-
Cyhoeddwyd gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Tachwedd 2018 // Prif swyddfa: Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd,CF10 5FH // Ffôn: 0300 111 0124 // Ebost: [email protected]
// Mae WCVA yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg // Rhif
elusengofrestredig 218093, cwmni cyfyngedig drwy warant 425299.
Ffyrdd o Weithio Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gweithredu i wella llesiant Cymru – yn awr ac yn y dyfodol
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau i ychwanegu at y taflenni hyn
neu eu gwell cysylltwch â [email protected]
Mae’r taflenni ffeithiau hyn yn cyflwyno pum ffordd o weithio
Deddf LlesiantCenedlaethau’r Dyfodol. Maent yn ymdrin â’r hyn y
gallai’r ffyrdd o weithio ei olyguyn ymarferol, rhai o’r rhwystrau
wrth geisio eu gweithredu, eu heffaith bosib ar ytrydydd sector, ac
adnoddau a chymorth defnyddiol i’w hystyried ymhellach.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddeddfwriaeth sy’n
torri tir newyddgan ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng
Nghymru weithio’n well gydageraill (gan gynnwys ei gilydd a
chymunedau) a gweithredu mewn modd mwycydgysylltiedig a hirdymor er
mwyn i’w penderfyniadau gael effaith bositif ar boblyn y dyfodol yn
ogystal â’r presennol.
Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
Beth mae’r taflenni ffeithiau hyn yn ei wneud?
Pam y pasiwyd y Ddeddf?
Mae Cymru’n wynebu heriausylweddol i ddarparu ansawddbywyd da
i’w holl ddinasyddion, ac isicrhau y bydd yr un safonau byw argael
i genedlaethau’r dyfodol. Ymysgyr heriau hyn y mae poblogaeth
sy’nheneiddio, pocedi o anweithgarwcheconomaidd dros
genedlaethau,anghydraddoldebau iechyd, tlodi achoffrau cyhoeddus
sy’n crebachu. Rydym hefyd yn wynebucanlyniadau lleol
bygythiadau byd-eang megis y newid yn yr hinsawdd,colli
bioamrywiaeth ac effeithiaueconomi fyd-eang.
Mae’r meddylfryd y tu ôl i’r Ddeddf yncydnabod bod angen i gyrff
cyhoeddus a’rllywodraeth weithio mewn fforddwahanol i oresgyn y
rhwystrau hyn –ffordd a fydd yn: • Ystyried pob agwedd ar lesiant
wrthwneud penderfyniadau – diwylliannol,cymdeithasol, amgylcheddol
aceconomaidd • Helpu cyrff cyhoeddus, busnesau achymunedau i
gydweithio’n fwy effeithioli fanteisio ar y cyfoeth o arbenigedd
agwybodaeth helaeth sydd ar gael • Cydnabod a pharchu terfynau
einhamgylchedd a’n hadnoddau naturiol.
-
Darllen pellach:
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn gweithio gyda
Llywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith
Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Dylunio Gwasanaethau. Adnodd
ymarferol yw hwn i helpu'r rheini sy'n gweithio i'r
gwasanaethau cyhoeddus gymhwyso’r ffyrdd o weithio sydd i’w
gweld yn y Ddeddf wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.
2. Ffyrdd o Weithio Egwyddorion yw’r rhain y mae’n rhaid i’r
cyrff cyhoeddus a nodir yn y Ddeddfarddangos yn eu penderfyniadau
er mwyn dangos eu bod yn ystyried yr effaith ygallent ei chael ar
bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol yn ogystal
â’rpresennol. Diben hyn yw dangos eu bod yn gweithredu’n unol â’r
egwyddor datblygu cynaliadwy,a ddiffinnir fel ‘gweithredu mewn modd
sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yncael eu diwallu heb
beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu
hanghenionhwythau’. Dyma’r pum ffordd o weithio:
Rhaid i’r 44 corff cyhoeddus sy’n rhwym wrth y Ddeddf
ymsefydlu’r ddwy elfen hon i gyflawni’r
ddyletswydd y mae’r Ddeddf yn ei rhoi arnynt ‘i ymgymryd â
datblygu cynaliadwy’.
Meddwl yn yr
Hirdymor
Atal Integreiddio
Cydweithio
Cynnwys
2
1. Y Nodau Llesiant Mae’r saith nod hyn (gweler y siart ar
ychwith) yn gosod gweledigaeth gyffredini gyrff cyhoeddus
weithio tuag ati. Mae rhagor o wybodaeth am y Nodau asut y gall
mudiadau ddangos neu gryfhaueu cyfraniadau tuag atynt ar gael yn
einTaflenni Ffeithiau ar Nodau’r Ddeddf arwww.wcva.org.uk/wfga.
Mae 2 brif ran i’r Ddeddf:
-
Meddwl yn yr Hirdymor
Osgoi byrdymhoriaeth ac ystyriedsut mae penderfyniadau
yneffeithio ar lesiant cenedlaethau’rdyfodol yn ogystal
â’rgenhedlaeth bresennol.
Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byrâ’r angen i ddiogelu’r
gallu i gyflawnianghenion hirdymor hefyd, yn enwedig panwneir
pethau i gwrdd ag anghenion tymor byrsy’n gallu achosi effeithiau
hirdymor niweidiol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn
ofynnol igyrff cyhoeddus gymryd cyfrifoldeb dros yr effaith y gall
eupenderfyniadau ei chael ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn y
dyfodol. Mae cynnwys yr hirdymor fel ffordd o weithio yn ceisio
sicrhau bodpwysigrwydd cyrraedd gofynion presennol (e.e. bod tai ar
gael neufwyd môr fforddiadwy) yn cydbwyso â’r angen i ddiogelu
gallucenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, yn enwedig
panwneir pethau i gyflawni anghenion tymor byr a all hefyd gael
effaithhirdymor andwyol (e.e. drwy or-bysgota’r stoc i’r fath
raddau fel na ellirei adfer neu drwy godi tai mewn ffordd a all
atal cenedlaethau’rdyfodol rhag diwallu eu hanghenion am
gynhesrwydd, aer glân neufynediad at wasanaethau).
Y darn cyfreithiol:Yn gryno:
Pam mae'n bwysig?
Mae’r Ddeddf hefyd yn cydnabod er mwyn gwneud penderfyniadau
fyddyn addas i genedlaethau’r dyfodol yn ogystal â’r presennol,
mae’n rhaid igyrff cyhoeddus ddeall pa ffactorau a all ddylanwadu
ar Gymru’r dyfodola sut mae penderfyniadau gan wahanol gyrff neu
ardaloedd yngysylltiedig â’i gilydd i leihau neu gynnal rhai
tueddiadau. Mae’r Ddeddf felly hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i
Weinidogion Cymrugyhoeddi adroddiad
fewn
12 mis i etholiadCynulliad. Mae’r adroddiad yn cynnwys darogan
tueddiadau tebygol o ranllesiant cymdeithasol, economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Tueddiadau’r Dyfodol
Wrth baratoi’r adroddiad, mae’n rhaid i Weinidogion
ystyriedamcanion datblygu cynaliadwy’r
ac
effaith
Gall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddefnyddio’r wybodaeth
yma yn sail i gydweithredu acintegreiddio – sef 2 arall o Ffyrdd o
Weithio’r Ddeddf – i helpu i sicrhau bod eu
penderfyniadau’nystyried cenedlaethau’r presennol a phob un o Nodau
Llesiant Cymru yn unol ag egwyddorcynaliadwyedd.
Cenhedloedd Unedig newid hinsawdd yng Nghymru.
3
-
Mae edrych i’r hirdymor yn dasg heriol.Mae neilltuo amser i
feddwl yn yr hirdymoryn gallu teimlo fel moethusbeth wrth
orfodwynebu anghenion tymor byr enbyd, ynenwedig mewn mudiadau
prysur sydd agadnoddau a chyllideb gyfyngedig. Mae’n rhan o’r
natur ddynol i ganolbwyntioar y tymor byr a delio gyda’r
prifflaenoriaethau hyd yn oed os yw hynny ardraul cynllunio
hirdymor.
Pam mae hyn mor anodd ei wneud? Mae tasgau tymor byr yn gallu
bodyn haws eu rheoli ac fe gawnfoddhad o enillion cyflym a
deliogyda phroblemau yn brydlon ac yneffeithlon. Wrth reswm mae
hefyd yn hawsgwneud hyn pan fo’r sefyllfa o’ncwmpas yn gyfarwydd ac
nadydym yn gorfod meddwl am beth ygall pobl eraill sy’n
gwneudpenderfyniadau fod yn ei gynllunioneu’n ei weithredu yn
barod.
Mae canolbwyntio ar yr hirdymor yn golygu delio gyda llai o
sicrwydd a meddwlam sefyllfaoedd ble bydd nifer o sefyllfaoedd neu
ganlyniadau yn gallu bod ynbosib. Mae technegau sy’n cael eu
defnyddio’n aml yn cynnwys
a
sy’n ystyried y tebygolrwydd bod gwahanol
ddigwyddiadauneu sefyllfaoedd yn digwydd a’r effaith y gall hyn ei
chael ar fudiadau neugymunedau y mae’n ei gwasanaethu. Mae'r rhain
yn aml yn edrych ar newidiadau posib, potensial, neu debygolmewn
materion STEEPLE – Cymdeithasol, Technolegol,
Economaidd,Amgylcheddol, Gwleidyddol, Cyfreithiol a Moesol. Gellir
hefyd defnyddio graffiau a thablau i ystyried, neu i ddangos i
eraill, yramseroedd ble y gall y digwyddiadau hyn gael yr effaith
fwyaf neu pa duedd oblith yr holl dueddiadau sydd fwyaf tebygol o
effeithio ar waith y mudiad neufywydau’r bobl mae’r mudiad yn
gweithio gyda hwy.
Creu Gweledigaeth Sganio’r Gorwel,
Pam mae hyn yn bwysig i’r trydydd sector...
Mae’r sector wastad wedi bod ar flaen y gadwrth ymateb i newid
cymdeithasol ac mae’ndebygol y bydd hyn yn parhau. Er hyn, ynunion
fel cyrff cyhoeddus, gall fod yn anoddi ni ddod o hyd i’r amser a’r
adnoddau ibaratoi ar gyfer goblygiadau tueddiadau’rdyfodol – megis
newid hinsawdd, newiddemograffig, datblygiadau technolegol anewid
economaidd trafferthus – ac iystyried effaith hirdymor
einpenderfyniadau yn y cyd-destun hwn.
Mae ein gallu i wneud hyn er hynny yn dylanwadu arba mor dda y
byddem yn gallu magu gwydnwch argyfer yr hirdymor a’n gallu i
gefnogi cenedlaethau’rpresennol yn ogystal â chenedlaethau’r
dyfodol.Gallwn hefyd helpu i gefnogi cyrff cyhoeddus drwyrannu ein
profiadau a’n dirnadaeth o sut y maetueddiadau’r dyfodol yn debygol
o effeithio argrwpiau llai amlwg neu grwpiau llai clywadwy acwrth
herio penderfyniadau pe baem yn teimlo eibod hi’n bosib neu’n
debygol bod effeithiau andwyolhirdymor heb gael eu hystyried yn
ddigonol.
4
-
Er na allwn ragweld y dyfodol, mae nifer o ddarnau ymchwil
arwyddocaol yng Nghymruar hyn o bryd sy’n nodi tueddiadau tebyg o
ran newid yn yr economi, y boblogaeth, yrhinsawdd a lefelau o
ymgysylltu â dinasyddion yng Nghymru. Gall y trydydd
sectorddefnyddio’r adnoddau hyn i gyd i helpu i lywio cynllunio a
meddwl hirdymor:
Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru Llunio eich
Dyfodol WCVA Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i
lywio ei flaenoriaethau strategol
Ymarferion Meddwl yn yr Hirdymor
Mae hanfod y Ddeddf yn gofyn i ni fynd i’r afael â hyn mewn 2
ffordd. Y gyntaf ywsicrhau y bydd ein penderfyniadau yn sefyll
prawf amser a’n bod yn gwneudpenderfyniadau wedi’u seilio ar yr hyn
y disgwyliwn i anghenion yfory fod, yn ogystalag anghenion heddiw.
Yr ail yw sicrhau ein bod yn lleihau’r tebygolrwydd bod
einpenderfyniadau yn cael effaith andwyol ar allu cenedlaethau’r
dyfodol i ddiwallu euhanghenion. 1. Dychmygu’r dyfodol Ystyriwch y
tueddiadau a nodir uchod – newid hinsawdd, newid
demograffig,datblygiadau technolegol a newidiadau economaidd
trafferthus – ystyriwch sut gall yrhain effeithio ar eich gwaith
mewn sefyllfaoedd gwahanol, er enghraifft: Sut y gall pethau fod yn
eich mudiad pe bai: • Pobl yn dechrau graddio’r profiadau
gwirfoddoli yr ydych chi’n eu cynnig felTrip Advisor • Bod rhaid
i’ch prosiect effeithlonrwydd ynni feddwl am ffyrdd i gadw tai yn
oeryn ogystal ag yn gynnes • Eich prif incwm yn ddibynnol ar
gydweithio â’r cyhoedd (megis enwebiadauarlein neu bleidleisiau)
neu gyllido torfol wrth i nawdd traddodiadol ddod i ben • Eich
sylfaen ddigonol o wirfoddolwyr yn lleihau wrth i fwy o bobl
ysgwyddocyfrifoldebau gofalu – neu efallai y bydd yn cynyddu pe bai
gwirfoddoli agefnogir gan gyflogwyr yn dod yn ffurf fwy poblogaidd
o gyfrifoldebcymdeithasol corfforaethol neu pe bai patrwm gwaith yn
newid i adlewyrchu’rcynnydd mewn deallusrwydd artiffisial
5
-
Tra mae angen seilio penderfyniadau ar y wybodaeth orau sydd
gennym ar y pryda’n hamcan gorau o’r byd tebygol o’n cwmpas, mae
dychmygu amryw o bosibiliadaua sefyllfaoedd yn gallu ein helpu i
feddwl yn fwy chwim a hyblyg. Gall hyn ein helpu iymateb yn well i
newidiadau annisgwyl, paratoi’n well ar gyfer y rhai disgwyliedig
a’nhelpu i wneud penderfyniadau mwy cyflawn. Gall fod o gymorth i
ystyried i ba raddau mae tueddiadau’r dyfodol – a'u heffaithbosib –
yn cael eu hystyried wrth i chi wneud penderfyniadau. Gall yr
ymarfercanlynol fod o gymorth a gellir ei wneud yn unigol neu
mewn grwpiau. Ystyriwch: • Beth yw’r broblem yr ydych yn ceisio ei
datrys • Pa ffactorau economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac
amgylcheddol sy’ngwaethygu’r broblem • A yw’ch datrysiad
arfaethedig yn ystyried y ffactorau hyn? Os ddim, a oesangen ei
addasu? • Yng ngoleuni tueddiadau hysbys yn y ffactorau hynny, sut
beth fydd ybroblem mewn 10, 20 neu 50 mlynedd? • A fydd eich
datrysiad arfaethedig dal yn addas at ei ddiben?
6
-
2. Osgoi effeithiau niweidiol hirdymor Mae egwyddor
cynaliadwyedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyfrannu
hydeithaf ein gallu at lesiant y dyfodol a’r presennol ym mhob un
o’r 7 Nod Llesiant. • Wrth edrych ar eich datrysiad
arfaethedig, sgoriwch rhwng -5 a +5 faint fyddeich datrysiad yn ei
gyfrannu at bob Nod, neu’n ei dynnu oddi wrthynt, yn ytymor byr
(0-2 flynedd), gyda 0 yn niwtral. • Gwnewch yr ymarfer eto,
yng ngoleuni tueddiadau hysbys y dyfodol, i ystyriedeffaith eich
penderfyniad ar y meysydd hyn yn yr hirdymor (5, 15, 30
oflynyddoedd). Gall y ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth ar y
diwedd helpu i ddeall y tueddiadauhyn os ydych angen cymorth.
Ystyriwch a ellir addasu neu newid eich datrysiad i wella unrhyw
sgoriau negyddol acystyriwch a ellir osgoi unrhyw effeithiau
hirdymor niweidiol. Mewn achosion eithafolbyddwch yn canfod bod
niwed hirdymor yn drech nag enillion tymor byr, ac mewnachosion o’r
fath bydd rhaid ailfeddwl y datrysiad. Mae ail-wneud yr ymarfer ar
gyfer sawl maes yn eich gwaith yn helpu i ganfod effaitheich mudiad
yn ehangach ar draws y Nodau ac a oes rhai Nodau penodol sy’n cael
eugorgynrychioli neu eu tangynrychioli yn gyson.
Adnoddau Defnyddiol
• Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol – mae Swyddfa Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol wedicyhoeddi’r fframwaith hwn i helpu
prosiectau i ddatblygu mewn dull integredig a chydweithredol,
ynseiliedig ar yr hyn sydd ar bobl ei angen yn awr ac yn y
dyfodol.
7
-
Atal
Y darn cyfreithiol:Yn gryno:
Pam mae'n bwysig?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eigwneud yn ofynnol
i gyrff cyhoeddus gymryd camau iatal problemau rhag codi neu
waethygu igenedlaethau’r presennol neu’r dyfodol. Drwy weithio
iatal problemau rhag gwaethygu, neu eu hosgoi’n gyfangwbl, gall
cyrff cyhoeddus gyflawni eu hamcanion,arbed arian a chreu
canlyniadau mwy positif iddinasyddion. Dwy agwedd allweddol ar atal
yw canfod risgiau achymryd camau cynnar sy’n galluogi
goresgynproblemau cyn iddi fynd yn anos eu datrys.
Y ffordd y gall gweithredu’n gynnar – a gydageraill – i fynd i’r
afael ag achos craiddproblemau cyn iddynt godi neu waethygugynnig
canlyniadau gwell i unigolion, cyrffcyhoeddus a chymdeithas yn ei
chyfanrwydd
Y ffordd y gallai defnyddioadnoddau i atal problemau rhagdigwydd
neu waethygu gyfrannu atgyflawni amcanion llesiant y corffneu
amcanion corff arall
8
Mae cymryd camau cynnar yr un mor berthnasol ibobl ag ydyw i
heriau cymdeithasol neu economaiddeang megis newid hinsawdd neu
anghydraddoldeb.
Dyma pam mai un o
ywcefnogi pobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd er
mwyn eu llesiant yn ydyfodol. Yn yr un modd, buddsoddi mewn addysg
gynnar yw un o’r ffyrdd o wireddustrategaeth genedlaethol
Llywodraeth Cymru,
flaenoriaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
‘Ffyniant i Bawb’.
Ceir cysylltiadau cryf rhwng atal a’r ffyrdd eraill oweithio gan
gynnwys ‘hirdymor’, ‘integreiddio’ a‘chydweithio’ gan y cydnabyddir
bod achosion cymhlethwrth wraidd llawer o’r problemau sy’n wynebu
eincymunedau ac na all un ymyrraeth nac un gwasanaethcyhoeddus eu
datrys ar eu pen eu hunain.
-
Er mwyn cymryd camau ataliol mae’n bwysig deall yn llawn y
risgiau posib sy’nwynebu pobl neu gymunedau a’r cysylltiadau posib
rhyngddynt. Mae hyn yn gofynam waith gyda phartneriaid ar draws
gwahanol sectorau sydd efallai â gwahanolsafbwyntiau ar y ffactorau
sy’n cyfrannu at broblem neu’r opsiynau gorau i’w datrys. Mae
rhannu data a safbwyntiau rhwng cyrff cyhoeddus yn y ffordd hon yn
cael eiannog yn y canllawiau statudol, sy’n cydnabod y gall
ymyrraeth gynnar mewnmaterion trawsbynciol arbed amser ac arian yn
ogystal â sicrhau canlyniadau gwell iddinasyddion. Mae’r canllawiau
yn annog cyrff cyhoeddus i ‘gasglu tystiolaeth sy'n deall
achosioncraidd materion a lle gellir sicrhau enillion o ran
effeithlonrwydd’.
Er ein bod i gyd yn gyfarwydd â’r syniad ei bod yn well
rhwystro’r clwyf na’i wella, maepwysau ar adnoddau a’r angen dybryd
i wasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio arymyriadau argyfyngus yn
golygu y gall yr arian sy’n cael ei wario ar atal fod ynffracsiwn
yn unig o’r hyn sy’n cael ei wario ar rannau eraill o ddarparu
gwasanaethau.
Er enghraifft, dywed Cymdeithas Feddygol Prydain fod y gwariant
blynyddol ar iechydcyhoeddus ac atal yng Nghymru rhwng 2013 a 2017
yn amrywio rhwng 2.2% a2.6% yn unig o gyfanswm y gyllideb iechyd a
gwasanaethau cymdeithasol, er ycydnabyddir bod atal yn fwy
costeffeithiol ac ariannol ddarbodus yn y tymor hwy nathriniaeth ‘i
lawr yr afon’.
Pam mae hi mor anodd gwneud hyn?
Cymhlethir strategaethau atal ymhellach gan yffaith y gallai fod
angen i’r camau angenrheidiol iatal y problemau y mae un corff
cyhoeddus neuadran yn mynd i’r afael â nhw (e.e. derbyniadauysbyty
yn sgil damweiniau ffordd) gael eu cymrydgan gorff cyhoeddus neu
adran hollol wahanol(e.e. cyflwyno croesfannau i gerddwyr neu
fesuraudiogelwch eraill). Yn yr un modd gallai’r arian a fuddsoddir
gan uncorff neu adran (e.e. awdurdodau lleol yn plannucoed ar
strydoedd trefol) greu arbedion i gorffarall (e.e. Byrddau Iechyd
os yw ansawdd aer gwellyn arwain at lai o broblemau anadlu) ond yn
creullai o arbedion, neu arbedion llai uniongyrchol neuamlwg, i’r
corff a gymerodd y camau dan sylw.
Gall hyn arwain at dorri gwasanaethau nadydynt yn cyfrannu mewn
ffordd weledol atdargedau statudol tymor byr y corff hyd ynoed pan
fydd hyn yn debygol o gyfrannu atbroblemau mwy a fydd yn wynebu
cyrffcyhoeddus eraill yn y dyfodol.
9
-
I lawer o fudiadau felly gall fod yn anodddadlau i adnoddau gael
eu clustnodi iwariant ataliol os yw’r materion dan sylwyn
drawsbynciol, ac nid yn uniongyrcholgysylltiedig ag amcanion corff
cyhoeddusneu’n pan fo’n bosib na fydd buddion yndod i’r golwg tan y
dyfodol pell. Hyd yn oed pan fo canlyniad annymunol yncael ei atal
gall fod yn anodd dweud ynunion ba ymyriadau a gafodd yr
effaithfwyaf er mwyn datblygu’r arfer mwyafcosteffeithiol.
Yn yr un modd, gall fod yn anodd profibeth sydd heb
ddigwydd neu brofigoblygiadau’r hyn a allai fod wedi digwyddheb
gamau ataliol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’rDyfodol yn annog cyrff
cyhoeddus igeisio torri’r cylch hwn ac er naddyma’r norm eto, ceir
enghreifftiau ogyrff cyhoeddus a mudiadau eraill syddwedi llwyddo i
wneud hyn. Mae gan y Tasglu Gweithredu Cynnar
achos sy’ndangos y ffordd y gall
cydweithio’neffeithiol i fynd i’r afael â phroblemauyn gynnar
arwain at strategaethauarloesol a all arbed arian a gwellabywydau.
Er enghraifft, gwella’rgwresogi yng nghartrefi pobl hŷn syddâ
chlefyd cronig yr ysgyfaint.
gasgliad o astudiaethau
Pam mae hyn yn bwysig i’r trydydd sector...
Cred WCVA fod trydydd sector sy’n ffynnu yn chwaraerhan hanfodol
yn yr agenda atal. Credwn hyn nid yn unigoherwydd y grwpiau
cymunedol a mudiadau trydyddsector di-rif sydd wedi’u datblygu
naill ai i unioniproblemau cymdeithasol neu eu hatal rhag
gwaethyguneu’r effeithiau positif y mae’r rhain yn eu cael ar
eubuddiolwyr. Mae’n ymwneud yn fwy â’r buddion iunigolion,
cymunedau a chymdeithas yn ehangach a geirwrth ddod i gysylltiad â
grwpiau trydydd sector, bethbynnag yw eu ffurf neu eu pwrpas, a’r
profiadau orymuso, cydweithredu a chysylltu y gallant eu
cynnig.
Mae wedi dangos yr effeithiaupositif y mae gwirfoddoliyn ei
chael ar iechyd allesiant gan ei fod yncynyddu
cysylltiadaucymdeithasol, yn helpu idrechu arwahanrwydd acunigedd,
yn meithrinymddiriedaeth ac yngwella cydlyniantcymunedol. Mae’r
rhain i gyd o fudd iunigolion ond maenthefyd yn helpu i
feithrincyfalaf cymdeithasol – yterm a roddir i’rrhwydweithiau
a’rperthnasaucymdeithasol, a’r ffyrdd oymddwyn a’r gwerthoedda
rennir, sy’n helpucymdeithas i weithredu’neffeithiol.
sawl astudiaeth
10
-
Cydnabyddir bod cyfalaf cymdeithasol yn yn ogystal â llesiant
unigolion a chymunedau. Mae’n hanfodol i gymdeithasgynhyrchiol a
chydlynus sydd â’r cryfder a’r gallu i ymateb i broblemau sydd
eisoes ynbodoli neu eu hatal rhag gwaethygu. Mae’r Tasglu
Gweithredu Cynnar wedi pwysleisio bod ‘meithrin perthnasau yn
ganolog iweithredu cynnar effeithiol, boed hynny drwy gysylltu
cymunedau yn well neu gynydduymddiriedaeth mewn gwasanaethau a’r
bobl sy’n eu defnyddio.’ Mae llawer o grwpiau trydydd sector yn
cyfrannu at y gwaith hwn ac mae eugwybodaeth leol ac arbenigol, eu
gallu i fod yn gyfryngwyr y gellir ymddiried ynddynt,a’r
rhwydweithiau cymdeithasol maent yn eu hwyluso, yn adnodd enfawr a
all eigwneud yn bosib cymryd camau mwy integredig, cydweithredol ac
ataliol.
ysgogi twf a chynaliadwyedd economaidd
Adnoddau defnyddiol
• Rhwydwaith traws-sector yw’r
sy’n darparu cymorth ac arweiniad
i’rrheini sydd am weithredu dulliau ataliol, gan gynnwys yr
adnoddau
ac • Mae’r Gronfa Loteri Fawr,
Comic Relief, Sefydliad Esmée Fairbairn, Legal Education
Foundation, acYmddiriedolaeth Barrow Cadbury wedi rhoi prawf ar
brosiectau fel rhan o’r gronfa gydweithredol
i ddatblygu a gweithredu mentrau
gweithredu cynnar ym maescymorth i deuluoedd, llesiant pobl ifanc a
chyngor cyfreithiol. • Mae’r
yn darparu
tystiolaeth a chyngor ar ymyrraeth gynnar i fynd i’rafael ag
achosion craidd problemau cymdeithasol i blant a phobl ifanc. •
Mae
wedi cyhoeddi
cyfres o flogiau ar ddadlau’r achos dros atal aceconomeg iechyd
Iechyd Cyhoeddus Lloegr
• Mae adroddiad Grymuso Cymunedau WCVA yn amlinellu set o chwe
egwyddor a saith cam i’wcymryd i rymuso cymunedau yng Nghymru
Early Intervention Foundation
‘Early Action Neighbourhood Fund’
‘One Hundred Days for Early Action' ‘Rough Guide to Early
Action'
Tasglu Gweithredu Cynnar
11
-
Integreiddio
Y darn cyfreithiol:Yn gryno:
Pam mae'n bwysig?
Ceir sawl diffiniad o ‘integreiddio’ o feysyddmor amrywiol â
seicoleg i fathemateg ond yddealltwriaeth gyffredin ohono yw proses
sy’ndod â gwahanol rannau neu elfennau at eigilydd i ffurfio uned
gyflawn integrol. O ran gwasanaethau cyhoeddus mae llawer odrafod
wedi bod ynglŷn ag integreiddio, erenghraifft, rhwng iechyd a gofal
cymdeithasol.Yma awgrymir y gellir sicrhau canlyniadau gwella mwy
costeffeithiol i’r gwasanaethau ac iddefnyddwyr y gwasanaethau eu
hunain pebai’r ddwy elfen hon sy’n gorgyffwrdd yn caeleu hystyried
a’u darparu gyda’i gilydd ynhytrach nag ar wahân. Mae Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ynei gwneud yn ofynnol i gyrff
cyhoeddus gymrydymagwedd integredig wrth gyflawni euhamcanion
llesiant gan gydnabod y gyd-ddibyniaeth sy’n bodoli rhwng
llesianteconomaidd, cymdeithasol, amgylcheddol
adiwylliannol.
Sicrhau bod camau agymerir mewn un maesyn cyflawni
canlyniadaupositif i randdeiliaidneu feysydd gwaithlluosog.
Ystyried y ffordd y gallai amcanion llesiant y corffcyhoeddus
effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, arei amcanion eraill, neu
ar amcanion cyrff cyhoedduseraill, yn arbennig pan all camau a
gymerir gan ycorff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fodyn
niweidiol i gyflawni un arall.
12
-
Mae’r canllawiau statudol yn nodi bod tair elfen ar wahân yn
perthyn i’r gofyniad hwn:
Yn gyntaf, mae angen i gyrff cyhoeddusystyried effeithiau
positif a negyddol posibeu hamcanion ar bob nod a chanfod a
ellircryfhau neu leihau unrhyw rai o’r rhain isicrhau’r cyfraniad
mwyaf posib. Nesaf mae angen iddynt edrych ar y fforddy
gallai’r amcanion fel cyfanwaith fod yneffeithio ar ei gilydd (a
thrwy estyniad ar yNodau) a’r ffordd y gallai llwyddiannaumewn un
maes danseilio llwyddiannaumewn meysydd eraill. Mae’r canllaw yn
cynghori cyrff cyhoeddusi geisio datrys, rheoli neu liniaru
unrhywwrthdaro posib a ganfyddir yn sgil hyn. Ynddelfrydol, byddai
hyn yn golygu dod ohyd i wahanol ddulliau a fyddai’n
osgoi’reffeithiau negyddol. Os nad yw hyn ynbosib yna byddai’n
golygu sicrhau y galleffeithiau negyddol ar rai Nodau a achosirgan
un maes o weithgaredd gael eugwrthweithio neu eu trechu gan
effeithiaupositif mewn meysydd eraill.
Gallai’r corff cyhoeddus ddangos wedyn fodei weithgareddau yn
gwneud cyfraniadpositif ar y cyfan. Mae’n bwysig pwysleisio,fodd
bynnag, y dylai’r dull diwethaf hwn fodyn ddewis olaf yn hytrach
nag yn ddewiscyntaf. Mae’r canllaw statudol yn ei gwneudyn glir nad
oes hierarchaeth o nodaullesiant ac nad nod y Ddeddf yw
'cydbwysoeffeithiau'. Dywed y canllaw bod diben integreiddio
ynymwneud â 'gweithio tuag at atebionmanteisiol a nodi’r manteision
lluosog llemaent yn bodoli.'
Y trydydd cam yw i gyrff cyhoeddus ystyriedeffaith bosib eu
hamcanion llesiant, neu euhymgais i’w cyflawni, ar amcanion
llesiantmudiadau eraill. Mae hyn yn cydnabod nadyw cyrff cyhoeddus
yn bodoli ac yngweithredu ar eu pen eu hunain ac y byddeu
gweithredoedd yn achosi canlyniadau aceffeithiau niferus, bwriadol
ac anfwriadol, ilesiant o bob math. I helpu i sicrhau bod y rhain
yn bositif blebynnag y bo modd, mae’r canllaw yn annogcyrff
cyhoeddus i roi trefniadau yn eu lle idrafod eu rhaglenni gwaith â
mudiadaueraill 'cyn gynted â phosib'.
Os cymerir y camau hyn, yna bydd gan y cyrffcyhoeddus wrth fynd
ati i roi’r Ddeddf ar waithsiawns well, yn unigol ac ar y cyd, o
sicrhaubod eu gweithgareddau yn cyd-fynd â’regwyddor datblygu
cynaliadwy a’rddyletswydd i sicrhau’r cyfraniadau mwyafposib at bob
un o’r 7 Nod llesiant.
13
-
Mae bodau dynol yn dueddol o ganolbwyntio ar ypethau sy’n
effeithio arnom fwyaf ac felly ein greddfnaturiol yw ystyried sut y
bydd ein materion ‘pwysig’ni yn cael eu datrys gan un ateb neu
ddull. Gall hynein dallu rhag gweld effaith bosib ein hatebion
arfeysydd sy’n ymddangos yn anghysylltiedig neu einhatal rhag
darganfod ateb a allai arwain atganlyniadau positif lluosog. Nid yw
hyn bob amser yn wir wrth gwrs, ond gall yreffaith hon ddwysáu os
yw pwysau ar adnoddau neustaff yn arwain at dimau neu fudiadau yn
gweithiomewn seilos gan ganolbwyntio’n llwyr ar un cylchgwaith
penodol, heb y gallu na’r cymhelliant i feithrincysylltiadau
allanol cryf. Gall y problemau hefydwaethygu yn sgil diffyg
mynediad at dystiolaeth neuddata ynglŷn â materion neu boblogaethau
penodol.
Mae’r canllawiau statudolfelly’n annog cyrffcyhoeddus i gasglu
ystod odystiolaeth sy’n‘adlewyrchu'r berthynas a'rrhyngddibyniaeth
rhwngllesiant economaidd,cymdeithasol, amgylcheddola diwylliannol’
yn hytrachna chanolbwyntio arfaterion unigol. Mae hefyd yn
cynghoricyrff cyhoeddus i ‘ystyriedsut y gallai cysylltu
gwahanolsetiau data â'i gilydd helpu idynnu sylw at dystiolaetham y
rhyng-berthynas rhwngymyriadau neu'r effaith argrwpiau penodol o
bobl.’
Pam mae hi mor anodd gwneud hyn?
Dylai ymagwedd integredig alluogi i’r cydgysylltiad rhwng
materion ddod yn fwy amlwg fel y gellircanfod cyfleoedd ar gyfer
ymyriadau mwy effeithiol sydd wedi’u targedu’n fwy. Fel y nodir yn
y daflenffeithiau Cydweithio, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn
enghraifft o’r ffordd y mae’rDdeddf yn dod â rhanddeiliaid ynghyd o
wahanol feysydd gwaith i fynd i’r afael â materiontrawsbynciol a
chanfod cyfleoedd cydweithredol sydd o fudd i bawb. Dylai hyn annog
datblygiad atebion integredig sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i
gyflawni eu hamcanioneu hunain heb gael effaith niweidiol ar
amcanion cyrff cyhoeddus eraill, a ddylai wedyn sicrhaucanlyniadau
gwell ac ehangach ar draws y Nodau.
Pam mae hyn yn bwysig i’r trydydd sector...
Mae’r angen am atebion integredig yn gofyn am ddealltwriaeth
fanwl o’rproblemau y mae cyrff cyhoeddus yn ceisio eu datrys. Tra
gall setiau data acarolygon ddarparu gwybodaeth gefndirol bwysig,
yn aml dim ond cysylltiad â phobly mae’r problemau yn effeithio
arnynt yn uniongyrchol a all ddarparu’r safbwyntiauangenrheidiol i
ddeall eu holl achosion a chanlyniadau.
14
-
Mae llawer o fudiadau trydydd sector wediymddangos mewn ymateb i
broblemau lleolcymhleth ac, o gofio eu cysylltiad agos
âgwirfoddolwyr a buddiolwyr, mae ganddynt yn amlddealltwriaeth
ddofn o’r materion neu’r rhwystrautrawsbynciol a allai fod yn
wynebu cymuned. Gallai eu gweithgareddau felly gwmpasu
materioncydgysylltiedig amrywiol megis iechyd,arwahanrwydd
cymdeithasol, tlodi ac amgylcheddauo ansawdd gwael. Mae’n bosib y
bydd y pwyslais cynyddol ar gymrydymagwedd integredig yn golygu bod
cyrff cyhoeddusyn fwy parod i ystyried a chefnogi prosiectau
trydyddsector llwyddiannus a mabwysiadu rhai o’n syniadau,ein
harferion gweithio a’n diwylliant. Gallai’r pwyslais hwn hefyd
helpu’r grwpiau hynnysy’n gweithio mewn meysydd sydd efallai’n cael
euhystyried yn llai pwysig neu’n llai poblogaidd i sicrhaunad yw eu
blaenoriaethau, nac anghenion eubuddiolwyr, yn cael eu
hanwybyddu.
Adnoddau Defnyddiol
– mae Busnes yn y Gymuned yn darparu cyfres o offer a
dulliaugan gynnwys Big Boardroom Agenda ac ystyriaeth o wahanol
fathau o gyfalaf i fudiadauweithredu ac adrodd cynaliadwyedd a
chanlyniadau eraill.
– mae’r strategaeth
hon gan Global Environment Facility yn pwysleisio’rangen i gefnogi
newid trawsffurfiol a gwneud gwahaniaeth ar raddfa ehangach. Bydd y
tairrhaglen – Is-Sahara,
– ynrhoi prawf ar ddulliau darparu mwy
integredig sy’n mynd i’r afael â heriau amgylcheddol
byd-eangpenodol, sy’n gyfyngedig o ran amser.
• Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru lawer o astudiaethau achos yn
ymwneud ag integreiddio achydweithio.
a Dileu Datgoedwigo o Gadwyni Cyflenwi Nwyddau Dinasoedd
Cynaliadwy, Meithrin Cynaliadwyedd a Chydnerthedd i Ddiogelu’r
Cyflenwad Bwyd yn Affrica
• Strategaeth GEF 2020
• Meddwl ac adrodd integredig
Gall grwpiau a rhwydweithiau trydydd sector fod yn borth i helpu
i gael at y wybodaethhon ac, fel yr amlinellir yn y daflen
ffeithiau Cynnwys, mae ganddynt brofiad o roi prawfar wahanol
dechnegau ymgysylltu i archwilio a chasglu’r ‘profiad byw’ hwn sy’n
peintiodarlun llawer mwy cyflawn nag ystadegau neu ddata ar eu pen
eu hunain.
15
-
Cydweithio
Y darn cyfreithiol:Yn gryno:
Pam mae'n bwysig?
Mae cydweithio yn digwydd pan fo gwahanol bartneriaid yn teimlo
y gall gweithiogyda’i gilydd gyflawni canlyniadau mwy ymatebol ac
effeithiol na phe baent yngweithio ar wahân. Gellir cyflawni hyn
drwy gyfuno cryfderau a sgiliau pob partner ondhefyd pan fo’r bobl
neu’r mudiadau dan sylw yn ystyried y ffordd y gallant gyfrannu
atamcanion y partneriaid eraill yn ogystal â’u hamcanion eu
hunain.
Gweithio gydag eraill, o fewn eichtîm neu’ch mudiad a’r tu hwnt,
fel ygellir cyflawni cynifer o amcanion âphosib gyda’r adnoddau
a’rarbenigedd sydd ar gael.
Y ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw bersonarall (neu wahanol
rannau o’r corff yngweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff igyflawni
ei amcanion llesiant, neugynorthwyo corff arall i gyflawni ei
amcanion.
Wrth i fudiadau ddod at ei gilydd i weithio ar bynciaupenodol –
megis ymgyrch Amser i Newid neu’rGynghrair Atal Anhrefn Hinsawdd –
gellir sicrhau mwy owelededd, dylanwad a chyrhaeddiad
ymysgcynulleidfaoedd newydd. O fewn mudiadau eu hunain, mae gwaith
effeithiolmewn partneriaeth rhwng gwahanol dimau neuadrannau yn
meithrin cydlyniant sefydliadol ac ynhelpu’r mudiad tuag at ei
weledigaeth neu ei ddibencyffredinol. Mae hefyd yn lleihau’r perygl
y gallai canlyniadau agyflawnir gan y naill ran o’r mudiad gael eu
tanseiliogan weithredoedd y llall. Gall cydweithio feithrin gallu
agwybodaeth, helpu eraill i osgoi camgymeriadaublaenorol, a chael
mwy o effaith nag y gallai un mudiad,tîm neu unigolyn ei chael ar
eu pen eu hunain.
Ar eu gorau, hanfod partneriaethau yw rhannu creadigrwydd, risg,
adnoddau achyfrifoldeb a thargedu tasgau at y rheini sydd fwyaf
addas i’w gwneud.
16
-
Gall cydweithio alluogi buddugoliaethau cyflym, megis gwneud
gweithgareddau ar ycyd na allai’r un partner unigol fod wedi’u
gwneud ar eu pen eu hun; canlyniadau tymorcanolig yn enwedig rhannu
gwybodaeth ac adnoddau; yn ogystal â chynlluniau mwyhirdymor sy’n
ystyried buddiannau pawb nid, er enghraifft, un mudiad arweiniol
neugyllidwr penodol yn unig. Yn ehangach, gall hybu gallu
cymdeithasol, deallusol agwleidyddol y partneriaid a’u gallu i
ymdopi â newidiadau i gymdeithas, gwleidyddiaetha’u sefyllfa
ariannol.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i 44 o gyrff cyhoeddus
yngNghymru weithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd i
helpui wireddu 7 Nod Llesiant Cymru. Eglura’r Canllawiau Statudol
maidiben cymryd ymagwedd gydweithredol yw 'cydnabod y gwahanolrolau
y mae cyrff cyhoeddus yn ei chwarae wrth ymdrin â heriau tymorhir,
a sicrhau bod camau gweithredu gan gyrff cyhoeddus yn ategu
eigilydd, sydd felly yn gwneud y mwyaf o'u heffaith gyfunol.' Caiff
cydweithio ei hwyluso ar lefel awdurdodau lleol drwy greuByrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus, sef awdurdodau lleol,Byrddau Iechyd Lleol,
Awdurdod Tân ac Achub Cymru achyfranogwyr gwahoddedig eraill, sy’n
gorfod cydweithio i wellallesiant economaidd, cymdeithasol,
diwylliannol ac amgylcheddol yrardal. Mae pob un o’r Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus hyn wedigwahodd mudiad trydydd sector i fod
yn aelod o’r Bwrdd. Rhaid i gyrff cyhoeddus hefyd ddangos eu bod yn
cydweithio igyflawni amcanion llesiant eu mudiad.
Pam mae hi mor anodd gwneud hyn?
Hyd yn oed pan fyddwn yncydnabod gwerth cydweithio– neu’n dod o
fudiadau syddwedi ymrwymo’n bendant iegwyddor gweithio ar y cyd
–nid yw hi bob amser ynhawdd. Ymysg y pethau sy’n effeithioar ein
gallu i gydweithio ymae ein perthnasaupersonol; strwythurau
einmudiadau a’n rhwydweithiau;a dylanwadau cymdeithasol
agwleidyddol arnom.
Mae gweithio gydag eraill iddatblygu neu ddylunio prosiectauyn
cymryd mwy o amser ac ymdrechna phe baem yn gweithio ar ein penein
hunain ac efallai y bydd pethcyfaddawdu neu hyd yn oedwrthdaro os
ceir amrywiaeth barn ary ffordd orau o reoli sefyllfa neubrosiect.
Mae angen i ni ymddiried yn ypartneriaid yr ydym yn cydweithio ânhw
i weithio drwy’r gwahaniaethauhyn a bod yn hyderus bod
gennymwerthoedd ac amcanion cyffredin.
Gall ein mudiadau a’nrhwydweithiau effeithio arein perthnasau
drwy ddiffygcefnogaeth ymysg uwchaelod o staff neu
ddiffygcefnogaeth sefydliadol,anghydnawsedddiwylliannol
rhwngmudiadau, gwahaniaethaumewn pŵer, peidio âsylweddoli faint o
amser acadnoddau sydd eu hangen,dryswch ynghylch rolau
achyfrifoldebau a diffygcytundeb ar safbwyntiauneu weledigaeth a
rennir.
17
-
Mae mudiadau trydydd sector achymunedol eisoes yn cydweithiomewn
gwahanol ffyrdd, o rwydweithiauanffurfiol, i gonsortia ac mae
cyllidwyr adarparwyr contractau yn disgwyl yffordd hon o weithio yn
gynyddol. Mae’n bwysig ein bod yn deall buddiona pheryglon
cydweithio ac y gallwngyfathrebu’n effeithiol ynglŷn â’r sgiliau,yr
amser a’r adnoddau sy’n aml ynangenrheidiol iddo lwyddo. Mae
hefydangen i ni gynllunio ar gyfer unrhywhyfforddiant, profiad
gwaith neuddatblygiad sgiliau y gallai fod ar einmudiadau eu hangen
i gryfhau ein gallui gydweithio. Er y gall cydweithio yn aml fod
ynbrofiad buddiol, gall fod anfanteisionhefyd ac mae angen i staff
agwirfoddolwyr fod yn hyderus y byddperyglon a buddion cydweithio
yn caeleu rhannu’n deg ac y bydd y darparganlyniadau yn
cyfiawnhau’r amser a’radnoddau a fuddsoddwyd.
Y newyddion da yw y gallwn oresgyn y pwysauhyn ar ein perthnasau
drwy gyfathrebu’n dda.Fel y dywed yr erthygl hon gan CBS,
igydweithio’n llwyddiannus 'rhaid fod yn ddaam gyfathrebu, meithrin
perthynas ag eraill athechnegau rheoli anamlwg eraill'.
Ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol, rhwystr mawr iymddiried yn
eich gilydd a bod yn gyd-ddibynnol ywgwahaniaethau yn y ffordd o
ddehongli beth ywcydweithio, gyda mudiadau mwy yn aml yn
ymgynghorineu’n cyllido yn unig, yn hytrach na datblygu
amcanioncydfuddiannol gyda’u partneriaid llai neu lai
dylanwadol.
Pam mae hyn yn bwysig i’r trydydd sector...
Nid yw cydweithio yn addas i bob mudiad ymmhob achos a gall
dealltwriaeth glir o’r peryglona’r buddion posib helpu mudiadau i
benderfynuai cydweithio yw’r ffordd gywir ymlaen. Mae NCVO wedi
cyhoeddi canllawiau arleinam ddim sy’n ystyried y materion hyn
ynogystal â’r offer a’r rhinweddau – megisperthynas dda rhwng pobl
a gweledigaeth glir arennir o’r buddion i bawb – a all helpu i
sicrhaubod cydweithio yn effeithiol a’i atal rhag methu.
Mae canllaw WCVA Gweithio gydag eraill ynymdrin â’r gwahanol
strwythurau y gallgweithio mewn partneriaeth eu cymryd, gangynnwys
sefydlu grwpiau llywio, cydleoli neusecondio staff neu ffurfio
‘rhith-fudiad’.
Mae ei daflenni gwybodaeth yn eglurocydweithredu a gweithio mewn
partneriaeth,perthnasau cyfreithiol ac atebolrwydd,contractau,
comisiynu a thendro, rheoliansawdd a darparu gwasanaethau
cyhoeddus.Mae hefyd yn darparu offer ymarferol i hwylusocydweithio
megis Rhestr Wirio Partneriaeth,cyngor ar gytundebau cydweithio a
sut i sefydluconsortia i ymgeisio am grantiau neugontractau.
18
-
Gall cydweithio fethu yn aml oherwydd gwahaniaethau tybiedig neu
wirioneddolmewn pŵer rhwng partneriaid. Os yw’r cydbwysedd pŵer i
wneud penderfyniadau ynystod prosesau dylunio neu weithredu yn
anghyfartal neu os yw lleisiau rhaipartneriaid yn ymddangos, yn
afresymol, fel pe baent yn bwysicach nag eraill, yna gally
cydweithio deimlo’n docenistaidd ac yn ddiystyriol o’r sgiliau a’r
profiad y gallpartneriaid o amgylch y bwrdd eu cynnig. Gall y
partneriaid hynny sy’n teimlo’rcanlyniadau negyddol hyn fwyaf
weithiau fod y rheini y mae ein gwasanaethau neuein rhaglenni
wedi’u dylunio i’w cefnogi, gan gynnwys dinasyddion a
chymunedau.
I wrthsefyll y trafferthion posib hyn – acannog prosiectau a
gwasanaethau syddwedi’u dylunio’n well ac sy’n fwy perthnasol– mae
ffyrdd newydd o weithio yn dod i’rgolwg sy’n cydnabod dinasyddion
achymunedau fel cydweithredwyr hanfodolwrth ddylunio prosiectau a’u
rhoi ar waith. Cydgynhyrchu yw un o’r rhain, sydd wedidatblygu yng
Nghymru yn benodol i wella’rffordd o ddylunio a darparu
gwasanaethaucyhoeddus.
Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn eiddisgrifio fel ‘dull o
weithio a seilir ar asedau sy’ngalluogi pobl sy’n darparu ac sy’n
derbyngwasanaethau i rannu’r grym a’r cyfrifoldeb, ac igydweithio
mewn perthynas gydradd, gyfatebol agofalgar.’ Mae dull a seilir ar
asedau, yn hytrach nag ar ddiffyg,yn canolbwyntio ar ba adnoddau
sydd gan bobl achymunedau neu’r adnoddau y gallant eu cynnig
ynhytrach na’r hyn sydd ar goll. Enw arall ar hyn ywDatblygu
Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau.
Rôl Cydbenderfynu a Chydgynhyrchu
Adnoddau Defnyddiol
WCVA – adnoddau arlein am ddim ar weithio gydag eraill,
rhwydweithiau, comisiynu a chontractau
NCVO – adnoddau arlein am ddim ar bartneriaethau a chydweithio
gan gynnwys sefydlucytundebau gweithio a chonsortia
Good Practice Wales - safle ar-lein un man dim-am-elw
cydweithredol sydd â’r nôd o rannu arferda a gwybodaeth yn y sector
gyhoeddus yng Nghymru
Copronet.wales – mae’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu yn cynnal Sylfaen
Wybodaeth ac ynddi becynnaucymorth, ymchwil, tystiolaeth,
gwybodaeth a ffynonellau dysgu eraill ynglŷn â chydgynhyrchu
IVAR - adroddiadau ac ymchwil ar heriau a buddion cydweithio
19
-
Cynnwys
Y darn cyfreithiol:Yn gryno:
Pam mae'n bwysig?
Mae meddylwyr blaenllaw megis Edgar Kahn, sylfaenydd
TimeBanking, wedipwysleisio oferedd ceisio datrys problemau
cymhleth, megis digartrefedd neudroseddu ymysg ieuenctid, heb
gynnwys y bobl sy’n teimlo effaith y broblem dan sylw.
Gall y rheini yr effeithir arnynt nid yn unig rannu
profiadauuniongyrchol o’u hachosion a’u heffeithiau ond hefyd
ywybodaeth leol neu gymunedol i helpu i benderfynu paffactorau sy’n
debygol o’u gwella neu eu gwaethygu, neu a allaihelpu i’w datrys yn
llwyr. Mae llawer o bobl yn cytuno nad yw’r ‘profiad byw’ hwn
wedi’iddefnyddio ddigon wrth ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus
apholisïau. Nid oes llawer o bobl sy’n dylunio gwasanaethau ynprofi
sut mae’r gwasanaethau hynny wedyn yn cael eu darparuyn y gymuned
na’r effeithiau maent yn eu cael. Drwy gynnwys pobl sydd wedi
defnyddio’r gwasanaethau hyn,neu ‘arbenigwyr drwy brofiad’, mae
potensial i fanteisio arffynonellau newydd o wybodaeth a
safbwyntiau. Yn ogystal âchyfrannu at wasanaethau a pholisïau mwy
gwybodus, gall hynhelpu dinasyddion i deimlo eu bod yn cael eu
parchu ac ygwrandewir arnynt, a all yn ei dro helpu i gryfhau a
grymusocymunedau.
Peidio â cheisio datrys problemau ar eich peneich hun ond deall
y buddion a geir wrthgynnwys ystod mor eang â phosib o bobl
wrthlunio’r penderfyniadau a’r gwasanaethau afydd yn effeithio ar
eu bywydau.
Pwysigrwydd cynnwys personaueraill sydd â diddordeb mewncyrraedd
y nodau llesiant a sicrhaubod y personau hynny’n
adlewyrchuamrywiaeth y boblogaeth.
20
Adlewyrchir pwysigrwydd Cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol acmae’n ymddangos bod cyflawni llawer o’r Dangosyddion
Cenedlaethol ynddibynnol ar weithredu’r ffordd hon o weithio yn
llwyddiannus, yn enwedigDangosydd 23: Y ganran sy’n teimlo’u bod yn
gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’neffeithio ar eu hardal
leol.
-
Er y ddadl argyhoeddiadol dros gynnwysdinasyddion wrth ddylunio
gwasanaethau,mae hwn yn dal i fod yn faes y mae llawero fudiadau ac
asiantaethau yn cyfaddef eubod yn ei gael yn anodd. Mae ymgynghori
yn gysyniad cyfarwydd i’rmwyafrif ac mae’n golygu gwahoddsylwadau
ar gynlluniau neu brosiectausydd eisoes yn ymffurfio neu mewn
rhaiachosion wedi’u penderfynu yn barod. Serch hynny, mae hyn yn
cynnwys pobl yny cam olaf bron o’r broses dylunio prosiectneu
wasanaeth pan fo’n anodd newidpenderfyniadau neu ddylanwadu
arnynt.
Mae llawer o’r farn ei bod yn llawer mwy cynhyrchiol,effeithlon
a theg i gynnwys pobl o’r cychwyn cyntafac ym mhob cam o’r cylch
prosiect, o ganfod angenamdano, ei gynllunio a’i ddylunio, holl
ffordd at ei roiar waith a’i werthuso. Mae’r Rhwydwaith
Cydgynhyrchu wedi dadlau bodhyn yn gofyn am newid mewn diwylliant
ac ethos –‘Gweithio Gyda ac Nid Ar Gyfer’ neu ‘Gwneud Gyda acNid
Gwneud Rhywbeth i Rywun’ – yn gymaint ânewidiadau mewn patrymau
gweithio amecanweithiau ymgysylltu ymarferol.
Pam mae hi mor anodd gwneud hyn?
Hyd yn oed pan fyddwn yn credu’n sicr ym mhwysigrwydd cynnwys,
foddbynnag, mae yna dal lawer o rwystrau i’w goresgyn cyn y mae’n
rhan annatodo’r broses dylunio a darparu gwasanaethau. Bydd yn
cymryd amser i ddeall yffyrdd gorau o gynnwys cymuned yn ei holl
amrywiaeth, o gofio y bydd gan ymwyafrif o gymunedau lawer o
wahaniaethau diwylliannol, ieithyddol,demograffig a gwahaniaethau
eraill. Gellir hwyluso’r broses hon drwy feithrina chynnal
perthynas ag arweinwyr cymunedol neu ddarparwyr gwasanaethaueraill,
a all fod yn gyfryngwyr y bydd y gymuned yn ymddiried ynddynt. Yn
yr un modd â chydweithio, gall y pwysau i ddarparu canlyniadau
arunwaith gyda llai a llai o arian olygu ei bod yn demtasiwn i
hepgor cynnwyspobl mewn ffordd ystyrlon yn gynnar yn y broses, gan
gynnal prosesymgynghori fwy arwynebol pan fo’r mwyafrif o
benderfyniadau wedi’ugwneud yn fewnol.
Perygl hyn yw na fydd y canlyniad yn y pen draw wedi elwa o
safbwyntiau’r rheini sy’ndefnyddio gwasanaethau presennol na’u
syniadau i arloesi a gwneud gwelliannau. Ynwaeth, gall prosesau
ymgynghori anfoddhaol wneud i bobl deimlo’n rhwystredig acyn
ddi-rym a’u gwneud yn llai tebygol o fod eisiau cymryd rhan mewn
prosesau tebygyn y dyfodol.
Mae sawl corff wedi datblygu ‘Ysgolion Cyfranogi’ i
gynrychioli’r gwahanol lefelau hyno gynnwys, gan amlygu pethau
amrywiol i’w hystyried o ran adnoddau, disgwyliadau alefelau
perchnogaeth a rheolaeth, sydd ynghlwm wrth bob un. Ceir hefyd
gyrsiauhyfforddi achrededig i ddeall y dulliau hyn ymhellach a sut
i symud y tu hwnt iymgynghori at ffyrdd mwy cydgynhyrchiol o
weithio.
21
-
Yn y pen draw, mae angen i ni gyd – cyrffcyhoeddus yn ogystal â
mudiadau trydyddsector a chymunedau – gredu bod cynnwysdinasyddion
wrth wneud penderfyniadau ynweithgaredd gwerth ei wneud a bod y
buddiono ran gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiola grymuso a
chryfhau cymunedau yn drech na’rcostau cychwynnol, yr ymdrech, yr
hyfforddianta’r amserlenni hwy a all fod yn angenrheidiol iroi
mecanweithiau cyfranogi effeithiol yn eu lle.
Un ffordd i fudiadau fynd ati i wneudhyn yw gwneud cynnwys yn
rhanannatod o waith bob dydd eumudiadau a’u gwasanaethau ynhytrach
na’i ystyried fel proses arwahân i’w defnyddio pan fo’r angen
yncodi. Yn aml, mae gan staff rheng flaenymwybyddiaeth ddofn o
angheniondefnyddwyr gwasanaethau a gallantgynnig llawer iawn o
wybodaeth aphrofiad treiddgar. Gallant hefyd fodyn sianeli
cyfathrebu effeithiol i gasglusyniadau ac adborth. Wrth gydnabod
agwerthfawrogi rôl staff rheng flaen yn ybroses hon, a chanfod
ffyrdd o sicrhaubod eu profiadau yn cyfrannu’nsystematig at
brosesau penderfynu arlefelau eraill yn y mudiad, gellir helpu
iwneud ‘profiad byw’ perthnasol ynrhan annatod o’r broses dylunio
adarparu gwasanaethau.
Mae’r syniad hwn o gynnal deialogcyson – o fewn mudiadau a
rhyngddynthwy a’u rhanddeiliaid – yn sail i’r
sy’n darparucanllaw cam wrth gam i gynnwys
ycyhoedd mewn ffordd ystyrlon. Mae
hefyd wedi’i ddatblygu idimau farnu a ydych yn
rhoi’regwyddorion ar waith yn gywir ac yn yffordd fwyaf effeithiol
posib.
Egwyddorion Cenedlaethol ar gyferYmgysylltu â’r Cyhoedd,
offeryn Asesu
Mae taer angen newid y ffordd yr ydym yndarparu gwasanaethau
cyhoeddus i bobl yngNghymru gan fod y galw am wasanaethau acíwtar
gynnydd, nid yw eu cyllidebau wedi’ublaenoriaethu ac mae
gwasanaethau cymunedolyn cael eu torri. Yn 2014 argymhellodd
Comisiwn Williams arWasanaethau Cyhoeddus ddiwygiadau amrywiol,gan
nodi: 'Bydd modelau darparu newydd sy'ncanolbwyntio ar atal,
ymyrryd yn gynnar a rheoligalw drwy gydgynhyrchu ac ymgysylltu
âdinasyddion yn hanfodol.'
Pam mae hyn yn bwysig i’r
trydydd sector...
22
Cydnabyddir na all y sector cyhoeddus ar ei benei hun ddarparu
ansawdd bywyd. Yn gynyddol,chwilir am bartneriaid o sectorau eraill
i helpu iddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chynnwyspobl fel
dinasyddion gweithgar a gwirfoddolwyra all gryfhau gallu cymunedau
i ymdopi â llu obethau amrywiol o unigedd i lifogydd. Mae gan y
trydydd sector eisoes draddodiadcryf o gynnwys y bobl yr ydym yn
eugwasanaethu ac mae wedi bod yn arwain gwaithi archwilio gwahanol
ffyrdd o gasglu straeon aphrofiadau unigol.
-
O ystyried perthynas y sector â’r cymunedau yr ydym yn eu
gwasanaethu, a’n profiad o roi prawf arddulliau ymgysylltu mwy
modern, efallai y gwelwn fwy o gyrff cyhoeddus yn dod atom yn
amlach i fod ycyfryngwyr y mae cymunedau yn ymddiried ynddynt,
rhyngddynt hwy a dinasyddion. Mae hyn yn rhanbwysig o’n rôl. Fel
sector, fodd bynnag, mae angen i ni fod yn glir bod allgymorth
ychwanegol nad yw eisoes yn rhano’n rhaglenni gwaith yn gofyn am
amser, ynni ac adnoddau ychwanegol a bod angen ein cynnwysninnau,
o’r cychwyn cyntaf, wrth ddylunio unrhyw raglenni cynnwys y
gofynnir i ni helpu i’w rhoi arwaith. Bydd hyn yn helpu hefyd i
ledaenu diwylliant ac ethos cydgynhyrchu a galluogi i’w fuddion fod
ynfwy gweledol a chael eu deall yn ehangach.
Useful Resources
Mae Arfer Da Cymru yn cynnal y
sydd
ag adroddiadau ymchwil,astudiaethau achos, offer ymarferol a
gwefannau.
Catalog Cydgynhyrchu
Mae hefyd yn cynnal rhestr o
adroddiadauymchwil amrywiol ar ffyrdd amgen o gynnig
gwasanaethau.
Mae gan raglen WCVA astudiaethau achos a phecynnau cymorth
ymarferol defnyddiol argynnwys a’r Egwyddorion Cenedlaethol ar
gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Mae WCVA hefyd yndarparu hyfforddiant
ar gynnwys.
Elusen yw Involve sy’n hybu cyfranogi cyhoeddus a’i chenhadaeth
yw rhoi pobl wrth wraiddpenderfyniadau. Mae ei chronfa wybodaeth yn
egluro gwahanol dermau a chysyniadaudemocratiaeth, yn chwalu
chwedlau ynglŷn â chyfranogi cyhoeddus megis mae’n rhy ddrudneu’n
ddiangen, ac yn darparu tystiolaeth o effaith.
Mae International Association for Public Participation (IAP2) yn
cynnig adnoddau ahyfforddiant ar gyfranogi cyhoeddus, yn enwedig
datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyrcyfranogi
Gall fod yn anodd dirnad a chofnodi hanfod profiad byw rhywun
drwy holiadur arlein neu arolwg drwy’rpost ac yna ei ddehongli mewn
ffyrdd a all gyfiawnhau penderfyniadau penodol. Serch hynny,
maeystod eang o offer ymgysylltu ar gael a all ein helpu i wneud
synnwyr o’r hyn y mae pobl yn ei gynnig.Mae Cyngor Gwirfoddol Sirol
Rhondda Cynon Taf, Interlink, wedi arddangos llawer o’r rhain drwy
eibrosiect
ac wedi
defnyddio
yn llwyddiannus yn eibrosiect
Gwrando ar gyfer Pobl Hŷn.
Cynnwys ar gyfer Iechyd Meddwl Sensemaker
23