Top Banner
TYMOR DYLAN THOMAS bbc.co.uk/dylanthomas
28

TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

Jul 13, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

T Y M O R D Y L A N T H O M A S

bbc.co.uk/dylanthomas

Page 2: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

Mae’r holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Fodd bynnag, mae BBC Cymru Wales yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cynnwys ac/neu i’r amserlen lle bo angen ac heb rybudd. Os bydd hynny’n digwydd, hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.

BBC Cymru Wales Y Ganolfan Ddarlledu Llandaf Caerdydd CF5 2YQ

Page 3: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

04 — 05

C Y F L W Y N I A D

08 — 09

E R T H Y G L

12 — 17

T E L E D U

20 — 21

R A D I O

22 — 23

C E R D D O R I A E T H A C A R - L E I N

26 — 27

C Y D W E I T H I O

Page 4: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

4

CY

FL

WY

NIA

D

A W D U R

B A R D D

D A R L L E D W R

Page 5: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

5

CY

FL

WY

NIA

D

Dros gyfnod o ddau ddegawd yn unig, sefydlodd Dylan Thomas

enw iddo’i hun fel bardd a storïwr hynod - o ran grym a chyrhaeddiad. Dim ond tyfu wnaeth yr enw hwnnw yn y blynyddoedd ers ei farw. Ac wrth i ni ddathlu canmlwyddiant ei eni, mae Dylan yn cael ei weld heddiw nid yn unig fel un o ffigurau diwylliannol pwysicaf Cymru, ond fel ysgrifennwr o statws a bri rhyngwladol.

I BBC Cymru Wales, mae arwyddocâd arbennig i’r pen-blwydd yma. Nid awdur a bardd yn unig oedd Dylan Thomas, ond darlledwr eithriadol hefyd. Gyda nawdd a chefnogaeth y BBC, daeth yn fardd radio disglair. Trwy ei waith darlledu a recordio, aeth ei lais a’i syniadau ymhell y tu

hwnt i’w famwlad, a defnyddiodd agosatrwydd nerthol y cyfrwng i gonsurio delweddau a chymeriadau go anghyffredin, gan hudo miliynau o wrandawyr.

Mae’r BBC wedi dod â rhai o gynhyrchwyr rhaglenni gorau Cymru a Phrydain at ei gilydd i gyflwyno amrywiaeth o raglenni fydd yn gosod y bardd a straeon ei fywyd a’i waith gerbron cenhedlaeth newydd. Mewn rhaglenni dogfen, mewn drama, mewn barddoniaeth ac mewn rhyddiaith, bydd hwn yn ddathliad cofiadwy a fydd yn archwilio cyfraniad cyfoethog un dyn at ein bywyd a’n diwylliant cenedlaethol ni, ac i bedwar ban byd.

Rydym, wrth reswm, wedi llunio’n tymor o gwmpas geiriau’r dyn ei

hun. Oedd yna unrhyw ffordd arall, mewn gwirionedd? Ond rydym hefyd wedi anrhydeddu enw Dylan fel arloeswr drwy ddefnyddio’r technolegau a’r gwasanaethau digidol diweddaraf i sicrhau y gall cynulleidfaoedd ym mhob man brofi ei waith mor bendant ac mor rymus ag y profodd y rhai a eisteddodd mewn llesmair a dryswch wrth y set radio dros hanner canrif yn ôl.

Byddai’r tymor yma o raglenni yn gwbl amhosibl heb gefnogaeth cynifer o bartneriaid, gan gynnwys llu o artistiaid ac awduron cyfoes. Yn ogystal ag edrych yn ôl ar fywyd rhyfeddol, mae’n briodol hefyd ein bod yn achub ar y cyfle hwn i fwrw goleuni ar do newydd o ddoniau llenyddol a chelfyddydol.

Rhodri Talfan DaviesCyfarwyddwr, BBC Cymru Wales

D Y L A N T H O M A S

Ar y tudalennau canlynol, cewch grynodeb o’n tymor

a chlywed gan rai fu’n rhan annatod o’r gwaith trefnu.

Gobeithio y cewch gyfle i gael golwg ar yr hyn sydd

gennym ar y gweill, a mwynhau’r arlwy gyda ni ar y BBC.

Y T Y M O R

Page 6: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

Oh as I was young and easy in the mercy of his means,

Time held me green and dying

Though I sang in my chains like the sea.

Comisiynwyd y darluniau hyn yn arbennig fel rhan o dymor Dylan Thomas BBC Cymru Wales.

Page 7: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

Oh as I was young and easy in the mercy of his means,

Time held me green and dying

Though I sang in my chains like the sea.

F E R N H I L L

Page 8: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

8

ER

TH

YG

L

F Y N H A D - C U A F I

Hannah EllisWyres Dylan Thomas

D Y L A N A ’ R B B C

Ffraethineb a chyfaredd, ei synnwyr digrifwch, ei empathi ac, yn anad dim,

ei waith caled oedd yn gyfrifol am lwyddiant fy nhad-cu ar y radio. Enillodd y rhinweddau hyn barch i’m tad-cu gan lawer o’i gydweithwyr. Yn groes i’r gred boblogaidd, pwysleisia Ralph Maud, yn ei ragymadrodd i’w lyfr The Broadcasts, casgliad o ddarllediadau i’r BBC, fod Dylan yn ddarlledwr radio proffesiynol, yr oedd galw mawr am ei wasanaethau fel perfformiwr a sgriptiwr, a gwerthfawrogiad ohonynt. Yn ei waith ysgrifennu arall, roedd yn berffeithydd. Gweithiai’n araf, gan arbrofi gydag un ymadrodd unigol; ysgrifennai frawddegau gant o wahanol ffyrdd cyn bodloni. Calondid i fi yw darganfod bod yr un agwedd foesol hon at ei waith i’w gweld yn glir yn ystod ei gyfnod gyda’r BBC.

Yn ddi-os, mae archif y BBC yn dangos i ni fod fy nhad-cu, yn ogystal â bod yn llenor mawr, yn actor penigamp hefyd. Disgrifiodd Richard Burton

Dylan fel perfformiwr grymus, deinamig a ffrwydrol, gan ddweud ei fod yn gystadleuydd peryglus i actorion eraill. Roedd gan fy mam, Aeronwy Thomas, atgofion cryf o’i thad. Wrth gofio eu sesiynau darllen wythnosol, yn actio’r storïau, disgrifiodd y modd y byddai ei thad, wrth ddarllen Hansel and Gretel, yn rhoi llais ffalseto ymlaen ac yn llwyddo i argyhoeddi fel hen wreigan. Yn ogystal â rhannau dramatig, darganfu Louis MacNeice y gallai Dylan, yn ôl yr angen, fod yn gynnil iawn wrth chwarae rôl.

Doedd hyn byth yn fwy amlwg na phan fyddai fy nhad-cu’n darlledu ei waith ei hun, gan adael i’r geiriau siarad drostynt eu hunain. Yr un sy’n dod i’r cof i fi yw Return Journey, sy’n dangos sut yr oedd dan deimlad dwys yn ystod yr Ail Ryfel Byd – yn enwedig ar ôl gweld effaith cyrch awyr tair noson ar ei dref enedigol, Abertawe. Yn y sgript mae Dylan yn disgrifio’r dinistr a achoswyd, tra’n chwilio ar yr un pryd amdano’i hun yn fachgen yng nghanol y distryw. Yn ôl ei arfer,

ymchwiliodd fy nhad-cu y darn yn drwyadl, er mwyn sicrhau ei fod wedi rhoi enw cywir ar bob siop ac adeilad a chwalwyd. Ar lefel wahanol, mae clywed llais melodaidd fy nhad-cu’n disgrifio bachgen drygionus yn plagio cathod, a hynt a helynt ei fodrybedd a’i ewythrod ecsentrig yn y clasur A Child’s Christmas in Wales, yn gwneud i fi chwerthin bob tro. Disgrifiwyd ei lais gan ei gyfaill Bert Trick fel llais godidog a atseiniai o’r uchelseinydd, nes bod yr ystafell fyw yn llenwi â phresenoldeb Dylan.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain o’r cant pedwar deg a phump o wahanol sesiynau a wnaeth fy nhad-cu i’r BBC, yn cynnwys ysgrifennu sgriptiau, darllen barddoniaeth a straeon byrion, yn ogystal ag actio. Daeth yn bresenoldeb rheolaidd hefyd ar sawl panel trafod, nes dod yn bersonoliaeth radio adnabyddus. Rwy’n gobeithio y gall y tymor hwn adlewyrchu ochr ysgafnach, ac ochr fwy difrifol, gwaith fy nhad-cu i’r BBC.

Page 9: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

9

ER

TH

YG

L

F F R W Y D R O L

D E I N A M I G

P E R F F O R M I O

G R Y M U S

Page 10: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb
Page 11: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

D O N O T G O G E N T L E I N T O T H A T G O O D N I G H T

Do not go gentle into that good night,

Old age should burn and rave at close of day;

Rage, rage against the dying of the light.

Page 12: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

TE

LE

DU

12

Faith PenhalePennaeth Drama, BBC Cymru Wales

Cyflwyniad cyfoes o ‘ddrama leisiau’ enwog Dylan Thomas mewn cydweithrediad â National Theatre Wales, gyda llu o sêr Cymru.

Cynhelir y perfformiad o’r 3ydd i’r 5ed o Fai, gyda gosodwaith, Raw Material; Llareggub Revisited – ailgread o fyd Under Milk Wood – sy’n mynd â’r gynulleidfa drwy’r dref hanesyddol lle bu Dylan yn byw hyd at ei farwolaeth, ac a ysbrydolodd dref ffuglennol Llareggub, a ddisgrifir yn ei ddrama enwog.

Tua diwedd y penwythnos, bydd BBC Cymru Wales yn darlledu fersiwn gyfoes, aml-haen o Under Milk Wood gan ymgorffori elfennau o ddigwyddiad byw National Theatre Wales a darlleniadau wedi’u recordio gan gast o actorion o fri yn Efrog Newydd, Los Angeles, Llundain, Caerdydd a Thalacharn i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn ogystal â 60 mlynedd ers darllediad cyntaf y BBC o’i ‘ddrama leisiau’ enwog.

Bethan Jones, Cynhyrchydd Gweithredol, BBC Cymru Wales

“Mae’n teimlo’n addas nodi canmlwyddiant geni

Dylan â’r ailgread unigryw hwn o Under Milk Wood:

ffrwyth cydweithio â’r bythol-ddyfeisgar

National Theatre Wales gyda lleisiau rhai o’r goreuon

o brif actorion Cymru. Mae’n ddathliad gwirioneddol

o ddoniau gwych Cymreig.”

U N D E R M I L K W O O D

B B C O N E WA L E S — M A I

The idea that I write

a piece, a play,

an impression for

voices, an entertainment

out of the town I live in,

and to write it simply and

warmly and comically,

with lots of movement

and varieties of moods,

so that, at many levels,

through sight and speech,

description and dialogue,

evocation and parody,

you come to know the town

as an inhabitant of it.

Dylan Thomas 1951

Page 13: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

TE

LE

DU

13

Ymdrochwch eich hun yn y llefydd lle bu Dylan yn

byw ac yn gweithio. Golygfeydd môr, trefi cerdyn post

a thirluniau sy’n bwydo’r dychymyg.

B B C O N E WA L E S — E B R I L L

Derek BrockwayCyflwynydd, BBC Cymru Wales

D Y L A N ’ S W A L K S :

W E A T H E R M A N W A L K I N G

Fel rhan o’r gyfres o raglenni Weatherman Walking, rwy’ wedi cerdded yn ôl troed Dylan Thomas. A bod yn onest, doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod wedi ysgrifennu cymaint o gerddi. Roeddwn i’n gwybod am ei waith Under Milk Wood ers dyddiau ysgol ond doeddwn i ddim wir wedi troi’n ôl at ei farddoniaeth oddi ar hynny.

Rwy’n sylweddoli bod cymaint mwy i Dylan Thomas nag a feddyliais, ac wedi gallu ymgolli fy hun yn y llefydd lle bu Dylan yn byw ac yn gweithio. Golygfeydd môr, trefi cerdyn post a thirluniau sy’n bwydo’r dychymyg. Rwy’ wedi ymweld â llawer o’r llefydd oedd yn golygu cymaint iddo fe. Mae pawb yn gwybod am Dalacharn a’i Boathouse hardd

– lle eisteddais wrth ei ddesg yn edrych ar y golygfeydd anhygoel dros yr aber – ond fe es i hefyd i lefydd llai adnabyddus i ddysgu am eu cysylltiadau â Dylan. Es i Gei Newydd, lle cerddais drwy’r dref ac i lawr at y traeth gwyllt islaw a’r holl ffordd at Drwyn Llanina. Fe ddysgais ragor am Abertawe, hyd yn oed - ‘ugly, lovely town’ Dylan - a adawodd ei hôl arno.

Mae dilyn trywydd Dylan wedi dangos ochr wahanol iawn i’r dyn roeddwn i’n meddwl fy mod yn ei adnabod. Roeddwn yn gwybod yn barod am ei enw fel diotwr ac fe wnes i alw i mewn i rai o’i hoff dafarndai ar hyd y ffordd i geisio dychmygu sut beth oedd ei fywyd. Ond fe gwrddais i hefyd â’r bobl sy’n teimlo’n angerddol am Dylan – wyres Dylan, Hannah

Ellis, a Jeff Towns, sy’n gwybod pob manylyn am Dylan Thomas, ac sy’n cael ei adnabod fel y ‘boi Dylan Thomas’. Roedd ganddyn nhw gymaint o angerdd a brwdfrydedd dros Dylan, roedd yn heintus iawn. Mae wedi rhoi brwdfrydedd newydd i fi am ei waith. Yr oedd, ac mae’n dal i fod, yn un o feirdd mwyaf ein gwlad.

Profiad hynod o bleserus oedd crwydro Cymru Dylan a’r llefydd a adawodd eu hôl nid yn unig arno fe ond ar dudalennau rhai o’i weithiau mwyaf. Mae tirwedd Cymru’n rhoi ystyr a sylwedd i waith Dylan Thomas ac mae’r tirwedd hwnnw yma o hyd, gyda’r holl lefydd cyfareddol hynny’n dal yno i’w mwynhau ar ein stepen drws.

D Y L A N A ’ I L E Y N Y B Y D

Page 14: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

TE

LE

DU

14

A P O E TI N

N E W Y O R K

Bu Dylan Thomas yn ysbrydoliaeth i fi, pan oeddwn yn tyfu i fyny yn

Ne Cymru ac yn breuddwydio am fod yn awdur. Roeddwn wrth fy modd â’r patrymau sain hynod gyfoethog yr oedd yn eu creu. Roeddwn yn gwirioni â’i hiwmor. Ond, yn bennaf, cefais fy ysbrydoli gan y ffordd y trodd blentyndod ac ieuenctid, a oedd yn debyg iawn i’r un a gefais i, yn rhywbeth

gwych ac unigryw. Felly, roeddwn wrth fy modd pan gynigiodd Griff Rhys Jones a BBC Cymru Wales y cyfle i fi ysgrifennu ffilm amdano.

Y syniad gwreiddiol oedd ysgrifennu am wythnos olaf ei fywyd a’i farwolaeth drasig o ddisymwth yn Efrog Newydd. Ond, roeddwn yn benderfynol y byddai ein ffilm yn dathlu ei lwyddiant barddonol ac yn dangos

gwreiddiau ei ysbrydoliaeth, sy’n deillio o’i brofiadau pan oedd yn blentyn. Roeddwn hefyd eisiau dathlu ei berthynas stormus a nwydus â’i wraig Caitlin. Defnyddiais lawer o ôl-fflachiadau a llif arddull argraffiadol. Rwy’n falch iawn o’r perfformiadau a’r cyfarwyddo, a’r defnydd adleisiol o leoliadau hardd, go iawn. Bu’r profiad yn emosiynol iawn i fi, ac i chithau hefyd gobeithio.

Mewn drama newydd, mae’r sgriptiwr Andrew Davies

a’r cyfarwyddwr Aisling Walsh yn crynhoi hanes bywyd

bardd mwyaf Cymru - a’i ddweud drwy wythnosau olaf Dylan

yn Efrog Newydd, ond gan fwrw golwg yn ôl ar blentyndod

Cwmdoncyn a bywyd helbulus gyda’i annwyl Caitlin.

B B C O N E WA L E S — E B R I L L

B B C T W O — M A I

Y S G R I F E N N U A P O E T I N N E W Y O R K

Andrew Davies Awdur

Page 15: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

TE

LE

DU

15

Aisling Walsh Cyfarwyddwr

Mae yna lyfr o luniau o Dylan a gafodd eu tynnu yn Nhalacharn yn ystod ei haf olaf. Mae’r lluniau du a gwyn yn ein tywys yn ôl i’r amser hwnnw yn 1953. Mae Dylan yn gwenu yn rhai o’r lluniau. Mewn eraill mae’n synfyfyrio, yn sefyll ar ei ben ei hun. Mae’n eistedd gyda’i deulu yn rhai o’r lluniau. Amseroedd hapus. Yn yr holl luniau hyn, gwelwn y tirwedd a ddylanwadodd ar gymaint o waith diweddarach Dylan. St John’s Hill, yr aber, y sied ysgrifennu, y Boathouse a Fern Hill.

Tynnodd yr un ffotograffydd luniau o Dylan yn ymarfer yn Efrog Newydd yn ystod yr hydref hwnnw gyda chast Under Milk Wood. Dylan gwahanol sydd yma. Mae’n edrych yn hŷn. Mae rhywbeth yn ei wyneb yn dweud wrthym ei fod yn cael amser

caled. Mae’n smygu’n drwm. Yn y delweddau du a gwyn hyn cewch wir ymdeimlad o Dylan fel yr oedd, siŵr o fod, yr adeg hynny. Y bardd 39 oed ar frig ei enwogrwydd. Gallwch weld sut yr oedd yn rhyngweithio â phobl. Sut yr oedd yn cerdded. Sut yr oedd yn gwenu. Mae’n ddireidus. Yn ddwys. Gallwch weld sut yr oedd wedi gwisgo. Dangosais y lluniau hyn i’r prif actor Tom Hollander yn ein cyfarfod cyntaf ac fe wnaethom gytuno y byddem yn gwneud ein gorau glas i bortreadu’r Dylan hwnnw.

Bu’r ddau ohonom yn gwrando ar recordiadau Dylan yn darllen ei farddoniaeth a’i straeon byrion ac, wrth gwrs, y recordiad cyntaf enwog o Under Milk Wood. Wrth i ni gwrdd dros yr wythnosau cyn ffilmio, yn araf dechreuodd Tom

fyw’r rôl. Magodd bwysau. Tyfodd ei wallt. Newidiodd ei gerddediad. Roedd eisiau gweddnewid ei hun yn llwyr os oedd modd. Roedd y ddau ohonom wedi cytuno bod y rôl yn mynnu hynny.

Ychydig cyn i’r ffilmio gychwyn, aethom gyda’n gilydd i Dalacharn. Roeddwn am i Tom weld y lle. Yn yr ystafell fyw fach yn y Boathouse, a neb arall o gwmpas, caeodd Tom y drws yn ddistaw a siarad â fi yng nghymeriad Dylan am y tro cyntaf. Roedd yn awyddus i fi ei glywed. Eisteddais a gwrando, yn syfrdan. Yn ddiweddarach, wrth i ni gerdded yn ôl gyda’n gilydd i’r pentref, arhosais am ychydig i wylio Tom, ac yntau bellach yn drymach, yn cerdded gan adrodd Fern Hill yn uchel. Yn sicr roedd wedi ei weddnewid ei hun yn Dylan Thomas.

C Y F A R W Y D D O A P O E T I N N E W Y O R K

Page 16: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

TE

LE

DU

16

Roeddwn wedi meddwl am y teitl cyn ysgrifennu gair o’r darn hwn. Beth amser yn ôl roedd Dylan Thomas i fi yn un o’r beirdd gwrywaidd, marw, gwyn yr oedd oedolion wedi ceisio ein gorfodi i’w hoffi. Does dim byd o’i le mewn bod yn farw, yn ddyn nac yn wyn. Ond, pan ydych yn blentyn du ifanc a dig, sy’n chwilio am gyfiawnder, ac yn ceisio dod o hyd i gelfyddyd a fydd yn mynegi’ch poen a’r brwydrau yn eich bywyd, rydych yn mynd yn fwy dig byth pan fydd rhywun yn dweud wrthych am fynd i ddarllen

cerdd am gennin Pedr. Does gen i ddim yn erbyn cennin Pedr. Mae rhai o’m ffrindiau gorau yn gennin Pedr. Ond roedd hyn yn ymwneud â blaenoriaethau. Aeth fy nghyfoedion a finnau ati i greu barddoniaeth Dub, math modern o farddoniaeth perfformio, ac roeddem yn hapus i beidio â chael ein cysylltu â’r dynion marw hynny.

Ond wedyn, fe ddigwyddodd dau beth i fi. Darllenodd ffrind y gerdd Do Not Go Gentle Into That Good Night i fi, a rhoi cefndir y gerdd. Wedyn, clywais berthynas i Dylan

Thomas yn dweud yr arferai fod â sied ysgrifennu ac y byddai’n ei glywed yn aml yn darllen ei farddoniaeth yn uchel.

Felly, meddwn i, roedd Dylan Thomas yn ddyn go iawn, nid yn elitydd, roedd ganddo gariad ac angerdd. Dyna pam yr ysgrifennodd Do Not Go Gentle Into That Good Night ac roedd yn fardd perfformio. Roedd yn ysgrifennu â’r llais mewn golwg. Yn sicr nid yw’n fardd gwrywaidd, gwyn, marw. Mae’n fyw. Mae gen i brawf. Bu’n ysbrydoliaeth i fi.

A all Dylan Thomas wneud i farddoniaeth yr hyn a wnaeth The Choir

i gerddoriaeth? Gall, yn ôl y Bardd Dub, Benjamin Zephaniah. Ac yntau wedi’i

wahardd o’r ysgol ac wedi treulio cyfnod mewn borstal, doedd barddoniaeth

yn golygu dim iddo nes iddo ddarllen Do Not Go Gentle Into That Good Night

gan Dylan. Heddiw mae eisiau dangos i eraill sut y gall barddoniaeth

drawsnewid eich bywyd.

B B C O N E WA L E S — E B R I L L

N I D B A R D D G W R Y W A I D D , M A R W A G W Y N Y N U N I G

Benjamin ZephaniahAwdur a Bardd Dub

O N T H E

P O E T

E S T A T ET O W N H I L L D O E S D Y L A N

Page 17: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

TE

LE

DU

17

Roedd Dylan Thomas yn ddigwyddiad anferthol yn hanes barddoniaeth

Saesneg. Roedd yn ddyn ifanc 19 oed a’i waith gwreiddiol pwerus yn ennyn edmygedd a llythyrau o ddiddordeb oddi wrth brif feirdd y dydd. Roedd yn fardd modern, a’i gynnyrch yn arbrofol a beiddgar. Ac eto, roedd hefyd wedi’i wreiddio mewn cerddoriaeth hynafol, gweledigaeth elfennol. Roedd yn berfformiwr poblogaidd a allai ddenu cynulleidfaoedd o filoedd ar ei deithiau yn America.

Ond, roedd Dylan Thomas hefyd yn fardd yr oedd ei fywyd bob amser yn bygwth llyncu ei waith. Pan fu farw, tyfodd y myth amdano fel meddwyn a merchetwr, nes y daeth yn rhy hawdd o’r hanner anghofio’r cerddi ysgytwol a daniodd ddychymyg y byd.

Ganrif ers geni Dylan Thomas, rwyf am ddychwelyd i’r hyn sy’n gwneud Dylan Thomas yn unigryw – y cerddi hynny. Hoffwn wybod pam mae ei waith, er ei natur heriol, yn parhau i apelio gymaint. Sut y creodd effeithiau hudol ei farddoniaeth? A pham, yn union, y cafodd ei waith yr effaith a gafodd pan ymddangosodd gyntaf mewn print?

Gan ganolbwyntio ar bum cerdd allweddol o gyfnodau gwahanol yn natblygiad artistig Dylan Thomas, byddaf yn tyrchu trwy’i bapurau gwaith i ddangos y grefft lem yn ei farddoniaeth.

Byddaf hefyd yn teithio i’r mannau sy’n gysylltiedig â’i gerddi: swbwrbia Abertawe, Llundain adeg y Blitz a harddwch gwledig anghysbell Talacharn. Wrth wneud hyn, drwy gyfrwng

y map barddonol hwn, rwy’n gobeithio esbonio’r cefndir y tu ôl i’r gweithiau, ac ystyried y digwyddiadau a ddylanwadodd ar waith Dylan Thomas.

Ar y daith, byddaf yn cwrdd â beirdd ac awduron cyfoes, i ddysgu rhywbeth am natur yr effaith y mae gwaith Dylan Thomas wedi’i chael, ac i gael eu barn am ei farddoniaeth.

Erbyn diwedd y rhaglen, rwy’n gobeithio y bydd gwylwyr wedi cael golwg fanwl, ond sy’n hawdd ei ddeall, ar awdur sydd wedi bod, am ormod o amser, yn fwy enwog am ei fywyd na’i waith. Ac rwy’n gobeithio hefyd y bydd y cerddi a gychwynnodd stori Dylan Thomas wedi cael y lle blaenllaw wrth ailadrodd y stori honno 100 mlynedd ar ôl ei eni.

Owen SheersAwdur a Bardd

D Y L A N T H E P O E T

Bydd gwylwyr yn cael golwg fanwl, ond sy’n hawdd

ei ddeall, am awdur sydd, am ormod o amser, wedi

bod yn fwy enwog am ei fywyd na’i waith.

B B C T W O WA L E S — E B R I L L

B B C F O U R — G WA N W Y N

Page 18: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

A N D D E A T H S H A L L H A V E N O D O M I N I O N

Though lovers be lost, love shall not

Page 19: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb
Page 20: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

20

RA

DIO

Mae gorsafoedd radio BBC Cymru Wales yn rhan annatod o dymor Dylan Thomas. Bydd BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn ymuno i gofio Dylan Thomas yn y babell radio yn Nhalacharn. Mae’n addas bod yr ŵyl radio yn dod i Dalacharn i gofio’r dyn y teithiodd ei farddoniaeth o Dalacharn i ben draw’r byd dros y radio.

Bydd gorsafoedd radio cenedlaethol Cymru yn cynnal Twrw Talacharn – gŵyl radio fydd yn cael ei darlledu ar dir Castell Talacharn gan edrych dros y Boathouse lle arferai Dylan ysgrifennu. Yno byddwn

yn ymuno â BBC Radio 3, 4 a 6 Music i ddarlledu cymysgedd cyfoethog o sioeau byw a sioeau wedi’u recordio ymlaen llaw i ddathlu bywyd, gwaith ac etifeddiaeth Dylan Thomas.

Bydd pabell fawr yn ganolog i’n gŵyl radio a byddwch yn gallu galw heibio a bod yn rhan o’r profiad. Bydd BBC Radio Wales yn galw i mewn i’r ŵyl drwy’r penwythnos a bydd Dan yr Wyneb BBC Radio Cymru yno i siarad am Dylan. Bydd Y Talwrn, cystadleuaeth farddonol BBC Radio Cymru, yn recordio rhifyn arbennig yn yr ŵyl hefyd, lle bydd dau dîm o feirdd yn cystadlu ar

thema a fydd yn seiliedig ar Dylan. Bydd sioe farddoniaeth flaenllaw Radio 3, The Verb ac In Tune yn dod â chymysgedd cyffrous o gerddoriaeth wych i’r castell. Bydd BBC Radio 4 yn cyflwyno’r rhaglen The Kitchen Cabinet a chyfres o straeon newydd i’r dref a oedd, yn ôl Dylan, yn ‘ynys o dref fwyn, hudolus ac oesol’. A bydd cerddoriaeth newydd sbon ar y llwyfan hefyd yn cael ei darlledu ar raglen Freak Zone Stuart Maconie ar BBC Radio 6 Music. Bydd Bethan Elfyn o BBC Radio Wales yn ychwanegu at y cymysgedd tanbaid drwy gyflwyno’r genhedlaeth nesaf o gerddorion o Gymru.

Dewch yn llu i Dalacharn ac ymuno yn

y drafodaeth am Dylan a llawer mwy.

bbc.co.uk/dylanthomas

Gwyl radio yn darlledu

ar dir Castell Talacharn

M A I 2 — 5

T W R WT A L A C H A R N

Page 21: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

21

RA

DIO

D Y L A N T H O M A S D A Y

A R B B C R A D I O 3

Mae’r canmlwyddiant eleni yn gyfle anhygoel

i BBC Radio 3 ddathlu’r hyn a gyflawnwyd gan

Dylan Thomas. The Third Programme,

y rhwydwaith a’n rhagflaenodd, oedd y cyntaf

i ddarlledu Under Milk Wood a llawer o waith

Dylan ar y radio, o ddiwedd y 1940au ymlaen.

Oherwydd hyn, mae BBC Radio 3 yn neilltuo

diwrnod o raglenni i Dylan ar 5 Mai. Bob awr rhwng

brecwast a hwyr y nos, bydd gwrandawyr yn

clywed perfformiadau archif, cerddi sydd newydd

gael eu recordio a darllediadau byw yn bwrw

golwg ar etifeddiaeth Dylan.

Matthew DoddPennaeth Rhaglenni Llafar, BBC Radio 3

Page 22: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

22

CE

RD

DO

RIA

ET

H

DIGWYDDIADAU DYLAN THOMAS

Dydd Llun 5 MaiNeuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dydd Sadwrn 11 HydrefNeuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Iau 30 HydrefNeuadd Prichard-Jones, Bangor

C E R D D O R F A A C H O R W S

C E N E D L A E T H O L C Y M R E I G Y B B C

Mae wastad yn ddiddorol croesi ffurfiau ar

gelfyddyd, i weld beth gall y naill ei gynnig i’r llall a sut gall syniadau newydd a chreadigol ffynnu. Felly, a ninnau’n dathlu bywyd Dylan Thomas, mae gennym gyfle ardderchog i ystyried ei ddylanwad ar gerddoriaeth, yn ystod ei oes a thrwy ei etifeddiaeth ysbrydoledig. Yn 2014, byddwn yn perfformio cerddoriaeth gan ddau ffigwr go wahanol: y naill yn ffrind i’r bardd, a’r llall yn gyfansoddwr y cafodd barddoniaeth Dylan ddylanwad mawr arno.

JOHN CORIGLIANO: A DYLAN THOMAS TRILOGY

Daeth y cyfansoddwr John Corigliano ar draws barddoniaeth Dylan gyntaf yn 1959 tra oedd yn fyfyriwr. Cafodd ei ‘hudo i drosi ei gerddoriaeth ef yn rhan o fy ngherddoriaeth innau’.

Roedd y broses o gyfansoddi’r oratorio hon yn un hir ac esblygol, fel yr esboniodd Corigliano: ‘Ailymddangosodd cerddi Dylan yn fy mywyd ar yr union adeg y gallwn uniaethu â nhw fwyaf ac yn union pan oedd angen i fi ysgrifennu’r union gerddoriaeth a ddeilliodd ohonynt’. Defnyddiodd dair cerdd yn y fersiwn gyntaf: Poem on his Birthday, Fern Hill a Poem in October. Perfformiwyd y darn cyntaf yn 1976, ond ar ôl mynd yn ôl at y gwaith, teimlai bod pennod ar goll, ac felly perfformiwyd y darn wedi’i ddiwygio gyntaf yn 1999 ac roedd yn cynnwys cerddoriaeth a oedd yn seiliedig ar Author’s Prologue.

SYMFFONI RHIF 4 DANIEL JONES:

ER COF AM DYLAN THOMAS

Daniel Jenkyn Jones yw un o gyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus Cymru hyd heddiw. Roedd yn ffrind i Dylan Thomas, ac arferai’r ddau fod yn rhan o’r un grŵp o artistiaid a fyddai’n cwrdd yng nghaffi Kardomah yn Abertawe. Yn ogystal â chyflwyno ei bedwaredd symffoni i’w ffrind, teitl hunangofiant Jones oedd My Friend Dylan Thomas a golygodd gasgliad o’i farddoniaeth yn 1972.

Michael GarveyCyfarwyddwr, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Y D Y L A N C E R D D O R O L

Page 23: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

23

AR

-L

EIN

Mae Dylan Thomas yn fwy na dim ond bardd ac awdur poblogaidd; mae’n aelod uchel ei barch o’r traddodiad llenyddol. Felly, mae’n hawdd anghofio ei fod yn arloeswr gwych hefyd a fyddai’n defnyddio’r technolegau cyfathrebu diweddaraf i newid y ffordd roedd cenhedlaeth o bobl ledled y byd yn gweld barddoniaeth.

Wrth i ni ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas, gwelwn ein bod unwaith eto ar flaen y gad o safbwynt chwyldro technolegol. Mae’r rhyngrwyd, y ffôn clyfar a’r tabled wedi newid y byd darlledu dros y blynyddoedd diwethaf,

ac rydym yn mynd i ddefnyddio pob agwedd ar y newid hwnnw i ddangos rhaglenni a chynnwys drwy gydol y tymor i gyflwyno Dylan Thomas i gynulleidfa newydd.

Byddwn yn cynhyrchu sawl canllaw, gan wynebau cyfarwydd a fydd yn rhoi eu gogwydd eu hunain ar ddarnau o waith enwocaf Dylan Thomas ac ar ei fywyd lliwgar. Bydd Dylan Thomas & Me yn cynnwys cipolwg craff gan ffigyrau enwog a fydd yn archwilio dylanwad ac effaith yr awdur ar y byd. A byddwn yn tywys gwrandawyr newydd yn ôl i’r recordiadau

enwog a wnaed gan y bardd ei hun, a chan actorion fel Richard Burton ac Anthony Hopkins; recordiadau a aeth ag enw Dylan a’i farddoniaeth i bob cwr o’r byd ganol y ganrif ddiwethaf.

Byddwn yn cyflwyno prosiectau diweddaraf Dylan Thomas i’n cynulleidfaoedd hefyd. Gyda mynediad unigryw i olygfeydd ychwanegol a thu ôl i’r llenni o raglenni fel A Poet in New York, cynhyrchiad National Theatre Wales o Under Milk Wood a’r ŵyl radio yn Nhalacharn ym mis Mai, mae gyda ni rywbeth ffres i’w gyflwyno i selogion hen a newydd.

D Y L A N

Y R

A R L O E S W R

Iain TweedalePennaeth Gwasanaethau Rhyngweithiol, BBC Cymru Wales

Bydd BBC Cymru Wales yn creu hwb i ddathlu

pob math o raglenni a chynnwys sy’n gysylltiedig

â Dylan Thomas drwy gydol tymor y BBC yn

bbc.co.uk/dylanthomas

Page 24: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

P O E M I N O C T O B E R

Page 25: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

A springful of larks in a rolling

Cloud and the roadside bushes brimming with whistling

Blackbirds and the sun of October

Summery

On the hill’s shoulder...

Page 26: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

26

CY

DW

EIT

HIO

L L W Y F A N C E R D D O R I A E T H

G O R W E L I O N

Y N N H A L A C H A R N

Mae Gorwelion yn gynllun sy’n cael ei gyflwyno gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor

Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Y bwriad yw cefnogi

a hyrwyddo’r talentau cerddorol newydd gorau yng Nghymru i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach drwy

lwyfannau cerddoriaeth mewn gwyliau cerddorol ledled Cymru - ac mae Twrw Talacharn yn un o’r

digwyddiadau hyn yn 2014. Cadwch olwg am artistiaid Gorwelion yn yr ŵyl dros y penwythnos.

C Y D W E I T H I O

Roedd gan Dylan Thomas gysylltiadau cryf iawn â llawer o lefydd gwahanol. Bydd Abertawe, Talacharn a Chei Newydd bob amser yn gysylltiedig ag ef, ond felly hefyd Fitzrovia ac Efrog Newydd. Roedd yn ddarlledwr prysur ar ran y BBC, a lledaenodd y recordiadau a wnaeth yn America ei eiriau

ymhellach fyth. Roedd yn fardd ac yn ddramodydd, yn feirniad ac yn storïwr.

Wrth i’w enwogrwydd a’i enw da dyfu ers ei farwolaeth, mae Dylan wedi dod i berthyn nid dim ond i un lle neu’r llall. Caiff ei gysylltu â mwy nag un sefydliad neu ffurf ar gelfyddyd.

Mae BBC Cymru Wales wedi gweithio’n agos gyda sawl sefydliad ac unigolyn i geisio cyfleu hanfod Dylan Thomas yn 2014. Byddwn yn arddangos y gwaith llenyddol a’r perfformiadau gorau yn ystod y flwyddyn ar bob un o’n llwyfannau drwy gydol 2014.

Mae’r digwyddiadau i ddathlu bywyd a gwaith Dylan Thomas

yn parhau drwy gydol 2014 ac mae llawer ohonynt wedi’u

noddi gan bartneriaeth Dylan Thomas 100 Llywodraeth Cymru.

Page 27: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb

27

D Y L A N

Y R U N F E D G A N R I F A R H U G A I N

CY

DW

EIT

HIO

Gellir dadlau mai Under Milk Wood yw’r ddrama radio enwocaf yn y byd a 60 o flynyddoedd ar ôl ei darlledu gyntaf, mae’r BBC yn parhau i osod y safon rhyngwladol ar gyfer dramâu radio. Mae datblygu awduron newydd wrth wraidd dros 400 awr o ddramâu radio a gaiff eu darlledu bob blwyddyn.

Dyna pam rydym ni’n chwilio am genhedlaeth newydd o ddramodwyr gwreiddiol a gaiff eu hysbrydoli gan waith Dylan Thomas, i greu darnau i’w darlledu ar BBC Radio Wales ac ar bbc.co.uk/dylanthomas

Bydd hyd at 10 myfyriwr yn cyrraedd y rhestr fer ac yn

cael eu gwahodd i weithdy’r BBC i ddatblygu eu darnau. Gyda rhagor o amser datblygu, y nod fydd mireinio, recordio ac yna darlledu’r darn mwyaf llwyddiannus. A phwy a ŵyr, efallai y bydd rhai o’r awduron hynny’n mynd ymlaen i gael gyrfaoedd mewn dramâu radio a mathau eraill o ysgrifennu creadigol.

Fel rhan o dymor Dylan Thomas ar draws y BBC,

mae BBC Cymru Wales yn dathlu etifeddiaeth barhaus

hoff awdur Cymru drwy wahodd awduron y dyfodol

i roi eu geiriau ar bapur.

Alison HindellPennaeth Dramâu Sain, BBC

Page 28: TYMOR DYLAN THOMAS - BBCdownloads.bbc.co.uk/tv/dylanthomas/brochure_online_w_sml.pdf · FERN HILL. 8 ERTHYGL FY NHAD-CU A FI. Hannah Ellis Wyres Dylan Thomas. DYLAN A’R BBC F. fraethineb