Top Banner
TAITH SGÏO CFFI UCHAFBWYNTIAU O TIGNES! Hwyl, dysgu a chyflawni Cylchgrawn Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc EICH BLOEDD Y NEWYDDION DIWEDDARAF O'R CLYBIAU A'R SIROEDD GWANWYN 2015 DIOGELWCH AR FFERMYDD HEFYD CWRDD Â’R SÊR ARLWY ANHYGOEL EICH CYNHADLEDD FLYNYDDOL YN TORQUAY YM MIS EBRILL TU MEWN l SUT BROFIAD YW GWEITHIO DRAMOR l ENILLWYR CYSTADLAETHAU BARNU STOC l PENWYTHNOS HWYLIOG Y FFORWM IEUENCTID YN YNYS MANAW STRAEON AELODAU “Hoffem weld aelodau yn elwa ar yr holl gyfleoedd a gynigir gan y CFfI” DYCHWELYD I’N GWREIDDIAU! GWNEUD FFCCFFI YN GRYFACH FYTH TÎM NEWYDD YN BWRIADU
32

Ten26 Spring 2015 (Welsh)

Jul 21, 2016

Download

Documents

nfyfc

The magazine for members of the National Federation of Young Farmers' Clubs – translated into Welsh.
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TAITH SGÏO CFFIUCHAFBWYNTIAU O TIGNES!

Hwyl, dysgu a chyflawni

Cylchgrawn Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc

EICH BLOEDDY NEWYDDION DIWEDDARAF O'R CLYBIAU A'R SIROEDD

GW

AN

WY

N 2

01

5

DIOGELWCH AR FFERMYDD

HEFYDCWRDD Â’R SÊRARLWY ANHYGOEL EICH CYNHADLEDD FLYNYDDOL YN TORQUAY YM MIS EBRILL

TU MEWN

l SUT BROFIAD YW GWEITHIO DRAMOR

l ENILLWYR CYSTADLAETHAU BARNU STOC

l PENWYTHNOS HWYLIOG Y FFORWM IEUENCTID YN YNYS MANAW

STRAEON AELODAU

“Hoffem weld aelodau yn elwa ar yr holl gyfleoedd a gynigir gan y CFfI”

DYCHWELYD I’N

GWREIDDIAU!

GWNEUD FFCCFFI YN GRYFACH FYTHTÎM NEWYDD YN BWRIADU

Page 2: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

Mae bod yn Gadeirydd newydd Cyngor FfCCFfI yn deimlad cyffrous iawn. Diolch yn fawr am fy ethol i gynrychioli pob un o’r 25,000 ohonoch ar draws Cymru a Lloegr

– mae’n anrhydedd enfawr!Rwy’n Ffermwr Ifanc ers 13 blynedd

a dyma fy mlwyddyn olaf yn oedran yr aelodaeth – mae’n dipyn o uchafbwynt yn fy mlwyddyn olaf! Gallwch ddarllen am fy nghynlluniau i’r Ffederasiwn ar dudalen 10 a sut byddaf yn gweithio gyda chynrychiolwyr eich Sir i'n gwneud yn fwy ac yn well yn 2015.

Un her yr hoffwn roi cynnig arno yw denu cymaint ag y gellir ohonoch i fynd gyda fi i Hanner Marathon Birmingham ym mis Hydref i godi arian i’r elusennau a gefnogir gennym. Mae Ffermwyr Ifanc yn gwneud cymaint o bethau da yn ein cymunedau lleol, a chredaf fod hyn yn ffordd wych o ddangos faint yn union rydym yn ei gyfrannu.

Mae dyddiad ein Cynhadledd Flynyddol yn Torquay yn prysur agosáu, a gallwch ddarllen am yr arlwy gwych ar dudalen 16. Rwy’n ysu i roi trefn ar fy ngwisg ffansi – rwy’n meddwl am steil o’r chwedegau!

I’r rhai sydd ddim digon hen i fynd i’r Gynhadledd eto, fe wnaethom gynnal Penwythnos Preswyl y Fforwm Ieuenctid yn ddiweddar (tudalen 26), oedd yn llawer iawn o hwyl a bron iawn mor oer ag oedd hi i’r 500 o Ffermwyr Ifanc a gychwynnodd y flwyddyn ar begynau eiraog yr Alpau yn Tignes ar ein taith sgïo (tudalen 22).

Mae cymaint yn digwydd – ac rwy’n dymuno gweld pob un ohonom yn bachu’r cyfleoedd lu sydd ar gael i ni. Sicrhewch mai eich her chi yn 2015 fydd dweud ie, rhoi cynnig arni a gweld ble byddwn ni’n cyrraedd gyda’r Ffermwyr Ifanc....

Hannah Talbot Cadeirydd y Cyngor Cenedlaethol

CYLCHGRAWN TEN 26

AR RAN FfCFfI:

Pennaeth Marchnata a

Datblygu: Maria Burke

Swyddog Cyfathrebu:

Sam Conway

Cynhyrchir y

cylchgrawn hwn

ar gyfer aelodau

Ffederasiwn

Cenedlaethol Clybiau

Ffermwyr Ifanc a’u

ffrindiau a’u teuluoedd.

©FfCCFfI. Ni ellir

atgynhyrchu unrhyw

ran o’r cylchgrawn

hwn heb gael caniatâd

ysgrifenedig ymlaen

llaw.

Croesawir unrhyw

lythyrau, lluniau a

newyddion, ond cedwir

yr hawl i olygu unrhyw

gyfraniadau.

Safbwyntiau’r

cyfranwyr yw’r

rhai a fynegir yn y

cylchgrawn hwn, ac

nid ydynt o reidrwydd

yn adlewyrchu barn

FfCCFfI.

Os oes gennych

ddiddordeb mewn

hysbysu yn ten26,

cysylltwch â christina.

[email protected]

neu ffoniwch 02476

857277.

02 TEN26

Dewch i gwrdd â’r tîm cenedlaethol a chadeiryddion y grwpiau llywio: (ch-dd) Is-gadeiryddion Chris Manley a Jessica Townson, Cadeirydd Grŵp Llywio Cystadlaethau Mark Curr, Cadeirydd Datblygiad Personol Toby France, Cadeirydd Amaethyddiaeth a Materion Gwledig Lynsey Martin, Cadeirydd Digwyddiadau a Marchnata Katie Davies a Chadeirydd y Fforwm Ieuenctid Danielle McNulty.

SWYDDOGION CENEDLAETHOL A PHWYLLGORAU

CROESO I’CH RHIFYN Y GWANWYN O TEN26

Cyflwynodd Claire Worden Gadwyn y Cadeirydd i mi yng nghyfarfod y Cyngor yn Chwefror. Bydd yn anodd llenwi ei hesgidiau. Isod, fi yn mwynhau Penwythnos Preswyl y Fforwm Ieuenctid.

Page 3: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

06 NEWYDDIONHynt a helynt diweddaraf FfCCFfI

SGILIAU DA

04 DIGWYDDIADAURhowch drefn ar eich dyddiadur CFfI ar gyfer 201518 DIOGELWCH FFERMYDDMark Mather yn datgelu sut collodd ei goes mewn damwain ffermio24 Y SWYDDUn aelod yn rhannu’r profiad o weithio i Kuhn Farm Machinery yn Ffrainc

ERTHYGLAU NODWEDD

10 Y GYNHADLEDDDatgelu manylion arlwy digwyddiad gorau’r flwyddyn14 FFOCWS AR GLYBIAUDewch i gwrdd â thri CFfI a chymharwch eich clwb

16 TEULU YDYM NIDewch i gwrdd â’r Cyngor newydd a darllenwch am gynlluniau 201522 EIRA MAWR!Aelodau yn mwynhau un o deithiau sgïo mwyaf y CFfI

CYSTADLAETHAU

20 BARNU STOCCynghorion gwych ynghylch barnu stoc gan yr arbenigwyr

FFORWM IEUENCTID

26 GWEITHGAREDD PRESWYLMwynhau gyda’r Fforwm Ieuenctid yn Ynys Manaw

EICH BLOEDD

28 NEWYDDION RHANBARTHOLY newyddion diweddaraf a lluniau gan glybiau o bob cwr o Brydain, a rhai o’ch trydariadau diweddar gorau

TEN26 03

ENILLWCH! 10 CRYS POLO

CLWB AR GYFER Y GYNHADLEDD

FLYNYDDOL TUDALEN 32

CYSYLLTWCHCall

t

@

f

Ffoniwch 02476 857200

E-bostiwch [email protected]

‘Hoffwch’ yn www.facebook.com/nfyfc

Dilynwch yn twitter.com/nfyfc

DEFNYDDWCH EICH FFÔN SYMUDOL!

Cofiwch, gallwch bellach weld gwefan FfCCFfI ar eich ffôn symudol, oherwydd

rydym wedi’i gwneud yn haws ei gweld ar sgriniau bychan!

CYNNWYS

TU MEWNTU MEWN

Page 4: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

#DIGWYDDIADAUCFFI

4 TEN26

Peidiwch â methu rhai o brif ddigwyddiadau FfCCFfI eleni. Nodwch eich ffefrynnau ac fe’ch gwelwn chi yno!

27-28 MEHEFIN PENWYTHNOS Y CYNGORAil gyfarfod y Cyngor eleni, ble bydd eich cynrychiolwyr etholedig yn cynllunio, trafod a phleidleisio i wella eich Ffederasiwn. Dilynwch weithgareddau'r Cyngor ar Twitter yn #yfccouncil

16 GORFFENNAF ROWNDIAU TERFYNOL BARNU GWARTHEG GODRODiwrnod gwych yn Sioe Fawr Swydd Efrog a chyfle i weld cystadleuwyr Barnu Gwartheg Godro CFfI yn y Rowndiau Terfynol! #yfccomps

20-23 GORFFENNAF SIOE FRENHINOL CYMRUGwisgwch eich welis, codwch eich pebyll a mwynhewch y partïon yn Sioe Frenhinol Cymru, lle bydd CFfI Cymru yn cynnal y Pentref Ieuenctid! Trowch at www.yfcwales.org.uk/youngpeoples-village i gael rhagor o wybodaeth.

24-26 EBRILL Y GYNHADLEDD FLYNYDDOLGobeithio y bydd haul y gwanwyn yn tywynnu yn ystod Cynhadledd Flynyddol 2015 yn y gyrchfan heulog yn Torquay. Bydd rowndiau terfynol cystadlaethau Pantomeimiau, Dawnsio, Aelod Hŷn, Gorau’r Flwyddyn a Rhaffau Neidio yn eich diddanu yn ystod y dydd, a bydd troellwyr Radio 1 yn bywiogi pethau gyda’r hwyr. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar dudalen 18 neu trowch at www.yfcconvention.org.uk #yfcagm

4-5 GORFFENNAF PENWYTHNOS CYSTADLAETHAU Dyma benwythnos rowndiau terfynol llu o gystadlaethau cyffrous CFfI - o Gerfluniau Gardd i Siarad Mewn Ciniawau ar Faes Sioe Swydd Stafford. Ewch yno neu dilynwch y canlyniadau ar Twitter #yfccomps. I weld yr holl gystadlaethau, trowch at www.nfyfc.org.uk/a-to-z-competitions.

25 EBRILL ROWNDIAU TERFYNOL Y PANTOMEIMYn dilyn rowndiau cynderfynol Rhanbarthol cystadleuaeth y Pantomeim, mynnwch seddau blaen i weld y rowndiau terfynol yn Torquay. Bydd y Pantomeimiau yn wastad yn plesio’r gynulleidfa, ac eleni, maent yn addo digonedd o hwyl. O ydynt maen nhw...fe wyddoch chi’r drefn. I gael tocynnau, cysylltwch â [email protected] #yfccomps

DIGWYDDIADAU 2015

Page 5: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 5

21-22 TACHWEDD ROWNDIAU TERFYNOL BARNU STOC BYW AR Y BACHYNBydd cystadlu brwd y cystadlaethau barnu stoc yn dod â’r flwyddyn i ben yn Ffair Aeaf Lloegr. #yfccomps

24-25 HYDREFPENWYTHNOS Y CYNGOR Rhagor o gyfarfodydd a chynllunio gan Gyngor FfCCFfI. #yfccouncil

6-7 MEDI PENWYTHNOS SGILIAU FFERM Cyfle i brofi eich gwerth fel Ffermwr Ifanc a dangos eich sgiliau mewn cystadlaethau codi ffensys, barnu stoc, ac yn bwysicach oll, diogelwch ffermydd! #yfccomps

1 AWST ROWNDIAU TERFYNOL TYNNU RHAFFMwynhewch gyffro Rowndiau Terfynol y Cystadlaethau Tynnu Rhaff yn Sioe Tenbury. Hyd yn oed os na fyddwch yn cystadlu, gallwch fwynhau diwrnod gwych yn annog aelodau eich tîm wrth iddynt dynnu i ddod yn fuddugol! #yfccomps

5 RHAGFYR DIWRNOD DETHOL TEITHIAU CFFI Cofiwch gyflwyno eich ceisiadau cyn diwedd Tachwedd i sicrhau eich lle yn y Diwrnod Dethol. #yfctravel

26-27 MEDI ROWNDIAU TERFYNOL GOSOD BLODAU A CHOGINIOMwynhewch aroglau hyfryd yn Sioe Hydref Malvern pan fydd cogyddion y CFfI yn paratoi gwledd ar y dydd Sadwrn; dilynir hynny gan bersawr pêr y gosod blodau ar y Sul! #yfccomps

Page 6: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

CBeth yw’r peth gorau am fod yn Llywydd FfCCFfI?

ABod yn rhan o sefydliad i bobl ifanc! Mae eich egni, eich

optimistiaeth a’ch brwdfrydedd yn ysbrydoli. Rwy’n mwynhau cwrdd â’r aelodau a bod yn rhan o’ch democratiaeth. Credaf fod cyfle i fod yn Llywydd sefydliad sy’n malio am y naill a’r llall a’r gymuned ehangach yn wych.

CBeth fydd sefyllfa’r diwydiant amaethyddiaeth ymhen 50

mlynedd yn eich barn chi?

A Bydd ganddo le blaenllaw. Bydd yn cofleidio ac yn

defnyddio’r holl ddarganfyddiadau a'r datblygiadau gwyddonol diweddaraf. Bydd yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang lawer iawn mwy yn golygu mai amaethyddiaeth fydd gweithgaredd

pwysicaf dynoliaeth. Bydd y sawl sy’n rheoli ein tir hefyd yn rheoli ein tirwedd a’n bywyd gwyllt. Mae’n gyfrifoldeb arswydus. Efallai bydd gallu hedfan drôn yn allweddol i ffermwyr y dyfodol. Mae’n debyg y byddwn yn defnyddio llai o blaladdwyr oherwydd byddwn yn ffermio’n drachywir.

CSut gall aelodau wella’u gobeithion yn y diwydiant

amaethyddol?

ABydd rhaid i chi weithio’n galed, beth bynnag fo’r yrfa

a ddewiswch. Peidiwch â gadael i gonfensiynau eich llesteirio - heriwch hwy! Cyfranogwch yn holl gystadlaethau a gweithgareddau’r CFfI i ddatblygu eich sgiliau. Rhowch gynnig arnynt oherwydd mae gallu dadlau, gwneud penderfyniadau, cyflwyno syniadau a gwaith tîm oll yn sgiliau amhrisiadwy. Os nad ydych yn hyderus, gadewch i weithgareddau’r CFfI eich cynorthwyo i fagu hyder. Byddwch yn uchelgeisiol a pheidiwch ag ofni methiant - ni fydd neb yn datblygu heb wneud camgymeriadau. Ond yn fwy na dim, mwynhewch!

06 TEN26

HOLI’R

Mae Cyngor FfCCFfI wedi cytuno i gynnig cynnydd o 20% yn y tâl aelodaeth cenedlaethol.

Cyflwynir y cynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Torquay ddydd Sul 26 Ebrill, ble gall aelodau bleidleisio ynghylch y cynnydd arfaethedig yn eu tâl aelodaeth.

Bydd y cynnydd canrannol gyfystyr â £2.66 yr aelod ar sail nifer aelodau presennol y Ffederasiwn, a bydd yn creu incwm ychwanegol o £60,000 i

helpu i lenwi’r bwlch ariannol. Cafodd y penderfyniad i gynnig

y cynnydd ei gefnogi’n unfrydol yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror, ar ôl i aelodau adolygu anawsterau ariannol FfCCFfI yn sgil diffyg incwm o HOPS.

Mae cynlluniau ar y gweill i ganfod ffrydiau incwm newydd, dulliau newydd o weithio yn FfCCFfI a pharhau i adeiladu ar yr arbedion a wnaed yn 2014.

CYNNIG CYNNYDD YN Y TÂL AELODAETH YN Y CCB

Yn y rhifyn hwn, cafodd aelodau gyfle i holi’r Llywydd Poul Christensen am eu pynciau llosg

NEWYDDIONNEWYDDIONY NEWYDDION DIWEDDARAF A

DIWEDDARIADAU O BOB RHAN O’R FFEDERASIWN

LLYWYDD

Page 7: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

Dylai aelodau fod yn sylwi ar sgiliau Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sirol yn dilyn eu hyfforddiant ym mis Rhagfyr.

Roedd Diwrnod Cadeiryddion Sirol FfCCFfI yn gyfle i helpu’r sawl oedd newydd gychwyn ar y gwaith i gael cynghorion ynghylch arferion da a chael eu cymell i baratoi at y flwyddyn sydd o’u blaen.

Trafododd y grŵp y cynnydd yn y tâl aelodaeth a sut i’w weithredu yn eu siroedd, yn ogystal â phynciau yn ymwneud â rheoli staff sirol, hyrwyddo digwyddiadau FfCCFfI a chyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Ed Ford, Cadeirydd FfCFfI Essex: “Roedd diwrnod hyfforddiant y cadeiryddion yn gyfle gwych i weld pobl o’r un anian o bob cwr o’r wlad. Roedd hi’n wych gweld cymaint o frwdfrydedd a chefais lawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol iawn, yn enwedig sut i wneud y gorau o gyfryngau cymdeithasol, sy’n ddull effeithiol iawn o gyfathrebu y dyddiau hyn.”

TEN26 07

CYMORTH I GADEIRYDDION SIROL

GWOBR GWIRFODDOLI GAN Y PRIF WEINIDOG

Mae Claire Worden, Cadeirydd blaenorol Cyngor CFfI, wedi cael cydnabyddiaeth

gan y Prif Weinidog am ei gwaith yn sefydlu ymgyrch Rural+.

Lansiodd Claire yr ymgyrch yn 2014 i wella ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, a chafodd wobr Point of Light gan David Cameron fel cydnabyddiaeth o’i hymdrechion.

Mae gwobrau Point of Light yn cydnabod gwirfoddolwyr unigol rhagorol, pobl sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac yn ysbrydoli pobl eraill. Claire yw 141fed enillydd y wobr, sydd wedi’i datblygu mewn partneriaeth â rhaglen lwyddiannus Points of Light yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Mr Cameron: “Roedd Claire yn hynod ddewr yn defnyddio ei phrofiadau dirdynnol ei hun i sefydlu Rural+ a chynorthwyo pobl ifanc sy’n teimlo’n ynysig mewn ardaloedd gwledig. Rwy’n falch iawn o gael cydnabod gwaith gwych Claire â’r wobr Point of Light hon.”

Un o nodau Claire fel Cadeirydd oedd helpu rhagor o bobl ifanc cefn gwlad i geisio cymorth ynghylch materion iechyd meddwl. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd fod y Prif Weinidog wedi cydnabod pwysigrwydd lles meddyliol ymhlith pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig. Rwy’n dymuno diolch i bawb sydd wedi gwella ymwybyddiaeth o’r ymgyrch hon.”

I gael copïau o’r wybodaeth o’r diwrnod hyfforddiant,

trowch at www.nfyfc.org.uk/chairsday

i

A OES GENNYCH STORI? FFONIWCH 02476 857200

NEU E-BOSTIWCH [email protected]

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dathlu ar ôl i gyfran o'u cyllid gael ei adfer gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgyrch fawr.

Roedd CFfI Cymru o dan bwysau ar ôl datgelu’r newyddion y byddai’n colli cyfanswm o £140,000 ar y cyntaf o Ebrill oherwydd toriadau yng nghyllidebau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Lansiodd y Ffermwyr Ifanc ddeiseb ar-lein a chafwyd cefnogaeth gan gymunedau gwledig i frwydro’r penderfyniad.

Bellach, mae’r Llywodraeth wedi cytuno i roi gwerth £88,600 o gyllid ‘trosiannol’ i CFfI Cymru tra bydd yn datblygu cynllun pum mlynedd newydd. Mae’n grant untro, a bydd angen i CFfI Cymru fabwysiadu model busnes newydd i gael cyllid yn y dyfodol.

CFFI CYMRU YN SICRHAU ARIAN

Page 8: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

CFFI YN RHANNU SAFBWYNTIAU AM FASNACH Fe wnaeth Ffermwyr Ifanc rannu eu safbwyntiau ynghylch cytundeb i leihau tollau rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd yr UE mewn cyfarfod ym Mrwsel ym mis Rhagfyr.

Aeth James Hutchinson, FfCFfI Wiltshire, a Tom Wells, FfCFfI Swydd Lincoln, i gyfarfod gweithgor a gynhaliwyd gan Gyngor Ffermwyr Ifanc Ewrop (CEJA) diolch i nawdd gan HOPS Labour Solutions a Mole Valley Farmers.

Trafododd y grŵp effaith y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsiwerydd (TTIP) ar ffermwyr yn Ewrop. Nod y bartneriaeth yw lleihau tollau a rhwystrau rheoleiddiol rhag masnachu rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd yr UE - gan sicrhau gwell mynediad i farchnadoedd ar ddwy ochr Môr Iwerydd.

Dylai’r TTIP roi hwb i economïau, ond mae beirniaid yn pryderu y gwnaiff ffermwyr wynebu cystadleuaeth fwy fyth os bydd safonau bwyd yn dirywio yn sgil rheoliadau gwannach yn yr Unol Daleithiau.

Eglurodd James a Tom sut byddai’r newidiadau yn effeithio ar Ffermwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr.

08 TEN26

Bydd 36 o Ffermwyr Ifanc yn pacio eu bagiau ac yn hedfan i ffwrdd ar ôl iddynt lwyddo i sicrhau lle ar un o Deithiau CFfI eleni.

Cynigwyd amrywiaeth o deithiau i’r aelodau, o weithio ar fferm yn Seland Newydd i aros gyda theuluoedd yng nghefn gwlad Ewrop.

Gwahoddwyd pob ymgeisydd i Ddiwrnod Dethol ym mis Rhagfyr, ac yn dilyn y cyfweliadau a’r gweithgareddau, cafodd y rhai ffodus le ar y teithiau hyn.

Bydd Michelle Evans o CFfI Rushbury a Cardington yn Swydd Amwythig yn aros gyda theulu yn yr Almaen ym mis Mehefin. “Mae’r cyfle i fynd i’r Almaen yr haf nesaf yn gyffrous iawn i mi. Ar ôl gweld y

cyflwyniadau yn y Diwrnod Dethol, rwy’n gwybod na chaf i unrhyw broblemau wrth geisio dod i adnabod aelodau Landjugend yr Almaen!”

Cefnogir rhaglen Teithiau CFfI gan Lysgenhadon y Ffermwyr Ifanc, grŵp o gyn-deithwyr y CFfI sy’n codi arian i roi ysgoloriaethau i deithwyr y dyfodol, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual, Ymddiriedolaeth C Alma Baker, ac Ymddiriedolaeth Deucanmlwyddiant Awstralia.

TEITHIAUUNWAITH MEWN OES

HWB I ADDYSG AMAETHYDDOLMae addysg amaethyddol yn elwa ar becyn nawdd gwerth £25,000 gan Ymddiriedolaeth Elizabeth Creak.

Bydd y nawdd yn sicrhau fod aelodau yn gallu cael nifer o gyfleoedd hyfforddi i wella’u gyrfa mewn amaethyddiaeth. Diolch i’r arian hwn, mae hyfforddiant i denantiaid a pharatoi cynlluniau olyniaeth yn ddau o blith nifer o gyrsiau sy’n cael eu rhedeg yn 2015.

Roedd Elizabeth Creak, a fu’n Uchel Siryf yn Swydd Warwick, yn berchennog un o ffermydd llaeth

mwyaf y wlad, a sefydlodd yr Ymddiriedolaeth cyn iddi farw yn 2013 i gefnogi gwaed newydd yn y diwydiant.

Dywedodd Robin Ogg, un o’r ymddiriedolwyr: “Mae’n galonogol iawn gweld a chlywed am Ffermwyr Ifanc yn dysgu am arferion diweddaraf y diwydiant. Y bobl hyn yw dyfodol y diwydiant, heb os.”

Hysbysebir y teithiau ym Medi 2015. I weld yr holl

gyfleoedd teithio, trowch at www.nfyfc.org.uk/yfctravel

i

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at www.nfyfc.org.uk/ceja

i

NEWYDDIONNEWYDDION

Page 9: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

KUHN YN CEFNOGI DATBLYGIAD AMAETHYDDOL Bydd gwneuthurwyr polisïau ac arweinyddion y diwydiant yn cael clywed rhagor gan y Ffermwyr Ifanc yn 2015 diolch i nawdd gan Kuhn Farm Machinery.

Mae’r gwneuthurwr peiriannau amaethyddol yn noddi Grŵp Llywio Amaethyddiaeth a Materion Gwledig (AGRI) FfCCFfI, yn cefnogi Fforwm AGRI yng Nghynhadledd Flynyddol 2015 ac yn noddi’r bandiau llewys.

Dywedodd Siân Pritchard, Rheolwr Gyfarwyddwr KUHN: “Rydym yn cefnogi gwaith FfCCFfI yn llwyr ac yn awyddus i hyrwyddo gwaith gwych y Ffermwyr Ifanc. Mae’r nawdd hwn yn ein galluogi i ddeall yr heriau a wynebir gan ffermwyr ifanc heddiw.”

TAITH TRACTORAU YN HELPU FORAGE AID Fe wnaeth taith tractorau a threlars ym mis Chwefror helpu i godi dros £15,000 oedd ei angen i helpu Forage Aid ddod yn elusen go iawn.

Fe wnaeth Ffermwyr Ifanc o Essex, Gwlad yr Haf, Swydd Caerloyw, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig gymryd rhan yn y daith, a drefnwyd gan sylfaenydd Energy Now Expo a Forage Aid, Andrew Ward. Dywedodd: “Ni fyddem ni wedi llwyddo i wneud hyn heb help y Ffermwyr Ifanc. Bu’n ffordd wych

i’r Ffermwyr Ifanc gyfranogi, a dyna pam mae Forage Aid mor llwyddiannus.

TEN26 09

O sgiliau rheoli arian i fod yn arweinydd da – mae aelodau wedi gwella eu CVs diolch i amrywiaeth o gyrsiau a

gefnogir gan Defra. Dyma fanylion cyrsiau diweddar a chyrsiau’r dyfodol agos.

RHEOLI ARIAN I DRYSORYDDIONFe wnaeth trysoryddion clybiau yng Ngwlad yr Haf gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi arbrofol i helpu i ddatblygu modiwl Curve newydd. Datblygwyd y modiwl gan y Grŵp Llywio Datblygiad Personol a chafodd ei ysgrifennu gan FfCCFfI, NatWest a Chwmni Cyfrifwyr Mole and Sons. Fe wnaeth 16 trysorydd ddysgu sut i reoli cyfrif banc a sut i reoli cyllidebau yn cynnwys llif arian, cyllidebu, cadw cofnodion ariannol a pharatoi cyfrifon i’w harchwilio’n annibynnol. Bydd y cwrs hwn ar gael fel rhan o Curve yn fuan.

HYFFORDDI’R HYFFORDDWYRMae hyfforddi aelodau i gyflwyno cyrsiau mewnol FfCCFfI yn hanfodol er mwyn cryfhau ein clybiau. Cynhaliwyd dau gwrs dan ofal y cwmni hyfforddiant annibynnol A Clear Leader, a hyfforddwyd 20 aelod i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso hyfforddiant – modiwlau Curve

a Hyfforddiant Swyddogion Clybiau yn benodol. Achredir y cwrs gan y Sefydliad Hyfforddiant a Dysgu Galwedigaethol (ITOL), ac yn sgil cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd cyfranogwyr yn cael Tystysgrif Sylfaenol mewn Datblygu Staff.

DARPAR ARWEINYDDIONAnelir y cwrs at uwch-arweinyddion FfCCFfI i’w helpu i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol. Mae’n gwrs delfrydol i’r sawl sy’n cychwyn gwneud swydd arwain neu reoli, ac mae’n cwmpasu pob agwedd o arwain a rheoli timau. Cynhaliwyd y cwrs cyntaf yn Chwefror eleni i swyddogion newydd a chafwyd adborth cadarnhaol.

CWRS MENTERCwrs ysbrydoledig ac ymarferol a fwriedir i helpu Ffermwyr Ifanc i ddatblygu eu busnes gwledig eu hunain. Bydd aelodau yn ymweld â safle marchogaeth Onley Grounds ac yn cael eu tywys o amgylch y safle a siop y fferm, a byddant yn gwrando ar aelodau eraill yn trafod eu mentrau llwyddiannus eu hunain. Byddir yn cynnal y cwrs ar ddiwedd mis Mawrth.

Darllenwch am swydd un aelod gyda Kuhn ar dudalen 24.i

DIWEDDARWCH

EICH SGILIAU

I ganfod cyfleoedd hyfforddiant ar-lein, trowch at:

www.nfyfc.org.uk/courses.

i

Page 10: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TOCY

N GWENER

24 EBRILL

10 TEN26

#CCBCFFI15

Peidiwch â methu dim yn y Gynhadledd Flynyddol eleni trwy ddarllen ein canllaw gwych i’r gweithgareddau yn Torquay rhwng 24 a 26 Ebrill

CYNHADLEDDGweithgareddau...

Wyddoch chi fod gan Huw ei wyl flynyddol ei hun yng Nghaerdydd, o’r enw Swn, i hyrwyddo bandiau newydd?

Wedi’r gorfoledd o giwio am eich

band llawes tra chwenychedig,

casglu bagiau o nwyddau am

ddim gan ein noddwyr a gadael eich cesys

yn eich gwesty palasaidd, byddwch yn

barod i fwynhau’r PARTI! I gychwyn y

cyfan, byddwn yn cael cwmni DJ medrus

Radio 1 Huw Stephens! Yn ogystal â’i

raglen boblogaidd ar nos Fercher, mae’n

gyflwynydd rheolaidd ar BBC Radio Cymru

hefyd. Gallwch hefyd fwynhau dawnsio

gyda’ch hen ffrindiau pan fydd y band egnïol

Hyper Deluxe yn ffrwydro ar y llwyfan.

FLYNYDDOL 2015

^

^

Sponsored by

Page 11: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TOCY

N SADWRN 25 EBRILL

TEN26 11

Wyddoch chi mai hon fydd pedwaredd blwyddyn Aled yn y Gynhadledd?

TOCY

N

SUL 26 EBRILL

‘Tu ôl i chi’ fydd cri gyfarwydd aelodau

CFfI yn rhedeg o amgylch Torquay ar

y pnawn Sadwrn wedi cystadleuaeth

y Pantomeim. Os na fyddwch yn gwneud

hynny, gallwch fwynhau’r saethau a’r

dyblau ym Mhencampwriaeth Dartiau

2015. Bydd llond trol o ddigwyddiadau yn

ystod y dydd, a byddwch yn gallu mwynhau

cystadleuaeth fawreddog Aelod Hŷn gorau’r

flwyddyn neu dreulio amser yng nghwmni

arbenigwyr ar y diwydiant ar banel AGRI.

Wedi hynny, byddwch yn barod am noson

arall yn yr Arena yng nghwmni nid un ond

DAU droellwr enwog. Byddwch yn barod i

weld y cyflwynydd teledu a radio Alice Levine

ac Aled Haydn Jones o Radio 1 yn serennu.

Nid dyna fydd diwedd ein gwledd gerddorol,

oherwydd byddwch yn gallu dawnsio yn eich

gwisg ffansi i gyfeiliant band MIB.

Bydd pethau yn difrifoli ar y bore Sul wrth i gannoedd o aelodau ddod ynghyd yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol FfCCFfI. Byddir yn trafod materion pwysig iawn ac yn cyflwyno tlysau - ac os byddwch yn y cyfarfod, byddwch yn gallu gweld y cyfan ar-lein! Byddwn yn hyrwyddo’r cyfeiriad gwe yn ystod y penwythnos. I’n paratoi am barti arall, dewch i fwynhau awyrgylch bywiog y cystadlaethau Rhaff Neidio a Dawnsio Masnachol. Ac os na fyddwch wedi blino’n llwyr yn sgil yr holl weiddi a churo dwylo, byddwch yn dychwelyd i’r un lle yn eich Crysau Clwb i fwynhau ein Parti Swigod anhygoel! Bydd dau o droellwyr Radio 1, Dev Griffin a Chris Stark, yn dychwelyd - oherwydd y galw - i droelli’r deciau a chloi'r noson olaf.

Wyddoch chi y byddai Dev yn

cynhyrchu sioeau radio ffug gyda’i

efeilles pan oeddent yn blant?

Page 12: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

#YFCAGRI

12 TEN26

A yw ysgol gyrfaoedd ffermio braidd yn llithrig? Mynnwch gyngor gan rai o wynebau amlycaf y diwydiant yn Fforwm Agri yn Torquay eleni!

Dyma brif ddigwyddiad y flwyddyn i Ffermwyr Ifanc, ac eleni, mae wedi denu rhai o enwau mwyaf y diwydiant i annerch aelodau ynghylch canfod gyrfa mewn amaethyddiaeth.

Bydd Cyn-Lywydd UCA a Chadeirydd AHDB Peter Kendall yn ymuno â’r ffermwr arobryn James Price a Tom Rawson, pen dyn Evolution Farming (darllenwch ragor o fanylion am ein panelwyr yn y blwch ar y dde).

Noddir Fforwm Agri gan

Kuh Farm Machinery, ac mae amser y Fforwm yn symud i’r slot amser cinio ar y prynhawn Sadwrn yn ystod penwythnos y gynhadledd.

Mae’r fformat wedi cael ei ddiweddaru hefyd – diolch i adborth gan aelodau – ac eleni, ni fydd unrhyw gyflwyniadau ffurfiol. Yn lle hynny, gwahoddir aelodau i holi cwestiynau cyffredinol ynghylch gyrfaoedd a’r diwydiant i’n tri arbenigwr. Gall aelodau drydar cwestiynau at y panel gan ddefnyddio hashnod #yfcagriforum.

BETH YW EICH DYFODOL YM MAES FFERMIO?

Y PANELWYRSYR PETER KENDALLFel Cyn-Lywydd UCA, Cadeirydd presennol AHDB ac aelod o bumed genhedlaeth teulu o

ffermwyr âr, mae Peter yn gwybod cryn dipyn ynghylch sut i lwyddo yn y diwydiant. Astudiodd Economeg Amaethyddol ac mae’n rhedeg uned ffermio âr arbenigol.DYWED PETER: “Rwy’n credu’n ddiffuant na fu erioed well cyfle i adeiladu gyrfa mewn amaethyddiaeth. Bydd rhaid wynebu cyfnodau anodd – ond rwyf yn wir yn credu fod y dyfodol i bobl sydd â sgiliau amaethyddol arbenigol yn fwy disglair nag erioed.”

JAMES PRICE Mae James yn ffermwr âr ifanc o Woodstock yn Swydd Rhydychen a enillodd wobr

Ffermwr y Flwyddyn Farmers Weekly yn 2009. Mae’n rhedeg busnes ffermio âr, compostio a ffermio trachywir ar 1600 erw o dir, ac mae’n defnyddio technolegau newydd i wneud elw ac i warchod yr amgylchedd. DYWED JAMES: “Mae dwy brif her yn wynebu ffermwyr ifanc heddiw – canfod marchnad arbenigol i weithio ynddi a sicrhau eu bod yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw’r dorf. I oresgyn yr heriau hyn, rhaid i ffermwyr ifanc feddwl yn greadigol, ond mae angen egni a brwdfrydedd arnynt hefyd i sicrhau llwyddiant.

TOM RAWSON Tom yw Cyfarwyddwr ac un o Gyd-sylfaenwyr Evolution Farming yn Swydd Rhydychen;

mae hefyd yn un o Ysgolorion Nuffield ac yn aelod o fwrdd Dairyco. Ehangodd fferm laeth ei deulu, ac yn 2010, sefydlodd Evolution Farming i ddatblygu busnes ffermio llaeth cynaliadwy. DYWED TOM: “Yr her fydd canfod digon o arweinyddion busnes sy’n barod i fentro. Fel diwydiant, mae angen i ni helpu ffermwyr ifanc sylweddoli manteision rhedeg eu busnes eu hunain, ond mae’n rhaid i ni sicrhau fod ganddynt y sgiliau i wneud hyn hefyd.

YMUNWCH Â NI

Gall aelodau fynychu Fforwm Agri yn rhad ac am ddim rhwng

hanner dydd a 2.30yp, ddydd Sadwrn, 25 Ebrill. Darperir cinio. Mynnwch

y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad trwy droi at

yfcconvention.org.uk/whatson/agri-forum/

Page 13: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 13

®

Dibynadwy, llwyddiannus ac yn dal ar y blaen wedi 40 mlynedd

Trowch at

www.lamlac.co.ukFreephone 0800 919808

@lamlacvolacdilynwch ni

Cymorth a chyngor am

ddim i’ch cynorthwyo

trwy’r tymor wyna

Page 14: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

CLYBIAU CFFI

14 TEN26

CIPOLWG AR GLYBIAU

O gyfarfodydd i daliadau aelodaeth – mae ein 624 CFfI oll yn wahanol iawn. Dyma gipolwg ar dri chlwb...

Arweinydd y Clwb: Jess TownsonCadeirydd: Jonathan FranklandAelodau: 35 – rhwng 14 ac 16 mlwydd oed yn bennaf.Tâl Aelodaeth: £20 (bydd y Clwb yn cymorthdalu’r tâl aelodaeth llawn).Cyfarfodydd: Cynhelir cyfarfodydd bob nos Lun, ac eithrio yn yr haf, a byddant yn cyfarfod yn y neuadd bentref. Mae ganddynt raglen sy’n cael ei threfnu chwe mis ymlaen llaw. Byddant yn ymarfer at gystadlaethau ac yn gwrando ar siaradwyr gwadd, ac yn ymweld â ffermydd hefyd.Ardal leol: Mae Bolton by Bowland yn bentref gwledig bychan sydd â

dalgylch bychan, oherwydd mae pedwar clwb o fewn cwmpas 10 milltir. Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau yn byw ar ffermydd llaeth, bîff neu ddefaid, ond nid yw pob aelod o gefndir amaethyddol.Hyrwyddo: Gadewir posteri a rhaglenni yn yr ysgol uwchradd leol a byddant yn hysbysebu mewn papur newydd lleol. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith recriwtio yn digwydd ar dafod leferydd.Codi arian: Bob blwyddyn, bydd y Clwb yn trefnu noson tân gwyllt i’r gymuned leol, sy’n denu tua 250 o bobl. Byddant yn gwerthu lobsgóws

yn y neuadd bentref i dalu am gost y tân gwyllt. Byddant hefyd yn cynnal ras hwyaid yn y pentref bob blwyddyn, a rhoddir arian o’r ddau ddigwyddiad i elusennau. Byddant hefyd yn cynnal parti ‘Cracer Nadolig’ a fynychir gan lawer o aelodau yn y rhanbarth. Mae’n golygu llawer iawn o waith cynllunio, ond y llynedd, fe wnaethant godi £8,000 i’r Clwb, a rhoddwyd cyfran o’r arian i elusennau.Ffaith anhygoel: Yn 2014, dathlodd y parti Cracer Nadolig ei ben-blwydd yn 10 oed. Bydd yn denu 500 o aelodau bob blwyddyn.

CLWB: CFFI BOLTON BY BOWLAND, SWYDD CAERHIRFRYN

Llun trwy garedigrwydd y Lancashire Telegraph

Page 15: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 15

Ysgrifenyddes y Clwb: Michelle BattingAelodau: 90Tâl aelodaeth: £20 i aelodau newydd, £25 i aelodau presennol. Bydd y Clwb yn cymorthdalu’r tâl aelodaeth llawn.Cyfarfodydd: Cynhelir cyfarfodydd busnes ddwywaith y mis yn neuadd bentref Hemyock a gwahanol weithgareddau mewn lleoliadau gwahanol, yn dibynnu ar y gweithgaredd. Cynhelir llawer o ymarferion at gystadlaethau yn ystod yr wythnos. Maent hefyd yn dal i gynnal y Sioe a’r Arwerthiant a gychwynnwyd gan y clwb gwreiddiol yn 1932, a byddant yn trefnu teithiau cerdded o amgylch ffermydd a gweithgareddau cymdeithasol megis sglefrio iâ.Yr ardal leol: Lleoliad gwledig iawn, ac mae’r rhan fwyaf o’r aelodau yn blant ffermwyr. Mae’r Clwb yn cael arian tuag at gostau ymarfer sgiliau gwledig, a gyfrannwyd gan deulu aelod a fu farw, gwaetha’r modd.

Hyrwyddo: Cylchlythyr misol y bydd ysgrifenyddes y Clwb yn ei anfon i gartrefi’r aelodau. Defnyddir Facebook a negeseuon testun hefyd.Codi arian: Gall disgos y Clwb godi hyd at £900. Eleni, mae’r Clwb yn codi arian at Gronfa Lewcemia Dyfnaint ac adeilad newydd FfCCFfI Dyfnaint. Ffaith anhygoel: Hwn oedd Clwb cyntaf y Ffederasiwn a chychwynnodd yn wreiddiol fel Clwb Magu Lloi. Claddwyd Capsiwl Amser yn Hemyock yn 2014 i ddathlu pen-blwydd FfCCFfI yn 80.

CLWB: CFFI CUTNALL GREEN, SWYDD CAERWRANGON Cadeirydd: Stephanie Currie ac Adam Whiteman yw’r cyd-gadeiryddion.Aelodau: 60 – aelodau canolradd yn bennaf.Tâl aelodaeth: Aelodau Iau £20, Aelodau Canolradd £25, Aelodau Hŷn £30 ac Aelodau Cysylltiol £15. Bydd y Clwb yn cymorthdalu'r tâl aelodaeth llawn.Cyfarfodydd: Cynhelir cyfarfod misol, yn swyddfa leol UCA ar brydiau, a chynhelir cyfarfod bob nos Fercher mewn lleoliadau amrywiol. Mae cyfarfodydd y Clwb yn cynnwys ymarferion at gystadlaethau a gweithgareddau megis Laser Quest. Ardal leol: Mae’r Clwb yn denu llawer o aelodau o drefi cyfagos oherwydd mae’r lleoliad yn ganolog a ddim yn rhy wledig. Mae’n un o glybiau mwyaf Swydd Caerwrangon, a dennir aelodau o deuluoedd amaethyddol a chefndiroedd eraill.Hyrwyddo: Noson i aelodau newydd ar ddechrau’r flwyddyn, sy’n cael ei hysbysebu ar Facebook a phosteri sy’n cael eu codi yn lleol. Byddant yn gweithio’n galed i gadw’r aelodau iau, oherwydd hwy yw dyfodol y Clwb. Codi arian: Tri phrif ddigwyddiad yn Swydd Caerwrangon i godi arian i dalu'r ffi aelodaeth - parti Dydd Gŵyl San Steffan, sy’n denu 400 o bobl, a pharti ar ôl diwrnod rasys o fan i fan Swydd Caerwrangon a pharti haf. Byddant hefyd yn codi arian i Ambiwlans Awyr Gorllewin y Canolbarth a Help for Heroes.Ffaith anhygoel: Mae Cadeirydd newydd FfCCFfI Hannah Talbot yn aelod! Dywed Stephanie ei bod hi wedi bod yn “ysbrydoliaeth i’r aelodau” o ran beth yn union y gellir ei gyflawni.

CLWB: CFFI CULM VALLEY, DYFNAINT

Page 16: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEULU

YD

YM N

ITEU

LU Y

DYM

NI

CA

DEI

RY

DD

Y C

YN

GO

R

HA

NN

AH

TA

LBO

T

IS-G

AD

EIR

YD

D Y

CY

NG

OR

CH

RIS

MA

NLE

Y

CA

DEI

RY

DD

AG

RI

LYN

SEY

MA

RTI

NC

AD

EIR

YD

D D

ATB

LYG

IAD

P

ERS

ON

OL

TOB

Y F

RA

NC

E

CA

DEI

RY

DD

DIG

WY

DD

IAD

AU

A

MA

RC

HN

ATA

KAT

IE D

AV

IES

CA

DEI

RY

DD

CY

STA

DLA

ETH

AU

MA

RK

CU

RR

IS-G

AD

EIR

YD

D Y

CY

NG

OR

JES

SIC

A T

OW

NS

ON

CA

DEI

RY

DD

Y F

FOR

WM

IE

UEN

CTI

D

DA

NIE

LLE

MC

NU

LTY

16 TEN26

Y CYNGOR

Page 17: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEULU

YD

YM N

ITEU

LU Y

DYM

NI

IS-G

AD

EIR

YD

D A

GR

IS

AM

DIL

CO

CK

IS-G

AD

EIR

YD

D D

ATB

LYG

IAD

PE

RS

ON

OL

MA

RK

HU

RS

T

IS-G

AD

EIR

YD

D D

IGW

YD

DIA

DA

U

A M

AR

CH

NAT

AC

AR

OLI

NE

BA

KER

IS-G

AD

EIR

YD

D C

YS

TAD

LAET

HA

UM

ATT

TOM

KIN

SIS

-GA

DEI

RY

DD

Y F

FOR

WM

IE

UEN

CTI

DA

MY

SW

INB

AN

K

TEN26 17

Bu’n

rhai

d id

di d

disg

wyl

tair

blyn

edd,

ond

o’r

diw

edd,

dae

th

Han

nah

Talb

ot y

n G

adei

rydd

C

yngo

r Cen

edla

etho

l FfC

CFf

I.

Mae

’r ae

lod

27

mlw

ydd

oed

o C

FfI

Cut

nall

Gre

en y

n S

wyd

d C

aerw

rang

on y

n fw

y na

pha

rod

am e

i bl

wyd

dyn

wrt

h y

llyw

ar ô

l gw

asan

aeth

u fe

l Is

-gad

eiry

dd a

m y

ddw

y fly

nedd

ddi

wet

haf.

Yn

ysto

d y

cyfn

od h

wnn

w, l

lwyd

do i

luni

o cy

nllu

n yn

ghyl

ch e

i chy

feiri

ad i’

r Ff

eder

asiw

n.“Y

n sy

ml,

rwy’

n dy

mun

o gw

eld

FfC

CFf

I yn

ailg

ysyl

ltu â

’i w

reid

diau

i’n

cryf

hau

i’r

dyfo

dol,”

egl

urod

d H

anna

h. “M

ae’n

gol

ygu

cryf

hau

ein

clyb

iau

a he

lpu

ein

hael

odau

i el

wa

hyd

yn o

ed rh

agor

ar e

u C

FfI.

Mae

Han

nah

yn b

wria

du c

reu

adno

dd

i ael

odau

i dd

ango

s y

gelli

r tro

sglw

yddo

’r sg

iliau

y m

aent

wed

i’u d

ysgu

yn

FfC

CFf

I i s

wyd

di y

n y

dyfo

dol.

Gal

l ym

gym

ryd

â sw

yddi

mew

n cl

ybia

u gy

foet

hogi

CV

yn

faw

r, ac

mae

Han

nah

yn g

wyb

od y

n ia

wn

sut g

all h

yn fo

d yn

lles

ol i

ddat

blyg

iad

gyrfa

. Y

n ae

lod

gwei

thga

r ers

pan

oed

d hi

’n 1

4

mlw

ydd

oed,

mae

Han

nah

wed

i gw

neud

lla

wer

o s

wyd

di y

n ei

chl

wb

a’i s

ir - y

n cy

nnw

ys c

adei

rydd

y d

dau

a ch

adei

rydd

y

Pwyl

lgor

Cys

tadl

aeth

au C

ened

laet

hol.

Yn

ei b

arn

hi, i

’r cy

fleoe

dd h

yn y

n y

CFf

I y

mae

’r di

olch

am

ei d

yrch

afia

d cy

flym

yn

ei

gyrfa

fel a

thra

wes

- da

eth

yn B

enna

eth

y G

yfad

ran

Sae

sneg

pan

oed

d yn

26

mlw

ydd

oed,

un

o’r i

euen

gaf y

n ei

mae

s. M

ae

cyst

adla

etha

u si

arad

cyh

oedd

us, r

heol

i cy

llide

bau

a de

lio â

byd

gw

leid

yddo

l sy’

n dd

yrys

ar b

rydi

au o

ll w

edi c

yfra

nnu

at

ddat

blyg

iad

pers

onol

Han

nah

- ac

mae

hi’n

dy

mun

o gw

eld

erai

ll yn

elw

a fe

lly h

efyd

. “R

wy’

n dy

mun

o si

crha

u fo

d ae

loda

u’n

gwel

d y

man

teis

ion

ehan

gach

– m

egis

ym

uno

â grŵ

p lly

wio

neu

wne

ud c

ais

am

daith

dra

mor

. Wyd

doch

chi

ddi

m b

eth

all y

pr

ofia

dau

hynn

y ei

ch a

rwai

n at

o.”

Yn

y pe

n dr

aw, m

ae H

anna

h yn

dea

ll be

th y

w h

anfo

d bo

d yn

ael

od o

’r C

FfI.

C

yfei

llgar

wch

. Cyc

hwyn

nodd

fel C

adei

rydd

pa

n oe

dd e

i blw

yddy

n ol

af fe

l ael

od ll

awn

yn d

od i

ben,

ac

mae

’n c

yfad

def m

ae rh

ai

o’r p

rofia

dau

hapu

saf o

edd

traf

od s

ynia

dau

am g

ysta

dlae

thau

gyd

a’i C

hlw

b.

“Nid

wyf

yn

dym

uno

i ni a

ngho

fio

pwys

igrw

ydd

y cy

farf

od c

lwb

arfe

rol y

n ys

tod

yr w

ythn

os. Y

ffrin

diau

a w

new

ch, y

cy

stad

laet

hau

a m

wyn

hau

yn g

yffr

edin

ol.

Ryd

ym fe

l teu

lu -

rydy

m y

n ca

ru e

in

gily

dd, b

yddw

n yn

tref

nu p

artï

on g

wyc

h,

ac n

id y

dym

yn

ofni

bod

yn

ddi-f

lew

yn a

r da

fod

gyda

’n g

ilydd

!”Y

nghy

d â’

i ‘th

eulu

’ yn

y C

yngo

r, m

ae

hi’n

gob

eith

io y

gal

lant

gan

fasi

o rh

agor

o

safb

wyn

tiau

a rh

annu

mw

y o

wyb

odae

th

ag a

elod

au i

gryf

hau’

r Ffe

dera

siw

n.“F

y no

d el

eni y

w d

ango

s be

th s

y’n

wyc

h am

FfC

CFf

I,” m

edda

i Han

nah.

“R

ydym

yn

unig

ryw

, ac

rydy

m y

n lly

sgen

hado

n i b

obl i

fanc

sy’

n by

w m

ewn

arda

loed

d gw

ledi

g.”

Mae

cyn

lluni

au u

chel

geis

iol a

r y g

wei

ll i a

ilgys

yllt

u’r F

fede

rasi

wn

â’i w

reid

diau

a’i

wne

ud y

n gr

yfac

h fy

th, m

edda

i Han

nah

Talb

ot,

Cad

eiry

dd n

ewyd

d C

yngo

r FfC

CFf

I.

Page 18: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

DIOGELWCH FFERMYDD

18 TEN26

Roedd amser yn prinhau i Mark Mather pan welodd ei dad ef yn gorwedd o dan feic cwad ar fferm y teulu yn Northumberland. Roedd yr

aelod 24 mlwydd oed o CFfI Alnwick wedi mynd i ddychryn brain â’i ddryll pan drodd y beic drosodd.

“Pan welodd dad fi, fe’i rhybuddiais i fod yn ofalus wth drin fy nryll oherwydd roedd wedi’i lwytho,” meddai Mark, oedd wedi bod yn gyrru’n araf â’r dryll ar draws ei liniau – â’r glicied diogelwch yn ei lle. “Pan welodd dad y dryll, nid oedd wedi’i lwytho, a dyna pryd sylweddolais fod bwled wedi fy nharo i, mae’n debyg.”

Hyd yn oed os defnyddir y glicied diogelwch, ni wnaiff hynny rwystro dryll rhag tanio, gwers y gwnaeth Mark ei dysgu drwy brofiad, oherwydd cafodd ei daro ychydig uwchlaw ei ben-glin.

“Nid oedd unrhyw boen ar y pryd ond roeddwn yn colli llawer iawn o waed,” cofiai Mark, oedd yn ffodus fod ei dad wedi mynd allan i chwilio am ddefaid oedd wedi dianc. “Roedd batri fy ffôn symudol wedi gwagio, felly ni allwn i ffonio neb. Fe wnaeth Dad

weithredu’n gyflym a defnyddiodd ei felt fel rhwymyn tynhau o amgylch fy nghoes a ffoniodd y gwasanaethau brys.”

Aethpwyd â Mark i’r ysbyty mewn hofrennydd yn syth. Ni lwyddwyd i achub ei goes.

“Newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl. Euthum o ffermio’n llawn amser, gwneud yr holl chwaraeon gyda’r Ffermwyr Ifanc, gobeithio dod yn Gadeirydd Sirol a gweithio fel diffoddwr tân wrth gefn i’r hyn a deimlai fel dim byd o fewn eiliadau.”

Roedd Mark yn un o’r rhai ffodus. Dengys ystadegau HSE fod bron iawn un unigolyn bob wythnos wedi cael ei ladd o ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch amaethyddol dros y ddegawd ddiwethaf ar gyfartaledd. Mae’n ystadegyn trist a hoffai Mark i ragor o bobl fod yn ystyriol o hynny. “Ni fyddwch fyth yn meddwl y gall hynny ddigwydd i chi,” meddai. “Dyna oeddwn i’n ei feddwl hefyd.”

Bellach, ni all Mark fod yn ddiffoddwr tân wrth gefn – gwaith

“TANIODD Y DRYLL

FY MYWYD AM BYTH”Record diogelwch amaethyddiaeth yw un o’r rhai gwaethaf mewn unrhyw ddiwydiant, ond mae un dyn ifanc a oroesodd ddamwain oedd bron yn angheuol yn dymuno i ffermwyr ifanc wella hynny

A NEWIDIODD

HWYL Y CFfI: Mark yn

mwynhau gyda’i ffrindiau

yn y Gynhadledd Flynyddol

Page 19: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 19

gwirfoddol roedd wrth ei fodd yn ei wneud yn ystod yr wythnos rhwng dyletswyddau’r fferm – ond yn ddiweddar, mae wedi ymuno â’r gwasanaeth ambiwlans fel Ymatebwr Cyntaf Cymunedol ac mae’n gweithio gyda hwy i ddatblygu cwrs cymorth cyntaf i Ffermwyr Ifanc. Bydd ffermio yn aml yn golygu gweithio ar eich pen eich hun mewn mannau gwledig anghysbell, yn aml iawn heb signal ffôn symudol. Yn dilyn damwain Mark, mae’n dymuno sicrhau fod pobl eraill wedi’u paratoi. “Mae ar ffermwyr ifanc angen hyfforddiant cymorth cyntaf. Nid yr ystum adferol a sut i roi plaster ar friw yn unig – rwy’n cyfeirio at dechnegau achub bywyd, fel beth i’w wneud os byddwch yn colli aelod”.

Mae dros chwe blynedd wedi mynd heibio ers damwain Mark, ond nid yw wedi troi cefn ar ei uchelgeisiau. Ac ni wnaeth y Ffermwyr Ifanc adael iddo wneud hynny - roeddent yn mynnu y dylai sefyll yn etholiadau’r Cadeirydd Sirol wedi’r ddamwain.

“Dyna oedd y peth gorau i mi oherwydd rhoddodd yr hyder i mi i gredu y gallwn barhau i wneud popeth a fynnwn,” meddai Mark. “Mae’n hawdd teimlo’n hunandosturiol, ond roeddwn yn gyrru cynaeafydd ar ôl chwe wythnos. Credwn y gallwn i barhau i fod yn ddefnyddiol. Bellach, mae gennym dractorau awtomatig â sbardun troed chwith ar y fferm. Ni werthfawrogir potensial amaethyddiaeth i bobl anabl - mae’n le gwych i ddysgu a dangos eich gallu.”

Bellach, mae Mark yn 30 mlwydd oed ac yn gweithio’n llawn amser ar fferm ei deulu.

“Yn anffodus, bydd damweiniau yn digwydd. Os cewch anaf drwg, peidiwch â gadael i hynny eich trechu. Mae’n rhaid i chi roi cynnig arall arni a pharhau.”

FY MYWYD AM BYTH”

YSTADEGAU MARWOL l Bu 31 marwolaeth yn y diwydiant amaeth yn 2014/14, chwech yn llai na’r flwyddyn flaenorol.

l Prif achos damweiniau marwol ym maes amaethyddiaeth yw cludiant yn y gweithle. Roedd 105 o farwolaethau (29%) yn gysylltiedig â chludiant yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf.

l Digwyddodd 146 o farwolaethau, yn cynrychioli 40% o gyfanswm y deng mlynedd diwethaf, yn ystod gwaith sy’n gysylltiedig â thrin, cynaeafu, a phrosesu cnydau ac ati.

l Ystadegau o Anafiadau marwol mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth a diwydiannau cysylltiedig, 2013/14.

“BYDDWCH YN MEDDWL NA WNAIFF HYNNY FYTH DDIGWYDD I CHI...ROEDDWN I’N MEDDWL HYNNY HEFYD”

DAMWAIN: Mae Mark Mather

yn dal yn gallu gweithio ar fferm

ei deulu. Llun gan y Northumberland

Gazette

Page 20: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

#CYSTADLAETHAU CFFI

20 TEN26

WRTH FARNU STOC!SUT I GYRRAEDD Y BRIG

Dewch yn gyfarwydd â champ barnu stoc trwy gynghorion gan ein enillwyr diweddar a Katie Brian o’r noddwyr Eblex

ARFER YW’R UNIG ATHRO Rhys Cooke o CFfI Rhaglan yng Ngwent oedd enillydd y cystadlaethau Barnu Moch Byw ac Ar y Bachyn, a chafodd y Sir y sgôr cyfunol uchaf yn yr adran hŷn. Mae Rhys yn aelod ers pan oedd yn 10 oed, ac mae’n dweud fod angen i gystadleuwyr ymafer: “Byddwn yn cynnal llawer o ymarferion yng Ngwent i geisio helpu’r aelodau iau. Byddwn yn ymweld â gwahanol ffermydd a lladd-dai gyda’r hwyr i ymarfer barnu anifeiliaid ar y bachyn.

SEFWCH YN ÔL Edrychwch yn ofalus o bell cyn bwrw iddi i farnu. Mae’n well deall beth fyddwch yn ei farnu o ran ei olwg a’i fath cyffredinol ac ati. Dywedodd Kate Brian o Eblex (yn y lluniau ar y chwith ac isod) am y gystadleuaeth Barnu Stoc: “Sefwch yn ôl ac edrychwch ar y stoc o bell yn ystod y ddau funud gyntaf, ac yna, gallwch gadarnhau eich safbwyntiau trwy asesu’r pwyntiau allweddol.”

GWYLIWCH Y CLOC Defnyddiwch y ddau funud yn llawn, ond ddim mwy na hynny. Dywed Katie: “Nid oes angen dweud eich enw, eich oedran na’ch sir oherwydd rhoddir rhif cystadlu i chi fel na fyddir yn datgelu eich enw, a bydd hynny’n gwastraffu amser gwerthfawr hefyd.”

CYFRANOGWCHBeth am roi cynnig arni? Os oes arnoch angen cymorth, darllenwch lyfryn Eblex neu gwyliwch y fideo barnu gwartheg ac ŵyn trwy droi at www.nfyfc.org.uk/eblex. Mae’r gystadleuaeth yn cynnig llawer o fuddion, meddai Katie: “Yn ogystal â gwella eich sgiliau dewis da byw, gall hefyd roi hwb i’ch sgiliau siarad cyhoeddus.”

GWRANDWCH AR BOBL HŶNMae Matthew Wright o CFfI Eccleshall yn Swydd Stafford wedi bod yn llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Barnu Stoc Ffair Gaeaf Lloegr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Eleni, enillodd Dlws Smithfield am ennill y gystadleuaeth Barnu Gwartheg Bîff Byw ac ar y Bachyn

gydag un o’i gyd-aelodau o’r Sir, Sally Leese. Mae’n gyw o frîd. “Rwyf wedi cael y rhan fwyaf o fy ngwybodaeth gan fy nhad ac o weithio ar fferm fy nheulu. Bu fy nhad yn Ffermwr Ifanc a chystadlodd ar y lefel cenedlaethol. Bellach, mae’n un o hyfforddwyr barnu stoc CFfI Eccleshall hefyd.”

RHOWCH RESYMAU DACeisiwch ddysgu’ch rhesymau ar y cof a sefwch yn syth a daliwch lygaid y beirniaid. Siaradwch yn glir ac araf fel gall y beirniaid ddilyn eich araith. Disgrifiwch y stoc yn llawn a chyfeiriwch at unrhyw nodweddion amlwg. Dyma gyngor Katie: “Mae sawl arddull cyflwyno rhesymau, a dylech chi gadw at y math sy’n gweddu orau i chi.”

Ffoniwch 0800 756 2787

www.nwfagriculture.co.uk@NWFAgriculture

Mae NWF Agriculture yn gyflenwr cenedlaethol sy’n gwerthu bwydydd gwartheg godro, gwartheg bîff a defaid o ansawdd uchel i ffermwyr Prydain.

Cefnogir ein holl gymysgeddau, bwydydd unigol a bwydydd cyfansawdd â chyngor arbenigol gan dimau gwerthu a thechnegol.

FEEDS SUCCESS

AGRICULTURE

FEEDS SUCCESS

AGRICULTURE

Page 21: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 21

Ffoniwch 0800 756 2787

www.nwfagriculture.co.uk@NWFAgriculture

Mae NWF Agriculture yn gyflenwr cenedlaethol sy’n gwerthu bwydydd gwartheg godro, gwartheg bîff a defaid o ansawdd uchel i ffermwyr Prydain.

Cefnogir ein holl gymysgeddau, bwydydd unigol a bwydydd cyfansawdd â chyngor arbenigol gan dimau gwerthu a thechnegol.

FEEDS SUCCESS

AGRICULTURE

FEEDS SUCCESS

AGRICULTURE

Page 22: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

22 TEN26

#SGÏOCFFI

Eira, Ffermwyr Ifanc, a Supermoo – dim llai na Sgïo CFfI 2015

EIRA MAWR!

Fe wnaeth dillad parti retro, SuperMoo ar lifft sgïo a chellwair y CFfI sicrhau mai taith sgïo’r Ffermwyr Ifanc yn 2015

oedd y ffordd orau o ddechrau’r flwyddyn.

Hwn oedd un o’r digwyddiadau Sgïo CFfI mwyaf yn ystod blynyddoedd diweddar, ac aeth dros 450 o Ffermwyr Ifanc i feddiannu Tignes yn yr Alpau gogleddol. Ac roedd digonedd o weithgareddau i gadw pawb yn brysur yn ystod yr antur saith diwrnod a drefnwyd ar y cyd â’r trefnwyr teithiau Outgoing. Yn ystod y dydd, cafodd y sawl oedd yn mentro ar yr eira am y tro cyntaf gyfle i feistroli’r grefft yn yr Ysgol Sgïo, a chafodd y rhai mwy profiadol gyfle i wibio i lawr rhai o lethrau gorau Ewrop. Roedd yr après ski hefyd yn wych, a chafwyd prydau ar y mynydd, picnics, troellwyr a phartïon CFfI yn cynnwys parti ffwnicwlar, pan gafwyd pryd ar y trên i fyny i rewlif ble’r oedd parti CFfI anferth

yn digwydd.Fe wnaeth Georgina Haigh,

un o gynrychiolwyr Rhanbarth Gorllewin y Canolbarth, ddisgrifio Sgïo CFfI fel rhywbeth tebyg i Gynhadledd Flynyddol yn yr eira, a dywedodd mai'r peth gorau oedd cael eich ffrindiau CFfI o’ch cwmpas.

“Roedd hi’n braf mynd mewn i far a gweld pobl rydych yn eu hadnabod ac wynebau cyfarwydd o’r Ffermwyr Ifanc. Roedd y diwrnod retro yn ddifyr dros ben, a gwisgais siwt un-darn y gwnes i ei chanfod yn yr atig,” meddai Georgina, oedd yn un o blith dros 80 aelod o Orllewin y Canolbarth ar y daith. “Yn bendant, byddwn yn argymell y daith i eraill. Peidiwch â phoeni os na allwch sgïo. Mae’n fwy difyr cael gwersi mewn ysgol sgïo gyda ffermwyr ifanc eraill na chael gwersi ar eich pen eich hun ar wyliau teuluol.”

Mae cynlluniau

Sgïo CFfI 2016 eisoes yn mynd

rhagddynt, felly trowch at y wefan yn fuan i chwilio

am ddiweddariadau www.nfyfc.org.uk/YFCSki/

yfctravel-ski

Page 23: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 23

TRYDARIADAU #SGÏOCFFI

LOWRI FFLUR DAVIESWedi cael amser gwych yn sgïo gyda @CFfI Morgannwg ar

daith #sgïocffi @FfCCFfI ac @OutgoingSnow!

CLAIRE WORDEN!Hwre! Dyna ddiwedd y wers sgïo gyntaf! Wrth fy modd! Edrych ymlaen at wers fory yn barod #sgïocffi

PAIGER ELIZABERTHParti ffwnicwlar @FfCCFfI 3000 medr i fyny’r mynydd! Bydd

yn wych! #sgïocffi #teithiaucffi #tignes

FFCFFI SWYDD CAERLOYWMae’r haul wedi bod yn tywynnu ac mae pawb yn mwynhau’r sgïo #FfCCFfI #sgïocffi2015 #tignes

“MAE’N FWY DIFYR CAEL GWERSI MEWN YSGOL SGÏO GYDA FFERMWYR IFANC ERAILL NA CHAEL GWERSI AR EICH PEN EICH HUN AR WYLIAU TEULUOL”

Y STWFF GWYN: Aelodau yn mwynhau picnics, partïon a chwarae yn yr eira! Cafwyd parti gwisg ffansi â thema ‘retro’ hefyd.

Page 24: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

24 TEN26

Rhugl mewn Ffrangeg ac yn fedrus â systemau hydrolig – mae lleoliad blwyddyn gyda Kuhn yn Ffrainc yn rhoi hwb i yrfa Katie Calcutt o CFfI Enstone

AMSERLEN FFATRI Cyn cychwyn gweithio i KUHN fis Awst diwethaf, roeddwn yn helpu fy nhad i gynaeafu, oedd yn golygu gweithio tan 3yb! Nawr, rwy’n dilyn amserlen ffatri ac mae’n drefn sefydlog. Ond rwy’n gweld eisiau’r fferm ac astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, ble byddaf yn dychwelyd ym mis Medi i astudio blwyddyn olaf BSc (Anrhydedd) mewn Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio.

Rwy’n byw 10 munud yn unig o ffatri Kuhn Audureau ger Nantes, un o ddinasoedd mwyaf arfordir Ffrainc ar yr Iwerydd. Wrth gyrraedd y gwaith, y peth cyntaf fyddaf yn ei wneud fydd agor fy nghyfrifiadur a Google Translate!

Un o brif atyniadau gweithio i Kuhn oedd cyfle i weithio yn

Ffrainc a gwella fy Ffrangeg Safon Uwch. Nid oes neb yma yn siarad llawer o Saesneg ac roedd cyfathrebu yn anodd iawn ar y cychwyn. Serch hynny, rwyf wedi dod yn rhugl ymhen dim ond chwe mis, a byddaf yn ysgrifennu fy holl adroddiadau technegol yn Ffrangeg hefyd. Mae’n sgil gwych i’w ychwanegu at fy CV ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y profiad.

PROFI, PROFIY bore hwn, rydym yn profi un o’r peiriannau torri gwellt ar fferm foch, bîff a llaeth gyfagos. Rydym yn ceisio gwella effeithlonrwydd gwartheg sy’n cynhyrchu llaeth a bîff. Byddaf yn treulio llawer o amser yn ymweld â ffermydd y mae gan Kuhn gytundebau â hwy, ac mae gennyf berthynas dda â’r

ffermwyr.Heddiw, rydym yn sicrhau fod

peiriant torri gwellt newydd yn chwalu gwellt yn wastad cyn gellir dilysu a gwerthu’r peiriant. Rydym yn paratoi'r prawf gan ddefnyddio hambyrddau mewn corlan wag ac yn pwyso’r gwellt sy’n dod allan o’r peiriant. Mae’r prawf yn dangos fod angen i ni wneud rhagor o newidiadau, a dyna fy ngwaith i. Mae’n rhaid i ni feddwl am atebion i ddatrys unrhyw broblemau – a gallai hynny gynnwys awgrymiadau megis datblygu cydrannau newydd.

TAMAID O GINIOBydd y Ffrancwyr yn cael cinio ar yr un adeg bob dydd, a bydd pawb yn stopio i fwyta. Rwy’n

8YB

9YB

12.15YP

Y SWYDD

TECHNEGYDD PROTOTEIPIAUDiwrnod ym mywyd...

Page 25: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

mynd i ystafell ‘pecynnau bwyd’,

sy’n llai na ffreutur, ac rwyf wedi

llwyddo i wneud ffrindiau newydd

er ei bod hi’n anodd oherwydd

rhwystrau ieithyddol. Rwyf wedi

ceisio egluro beth yw’r CFfI, ond

nid ydynt yn deall y cysyniad yn

dda iawn yn Ffrainc! Heb os, mae

fy mhrofiad CFfI wedi fy ngweud

yn fwy hyderus. Roeddwn yn

Ysgrifenyddes Rhaglen ac rwyf yn

aelod gweithgar o fy nghlwb ers

pum mlynedd, a chychwynnais

pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed.

GWAITH ADEILADU Yn ddiweddar, fe wnes i

adeiladu peiriant prototeip gyda

chydweithiwr, ac roedd yn brofiad

difyr iawn. Bydd y dylunwyr

yn y swyddfa yn meddwl am

gynhyrchion newydd, ond

byddwn ni’n gwireddu hynny

iddynt nhw trwy adeiladu

peiriannau newydd neu addasu

rhai presennol.

Roeddwn i’n gyfrifol am y

system drydanol ar y peiriant

newydd hwn ac fe wnes i helpu

â’r system hydrolig a gosod

y cydrannau. Mae’n gyffrous

oherwydd mae’r peiriant bellach

yn cael ei brofi a byddwn yn

gweithio ar welliannau i'r ail

fersiwn ohono hefyd.

Rwyf wedi dysgu sut i ddarllen

cynlluniau hydrolig a thrydanol

go iawn, oedd yn rhywbeth

y gwnaethom ei drafod yn y

Brifysgol. Ond ni fyddwn i wedi

gallu gwneud hynny’n hyderus

cyn dod yma, oherwydd mae’n

eithaf anodd. Roeddwn yn ffermwr

a allai drwsio pethau, ond bellach,

rwy’n beirianwraig a all drwsio

pethau! Pan oeddwn i adref

dros y Nadolig, helpais fy nhad i

drwsio ein peiriant torri cloddiau, a

chynigais awgrymiadau ynghylch

beth oedd o’i le ar y peiriant!

RWY’N DDYFEISWRAIG

Bu’n ddiwedd da i’r diwrnod,

oherwydd mae plât y gwnes

i ei gynllunio i wella system

lwytho un o beiriannau Kuhn

wedi cael ei gynhyrchu. Mae

gweld y darn ar y system a

gwybod y caiff ei ddefnyddio ar

beiriant yn llwyddiant sylweddol.

Rwy’n teimlo fel adeiladwraig a

dyfeiswraig!

Am 5yh rwy’n dychwelyd

adref i fy ‘gite’ mewn tref fechan

o’r enw Belleville-sur-Vie. Dyma’r

tro cyntaf i mi adael fy nghynefin

mewn gwirionedd, felly roedd

symud i Ffrainc am flwyddyn yn

her fawr. Ond byddwn i’n argymell

y profiad i bawb. Rwyf yn wastad

wedi dymuno gwneud rhywbeth

ag ieithoedd, ac ni wnes erioed

feddwl y gallwn i gyfuno hynny ag

amaethyddiaeth.

TEN26 25

1.15YP

5YH

TECHNEGYDD PROTOTEIPIAU“Wedi ychydig dros chwe mis, rwyf bellach yn rhugl a byddaf yn ysgrifennu fy holl adroddiadau technegol yn Ffrangeg.”

wAm ragor o wybodaeth ynghylch canfod swydd mewn

amaethyddiaeth, trowch at www.nfyfc.org.uk/hops i

ddarllen am HOPS.

CYNGOR YNGHYLCH LLEOLIADAU GWAITH Ydych chi’n ystyried

blwyddyn allan o’r

Brifysgol? Gallai blwyddyn

mewn diwydiant sicrhau

gyrfa well i chi. Gallai

lleoliad:

l Eich helpu i ddewis eich

gyrfal Rhoi rhagor o wybodaeth

i chi am fyd gwaith a heriau

newyddl Eich cyflwyno i bobl

newydd a allai eich helpu yn

y dyfodoll Rhoi hwb i’ch sgiliau.

Page 26: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

Roedd abseilio i lawr wyneb craig un prynhawn gwyntog yn ffordd braidd yn frawychus o brofi penwythnos preswyl y

Fforwm Ieuenctid am y tro cyntaf – ond roedd yn ddifyr dros ben! Ymunais â 10 aelod arall ar daith wych i Ynys Manaw yn Chwefror, ac yn ogystal â hongian ar y rhaffau, fe wnes i ffrindiau newydd a dysgu rhagor am fod yn Ffermwr Ifanc ar yr ynys. Yn wir, rwy’n credu y gwnes i syrthio mewn cariad ag Ynys Manaw – mae’n wledig ac yn hardd iawn.

Collais y cyfle i fynychu Penwythnos Preswyl y llynedd, felly roeddwn i’n benderfynol o gael blas o’r cyffro y tro hwn. Fe wnaethom aros yn y Venture Center - un o ganolfannau gweithgareddau awyr agored yr ynys - ac roedd digonedd i’w wneud yno. Roedd yr abseilio yn un yn unig o weithgareddau Sadwrn llawn cyffro. Fe wnaethom abseilio i lawr coed ac adeiladau cyn cyrraedd wyneb y graig. Ar waethaf crynu yn sgil yr oerfel a’r ofn, roedd pawb yn teimlo'n llwyddiannus dros ben ar ôl gorffen!

Yn y prynhawn, fe wnaethom rannu’n ddau grŵp a chawsom fwynhau saethu gynnau aer a saethyddiaeth. Yn ystod y gweithgaredd saethyddiaeth, roedd rhaid i ni geisio byrstio balŵns ein

gilydd oedd wedi’u bachu ar y bwrdd, ac roedd hynny’n ddifyr iawn!

Wedi’r holl gyffro, roedd rhagor o hwyl yn ein disgwyl. Gyda’r hwyr, fe aethom i fwyty yn nhref gyfagos Ramsey i gwrdd â 10 Ffermwr Ifanc o’r ynys a’u cydlynydd. Roedd yn wych cael gwybod rhagor am weithgareddau eu clybiau. Maent wrthi’n paratoi at gyngerdd blynyddol lle bydd yr holl Ffermwyr Ifanc yn perfformio – gwerthwyd pob tocyn! Rwy’n synnu o glywed fod mwy nag un CFfI ar yr ynys fechan. Mae gan eu sefydliad bedwar clwb – Gogledd, De, Dwyrain a Chanol – ac ystyrir fod 45 munud yn daith hir. Mae hyn yn ddoniol iawn oherwydd mae’n rhaid i rai ohonom deithio cymaint â hynny i gyrraedd yr ysgol neu’r gwaith yn y Deyrnas Unedig.

Siaradais ag un aelod oedd wedi cael trafferth canfod digon o waith

26 TEN26

WEDI PENWYTHNOS LLAWN HWYL YN YNYS MANAW, GADAWODD AMY SWINBANK O FfCCFfI CUMBRIA AG ATGOFION MELYS A SWYDD NEWYDD

RWY’NCARU YNYS MANAW

FFORWMFFORWMIEUENCTIDIEUENCTID

Page 27: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 27

SEFYDLWCH FFORWM IEUENCTIDYn ddiweddar, mae Amy Swinbank wedi sefydlu Fforwm Ieuenctid yn Cumbria i sicrhau llais i aelodau iau y Sir.

“Pan edrychais o amgylch cyfarfodydd Cyngor y Sir, roedd y rhan fwyaf o’r aelodau dros 20 mlwydd oed, ond aelodau iau yw’r gyfran fwyaf o’r aelodaeth,” meddai Amy, a ddenodd 11 aelod i’w chyfarfod cyntaf ym mis Ionawr. Amy yw Cadeirydd Fforwm Ieuenctid Cumbria ac mae dau is-gadeirydd sy’n cynrychioli ardaloedd gogleddol a deheuol y sir. “Gwelais sut oedd siroedd eraill wedi sefydlu fforwm yn llwyddiannus - yn enwedig yng Nghymru - ac roeddem yn dymuno gwneud hynny hefyd.”

Os hoffech gyngor ynghylch sefydlu Fforwm Ieuenctid yn eich Sir, e-bostiwch ein Swyddog Gwaith Ieuenctid [email protected]

amaethyddol ar yr ynys, ac felly mae’n rhannu ei wythnos waith rhwng bod yn drydanwr a bod yn weithiwr amaethyddol â chontract.

Roedd rhaid cychwyn yn gynnar y bore wedyn i gynnal ein cyfarfod swyddogol, a chefais fy ethol yn Is-gadeirydd y Fforwm Ieuenctid! Mae’n brofiad mor gyffrous i mi oherwydd byddaf yn cefnogi Cadeirydd newydd y Fforwm Ieuenctid, Danielle McNulty o Swydd Caerloyw, sydd wedi cymryd yr awenau gan Sioned Davies. Dyma fy mlwyddyn olaf fel aelod o’r Fforwm Ieuenctid, felly roeddwn yn gwybod mai eleni oedd y flwyddyn olaf i allu achub ar y cyfle.

Yn ystod gweddill y cyfarfod, trafodwyd gweddill ein cynlluniau i’r dyfodol. Byddwn yn trafod â NatWest yn fuan i weld a ydynt yn fodlon noddi ‘Gwyliwch y Dom Da’, ein gêm addysgol o’r giât i’r plât. Rwyf wedi

cyfranogi at y gwaith o gynllunio’r gêm hon ac mae’n dda gweld ei bod wedi datblygu i’r fath raddau. Cefais gyfle i fynd â’n prototeip i ysgol leol i’w brofi oherwydd rwy’n astudio am gymhwyster estynedig yn yr ysgol sy’n seiliedig ar ba mor dda mae plant yn gwybod o ble daw eu bwyd. Roedd yr adborth yn bositif iawn ac roedd y plant yn dysgu ac yn cael hwyl.

Daeth ein cyfarfod i ben am 1 o’r gloch y pnawn ac roedd hi’n ras wyllt i’r maes awyr i ddal yr awyren. Roedd gadael yn brofiad trist oherwydd roeddem oll wedi dod yn ffrindiau da, ond gobeithio y cawn oll gyfarfod eto’n fuan.

Yn sicr, mae bod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid wedi rhoi hwb i fy hyder. Roedd yn benwythnos gwych i gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.Amy Swinbank, CFfI Eden Valley

Page 28: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

PARTH CFFI

DDIM WEDI CYCHWYN

TRYDAR? DYMA DDETHOLIAD

O DRYDARIADAU EIN

HAELODAU...

TRYDARWCH

Vicky Parkinson

@VickyP_92

Newydd drefnu gwyliau

o’r gwaith ar ddyddiadau

CCB @NFYFC .

3 Chwefror 2015

Helen Brown

@HelenBruwn

Ar y ffordd i Ynys

Manaw i gyfarfod fforwm

ieuenctid @NFYFC!

#ontourIOM2015

30 Ionawr 2015

Katie Evans

@KatieJaneEvans

Dylwn i fod yn gweithio yn

lle chwilio am syniadau

am wisgoedd ffansi ccb

@FfCCFf #waymorefun

#rollonApril

13 Ionawr 2015

Emma Clements

@Em_Clem1

Drama’r Geni wych gan

y CFfI. Da iawn pawb

a helpodd i drefnu a’r

actorion/cantorion. #nativity

#yfcstyle @Suffolkyfc

@Hadleigh_YFC

14 Rhagfyr 2014

I FYNY FO’R NODFe wnaeth deg aelod dewr o FfCFfI Swydd Lincoln

wneud naid awyr yn Hibaldstow i godi dros

£2,500 i Brake, yr elusen diogelwch ar y ffyrdd,

a’r Ffederasiwn Sirol. Yn ogystal

â chodi arian, roedd aelodau’n

dymuno gwella ymwybyddiaeth o

waith da’r ddwy elusen. Dywedodd

y Trefnydd Sirol Helen Jones:

“Mae FfCFfI Swydd Lincoln

yn ddiolchgar i bob aelod a

gyfranogodd yn y digwyddiad a’r

rhai â helpodd yn y cefndir.”

PWDIN ARBENNIG I DDATHLU PEN-BLWYDD YN 70 Fe wnaeth pwdin hufen iâ arbennig sicrhau diweddglo melys i ddawns a chinio 70ain pen-blwydd CFfI Caergaint, a llwyddwyd i godi £500 i elusen Reverse Rett hefyd. Fe wnaeth cwmni teuluol Solley’s Kentish Ice Cream greu hufen iâ arbennig â blas tarten afal ynghyd â saws taffi a thameidiau cyflaith menyn ar gyfer eu parti thema 1940au. Fe wnaethant hefyd gyfrannu 250 twb hufen iâ unigol ar gyfer pwdin ‘jeli a hufen iâ’ traddodiadol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Spitfire Ground yng Nghaergaint, a chafodd awyrgylch yr Ail Ryfel Byd ei ail-greu, oherwydd sefydlwyd y Clwb bryd hynny. Roedd y bechgyn yn gwisgo lifrau milwrol neu siacedi ciniawa, ac roedd y merched yn gwisgo dillad o’r cyfnod neu iwnifform merched ‘byddin y tir’.

Y DE-DDWYRAIN

DWYRAIN Y CANOLBARTH

EICHEICHBLOEDDBLOEDD

HOLL NEWYDDION Y CLYBIAU A

SYLWADAU O RANBARTHAU CFFI

Page 29: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

Aeth CFfI Newton St Cyres i Ffrainc ddwywaith yn ddiweddar ar ddau achlysur gwahanol.

Trefnwyd taith astudio 4 diwrnod gan Lywydd y Clwb, Stewart Turner, a’r aelod ymgynghorol, Stewart Luxton, ac roedd yn cynnwys ymweliad â safleoedd enwog megis Bayeux, amgueddfa glaniadau D-Day, Pont Pegasus a Mont Saint-Michel.

Roedd y daith hefyd yn cynnwys ymweliadau â ffermydd bîff a llaeth

yn Commes, oedd yn gyfle i’r 14 aelod weld dulliau gwahanol o ffermio.

Dychwelodd chwech o aelodau’r Clwb i’r wlad fel rhan o’r grŵp o 58 aelod o FfCFfI Dyfnaint aeth ar y daith sgïo flynyddol i Val Thorens.

“Fe wnaeth pawb fwynhau wythnos ddifyr, ac yn ffodus, dychwelodd pawb heb unrhyw anafiadau,” meddai Georgina Davie. “Nawr, rydym yn trefnu taith nesaf ein clwb!”

TEN26 29

VIVE LA FRANCEW la la, CFfI Newton St Cyres yn mwynhau pleserau Ffrainc ar ddwy daith dramor

Y DE-ORLLEWIN

CLWB: CFfI Hope Valley, Swydd Derby

AELODAU: 30

CYFARFOD GORAU: Un o’r goreuon oedd sgwrs gan Craig Wilkinson am ei waith gyda’r athletwyr yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 a pharatoadau at Gemau Rio yn 2016.

CYSTADLEUAETH ORAU: Rydym yn adnabyddus am farnu stoc a’n crysau harlecwin yn y gystadleuaeth tynnu rhaff.

ELUSEN: Rydym yn cefnogi Hosbis Plant Bluebell Wood sy’n cynnig cymorth a gofal i blant sydd â disgwyliad oes fyrrach, yn eu cartrefi ac yn yr hosbis. Rydym hefyd yn cefnogi Rhwydwaith Cynnal Canser yr Arennau, sy’n rhwydwaith dan arweiniad cleifion ac mae'n cynnwys cleifion canser yr arennau, gofalwyr a theuluoedd y mae canser yr arennau yn effeithio arnynt. Yn ein Harwerthiant Cynhaeaf, fe wnaethom godi dros £2,700 i’r elusennau a gefnogir gennym.

CLYBIAU GWYCHMae ein CFfI yn wych ac rydym yn rhannu’r cariad yn y rhifyn hwn trwy ddatgelu un o enillwyr Clwb y Mis YFC Buzz.

A hoffech chi frolio am eich clwb? E-bostiwch [email protected].

uk i ymddangos yn y rhifyn nesaf.

e

CF

FI

H

O P E V A L L E Y

H

S W Y D D D E R BY

H

Page 30: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

PARTH CFFI

CORNEL ELUSENNAU

Boobie bash! PWY: CFfI Ramsey

ELUSEN: Elusen canser y fron

Coppafeel – sy’n canolbwyntio ar wella

ymwybyddiaeth o’r anhwylder ymhlith

pobl iau.

GWEITHGAREDD: Parti addurno

bronglymau a pharti ‘Boobie Bash’ i

wella ymwybyddiaeth a chodi £658

i’r elusen. Daeth 80 o bobl o glybiau o

bob cwr o Swydd Caergrawnt i barti CFfI

Ramsey fis Hydref diwethaf. Fe wnaeth

y clwb godi arian trwy werthu tocynnau

a chynnal raffl oedd yn cynnwys

gwobrau gan aelodau a noddwyr.

EU GEIRIAU HWY: Dywedodd

Amy Corney: “Yn ogystal â’r parti, fe

wnaethom hefyd drefnu cystadleuaeth

addurno bronglymau yn ystod un

o gyfarfodydd ein Clwb. Fe wnaeth

llawer o aelodau wisgo’u bronglwm ar

ben eu dillad, ac fe wnaeth llawer o’r

bechgyn gyfranogi hefyd. Cawsom

ddeunyddiau hyrwyddo gwych gan

Coppafeel, yn cynnwys sticeri, cardiau

gwybodaeth, balŵns a thatŵs cyfoes.”

Y DWYRAIN

DWYRAIN Y CANOLBARTH

Llongyfarchiadau i Helen Jones, Trefnydd Sirol Swydd

Lincoln, ar achlysur ei phriodas â Robert ym mis Medi y

llynedd. Car priodas perffaith!

Priodas hapus

CYNAEAFWYR BLEWOG Fe wnaeth tyfu barf trwy gydol y tymor cynaeafu helpu chwe Ffermwr Ifanc o Swydd Bedford i godi £1,200 i’w gwasanaeth ambiwlans awyr lleol. Dan yr enw addas ‘Cynaeafwyr Blewog’, fe wnaeth y chwech addewid i dyfu barf am bedwar mis o ddiwrnod casglu’r silwair cyntaf ar 13 Mai nes i’r combein olaf orffen ei waith ar 15 Medi.

Dywedodd Ainsley Jones: “Hoffem annog aelodau neu grwpiau i godi arian ar gyfer elusennau yn ystod cynhaeaf eleni.”

Y DWYRAIN

STORI DEGANAUYmdrechodd y sir gyfan pan roddodd pob un o

13 clwb Maesyfed deganau a basgedi bwyd i

Wasanaethau Plant Powys.

Nod yr ymgyrch Nadoligaidd oedd rhoi

anrhegion tymor ewyllys da i blant difreintiedig

yn hen Sir Faesyfed ym Mhowys. Dywedodd

Is-gadeirydd CFfI Cymru Vicky Hope ei fod yn

brosiect a ddenodd sylw llawer iawn o aelodau.

“Fe wnaeth y clybiau uniaethu â’r ymgyrch hon,

oherwydd roedd llawer o’r anrhegion ar gyfer pobl

oedd fwy neu lai yr un oed â hwy,” meddai Vicky.

“Rydym yn gobeithio cefnogi’r gwasanaeth bob

blwyddyn, oherwydd mae’n helpu pobl ifanc

ddifreintiedig yn ein hardal leol.”

CYMRU

Page 31: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

TEN26 31

TÂN ARNIDysgodd CFfI Doncaster am ddiogelwch tân yng Ngorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Swydd Efrog. Roedd yr ymweliad yn cynnwys eglurhad o sut mae’r orsaf wedi’i threfnu a sut ymatebir i alwadau brys pan fyddant ar ddyletswydd. Cawsant gyfle hefyd i ddefnyddio pibell ddŵr nerthol. Dywedodd Sophie Raper, Trysorydd CFfI Doncaster: “Mae hwn yn wasanaeth pwysig y mae angen i bawb wybod amdano, oherwydd bydd aelodau yn gweithio gyda pheiriannau mawr ac mae perygl o dannau ar dir agored.”

Mae aelodau CFfI

Dilwyn wedi bod yn

baeddu eu dwylo ac

yn cefnogi’r gymuned

i geisio rhoi hwb i gronfeydd y

Clwb.Fe wnaethant ddanfon gwrtaith

fferm i arddwyr brwdfrydig y

plwyfi cyfagos i roi hwb i welyau

blodau a chodi £210 i’r clwb

gweithgar. Dilynwyd hynny ag

ymgyrch llenwi bagiau yn siop

Asda yn Henffordd a chodwyd

£510 tuag at y parseli bwyd

Nadoligaidd y bydd y Clwb yn eu

rhoi i drigolion hŷn Dilwyn.

Daeth blwyddyn lwyddiannus

y Clwb i ben â phenwythnos

canu carolau ym mis Rhagfyr,

ac ymwelwyd â thafarnau yn

Swydd Henffordd a chartrefi

yn Dilwyn gan lwyddo i godi

£1,020! Talodd y gronfa am

ddiffibrilydd i'w gadw yn Dilwyn

a chyfraniad o £200 tuag at

Ambiwlans Awyr Gorllewin y

Canolbarth.

“Fe wnaethom rannu’n ddau

dîm i fynd i ganu carolau, a

chawsom gyfeiliant trymped a

chlarinét,” meddai Beth Hanson.

“Dyma’r swm mwyaf o arian

mae’r clwb wedi’i godi trwy ganu

carolau!”

MEWN BAW MAE HEL ARIAN

GORLLEWIN Y CANOLBARTH

Y GOGLEDD

“Fe wnaethom rannu’n ddau dîm i fynd i ganu

carolau, a chawsom gyfeiliant trymped a chlarinét. £1020 yw’r swm mwyaf o arian mae’r

clwb wedi’i godi trwy ganu carolau!”

A OES GENNYCH STORI?!A HOFFECH WELD HANES EICH CLWB YN Y CYLCHGRAWN? ANFONWCH EICH LLUNIAU A’CH HANESION AT:

[email protected] neu ffoniwch 02476 857200 i siarad â’r tîm!

Page 32: Ten26 Spring 2015 (Welsh)

Aeth SuperMoo ar y piste yn ystod taith sgïo FfCCFfI a chafodd amser gwych yn eirafyrddio. Welwch chi bum gwahaniaeth rhwng y ddau lun o SuperMoo yn gwneud ei gampau?

WELWCH CHI’R GWAHANIAETH?

ENILLWCH GRYSAU POLO I’CH CLWB I FYND I’R GYNHADLEDD FLYNYDDOL!

T&A: Dewisir un enillydd ar hap. Mae angen i chi fod yn aelod o Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc i ennill y wobr hon. Ni ellir trosglwyddo’r wobr, ac ni chynigir arian yn lle’r wobr.

Mae FfCCFfI a Young Farmers Clothing wedi dod ynghyd i gynnig cyfle i chi ennill 10 crys polo swyddogol yn rhad ac am ddim i fynd i Gynhadledd Flynyddol eleni! Mae Young Farmers Clothing yn darparu dillad pwrpasol â brodwaith arnynt a dillad wedi’u hargraffu ar gyfer pob mathau o weithgareddau CFfI, yn cynnwys chwaraeon, teithiau a digwyddiadau codi arian.

I gael rhagor o wybodaeth, trowch at www.youngfarmersclothing.

com, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01584 813 801.

I gael cyfle i ennill y crysau polo yn rhad ac am ddim i’ch clwb, nid oes angen i chi wneud dim ond ‘Hoffi’ Young Farmers Clothing ar Facebook. Mae’n hawdd iawn! Dewisir yr enillydd trwy dynnu enw o het ddydd Gwener 10 Ebrill 2015 – BOB LWC!

SUT I GYSTADLU

CYSTADLAETHAUCYSTADLAETHAUCYMERWCH HOE I WNEUD EIN CWISIAU

HWYLIOG AC ENNILL GWOBR!

Atebion O’r Fferm

Yn falch o gefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc

www.tama-uat.co.uk+44(0) 1420 545 800