Top Banner
Arfordir Treftadaeth Morgannwg / Glamorgan Heritage Coast Dyfarnwyd statws Arfordir Treftadaeth i’r arfordir trawiadol yma yn 1972, ac mae’n gyfle i weld clogwyni mawreddog, traethau euraid a childraethau hardd. This dramatic coastline ,which lies between Porthcawl and Gileston Beach, gained Heritage Coast status in 1972 and offers soaring cliffs, golden beaches and romantic coves. Bae Caerdydd / Cardiff Bay Gan fod y llwybr yn mynd drwy galon ddiwylliannol fywiog prifddinas Cymru, manteisiwch ar y cyfle i’w harchwilio! Explore the vibrant cultural heart of Wales’ capital city; it’s right on the Path! Gwlyptiroedd Casnewydd ac Aber Afon Hafren Newport Wetlands and Severn Estuary Dyma gynefin pwysig i adar sy’n dod i’r wlad i dreulio’r gaeaf, ac mae’n gyfle gwych i weld ymwelwyr rheolaidd ac ambell un annisgwyl. An important habitat for overwintering birds offering superb encounters with regular and surprise visitors to our shores. Castell Cas-gwent / Chepstow Castle Mae’r castell yma yn nhref Cas-gwent, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae’r castell mewn cyflwr arbennig o dda. (Cas-gwent yw man cychwyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa hefyd.) The beautifully preserved castle can be found in the border town of Chepstow (home also to the start of Offa’s Dyke Path National Trail). Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren South Wales Coast & Severn Estuary With 870 miles to explore, the Wales Coast Path has something for everyone. From exploring our heritage and culture to having a fun day out with the family, or from trying one of Wales’ coastal adrenalin activities to putting your feet upon one of our gorgeous beaches. Dip your toe in and find out why this is such a fantastic outdoor destination and discover just how easy it is to fit the Wales Coast Path in to your daily life or your holiday planning. For more suggestions on what you can see and do on the Wales Coast Path, please visit www.walescoastpath.gov.uk. Gyda mwy nag 870 o filltiroedd i’w troedio, mae gan Lwybr Arfordir Cymru rywbeth i’w gynnig i bawb. O archwilio ein treftadaeth a’n diwylliant i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu; o roi cynnig ar weithgaredd llawn adrenalin i ymlacio ar draeth bendigedig. Dewch draw i weld beth sy’n gwneud y Llwybr yn gyrchfan awyr agored heb ei ail ac i weld pa mor hawdd yw hi i wneud y Llwybr yn rhan o’ch bywyd bob dydd neu eich gwyliau. I gael mwy o awgrymiadau ynglŷn â’r pethau y gallwch eu gweld a’u gwneud ar y Llwybr, ewch i www.llwybrarfordircymru.gov.uk. Dylai taith gerdded ar hyd yr arfordir fod yn brofiad diogel a phleserus bob amser, a dylech adael yr amgylchedd fel y cawsoch chi ef. Arhoswch ar y Llwybr ac yn ddigon pell oddi wrth y dibyn. Gwisgwch esgidiau addas a dillad cynnes rhag y glaw. Pan fydd hi’n wyntog neu’n wlyb, byddwch yn arbennig o ofalus. Cofiwch gadw golwg ar blant bob amser. Cofiwch nad oes modd cael signal ffôn symudol bob amser ar hyd yr arfordir. Os nad ydych yn gallu symud yn dda iawn, ewch i www.llwybrarfordircymru.gov.uk i gael gwybodaeth am deithiau cerdded addas. Rydym yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad nifer o dirfeddianwyr y mae’r Llwybr yn mynd trwy’u tir. Dilynwch y Côd Cefn Gwlad: Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion . Gadewch glwydi ac eiddo fel y maen nhw. Ewch â’ch sbwriel adref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt. Cadwch eich ci dan reolaeth dynn. Byddwch yn ystyriol o bobl eraill. A coastal walk should always be a safe and enjoyable experience and you should leave the environment as you found it. Stay on the Path and away from cliff edges. Wear boots and warm, waterproof clothing. Take extra care in windy and/or wet conditions. Always supervise children. Remember that mobile signal can be patchy in some coastal destinations. If you have restricted mobility, visit: www.walescoastpath.gov.uk for suggestions on suitable walks. We are very grateful for the co-operation of the many landowners across whose land the Path passes. Please follow the Countryside Code: Be safe - plan ahead and follow any signs. Leave gates and property as you find them. Protect plants and animals, and take your litter home. Keep dogs under close control. Consider other people. 870 milltir o arfordir dramatig ac amrywiol i’w ddarganfod. 870 miles of dramatic and diverse Welsh coastline to explore. Enjoy your walk Mwynhewch eich taith www.llwybrarfordircymru.gov.uk | www.walescoastpath.gov.uk CYMRAEG ENGLISH Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, 16 o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol. Yn ogystal â chael tua £2 filiwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yr arfordir, mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) wedi clustnodi bron i £4 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi’r prosiect. The Wales Coast Path has been developed by the Welsh Government in partnership with the Natural Resources Wales, sixteen local authorities and two National Parks. In addition to funding from the Welsh Government and the coastal local authorities of approximately £2 million per year, the European Regional Development Fund has allocated nearly £4 million over four years in support of the project. Cydweithio Working Together Llwybr Arfordir Cymru Wales Coast Path Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy North Wales Coast & Dee Estuary Ynys Môn Isle of Anglesey Menai - Llŷn - Meirionnydd Ceredigion Sir Benfro Pembrokeshire Sir Gaerfyrddin Carmarthenshire Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe Gower & Swansea Bay Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren South Wales Coast & Severn Estuary 2 3 4 5 6 7 8 1 I gael mwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru, yn cynnwys mapiau manwl, ewch i www.llwybrarfordircymru.gov.uk. Mae’r taflenni canlynol hefyd ar gael. Visit www.walescoastpath.gov.uk for further information about the Wales Coast Path including detailed maps. The following leaflets are also available: Darganfod ffurf y genedl Llwybr Arfordir Cymru: the shape Discover nation of a Wales Coast Path: Arfordir Treftadaeth Morgannwg Glamorgan Heritage Coast Goleudy Trwyn Nash Nash Point Lighthouse Southerndown A B C D Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy With thanks to Bridgend County Borough Council, Vale of Glamorgan Council, Cardiff Council, Newport City Council and Monmouthshire County Council Delweddau © Hawlfraint y Goron (2013) Croeso Cymru Images © Crown copyright (2013) Visit Wales Mai / May 2013
2

Mwynhewch Enjoy...diwylliant i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu; o roi cynnig ar weithgaredd llawn adrenalin i ymlacio ar draeth bendigedig. Dewch draw i weld beth sy’n gwneud

Jun 26, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Mwynhewch Enjoy...diwylliant i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu; o roi cynnig ar weithgaredd llawn adrenalin i ymlacio ar draeth bendigedig. Dewch draw i weld beth sy’n gwneud

Arfordir Treftadaeth Morgannwg / Glamorgan Heritage CoastDyfarnwyd statws Arfordir Treftadaeth i’r arfordir trawiadol yma yn 1972, ac mae’n gyfle i weld clogwyni mawreddog, traethau euraid a childraethau hardd.

This dramatic coastline ,which lies between Porthcawl and Gileston Beach, gained Heritage Coast status in 1972 and offers soaring cliffs, golden beaches and romantic coves.

Bae Caerdydd / Cardiff BayGan fod y llwybr yn mynd drwy galon ddiwylliannol fywiog prifddinas Cymru, manteisiwch ar y cyfle i’w harchwilio!

Explore the vibrant cultural heart of Wales’ capital city; it’s right on the Path!

Gwlyptiroedd Casnewydd ac Aber Afon HafrenNewport Wetlands and Severn EstuaryDyma gynefin pwysig i adar sy’n dod i’r wlad i dreulio’r gaeaf, ac mae’n gyfle gwych i weld ymwelwyr rheolaidd ac ambell un annisgwyl.

An important habitat for overwintering birds offering superb encounters with regular and surprise visitors to our shores.

Castell Cas-gwent / Chepstow CastleMae’r castell yma yn nhref Cas-gwent, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae’r castell mewn cyflwr arbennig o dda. (Cas-gwent yw man cychwyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa hefyd.)

The beautifully preserved castle can be found in the border town of Chepstow (home also to the start of Offa’s Dyke Path National Trail).

Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren

South Wales Coast & Severn Estuary 8

With 870 miles to explore, the Wales Coast Path has something for everyone. From exploring our heritage and culture to having a fun day out with the family, or from trying one of Wales’ coastal adrenalin activities to putting your feet upon one of our gorgeous beaches. Dip your toe in and find out why this is such a fantastic outdoor destination and discover just how easy it is to fit the Wales Coast Path in to your daily life or your holiday planning. For more suggestions on what you can see and do on the Wales Coast Path, please visit www.walescoastpath.gov.uk.

Gyda mwy nag 870 o filltiroedd i’w troedio, mae gan Lwybr Arfordir Cymru rywbeth i’w gynnig i bawb. O archwilio ein treftadaeth a’n diwylliant i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu; o roi cynnig ar weithgaredd llawn adrenalin i ymlacio ar draeth bendigedig. Dewch draw i weld beth sy’n gwneud y Llwybr yn gyrchfan awyr agored heb ei ail ac i weld pa mor hawdd yw hi i wneud y Llwybr yn rhan o’ch bywyd bob dydd neu eich gwyliau. I gael mwy o awgrymiadau ynglŷn â’r pethau y gallwch eu gweld a’u gwneud ar y Llwybr, ewch i www.llwybrarfordircymru.gov.uk.

Dylai taith gerdded ar hyd yr arfordir fod yn brofiad diogel a phleserus bob amser, a dylech adael yr amgylchedd fel y cawsoch chi ef.

• Arhoswch ar y Llwybr ac yn ddigon pell oddi wrth y dibyn.• Gwisgwch esgidiau addas a dillad cynnes rhag y glaw.• Pan fydd hi’n wyntog neu’n wlyb, byddwch yn arbennig o ofalus. • Cofiwch gadw golwg ar blant bob amser.• Cofiwch nad oes modd cael signal ffôn symudol bob amser ar

hyd yr arfordir. • Os nad ydych yn gallu symud yn dda iawn, ewch i

www.llwybrarfordircymru.gov.uk i gael gwybodaeth am deithiau cerdded addas.

Rydym yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad nifer o dirfeddianwyr y mae’r Llwybr yn mynd trwy’u tir.

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad:• Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a

dilynwch unrhyw arwyddion .• Gadewch glwydi ac eiddo fel y maen nhw.• Ewch â’ch sbwriel adref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt.• Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.• Byddwch yn ystyriol o bobl eraill.

A coastal walk should always be a safe and enjoyable experience and you should leave the environment as you found it.

• Stay on the Path and away from cliff edges.• Wear boots and warm, waterproof clothing.• Take extra care in windy and/or wet conditions.• Always supervise children.• Remember that mobile signal can be patchy in some coastal

destinations.• If you have restricted mobility, visit:

www.walescoastpath.gov.uk for suggestions on suitable walks.

We are very grateful for the co-operation of the many landowners across whose land the Path passes.

Please follow the Countryside Code:• Be safe - plan ahead and follow any signs.• Leave gates and property as you find them.• Protect plants and animals, and take your litter home.• Keep dogs under close control.• Consider other people.

870 milltir o arfordir dramatig ac amrywiol i’w ddarganfod.

870 miles of dramatic and diverse Welsh coastline to explore.

Enjoy your walk

Mwynhewch eich taith

www.llwybrarfordircymru.gov.uk | www.walescoastpath.gov.uk

CYMRAEG ENGLISH

Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, 16 o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol. Yn ogystal â chael tua £2 filiwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yr arfordir, mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) wedi clustnodi bron i £4 miliwn dros bedair blynedd i gefnogi’r prosiect.

The Wales Coast Path has been developed by the Welsh Government in partnership with the Natural Resources Wales, sixteen local authorities and two National Parks. In addition to funding from the Welsh Government and the coastal local authorities of approximately £2 million per year, the European Regional Development Fund has allocated nearly £4 million over four years in support of the project.

Cydweithio

Working Together Llwybr Arfordir CymruWales Coast Path

Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon DyfrdwyNorth Wales Coast & Dee Estuary

Ynys MônIsle of Anglesey

Menai - Llŷn - Meirionnydd

Ceredigion

Sir BenfroPembrokeshire

Sir GaerfyrddinCarmarthenshire

Penrhyn Gŵyr a Bae AbertaweGower & Swansea Bay

Arfordir De Cymru ac Aber Afon HafrenSouth Wales Coast & Severn Estuary

2

3

4

5

6

7

8

1

I gael mwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru, yn cynnwys mapiau manwl, ewch i www.llwybrarfordircymru.gov.uk. Mae’r taflenni canlynol hefyd ar gael.

Visit www.walescoastpath.gov.uk for further information about the Wales Coast Path including detailed maps. The following leaflets are also available:

Darganfod ffurfy genedl

Llwybr Arfordir Cymru:

the shapeDiscovernationof a

Wales Coast Path:

Arfordir Treftadaeth MorgannwgGlamorgan Heritage Coast

Goleudy Trwyn NashNash Point Lighthouse

Southerndown

A B C D

Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy

With thanks to Bridgend County Borough Council, Vale of Glamorgan Council, Cardiff Council, Newport City Council and Monmouthshire County Council

Delweddau © Hawlfraint y Goron (2013) Croeso CymruImages © Crown copyright (2013) Visit Wales

Mai / May 2013

Page 2: Mwynhewch Enjoy...diwylliant i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu; o roi cynnig ar weithgaredd llawn adrenalin i ymlacio ar draeth bendigedig. Dewch draw i weld beth sy’n gwneud

Canolfan Mileniwm CymruWales Millennium Centre

South Wales Coast& Severn Estuary

Arfordir y De acAber Afon Hafren

This southerly coastline takes in city landscapes, quiet villages, major sand dune systems, the spectacular Glamorgan Heritage Coast and magnificent views of the Severn Estuary (the Estuary has the second highest tidal range in the world at 49 feet and is home to the Severn bore). Share your walk with the numerous wildfowl and waders that can be spotted along the way, particularly throughout the winter.

Mae’r llwybr hwn ar hyd arfordir y de’n mynd â chi drwy ddinasoedd prysur, pentrefi tawel a systemau mawr o dwyni tywod i weld golygfeydd godidog Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Bydd golygfeydd gwych hefyd o aber Afon Hafren (sydd â’r amrediad llanw uchaf ond un yn y byd, sef 49 troedfedd, ac eger enwog Afon Hafren). Cewch gydgerdded ag amryw byd o adar dŵr ac adar hirgoes, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

Wlyptiroedd Casnewydd / Newport Wetlands

Canolfan Cynffig i Borthcawl (7km / 4.5milltir)Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn gartref i degeirianau gwyllt, pryfed a mathau eraill o fywyd gwyllt, ac mae’n lle gwych i gychwyn y daith gerdded bleserus yma sy’n cynnwys rhai o’r traethau gorau yng Nghymru ar gyfer syrffio a chwaraeon dŵr. Byddwch yn cerdded yn agos at Dŷ’r Sger (Sker House), y cartref hanesyddol sydd, yn ôl rhai, yn llawn bwganod ac a oedd yn sail i nofel R D Blackmore, The Maid of Sker. (Bws)

Kenfig Visitor Centre to Porthcawl (7km / 4.5miles)Kenfig National Nature Reserve is home to wild orchids, insects and other wildlife and is a great start to this enjoyable walk which takes in some of the best surfing and watersports beaches in Wales. On the way, you will pass near the historic and, some say, haunted Sker house, used as the basis of R D Blackmore’s novel, The Maid of Sker. (Bus)

Porthcawl i Gastell Aberogwr (11km / 7milltir)Llwybr sy’n cynnwys Traeth yr Afon a’r Warchodfa Natur Genedlaethol ym Merthyr Mawr, ac sy’n diweddu ger y castell a’r cerrig sarn yn Aberogwr. (Bws)

Porthcawl to Ogmore Castle (11km / 7miles)A walk which includes Traeth yr Afon Beach, the National Nature Reserve at Merthyr Mawr, and ends near the Castle and stepping stones at Ogmore. (Bus)

Aberogwr i Nash Point (10km / 6.2milltir)Mae’r llwybr yma’n dilyn Arfordir Treftadaeth Morgannwg i Nash Point. Dewch i archwilio’r arfordir ysblennydd a dramatig yma (a phiciwch draw i’r ganolfan ymwelwyr ym Mae Dunraven i gael mwy o wybodaeth). Byddwch yn siŵr o ddod ar draws traethau trawiadol yn ystod y daith.

Ogmore by Sea to Nash Point (10k / 6.2miles)This walk follows the Glamorgan Heritage Coast towards Nash Point. Explore this spectacular and dramatic coastline (and call into the visitor centre at Dunraven Bay to find out more). You’ll discover some stunning beaches along the way.

Llwybr Bae Caerdydd (10km / 6.2milltir) Dyma gyfle i fwynhau treftadaeth amrywiol Caerdydd a ddatblygodd yn sgil y dociau prysur a llwyddiannus. Ar y gylchdaith yma o amgylch y bae, byddwch yn gweld nodweddion hanesyddol fel yr Eglwys Norwyaidd (lle y cafodd Roald Dahl ei fedyddio) ac adeiladau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru sy’n enwog drwy’r byd.

Cardiff Bay Trail (10km / 6.2miles) Enjoy Cardiff’s rich heritage; the legacy of a buoyant and successful docks. See historic landmarks, on this circular walk around the Bay, like the Norwegian Church (where Roald Dahl was christened) and iconic buildings such as the world renowned Wales Millennium Centre.

Cylchdaith Gwastadeddau Gwent o Wlyptiroedd Casnewydd (12km / 7.5milltir)Taith gyffrous, ar dir gwastad yn bennaf ar lwybrau wyneb caled o gwmpas Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, sy’n hafan bwysig drwy’r wlad i fywyd gwyllt ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Gwent Levels Circular Walk from Newport Wetlands (12km / 7.5miles)An exhilarating, mostly level walk on hard surface paths around Newport Wetlands Reserve, a nationally important haven for wildlife and a National Nature Reserve.

Cil-y-coed i Sudbrook a Blackrock (5km / 3milltir) Mae archwilio’r rhan yma o’r arfordir yn cynnig cyfle i weld golygfeydd hyfryd o aber Afon Hafren. Mae safle hen groesfan i Loegr yn Blackrock, ynghyd â golygfeydd ardderchog a safle picnic hyfryd. (bws o Subrook - Cil-y-Coed)

Caldicot to Sudbrook and Blackrock (5km / 3miles) Enjoy some fantastic views over the Severn Estuary while exploring this section of the coast. Blackrock is the site of the old crossing point to England and, as well as a great view point, is a lovely spot for a picnic. (Bus from Sudbrook - Caldicot)

Bae DunravenDunraven Bay

Bae RestRest Bay

Awgrymiadau ar gyfer teithiau cerdded Sylwer - pellter un ffordd a ddangosir, oni nodir yn wahanol. Lle y mae cludiant cyhoeddus yn cael ei ddangos, mae hyn yn golygu bod y mannau cychwyn a gorffen wedi eu cysylltu (yn ddibynnol ar yr amserlen.) Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio www.traveline-cymru.info i gynllunio eich taith.

Some suggested walks Please note that distances are one way unless otherwisespecified. Where public transport is shown, this means that the start and finish points are linked (timetable dependent.) We recommend the use of www.traveline-cymru.info to plan your journey.

Allwedd / Key: Llwybr Arfordir Cymru / Wales Coast Path Llwybr Amgen / Alternative Route Ffyrdd / Roads Rheilffordd / Railway

Gorsaf Drenau / Railway Station Llwybr Cerdded (gweler yr awgrymiadau i’r dde) Walk (see suggestions to the right) Uchafbwynt (gweler drosodd) / Highlight (see overleaf)

1

A

11

2 2

3 3

4 4

55

66

A4A4A42322

A470

A449

A4042

A48488

A48

8 A48 (M))(M

M4

M4

MM4

M44MMM44M

3838

37377

36

3555

3433

32332

30

29

228288

27

26 25

233

3393

C5

CaerdyddCardiff

Ynys y BarriBarry Island

BarBarBarryyry

Trwyn y RhwsRhoose Point

AberogwrOgmore-by-Sea

Y SiliSully

Bro MorgannwgPenarth

PeterstoneWentlooge

Gwlyptiroedd CasnewyddNewport Wetlands

Blackrock

Llanilltud FawrLlantwit Major

Porthcawl

Cynffig Kenfig

Cowbridge

MaeMaM s Awyr CaerdyddyddddCarCardifdiff Af AirpirportortCardif Af Aiirprport

CasnewyddddyddnewyewNNewportwportortportportewewwppportewppoowp2424

nCwmmbbrân

Peen---Y-Y Bontt ArA OgwrwrBriridgegegend

PontypriddMaeststeg

CaerffiffifilililiphillyCaCaeCaerphilly

AllteurynrynGolGoldcldcliffiff

Cil-y-coedtCaldicdicdicotototo

Cas-gwentnttoowChepstowow

2

1

3

6

D

B

A

4

Dilynwch yr arwyddion!Follow the signs!

Graddfa / Scale 1 cm = 2.81km

Map Dangosol / Indicative Map