-
Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 23 Mehefin 6, 2019 50c.
CROESO I RYD-Y-MAIN13-15 MEHEFIN
APÊL MADAGASCARCyfanswm yr apêl
hyd yma yw
£60,000Gwaith gwych! Daliwch ati!
Mae yna groeso cynnes yn eich aros yngnghylch Rhyd-y-main yn
ystod tridiauCyfarfodydd Blynyddol Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg
eleni. Dowch ynllu oherwydd mae’r pwyllgor lleol wedibod wrthi’n
ddygn yn paratoi ar eichcyfer. O bosib y bydd rhai ohonoch yngofyn
oes yna lawlyfr o hanes yreglwysi sy’n gwadd wedi ei baratoi?
Yrateb ydi, oes! Ac fe’i cewch o wedicyrraedd y gynhadledd. Bu tîm
ohonomo dan gyfarwyddyd Rhianwen Evans,Rhyd-y-main wrthi’n casglu’r
hanes acyn ei grynhoi yn llawlyfr hwylus, hawddiawn ei ddarllen.
Mae hwn, ac mi fyddeto’n ffynhonell gwybodaeth gyfleusiawn, ac
rwy’n siwr y cewch flas ar eiddarllen.
Ar ran y pwyllgor, sy’n gwneud ytrefniadau’n gwbl wirfoddol, ac
yn boblsydd a gorchwylion eraill ar agenda’ibywyd, rwy’n mawr
obeithio eich bodwedi archebu’ch lluniaeth erbyn hyn,gan i’r
wybodaeth fynd allanwythnosau’n ôl bellach. Y gwir yw bodein dyled
ni fel pwyllgor yn ddifesur iNia Wyn Jones, yr ysgrifennydd,
amymgodymu â’r holl drefniadau ymarferola hynny yn ychwanegol at ei
gwaithdyddiol. Diolch Nia.
Boed bendith Duw yn helaeth arnoch.Dowch draw naill ai am y
tridiau neu amgyfnod, a chofiwch bod croeso i bawbi’r holl
gyfarfodydd a chynadleddau.
Iwan Llewelyn JonesCadeirydd y Pwyllgor Gwaith
Pentecost‘Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost
roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyndyma nhw’n clywed sŵn
o’r awyr, fel
gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lleroedden nhw’n cyfarfod.
Ac wedyn roeddfel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yndod i lawr
ac yn gorffwys ar ben pob un
ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn caeleu llenwi â’r Ysbryd Glân
ac yn dechrausiarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd
oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.’Actau 2: 1-4
Gŵyl o lawenydd ac o ddathlu yw’rPentecost (neu’r Sulgwyn) i
Gristnogion arhyd a lled y byd. Dathlwn fod Duw yn eincaru’n
aruthrol ac yn cadw’n ffyddlon i’waddewidion a’i fod yn arfogi ei
bobl i ddoda’i deyrnas i’r byd.
Pan oeddwn i’n ifanc roeddwn yn arfergwylio rhaglen deledu The A
Team. Byddaipob rhaglen ar batrwm tebyg i’w gilydd.Roedd pobl
ddiniwed mewn tryblithoherwydd ‘pobl ddrwg’ Gelwid ar yr ATeam i’w
hachub. Cynlluniwyd ffordd iddal y bobl ddrwg ac yn ddiffael
dynafyddai’n digwydd ar ddiwedd y rhaglen.Yna byddai cymeriad o’r
enw HannibalSmith yn dweud, ‘I love it when a plancomes together.’
Trefnwyd fforddYn yr Arglwydd Iesu fe drefnodd Duwffordd i’n cymodi
gydag Ef. Achoswydrhwyg rhyngom â Duw oherwydd einhanufudd-dod, ein
trachwant a’n hawydd iaddoli duwiau bychain y byd hwn. Ond ynei
gariad roedd Duw am drwsio’r rhwyg felei fod yn gallu byw mewn
perthynas gydani. Yn Iesu gweithredwyd y cynllunrhyfeddol hwn.
Wedi’r Pasg gallwn ninnauddweud, ‘I love it when a plan
comestogether.’ Mae Pedr Fardd yn mynegi’rgwirionedd ychydig yn
wahanol i HannibalSmith:
Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na
lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i
achub gwael, golledig, euog ddyn.
Wedi’r atgyfodiad roedd y cynllun dwyfolwedi ei lunio a phopeth
yn ei le ond nawrroedd rhaid ei gymhwyso i ddynoliaeth arhannu’r
newyddion da. A dyma ranpwysig o waith yr Ysbryd Glân. Duw
yw’rYsbryd Glân yn gweithredu Ei fwriadau a’i
gynllun grasol. Ar ddydd y Pentecost ypeth cyntaf wnaeth y
Cristnogion, a oeddwedi eu llenwi â’r Ysbryd, oedd myndallan i
strydoedd Jerusalem i rannu’rnewyddion da am Iesu. CymhwysoPan
ddaeth yr Ysbryd ar y disgyblionrhoddwyd iddynt eglurder
meddwl.Roeddent wedyn yn deall yn iawn yr hollbethau yr oedd Iesu
wedi eu dysgu iddynt.Deallant arwyddocad y Groes a’rfarwolaeth dros
ein pechodau, yratgyfodiad a’r gwersi i fod yn ‘bysgotwyrpobl.’
(Ioan 14: 26) Fe’u llanwyd â hydernewydd i wynebu’r byd ac awydd i
rannu’rnewyddion da gydag eraill. (Actau 2:37–41) Roedd yr Ysbryd
yn rhoi doniauiddynt i wneud y gwaith yn effeithiol, (Rhufeiniaid
12: 4–8; 1 Corinthiaid 12) acyn llyfr yr Actau gwelwn sut yr aeth
ynewyddion da ar led.Cymhwysa ni i her ein hoesYr hyn sy’n
fendigedig yw fod yr YsbrydGlân gyda ni heddiw fel Cristnogion.
Niddigwyddiad un waith ac am byth oedd yPentecost sydd wedi darfod,
ond cychwynar gyfnod cyffrous yn hanes pobl Dduw.Mae gwaith yr
Ysbryd yn parhau heddiwyn cymhwso yr hyn wnaeth ac a ddysgoddyr
Iesu, yn adeiladu Teyrnas Dduw, yn einllenwi gyda hyder ac awydd i
rannu’rnewyddion da gan roi’r doniau inni wneudhynny’n effeithiol.
Edrychwn ymlaen at yblynyddodd sydd o’n blaenau fel eglwysiyng
Nghymru i weld sut y bydd Duw yngwneud ei waith ynom a thrwom yn
eingwlad.
-
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 6, 2019Y TYST
Cynhelir Ysgol Haf Gweinidogion yr Annibynwyr
Canolfan Halliwell, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant,
Caerfyrddin SA31 3EP Ffôn: 01570 424826
Cadeirydd: Beti-Wyn James24, 25, 26, Mehefin 2019Gwahoddir eleni
Arweinwyr
Lleyg Cydnabyddedig yr UndebLlety yn rhad ac am ddim
Cofrestru ar 24 Mehefin am 4:00 o’r glochDarlith Goffa W. T.
Pennar Davies ac
R. Tudur Jones Cofio Dic gan Idris Reynolds am 7:30pm
ar nos Lun 24 Mehefinyn agored i’r cyhoedd
Enwau i’r ysgrifennydd Chris Owen,erbyn 15 Mehefin os gwelwch yn
[email protected] 01269
826268 neu 07970 990671
Capel y Baran, Rhyd-y-fro,Pontardawe.
DARLITHFLYNYDDOL
gan Gareth HopkinMA, M.Th., M.Phil., M.Ed., M.Min.
Testun: Ffraeth y Maesnos Fawrth, 11 Mehefin, 2019
Am 6.30 yr hwyrBydd lluniaeth ysgafn ar gaelCroeso cynnes iawn i
bawb
Manylion pellach Dilys Walters:Ffôn 01792 863823
SEION, Y GLAIS 1834–2019Ganol Mawrth daeth dros 180 oflynyddoedd
o dystiolaeth GristnogolAnghydffurfiol ac addoliad i ben yn un
ogapeli enwocaf Cwm Tawe. Sefydlwyd yrAchos yn 1834, pan welodd
rhai o aelodauHebron, Clydach yr angen i gwrdd ynagosach i’w
cartrefi. Cychwynnodd yreglwys yn ffermdy Pentwyn,
Cefn-y-garth.
AdeiladuCludwyd cerrig gan Evan Jenkins, Craig yPerchyll er mwyn
adeiladu addoldy yn1840 a’r saer fu’n gweithio ar y capel oeddy
gweinidog, y Parchg William Thomas.Costiodd yr adeilad £200 i’w
godi ac yroedd y grisiau i fyny i’r oriel ar y tu allan.Gosodwyd y
lle tân gyferbyn â’r pulpud,gwyngalchwyd y muriau allanol a mewnola
gosodwyd canhwyllau bob ochr i’rpulpud ac ar bob postyn. Yn
1863gosodwyd lamp olew i hongian uwchben ioleuo’r adeilad yn
well.CasgliadRoedd dull diddorol i gasglu cyfraniadau’raelodau
ddiwedd oedfa: byddai’r casglwyryn galw’r swm a gyfrennir wrth i
bobaelod osod ei arian yn y blwch a dauddiacon yn y set fawr yn
cofnodi’r swm.Yna, bob tri mis, byddai symiau pob aelodyn cael eu
cyhoeddi ar lafar. Disgwyliwydi bob aelod rhoi 6 cheiniog y mis. Yn
1859prynwyd harmoniwm.Y gweinidog cyntaf oedd William
Thomas, saer a ddechreuodd bregethu yn yMynyddbach. Byddai’n
yfed peint o gwrwcyn pregethu ar y Sul. Bu’r Parchg EsauOwen yn
gyd-weinidog ar Hebron a Seionac yn ystod ei gyfnod dechreuwyd y
Bandof Hope ac ailadeiladu capel, ‘un o’rharddaf yn y Sir.’ Rhif yr
aelodau brydhynny oedd 109 gyda 122 yn yr ysgol Sula 19 athro i’w
haddysgu.Niclas y GlaisYn 1869 adeiladwyd Gosen, Trebanos asymudodd
24 o’r aelodau yno. Y Parchg T.E. Nicholas a’r Athro T. J. Morgan
yw dauo enwau cyfarwydd Seion. Daeth ‘Niclas yGlais’ i Gwm Tawe o
Wisconsin, UDA yn1904 a threulio naw mlynedd gynhyrfus
yno. Datblygodd ei syniadau gwleidyddolwrth iddo drafod gyda
gweithwyr anghenusy pentref, yn ogystal â hynny daeth o
danddylanwad Keir Hardie a gweithiau R. J.Derfel, Robert Owen a’r
chwyldro ynRwsia. Ef oedd y llefarydd Cymraegmwyaf dawnus dros y
Blaid LafurAnnibynnol. Oherwydd iddo gael ei boenigan yr heddlu a’i
gondemnio ganwrthwynebwyr gwleidyddol a chrefyddolam iddo siarad yn
erbyn y Rhyfel dysgoddNicholas a’i wraig grefft deintyddiaeth
gansefydlu deintyddfa ym Mhontardawe.Roedd yn fardd toreithiog a
chyhoeddoddddeg o gyfrolau a’r frwydr rhwng Llafur achyfalafiaeth
Ryngwladol a oedd yn bwnchollbwysig.Tad Rhodri MorganYsgolhaig ac
ysgrifwr dawnus oedd yrAthro T. J. Morgan a aned yn 1907 ac
afedyddiwyd gan Niclas. Treuliodd T. J.Morgan gyfnodau ym
MhrifysgolCaerdydd ac Abertawe. Hoffai ddychwelydi Gwm Tawe am
ddeunydd i ysgrifennuamdano ac roedd ganddo ddiddordeb
ynnhafodiaith, hiwmor a llên gwerin yr ardal.Priododd â Huana,
merch o Ynystawe a’umeibion oedd Prys a Rhodri Morgan.Hanesyn
diddorol arall am Seion, o’r
gorffennol, yw bod ‘brodyr’ wedi eu dewisyn 1905 i ofalu am
ddrysau’r adeilad ‘rhagi bersonau aflonyddu’r gwasanaeth.’ Felmewn
nifer o achosion AnghydffurfiolCymraeg gwanychu wnaeth yr aelodaeth
acer i’r ymdrech a’r dystiolaeth barhau,penderfyniad anodd, serch
hynny, oedd dodâ’r cyfan i ben.Cynhaliwyd yr oedfa ddatgorffori ar
3
Mawrth gyda’r Parchg Clive Williams ynarwain. Diolch i John
Williams amfanylion yr hanes. Bu John yn weithgar ynSeion gydol ei
oes, yn ddiacon,ymddiriedolwr a thrysorydd cydwybodol.
Gareth Richards
-
Mehefin 6, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST
Barn AnnibynnolUndeb
Rŷn ni fel Annibynwyr Cymraeg ynfreintiedig iawn mewn sawl
ffordd, mae’nsiŵr, ond yr hyn sydd wedi fy nharo i’nddiweddar, a
ninnau ar drothwyCyfarfodydd Blynyddol Undeb yrAnnibynwyr yn
Rhyd-y-main, yw pa morfreintiedig yr ydyn ni o
safbwynttrefniadaeth. Ar lefel leol, mae gan bobaelod hawl i ddweud
ei ddweud ac ibleidleisio mewn cwrdd eglwys a chwrddchwarter ac mae
gan gynrychiolwyreglwysi ac aelodau personol yr un hawl ynsesiynau
busnes Cyfarfodydd Blynyddolyr Undeb. Patrwm mewn
democratiaeth!
Eglwysi AnnibynnolFel y nodir ar wefan yr Undeb am
eglwysiAnnibynnol, ‘mae’r aelodau’n ystyried eu
hunain yn uniongyrchol atebol i Dduw trwyIesu Grist, ac yn
gwneud pobpenderfyniad ynglŷn â bywyd a gwaith yreglwys yn unol â’r
arweiniad y maent yncredu y mae’r Ysbryd Glân yn ei roiiddynt.’
Dydi hynny ddim yn golygu nad ywpobl yn dehongli materion mewn
ffyrddgwahanol ac weithiau’n anghytuno ond ygobaith, o ystyried yr
uchod, bod y cyfanyn cael ei wneud mewn ysbryd o gymod.Nid eglwysi
ynysigMae pob eglwys sy’n aelod o’r Undeb yncael pecyn gyda thocyn
pleidleisio ar gyfery sesiynau busnes ar y dydd Iau a’r dyddGwener.
Oes rhywun yn dod o’ch eglwyschi? Byddai’n drueni i’ch pleidlais
gael eigwastraffu. Hyd yn oed os oes rhywunarall yn dod, mae modd i
chi ddod ynaelod personol o’r Undeb a chael pleidlaisfel hynny.
Mae’n debyg y caiff unrhyw unsy’n aelod mewn Eglwys Annibynnol
ddodyn aelod personol o’r Undeb am dâlbychan. Dydi’r cynigion ar
gyfer sesiynaubusnes y Cyfarfodydd Blynyddol ddimwedi’u cyhoeddi
wrth i mi ysgrifennu hwnond fel rheol maent yn ymwneud â’rmeysydd y
mae’r Undeb yn ymwneud ânhw – materion ‘ysbrydol,
moesol,cymdeithasol, Cymreig a rhyngwladol.’ Aninnau yn aml yn
gallu teimlo braidd ynynysig yn ein heglwysi lleol, maetrafodaethau
ac adroddiadau Cyfarfodyddyr Undeb yn help i ni deimlo’n bod yn
rhano fudiad mwy, o Annibynwyr ledled Cymrua Christnogion trwy’r
byd i gyd.
AmrywiaethWrth gwrs, mae’rOedfa o Fawl nos Iaua’r Cyflwyniad
nosWener yn agored i’rbyd. Gobeithio y daw’na griw da i ymuno âni.
Mae’r GweithdyGweddi dan ofal Jill-
Hailey Harries yn swnio’n ddifyr hefyd.Efallai y cawn syniadau i
fynd â nhw adregyda ni. Bydd Apêl Madagascar yn cael eichloi’n
swyddogol ar y dydd Sadwrn ar ôlblwyddyn o weithgareddau. Un o
fyatgofion gorau o’r Cyfarfodydd y llyneddoedd criw llawen o
Fadagascar yndechrau canu emyn yn fyrfyfyr wrthddisgwyl am eu bwyd
mewn siop jips ynAberaeron.Cymdeithasu a theithioUn o brif
atyniadau Cyfarfodydd yr Undebyw’r cyfle i gwrdd â phobl o eglwysi
bacha mawr ledled Cymru sy’n wynebu yr unheriau â ni ac yn ymateb
iddynt mewngwahanol ffyrdd. Mae’n braf clywed ambobl sy’n gweld
cyfle mewn sefyllfa sy’nymddangos yn anobeithiol neu sydd
wediymateb i broblem mewn ffordd greadigol.Mae gwerth mewn
calonogi’n gilydd a rhoihwb i’r naill a’r llall. Mae hefyd yn
brafymlacio a chymdeithasu a chwerthin gydaphobl o’r un anian mewn
sefyllfa anffurfiol,cwrdd â hen ffrindiau a gwneud ffrindiaunewydd.
Mae’r Cyfarfodydd hefyd yn gyflei ymweld â gwahanol rannau o
Gymru.Roedd yn hyfryd cael blas ar drefi bachRhydaman ac Aberaeron
yn 2017 a 2018a gobeithio y bydd cyfle i grwydrorhywfaint ar
strydoedd Dolgellau a rhoihwb i’r economi leol!
Beth, felly, ydw i’n edrych ymlaen atoyng Nghyfarfodydd yr Undeb
eleni?Trafodaethau adeiladol; defosiwnysbrydoledig; pregeth
gofiadwy;cyflwyniad difyr; bwyd blasus; cymdeithasgynnes; chwerthin
iach; 4G dibynadwy;toiledau hygyrch (gobeithio); a hwb i ddodadre a
gweithredu. Dewch draw!
Siân Roberts(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd
yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyrna’r tîm
golygyddol.)
Neuadd Rhyd-y-main
Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog
ADRAN Y CHWIORYDDAr nos Fawrth 7 Mai, daeth cynulleidfa luosog i
gapel Bethesda,Llangennech i’r cyfarfod blynyddol o dan lywyddiaeth
MissCathryn Clement. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan
aelodau’reglwys, sef Mrs Margaret Lee a Mrs Margaret Harries gyda
MrGeraint Williams wrth yr organ. Cafwyd eitem gan Gapel Hope-Siloh
dan arweiniad Mrs Gwen Jones.
Y siaradwr gwadd eleni oedd Mrs Hazel Charles Evans athema’r
noson oedd ‘Yr Hen Lawenydd’. Cafwyd ganddi anerchiadgrymus gan
adael digon i ni feddwl amdano. Wrth ddatgan bod yGymry Gymraeg yn
brysur gefnu ar Dduw, gosododd her i bob unohonom i geisio adfer yr
hen lawenydd a choncro difaterwch yr oessydd ohoni.
Cawsom oedfa fendithiol yng nghwmni un sy’n cyfrannucymaint o
Sul i Sul mewn oedfaon led led Cymru.
Gwnaed casgliad sylweddol yn ystod y gwasanaeth tuag athybu’r
achos yn yr Andes sy’n agos iawn at galon Hazel a hithauwedi
treulio cymaint o amser yn gweithio yno.
Caroline Jones (Ysg)
-
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan
Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd,
SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun
Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920
490582E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court,
ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 6, 2019Y TYST
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]
GolygyddAlun Lenny
Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb
yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim
âchynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Mae Pant-teg ger Felin-wen, capeldiarffordd yn nwfn yn y bryniau
i’rgogledd-ddwyrain o dref Caerfyrddin, ynun o achosion hynaf yr
Annibynwyr yn SirGâr. Fe’i sefydlwyd union 350 oflynyddoedd yn ôl i
eleni, ac un o’imeibion enwocaf yw’r Parchg JohnThomas Jones o
fferm Ffos-y-gaseg, a aethyn genhadwr i Fadagascar yn 1922.
Ar nos Sul 12 Mai cynhaliwyd oedfaarbennig iawn i ddathlu bywyd
y
cenhadwr, a hynny yng nghwmni ei fab DrPhilip Jones a’i fab
yntau Christopher.Adroddwyd yr hanes am fagwraeth JT a’igyfnod mewn
carchar fel gwrthwynebyddcydwybodol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf
ganMary Howell, cyn i’r Parchg Emyr GwynEvans ac Angharad Jones roi
braslun o’iyrfa fel cenhadwr – yn gefndir i’r cyfancafwyd nifer o
sleidiau ar y sgrin fawr.Yna, fe wnaeth Dr Jones adrodd straeonam
ei adnabyddiaeth bersonol yntau o’i
dad, a fu farw yn Llundain yn 1952. Yn y llun lliw gwelir Dr
Philip Jones yn
y canol, gyda’i fab y tu ôl iddo, y ParchgEmyr Lyn Evans
(chwith) a’r Parchg EmyrGwyn Evans (dde), gydag aelodau o hendeulu
Ffos-y-gaseg oedd wedi dod o bellac agos i ymuno gyda’r
gynulleidfasylweddol ar gyfer yr oedfa.
Yn y llun du a gwyn mae J. T. Jonesgyda’i ail wraig, y genhades
Ffrengig,Madeleine Hipeau, a’u plant Philip aLilian. Bu farw ei
wraig gyntaf, EmilyBowen o Borth Tywyn yn Madagascar yn1926. (Bydd
rhagor o luniau ac hanesion amfywyd J.T. Jones yn Y Tyst cyn bo
hir.)
COFIO CENHADWR ARALL YM MADAGASCAR
HermonBrynamanMae plant usgol Sul Hermon,Brynaman wedi mwynhau
gwrandoa darllen am stori’r Pasg yn yrwythnosau diwethaf. Mae
rhaiohonynt hefyd wedi cael cyfle iwneud gwaith crefft yn y festri
ahefyd hel wyau Pasg. Dyma nhw’ncreu ac yn casglu.