-
CYFOETHRhifyn 1 // Haf 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dwysau’r frwydyr yn erbyn clefydau coed
Mae dau glefyd difrifol wedi taro coed y De dros yr wythnosau
diwethaf, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n galed i’w
hatal rhag lledaenu.
Rydym wedi neilltuo dros £2 filiwn i’r ymgyrch i fynd i’r afael
â chlefyd sy’n ymosod ar goed llarwydd Prydain. Byddwn yn buddsoddi
£500,000 ar unwaith i fynd i’r afael â Phytophthora ramorum (P
ramorum) drwy dorri coed ar hyd ymylon ardaloedd heintiedig i
geisio rhwystro’r clefyd rhag lledaenu ymhellach.
Mae’r strategaeth frys hefyd yn cynnwys prawf arloesol i weld a
fyddai chwistrellu coed â chwynladdwr cyffredin yn gallu arafu
ymlediad y clefyd.
Mae arolygon o’r awyr yn dangos bod y clefyd, a ddarganfuwyd yng
Nghwm Afan dair blynedd yn ôl, sy’n effeithio ar goed llarwydd
hefyd wedi lledaenu. Achosir y clefyd hwn gan bathogen ffyngaidd
o’r enw Phytophthora ramorum ac mae wedi heintio coed dros
ardal 3,000 hectar erbyn diwedd 2012. Byddwn yn gwario £1.7
miliwn pellach
ar gael gwared ar goed wedi’u heintio, ailblannu coed yn eu lle
a chreu ffyrdd drwy goedwigoedd fel bod modd clirio ardaloedd
newydd.
Clefyd arall i daro coed yw Chalara, sy’n achosi i goed ynn
wywo, wedi’i ganfod yn yr amgylchedd ehangach. Rydym wedi cynnal
arolwg o 1.5 km o’r ardal er mwyn canfod hyd a lled yr haint, ac
rydym yn trafod gyda thirfeddianwyr pa gamau y gallant eu cymryd er
mwyn arafu’r lledaeniad, gan gydymffurfio â Chynllun Rheoli Chalara
Llywodraeth Cymru.
Nid yw un o’r clefydau hyn yn achosi unrhyw berygl i iechyd dyn
nac anifail, ac nid yw mynediad cyhoeddus i goetiroedd wedi’i
gyfyngu. Er hynny, gofynnwn i bobl ymddwyn yn gyfrifol a chymryd
camau diogelwch syml fel glanhau mwd oddi ar eu hesgidiau a’u
teiars.
// Rydym yn trafod gyda thirfeddianwyr pa gamau y gallant eu
cymryd er mwyn arafu’r lledaeniad
Blas o’n gwaithMae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mewn
bodolaeth ers bron i gant o ddiwrnodau, felly mae’n gyfle da i gnoi
cil ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, a chanolbwyntio ar yr heriau
sydd o’n blaenau. Wrth i ni barhau i feithrin dulliau o weithio ac
integreiddio staff yn fewnol, gobeithio ein bod wedi llwyddo i
ddarparu gwasanaeth di-dor i chi hyd yma.
Er bod sawl ffordd o gyflwyno gwybodaeth mewn chwinciad i chi,
nod y cylchlythyr hwn yw ceisio rhoi crynodeb o’r hyn sydd wedi
digwydd ar draws y sefydliad. Y bwriad yw cyflwyno rhagflas o’n
gwaith ni, gyda rhagor o fanylion am y straeon sy’n ymddangos ar
ein gwefan.
Mae Cymru’n wynebu llawer o sialensiau – sialensiau i’w phobl
a’i chymunedau, i’w heconomi ac i’w hamgylchedd a’i bywyd gwyllt.
Sicrhau cyflenwadau ynni a thanwydd, darpariaeth o swyddi ac incwm,
mynd i’r afael â bygythiadau newid yn yr hinsawdd a llifogydd,
gwella iechyd a lles pobl.
Golygyddol
yn parhau ar dud. 2
-
Tîm Arwain
Rydym wedi gorffen recriwtio ar gyfer swyddi arwain y sefydliad.
Byddwn yn eu cyflwyno yn y rhifyn nesaf, fesul Cyfarwyddiaeth. Criw
Cyfarwyddiaeth Gweithredol y De sydd dan sylw y tro hwn.
Mae’r Ardal yn ymestyn o Drefynwy yn y dwyrain i Martin’s Haven,
Sir Benfro, yn y gorllewin, ac i Lanymddyfri yn y gogledd. Mae’n
cwmpasu dros ddeugain o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac 14
awdurdod lleol.
Mae gan dimau’r Gyfarwyddiaeth amrywiaeth eang o
gyfrifoldebau,
gan gynnwys: mynd i’r afael â throseddau gwastraff, denu
ymwelwyr i’r unig warchodfa naturiol o’i bath yng Nghymru (o
amgylch Ynys Sgomer), sicrhau diogelwch cronfeydd dŵ r a chynnal a
chadw llwybrau beicio, gwarchod safleoedd bywyd gwyllt i’r fadfall
ddŵ r gribog, helpu cwmni Tata Steel i leihau allyriadau nwyon tŷ
gwydr, lleihau peryglon llifogydd yn sgil llanw Aber afon Hafren (y
llanw uchaf ond un yn y byd), i ddifa ceirw yng nghoedwig Coed y
Cymoedd yn Resolfen, Castell-nedd.
// Mae’r Ardal yn cwmpasu dros ddeugain o swyddfeydd Cyfoeth
Naturiol Cymru ac 14 awdurdod lleol.
o dudalen 1
Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru
Graham Hillier (canol) a Thîm Arwain Gweithredol y De; (o’r
chwith i’r dde) Martyn Evans, Peter Garson, Mary Youell a Gareth
O’Shea.
Gwefannau Ydy’ch gwefan chi’n cynnwys y manylion cywir am
Gyfoeth Naturiol Cymru? Rydym yn gofyn i’n holl randdeiliaid ofalu
bod unrhyw gyfeiriad at y tri chorff blaenorol yng Nghymru ar eich
gwefan wedi’i ddisodli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
I gwrdd â’r sialensiau hyn mae angen syniadau newydd, ffyrdd
newydd o feddwl a ffyrdd newydd o wneud pethau. Mae hyn yn cynnwys
sut yr ydym yn cynnal, gwella a defnyddio’n hadnoddau naturiol.
Rwyf wedi treulio llawer o amser gyda’n partneriaid a’m
cwsmeriaid dros y misoedd diwethaf ac mae’r gwaith rwyf wedi’i weld
ar draws Cymru wedi gwneud cryn argraff arna i. Wrth dreulio amser
gyda chi, rwy’n telimlo fy mod yn cael gwell ddealltwriaeth o’r
heriau ac rwy’n defnyddio’r wybodaeth yma i hybu arfer da o fewn
Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rwyf eisioes yn gallu gweld budd o ddod â’r holl waith sy’n
ymwneud â’r amgylchedd at ei gilydd, boed hynny’n effeithio ar yr
amgylchedd neu’n elwa ohono. Ond mae gennym lot yn fwy i ddysgu ac
i wneud i ddatgloi’r potensial a geir o fewn ei hadnoddau, drwy eu
rheoli a’u defnyddio mewn ffordd fwy cydlynus ac integredig. Un
ffordd y gallwch chi ein helpu ydy drwy ein helpu i gydlynu’r
cynllun corfforaethol – gallwch ddarllen mwy am hyn ar dudalen
3.
Rydym yn gwybod fod sawl sialens o flaen Cyfoeth Naturiol Cymru,
ond rydym yn adeiladu ar seiliau cadarn. Rwy’n edrych ymlaen i
gydweithio gyda chi i gwrdd y sialens.
Dr Emyr Roberts
Emyr Roberts
-
yn grynoFurther funding for Rhagor o arian i waith ecosystem
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £1.5 miliwn er mwyn helpu i
ddatblygu prosiectau sy’n sicrhau bod ein hecosystemau yn fwy cryf
ac amrywiol ac yn gallu darparu’r gwasanaeth hanfodol y mae’r
gymdeithas yn dibynnu arno. Byddwn nawr yn gweinyddu’r Gronfa
Ecosystem Hydwyth, a bydd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn
asesu’r holl geisiadau am gyllid.
Bydd yr arian hwn yn adeiladu ar lwyddiannau’r ddwy flynedd
ddiwethaf. Yn ystod hynny, defnyddiwyd yr arian i adfer cynefinoedd
â blaenoriaeth fel coetiroedd a glaswelltiroedd cynhenid; rheoli
effaith planhigion ac anifeiliaid goresgynnol anfrodorol, yn
ogystal â gwella ein dealltwriaeth o’r ecosystemau, y pwysau sy’n
eu hwynebu a’r dulliau rheoli sydd eu hangen i’w gwneud yn fwy cryf
a chadarn.
Mae’r amgylchedd naturiol yn werth £8 biliwn i economi Cymru, a
hoffem adeiladu ar hyn fel Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er ein bod yn canolbwyntio ar gynnal y gwasanaethau pwysig mae
pobl a busnesau yn dibynnu arnynt, fel ein gwasanaethau rhybuddio
am lifogydd, cynnal cyflenwadau coed a gwarchod safleoedd
gwerthfawr, rydym hefyd eisiau dechrau ad-drefnu’r gwaith rydym yn
ei wneud gyda dull a chyfeiriad newydd – fel bod yr amgylchedd yn
gwneud mwy dros bobl, economi a bywyd gwyllt ein gwlad.”
Felly, mae’r camau cyntaf o gyfuno’r syniadau ffres hyn a’r
dulliau newydd o weithio ar yr agenda wrth i ni ddatblygu ein
cynllun corfforaethol cyntaf o fis Ebrill 2014 tan fis Mawrth 2017.
Gwyddom nad oes gennym yr ateb i bopeth fel sefydliad, felly dyna
pam rydym eisiau clywed barn amrywiol er mwyn helpu i ddatblygu’r
cynllun hwn.
Felly, dyma gyfle i chi gymryd rhan a
chyfrannu at y gwaith. Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai yn
ystod mis Gorffennaf, a bydd trafodaethau cyhoeddus yn cael eu
cynnal yn Sioe Fawr Llanelwedd ac Eisteddfod Genedlaethol Dinbych
hefyd. Yna, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus agored ar ein
cynllun corfforaethol drafft.
Er ein bod eisiau clywed eich sylwadau, ni fyddwn yn gallu
plesio pawb, ond trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill gallwn
gyrraedd y nod o gyflawni dros bobl, economi ac amgylchedd
Cymru.
Cynhelir y digwyddiadau yn:2 Gorffennaf Garwnant4 Gorffennaf Tŷ
Ladywell, Y
Drenewydd9 Gorffennaf Bangor11 Gorffennaf Canolfan
Halliwell,
CaerfyrddinAm gyfle i gymryd rhan, e-bostiwch:
[email protected]
// Mae’r amgylchedd naturiol yn werth £8biliwn i economi Cymru,
a hoffem adeiladu ar hyn
Newyddion
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru
Dan sylw
Cynllun Corfforaethol
Galw ar ffermwyr i gofrestru eithriadau gwastraffMae gan
ffermwyr tan ddiwedd mis Medi i gofrestru eithriadau newydd i’r
modd maen nhw’n defnyddio, storio, trin a gwaredu gwastraff. Dros y
ddeufis nesaf, byddwn yn anfon llythyrau â logo Cyfoeth Naturiol
Cymru ar yr amlen at ryw 14,000 o ffermwyr, yn eu cynghori i
gofrestru ar-lein cyn gynted ag y bo modd. Os yw ffermwyr yn dymuno
parhau â gweithgareddau gwastraff, mae’n bwysig eu bod naill ai’n
cofrestru am eithriad newydd neu’n gwneud cais am drwydded os na
allant gydymffurfio â’r eithriadau newydd.
-
yn grynoCanmol ein coetiroedd
Cafodd y coetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru sêl
bendith mewn arolwg o brofiadau ymwelwyr. Cafodd ymweliadau â
choetiroedd y llynedd eu sgorio naill ai’n “Dda Iawn” neu’n
“Rhagorol” gan 89% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg Ansawdd Profiad
blynyddol. Mae’r miloedd o gilometrau o lwybrau a ffyrdd coedwig yn
un o’r atyniadau mwyaf i’r coetiroedd, a cherdded yw’r gweithgaredd
mwyaf poblogaidd ymhlith 72% o’r ymwelwyr.
Roedd yr arolwg hefyd yn pwysleisio effaith economaidd ein
coetiroedd, gyda dwy ran o dair o’r ymwelwyr yn ymweld am y dydd a
28% arall yn aros dros nos mewn llety lleol neu ar wyliau. Bob
blwyddyn, gwneir tua phedair miliwn o ymweliadau â choetiroedd a
reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnwys 500,000 o ymweliadau
ag un o’r pum canolfan ymwelwyr.
M ae Llwybr Arfordir Cymru yn enghraifft wych o sut y gall yr
amgylchedd helpu rhannau gwahanol o gymdeithas. Mae’n helpu’r
diwydiant twristiaeth, yn hybu economïau trefol a gwledig, ac yn
annog pobl i fynd allan a mwynhau’n hamgylchedd yn ei holl
ogoniant. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae 2.8 miliwn o bobl wedi
cerdded ar hyd rhannau o’n Llwybr Arfordir cenedlaethol, ac wedi
cyfrannu £16 miliwn at economi Cymru. Ar ben hynny, fe arhosodd
80,000 o’r ymwelwyr hynny dros nos yn un o’r tai llety, llefydd
gwely a brecwast a gwestai niferus ar hyd y daith.
Yn ymestyn o’r ardal ar y ffin â Lloegr yn y Gogledd i Gas-gwent
yn y De, dyma’r llwybr cenedlaethol parhaus hiraf yn y byd. Mae’r
tywyslyfr
rhyngwladol Lonely Planet yn credu ei fod yn rhyfeddol, gan
ddewis y llwybr fel rhanbarthau orau’r byd yn 2012, o flaen
atyniadau eraill fel y Ruta Maya yng Nghanolbarth America a’r
Maritime Provinces, Canada.
Roedd y flwyddyn gyntaf yn ddechrau gwych, ond mae llawer mwy
i’w wneud eto. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio’n
galed i geisio denu hyd yn oed mwy o bobl – trigolion lleol a’r
ymwelwyr fel ei gilydd - i fanteisio ar yr adnodd naturiol anhygoel
hwn.”
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect, ac
awdurdodau lleol sy’n gwneud y gwaith ar lawr gwlad. Yn ogystal â’r
cyllid o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol
arfordirol, mae Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop wedi dyrannu bron
i
// Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cerddodd 2.8 miliwn o bobl ar hyd
rhannau o’n Llwybr Arfordir cenedlaethol, gan gyfrannu £16 miliwn
at economi Cymru
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru
Llwybr Arfordir Cymru yn 1 oed!
Anrhydeddu ecolegydd morolMae Cymdeithas Ewropeaidd flaenllaw ar
fioleg a chadwraeth mamaliaid môr, wedi anrhydeddu’r diweddar Dr
Mandy McMath, cyn-Ecolegydd Morol Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Roedd ei
hymrwymiad i famaliaid môr a’r rhai a oedd yn eu hastudio a’u
gwarchod yn uchel ei barch. Bydd Gwobr Cadwraeth Mandy McMath yn
cael ei gyflwyno am gyfraniad eithriadol i faes cadwraeth a/neu les
mamaliaid môr, gyda phwyslais arbennig ar gyfraniadau i addysg
amgylcheddol a/neu gadwraeth ar waith.
Newyddion
-
www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru
yn grynoLleihau traffig coed
Bydd tipyn llai o lorïau yn teithio drwy bentrefi bach ac ar
lonydd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys, diolch i
gynllun cydweithio arloesol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, y tri
chyngor sir dan sylw a chwmnïau UPM Tilhill ac Aitchesse
Limited.
Mae’r cyrff hyn wedi ymrwymo i ‘Gronfa Cludo Coed’ newydd a fydd
yn caniatáu iddyn nhw sefydlu, rheoli a chynnal rhwydwaith o ffyrdd
coedwig mewnol sy’n cael eu rhannu. Bydd y ffyrdd yn darparu gwell
mynediad i’r prif ffyrdd, sy’n golygu na fydd angen i lorïau
deithio ar hyd ffyrdd gwledig bach a thrwy bentrefi bach mewn rhai
ardaloedd mwyach.
Mae coedwigaeth fasnachol yn werth tua £370 miliwn i economi
Cymru, gyda Choedwig Tywi yn gyfrifol am 15% o’r pren a gynhyrchir
yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r cynllun cydweithio hwn yn newyddion
gwych i fusnesau, ac yn caniatáu i gwmnïau coedwigaeth preifat
gludo coed yn fwy effeithlon.
Mae’r gwaith o wella ac adnewyddu’r seilwaith amddiffyn rhag
llifogydd ac amddiffyn yr arfordir yn mynd rhagddo, diolch i
fuddsoddiad ychwanegol o £2 filiwn ar gyfer prosiectau amddiffyn
rhag llifogydd ledled Cymru.
Bydd ein gwaith yn lleihau’r peryglon llifogydd i gartrefi a
busnesau, ac er na allwn ni fyth ddileu peryglon llifogydd yn
llwyr, bydd y buddsoddiad hwn yn lleihau’r risg i bobl ac
eiddo.
Mae’r buddsoddiad newydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau yn
Llanfair Talhaearn, Pontblyddyn yn Sir y Fflint, Ystradmynach,
Glanyfferi, Pen-y-bont ar Ogwr a Thalsarnau ymhlith eraill. Bydd
amddiffynfeydd llifogydd ar rannau o afon Hafren, Crindai yng
Nghasnewydd a’r afon Rhymni yng Nghaerdydd yn elwa hefyd.
Ar ben hyn, rydym newydd gwblhau sawl prosiect amddiffyn rhag
llifogydd ar hyd a lled y wlad – cynllun gwerth £1.6 miliwn i
adeiladu amddiffynfa 90 metr o hyd ym mhentref Pwll, Llanelli, tra
gwariwyd £100,000 ar brosiect adnewyddu amddiffynfa hanfodol ym
Machynys, sy’n gwarchod parc siopa a thai yn ardal Trostre,
Llanelli.
Ond mae mwy i’n gwaith rheoli peryglon llifogydd na chreu
amddiffynfeydd newydd yn unig; mae’n golygu gweithio gyda’r
amgylchedd i ganfod atebion creadigol.
Ym mhen ucha’ Cwm Tawe, rydym yn symud tua 500 tunnell o gerrig
a graean - neu’r basle - o wely’r afon lle mae afonydd Tawe a
Thwrch yn cwrdd, er mwyn galluogi’r afonydd i lifo’n rhwyddach a
lleihau perygl llifogydd i 268 o dai a thri busnes gerllaw yn
Ystalyfera.
Yna, mae’r basle’n cael ei olchi er mwyn cael gwared ar y grit
mân a’u graddio o ran maint er mwyn penderfynu pa mor addas ydyw
fel amgylchedd delfrydol i eogiaid silio. Bydd hyd at 40 y cant o’r
cerrig a gaiff eu symud o afon Tawe ac afon Twrch yn cael eu
“hailgylchu” fel grawn silio mewn llefydd eraill.
Mae’n ddull dyfeisgar dros ben. Trwy symud cerrig a all greu
problemau llifogydd hunllefus i drigolion Ystalyfera, rydym hefyd
yn creu man bridio delfrydol i’r eog. Dyma’r math o gynllun
arloesol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i’w feithrin.
Rheoli peryglon llifogydd
//Mae mwy i’n gwaith rheoli peryglon llifogydd na chreu
amddiffynfeydd newydd yn unig; mae’n golygu gweithio gyda’r
amgylchedd i ganfod atebion creadigol.
Cyfarfod y BwrddMae ein cyfarfodydd Bwrdd yn rai agored ac mae
croeso I chi ddod yno I wrando ar y trafodaethau. Bydd agendau,
papurau a chrynodebau ar gael ein gwefan. Mae ein cyfarfodydd nesaf
yn:
9 Orffennaf Wrecsam
4 Medi Nghaerdydd.
Newyddion