn ymddangos o’r brif glwydfan fagu

Cynyddodd eu niferoedd yn y pedwar safle magu ry’n ni’n eu rheoli o fewn ardal prosiect OB4B a chafodd nifer eithriadol o ystlumod, sef 936 unigolyn eu cyfrif yn ein clwydfan bwysicaf yn rhan uchaf Dyffryn yr afon Wysg.

Ond efallai bod y tywydd ofnadwy yn ystod yr haf wedi arwain at gyfraddau geni isel ac wedi peri i lai o rai ifanc oroesi. Ond dim ond yn y dyfodol y daw’r effeithiau hyn i’r golwg. Amser a ddengys.

Fig.6: Graff yn dangos cynnydd mewn niferoedd ystlumod ers i VWT adfer a rheoli’r glwydfan.

Tudalen 4Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 5: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Ystlumod ar Brom Aberhonddu Jane Sedgeley, Swyddog Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum

Ar Awst 1af 2012 daeth Prosiect OB4B, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chymdeithas Bywyd Gwyllt Sir Frycheiniog at ei gilydd i gynnal taith gerdded deuluol ‘Caru ‘Slumod’ ar hyd promenâd Aberhonddu, ar lannau’r Afon Wysg.

Daeth tua 30 o bobl ynghyd i wrando ar sgwrs ynglŷn ag ecoleg ‘slumod a disgrifiad gan yr ecolegydd Rob Strachan o’r rhywogaethau y bydden ni’n

debygol o’u gweld. Roedd Eleanor Jones, sy’n gofalu am ystlumod, yno i helpu Rob ac fe ddaeth hi â dau ystlum bach dan ei gofal er mwyn rhoi’r cyfle i bobl weld ystlumod byw.

Roedd y sgyrsiau wedi eu hamseru’n berffaith. Wrth i ni grwydro lawr at lan yr afon fe glywsom gôr o synau ystlum yn dod o’r datgelyddion ac o’n cwmpas roedd silwetau ystlumod i’w gweld yn gwibio yn erbyn awyr yr hwyrnos. Gyda chymorth 15 o ddatgelyddion ystlumod

Fig.7: Ystlum adain-lydan – un o’r ystlumod llai cyffredin a gofnodwyd yn ystod y daith gerdded.

(a brynwyd gyda nawdd gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog a Chronfa Dreftadaeth y Loteri) cafodd pawb y cyfle i weld a chlywed ystlumod. Fe ddaethom ar draws ystlumod mawr yn hedfan yn uchel uwchben yr afon, ystlumod y dŵr ac ystlumod Natterer yn bwydo ar wyneb yr dŵr, ystlumod bach a rhai soprano yn gwibio o gwmpas y coed a’r tai, a hefyd - yn fwy cynhyrfus na dim arall – ystlum adain-lydan. Dim ond ychydg o gofnodion o ystlumod adain-lydan sydd gennym yn yr ardal hon a rydym yn awyddus iawn felly i fynd nôl yno flwyddyn nesa’, pan fydd y tywydd wed cynhesu, er mwyn gwneud recordiadau mwy manwl o sŵn yr anifail hwn.

Yn sicr roedd hi’n noson arbennig ac ry’n ni’n gobeithio cynnal noson arall debyg y flwyddyn nesaf. Diolch i bawb a helpodd drefnu’r digwyddiad ac i’r rhai a gymerodd ran ar y noson, yn enwedig Rob ac Eleanor.

“Diolch yn fawr iawn am y daith ystlumod yn Aberhonddu neithiwr. Dyma un o’r goreuon o blith yr holl ddigwyddiadau bywyd gwyllt awyr agored i deuluoedd rwyf wedi bod ynddyn nhw erioed. Roedd yr elfen o syndod yn wych. Ro’n i’n ofni cawodydd glaw, prinder datgelyddion ystlumod ac ymateb fy merch 14 oed a’i ffrindiau – ond roedd hi’n wych i weld cymaint o gymorth wrth law, digonedd o ddatgelyddion, ystlumod byw a chael cwmni’r seren Rob Strachan ynghyd â gwybodaeth nad yw ar gael mewn llyfrau. Ac roedd gweld rhywogaeth annisgwyl o ystlum yn goron ar y cwbwl!......Diolch eto am noson fythgofiadwy. Vicky”.

Roedd y bobl gymerodd ran wrth eu bodd, fel y mae’r nodyn canlynol yn dangos:

Sam Dyerc

Tudalen 5Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 6: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Y BBC yn dod i ddyffryn yr Afon WysgHilary Macmillan, Rheolwr Cyfathrebu

Fig. 8: Henry Schofield a John Craven gyda thîm Countryfile.

Rydym wedi cael hysbysrwydd da i Prosiect OB4B, diolch i ddwy raglen BBC, sef The Living World ar Radio 4 a Countryfile ar BBC 1. Recordiwyd y ddwy eitem yn un o’r clwydfannau y mae VWT yn rheoli ar gyfer ystlumod pedol lleiaf yn rhan uchaf dyffryn yr afon Wysg. Cyfrannodd Henry Schofield a Jane Sedgeley at yr eitemau, gan drafod gwaith cadwraeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y rhywogaeth hon.

Fig.9: Jane Sedgeley a Henry Schofield gyda thîm The Living World ar Radio 4

Darlledwyd y darn ar The Living World am y tro cyntaf ar 12 Mai 2012 a gellir ei glywed o hyd ar BBC iPlayer a darlledwyd y darn Countryfile ar 30 Medi 2012. Yn anffodus does dim modd gweld y darn hwn ar iPlayer bellach ond mae crynodeb ohono ar wefan Countryfile.

Cynyddodd nifer yr ymweliadau i’n gwefan ni www.vwt.org.uk yn sylweddol yn ystod y diwrnodau yn syth ar ôl y darllediadau.

Tudalen 6Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 7: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Estyn allan at ein hysgolion

Mae Prosiect OB4B yn cydweithio gyda’r tîm addysg o fewn Awdurod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn ceisio hybu ymwybyddiaeth o ystlumod pedol lleiaf ymhlith yr ysgolion yn rhan uchaf dyffryn yr afon Wysg. Hayley Sharp sydd yn adrodd yma ar y gwaith sydd wedi ei gyflawni eleni.

Roedd tymor haf 2012 y brysur. Gweithiodd wardeiniaid a staff addysg gyda 718 o ddisgyblion o chwe ysgol (ysgol uwchradd Crughywel ac ysgolion cynradd yng Nghrughywel, Llanbedr, Llangatwg, Llangynidr a Llangors). Drwy gyfrwng y gwersi cyflwynwyd pynciau gwahanol yn cynnwys mamaliaid, cadwyni bwyd, cynefinoedd a chylchoedd bywyd. gan ddefnyddio tiroedd yr ysgol ac adnoddau fel mapiau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, pypedau ystlumod, pytiau sain, sialc, swigod a mygydau tywyll.

Chwaraeodd y plant ran mewn nifer o weithgareddau gwahanol er mwyn eu hysbrydoli a gwella’u dealltwriaeth. Cafodd disgyblion hŷn y cyfle hefyd i astudio tirwedd leol nodweddiadol drwy gyfrwng model 3D. Roedd y model, gydag ogof, fferm, tai, ysguboriau carreg, sied, pwll dŵr, coed a gwrychoedd, yn rhoi cyfle i ddisgyblion ymchwilio i’r modd y gallai bywyd ystlum pedol lleiaf gael ei wella neu ei waethygu drwy newid y dirwedd. Sbardunodd hyn gryn dipyn o drafodaeth ynglŷn â’r hyn roedden nhw wedi dysgu’n barod am y ffordd y mae

Hayley Sharp, Tim Addysg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

ystlumod yn byw. A yw hi’n gwneud gwahaniaeth i ystlumod os yw gwrychoedd yn cael eu clirio/eu clwydfan yn dadfeilio/ ffordd newydd yn cael ei ha-deiladu/ tai yn cael goleuadau newydd ar y tu allan? Dangosodd y disgyblion ddiddordeb a dealltwriaeth mawr o ran yr hyn gallai ddigwydd yn eu hardal leol i helpu ystlumod pedol lleiaf. Derbyniodd pob ysgol becyn addysg Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, sydd wedi ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent.

Ar Fehefin 30ain daeth teuluoedd a ffrindiau ynghyd i goedwig ffawydd Llangatwg ar gyfer digwyddiad a roddodd gyfle iddyn nhw weld ystlumod bach a oedd wedi eu cael hachub a hefyd i ddilyn llwybr cwis ystlumod drwy’r goedwig. Bydd cylchythyr addysg y Parc Cenedlaethol, ynghyd â digwyddiadau cymunedol eraill yn y dyfodol, yn cynnig ffyrdd o gynnig gwybodaeth bellach i bobl a chynnal cysylltiadau.

Fel rhan o’u diwrnod Gwyddoniaeth blynyddol a drefnir gan Gyrfa Cymru cafodd tua 100 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o ysgol Uwchradd Crughywel y cyfle i gymryd rhan mewn cyfrifiad go iawn o ystlumod drwy gyfrwng fideo. Cafwyd trafodaeth frwd pan ddaeth hi’n amser i gymharu’r canlyniadau! Sut gallen nhw wella cywirdeb a dibynadwyedd y data? Ymhlith yr awgrymiadau roedd arafu’r fideo er mwyn ailgyfrif a chymryd cymedr o’r data. Daeth y dis

Fig.10: Hayley a Francesca yn arddangos eu model tirwedd 3-D

gyblion wyneb yn wyneb hefyd gydag ystlum pedol lleiaf oedd wedi hen farw, er mwyn iddyn nhw weld nodweddion arbennig y creadur a sylweddoli pa mor fach yw’r rhywogaeth. Cawsant gyfle hefyd i ddehongli data a graffiau ac i adnabod gwahanol fathau o alwadau ystlum drwy ddefnyddio sonogramau. Gan ddefnyddio’r model 3D or dirwedd leol awgrymodd y disgyblion ffyrdd y gallai cadwraeth a rheolaeth y dirwedd effeithio ar ystlumod pedol lleiaf.

Dwi wedi mwynhau cwrdd â’r disgyblion y bues i’n eu dysgu drwy Prosiect OB4B dros yr haf ac sydd wedi cofio’r sesiynau a chael eu hysbrydoli i ddysgu mwy. Yn ystod y gaeaf nesaf hwn byddwn yn gwneud gwaith i hybu ymgyrch Awurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer gwarchod yr wybren dywyll (‘dark skies’). Byddwn yn cynnwys ystlumod pedol lleiaf fel rhan o’r sesiwn – gan ddefnyddio’r ystlumod sy’n sensitif i olau fel llinyn stori ynglŷn ag effaith llygredd goleuni. Bydd hi’n wych os y llwyddwn ni ailgysylltu gyda’r ysgolion ry’n ni eisoes wedi ymweld â nhw yn rhan uchaf Dyffryn Wysg ond yn well fyth os gallwn estyn allan at ysgolion eraill gyda’r newyddion da am brosiect OB4B yn ogystal â’r ymgyrch Wybren Dywyll.

Tudalen 7Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 8: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Gwaith y ‘Chaps’ yn mapio ystlumod pedol lleiafY Chaps, Hydref 2012

Fig.11: Y ‘Chaps’ wrthi’n cofnodi gwrychoedd a chynefinoedd

Un o amcanion Y Bannau – Bro’r Ystlum’ yw creu map ystlum yn dangos y prif lecynnau ar gyfer ystlumod pedol lleiaf yn rhan uchaf dyffryn yr afon Wysg. Bydd y map hwn yn cynnwys clwydfannau, ardaloedd bwydo a hefyd y gwrychoedd pwysig sy’n cael eu defnyddio gan yr ystlumod fel llwybrau hedfan rhwng y mannau hyn. Mae Peter Seaman yma’n adrodd i brofiad wrth weithio gyda thîm bach brwd o arolygwyr, y ‘chaps’, a’r gwaith y buon nhw wrthi’n gwneud yn ystod yr haf eleni i roi lle amlwg i ystlumod pedol lleiaf ar fapiau’r fro.

Yn gynharach eleni daeth Jane Sedgeley o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent ataf fi a Charlotte a Margaret fy ngwraig i ofyn a fyddai gyda ni ddiddordeb i wneud gwaith arolwg ar ystlumod pedol lleiaf ar hyd gwrychoedd a llinellau o goed ar fferm ger Talybont-ar-Wysg, fel rhan o brosiect OB4B. Lleolir y fferm rhyw hanner ffordd rhwng dwy glwydfan fagu fawr sy’n cael eu rheoli gan y VWT yn rhan uchaf dyffryn yr afon Wysg. Fel gwirfoddolwyr fe gawsom hyfforddiant er mwyn i ni ddysgu sut i ddefnyddio’r datgelyddion ystlum ‘Anabat’ a’r meddalwedd anabat. Ar ôl un ymweliad maes dan hyfforddiant fe lwyddon ni gynhyrchu, gyda help Jane, taflen cofnodi maes a thair taenlen ar gyfer cofnodi data. Y dull o weithio a ddewiswydgennym oedd cynnal arolwg ar hyd gwrychoedd a llinellau coed ar y fferm gan ddefnyddio Anabats i gofnodi ar ddwy noson yn olynol ym mhob lleoliad. Er mwyn ei gwneud hi’n haws i leoli’r anabats fe ddefnyddion ni fasgedi crog a osodwyd yn y gwrychoedd neu ar y coed – dodwyd yr Anabat a batri o fewn y fasged wedyn.

Fe gofnodwyd nodweddion amrywiol yn fanwl ym mhob lleoliad, ynghyd â lluniau digidol

a chyfeirnod 12 ffigur. Ar ôl dwy noson casglwyd yr anabatiaid a dadansoddwyd y cardiau data ar ein cyfrifiaduron adre gan ddefnyddio’r meddalwedd perthnasol. Cofnodwyd rhywogaethau ystlum eraill a’r amser yr hefanodd pob ystlum pedol lleaf heibio ar y daflen gofnodi. Dechreuodd y gwaith arolwg yn gynnar ym mis Mehefin a daeth i ben ym mis Medi 2012. Yn ystod y cyfnod hwn fe fuon ni allan ar 135 o nosweithiau mewn 86 lleoliad. Ni chafodd ystlumod pedol lleiaf eu cofnodi bob nos na chwaith ym mhob lleoliad. Weithiau roedd tywydd gwael

effeithio ar y cofnodi ac ar brydiau eraill cafwyd anawsterau technegol. Cofnodwyd cyfanswm o 793 symudiad ystlum pedol lleiaf, a’r nifer uchaf o weithiau yr hedfanodd ystlumod pedol lleiaf heibio mewn un lleoliad ar noson benodol oedd 71. Rydym nawr wedi anfon adroddiad a thaenlen anferth o ddata i Jane a’r VWT.

Roedd y profiad cyfan yn wych. Roeddem wrth ein bodd yn ymweld â’r ffem a chwilota yn y cloddiau, y coed a’r corneli bach cudd ger y pyllau neu ar hyd yr afon. Fe ddysgon ni beth wmbreth. Diolch fyth bod

Tudalen 8Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 9: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Fig.12: Datgelydd ystlumod Anabat yn eistedd yn dwt yn ei focs sych a’i fasged grog.

gan Charlotte feddwl trefnus a gwyddonol. Roedd cryn dipyn i gofio bob tro yr oedden ni’n cychwyn ar y gwaith arolwg ac fy mai i, yn fwy nag unwaith rhaid cyfaddef, oedd i ni adael rhywbeth pwysig yng nghist y car. Ar adegau roedd hi’n berthynas ‘caru casáu’ gyda’r Anabats, er enghraifft pan nad oedden nhw wedi cysylltu gyda batri byw neu pan oedden ni wedi anghofio edrych ar y lefel sensitifrwydd ac felly wedi cofnodi pob diferyn o law dros gyfnod o ddwy noson. Ond roedd y pleser o ddadlwytho’r canlyniadau a darganfod ystlumod pedol lleiaf yn hwb mawr. Drwy gerdded ar hyd terfynau caeau’r fferm cawsom gyfleoedd hefyd i werthfawrogi bywyd gwyllt arall. Blodau cloddiau a gweirgloddiau, hebog tramor yn hela, ieir bach yr haf ger y gamlas – mae’r cyfan yn fyw yn ein cof o hyd.

Yn dilyn y gwaith gwych hwn rydym wedi derbyn rhodd hael o arian gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru a chymorth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn i ni gynnal diwrnod plannu coed. Ar Ionawr 9fed 2013 rydym yn bwriadu ceisio plannu ardal o dir hyd at 1 hectar er mwyn creu coetir gwlyb a fydd o fudd i fywyd gwyllt ac a fydd yn cysylltu ardaloedd hela’r ystlumod pedol lleiaf a’r llwybrau ehediad ar draws y fferm.

Cysylltwch gyda Jane Sedgeley (0)1874 623724; 07584 416502; [email protected] i gael rhagor o fanylion os hoffech ddod i helpu.

Yn bendant fe wellodd ein sgiliau gyda’r Anabats dros amser, er ein bod ni’n teimlo o hyd bod gyda ni fwy i ddysgu. Byddem hefyd wedi dymuno adnabod y llu o gofnodion am rywogaethau Myotis sydd gennym ond nid oedd hyn yn bosib oherydd prinder amser a gwybodaeth.

Roedd ein perthynas gyda’r ffermwr yn arbenng – fe adawodd i ni fynd ar ei dir a rhoi llawer o gymorth i ni. Gobeithio na fuon ni’n ormod o niwsans iddo ac fe wnaethon ni’n gorau i weithio ar ei

fferm mewn ffordd dawel a oedd yn parchu ei eiddo a’i stoc. Ar adegau daeth Mr Doug Cox i’n helpu – â fyntau’n 92 mlwydd oed mae’n rhaid ei fod ymhlith yr hynaf o ddefnyddwyr Anabats! Rydym hefyd yn ddiolchgar am help Anne-Marie Rhys Evans. Yn olaf rydym yn ddiolchgar iawn i Jane am ei brwdfrydedd, ei sgiliau wrth weithio gyda gwirfoddolwyr ac am ei chyngor. Rydym wedi mwynhau’r gwaith hwn yn fawr ac mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Jane! Yn sicr fe fyddem yn argymell unrhyw un i roi cynnig ar y gwaith gwirfoddol hwn.

Tudalen 9Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 10: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Ystlumod v Gwyfynod, pwy sydd ar y brig?

Mae Chris Evans yn dwlu am wyfynod ac yn gofnodwr brwd. Mae Chris yn sgwennu yma am ei brofiad gydag ystlumod yn y gorffennol ac am ei brofiadau diweddar yn gwirfoddoli gydag arolygon y prosiect OB4B.

Sut daeth ystlumod i fod yn rhan o fy mywyd i o gwbl? Fe ddechreuodd y cyfan nôl ym mis Mai 2010, gyda digwyddiad ystlumod a gwyfynod ym Mhenpont. Redd gen i ddiddordeb mewn gwyfynod ers dyddiau ysgol ond doeddwn i erioed wedi trapio gwyfynod dros nos neu gymryd y diddordeb o ddifrif mewn unrhyw ffordd. Ym Mhenpont roedd nifer o drapiau gwyfynod wedi cael eu gosod er bod y tywydd yn oer iawn ar gyfer mis Mai. Doedd dim yn digwydd o gwmpas y trapiau ac fe ddechreuodd pobl grwydro i chwilio am ystlumod yn dod allan o’u clwydfan ac i wrando am y synau ar y gwahanol ddatgelyddion a oedd wedi cael eu gosod ar wahanol amleddau. Roedd hi’n amlwg i fi bod yr ystlumod yn brysur ond roedd hi’n amohsib dweud pa mor llwyddiannus oedden nhw wrth fwydo. Roedd ‘na ystlumod yn hedfan ar hyd yr afon, ac yn edrych fel petaen nhw’n yn cael cryn lwyddiant wrth hela, ar sail y crychni ar wyneb y dŵr. Aeth hi’n dawel am sbel, tra bo’r ystlumod yn hedfan i ffwrdd i ddod o hyd i diroedd bwydo gwell neu i anelu nôl am y glwydfan fel na fyddent yn gwastraffu egni. Nôl at y trapiau gwyfynod felly, er mwyn cael un olwg olaf cyn pacio’r cyfan i gefn y car. Ond nid oedd yr un gwyfyn wedi cael ei ddenu i’r 5 trap a osodwyd. Hyd yn oed wrth

Chris Evans

i mi bacio’r trap gwyfynodnewydd i‘r car roeddwn i’n pendroni a oeddwn wedi gwneud y peth iawn. Mae datgelyddion ystlumod, wedi’r cyfan, yn dipyn llai o faint.

Ond gan fod gen i drap gwyfynod roedd hi’ n amser dys-gu beth oedd yn yr ardd. Felly gyda chymorth llyfryn adnabod dechreuais ei osod unwaith yr wythnos. Mae dal gwyfynod yn hawdd – trowch y golau ymlaen ac ewch i’r gwely! Y bore sy’n anodd – ceisio atal y gwyfynod rhag dianc a’u rhoi mewn potiau er mwyn eu gweld yn well. Mae adnabod gwyfynod yn ymddangos yn dasg ddiddiwedd hyd nes y byddwch, yn eich rhwystrediga-eth, yn rhoi galwad am gymorth i’ch Cofnodwr! Ar ôl sbel mae’n dod yn haws, on nid yw byth yn rhwydd.

Roedd pethau’n dawel o ran yr ystlumod ag eithrio un penwthynos bioamrywiaeth yn ein coedwig leol pan ddefnyddiwyd datgelyddion ystlum gan Jane Sedgeley, y swyddog prosiect ar gyfer OB4B. Canlyniadau cymysg a gafwyd, oherwydd y tywydd gwel. Fe gofnodwyd tair rhywogaeth o ystlum yn cynnwys yr ystlum pedol lleiaf (yn pasio drwodd siwr o fod – ond fe fethodd â llyncu’r holl wyfynod beth bynnag oherwydd roedd digon yn y trapiau pan archwiliwyd nhw’n ddiweddarach). O ganlyniad i’r profiad hwn fe ddechreuais ymuno gyda’r arolygon ar gyfer ystlumod pedol lleiaf a oedd yn digwydd yn nyffryn yr afon Wysg Hyd hynny doeddwn i ddim wedi talu llawer o sylw i ystlumod a’u

Fig.13: Chris Evans ac Alison Heath yn gwrando am ystlumod pedol lleiaf ar hyd y gamlas.

harferion bwydo felly roeddwn i’n awyddus i ddysgu pa mor bell yr oedden nhw’n barod i deithio os oedd angen. Doeddwn i ddim chwaith wedi meddwl am effaith gwrychoedd, defnydd tir a thirwedd leol ar eu bywydau. Cadwyd y darn gorau or’r profiad hyd at y diwedd, pryd y trefnwyd ymweliad i glwydfan gyda chamerau is-goch. Gyda’r teclynnau hyn roedden ni’n gallu gwerthfawrogi sgiliau hedfan ystlumod, o weld cymaint o weithgaredd yn digwydd mewn gofod bychan. Profiad gwerth chweil ac mi fyddwn yn falch i wneud yr un peth eto. Yn y cyfamser tra bo’r ystlumod yn gaeafgysgu mae rhai gwyfynod yn dal i fod yn brysur, felly mae’r gwaith trapio yn mynd yn ei flaen . Pa ffordd well o dreulio bore na cheisio dod o hyd i drap gwyfynod mewn dyfnder o eira! O ran y cwestiwn ‘Ystlumod v Gwyfynod, pwy sydd ar y brig?. Wel mae’r ddau yn gyfartal yn fy marn i ac mae angen i’r ddau ffynnu. Cwestwn arall nawr. A yw cerdded ar hyd llwybr camlas yn y nos gan chwifio datgelydd ystlumod ac osgoi cwympo i’r dŵr neu fwrw mewn i goeden yn cyfri fel aml-dasgio? Os felly ‘dwi wedi llwyddo o’r diwedd!

Tudalen 10Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 11: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Blwyddyn y mywyd ystlum pedol lleiaf – haf a hydrefHenry Schofield, Rheolwr Rhaglen Cadwraeth

Fig.14: Ystlum benywaidd lliw melynfrown gydag ystlum ifanc llwyd yn glynu ati.

O fis Ebrill ymlaen mae ystlumod pedol lleiaf benywaidd yn dechrau ymgasglu i fagu mewn clwydfannau cynnes - fel gofodau to mewn adeiladau carreg a selerau sy’n cael eu gwresogi. Ni fydd ystlumod pedol lleiaf gwrywaidd yn bresennol fel rheol mewn clwydfannau magu oni bai fod y benywod yn defnyddio adeilad mawr gydag amrywiaeth o hinsoddau gwahanol. Yn y sefyllfeydd hyn bydd y gwrywod fel rheol yn clwydo yn y mannau oerach ac i ffwrdd o’r clwstwr magu. Mae gwrywod yn clwydo, fel arfer, fel unigolion (yn hytrach nag mewn clwstwr) mewn clwydfannau gwahanol i’r benywod.

Yn ychwanegol at y clwydfannau magu gall casgliad o ystlumod pedol lleiaf ddefnyddio chwaer-glwydfannau eraill. Gall nifer yr ystlumod sy’n defnyddio’r rhain amrywio’n fawr. Efallai bydd ystlumod beichiog iawn yn defnyddio’r safleoedd eraill hyn yn enwedig os ydyn nhw’n agos at fannau bwydo da, oherwydd bod hedfan yn fwy anodd wrth i’r un bach gynyddu mewn pwysau.

Yng Nghymru mae rhai bach yn cael eu geni dros gyfnod o dair wythnos ar ddiwedd Mehefin-dechrau Gorffennaf. Mae ystlumod newydd-anedig yn gafael ar eu mamau drwy ddal yn y tethau ar y pelfis gyda’u dannedd a thrwy afael ar y ffwr ar wddf y fam gyda’u crafangau. Pan fyddan nhw tua 10 diwrnod oed bydd rhai bach yn ymarfer hedfan, yn aml drwy ddal ar bennau eu mamau gyda’u traed a bydd yr ehediad rhydd cyntaf yn dechrau pan fyddan nhw tua 23 diwrnod. Mae’r ystlu-mod ifanc yn annibynnol pan fyddan nhw tua 4-5 wythnos oed.

Ar ddiwedd yr haf/hydref bydd yr oedolion benywaidd yn gadael y clwydfannau magu ond gall y rhai ifanc aros hyd ddiwedd Medi. Bydd y oedo-lion gwyrywaidd yn sefydlu tiriogaethau yn yr hydref ac yn denu benywod i baru gyda nhw – gall paru ddigwydd rhwng Medi ac Ebrill.

Erbyn Tachwedd bydd y mw-yafrif o ystlumod pedol lleiaf wedi gadael eu safleoedd magu haf i chwilio am loches rhag y rhew yn eu safleoedd gaeafgysgu.

Fig.15: Grŵp o oedolion benywaidd yn hongian yn glwstwr mewn clwydfan fagu

Frank Greenawayc

Frank Greenawayc

Tudalen 11Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012

Page 12: Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 Y Bannau - Bro’r Ystlum...Cylchlythyr/Rhagfyr 2012-12-20 2 Dyma ni – ail e-gylchlythyr Prosiect Y Bannau – Bro’r Ystlum. 2012 – edrych nôl

Gall prinder safleoedd gaeafgysgu fod yn atal ystlumod pedol lleiaf rhag cynyddu mewn niferoedd yn rhan uchaf Dyffryn yr afon Wysg. Cysylltwch â ni os ydych yn gwybod am unrhyw rewdai, selerau oer neu gabanau tanddaearol o’r ail ryfel byd yn eich ardal chi.

Yn eisiau

E-bost: [email protected] Ffôn: 01874 623724 Ffôn boced: 07584 416502

Dr Jane Sedgeley, The Vincent Wildlife Trust, 7B Lion House, Bethel Square, Brecon, Powys, LD3 7AY

Cwmni Elusennol Cyfyngedig drwy Warant Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 05589716Elusen Cofrestredig Rhif 1112100

www.vwt.org.uk

The Vincent Wildlife Trust 2012c

Newsletter designed by Helen Kidwell, Graphic Designer

Tudalen 12Newyddion Y Bannau-Bro’r Ystlum Rhagfyr 2012