Top Banner
Hydref 2016 Penblwydd Hapus i Grŵp Strôc Caergybi! Cafodd Ernie Pritchard ei strôc ar 18 Chwefror 1995. Arferai fod yn swyddog adnoddau dynol yn RAF Fali ar Ynys Môn, gyda rhyw 240 o sifiliaid dan ei adain; roedd wrth ei fodd â’r swydd ac mae’n hi- raethu amdani o hyd. Nid oedd fyth yn ddyn i eistedd yn llonydd am yn hir, felly penderfynodd ddechrau Grŵp Strôc ac, ym mis Medi, dyna a wnaeth. Dechreuodd y Grŵp yn y Ganolfan Allymestyn yng Nghaergybi gyda chwe ae- lod. Erbyn hyn, 20 mlynedd yn ddiwedda- rach, mae gan y Grŵp ryw 25 o aelodau ac, yn gwbl haeddiannol, mae’n hynod falch o’i lwyddiant ers cyhyd. Rheswm hen ddi- gon da dros gael parti! Felly, daeth bron i ddeg ar hugain o ffrindiau, gofalwyr a go- roeswyr strôc i fwynhau cinio bendigedig yng Ngwesty Bae Trearddur ddydd Merch- er, 14 Medi. Roedd yr haul yn tywynnu, cafwyd ambell ddiod a rhannwyd hanesion o ddewrder a phendantrwydd. Ar gyfer y flwyddyn arbennig hon, roedd Ernie wedi’i ethol yn unfrydol yn Gadei- rydd, ond mae’n cydnabod y cyfraniad ar- bennig a wnaed gan ei ragflaenydd, Eirwen Mills. Gynt yn Gadeirydd, yn Drysorydd ac yn Ysgrifennydd ar hyn o bryd, prin yw’r rolau nad yw Eirwen wedi ymgymryd â nhw yn gysylltiedig â llwyddiant parhaus y Uchod: Ellen Roberts (Trysorydd Cyntaf), Ernie Pritchard and Eirwen Mills
7

Penblwydd Hapus i Grŵp Strôc Caergybi!...Hydref 2016 Penblwydd Hapus i Grŵp Strôc Caergybi! Cafodd Ernie Pritchard ei strôc ar 18 Chwefror 1995. Arferai fod yn swyddog adnoddau

Feb 04, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
  • Hydref 2016

    Penblwydd Hapus i

    Grŵp Strôc Caergybi!

    Cafodd Ernie Pritchard ei strôc ar 18

    Chwefror 1995. Arferai fod yn swyddog

    adnoddau dynol yn RAF Fali ar Ynys Môn,

    gyda rhyw 240 o sifiliaid dan ei adain;

    roedd wrth ei fodd â’r swydd ac mae’n hi-

    raethu amdani o hyd.

    Nid oedd fyth yn ddyn i eistedd yn llonydd

    am yn hir, felly penderfynodd ddechrau

    Grŵp Strôc ac, ym mis Medi, dyna a

    wnaeth. Dechreuodd y Grŵp yn y Ganolfan

    Allymestyn yng Nghaergybi gyda chwe ae-

    lod. Erbyn hyn, 20 mlynedd yn ddiwedda-

    rach, mae gan y Grŵp ryw 25 o aelodau ac,

    yn gwbl haeddiannol, mae’n hynod falch

    o’i lwyddiant ers cyhyd. Rheswm hen ddi-

    gon da dros gael parti! Felly, daeth bron i

    ddeg ar hugain o ffrindiau, gofalwyr a go-

    roeswyr strôc i fwynhau cinio bendigedig

    yng Ngwesty Bae Trearddur ddydd Merch-

    er, 14 Medi. Roedd yr haul yn tywynnu,

    cafwyd ambell ddiod a rhannwyd hanesion

    o ddewrder a phendantrwydd.

    Ar gyfer y flwyddyn arbennig hon, roedd

    Ernie wedi’i ethol yn unfrydol yn Gadei-

    rydd, ond mae’n cydnabod y cyfraniad ar-

    bennig a wnaed gan ei ragflaenydd, Eirwen

    Mills. Gynt yn Gadeirydd, yn Drysorydd ac

    yn Ysgrifennydd ar hyn o bryd, prin yw’r

    rolau nad yw Eirwen wedi ymgymryd â

    nhw yn gysylltiedig â llwyddiant parhaus y

    Uchod: Ellen Roberts (Trysorydd Cyntaf), Ernie

    Pritchard and Eirwen Mills

  • grŵp hwn ers ei strôc ei hun yn 2006.

    Dynes brysur tu hwnt yw Eirwen ac ar gefn

    beic modur, gyda'i gŵr Chris, mae hi hefyd

    yn helpu mewn siopau elusennol a hi yw’r

    sbardun ar gyfer llawer o’r teithiau a’r dig-

    wyddiadau sy’n cael eu cyflawni gan y

    grŵp.

    Cyfeiriodd Ernie ac Eirwen ill dau at y

    caredigrwydd a’r haelioni a ddangoswyd

    tuag atynt gan drigolion Môn, ac yn ar-

    bennig at y ddeuawd codi arian, y fam a’r

    ferch Margaret Williams a Lisa Bates. Mae’r

    ddwy gefnogwr diflino hyn wedi sicrhau

    bod cynifer o weithgareddau’r grŵp yn

    bosibl trwy godi symiau aruthrol o arian

    trwy amrywiaeth fawr o heriau dyfeisgar.

    Wrth iddynt gyflwyno siec arall fyth i’r

    Grŵp, fe wnaeth pawb gymeradwyo a

    chydnabod eu cyfraniad

    Daeth y dathliad i ben trwy drafod cynhyr-

    chu calendr Nadolig, y trefniadau ar gyfer

    y cinio Nadolig a llawer o syniadau ar

    gyfer y flwyddyn nesaf. Yn egnïol, yn

    ddyfeisgar, gyda chefnogwyr gwirioneddol

    ysbrydoledig, dymunwn bob llwyddiant

    iddynt ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf!

    Uchod: Ernie, Lisa a Margaret a siec mawr!

    Unwaith eto, buom yn ffodus gyda’r

    tywydd eleni. O leiaf, roedd diwrnod cyn-

    taf Sioe Môn yn braf, braidd yn oer, ac

    roedd golwg dda ar ein stondin, er iddi

    gael ei chelu braidd gan y stondin drws

    nesa’.

    Cafwyd cefnogaeth aruthrol gan John

    Heaton a Gwenda, gyda Gwenda’n trefnu

    ac yn lapio’r holl anrhegion ar gyfer y raffl.

    Diolch yn fawr i chi am eich holl waith, ry-

    dym yn ei werthfawrogi’n fawr.

    Ar y cyfan, daeth 55,000 o bobl ar gy-

    fartaledd i’r Sioe a gwnaethom yr un nifer

    o brofion pwysedd gwaed â’r llynedd.

    Cafodd Llinos ei gwahodd ar raglen radio,

    ar “MON FM” y tro hwn. Mae’r cyfleoedd

    hyn i siarad am strôc a gwaith y

    Gymdeithas gyda chynulleidfa ehangach

    yn amhrisiadwy a chymaint yw profiad

    Llinos fel bod y cyfryngau yn cysylltu â hi,

    yn hytrach na ninnau’n cysylltu â’r cyfryn-

    gau, gan wneud bywyd yn haws o lawer

    wrth i ni weithio mor galed i dynnu sylw

    pobl at ein gweithgareddau a sut gallwn

    helpu.

    Sioe Môn 2016

  • Grŵp Porthmadog

    yn derbyn her

    Boccia Ydych chi’n cofio amdanom ni’n sôn am

    Boccia tua blwyddyn yn ôl? “Botcha” yw’r

    ynganiad ac mae’n fath o fowls sy’n cael ei

    chwarae gyda’r un amcan, sef cael eich pêl

    chi agosaf at y jac; y prif wahaniaeth yw

    bod pob cystadleuydd yn eistedd.

    Daeth dau dîm o Grŵp Strôc Porthmadog

    Dave Hill i gymryd rhan yn y twrnamaint, a

    gynhaliwyd ym man cyfarfod arferol y

    grŵp, sef Canolfan Glaslyn. Roedd cyn-

    rychiolwyr yno o nifer o sefydliadau eraill

    ac roedd y brif neuadd yn brysur tu hwnt.

    Ar ôl cael rhai cyfarwyddiadau sylfaenol a

    sesiwn gynhesu digon egnïol, aeth y timau

    ati i gymryd eu tro yng ngemau’r rownd

    gyntaf. Wrth gwrs, hanfod yr hwyl yw

    cymryd rhan ond, os ennill yw’r nod go

    iawn, does dim o’i le ar drafod tactegau!

    Wrth i’r tensiwn gynyddu, aeth pob tîm ati

    i wella’u chwarae, gyda chefnogaeth arfer-

    ol yr hyfforddwr.

    Yn y pen draw, rhaid i ni bob amser dder-

    byn mai penderfyniad y beirniaid sy’n

    mynd â hi, hyd yn oed pan fydd hi’n am-

    lwg y cawsom ni gam!

    O ganlyniad, mae’n rhaid i ni ddatgan na

    wnaeth yr un o’n timau dewr gyrraedd y

    rownd gynderfynol, ond cafwyd diwrnod

    arbennig a byddai’n wych petawn ni’n gallu

    annog grwpiau strôc eraill i ddod i ymuno â

    ni’r flwyddyn nesaf ….. amdani!

  • Roedd Shriek for Stroke, a gynhaliwyd

    ddydd Sadwrn, 22 Hydref, yn llwyddiant

    ysgubol. Cyrhaeddodd saith gwirfod-

    dolwr dewr ac Emma Kay o’r Gymdeithas

    i Gastell Bodelwyddan i gamu i’r tywyll-

    wch. Ar ôl taith gychwynnol, yna

    gweithdy byr a wnaeth gyflwyno rhai te-

    clynnau ymchwilio’r goruwchnaturiol i’r

    grŵp, diffoddwyd y goleuadau a chy-

    chwynnodd yr antur.

    Symudodd gwydr ar ei ben ei hun,

    cafodd rhai symudiadau diesboniad eu

    canfod ar y camerâu gweld yn y nos,

    nodwyd cyswllt ar y recordwyr EVP (gol.

    Na finnau, chwaith!) a chafodd rhywun ei

    wthio, rhyw fymryn, ond ei wthio, ar

    Codi arswyd ar nos

    Sadwrn!

    waelod y grisiau. Daeth yr hysteria tua 5.00

    y bore, yn bennaf oherwydd y diffyg

    cwsg...ni flasodd coffi a theisennau crwst

    gystal erioed!

    Fu’r ymdrech yn werth chweil? Heb amheu-

    aeth. Nid yn unig y cafwyd hwyl, ond mae’r

    noson wedi codi’r swm anhygoel o £1,700

    hyd yn hyn gan olygu sicrwydd, os oedd

    angen, y bydd rhyw ddigwyddiad tebyg

    mewn lleoliad arall flwyddyn nesaf. Diolch i

    Emma am drefnu’r digwyddiad a diolch i

    bob enaid dewr a gymerodd ran.

    Ymunodd Philippa

    Davies â’r

    Gymdeithas Strôc yn

    Awst 2015 fel

    Swyddog Statudol

    Codi Arian ar gyfer

    gogledd a chanolbarth Cymru. Mae’r tori-

    adau di ben draw yn y cyfnod hwn o gynni

    wedi golygu iddi orfod chwilio am gyllid gan

    amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn i ni

    Dod i adnabod

    chi...

    barhau i gynnig y gofal a’r cymorth gorau y

    gallwn i oroeswyr strôc, eu teuluoedd a’u

    gofalwyr.

    Yn wreiddiol, fe wnaeth Philippa astudio’n

    filfeddyg, ond dywed fod cyfarfod â’i gŵr,

    Gareth, wedi newid ei blaenoriaethau. Mae

    hi bellach yn byw ar fferm yng Ngheredi-

    gion gyda Gareth a’u dau o blant, ac yn

    treulio’i horiau hamdden yn helpu ar y

    fferm a choginio i’r teulu, a gwylio dramâu

    teledu pan gaiff hi gyfle.

    Mae’n frwd iawn am yr Eidal, y golygfeydd,

    y ffordd o fyw ac, wrth gwrs, mae’r gwin a’r

    bwyd yn bur dda hefyd!

  • Mae’n bleser gennym ddatgan bod nifer y

    Pwyntiau Gwybodaeth yn cynyddu’n raddol.

    Erbyn hyn, mae un yng Nghanolfan Cunliffe,

    sef man cyfarfod grŵp Roy Griffith yn

    Wrecsam, ac mae’n gobeithio y bydd mwy i

    ddod.

    Rydym wedi clywed am un achlysur pan

    oedd perchennog siop wedi adnabod un o’i

    gwsmeriaid rheolaidd a holi a oedd popeth

    yn iawn gan nad oedd wedi’i weld yn ddi-

    weddar.

    Roedd y ffermwr oedrannus, a oedd yng

    nghwmni ei fab ar y pryd, wedi dweud

    wrtho ei fod wedi dioddef strôc a bod ef a’i

    deulu’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi,

    mewn gwirionedd. Rhoddwyd ein taflenni

    iddynt yn syth a ffoniodd y mab y rhif ar y

    daflen - roedd y mab ei hun ymhell dros ei

    50 oed. Yr wythnos ganlynol, daeth y mab

    yn ôl i’r siop ac, o holi sut oedd ei dad a’r

    teulu erbyn hyn, dywedodd “Rwy wedi sor-

    tio’r cyfan nawr. Mae popeth yn iawn”.

    Rydym yn falch iawn o hynny, yn helpu i roi

    bywyd yn ôl ar ben ffordd eto. Cymorth

    lleol, diffwdan gan bobl roeddent yn eu

    hadnabod, yn caniatáu i ni ymwneud â nhw

    ac addasu’r cymorth yn ôl y gofyniad uni-

    gol. Gwych!

    Gofynnwyd i ni gyflwyno’r syniad hwn i

    gynhadledd staff Cymru’r Gymdeithas

    Strôc, felly, rydym yn gobeithio bydd y fen-

    ter hon a ddyfeisiwyd yng ngogledd Cymru

    yn tyfu ledled y wlad gyfan a, hwyrach, y tu

    hwnt. Cawn weld a chewch wybod!

    Pwyntiau Gwybodaeth

    y Gymdeithas Strôc

    Dyma lun o staff swyddfa ym Macclesfield

    gyda’r cacennau a bobwyd ganddynt i

    gefnogi’r Gymdeithas Strôc.

    Fe wnaethant godi £142.00, felly mae’n

    rhaid bod pawb yn y swyddfa fechan honno

    wedi rhoi rhywbeth – tipyn o gamp.

    Dal d’afael... Macclesfield? Dydy Maccles-

    field ddim yng ngogledd Cymru. Nac ydyw,

    ond mi rydw i, a’m merch i drefnodd y cy-

    fan!

    Cefnogaeth o Macclesfield

    Ac os dyna hi am y tro…

    Oddi wrth bob un ohonom yn y Gymdeithas Strôc yng ngogledd Cymru, Nadolig Llawen a

    Blwyddyn Newydd Dda i chi oll, ac edrychwn ymlaen at weld pawb eto yn 2017.

  • Calendr digwyddiadau

    The Big Welsh Woolly Jumper

    Dydd Sadwrn 4 Mawrth 2017

    Ymunwch â ni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng

    Nghymru mewn ffordd unigryw a chwblhau naid yn

    Maes Awyr Tilstock .

    Resolution Run

    Dydd Sul 19 Mawrth 2017

    Beth am ddechrau meddwl am eich cydraniad

    Blwyddyn Newydd yn gynnar a cofrestrwch ar gyfer

    ein Resolution Run 2017!

    Ewch i stroke.org.uk/5kp

    Am fwy o fanylion am unrhyw ddigwyddiadau ar y dudalen hon

    cysylltwch â ni trwy anfon ebost i [email protected] neu

    galwch 01745 508632

    Taith gerdded noddedig

    16-20 Medi 2017

    Mae Gwyliau Cerdded Clywdian wedi dewis ni fel eu

    Elusen y Flwyddyn am 2017. Am fwy o fanylion ac i

    gofrestru cysylltwch a Bob Eckersall ar 01745 890453

    Digwyddiadau allanol 2017

    6 Mai - Sialens Bala Taith Gerdded Noddedig 1-3 Medi - Anglesey Ultra Marathon

    20-21 Mai - Slatesman Triathlon 19 Tachwedd - Conwy Half Marathon

  • Cofiwch…

    Mae’r Gymdeithas Strôc yma i’ch helpu

    chi, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr

    eich bod chi’n cymryd mantais o’r cyfan

    sydd gennym i’w gynnig.

    Ffoniwch ein Llinell gymorth (0303 3033

    100) os oes gennych chi unrhyw ymholi-

    adau – mae ar gyfer pawb, nid dim ond y

    rheiny sydd wedi dioddef strôc yn ddi-

    weddar.

    Ymunwch â sgwrs TalkStroke ar-lein a

    sgwrsio â phobl eraill â phrofiadau tebyg

    i’ch rhai chi. Ewch i stroke.org.uk/

    talkstroke.

    Dilynwch ni ar Twitter @StrokeWales a

    Instagram a hoffwch ni ar Facebook trwy

    fynd i dudalen Stroke Association Wales,

    i ddysgu am yr holl fentrau cyffrous rydym

    ni’n gysylltiedig â nhw.

    Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am beth

    sy’n digwydd trwy ddarllen Club Togeth-

    er; anfonir gopïau o’r rhain at eich grŵp

    bob tri mis. Cofiwch anfon eich straeon i

    Rebecca Chamberlain.

    Cysylltwch â swyddfa Gogledd Cymru yn

    Llanelwy i siarad â’r tîm sydd bob amser

    yn hapus i sgwrsio. Ffoniwch 01745

    508524

    Oes gennych chi rywbeth i’w ddweud

    wrthym?

    Da iawn! Anfonwch neges e-bost at

    [email protected] neu ffoniwch

    David ar 01352 721089

    Tan y tro nesaf!