Business Wales Supporting businesses in Wales 03000 6 03000 business.wales.gov.uk Contact Business Wales for information, advice and support to start or grow your business. Busnes Cymru Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau newydd a rhai sydd wedi’u sefydlu yng Nghymru. Os ydych chi’n ystyried dechrau busnes newydd neu’n awyddus i ddatblygu eich busnes presennol, gallwnni helpu. Mae Busnes Cymru yn cefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig ledled y wlad wrth gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes sy’n cynnwys: Dechrau busnes: • Eich helpu i benderfynu a yw rhedeg busnes yn addas i chi • Sut i ysgrifennu cynllun busnes • Cyngor busnes • Sut i godi cyllid • Marchnata • Sut i ddiogelu’ch eiddo deallusol Cymorth Rheoli Busnes Cyffredinol: • Twf busnes • Adolygiadau busnes • Cynllunio busnes a strategaeth • Amcanestyniad cyllidol • Cael gafael ar gyllid • Marchnata • Mynediad i gymorth ehangach gan y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector Cymorth i Dendro: • Cymorth un i un i baratoi holiaduron cyn-gymhwyso a thendrau • eGaffael • Sut i dendro ar y cyd • Digwyddiadau cwrdd â’r prynwr Cyngor ar Gyflogaeth: • Deall a rhoi arferion gorau cydraddoldeb ac amrywiaeth ar waith • Gweithdrefnau cwynion a disgyblu • Polisïau bwlio ac aflonyddu • Rheoli absenoldeb • Contractau cyflogaeth • Gweithio hyblyg Cyngor ar Reoli Amgylcheddol: • Adolygu’r perfformiad amgylcheddol presennol • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion cyfreithiol • Deall y gost o’r defnydd presennol ar adnoddau • Gwella effeithlonrwydd trwy leihau gwastraff • Cynllunio camau gweithredu amgylcheddol Masnach Rhyngwladol: • Ymchwilio i gyfleoedd i allforio • Masnachu mewn gwledydd eraill • Ymchwilio i farchnadoedd • Darparu canllawiau i allforwyr newydd • Cyfeirio at Lywodraeth Cymru, UKTI a darparwyr cymorth allforio eraill Cefnogaeth eFusnes: • Parhad busnes • Rheoli cysylltiadau cwsmer • Diogelwch gwybodaeth • Cyfathrebu unedig • Gwella cadwyni cyflenwi Gwasanaeth Mentora: Bydd Busnes Cymru’n hwyluso mynediad at pobl busnes proffesiynol profiadol fydd yn cynnig cymorth annibynnol a diduedd i’ch helpu chi dyfu eich busnes. Gweithdai: Mae ein gweithdai a’n digwyddiadau yn cael eu teilwra ar gyfer pob rhan o ddechrau a datblygu busnes. Mae rhestr lawn ar gael ar wales.business-events.org.uk/cy, yn cynnwys: • Cyrraedd a chadw cwsmeriaid • Sut i dendro (Rhagarweiniad ac Uwch) • GwerthwchiGymru • eGaffael • Brandio • Marchnata ar y We • Cyfryngau Cymdeithasol • Recriwtio • Contractau Cyflogaeth • Arbed Ynni • Sut i Allforio • Cael gafael ar Gyllid Busnes • Codi Cyfalaf Menter business.wales.gov.uk @_businesswales Business Wales Gallwch gael gafael ar yr holl wybodaeth yma, a mwy drwy fynd i busnes.cymru.gov.uk, ffonio 03000 6 03000, mynychu rhai o’n gweithdai neu ddigwyddiadau: wales.business-events.org.uk/cy neu trefnu i gwrdd ag un o’n cynghorwyr medrus yn un o dros 40 o swyddfeydd Busnes Cymru sydd ym mhob cwr o’r wlad. © Crown Copyright 2015 WG25407