-
@ViridorUK #Viridor
Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn
gweithredu’r cyfleuster, nid ydym wedi canolbwyntio’n unig ar ein
hymrwymiad i roi bywyd newydd i adnoddau ond rydym hefyd wedi
gweithio ar gysylltiadau ystyrlon gyda’n cymuned. Yn yr argraffiad
hwn o’r cylchlythyr, bydd gennych syniad o’r hyn y mae ein
partneriaeth gyda chi’n ei olygu mewn arfer.
Bob blwyddyn, rydym yn agor ein drysau i dderbyn disgyblion
ysgol yn ein Canolfan Dysgu ac Ymwelwyr. Rydym yn cynnal teithiau
rhyngweithiol a fabwysiadwyd
Neges gan Reolwr Gweithrediadau Parc Trident Mae Cyfleuster
Adfer Ynni Parc Trident yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn adnodd
cymunedol go iawn.
Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident
Hydref 2019
i mewn i’r cwricwlwm ysgol gan ein hysgolion lleol. Arweinir y
teithiau gan swyddog medrus ein Canolfan Ymwelwyr a Manteision
Cymunedol, Eamonn Scullion, a ymunodd â ni ym mis Mai. Gweler mwy
o’i hanes ar dudalen 2. Ein gobaith yw plannu hedyn stiwardiaeth
adnoddau wrth addysgu mwy i’r plant am effeithlonrwydd adnoddau a
sut i fabwysiadu agwedd wahanol a chadarnhaol tuag at wastraff – ei
weld fel adnodd ac nid sbwriel. Mae’r teithiau hefyd ar gael i
aelodau’r cyhoedd ac o bryd i’w gilydd rydym yn derbyn pobl bwysig,
fel y byddwch yn darllen ar dudalennau 2 a 3.
Byddwch hefyd yn darllen ar dudalen 3, sut rydym yn hyrwyddo
ymgysylltiad cymunedol wrth gyllido mentrau megis y Caffi Trwsio
Cymru, a dderbyniodd gyllid gan Gronfa Gymunedol Viridor a’r
Prosiect Gwyrdd.
Ar dudalen 4 rhoddir sylw i Duncan MacFarlane a raddiodd o
Brifysgol Caerdydd, sy’n rhoi blas i ni ar fod yn ymgeisydd Cynllun
Graddedigion Viridor.
Hoffwn ddiolch i chi am chwarae eich rhan yn ein partneriaeth.
Mae eich ymdrechion i roi’r pethau cywir yn y bin cywir wedi
cyfrannu’n fawr at gadw ein safle a staff yn ddiogel.
Mae poteli nwy’n risg iechyd a diogelwch difrifol i’n staff a’n
hoffer gan eu bod yn gallu arwain at danau a ffrwydradau pan fyddwn
yn cael gwared arnynt yn ein safleoedd. Gall deunydd peryglus
gynnwys sylweddau sy’n niweidiol i iechyd pobl ond ceir gwastraff
arall hefyd mae’n bosibl na fyddai pobl yn sylweddoli ei fod yn
beryglus, megis teiars, pren sydd wedi’i drin (pren a driniwyd gyda
chemegau i’w helpu i wrthsefyll y tywydd), batris, olew ac offer
electronig. Dylid cael gwared ar y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu
Gwastraff y Cartref agosaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am
ailgylchu, edrychwch ar dudalen 4 i gael ein manylion cyswllt.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau cylchlythyr eleni.
Tim Stamper Rheolwr Gweithrediadau Parc Trident ERF
-
@ViridorUK #Viridor
Ymweliad gan grŵp merched Eglwys y Santes Fair
Os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn taith o’r cyfleuster,
e-bostiwch [email protected]
Weithiau mae’n anodd dychmygu sut y gellid trawsnewid gwastraff
na fedrir ei ailgylchu i ynni sy’n rhoi pŵer i filoedd o gartrefi.
Penderfynodd grŵp merched Eglwys y Santes Fair ymweld â ni, a gweld
drostynt eu hunain y daith mae ein gwastraff bagiau du’n ei wneud
o’n cartrefi ac yn ôl eto.
Mae Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident yn cynnig y cyfle i
drigolion fod yn rhan o daith graff ac ymgysylltiol y tu ôl i’r
llenni o’n cyfleuster. Mae’r teithiau’n rhad ac am ddim ond mae
angen trefnu lle o flaen llaw. Gall grwpiau o hyd at 15 o bobl
fynychu.
Dywedodd Avril, o grŵp merched Eglwys y Santes Fair: “Esboniwyd
popeth mor syml ac effeithlon. Byddwn yn argymell taith i grwpiau
eraill yn bendant.”
“Mae adfer ynni’n ateb arall gwych i anfon gwastraff nad oes
modd ei ailgylchu i dirlenwi. Fodd bynnag, mae ceisio lleihau
maint y gwastraff rydym yn ei greu a dilyn y dull ‘Pethau Cywir,
Bin Cywir’ i ailgylchu yn nod y dylem i gyd geisio ei
gyrraedd.”Mae’r geiriau doeth hyn gan Swyddog newydd ein Canolfan
Ymwelwyr a Manteision Cymunedol Eamonn Scullion, a ymunodd â’r tîm
ym mis Mai. Cawsom ychydig o funudau yn ystod ei ddiwrnod prysur i
sgwrsio mwy am bwy ydyw a’r hyn mae’n ei wneud.
O ble ydych chi’n dod a ble cawsoch eich magu?
Ces i fy ngeni a’m magu ym Mhontypridd yn Ne Cymru. Man geni
hanner y sgwad Gymreig, Tom Jones a’r anthem genedlaethol.
Pa swydd oedd gennych yn flaenorol?
Rwy’n athro hanes, saesneg, mathemateg a STEM cymwysedig. Rwyf
wedi gweithio fel ymgynghorydd addysg i lywodraeth Cymru ac fel
rheolwr Amgueddfa Glowyr De Cymru.
Insert Beth yw eich gwaith presennol?
Rwy’n cynnal Canolfan Ymwelwyr a Dysgu Parc Trident ERF lle
rwy’n darparu teithiau i ysgolion, grwpiau cymunedol a gweithwyr
proffesiynol diwydiant. Rwyf hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau
allgymorth mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal â sgyrsiau â
grwpiau lleol. Rwyf hefyd yn gweinyddu Cronfa Gymunedol Viridor a’r
Prosiect Gwyrdd, sydd ar gael i grwpiau cymunedol yng Nghaerdydd,
Caerffili, Casnewydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.
Beth yw’r peth gorau am eich swydd?
Rwyf wrth fy modd pan rwy’n gweld ein hymwelwyr wedi’u synnu am
raddfa’r gwaith ym Mharc Trident a pha mor ychydig yw’r gwastraff
pan ddaw eu gwastraff yn drydan.
Beth oedd wedi’ch denu at y swydd hon?
Roedd gweithio i Viridor yn apelio oherwydd ei bod yn ymddangos
bod ganddo ethos cynaliadwy amgylcheddol go iawn wrth wraidd ei
fusnes.
Beth rydych yn ei wneud yn eich amser hamdden?
Rwyf ar hyn o bryd yn hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon
Caerdydd. Rwy’n hyfforddwr ar gyfer fy nhîm pêl-droed U5 lleol ac
yn ddilynwr Star Trek brwd!
Croeso Eamonn!
Mae cartrefi’n defnyddio 29% o ynni byd-eang.
Ffynhonnell: Y Cenhedloedd Unedig
Oeddech
chi’n gwybo
d?
-
viridor.co.uk
Trwy’r drychMae chwilfrydedd yn beth gwych, yn arbennig os yw’n
rhoi’r cyfle i ni ysbrydoli ac addysgu eraill ynghylch sut mae ein
cyfleuster yn gweithio. Roedd AS lleol De Caerdydd a Phenarth
Stephen Doughty yn awyddus i ddysgu mwy am sut rydym yn rhoi diben
i’ch gwastraff na fedrir ei ailgylchu trwy ein cyfleuster adfer
ynni. Felly, aethom ag ef ar daith.
Dywedodd Mr Doughty: “Roedd yn ddefnyddiol iawn gweld y
cyfleuster a dysgu am yr ynni a gynhyrchir gan wastraff na fedrir
ei ailgylchu yn cael ei ddychwelyd i’r grid yn hytrach na’i golli.
Roedd hefyd yn wych gofyn cwestiynau am y rheoli allyriadau a
throsglwyddo gwastraff i’r safle.”
Y man nesaf i ymweld ag ef oedd y ganolfan addysg amgylcheddol,
lle dangosom i Mr Doughty sut rydym yn ymgysylltu’r gymuned
ynghylch y broses adfer ynni.
Meddai Mr Doughty: “Roedd yn wych gweld y ganolfan addysg. Os
medr pob un ohonom ddatgelu’r fath adnoddau o oedran ifanc i’r
genhedlaeth iau a’u haddysgu am leihau, ailddefnyddio ac
ailgylchu, mae’n debygol y byddant yn arfer yr hyn maent wedi’i
ddysgu a pharhau’r gwersi hynny hyd yn oed pan fyddant yn oedolion.
Mae angen i ni i gyd leihau ein gwastraff.”
“Rydym hefyd yn falch iawn am y grant gan Gronfa Gymunedol
Viridor a’r Prosiect Gwyrdd. Mae wedi gwireddu’r prosiect hwn, sy’n
cynnwys trefnu dosbarthiadau meistr ac arddangosfeydd
uwchgylchu.
Digwyddiadau dros dro yw Caffis Trwsio lle gallwch gael
eitemau’ch cartref sydd wedi’u torri eu trwsio’n rhad ac am ddim.
Trefnir, cefnogir a chynhelir y cyfarfodydd, a leolir ledled Cymru
gan Caffi Trwsio Cymru ac maent yn cael eu cynnal unwaith y mis.
Nod y fenter yw lleihau gwastraff, addysgu sgiliau trwsio ac
adeiladu cymunedau lleol.
Pe byddai cartref yn gostwng thermostat gwresogi ystafell 2 radd
neu yrru un filltir yn llai bob dydd, byddai’n arbed cymaint o ynni
ag a ddefnyddir i wneud y deunydd pacio ar gyfer ei holl gyflenwad
blwyddyn o nwyddau.Ffynhonnell: INCPEN (Cyngor y Diwydiant ar gyfer
Deunydd Pacio a’r Amgylchedd)
Oeddech
chi’n gwybo
d?
Y gronfa gymunedol yn mynd y tu hwnt i’r gofynMae Viridor yn
credu mewn rhoi bywyd newydd i adnoddau, nid ydym yn ystyried
gwastraff fel sbwriel ond fel adnodd yn hytrach. Yn 2018, rhoddwyd
grant gennym i fenter gymunedol leol Caffi Trwsio Cymru i’w helpu i
ehangu a chynyddu nifer y digwyddiadau maent yn gallu eu cyflwyno.
Galwom heibio i un o’u cyfarfodydd ym mis Gorffennaf i weld sut
maent yn gwneud.
Dywedodd sylfaenydd Caffi Trwsio Cymru Joe O’Mahoney: “Ers i ni
agor ein drysau yn 2017, mae tua 20 i 50 o aelodau’r cyhoedd wedi
dod i bob un o’n digwyddiadau misol. Maent wedi dod â phob math o
eitemau’r cartref sydd wedi’u difrodi neu’u torri y mae ein
gwirfoddolwyr wedi helpu i’w trwsio.
“Bu gan ein gwirfoddolwyr ran fawr mewn sicrhau bod Caffi Trwsio
Cymru’n digwydd. Mae ganddynt sgiliau a doniau amrywiol ac yn
cynnig eu hamser yn hael pryd bynnag y cynhelir digwyddiad
gennym.
-
@ViridorUK #Viridor
Angen cysylltu?Gallwch gysylltu â’r cyfleuster wrth ffonio:
02920 501870
Neu e-bostio’r safle’n uniongyrchol: [email protected]
Oriau swyddfa: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am–5.30pmParc Trident
ERF, Rhodfa Gwydr, Caerdydd CF24 5EN
Cwrdd â’r gweithiwr graddedig
Os hoffech wybod mwy am ein cynllun i raddedigion, e-bostiwch
[email protected]
Wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, mae Duncan MacFarlane yn
dysgu crefft y byd gwaith peirianneg trwy Gynllun
Graddedigion Viridor. Mae ar hyn o bryd ar ail gylch y cynllun,
gyda’r tîm Gwella Proses ym Mharc Trident ERF.
Mae’r cynllun yn gyfle gwych i raddedigion prifysgol ennill
profiad gwaith o fewn maes eu hastudiaeth. Mae’n cychwyn fel arfer
ym mis Hydref ac yn cael ei gynnal dros ddwy flynedd. Rhoddir
graddedigion ar bedwar cylch gweithredol neu reoli chwe mis.
Dywedodd Duncan: “Roedd y rhaglen i raddedigion yn fy nenu’n
fawr oherwydd rhoddwyd y cyfle i fi brofi gwahanol rannau o
beirianneg o fewn busnes yr ERF.
Roedd y cyfle i fynd ar deithiau safle ledled y wlad yn ystod
ein hwythnosau hyfforddi graddedigion yn werthfawr iawn oherwydd
mae wedi fy ngalluogi i weld sut mae’r busnesau eraill o fewn
Viridor yn gweithredu a sut maent yn goresgyn eu heriau.
Rwyf wedi dod o hyd i sawl peth rwyf yn meddwl y gellir eu
trosglwyddo i fusnes yr ERF hefyd.”
Y nod yw y bydd y rhai ar y cynllun yn parhau i weithio i’r
cwmni yn y maes a ddewisir ganddynt, unwaith y cwblheir y
rhaglen.
Cornel y plant:
Chwilair
T N O T N U O N O E T S O T E HT S L W E P E C A N E S L C Y DE
C E LL O G I M F I D N O U E LT D E L E A A I S I T N C H C PN N D
I U I U D N R O A E E O AN T E T S Y H E N M F O A T E TS N S D F O
A A I O Y L D E G CO R D V I T R G U O D N N T W EN M F E E R Y P T
T R D N I A AO E N S T L T S Y D E T M I S WS T O E CH S E C E D T
B O S T MN E H O G T A N R Y DD I F N R NB A L F T D R A N A N R L
D A ET L D A I R E F D A P M Y A FF DA O I DD Y N F E DD L I A R W
T IU U CH L Y G L I A I N O F A G A
PARC TRIDENT
AILGYLCHU
AILDDEFNYDDIO
YNNI
GWASTRAFF
ADFER
PROSIECT GWYRDD
LLEIHAU
ECONOMI GYLCHOL
Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r 10 gair cysylltiedig ag ynni yn
y chwilair isod?
Oeddech
chi’n gwybo
d?
Mae cyfleusterau Viridor yn hunan-gynhyrchu mwy o drydan carbon
isel na’r hyn maent yn ei ddefnyddio ac yn ei allforio i’r grid
cenedlaethol.