-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
SXTO Cwmni Theatr Arad Goch
Hydref-Tachwedd 2014
Mae’r cwmni yn gwerthfawrogi cefnogaeth bwysig Cyngor
Celfyddydau Cymru.
Cefnogir gwaith y cwmni mewn ysgolion gan Gyngor Sir Ceredigion,
Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro.
Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i ddod â’n gwaith i chi.
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
SXTO. Sgript: Bethan Gwanas Cyfarwyddydd: Angharad Lee
Cyfarwyddydd Cynorthwyol: Matthew Jones Yr Actorion: Lowri - Nia
Ann Jen - Lowri Sion Gav - Endaf Eynon Davies Meic - Dion Lloyd
Jones Rheolwyr Llwyfan / Gareth Wyn Roberts Technegwyr ar daith:
Eirian Evans Cynllunio set a gwisgoedd: Cordelia Ashwell Pecyn
Adnoddau: Jeremy Turner Lluniau: Keith Morris Aelodau Cwmni Theatr
Arad Goch yw: Jeremy Turner Cyfarwyddydd Artistig Mari Rhian Owen
Actores / athrawes Nia Wyn Evans Rheolwr Gweinyddol Rhys Hedd
Pugh-Evans Rheolwr Technegol Ann Penny Clerc Heulwen Davies Swyddog
Marchnata Anne Evans Swyddog Cyswllt Ysgolion Elin Crowley
Cynorthwy-ydd credigol Simon Lovatt Cydlynydd Rhanbarthol
somewhereto_
CWMNI THEATR ARAD GOCH – cysylltiadau: Cyfeiriad: Stryd y
Baddon, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2NN Gwefan www.aradgoch.org
e-bost [email protected] ffôn: 01970.617998 ffacs: 01970.611223 o
Elusen Gofrestredig 702506. o Cwmni Cyfyngedig drwy Warant
Cofrestredig yng Nghymru 2375424. o Noddir gwaith Cwmni Theatr Arad
Goch gan: Gyngor Celfyddydau Cymru o Cefnogir gwaith y cwmni mewn
ysgolion gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir
Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn
aelod o:
WAPA / CCPC – Cymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru:
http://www.waparts.f9.co.uk
ASSITEJ – Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Theatr i Blant a Phobl
Ifanc – www.assitej.org www.assitejuk.org
ITC – Independent Theatre Council www.itc-arts.org
http://www.aradgoch.org/mailto:[email protected]://www.waparts.f9.co.uk/http://www.assitej.org/http://www.assitejuk.org/http://www.itc-arts.org/
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
SXTO gan Bethan Gwanas
Dyma benllanw tair blynedd o waith sydd wedi cynnwys
perfformiadau cychwynnol mewn ysgolion, gweithdai ymarferol, llawer
o fewnbwn gan bobl ifanc a llawer iawn o drafod. Mae’r ddrama yn
ymateb i hanesion am bobl ifanc yn cael eu brifo neu eu cam-drin
drwy ddefnydd anghywir o gyfryngau a rhwydweithiau cymdeithasol
digidol. Mae’r cynhyrchiad yn fwrlwm o ddeunydd y gellir ei
ddefnyddio fel sbardun ar gyfer trafodaethau dosbarth. Yn y llyfryn
hwn darperir luniau a phytiau o’r sgript i’ch hatgoffa o gymeriadau
a chynnwys y cynhyrchiad, ynghyd â chwestiynau a fydd o gymorth i
hybu trafodaeth. Hyderwn y bydd y perfformiadau o ddiddordeb ac o
ddefnydd i chi’r athrawon ac i’ch disgyblion. Bydden ni’n falch
iawn o dderbyn eich sylwadau.
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
Pethau i’w cofio Diolch am ein croesawu i’ch ysgol eto. Hon
ydy’r drydedd gwaith i’r cynhyrchiad yma deithio. Er mwyn hwyluso
eu gwaith gofynnwn yn garedig i chi’n helpu drwy gofio’r pwyntiau
canlynol. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi eich barn a’ch
sylwadau am ein gwaith; edrychwn ymlaen bob tro at eu derbyn ar ôl
ein hymweliad.
Mae’n rhaid i athro neu athrawes fod yn bresennol yn ystod
perfformiadau’r cwmni yn eich ysgol neu pan fydd eich ysgol yn
ymweld ag ysgol neu ganolfan arall.
Pan gynhelir y perfformiad yn yr ysgol bydd angen gofod gwag a
llawr glân; byddwn yn ddiolchgar iawn petai modd i chi symud unrhyw
gelfi neu offer o’r ffordd cyn i ni gyrraedd.
Os nad ydych yn sicr o’r trefniadau, ffoniwch ni yn ARAD GOCH,
os gwelwch yn dda.
Bydd aelodau’r cwmni yn gallu ymdrin ag unrhyw fân broblemau.
Ond os bydd unrhyw broblemau mawr neu gwestiynau cymhleth ffoniwch
ni yn ARAD GOCH, os gwelwch yn dda. Dylai unrhyw gŵyn gael ei
gyfeirio at swyddfa ARAD GOCH ac nid at yr actorion fydd yn ymweld
â’ch ysgol.
Gwnaethpwyd trefniadau manwl gyda phob ysgol a ofynnodd am gael
ei chynnwys yn y prosiect. Gofynnwn yn daer i chi beidio â newid
trefniadau heb drafod hyn yn gyntaf gyda swyddfa ARAD GOCH.
Ar y dudalen nesaf mae nodyn a gwybodaeth ymarferol i’r
disgyblion. Bydden ni’n ddiolchgar iawn petai modd i chi gopïo’r
dudalen yma a rhoi copi i bob disgybl fydd yn gweld y
perfformiad.
Erbyn hyn mae llawer o ddisgyblion yn hoffi ymateb i’n gwaith
drwy anfon neges e-bost. Gwelir ein cyfeiriadau isod.
Fe roddir sylwadau ein cynulleidfaoedd ar wefan newydd Arad Goch
sef www.aradgoch.org Cofiwch annog y disgyblion i chwilio’r wefan
ac i anfon eu sylwadau; gellir anfon sylwadau yn uniongyrchol drwy
dudalen ymateb y wefan. Llawer o ddiolch am eich cydweithrediad!
Jeremy Turner Cwmni Theatr Arad Goch Cyfarwyddwr Artistig Stryd y
Baddon, Aberystwyth SY23 2NN ffôn: 01970.617998 ffacs: 01970.611223
e-bost: [email protected]
mailto:[email protected]
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
SXTO - SEXTING Nodyn i bobl ifanc ar ôl gweld y ddrama
Cynhyrchwyd SXTO gan Gwmni Theatr Arad Goch. Ysgrifennwyd y
ddrama gan Bethan Gwanas ac fe’i chyfarwyddwyd gan Angharad Lee. Yr
actorion oedd Nia Ann (LOWRI), Lowri Siôn (JEN), Endaf Eynon Davies
(GAV) a Dion Lloyd Jones (MEIC). Roedd llawer llawer mwy o bobl
ynghlwm wrth baratoadau’r cynhyrchiad! Gobeithio eich bod chi wedi
mwynhau’r ddrama. Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn sylwadau,
adolygiadau ac ymholiadau gan ein cynulleidfaoedd. Cysylltwch â ni
gyda’ch sylwadau ar [email protected] , neu ar facebook. Mae’r
cwmni yn croesawu pobl ifanc ar gyfer cyfnodau profiad gwaith. Mae
mwy o wybodaeth am Arad Goch ar www.aradgoch.org
Os oes rhywbeth yn eich poeni chi am gynnwys y ddrama, cofiwch -
TRAFODWCH gyda rhywun arall! Os na allwch drafod gyda rhywun rydych
chi’n adnabod mae gwybodaeth a chymorth ar gael ar y gwefannau
isod.
http://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/sexting-advice-parents/
http://www.childline.org.uk/explore/onlinesafety/pages/sexting.aspx
http://www.cliconline.co.uk/cym/newyddion/peryglon-lsquosextiorsquo/04140.html
http://www.cliconline.co.uk/en/news/the-dangers-of-sexting/04128.html
http://www.southwalesargus.co.uk/news/national/11535101._Sexting_is_normal_for_children_/
Rhif CHILDLINE yw:
http://www.childline.org.uk/mailto:[email protected]://www.aradgoch.org/http://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/sexting-advice-parents/http://www.childline.org.uk/EXPLORE/ONLINESAFETY/PAGES/SEXTING.ASPXhttp://www.cliconline.co.uk/cym/newyddion/peryglon-lsquosextiorsquo/04140.htmlhttp://www.cliconline.co.uk/en/news/the-dangers-of-sexting/04128.htmlhttp://www.southwalesargus.co.uk/news/national/11535101._Sexting_is_normal_for_children_/
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
DEUNYDDIAU I ATHRAWON
Sylwadau am ‘SXTO’ a gasglwyd mewn trafodaeth a gweithdy a
gynhaliwyd yn Yr Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg Awst
2012.
Efallai bydd y sylwadau a chwestiynau hyn o ddefnydd i chi wrth
drafod y ddrama a’i themâu pwnc gyda phobl ifanc. Mae modd
defnyddio’r cwestiynau yma ochr yn ochr a’r darnau sgript yn yr
adran nesaf. BETH
Sut byddech chi’n diffinio SXTO?
o SEXUAL HARRASMENT THROUGH TEXTING OR THROUGH OTHER SOCIAL
MEDIA
o YMYRAETH RYWIOL DRWY NEGES DESTUN NEU DRWY GYFRYNGAU
CYMDEITHASOL DIGIDOL
Ble mae’r ffiniau. Geiriol? Lluniau? Fideos? Ym mhob achos beth
sy’n dderbyniol a beth sy’n
annerbyniol?
Ydy SXTO yn rhyw fath o fwlian?
Ydy SXTO yn waeth na bwlian corfforol?
Ydy anfon llun noeth ar y we neu fel rhan o neges destun yn
anghyfreithlon? (ateb - ydy)
Y DDRAMA
Yn y ddrama, pwy oedd yn berchen ar y llun?
Yn y ddrama a oedd Meic wir yn caru Lowri?
Oedd e’n ei charu hi mwy ar ôl gael y llun ar ei ffôn?
Oedd e’n gwybod beth yw cariad?
Ai Lowri neu bobl eraill sy’n oedd yn gyfrifol am ei ffawd?
Sut fyddai Meic neu Gav wedi teimlo petai hyn wedi digwydd iddyn
nhw?
Enwch rai o’r emosiynau a theimladau gafodd y bobl yn y stori ar
ôl i’r llun gael ei lledu?
Beth yw’r ffordd orau i Lowri ddatrys y broblem?
Oedd pawb wedi dioddef?
PWY OEDD AR FAI?
PAM?
Pam mae pobl yn SXTO? - Ofn? Gwendid ynddyn nhw eu hunain?
Gwendid yn y person sy’n
derbyn y SXTO? Ceisio bod yn gryf?
Pam bod merched yn gymaint o symbolau rhyw erbyn hyn?
Pam mai rhai pobl ifanc eisiau ymddangos yn rhywiol yn y ffordd
maen nhw’n gwisgo?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
Pa resymau eraill?
Beth yw’r teimlad sy’n gyrru pobol i SXTO yn y lle cyntaf?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
PWY? Ydy merched neu fechgyn yn SXTO fwy na’i gilydd?
Ydy ffrindiau yn SXTO rhwng ei gilydd neu pobl ddieithr sy’n
gwneud?
Pwy sy’n cael eu heffeithio gan SXTO?
Pwy sy ar fai?
Pobl o ba oedran sy’n SXTO?
Ydy oedolion yn SXTO?
Ydy pobl mewn perthynas yn SXTO?
Ydy e’n wahanol os yw’r llun o gorff dyn neu fachgen yn hytrach
na merch/dynes?
Ydy SXTO yn digwydd ymhlith pobl hoyw?
Pam fod sôn am rywioldeb pobl ifanc yn bwnc tabŵ?
A ddylid cuddio neu gaethiwo rhywioldeb?
A oes fforwm i’r ifanc mynegi eu rhywioldeb?
TEIMLADAU Sut mae pobl yn teimlo ar ôl cael eu SXTO?
Sut mae pobl yn teimlo ar ôl SXTO rhywun arall?
Beth mae pobl yn disgwyl i ddigwydd wrth SXTO rhywun arall?
A ydyn nhw’n ymwybodol o’r canlyniadau cyn dechrau?
Beth yw’r ffin rhwng chwarae (‘mesan o gwmpas’) a rhyw?
Beth yw gwerth dy gorff?
CYFRYNGAU A CHYLCHGRONNAU Ydy rhai rhaglenni teledu a
chylchgronau yn portreadu pobl ifanc fel delweddau rhywiol.
Ydy hyn yn deg ar bobl ifanc.
Ydy pobl ifanc yn ceisio efelychu’r delweddau hyn?
Pam?
PORNOGRAFFI Beth yw’r gwahaniaeth rhwng llun rhywiol mewn
cylchgrawn a phornograffi?
Pornograffi - pa mor hawdd yw cael gafael arno?
Ydy pornograffi yn brifo unrhywun? Sut?
Mae pornograffi yn hawdd i’w gael ar y wê. A ddylai fod yn
anghyfreithlon?
Pa fath o ryw mae pornograffi yn dangos?
Ydy addysg ryw yn dysgu digon am y peryglon?
PRYD? Ydy’r sefyllfa yn effeithio ar y presennol neu ar y
dyfodol? Oes ots?
Os na elli di fod yn ddi-hîd yn dy ieuenctid, yna pryd elli di
fod?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
TRAFODAETHAU Dyma ddarnau o’r sgript a lluniau o’r cynhyrchiad
er mwyn eich helpu i gofio a thrafod y
ddrama, ei chymeriadau a’i themâu.
BETH YW CARIAD?
LOWRI A MEIC YN SIARAD GYDA’I GILYDD DRWY SGRINIAU EU FFONAU.
MEIC YN TYNNU LLUN SECSI OHONO’I HUN A TXTIO: MEIC: Hoffi fo Lowri?
:)
LOWRI: (WEDI DERBYN Y LLUN A CHWERTHIN) Ydw. Lysh!!! T d bod yn
gtho mas?
MEIC: Natural gd looks. ;)
LOWRI: LOL!!! T mor modest Meic.
MEIC: Be dwi’n gael nôl ta?
LOWRI: X
MEIC: Na, tyd laen, isio llun dwi - plis.
LOWRI YN POSIO O FLAEN EI FFÔN/CAMERA, GWEN SECSI, CYMRYD LLUN
A’I YRRU.
MEIC: Stonkin. Ond llai o ddillad rwan plis.
LOWRI’N YSGWYD EI PHEN GYDA GWEN, YNA TYNNU EI THOP I LAWR
FYMRYN FEL EI BOD YN DANGOS YSGWYDD NOETH, POSIO A GYRRU’R LLUN.
MEIC: Neis! A rwan ... dim dillad.
LOWRI’N RHYTHU AR Y NEGES MEWN BRAW.
LOWRI: Ar dy feic!
MEIC: O tyd, pls pls pls ... dwi rili isio llun go iawn ohonot
ti...
LOWRI: Na!!
MEIC: Ti’m yn caru v?
/LOWRI: Ydw!
MEIC: Profa fo ta.
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
CWESTIYNAU
OES MODD GWYBOD I SICRWYDD FOD RHYWUN YN DY GARU?
OES RHAID PROFI DY FOD TI’N CARU RHYWUN?
OES MODD CAEL PERTHYNAS AGOS, GARIADUS, TRA’N IFANC, HEB FOD
RHYW YN
RHAN OHONI?
OEDD MEIC YN BOD YN DEG GYDA LOWRI?
BETH DDYLAI LOWRI WNEUD NESAF?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
GAV, LOWRI A JEN AR Y BONT. LOWRI A JEN YN GIGLAN DROS
GYLCHGRAWN. GAV YN SEFYLL Y TU OL IDDYN NHW, AR WAHAN, YN CHWARAE
GEM AR EI FFON. JEN: Edrych salw yw hi! God, mae hi mor ‘fake’ ond
yw hi? GAV YN SBIO DROS EU HYSGWYDDAU A GNEUD WYNEB ‘LECHY’. LOWRI:
Ac edrych ar y coese na! Cellulite! O mai god! Mae ’da fi goese
gwell na hynna ...
mae ’da TI goese gwell na hynna, Jen! JEN: YN SYLLU ARNI OND
‘DYW LOWRI DDIM YN SYLWI. Diolch ... LOWRI: Fyddet ti’n disgwyl y
bydde rhywun enwog felna’n gallu edrych ar ôl eu hunan yn
well ... JEN: Neu o leia’n gwybod pa mor beryglus mae camerau yn
gallu bod ... LOWRI: Ie ... JEN: Gallu bod yn greulon pan nagyt
ti’n spring chicken ... achos faint yw hi nawr ... o
leia 26 ond dyw hi? LOWRI: Siwr o fod. Rhy hen i fod mewn bicini
... yn gyhoeddus ta beth ... JEN: God, ydi. SAIB. Ond ... sai mo
... wy’n gobeithio y bydda i’n dal i edrych yn iawn
mewn bicini pan fydda i’n 26 ...
CWESTIYNAU PAM DDWEDODD JEN FOD Y PERSON YN Y LLUN YN Y
CYLCHGRAWN YN EDRYCH YN ‘FAKE’? PAM FOD JEN A LOWRI YN POENI AM SUT
MAEN NHW’N EDRYCH? PA MOR DDYLANWADOL YW LLUNIAU O BOBL ENWOG MEWN
CYLCHGRONNAU? YDY HUNAN-DDELWEDD YN BWYSIG?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
DAN BWYSAU JEN: Pob lwc yn y gêm heno Meic. JEN YN CODI EI LLAW
OND LOWRI DDIM YN SYLWI. EXIT JEN. LOWRI: Pa gêm? MEIC: Y gêm
gwpan, Lowri! GAV: A fe yw’r capten, smo ti’n cofio?! LOWRI: Wrth
gwrs bo fi’n cofio taw ti yw’r capten ... wy’n lico dynion
masterful ... GAV: Wy’n gallu bod yn masterful ... MEIC: Gav ...?
Plis? EDRYCHIAD ‘POINTED’ IDDO. GAV YN NODIO EI BEN, CILIO
DRAW A DECHRAU CHWARAE EI GEM ETO. MEIC (WRTH LOWRI): Ti’n dod
i’n gweld ni te? LOWRI: Heno? O, sai mo ... MEIC: O, dere ... wy
moyn ti ’na. Falle gaf i hat-trick os fyddi di ’na. LOWRI: Ti’n
gwybod shwt ma Mam ... MEIC: Mae’n gorfod dysgu rhoi chydig o
ryddid i ti, Lows! LOWRI: Wy’n gwybod ... ond ar hyn o bryd ...
sai’n credu ... MEIC: Ond ti bron yn un ar bymtheg! LOWRI: Wy’n
gwybod!
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
CWESTIYNAU
AR BWY DDYLAI LOWRI WRANDO: AR MEIC NEU AR EI MAM?
YDY LOWRI YN DDIGON HEN I WNEUD EI PHENDERFYNIADAU EI HUN?
YDY GAV YN BERSON HYDERUS? YDY E’N DDIGON HYDERUS I FEDDWL DROS
EI HUN?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
FFIT? MEIC YN CHWARAE ‘KEEPY UPPY’ NEU RYWBETH SY’N GORFFOROL.
GAV YN CHWARAE GEM GYFRIFIADUR AR EI FFON. MEIC: Ty’d Gav! Ei di’n
dew yn chwara’r fflipin gêmau ’na o hyd. S’nam rhyfedd bo ti ’di
cael
drop o’r tîm. GAV YN EI ANWYBYDDU – YN EI FYD BACH EI HUN MEIC:
Oi! Gav! Helo?! Dwi’n siarad efo ti! SAIB. DIM YMATEB GAN GAV. Gav,
ti’n addict! GAV: Shysh! Wy bron a cyrraedd Lefel 6! MEIC: O, ti’n
sad, ti yn ... a ti ’di mynd yn boring! Ti byth isio gneud dim byd,
byth isio mynd
allan. Ti’n byw ar y fflipin we ’na! Mae ’na’r fath beth i gael
â Internet Addiction Disorder, ti’n gwbod.
GAV: Ssh! MEIC: Wedyn mae pobl yn anghofio sut i siarad efo pobl
go iawn! Wedyn mae’n nhw’n mynd
yn unig ac yn depressed! Ti isio bod fel’na? Wyt ti? GAV: Ieee!
Highest score eto! Oh yes ... wy’n genius! DWRN YN YR AWYR. Ot ti
moyn
rhywbeth? MEIC: Yndw! Chwara pêl-droed! Ty’d ... GAV: Dal sownd
... neges facebook ...
CWESTIYNAU PAM FOD GAV YN DEFNYDDIO CYMAINT O GEMAU
CYFRIFIADUROL A GEMAU FFÔN? YDY MEIC YN IAWN I FEIRNIADU GAV
GYMAINT?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
BETH I’W WNEUD NESAF?
JEN YN CEISIO CAEL GAFAEL AR FFÔN GAV.
JEN: Wy moyn gweld!
GAV: Wel so ti’n cael!
JEN: Llun yw e ?
GAV: Falle ...
JEN: Llun brwnt?! O, dere, ti’n gorfod dangos e i mi nawr!
GAV: Alla i ddim. Ti’n ffrindie da hi.
JEN: Odw? Pwy yw hi?! Dangos i mi, plîs!!
GAV: Sai moyn ... (YN AWGRYMOG) ond falle bod ffordd i
mherswadio i...
JEN: Gav ... ti’n pyrf ...
GAV: Paid galw fi’n pyrf ...
JEN YN RHOI CIC IDDO FEL EI FOD YN PLYGU A HITHAU’N BACHU’R FFON
ODDI
ARNO.
GAV: Oi!
JEN: O mai god! Disgysting!! Pwy fydde’n pôso felna, yn gwbl
noeth?! Ych ... ond ... saf funed ... nage ... yfe Lowri yw hi? Ie!
Hi yw hi! Shwt gest ti? Beth ma ... sai’n credu hyn!
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
CWESTIYNAU BETH DDYLAI GAV WEDI’I WNEUD PAN WELODD Y LLUN AR EI
FFÔN GYNTAF? BETH DDYLAI LOWRI WNEUD NAWR? YDY E’N GYFREITHIOL I
BOBL IFANC GAEL LLUNIAU ANWEDDUS O BOBL IFANC AR EU FFÔN? (NAC
YDY)
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
FFRIND – PA FFRIND? JEN: Pam na fydde hi wedi gweud wrtho i?
Ni’n gweud popeth wrth ein gilydd, a wedodd hi
ddim byd am hyn ... DECHRAU GWYLLTIO. Fflipin hec! Wy’n gweud
popeth wrthi hi! Na beth mae ffrindie’n gwneud! Trysto’i gilydd!
Wel, so hi’n fy nhrysto i’n amlwg! GWYLLTIO MWY ... A nawr sai’n ei
thrysto hi chwaith! Poso fel hyn! A- a-a’i yrru e at Meic?!
GAV: O’n i’n meddwl bo chi’n ffrindie? JEN: Ydyn! ... Dim ond ei
bod hi’n hala fi’n benwan weithie. Meddwl ei bod hi gymaint
gwell
na phawb. Tynnu fi lawr o hyd. Dangos ei hunan ... GAV: Bydde
hi’n cael dangos ei hunan i fi unrhyw ddiwrnod ... JEN: O, na, ti
’fyd?! Be sy’n bod arnoch chi?! GAV: (Pwy yw) ‘Chi’? JEN: Bechgyn!
Dynion – hyd yn oed yr athrawon! ... a hithe’n fflyrtan left, right
and centre!
…A picture never lies, fel maen nhw’n ddweud ... dyma’r Lowri go
iawn ... freckles, warts and all ... hei ... wy’n gwybod ...!
PWYSO’R BOTYMAU... Send ... Diolch Gav!
CWESTIYNAU PAM ANFONODD JEN Y LLUN O LOWRI YMLAEN I BOBL ERAILL?
MAE JEN WEDI TORRI’R GYFRAITH WRTH WNEUD HYN: A DDYLAI POBL IFANC
GAEL EU COSBI YN GYFREITHIOL AM WNEUD BETHAU FEL HYN?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
PWY SY’N GYFRIFOL?
LOWRI: Shwt allet ti Meic? Nest ti addo... rhywbeth personol
rhyngot ti a fi a neb arall oedd e!
MEIC: (METHU EDRYCH ARNI) Camgymeriad oedd o. LOWRI: Camgymeriad
. ti’n dweud wrtho i! Be wnest ti? Pwyso ‘send’ ar ddamwain?! MEIC:
Naci ... LOWRI: O, ar bwrpas felly?! I dalu’n ôl i fi am fennu da
ti?! MEIC: Hei ... wooow. Damwain oedd o Lowri! Wir i chdi! Nes i
ei ddeletio fo, ond ...
mae’n rhaid mai dim ond y sim card oedd hynny a’i fod o’n dal yn
y memory rywsut. Pan werthes i’n ffôn i Gav... mae’n rhaid ei fod
o’n dal yna...
LOWRI: Wel ... oes rhywbeth alli di wneud am y peth te? MEIC:
Fel be?! Mae o allan yna rwan tydi! LOWRI: Be ti’n feddwl? Sai’n
deall – gofynna – na – gorfoda pawb sy wedi’i gael e i’w
ddeletio fe – dwed taw camgymeriad odd e! MEIC: Lowri, unwaith
mae o allan yn y byd mawr cyber-space ... dyna ni. LOWRI: O, cmon,
mae’n rhaid bod rhywbeth gelli di wneud! Mae’n rhaid i ti! Gofyn i
dy
dad – siwr bod yr heddlu’n gallu stopo fe! MEIC: Nac ydyn Lowri!
Yn un peth, ti a fi wedi torri’r gyfraith! Ti – am gymyd y llun
a’i
yrru o, a titha dan oed, a fi am ei dderbyn o! LOWRI: Beth?!
Nest ti ofyn i fi neud rhywbeth ‘illegal’?! MEIC: O, tyd laen
Lowri! Ot ti’n gwbod yn iawn bod y peth yn ‘doji’! Dyna pam dan
ni’n
neud o! Fatha yfed dan oed! Smocio ambell sbliff! LOWRI: Ond ...
ond ... allen i gael fy resto?! MEIC: Gallet! A finna! A phawb sydd
â’r llun ar eu ffonia nhw! Sori. Ond sna’m byd
fedrai neud, wir i ti. Mae o allan o nwylo i. Mae o fel... fel
feirws – a does ’na’m byd alla i na ti neud i’w stopio fo!
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
LOWRI DYNNODD Y LLUN AR EI FFÔN A’I ANFON AT MEIC. GWERTHODD
MEIC EI FFÔN I GAV GYDA’R LLUN DAL ARNO. DANGOSODD GAV Y LLUN I
JEN. ANFONODD JEN Y LLUN YMLAEN AT ERAILL. CWESTIYNAU PWY SY’N
GYFRIFOL? PWY SY’N EUOG?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
ANGEN TRAFOD? ATHRO: Lowri? Mae’n braf dy weld ti’n ôl.
LOWRI: Diolch syr.
ATHRO: Ond ti’n dal ddim yn iawn nagwyt ? Be sy’n bod?
LOWRI: Beth? O ... na, wy’n iawn, syr.
ATHRO: Aros am funud bach. Dwi’n dy nabod di’n ddigon da i wybod
bod rhywbeth ddim
yn iawn, Lowri. Ers sbel rwan...
LOWRI: Bach o ffliw o hyd falle syr ... CYCHWYN AM Y DRWS
ATHRO: Lowri ... nid ffliw mo hyn. Mae rhywbeth yn dy boeni di
does? LOWRI DDIM YN ATEB.
Wyt ti angen trafod gyda rhywun?
LOWRI YN SYLLU ARNO, BRON A DEUD, YNA:
LOWRI: Alla i ddim, syr.
ATHRO: Ddim efo fi ella... Fydda’n well gen ti siarad efo’r
Pennaeth Blwyddyn?
LOWRI: Mrs Pugh?! ( HANNER CHWERTHIN) Na, syr ...
ATHRO: Oes ’na rywun alli di siarad efo nhw? Ma’n bwysig gallu
siarad am betha sy’n dy boeni di, Lowri. Ti’n gwybod hynny. A ma
beth bynnag ydi o’n effeithio ar dy waith di, ac alli di’m fforddio
hynny, nid yn dy flwyddyn TGAU.
LOWRI: Wy’n gwybod syr.
ATHRO: Lowri, mae gen ti ddyfodol disglair. Dwi’m isio dy weld
ti’n colli allan oherwydd ... methu rhannu dy broblema, beth bynnag
ydyn nhw ...
LOWRI: Diolch syr. Wy’n gwerthfawrogi ... STOPIO EI HUN. - Gai
fynd nawr, os gwelwch chi’n dda, syr?
SAIB
ATHRO: Cei. Mae’n ddrwg calon gen i nad wyt ti’n gallu siarad
efo fi, ond ’na fo. Ond siarada efo rhywun ... iawn?
LOWRI: Iawn, syr. Sori ... diolch. A BRYSIO I FFWRDD, A’I PHEN I
LAWR.
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
CWESTIYNAU
A DDYLAI LOWRI DRAFOD Y SEFYLLFA GYDA RHYWUN?
PAM NAD OEDD LOWRI YN TEIMLO Y GALLAI DRAFOD GYDA’R ATHRO?
SUT BYDDAI TRAFOD Y BROBLEM YN HELPU LOWRI?
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
TRAFOD Y DDRAMA FEL DARN O GELFYDDYD Prif fwriad Cwmni Theatr
Arad Goch wrth gyflwyno Cynyrchiadau mewn ysgolion yw galluogi pobl
ifanc
i weld theatr gyfoes sydd yn uchel ei safon ac yn berthnasol ei
apêl i bobl ifanc.
Yn ogystal â galluogi’n cynulleidfaoedd i drafod pynciau pwysig,
rydyn ni’n awyddus i’w helpu i drafod
celfyddyd. Gobeithiwn y byddwch chi, yr athrawon, yn eu
cynorthwyo i wneud hynny: cynigir y sylwadau
a chwestiynau canlynol er mwyn dechrau’r drafodaeth.
Oedd hi’n stori dda?
Sut lwyddodd y ddrama a’r perfformiadau i’ch denu chi mewn i’r
stori?
Wrth wylio’r ddrama, am beth roeddech chi’n meddwl?
Wrth wylio’r ddrama wnaethoch chi sylwi eich bod chi’n gwenu ar
rywbeth? Neu a wnaethoch chi sylwi
eich bod chi’n grac tuag at un o’r cymeriadau? Pam?
Oedd y ddrama yn eich hatgoffa o rywun rydych chi’n adnabod neu
o rywbeth sydd wedi digwydd I
rywun rydych chi’n adnabod?
Pa mor gredadwy oedd y cymeriadau? Pam?
Pa fath o iaith a ddefnyddiwyd: naturiol / ffurfiol / clasurol /
barddonol / disgrifiadol / caled / ysgafn?
Oedd y deialog mewn brawddegau hirion neu mewn cymalau byrion?
Sut oedd hyn yn effeithio ar
rhythm y ddrama? A oedd hyn wedi helpu i gynnal diddordeb?
Mae drama lwyfan yn dangos tameidiau o’r stori: sut oedd y
sgript a’r cyfarwyddo wedi llwyddo i glymu’r
tameidiau at ei gilydd?
A oedd y stori yn llifo yn dda? A oedd y stori’n gwneud synnwyr
fel cyfanwaith? Pam? / Pam lai?
Oedd y lluniau llwyfan a’r symudiadau wedi helpu dweud y stori?
Sut? / Pam? / Pam lai?
Sut oedd y set – y celfi llwyfan a’r goleuadau – a’r sain wedi
ychwanegu at y perfformiad?
Sut oedd y set, y gwisgoedd, y goleudadau a’r sain wedi
ychwnanegu at y profiad theatrig?
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘stori’ a ‘profiad theatrig’? Ydy’r
naill yn helpu’r llall? Pa un yw’r
pwysicaf?
Wnaethoch chi fwynhau?
Ysgrifennwch un frawddeg gryno a chryf i ddisgrifio’r ddrama
a’ch ymateb iddi.
-
SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014
Gwybodaeth ychwanegol i athrawon / Additional information for
teachers
ASTUDIAETHAU / STUDIES DEUNYDDIAU ERAILL / OTHER RESOURCES
ERTHYGLAU / ARTICLES GWEFANNAU / WEBSITES
Association of Chief Police Officers of England, Wales and
Northern Ireland. Child Protection and Abuse Investigation (CPAI)
Group - Position on Young People Who Post Self-Taken Indecent
Images.
http://www.ceop.police.uk/Documents/ceopdocs/externaldocs/ACPO_Lead_position_on_Self_Taken_Images.pdf
A qualitative study of children, young people and 'sexting' - A
report prepared for the NSPCC.
http://www.nspcc.org.uk/Inform/resourcesforprofessionals/sexualabuse/sexting-research-report_wdf89269.pdf
Teenage girls face sexting threat from friends. BBC Mai / May
2012. http://www.bbc.co.uk/news/technology-18088334 SIM card to
help parents protect children from bullying. BBC Mai / May 2012.
http://www.bbc.co.uk/news/technology-18144038 Sexting: a new teen
cyber-bullying 'epidemic'. The Telegraph, Ebrill / April 2012
http://www.telegraph.co.uk/technology/facebook/9199126/Sexting-a-new-teen-cyber-bullying-epidemic.html
Police warn of teenage 'sexting'. BBC, Ebrill / April 2009
http://news.bbc.co.uk/newsbeat/hi/technology/newsid_8181000/8181443.stm
Teens strip off for sexting craze. The Sun, Ionawr / January 2009
http://www.thesun.co.uk/sol/homepage/news/2130663/Teens-strip-off-for-sexting-craze.html
Think before you hit send: Teenagers warned about 'sexting' risks.
Chwefror / February 2011.
http://www.dailymail.co.uk/news/article-1354739/Children-warned-sexting-risks-Think-hit-send.html
MPs to debate the growing problem of young girls being pressurised
into 'sexting' The Independent, Ebrill / April 2012.
http://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/health-news/mps-to-debate-the-growing-problem-of-young-girls-being-pressurised-into-sexting-7676015.html
Celebrity 'sexting' scandals lead to teenagers sending more
sexually explicit messages. Daily Mail, Hydref / October 2011.
http://www.dailymail.co.uk/news/article-2044405/Celebrity-sexting-scandals-lead-teenagers-sending-sexually-explicit-messages.html
http://www.ceop.police.uk/Documents/ceopdocs/externaldocs/ACPO_Lead_position_on_Self_Taken_Images.pdfhttp://www.ceop.police.uk/Documents/ceopdocs/externaldocs/ACPO_Lead_position_on_Self_Taken_Images.pdfhttp://www.nspcc.org.uk/Inform/resourcesforprofessionals/sexualabuse/sexting-research-report_wdf89269.pdfhttp://www.nspcc.org.uk/Inform/resourcesforprofessionals/sexualabuse/sexting-research-report_wdf89269.pdfhttp://www.bbc.co.uk/news/technology-18088334http://www.bbc.co.uk/news/technology-18144038http://www.telegraph.co.uk/technology/facebook/9199126/Sexting-a-new-teen-cyber-bullying-epidemic.htmlhttp://www.telegraph.co.uk/technology/facebook/9199126/Sexting-a-new-teen-cyber-bullying-epidemic.htmlhttp://news.bbc.co.uk/newsbeat/hi/technology/newsid_8181000/8181443.stmhttp://www.thesun.co.uk/sol/homepage/news/2130663/Teens-strip-off-for-sexting-craze.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-1354739/Children-warned-sexting-risks-Think-hit-send.htmlhttp://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/health-news/mps-to-debate-the-growing-problem-of-young-girls-being-pressurised-into-sexting-7676015.htmlhttp://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/health-news/mps-to-debate-the-growing-problem-of-young-girls-being-pressurised-into-sexting-7676015.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-2044405/Celebrity-sexting-scandals-lead-teenagers-sending-sexually-explicit-messages.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-2044405/Celebrity-sexting-scandals-lead-teenagers-sending-sexually-explicit-messages.html