Rhaglen Datblygu Proffesiynol Professional Development Programme
Rhaglen Datblygu Proffesiynol Professional Development Programme
- 2 -
- 3 -
Mynegai
Tudalen Rhan 1: Hyfforddiant i reolwyr 4 Rhan 2: Hyfforddiant i staff technegol 5 Rhan 3: Hyfforddiant i ddefnyddwyr cyffredinol 7 Rhan 4: Hyfforddiant i staff addysgu 12 Rhan 5: Hyfforddiant i ddysgwyr 15
- 4 -
Rhan 1: HYFFORDDIANT I REOLWYR
Ymgorffori fideogynadledda yn eich sefydliad Cyf: WVN001 Y Gynulleidfa Staff sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu’r defnydd o fideogynadledda ac sydd â’r awdurdod i weithredu’r Darged: cynllun a luniwyd yn ystod y sesiwn.
Amser/ Hyd: Cyfres o dair sesiwn: un wyneb yn wyneb (3 awr) a dwy drwy fideogynhadledd (1 awr)
Disgrifiad: Er mwyn defnyddio fideogynadledda mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, mae angen i sefydliadau ddeall potensial llawn fideogynadledda a llunio cynllun ar gyfer hybu’r defnydd ohono. Mae’n angenrheidiol i gael staff sydd yn gwybod sut i drefnu fideogynhadledd. Pa fath o system sydd gennym a gyda phwy arall medrwn ni gysylltu? Sut allwn ni fwcio fideogynhadledd? Beth allwn ni wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le? Pa fath o hyfforddiant sydd ar gael? Sut allwn ni ysgogi ein cydweithwyr i’w ddefnyddio?
Amcanion: Erbyn diwedd y gyfres o sesiynau bydd y cyfranogwyr yn gallu:
creu cynllun rhagarweiniol ar gyfer gweithrediad effeithlon o fideogynadledda yn eu sefydliad
trafod materion cynllunio sy’n ymwneud â darparu a derbyn addysg drwy fideogynadledda
defnyddio’r offer yn y stiwdio
defnyddio system fwcio ‘JVCS’ Cost Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC.
- 5 -
Rhan 2: HYFFORDDIANT I STAFF TECHNEGOL
Eich Stiwdio Fideogynadledda: Cyflwyniad Technegol * Cyf: WVN002
Y Gynulleidfa Rheolwyr TGCh, Technegwyr Darged:
Amser / hyd: Diwrnod llawn, yn eich sefydliad, i dechnegwyr sydd yn newydd i fideogynadledda, neu ddiweddariad o 2 awr drwy fideogynhadledd i’r mwy profiadol
Disgrifiad: Canllaw technegol i dechnolegau fideogynadledda ac offer y stiwdio Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
enwi’r prif gydrannau o stiwdio fideogynadledda ac esbonio eu pwrpas
rhestri’r prif dechnolegau rhwydwaith a rhwydwaith fideogynadledda
cofrestru ar gyfer, a bwcio drwy’r system JVCS Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC *Ymddiheuriadau – nid yw’r sesiwn hon ar gael yn y Gymraeg
- 6 -
Cyflwyniad i system fwcio JVCS Cyf: WVN003
Y Gynulleidfa Darged: Rheolwyr TGCh, technegwyr, staff gweinyddol
Amser/hyd: 1 awr drwy fideogynadledda a rhannu data Disgrifiad: Canllaw dechnegol ar sut i gofrestru ar gyfer, a defnyddio’r system fwcio JVCS Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
cofrestru i ddefnyddio’r system JVCS i fwcio fideogynhadledd
bwcio fideogynhadledd ar JVCS
Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 7 -
Rhan 3: HYFFORDDIANT I DDEFNYDDWYR CYFFREDINOL
Eich Stiwdio Fideogynadledda: Cyflwyniad i ddefnyddwyr Cyf: WVN004 Y Gynulleidfa Darged: I bawb Amser/Hyd: 3 awr, drwy fideogynhadledd, neu yn eich sefydliad os dymunir sesiwn hyfforddi arall ar yr un diwrnod Disgrifiad: Canllaw ar gyfer dechnolegau fideogynadledda ac offer y stiwdio Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
labelu prif gydrannau o’r stiwdio fideogynadledda ac esbonio sut i’w defnyddio
rhestru prif dechnolegau fideogynadledda
danfon lluniau o’r camerâu, y camera dogfennau a’r DVD/RCF
Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 8 -
Trefnu Cyfarfodydd Llwyddiannus drwy fideogynadledda Cyf: WVN005
Y Gynulleidfa Darged: Pawb Hyd: 2 awr, drwy fideogynhadledd, neu yn eich sefydliad os dymunir sesiwn hyfforddi arall ar yr un diwrnod Disgrifiad: Ydych chi’n mynychu cyfarfodydd fideogynhadledd, ond yn gadael yn siomedig ac yn difaru eich bod
heb deithio yn lle? Bydd y sesiwn hon yn dangos sut all fideogynadledda gael effaith bositif ar gyfarfodydd - sut all fideogynadledda arbed amser, egni, ac arian drwy wneud eich cyfarfodydd yn fwy cynhyrchiol.
Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr yn gallu:
trefnu cyfarfod fideogynhadledd, wrth ystyried agweddau gweithredol a thechnolegol.
addasu agenda ar gyfer fideogynadledda
cadeirio cyfarfod drwy fideogynadledda yn effeithiol Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 9 -
Cyflwyniad i rannu gwybodaeth Cyf: WVN006
Y Gynulleidfa Darged: Unrhyw staff sydd ac angen i rannu gwybodaeth mewn fideogynhadledd Disgrifiad: Sesiwn ymarferol ydy hon sydd yn cyflwyno’r cyfranogwyr i rannu gwybodaeth mewn fideogynhadledd Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
lawr lwytho meddalwedd rhannu gwybodaeth
creu cynhadledd rhannu gwybodaeth
ymuno a chynhadledd rhannu gwybodaeth
Hyd: 1 awr drwy fideogynhadledd Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 10 -
Cadeirio Cynhadledd rhwng sawl safle Cyf: WVN007 Y Gynulleidfa Darged: Unrhyw un fydd ag angen trefnu fideogynhadledd Disgrifiad: Mae rôl y Cadeirydd yn hanfodol er mwyn cynnal fideogynhadledd rhwng sawl safle yn llwyddiannus.
Os oes rhaid i chi gadeirio fideogynhadledd, ond yn ansicr sur mae’r rôl yn wahanol i’r arferol, dyma’r sesiwn i chi.
Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
deall rôl y cadeirydd mewn fideogynhadledd
cadeirio fideogynhadledd gyda hyder
Hyd: 1 awr, drwy fideogynhadledd Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 11 -
Cyflwyniad i Fwrdd Gwyn Rhyngweithiol eich stiwdio Cyf: WVN008 Y Gynulleidfa Darged: Unrhyw un fydd efallai yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol y stiwdio fideogynadledda Disgrifiad: Gall y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol fod yn ddefnyddiol iawn mewn fideogynhadledd. Bydd y sesiwn yn
cynnig canllaw sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn. Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
defnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol gyda hyder Hyd: 1 awr drwy fideogynhadledd Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 12 -
Rhan 4: HYFFORDDIANT I STAFF ADDYSGU
Defnyddio fideogynadledda ar gyfer addysgu o bell Cyf: WVN009 Y Gynulleidfa Darged: Athrawon sydd yn golygu dysgu drwy fideogynhadledd. Gofynnir i athrawon i ddod a chynlluniau gwersi
ac adnoddau i’w ddefnyddio yn y sesiwn. Hyd: 3 awr drwy fideogynhadledd, neu yn eich sefyliad os dymunir sesiwn ychwanegol yr un diwrnod. Disgrifiad: Mae fwyfwy o ysgolion yn rhannu darpariaeth drwy fideogynadledda. Mae’r sesiwn yn edrych ar sut
mae fideogynadledda yn effeithio ar gynllunio, arddulliau addysgu a dulliau asesu. Sesiwn ymarferol yw hon bydd yn rhoi hyder i athrawon i ddysgu mewn amgylchedd fideogynadledda
Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
addasu cynllun gwers i gynnwys y gofynion ychwanegol o addysgu drwy fideogynadledda
trafod yr arddulliau dysgu sydd yn gweddu fideogynadledda orau
addasu adnoddau addysgu i siwtio fideogynadledda
dangos cyfathrebiad geiriol a chorfforol cywir mewn fideogynhadledd
defnyddio teclyn rheol fideogynhadledd o fewn system fwcio JVCS Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 13 -
Defnyddio fideogynadledda i gyfoethogi’r cwricwlwm Cyf: WVN010
Y Gynulleidfa Darged: Athrawon, darlithwyr, rheolwyr cwricwlaidd, ymgynghorwyr pwnc Hyd: 3 awr drwy fideogynadledda, neu yn eich sefydliad os dymunir sesiwn hyfforddi arall ar yr un diwrnod Disgrifiad: Cyflwyniad cyffredinol i’r ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio fideogynadledda i gyfoethogi’r cwricwlwm Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
trafod y manteision o, a’r rhwystrau i’r defnydd o fideogynadledda yn y dosbarth
trafod defnydd amrywiol o fideogynadledda ym myd addysg
cynllunio ar gyfer defnyddio fideogynadledda yn y cwricwlwm
Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 14 -
Defnyddio fideogynadledda ar gyfer Dysgu ac Addysgu: Rhaglen Mentora Cyf: WVN011 Y Gynulleidfa Darged: Athrawon sydd wedi mynychu’r sesiynau rhagarweiniol ac sydd ac angen cymorth parhaol yn ystod eu
defnydd cychwynnol o fideogynadledda Hyd: 3 mis tybiannol o fentora, ond heb amser penodol Disgrifiad: Yn ystod y rhaglen hon, bydd athrawon sydd â diddordeb mewn fideogynadledda yn derbyn mentora
mewn proses o gynllunio, draddodi a gwerthuso eu fideogynhadledd cyntaf a seilir ar y cwricwlwm. Mae’r rhaglen fentora wedi’i ddilysu gan Rwydwaith y Coleg Agored (OCN)
Amcanion: Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:
cynllunio ar gyfer fideogynhadledd a seilir ar y cwricwlwm
trefnu a chymryd rhan yn y fath fideogynhadledd
gwerthuso’r fideogynhadledd mewn cwestiwn
Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 15 -
Rhan 5: HYFFORDDIANT I DDYSGWYR
Cyflwyniad i ddysgu drwy fideogynhadledd Cyf: WVN012 Y Gynulleidfa Darged: Dysgwyr
Hyd: 40 munud drwy fideogynhadledd
Disgrifiad: Mae stiwdio fideogynadledda yn gallu creu dychryn ymysg disgyblion i gychwyn. Bydd y sesiwn yma, drwy fideogynhadledd, yn galluogi’r disgyblion i brofi fideogynadledda mewn sesiwn anffurfiol. Ystyrir arfer ac ymddygiad derbyniol, ac anogir disgyblion i gyfranogi’n llawn i wersi drwy fideogynhadledd.
Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
deall arfer ac ymddygiad derbyniol i ddangos mewn fideogynhadledd
cyflwyno’u hunain i’r cyfranogwyr eraill
ymddwyn yn addas mewn fideogynhadledd
Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 16 -
Cyflwyniad i Dechnolegau Fideogynadledda Cyf:WVN013 Y Gynulleidfa Darged: Dysgwyr sydd yn astudio Cyfrifiaduro, TGCh, ac Astudiaethau Busnes
Hyd: 40-60 munud drwy fideogynhadledd Disgrifiad: Mae’r sesiwn yn cyflwyno gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr am dechnolegau fideogynadledda a sut y
defnyddir ym myd gwaith. Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
diffinio rhwydweithiau cyfathrebu fideogynadledda gwahanol.
enwi mathau o gysylltiadau a gosodiadau sgrin
deall ymddygiad derbyniol ar gyfer fideogynadledda Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 17 -
Cyflwyniad i Fideogynadledda i athrawon dan hyfforddiant Cyf: WVN014 Y Gynulleidfa Darged: Athrawon dan hyfforddiant mewn addysg bellach, uwchradd a gynradd
Hyd 60 munud, drwy fideogynhadledd
Disgrifiad Mae stiwdio fideogynadledda yn gallu creu dychryn ymysg disgyblion ar y dechrau. Bydd y sesiwn hon, drwy fideogynhadledd yn rhoi cyfle i athrawon dan hyfforddiant i brofi fideogynhadledd mewn sesiwn anffurfiol. Bydd yn edrych ar y manteision o/rhwystrau i fideogynadledda a sut y gellir integreiddio fideogynadledda i mewn i’w dysgu.
Amcanion: Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
enwi’r rhwystrau i’r defnydd o fideogynadledda ar gyfer dysgu
enwi’r manteision o ddefnyddio fideogynadledda ar gyfer dysgu
trafod opsiynau am ddefnyddio fideogynadledda yn eu dysgu eu hunain
Cost: Yn rhad ac am ddim i sefydliadau RhFC
- 18 -
Gwneud cais am hyfforddiant Rhaid gwneud cais am sesiwn drwy fynd i: http://www.wvn.ac.uk/en/learning/requesttraining Bydd pob sesiwn yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:
Telerau ac Amodau
1 Mae Rhwydwaith Fideo Cymru yn cynnig hyfforddiant yn rhad ac am ddim i bob stiwdio a chefnogir gan RhFC. Ceidw’r RhFC yr hawl i godi tal am amser staff ac unrhyw gostau ychwanegol os ydych am ganslo’r hyfforddiant ar y funud olaf.
2 Fydd yna leiafswm o 4 a mwyafswm o 10 o bobl i sesiynau ar safle. Does yna ddim lleiafswm i sesiynau drwy fideogynhadledd, ond mwyafswm o 8.
3 Ceidw’r RhFC yr hawl i godi tal am amser staff ac unrhyw gostau ychwanegol os na fynychir gan y lleiafswm uchod.
4 Ceidw’r RhFC yr hawl i godi tal am amser staff os na gynigir ddigon o amser ar gyfer y sesiwn.
5 Rhaid i’r sefydliad sydd yn derbyn hyfforddiant sicrhau bod yr holl offer yn gweithio a bod Microsoft Office wedi’i lwytho ar gyfrifiadur Data’r stiwdio.
6. Rhaid i’r sefydliad sydd yn derbyn hyfforddiant sicrhau bod y stiwdio ar gael o leiaf hanner awr cyn dechrau’r hyfforddiant.
7. Lle gofynnir am ddiwrnod llawn o hyfforddiant, bydd disgwyl i’r sefydliad sydd yn derbyn hyfforddiant gynnig cinio a lluniaeth.
8. Ceidw’r Rhwydwaith Fideo Cymru’r hawl i recordio sesiynau hyfforddiant, gyda chaniatâd y cyfranogwyr.
- 19 -
Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach am Raglen Datblygiad Proffesiynol RhFC, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy fynd i [email protected] neu drwy gysylltu ag un o’r canlynol yn uniongyrchol:
Alison Walker Maldwyn Jones Cydlynydd Dysgu a Datblygu Ymgynghorydd Dysgu ac Addysgu Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Deiniol Building, Prifysgol Abertawe Prifysgol Bangor, Abertawe, Cymru SA2 8PP Bangor, Cymru LL57 2UX Ffon: +44 (0) 1792 513519 Ffon: +44 (0) 1792 513520 e-bost: [email protected] e-bost: [email protected] Stuart Henderson Nia Besley Ymgynghorydd Dysgu ac Addysgu Ymgynghorydd Dysgu ac Addysgu Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Prifysgol Abertawe Prifysgol Abertawe Abertawe, Cymru SA2 8PP Abertawe, Cymru SA2 8PP Ffon: +44 (0) 1792 513317 Ffon: +44 (0) 1792 513317 e-bost:[email protected] e-bost:[email protected]
- 20 -