Top Banner
CYLCHGRAWN CHWARTEROL EGLWYS BEREA NEWYDD, BANGOR Rhif 1 Cyfrol 14 Ionawr 2017 www.gofalaethbangor.org - 01248 353132 (swyddfa) Pedwar gŵr doeth (a hapus!) MWY O LUNIAU'R PARTI NADOLIG AR Y CLAWR CEFN
20

cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

Mar 02, 2019

Download

Documents

vuongcong
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, bangorRhif 1 Cyfrol 14 Ionawr 2017

www.gofalaethbangor.org - 01248 353132 (swyddfa)

Pedwar gŵr doeth (a hapus!)

mwy o luniau'r parti nadolig ar y clawr cefn

Page 2: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

gwasanaethau’r sul10.00: Oedfa deuluOl gan gynnwys ysgOl sul y Plant

11.00: ysgOl sul yr OedOliOn 5.30: Oedfa’r nOs

dyletswyddau blaenor y pythefnos

dyletswyddau blaenor y drws

Chwefror 5 a 12 delyth Oswy shaw19 a 26 Menna BainesMawrth 5 a 12 Maldwyn thomas19 a 26 gwenno PritchardEbrill 2 a 9 liz roberts16 a 23 gareth emlyn Jones30 a Mai 7 eirian Howells

Chwefror 5 John wynn Jones12 a 19 Cynthia Owen26 a Mawrth 5 elin walker JonesMawrth 12 a 19 gwenno Pritchard26 ac Ebrill 2 arfon evansEbrill 9 a 16 Maldwyn thomas23 a 30 gwilym robertsMai 7 a 14 delyth Oswy shaw

Chwefror 5 gwasanaeth teuluol i lansio Corwynt Cariad yn y bore: gweinidog Cymun yn yr hwyrChwefror 12 Parch. dafydd rees robertsChwefror 19 gweinidogChwefror 26 undebol yn yr hwyrMawrth 5 GwasanaethGŵyl ddewi teuluol gweinidog yn yr hwyr

Mawrth 12 Parch. Cledwyn williamsMawrth 19 gweinidogMawrth 26 Parch. adrian williamsEbrill 2 gwasanaeth teuluol yn y bore ar thema'r Pasg gweinidog yn yr hwyrEbrill 9 Parch. trefor lewisEbrill 16 gweinidogEbrill 23 Parch. John OwenEbrill 30 Parch. william davies

2

Ionawr 29 gwenno PritchardChwefror 5 Meira JonesChwefror 12 astra thomasChwefror 19 Manon daviesChwefror 26 elizabeth evansMawrth 5 Beryl stafford williamsMawrth 12 eleri w. Jones (Bedwyr)

Mawrth 19 Betty thomasMawrth 26 Val P. JonesEbrill 2 C. frazer JonesEbrill 9 sioned JonesEbrill 16 laura lewisEbrill 23 Menna BainesEbrill 30 enyd robertsMai 7 MaisieGriffiths

rhoddwyr y blodau (Cydlynydd: elizabeth roberts - 353915)

Page 3: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

erbodyflwyddyneisoesynheneiddio nid yw’n rhy hwyr i mi ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb ohonoch. diolch

am eich cefnogaeth a’ch diddordeb yn yr achos ar hyd y misoedd a aeth heibio, a hyderaf y bydd hynny’n parhau ar hyd y flwyddynnewydd.

anfonwn fel eglwys ein cydymdeimlad cywiraf at bawb sydd mewn hiraeth ar ddechrau blwyddyn newydd, ac at bawb sy’n wael neu’n llesg, a dymunwn dduw yn nodded ac yn nerth iddynt. ymddengys y dyfodol yn ansicr mewn byd a betws, ond parhawn i roi ein ffydd yng ngwerthoedd yr efengyl wrth i ni geisio adlewyrchu ewyllys iesu yn y byd.

eleni yw blwyddyn apêl pum mlynedd y Cyfundeb ar y cyd â Chymorth Cristnogol. Mae’r bartneriaeth rhwng eglwys Bresbyteraidd Cymru a Chymorth Cristnogol yn ymestyn yn ôldrosniferhelaethoflynyddoeddachafwyd apeliadau hynod o lwyddiannus yn y gorffennol a wnaeth wahaniaeth mawr i fywydau rhai o bobl dlotaf y byd.

fel y nodwyd yn ysgrif John wynn Jones yn y rhifyn diwethaf o ichthus, ac fel yr ymhelaetha anna Jane evans o gymorth Cristnogol yn y rhifyn hwn, ynysoedd y Pilipinas fydd yn cael ein sylw yn 2017. er bod y wlad hon wedi datblygu llawer ers iddi ddod yn wlad annibynnol

yn 1945, mae tlodi difrifol yn parhau yno, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig ac yn slymiau’r dinasoedd. un o broblemau mawr y wlad yw’r corwyntoedd niferus sy’n ei tharo’n aml, ac oherwydd effeithiau newid hinsawdd mae’r corwyntoedd ar gynnydd a’u dinistr yn ddychryn. trawyd yr ynysoedd gan gorwynt enbyd dros y ’dolig eleni,achofiwnameffaithechrydusCorwynt Haiyan ar y wlad yn 2013. nid rhyfedd, felly, yr enwyd apêl eglwys Bresbyteraidd Cymru a Chymorth Cristnogol yn ‘Corwynt Cariad’.

Bydd Cymorth Cristnogol yn defnyddio’r arian a godir ar y cyd â thri phartner lleol yn y Pilipinas – uPa, fOrge a rwan. Mae’r mudiadau hyn wedi eu gwreiddio’n ddwfn ymhlith trigolion tlotaf y wlad a byddwn yn clywed llawer am eu gwaith yn ystod blwyddyn ein hapêl. Bwriedir cynnal oedfa deulu ar fore sul 5 Chwefror i dynnu sylw at y gofyn.

y nod i Berea newydd yw codi £15 yraelod.Byddcyflemaesolawibobaelod gyfrannu’n unigol drwy amlen, ac edrychir ymlaen hefyd at gynnal sawl gweithgarwch i godi arian. y mae’r ysgol sul eisoes wedi penderfynu cynnal paned ar ôl yr oedfaon teulu er mwyn chwyddo’r coffrau a gobeithiant allu cynnal taith gerdded ar brynhawn sul 14 Mai yn ogystal. diolch hefyd am y casgliadau wnaed yn yr oedfaon ar y

3

gair gan y gweinidogy pa r c h e d i g e l w y n r i c h a r d s

Page 4: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

sul cyn y ’dolig – rhannwyd yr arian (£280) rhwng apêl Corwynt Cariad a’r samariaid – a bu i’w anrhydedd y Barnwr niclas Parry, gyfrannu’r tâl a gynigiwyd iddo am ymweld â’r gymdeithas (£50) i’r apêl yn ogystal. Hefyd cafwyd £100 at yr apêl o’r siop

sydyn a gynhaliwyd ar ddau ddydd gwener ym mis tachwedd i werthu llyfrau ar gyfer y ’dolig.

yn gywir,elwyn richards

4

diolch monar . m a l d w y n t h o m a s

Braint oedd cael sgwennu gair am Mona a gwyn ar gyfer Ichthus yn

ionawr 2011. Mi allaf eu gweld nhw y munud yma, gwyn yn eistedd ar ochr chwith y lle tân yn awelon, a Mona yn sefyll a’i chefn at y pentan. ArŵanmaeGwynwedimynd,aMonayn mynd i fyw at ei mab Huw a Catrin ei wraig a’r tri phlentyn ger aberystwyth. dymuniad didwyll pawb ohonom ydi y bydd Mona yn hapus yn ei chartref newydd. ac yn y dymuniad yma mae pawb ohonom yn Berea newydd yn diolchichiMonaamflynyddoeddmaitho wasanaeth, gwasanaeth annwyl a pharod bob tro.

Merch y Mans ydi Mona, wedi byw yn ardal Mynydd Bodafon yn Sir

Fôn, yn Llannefydd yn Nyffryn Clwyd, ym Mhenllyn ac yna yma ym Mangor. Yn y Brifysgol fe brofodd hi win melys blynyddoedd y Noson Lawen, Triawd y Coleg a Chapel Tŵr Gwyn yn llawn dop

o fyfyrwyr ar nos Sul. Fe briodwyd Gwyn yn 1955 a byw yn niniweidrwydd Coleg Bangor yn y pumdegau coll, a chartrefu ar Ffordd Penrhos.

Bu Mona mor ddiwyd. Organyddes yng Nghapel y

Graig, aelod o sawl pwyllgor ac arolygwr Ysgol Sul. A dweud y gwir bu Gwyn a hithau yn cefnogi popeth Cymraeg gwerth ei halen yn y fro. Mae Mona yn siaradus, yn llawn cywreinrwydd caredig ac wrth ei bodd yn seiadu y tu allan i’r capel ym mhob tywydd.

Merch fach dwt a main yn hoff iawn o wisgo coch - esgidiau coch a chlustdlysau coch yn aml; mae ei sgwrs yn ddifyr heb unrhyw hunandosturi, yn llawn hiwmor.

Ichthus, ionawr 2011

MaeMonawedicyflawnidiwrnoddaowaith ym Mangor, ac wrth ddiolch iddi hi ‘rydym yn dymuno y gorau un iddi hi a’r teulu yn waunfawr, aberystwyth.

Page 5: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

nos wener, ionawr 13, aeth criw Cic Bang, rhyw bymtheg

ohonom, i’r Hwylfan yng nghaernarfon. Canolfan chwarae i blant ydi hi ac maecaffiynohefyd.Miagorson nhw’r Hwylfan yn arbennig i ni fel nad oedd neb arall yno yr un pryd, a chawsom y lle i ni’n hunain felly. fe wnaethom dreulio dwy awr yno ond aeth yr amser fel y gwynt. Cawsom lawer o hwyl yno yn chwarae ‘tag’ a gemau felly. roedd yn braf cael mynd i rywle ym mis ionawr gan

fod y tywydd tu allan yn lawog a llwyd, a dim llawer yn digwydd ar ôl miri’r nadolig. diolch i dilwen am drefnu.

5

hwyl yn yr hwylfanm e i ly r ly n c h

cylch y chwioryddg w e n n o p r i t c h a r d

dydd Mercher, tachwedd2il, daeth Mrs Carys davies, o langefni, atom i roi sgwrs am ei gwaith fel Cydlynydd

Cynllun dorcas, eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn y gogledd. Mae Cynllun dorcas wedi ei sefydlu er mwyn cynorthwyo’r rhai sydd mewn angen, yma yng nghymru, ac yn rhyngwladol, beth bynnag fyddai eu hangen.dyma rai o’r prosiectau y bu Cynllun dorcas yn ymwneud a hwy.

Reaching Romania. Mae'n ceisio rhoi cefnogaeth i bobl sydd mewn angen enbyd,poblhŷn,cartrefiplant,cleifionmewn ysbytai meddwl, babanod bregus, y digartref, a chanolfan plant ac ieuenctid. Prosiect arall y bu'n ymwneud ag o yw Cornerstone uganda, sydd yn ceisio cynorthwyo pobl ieuanc yn uganda, drwy roi llety, addysg, sgiliau bywyd, a hyfforddiant iddynt.

Thema’rgwaithamyflwyddyn2016-

dorcas

Page 6: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

6

2017 yw “fy mhlant gadewch i ni garu nid ar air yn unig.”

Yprosiectauargyferyflwyddynyw,1) Dress a Girl around the World, sef, gwnïo ffrog syml, neu bâr o shorts, i blant mewn gwledydd sydd yn datblygu. i’r rhai nadydyntynhoffigwnïo, gellir gwau tedis yn anrhegion i’r plant. (Mae patrymau ar gael.)2) Cysylltu gyda’r Beibl, sef casgliad o adnodau ar gyfer gwahanol adegau.3) Cynllun Pontio, sef estyn allan at bobl mewn angen, yn y capel neu’r gymuned.4) Cefnogi merched iau, sydd yn brysur iawn, a’u bywydau yn llawn heriau.

faint a wyddom ni am dorcas, a beth yw ei hanes? roedd dorcas yn byw yn Joppa, ar lan Môr y Canoldir. roedd yn wniadwraig fedrus iawn, ac arferai wnïo dillad i’r bobl dlawd yn Joppa. yn anffodus bu dorcas farw, ac roedd y bobl yn drist iawn. Clywyd bod Pedr yn y dref, aeth rhai o’r bobl ato, ac er

mawr lawenydd iddynt, fe atgyfododd dorcas. roedd gan y bobl gymaint o feddwl o dorcas a’i gweithredoedd da, fel y sefydlwyd Cymdeithasau dorcas

drwy’r byd, er mwyn cynorthwyo’r anghenus.

dechreuwyd Casgliadau dorcas, yn dilyn oedfa gymun, yn nhwrgwyn, gan Miss dilys Jones, er mwyn casglu arian tuag at achosion

lleol, ac rydym ni ym Merea newydd yn parhau i wneud hynny. yn ystod 2016,rhoddwyd£200i’rSamariaid.Ynarhoddwyd £200 i Hostel y santes fair ym Mangor. fe ddefnyddiwyd yr arian yma i brynu nwyddau angenrheidiol i’r rhai sydd yn gorfod cysgu allan, oherwydd prinder lleynyllety.Arddiweddyflwyddynrhoddwyd £200 i’r elusen canser, awyr las, a sefydlwyd gan irfon williams, o fangor, sydd ei hun yn dioddef o ganser.

ar ddechrau 2017, rydym yn bwriadu casglu arian tuag at gymdeithas y deillion gogledd Cymru.

BORE SUL, CHWEFROR 5: OEDFA DEULUOL CORWYNT CARIADI lansIo apêl CymoRth CRIstnogol aR gyfeR ynysoedd y pIlIpInas

POBI a PHaNED I’r PILIPINaSBydd yr ysgol sul yn gwneud paned a stondin gacennau a chynnyrch cartref yn dilyn y

gwasanaeth. derbynnir cynnyrch i’r stondin ar y bore – dewch am baned a sgwrs. Y gobaith yw trefnu paned a stondin debyg fore Sul, Mawrth 5, hefyd, i ddilyn y Gwasanaeth Gŵyl Ddewi.

Os gallwch helpu cysylltwch â Menna Baines ar 07867 697921

Page 7: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

7

ymunodd Cylch y Chwiorydd a’r gymdeithas

i gynnal cyfarfod y nadolig, 8 rhagfyr. trio Canig, gyda’u cyfeilydd iwan wyn Owen oedd yn diddanu, y triawd o fôn wedi bod yn canu i ddechrau ym mhriodas Ffion,merchMraMrsAlwynLloydEllis,aLiamHoganynycapelymMehefin.roedd y ddau wedi dod i’r cyfarfod i’w clywed yn canu unwaith eto. roedd y cyfeilydd wedi teithio o’r Coleg Cerdd ym Manceinion a chafwyd unawd ganddo

ar y piano, oedd wedi ei diwnio’n barod ar gyfer yr arholiadau cerdd a gynhelir yn y festri yn achlysurol. ymunodd y gynulleidfa i ganu rhai carolau gyda’r triawd. Mrs eirian

Howells oedd yn llywyddu’r noson a diolchodd iddynt am noson werth chweil o ganu grymus. rhannwyd mins pei a the ar ddiwedd y noson a lis roberts, gwen Hughes a Cynthia Owen oedd yn gyfrifol am y baned.

cyfarfod y nadolig

y gymdeithasg a r e t h m t i l s l e y

12 ionawr 2017

y Barnwr niclas Parry fu yn ein hannerch

yng nghyfarfod cyntaf y gymdeithas yn 2017, a chafwyd sgwrs eithriadol o ddiddorol ganddo fel y disgwylid. Mae nic Parry yn adnabyddus i’r mwyafrif ohonom, naill ai fel cyfreithiwr, barnwr yn llys y goron, arweinydd ein prif eisteddfodau,

sylwebydd pêl-droed - neu, efallai yn agosach atom,felgŵrSioned,un o ferched John M Griffith.

roedd gyda ni yn Berea ar y diwrnod y bu farw cyn-reolwr pêl-droed lloegr, graham taylor, a daeth hynagatgofioniNicParry o’i gyfarfod pan yn gyw- sylwebydd

pêl-droed ifanc yn mynd ar ymweliad

Y Barnwr a’r sylwebydd Nic Parry gyda llywydd y noson, Gareth Tilsley

Page 8: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

8

geraint thomas, y ffotograffydd sydd â busnes yng nghaernarfon, oedd yn siarad am lynnoedd eryri

yng nghyfarfod tachwedd o’r gymdeithas. Mae geraint yn hanu o ddyffryn nantlle ond yn awr yn byw yn y Bala. wedi rhai blynyddoedd ym myd teledu dechreuodd dynnu lluniau’n broffesiynol ac agorodd siop Panorama yn stryd y Plas, Caernarfon.

Bu’n dangos lluniau a dynnodd dros gyfnodoflwyddynolynnoeddParcEryriar gyfer ei lyfr, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri, sydd hefyd yn cynnwys hanes y chwedlau sy’n gysylltiedig â hwy. ef yn ogystal oedd y ffotograffydd ar gyfer llyfr gwyn thomas, Gair yn ei Le, sy’n dangos 50 lle oedd ag arwyddocad arbennig i’r bardd a’r awdur.

chwefror 2016

â Chlwb Pêl-droed watford pan oedd graham taylor yn rheolwr llwyddiannus iawn ar y tîm hwnnw. yn naturiol soniodd am niferoedd o deithiau gyda thîm Cymru ar draws y byd, a chawsom eiargraffiadauoleoeddfelAzerbaijangyda’r cyferbyniad eithradol rhwng y tlodi yno a byd y pêl-droedwyr cyfoethog yn ein gwlad ni.

Cafodd ei addysg yn ysgolion Cymraeg yr wyddgrug lle roedd ei dad yn brifathro ysgol glanrafon a’i fam yn athrawes yn ysgol Maes garmon, ac eglurodd sut y dylanwadoddprofiadaueifamfelynadheddwch arno a llunio ei benderfyniad i astudio’r gyfraith, a gwnaeth hynny ym Mhrifysgol Cymru, aberystwyth. Cawsom eihanesfelcyfreithiwrifancyneifilltirsgwâr yn yr wyddgrug yn ymwneud â

nifer fawr o achosion, a rhai ohonynt, fel yr achos pan ymosododd ci dyn yr oedd ef yn ei amddiffyn o ddiffyg rheolaeth ar yr anifail, ar glerc y llys, yn peri difyrrwch i’r gynulleidfa.

CafoddeiapwyntioynGofiaduryn2001,a’i ddyrchafu’n farnwr yn llys y goron yn 2010 - swyddi cyfrifol a difrifol dros ben, gan ei fod ei ddedfryd yn effeithio yn drwm ar fywydau pobl, ac yn amlwg roedd yn ymwybodol iawn o’i gyfrifoldeb. daeth ag ychydig ‘brops’ gydag ef, sef regalia traddodiadol Barnwr yn llys y goron, i ddangos fel y disgwylid iddo wisgo ar achosion seremonïol. Ond mae’n amlwg nad y seremonïau oedd yn bwysig i nic, ond yn hytrach gweinyddu cyfiawnderi’rtrueiniaidsy’nymddangoso’iflaenynyllys.

Page 9: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

9

wedi fy ymddeoliad o fod â gofal am eglwysi, bûm yn crwydro ymhell ac agos i wasanaethu ar y suliau,

gan ymweld â rhai eglwysi nas gwelais ers deugain mlynedd a mwy. derbyniaf groeso eithriadol o gynnes yn ddi-feth, ond gan amlaf byddaf yn derbyn ymddiheurad llaes hefyd, “ychydig sydd yna ohonom erbyn hyn.” yn wyneb y dirywiad affwysol does ryfedd fod yna ddigalondid ac anobaith am ddyfodol cymaint o’n heglwysi bellach. fel y dywed david Ollerton yn ei gyflwyniadi'wlyfrnewydd,Cenhadaeth Newydd i Gymru, “y mae mwy o bobl yn mynd i’r nefoedd nag sydd yn dod i’r eglwys am y tro cyntaf.”

dysgodd yr awdur ein hiaith, ac ymdrechodd yn galed i’n hadnabod ni’r anghydffurfwyr yn bennaf. addasiad yw’r gyfrol o’i draethawd ymchwil am ddoethuriaethagyfiethiwydynddeheuiggan Meirion Morris. Cyhoeddwyd y llyfr gan gyhoeddiadau’r gair ar ran Cymrugyfan, a gefnogir gan fudiad efengylaidd Cymru a’r gynghrair efengylaidd.

rhennir y llyfr yn dair adran, sef:(i) Agweddau: Sut ac ym mha ffordd y mae Cymru’n wahanol? yma cawn

ddadansoddiad gwerthfawr ac eang o fywyd Cymru ddoe a heddiw e.e. yn ieithyddol a diwylliannol.

(ii) Dulliau: Sut y mae Eglwysi wedi bod yn cyflawni cenhadaeth? yn yr adran hon cyfeirir at ymateb yr eglwysi i gomisiwn

mawr ein Harglwydd sef i wneud “ …disgyblion o’r holl genhedloedd.” nodir chwe ymateb, sef gan yr eglwysi efengylaidd traddodiadol mewngyrchol, yr eglwysi efengylaidd allgyrchol, sy’n ymestyn allan, eglwysi rhyddfrydol, Missio dei, lusanne a’r egin eglwys. Paddullsy’nddisgrifiado’n heglwys ni tybed? darllener y gyfrol!

(iii) Cenhadaeth Newydd: I ble’r awn ni o’r fan yma? yn yr adran yma cawn drosolwg gonest ar y rhagolygon ar gyfer y deng mlynedd nesaf. Cydnabyddir bod peth twf yn digwydd yn yr eglwysi efengylaidd sy’n ymestyn allan, ac o fewn y rhai sy’n ymarfer y dull lusanne, sy’n gyfuniad o feithrin Cristnogion tra maent yn ymestyn allan hefyd i’r cymunedau. ni chefais fawr o newydd-deb yn yr adran hon. tybed ai ymgais sydd yma i amlinellu’rcyfleoeddcenhadolnewyddar gyfer y mudiadau efengylaidd? nod Cymrugyfan ydyw plannu eglwysi a chryfhau eraill. Hoffais y sylw bod angen

pwysigrwydd cenhadua d o ly g i a d e r i c j o n e s

Page 10: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

10

gwyn eu byd y rhai sy’n galarum y f y r d o d y n g n g h w m n i e l w y n l l o y d j o n e s

Beth amser yn ôl, cefais lyfryn gan weddw cyfaill o weinidog. teitl y llyfr ydi “The Plain man looks at the

Beatitudes” gan y diweddar dr william Barclay, pregethwr, athro a darlithydd ar y testament newydd ym Mhrifysgol glasgow.

Mae’n arfer gennym ym Merea newydd, wrth goffáu aelod ymadawedig, gloi’r munud o dawelwch gydag un o’r ‘gwynfydau’: “gwyn eu byd y rhai sy’n galaru oherwydd cânt hwy eu cysuro.” (Mathew 5.4). dywed y dr Barclay ei fod yn syndod sôn am lawenydd galar a gwynfyd y torcalonnus. galar ydyw hwn sy’n treiddio i’r galon. nid rhywbeth ffug deimladol mohono ond galar llym, brathog a dwys. y mae i’w weld yn amlwg yn ymddygiad dyn, yn ei wyneb ac yn ei ddagrau. y mae dyn yn rhwym o ddangos y galar hwn i’r byd ac i dduw

oherwydd na all beidio. Beth, felly, oedd yr iesu yn ei olygu pan soniodd am wynfyd y sawl oedd wedi torri ei galon?

Mae’r dr Barclay yn cynnig pedwar esboniad.

1. ‘does dim amheuaeth fod gan alar werth ynddo’i hun a bod ganddo le mewn bywyd ac ni all dim arall gymryd ei le. Mae rhywbeth ar goll mewn bywyd hyd nes i alar dreiddio iddo. Cyfeiria’r athro at hen ddihareb arabaidd a ddywed: “Mae pob heulwen yn creu anialdir”Mae’n ddigon posib dweud mai galar yw ffynhonnell darganfyddiadau mewn bywyd. Mewn galar mae dyn yn darganfod yr hyn sy’n bwysig a’r pethau nad ydynt o bwys. Mewn galar mae dyn yn darganfod ystyr cyfeillgarwch ac ystyr cariad. Mewn galar mae dyn yn darganfod a yw ei ffydd yn rhywbeth arwynebol ynteu ai sylfaen angenrheidiol

“…siarad am strategaeth o ail eni, yn hytrach na goroesi”.

gofynnwyd imi am adolygiad o rhyw 400 gair – pwced fechan iawn ydyw i ddal môr o rhyw 90,000 o eiriau, heb sôn am y 35 tudalen sy’n llawn o siartiau, ynghyd â’m sylwadau. gobeithio nad yw’r gofod a roddir yn adlewyrchu’r gofod a’r amser a rown fel eglwys i’n cenhadaeth. emil Brunner a ddywedodd, “fel y mae’r tân yn byw trwy losgi, felly’n union trwy

genhadu y mae’r eglwys yn byw”. Bydd yreglwysisyddeisiaubywynsiŵroelwa o’r holl ymchwil a ddadlennir yn y traethawd hwn.

CENhADAEth NEWyDD I GyMRu: Gweld eglwysi yn ffynnu ar draws Cymru yn yr unfed ganrif ar hugaindavid Ollerton

Cyhoeddiadau’r Gair, £9.99

Page 11: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

11

ydyw ar yr hyn y dibynna ei holl fywyd. Pan yw dyn mewn galar y mae’n darganfod duw.

2. Mae luc yn adrodd y gwynfyd hwn mewn ffurf wahanol: “gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewchchwerthin.(Luc6.21)“AcynLuc16.25cawnhanesyDynCyfoethoga lasarus, lle mae’r dyn cyfoethog yn pledio ar abraham am drugaredd ond mae abraham yn ateb iddo: “fy mhlentyncofiaitidderbyndywynfydynystod dy fywyd, a lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu a thithau yn dioddef mewn ingoedd.”

yn ystod bywyd person ar y ddaear y mae dau ddewis yn ei wynebu. a fydd yn dewis y llwybr a ddaw ag elw iddo ar ei union, hapusrwydd ar ei union a rhyddidoddiwrthofidneudrallodareiunion? ynteu a fydd yn cymryd cwrs disgyblu a ddaw â thrafferthion ac o bosib galedi, erledigaeth ac aberth? Mae dysgeidiaeth Cristnogion yn glir. yr hwn sydd yn barod i ddewis ymboeni fydd yn ydiweddynprofigwynfyd.

3. Mae’n bosib bod y gwynfyd yma, i ryw raddau o leiaf, yn golygu bod gwynfyd yn perthyn i’r sawl sydd yngofidioambechod,digalondidadioddefaintybyd.Mae’ndisgrifio’rdyn y mae ei galon ar dân dros y rhai sydd yn dioddef gormes a thrais ac anghyfiawnder.

yn y ddameg ‘y defaid a’r geifr’ (Mathew25.31-46)mae’rIesuyndysgubod ymddygiad dyn ato ef yn cael ei

weld yn sut y mae yn ymddwyn at bobl eraill. Mewn llawer ffordd dirmyg yw’r pechod mwyaf anghristnogol o’r holl bechodau.

Honnir i george Bernard shaw ddweud unwaith: “ni fu genny’ erioed lawer o feddwl o’r dosbarth gweithiol ar wahân i gael gwared â nhw a chael pobl a synnwyr ganddynt yn eu lle.” y mae hyn yn hollol groes i ddysgeidiaeth ac ymddygiad iesu. dro ar ôl tro yn yr efengylau, dywedir i’r iesu deimlo tosturi. ystyr sylfaenol yr ymgnawdoliad yw fod duw yn teimlo gymaint dros ddynoliaeth fel ei fod yn iesu grist yn fwriadol wedi ei uniaethu ei hun â phechod,gofidadioddefaintasefyllfa’rddynoliaeth. nid y rhai a edrychai ar eu cyd-ddyn gyda dirmyg, nid y rhai a edrychai yn oeraidd bell ar ddynoliaeth yn ei hymdrechion a anrhydeddid, ond yrhaiabryderaiacaofidiaifelbodygofidoeddyneucalonyneugyrruiwasanaethu’r ddynoliaeth. Byddai’r byd ynllawertlotachhebyrhaiaofidiaynrymus am gyd-ddyn.

4. Ond beth am ystyr real y gwynfyd yma? y gwir ystyr yw: gwyn ei fyd ygŵrfyddyntristáupansylweddolaei fod yn bechadur. y mae gwynfyd mewngofid,ymaegwynfydmewngalar am bechodau a dioddefaint dyn. y mae gwynfyd arbennig yn y galar duwiol fydd yn arwain at yr edifeirwch a gaiff faddeuant gan dduw. Pan ddaw’r maddeuant hwnnw y mae esmwythdra am edifeirwch y galon ac mae anogaeth mewn bywyd a ddaw oddi wrth dduw yn unig.

Page 12: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

12

apÊl eglwys bresbyteraidd cymru 2017

helpu pobl y pilipinasa n n a j a n e e v a n s

Blwyddyn newydd dda i chi ddarllenwyr Ichthus! Mae hi’n ddechrau blwyddyn apêl arbennig Corwynt Cariad pan

fydd holl eglwysi eBC yn codi arian at waith Cymorth Cristnogol yn y Pilipinas.

ychydig iawn a glywn ni am ynysoedd y Pilipinas – ambell storm yn ddigon cryf i gyrraedd ein newyddion, ambell adroddiad am yr arlywydd newydd duterte sy’n gymeriad braidd yn wyllt a Herodaidd, ond fawr o ddim arall. eto, y diwrnod o’r blaen mi dderbyniais e-bost

gan allan Vera, pennaeth gwaith Cymorth Cristnogol yno, a dyma oedd ganddo i’w ddweud:

‘roedd corwynt y nadolig yn gryf iawn. roedd fy newyddlen gweplyfr yn gymysgedd ryfedd o ddathliadau nadolig llawenalluniauogartrefiwedieuchwalu.Mae Cymorth Cristnogol a’n partneriaid yn parhau i gydlynu ac i asesu’r difrod a cheisiocanfodyradnoddauigyflenwi’rangen brys.’

un o’r prif heriau i bobl yr ynysoedd

‘Ground zero’ Mantuyong yn dilyn y tân anferth ym mis Mawrth 2016

un o weithwyr cymorth cristnogol sy’n sôn am ei hymweliad y llynedd â’r wlad a gaiff ei helpu trwy corwynt cariad, apêl arbennig eglwys bresbyteraidd cymru eleni.

Page 13: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

13

yw effeithiau newid hinsawdd – maent yn disgwyl o leiaf ugain o gorwyntoedd bob blwyddyn ond dros y blynyddoedd diwethaf mae cryfder ac amlder y corwyntoedd wedi cynyddu’n ddirfawr ac nid yw’n anghyffredin iddynt ddioddef 30i35ostormyddynflynyddolbellach.Mae cael gwyntoedd 140 milltir yr awr yn beth digon arferol mewn corwynt erbyn hyn – fedra’i ddim dechrau dychmygu hynny. dwi’n teimlo’n ddigon nerfus pan fydd rhagolygon y tywydd yn darogan gwyntoedd70myaafinnau’nbywmewntŷcerrigdiogelardirsy’nddigonuchel i osgoi llifogydd. ar ôl ymweld â rhai o gymunedau a slymiau dinasoedd arfordirol yr ynysoedd bregus hyn, mae’n anodd dechrau dychmygu bod yno mewn corwynt.

Bydd arian apêl Corwynt Cariad yn sicrhau gallu partneriaid Cymorth Cristnogol i ymateb i argyfyngau yn ogystal â chefnogi eu gwaith parhaol o ddatblygu cymunedau i oroesi a ffynnu. Mae llawer o’r gwaith yn ymwneud â galluogi cymunedau i fynnu eu hawliau a sefyll ar eu traed eu hunain.

rhan gwbl hanfodol o’r gwaith tymor hir hefyd yw cryfhau gallu cymunedau i oroesi argyfyngau – ac yn sylfaenol i hynny mae’r gallu i baratoi ac ymateb yn briodol. Mapio’r gymuned a nodi lle mae’r teuluoedd/unigolion mwyaf bregus yn byw fel bod help yn cael ei anelu atynt fel blaenoriaeth; nodi pa ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd/tirlithriadau; cadw ffosydd a draeniau’n gyson lân; cynnal ymarferiadau tân, ymarferiadau achub bywyd; trefnu a chydlynu timau achub, timau diffodd

tân a thimau meddygol o wirfoddolwyr cymunedol.Uno’rprofiadausyddwedi aros gyda mi, ac un sy’n tystio i effeithlonrwydd y paratoi hwn, oedd bod yng nghymuned Mantuyong, slym lle cafwyd tân anferth yn oriau mân y bore ymmisMawrth2016.Dechreuoddytânpanoeddpawbyncysgu,onderidros600o dai losgi’n ulw, llwyddodd dros 2,000 o bobl i ddianc yn ddianaf; ni chollwyd yr un bywyd, diolch i’r drefn oedd ar waith yn y gymuned a’r gwaith paratoi ymlaen llaw. wrth i ni ymweld â’u ‘ground zero’ roedd aroglau mwg yn parhau yn yr awyr ac roedd yn anodd iawn peidio â thorri i lawr wrth weld dewrder yr unigolion oedd yn dangos y ffordd o amgylch y difrod. fan hyn oedd fy nghartref i, meddai Menchu–‘itwasmyprideandjoy’.Aryr un pryd roedd eu balchder yn y ffaith eu bod wedi llwyddo i ganu’r gloch ac arwain pawb i ddiogelwch yn amlwg, a’u penderfyniad i fynnu bod y cyngor lleol ynmyndatiiailadeiladucartrefinewyddar gyfer y teuluoedd a gollodd bopeth, yn destun gobaith ac ysbrydoliaeth.

Bydd eich cyfraniadau chi eleni’n rhan o ailadeiladu cymuned Mantuyong. Bydd eich haelioni yn dwyn gobaith newydd i rai o gymunedau mwyaf bregus a thlawd yr ynysoedd.

Cofleidiwchyboblyneichgweddïauynystodyflwyddyn–mynnwcheucwmniyneichaddoliadaboediflwyddynyrapêldroi’n fendith i chi fel eglwys ym Merea newydd.

diolch o galon i chi am eich cefnogaeth gyson a pharod i waith Cymorth Cristnogol.

Page 14: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

14

wedi rhai blynyddoedd fel swyddog hyfforddi efo Cyngor Conwy, y Pasg diwethaf dechreuais

fel cydlynydd hyfforddiant i eglwys Bresbyteraidd Cymru.

‘Ond pwy wyt ti’n hyfforddi?’ mae pobl yn gofyn, a dyna o’n innau’n ei ofyn wrth imi gychwyn ar y gwaith. dysgais lot ers hynny. wyddwn i ddim fod yr enwad, yn ogystal â chyflogituadeugainoweinidogion,yn cynnal degau o weithwyr Cristnogol (neu ‘weithwyr cenhadol’) sy’n gwneud gwaith cyffrous ac arloesol. Pobol fel troy – dyn ifanc mawr croenddu, sy’nrhedegclwbcyfrifiaduronihogia mewn ardal ddigon tlawd yn y cymoedd; tamsin sy’n gweithio efo mamau a phlant bach yn ystradmynach; rebecca o india sy’n gweithio efo teuluoedd ar stad ddifreintiedig Penrhys, ac yn y blaen. Mae yna hefyd gangen saesneg ei hiaith gan yr enwad – llawer o bobl a lleoedd newydd i mi ymgyfarwyddo â nhw felly.

Byddpawbsy’ngweithioigyflogwrmawr yn cymryd hyfforddiant parhaus yn ganiataol – hanfodol mewn byd sy’n newidyngyflym.Drwyhyfforddiantystyriwn yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio; sut mae gwneud pethau’n well, a’r hyn y bydd angen i ni fod yn ei wneud yn y dyfodol. Mae

sefyllfa crefydd a’r eglwys yn newid fwy nag erioed o’r blaen, a thrwy hyfforddiant gobeithiwn roi taclau yn y bagtŵlsihelpugweithwyracaelodaui addasu bywyd yr eglwys ar gyfer heddiw ac yfory, gan ddal ein gafael yr un pryd ar wirioneddau oesol yr efengyl.

Ungrŵpybûmyngweithiogydanhwyw gweinidogion newydd ac ymgeiswyr am y weinidogaeth. Mae tua phymtheg o ddynion a merched ifanc yn cyfarfod yn nhrefeca bob tymor. Mae’n galonogol, yn heriol, ac yn gyfrifoldeb gweithio efo nhw – cawsom ymweliad â Charchar Caerdydd; sgwrs gan ferch a gafodd ei chamdrin yn yr eglwys; arweiniad ar addoliad cyfoes, ac amrywiaeth eang o bynciau eraill.

Mae cwrs chwe wythnos i weithwyr plant yn cael ei gynnal ar hyn o bryd,

swydd newydd, her newyddd e ly t h o s w y

Page 15: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

acrydymynadolygucyflwyniadi weithwyr newydd. Mae galw am sesiynauiflaenoriaidaphregethwyrlleyg; creu defnyddiau a diweddaru adnoddau ar gyfer eglwysi; a hyfforddiant mewn swydd i weinidogion. digon i’w wneud, felly.

Mae’r gwaith hyd y bo modd yn gyd-enwadol – yr un sefyllfa yr ydym i gyd

yn ei hwynebu, wedi’r cyfan: parchu a gofalu am yr hyn rydym wedi ei etifeddu (traddodiadau, hen adeiladau, hen systemau) sy’n gwasanaethau’r 10% sy’n mynychu capel ac eglwys; ac, ar yr un pryd, buddsoddi a mentro wrth weithredu’r efengyl mewn modd perthnasol i’r 90% nad ydynt, ar hyn o bryd, yn mynychu addoldy.

ar ôl bod mor brysur gyda’u gwasanaeth nadolig ar 18 Rhagfyr,cafoddyplantgyflehaeddiannol i ymlacio a chael

hwyl yn eu parti y noson wedyn. wedi i bawb fwyta llond ei fol o’r danteithion hyfryd a oedd wedi’u paratoi, drwodd â nhw i’r festri, a oedd yn edrych ac yn swnio’n lle tra gwahanol i’r arfer y noson honno gyda goleuadau lliwgar yn troelli’n wyllt a churiadau cerddoriaeth roc yn ysgwyd y lle. Oedd, roedd hi’n ddisgo yma a bu hwyl ar y dawnsio, gyda rhai yn

fwy parod na’i gilydd i fentro i ganol y llawr! yna roedd hi’n amser llonyddu gan ei bod yn bryd i siôn Corn gyrraedd. fe ymddangosodd yn ei holl ogoniant wedi inni roi tro neu ddau ar y gân ‘Pwy sy’n dŵaddrosybryn...’Wrthiddofyndatii rannu bocsys o siocledi i bawb, cafodd yrhenŵrmwynglywedhanestipyno’rplant a chael gwybod pa anrhegion yr oeddent yn gobeithio’u cael fore nadolig, diolch i bawb a helpodd gyda’r parti llwyddiannus hwn.

parti 'dolig yr ysgol sul

15

CYmUN YN Y CARTREFOs oes aelod sy’n methu dod i’r oedfaon a fyddai’n hoffi cael cymun gartref, a wnewch chi gysylltu â blaenor eich corlan

neu’r gweinidog([email protected] / 01286 676435)

i drefnu hynny, os gwelwch yn dda.

Page 16: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

16

‘ga’ i ofyn i chi – ?’ meddwn wrth Cefyn. ‘am yr edau? Meddwl tybed pam – ?’

newydd brynu darlun brodwaith ganddo yr oeddwn i ac yn cael fy hun yn troi’n ôl i’w holi: tybed pam y gadawyd y

tameidiau hir o edau heb eu torri? wrth gwrs, roeddwn wedi dotio at ei bortread o gapel bach y glyn, llun rhyw saith modfedd wrth chwech heb gyfri’r mownt a’r ffrâm, wedi’i wnïo mewn llwyd a du ar fwslin tenau, golau. Ond sylwi wedyn ar y gweddillion o edau i’w gweld yn welw drwy fwslin y cefndir. a’r rheini’n glymau llac, yn esgyn o’r to ac o’r ddau dalcen o bobtu,cyndiflannuynanorffenedigdanymownt.

waeth cyfaddef i mi wneud y nesaf peth i ddim o waith brodio ar ôl fy nyddiau ysgol. eto i gyd, mae acw lond droriau ohono, pethau wedi’u hetifeddu gyda’r blynyddoedd, yn llieiniau byrddau a hambyrddau ac ati, o bwythi lliw crai Madeira neu amryliw fel rhai llygad-y-dydd. a phe digwyddwn daenu unrhyw un ohonynt y tu chwith allan ar gyfer te prynhawn, prin y byddai’r ymwelydd yn ddim callach; ni welid yr un tamaid o gynffon edefyn yn unman.

swniwn yn ddynes gysetlyd yn gofyn y fath beth, ond nid dyna oedd o. yn hytrach,aoeddynceisiocyfleurhywbeth?

dyna oedd gen i. does dim gwastraff diystyr yng ngwaith gwir artist.

roeddwn yn gyfarwydd â’r capel bach o’m plentyndod. safai ger y ffordd, ar y chwith wrth fynd am y sychnant. adeilad twt, llwyd fel yn y llun. dau gam drwy’r giât a byddech yn y drws, yn cysgodi dan big ei bortsh; i’r dde wedyn, dwy ffenestr dal, to llechi, wal gerrig isel rhyngddo a’r lôn, a dyna ni.

yn nes ymlaen, ar draws y ffordd, safai swyddfa bost Capelulo, a gedwid gan berthnasau i’m mam. rhywbeth i edrych ymlaen ato oedd mynd yno i de ar ddiwrnod o haf, nid i’r post ei hun, lle roedd Mr davies wrth ei bethau y tu ôl i’r cownter, ond yn eu cartref ar y bryncyn uwchben, gyda Harriet, ei wraig, a Heulwen, ei chwaer hithau. roedd hwnnw’n owtin hudolus i mi o’r foment y daliem y bws bach coch o ganol Penmaenmawr i fynd yno. fel bws ‘hen bentra’ y cyfeirid ati, a arbedai orfod penderfynu ai bws dwygyfylchi ydoedd ynteu bws Capelulo, oherwydd arferid y ddau enw. Ond yn ddiamau post Capelulo oedd y llythyrdy ac i ysgol Capelulo yr âi plant yr ardal. Mae swyn yn yr enw ei hun, a lle i ddiolch i sant lulo, neu ulo, am y capelanwes(diflanedig)agysegrwydiddoar waelod y sychnant yn y Canol Oesoedd. ar ben hyn oll, pen y daith oedd y fairy glen Hotel! (wrth dalcen gorllewinol y

eglwys y glyn mc, capelulo(Bellach YN aNNedd)

cyfres capeli cefyn burgessb e r y l s . w i l l i a m s

Page 17: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

17

gwesty rhed afon gyrach fechan, chwim i lawr ei chwm lledrithiol. nant daear llwynog yn gymraeg; cywirach enw, mae’nsiŵr,onddigroesobraiddatbwrpastafarn.)

roeddwn wrth fy modd yn cael te gyda Harriet a Heulwen. y gwrando ar sgwrs merched ac yn fwy na dim eu clywed yn galw fy mam yn Blodwen. wedi cymysgu teulu yr oeddym a gwnaem yn fawr o hynny.Poblddŵad,a’ugwreiddiauynrhywle arall, ydi gweinidog a’i wraig fel rheol. doedd neb yn eu galw wrth eu henw bedydd bryd hynny ac, er yn cymeradwyo arfer ffri yr oes fodern, erys yr hen drefn ynof o hyd yn fy nhu mewn yn rhywle.

aelodau yn Horeb, addoldy’r annibynwyr, oedd teulu’r post, capel nobl, hirsgwar ac, yn wahanol i’r drefn yn y glyn, roedd gweinidog ganddynt. Blaenor oedd gan y glyn, a chyfeirid ato’n ddi-feth fel thomas Jones y glyn. roeddwn i’n ei adnabod yn dda; ef oedd ein dyn lludw wythnosol ni. dyn byr o gorff ond cydnerth, mae’n rhaid. ambell waith rhannai sgwrs fer henaduriaethol gyda fy nhad wrth y drws cefn, neu wneud sylw ar benawdau pregeth y sul, cyn halio’n tun lludw ar ei gefn a dringo’r grisiau serth a chrymu ymlaen ar hyd y llwybr nes cyrraedd y lorri ar allt yr

esplanade.‘wel, heb y rheini –‘ dechreuodd Cefyn yn ei ddull petrus, diymhongar. aethai rhyw funud neu ddau hir heibio a minnau’n aros. ‘Heb y darnau o edau, mi fyddai’r capel mewn gwagle.’

Aidyna’runioneiriad,niallaffodynsiŵr.Mae’r blynyddoedd yn mynd. Ond dyna’i hanfod. ar y pryd gwyddwn y byddai’n rhaid i mi, o ran cwrteisi a pharch at artist mor hynod, fodloni ar ei ateb enigmataidd.

Ceisio’i ddehongli drosof fy hun, hwyrach. Cnoi cil.

yn llythrennol, nid yw Capel y glyn mewn gwagle.Maetŷohydy drws nesaf iddo ond heb fod yn sownd. at hynny, heb i chi sylweddoli wrth sefyll ynsgwâro’iflaen,maehefyd lawr is iddo, dan y lôn, cyn i’r tir syrthio tua’r gwastadedd lle mae afon gyrach bron

â chyrraedd y môr. Ond anwybyddwyd

hyn oll yn y llun. er mor gwbl hawdd i’w adnabod, er mor driw i’r nodweddion pensaernïol, gweddnewidiwyd y glyn.

Mae’r edafedd yn chwyrlïo fel rhubanau abalwnau,acafiaithymmhwythicerrigy wal sy’n gwarchod libart cul y capel. ymddengys fel petai’r glyn yn llawenhau, eifodarfineiddyrchafui’rentrychiongan ei linynnau o edau, a chan nerth yr hyn a fu: y penlinio yn y sêt fawr a’r gweddïau o’r frest.

eglwys y Glyn gan cefyn Burgess(darlun brodwaith)

Page 18: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

18

salm ac emyn EMyN sAlMIonawr 29 397FflurEdwards 1CatrinEdwardsChwefror 5 OedfaDeuluigyflwynoApêlCorwyntCariadChwefror 12 125HannaEdwards 6OwainEdwardsChwefror 18–26 gwyliau hanner tymorMawrth 5 OedfadeuluGŵylDdewiMawrth 12 139 elen gwynn 120 Owain gwynnMawrth 19 155 Cara davies 93 rhys robertsMawrth 26 391 Bedwyr williams 121 llio williamsEbrill 2 Oedfa deulu ar thema’r PasgEbrill 8–23 gwyliau’r PasgEbrill 30 393 siôn roberts 150 danial Jones

diolch yn fawr am eich cyfraniad.Os bydd plentyn neu deulu’n newid sul gyda rhywun arall,

[email protected].

Mewn cyfarfod un bore Sul yn Rhagfyr derbyniodd y gweinidog bump o

aelodau newydd, pedwar o Berea ac un o bethlehem, abergwyngregyn.

Bu pob un yn cymryd rhan yn y gwasanaeth cyn iddynt gael eu derbyn

yn swyddogol yn gyflawn aelodau.

Rhoddwyd anerchiad pwrpasol iddynt gan un o’r blaenoriaid, mrs delyth

oswy shaw, cydlynydd hyfforddiant y Cyfundeb. Cyflwynwyd copi o Beibl.net i bob un gan flaenor y mis, Miss

Gwenno Pritchard.O’r dde: Mari Williams o abergwyngregyn, Siwan Williams, lois Wiliam, Guto davies a Tomos lynch. cafodd Tomos a Mari eu bedyddio hefyd cyn cael eu derbyn.

Page 19: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

19

y dyddiadursEIADAu ChWEfRoR A MAWRth 20172 Chwefror: AdeiladuTŵr(Lc14:24-33)-Gwenno Pritchard16 Chwefror: y samariad trugarog (lc 10:25-37) - Geraint P. Jones2 Mawrth: YGoruchwyliwrAnonest(Lc.16:1-13) Gareth Emlyn Jones16 Mawrth: YDynCyfoethogaLasarus(Lc16:19-31) Cledwyn Williams23 Mawrth: y ddafad golledig a’r darn arian a gollwyd (lc 15:1-10) Eirian Howells30 Mawrth: y Mab Colledig a’r Mab Hynaf (lc 15:11-32) Elwyn Richards

cornel codi gwÊn

g ly n l l o y d j o n e s

CASgLIAD DORCASCasgliad sy’n cael ei wneud pan fydd pobl ar y ffordd allan o’r capel ar ôl gwasanaeth Cymun yw

Casgliad Dorcas. Mae’r arian yn mynd at wahanol achosion da. Ar hyn o bryd rydym yn casglu tuag at gymdeithas y deillion gogledd cymru. (gweler hefyd yr erthygl ar dudalennau 5-6).

Page 20: cylchgrawn chwarterol eglwys berea newydd, …henaduriaetharfon.org/downloads/140117-ichthus.pdfI lansIo apêl CymoPOBI a PHRth CRIastnogol aNED IR’r PILIPIN gyfeR ynysoedd y aSpIlIpInas

hwyl y parti nadolig