Top Banner
1
28

Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Jan 20, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

1

Page 2: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

CYNNWYS

Rhif Tudalen

Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2

Cyflwyniad 3

Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4

Proffil y Rôl 5

Manyleb Person 7

Swyddi â Chyfyngiadau Gwleidyddol 10

Ardal De Cymru 11

Ynglŷn â'r Comisiynydd 12

Panel yr Heddlu a Throseddu 13

Gweithio mewn Partneriaeth 14

Ynglŷn â Heddlu De Cymru 15

Tîm Cymorth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru 16

Bywgraffiad o Alun Michael 17

Addewidion y Comisiynydd 19

1

Page 3: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Cynorthwyydd Gweinyddol

Annwyl Ymgeisydd,

Diolch am eich diddordeb yn y rôl Rheolwr Ymateb y Cyhoedd (Cyfnod Mamolaeth)

Rwyf am gyflogi person llawn cymhelliant gyda phrofiad perthnasol i weithio mewn tîm gweinyddol prysur sy'n cefnogi fy nhîm arwain.

Darllenwch drwy'r wybodaeth amgaeedig, sy'n cynnwys proffil y rôl, y gofynion ar gyfer y rôl a manylion ynglŷn â sut i wneud cais am y swydd. Os teimlwch eich bod yn bodloni'r meini prawf, ac y gallwch gynorthwyo gyda'r gwaith o gyflawni fy ngweledigaeth a'm haddewidion, hoffwn glywed gennych yn fawr iawn.

Diolch am eich diddordeb

Y Gwir Anrh Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

2

Page 4: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

CYFLWYNIAD

Cyfrifoldeb cyffredinol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yw cynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon ac i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ostwng troseddu a diogelwch y gymuned yn ardal yr heddlu.

Er mwyn ei gynorthwyo gyda'r gwaith hwn, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ceisio penodi arweinydd Cynorthwyydd Gweinyddol. Yn adrodd yn ôl i Gomisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu, bydd y rôl wedi’i lleoli ym Mhencadlys Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn weithredol ledled ardal Heddlu De Cymru.

Rheolwr Ymateb y Cyhoedd (Cyfnod Mamolaeth)

Y dyddiad cau ar gyfer y swyddfa hon yw hanner dydd, 4 Awst 2017

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys manylion proffil y rôl, ynghyd â gwybodaeth gefndir am y Comisiynydd a'i rôl.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn www.southwalescommissioner.org.uk.

I gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r rôl, cysylltwch â Leah Lewis neu Cerith Thomas, Pennaeth Staff y Comisiynydd, ar 01656 869366

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn gadarn yn ei gefnogaeth i'r polisi cyfle cyfartal a byddai'n croesawu ceisiadau gan bob unigolyn cymwys, waeth beth yw ei ryw, tarddiad ethnig, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.

Gellir ystyried secondiad i'r rôl.

Dylid dychwelyd y Ffurflen Gais wedi’i chwblhau erbyn y dyddiad cau, naill ai'n electronig neu ar ffurf copi caled:

E-bost: [email protected]: Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Tŷ Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU.

3

Page 5: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Trosolwg o'r Swydd

Adran: Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Lleoliad: Tŷ Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU

Fetio Diogelwch: Caiff gwiriadau eu gwneud ar ddwy lefel sef: Fetio Rheoli a Gwiriad Diogelwch. Mae'r categori cyntaf yn cynnwys gwiriadau lleol ar systemau Heddlu De Cymru ac mae'r ail yn wiriad cenedlaethol gydag M15

Atebol i: Pennaeth Staff

Meini Prawf Iechyd Penodol: Dim

Cydgysylltu â: Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r tîm arwain, Prif Gwnstabl, Prif Swyddogion, Aelodau Seneddol, Aelodau'r Cynulliad, Cynghorwyr, sefydliadau partner lleol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Cyrff y GIG, y Gwasanaeth Prawf ac ati, yn ogystal â sefydliadau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol ac aelodau o'r cyhoedd

Cyflog: £31,053 - £35,451 y flwyddyn

Cyfnod mewn Swydd: Cyfnod Mamolaeth

Oriau: 37 awr yr wythnos

4

Page 6: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

DIBEN A CHYFRIFOLDEBAU'R RÔL

DIBEN Y RÔL Byddwch yn rhan o dîm dynamig yn gweithio gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu De Cymru er mwyn gostwng troseddu a gwella hyder y cyhoedd. Mae plismona'n fater cymhleth ac mae Heddlu De Cymru, wrth natur, yn gorff o bobl â heriau cymhleth mewn cymdeithas fodern.

Cyfrifoldeb cyffredinol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw cynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon a chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ostwng troseddu a diogelwch y gymuned yn ardal yr heddlu.

Yn ôl y ddeddfwriaeth, rôl y Comisiynydd yw dwyn yr heddlu i gyfrif, ond mae hefyd yn cynnwys gweithio gyda'r heddlu i ostwng troseddu a chyflwyno gwasanaeth heddlu gwell i gymunedau lleol wrth ymdopi â bygythiadau mawr a llai o adnoddau, a herio sefydliadau yn y system cyfiawnder troseddol i ddiwallu anghenion y cyhoedd.

Bydd y sawl a benodir yn unigolyn hunangymhellol â sgiliau cyfathrebu clir a'r gallu i weithio fel aelod o dîm bach, ond dynamig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r Comisiynydd wrth ymateb i sylwadau a chwynion gan y cyhoedd. Nododd y llywodraeth rôl i Gomisiynwyr roi llais i'r cyhoedd, yn enwedig dioddefwyr troseddau, gweithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau diogelwch y gymuned a sicrhau cyfiawnder troseddol effeithiol wrth gydnabod pwysigrwydd annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl.

Mae deddfwriaeth yn cynnwys prosesau sefydledig ar gyfer ymdrin â chwynion ffurfiol. Bydd y sawl a benodir yn cefnogi'r Comisiynydd wrth roi ymatebion defnyddiol i sylwadau'r cyhoedd, ymgysylltu â gwasanaeth yr heddlu ar ddarparu gwasanaeth a sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu helpu i gyrraedd y rhai sy'n gyfrifol am ymateb lle nad yw'r materion yn rhai y mae'r Comisiynydd yn gweithredu arnynt. Bydd y sawl a benodir hefyd yn cefnogi'r Comisiynydd i ymdrin â chwynion sydd o fewn ei gylch gwaith.

PRIF GYFRIFOLDEBAU

Cyngor ac Arweiniad Asesu gofynion personol y rhai sy'n ffonio, galw, neu'n

ysgrifennu (yn enwedig aelodau'r cyhoedd) a darparu digon o gymorth, cyngor ac arweiniad.

Monitro a sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl reoliadau a chanllawiau polisi.

5

Page 7: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Monitro cwynion yn erbyn swyddogion yr heddlu hyd at ac yn cynnwys rheng Uwcharolygydd a'r rhai a wneir yn erbyn staff yr heddlu.

Ymchwilio i gwynion a wneir yn erbyn y Prif Gwnstabl a llunio ymatebion iddynt.

Ymchwilio i gwynion a geir gan aelodau'r cyhoedd, swyddogion yr heddlu neu staff safonau ymddygiad a lefelau gwasanaeth a llunio ymatebion iddynt.

Ymchwilio i gwynion am ansawdd gwasanaeth a llunio ymatebion iddynt.

Cynnal rhestr o aelodau annibynnol ar gyfer Paneli Camymddygiad yr Heddlu.

Cynnal cofrestr gyhoeddus o fuddiannau ariannol a buddiannau eraill Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Bod yn gyfrifol am drefnu Tribiwnlysoedd Apêl yr Heddlu Cydlynu ystyriaeth y Comisiynydd ynghylch fforffedu

pensiynau'r heddlu. Cynorthwyo'r Pennaeth Staff â rôl Swyddog Monitro. Cysylltu, yn ôl yr angen, â Chomisiwn Cwynion Annibynnol

yr Heddlu (IPCC), Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r Ombwdsmon Pensiynau.

Gweithredu cyfrifoldebau'r Comisiynydd, a'u datblygu lle y bo angen, ar gyfer safonau gwasanaeth a materion cwynion.

Rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion uwchgyfeiriedig, amrywiol a chymhleth sy'n ymwneud â maes gwaith

Datrys problemau cymhleth a rhoi cyngor ystyriol i'r Comisiynydd

Nodi problemau difrifol a'u huwchgyfeirio Nodi meysydd risg i'r Comisiynydd a'ch maes gwaith eich

hun Cael ceisiadau rhyddid gwybodaeth ac ymateb iddyntGwella Busnes Cyfrannu at nodi, cynnig a gweithredu datblygiadau a

gwelliannau i'r maes, yr uned neu'r prosiect.Gwasanaeth Cwsmeriaid a Chynrychiolaeth Cyflwyno delwedd a gwasanaeth cadarnhaol i gwsmeriaid

mewnol ac allanol Ymgysylltu'n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol ar

bob lefel, er mwyn darparu gwasanaeth o safon uchel Bod ag ymagwedd broffesiynol at rannu data, diogelu data

a rheoli gwybodaeth.Trefnu/Cynllunio Cynllunio a threfnu gwaith i'w gwblhau o fewn fframwaith,

safonau ac amserlenni penodol Trefnu digwyddiadau/cyfarfodydd yn ôl cyfarwyddyd Gweithredu strategaeth tîm a chyfrannu ati yn ôl

cyfarwyddyd Datblygu, cynnig a gweithredu cynllun prosiect/busnes

cymeradwy ar gyfer y tîm, y pwnc neu'r swyddogaeth

6

Page 8: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Nodi, ceisio cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio adnoddau addas ar gyfer y maes pwnc neu'r prosiect i gyflawni ei amcanion

Rheoli Pobl Cynorthwyo'r tîm wrth baratoi a defnyddio cyfarpar a

thechnegau a chynghori ar unrhyw agweddau penodol ar y gwaith yn eich maes eich hun

Polisïau a Strategaethau Ymchwilio i bolisïau, eu hadolygu a'u drafftio Monitro'r dull o weithredu polisïau ac adrodd arno er mwyn

sicrhau cydymffurfiaeth a nodi problemauRheoli Prosiect Trefnu a rheoli'r broses o gyflwyno'r maes pwnc neu'r

prosiectau o ddydd i ddydd, gan gynnwys paratoi a chynllunio adnoddau

Rheoli Risg a Chydymffurfiaeth Gyfreithiol Nodi risgiau yn eich cylch gwaith eich hun a'u lleddfu a rhoi

gwybod i eraill am risgiau Sicrhau bod yr uned yn bodloni ei rhwymedigaeth o ran

Iechyd a Diogelwch ac uwchgyfeirio problemau difrifol Nodi risgiau, mesur effeithiau a rhoi cyngor i bobl ar y

canfyddiadau Bodloni rhwymedigaethau o ran deddfwriaeth gysylltiedigYn ogystal, bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol o'r fath a all godi yn sgîl amgylchiadau sy'n newid, ond nad ydynt o anghenraid yn newid natur gyffredinol na lefel gyfrifoldeb y swydd.

MANYLEB PERSON

Cymwysterau: Hanfodol: Addysg hyd at lefel gradd neu lefel gyfatebol

Dymunol: Dealltwriaeth o system gwynion yr heddlu a/neu brofiad blaenorol o reoli cwynion.

Sgiliau: Hanfodol

Mae'n rhaid meddu ar sgiliau cyfrifiadurol a medrusrwydd mewn cymwysiadau Microsoft wrth gefnogi cymwysiadau busnes

Cynorthwyo wrth ddatblygu datrysiadau T.G. i'r Comisiynydd

Gallu dangos y gallu i gynnal asesiadau rheoli risg mewn perthynas â monitro cwynion

Gallu dangos sgiliau trefnu a chynllunio mewn perthynas â

7

Page 9: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

chynnal cofrestri a mesurau rheoli ansawdd

Dymunol Profiad blaenorol o ymdrin â cheisiadau Rhyddid

Gwybodaeth Gallu sgwrsio yn Gymraeg hyd at lefel 1 neu uwch

Gwybodaeth: Hanfodol Mae'n rhaid dilyn y newyddion diweddaraf o ran

deddfwriaeth, polisïau a materion cymdeithasol, e.e. Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredd a pholisi chwythu'r chwiban

Mae'n rhaid dangos ymwybyddiaeth strategol a dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Rhinweddau Personol

Gwasanaethu'r cyhoeddDangos cred wirioneddol mewn gwasanaethu'r cyhoedd, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r cyhoedd ac a fydd o'r budd mwyaf i'r cyhoeddDeall disgwyliadau, anghenion a phryderon newidiol cymunedau gwahanolMagu hyder y cyhoedd drwy fynd ati i ymgysylltu â chymunedau, asiantaethau a rhanddeiliaid gwahanolDeall safbwynt a blaenoriaethau partneriaid a chydweithio â nhw

ProffesiynoldebGweithredu ag uniondeb.Cadw at addewidion, gan ddangos ymrwymiad personol, egni a chymhelliant i gyflawni pethau.Diffinio ac atgyfnerthu safonau, gan ddangos y rhain yn bersonol a meithrin diwylliant o gyfrifoldeb personol yn y tîm.

Arwain NewidSefydlu darlun a chyfeiriad clir i'r tîm yn y dyfodol.Nodi a gweithredu'r newidiadau, drwy feddwl y tu hwnt i gyfyngiadau'r ffyrdd presennol o weithio a bod yn barod i wneud newidiadau radical pan fydd angenGofyn am adborth ar eich dull gweithredu eich hun, a gweithredu ar yr adborth hwnnw, gan barhau i ddysgu ac addasu i amgylchiadau newydd

Arwain poblCreu brwdfrydedd ac ymrwymiad drwy wobrwyo perfformiad da gan eraill a rhoi cydnabyddiaeth a chanmoliaeth wirioneddolHyrwyddo dysgu a datblygu, gan roi adborth gonest ac adeiladol er mwyn helpu pobl i ddeall eu cryfderau a'u gwendidau a buddsoddi amser yn hyfforddi a mentora cydweithwyr.

Rheoli Perfformiad

8

Page 10: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Creu cynllun strategol clir i sicrhau y caiff amcanion eu cyflawni.Cytuno ar amcanion a blaenoriaethau heriol, ond cyflawnadwy a nodi cyfleoedd i sicrhau y cyflawnir y gwerth gorau am arian.Amlygu arfer da a'i ddefnyddio i fynd i'r afael â thanberfformioMonitro cynnydd a dwyn pobl i gyfrif am gyflawni

Gwneud penderfyniadauCymathu gwybodaeth gymhleth yn gyflym, gan bwyso a mesur dewisiadau amgen a gwneud penderfyniadau cadarn ac amserolCasglu'r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael a'i hystyried, gan geisio cyngor gan arbenigwyr a gwrando ar y cyngor hwnnwGofyn cwestiynau treiddgar er mwyn profi ffeithiau a thybiaethau a meithrin dealltwriaeth lawn o'r sefyllfaNodi materion allweddol yn glir a chwilio am y cydberthnasau rhwng y ffactorau gwahanolYstyried goblygiadau ehangach opsiynau gwahanol, gan asesu costau, risg a manteision pob unGwneud penderfyniadau clir a chymesur y gellir eu cyfiawnhau, ac adolygu'r rhain yn ôl yr angen

Cydweithio ag eraillMeithrin cydberthnasau gwaith effeithiol â phobl drwy gyfathrebu clir a dull cydweithredol o weithioBod yn weladwy i staff a sicrhau bod prosesau cyfathrebu yn gweithio'n effeithiol ym mhob rhan o'r tîmYmgynghori’n eang a chynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau, gan siarad â nhw mewn ffordd y maent yn ei deall ac y gallant ymgysylltu â hiTrin pobl â pharch ac urddas ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau, gan hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethuTrin pobl fel unigolion, gan ddangos doethineb, empathi a thosturiHyrwyddo syniadau yn argyhoeddiadol gan nodi manteision dull penodol o weithredu a cheisio creu atebion sydd o fudd i'r ddwy ochrMynegi eich barn eich hun yn gadarnhaol ac yn adeiladol ac ymrwymo'n llawn i benderfyniadau'r tîm

SWYDDI Â CHYFYNGIADAU GWLEIDYDDOL

9

Page 11: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Mae Rheolwr Ymateb y Cyhoedd (Cyfnod Mamolaeth) yn swydd â chyfyngiadau gwleidyddol.

Mae Deddf Llywodraeth Leol a Tai 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i staff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu baratoi rhestr o bob swydd a ystyrir yn un â chyfyngiadau gwleidyddol. Mae'r Ddeddf yn gosod cyfyngiadau ar weithgaredd gwleidyddol cyhoeddus gan ddeiliaid swyddi o'r fath.

Caiff pob aelod o staff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac eithrio'r Comisiynydd a Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, eu cyfyngu'n wleidyddol.

I grynhoi, mae'r cyfyngiadau a osodir ar ddeiliaid y swyddi yn cynnwys: Dod (drwy etholiad neu fel arall) neu barhau yn aelod o Awdurdod Lleol,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu;

Datgan, neu ganiatáu i eraill ddatgan eu hymgeisyddiaeth ar gyfer un o'r swyddi uchod;

Dal swydd mewn plaid wleidyddol; Canfasio yn ystod etholiadau a Siarad neu ysgrifennu yn gyhoeddus ar faterion yn ymwneud â dadl

wleidyddol bleidiol.

10

Page 12: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

ARDAL DE CYMRU

Er ei bod yn ardal ddaearyddol fach, mae gan ardal Heddlu De Cymru gyfrifoldeb dros 42% o boblogaeth Cymru. Mae ein hardal hefyd yn denu tua 25 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cynnal bron 200 o ddigwyddiadau mawr.

Mae cyfanswm o 47% o'r troseddau yng Nghymru yn digwydd yn ardal Heddlu De Cymru.

Rydym yn gwasanaethu'r saith ardal awdurdod lleol canlynol:

Pen-y-bont ar Ogwr Caerdydd Merthyr Tudful Castell-nedd Port Talbot

Rhondda Cynon Taf Abertawe a Bro Morgannwg

Mae ardal Heddlu De Cymru wedi'i rhannu yn bedwar rhanbarth plismona (Gogleddol, Dwyreiniol, Canolog a Gorllewinol). Gelwir y rhain yn Unedau Rheoli Sylfaenol (BCU).

Mae De Cymru yn ardal amrywiol, gydag ardaloedd trefol, gwledig ac arfordirol. O fewn ein ffiniau mae gennym ddwy ddinas fawr – Abertawe a Phrifddinas Cymru, Caerdydd.

Mae Abertawe yn gartref i borthladd fferi, Tîm Pêl Droed yr Uwchgynghrair, Dinas Abertawe a Thîm Rygbi Rhanbarthol y Gweilch.

Mae Caerdydd, un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop, yn gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Stadiwm y Mileniwm sy'n fyd-enwog, Tîm Pêl Droed y Bencampwriaeth, Dinas Caerdydd, a Thîm Rygbi Rhanbarthol Gleision Caerdydd. Mae calon ddiwydiannol y ddinas wedi cael ei hadnewyddu yn dilyn adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi'i leoli ym Mro Morgannwg

Yn ogystal â'n dwy ddinas mae ardal Heddlu De Cymru yn cynnwys cymoedd enwog y Rhondda, Cynon, Taf, Castell-nedd, Dulais, Abertawe, Afan, Llynfi, Garw ac Ogwr, sydd wedi newid yn gyflym iawn dros y tri degawd diwethaf.

Mae ein ffin Deheuol yn arfordir i gyd, ac yn cynnwys porthladdoedd y Barri, Port Talbot ac Abertawe, y cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid sef Porthcawl, y Mwmbwls a Phenrhyn Gwyr, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a threfi glan môr eraill megis Penarth a Llanilltud Fawr.

Mae maint a chymhlethdod y digwyddiadau y mae Heddlu De Cymru yn ymdrin â hwy'n rheolaidd yn gwneud yr Heddlu'n unigryw yng Nghymru. Mewn arfer meincnodi diweddar, dangosodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (ACEM) mai ni sydd â'r pumed galw uchaf am wasanaethau plismona yng Nghymru a Lloegr.

11

Page 13: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Bob blwyddyn, mae Heddlu De Cymru yn gwneud y canlynol:

Delio â thua 430,000 o ddigwyddiadau Derbyn mwy na 200,000 o alwadau brys 999 Arestio mwy na 38,000 o bobl Delio ag 87,000 o droseddau

YNGLŶN Â CHOMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU

Penodwyd Alun Michael yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ar 15 Tachwedd 2012. Yn 2016 cafodd ei ailethol am ail dymor gyda'r mwyafrif mwyaf o blith unrhyw Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.

Nododd yn glir ei uchelgais i “ychwanegu gwerth” drwy gydweithio'n agos â'r Prif Gwnstabl, gyda'r tîm heddlu cyfan a gyda phartneriaid eraill ledled De Cymru i ostwng troseddu yn ogystal â chyflawni ei gyfrifoldeb i gynnal gwasanaeth yr heddlu effeithiol ac effeithlon a dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Mae'r Comisiynydd yn chwarae rhan flaenllaw yn niogelwch y gymuned a gostwng troseddu yn ardal yr Heddlu.

Mae dyletswyddau ffurfiol y Comisiynydd yn ôl y gyfraith yn cynnwys: Pennu blaenoriaethau plismona lleol, yn dilyn ymgynghori â'r cyhoedd ac

ystyried unrhyw ofynion cenedlaethol gan yr Ysgrifennydd Cartref; Llunio Cynllun yr Heddlu a Throseddu, yn amlinellu'r blaenoriaethau; Craffu ar berfformiad yr heddlu, ei gefnogi a'i herio; Pennu cyllideb flynyddol yr heddlu a phraesept y dreth gyngor*; Penodi* ac, os oes angen, diswyddo'r Prif Gwnstabl; Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon; Mynychu cyfarfodydd Panel yr Heddlu a Throseddu; Ymchwilio i gwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl, a monitro'r holl gwynion a wneir

yn erbyn swyddogion a staff; Gweinyddu Cynllun Ymweld â'r Ddalfa Annibynnol; Ymgynghori â'r cyhoedd a'i gynnwys; Cydweithredu â heddluoedd eraill ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.

(* yn amodol ar benderfyniad feto Panel yr Heddlu a Throseddu. Ers 2012 mae ei gynigion wedi cael eu cymeradwyo gan y Panel bob blwyddyn) Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am y gronfa heddlu leol.  Mae'n cael pob grant gan y llywodraeth a phraesept heddlu y dreth gyngor ac yn pennu'r gyllideb, mewn ymgynghoriad â'r Prif Gwnstabl. Y Prif Gwnstabl sy'n gyfrifol am blismona gweithredol.

12

Page 14: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

PANEL YR HEDDLU A THROSEDDU

Mae Panel yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am adolygu a chraffu ar holl benderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Mae'r Panel yn cynnwys hyd at ddeg Cynghorydd lleol, sy'n cynrychioli'r saith awdurdod lleol yn Ne Cymru, ynghyd â dau aelod annibynnol cyfetholedig. 

Mae cyfrifoldebau'r Panel yn cynnwys: Llunio adroddiadau a gwneud argymhellion ynglŷn â gweithredoedd a/neu

benderfyniadau'r Comisiynydd; Craffu ar ddrafft o Gynllun yr Heddlu a Throseddu; Gwysio'r Comisiynydd, a staff y Comisiynydd, i gael eu holi'n gyhoeddus; Craffu ar gyllideb yr heddlu a phraesept y dreth gyngor, a rhoi feto arnynt o

bosibl (yn amodol ar fwyafrif o ddwy ran o dair); Craffu ar benodiad y Prif Gwnstabl, a rhoi feto arno o bosibl (yn amodol ar

fwyafrif o ddwy ran o dair); Penodi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dros Dro o blith staff y

Comisiynydd os bydd yn ymddiswyddo, yn cael ei wahardd o'i swydd, wedi'i analluogi neu wedi'i atal o'i waith dros dro;

Cynnal gwrandawiad cadarnhau ar gyfer penodiadau Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu arfaethedig y Comisiynydd;

Delio â chwynion lefel isel yn erbyn y Comisiynydd.  Atgyfeirir honiadau difrifol at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Nid lle'r Panel yw craffu ar berfformiad yr heddlu'n uniongyrchol – dyna yw rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu - ond yn hytrach bydd y Panel yn craffu ar weithredoedd a phenderfyniadau'r Comisiynydd. Fodd bynnag, mae'r Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl o'r farn y gall ymgysylltiad aelodau'r Panel wneud cyfraniad sylweddol a chadarnhaol at waith Heddlu De Cymru. O gadw hynny mewn cof, yn ogystal â chroesawu rôl craffu'r Panel, maent wedi mynd y tu hwnt i'r gofynion statudol drwy ddarparu gwybodaeth lawn ar y cyd i aelodau’r Panel ynglŷn â'r polisi presennol a'r pwysau ariannol sydd wedi llywio’r gwaith o lunio'r Gyllideb a Chynllun yr Heddlu a Throseddu.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy'n gyfrifol am weinyddu Panel yr Heddlu a Throseddu. 

13

Page 15: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

Gweithio mewn Partneriaeth

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r memorandwm yn nodi'r trefniadau cydweithredol rhwng Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Prif Gwnstabl ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym wedi sefydlu rhaglen waith y gytûn yn seiliedig ar y blaenoriaethau a geir yng nghynllun yr Heddlu a gostwng Troseddu a luniais a Chynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu egwyddor sylfaenol buddiannau i'r ddwy ochr er mwyn darparu iechyd, lles a chymunedau mwy diogel yn effeithiol ac yn effeithlon i bobl sy'n byw yng Nghymru. Rydym yn nodi problemau cyffredin ac yn deall yr heriau rydym yn eu hwynebu ac yn datblygu'r broses o gyflawni blaenoriaethau ar y cyd o safbwynt ehangach iechyd cyhoeddus a chyfiawnder ieuenctid gyda phwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar.

Compact gyda'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol ledled De Cymru

Mae Compact Heddlu De Cymru yn gytundeb partneriaeth rhwng Heddlu De Cymru, y ddau Wasanaeth Tân ac Achub a'r Trydydd Sector, wedi'i gynrychioli gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol De Cymru. Ei nod yw helpu i feithrin a chynnal cymunedau iach a diogel ledled De Cymru drwy gryfhau gwaith ar y cyd a gwaith partneriaeth. Mae Grŵp Llywio Compact yn goruchwylio ei weithrediad gan ganolbwyntio ar y canlynol:

Cyfathrebu ac ymgysylltu Ymgynghori ac arfarniad polisi Cyllid a chomisiynu Gwirfoddoli

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd pob agwedd ar y Cytundeb.

14

Page 16: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

YNGLŶN Â HEDDLU DE CYMRU

Ar ôl dod yn Brif Gwnstabl ym mis Ionawr 2010, amlinellodd Peter Vaughan mai ei weledigaeth hirdymor oedd sicrhau mai Heddlu De Cymru yw ‘y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau’, ac i sicrhau bod yr Heddlu yn parhau gyda'i genhadaeth, sef ‘Cadw De Cymru'n Ddiogel’. Dyma beth a ddywedodd:

Gwerthoedd

Mae a wnelo ein gwerthoedd â'r ffordd rydym yn cydweithio i gyflawni ein gweledigaeth ac maent yn sail i bopeth a wnawn. Rydym yn gweld bod cynnwys ein staff wrth lunio ein sefydliad yn hanfodol i'n llwyddiant, a dyna pam ein bod wedi'r creu'r tri gwerth sefydliadol canlynol:

Rydym am fod yn sefydliad proffesiynol gyda staff sy'n onest, sy'n cymryd perchenogaeth ac sy'n dangos parch.

Rydym am i'n staff fod yn falch o'n sefydliad, o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac ohonynt eu hunain.

Rydym am i'n sefydliad fod yn gadarnhaol, yn ymateb i bobl a'u pryderon ac yn ddibynadwy ac yn ofalgar.

Mae darpariaeth wedi'i strwythuro o amgylch pum maes â blaenoriaeth, a nodwyd yn dilyn ymgynghori â'n cymunedau a'n gweithlu, sydd wrth wraidd cyflawni ein cenhadaeth a'n gweledigaeth.

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif: Byddwn yn sicrhau y bydd pob cyswllt ag unrhyw aelod o Heddlu De Cymru yn diwallu eu hanghenion a'u bod yn teimlo'n fodlon wrth iddynt ddelio â ni.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol: Wrth blismona De Cymru byddwn yn sicrhau ein bod yn trin pawb ag urddas a chydraddoldeb, gan barchu amrywiaeth a hawliau dynol.

Ansawdd Gwasanaeth: Wrth ddarparu ein gwasanaeth, byddwn yn sicrhau ei fod o'r ansawdd uchaf, p'un a fwriedir iddo ostwng troseddu, canfod troseddau neu gefnogi dioddefwyr troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Arweinyddiaeth: Byddwn yn grymuso ac yn datblygu arweinwyr cryf a galluog, i gefnogi plismona effeithiol yn ein cymunedau.

Gwerth am Arian: Byddwn bob amser yn gweithio i ddarparu Gwerth am Arian – gan sicrhau bod diben i bopeth rydym yn ei wneud a'n bod yn ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl.

15

Page 17: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

TÎM CYMORTH COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDDU DE CYMRU

Caiff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei gefnogi gan dîm bach o swyddogion, sy'n darparu cymorth arbenigol iddo wrth gyflawni ei ddyletswyddau.  Manylion y Tîm Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu – Emma WoolsComisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu – Bonnie NavarraComisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu – Lee JonesComisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu a Throseddu – Mark Brace

Pennaeth Staff – Cerith Thomas Trysorydd – Geoff PettyArweinydd Polisi - Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – Hannah JenkinsArweinydd Polisi - Gostwng Trais ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Daniel JonesArweinydd Polisi - Trais yn Erbyn Menywod a Merched - Paula HardyArweinydd Polisi - Gwasanaethau Dioddefwyr - Wendy EvansArweinydd Polisi - Cyfiawnder Ieuenctid ac Oedolion Ifanc – Sian ReesUwch Swyddog Cymorth Prosiect, Gostwng Trais - Claire CunliffeSwyddog Cymorth Prosiect - Sarah Mahon Rheolwr Ymateb y Cyhoedd – Jaqueline TrowDadansoddwr Partneriaeth – Christina PhillipsRheolwr Partneriaethau a Gwirfoddolwyr – Sue Poole Swyddog Staff – Harry HendricksSwyddog Staff - Helen Adams Swyddog Staff – Michelle Cooper Secondai yr Heddlu – Rhingyll Brian AllsopSwyddog Cymorth Prosiect, Dioddefwyr - Swydd Wag Swyddog Cyllid Partneriaeth - Emma LionelCynorthwyydd Personol i'r Comisiynydd a Rheolwr Swyddfa - Leah Lewis Cynorthwyydd Gweinyddol - Cerys PawlinCynorthwyydd Gweinyddol – Prentis Gweinyddol Dwyieithog – Sam Griffin

 

16

Page 18: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

BYWGRAFFIAD O ALUN MICHAEL

Cafodd Alun Michael ei ddewis fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn yr etholiad cyntaf yn 2012. Bu'n Aelod Seneddol y Blaid Lafur a'r Blaid Gydweithredol dros Dde Caerdydd a Phenarth am 25 mlynedd o 1987 a rhoddodd y gorau i'r swydd er mwyn sefyll yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru.

Mae Alun Michael wedi treulio'i holl fywyd gweithio yn Ne Cymru: Ar ôl gadael y Brifysgol fe weithiodd fel newyddiadurwr i'r South Wales Echo am chwe blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn ysgrifennydd cangen Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr. O 1972 bu'n weithiwr ieuenctid a chymunedol yng Nghaerdydd am 15 mlynedd. Datblygodd brosiectau arloesol yn canolbwyntio ar droseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith. Ar ôl dod yn Ynad Heddwch yn 1972, bu'n gadeirydd Mainc Pobl Dan 18 Oed Caerdydd tan iddo gael ei ethol i'r Senedd ym 1987. Gwasanaethodd hefyd fel Cynghorydd Dinas rhwng 1973 a 1989, gan chwarae rhan flaenllaw mewn cynllunio, ailddatblygu a datblygiad economaidd. Ar ôl cyfnod fel Gweinidog dros Faterion Cymreig yr Wrthblaid, bu'n ddirprwy i Tony Blair ac yna Jack Straw ar Faterion Cartref. Yn dilyn etholiad cyffredinol 1997 daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref gyda chyfrifoldeb dros yr heddlu, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder ieuenctid a'r sector gwirfoddol. Yn 1998 ymunodd â'r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yna cafodd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru newydd a daeth yn Brif Weinidog cyntaf Cymru. Ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd yn y Cynulliad, ef oedd y Gweinidog dros Faterion Gwledig cyntaf ac yna daeth yn Weinidog Gwladol dros Ddiwydiant a'r Rhanbarthau.

Ar ôl gadael y Llywodraeth yn 2006, daeth yn aelod blaenllaw o'r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, gan chwarae rhan flaenllaw yn adroddiad hollbwysig y Pwyllgor ar “Ail-fuddsoddi mewn Cyfiawnder”, a bu hefyd yn aelod blaenllaw o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Cymerodd ran mewn ymchwiliadau pwysig i'r newid yn nhirwedd plismona, y terfysgoedd mewn dinasoedd yn 2011 a pholisi cyffuriau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwnaeth hefyd gadeirio Fforwm Llywodraethu'r Rhyngrwyd y DU, bu'n cymedroli fforwm rhyngwladol ar “y gyfraith ar-lein”, a chadeiriodd nifer o Grwpiau Hollbleidiol mawr fel PICTFOR (y Fforwm Seneddol ar y Rhyngrwyd a Thechnoleg Gwybodaeth), y Grŵp Hollbleidiol ar Lywodraethu Corfforaethol, y Grŵp Hollbleidiol ar Somaliland a Somalia a'r Grŵp Hollbleidiol ar Gymdeithas Sifil a Gwirfoddoli yn ogystal â bod yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar Blismona.

Roedd yn aelod o ddirprwyaeth arbenigol i ystyried troseddu sy'n ymwneud â gangiau, radicaleiddio ac ethol prif swyddogion yr heddlu yn Los Angeles yn 2011. Roedd yn aelod o gydbwyllgor y ddau Dŷ ar gadw unigolion a ddrwgdybir o fod yn derfysgwyr yn y ddalfa.

Mae ei wreiddiau gwleidyddol yn ymwneud ag atgyfnerthu cymunedau lleol. Ei brofiad o weithio gyda throseddwyr ifanc a phobl ifanc ddi-waith yn Llanrhymni, Llanedern, Trelái, Butetown a Grangetown a'i ddenodd at wleidyddiaeth genedlaethol. Fel AS cefnogodd gymunedau lleol – er enghraifft drwy chwarae rhan

17

Page 19: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

flaenllaw mewn ymgyrch bedair blynedd i atal Cyngor Sir Caerdydd rhag adeiladu ar “lawnt pentre” werthfawr Maes Hamdden Tredelerch.

Mae ganddo brofiad amlwg o faterion plismona: Fel Dirprwy i Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid – i Tony Blair yn gyntaf ac yna i Jack Straw - datblygodd bolisïau manwl y Blaid Lafur ar Gyfiawnder Ieuenctid, Plismona, Partneriaethau Gostwng Troseddu a'r Sector Gwirfoddol. Yn 1997, fel Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, llywiodd y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn i'r llyfr Statud, gan arwain at sefydlu partneriaethau gostwng troseddu, timau troseddau ieuenctid, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae wedi derbyn canmoliaeth eang gan yr heddlu fel y darn gorau o ddeddfwriaeth cyfiawnder troseddol mewn cenhedlaeth.

18

Page 20: Assistant-Information-Pack€¦  · Web viewCYNNWYS Rhif Tudalen Llythyr oddi wrth y Comisiynydd 2 Cyflwyniad 3 Trosolwg o'r Rolau Sydd Ar Gael 4 Proffil y Rôl 5 Manyleb Person

ADDEWIDION Y COMISIYNYDD

Wrth gymryd llw'r swydd, gwnaeth Alun Michael dri addewid i bobl De Cymru: “Fy addewid cyntaf yw gwasanaethu, a chynrychioli buddiannau, poblogaeth gyfan De Cymru heb ofn na ffafriaeth a heb duedd.

“Fy ail addewid yw rhoi'r pwyslais cryfaf posibl ar bwysigrwydd gwerthoedd wrth lywodraethu'r heddlu. Egwyddorion gonestrwydd, uniondeb a thryloywder yw'r rhain, ond rwyf hefyd yn credu mewn egwyddorion o ran gweithredu:

bod yn llym ar droseddu ac achosion troseddu rhoi gwerthoedd cydweithredu ar waith, yn bennaf wrth annog dull o weithredu

mewn partneriaeth o ran gostwng troseddu - ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau cymunedol a'r cyhoedd

ceisio cyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â chyfiawnder a dwyn yr heddlu i gyfrif ac amddiffyn yr heddlu rhag ymyrraeth wleidyddol o

ba gyfeiriad bynnag.

“Fy nhrydydd addewid yw peidio â defnyddio'r Priflythrennau PCC yn Saesneg wrth gyfeirio at Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (Police and Crime Commissioner) wrth gyfathrebu â'r cyhoedd ac yn fewnol. Ni ddylid drysu rhwng y Comisiynydd â'r Parochial Church Council, neu'r corff di-rym y Press Complaints Commission, heb sôn am Peebles Cycling Club neu'r Polynesian Culture Centre. Bydd cael gwared ar y priflythrennau diystyr hyn yn symbolaidd o wneud pob cyfathrebiad yn glir ac yn syml, gan ddefnyddio geiriau y mae'r cyhoedd yn eu deall, yn hytrach na phriflythrennau sy'n cael eu defnyddio fel rhwystr gan unrhyw un o fewn cylch cyfrin cyfathrebu.”

Mae ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Gwella'r Heddlu - cronfa a sefydlwyd drwy frigdorri Grant yr Heddlu i Heddluoedd ledled Cymru a Lloegr - wedi rhoi mwy o ysgogiad i gyflawni gwaith ar flaenoriaethau penodol fel gostwng troseddu ymysg y grŵp oedran 18-25, gostwng trais a mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a merched a defnyddio potensial TG symudol i wella effeithlonrwydd yr heddlu. Mae gwaith pellach a ddirprwywyd i Gomisiynwyr - ar gefnogi dioddefwyr ac ar Gyfiawnder Adferol - yn heriau cyfredol ac uniongyrchol fel y mae hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn yr Heddlu ac o fewn cymdeithas yn gyffredinol.

19