Top Banner
Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg argraffu (Gorffennaf 2018), ond gall newid. I weld y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch ni neu ewch i’n gwefan: www.decymru.ac.uk Fel rhan o’i hymrwymiad i’r iaith Gymraeg, bydd y Brifysgol yn darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. I wybod mwy, ewch i www.decymru.ac.uk neu e- bostiwch [email protected] Darparwyd y ddelwedd ar dudalen 19 gan Thinkstock (Cinio Thema Fecsicanaidd). Dylunio: Argraffu a Dylunio PDC 01443 482 677 Llawer o ddiolch i bawb a helpodd i greu’r llyfryn hwn. Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312. Ewch ar-lein i weld ein digwyddiadau diweddaraf: Ewch i: www.southwales.ac.uk/gettingstarted Cysylltwch â ni: www.southwales.ac.uk/cymraeg/cysylltu-ni Wythnos Groeso 2018 | Campws Casnewydd www.southwales.ac.uk/gettingstarted CROESO!
16

Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Jul 12, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg argraffu (Gorffennaf 2018), ondgall newid. I weld y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch ni neu ewch i’n gwefan:www.decymru.ac.uk

Fel rhan o’i hymrwymiad i’r iaith Gymraeg, bydd y Brifysgol yn darparu gwybodaethdrwy gyfrwng y Gymraeg. I wybod mwy, ewch i www.decymru.ac.uk neu e-bostiwch [email protected]

Darparwyd y ddelwedd ar dudalen 19 gan Thinkstock (Cinio Thema Fecsicanaidd).Dylunio: Argraffu a Dylunio PDC 01443 482 677Llawer o ddiolch i bawb a helpodd i greu’r llyfryn hwn.

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig.Rhif Cofrestru 1140312.

Ewch ar-lein i weld ein digwyddiadau diweddaraf:Ewch i: www.southwales.ac.uk/gettingstartedCysylltwch â ni: www.southwales.ac.uk/cymraeg/cysylltu-ni

Wythnos Groeso 2018 | Campws Casnewyddwww.southwales.ac.uk/gettingstarted

CROESO!

Page 2: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Bydd yr amser a dreuliwch fel un o fyfyrwyr PDC yn gwneud gwir wahaniaeth i’ch bywyd. Byddwchchi’n cyfarfod â darlithwyr a thechnegwyr ysbrydoledig mewn cymuned academaidd lle maegwaith ymchwil pwysig yn cael ei wneud ar gyfer y byd go iawn, o egni adnewyddadwy idroseddeg, o’r cyfryngau i wasanaethau iechyd.

Rydyn ni’n gymuned amrywiol iawn ac yn falch o hynny. Rydyn ni’n gynhwysol o ran pwy sy’n astudio gyda ni a sut y byddwn ni’n dysgu. Byddwch yn gwneud ffrindiau ac yn cyfarfod â phobl o bob oedran a chefndir.

Bydd yr amser a dreuliwch yma yn ehangu eich gorwelion, yn eich ysbrydoli i edrych ar y byd o’ch cwmpas mewn ffyrdd newydd, yn datgloi eich potensial ac yn hybu’ch gyrfa.

Mwynhewch eich Wythnos Groeso a manteisiwch ar y cyfle i ddysgu am y Brifysgol a phopeth y gallwn ei gynnig.

Yr Athro Julie Lydon OBE | Is-Ganghellor

Croeso i PDC!

Peidiwch ag anghofioEwch i’r wefan Getting Started i gael llawer ogynghorion buddiol i’ch helpu i baratoi ar gyferbywyd prifysgol:www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Amserlenni sefydluI weld eich amserlenni sefydlu, ewch i’r wefanGetting Started::www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Yr Athro Julie Lydon OBE, Is-Ganghellor

Campws Casnewydd

32 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Mae llawer o’n digwyddiadau amddim, ond mae tâl bach am rai.

Os gwelwch y symbol hwn, bydd angencael tocyn ymlaen llaw.

Safle Gwybodaeth yr Wythnos GroesoI gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadauUndeb y Myfyrwyr ar Gampws Dinas Casnewyddewch i: www.uswsu.com. Os oes gennychunrhyw gwestiynau, dewch i’r safle gwybodaethisod lle bydd y tîm yn gallu argymellgweithgareddau addas.

O: Dydd Llun 17 MediLleoliad: Undeb y Myfyrwyr, Cyntedd y LlawrGwaelod, Campws CasnewyddAmser: 10am-4pm

Beth sydd yn y llyfryn hwn?Chwaraeon a Ffitrwydd • Tudalennau 8-12Darganfyddwch sut i ymuno â chlybiauchwaraeon, rhowch gynnig ar weithgareddnewydd, neu dewch i’n sesiynau blasu.

Digwyddiadau’r Wythnos Groeso • Tudalennau16-24Gwelwch restr yma o’r holl ddigwyddiadau ar bobdiwrnod, o noson cyrri i feicio cwad.

Map • Tudalen 27Dewch o hyd i’ch ffordd o amgylch canol dinasCasnewydd.

Canllaw PocedMae yna ganllaw poced defnyddiol yng nghanol y llyfryn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch:[email protected]

AMDDIM! TOCYN

£2

Does dim angen prynu tocyn – trowch i fyny!

TROWCH I FYNY!

Dyma gost y digwyddiad.

Does dim angen tocyn ar gyfer llawer o’rdigwyddiadau, ond mae’n bosibl y bydd angencael tocyn ymlaen llaw mewn rhai achosion hydyn oed os yw’r digwyddiad am ddim. Mae’n wellcadarnhau’r trefniadau drwy fynd i:www.uswsu.com

“Ni yw eich Swyddogion amser-llawn ynUndeb y Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Rydynni eisiau sicrhau y cewch y profiad gorauposibl yn PDC, drwy gymryd rhan yn eincymdeithasau, clybiau a thimau chwaraeonneu drwy beri newid drwy wirfoddoli acymgyrchu. Dim ond y dechrau yw Wythnos yGlasfyfyrwyr! Cychwynnwch ar wib drwyymgymryd â chymaint o weithgareddauWythnos Groeso ag y gallwch, a chyfarfod âchymaint o bobl â phosibl. Gobeithiwn ycewch haf gwych ac rydyn ni’n edrychymlaen at eich croesawu chi ym mis Medi!”

Helô!

www.facebook.com/uswsu

Page 3: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Campws Casnewydd

54 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Fe gewch eich union ddyddiad cychwyn pan gofrestrwch ar-lein, ond dyma rai dyddiadau defnyddiol ar gyfer eich dyddiadur:

TYMOR YR HYDREF• Dydd Llun 17 Medi – tymor yn dechrau gyda

chofrestru/sefydlu• Dydd Llun 24 Medi – addysgu’n dechrau• Dydd Gwener 14 Rhagfyr – diwedd tymor

TYMOR Y GWANWYN• Dydd Llun 7 Ionawr – dechrau tymor• Dydd Gwener 5 Ebrill – diwedd

tymor

TYMOR YR HAF• Dydd Llun 29 Ebrill – dechrau tymor• Dydd Gwener 7 Mehefin – diwedd

tymor

/USWunilife

@USWunilife

Ymunwch â’n grŵp Glasfyfyrwyr:www.facebook.com/groups/uswfreshers2018

CWRDD Â’R FLOGWYRBydd ein myfyrwyr presennol wrth law i

roi cyngor i fyfyrwyr newydd.

Edrychwch ar flogiau fideo Blogwyr

PDC. Chwiliwch am USWBloggers ar

Instagram, Tumblr neu YouTube a

dilynwch nhw ar Twitter

@USWbloggers. Ewch i

www.southwales.ac.uk/uswbloggers

CAMPWS CASNEWYDD

Pentref y Myfyrwyr Casnewydd[bloc, fflat, rhif ystafell]

Endeavour House, Usk Way,Casnewydd, NP20 2DZ

COFRESTRWCH AR-LEIN(MYFYRWYR Y DU A’R EU YN UNIG)Gallwch ddefnyddio eich Manylion Adnabod

Myfyriwr i fynd ar-lein a mewngofnodi iUniLife, ein porth myfyrwyr. Yma gallwch

gyrchu newyddion, digwyddiadau, swyddi ifyfyrwyr, e-ddysgu, e-bost ac e-offer.I’ch Helpu!

AROS MEWNNEUADD?

Dyma’r cyfeiriad sydd ei angen

arnoch:

“Mae Campws Casnewydd, gyferbyn â

chanolfan siopa fawr Friars Walk, yn lle gwych i astudio. Ceir yma

lyfrgell helaeth sy’n llawn TG a theras ar y to gyda golygfeydd anhygoel dros

Gasnewydd.”Daniel Davies,

BA (Anrh) Astudiaethau Cynradd gyda SAC

DOD O HYD I’CH FFORDDCymorth ar-lein yw FindARoom a fyddyn eich helpu i ddod o hyd i leoedd ar

ein campysau. Ewch i:www.findaroom.southwales.ac.uk

GWASANAETH LLESPeidiwch ag aros nes eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gydaGwasanaeth Iechyd y Brifysgol pan gyrhaeddwch. Mae wedi’i leoliyn y Ganolfan Dysgu a Gwybodaeth (Y Ganolfan Gyngor) ar Lawr Bar Gampws Casnewydd. Ewch i: www.decymru.ac.uk/iechydHefyd, i gyrchu cymorth pellach ar Gampws Casnewydd, ewch i: thewellbeingservice.southwales.ac.uk

Cofrestrwch!

CYCHWYN ARNIYMWELWCH Â’N GWEFAN

Mae’r wefan Getting Started ar gyfermyfyrwyr newydd. Mae’n cynnwys yr hollwybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar y

dechrau. I gael cymorth a chyngor, agwybodaeth am y digwyddiadau, ewch i:

www.southwales.ac.uk/gettingstarted

CADW’N HEINIGall myfyrwyr sy’n astudio ar

Gampws Casnewydd fanteisio argynnig arbennig i ymuno â

Chasnewydd Fyw drwy ddyfynnu‘NLUSW18’. Mae mwy o fanylion

ar dudalennau 10ac 11.

Ymunwch â ni!

CYRCHWCHnewyddion,

digwyddiadau, swyddi ifyfyrwyr, e-ddysgu, e-bost

a gwasanaethau ar-lein.

TEITHIO AR Y BWS A’R TRÊNMae gorsaf fysiau Casnewydd dros y ffordd i Gampws Dinas

Casnewydd. I gael rhestr lawn o wasanaethau, ewch i:

www.newportbus.co.uk

Mae’r orsaf reilffordd ddeg munud i ffwrdd ar droed ac mae’r

Brifysgol wedi sicrhau disgownt gyda Threnau Arriva Cymru ar y

pas trên blynyddol ar gyfer gwasanaethau Rheilffordd y

Cymoedd.

ESTYNHELP LLAW

Rydyn ni am i chi ffynnu a llwyddo yn yBrifysgol. Dyna pam ein bod ni’n cynnig nifer o

wasanaethau i’ch cefnogi. O arweiniad arsgiliau astudio i’ch helpu i gael swydd, ac ogyngor ar lety i’ch cefnogi pan fydd arian yn

brin – rydyn ni yma i roi cymorth.Dewch o hyd i ni yn:

www.southwales.ac.uk/student

CERDYN NUSBydd pob myfyriwr sy’n prynu cerdyn ‘NUS extra’ yn gallu ei

ddefnyddio fel Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol, yr unigbrawf o statws myfyriwr a dderbynnir yn rhyngwladol.

Yn ogystal â’r 200 o ddisgowntiau yn y DU ar bopeth o gyflenwadauprifysgol i ffasiwn, mae’r cerdyn ‘NUS extra’ yn rhoi mynediad i fwy

na 42,000 o ddisgowntiau ledled y byd.

Gallwch brynu eich cerdyn wrth ddesg wybodaeth Undeb yMyfyrwyr neu ar-lein drwy’r gwasanaeth ‘Clicio a Chasglu’:

www.nus.org.uk

Dewiswch o blith cerdyn blwyddyn am £12, cerdyn dwy flynedd am£22, neu gerdyn tair blynedd am £32.

Mae’r arian a geir o werthu’r cardiau hyn yn mynd yn syth yn ôl ifudiad y myfyrwyr i helpu i wella eu bywydau drwy ymgyrchoedd

fel #CutTheCosts, ac i roi llais grymus iddynt.

Ffair Stryd CasnewyddDYDDIADAUI’CH

DYDDIADUR

MYNNWCH EIN APMae ap ‘UniLife’ Prifysgol De Cymru (ar gael am ddim yn

siop Google Play a siop apps iTunes) yn darparumanylion cysylltu, cysylltau defnyddiol a gwybodaeth

gyfoes ar gyfer ein myfyrwyr.

TIMAU CHWARAEONMae gennym lawer o dimau chwaraeon cystadleuol ygallwch ymuno â nhw, o fadminton a phêl-fasged ikarate a rygbi. Roedd gennym fwy na 60 tîm yng

nghystadleuaeth BUCS y llynedd.Bydd ein timau pêl-droed, rygbi a ffwtsal yn chwaraeyn yr Uwch Gynghreiriau BUCS. Mae mwy o wybodaeth

ar dudalen 9.

Page 4: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Cynigion i fyfyrwyr PDC!

2’4’1SINEMA

GLAN YR AFON2 fyfyriwr = £4.00!

(heblaw am Silver Screenings)

22.09 NISH KUMAR

Tocynnau cyfyngedig £10.00pob un arall o £19.00

Mae Nish Kumar, a enwebwyd ar gyfer dwy Wobr Gomedi Caeredin,

yn mynd â’i sioe newydd sbon ar daith drwy’r DU.

28.09 Y SIED GOMEDI

Tocynnau cyfyngedig£7.00

pob tocyn arall£13.00

26.10 CROONERS

Tocynnau cyfyngedig £12.00pob tocyn arall £22.50

Tri gŵr bonheddig hyderus, steilus ac egnïol, sy’ntaranu cerddoriaeth Frank

Sinatra, Sammy Davis Jr, Dean Martin, Bobby Darin a Matt Monro, gyda band 10 darn byw

beiddgar a chwistrelliad hynod Brydeinig o gomedi.

05.10 AUSTENTATIOUS

Tocynnau cyfyngedig £10.00pob tocyn arall £16.00

Drama gomedi fyrfyfyr yw Austentatious gyda chast o berfformwyr comig cyflymaf y wlad. Ym mhob sioe mae’r cast yn creu nofel Jane Austen

‘goll’ newydd sbon ar sail dim byd mwy na theitl wedi’i awgrymu gan y

gynulleidfa.

76 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru

Mae’r cwrs rydych chi wedi dewis ei astudio yn rhoi cyfle i chi weithio gyda chyd-fyfyrwyr sydd yr un morfrwd dros y pwnc â chi, ac i ymgysylltu â staff academaidd sy’n arbenigwyr blaenllaw yn y ddisgyblaeth.

Mae’r pynciau a gynigir gan y Brifysgol wedi’u trefnu mewn Ysgolion neu Gyfarwyddiaethau, ac mae pobun o’r rhain yn perthyn i un o bedair Cyfadran:

Cyfadran Busnes a ChymdeithasCyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Mathemateg

Cyfadran y Diwydiannau CreadigolCyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg

Drwy astudio’r tudalennau am y Cyfadrannau fe gewch lawer o wybodaeth am y staff yn eich maes pwncchi a’u diddordebau ymchwil. Ewch i:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom-ni/cyfadrannau-ac-ysgolion/

Mae gan bob cwrs ei amserlen sefydlu ei hun i’ch helpu i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr, cyfarfod âthîm eich cwrs a deall mwy am y dysgu a’r addysgu yn PDC. Mae amserlen sefydlu eich cwrs ar y

wefan Getting Started.

Cyflwyniad i’chCyfadran a’ch Cwrs

Austentatious

Nish Kumar

Pwynt cyswllt cychwynnol croesawgar ar gyfer eich holl ymholiadau myfyrwyr

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.30am-4.30pm

Caerdydd: Llyfrgell yr ATRiuM • Glyn-taf: Llyfrgell

Casnewydd: Lefel B • Tre orest: Llyfrgell

01443 482 540

Galwch heibio neu oniwch yn ystod yr oriau agor. Gallwch hefyd ymweld â ni yn yr Ardal Gynghori Ar-lein (24/7).

Ardal Gynghori

Page 5: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Mae rhaglen Chwaraeon PDC yn cynnwys mwy na 60 o glybiau chwaraeon sy’ncymryd rhan yn rhaglen Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) bobDydd Mercher. Os cewch le yn un o’n timau chwaraeon cystadleuol, gallwch ddisgwylcael y sesiynau hyfforddi isod, o’r wythnos yn dechrau 24 Medi.

Sesiynau Hyfforddi ClybiauChwaraeon

Dewch i Ffair y Glas i sicrhau nad yw’r amserau uchod wedi newid. Bydd cynrychiolwyr o’n timau a’nclybiau yn bresennol yn Ffair y Glas ar Ddydd Mawrth 18 yng Nghanolfan Chwaraeon Trefforest. Osnad yw’r tîm neu glwb y mae gennych ddiddordeb ynddo yn cynnal digwyddiad yn ystod yr WythnosGroeso, dewch i’r Ffair i ddysgu mwy amdano.

98 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Rydyn ni’n frwd dros chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru a’ch wythnos gyntaf yw’r amser perffaith i ddechrau.

Clybiau a thimau’r BrifysgolOs hoffech gymryd rhan mewn tîm neu glwb,dyma beth sydd ar gael:

Timau chwaraeon cystadleuolBydd ein timau chwaraeon cystadleuol yncymryd rhan yng nghynghrair ChwaraeonPrifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) bobprynhawn Mercher. Mae gennym un o dimaugolff blaenllaw prifysgolion y DU sy’n chwarae yny Celtic Manor Resort.

Mae rhai timau’n denu llawer o ddarparchwaraewyr, felly bydd angen mynychu treialweithiau. Byddwn yn darparu cludiant i raitreialon, yno ac yn ôl.

Bydd angen cofrestru ar gyfer timau chwaraeonerbyn Dydd Mawrth 18 Medi ynwww.uswsu.com neu yn y Ffair Stryd ar DdyddLlun 17 Medi ar gampysau Casnewydd aChaerdydd, neu yn Ffair y Glas ar Ddydd Mawrth18 Medi yn Nhrefforest. Cynhelir treialonchwaraeon yng Nghanolfan ChwaraeonTrefforest neu Barc Chwaraeon PDC.

Gweler tudalen 12 am wybodaeth am dreialonneu dudalen 9 am sesiynau hyfforddi wythnosol.Os byddwch yn llwyddo i gael lle ar un o’n timau,bydd gofyn i chi dalu tanysgrifiad blynyddol.

Chwaraeon a Ffitrwydd

Ewch amdani!

Chwaraeon hamddenBydd y timau hyn yn cyfarfod bob wythnos ihyfforddi, ymarfer a chyfranogi. Nid yw profiadblaenorol o’r gweithgaredd yn angenrheidiolgan fod y clybiau’n darparu ar gyfer pob gallu, oddechreuwyr i rai mwy profiadol. Rhaid talutanysgrifiad blynyddol i fod yn rhan o’r clybiauhyn.

Os nad oes gennym glwb sy’n apelio atoch, betham gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr i gaelgwybodaeth ar sut i sefydlu un? Gweler tudalen12 am fwy o fanylion.

COFRESTRWCH GYDA BUCS

COFRESTRWCH GYDA BUCS YN FFAIR YGLAS AR DDYDD MAWRTH 18 MEDI

Darganfyddwch bopeth am y timau BUCS a sut ygallwch gymryd rhan. Dewch i gofrestru eich

diddordeb gyda chlwb neu gymdeithas adarganfyddwch sut i gofrestru ar gyfer y treialon chwaraeon. Darperir cludiant o

Gampws Casnewydd.

Campws Casnewydd

Badminton

Pêl-fasged (Dynion)

Pêl-fasged (Menywod)Codi Hwyl

DringoCricedPêl-droed (Dynion)Pêl-droed (Menywod)Ffwtsal Hoci (Dynion)Hoci (Menywod)KarateLacrósPêl-rwydRygbi (Dynion)Rygbi (Menywod)Rygbi CynghrairSboncenTennis Bwrdd

Pêl-foli

DiwrnodDydd Llun Dydd GwenerDydd SulDydd MawrthDydd SadwrnDydd MawrthDydd GwenerDydd SadwrnDydd MercherDydd GwenerDydd LlunDydd LlunDydd GwenerDydd LlunDydd LlunDydd IauDydd LlunDydd LlunDydd LlunDydd LlunDydd LlunDydd Llun

Dydd LlunDydd IauDydd MawrthDydd Mercher

LleoliadCanolfan Chwaraeon Trefforest Canolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon Trefforest Canolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon Trefforest Canolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon TrefforestParc Chwaraeon PDCParc Chwaraeon PDCParc Chwaraeon PDCParc Chwaraeon PDCParc Chwaraeon PDCCanolfan Chwaraeon TrefforestParc Chwaraeon PDCParc Chwaraeon PDCHeol Sardis Heol Sardis Heol Sardis Canolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon Trefforest Canolfan Chwaraeon TrefforestCanolfan Chwaraeon Trefforest Canolfan Chwaraeon Trefforest

Amser6pm-7.30pm7.45pm-9.15pm6pm-7.30pm6pm-7.30pm1pm-3pm7.30pm-9pm

6.30pm-8.30pm 10am-12pm6.30pm-8.30pm

5.30pm-7.30pm5.30pm-9.30pm 6.30pm-8pm8pm-9.30pm8pm-9.30pm5.30pm-8pm8pm-9.30pm8pm-9.30pm 5.30pm-9.30pm 5.30pm-8pm8pm-9.30pm8pm-9.30pm7pm-9pm

8pm-10pm6.30pm-8.30pm

9pm-10.30pm8.30pm-10pm

Page 6: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

CANOLFAN CASNEWYDD

I fyfyrwyr sy’n awyddus i gadw’n heini ac iach yn lleol, maeCanolfan Casnewydd yn union gyferbyn â ChampwsCasnewydd PDC ac mae’n cynnig aelodaeth arbennig ifyfyrwyr sy’n astudio yng Nghasnewydd.

CyfleusterauCyfleuster amlbwrpas gwych yw Canolfan Casnewydd sy’ncynnig:• Pêl-droed 5v5 • Pêl-fasged • Pêl-rwyd • Tennis bwrdd• Badminton • Dosbarthiadau ffitrwydd • Campfa • Nofio

ac aelodaeth Ffitrwydd

Oriau agorDydd Llun: 6.15am-10.30pmDydd Mawrth: 6.15am-10pmDydd Mercher: 6.15am-10.30pmDydd Iau: 6.15am-10pmDydd Gwener: 6.15am-9.30pmDydd Sadwrn: 8.15am-7.30pmDydd Sul: 8.15am-9pm

Casnewydd Fyw – Disgownt Arbennig i Fyfyrwyr PDCYmunwch rhwng 14 a 30 Medi am £15.99 y mis ar gyfer2018/19.

• Rhowch gynnig arni AM DDIM yng Nghanolfan Casnewydd rhwng 17 a 28 Medi 2018

• Cewch rewi eich aelodaeth yn ystod gwyliau’r haf• Holl fuddion gwych aelodaeth Casnewydd Fyw• Nofio, campfa, chwaraeon raced a mwy na 120 o

ddosbarthiadau ffitrwydd ar draws pum lleoliad• Rhaglenni cefnogi personol• Disgowntiau ar rai perfformiadau a digwyddiadau yng

Nglan yr Afon• Newyddlenni misol

Ffoniwch: 01633 656 757Ewch i: www.newportlive.co.uk

10 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru 9www.southwales.ac.uk/gettingstarted

£15.99per month

QUOTE: NLUSW 18newportlive.co.uk01633 656757 DOWNLOAD OUR APP

• SWIM• GYM• GROUP EXERCISE CLASSES• RACQUETS

• NOFIO• CAMPFA• DOSBARTHIADAU YMARFER CORFF

i BAWBfor EVERYbody

USW STUDENTS

JOIN NOW

YMUNWCH NAWR

Hysbyseb

Chwaraeon PDC Casnewydd

Campws Casnewydd

LAWRLWYTHWCH EIN APP

MYFYRWYR PDC

DYFYNNWCH: NLUSW 18

y mis

Page 7: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Bydd amryw o dimau PDC yn cystadlu yn y Cynghrair BUCS (Chwaraeon Prifysgoliona Cholegau Prydain). Os hoffech gynrychioli’r Brifysgol yn un o’r chwaraeon tîmcystadleuol, efallai y bydd angen i chi eich profi’ch hun yn ein Treialon sy’n cael eucynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Trefforest a Pharc Chwaraeon PDC.

Treialon Chwaraeon

DYDD MERCHER19 MEDI

12pm-6pm

DYDD SADWRN22 MEDI

10am-5pm

DYDD SUL23 MEDI

11am-5pm

DYDD MERCHER26 MEDI

12pm-6pm

12 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru

Campws Casnewydd

FFAIR STRYDCAMPWS CASNEWYDD

17.09.2018FFAIR STRYD

CAMPWS CAERDYDD17-19.09.2018

FFAIR Y GLASCAMPWS PONTYPRIDD, TREFFOREST

18.09.2018

13www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Friars WalkWythnos Groeso yw’r amser perffaith iddarganfod Friars Walk, y datblygiad siopa ahamdden £100m sy’n union gyferbyn âChampws Casnewydd. Yn ogystal â Cineworld aSuperbowl UK, byddwch chi’n gallu mwynhaubwyd gyda ffrindiau mewn amrywiaeth o gaffis athai bwyta, gan gynnwys Nando’s, Wagamama aGBK, ac ymbleseru mewn ychydig o therapi siopayn y 30 siop, yn eu plith Debenhams, H&M, Schuha JD Sports. Felly os ydych chi’n chwilio amswydd ran-amser yn ystod y tymor neu rywle igymdeithasu gyda’ch ffrindiau newydd, mae’rcyfan ar eich stepen drws.

Siopwch acanturiwch!

Mae Friars Walk ar agor saith diwrnod yr wythnos,ac mae’r tai bwyta, sinema a Superbowl UK aragor yn hwyr. Ewch i’w gwefan i gaelgwybodaeth am ddigwyddiadau, cynigion ifyfyrwyr a hyrwyddiadau:www.friarswalknewport.co.uk

Mae Friars Walk gyferbyn â Champws Dinas Casnewydd

Page 8: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Campws Casnewydd

Cymdeithasau Undeb y MyfyrwyrMae llawer o gymdeithasau sy’n cael eu rhedeggan fyfyrwyr ac maen nhw’n ffordd wych ogymdeithasu â myfyrwyr eraill. Byddwch yn dodyn fwy hyderus, yn meithrin sgiliau ac yn cael yramser gorau erioed yn y Brifysgol.

O’r Gymdeithas Gwerthfawrogi Pitsa iGymdeithas Ffilm Casnewydd, mae yna rywbeth ibawb. I weld rhestr lawn o’r cymdeithasau, ewchi: www.uswsu.com/societies

Eisiau gadael rhywbeth ar eich ôl neu heb welddim sy’n apelio, wel beth am ddechrau’chcymdeithas eich hun?

Mae’n gyflym a hawdd i wneud hynny a byddUndeb y Myfyrwyr yn hapus i’ch helpu. Dewch i’rFfair Stryd i ddysgu mwy. Os oes gennych unrhywgwestiynau, galwch heibio swyddfa’r Undeb neue-bostiwch:[email protected]

Cymdeithasau Myfyrwyr

14 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru

EICH CANLLAW

POCED

Cadwch y canllaw hwn iweld pa ddigwyddiadausy’n cael eu cynnal ynystod yr Wythnos Groesoar Gampws Casnewydd

Cynrychioli Undeb y MyfyrwyrYn ystod y flwyddyn academaidd fe fyddcyfleoedd i gynrychioli’r corff myfyrwyr. Gallaihyn olygu cynrychioli eich cwrs fel CynrychiolyddCwrs, neu ddod yn Gynrychiolydd Llais yMyfyrwyr a chyflwyno barn eich cyd-fyfyrwyr i’rBrifysgol i ddylanwadu ar ddysgu yn y dyfodol.Gallech hyd yn oed ddod yn Swyddog UndebMyfyrwyr. Beth bynnag yw eich diddordeb, boedyn addysg neu’n lles, mae gennym rôl i chi.Galwch heibio swyddfa’r Undeb, ewch iwww.uswsu.com neu [email protected] i gael gwybod mwy.

I gael mwy o wybodaeth...I ddarganfod mwy, dewch i safle gwybodaeth yrWythnos Groeso, ewch i www.uswsu.com neu e-bostiwch [email protected].

Cwrt Bwyd Casnewydd

Page 9: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

TAITH CAMPWS DINAS CASNEWYDD

Dysgwch am y campws drwy fynd ar daithdywys gyflym. Fe welwch ein caffi sy’n gweinicoffi Starbucks, y ganolfan adnoddau dysgu a’r

lleoedd astudio eraill y byddwch chi’n eudefnyddio. Galwch heibio safle gwybodaeth yr

Wythnos Groeso a bydd rhywun yn hapus i drefnu taith i chi.

Dewch i gael cip o gwmpas

Ffair Stryd Casnewydd 2017

TEITHIAU CASNEWYDD FYW

Dewch i weld y cyfleusterau lleol ac i ddysgu mwy am ddisgowntiau

a chynigion Casnewydd Fyw i fyfyrwyr. Mae teithiau tywys drwy’r Ganolfan

Hamdden a Glan yr Afon ar gael ar gais!

Friar

s Walk

Cwrt

Bwyd

Casn

ewyd

d

Dydd Sadwrn 15 Medi

Tiny Rebel, Casnewydd 7.30pm

Dydd Llun 17 Medi

Ffair StrydBlasu Bwyd a DiodGwerthiant Vintage KiloTeithiau Canolfan Casnewydd a Glan yr Afon

Lloriau A a B, Campws CasnewyddCwrt Bwyd, Campws CasnewyddLlawr A, Campws CasnewyddCyfarfod ar Lawr A, Campws Casnewydd

Dydd Mawrth 18 Medi

Ffair y GlasCroeso CymraegHelfa Drysor gyda Phentref Myfyrwyr Casnewydd

Bws yn gadael am 11am o safle bysiau Castle BingoD20Dewch i Bentref Myfyrwyr Casnewydd (Campus Living Village)

11am-3pm12pm-1pm2pm

Dydd Mercher 19 Medi

BrecinioCoffi CymraegParc Trampolîn, Energi CasnewyddNoson Myfyrwyr

Cwrt Bwyd, Campws CasnewyddStarbucks, Campws CasnewyddGadael o safle bysiau Castle Bingo am 2pmTiny Rebel, Casnewydd

10am-12pm1.30pm-2.30pm2pm8pm

Dydd Iau 20 Medi

Cinio Thema FecsicanaiddSesiynau Blasu Tennis Cardio a ChyffwrddPêl-rwydBowlio a Laser Quest

Cwrt Bwyd, Campws CasnewyddGadael o safle bysiau Castle Bingo am 12.30pmDerbynfa Canolfan CasnewyddCyfarfod yn Undeb y Myfyrwyr am 4.45pm

1pm-3pm1pm-3pm3.30pm-5pm4.45pm

Dydd Gwener 21 Medi

Beicio Cwad ar Fferm Cwrt y CelynSaethu Colomennod Clai Laser ar Fferm Cwrt y Celyn

Gadael o safle bysiau Castle Bingo am 9.45amGadael o safle bysiau Castle Bingo am 10.45am

10am-11am11.30am-12.30pm

Dydd Sadwrn 22 Medi

Taith i Sŵ BrysteTaith Feicio CaerdyddComedi gyda Nish Kumar

Gadael o safle bysiau Castle Bingo am 9.45amGadael o safle bysiau Castle Bingo am 9.15amGlan yr Afon, Casnewydd

10am-4pm10am-1pm8pm

Dydd Sul 23 Medi

Beicio Cwad ar Fferm Cwrt y CelynCinio Rhost Dydd Sul yn Tiny RebelRhaffau Uchel yn Mountain View Ranch

Gadael o safle bysiau Castle Bingo am 10.45amTiny Rebel, CasnewyddGadael o safle bysiau Castle Bingo am 11.15am

11.30am-12.30pm12pm-2pm12pm-2pm

Dydd Mawrth 25 Medi

Cyfeillion a Chymdogion Casnewydd – Lansiad Awr GinioNoson Myfyrwyr yn Friars Walk

Cyfarfod wrth y Ddesg Groeso, Campws Casnewydd

Friars Walk

12pm-1pm

6pm-8pm

Dydd Mercher 26 Medi

Bws i Noson Myfyrwyr Caerdydd Caerdydd 7.30pm

Dydd Iau 27 Medi

Noson Cwis yn Tiny Rebel Tiny Rebel, Casnewydd 7.30pm

10am-3pm10am-2pm10am-3pmYmunwch ar y diwrnod

www.southwales.ac.uk/gettingstartedWythnos Groeso Prifysgol De Cymru

Parti Croeso i Gasnewydd!

Ewch amdani a mwynhau

Page 10: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Mae gwasanaethau Caplaniaeth ar gael i bob myfyriwr beth bynnag yw eiffydd neu gred.

Os hoffech siarad â Chaplan, am broblem bersonol neu am faterion bywyd a ffydd yn gyffredinol,ffoniwch 01443 654 060 neu e-bostiwch [email protected]. Mewn argyfwng y tu allan ioriau swyddfa, ffoniwch 0345 576 0101, rhowch eich enw a rhif ffôn, a bydd Caplan yn eich ffoniochi’n ôl.

Y brif Ganolfan Caplaniaeth yw’r Tŷ Cwrdd ar Gampws Trefforest. Mae ar agor drwy’r dydd o DdyddLlun i Ddydd Gwener ac mae croeso i chi alw heibio i ymlacio, gwneud ffrindiau neu ddod o hyd i letawel. Bydd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, rhai difrifol a rhai hwyliog. I gael gwybodaetham y rhain, ewch i’r wefan: www.chaplaincy.southwales.ac.uk

Caplaniaeth yn PDC

facebook.com/southwaleschaplaincy @USWChaplaincy

15www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Hysbyseb

DIGWYDDIADAU CYFRWNG CYMRAEGCofiwch y bydd Cangen De Cymru o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yntrefnu digwyddiadau croeso penodol i siaradwyr Cymraeg ar draws ycampysau. Dilynwch @CangenDeCymru ar Twitter am fwy owybodaeth. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau, cysylltwch â CatrinEvans, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:[email protected]

Myfyrwyr ar Gampw

s Casnewydd

Page 11: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Parti Croeso i Gasnewydd!Amser: 7.30pmLleoliad: Tiny Rebel, CasnewyddTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiau

Cyfle i gyfarfod â myfyrwyr eraill sy’n astudio acyn byw yng Nghasnewydd – parti croeso amddim gyda cherddoriaeth fyw a lluniaeth am brisgostyngedig! Mae’n cael ei gynnal yn Tiny Rebel,Casnewydd.

Dydd Sadwrn 15 Medi

Campws Casnewydd

1716 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Dydd Llun 17 MediFfair StrydAmser: 10am-3pmLleoliad: Campws Casnewydd, Lloriau A a BTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauDewch i weld yr holl stondinau a chynigiongwych sydd ar gael i fyfyrwyr Casnewydd –clybiau, cymdeithasau, disgowntiau mewn siopaua digwyddiadau lleol! Dyma gyfle i gyfarfod âphobl newydd a chymryd rhan. Cewch gyflehefyd i gyfarfod â staff gwasanaethau cymorth yBrifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a fydd yn rhoi ichi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ideimlo’n gartrefol

Blasu Bwyd a DiodAmser: 10am-2pmLleoliad: Cwrt Bwyd, Campws CasnewyddTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauDewch i gyfarfod â rhai o’n harlwywyr a blasuamrywiaeth o eitemau sydd ar werth yng nghaffiStarbucks a’r cwrt bwyd.

Gwerthiant Vintage KiloAmser: 10am-3pmLleoliad: Llawr A, Campws CasnewyddTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauDewch i fachu dillad newydd ar gyfer dechrautymor! Cynhelir y gwerthiant Vintage Kilo ar ycampws.

Teithiau Canolfan Casnewydd a Glan yr AfonAmser: Ymunwch ar y diwrnodLleoliad: Cyfarfod ar Gampws Casnewydd, Llawr ATocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauDewch i weld y cyfleusterau lleol ac i ddysgumwy am ddisgowntiau a chynigion CasnewyddFyw i fyfyrwyr. Mae teithiau tywys drwy’rGanolfan Hamdden a Glan yr Afon ar gael ar gais!

AMDDIM!

Parti Croeso

Croeso CymraegAmser: 12pm-1pmLleoliad: D20Tocynnau: Archebwch erbyn 12pm Dydd Llun 17Medi. Gweler manylion pellach ar dudalen 15. Dewch i fwynhau pitsa am ddim a chlywed am yrholl gyfleoedd cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol.*Noder mae digwyddiad cyfrwng Cymraeg yw hwn.

Helfa Drysor gyda Phentref MyfyrwyrCasnewyddAmser: 2pmLleoliad: Cyfarfod ym Mhentref MyfyrwyrCasnewydd (Campus Living Village)Tocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauDarganfyddwch ddinas Casnewydd gydamyfyrwyr Pentref Myfyrwyr Casnewydd.Cymerwch ran mewn helfa drysor a chewch gyflei ennill gwobr wrth ymweld â’r siopau achyfleusterau lleol.

Ffair y GlasAmser: Bws yn cychwyn am 11am o safle bysiau Castle Bingo(y tu ôl i Gampws Casnewydd). Bws yn ôl oDrefforest am 3pm.Lleoliad: Canolfan Chwaraeon TrefforestTocynnau: Archebwch eich lle yn SafleGwybodaeth yr Wythnos Groeso neu ynwww.uswsu.com

Dyma ddigwyddiad mwyaf yr Wythnos Groeso –cyfle i gyfarfod â swyddogion pob un o’r 150 odimau, clybiau a chymdeithasau!

Yn Ffair y Glas bydd llu o gynrychiolwyr Cyngor yMyfyrwyr, timau chwaraeon, clybiau,cymdeithasau, Undeb y Myfyrwyr a chwmnïaulleol yn y Ganolfan Chwaraeon i roi gwybodaetha chyngor i chi ac i werthu tocynnau ar gyfer eindigwyddiadau, ac efallai y cewch ambell beth amddim. Dylai pawb ddod i fwynhau prynhawnllawn hwyl. Gellir cael y manylion yn:www.uswsu.com

Dydd Mawrth 18 Medi

Ffair

y Glas 2017Ffair y Glas 2017

Dewch i gyfarfod â myfyrwyr eraill

Peidiwch â cholli allan!TROWCHI FYNY!

TROWCHI FYNY!

TROWCHI FYNY!

TROWCHI FYNY!

TOCYNAM

DDIM!

AMDDIM!

TROWCHI FYNY!

AMDDIM!

TOCYN AMDDIM!

Page 12: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Cinio Thema FecsicanaiddAmser: 1pm-3pmLleoliad: Cwrt Bwyd, Campws CasnewyddTocynnau: Prynwch nhw gan Gwrt Bwyd neuGaffi’r Ddinas ymlaen llaw, neu wrth gyrraedd ary diwrnod.

Sesiynau Blasu Tennis Cardio a ChyffwrddAmser: 1pm-3pm Lleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo am12.30pm, Y Ganolfan Pwll a Thennis Ranbarthol,Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.Tocynnau: Archebwch eich tocynnau ar-lein yn:www.uswsu.com

Dewch i roi cynnig ar ein cwrtiau tennis dan do achwarae fersiynau anghonfensiynol ar y gêm!Sesiynau Blasu Tennis Cardio a Thennis Cyffwrddwedi’u dilyn gan goffi a theisen!

Tennis Cardio – Dosbarth ffitrwydd fel dim unarall. Tarwch y peli a mwynhewch sesiwn ymarferwych i guriad cerddoriaeth fywiog! Mae’nhwyliog, yn gymdeithasol ac yn agored i bobl obob oed a gallu.

Tennis Cyffwrdd – Cyflwyniad ardderchog idennis i ddechreuwyr a hwyl i chwaraewyrprofiadol. Cwrt llai, peli sbwng a racedi byrrach.Cyflym, hwyliog ac egnïol.

Dydd Iau 20 Medi

Pêl-rwydAmser: 3.30pm-5pmLleoliad: Derbynfa Canolfan CasnewyddTocynnau: Trowch i fyny neu archebwch eichtocynnau ar-lein yn: www.uswsu.comSesiwn blasu pêl-rwyd am ddim sydd ar agor ibob myfyriwr. Dewch i fynegi diddordeb mewncymryd rhan mewn sesiynau rheolaidd.

Bowlio a Laser QuestAmser: Cyfarfod yn Undeb y Myfyrwyr am 4.45pmLleoliad: Superbowl CasnewyddTocynnau: Archebwch ar-lein ynwww.uswsu.comCystadlu hwyliog a ffyrnig gydag esgidiau doniola drylliau laser.

TOCYN

1918 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk/gettingstarted

TOCYN £2

AMDDIM!

TOCYNAM

DDIM!

£2

Starbucks, Campws Casnewydd

Dydd Mercher 19 MediBrecinioAmser: 10am-12pmLleoliad: Cwrt Bwyd, Campws CasnewyddTocynnau: Trowch i fyny a thalu ar y diwrnodPum eitem a diod boeth.

Coffi CymraegAmser: 1.30pm-2.30pmLleoliad: Starbucks, Campws CasnewyddTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauGrŵp sgwrsio yw Coffi Cymraeg sy’n cyfarfod bobwythnos ar Gampws Casnewydd i siaradCymraeg. Grŵp anffurfiol yw ef sy’n cynnwyssiaradwyr Cymraeg ar bob lefel, o siaradwyr rhugli ddysgwyr newydd. Prif nod y grŵp ywcymdeithasu a chael hwyl wrth gael cyngor arsiarad a defnyddio’r iaith Gymraeg.

£2Parc Trampolîn, Energi CasnewyddAmser: 2pmLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle BingoTocynnau: Archebwch eich tocynnau ar-lein ynwww.uswsu.comNeidiwch ar y bws i barc trampolîn Energi!Torrwch yr iâ gyda myfyrwyr eraill wrth fownsio’rprynhawn i ffwrdd.

Noson MyfyrwyrAmser: 8pmLleoliad: Tiny Rebel, CasnewyddTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauNos Fercher yw noson y myfyrwyr yngNghasnewydd! Dewch i Tiny Rebel cyn symudymlaen i ddarganfod clybiau a bywyd nosCasnewydd.

Campws Casnewydd

Sesi

ynau

Blas

uTe

nnis

Card

ioa Chyffwrdd Pêl-rwyd, Canolfan Casnewydd

Archebwch nawr!

Cinio Thema Fecsicanaidd

TOCYN £2

TROWCHI FYNY!

TROWCHI FYNY!

Page 13: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Beicio cwad ar Fferm Cwrt y Celyn

Beicio Cwad ar Fferm Cwrt y CelynAmser: 10am-11amLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo am9.45amTocynnau: Archebwch ar-lein yn www.uswsu.comProfwch gyffro beicio cwad ar lwybr natur trawsgwlad.

Saethu Colomennod Clai Laser ar Fferm Cwrt y CelynAmser: 11.30am-12.30pmLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo am10.45amTocynnau: Archebwch ar-lein yn www.uswsu.comParod, anelwch, saethwch! Mwynhewch yr herwych hon wrth gystadlu â phobl eraill.

Dydd Gwener 21 Medi

Siaradwyr CymraegCofiwch y bydd Cangen De Cymru o’rColeg Cymraeg Cenedlaethol yn trefnu

digwyddiadau croeso penodol i siaradwyrCymraeg. Dilynwch @CangenDeCymru arTwitter am fwy o wybodaeth. Edrychwnymlaen at gwrdd a chi!

TOCYN £2

2120 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru

Taith i Sŵ BrysteAmser: 10am-4pmLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo y tu ôl i Gampws Casnewydd am9.45amTocynnau: £5 oedolion, £2 plant (2-14 oed),archebwch ar-lein yn www.uswsu.comMae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu diwrnod allani’r teulu yn Sŵ Bryste. Manteisiwch ar y prisiauarbennig a mwynhewch ddiwrnod llawn hwyl ibawb.

Dydd Sadwrn 22 Medi

TOCYN £5 &£2

Taith Feicio CaerdyddAmser: 10am-1pmLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo y tu ôl i Gampws Casnewydd am9.15amTocynnau: Archebwch ar-lein yn www.uswsu.comCyfle i feicio o amgylch Caerdydd gydathywysydd a dysgu popeth am ein prifddinasanhygoel.

Comedi gyda Nish KumarAmser: 8pmLleoliad: Glan yr Afon, CasnewyddTocynnau: Archebwch ar-lein ynhttps://tickets.newportlive.co.ukMae Nish Kumar, a enwebwyd ar gyfer dwy WobrGomedi Caeredin, yn mynd â’i sioe newydd sbonar daith drwy’r DU.

TOCYN £2

TOCYN £10

Campws Casnewydd

Diwrnod hwylioggyda’ch ffrindiau

a theulu!

TOCYN £2

Page 14: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Rhaffau Uchel yn Mountain View Ranch

2322 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Cyfeillion a Chymdogion Casnewydd – Lansiad Awr GinioAmser: 12pm-1pmLleoliad: Cyfarfod wrth y Ddesg Groeso yn yDderbynfaTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauMae’r elusen Cyfeillion a ChymdogionCasnewydd yn dwyn ynghyd bobl o rownd ygornel ac o bedwar ban byd i gyfarfod a sgwrsiomewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.Dewch i lansiad 2018 i gael pryd o fwyd am ddimac i gyfarfod â phobl newydd. Cadwch eichllygaid ar agor yn ystod yr Wythnos Groeso ambosteri’n dangos manylion yr ystafell!

Dydd Mawrth 25 Medi

Beicio Cwad ar Fferm Cwrt y CelynAmser: 11.30am-12.30amLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo am10.45amTocynnau: Archebwch ar-lein yn www.uswsu.comProfwch wefr beicio cwad ar lwybr natur trawsgwlad.

Cinio Rhost Dydd Sul yn Tiny RebelAmser: 12pm-2pmLleoliad: Tiny Rebel, CasnewyddTocynnau: £8.50 gydag ID PDC dilys – talwch ar y diwrnodCladdwch ginio rhost Dydd Sul traddodiadol –dau gwrs llawn am bris gostyngol!

Dydd Sul 23 MediRhaffau Uchel yn MountainView RanchAmser: 12pm-1pmLleoliad: Gadael o safle bysiau Castle Bingo am11.15amTocynnau: Archebwch ar-lein yn www.uswsu.comPerffaith i’r rheiny sy’n gwirioni ar uchder! Ewchi’r afael â’r cwrs heriol hwn i fyny yn y coed.

TOCYN £2

£8.50

TOCYN £2

Bachwch fargen!

Noson Myfyrwyr yn Friars WalkAmser: 6pm-8pmLleoliad: Friars WalkTocynnau: Dim ond troi i fyny sydd eisiauPeidiwch â methu’r noson siopa arbennig ifyfyrwyr yn Friars Walk! Fe fydd cerddoriaeth fyw,nwyddau am ddim, a chyfleoedd i ennillgwobrau, yn ogystal â disgowntiau ac arbedionenfawr. Cadwch eich llygaid ar agor am y tîmSiopa Myfyrwyr yn Ffair y Glas i gael gwybod sut igofrestru ar gyfer y digwyddiad un noson yn unighwn. Gallwch hefyd fynd i:www.friarswalknewport.co.uk

TROWCHI FYNY!

TROWCHI FYNY!

TROWCHI FYNY!

Page 15: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

ff air y glas.

Archebwch docynnau bws am ddim o gampysau Casnewydd a Chaerdydd yn www.uswsu.com

Dewch i weld yr hyn allwch chi fod yn rhan ohono dros y fl wyddyn nesaf. Gallwch gwrdd â’n timau chwaraeon, clybiau a chymdeithasau, a chasglwch nifer o nwyddau am ddim gan arddangoswyr lleol a chenedlaethol.

Canolfan Chwaraeon,Campws Treff orest11yb - 3yp

Dydd Mawrth, 18 Medi

Campws Casnewydd

24 Wythnos Groeso Prifysgol De Cymru

Dydd Mercher 26 Medi

Noson Cwis yn Tiny RebelAmser: 7.30pmLleoliad: Tiny Rebel, CasnewyddTocynnau: Rhaid talu tâl mynediad i chwaraeYdych chi’n ‘gwybod y cyfan’ neu ond yn chwilio amdipyn o hwyl? Ymunwch â ni ar Nos Iau olaf bob mis argyfer ein noson cwis.

Dydd Iau 27 Medi

£1

Tiny Rebel, Casnewydd

Bar Zen, Campws Caerdydd

Ymunwch yn yr hwyl a mwynhewch!

Hysbyseb

Bws i Noson Myfyrwyr CaerdyddAmser: 7.30pm. Bws yn ôl i Gampws Casnewydd am 2am o Heol y Brodyr LlwydionLleoliad: CaerdyddTocynnau: Archebwch eich sedd ar y bws ynwww.uswsu.comBws i Gaerdydd ac yn ôl i gymryd rhan yn nosonfyfyrwyr fwyaf y brifddinas! Cewch eich gollwngger adeilad yr ATRiuM, Bar Zen, CampwsCaerdydd. Mynediad am bris gostyngol wedyn iun o glybiau nos mwyaf Caerdydd.

AMDDIM!TOCYN

TROWCHI FYNY!

Page 16: Wythnos Groeso 2018 Campws Casnewydd€¦ · Pe id wch ag ro sne eich bod chi’n sâl – cofrestrwch gyda Gw as naeth Iech yd Brifys golpan gy rh ae dwch. Mae yn Ga olf Dysgu a

Wristband includes FREE entry to the biggest Freshers events in Cardiff!

Follow our page to be the first to know when they’re released!

The Liberty Living

Freshers Wristband

Coming September 2018

Liberty Living Cardiff

Hysbyseb

vents in Cardiff!

Follow our page to be the first to know when they’re released!

The Liberty Living

Freshers Wristband

Coming September 2018

Liberty Living Cardiff

Wristband includes FREE entry to the biggest Freshers events in Cardiff!

Follow our page to be the first to know when they’re released!

The Liberty Living

Freshers Wristband

Coming September 2018

Liberty Living Cardiff

Wristband includes FREE entry to the biggest Freshers events in Cardiff!

Follow our page to be the first to know when they’re released!

The Liberty Living

Freshers Wristband

Coming September 2018

Liberty Living Cardiff

P

P

P

P

P

Newport Cathedral

Clarence Place

M4 Junction 26

Newport Market

Newport County AFCNewport Dragons RFC

Comm

ercial Street

George Street

B4237

Granville Street

RI V

ER

US

K

Usk Way

Usk Way

King

sway

Dolman Theatre

John Frost Square

Newport Museum & Art Gallery

A4042

B4596

B4591

Queensway

Stow Hill

Stow H

ill

Emlyn St

N

500ft

100m

P

11

1

5

8

2

10 4

6

7

912

3

13

Cynllun y Map © Gill AdvertisingMap Design © Gill Advertising

Canol Dinas CasnewyddNewport City Centre

1. Campws CasnewyddNewport Campus

2. Newport Student VillagePentref Myfyrwyr Casnewydd

3. Tŷ AlacrityAlacrity House

4. Maes Parcio KingswayKingsway Car Park

5. Pont Droed Dinas Casnewydd Newport City Footbridge

6. Canolfan Casnewydd Newport Centre

7. Gorsaf Fysiau Casnewydd Newport Bus Station

8. Rodney Parade9. Y Llo6t Busnes

The Business Loft10. Canolfan Siopa Kingsway

Kingsway Shopping Centre11. Theatr Glan yr Afon

Riverfront Theatre12. Gorsaf Rheil6ordd Casnewydd

Newport Train Station13. Friars Walk

Gorsaf Rheil6orddRailway Station

ParcioParking

Gorsaf FysiauBus Station

Gwybodaeth i YmwelwyrTourist Information

P

Canol Dinas CasnewyddNewport City Centre

Man codi Castle BingoCastle Bingo ‘pick up’

2726 www.southwales.ac.uk/gettingstarted

Band Garddwrn Liberty

Living i Fyfyrwyr Newydd

Yn Dod ym Mis Medi 2018

Mae’r band garddwn yn cynnwys mynediad AM DDIM iddigwyddiadau gorau Wythnos y Glas yng Nghaerdydd!Dilynwch eintudalen a bod ycyntaf i wybod prydy byddant yn caeleu rhyddhau!

llety i fyfyrwyrCaerdydd