Gardd Gorfforaethol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Corfforaethol • Preifat • Digwyddiadau Hyrwyddo
Gardd Gorfforaethol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Corfforaethol • Preifat • Digwyddiadau Hyrwyddo
01558 667114
garddfotaneg.cymru
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Llanarthne,
Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG
Ffôn: (01558) 667114Ffacs: (01558) 668933
Annwyl Gleient,
Diolch i chi am eich ymholiad diweddar ynglŷn â'n cyfleusterau corfforaethol. Rwy'n falch eich bod yn ystyried Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lleoliad posibl, ac mae'n bleser gennyf amgáu Taflen Wybodaeth Gorfforaethol ar eich cyfer.
Mae ein cyfleusterau wedi'u lleoli ar safle cofiadwy Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a fydd yn siŵr o gyfrannu at achlysur llwyddiannus. Ein nod, yn yr Ardd Fotaneg, yw darparu gwasanaeth personol i ddiwallu ystod eang o anghenion. Mae gennym dîm rhagorol a Chydgysylltydd Derbyniadau ymroddedig i gysylltu â chleientiaid a diwallu eu hanghenion mewn modd personol.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli'n gyfleus ger Caerfyrddin, a hynny ar yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, funudau'n unig i ffwrdd o'r M4.
Rwy'n gobeithio y bydd y manylion sy'n amgaeedig yn eich helpu i gynllunio eich digwyddiad neu eich achlysur, ac y byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a'r cyfleusterau arbennig a gynigiwn.
Mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech gael rhagor o wybodaeth, archebu lle dros dro, neu os oes gennych unrhyw geisiadau penodol.
Yr eiddoch yn gywir,
Cellan WilliamsPennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Masnachol
I archebu neu i wneud ymholiadau, cysylltwch â'r canlynol:
Sarah Williams 01558 667114 [email protected]
Cellan Williams 01558 667147 [email protected]
Lleoliad Rhagorol ar gyfer Busnes a Phleser
A ydych yn ystyried cynnal diwrnod i ffwrdd corfforaethol mewn lleoliad eiconig, er mwyn llwyfannu digwyddiad lletygarwch a fydd yn cyfareddu eich cleientiaid? Gall Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiwallu eich anghenion busnes.
Wedi'i osod mewn 568 erw o barcdir hanesyddol bwysig, mae'r Ardd yn ymfalchïo yn Nhŷ Gwydr Mawr trawiadol yr Arglwydd Norman Foster, sef tirnod yr 21ain ganrif yng Nghymru, a chartref i rai o blanhigion mwyaf prin y byd. Mae'r amgylchoedd delfrydol hyn yn gwneud unrhyw ddigwyddiad lletygarwch corfforaethol yn un i'w gofio.
CyfleusterauTŷ PrincipalityMae gan Tŷ Principality bum ystafell gynadledda odidog, sy'n amrywio o ran maint o ystafell glyd y bwrdd ar gyfer wyth cynadleddwr i ystafell ar ffurf theatr ar gyfer 100 o bobl. Mae gan bob ystafell oleuni naturiol, mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn, sgriniau taflunydd, cyfarpar amlgyfrwng ac WiFi di-wifr.Lleoliad heb ei ail, sy'n fwyaf addas ar gyfer y canlynol:
Cynadleddau Cyfarfodydd Bwrdd Diwrnodau Hyfforddi Seminarau Lansiadau Cynnyrch Cyflwyniadau Arddangosiadau Arddangosfeydd
Ystafell PaxtonYstafell gyfarfod fawr wedi'i lleoli ar lawr cyntaf y ganolfan gynadledda. Mae yna lifft ar gael i'r llawr cyntaf, ynghyd â thoiledau ar y ddau lawr.Ystafell GrierMae Ystafell Grier yn ystafell gornel hyfryd, sydd â ffenestri ar y ddwy ochr. Mae yna sgrin sefydlog, ac mae'n ystafell gyfarfod boblogaidd iawn.Ystafell TywiMae Ystafell Tywi, sydd hefyd ar y llawr gwaelod, yn ystafell ymneilltuo boblogaidd.Ystafell AbadamMae Ystafell Abadam wedi'i lleoli i lawr y grisiau ar ben pellaf yr adeilad, gan edrych dros yr ardd furiog hardd.Yr Ystafell TGChMae'r Ystafell TGCh yn gyfleuster hyfforddi rhagorol sy'n cynnwys 14 o gyfrifiaduron Windows 7, ynghyd â gofod gweithio ychwanegol. Mae'r cyfrifiaduron yn cynnwys rhaglen Office 2010 a mynediad llawn i'r We. Gellir hefyd ddefnyddio'r ystafell hon ar gyfer cyfarfodydd bach, neu fel ystafell ymneilltuo.Cynllun Capasiti'r Ystafelloedd
Lleoliad Theatr Bwrdd Agored
CabaretYstafell Paxton
100 30 64Ystafell Grier 40 24 20Ystafell Tywi 30 16 16Ystafell Abadam
30 18 16
Theatr BotanicaYstafell theatr ddiddos sydd â lle i rhwng 55 a 70 o bobl.
Lleoliad unigryw a rhyfeddol, sy'n fwyaf addas ar gyfer y canlynol: Cyflwyniadau Fideogynadledda Cynyrchiadau Perfformiadau Lansiadau Cynnyrch Arddangosiadau Arddangosfeydd
Y Babell FawrMae'r Babell Fawr foethus wedi'i lleoli wrth gefn prif adeilad y Bwyty Tymhorol. Mae ganddi deras awyr agored preifat, ac mae ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o dderbyniadau. Mae ganddi le bwyta i hyd at 150 o bobl, ac o'i defnyddio ar ffurf theatr, mae ganddi le i 180 o bobl.
Mae'r Babell Fawr yn fwyaf addas ar gyfer y canlynol: Cynadleddau Ciniawa Corfforaethol Lansiadau Cynnyrch Cyflwyniadau Seremonïau Gwobrwyo Derbyniadau Priodas Bedyddiau
Y MesanînMae'r Mesanîn wedi'i leoli i fyny'r grisiau o'r bwyty. Mae'n cynnwys ardal balconi ac ystafell gyffiniol. O'i defnyddio fel ystafell y bwrdd, mae yna le i 25 o bobl, ac o'i defnyddio fel ystafell gabaret, mae yna le i 18 o bobl. Mae'r balconi yn ddefnyddiol fel ardal ymneilltuo ac i weini lluniaeth.
Y Tŷ Gwydr MawrGellir defnyddio'r lleoliad trawiadol hwn ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol, gan gynnwys priodasau a lansiadau. O'i ddefnyddio ar ffurf theatr, mae yna le i 150 o bobl fwynhau perfformiadau cerddorol a chynyrchiadau theatr, ac mae yna le i 100 o bobl ar gyfer derbyniadau diodydd.
Mae'r Tŷ Gwydr Mawr, sy'n lleoliad bythgofiadwy, yn fwyaf addas ar gyfer y canlynol:
Derbyniadau Diodydd Digwyddiadau Gyda'r Nos Cyflwyniadau Seremonïau Gwobrwyo Seremonïau Priodas
Yr OrielMae llonyddwch tawel yr Oriel yn cynnig y lleoliad delfrydol i gynnal digwyddiadau personol, er enghraifft priodasau, dathliadau pen-blwydd, neu giniawau corfforaethol unigryw. Mae ganddi le i 40 o bobl fwyta, a hynny yn gyfforddus. Mae'r arddangosfeydd o arlunwaith yn ychwanegu at y naws ddymunol ac yn annog pobl i ymlacio a sgwrsio.
Lleoliad tangnefeddus, sy'n ddelfrydol ar gyfer y canlynol: Ciniawau Preifat Derbyniadau Diodydd Seremonïau Priodas Arddangosiadau Arddangosfeydd Cyflwyniadau Seremonïau Gwobrwyo
Sgwâr y MileniwmArena bwrpasol ar gyfer cynyrchiadau awyr agored, gan gynnwys cerddoriaeth a theatr, sydd wedi'i lleoli'n wych ger y brif iard, y bwyty a'r cyfleusterau. Cyfleusterau storio ar wahân ar gyfer propiau a chyfarpar cerddorol – ardal fawr sydd â lle i ddim rhagor na 1,000 o bobl.
Lleoliad dymunol, sy'n fwyaf addas ar gyfer y canlynol:
Digwyddiadau Gyda'r Nos ac ar Benwythnosau
Cynychiadau Awyr Agored Perfformiadau Lansiadau Cynnyrch Arddangosiadau Arddangosfeydd
Cyfarpar/GwasanaethauGwybodaeth GyffredinolMae'r holl gyfleusterau yn cynnwys mynediad i'r anabl o'r Mesanîn. Mae yna lifft yng Nghanolfan Gynadledda Tŷ Principality.
Mae'r holl gyfleusterau cynadledda ar gael yn ystod y dydd neu yn ystod y nos. Gellir teilwra trefniadau eistedd yr ystafelloedd at eich anghenion penodol.
Cyfarpar (yn amodol ar argaeledd)Taflunydd a Sgrin Yn y pris Siart Droi a Phennau Yn y pris Gliniadur Yn y pris System PA a microffon Yn y pris Sgrin Deledu LCD Yn y pris
Maes Parcio (ar gyfer hyd at 103 o geir + lleoedd ychwanegol) Yn rhad ac am ddim
Cyfradd Newydd ar gyfer Pecyn Cynrychiolydd Dydd: £14.50
Mae pecyn cynrychiolydd dydd yn eich galluogi i gyfrifo gwariant eich digwyddiad mewn modd hawdd. Mae pob pecyn cynrychiolydd dydd yn cynnwys y canlynol:
Llogi Ystafell am y dydd, yn cynnwys yr holl leoedd y gellir eu harchebu Dŵr ar y Byrddau Egwyliau lluniaeth: wrth gyrraedd, canol bore a chanol prynhawn, i
gynnwys cacennau neu fisgedi a the arbennig Cinio – Bwffe Bys a Bawd, sudd a dŵr/te a choffi Cyfarpar, er enghraifft gliniadur a thaflunydd
Os byddwch yn dewis y Gyfradd Cynrychiolydd Dydd, yna bydd yn rhaid i chi gynnwys isafswm nifer y cynrychiolwyr, sef 10.
Nid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
Llogi YstafellCyfradd Fesul Diwrnod
Ystafell Paxton £200Ystafell Seminar Fawr, 60-100 o bobl
Ystafell Grier £100Ystafell Seminar Ganolig, 30-40 o bobl
Ystafell Abadam £85Ystafell Seminar Fach, 12-24 o bobl
Ystafell TGCh £100Ystafell Seminar Fach, 10-12 o bobl
Ystafell Tywi £50Lleoliad bach, 8-10 o bobl
Y Mesanîn £85Ystafell Seminar Ganolig, 15-25 o bobl
Theatr Botanica £125Lleoliad theatr ar gyfer hyd at 55 o bobl
Y Babell Fawr £500Lleoliad rhagorol ar gyfer hyd at 180 o bobl
Yr Oriel £250Lleoliad maint canolig ar gyfer 20-60 o bobl
Sgwâr y Mileniwm £250Lleoliad awyr agored mawr ar gyfer 20-300 o bobl
Y Tŷ Gwydr Mawr Pris ar gais
Gweler disgrifiadau'r ystafelloedd am fanylion y capasiti a'r cynllun. Mae cyfraddau ar gyfer hanner diwrnod ar gael, ffoniwch neu anfonwch neges e-bost i gael y manylion.
Nid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
ArlwyoEgwyliau Lluniaeth
Te/Coffi a Bara Brith £1.75 y penTe/Coffi a Chacennau Cri neu Fisgedi £1.75 y
pen
Diodydd Te/Coffi £1.20 y
cwpanaid Sudd Oren £0.50 y
gwydraid Sudd Afal £0.50 y gwydraid Dŵr Mwynol £2.12 am 75cl
Egwyl BoreYn cynnwys:
Dewis o deCoffi Masnach DegSudd ffrwythau oerDewis o Deisennau Crwst Danaidd
neu Dewis o de, coffi Masnach Deg, sudd ffrwythau oer, rholiau Bacwn neu Selsig
£4.00 y pen
Y Bwyty Tymhorol
20 o gynrychiolwyr
neu lai
Y cynrychiolwyr i ddewis o Fwydlen y Bwyty
Diodydd, Brechdanau/Paninis, Cacennau a Chownter Bwyd Poeth
Bydd gan bob adran stoc lawn, o wybod y niferoedd a'r amserau
Rhoddir tocynnau i'w defnyddio wrth gownter y bwyty i'r cynrychiolwyr
£10.00 y pen yn y Bwyty, ond anfonir
anfoneb.
Nid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
BwydlenniBwffe Bys a Bawd Safonol 1
Dewis o Frechdanau
(Brechdanau Heb Glwten ar gael trwy archebu ymlaen llaw) Sgiwerau Cyw Iâr wedi'u
marinadu (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Cebabau
Llysiau Rhost (Figan/Heb Glwten)
Talpiau Caws Moethus (Llysieuol/Heb Glwten)
Sgons â Jam Mefus a Hufen Ffres wedi'i Chwipio £7.95 y pen
Bwffe Bys a Bawd 2(20-50 o bobl)
Dewis o Frechdanau Cartref (Brechdanau Heb Glwten ar gael
trwy archebu ymlaen llaw) Pasteiod Bach Cyw Iâr, Bacwn a Chennin
Goujons Cyw Iâr Kentucky (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Tameidiau Cartref o Benfras a Saws
Tartare (Llysieuol/Heb Gynnyrch Llaeth) Madarch Garlleg mewn Briwsion Euraid
(Figan/Heb Glwten)Llysiau Tempwra gyda saws dipio tsili
melys (Figan)
Ac i ddilyn:Dewis o Bwdinau
Bach
£10.95 y penNid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
Bwydlen Brecwast (Isafswm o 15 o bobl) Ar gael rhwng 8.00 a 10.00
Selsig, Bacwn, Wyau Maes, Tomatos, Madarch a Ffa PobTost a Marmalêd neu
Jam
Neu
Brecwast Cyfandirol sy'n cynnwys Croissants, Ffrwythau Ffres, Platiau Caws a Chig Lleol, Iogwrt Lleol
Gweinir y ddau gydaSudd, Te a Choffi Masnach Deg
£8.50 y pen
Nid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
Bwffe Oer â Fforc(40 o bobl neu ragor)
Dewiswch ddwy Saig Entrée a phedwar Saig Ychwanegol o blith y
canlynol:
Saig Entrée Saig Ychwanegol
Ham (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Colslo Gwledig (Heb Glwten/Llysieuol)Cig Eidion (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Colslo Tsili Melys (Heb Glwten/Figan)Eog â Dresin (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Betys Melys a Sur (Heb Glwten/Figan)Cyw Iâr â Dresin (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Tomato a Mozzarella (Heb Glwten/Llysieuol) Tarten Fach Eog Mwg Salad Dail Cymysg (Heb Glwten/Figan) Tarten Fach Ffeta a Thomato Heulsych (Llysieuol) Salad Tatws (Heb Glwten/Llysieuol)Paté Afu Cyw Iâr Salad Reis Asiaidd (Heb Glwten/Figan)Frittata Caws a Winwns Coch (Llysieuol) Cwscws Morocaidd (Figan)
Dewis o Biclau (Heb Glwten/Figan)
£13.75 y pen
Ychwanegwch ddewis o bwdinau at eich bwffe am £2.50 y pen.Nid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
Bwffe Poeth â Fforc(40 o bobl neu ragor)
Dewiswch ddwy Saig Entrée a phedwar Saig Ychwanegol o blith y
canlynol:
Saig Entrée Saig Ychwanegol
Bourguignon Cig Eidion (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Nwdls Chow Mein (Llysieuol)Madras Cig Eidion (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Tatws Rhost Garlleg a Pherlysiau
Eidalaidd (Heb Glwten/Figan)Porc Bol Crensiog (Heb Glwten/Heb Gynnyrch Llaeth) Brocoli a Blodfresych Caws Pob (Llysieuol)Sgalopau Porc (Heb Gynnyrch Llaeth) Reis Garlleg wedi'u Ffrio (Heb Glwten/Figan) Porc Melys a Sur (Heb Gynnyrch Llaeth/Heb Glwten) Bhajis Winwns Cartref (Figan) Brest Cyw Iâr wedi'i llenwi â Madarch Garlleg mewn Saws Garlleg a Chennin Syfi (Heb Glwten) Llysiau Canoldirol wedi'u rhostio â
Rhosmari (Heb Glwten/Figan) Tortillas (wraps) wedi'u llenwi â Chyw Iâr Kentucky Dewis o Lysiau Cymysg (Heb Glwten/Figan) Pasta Pob Canoldirol Tatws Newydd â Menyn (Heb Glwten/Llysieuol)Puprau wedi'u llenwi â chwscws (Heb Gynnyrch Llaeth)Caws Macaroni wedi'i bobi yn y popty
£15.00 y pen
Ychwanegwch ddewis o bwdinau at eich bwffe am £2.50 y pen.
Nid yw ein prisiau yn cynnwys TAW
Mae yna nifer o gyfleusterau eraill ar gael hefyd, sy'n llwyddo i greu ymdeimlad "i ffwrdd o'r swyddfa", sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar faterion y dydd. Ac os bydd gennych amser rhydd yn rhan o'ch amserlen, mae yna ddigon o gyfleoedd ar gael bob amser i grwydro'r gerddi a'u mwynhau. At hyn, yn rhan o unrhyw raglen, bydd yr Ardd bob amser yn barod i neilltuo aelod o staff i'ch arwain ar daith dywys, neu i ddod i siarad â chi, a hynny yn rhad ac am ddim.