Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd - LLYW.CYMRU · 2019. 6. 17. · 3 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2 Trefniadau
Post on 08-Feb-2021
0 Views
Preview:
Transcript
Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd:Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru
Rhagfyr 2017
© Hawlfraint y Goron 2017 WG33680 ISBN digidol 978-1-78903-116-4
Paratowyd y canllawiau hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Eu diben yw cynorthwyo Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru i ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd wrth gynllunio a datblygu prosiectau a strategaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â changen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost at: Floodcoastalrisk@llyw.cymru
Cynnwys 1 Cyflwyniad .................................................................................................................. 1
2 Trefniadau trosiannol .................................................................................................. 3
3 Darparu lwfansau newid yn yr hinsawdd .................................................................... 5
3.1 Dyluniad y Cynllun ................................................................................................ 5
3.2 Profion Sensitifrwydd ............................................................................................ 6
4 Cyfyngiadau a Rheoli Eithriadau ................................................................................ 6
Atodiad 1 ....................................................................................................................... 7
Lwfansau Newid yn yr Hinsawdd ................................................................................... 7
1. Newidiadau i lifau llifogydd afonydd yn ôl ardal basn afon ............................... 7
2. Newid mewn glawiad eithafol ........................................................................... 8
3. Newid yn lefelau cymedrig cymharol y môr ...................................................... 9
4. Newid mewn ymchwyddiadau stormydd ......................................................... 10
5. Newid mewn hinsawdd tonnau ....................................................................... 10
Atodiad 2 ..................................................................................................................... 12
Enghreifftiau Gweithiedig ............................................................................................ 12
1. Enghraifft Afonol ................................................................................................ 12
2. Enghraifft Lanwol ............................................................................................... 14
Cyfeiriadau: ................................................................................................................. 16
1 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
1 Cyflwyniad
Darperir y canllawiau hyn fel gwybodaeth ychwanegol i Ganllawiau Achos Busnes
Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru sydd ar ddod.
Mae'r ddogfen yn disodli fersiwn 2011, sef 'Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd:
Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng
Nghymru'. Mae hefyd yn cefnogi'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl
Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2011)1 a dylid ei defnyddio er mwyn
ystyried newid yn yr hinsawdd yng nghyd-destun datblygu'r holl brosiectau neu
strategaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol (FCERM).
O ran llifau llifogydd afonydd, glawiad eithafol ac ymchwyddiadau stormydd, mae'r canllawiau hyn yn adlewyrchu asesiad data UKCP09 a gynhaliwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng 2013 a 2015, a gynhyrchodd lwfansau newid yn yr hinsawdd mwy cynrychiadol ar gyfer Cymru a Lloegr. O ganlyniad i'r asesiad hwn, ni chafwyd unrhyw newidiadau i'r lwfansau newid yn yr hinsawdd ar gyfer uchder tonnau, ymchwyddiadau stormydd na dwysedd glawiad uchaf. Fodd bynnag, bu newidiadau bach o ran lwfansau llifau afonydd uchaf yn y tair Ardal Basn Afon sy'n cwmpasu Cymru. Mae'r 50fed canradd (Canolog) a'r 90fed canradd (Uwch) wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn. Sylwch: cyfeiriwyd yn flaenorol at y 50fed canradd (Canolog) fel y 'ffactor newid' mewn fersiynau cynharach o'r ddogfen hon. Mae'r wyddoniaeth mewn perthynas ag amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd ar gyfer cynnydd yn lefel y môr wedi newid yn sylweddol ers cyhoeddi UKCPO9, sydd wedi ennyn mwy o hyder o ran amcanestyniadau o lefel gymedrig y môr yn fyd-eang. Am y rheswm hwn, argymhellodd y Swyddfa Dywydd y dylai defnyddwyr osgoi defnyddio UKCP09 ar gyfer lwfansau newid yn yr hinsawdd mewn perthynas â chynnydd yn lefel y môr.2 Nid yw'r amcanestyniadau a gyflwynir yn y canllawiau hyn, felly, yn adlewyrchu data UKCP09 (yn seiliedig ar bedwerydd adroddiad asesu y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, 2007), ond maent yn gyson â'r rhagfynegiadau diweddaraf o ran cynnydd yn lefel y môr yn fyd-eang a phumed adroddiad asesu y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (AR5; Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, 2013) (Met Office, 2016).
O ystyried oes hir a chost uchel yr amgylchedd adeiledig a llawer o fesurau FCERM,
mae’n hanfodol bod cynlluniau a phrosiectau buddsoddi yn ystyried peryglon newidiol
y ganrif sydd i ddod mewn modd priodol. Mae hyn yn cynnwys darparu ar gyfer
ymaddasu i newid yn yr hinsawdd lle bo’n briodol.
Mae dau ddull mewn perthynas â rheoli newid yn yr hinsawdd:
Dull ymaddasu a reolir Dull rhagofalus
1 http://gov.wales/docs/desh/publications/111114floodingstrategycy.pdf
2 http://ukclimateprojections.metoffice.gov.uk/media.jsp?mediaid=88739&filetype=pdf
2 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Mae canllawiau ynglŷn â sut i gymhwyso'r dulliau hyn ar gael o fewn Canllawiau
Arfarnu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Asiantaeth yr Amgylchedd 2010
(FCERM-AG), yn ogystal â Chanllawiau Achos Busnes FCERM Llywodraeth Cymru
sydd ar ddod.
Noder: Mae'r lwfansau newid yn yr hinsawdd a gyflwynir yn y canllawiau
diwygiedig hyn yn alinio â'r rheini a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio mewn Asesiadau Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd i gefnogi ceisiadau cynllunio perthnasol ac i lywio dyraniadau cynlluniau datblygu.1
1.1 Cynlluniau sy'n gofyn am Gyllid Grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu
Arfordirol
Diben y cyngor hwn yw sicrhau bod achosion busnes sy'n ddilys yn economaidd,
ac yn gyson o ran y ffordd maent yn cymhwyso'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â
newid yn yr hinsawdd, yn gallu cael eu gwneud i gefnogi penderfyniadau
buddsoddi Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau penderfyniadau buddsoddi
cynaliadwy sy'n alinio â dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae'r cyngor hwn wedi'i fwriadu'n benodol ar gyfer prosiectau neu strategaethau sy'n ceisio am Gyllid Grant FCERM Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, efallai y bydd Awdurdodau Rheoli Peryglon yng Nghymru hefyd yn ystyried bod y wybodaeth hon yn ddefnyddiol wrth ddatblygu cynlluniau a gwneud penderfyniadau buddsoddi FCERM hyd yn oed os nad oes bwriad gwneud cais am gyllid gan y llywodraeth ganolog. Gall Awdurdod Rheoli Risg benderfynu argymell penderfyniad ynghylch buddsoddi nad yw'n seiliedig ar y lwfansau newid yn yr hinsawdd sydd yn y cyngor hwn. Fodd bynnag, pan fo cais yn cael ei gyflwyno am gyfraniad Cyllid Grant FCERM, mae angen i'r achos busnes buddsoddi sy'n cefnogi'r cais ddatblygu o leiaf un dewis yn seiliedig ar y lwfansau newid yn yr hinsawdd a gynghorir. Mae hyn yn ofynnol er mwyn dangos y goblygiadau o ddefnyddio lwfansau newid yn yr hinsawdd amgen, a allai ddylanwadu ar ganlyniad y cais. Mae cais o'r fath hefyd yn sicrhau bod goblygiadau dulliau amgen i asesu a rheoli risg yn gallu cael eu cymharu a'u rhannu'n fwy cyson. Argymhellir bod yr Awdurdodau Rheoli Risg sy'n gwneud penderfyniadau buddsoddi FCERM nad ydynt yn cael cyllid grant hefyd yn dilyn y dull hwn.
1 http://gov.wales/docs/desh/publications/160831guidance-for-flood-consequence-assessments-
climate-change-allowances-cy.pdf
3 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
2 Trefniadau trosiannol
Dylid defnyddio'r cyngor hwn ar gyfer yr holl achosion busnes newydd o fis Rhagfyr
2017.
O ran achosion busnes sydd eisoes yn cael eu datblygu, mae Tabl 1 isod yn esbonio
sut a phryd i gymhwyso'r lwfansau diwygiedig a ddarperir yn y canllawiau hyn. Mae
hyn yn ofynnol er mwyn sicrhau na fyddai'r ffigyrau diwygiedig yn arwain at
benderfyniadau gwahanol.
Dylai unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chymhwyso’r canllawiau hyn yn ystod
y cyfnod pontio gael eu cyfeirio at Gangen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu
Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Cam Datblygu'r Cynllun
Rhagdybiaeth Cam Gweithredu
FCERM-AG /
FCDPAG
Y Model Pum
Achos
Adroddiad Arfarnu Prosiect Newydd Adroddiad Arfarnu Prosiect yn cael ei ddatblygu
Achos Busnes Newydd Achos Amlinellol Strategol / Achos Busnes Amlinellol sy'n cael ei ddatblygu
Gwaith Modelu
Hydrolig / Arfarnu
Economaidd nas
cychwynnwyd eto.
Gwerthuso’r cynllun gan
ddefnyddio'r lwfansau a ddiwygiwyd
yn y ddogfen ganllaw hon.
Adroddiad Arfarnu Prosiect wedi ei gwblhau Dyluniad Manwl yn cael ei ddatblygu
Achos Amlinellol Strategol wedi'i gwblhau Dyluniad Manwl yn cael ei ddatblygu
Arfarniad Economaidd
wedi'i gwblhau yn yr
Achos Busnes
Amlinellol gan
ddefnyddio lwfansau
newid yn yr hinsawdd
o ganllawiau 2011.
Asesu'r dewis a ffafrir yn erbyn
lwfansau diwygiedig o fewn y
canllawiau hyn i sicrhau na fyddai'r
canlyniadau'n arwain at
benderfyniadau sy'n arwyddocaol
wahanol yn ystod cam y Dyluniad
Manwl. Cynnal Dyluniad Manwl gan
ddefnyddio'r darpariaethau a
ddiwygiwyd os nad yw'r gwaith wedi
mynd rhagddo'n rhy bell i ganiatáu
hyn.
Dyluniad Manwl wedi'i gwblhau Cynllun yn barod am adeiladu
Dyluniad Manwl wedi'i gwblhau Cynllun yn barod am adeiladu
Dyluniad Manwl wedi'i
gwblhau gan
ddefnyddio lwfansau o
ganllawiau 2011.
Ystyried goblygiadau defnyddio'r lwfansau a ddiwygiwyd o fewn y canllawiau hyn ac adrodd i'r awdurdod cyllid perthnasol ynglŷn ag unrhyw ganfyddiadau arwyddocaol.
Cynlluniau a strategaethau a gymeradwywyd sy'n bodoli eisoes
Cynlluniau a strategaethau a gymeradwywyd sy'n bodoli eisoes
Mae cynlluniau neu
strategaethau yn
destun broses adolygu
barhaus.
Yn ystod yr adolygiad nesaf,
gwerthuso'r cynllun neu'r strategaeth
gan ddefnyddio'r lwfansau
diwygiedig o fewn y ddogfen ganllaw
hon.
Tabl 1 - Y defnydd o lwfansau newid yn yr hinsawdd ddiwygiedig ym mhob cam o'r Model Pum Achos
mailto:floodcoastalrisk@llyw.cymrumailto:floodcoastalrisk@llyw.cymru
4 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
FCDPAG – Canllawiau ar gyfer Arfarnu Prosiect Amddiffyn rhag Llifogydd ac
Amddiffyn yr Arfordir 2001
FCERM-AG – Canllawiau Arfarnu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2010
Noder: Mae amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd drwy
brosiect UKCP18. Bydd allbynnau o'r prosiect hwn yn cael eu cyhoeddi dros yr ychydig
flynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, yn y cyfamser, dylid defnyddio'r lwfansau a gyflwynir yn y
canllawiau hyn.
5 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
3 Darparu lwfansau newid yn yr
hinsawdd
Beth yw'r lwfansau newid yn yr hinsawdd?
Er mwyn asesu effaith bosibl newid yn yr hinsawdd ar lawiad eithafol, llifau llifogydd afonydd, cynnydd yn lefel y môr ac ymchwyddiadau stormydd, mae lwfansau newid yn yr hinsawdd wedi'u cynnwys yn Atodiad 1. Mae'r lwfansau hyn yn meintoli’r newid posibl (naill ai yn ôl mm neu gynnydd canrannol, yn dibynnu ar y newidyn) i waelodlin 1961-90.
O ystyried cymhlethdod y wyddoniaeth mewn perthynas ag amcanestyniadau hinsoddol, mae ansicrwydd sylweddol yn parhau i fod yn berthnasol i lwfansau newid yn yr hinsawdd. Oherwydd hyn, mae'r lwfansau newid yn yr hinsawdd wedi'u cyflwyno fel ystod o bosibiliadau (Canolog ac Uchaf) i adlewyrchu'r amrywiad posibl mewn effeithiau newid yn yr hinsawdd dros dri chyfnod o'r presennol hyd at 2115 a thu hwnt.
Argymhellir bod cynaliadwyedd a gwydnwch hirdymor y dewisiadau rheoli perygl llifogydd yn cael eu hasesu yn erbyn y lwfansau hyn, sy'n cwmpasu oes lawn y penderfyniad, yn hytrach na seilio'r dewisiadau ar yr amcanestyniad canolog yn unig.
Ffocws y ddogfen hon yw llywio dyluniad a gwydnwch cynlluniau rheoli perygl
llifogydd ac arfordirol, a ddylai ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd rhesymol a
chredadwy.
Mae lwfansau newid yn yr hinsawdd ar gyfer llifau llifogydd afonydd, glawiad
eithafol, cynnydd cymharol yn lefel gymedrig y môr a hinsawdd tonnau wedi'u
cynnwys yn y tablau perthnasol yn Atodiad 1.
Sylwch: mae'r gwerthoedd ar gyfer llifau afonol a chynnydd yn lefel y môr wedi
newid o'r rheiny a gyflwynwyd yn y canllawiau blaenorol.
3.1 Dyluniad y Cynllun
O ran llifau llifogydd afonydd, glawiad eithafol ac ymchwyddiadau stormydd, mae'r cyngor hwn yn cynnwys y lwfansau newid yn yr hinsawdd Canolog (50fed canradd) ac Uchaf (90fed canradd).
Dylai cynlluniau rheoli perygl afonol gael eu cynllunio yn unol â'r Lwfans Canolog
(y cyfeiriwyd ato fel y 'ffactor newid' mewn fersiynau blaenorol o'r ddogfen hon) a
gyflwynir yn NhTabl 2 (Atodiad 1).
Dylai cynlluniau rheoli perygl arfordirol gael eu cynllunio yn unol â'r lwfans rhanbarthol sengl ar gyfer Cymru a gyflwynir yn NhTabl 3 (Atodiad 1), sy'n gyson
â'r amcanestyniadau byd-eang diweddaraf o ran cynnydd yn lefel y môr.
6 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
3.2 Profion Sensitifrwydd
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod gwerthfawrogiad llawn o ansicrwydd
hinsawdd yn cael ei ystyried wrth gynllunio a dylunio cynlluniau FCERM. Bydd
profion sensitifrwydd priodol yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd posibl y
dyfodol yn helpu Awdurdodau Rheoli Risg i bennu a chynllunio ar gyfer mesurau
lliniaru priodol o fewn dyluniad y cynllun (e.e. drwy strategaeth ar gyfer dull
ymaddasu a reolir), gan annog y defnydd o ddull ymaddasu a reolir drwy hynny.
O ran cynlluniau rheoli perygl afonol, dylai profion sensitifrwydd gael eu cynnal yn
erbyn y Lwfans Uchaf (90fed canradd) i ystyried sensitifrwydd mwy hirdymor i
effeithiau newid yn yr hinsawdd y dyfodol (gweler Adran 2, Atodiad 1).
O ran cynnydd yn lefel y môr, mae'r senario eithafol tebygolrwydd isel (H++) wedi'i
gynnwys i helpu Awdurdodau Rheoli Risg i ddeall ehangder posibl y risgiau yn y
dyfodol. Nid oes angen cynnal profion sensitifrwydd ychwanegol ar gyfer cynnydd
yn lefel y môr fel arfer (gweler Adran 3, Atodiad 1).
Mae Atodiad 2 o'r cyngor hwn yn rhoi enghreifftiau o gynigion rheoli perygl
llifogydd arfordirol ac afonol er mwyn tywys Awdurdodau Rheoli Risg drwy'r broses
o ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd. Dylai hyn helpu Awdurdodau Rheoli
Risg i wneud defnydd llawn o'r wybodaeth yn Atodiad 1.
4 Cyfyngiadau a Rheoli Eithriadau
Mae'r lwfansau newid yn yr hinsawdd a roddir yn deillio o ymchwil ar raddfa
genedlaethol. Efallai y bydd achosion lle mae tystiolaeth leol yn cefnogi'r defnydd o
ffactorau newid lleol eraill. Mewn achosion o'r fath, gall y sawl sy'n gwneud
penderfyniadau ddefnyddio ffactorau newid amgen lle mae gwyddoniaeth gadarn yn
cefnogi hyn. Pan fo'r cais ar gyfer arian grant cenedlaethol, bydd angen i
Lywodraeth Cymru fod yn fodlon bod y wyddoniaeth yn ddigon cadarn i gefnogi
eithriad o'r fath.
Cyfrifoldeb yr Awdurdod Rheoli Risg fydd ystyried y dystiolaeth leol fwyaf priodol, a
chyfiawnhau eithriadau ar sail achos wrth achos. Dylai'r rhesymeg dros ddefnyddio
data eraill a'r goblygiadau fod yn dryloyw a chael eu cofnodi yn y cynllun neu'r
ddogfen penderfyniad buddsoddi.
7 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Atodiad 1
Lwfansau Newid yn yr Hinsawdd
1. Newidiadau i lifau llifogydd afonydd yn ôl ardal basn afon
Mae’r wybodaeth a roddwyd yn NhTabl 2 wedi’i chyfrifo ar gyfer y newid
tebygol i lifau afon o bosibilrwydd o 1 achos mewn 50 (2%) mewn unrhyw
flwyddyn. Er mwyn allosod yr amcanestyniadau hyn i ddigwyddiadau eraill,
roedd yr ymchwil yn awgrymu bod y lwfansau rhanbarthol yn debygol o aros
yn gymharol gyson gyda chyfnodau dychwelyd cynyddol.
Mae'r lwfansau newid yn yr hinsawdd a roddir yn cyfateb i'r amcangyfrif canolog
ar gyfer newid o'r ymchwil. Mae'r amcanestyniadau yn newidiadau canrannol i
waelodlin 1961-90.
Cyfanswm y newid
posibl a ragwelwyd
ar gyfer y 2020au
(2015 i 2039)
Cyfanswm y newid
posibl a ragwelwyd
ar gyfer y 2050au
(2040 i 2069)
Cyfanswm y newid
posibl a ragwelwyd
ar gyfer y 2080au
(2070 i 2115)
Hafren
Uchaf (90fed) 25% 40% 70%
Canolog (50fed) 10% 20% 25%
Gorllewin Cymru
Uchaf (90fed) 25% 40% 75%
Canolog (50fed) 15% 25% 30%
Dyfrdwy
Uchaf (90fed) 20% 30% 45%
Canolog (50fed) 10% 15% 20%
Tabl 2- Newidiadau i lifau llifogydd afonydd yn ôl ardal basn afon (gan ddefnyddio gwaelodlin 1961–90)
Mae'r diagram a roddir yn Ffigur 1 yn dangos sut y gellir plotio
amcanestyniadau ar gyfer newidiadau i lif afonydd a’u defnyddio mewn
asesiadau nodweddiadol.
8 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Ffigur 1 - Newidiadau i lifau afon ardal basn afon Dyfrdwy a’u defnydd mewn asesiadau
1.1 Terfynau H++
Mae'r senario H++ yn rhoi amcanestyniad o'r newid yn llifau llifogydd afonydd y tu hwnt i'r Lwfans Uchaf. Mae hyn y tu hwnt i'r ystod debygol ond fe allai fod yn bosibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofyniad presennol i gynnal profion sensitifrwydd yn erbyn y senario H++ ar gyfer cynlluniau rheoli perygl afonol yng Nghymru. Er bod ymchwil wedi dangos bod nifer fach iawn o ddalgylchoedd enghreifftiol ym mhob ardal basn afon yng Nghymru yn dangos llawer mwy o gynnydd mewn llifau llifogydd afonydd na’r dalgylch safonol, nid yw'n bosibl dweud pa mor debygol yw'r senario H++. Hefyd, hyd yn hyn, nid ydym yn gallu rhoi arweiniad i helpu Awdurdodau Rheoli Risg i ddarganfod p'un a allent fod yn rheoli dalgylch ansafonol.
2. Newid mewn glawiad eithafol
Er ein bod yn gallu gwneud datganiadau ansoddol ynglŷn â pha mor debygol
ydyw y bydd glawiad eithafol yn cynyddu neu’n lleihau yn y DU yn y dyfodol,
mae yna ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch maint y newidiadau hyn yn lleol.
Mae UKCP09 yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am newid mewn glawiad
ledled y DU sydd ar gael trwy ryngwyneb y defnyddiwr. Mae’r wybodaeth hon
yn ddigon cadarn ar gyfer digwyddiadau cyffredin fel newidiadau i ddiwrnod
gwlypaf tymor.
Fel arfer, o safbwynt rheoli llifogydd, y pryder yw’r digwyddiadau llai aml (ond
sy’n cael mwy o effaith) fel y rhai sydd ag 1 siawns mewn 20 o ddigwydd y
flwyddyn neu’n llai aml. Mae datblygu rhagfynegiadau mesurol o newidiadau’r
dyfodol ar gyfer glawiad mor eithafol ar raddfa leol yn her allweddol i
wyddonwyr hinsawdd.
2100 2070 2040
10 20 30
50 40
Amcangyfrif uchaf
Amcangyfrif
canolog
Allosod y tu hwnt
i 2100
Lwfans uchaf ar gyfer prawf sensitifrwydd cychwynnol mewn asesiad gan ddefnyddio
cyfnod arfarnu o 75
Dyddiad gwaelodlin ar gyfer
asesiad penodol
Ffactor newid fel % o lif gwaelodlin dros y cyfnod
% newid mewn llif uchaf yr
afon
2015
http://ukclimateprojections-ui.defra.gov.uk/ui/start/start.phphttp://ukclimateprojections-ui.defra.gov.uk/ui/start/start.phphttp://ukclimateprojections-ui.defra.gov.uk/ui/start/start.phphttp://ukclimateprojections-ui.defra.gov.uk/ui/start/start.php
9 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Dim ond yr uchafswm data glawiad dyddiol a ystyriwyd o amcanestyniadau’r
model hinsawdd. Er nad oes modd gwybod sut y gallai glawiad newid yn ôl
amserlenni bob awr, argymhellir bod y newidiadau mewn dwysedd glawiad a
gyflwynir yn NhTabl 3 yn cael eu defnyddio fel yr amcangyfrif gorau a geir.
Perthnasol i
Gymru gyfan
Cyfanswm newid
posibl a ragwelir
ar gyfer y 2020au
(2015–2039)
Cyfanswm newid posibl a ragwelir ar gyfer y 2050au (2040–2069)
Cyfanswm newid
posibl a ragwelir ar
gyfer y 2080au
(2070–2115)
Amcangyfrif uchaf 10% 20% 40%
Amcangyfrif
canolog
5% 10% 20%
Tabl 3- Newid mewn dwysedd glawiad eithriadol o'i gymharu â gwaelodlin 1961–90
Fel yn achos llifau llifogydd afonydd, argymhellir y dylid defnyddio newidiadau y
2080au wrth ystyried unrhyw gyfnod ar ôl 2115. Dylid defnyddio'r amrediadau
hyn mewn asesiadau mewn modd tebyg i’r diagram (Ffigur 1) sy’n dangos llifau
llifogydd afonydd.
Dylid defnyddio’r amrediadau dwysedd glawiad uchaf ar gyfer dalgylchoedd
bach a safleoedd draenio trefol/lleol. Dylid defnyddio'r amrediadau llif uchaf ar
gyfer dalgylchoedd afonydd dros 5km2.
3. Newid yn lefelau cymedrig cymharol y môr
Mae lwfans rhanbarthol sengl ar gyfer y newid blynyddol ar arfordir Cymru
wedi'i gyflwyno yn NhTabl 4. Argymhellir bod Awdurdodau Rheoli Risg yn
defnyddio'r ffigyrau hyn ar gyfer eu penderfyniadau buddsoddi. Mae'r
amcanestyniadau hyn yn gyson â'r rhagfynegiadau byd-eang diweddaraf ar
gyfer cynnydd yn lefel y môr. Rhagwelir y bydd y gyfradd newid yn cynyddu ym
mhob cyfnod.
Dylid deillio amcanestyniadau y tu hwnt i 2115 drwy allosod y tu hwnt i 2115.
Cynnydd yn
lefel y môr
mm/blwyddyn
hyd at 2025
Cynnydd yn
lefel y môr
mm/blwyddyn
2026 hyd at
2055
Cynnydd yn
lefel y môr
mm/blwyddyn
2056 hyd at
2085
Cynnydd yn
lefel y môr
mm/blwyddyn
2086 hyd at
2116
Senario H++
6 12.5 24 33
Newid
blynyddol
(mm/blwyddyn)
3.5 8.0 11.5 14.5
Tabl 4 - Lwfans lefel gymedrig y môr (o'i gymharu â gwaelodlin 1990, gan gynnwys symudiadau yn y tir)
10 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Mae Tabl 4 hefyd yn rhoi'r senario H++ fel y cyflwynwyd o fewn adroddiad morol
UKCP09 i roi amcanestyniadau i ddefnyddwyr o'r cynnydd yn lefel y môr y tu
hwnt i'r ystod debygol ond a allai fod yn bosibl.
Rhagwelir mai dim ond lle gallai canlyniadau llifogydd neu erydiad fod yn
eithafol y byddai angen ystyried y senario H++ mewn asesiadau at ddibenion
sensitifrwydd sy'n cwmpasu'r cyfnod hyd at 2115.
4. Newid mewn ymchwyddiadau stormydd
Yn ogystal â chynnydd mewn lefel gymedrig y môr, disgwylir y bydd newid yn yr
hinsawdd yn newid patrymau tywydd, gyda chynnydd yn amlder a maint tywydd
eithafol, gan gynnwys ymchwyddiadau stormydd. Gellir diffinio ymchwyddiad
storm fel 'cynnydd dros dro a lleol yn lefel y môr uwchlaw'r llanw a ragwelir sy'n
digwydd yn ystod systemau tywydd o'r fath'. Gallent amrywio o ychydig
gentimetrau mewn uchder i sawl metr, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y tywydd, ac,
yn aml, gallent arwain at lifogydd arfordirol os ydynt yn cyd-daro â llanw uchel.
Gan y disgwylir i newid yn yr hinsawdd gynyddu'r tebygolrwydd o dywydd
stormus, rhagwelir hefyd y bydd ymchwyddiadau stormydd yn dod yn fwy ar
gyfer unrhyw gyfnod dychwelyd a nodir. Fodd bynnag, ystyrir bod y newidiadau
ar hyn o bryd yn ymylol, ac ni ellir eu gwahaniaethu o'r amrywiant naturiol mewn
nifer o leoliadau.1
Hefyd, mae ansicrwydd sylweddol yn gysylltiedig â modelu ymchwyddiadau
stormydd yn y dyfodol. O ystyried yr ansicrwydd hwn, ynghyd â'r cynnydd
dibwys a ragwelir, nid oes unrhyw ofyniad ar hyn o bryd i ymgorffori lwfans ar
gyfer cynnydd mewn ymchwyddiadau stormydd wrth amcangyfrif lefelau
llifogydd dyluniadol ar gyfer senarios yn y dyfodol.
5. Newid mewn hinsawdd tonnau
Rhoddir sylw i newid mewn hinsawdd tonnau yn UKCP09. Mae yna ansicrwydd
mawr, yn enwedig gyda’r gwerthoedd eithafol rhagamcanol.
Rhoddir amcanestyniadau ar gyfer newidiadau mewn hinsawdd tonnau yn
UKCP09 ar gyfer cyfnodau dychwelyd hyd at 50 o flynyddoedd. Bydd
amcanestyniadau o uchderau tonnau cyfnod dychwelyd hirach yn adlewyrchu’r
un patrwm o newid ond gyda bariau gwallau mwy. Mae newidiadau mewn
cyfnod a chyfeiriad tonnau yn fach ac yn anoddach eu dehongli.
O ystyried yr ansicrwydd sylweddol i sefyllfa llwybr stormydd ledled y DU yn y
dyfodol a’r amcanestyniadau o hinsawdd tonnau yn UKCP09, argymhellir bod
Awdurdodau Rheoli Risg yn defnyddio dadansoddiad sensitifrwydd i ddeall yr
1 O gwmpas y DU, rhagwelir y bydd maint yr ymchwyddiad y disgwylir iddo ddigwydd tua unwaith pob
50 mlynedd ar gyfartaledd yn cynyddu llai na 0.9mm/y flwyddyn dros y 21fed ganrif.O ran y rhan fwyaf o leoliadau, ni ellir gwahaniaethu'r duedd hon o'r amrywiant naturiol (UKCP09 Marine & Climate Change Predictions Report Mehefin 2009
11 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
effaith ar berygl llifogydd a newid arfordirol, a ffurf unrhyw opsiynau ymarferol.
Mae'r ystodau sensitifrwydd rhagofalus cenedlaethol a argymhellir ar gyfer
cyflymder gwynt ar y môr ac uchder tonnau wedi'u nodi yn NhTabl 5.
Paramedr 1990–2025 2025–2055 2055–2085 2085–2115
Lwfans cyflymder
gwynt ar y môr
+5% +10%
Lwfans uchder
tonnau eithafol
+5% +10%
Tabl 5 - Ystodau sensitifrwydd rhagofalus cenedlaethol a argymhellir ar gyfer cyflymder gwynt ar y môr ac uchder tonnau
Noder: Nid yw hinsawdd tonnau yn cael ei hasesu o dan UKCP18. Ni ddisgwylir i'r
ffigyrau hyn newid yn y dyfodol rhagweladwy.
12 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Atodiad 2
Enghreifftiau Gweithiedig
Mae'r atodiad hwn yn nodi enghreifftiau gweithiedig ar gyfer defnyddio
amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd wrth Reoli Perygl Llifogydd ac
Erydu Arfordirol.
Mae'r wybodaeth feintiedig a roddir yn Atodiad 1 yn nodi'r lwfansau newid yn yr
hinsawdd i'w defnyddio wrth asesu perygl llifogydd neu arfordirol yn y dyfodol
ac ansicrwydd sy'n deillio o'r newid yn yr hinsawdd. Rhoddir yr enghreifftiau
afonol a llanwol canlynol i gefnogi Atodiad 1 a'r egwyddorion ehangach a
amlinellir yn y canllawiau.
1. Enghraifft Afonol
Mae'r enghraifft isod yn rhoi arweiniad ynghylch sut i gymhwyso'r lwfansau
newid yn yr hinsawdd a amlinellir yn Atodiad 1 at ddibenion cynllun lliniaru
llifogydd arfaethedig o fewn Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru.
1. Deilliwch yr hydroleg llifogydd sy'n benodol i'r safle drwy ddilyn y dulliau diweddaraf a chwblhau profforma Cyfoeth Naturiol Cymru (ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru).
2. Defnyddiwch y cynnydd priodol yn seiliedig ar gyfnodau sydd o ddiddordeb.
3. Profwch y rhain yn erbyn y cynnydd uchaf i ddeall effeithiau posibl yn y dyfodol a sensitifrwydd y cynllun i gyflymiad newid yn yr hinsawdd. 4. Defnyddiwch y model hydrolig a ddewiswyd er mwyn creu ehangder/dyfnderoedd llifogydd ac ati.
13 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Cynllun arfaethedig a leolir o fewn Ardal Basn Afon Gorllewin
Cymru 1% AEP Cyfnodau Addasol a
Reolir Posibl
Cynnydd a
ddewiswyd ar gyfer pob Tebygolrwydd
Blynyddol Dros Ben
Llif y dyluniad Profion
sensitifrwydd neu liniaru ar
gyfer y terfyn
uchaf
Llif y
dyluniad
Blwyddyn yr
astudiaeth
2017 0% 185 metr ciwbig yr eiliad
0% 185 metr
ciwbig yr
eiliad
+ 20
mlynedd
2037 +15% 213 metr ciwbig
yr eiliad
+25% 231 metr
ciwbig yr eiliad
+ 50
mlynedd
2067 +25% 231 metr ciwbig
yr eiliad
+40% 259 metr
ciwbig yr
eiliad
+ 75
mlynedd
2092 +30% 241 metr ciwbig
yr eiliad
+75% 324 metr
ciwbig yr
eiliad
+ 100 mlynedd
2117 +30% 241 metr ciwbig yr eiliad
+75% 324 metr ciwbig yr
eiliad
Tabl 6 - Cyfrifiad Enghreifftiol o Gynnydd Afonol Cronnus
14 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
2. Enghraifft Lanwol
Mae'r enghraifft isod yn rhoi arweiniad o ran sut i ddefnyddio'r lwfansau newid
yn yr hinsawdd a amlinellir yn Atodiad 1 ar gyfer lefel dyluniad llanwol.
1. Pennwch y cyfnod dychwelyd gofynnol / safon yr amddiffyn ar gyfer yr amddiffyniad, e.e. 1:200 blwyddyn.
2. Dewch o hyd i amcanestyniad lefel llanw priodol ar gyfer y lleoliad sy'n cael ei asesu o set ddata "terfynau llifogydd arfordirol",1 e.e. T200 = 6.15m Uwchlaw’r Datwm Ordnans.
3. Pennwch y cyfnod ar gyfer newid yn yr hinsawdd (h.y. oes yr amddiffynfa), e.e. 75 mlynedd (2092).
4. Y flwyddyn waelodlin ar gyfer y lefelau môr eithafol o adroddiad "terfynau llifogydd arfordirol" yw 2008. Diweddarwch yr amcangyfrifon hyn i'r flwyddyn ofynnol gan ddefnyddio lwfansau newid yn yr hinsawdd, e.e. (ar gyfer oes amddiffyn 75 blwyddyn) T200 (2092) = 6.15m + 0.746mm = 6.896m Uwchlaw’r Datwm Ordnans (gweler Tabl 7).
5. Noder: Er y dyfynnir y lefelau môr eithafol o'r set ddata "terfynau llifogydd arfordirol" i 2 le degol, ystyrir eu bod yn gywir i 1 lle degol yn unig. Dylai ymarferwyr, felly, dalgrynnu gwerth olaf y lefel môr eithafol i un lle degol e.e. T200 (2092) = 6.896m Uwchlaw’r Datwm Ordnans = 6.9m Uwchlaw’r Datwm Ordnans.
6. Fel modd o fynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag amcangyfrif lefel eithafol y môr, mae'r set ddata "terfynau llifogydd arfordirol" hefyd yn cynnwys ysbeidiau hyder ar gyfer pob lleoliad lle mae lefel y môr wedi cael ei hamcangyfrif. Gellir defnyddio'r ysbeidiau hyder hyn, os oes angen, fel prawf sensitifrwydd, e.e. ysbaid hyder yn y lleoliad sy'n cael ei asesu = +/- 0.3m, felly T200 = 6.9m + 0.3m = 7.2m Uwchlaw’r Datwm Ordnans.
7. Gellir paratoi tabl crynhoi ar gyfer y lleoliad dan sylw drwy ddefnyddio'r data uchod, e.e. gweler Tabl 8.
8. Adwaenir yr amcanestyniadau a roddir o'r "terfynau llifogydd arfordirol" fel "lefelau dŵr llonydd".Bydd angen ystyried effaith unrhyw symudiadau tonnau lleol ar y safle sy'n cael ei asesu hefyd fel rhan o'r cynllun peirianneg arfordirol, yn ogystal ag unrhyw lwfans ar gyfer bwrdd rhydd. (Noder: Wrth i lefelau'r môr gynyddu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bydd dyfnderoedd y dŵr ar flaen droed amddiffynfa môr yn cynyddu. Mewn rhai achosion, gallai effaith "rhwystrau dyfnder" ar uchder tonnau gael ei lleihau, a fyddai'n caniatáu i'r amddiffynfa wynebu tonnau mwy.)
1 "Coastal flood boundary conditions for UK mainland and islands.” Prosiect sc060064, a gyhoeddwyd gan
Asiantaeth yr Amgylchedd / DEFRA ym mis Chwefror 2011. Disgwylir i'r ddogfen hon gael ei diweddaru yn hydref 2017.
15 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Cyfnod Cynnydd mewn mm Cynnydd cronnus
2009 – 2025 17 o flynyddoedd x
3.5mm/blwyddyn
59.5 mm
2026 – 2055 30 o flynyddoedd x
8.0mm/blwyddyn
240 mm
2056 – 2085 30 o flynyddoedd x
11.5mm/blwyddyn
345 mm
2086 – 2092 7 o flynyddoedd x
14.5mm/blwyddyn
101.5 mm
Lefel y môr yn 2092 a’r
dyfodol
ychwanegwch 746 mm
Tabl 7 - Cyfrifiad Enghreifftiol o Gynnydd Cronnus yn Lefel y Môr
Lefel y dyluniad
(gwerth canolrifol)
Lefel y dyluniad
(Hyder uchaf)
Gwaelodlin
T200
(2008)
6.15m Uwchlaw’r Datwm Ordnans
Heddiw
(2017)
6.15m Uwchlaw’r Datwm Ordnans + (9
blwyddyn x 3.5mm) = 6.18m Uwchlaw’r
Datwm Ordnans
Talgrynnu i 1 Pwynt Degol. 6.2m Uwchlaw’r
Datwm Ordnans
+0.3m = 6.5m Uwchlaw’r
Datwm Ordnans
Senario yn
y dyfodol
(2092)
6.15m Uwchlaw’r Datwm Ordnans + 746mm
= 6.896m Uwchlaw’r Datwm Ordnans
Talgrynnu i 1 Pwynt Degol. 6.9m Uwchlaw’r
Datwm Ordnans
+0.3m = 7.2m Uwchlaw’r
Datwm Ordnans
Tabl 8 - Enghreifftiau Lefelau Dŵr Llonydd Presennol ac yn y Dyfodol
16 Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Cyfeiriadau:
i. Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Climate Change 2007: The Physical Science Basis (gol
Solomon, S. et al.) 356-369, 408-420, 812-822 (Cambridge University Press, Caergrawnt, y DU, ac Efrog Newydd, 2007).http://www.ipcc.ch/publications_and_data/publications_and_data_reports.shtml
ii. A sea of uncertainty, Nature Reports, Climate Change, Cyfrol 4, Ebrill 2010, J Lowe a J
Gregory
iii. Sea level rise and its possible impacts given a ‘beyond 4 degree C world’ in the twenty-first century, Nicholls et al,
2011 iv. Increasing rates of ice mass loss from the Greenland and Antarctic ice sheets revealed by GRACE, Isabella
Velicogna. Geophysical Review Letters, Cyfrol 36, 2009 v. Nature Reports, Climate Change, Cyfrol 4, Ebrill 2010, J Lowe a J Gregory vi. http://www.ice2sea.eu/ vii. Sea level rise and its possible impacts given a ‘beyond 4 degree C world’ in the twenty-first century, Nicholls et al,
2011 viii. Vermeer, M. a Rahmstorf, S. Proc. Natl Acad. Sci USA 106, 21527–21532 (2009) iv. Pfeffer, W. T., Harper, J. T. ac O'Neel, S. Science 321, 1340–1343, 2008. x. Rohling, E. J. et al. Nature Geosci. 1 38–42 (2007). xi. Vellinga, P. et al. 2008 Exploring high-end climate change scenarios for flood protection of The Netherlands.
International Scientific Assessment carried out at request of the Delta Committee. Adroddiad gwyddonol WR-2009-
05. KNMI, Alterra, Yr Iseldiroedd. Gweler http://www.knmi.nl/bibliotheek/knmipubWR/WR2009-05.pdf. xii. Pfeffer, W. T., Harper, J. T. ac O'Neel, S. Science 321, 1340–1343, 2008 xiii. Adroddiad morol UKCP09, http://ukclimateprojections.defra.gov.uk/content/view/1969/500/ xiv. Hannaford, Jamie; Marsh, Terry J. 2008 High-flow and flood trends in a network of undisturbed catchments in the
UK. International Journal of Climatology, 28 (10). 1325–1338. 10.1002/joc.1643 xv. Zhang, X., F. W. Zwiers, G. C. Hegerl, F. G. Lambert, N. P. Gillett, S. Solomon, P. A. Stott, a T. Nozawa (2007), Detection of human influence on twentieth century precipitation trends, Nature, 448, 461–465, doi:10.1038/nature06025 xvi. Changing intensity of rainfall over Britain, Tim Osborn a Douglas Maraun, Climatic Research Unit Information Sheet,
Rhif 15 xvii. Y Swyddfa Dywydd, The extreme rainfall of Summer 2007 and future extreme rainfall in a changing climate. S
J Brown, M Beswick, E Buonomo, R Clark, D Fereday, D Hollis, R G Jones, E J Kennett, M Perry, J Prior ac A A
Scaife.
http://www.ipcc.ch/publications_and_data/publications_and_data_reports.shtmlhttp://ukclimateprojections.defra.gov.uk/content/view/1969/500/http://nora.nerc.ac.uk/3832/http://nora.nerc.ac.uk/3832/http://nora.nerc.ac.uk/3832/http://dx.doi.org/10.1002/joc.1643
Adapting to Climate Change_ Guidance for Flood and Coastal Erosion Risk ...[1].pdfClimate Change guidance EN.pdfClimate Change guidance cover EN.doc.pdfClimate Change guidance EN.doc
top related