-
Gelateria Newydd i Bentref EidalaiddMae ymwelwyr â Phortmeirion,
un o brif gyrchfannau twristiaid, wedi bod yn cael blas ar rywbeth
newydd sbon yr haf hwn, sef hufen iâ a gynhyrchir yn y Pentref.
Mae’r gelateria newydd a’i chyfarpar cynhyrchu wedi bod yn
llwyddiant ysgubol o safbwynt twristiaid, ac wedi dod â swyddi
cynaliadwy
drwy gydol y flwyddyn yn ei sgil.
Agorodd y gelateria ym mis Ebrill ar safle’r hen siop lyfrau,
sydd bellach wedi symud dros y ffordd. Cafodd Caffi’r Angel ei enwi
ar ôl Angel Cottage lle mae wedi ei leoli. Hwn oedd y bwthyn cyntaf
a adeiladodd Clough Williams-Ellis, y gŵr a sefydlodd Bortmeirion,
yn fuan ar ôl prynu’r safle ym 1925. Mae’r cyfarpar cynhyrchu wedi
creu saith swydd ychwanegol a’r bwriad yw defnyddio cynhwysion
gorau’r ardal, gyda llaeth a hufen yn dod o Hufenfa De Arfon ym
Mhwllheli.
Mae Robin Llewelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion wrth ei fodd
gyda’r datblygiad newydd, sy’n ychwanegu dilysrwydd at awyrgylch
Eidalaidd y Pentref. Meddai Robin:
“Pan feddyliwyd am y syniad, aethom draw i gynnal archwiliad i
Rimini yn yr Eidal, lle mae’r ‘gelato’ yn gelfyddyd. Roeddem ni
eisiau copïo hyn ym Mhortmeirion ac rydym wedi buddsoddi, gyda
chymorth Llywodraeth Cymru, mewn sefydlu ein cyfleusterau cynhyrchu
ein hunain.
“Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn at ein portffolio yn cyd-fynd
yn dda ag ethos yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, gan greu swyddi
drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na rhai tymhorol.”
Mae twristiaeth gynaliadwy yn egwyddor arweiniol ym Mhortmeirion
lle mae 190 aelod o staff bellach yn cael eu cyflogi drwy’r
flwyddyn. Mae digwyddiadau ar raddfa fawr
wedi helpu i sefydlu’r atyniad fel un o brif gyflogwyr yr ardal
ac mae’r cyfleusterau newydd yn sicr o atgyfnerthu’r llwyddiant
hwn. Mae’r daith flasu hufen iâ drylwyr a wnaethom i’r Eidal wedi
talu ar ei chanfed!
www.portmeirion-village.com
www.gwyneddbusnes. net 01
Caffi’r Angel (Ch i Dd) Iwan Parry, Connor Evans, Laura
Seabright, Michael Kennedy
Ian Tansley, Peter Saunders OBE, Keith Bartlett
RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDDRhifyn 11, Haf 2014
Hwb Ariannol Bill Gates i Gwmni LleolMae The Sure Chill Company,
y busnes technoleg oergelloedd o Dywyn, yn dathlu llwyddiant
ariannol sylweddol, ar ôl derbyn $1.4m (£800,000) gan Sefydliad
Bill a Melinda Gates. Bydd y cymhorthdal hwn yn caniatáu i’r
Sure
Chill Company ddatblygu ei system chwyldroadol sy’n oeri
brechlynnau ac sy’n cael ei defnyddio mewn gwledydd sy’n datblygu,
yn y frwydr i ddileu afiechydon y gellir eu hatal ledled y byd.
Bellach bwriad y cwmni yw datblygu’r cam ‘prawf o gysyniad’
ymhellach i gynnal treialon maes yn Affrica dros y 15 mis
nesaf.
Bydd darllenwyr cyson Cylchlythyr RhBG yn cofio bod y Sefydliad,
wedi cydnabod potensial gwaith arloesol The Sure Chill Company y
llynedd gyda chymhorthdal o fwy na $100,000 (£67,000). Mae’r
buddsoddiad newydd wedi cael ei groesawu gan y Cadeirydd, Peter
Saunders OBE, sy’n entrepreneur ac yn ‘angel busnes’ sydd wedi
buddsoddi £2m o’i arian ei hun yn y fenter.
Syniad gwreiddiol Ian Tansley, y Prif Swyddog Technegol yw
technoleg Sure Chill, ac mae’n cael ei gydnabod gan Sefydliad
Iechyd y Byd. Mae’r cynllun yn harneisio priodweddau arbennig dŵr i
gynnal tymheredd oer cyson. Mae hyn yn caniatáu i frechlynnau gael
eu storio yn ddiogel mewn oergell gludadwy sy’n gallu gweithredu
heb drydan am 35 diwrnod. Mae’r cwmni eisoes wedi cyflenwi ei
oergelloedd mawr i gadw brechlynnau i fwy na 30 o wledydd, ac yn
gynharach eleni cafodd 200 eu cludo ar longau i Ynysoedd y
Philipinau i gynorthwyo ymateb UNICEF i Deiffŵn Enfawr Haiyan.
“Bydd yr arian yn caniatáu inni integreiddio’r dechnoleg i
oergell brechlynnau, y gellir ei defnyddio yn y rhan fwyaf o fannau
anghysbell i gefnogi rhaglenni imiwneiddio,” meddai Keith Bartlett,
Prif Weithredwr The Sure Chill Company. “Mae gan y system oeri
gadarn, bragmatig a hawdd-ei-defnyddio hon y potensial i achub
bywydau niferoedd dirifedi o blant ledled y byd.”
Er mwyn ategu ei lwyddiant yn y sector meddygol mae The Sure
Chill Company yn awyddus i ehangu i farchnadoedd eraill. Dangoswyd
diddordeb sylweddol gan sectorau bwyd a diod a’r sector domestig.
Mae’r dechnoleg arloesol, gyda’i gallu dihafal i oeri ac sy’n
gweithio heb gyflenwad trydan di-dor, yn brif bwynt
gwerthu.www.surechill.com
http://www.portmeirion-village.comhttp://www.surechill.com/
-
www.gwyneddbusnes. net02
Daeth aelodau cymuned fusnes Gwynedd ynghyd ar ddydd Iau 22 Mai
i anrhydeddu’r disgleiriaf a’r gorau yn eu plith. Mewn Cinio Gala
arbennig sy’n uchafbwynt Wythnos Busnes Gwynedd 2014, cafodd Sean
Taylor ei enwi yn Berson Busnes y Flwyddyn yng Ngwynedd. Perchennog
TreeTop Adventure yw Sean, a’i brosiectau diweddaraf yw atyniadau
Zip World ym Methesda a Blaenau Ffestiniog.
Mae’r Zip World Velocity gwreiddiol, a agorwyd yn 2013, wedi
ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, a rhagwelir y bydd y fenter Zip
World Titan newydd ym Mlaenau Ffestiniog yn rhoi hwb i’r economi
leol o ran swyddi ac incwm twristaidd. Daw Sean yn wreiddiol o
Drefriw, ac ar ôl gwasanaethu am 22 mlynedd gyda’r Morlu Brenhinol
dychwelodd i’w ardal enedigol i agor Tree Top yn 2007, sef busnes
cwrs rhaffau antur llwyddiannus ym Metws-y-Coed.
Y Cinio Gala yw uchafbwynt Wythnos Busnes Gwynedd, sydd bellach
yn dathlu ei nawfed flwyddyn o fodolaeth lwyddiannus. Mae’n
ddathliad o fenter ranbarthol ac ar yr un pryd yn gyfle i’r gymuned
fusnes rwydweithio a rhannu syniadau. Cynhelir digwyddiadau
arbennig ledled y sir mewn lleoedd fel Dolgellau, Bangor,
Caernarfon a Phwllheli. Eleni cynhaliwyd y Brecwast Busnes Lansio
yng Nghanolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor, lle bu Ieuan Wyn Jones,
y prif siaradwr, yn trafod datblygiad Parc Gwyddoniaeth Menai.
Drwy gydol yr wythnos cynhaliwyd gweithdai ar bynciau mor
amrywiol â thwf, gwasanaethau cychwyn busnes, tendro, rheoli
amgylcheddol a marchnata digidol, ynghyd â chymorth busnes a
digwyddiadau rhwydweithio.
Cynhelir y Cinio Gala yng Nghanolfan Rheolaeth yr Ysgol Fusnes.
Mae gwobr Person Busnes y Flwyddyn, a gyflwynir gan Rwydwaith
Busnes Gwynedd, yn dathlu llwyddiannau sylweddol yr enillydd, ac yn
cadarnhau ei gyfraniad unigryw i sector busnes y sir. Cyflwynwyd y
wobr gan Gwyn Jones, Aelod o Fwrdd RhBG.
Cafodd Dafydd Lake o Lake Digital, Porthmadog, newyddion da
hefyd pan dderbyniodd wobr yr Entrepreneur Ifanc gan gangen Gwynedd
o Ffederasiwn Busnesau Bychain. Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i
berson busnes ifanc sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn ystod
y flwyddyn ac sydd wedi gwneud cyfraniad positif i economi
Gwynedd.
Y siaradwr gwadd yn y Cinio oedd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd
Wigley, a draddododd y brif araith ar yr economi, gan rannu ei
brofiadau o weithio yn y sector preifat a chyda’r Llywodraeth.
Cyflwynodd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd, wobrau i
Delsol, o Gaernarfon ac i Megni, ym Mharc Menai, i gydnabod eu
cyfraniad i’r economi leol. Meddai:
“Mae Wythnos Busnes Gwynedd a’r Gwobrau hyn yn llwyfan rhagorol
ar gyfer dathlu busnesau gorau’r sir. Mae’r digwyddiad yn bodoli
ers naw mlynedd bellach ac wedi dod yn uchafbwynt y calendr busnes,
ac eto eleni mae wedi cynnig cyfle ardderchog i fusnesau ddod at ei
gilydd i drafod materion busnes yn ogystal â chael cymorth
ymarferol ar sut i lwyddo yn ystod yr amseroedd heriol hyn.”
Manteisiodd Prifysgol Bangor hefyd ar y cyfle yn ystod y Cinio i
lansio gwe-dudalen newydd sbon ar gyfer cwmnïau, gan gynnig
gwybodaeth ar amrediad eang o gyfleoedd busnes a gynigir gan
Brifysgol Bangor: www.bangor.ac.uk/workingwithbusiness
www.gwyneddbusnes.net
Uchafwynt Gwobrau Wythnos Busnes
Sean Taylor a Gwyn Jones
Mae gwaith comisiwn i drawsysgrifio dogfen bwysig o’r ddeunawfed
ganrif wedi cael ei gwblhau gan Sue Proof, y cwmni prawf ddarllen a
golygu o Benrhyndeudraeth. Bydd ail gyfrol o ddyddiaduron William
Bulkeley, y tirfeddiannwr o Ynys Môn, yn mynd yn “fyw” ar wefan
Prifysgol Bangor fis Gorffennaf nesaf, gan lunio adnodd y gall
haneswyr ei archwilio.
Mae Susan Walton, perchennog Sue Proof, wedi treulio mwy na 700
awr yn trawsysgrifio oddeutu 400,000 o eiriau o’r dyddiaduron hyn a
ysgrifennwyd â llaw. Cymerodd y prosiect, a gomisiynwyd gan
Gymdeithas Edward Llwyd, fwy na dwy flynedd i’w gwblhau.
Mae’r dyddiaduron yn rhychwantu cyfnod o tua deng mlynedd ar
hugain, ac yn cynnwys popeth o fanylion am y tywydd i’r ffaith bod
merch Bulkeley wedi priodi môr-leidr! Mae cyfres o ddigwyddiadau
dilynol i gyd-fynd â lansiad ar-lein yn cael eu cynllunio, gan
gynnwys Diwrnod Agored a drama a gomisiynwyd yn arbennig.
www.sueproof.co.uk
Prawf o Lwyddiant
http://www.bangor.ac.uk/workingwithbusiness/http://www.gwyneddbusnes.net/http://www.sueproof.co.uk/
-
www.gwyneddbusnes. net 03
Adnewyddu Enw Brand Cymreig CyfarwyddMae siop weithgareddau awyr
agored newydd agor ei drysau ym Mhorthmadog gan greu 17 o swyddi
newydd a diogelu naw o rai eraill. Mae Gelert.com, sy’n rhoi bywyd
newydd i’r nod masnach enwog Gelert, yn siop 21,000 troedfedd
sgwâr, sy’n elwaar fuddsoddiad sylweddol i’r cwmni. Agorwyd siop
newydd ym Mangor, gan roi gwaith i rai o’r staff o’r siop oedd wedi
cau yng Nghaernarfon, ac mae agor y gangen ym Mhorthmadog yn
cwblhau dychweliad llwyddiannus un o brif frandiau Eryri. Mae
Gelert.com ar safle stad ddiwydiannol Penamser lle cychwynnodd
Gelert ei fusnes cyfanwerthu gyntaf un yn y dref.
Roedd y cwmni, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1975 fel siop fechan
ym Meddgelert, yn siop-un-safle i rai sy’n hoffi gwersylla a’r awyr
agored. Datblygodd brand Gelert i fod yn hynod o boblogaidd, gan
fasnachu yn Ewrop ac Asia yn ogystal â’r DU. Ar ôl cael ei ehangu
yn gyflym, yn y diwedd roedd ganddo bump o siopau, ac roedd yn cael
ei werthu mewn siopau blaenllaw, ac yn cyflogi tua 100 aelod o
staff.
Pylodd yr enwogrwydd pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr ym
mis Mehefin 2013, a chaeodd y siopau ar ôl i’w prydlesi ddod i ben.
Dyma pryd y camodd Sports Direct International Group, un o brif
adwerthwyr chwaraeon y DU, i’r bwlch, i brynu elfennau cyfanwerthu
ac adwerthu’r busnes.
Agorwyd Gelert.com yn swyddogol yn ystod penwythnos y Pasg a
Dafydd Elis Thomas fu’n gyfrifol am dorri’r rhuban. Yn ôl y sôn,
mae’r masnachu cyntaf wedi bod yn galonogol iawn ac ni allai Maggie
Hughes, Rheolwr y Siop fod yn fwy hapus:
“Mae’n rhagorol bod yn ôl mewn busnes ar safle Penamser. Rydym
yn gweld llawer o’n hen gwsmeriaid ffyddlon yn dod yn ôl ar gyfer y
tymor newydd ar ôl clywed ein bod yma yn ein safle newydd
ardderchog.
“Daeth llawer o bobl i’n agoriad mawreddog – roedd Diwrnodau
Hwyl arbennig i Deuluoedd ar y dydd Sadwrn a’r dydd Llun a
llwyddwyd i godi £640.00 o roddion i dîm Achub Mynydd Aberglaslyn.
Roedd popeth mor llwyddiannus fel ein bod yn cynllunio mwy o
ddigwyddiadau ar gyfer Aberglaslyn i’r dyfodol!”
Dan nawdd Yeomans, is-gwmni Sports Direct, mae’r hen warws segur
ym Mhorthmadog wedi dod yn fusnes blaenllaw ac mae’r staff yn
teimlo’n optimistaidd ynghylch y dyfodol.
www.gelert.com
Tîm Gelert adeg eu Lansiad Pasg (Dafydd Elis Thomas – 3ydd o’r
dde, Maggie Hughes – 4edd o’r dde
http://www.gelert.com/
-
www.gwyneddbusnes. net04
Arian Ewropeaidd yn rhoi Hwb i BrifysgolMae cynlluniau
uchelgeisiol Prifysgol Bangor newydd gael hwb anferth ar ffurf
cymorth o £45 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Mae’r cyllid
cyfatebol hwn yn mynd tuag at uwchraddio cyfleusterau dysgu ac
ymchwil, ynghyd ag ehangu ac ailddatblygu adeiladau’r
Brifysgol.
Yn gynwysedig yn y prosiectau a ariennir, mae’r adeilad Pontio y
bwriedir ei agor ym mis Medi, a Chanolfan Forol Cymru ym
Mhorthaethwy. At hyn, rhan o’r rhaglen yw uwchraddio neuaddau
preswyl, gwella adnoddau chwaraeon, ac adnewyddu prif adeilad
hanesyddol y Brifysgol. Y mae hefyd gynlluniau i
fuddsoddi mwy yn adnoddau’r gwyddorau ar hyd Ffordd Ddeiniol a
Stryd y Deon yn ogystal â gwelliannau ar Safle’r Normal.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol
Bangor:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn caniatáu inni
ddatblygu’r profiad o’r radd flaenaf yr ydym yn ei ddarparu i’n
myfyrwyr. Bydd uwchraddio cyfleusterau addysgu, ymchwil a lletyaeth
ym Mhrifysgol Bangor yn sicrhau y bydd cenedlaethau i ddod o
fyfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau academaidd rhagorol a phrofiad o
safon fyd eang fel myfyrwyr”
Yn ychwanegol at gefnogaeth gan Fanc Buddsoddi Ewrop, bydd
rhaglen fuddsoddi’r Brifysgol yn cael ei chynnal gan ei hadnoddau
ei hun, cyllid o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru
a ffynonellau eraill.
Y gobaith yw y bydd menter y Brifysgol yn cryfhau cysylltiadau
busnes o fewn ardal Gwynedd. Agwedd bwysig o’r prosiect fydd
sicrhau bod rhaglenni academaidd yn adlewyrchu gofynion marchnad
lafur Gwynedd yn well. Bydd hyn yn fanteisiol i gyflogwyr a
myfyrwyr fel ei gilydd, ac yn rhoi’r sgiliau sydd fwyaf eu hangen o
fewn y gymuned fusnes i raddedigion.
tinyurl.com/University-Funding
Adrenalin yn Tanio Ffyniant TwristaiddBydd rhai sy’n chwilio am
ias a chyffro yn cael eu denu i atyniad newydd cyffrous sy’n agor
yng Ngheudyllau Llechwedd yr haf yma. Mae Zip World Titan wedi ei
gynllunio ar ffurf wyth cilomedr o wifren wib y gall timau o bedwar
deithio ar ei hyd ar gyflymder o hyd at 70mya. Mae lansiad Titan yn
dod yn union ar ôl Zip World Velocity, a agorodd yn Chwarel y
Penrhyn y llynedd ac sydd eisoes wedi croesawu 21,000 o ymwelwyr.
Gyda’i gilydd, mae’r atyniadau hyn yn tanlinellu statws Gwynedd fel
cyrchfan antur hollbwysig.
Mae’r datblygiad newydd yn sicr o greu mwy na 30 o swyddi
parhaol a rhai dros dro yn yr ardal. Hefyd, bydd Ceudyllau
Llechwedd yn lansio profiad “Deep Mine” tanddaearol newydd i
gyd-fynd â lansiad y wifren wib.
Meddai Michael Bewick, rheolwr gyfarwyddwr Llechwedd: “Lansiwyd
Ceudyllau Llechi Llechwedd fwy na 40 mlynedd yn ôl ac mae’n un o’r
atyniadau mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Cymru, felly rydym wrth ein
boddau ein bod yn gallu ychwanegu Zip World Titan at yr hyn yr ydym
yn gallu ei gynnig.”
Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y sector
gweithgareddau awyr agored yn cyfrannu £481 miliwn i’r economi. Mae
Gwynedd yn flaenllaw o safbwynt twf datblygiadau antur y wlad,
sydd, yn ôl yr amcangyfrif, yn darparu swyddi i 8,000 o bobl ledled
Cymru. Bellach mae arlwy’r sir yn cynnwys beicio mynydd, chwaraeon
dŵr gwyn a dringo creigiau, yn ogystal â’r wifren wib hwyaf a
chyflymaf yn hemisffer y Gogledd.
www.zipworld.co.uk/titan
http://tinyurl.com/University-Funding%0Dhttp://www.zipworld.co.uk/titan/
-
www.gwyneddbusnes. net 05
Yr Enwebiad Gorau i Adwerthwr MoesegolMae Babi Pur, adwerthwr
nwyddau ar gyfer babanod a phlant bach, wedi cyrraedd y rhestr fer
i gael Gwobr Foesegol yr Observer. Mae’r enwebiad ar gyfer yr
adwerthwr moesegol gorau, a ddyfernir yn flynyddol gan y papur Sul
cenedlaethol, yn cael ei roi i gwmnïau sy’n hyrwyddo cadwyni
cyflenwi moesegol neu sy’n creu profiadau siopa gwyrdd
arloesol.
Mae Jolene a Peter Barton, perchnogion Babi Pur, yn ymfalchïo yn
y ffaith eu bod yn stocio brandiau sy’n apelio yn gyffredinol ond
sydd ar yr un pryd yn cyrraedd safonau moesegol uchel. Maent yn
honni fod yn rhaid i foeseg gael blaenoriaeth ar elw. Maent yn
ailddefnyddio blychau a deunydd pecynnu ac yn stocio teganau,
dillad a chewynnau golchadwy sydd wedi eu gwneud o ddefnyddiau
naturiol yn unig sy’n cyrraedd safonau masnach deg.
Sefydlwyd y cwmni o Benrhyndeudraeth yn 2007 pan ddaeth Peter a
Jolene yn ôl i Ogledd Cymru ar ôl genedigaeth eu merch gyntaf.
Diben Babi Pur oedd llenwi’r bwlch yn y farchnad ar gyfer dillad ac
ategolion babanod o ansawdd uchel a moesegol dderbyniol. Mae
ystyriaethau megis masnachu a chyflogau teg, dileu llafur plant a
ffynonellu cynhyrchion a chrefftau lleol i gyd yn greiddiol i ethos
y cwmni. Meddai Peter:
“Rydym yn credu fod gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, darparu
nwyddau yn gyflym, cyfathrebu da a chynghori doeth i gyd yn rhan o
redeg busnes moesegol. Er na allwn brin gredu ein bod wedi cael ein
henwebu ar gyfer y wobr hon, rydym yn teimlo y gallwn wneud newid
gwirioneddol drwy’r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud bob dydd.”
Cafodd Babi Pur ei roi ar y rhestr fer gyda phedwar busnes
arall. Eleni bydd dewis y cyhoedd yn ymuno â rhestr nodedig o
gyn-enillwyr, gan gynnwys Hugh Fearnley-Whittingstall, Malala
Yousafzai a Joanna Lumley.
www.babipur.co.uk
Cyfleuster Ailgylchu Masnachol Newydd
Mae cyfleuster ailgylchu bwyd gwastraff arloesol bellach yn
weithredol yng Nghlynnog Fawr. Agorwyd adeilad Prosiect GwyriAD, a
godwyd gan Biogen, gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Mae’r gwaith
gwerth £6 miliwn yn defnyddio technoleg treulio anaerobig i
ddadelfennu 11,000 tunnell fetrig o wastraff bwyd bob blwyddyn.
Bydd hyn yn cynhyrchu 3,500 megawatt awr o drydan adnewyddadwy ar
gyfer y Grid Cenedlaethol. Byddai’r ynni gwyrdd a gynhyrchid gan y
Prosiect GwyriAD yn ddigon i bweru pob cartref ym Mhenygroes yn
ddi-dor am flwyddyn. Bydd y broses, nid yn unig yn osgoi tirlenwi
ac yn helpu Gwynedd i gwrdd â’i thargedau ailgylchu cytunedig, ond
hefyd yn cynhyrchu biowrtaith i’w ddefnyddio ar diroedd ffermydd
lleol.
Meddai Gareth Roberts, aelod cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr
amgylchedd: “Rydym yn falch iawn fod gwaith GwyriAD bellach yn
gweithredu’n llawn - dyma’r cyfleuster cyntaf o’i fath i’w
weithredu gan Gyngor yng Nghymru ac mae’n tanlinellu ymrwymiad
Gwynedd i ddarganfod ffyrdd newydd gwyrdd o ddelio â gwastraff bwyd
y sir”
www.biogen.co.uk/bw-gwyriad.asp?lang=english
Safon Aur i Asiantaeth RecriwtioMae Letterbox Recruiting newydd
gipio gwobr aur chwenychedig Buddsoddwyr mewn Pobl, a hynny am yr
eilwaith. Meincnod safon y DU yw Buddsoddwyr mewn Pobl ym maes
rheoli pobl a gwella busnes. Dim ond i sefydliadau sydd wedi
arddangos rhagoriaeth ym maes datblygu a chefnogi eu staff y
dyfernir y wobr aur. Cafodd Letterbox, sy’n gweithio ledled Gogledd
Cymru, eu cydnabod fel cyflawnwyr uchaf yn 2011 ac maent yn hynod o
falch fod eu hymdrechion wedi talu a’u bod wedi ennill y clod
ychwanegol hwn.
www.letterboxrecruiting.co.uk
Enillwch Lond Basged o Ddanteithion!Mae cyfle i aelodau RhBG
ennill gwobr ardderchog yr haf hwn. Y cwbl sydd angen ei wneud yw
mynd i weld yr amrywiaeth o grefftau sydd ar gael yng Nghanolfan
Grefftau Corris.Cynhelir Helfa Drysor a bydd deg cliw i’r ymwelwyr
eu datrys wrth iddynt grwydro o amgylch y safle. Basged foethus
yw’r wobr sy’n cynnwys gwerth £250 o nwyddau a danteithion. Yn eu
mysg ceir eitemau crefft a wnaed â llaw ynghyd â detholiad blasus o
fwyd a diod a wnaed yn lleol, neu daleb anrheg os hynny yw eich
dewis. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu tynnu o het ar ddiwedd
y tymor.
www.corriscraftcentre.co.uk
http://www.babipur.co.ukhttp://www.biogen.co.uk/bw-gwyriad.asp%3Flang%3Denglishhttp://www.letterboxrecruiting.co.uk/http://www.corriscraftcentre.co.uk/
-
Yn GrynoCanmoliaeth i Gwmni Cyfryngau o Gaernarfon
Yn ddiweddar derbyniodd cwmni Rondo Media o Gaernarfon
ganmoliaeth frwd gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mewn llythyr oedd yn llongyfarch
Robin Evans, Cadeirydd Rondo, cymeradwyodd Ms Hart y cwmni ar gael
eu cydnabod gan gylchgrawn Broadcast fel un o brif fusnesau
cynhyrchu annibynnol y cyfryngau yn y DU.
Pwysleisiodd Ms Hart eu cyfraniad gwerthfawr i’r economi leol,
yn arbennig eu gwaith gyda chwmnïau creadigol llai. Yn ddiweddar
cyrhaeddodd Rondo garreg filltir o ran darlledu pan ymddangosodd
1000fed rifyn y rhaglen wobrwyedig Rownd a Rownd, ac mae gan y
cwmni lwyddiannau eraill hefyd megis y ddrama gomedi feddygol The
Indian Doctor, gyda Sanjeev Bhaskar.
rondomedia.co.uk
Amserlen Cyrsiau sydd Newydd gael eu Cyhoeddi
Mae Elevate Cymru yn y Gogledd wedi cyhoeddi eu hamserlen newydd
o gyrsiau o fis Mai hyd at fis Medi. Mae’r rhwydwaith ddysgu
seiliedig ar waith yn cynnig cyrsiau arweinyddiaeth a rheoli sy’n
cael eu hariannu yn llawn mewn amryw o safleoedd. Mae adborth yn
awgrymu ei bod ar brydiau yn anodd
i Fentrau Bychain a Chanolig lleol roi’r amser a’r ymrwymiad
ariannol sydd eu hangen i ryddhau aelodau o staff am gyfnodau o
hyf-forddiant estynedig. Er mwyn ymateb i hyn, a chan ddymuno
manteisio i’r eithaf ar fuddion ymarferol y gweithle, bydd cyrsiau
tridiau dwys yn cael eu cynnal yng Ngoleg Llandrillo, sef: Rheoli
Digwyddiadau, Rheoli Prosiectau a Sgiliau Cyfathrebu Busnes. Gellir
cael manylion llawn yr holl gyrsiau yn:
elevate.bangor.ac.uk/courses.php.en
Tlysau Hardd Gwobrau Dewi Sant
Gwaith Llechi Inigo Jones oedd wedi darparu’r llechi ar gyfer
tlysau Gwobrau Dewi Sant 2014. Mae’r gwobrau yn dathlu ac yn
cydnabod llwyddiannau rhyfeddol pobl Cymru. Ymhlith yr enillwyr o
Ogledd Cymru roedd Bryn Terfel a Jade Jones, a chyflwynwyd ytlysau
iddynt gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
www.inigojones.co.uk
CYFLEOEDD ARIANNULlywodraeth Cymru yn Lansio Cronfa Gyfalaf
Newydd
Mae cronfa newydd gwerth £20 miliwn yn awr ar gael i fusnesau
yng Ngwynedd. Mae hon wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac
mae’n cael ei rheoli gan Gyllid Cymru, eu cangen fuddsoddi.
Yn ddiweddar lansiwyd Cronfa Gyfalaf Twf Cymru gan Edwina Hart,
Gweinidog yr Economi wedi ei bwriadu ar gyfer Mentrau Bychain a
Chanolig sy’n dymuno sicrhau benthyciadau rhwng £50,000 a hyd at £2
filiwn, am gyfnodau o hyd at ddeunaw mis. Rhoddir cymorth i’r
cwmnïau sydd angen opsiynau ariannu tymor byr, a gellir defnyddio’r
benthyciadau, a geir ar gyfer prynu stoc, cyllid prosiect, neu i
ddiogelu blaendaliadau, bondiau perfformiad a gwarant. Rhagwelir y
gallai’r gronfa helpu hyd at 90 o fentrau bychain a chanolig, gan
greu a diogelu oddeutu 1000 o swyddi dros gyfnod o bum
mlynedd.www.financewales.co.uk
HSBC yn Cynorthwyo Twf Busnes
Gallai busnesau yng Nghymru fanteisio ar y cyhoeddiad yn
ddiweddar gan HSBC ei fod wedi clustnodi £400m ar gyfer mentrau
bychain a chanolig. Bydd y buddsoddiad hwn yn dod o’i gronfa arian
gwerth £6bn ar gyfer mentrau o’r fath yn y DU sy’n agored i
fusnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes a chanddynt drosiant o
ddim mwy na £30m. Gall cwmnïau Gwynedd sydd â mentrau sy’n elwa o’r
cynllun.
Nod y cynllun yw helpu cwmnïau uchelgeisiol yn eu hymdrechion i
gyfalafu ar adferiad economaidd cyffredinol y DU drwy fuddsoddi
mewn twf.
www.hsbc.com/about-hsbc/structure-and-network/commercial-banking
Canolfan Gynghori Ar-lein Newydd
Mae Business Finance Zone yn ganolfan gynghori ar-lein newydd a
sefydlwyd gan Busnes Cymru i arwain cwmnïau tuag at y cymorth
ariannol gorau. Gan ddefnyddio cronfa ddata (Finance Locator) o fwy
na 1,000 cynllun, gall gwe-ddefnyddwyr astudio amrediad o gynigion,
yn cynnwys rhai sydd ar gael gan lywodraethau, banciau, cyfalafwyr
menter ac ariannu rhwng cydweithwyr.
I ddarganfod mwy ffoniwch: 03000 603 000
neu ewch i: www.business.wales.gov.uk/zones/business-finance
Unrhyw Sylwadau
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr
diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi
cael unrhyw ymateb gennych. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu
syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod.
E-bostiwch y Golygydd Jacquie Knowles ar:
[email protected]
I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy
am y Rhwydwaith ewch i:www.gwyneddbusnes.net
www.gwyneddbusnes. net 06
© 2014 Rhwydwaith Busnes GwyneddYsgrifennwyd a golygwyd gan :
Jacquie Knowles
Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol
am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.
http://rondomedia.co.uk/cy/cyflwyniad.htmhttp://elevate.bangor.ac.uk/courses.php.enhttp://www.inigojones.co.uk/http://www.financewales.co.uk/www.hsbc.com/about-hsbc/structure-and-network/commercial-bankinghttp://business.wales.gov.uk/zones/business-financehttp://www.gwyneddbusnes.net