SWEENEY TODD ANGHARAD LEE G anwyd Angharad Lee yn y Porth, y Rhondda. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr theatr, opera a ffilm ers 2009 yn ogystal ag astudio ar gyfer MA yn y Coleg Cerdd a Drama. Fe’i hyfforddwyd fel actores yn y Coleg Cerdd a Drama ac yna fel cantores yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Mae Angharad hefyd yn hyfforddwr llais Shakespeare ar gyfer y Cwrs BA perfformio yn y Drindod Dewi Sant, ac yn gweithio fel darlithydd mewn ysgrifennu newydd ym Mhrifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ei chyfweliad eglura Angharad mai arddull y ddrama Sweeney Todd yw melodrama a’i bod hi fel cyfarwyddwr yn awyddus i roi cynhyrchiad symbolaidd o’r sioe gerdd dywyll yma. Eglura bod Sondheim yn glyfar iawn ac wedi creu motif cerddorol ar gyfer pob cymeriad a bod y motifs rheiny yn cael eu hailadrodd yn gyson drwy’r sioe fel ein bod yn adnabod y cymeriadau drwy eu motif cerddorol. Er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn gwbl symbolaidd yr hyn wnaeth hi fel cyfarwyddwr benderfynu arno oedd personoli’r propiau i gyd. Elfen gryfaf y sioe i Angharad yw’r defnydd o’r ensemble - nhw sy’n creu’r naws angenrheidiol, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am ddangos y lleoliad yn y cynhyrchiad. Yr ensemble oedd yn symud y set, yn personoli’r propiau i gyd ac yn creu’r delweddau theatrig ar y llwyfan. Mae Sweeney ei hun yn y gân Ffrindiau yn personoli’r raseli ac yn sôn amdanynt fel ei ffrindiau personol. Daeth y syniad wedyn o bersonoli pob prop a’u defnyddio i ddweud y stori yn hytrach na chael set. Dechreuodd y cynhyrchiad gyda phob aelod o’r ensemble yn eistedd ar gadair a defnyddiwyd y cadeiriau wedyn i greu gofodau diddorol ar y llwyfan. Roedd yr ensemble felly yn bresennol trwy gydol y cynhyrchiad ac yn gwylio’r digwydd i gyd gan ymateb yn eu tro i’r digwyddiadau gwahanol. Gan nad oedd cyllid mawr greu set penderfynodd Angharad i greu’r ffwrn drwy gael Mrs Lovett yn dal peiriant mwg tuag at gornel o’r llwyfan lle’r oedd lamp goch yn cynrychioli’r ffwrn ac wrth i Mrs Lovett danio’r peiriant mwg cafwyd delwedd o ffwrn boeth yng nghornel yr ystafell. Yn yr olygfa lle’r oedd gwerthwr adar ar y stryd a Johanna yn canu am y fronfraith, defnyddiodd Angharad yr ensemble i gyd yn cario cawell ac aderyn ynddo i greu marchnad brysur. Yng nghân y llythyr daeth y syniad o bersonoli’r lamp ar y ddesg ac felly defnyddiwyd lampau bychain gyda golau batri ynddynt a rhoddodd yr ensemble y rhain ar eu pennau fel hetiau. Eglura Angharad fod modd defnyddio’r broblem o ddiffyg cyllid i greu set ddrudfawr wrth feddwl yn artistig a meddwl beth oedd yn bosib creu delweddau diddorol ar lwyfan. Ac felly, daeth y syniad o ddefnyddio’r ensemble a chreu cynhyrchiad cwbl symbolaidd. GWEITHGAREDD Yn ei chyfweliad fe ddywedodd Angharad Lee ei bod wedi cyfarwyddo Sweeney Todd yn gwbl symbolaidd. Sut fyddech chi’n mynd ati i lwyfannu nifer o’r golygfeydd yn symbolaidd? Edrychwch ar glipiau o berfformiad BA Perfformio y Drindod Dewi Sant er mwyn gweld sut wnaeth Angharad Lee gyfarwyddo nifer o’r golygfeydd yn symbolaidd. Sut fath o syniadau fyddai gennych chi? Efallai yr hoffech drafod y golygfeydd canlynol: • golygfa lle mae Todd yn derbyn y llafnau gan Mrs Lovett (Tud 14-17) • golygfa Johanna â’r gwerthwr adar (tud 17-19) • y golygfeydd lle mae Todd yn tagu ei gwsmeriaid • gweld y becws am y tro cyntaf (tud 80 a thud 83)