Top Banner
o gwmpas 2010 yng nghefn gwlad Sir Ddinbych tasgau i’r teulu teithiau cerdded gweithgareddau am ddim Rhifyn Arbennig i Ddathlu Pen-blwydd Tŵr y Jiwbilî yn 200 oed, a AHNE Bryniau Clwyd yn 25 oed Q
28

Rhifyn Arbennig i Ddathlu Pen-blwydd Tr y Jiwbilî yn 200 oed ......2010 o gwmpas yng nghefn gwlad Sir Ddinbych tasgau i’r teulu teithiau cerdded am ddim gweithgareddau Rhifyn Arbennig

Jan 30, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
  • o gwmpas2010yng nghefn gwlad Sir Ddinbych

    tasgau i’r teuluteithiau cerdded gweithgareddau am ddim

    Rhifyn Arbennig i Ddathlu Pen-blwydd Tŵr y Jiwbilîyn 200 oed, a AHNE Bryniau Clwyd yn 25 oed

    Q

  • CroesoMae’r arweiniad hanfodol hwn i deithiau cerdded gydagarweinydd, ac i weithgareddau a thasgau cadwraeth yngNghefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnig mwy o brofiadausy’n addas ar gyfer hyd yn oed mwy o bobl.

    Eleni, rydym yn dathlu pen-blwydd Ardal o HarddwchNaturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn 25 oed, ac aeth dwyganrif heibio ers gosod carreg sylfaen Tŵr y Jiwbilî ar gopaMoel Famau. Cadwch eich llygaid yn agored am y symbolauhyn a chofiwch wylio ein gwefanwww.ahnebryniauclwyd.org.uk am fwy o wybodaeth.

    Gofynnir ichi roi adborth inni gan ddefnyddio’r ffurflen syddyn y llyfryn hwn, a’r taflenni gwerthuso fydd ar gael ar ydiwrnod.

    Archebwch le o flaen llaw ar y gweithgareddau a’r teithiausydd â’r arwydd yma Y yn ystod y saith niwrnod cyn ydigwyddiad. Os na allwch ddod, yna rhowch wybod inni amfod gennym restr wrth gefn o bobl sydd am ymuno.

    Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau mynd OGwmpas yng nghefn gwlad gwych Sir Ddinbych.

    Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych

    Parc Gwledig, Loggerheads, yr Wyddgrug, Sir Ddinbych. CH7 5LH

    � 01352 810614 Ebost: [email protected] Cefn Gwlad Sir Ddinbych

    Adran Dwristiaeth, Diwylliant a a Chefn Gwlad

    Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd

    Cyngor Sir Ddinbych

    Derbyniodd y llyfryn hwn a’r

    digwyddiadau hyn

    gymhorthdal oddi wrth

    Gyngor Cefn Gwlad Cymru a

    Chronfa Amaethyddol Ewrop

    er Datblygiad Gwledig.

    Ffotograffau

    Sylwch; yn y rhan fwyaf o’n

    digwyddiadau rydym yn tynnu

    lluniau a fydd efallai’n

    ymddangos yn ein llyfrynnau

    a’n cyhoeddusrwydd yn y

    dyfodol. Os nad ydych yn

    dymuno hyn, yna dywedwch

    wrth un o’r arweinwyr cyn i’r

    digwyddiad ddechrau.

    'Yn unol â pholisi Dim Ysmygu

    Cyngor Sir Ddinbych, gofynnir i

    bob un o’r rhai sy’n cymryd

    rhan beidio ag ysmygu yn ystod

    y gweithgareddau, y

    digwyddiadau a’r teithiau

    cerdded sydd yn y rhaglen hon.'

    2

    Edrychwch am y logos a’r arwyddion hyn.

    �+ - Dylech ddeall efallai na fydd y �+ digwyddiad hwn o ddiddordeb i

    blant sydd o dan 5/ 8 oed

    Ò - Codir tâl am y digwyddiad hwn

    200

  • Dewch i’r digwyddiad ar y bws, alleihau eich ôl troed carbon!

    Mae Bws y Dyffryn yn teithio drwy Ddyffryn Clwyd, aBws yr Arfordir yn teithio ar hyd glannau môr gwych SirDdinbych.

    Gwasanaeth Haf yw Bws Clwyd sy’n rhedeg o ddechrauGorffennaf hyd ddiwedd Medi ar y Suliau ac ar Wyliau Banc.Mae’n cysylltu dechrau a diwedd teithiau cerdded aphentrefi Bryniau Clwyd AHNE gyda Chaer, trefi GogleddCymru a rhwydwaith y rheilffyrdd.

    Eleni, ceir cysylltiadau newydd o’r Rhyl, Prestatyn ac oLangollen i Barc Gwledig Moel Famau - sydd â Thwr yJiwbilî ar y copa - a Choedwig Llandegla ble gallwch logibeiciau a mwynhau’r llwybrau beicio oddi-ar-y-ffordd.(www.coedllandegla.com).

    Ceir arweiniad i Fws Clwyd yn yr orsaf bysiau leol, yCanolfannau Croeso, llyfrgelloedd a Chanolfan Cefn GwladLoggerheads.

    Grŵp Cludiant Teithwyr01824 706968www.sirddinbych.gov.uk/highways01352 704035www.flintshire.gov.uk

    Pam dylwn ni ddefnyddiotrafnidiaeth gyhoeddus yn lledefnyddio’r car?

    �Mae’n well i’r amgylchedd! Dyma’r rheswm gorau i deithio arfws, yn arbennig mewn lleoedd gwarchod.

    �Mae’n well i chithau! Efallai mai taith fer yn unig fydd cerddedyn ôl ac ymlaen o’r bws ond mae’n cyfrannu at eich ymarfercorff dyddiol.

    �Mae’n garedig i’ch pwrs! Yn ôl pa mor bell rydych chi’n teithio,gall fod yn werth eich arian am na fydd rhaid ichi dalu ambarcio ac am betrol. Os prynwch docyn dydd Bws Clwydgallwch deithio ar nifer o fysiau am ddim.

    �Gallwch fwynhau’r olygfa! Pan rydych yn gyrru’r car, allwch chiddim edrych o’ch cwmpas i fwynhau golygfeydd rhyfeddolBryniau Clwyd, ond ar y bws, rydych yn rhydd i wneud hyn, acmae’r olygfa’n well o sêt uchel y bws.

    �Does dim trafferth chwilio am le i barcio! Peth rhwystredig drosben yw methu dod o hyd i le parcio. Does dim angen poeni amhyn wrth deithio ar y bws!

    3

    CynnwysCipolwg ar y Digwyddiadau 4

    Hwyl i’r Teulu 6

    Teithiau Cerdded Gydag 14Arweinydd

    Tasgau Ymarferol 27

    Map 30

  • cipolwg ar y digwyddiadaudyddiad digwyddiadai tudalen dyddiad digwyddiadai tudalen

    4

    Ionawr

    13 Taith Gerdded Nordig Caer Drewyn 15

    29 & 30 Plygu Gwrychoedd 27

    30 Gweithdy Adnabod Coed y Gaeaf 15

    Chwefror

    3 - 5 Plygu Gwrychoedd 27

    17 Taith Nordig Moel Famau 15

    24 Taith Nordig Prestatyn 15

    Mis Mawrth

    17 Taith Nordig Llangollen 15

    24 Taith Nordig Lady Bagot 15

    27 Mawrth Cwis yr Wyau yn Loggerheads 6- 11 Ebrill

    Ebrill

    2 Dilyn Trywydd y Pasg 6

    2 - 5 Helfa’r Wyau Pasg 7

    5 Helfa Wyau Pasg Talacre 7

    7 Cerddwch ar hyd Llwybr Tyrnog 15

    8 Helfa’r Casys Wyau 7

    10 Ar dy feic ym Mrenig 15

    14 Pistylloedd, ogofau, plwm ac iâ 15

    17 Gwylio’r Lloer 7

    23 Ffotograffiaeth Ddigidol 16

    28 Gwella Cartref Madfall y Tywod 27

    Mai

    2 Creaduriaid y Dw ̂ r 7

    2 Taith Gerdded Côr y Wawr 16

    6 Ar y Trên Drwy’r Gorffennol 16

    7 Ysbrydion y Goedwig 16

    7 Tro drwy goedwig y gwanwyn gyda 16chipolwg ar y gorffennol

    7 Rhoi croeso i y Fôr Wennol fach 27

    12 Taith y Morwenoliad 17

    13 Cerdded a Thynnu Llun 17ym Mryniau Clwyd

    14 - 16 Gŵ yl Gerdded Prestatyn 17

    15 Dal Gwyfynod yn Loggerheads 17

    16 Coed a Phistylloedd Cynwyd 17

    20 Taith ar Garped Hud 18

    26 Cerdded ar y Gefnen 18

    27 Machlud ar Dŵ r y Jiwbilî 18

    Mehefin

    1 Daeareg a’ch Dychymyg 7

    2 Cyfarfod â’r Mwynwr 7

    3 Nos yn Nercwys 18

    4 Teithiau i’r Teulu yn y Brenig 7

    4 Dilyn Trywydd yr Anifeiliaid 18

    4 - 6 Gŵ yl y Goedwig 18

    6 Diwrnod Bioamrywiaeth Brenig 8

    7 Taith Bioamrywiaeth ar y Trên 8

    8 Crwydro Corwen yn y Gymraeg 19

    9 Natur a Diwydiant 19

    9 Brwydr y Balsam a Buffe 27

    10 Nos yn Nercwys 19

    11 Planhigion ac Anifeiliaid 19

    11 Gloÿnnod, Moch Daear ac Ystlumod 19

    12 Garddio ar gyfer y Bywyd Gwyllt 8

    13 Beicio yn y Brenig 8

    15 Ar y Carped Hud 19

    18 Yn ôl â ni i Oes yr Efydd 20

    19 Gwylio’r Moch Daear i’r Teulu 8

    21 Taith Gŵ yl Ifan ar Godiad yr Haul 20

    22 Oes y Cerrig a mwy 20

    23 Llwybr Lleisiau, Loggerheads, sylwebaeth fyw 20

    Gorffennaf

    2 Saffari yng Ngolau’r Lleuad 8

    2 Baith Dolen Brenig 21

    4 Rhwysg y Rhostiroedd 8

    4 O Gwmpas Trywydd yr Alwen 21

    6 Calchfaen, Oes yr Iâ ac Ogofeydd 21

    8 Y tu isaf i Benycloddiau 21

  • 14 Cylchdaith Dinbych 21

    17 Taith y Pererinion 21

    18 Gŵ yl Glan Môr Talacre 9

    19 Hwyl yn y Goedwig 9

    20 & 27 Daeareg a’ch Dychymyg 9

    21 Crefftau Cefn Gwlad 9

    21 Y Llechi a’r Llwyni 22

    22 y Ffraeth, y Ffôl a’r Ffansi 9

    22 Taith Lleisiau gyda Sylwebaeth ar 22y Pryd - Caer Drewyn

    24 Ar dy feic ym Mrenig 22

    24 Pen-blwydd AHNE Bryniau Clwyd yn 25 oed 9

    26 & 29 Crefftau Cefn Gwlad 9/10

    27 Cyfrinachau’r Caerau 22

    27 - 30 Gwneud Golosg 27

    30 Peirianneg 22

    31 Gorffennaf & 1 Awst Mewnlifiad y Rhufeiniaid 10

    Awst

    1 Hanes Cudd Brenig 22

    2 & 16 Hwyl yn y Goedwig 10

    3 & 10 Daeareg a’ch Dychymyg 10

    4 & 20 Hwyl Glan y Môr 10/11

    6 Hanes y Cerrig 22

    6 Teithiau Teulu Brenig 22

    7 Diwrnod Agored Coed Moel Famau 10

    9 & 23 Crefftau Cefn Gwlad 10/11

    10 Cyfarfod â’r Mwynwr 10

    10 Trywydd Lleisiau Moel Famau 23

    11 Llawcian Llus 11

    12 & 25 y Ffraeth, y Ffôl a’r Ffansi 11/12

    12 Sbio’r Slumod Swil 23

    12 Meteorau Mynydd y Gaer 23

    13 Rhodio’r Rhostiroedd 23

    17 & 24 Hwyl yn y Goedwig 11/12

    19 Sioe Amaethyddol Sir Ddinbych 11a Sir y Fflint

    20 BBQ ac Ystlumod 23

    24 Cyfarfod â’r Mwynwr 11

    25 Crwydro yn y Gymraeg 23

    26 Sbri a Slumod 2

    29 Trochi yn y llyn a Saffari Creaduriaid mân 12

    30 Y stlumod a Phistyll 24

    Medi

    4 Beicio o le i le 24

    6 Datgelu’r Gorffennol 24

    7 Mae’n Ddiwedd y Byd 24

    9 Golygfeydd yn dod yn fyw 24

    9 Cerdded a Thynnu Lluniau 24

    12 Her Fawr y Fryngaer 24

    15 Archaeoleg y Brenig a Choed Cyffylliog 25

    17 Cylch yr Alwen 25

    17 & 18 Diwrnod mawr y Ddyfrdwy 28

    18 Gwylio’r Lloer 25

    19 Ffair Wledig Hiraethog 25

    19 Ar feic ym Mrenig 25

    25 Saffari yng ngolau’r Lleuad 12

    25 & 26 Gŵ yl Fwyd yr Wyddgrug 25

    25 & 26 Gŵ yl Gerdded Llangollen 25

    26 Ar Drywydd Thomas Telford 25

    Hydref

    8 - 10 Celf yn y Parc 12

    15 Ffeindio Ffwng 26

    24 Darganfod Llyn Brenig 26

    25 Tŵ r y Jiwbilî - Pen-blwydd yn 200 oed 12/26

    26 yn mynd i’r coed… 12

    28 Cuddio a Chuddfannau 13

    29 Mygydau Arswydus 13

    30 Brenig a Braw Bwganod 13

    Tachwedd

    21 Deall ein Hucheldiroedd 26

    26 Bywyd Gwyllt yn y Gaeaf 26

    dyddiad digwyddiadai tudalen dyddiad digwyddiadai tudalen

    5

    � hwyl i’r teulu � teithiau cerdded gydag arweinydd � gweithgareddau ymarferol � mynediad i bawb

  • Gofynnir ichi fwcio’ch lle yn ystod y saithniwrnod cyn y digwyddiad. Os na allwchddod, yna rhowch wybod inni er mwyninni gynnig y lle i rywun arall.

    I gael gwybod mwy, ffoniwch 01352810586 neu 01352 810614 neu ebostio:[email protected]

    Croeso i glybiau gwyliau ac i warchodwyrsydd â phedwar neu fwy o blant i’rdigwyddiadau taro-i-mewn, ond cofiwch ygallwn fod yn brysur ac efallai bydd rhaidichi aros am le. Yn anffodus, ni allwndderbyn grwpiau i’n digwyddiadauBwciadwy.

    Cofiwch fod rhaid i bob plentyn fod yngnghwmni oedolyn bob amser.

    Oedran �+/�+ - Dylech ddeall efallai nafydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb iblant sydd o dan 5/ 8 oed

    Y - Nifer cyfyngedig o leoedd, fellybwciwch wythnos o flaen llaw.

    Dydd Sadwrn 27 Mis Mawrth - Dydd Sul11 EbrillCwis yr Wyau yn Loggerheads10am - 4pmEr mwyn ennill Gwobr y Pasg, codwchdaflen Cwis o’r Ganolfan Cefn Gwlad a’idychwelyd i Gaffi Florence ar ôl ateb ycwis.Q

    Gwener y Groglith 2 EbrillDilyn Trywydd y Pasg10 - 3pm Dilynwch Drywydd y Pasg drwy’r Goedwiggan ateb cwestiynau ar hyd y ffordd acennill Gwobr y Pasg. Cyfarfod ym MaesParcio Coed Moel Famau, SJ172612.Q

    Hwyl i’r Teuluyng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych

    6

    13 - 21 Chwefror Hanner Tymor

    27 Mis Mawrth - 11 Ebrill

    Gwyliau’r Pasg

    12 - 21 Mis Mawrth

    ‘Daear’ Wythnos GenedlaetholGwyddoniaeth.

    Taro mewn

    Taro mewn

  • Dydd Gwener 2 - Dydd Llun 5 Ebrill Helfa’r Wyau Pasg 10am - 4pm Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig 01490 420463

    Dydd Llun 5 Ebrill Gw ̂ yl BancHelfa Wyau Pasg Talacre10am - 3pmYmunwch â cheidwaid y glannau Sir yFflint yn eu digwyddiad blynyddol ynystod Gŵyl y Pasg. Dim angen bwcio.Cyfarfod wrth y Pwynt Gwybodaeth ymMaes Parcio’r Traeth. Cost: 50p yr un. Yrelw i Ganolfan Cymunedol Talacre.01244 814931 Ò

    Dydd Iau 8 EbrillHelfa’r Casys WyauHelfa Basg y casys wyau10.30am - 12.30pmDewch i chwilio am gasys wyau’r cathodmôr a rhoi cymorth i fonitro’r creaduriaidsydd a’u niferoedd yn lleihau. Rhaidcerdded ychydig o ffordd o’r car i’r traeth.Cofiwch am eich welingtons a blwch iddal y casys. Croeso i grwpiau. Cyfarfodym maes parcio Gronant Isaf, gyferbyn â’rCrofters Pantry, SJ090836.�+

    Dydd Sadwrn 17 Ebrill ‘Gwylio’r Lloer ’ 6.30pm - 11.30pmTrefnir y digwyddiad mewn partneriaethâ’r cymdeithasau seryddiaeth lleol.Cyfarfod wrth Llyn Brenig. Offer ar gael. 01490 420463 Y

    Dydd Sul 2 MaiCreaduriaid y Dŵr11am & 2pmTrochi yn y llyn a saffari’r creaduriaid mân.Llyn Brenig 01490 420463

    Dydd Mawrth 1 MehefinDaeareg a’ch Dychymyg10.30am - 12pmDewch i fod yn greadigol gyda ffosiliauym Mharc Gwledig Loggerheads.Q

    Dydd Mercher 2 MehefinCyfarfod â’r Mwynwr11am - 1pmBydd yr adroddwr storïau lleol, AndyHarrop-Smith, yn eich dwyn yn ôl i’r 19 fedganrif i ddangos sut roedd mwynwr yn byw,gan adfywio hanes diwydiant Loggerheads.Dyma daith fer tan wrando ar storïau ar hydy llwybr. Parc Gwledig Loggerheads.Y Q

    Dydd Gwener 4 Mehefin Teithiau i’r Teulu yn y Brenig10am & 2pmAnghofiwch am bopeth er mwyn treuliohanner diwrnod o amser gwerthfawrgyda’r plant yn ystod eu gwyliau a myndar daith o gwmpas ardal hardd Hiraethog.Teithiau gydag arweinydd gyda OneplanetAdventure. Cychwyn o Lyn Brenig. Rhaidbwcio. 01978 751656Y

    7

    29th Mai - 6 Mehefin

    Hanner Tymor

    Taro mewn

    Taro mewn

  • Dydd Sadwrn 19 Mehefin Gwylio’r Moch Daear i’r Teulu8pm - 10pmDewch yn barod am daith gerdded ‘oddiar y llwybrau’. Rhaid i blant fod â’r gallu ifod yn dawel ac yn llonydd. Gwisgwchddillad cynnes, tywyll ac esgidiau cerdded.Peidiwch â gwisgo persawr nac unrhywbeth arall sy’n arogli. Rhaid bwcio.Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, ParcGwepra - 01244 814931.

    Dydd Gwener 2 Gorffennaf Saffari yng Ngolau’r Lleuad8pmDewch i chwilio am fywyd gwyllt yr Alwen.Trefnir y digwyddiad mewn partneriaeth agYmddiriedolaeth Bywyd Gwyllt GogleddCymru yn rhan o wythnos GerddedConwy. Cychwyn yng NghanolfanYmwelwyr yr Alwen. (cofiwch am eichfflachlamp!). 01492 575 290

    Dydd Sul 4 GorffennafRhwysg y Rhostiroedd11am - 3pmGweithgareddau, arddangosfeydd asgyrsiau i ddathlu hud y rhosydd grug.Parc Gwledig Loggerheads.Q

    8

    5 - 13 Mehefin Wythnos Bioamrywiaeth

    www.Bioamrywiaethwales.org.ukgweler hefyd yr adran teithiau cerdded

    Dydd Sul 6 MehefinDiwrnod Bioamrywiaeth Brenig11amYn rhan o Wythnos Bioamrywiaeth Cymru.Dyma ddiwrnod o weithgareddau hwyliogi’r holl deulu. 01490 420463.

    Dydd Llun 7 MehefinTaith Bioamrywiaeth ar y Trên6.30pm - 10pmDewch am daith trên ar Reilffordd stêmLlangollen a dysgu am fywyd gwyllt rhyfeddolDyffryn yr Afon Ddyfrdwy. Codir tâl bach amdocynnau a rhaid bwcio o flaen llaw. Cyfarfodyng Ngorsaf Rheilffordd Llangollen. Y Ò

    Dydd Sadwrn 12 MehefinGarddio ar gyfer y Bywyd Gwyllt11am - 3pm Sgyrsiau, gweithdai ymarferol a gwybodaethi’ch ysbrydoli chi i gadw rhan fechan o’r ardd argyfer y bywyd gwyllt. Gallwch brynu planhigionar y diwrnod. Parc Gwledig Loggerheads.Q

    Dydd Sul 13 Mehefin Beicio yn y Brenig2pmRhan o wythnos genedlaethol y Beic. ByddOneplanet Adventure yn taro golwg arddiogelwch eich beic a bydd cyfle i reidioLlwybr Oneplanet ar lannau Llyn Brenig gydabeiciwr profiadol yn eich tywys. Rhaidbwcio’ch lle ar y daith. Mae modd llogi beicos bydd angen. 01978 751656 Y

  • Dydd Sul 18 Gorffennaf Gŵyl Glan Môr Talacre10.30am - 4.30pmI roi hwb cychwyn ar Wyl Fawr y Ddyfrdwyeleni cawn ŵ yl traeth gyntaf Talacre. Ewcham drip i Dalacre a mwynhau’r bwyd, ybarcudiaid, y cystadlaethau a llawer mwy.Mwy o wybodaeth o: Gwasanaeth CefnGwlad Sir y Fflint, Y Ganolfan Ymwelwyr,Gwepra - 01244 814931.

    Dydd Llun 19 GorffennafHwyl yn y Goedwig1.30 - 3.30pmDewch i fwynhau gweithgareddau yn ygoedwig gyda’r Tîm Addysg y Goedwigym Mharc Gwledig Loggerheads.Q �+

    Dydd Mawrth 20 GorffennafDaeareg a’ch Dychymyg10.30am - 12pmGallwch ddylunio a chreu crys T gydathema Ddaearegol arno ym MharcGwledig Loggerheads.Y �+ Q

    Dydd Mercher 21 GorffennafCrefftau Cefn Gwlad10.30am - 12pmYmunwch â ni i ddatgloi doniau creadigoleich teulu ym Mharc GwledigLoggerheads.Y �+ Q

    Dydd Iau 22 Gorffennafy Ffraeth, y Ffôl a’r Ffansi2pm - 4pmDaw’r parc yn fyw pan fydd tîm rhyfeddolo actorion yn eich cyflwyno i’r nifer ogymeriadau gwirion sydd yn y Parc. ParcGwledig Loggerheads.Y Q

    Dydd Llun 26 GorffennafCrefftau Cefn Gwlad10.30am - 12pmYmunwch â ni i ddatgelu doniau creadigoleich teulu ym Mharc Gwledig LoggerheadsY �+ Q

    Dydd Mawrth 27 GorffennafDaeareg a’ch Dychymyg1.30pm - 3pmGallwch ddylunio a chreu crys T gyda themaDdaearegol arno. Canolfan Hamdden Corwen.Y �+

    9

    24 GorffennafDathlu Chwarter CanrifAHNE Bryniau Clwyd

    17 Gorffennaf - 1 Awst

    Gŵyl Archeoleg Prydain

    17 Gorffennaf - 1 MediGwyliau’r Haf

  • Dydd Iau 29 GorffennafCrefftau Cefn Gwlad10.30am - 12pmYmunwch â ni i ddatgelu doniau creadigoleich teulu ym Mharc Gwledig LoggerheadsY �+ Q

    Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf & Dydd Sul 1 AwstMewnlifiad y Rhufeiniaid10am - 4pmErmine Street Guard - yr actorion sy’n ailgreu’r gorffennol Rhufeinig ym MharcGwledig Loggerheads.Q

    Dydd Llun 2 AwstHwyl yn y Goedwig1.30pm - 3.30pmMwynhewch weithgareddau’r Goedwiggyda Thîm Addysg y Goedwig ym MharcGwledig Loggerheads.Q �+

    Dydd Mawrth 3 AwstDaeareg a’ch Dychymyg10.30am - 12pmMwynhau’r ffosiliau diddorol ym MharcGwledig Loggerheads.Y Q �+

    Dydd Mercher 4 AwstHwyl Glan y Môr10am - 12pmGemau a Gweithgareddau i chwilio amfywyd y môr sydd ar y traeth yn y Rhyl.Croeso i Grwpiau. Cyfarfod ar y traethgyferbyn â’r Orsaf Achub, SJ009819.�+

    Dydd Sadwrn 7 AwstDiwrnod Agored Coed Moel Famau10am - 4pmGweithgareddau, stondinau acarddangosfeydd. Dyma eich cyfle igyfarfod â rhai o staff ComisiwnCoedwigaeth Cymru a Gwasanaeth CefnGwlad Sir Ddinbych. Maes Parcio CoedMoel Famau, SJ172612.Q

    Dydd Llun 9 AwstCrefftau Cefn Gwlad10.30am - 12pmYmunwch â ni a datgloi doniau creadigoleich teulu ym Mharc GwledigLoggerheadsY Q �+

    Dydd Mawrth 10 AwstDaeareg a’ch Dychymyg10.30am - 12pmMwynhau’r ffosiliau diddorol - CanolfanHamdden Corwen.Y �+

    Dydd Mawrth 10 AwstCyfarfod â’r Mwynwr11am - 1pmBydd yr adroddwr storïau lleol AndyHarrop-Smith yn eich dwyn yn ôl i’r 19 fedganrif i ddangos sut roedd mwynwr ynbyw, gan adfywio hanes diwydiantLoggerheads. Dyma daith fer tan wrando ar

    10

    Taro mewn

  • storïau ar hyd y llwybr. Parc GwledigLoggerheads.Y Q

    Dydd Mercher 11 AwstLlawcian Llus10.30am - 5pmYn y bore byddwch yn llunio offer casglu llus,yn hel llus ar daith tair milltir ar Foel Famauac yna’n gwneud pastai lus yng NghaffiFlorence yn y prynhawn. Cofiwch am flwchi’w dal. Parc Gwledig Loggerheads.Y �+

    Dydd Iau 12 Awsty Ffraeth, y Ffôl a’r Ffansi2pm - 4pmDaw’r parc yn fyw pan fydd tîmrhyfeddol o actorion yn eich cyflwyno inifer o gymeriadau gwirion sydd yn yParc. Parc Gwledig Loggerheads.Y Q

    Dydd Llun 16 AwstHwyl yn y Goedwig1.30pm - 3.30pmDewch i fwynhau Gweithgareddau’rGoedwig gyda’r Tîm Addysg y Goedwigym Mharc Gwledig Loggerheads. Q �+

    Dydd Mawrth 17 AwstDaeareg a’ch Dychymyg10.30am - 12pmGallwch adeiladu a ffrwydro’chllosgfynydd eich hunan ym MharcGwledig Loggerheads.Y Q �+

    Dydd Iau 19 AwstSioe Amaethyddol Sir Ddinbych a Siry Fflint � 01352 712131. Ò

    Dydd Gwener 20 AwstHwyl Glan y Môr2pm - 4pmGemau a Gweithgareddau i ddarganfodbywyd y môr sydd ar y traeth yn y Rhyl.Croeso i Grwpiau. Cyfarfod ar y traethgyferbyn â Gorsaf yr Achubwyr Bywyd,SJ009819.�+

    Dydd Llun 23 AwstCrefftau Cefn Gwlad10.30am - 12pmYmunwch â ni a datgloi doniau creadigoleich teulu ym Mharc Gwledig LoggerheadsY Q �+

    Dydd Mawrth 24 AwstCyfarfod â’r Mwynwr11am - 1pmBydd yr adroddwr storïau lleol AndyHarrop-Smith yn eich dwyn yn ôl i’r 19fed ganrif i ddangos sut roedd mwynwryn byw, gan adfywio hanes diwydiantLoggerheads. Dyma daith fer tan wrandoar storïau ar hyd y llwybr. Parc GwledigLoggerheads.Y Q

    11

  • Dydd Mawrth 24 AwstDaeareg a’ch Dychymyg1.30pm - 3pmAdeiladu a chreu eich llosgfynydd eichhunan. Canolfan Hamdden Corwen.Y �+

    Dydd Mercher 25 Awsty Ffraeth, y Ffôl a’r Ffansi2pm - 4pmDaw’r parc yn fyw pan fydd tîm rhyfeddol oactorion yn eich cyflwyno i nifer o gymeriadaugwirion sydd yn y Parc. Parc GwledigLoggerheads. Y Q

    Dydd Sul 29 AwstTrochi yn y llyn a Saffari Creaduriaid mân11.00am & 14.00pm Canolfan Ymwelwyr Brenig 01490 420463

    Dydd Sadwrn 25 MediSaffari yng ngolau’r Lleuad 6pmYmunwch â ni i chwilio am fywyd gwyllt arlannau Llyn Brenig. Trefnir y digwyddiadmewn partneriaeth ag YmddiriedolaethBywyd Gwyllt Gogledd Cymru (cofiwch ameich fflachlamp!) 01492 575 290

    8 - 10 HydrefCelf yn y ParcArddangosfa Cyfryngau Cymysg sy’ndathlu’r amgylchedd lleol. Parc GwledigLoggerheads. I gael gwybod mwy,ffoniwch Grŵp Celf Llanferres aCholomendy 01352 810259. Q

    Dydd Mawrth 26 Hydrefyn mynd i’r coed…10am - 12pmYng nghoed Rhyd y Gaseg gallwchchwilio am gnau a gafodd eu cnoi i weldpa anifeiliaid sydd yma ac i chwilio amdystiolaeth bod y pathew swil yn bywyma. Maes parcio Rhyd y Gaseg SJ112566

    �+

    12

    25 & 26 Medi

    Gŵyl Fwyd yr Wyddgrugwww.moldfoodfestival.co.uk

    25 HydrefPen-blwydd Tŵ r y Jiwbilî yn 200 oed 200

    23 - 31 Hydref

    Hanner Tymor

  • Dydd Iau 28 HydrefCuddio a Chuddfannau12pm - 2pmGwnewch eich gorau i fod yn anweledig yny goedwig. Gallwch adeiladu eich cysgodfangan ddefnyddio’r deunydd sydd ar gael yn ygoedwig, a bydd yn cadw’r glaw allan.Byddwch yn rhoi prawf ar ba mor wrth-ddŵr yw eich cysgodfa - felly cofiwch ameich dillad glaw, jyst rhag ofn!, Maes ParcioCoed Moel Famau SJ172612.Y

    Dydd Gwener 29 HydrefMygydau Arswydus1pm - 3pmTarwch i mewn i Brickfields i wneudmwgwd Calan Gaeaf. Pwll Dw ̂ r Brickfields,Ffordd Derwyn, LL18 2YR. Y Rhyl.

    Dydd Sadwrn 30 Hydref Brenig a Braw Bwganod6pmDyma daith gerdded ddychrynllyd ar lannauLlyn Brenig yng nghwmni adroddwr stori’sbrydion. Byddwch yn cwrdd â phethaubrawychus ar hyd y ffordd - a bydd cawl igodi ofn arnoch ar y diwedd 01490 420463

    18 Rhagfyr - 3 Ionawr Gwyliau’r Nadolig

    Y Nadolig Yn LoggerheadsHwyl i’r holl deulu ym Mharc GwledigLoggerheads y Nadolig hwnTel 01352 810614www.ahnebryniauclwyd.org.uk

    Clwb Archeolegwyr IfancOs oes diddordeb gennych mewnarcheoleg ac os rydych chi rhwng 8 ac16 oed, ymunwch â ChlwbArcheolegwyr Ifanc a drefnir ganGyngor Archeoleg Prydain.

    [email protected]

    RockwatchDyma glwb ieuenctid Cymdeithas yDaearegwyr i’r holl ddaearegwyr ifanchynny sydd â diddordeb mewncreigiau, ffosiliau, mwynau a’r dirwedd.

    � 0207 734 5398www.rockwatch.org.uk [email protected]

    13

  • yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych

    Er mwyn ichi allu dewis y daith sy fwyaf addas areich cyfer, rydym wedi’u dosbarthu’n fras fel hyn.

    Q = byr ac ar lwybr sydd ag wyneb caled.

    = Hawdd (byr, gwastad, wyneb rhyddweithiau)

    = Cymedrol (rhai mannau serth awyneb rhydd)

    = anodd (hir, egniol, anwastad, serth)

    Digwyddiadau Hygyrchedd i BawbColin Antwis, Fieldsman Trails. 01352 756202.

    Rydym yn dymuno cynnwys gymaint o boblanabl ag sydd yn ymarferol, felly gofynnir ichigrybwyll os oes arnoch unrhyw anghenionpenodol pan rydych yn bwcio.

    Yng Nghanolfan Loggerheads ceir toiledauhygyrch, a lleoedd penodol i ddalwyrbathodyn glas, er bod rhaid i bawb dalu acarddangos. Pan fo angen teithio ar fws, byddcyfleusterau cadair olwyn ar gael, ond cyfyngirar y niferoedd am fod maint y bws mini yndibynnu ar gyflwr y lonydd. Bydd sylwadaethar y pryd yn gyfle, yn enwedig i rai â nam ar ygolwg, i ddefnyddio ffonau pen i glyweddisgrifiadau Colin yn glir. Mewn rhaidigwyddiadau penodol bydd dehonglyddABSL yn bresennol.

    Gwisgwch ddillad llac a chyfforddus acesgidiau cadarn sy’n gafael yn dda

    Cofiwch am ddillad glaw os bydd rhagolygony tywydd yn ansicr, a bwyd a llymaid.

    Yn gyffredinol, ni chaniateir cŵn ar y teithiaugydag arweinydd. Efallai byddai rhai teithiau’naddas i gŵn ar dennyn. Chwiliwch am yrarwydd hwn ˙

    Gwnawn ein gorau i beidio canslo unrhywdaith ond os bydd angen gwneud hynnybyddwn yn ffonio’r rhai sydd wedi cofrestru.

    Byddwn yn cerdded ar gyflymder y cerddwrarafaf. Os rydych ar frys, peidiwch â dod osgwelwch yn dda

    Er mwyn ichi allu ddod o hyd i lle mae’r daith yncychwyn, defnyddiwch www.ordnancesurvey.co.ukneu www.multimap.co.uk. Gosodwch y cyfeirnodgrid yn y blwch chwilio a byddwch yn gallu gweld ymap.

    Bwciwch o flaen llaw ar gyfer pob un o’rteithiau cerdded

    � 01352 810614 neu � 01352 810586 ar y penwythnos.

    Darganfod Ardal o HarddwchNaturiol Bryniau Clwyd

    14

    Teithiau Cerdded gydag Arweinydd

  • 15

    Dydd Mercher 13 IonawrTaith Gerdded Nordig Caer Drewyn10am - 11.30amTaith Gerdded Nordig i ben Caer Drewyn,gyda golygfeydd. Polion Nordig ar gael.Maes parcio Canolfan Hamdden Corwen,SJ082441.

    Y

    Dydd Sadwrn 30 IonawrGweithdy Adnabod Coed y Gaeaf10am - 12pmDewch i ddysgu sut i adnabod y coed noethyn y parc. Bydd gweithdy dan do ac wedynbydd taith fer ichi ymarfer eich doniaunewydd. Parc Gwledig Loggerheads.

    Y

    Dydd Mercher 17 ChwefrorTaith Nordig Moel Famau10am - 12pmTaith weddol gyflym yn y dull Nordig i Dŵ ry Jiwbilî. Bydd polion cerdded ar gael ichi.Maes parcio uchaf, Moel Famau, SJ161605.

    Y

    Dydd Mercher 24 ChwefrorTaith Nordig Prestatyn10am - 12pmDewch i gerdded ar Lwybr Prestatyn i Ddyserthyn y dull Nordig. Bydd polion ar gael ichi.Cyfarfod ym maes parcio Anglia, Dyserth,SJ062729. Y

    Dydd Mercher 17 MawrthTaith Nordig Llangollen10am - 11amTaith fer a hamddenol ar hyd y gamlas. Byddpolion ar gael. Cyfarfod yn y Ganolfan Groesoar y Stryd Fawr yn Llangollen, SJ215420.

    Y

    Dydd Mercher 24 MawrthTaith Nordig Lady Bagot10am - 12pmTaith Nordig egniol yng nghefn gwlad Rhewl,Rhuthun. Cyfarfod ym mhafiliwn Rhewl,SJ064625. Polion ar gael i’w benthyg.

    Y

    Dydd Mawrth 7 EbrillCerddwch ar hyd Llwybr Tyrnog11am - 3pmDewch i gerdded 6 ½ milltir ar hyd y llwybrCymunedol newydd o gwmpas pentrefLlandyrnog ac aros am lymaid yn un o’rtafarnau lleol. Dewch â’ch picnic. Cyfarfodym maes parcio Llangwyfan, SJ138668.

    Y

    Dydd Sadwrn 10 Ebrill Ar feic ym Mrenig11amCyflwyniad i reidio beics ar lannau’r Brenigmewn partneriaeth â Oneplanet Adventure.Mae’n hanfodol ichi fwcio’ch lle ar y daithhon gydag arweinydd o gwmpas Trywyddyr Alwen. Mae modd llogi beic os oesangen un arnoch. 01978 751656

    Y

    Dydd Mercher 14 EbrillPistyllodd, ogofau, plwm ac iâ10am - 3pmDyma daith gerdded gylchol drwy’r Big Covertac i Fryn Alun, heibio i foroedd trofannol,pyllau plwm a chychwyn rhewlifoedd.Cyfarfod yng nghilfan Plymog ffordd A494 o’rWyddgrug i Ruthun 1.2 milltir i’r gorllewin oLanferres, SJ187599. Y

    27 Mawrth - 11 Ebrill

    Gwyliau’r Pasg

  • Dydd Gwener 23 EbrillFfotograffiaeth Ddigidol10am - 4pmDewch i ddysgu sut i dynnu lluniau’rdirwedd leol ar eich camera digidol. Byddffotograffydd proffesiynol yn dysgu ichisut i wneud yn fawr o’ch camera. Byddamser i ymarfer ac i gael ymateb. ParcGwledig Loggerheads.Y Q

    Dydd Sul 2 Mai Diwrnod Rhyngwladol Côr y WawrTaith Gerdded Côr y Wawr4.30am yn y boreYmunwch ag Ymddiriedolaeth BywydGwyllt Cymru i ddathlu larwm hynaf yddaear yng Ngwarchodfa NaturAberduna, Maeshafn. Cyfarfod wrth yblwch ffon yn Maeshafn SJ201610I gael gwybod mwy, ffoniwch GrahamBerry Graham Berry 01352 810469 /07764897416

    Dydd Iau 6 MaiAr y Trên Drwy’r Gorffennol10.30am - 4pmDewch ar y trên stêm am drip drwy Ddyffrynsyfrdanol yr afon Ddyfrdwy i bentrefGlyndyfrdwy, cerdded wyth milltir drwy henweithfeydd llechi i Lwybr Gogledd y Berwynac yn ôl i dref Llangollen. Cyfarfod yngngorsaf Rheilffordd Llangollen. Y

    Dydd Gwener 7 Mai Ysbrydion y Goedwig - Pam mae’r rugiar ddu’n deffro morgynnar yn y bore?5.15am - 8am Taith gerdded gydag arweinydd i guddfanyr RSPB ar ymyl Coedwig Llandegla i wyliodefod arddangos y rugiar ddu - un o adarprinnaf Cymru. Cyfarfod yng Nghanolfan Beicio Llandegla- Coed Llandegla.

    Dydd Gwener 7 MaiTro drwy goedwig y gwanwyn gydachipolwg ar y gorffennol10am - 4.30pmDyma daith 8 milltir sy’n gyfoethog ofioamrywiaeth ac sy’n mynd drwy goedDyffryn yr Alun i Warchodfa NaturGogledd Ddwyrain Cymru yn Rhyd-y-Mwyn ac yna ceir taith gerdded gydagarweinydd o gwmpas y Safle Ffatri RhyfelByd II a ddigomisiynwyd. Cyfarfod ymMharc Gwledig Loggerheads

    Y

    Ebrill 25

    Diwrnod Cenedlaethol y Ddaear

    16

  • Dydd Mercher 12 MaiTaith y Morwenoliad12.30pm - 4.30pmTaith gyda sylwebaeth ar y pryd , ar gyferrhai sydd â nam ar y golwg yn benodol, igael profiad o olygfeydd ac o seiniau’rnythfa o Forwenoliaid Bach prin, ar hydllwybr pren ar draeth Gronant. Byddclustffonau ar gael i’r rhai sy’n drwm euclyw. Cludiant ar fws mini o siop ParcGwledig Loggerheads am 12.30pm ac oorsaf Prestatyn am 1.15pm, dod yn ôl tua4.30pm. Digwyddiadau Hygyrchedd i Bawb- Trefnydd Colin Antwis, Fieldsman Trails.01352 756202 www.fieldsmantrails.com

    Y

    Dydd Iau 13 MaiCerdded a Thynnu Llun ym MryniauClwyd11am - 3pmYmunwch â’r artist Bill Kneale ar daithgerdded tair milltir gan dynnu braslun oFoel Fenlli. Hoffech chi ddal swyn yr ardalar bapur? Dyma eich cyfle i wneud hynny.Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael, arhoddir hyfforddiant. Cyfarfod yn y maesparcio uchaf. SJ161605.

    Y

    Dydd Sadwrn 15 MaiDal Gwyfynod yn Loggerheads9am - 11amDewch i archwilio’r ‘helfa gwyfynod’ o’rnoson flaenorol dros baned gydagarbenigwr mewn gwyfynod. Dysgwch amfyd rhyfeddol y gwyfynod a’u gweld ynagos. Parc Gwledig Loggerheads.

    Y Q

    Dydd Sul 16 MaiCoed a Phistylloedd Cynwyd10am - 4pmTaith 8 milltir o Gorwen i Gynwyd ac yn ôlgan gynnwys Eglwys hanesyddol Llangar,yr hen reilffordd a phistyll Cynwyd.Gallwn aros am luniaeth mewn tafarndyar hanner y daith. Cyfarfod yn y prif faesparcio, Corwen.

    Y ˙

    17

    Gŵyl Gerdded Prestatyn14 - 16 Mai"Gogledd Cymru yn yr OesoeddCanol"www.prestatynwalkingfestival.co.ukRhif ffôn i fwcio 01745 857185

  • 18

    Dydd Iau 20 MaiTaith ar Garped Hud2pm - 3.30pmMae’n anodd i bobl sydd ag anableddddarganfod y Cefn Gwlad oherwydd ybryniau a’r dyffrynnoedd. Ond heddiw, hebadael eich sedd, aiff y daith synhwyrau honâ chi i dirweddau Parc Gwledig MoelFamau – y golygfeydd, y seiniau, arogl a’rblas. Dehongliad BSL. Cyfarfod yn ystafell ycyfarfodydd, llawr isaf , Loggerheads - 2pm- 3.30pm. Digwyddiadau Hygyrchedd iBawb - Trefnydd Colin Antwis, FieldsmanTrails. 01352 756202www.fieldsmantrails.com

    Y

    Dydd Mercher 26 MaiCerdded ar y Gefnen10am - 4.30pmTaith gerdded 7 ½ milltir ar hyd cefnenBryniau Clwyd i edmygu’r golygfeyddrhyfeddol ac i ddysgu am y Project y Gruga’r Caerau. Dyma daith linellol a fydd ynheriol o dro i dro a bydd bws mini yn eichcludo i’r man cychwyn. Cyfarfod ym maesparcio uchaf Moel Famau

    Q Y

    Dydd Iau 27 MaiMachlud ar Dŵ r y Jiwbilî7.30pm - 10pm Ar 200fed pen-blwydd adeiladu Tŵ r yJiwbilî gallwch fwynhau gweld y machludo ben Moel Famau, man uchaf BryniauClwyd AHNE. Cyfarfod ym maes parciouchaf Moel Famau,

    Dydd Iau 3 MehefinY Nos yn Nercwys8.45pm - 11pmTaith hamddenol gyda’r nos am 2 filltirhanner i ddarganfod (gobeithio) y troellwr,ystlumod, tylluanod a’r gwyfynod.Cofiwch am eich eli gwrth-bryfed. Maesparcio gogleddol Coed Nercwys (ger yrWyddgrug), SJ218593.

    Y

    Dydd Gwener 4 Mehefin Dilyn Trywydd yr Anifeiliaid10am - 3pmYmunwch â chrefftwr maes ar daith fer iddysgu sut i adnabod cliwiau yn y bydnaturiol - ac i dderbyn cyngor defnyddiolam gelfyddyd byw yn y gwyllt. Cyfarfod arTrial Hill Cilcain SJ31873651.

    5 - 13 Mehefin

    Wythnos Bioamrywiaethwww.biodiversitywales.org.uk

    200

    Dydd Gwener 4, Dydd Sadwrn 5 aDydd Sul 6 MehefinGŵyl y GoedwigBydd stondin gan bartneriaethauBioamrywiaeth Gogledd Cymru yn ysioe boblogaidd hon yn Llanelwy.www.woodfestwales.co.uk

  • Dydd Mawrth 8 MehefinCrwydro Corwen yn y Gymraeg10am - 3pmTaith gerdded 4 milltir a hanner ogwmpas coedlan, glannau afon ahenebion Corwen. Addas i ddysgwyrhefyd. Cyfarfod yn y prif faes parcio yngNghorwen, SJ161606.

    Dydd Mercher 9 MehefinNatur a Diwydiant10am - 1pmTaith fer i edrych ar y glaswelltir calchfaenyn Loggerheads ac yna i ymweld âchwarel gyffiniol i weld y glaswelltiroeddgwych a sut rydym yn gweithio’n galed igynyddu’r Fioamrywiaeth yn y dirwedddrwy’r cynllun adfer y chwarel. ParcGwledig Loggerheads.

    Y

    Dydd Iau 10 MehefinNos yn Nercwys8.45pm - 11pmCyfle arall i fwynhau taith hamddenolgyda’r nos am 2 filltir hanner iddarganfod (gobeithio) y troellwr,ystlumod, tylluanod a’r gwyfynod.Cofiwch am eich eli gwrth-bryfed. Maesparcio gogleddol Coed Nercwys (ger yrWyddgrug), SJ218593.

    Y

    Dydd Gwener 11 MehefinPlanhigion ac Anifeiliaid10.30am - 2.30pmTaith 5 milltir i Gastell Dinas Bran i ddysguam y planhigion, y trychfilod a’r adar sy’nbyw yma. Cyfarfod yn y Ganolfan Groesoar brif stryd Llangollen.

    Y

    Dydd Gwener 11 MehefinGloÿnnod, Moch Daear ac Ystlumod7.30pmYn rhan o’r Wythnos BioamrywiaethCymru, ymunwch â ChomisiwnCoedwigaeth Cymru ac YmddiriedolaethBywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar daithgerdded o gwmpas Coed Rhyd-y-GasegCychwyn o faes parcio’r goedwi SJ111566 01490 420463

    Dydd Mawrth 15 Mehefin Ar y Carped Hud2pm - 3.30pmGall bryniau a dyffrynnoedd olygu na allrhai pobl anabl ymweld â’r Cefn Gwladeang. Heddiw, heb adael eich cadair, byddy daith synhwyrau hon yn eich tywys drwybarc gwledig Loggerheads - y golygfeydd,y sŵn, yr arogl a’r blas. Cyfarfod yn ystafell y cyfarfodydd,Loggerheads, ar y llawr isaf. DigwyddiadauHygyrchedd i Bawb - Trefnydd ColinAntwis, Fieldsman Trails. 01352 756202www.fieldsmantrails.com

    Y

    11 Mehefin

    Diwrnod Moroedd y Byd

    19

  • 20

    Dydd Gwener 18 MehefinYn ôl â ni i Oes yr Efydd11am - 4pmO lan y môr gallwch fwynhau taithgerdded 6 milltir drwy Goed Pell at ydomen gladdu ac yna gallwch gerdded ynôl i ymweld â nythfa’r forwennol fach.Maes parcio Traeth Barcbi, Prestatyn,SJ068840.

    Dydd Llun 21 MehefinTaith Gŵyl Ifan ar Godiad yr Haul3.30am - 6amTaith 3 milltir i wylio codiad yr haul arddiwrnod hiraf y flwyddyn o gopa MoelFamau - dyma adeg wych i weld cyfareddBryniau Clwyd Maes parcio uchaf MoelFamau, SJ162606.

    Y

    Dydd Mawrth 22 MehefinOes y Cerrig a mwy10.30am - 3pmDewch i ddarganfod geoamrywiaethcyfoethog ac archeoleg Mynydd Llantysilio

    ar y daith 4 milltir hon. Yn cynnwyscludiant bws mini. Cyfarfod yn y maesparcio wrth ochr yr A542, Ponderosa,Bwlch yr Oernant, SJ191481.

    Y

    Dydd Mercher 23 MehefinLlwybr Lleisiau, Loggerheads,sylwebaeth fyw2pm - 4pmDewch i gael profiad o natur - ygolygfeydd, y seiniau a’r aroglau ar yLlwybr Lleisiau Sylwebaeth Fyw ar hyd lanyr afon, gan gynnwys y bont newydd.Mae’n serth mewn rhai lleoedd a gall fodgwreiddiau a chreigiau ar y llwybrau blefydd angen help ar rai pobl sy’n defnyddiocadair olwyn, efallai. Clustffonau ar gael igerddwyr sydd â nam ar eu golwg.Digwyddiadau Hygyrchedd i Bawb.Trefnydd Colin Antwis, Fieldsman Trails.01352 756202 www.fieldsmantrails.com

    Y

  • Dydd Gwener 2 Gorffennaf Taith Dolen Brenig10amYmunwch â Chomisiwn CoedwigaethCymru ar daith gerdded y bywyd gwyllt oGoedwig Clocaenog i Ganolfan LlynBrenig, ble bydd bws mini ar gael i’chcludo’n ôl i’r dechrau. Cychwyn ym maesparcio Foel Frech SJ025548. Rhan oWythnos Gerdded Conwy. 01492 575 290

    Dydd Sul 4 Gorffennaf O Gwmpas Trywydd yr Alwen10amTaith bywyd gwyllt gydag arweinydd yngnghwmni Ceidwaid lleol Sir y Fflint a staffComisiwn Coedwigaeth Cymru. Cychwynym maes parcio Argae’r Alwen. Rhan owythnos Gerdded Conwy 01492 575 290

    Dydd Mawrth 6 GorffennafCalchfaen, Oes yr Iâ ac Ogofeydd10.30am - 1.30pmDewch i weld archeoleg a geoamrywiaethgyfoethog Dyffryn yr Elwy. Cyfarfod ymMhont Newydd SJ018711.

    Y

    Dydd Iau 8 GorffennafY tu isaf i Benycloddiau, bryngaer Oes yr Haearn1pm - 4pmTaith gydag arweinydd drwy Goed Llangwyfanwrth droed y Fryngaer Oes yr Haearn hon. Mae’rllwybr yn gogwyddo i un cyfeiriad, felly efallai byddangen help ar rai mewn cadair olwyn ar y fforddyn ôl. Cyfarfod yng Nghanolfan Loggerheads am1pm ar gyfer taith mewn bws mini i GoedLlangwyfan. Dychwelyd am 4pm. Gwelwchwww.fieldsmantrails.com neu ffoniwch 01352756202 i fwcio.

    Y

    Dydd Mercher 14 GorffennafCylchdaith Dinbych10am - 3pmDewch i ddarganfod y cymeriadau a’r lleoedd awnaeth Dinbych yn dref i'ch ysbrydoli. Cyfarfodyn Neuadd y Dref, Dinbych, SJ052661.

    Y

    Dydd Sadwrn 17 GorffennafTaith y Pererinion11am - 5pmTaith 7 milltir o bellter sy’n dilyn llwybr ypererinion o Glawddnewydd i FetwsGwerfil Goch, gan ymweld ag eglwysiCanoloesol a ffynnon sanctaidd. Byddcludiant yn ôl i’r man cychwyn. Cyfarfodym maes parcio siop CymunedClawddnewydd, SJ083524

    Y

    Dydd Mercher 21 GorffennafY Llechi A’r Llwyni6pm - 8pmTro hamdden am 2 milltir yn nyffrynhyfryd Nant y Pandy yn edrych ar oliongwaith llechi a fu unwaith yn brysur drosben. Cyfarfod yn y maes parcio y tu ôl ineuadd Glyndyfrdwy, gyferbyn â siopHodge Podge ar y ffordd A5, SJ148426.

    Y

    17 Gorffennaf - 1 Awst

    Gŵyl Archeoleg Prydain

    21

  • Dydd Iau 22nd Gorffennaf Taith Lleisiau gyda Sylwebaeth ar yPryd - Caer Drewyn10am - 4pmTaith Lleisiau gyda Sylwebaeth ar y Pryd, ynarbennig i bobl sydd â nam ar y golwg.Gan gychwyn yng Nghanolfan HamddenCorwen byddwn yn cerdded i Fryngaer Oes yrHaearn, Caer Drewyn. Bws mini o Siop ParcGwledig Loggerheads am 10am. Yn ôl am4pm. Dewch â phecyn bwyd, neu gallwchbrynu tamaid yn y Ganolfan Hamdden.Digwyddiadau Hygyrchedd i Bawb. TrefnyddColin Antwis, Fieldsman Trails. 01352 756202www.fieldsmantrails.com

    Y

    Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf Ar dy feic ym Mrenig 11amTaith ar feic gydag arweinydd i goedwigClocaenog gyda Oneplanet Adventure. Maebwcio’n hanfodol ar y daith hon o gwmpasLlwybr Hendre. Mae modd llogi beic os oesangen. Ffoniwch am y manylion 01978 751656 Y

    Dydd Mawrth 27 GorffennafCyfrinachau’r Caerau10am - 1pmMwynhewch y daith gerdded 4 milltir hon iDwr y Jiwbilî ac i Goed Moel Famau iddarganfod beth fu project y Grug a’rCaerau yn ei wneud yn ystod y tair blynedddiwethaf. Maes parcio uchaf Moel Famau.

    Y

    Dydd Gwener 30 GorffennafPeirianneg10am - 4pmDewch i weld 7 milltir o Ddyffryn yr AfonDdyfrdwy, ymweld â Chastell Dinas Bran,Camlas Llangollen, rhyfeddu at ddoniaupeirianegol Thomas Telford, a chlywed amGruffydd ap Madog a’i wraig Emma. Dyma’rrhesymau pam mae’r ardal yn Safle Treftadaethy Byd. Maes Parcio Llantysilio, SJ198432.

    Y

    Dydd Sul 1 Awst Hanes Cudd Brenig2pmTaith gydag arweinydd yn rhan o ŴylArcheoleg Prydain. Cychwyn o faesparcio’r Gogledd, Llyn Brenig SH983574.01490 420463 ˙

    Dydd Gwener 6 AwstHanes y Cerrig11am - 1pmCerddwch drwy’r twyni tywod iddarganfod yr amrywiaeth o fywyd gwylltsy’n byw yn ac o gwmpas y system odwyni sydd yn symud yn barhaol, ac iddysgu am hanes y cerrig ar y traeth. Maesparcio Traeth Barcbi, Prestatyn, SJ068839

    Y

    Dydd Gwener 6 Awst Teithiau Teulu Brenig10am & 2pm Treuliwch hanner diwrnod gyda’r teulu yn ystod y gwyliau ac ewch am reid ogwmpas ardal hardd Hiraethog. Reidiaugydag arweinydd o Oneplanet Adventure.Cychwyn o Lyn Brenig. Bwcio’n hanfodol.01978 751656Y

    22

    24 Gorffennaf Pen-blwydd AHNE BryniauClwyd yn 25 oed

  • Dydd Mawrth 10 AwstTrywydd Lleisiau Sylwebaeth ar yPryd, Moel Famau2pm - 3.30pmDewch i gael y profiad o ogofeydd, seiniau acarogleuon Natur ar daith gerdded sydd âsylwebaeth leisiol fyw. Mewn ambell le,oherwydd arwyneb y llwybrau a’r serthrwydd,efallai bydd angen cymorth ar rai sy’ndefnyddio cadair olwyn. Dehonglydd BSL.Cyfarfod yng Nghanolfan Cefn GwladLoggerheads. Digwyddiadau Hygyrchedd iBawb, Trefnydd Colin Antwis, Fieldsman Trails.01352 756202 www.fieldsmantrails.com

    Y

    Dydd Iau 12 AwstSbio’r Slumod Swil9pm - 10.30pmTaith 2 filltir gan ddefnyddio offer datgeluystlumod er mwyn deall y creaduriaid swilhyn yn well. Dewch â fflachlamp. Maesparcio Saints Gym Garthmelyd, SJ062809.

    Y

    Dydd Iau 12 AwstMeteorau Mynydd y Gaer9pm - 11pmTaith gerdded gydag arweinydd i fynybryngaer Caer Drewyn i weld y gawodflynyddol o feteorau Perseid. Byddarbenigwyr Cymdeithas SeryddiaethLlandyrnog wrth law i ddangos y cytseraua’r cyrff wybrennol eraill. Cyfarfod ymmaes parcio Canolfan Hamdden Corwen,SJ082442. Dewch â’ch fflachlamp.

    Dydd Gwener 13 AwstRhodio’r Rhostiroedd10am - 4.30pmMwynhewch daith gerdded 9 milltir i weldrhostiroedd grug Mynydd Llantysilio ar eugorau. Cyfarfod: Caffi’r Ponderosa, Bwlch

    yr Oernant. SJ192481.Y

    Dydd Gwener 20 AwstBBQ ac Ystlumod7pm - 10pmMwynhewch BBQ bychan yng NghoedNercwys ac wedyn taith gerdded 1 filltir ahanner gyda’r nos i chwilio am ystlumod.Cyfarfod - Coed Nercwys (ger yr Wyddgrug)maes parcio’r gogledd, SJ218593.

    Y

    Dydd Mercher 25 AwstCrwydro yn y Gymraeg10.30am - 2.30pmTaith gerdded drwy gyfrwng y Gymraeggydag arweinydd am 3 ½ milltir i weld suty bu i bobl adael eu hôl ar dirweddBryniau Clwyd. Croeso i ddysgwyr. Maesparcio uchaf Moel Famau, SJ161606.

    Y

    Dydd Iau 26 AwstSbri a Slumod8pm - 10pmTaith hamddenol am filltir gan ddefnyddio offerdatgelu ystlumod. Parc Gwledig Loggerheads.

    Q Y

    23

  • Dydd Llun 30 AwstSlumod a Phistyll 8.30pm - 10.30pmTaith hamddenol am filltir a hanner ar hydy gamlas ac i Raeadr y Bedol i weld pagreaduriaid sy’n ymddangos ar ôl machludhaul. Maes parcio Llantysilio, SJ198433.

    Y

    Dydd Sadwrn 4 MediBeicio o le i le10am - 1.30pmTaith ar feic ar yr arfordir gan ymweld â 5o safleoedd cefn gwlad o’r twyni i’rcoedlannau. Cofiwch am becyn bwyd,a’ch beic. Maes parcio Pwll DwrBrickfields, SJ013804.

    Y

    Dydd Llun 6 MediDatgelu’r Gorffennol10am - 12pmDysgwch am ein gorffennol diwydiannol amynd ychydig o ffordd i mewn i hengloddfa yng nghwmni arbenigwr ogofeuai weld sut fywyd oedd gan fwynwyr tuadwy ganrif yn ôl. Angen ffitrwydd, gafaelda a bod yn ddi-ofn mewn lleoeddcyfyng. Parc Gwledig Loggerheads.

    Y

    Dydd Iau 7 MediMae’n Ddiwedd y Byd10am - 3pmTaith gerdded linellol am bum milltir drosgreigiau Eglwyseg i Worlds End i ddarganfodgeoamrywiaeth y dirwedd hon. Cludiant bwsmini ar gael. Maes parcio yn ymyl CreigiauTrefor oddi ar y ffordd A542 i’r dwyrain oLangollen, SJ235432.

    Y

    Dydd Iau 9 MediGolygfeydd yn dod yn fyw10am - 4pmTaith i Fryngeyrydd Oes yr Haearn a’rrhostiroedd grug i’w gweld yng nghyd-destun tirweddau heddiw. Byddwn yn arosi glywed disgrifiadau ac i dderbyngwybodaeth mewn fformatau sy’n briodole.e. print mawr a chlir, lluniau cyffyrddol/braille, dehonglydd BSL. Cofiwch ambecyn bwyd neu prynwch fwyd yn SiopFferm y Rhug. Bws mini o Barc GwledigLoggerheads.Digwyddiadau Hygyrchedd i Bawb.Trefnydd Colin Antwis, Fieldsman Trails.01352 756202 www.fieldsmantrails.comQ Y

    Dydd Iau 9 MediCerdded a Thynnu Lluniau ymMryniau Clwyd11am - 3pmYmunwch â’r artist Bill Kneale ar daith dairmilltir o hyd gan greu brasluniau o Dŵr yJiwbilî, Moel Famau. Hoffech chi ddal swynyr ardal ar bapur? Dyma’ch cyfle i wneudhyn. Bydd hyfforddiant a’r holl offer ar gaelichi ar daith gerdded hyfryd. Cyfarfod yn ymaes parcio uchaf SJ161605.

    Y

    Dydd Sul 12 MediHer Fawr y Fryngaer8am - 7pmDewch i weld chwech o fryngeyrydd

    24

    200

  • gorau’r ardal mewn un diwrnod. Bydd ydaith yn 14 milltir i gyd. Cyfarfod ymMharc Gwledig Loggerheads. Dowch â’chpecyn bwyd. Mae’n daith egniol gydallawer o ddringo. Bydd bws mini’n eichcludo rhwng Dyffryn y Ddyfrdwy aBryniau Clwyd. Allwch chi oresgyn yChwech?

    Y

    Dydd Mercher 15 MediArchaeoleg y Brenig a ChoedCyffylliog10am - 4pmTaith gerdded 7 milltir gan gynnwysLlwybr Archeoleg y Brenig ac yna i lawrdrwy Goedwig Clocaenog a dyffrynnoeddcoediog, serth i Gyffylliog i gyfarfod bwsmini a fydd yn cludo’r cerddwyr i’r mancychwyn. Cyfarfod ym maes parcioArcheoleg Llyn Brenig, SH983574

    Y ˙

    Dydd Gwener 17 MediCylch yr Alwen10am - 3.30pmMwynhewch rostiroedd agored Hiraethogar y daith gerdded hon o 10 milltir arlannau’r ddwy gronfa ddŵ r. CanolfanYmwelwyr Llyn Brenig, SH967547.

    Y ˙

    Dydd Sadwrn 18 Medi ‘Gwylio’r Lloer’6.30pm - 11.30pmYmunwch â ni i ddathlu blwyddyn ryngwladolseryddiaeth gyda noson telesgopau agored.Trefnwyd mewn partneriaeth â chymdeithasauseryddiaeth lleol. Darparir offer i’r rhai sy’ncymryd rhan. Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig01490 420463

    Dydd Sul 19 Medi Ffair Wledig Hiraethog10am - 4pmRhaglen lawn o ddigwyddiadau ac oweithgareddau, gan gynnwys teithiau cerddedgydag arweinydd, a reid beic. Mewn cysylltiadâ Chymdeithas Hiraethog. 01490 420463

    Dydd Sul 19 Medi Ar feic ym Mrenig11amCyflwyniad i feicio yn Brenig mewnpartneriaeth â Oneplanet AdventureBwcio’n hanfodol ar y daith feiciau gydagarweinydd o gwmpas Llwybr Brenig. Maemodd llogi beic os oes angen. 01978 751656

    Dydd Sul 26 MediAr Drywydd Thomas Telford10am - 4pmTaith gerdded 7 milltir o Raeadr y Bedol iBont Ddŵ r Pontysyllte safle Treftadaeth yByd newydd. Bydd cludiant bws mini argael. Maes parcio Llantysilio, SJ198432.

    Y

    25

    25 & 26 Medi

    Gŵyl Fwyd yr Wyddgrugwww.moldfoodfestival.co.uk

    25 & 26 Medi

    Gŵyl Gerdded Llangollen

    Medi PenwythnosauTreftadaeth Agored yn SirDdinbychI weld y teithiau cerdded, sgyrsiau athripiau yn Nyffryn Clwyd yn ystod Mediewch i www.valeofclwydheritage.org.uk

  • Dydd Gwener 15 HydrefFfeindio Ffwng 1pm - 3 pmTaith gerdded 1 ½ milltir i archwilio’r ffwngyn y coed. Parc Gwledig Loggerheads.

    Y

    Dydd Sul 24 Hydref Darganfod Llyn Brenig10am Taith gerdded gydag arweinydd ogwmpas Llyn Brenig. 01490 420463 ˙

    Dydd Sul 21 TachweddDeall ein Hucheldiroedd10am - 4pmCyfres o sgyrsiau ar y rhostiroedd a’rcaerau sydd ar Fryniau Clwyd aMynyddoedd Llantysilio Cewch ddysguam y datblygiadau newydd sydd yn yproject y Grug a’r Caerau. Lleoliad i’wgadarnhau, ewch iwww.ygrugarcaerau.co.uk for details.Y

    Dydd Gwener 26 TachweddBywyd Gwyllt yn y Gaeaf9am - 4pmTaith gerdded am 7 milltir yn y gaeaf iweld y cynefinoedd, y pentrefi a rhainodweddion bywyd gwyllt anghyffredin.Parc Gwledig Loggerheads.

    Y

    26

    Digwyddiadau Earthcacheewch i www.earthcache.org

    Dydd Llun 25 HydrefTŵ r y Jiwbilî - Pen-blwyddyn 200 oed

    Rhaglen ‘Cerddwn’ Am fanylion ffoniwch 01745 356197Diwrnod Man Cychwyn Amser cychwyn ParhadDydd Llun Llain Bowlio, Llanelwy 10.30am 1+ awrDydd Llun Canolfan Merched y Rhyl 1.00pm 1 awrDydd Llun Taith Nordig, Neuadd y Dref, 11am 1+ awr

    Dinbych Dydd Mawrth Canolfan Hamdden Dinbych 10am 1+ awrDydd Mawrth Canolfan Gymunedol Dyserth 11am 2 awrDydd Mercher Llain Bowlio, Llanelwy 10.30am 1+ awrDydd Iau Pwll y Grawys, Dinbych 10am 1+ awrDydd Iau Canolfan Gymunedol Rhuddlan 11am 2 awrDydd Gwener Sesiwn dysgu techneg Cerdded 9am 1 awr

    Nordig, Pwll dwr Brickfield Dydd Gwener Sesiwn dysgu techneg Cerdded 12.30pm 2 awr

    Nordig Pwll dwr Brickfield

  • 27

    Ddwywaith y flwyddyn, mae GwasanaethauCefn Gwlad Sir Ddinbych yn cyhoeddi rhaglenlawn i wirfoddolwyr sy’n rhoi gwybodaeth amgyfleoedd i gynorthwyo gwarchod ein cefngwlad a’n bywyd gwyllt a dysgu’r sgiliautraddodiadol gan gadw’n ffit ar yr un pryd.

    Dyma restr o rai o ddigwyddiadau ‘blasugwirfoddoli’ ichi roi cynnig arnyn nhw.

    Os hoffech gopi o’r RhaglenGwirfoddolwyr, ffoniwch 01352 810614neu gwelwch www.AHNEbryniauclwyd.org.uk.

    Gwisgwch ddillad y gallwch eu baeddu,esgidiau sy’n gyfforddus sydd yn gafael;dewch â dillad glaw a phecyn bwyd.

    Rhoddir hyfforddiant.

    Cofiwch sicrhau bod eich pigiad tetanwsyn gyfredol

    Cyrsiau arbenigol mewn sgiliau Coedlannau- The Warren, Bodfari. � 01745 710626neu www.woodlandskillscentre.co.uk

    Y - This event has limited spaces, pleasebook a week in advance.

    Dydd Gwener 29 & Dydd Sadwrn 30 IonawrPlygu Gwrychoedd 10am - 3pmRhowch gynnig ar y grefft draddodiadolhon a helpu i adfer rhan o hen wrychsydd wedi gordyfu ar ymyl LlwybrCenedlaethol Clawdd Offa. Rhoirhyfforddiant lawn. Cyfarfod yn y gilfan blemae llwybr Clawdd Offa yn croesi’r fforddo Lanarmon yn Iâl i Landegla. Ffoniwch igael cyfarwyddiadau gwell.

    Dydd Mercher 3 - Dydd Gwener 5 ChwefrorPlygu Gwrychoedd10am - 3pmDewch i roi help llaw i’r wardeniaid i osodgwrych terfyn ar gyfer y goedlangymunedol a grëwyd yn ddiweddar ynGlan Morfa. Rhoddir hyfforddiant ac offer.Maes parcio Glan Morfa, Marsh Road, yRhyl, SJ002805.

    GweithgareddauYmarferolyng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych

  • Dydd Mercher 28 EbrillGwella Cartref Madfall y Tywod10am - 1pmDewch i’n helpu i wella’r cynefin ar gyfermadfallod y tywod a gafodd eu hail-gyflwynoyma, drwy greu clytiau noeth o dywod.Cyfarfod ym maes parcio isaf Traeth Barcbi.

    Dydd Gwener 7 MaiParatoi ar gyfer ymweliad blynyddol yFôr Wennol fach10am - 3pmDewch i roi cymorth i baratoi’r ardal llemae’r adar môr prin hyn yn dod bobblwyddyn. Erbyn hyn, dyma’r unig nythfayng Nghymru, felly bydd pawb wrthi’nbrysur yn gofalu bod popeth yn barod areu cyfer. Cyfarfod wrth y fynedfa iWarchodfa Natur Leol Gronant (gerPresthaven), SJ089841.

    Dydd Mercher 9 MehefinBrwydr y Balsam a Bwyta’r 6pm - 10pmDewch i’n helpu ni i gychwyn cadw’rbalsam Himalaya o dan reolaeth arlannau’r afon Alun. Cewch fwffe yn wobram eich gwaith caled. Bydd y digwyddiadyn ardal yr Wyddgrug, cewch wybod bleyn union pan fyddwch yn bwcio.Y

    Dydd Mawrth 27, Dydd Mercher 28 aDydd Gwener 30 GorffennafGwneud Golosg10am - 3pmRhowch gynnig ar y grefft draddodiadolhon. Llwytho’r odyn ar y dydd Mawrth,cynnau’r odyn ar y dydd Mercher, a rhoi’rgolosg mewn sachau ar y Dydd GwenerCyfarfod y tu allan i Ysgol Cyffylliog acwedyn ein dilyn ni i’r safle. SJ060578.

    Dydd Gwener 17 a Dydd Sadwrn 18 MediDiwrnod mawr y DdyfrdwyYn ôl drwy alwad poblogaidd. Dewch igymryd rhan yn y marathon o lanhau 48awr ar lannau’r Ddyfrdwy o Brestatyn iGaer ac i Gilgwri. Grŵp gennych? -dewch i gymryd rhan! I gael gwybod mwyffoniwch : Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir yFflint, Canolfan Ymwelwyr Wepre01244 814931.

    28