Top Banner
Ionawr 2016 Rhifyn 462 50c Llais Ogwan Papur Bro Dyffryn Ogwen N a, doedd dim “stelcian ennyd wrth Bont y Tãr” i drigolion y Dyffryn yn ddiweddar. A doedd na ddim “llyn bach llonydd” yno ychwaith. Na, trawsffurfiwyd y Dyffryn yn amrywiaeth o lynnoedd, pyllau, ceunentydd ac afonydd newydd sbon yn sgîl storm Frank a laniodd ar stepen ein drysau’n llythrennol dros y Nadolig. Daeth Frank yn ddi- wahoddiad i darfu ar dymor y dathlu. Methodd rhai â theithio dros yr ãyl, boed yn ôl adref, neu i ymweld â ffrindiau a pherthnasau. Difethwyd cartrefi, a gwelodd pentrefwyr Talybont lifogydd nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen. Ond yng nghanol y gwynt a’r glaw, roedd llygedyn o heulwen. Yng nghanol y pryder a’r gofid, daeth cymdogion at ei gilydd, i helpu ei gilydd, i gasglu’r hyn oedd yn bosib iddynt ei arbed. Ffurfiwyd timau oedd yn adeiladu amddiffynfeydd rhag mwy o ddifrod, gan ddefnyddio unrhyw arf posibl, yn bren, yn sachau tywod, yn arwyddion plastig, a hyn oll er mwyn helpu ei gilydd. Felly gyda Frank bellach ar drai, er gwaethaf hagrwch ei olion, fe lwyddodd i greu ynom fel trigolion yr awydd a’r ewyllys i helpu ein gilydd. Boed i hynny barhau yn 2016 – blwyddyn newydd dda! Ffyrnigrwydd Frank! Dilynwch ni ar Trydar: @Llais_Ogwan PWYSIG Oherwydd newidiadau anorfod i amserlen cysodi’r Llais,a wnewch chwi, ohebwyr y Llais, dalu sylw manwl i’r dyddiad y mae angen i bob deunydd fod yn llaw’r golygyddion, os gwelwch yn dda? Fe sylwch bod amryw o eitemau arferol ar goll y mis hwn, gan nad oeddynt wedi cyrraedd y golygyddion mewn pryd i’w hanfon i’w cysodi. Byddant yn ymddangos yn rhifyn mis Chwefror. Diolch am eich cydweithrediad. Lluniau: Heulwen Roberts
24

Llais Ogw an ionawr 2016.pdf · 2019. 1. 25. · 02 Theatr Bara Caws y cyflwyno “DRWG”. Neuadd Ogwen am 10.00 a 13.00. 0 Sefydliad y Merched Carneddi. Cefnfaes am 7.00. 08 Cymd.

Feb 01, 2021

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
  • Ionawr 2016 Rhifyn 462 50c

    Llais OgwanPapur Bro Dyffryn Ogwen

    Na, doedd dim “stelcian ennydwrth Bont y Tãr” i drigolion yDyffryn yn ddiweddar. A doedd naddim “llyn bach llonydd” ynoychwaith. Na, trawsffurfiwyd y Dyffrynyn amrywiaeth o lynnoedd, pyllau,ceunentydd ac afonydd newydd sbonyn sgîl storm Frank a laniodd ar stepenein drysau’n llythrennol dros yNadolig. Daeth Frank yn ddi-wahoddiad i darfu ar dymor y dathlu.Methodd rhai â theithio dros yr ãyl,boed yn ôl adref, neu i ymweld âffrindiau a pherthnasau. Difethwydcartrefi, a gwelodd pentrefwyr Talybontlifogydd nas gwelwyd eu tebyg o’rblaen. Ond yng nghanol y gwynt a’rglaw, roedd llygedyn o heulwen. Yngnghanol y pryder a’r gofid, daethcymdogion at ei gilydd, i helpu eigilydd, i gasglu’r hyn oedd yn bosibiddynt ei arbed. Ffurfiwyd timau oeddyn adeiladu amddiffynfeydd rhag mwyo ddifrod, gan ddefnyddio unrhyw arfposibl, yn bren, yn sachau tywod, ynarwyddion plastig, a hyn oll er mwynhelpu ei gilydd. Felly gyda Frankbellach ar drai, er gwaethaf hagrwch eiolion, fe lwyddodd i greu ynom feltrigolion yr awydd a’r ewyllys i helpuein gilydd. Boed i hynny barhau yn2016 – blwyddyn newydd dda!

    Ffyrnigrwydd Frank!

    Dilynwch ni ar Trydar: @Llais_Ogwan

    PWYSIGOherwydd newidiadau anorfod iamserlen cysodi’r Llais,a wnewchchwi, ohebwyr y Llais, dalu sylwmanwl i’r dyddiad y mae angen ibob deunydd fod yn llaw’rgolygyddion, os gwelwch yn dda?Fe sylwch bod amryw o eitemauarferol ar goll y mis hwn, gan nadoeddynt wedi cyrraedd ygolygyddion mewn pryd i’w hanfoni’w cysodi. Byddant yn ymddangosyn rhifyn mis Chwefror.Diolch am eich cydweithrediad.

    Lluniau: Heulwen Roberts

  • LLaIS  OGWaN| 2 |

    Llais OgwanPANEL GOLYGYDDOL

    Derfel [email protected]

    Ieuan [email protected]

    Lowri [email protected]

    Dewi Llewelyn Siôn07940 [email protected]

    Fiona Cadwaladr [email protected]

    Siân Esmor [email protected]

    Neville [email protected]

    Dewi A [email protected]

    Trystan Pritchard07402 [email protected]

    Walter W [email protected]

    SWYDDOGIONCadeiryddDewi a Morgan, Park Villa,Lôn Newydd Coetmor,Bethesda, Gwynedd LL57 3DT

    [email protected]

    Trefnydd HysbysebionNeville Hughes, 14 Pant,Bethesda LL57 3Pa

    [email protected]

    YsgrifennyddGareth Llwyd, Talgarnedd,3 Sgwâr Buddug, BethesdaLL57 3aH

    [email protected]

    TrysoryddGodfrey Northam, 4 LlwynBedw, Rachub,LlanllechidLL57 3EZ

    [email protected] Llais Drwy’r PostOwen G Jones, 1 Erw Las,Bethesda, GwyneddLL57 3NN

    [email protected]

    LLAIS OGWAN

    Cyhoeddir ganBwyllgor Llais Ogwan

    @Llais_Ogwan

    Cysodwyd ganSmala, Clynnogfawr

    www.smala.net01286 660017

    [email protected]

    argraffwyd gan Wasg Dwyfor, Penygroes,

    Gwynedd LL54 6DB01286 881911

    DYDDIADURY DYFFRYN21

    MaWRTH

    IONaWR 2016

    16 Bore Coffi gan GapelJerusalem. Cefnfaes.10.00 – 12.00.

    26 Cangen Plaid CymruDyffryn Ogwen. Cefnfaesam 7.00.

    28 Merched y Wawr Bethesda.Taith i’r India gyda MarianHughes. Cefnfaes am 7.

    CHWEFROR 2016

    01 Theatr Bara Caws yncyflwyno “DRWG”. NeuaddOgwen am 13.00.

    01 Merched y Wawr Tregarth.Festri Shiloh am 7.00

    02 Theatr Bara Caws ycyflwyno “DRWG”. NeuaddOgwen am 10.00 a 13.00.

    0 Sefydliad y MerchedCarneddi. Cefnfaes am7.00.

    08 Cymd. Hanes DyffrynOgwen. Festri Jerusalemam 7.00.

    11 Cymdeithas Jerusalem.Sgwrs gan andre Lomozik.Festri Jerusalem am 7.00.

    13 Marchnad Ogwen. NeuaddOgwen. 9.30 – 1.30.

    18 Plygu Llais Ogwan.Cefnfaes am 6.45.

    19 Cyfarfod Blynyddol CangenDyffryn Ogwen PlaidCymru. Cefnfaes am 7.00.

    Golygwyd y mis hwn gan

    Lowri Roberts aWalter Williams

    Golygyddion mis ChwefrorfyddLowri Roberts, 8 Pen y Ffriddoedd,Tregarth,LL57 4NY (01248 600490)[email protected] Walter W. Williams,14 Erw Las,Bethesda, LL57 3NN(01248 601167)[email protected]

    Pob deunydd i law erbynDydd Mercher, 3 Chwefror os gwelwch yn dda.Plygu nos Iau, 18 Chwefror,yng Nghanolfan Cefnfaesam 6.45.

    GOLYGYDD Y MIS

    GWOBRau IONaWR

    £30.00 (31) alwenna Puw,Cefn y Bryn,Bethesda.

    £20.00 (61) BlodeuweddWyn, FforddCarneddi.

    £10.00 (173) HelenWilliams, Penrhiw,Mynydd Llandygai.

    £5.00 (44) Donna Hughes,Bro Rhiwen,Rhiwlas.

    CLWB CYFEILLIONLLAIS OGWAN

    Gwledydd Prydain £20Ewrop £30Gweddill y Byd £40

    Owen G. Jones,1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN

    [email protected]

    01248 600184

    ARCHEBULLAIS OGWANDRWY’R POST

    Gelllir cael copi trwy gysylltuâ Bryn yn swyddfa’r deillion,Bangor:

    01248 353604

    Os gwyddoch am rywun sy’ncael trafferth â’i olwg, ac ahoffai dderbyn copi o’r Llaisar CD bob mis, cysylltwch agun o’r canlynol:Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

    LLAIS OGWANAR CD

    Nid yw pwyllgor

    Llais Ogwan

    na’r panel golygyddol o

    angenrheidrwydd yn cytuno

    â phob barn a fynegir gan

    ein cyfranwyr.

    Rhoddion i’rLlais£10.00 Er cof annwyl amRaymond Williams, 3 RhesDouglas, Bethesda, a fu farw24 Rhagfyr 2011. Oddi wrthBarbara. “Yn gweld dy golli”.

    £10.50 Mrs. EurwenGriffiths, Rhes Mostyn,Bethesda.

    £20.00 Er cof am Brinley aMarian Jones, Rhes Coetmor,Bethesda, gan y plant.

    £10.00 Mrs Nia Phillips,Southport - er cof am Mr aMrs J G Hughes

    £10.00 Mr D W Thomas,Barrow in Furness

    £50.00 Mr Bryn Roberts,Caerdydd – er cof am Caerona Nancy Roberts, Erw Faen,Tregarth£10.00 Mrs E V Amos,Glanogwen, Bethesda

    Diolch yn fawr.

    COFIWCH GEFNOGI

    EIN HYSBYSEBWYR.

    Mae

    Llais Ogwanar werth

    yn y siopau isod ynNyffryn Ogwen:

    Spar, Bethesda,

    Londis, Bethesda

    Siop Ogwen, Bethesda

    Cig Ogwen, Bethesda

    Tesco Express, Bethesda

    Siop y Post, Rachub

  • LLaIS  OGWaN| 3 |

    Pwy Sy’n Cofio Ddoe?Dyddiadur Digwyddiadau 1951-1955

    1951 09/1951: Mr Ronald Pardoe yn dechrau yn ei swydd yn brifathro Ysgol Dyffryn Ogwen.Brodor o Gwm-bach, ger Aberdâr, oedd Ronald Pardoe a derbyniodd ei addysg yn YsgolRamadeg Aberdâr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Lladdwyd ei fab, Eryl, a oedd o fewnychydig ddyddiau iddo fod yn 23 oed, mewn damwain wrth iddo ddringo yng Nghanada.Ymddeolodd Mr Pardoe yn 1971. Ymfudodd i Ganada tua 1974 ac yn fuan wedi cyrraeddyno priododd â Nancy, hen ffrind iddo ef a’r teulu a’r wraig y bu Eryl yn lletya gyda hi. Bufarw ddydd Gwener, Rhagfyr 2, 1988, yn 78 oed ac amlosgwyd ei weddillion yn Langley,Canada.Fel yr oedd ac fel y newidiwyd pethau yn ôl Ronald Pardoe: ‘Y tu ôl i’r ysgol, gwelwydcantîn, coed, cae pêl-droed creigiog ac, ar yr ochr dde, twmpath a phant. Ymachwaraewyd cowbois ac indians a chasglwyd llyffantod – y jyngl. Nid oedd modd derbynysgol arall yma i gael gêm, ’roedd y cae yn beryglus oherwydd y llechi a’r cerrig ac yndorcalonnus i ddillad y plant ... Ond, o’r diwedd, daeth y freuddwyd yn wir a gwelwydteirw dur yma ... yn diddymu’r hen jyngl (bûm yn amhoblogaidd iawn am hyn) ac yngwneud cae chwarae pêl-droed yn uchaf a chae hoci yn is i lawr.’17/09/1951 (Llun): Wythnos Gymreig ym Methesda gyda Gãyl Prydain.18/09/1951 (Mawrth): Gwledd Gãyl y Pensiynwyr ym Methesda.01/12/1951: Nos Sadwrn am 6 o’r gloch, y trên-cario-pobl olaf yn gadael Bethesda. 14munud 47 eiliad a gymerodd i gyrraedd Bangor. Gwyn Parry, mab Stanley Parry,Cadeirydd y Cyngor Dinesig, a dynnodd lifar y chwiban i’w chychwyn. Y gwasanaethcario nwyddau’n parhau tan 07/10/1963 pan gaewyd y rheilffordd a’r orsaf yn gyfan gwbl.Codwyd y cledrau i gyd erbyn 06/1964. Agorwyd yr orsaf yng Ngorffennaf 1884.

    195228/06/1952 (Llun): Cyfarfod o Swyddogion Eglwysi Annibynwyr ym Methesda er ceisiouno Eglwysi gyda’i gilydd.31/08/1952 (Sul): Siop Mrs Foster, Carneddi, yn mynd ar dân.16/10/1952 (Iau): Tân mawr yn siediau’r Felin Fawr. Colled o filoedd o bunnau ac ni ŵyrneb sut na phryd y dechreuodd.08/11/1952 (Sadwrn): Agor yr Ogwen Cinema yn yr Hen Farchnad.

    1952 (tua) Ysgol Tyn-tãr yn cael ei defnyddio bob dydd Llun i hyfforddi oddeutu 30 o brentisiaid ychwarel.Cyhoeddi The Heart of Snowdonia National Park: Bethesda, Caernarvonshire, Wales:Local Guide Book (Issued by the Bethesda & District Publicity & Traders Association).4th Issue.Tafarnau’r ardal yn agored o 11.00 tan 3.00 ac yna o 6.00 tan 10.00.

    195304/03/1953: Sefydlu Clwb Darbi a Joan yn yr hen Aelwyd ym Methesda.05/1953: Troi Siop J. G. Hogan, Stryd fawr, yn Siop Fferyllydd i W. T. Parry.Dathlu canmlwyddiant Capel Nant y Benglog. ‘Llogwyd pabell fawr a’i gosod wrth ymyl ycapel i roi lle i’r tyrfaoedd a ddisgwylid yno, a dywedir i oddeutu wyth gant neu fwy o boblfod yn gwrando ar y Parchedig Elfed Lewis yn traddodi un o’i bregethau olaf.

    1954Diwedd yr haf: gweithwyr J. Kenneth Hughes yn tynnu’r reilins a’r porch i lawr o flaen yVictoria Hotel.Agor Ysgol newydd Llanllechid.

    1955Capel y Gerlan a Chapel y Carneddi yn uno dan Weinidogaeth y Parchedig RobertHughes.

    I’w barhau© Dr J. Elwyn Hughes

    Gair neu ddau

    TORRI’R GOEDEN Roedd y gwyntoedd yn ddigon i godibraw ar unrhyw un dros y Nadolig. Yrun oedd y stori ddwy flynedd yn ôl. Caff’atgoffa o’r gwyntoedd hynny bob tro yredrychaf trwy ffenest y parlwr a gweldbonyn y goeden wrth giât y Tñ.Rwy’n cofio i mi sgwennu pwt o erthyglam y goeden rai blynyddoedd cyn hynny.Roedd y goeden honno wedi tyfu’ngoeden fawr heb i mi sylwi arni. Rwy’ndyfalu ei bod o leiaf drigain troedfedd ouchder. Ond ddeuddydd wedi’r Nadoligddwy flynedd yn ôl gwelwyd ei bod ynberyglus o simsan. Roedd nerth y gwyntyn bygwth ei chodi o’i gwraidd. Roeddhi’n llythrennol yn codi’r ddaear dan eithraed wrth iddi siglo ar ei sodlau ... igyfeiriad ein tñ ni. Ond diolch byth, felwyddwyd, er gwaetha’r tywydd garw, idorri’r rhan helaethaf o’i changhennaua’i diogelu cyn iddi gwympo a gwneudunrhyw ddifrod. Rwy’n ddiolchgar iberchennog y lôn a’i deulu am hynny.F’unig gyfraniad i at y gwaith oedd dal yrysgol a chlirio tipyn o’r llanast! Ac ofewn ychydig ddyddiau, wedi i’r stormdawelu, torrwyd gweddill y goeden.Cryfder y gwynt oedd y pethdychrynllyd y prynhawn hwnnw, aninnau’n ofni y chwythid y goedendrosodd. Roedd yn sicr yn gwneud i mifeddwl am y bobl a ddioddefodd yngnghanol stormydd mawr o amgylch ybyd yn ddiweddar. Wrth ffarwelio â’rhen flwyddyn daliwn i gofio ym mhobffordd bosibl am y bobl a ddioddefoddyma yng Nghymru – yn ein hardal niein hunain hyd yn oed – ac mewngwledydd eraill. Roedd cryfder y gwynt yn f’atgoffa hefydam awdurdod a gallu’r Arglwydd Iesu aorchmynnodd i’r gwynt dawelu undiwrnod yng nghanol y storm ar FôrGalilea. Pa ryfedd bod y disgyblion wedisynnu’n fawr o’i weld yn gwneud hynnyac wedi dechrau holi, ‘Pa fath ddyn ywhwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a’rmôr yn ufuddhau iddo’ (Mathew 8:27).Trwy dystiolaeth y Testament Newyddfe wyddom ni, wrth gwrs, yr ateb i’rcwestiwn hwnnw. Pa fath ddyn? Mae’rhanesion a gofnodwyd am ei wyrthiauyn dangos yn glir mai Mab Duw ei hunyw’r Iesu hwn. Gallu Duw, nerth Duwsydd ar waith drwyddo, ac fe’i gwelir yntroi’r dãr yn win, yn tawelu’r storm, yniachau’r cleifion, yn porthi’r miloedd acyn atgyfodi’r meirw. Ac felly, awn ato’nhyderus mewn hindda neu storm trwyfisoedd y flwyddyn newydd gan wybod eifod yn alluog i’n cynnal trwy’r cyfan addaw. Mae gyda ni yng nghanol pobstorm, a gall hyd yn oed dawelu llawero’r stormydd sy’n peri pob math o ofn adychryn i ni.

    JOHN PRITCHARD

    9.6?�#4C.;���

    'FG�*GR>��?7:?��5?6�N��A�!�����D896B

    �G55:25DA��:8FG55:252D���������

    ���Z�������������#N

  • LLaIS  OGWaN| 4 |

    CôR YPENRHYNCYMERIADAU’R CÔRCyfres yw hon sy’n rhoi ychydig ofanylion am aelodau Côr y Penrhyn. Yr aelod y mis hwn yw Dafydd Evans.

    Be ydy dy enw llawn?Dafydd EvansOed?74Gwaith? Athro wedi ymddeolLle wyt ti’n byw?Penisarwaun, yn wreiddiol o BenygroesPa dri pheth fasai’n dy ddisgrifio orau?Penderfynol, diamynedd, cymwynasgarErs faint wyt ti’n aelod o’r côr?1971 – yn syth ar ôl ‘steddfod Bangor.Wedi bod yn Gadeirydd deirgwaith ac yndrefnydd llwyfan am flynyddoedd.Pa lais?Ail fâsPam wnes ti ymuno â Chôr y Penrhyn?Ein cyfeillion Walt a Menai yn estyngwahoddiad i mi.Pa un ydy dy hoff gân yn rhaglen y côr?Y TangnefeddwyrPwy yw dy hoff ganwr?Bryn TerfelBeth yw dy farn am ganu pop?Ambell gân ddistaw a swynol yn iawn,ond ‘dyw’r mwyafrif yn ddim byd ondsŵn aflafarOes gen ti atgof o ryw ymweliad efo’rcor?Oes – yng Nghanada. Swyddogion y‘Maid of the Mist’, sef y cwch sy’nhwylio drwy’r ewyn o dan RaeadrNiagara yn gwrthod rhoi côt law i mi amnad o’n i’n gwisgo crys – ‘roeddwn wediei adael ar y bws gan ei bod mor boeth.Bu’n rhaid i mi dreulio gweddill y dyddmewn trowsus a sgidia socian. Pa ddiddordebau sydd gen ti y tu allani’r Côr?Peldroed, darllen, croeseiriau, gwylioteleduOes yna rywbeth faset ti’n hoffi gweld ycôr yn ei wnued?Parhau i ddenu aelodau ifanc fel sy’ndigwydd ar hyn o bryd – dyna’r dyfodol!

    Cofiwch bod ôl-rifynnau o’r Llais

    ar gael ar wefan y papur:

    www.llaisogwan.com

    Cyfeillion Ysbyty GwyneddNos Sul, 6 Rhagfyr, yng Nghapel Penuel, Bangor, cynhaliwyd ein Gwasanaeth Carolau adrefnwyd gan Mr. Norman Evans, un o’n haelodau.Yn dilyn gweddi agoriadol gan weinidog Penuel, sef Y Parchedig Olaf Davies, cafwyddarlleniadau gan aelodau a chyfeillion, sef:- Mrs. Mair Griffiths (Llywydd); Mrs. MairTilsley. Merched y Wawr, Bangor; Miss Iona Jones, Is-gadeirydd; Y Parchedig Olaf Davies;Cynghorydd Evelyn Butler, Maer Bangor; Mrs. Ann Roberts, Cyfeillion; Mr. DewiMorgan, Trysorydd; Mrs. Glenys Morgan, Cyfeillion; a Dr. Catrin Elis William, Is-lywydd.Cafwyd eitemau cerddorol ac ar lafar gan ddisgyblion Ysgol Tryfan, a hefyd gan Math acElen, gyda Mrs. Helen Williams yn cyfeilio. Cyflwynwyd dwy garol gan Mr. NormanEvans. Mrs. Enid Griffiths oedd wrth yr organ. Gwnaed casgliad o £350.00 ac fedderbyniwyd rhodd gan Gwmni Redrow o £250.00.Wedi’r gwasanaeth cafwyd lluniaeth yn y festri wedi’i baratoi gan yr aelodau. Diolchiddynt am y wledd ac i aelodau Penuel am eu help. ‘Roedd y capel a byrddau’r festri wedieu harddu gyda blodau hyfryd gan Iona Jones.Rydym fel aelodau o’r “Cyfeillion” yn anfon ein cofion cynnes at Mrs. A. M. Pritchard,Mrs. Dorothy Proudley Williams a Mr. a Mrs Iorys Griffiths. Anfonwwn eincydymdeimlad at deulu ein diweddar aelod a fu farw’n sydyn, sef Mrs. Laura Wade.

    Mae cymeriadau diddorol a lliwgar DyffrynOgwen a Chwarel y Penrhyn wedi cael sylwgan sawl awdur a llenor lleol – pobl fel IforBowen Griffith, Huw Davies, Tregarth, YParchedig John Alun Roberts, ErnestRoberts, ac eraill. Dw i am ddyfynnu ambellun o’r ‘straeon celwydd golau’ a gafodd eucofnodi gan un neu ddau o’r cyfeillion hyn.

    Hen gymeriad o’r enw John Graig Lwyd ynaelod o’r Cor mawr ym Methesda oedd yntrefnu i fynd i America. Gwaetha’r modd,roedd ei wriag yn daer dros iddo fo beidio âmynd – rhag ofn i’r llong suddo ac iddo yntafoddi. ‘Dewadd’, meddai ynta,’ gyda’r glanna’rydan ni am fynd – ac mi fyddan ni’n dod i’rlan bob nos i gysgu’!

    Does dim angen cyflwyno Wil Ritsh, gan foddigon wedi’i ddeud a’i sgwennu amdano’nbarod. Omd mae’n werth cofio iddo siarsio arei deulu i ofalu, pan fyddai farw, fod y saereirch yn rhoi ffenast yn ei arch – er mwyniddo gael gweld pwy oedd wedi dod i’wangladd!

    Rhai o angladdau mwya Dyffryn Ogwenoedd angladdau dynion o oedd wedi cael eulladd yn y chwarel, gyda channoedd o’ucydweithwyr yn gorymdeithio ar hydgwahanol strydoedd yr ardal tuag at un ofynwentydd y fro. Ar un achlysur felly yn yrardal, pan ddywedodd rhywun ‘Cnebrwngmawr, ’te’ wrth un o gymeriadau’r Dyffryn, aoedd yn adnabyddus iawn am ei straeoncelwydd golau, ac atebodd hwnnw: ‘Dim bydo gymharu â chynebrynga Mericia’, dw i’ncofio mynd i gnebrwn rhyw senator ynPhiladelphia – dyna i ti gnebrwn mawr oeddhwnnw. Ro’n i’n un o’r pedwar ola yn ycnebrwn, ac erbyn i mi gyrra’dd giât yfynwent, roedd y creadur wedi ei gladdu erschwe wythnos’!

    Criw o hogia Tregarth yn sgwrsio un diwrnodac yn gweld trên yn dod rownd tro go siarpwrth ddod o geg twnnel. ‘On’d ydi hwnna’ndro go gïaidd’, meddai un ohonyn nhw. Adyma gyfle euraid i gelwydd gola! ‘Dydihwnna’n ddim byd, hogia. Pan o’n i’nMericia, mi welais i droiadau oedd morofnadwy nes roedd y dreifar a’r giard yn galluysgwyd llaw efo’i gilydd’.

    Broliai John Pritchard ei fod wedi bod yngweithio mewn gwesty enfawr yn Americaun tro. ‘Wyddost ti’, medda fo, ‘roedd dwy filo ddynion yn gweithio yng nghegin yr hotel‘ma a phum cant ohonyn nhw’n gwneuddim byd ond cymysgu mwstard drwy’r dydd.’

    John Pritchard yn teithio ar drên yn Americaac yn smocio’i getyn yn braf ac ynmwynhau’r golygfeydd. Pan stopiodd y trênmewn gorsaf i godi teithwyr newydd, daethrhyw Amercicanwr swnllyd ac uchel ei glochi mewn i’r cerbyd a chanddo’r ci bach delawelwyd erioed. Tynnodd sylw John at yrarwydd yn gwahardd ysmygu yn y cerbydond yr un pryd mi sylwodd John yntau fodarwydd ar ffenast arall yn y cerbyd yngwahardd dod â chãn i mewn i’r cerbyd athynnodd sylw’r Americanwr at yr arwyddhwnnw. Aeth yn ffrae chwyrn rhynddyn nhwnes i’r Amsericanwr golli ei limpyn yn lân achipio cetyn John o’i geg a’i daflu allandrwy’r ffenast. Gwylltiodd John yn gacwn achydiodd yng nghi bach yr Americanwr a’iluchio allan drwy ffenast y trên. ‘’Choeliwchchi ddim, efallai,’ meddai John, ‘ond panstopiodd y trên yn y stesion nesaf – ugeiniauo filltiroedd i ffwrdd – roedd yr hen gi bachyn eistedd yn ddel ar y platfform a ‘nghetyn iyn ei geg!’

    Oes gan ddarllenwyr Llais Ogwan ragor ostraeon tebyg, tybed?

    SYPYN O STRaEON CELWYDD GOLau

    EGLWYS uNEDIG BETHESDaLLENWI’R CWPANDewch am sgwrs a phanedBob bore dydd Iau rhwng 10.00 o’r gloch a hanner dydd

  • LLaIS  OGWaN| 5 |

    Yn ôl rhywun oedd yn eiadnabod yn dda, dyn ‘pur ogalon’ oedd William MeurigWilliams, a heb amheuaeth dynrhyfeddol iawn. ‘Rydym ynffodus iawn bod Meurig wediadrodd ei hanes mewn dwygyfrol a gyhoeddodd ef ei hun,sef Dannadd y Gelyn a BerlinExploit. Nid oedd yn un amganu ei gloch ei hun – dim ondfel Taff a Taffi 2388292 ‘rydymyn cael adnabod yr awdur. Serchhynny, ‘roedd yn amlwg ynawyddus i rannu ei brofiadau a’ideimladau ag eraill.

    Y Dyddiau Cynnar 1922-1940Fe aned Meurig ar Fehefin 11,1922 mewn fferm fechan yngNghaeau Gleision, Rhiwlas. Fooedd yr ieuengaf o dri o blant aanwyd i’r Cynghorydd R.T.Williams a’i wraig Mary. Bufarw ei dad pan oedd Meurig ynifanc ac o’r herwydd gorfodwydei fam i weithio’n galed ar yfferm. Yn bedair ar ddeg oed, feymunodd Meurig gyda chwmniyng Nghaernarfon fel prentissaer. Bu gyda’r cwmni nes iddogael gwŷs i ymuno â’r lluoeddarfog ym 1941. Yn ystod eigyfnod gyda’r cwmni, byddai’nbeicio o Riwlas i’w waith bobdydd. O ganlyniad, panymunodd â’r fyddin, ‘roedd ynddyn ifanc heini iawn. YmunoddMeurig â’r ‘15th ScottishInfantry Division’ ac wedicyfnod byr ym Mhrestatyn,treuliodd ei gyfnod hyfforddi ynucheldir yr Alban.

    Y Fyddin 1941-1946Bu ei gyfnod yn y fyddin yn unanodd ond bu ‘breuddwydio ambentref Rhiwlas ar odre Moelycia Moel Rhiwen’ yn gysur achymorth mawr iddo. Mae ei

    amser fel milwr yn haeddu cyfrolar wahân. Gwasanaethodd ynFfrainc, Gwlad Belg, YrIseldiroedd a’r Almaen. ‘Roeddyn un o’r rhai cyntaf i gyrraeddBerlin ym 1945 ac yn un o’r rhaicyntaf i dystio i erchylltra’rgwersyll crynhoi.Fel athletwr brwd, cafodd eiymweliad â’r Reichsportfield, sefy meysydd chwaraeon aadeiladwyd gan Hitler ar gyfergemau Olympaidd 1936, effaithfawr arno. Cysgodd yn ystadiwm enfawr o dan faincgoncrit wrth ymyl y trac lle’renillodd ei arwr, Jesse Owens, eibedair medal aur.Wedi’r rhyfel teithiodd Meurig iAwstria i gynorthwyo gyda’r dasgo ailsefydlu miloedd ogarcharorion rhyfel Almaenig. Cymru 1946-1996Wedi ei helyntion yn y fyddin,dychwelodd i Gymru, ac i’wannwyl gynefin, ‘Eryri fynyddig imi, bro dawel y delyn yw’. Febriododd ei annwyl Luned (sefEluned Morris, merch crydd oDdeiniolen) ym 1951, a bu’rddau’n byw yn gytûn a bodlonym Mangor hyd y diwedd. ‘Roedd yr Wyddfa yn her iddobob bore Sul, ‘waeth pa dywyddoedd hi’. Byddai’n cychwyn tua’rcopa am ddau o’r gloch y bore,gan geisio torri ychydig funudauoddi ar ei record flaenorol bobtro. Ar un achlysur, ac er mwyncodi arian at achos da (capel TŵrGwyn, Bangor), fe redodd i fyny(‘mewn tywydd ofnadwy’) bumgwaith mewn pedair awr arddeg!Cafodd Meurig waith gyda’rAwdurdod Ysbytai, yn gyfrifolam gynnal a chadw adeiladau’rAwdurdod ledled Gwynedd. Arôl ymddeol, penderfynodd, gydachefnogaeth eraill, sefydlu

    cangen o’r Samariaid ymMangor. Aeth ati’n frwdfrydig iaddasu’r adeilad a roddwydiddynt yn ddi-rent gan yrAwdurdod Iechyd. Wedi eiagoriad swyddogol, fo oedd ynun o’r rhai cyntaf i wirfoddoli.

    Croatia 1996Er mor nodedig yw’r hyn agyflawnodd fel milwr ac athletwr,heb os ei gyfraniad arbennig feldyngarwr sy’n haeddu'r sylwpennaf. ‘Roedd ei gariad yn gwblddiamodol, heb ffiniau gwlad, nahil, na lliw. Yn 73 mlwydd oed mae’r rhanfwyaf yn cymryd seibiant iedrych yn ôl ar fywyd llawn aphleserus. Ond nid felly Meurig!‘Roedd o’n awyddus i wneudgwaith elusennol ychwanegolyng Nghymru neu du hwnt. Ym 1995, penderfynodd fynd iGroatia i gynorthwyo rhai o’rmiloedd a oedd mewn angenmawr yn dilyn pedair blynedd oryfela ffyrnig. Gydag o ar y daith,aeth â miloedd o’i arian ei hunmewn pedwar bag ysgafn,camera, pasbort, ei DestamentNewydd a ‘bron dim byd arall’. Yn agos at bentref Makarska ynne Croatia, ‘ roedd gwersyll iffoaduriaid. Cerddodd yr 50milltir o Split i’r gwersyllhwnnw. Pan gyrhaeddodd, ‘roeddgolygfa ‘frawychus, truenus acerchyll’ yn ei wynebu ac meddai:‘Gwelais beth oedd yn weddill ounrhyw deuluoedd a oedd wediffoi a cherdded am fisoedd laweri guddio yn y rhan hon o’rgoedwig, ar ôl cael eu hel yndreisgar o’u pentref’.

    Fe’i hatgoffwyd o’i brofiadhanner can mlynedd ynghynt ynyr Almaen, ‘atgofion o gyrffdynol wedi’u llurgunio, mewnsiambrau nwy drewllyd …atgofion y gwnawn unrhyw bethi’w anghofio’.Mae ei ddisgrifiadau o’r gwersyllyn rhai graffig a chignoeth: ‘ymayn yr hen gytiau hyn, aadeiladwyd dros 50 mlynedd ynôl, pob un tua’r un maint âgwarchodfa bws, ‘roedd wythperson yn rhannu eu bywyd, ynbyw ac yn cysgu. Nid oeddcarthffosiaeth iawn, a olygai fodcarthion yn llifo lle'r oedd plantyn chwarae ac yn byw.’Ond yng nghanol yr hollerchylltra, fe ganfu Meurig ycariad oedd yn wastad yn eigynnal – ‘roedd y peth rhyfedd aelwir yn gariad i’w deimlo ohyd.’Ar ôl rhai dyddiau yn y gwersyll,llwyddodd Meurig i brynu bwydar y farchnad ddu mewn pentrefcyfagos. ‘Roedd o wedi llwyddoyn ei nod ond ‘roedd hefydbellach yn flinedig ac yn sâl ond,meddai, ‘er fy henaint, ‘roeddwnyn Gymro i’r carn ac ynbenderfynol o ddal ati’.Ym Mehefin 1996, fe adawoddMeurig y gwersyll a Chroatia.Wrth iddo hedfan dros yr Alpau,aeth ei feddyliau’n ôl at gyfnod1940-1946 a’r cwestiwn ‘A oeddeich taith yn wirioneddolangenrheidiol?’ Iddo fo, roedd yrhai a fu’n garcharorion yn ygwersyll am dros bedair blynedd‘yn frodyr a chwiorydd i ni.’Alwyn Llwyd Caerdydd, Rhagfyr 2015

    Hanes Gŵr HynodWilliam Meurig Williams (1922-2012)

    William Meurig Williams tua 1945

    Gwasanaeth Nadolig Cymunedol y Dyffryn

    Unwaith eto, cynhaliwydgwasanaeth arbennig yng NghapelJerusalem ar y nos Sul cyn yNadolig. Daeth cynulleidfa hynodo deilwng ynghyd i fod yn rhan o’rdigwyddiad blynyddol pwysig yma,a chael cyfle i dreulio orig fechan iddathlu gwir ystyr Gãyl y Geni .Cafwyd eitemau cerddorol ganGôr y Dyffryn, Côr Meibion yPenrhyn, Côr Ysgol DyffrynOgwen, Erin Fflur (enillyddcystadleuaeth yr unawd lleisiol ynEisteddfod Gadeiriol DyffrynOgwen 2015), Math Roberts(enillydd cystadleuaeth yr unawdofferynnol yn yr Eisteddfod

    honno), gyda Beti Rhys yn cyfeilio ar yr organ i’r carolaucynulleidfaol. Cyflwynwyd y darlleniadau gan John Ogwen,Angharad Llwyd, Alun Llwyd, Arwyn Oliver a Lowri Roberts.‘Roedd y canu cynulleidfaol yn rymus, ac awyrgylch hyfryd ynymledu drwy’r capel. I goroni’r noson, ymunodd y corau i gyd iganu’r fersiwn roc o ‘Haleliwia’ gan Handel.Dymuna trefnydd y noson, Menai Williams, ddiolch o galon i’rcorau a’r unigolion, a roddodd o’u hamser yn gwbl ddi-dâl, ac ibawb am eu cefnogaeth. Gwnaethpwyd elw sylweddol o £510.00tuag at godi ysbyty yn yr India.

  • LLaIS  OGWaN| 6 |

    Y CYMRO, Ionawr 2, 1958

    COF AM YRARDDERCHOGBEDAIR MILY CHWALFA FAWR....na welwyd mo’i thebygmewn unrhyw fro yngNghymru mewn cyn lleiedo amser

    PORTREAD gan Goronwy O.Roberts

    Yn holl hanes y Mudiad Llafur,nid oes bennod ffyrnicach naphrydferthach na honno sydd yndelio ‚ brwydrau chwarelwyrllechi Bethesda yn erbyn gorm esPenrhyn a thros gydnabyddiaethi’w Hundeb. Efallai ei bod eto ynrhy gynnar i sgrifennu’r hanesyn llawn, oblegid nid ffeithiaueconomaidd a gwleid yddol ynunig sydd ynddo ond llawertrasiedi personol hefyd. Mae s�nyr ymladd ar ein clyw o hyd, a’igysgod ar fythynnod tlawd hydheddiw.Daeth hyn oll i’m meddwl wrthddarllen ysgrif Mr Emyr HywelOwen ar ‘Beth o GefndirChwalfa’ yn y cylchgrawnLleufer. Ni allaf feddwl am nebgwell nag ef i ymgymryd ‚’rgwaith o groniclo holl hanes ycyfnod cythryblus hwn ynNyffryn Ogwen.Fe wyddom am Mr Emyr Owenfel athro ac addysgydd agyfrannodd yn sylweddol eisoes,yn enwedig trwy ei Atlas SirGaernarfon, i waith ysgolionCymru. Y mae hefyd yn fab ichwarelwr a brofodd chwerwdery chwalfa ac yn nai i un oarweinyddion ‘yr ardderchogbedair mil’ a gododd yn erbyn trais LordPenrhyn a’i herio am dairblynedd.Y mae rhamant, gogoniant adwyster yn hanes y brotest ynerbyn y syniad ffiwdal a ffiaiddmai’r lord a oedd piau’r creigiwrfel y graig, a dim ond un anaddwyd o’r graig honno a fedrei hadrodd yn iawn.Y mae popeth yn Lleufer, o danolygiaeth Mr David Thomas, ynwerth ei ddarllen, ond y mae’rysgrif hon yn werth ei thrysori.Ynddi y mae barddoniaeth abarn. Y mae’r farddoniaeth yn ydarlun hyfryd a hiraethus o’rgymdeithas werinol, Gymraeg achwalwyd gan y Streic Fawr. Ymae’r farn yn llethol o’r dihirodbarus a lwyddodd erbyn hyn iddarn-ladd yr ardal a’i diwydiant.

    Cae o wenithCymdeithas ddiwyd,

    ddiwylliedig, grefyddol oeddeiddo Bethesda, medd Mr Owen,drigain mlynedd yn ôl. Yngnghapel y Gerlan, cynhaliai’rParchedig John Owen eiddosbarth mewn Rhesymeg. Yny Carneddi, bugeiliai’r Prifardd J.T. Job. Ym Methesda ei hun,athronyddai David Adams ynanuniongred ac yn gyfareddol.Ar y Pasg, symudai’r dyffryn felcae gwenith gan y tyrfaoeddcymanfaol, ac felly’r Sulgwyn. Arbonciau’r chwarel, drwy’rwythnos, naddwyd y cerrig aholltwyd y blew diwinyddol. Arhyw bedair milltir i ffwrdd,safai’r castell codog noveauriche, anllythrennog.Sgotyn uniaith Seisnig oedd eiarglwyddiaeth, a Sais uniaithoedd ei arolygwr, E. A. Young.Cymry uniaith oedd ychwarelwyr. O’r cychwyn, ni buamodau gwaith a chyflog yn ddayn y chwarel, ac yn 1896 daethpethau i ben. GwrthododdRobert Owen a David Daviesgyfarfod ag Arglwydd Penrhyn iddadlau eu hachos ar eu pennaueu hunain. Mynnent fynd drwyeu pwyllgor, hynny yw, trwy euHundeb. Saciwyd y ddau ac ynatrowyd holl aelodau’r pwyllgorallan o’r gwaith.Cyhoeddwyd llythyr ArglwyddPenrhyn yn Gwalia (ci cyfarthTorïaidd y castell) a llosgwyd ypapuryn hwnnw yn bentyrrau arlawr y chwarel gan y chwarelwyr,a dyna ddechrau’r streic un-mis-ar-ddeg a barhaodd o Hydref1896 hyd Fedi 1897.

    FfarwelDyna hefyd gychwyn y chwalfa,fel y dengys Mr Emyr Owen,Anogwyd y gãr ifainc, di-briod, ifynd i ffwrdd i weithio, acaethant wrth y cannoedd – iwaith d�r y Rhaeadr, i DdyffrynNantlle a Nant Conwy, i Gaer aLerpwl a De Cymru, a thros ymôrr i bellafoedd byd.I gynnal y gw�r priod a’uteuluoedd gartref aeth côr oamgylch y wlad i gynnalcyngherddau, a chasglu arian.Dyma’r côr a ddaeth yn ail o unar ddeg yn Ffair Fawr y Byd,Chicago. Casglodd gryn ddwy fila hanner o arian. Cyfrannoddundebau eraill Prydain i’rdrysorfa hefyd a daeth symiau oAmerica a De Affrica. Ymhlith yrhai a danysgrifiodd yr oeddOwen M. Edwards, Emrys apIwan Puleston Jones ac eraill owir fonedd Cymru.Rhannwyd yn agos i ugain mil obunnau yn ystod yr un mis arddeg hwnnw. Câi dynion drosugain oed bunt bob pythefnos ynIonawr 1897 ond daeth y swm ilawr i 12/6 erbyn mis Mawrth.Yna, ddiwedd yr haf tanbaid,anfonodd Mr Young ei gerbyd i

    Fethesda i gyrchu aelodau’rpwyllgor i Dan y Bryn i siarad agef. Aeth y cerbyd yn ôl yn wag, amynnodd y pwyllgor eu cerbydeu hunain. Tynnwyd hwnnwwrth raffau gan gannoedd ostreicwyr yr holl ffordd iLandegai – a dihangodd Young i’rmynydd am ei fywyd.

    Hen arswydDaeth rhyw fath o heddwchanwadal, fel y disgrifir ef gan MrOwen, ar ôl diwedd y streic un-mis-ar-ddeg ym Medi 1897.Erbyn diwedd 1900 yr oeddamodau gweithio yn y chwarelmor ddrwg fel y torrodd yr argaeunwaith eto, a’r tro hwnparhaodd y streic am dairblynedd.

    Yr oedd grym penderfyniad ystreicwyr, medd Mr Owen, yn‘enghraifft dda iawn o GadernidGwynedd’, ond achosodd yStreic Fawr lawer mwy o chwalfana’r un o’i blaen. Dyfynnaf oeiriau Mr Owen:

    ‘...chwalfa na welwyd mo’ithebyg mewn unrhyw fro yngNghymru mewn cyn lleied oamser; streic a achosodd dairblynedd o dlodi echrydus ac ofyw ar y nesaf peth i ddim i’rsawl a arhosodd ymMethesda. Clywais fy mamyn dweud iddi hi a’i thadorfod haneru wy rhyngddyntdroeon yn ystod y tairblynedd hynny, ac mai’r pris agâi am wau pâr o hosanau arbeiriant gwau oeddchwecheiniog. Nid rhyfedd iohebydd y Daily News alw’rlle yn ‘Desolate Bethesda’.

    Yn naturiol, ar yr hen, ymethedig a’r plant y pwysai’rnewyn a’r dioddef yn fwyaf. Yn yDaily News, sgrifennodd DavidEdwards y frawddeg a ganlyn, achofiaf yr arswyd a’m llethai, felplentyn ysgol, flynyddoedd ar ôlhynny, pan ddyfynnodd yrHenadur Jeremiah Thomas yfrawddeg yn fy nghlyw:

    ‘The children of Bethesda sitsilent and haggard,’ meddaiDavid Edwards, ‘for thelanguor of starvation will notlet them play’.

    Yn ystod y tair blynedd, casglwyddros £41,000 i gronfa gynnal yrardal trwy ymdrechion gwahanolundebau. Casglwyd hefyd dros£46,000 trwy gasgliadau unigol arhoddion personol, ac fe ryddEmyr Owen fanylion hynod oddiddorol am y gronfa hon.Aethai teuluoedd o amgylchardaloedd agos a phell i gasglurhoddion, a ‘darlithiodd unchwarelwr diwylliedig yn

    ardaloedd Môn ac Arfon achasglodd ef £67.’

    Agorodd papurau newyddradicalaidd Cymru a Lloegr eucolofnau i’r apêl a chaed drosbum mil drwy hynny. Ymhlithrhoddwyr unigol yr oedd dynionfel Will Thorne, George M. Ll.Davies, Ellis W. Davies a SidneyWebb, ‘ac y mae eglwysiYmneilltuol Cymru benbaladr ynrhestr y rhoddwyr.’

    Y tri chôrAeth tri chôr o amgylch i ganu –dau gôr meibion ac un côrmerched. Casglasant £32,000yng Nghymru, Lloegr a Sgotland.Y mae’n debyg na bu llawerohonynt ddim pellach naLlandudno cyn hyn, a chawsantgyfle yn awr i ‘weled pobl aphethau na fuasai’r siawns leiafiddynt eu gweld pe na bai am ystreic.’ Gwelsant gofgolofnDaniel Owen yn yr Wyddgrug,medd Mr Owen, a buont yngnghartref Robert Raikes a GeorgeWhitfield yn Gloucester.Clywsant Philip Snowden yndarlithio ar ddirwest yn Leicester,ac arweiniwyd hwy dros D�’rCyffredin gan William Jones,A.S.Aethant heibio i garcharmerched Aylesbury, a’r convicts achwysai ar garreg galed Portland.Clywsant Gipsy Smith ynHighbury, a Syr Edward Clarkeyn dadlau achos ArglwyddPenrhyn yn erbyn William JohnParry yn y llys yn Llundain. Agwelsant Tottenham Hotspur ynchwarae pêl-droed.Daeth gãr amlwg y wlad ilywyddu yn eu cyngherddau - ynGlasgow, wrth gwrs, y llywyddoedd yr Athro Henry Jones, ac ynLlundain caed Campbell-Bannerman ac Asquith ilywyddu. Yr oedd Keir Hardie aDavid Lloyd George ar lawerllwyfan gyda hwy, a bu RamsayMacdonald gyda hwy ynLeicester, a’r Dr Clifford a’rParch, R. J. Campbell ynllywyddu yn Llundain.

    ‘Nid oedd flewyn ar dafod rhaio’r gw�r hyn wrth ddisgrifio’rchwalfa ym Methesda,’ meddMr Owen, ‘Rhyw greadurrhwng Pharo a Nero’ oeddArglwydd Penrhyn i Ben Tillet... ‘a lord who was not a man’oedd Arglwydd Penrhyn i LloydGeorge pan ddisgrifiodd ef yrArglwydd yn cadw nifer ochwarelwyr a geisiai osod euhachos ger ei fron, ar eu traedam bedair awr, ac yntau ei hunyn eistedd mewn cadairesmwyth fel petai’n JudgeJeffreys.’

    parhad ar y dudalen nesaf...

  • LLaIS  OGWaN| 7 |

    Fel y dengys Mr Emyr Owen, nidy gwleidyddion yn unig agefnogai’r corau. Cododd mwynag un cyflogwr goleuedig ei laisdrostynt a thros berthynasbriodol rhwng meistr a gwas; ynBethnal Green, daeth yr Iddewona chanu yn eu cyngerdd; helpidhwy gan Fyddin yrIachawdwriaeth a’r Y.M.C.A. ynaml; ‘ac yn Sheffield daeth rhywGymro bach a’i delyn i’wcyngerdd i berfformio; a llu o raieraill yn eu tro – hen warder ogarchar Portland, organyddEglwys Gadeiriol Lincoln,Crynwyr Clerkenwell aMethodistiaid CyntefigNorthampton.’Canai’r corau yn aml yn yr awyragored, gan gynnwys maes pêl-droed Yeovil. ‘Buont mewncapelau yn perthyn i bob enwad,ac mewn clybiau’n perthyn i bobplaid – edifarhau, fodd bynnag, awnaeth Ceidwadwyr Dartford arôl iddynt ganu un noson yn euclwb hwy, a bu raid canu yn yWorkingmen’s Club y nosonddilynol.’

    Yr emynauRhydd Mr Owen restr o’rcaneuon a ganent yn Lloegr, Ynnaturiol, yr oedd hymnau aHandel yn amlwg. Caed yrHaleliwia, y Laughing Chorus,Martyrs of the Arena, Comrade’sSong of Hope, a Magnify theLord. Ond yn Sgotland yr oeddyn rhaid dysgu a chanu alawon ywlad honno.Ymhlith yr emynau yr oeddEbenezer, Aberystwyth,Huddersfield, Andalusia, aThrewen – a dywedodd y Dr S.W. Hughes, cyn-gadeiryddEglwysi Rhyddion Prydain,wrthyf unwaith mai’r corau hyna ddaeth ‚ rhai o donau mawrCymru i adnabyddiaeth ySaeson.Ond, yn bennaf, yr wyf yn hofficyfeiriad Mr Owen at yrunawdwyr. Unawdwyr tenor,wrth gwrs, oedd llawer ohonyntac y mae’r tinc ariannaidd i’wglywed o hyd mewn cynulleidfayn Arllechwedd. Canent yr HolyCity, a’r Blue AlsatianMountains, Sweet Genevieve, acOra Pro Nobis. Ac nid oedd ybaswyr yn brin. Who Shall beKing? gofynnai’r baswr o’rbwthyn. A chanai hefyd Arm,Arm ye Brave a Down in theDeep.Gweinyddid y gronfa gynnal ganbwyllgor – nid oes wellpwyllgorwr na’r chwarelwr – aWilliam John Parry oedd ycadeirydd, un o bileriradicaliaeth y cyfnod, a gãrrhyfeddol mewn llawer ystyr.Gwnaeth Mr Roose Williams

    draethawd am ei radd M.A. ar ygãr nodedig hwn, a deallaf ei fodyn waith rhagorol.Yr ysgrifennydd oedd y Parch.W. W. Lloyd. A chynllun ypwyllgor oedd talu i’r siopau amnwyddau a gyflenwid i’rteuluoedd anghenus.

    Y buntYn naturiol, bu bylchau yn yrhengau. Torrodd ambell un eigalon a derbyn ‘punt y gynffon’sef y bonws a delid gan Penrhyni’r sawl a ddychwelai i’r gwaith.Achosodd hyn chwerwder achynnwrf mawr o dro i dro, agalwyd plismyn a milwyr allan iachub yr heddwch – ond storiarall yw honno, nad yw’n llefainam gael ei chyhoeddi. Terfynwyd y Streic Fawr ynNhachwedd 1903. ‘Dau yn unigo bwyllgor y streic a ofynnoddam gael mynd yn ôl i’r Chwarel– Owen Griffith a John Roberts –a gwrthodwyd y ddau. AethOwen Roberts i falu metlin iberfeddion Nant Ffrancon adihoenodd John Roberts i’w feddcyn ei amser... ac yr oeddangladdau yn amlach yn NyffrynOgwen yn y blynyddoedd wedi1903 nag y buont na chynt nachwedyn.’Mwy na’r dyrfa a aeth yn ôl i’rchwarel oedd y dyrfa a aeth iffwrdd i weithio ac na ddaethantyn ôl. Mae’n wir, fel y dywed MrOwen, fod rhai wedi dychwelyd,ond cyn iddynt hwy setlo i lawrac ail-greu y gymdeithas addrylliwyd, daeth rhyfel 1914-18, a dechrau chwalfa arall. Aethllawer to i Barrow, Lerpwl aManceinion, a minteioedd iorffwys ger y ffos ddu ynFflandrys ac ar draeth enbydGallipoli. Rhwng y rhyfeloedd, yr oedd tuadwy fil yn gweithio yn y chwarelond gwyro yr oedd y fasnachdrwy’r blynyddoedd nes daeth yrail ryfel byd i chwalu’rgymdeithas unwaith eto.‘Rhyw drigain mlynedd agymerodd hi, fwy neu lai,’ meddMr Owen ar derfyn ei ysgrif, ‘igael cymdeithas Gymraegdiwedd y ganrif ar ei thraed ynardal Chwalfa; trigain mlyneddhefyd a gymerodd i’w dinistrio.’Mae tua mil yn gweithio,meddir yn y chwarel, a dywedcymdeithas y perchnogion fod ydiwydiant ar ymlediad mawr.Gobeithio yn wir. Ymledodd ynddirfawr yn y blynyddoedd a fu.Bu’n foddion i adeiladu ardalgyda’r Cymreiciaf a gyda’rgloywaf yn Ewrop. A bu’nfoddion i adeiladu castell hefyd.Ond prif adeiladwaith ychwarelwyr yw’r esiampl o undeba phenderfyniad a roesant i werinpob gwlad. A dyna gastell a saifbyth.

    parhad Y Chwalfa Fawr

    parhad ar y dudalen nesaf

    Tachwedd 29ain 1952, dynaddyddiad pwysig yn fyhanes, sef dyddiad fy ngeni ynYsbyty Dewi Sant, Bangor, yn fabi Addie a Betty Lomozik. Weditreulio ychydig amser yn nhñTaid a Nain yn y Gerlan,symudodd Mam a Dad aminnau i fyw i fwthyn bach ynRachub, tros y ffordd i boptyCae’r Groes, cyn symud unwaitheto pan oeddwn i tua blwydd ahanner oed, i’n cartref newydd,sef 25 Carneddi Road. Dymaganol y bydysawd i mi am y rhanfwyaf o’m plentyndod.

    • Regent 2. Gweithdy Addie(Dad) 3. Ffatri Indiaroc 4. TirAnial 5. Cilfodan St. 6. PoptyTrefor Hughes 7. Popty EliasHughes 8. Capel Salem 9.George Inn 10. Siop Anti Cêt 11.Idwal Hughes Crydd 12. 69Carneddi Rd, cartref Trevor fyffrind 13. Siop Sglodion 14. SiopGwallt 15. Cigydd 16. Lladd-dy17. Sheffield Stores 18. CapelCarneddi 19. Siop Ffosters 20.Rhif 100 Carneddi Road. Rhif 25Carneddi Road -Tñ ni.Lle braf iawn oedd Carneddi

    Road fel y’i gelwid yr adeg honno,- enwau Saesneg fel Water St.,Middle St. a Gray St. oedd ar ystrydoedd cyfagos. ‘Roedd taiCarneddi Road yn rhedeg o rif uni gant, yn cychwyn o gyfeiriadRachub tua’r Gerlan. Dim ondolion rhif un a dau a welais ierioed, - ‘roedd y ddau dñ ymawedi eu dymchwel cyn i mi eucofio. Yn eu lle'r oedd depo petrol

    Regent (1) yn sefyll (lle maeMeithrinfa Ogwen yn awr), gydaffens fawr uchel o’i amgylch. Brafoedd cael mynd i fyny’r mynydduwchben fferm Cae Ifan Cymroyn ystod gwyliau’r haf gydaffrindiau ac edrych i lawr ar yholl brysurdeb, gyda’r lorïau yncychwyn allan ar eu rownd ac yndod yn ôl i lwytho drachefn. Ychydig ymhellach ymlaen o’r

    Regent ‘roedd gweithdy fy nhad(2). ‘Roedd o ac un neu ddau o’igyd-wladwyr wedi sefydlu’rgweithdy yno ar ddiwedd yr AilRyfel Byd, ar ôl ymgartrefu ymMethesda. ‘Roeddynt yn gwneudpob math o waith peiriannegyno, o gynhyrchu giatiau iffermwyr yr ardal i atgyweiro ceira wagenni a lorïau i drigolion abusnesau'r ardal. Ar ôl i dadymgymeryd â’r busnes yn llawn,fe ehangwyd y busnes a dechraugwerthu paraffîn, gyda lori ynmynd i leoedd fel Bangor,

    Deiniolen, Waunfawr,Rhosgadfan a Llanfairfechan.‘Roedd dau danc mawr yngnghefn y gweithdy, un yn dal yparaffîn a’r llall yn dal diesel.Bron bob bore Sadwrn y prydhynny ‘roeddwn yn gorfod myndi’r gweithdy a llenwi’r lori gydapharaffîn a diesel yn barod argyfer rownd dydd Llun.Roeddhyn yn waith braf yn ystod yr hafond yn waith caled ac oer yn ygaeaf, gyda glaw yn rhedeg oddiar y to ac i lawr fy nghefn. Petharall oedd yn rhaid ei wneudoedd llenwi’r peiriant gwerthugwm cnoi, gwagio’r arian ohonoa mynd â'r ceiniogau adref i’wcyfri. ‘Roedd y peiriant ymawedi’i osod ar ddrws y gweithdyac weithiau byddai un o’r pacedigwm cnoi yn torri, felly nid oeddmodd rhoi hwnnw yn y peiriant.Ond ‘roedd yn berffaith iawn imi ei gnoi!Tros y ffordd i weithdy fy nhad

    ‘roedd ffatri indiaroc (3). ‘Roedd yffatri wedi’i lleoli yn Cymro St.gyda nifer o hen dai wedi’uaddasu i’r pwrpas. Nid wyf yncofio am ba hyd y bu'r ffatrimewn bodolaeth, ond oddi fewni’r adeiladroedd bwrdd mawr hirmetel. ‘Roedd y bwrdd yn debyg ibotel dãr poeth, yn llawn o ddãrpoeth yn rhedeg trwyddo, ermwyn toddi’r indiaroc tra ‘roeddyn cael ei gynhyrchu. Wedi i’r llegau i lawr cafodd Dad y bwrddi’w ddefnyddio fel mainc yn ygweithdy. Dyma lle’r oeddem ni’rplant yn cadw ein deunydd argyfer noson tân gwyllt. ‘Roedd ynlle delfrydol i gadw pethau’n sychgan ein bod yn casglu hen bapura bocsys ar gyfer y noson fawrwythnosau ymlaen llaw. Drws nesaf i’r ffatri, ar yr hyn

    oedd yn dir anial (4) ar y pryd,’roeddem yn cynnal ein tângwyllt, ac ‘roedd yn rhaid mynd ifyny i’r ffridd i gasglu coed.‘Roedd yn rhaid i ni fod yngyfrwys iawn wrth fynd dros ycaeau i fyny am y ffridd, rhag i’rffermwyr ein gweld, dod a’r coedi lawr, ac yna eu gosod wrth ycreigiau ar y tir anial. Cyn ynoson fawr dringo i ben ycreigiau a neidio i mewn i’rdomen i weld pa mor ddewroeddem. Ar y pumed oDachwedd deuai pawb at eigilydd i wagio’r hen ffatri o’rpapurau a bocsys ac ‘roedd ybechgyn hñn yn cael hen deiarsgan fy nhad i’w rhoi ar ygoelcerth, ac ychydig o baraffîn iwneud yn siãr ein bod ni’n cael‘bonfire’ go iawn. Un diwrnodtra’r oeddwn ar ben y creigiaugyda rhai o’m ffrindiau cefaisafael ar gaead tun mawr, a dymabenderfynu ei daflu i lawr fel‘flying saucer’.Ei weld yn hedfan

    CARNEDDI ROADaR DDIWEDD Y PuMDEGaua DECHRau’R CHWEDEGau

    Gan aNDRE LOMOZIK

  • LLaIS  OGWaN| 8 |

    Hen daflen

    Y DaITH GERDDEDNODDEDIG FLYNYDDOLOherwydd amgylchiadau ‘roedd yn rhaidnewid dyddiad y daith eleni o fisGorfffennaf i fis Medi. Oherwydd hyn nidoedd cymaint o gerddwyr ag sydd wedi bodar y teithiau blaenorol. Er hynny fegasglwyd swm anrhydeddus iawn eto elenisef, £2914.80c.

    Penderfynwyd rhannu’r arian fel a ganlyn:Nyrs Clic Ysbyty Gwynedd (Eleri Fôn) –£1350. 00Cyfeillion Ysbyty Gwynedd£1440. 00Clwb Hanes Rachub124.80 

    Mawr yw ein diolch unwaith eto eleni inifer o bobl a fu'n hael yn cefnogi'r daith:Jonathan a Siop Londis am gasglu arian arhoi nwyddau tuag at y picnic.Valmai ac Alan, Tacsi A1, am gludo'r

    cerddwyr at Lyn Ogwen, a hynny yn rhadac am ddim.Anti  Doris, fferm Maes Caradog, am

    adael i ni gynnal y picnic ar y fferm a hefydam ddefnydd o'r tñ ar y diwrnod.Iain a Janet, Siop Rachub, am eu rhodd at

    y picnic.  Stella Davies am ei haelioni.

    Diolch i'r cerddwyr, nid yn unig am roi o’uhamser i fynd ar y daith, ond hefyd amgasglu'r holl arian, ac i bawb a roddoddgymorth mewn unrhyw ffordd i sicrhaullwyddiant y daith.

    Os oes gennych wybodaeth am elusennaulleol yr ydych am inni gasglu arian tuagatynt drwy’r daith nesaf yn 2016,cysylltwch â Raymond ac Ann ar 01248601077.

    Dilwyn PritchardLlais afon, 2 Bron arfon, Rachub LL573LW

    601880

    Rachub aLlanllechid

    Clwb LlanllechidCafwyd croeso cynnes iawn  yn YsgolLlanllechid ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 4ydd.Mawr oedd y pleser o wylio a gwrando arblant yr ysgol yn cyflwyno eitemau cerddorola llafar i ni.  Dilynwyd hyn gyda the pnawnblasus iawn. Mae Ysgol Llanllechid yngwahodd a chroesawu aelodau o'r clwb atyntbob Nadolig, a hoffem ddiolch yn fawr iawni'r plant, i Mrs G Davies Jones, ybrifathrawes, a holl staff yr ysgol a'r gegin ameu croeso arferol.

    Cinio NadoligCanolfan Noddfa, Penmaenmawr oeddlleoliad y cinio Nadolig eleni a hynny arRagfyr 15fed. Wele'r criw yn cychwyn oRachub gyda Derfel Owen wrth y llyw.Mwynhawyd cinio ardderchog ac mae'raelodau am ddiolch i Staff y Ganolfan am eucroeso a'r paratoadau, ac i Derfel am sicrhaueu bod yn cyrraedd yn ôl yn saff.

    parhad ar y dudalen nesaf...

    trwy’r awyr ac yn syth drwy ffenestr MrsHughes, - ‘roedd hi allan o’r tñ cyn i ni fedrudianc a phawb yn anelu bys ataf fi fel ytroseddwr, a Dad yn gorfod talu amatgyweirio’r ffenestr!Tñ pen oedd ein cartref ni, sef No 25Carneddi Road, gydag allt yn mynd heibiotalcen y tñ i fyny i gyfeiriad fferm Cilfodan. I fyny’r ffordd hyn hefyd ‘roedd popty TreforHughes (6). Roedd ganddo siop ar y StrydFawr ym Methesda, sef Siop No.1. Arnosweithiau braf o haf, gyda’r ffenestr ynagored, ‘roeddwn yn clywed y dynion yntaro’r bocsys bara ar y byrddau i gael y baraallan ohonynt ar ôl iddynt gael eu pobi. StanWilliams (Stan Baker), a fu yn ofalwr ynYsgol Dyffryn Ogwen am nifer o flynyddoeddwedyn yn yr 80au, Dafydd Davies acAnthony Jones oedd y tri yr wyf yn eu cofioyn gweithio yno. Weithiau byddem yn caelsbarion rhai o’r teisennau ganddynt, ‘creamhorn’ oedd fy , ac 'rwyf yn dal i fwynhau un obryd i’w gilydd hyd heddiw. ‘Roedd y lludwo’r popty yn cael ei gario i’r ardd y tu cefn i’radeilad ac yn fryniau o lwch coch. Ychydigpellach ymlaen o bopty Trefor ‘roedd poptyarall, sef becws Elias Hughes, (7). ‘Roedd oleiaf ddau arall yn gweithio yno hefyd, sef eifab yng nghyfraith, Seymor, a dyn o Rachub.

    Tros y ffordd i’n tñ ni ‘roedd stryd o’r enwCilfodan St. gyda dim ond tri thñ yn y rhes.‘Roedd y stryd yn arwain at chwarelPantdreiniog, ble ‘roeddem yn chwarae arbenwythnos, a bron drwy’r haf. ‘Roedd pobmath o geir wedi’u gadael yno ac ‘roeddemyn gallu gwneud gwersyll ynddynt. Gêm aralloedd hel poteli gwag, a’u gosod ar hen slabmawr o goncrit, yna dringo i ben y domen adechrau taflu cerrig atynt, - digon hawdd iddechrau, ond y person oedd yn taro’r botelolaf i sefyll oedd brenin y diwrnod. Byddemhefyd yn chwilio am nythod jac-y-do ermwyn gweld y cywion, ac ar ddiwrnodgwyntog ‘roeddem yn mynd i hedfan barcud

    o ben pella’r domen. Bu i sawl un fynd iwaelod y twll wrth i’r cortyn dorri gan fod ygwynt mor gryf. Ar ôl capel ar nos Sul braf ohaf, byddai rhai o’r dynion yn cerdded i bendraw’r domen ac eistedd yno yn cael smôc asgwrs, a gwylio’r ceir yn dod ar hyd yr A5 ogyfeiriad Bangor, gan droelli trwy’r pentref ifyny heibio cae pêl-droed Parc Meurig igyfeiriad Nant Ffrancon.

    Yn ôl ar hyd Carneddi Road, ychydig ynuwch i fyny na’n tñ ni ‘roedd Capel Salem,(8) a berthynai i’r Annibynwyr ( lle roeddwn ia mam yn aelodau). Yma yr awn i’r YsgolSu,l a’r Band of Hope yn ystod misoedd ygaeaf, a chofiaf orfod dysgu deunydd ar gyferyr arholiad. Un tro ‘roeddwn wedi bod i lawrat afon Ogwen, ac wedi gwlychu wrthchwarae yno. Cyrhaeddais adref a mam wedigwylltio yn lân, ac aeth â mi i’r arholiad felag yr oeddwn i wneud fy rhan. MissGertrude Thomas, oedd arolyges yr ysgolSul, a nifer o oedolion eraill yn athrawon, yneu mysg Mrs Brooks, Anti Cêt, a Mr WilliamJones.’Roedd gan Mr Jones, (taid StephenJones yr ymgymerwr) rywbeth blasus yn eiboced bob Sul i ni i’w fwyta tra yn y wers.

    Yn union drws nesaf i’r capel ‘roedd y GeorgeInn, (9), nid Y Siôr fel y’i gelwir heddiw! Yno,âi dynion lleol am ychydig i gymdeithasu.(PARHAD MIS NESAF)

    Clwb Hanes Rachub,Caellwyngrydd aLlanllechidClwb Hanes Rachub, Caellwyngrydd aLlanllechid.Daeth criw cartrefol ynghyd yn FestriCarmel i fwynhau noson gymdeithasol,panad a mins pei! Roedd nifer helaetho’r aelodau wedi dod a ffotograffau, ac fedreuliwyd munudau lawer yn poridrwyddynt. Mrs Helen Williams adrefnodd y noson, a chawsom rywfaint ohanes ‘Alaw Llechid’ sef cyfansoddwr ygarol enwog ‘Wele'n Gwawrio Ddydd i’wGofio’ ganddi. Uchafbwynt y nosonoedd cael un o blant ifanc yr ardal, sefEfa Glain Jones, i berfformio carolfodern, ac yn wir, roedd hi’n ardderchog!'Does ryfedd yn y byd iddi ddod yn ail arlwyfan Eisteddfod Genedlaethol yrUrdd, ac iddi ennill tarian am yperfformiad cerddorol gorau ynEisteddfod Dyffryn Ogwen! Roedd ynnoson hyfryd, a diolch i bawb a’itrefnodd.

    Clwb Hanes Rachub aLlanllechid

    Nos Fercher, Ionawr 27

    am 7 o’r gloch

    yn Festri Capel Carmel.

    Bydd Mr. Alaw Jones

    yn trafod

    ‘Waliau Cerrig Diddorol yr Ardal’

    CROESO CYNNES!

    parhad ar ‘Carneddi Road’

  • LLaIS  OGWaN| 9 |

    Rhiannon IfansGlanaber, Pant, Bethesda

    600689

    Braichmelyn

    Gwellhad BuanAnfonwn ein cofion cywiraf atDr. Goronwy Wyn Owen, syddddim yn dda ar hyn o bryd, ahefyd Mrs Norma Roberts, 59,Braichmelyn, sydd wedi derbynllawdriniaeth. DymunwnFlwyddyn Newydd Dda I chwi,ac i bawb ym Mraichmelyn yn2016.

    ColledYn ystod mis Rhagfyr bu farwDave Pledger, Stryd y Ffynnon.Roedd Dave wedi byw yma ersdros 35 o flynyddoedd, ac ynberson hoffus a hynaws iawn.Roedd yr ardal hon yn agos iawnat ei galon, ac ‘roedd i’w weld ynaml yn cerdded y bryniau a’rmynyddoedd o gwmpas y dyffryngyda’i het fawr, gantel-lydan ar eiben, a’i gamra yn ei law. Byddcolled fawr ar ei ôl gan eiffrindiau i gyd

    Croeso adrefRydym yn croesawu Lisa Jên a’rteulu yn eu holau adref i’rGwernydd. Mae Lisa wedi bodyn gweithio yng Nghaerdydd,mewn perfformiad o’r sioeCandylion, ers nifer owythnosau bellach, a symudoddyr holl deulu i lawr gyda hi drosy cyfnod. Bu Liwsi Mo a BetsiLw yn ddisgyblion mewn ysgolGymraeg yn y brifddinas. Ercystal yr ysgol honno, mae’n sicreu bod hwy yn falch iawn o gaelbod yn eu holau gyda’u ffrindiauyn Ysgol Abercaseg, fel y bydd euffrindiau yn falch iawn o’u gweldhwy unwaith eto. ‘Rydym yndymuno’r gorau i Lisa, sydd ynawr yn dechrau ymarfer arberfformiad o Chwalfa ynPontio, perfformiad fydd i’wweld yn y theatr ganol Chwefror

    Pen-blwydd arbennig iawnDdechrau Ionawr dathloddMyfanwy Jones, Gwernydd, eiphenblwydd yn 90 oed. Mae’nanodd credu ei bod wedicyrraedd yr oedran hwn, gan eibod mor heini ei cherddediad, acifanc ei hysbryd a’i hymddygiad,ac yn mynd i lawr i siopa ymMethesda yn rheolaidd. ‘Rydym igyd yn eich llongyfarch yn fawr

    iawn, Anti Myf, ac yn gobeithioichi fwynhau’r dathlu gydatheulu a ffrindiau. Dymunwnbob hwyl i chi i’r dyfodol.

    Penblwydd CyntafPenblwydd cyntaf hapus i DeiMadog, Stryd y Ffynnon, oeddyn flwydd oed ar 13 Ionawr.Swsus mawr oddi wrth mam adad.

    Blwyddyn newydd ddaGobeithio i chi i gyd gael gwyliaullawen, ac ‘rydym yn dymunoblwyddyn newydd dda i chi i gyd.‘Rydym yn gobeithio’n fawr nafu i’r tywydd difrifol yma ‘rydymwedi ei ddioddef ers wythnosauamharu ar neb ohonoch, trwyddifrod i gorff neu eiddo. ‘Rydymyn gwir obeithio y bydd i’rtywydd newid yn fuan, ac y cawnlawer llai o law a gwynt yn ymisoedd nesaf.Rhys Evans a Mathew Morris, yddau o Stryd Morgan ar eupenblwyddi arbennig. Gobeithioi’r ddau ohonoch gael penblwyddarbennig o hapus, a diwrnod i’wgofio. Pob dymuniad da i’r ddauohonoch i’r dyfodol

    Dathlu’r 60Llongyfarchiadau mawr i ArfonGriffith, Ffordd Gerlan, arddathlu ei benblwydd yn 60 oedyn ddiweddar. Gobeithio itifwynhau’r dathlu, Arfon. Pobdymuniad da iti, Arfon, ganbawb o’r pentref

    DiolchDymuna Ann Williams, Stryd yFfynnon, ddiolch i bawb agefnogodd y bore coffi adrefnodd yn ddiweddar er buddApêl y Ffoaduriaid. Diolch ynarbennig i bawb a fu’n eichynorthwyo, ac i’r rhai agyfrannodd at y bore mewnunrhyw ffordd. Codwyd swm o£235 a throsglwyddwyd ef iGronfa Eglwys Glanogwen tuagat yr Apêl.

    CalanBraf oedd gweld Patrick Rimes,Gwernydd, adref yn ei ardal ymis hwn. Roedd Patrick, sy’nrhan o’r grwp hynod oboblogaidd, Calan, yn cynnalnoson yn Neuadd Ogwen. MaePatrick yn gerddor arbennig odalentog, ac mae Calan ynbrysur iawn yn diddoricynulleidfaoedd yng Nghymrua’r tu allan i’r wlad. Da iawn,chi, Calan, a da iawn, chdi,Patrick!

    CofionRydym yn gyrru ein cofion atbawb yn yr ardal, yn enwedig yrhai hynny nad ydynt yn dda euhiechyd, ac yn dymuno NadoligLlawen a Blwyddyn NewyddDda i bawb. Mwynhewch yrÃyl.

    Ann a Dafydd VaughanWilliams14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan

    601583

    Y Gerlan

    Eglwys Sant Tegai

    Cyngerdd Côr Merched“Cantabile”Ar nos Wener Rhagfyr 18,cynhaliwyd Cyngerdd NadoligCôr Merched “Cantabile”.Cafwyd amrywiaeth ogerddoriaeth tymhorol, yncynnwys carolau hen anewydd, darlleniadau ac eitemar y clychau bach gan y“Cantabile Chimers”. ‘Roeddyn noson lwyddiannus drosben a bu cyfle i’r Ficer, yParchedig John Matthews,ddiolch i’r arweinydd JohnHywel , y cyfeilydd HelenDavies, yr unawdydd EmlynAethwy Jones, y darllenyddGill Howell a holl aelodau’rcôr. Aeth elw o £200 i GronfaAtgyweiro Eglwys Sant Tegai.Gwasanaeth Naw Llith aCharol Sant TegaiCynhaliwyd ein gwasanaethtraddodiadol yng ngolaucanhwyllau ar nos Sul,Rhagfyr 21. Bu criw o ferchedo’r gynulleidfa o danarweiniad HefinaChamberlain yn brysur ynaddurno’r adeilad mewnlliwiau Nadoligaidd arian agwyn. Diolch iddynt am eugwaith called, ac i’r Ficer, Sue,Ann, Rhian, Edmond, Nerysa’r organydd Geraint Gill amdrefnu’r gwasanaeth. Y darllenwyr oedd LizBestwick, Gwenan LlewelynJones, Janette Roberts, HuwPritchard, Hazel Jones,Morwenna Bean, DorothyHanks, Ann E.Williams a’rParchedig John Matthews. Arddiwedd y noson daeth pawb iNeuadd Talgai i fwynhau gwinpoeth Hefina, mins peis a

    theisennau. Diolch i NerysJones am drefnu’r lluniaeth.Gwasanaeth Ysgol Llandygaiyn yr eglwysBraf oedd cael croesawudisgyblion Ysgol Llandygai iSant Tegai ar brynhawn Llun,Rhagfyr 22. Mae’r cysylltiadrhwng yr ysgol a’r eglwys ynglos, a’r Ficer yn ymweld â’rdisgyblion yn wythnosol.Arweinwyd y gwasanaeth gany Ficer a’r Pennaeth dros dro,Mr Elfed Morgan Morris, acamryw o athrawon allywodraethwyr, yn cynnwysRhian Llewelyn Jones ac AnnE Williams o gynulleidfa SantTegai yn cyflwyno gweddiau astori’r Geni. ‘Roedd partirecorders yr ysgol a chorauplant o bob oedran yncyfrannu i’r rhaglen adrefnwyd gan Mrs ManonGriffiths, Ysgol Llandygai.Diolch yn fawr iawn i’rathrawon a’r plant am eugwaith caled . Mae’r eglwys ynfalch o gael helpu ariannudatblygiad cerddoriaeth yn yrysgol. ‘Roedd y goedenNadolig anferth yn drawiadoliawn ond sut oedd y serenwedi ei gosod ar y brig ? Dynaoedd y cwestiwn mawr arwefusau’r plant!Codi Arian i Sant Tegai ynNeuadd TalgaiBydd Bingo arbennig ar gyfer yGronfa Atgyweiro am 7 orgloch yr hwyr nos Fawrth,Ionawr 26. Ceir Raffl FawrSantes Dwynwen gydachampagne a blodau fel rhaio’r gwobrau. Croeso i bawb.Dymuniadau gorauMae nifer o aelodau’r eglwysyn dioddef o anhwylder. Pobdymuniad da iddynt ar gyfer yflwyddyn newydd.

    Gwefan Hanes Dyffryn Ogwen

    Mae’r wefanuchod wedi eisefydlu ersMisTachwedd acmae oddeutudeg safle oddiddordebeisoes wediymddangos

    gan gynnwys Tñ Dãr Gerlan , Tñ John Iorc, Chwarel y Foel,Rachub, cilfachau Telford ac yn y blaen. Mae adroddiadau byr wedieu paratoi ar tua cant o adeiladau, safleoedd cynhanes, pentrefi,chwareli, capeli ac eglwysi, heb anghofio rhai o’r personoliaethauarbennig oedd yng nghlwm a hwy, sydd wedi cyfrannu at greuhanes rhyfeddol ein hardal ni yn Nyffryn Ogwen. Mae’r dewis fellyyn eang a bydd lluniau, mapiau a delweddau perthnasol wedi euhatodi gyda pob cyfraniad. Agweddau yn unig at hanes y Dyffryn agyflwynir ac mae’r wefan yn agored i bawb gyfrannu at eichyfoethogi.Cyfeiriad y wefan yw: hanesdyffrynogwen.wordpress.comJohn Ll W Williams a Lowri Wynne Williams

  • LLaIS  OGWaN| 10 |

    Ymweliad â Phlas OgwenYmwelodd y Cynghorydd PaulRowlinson, Cadeirydd CyngorCymuned, Bethesda, a'rCynghorydd Ann Williams,Aelod Lleol Cyngor Gwynedd,gyda Phlas Ogwen ychydig cyn yNadolig. Cyflwynwyd anrheg ibob preswylydd gan y Cyng.Rowlinson. Diolch i MandyRoberts, y Rheolwraig,  a'r hollstaff am eu gwaith caled trwy'rflwyddyn, a diolch i'r preswylwyra'r staff am eu croeso. ‘Rydymyn ffodus o gael cartref fel PlasOgwen yn ein cymuned gyda'rgofal arbennig a roddir i'r hollbreswylwyr.

    DiolchDymuna Hefin, Llifon a’r teulu,17 Hen Barc, ddiolch am bobarwydd o gydymdeimlad acharedigrwydd a ddangoswydtuag atynt yn eu profedigaeth ogolli gwraig a mam annwyl, sef yddiweddar Eirian Jones. Diolcham y rhoddion hael tuag atUned Dydd Alaw.

    Diolch hefyd i’r ParchedigGeraint Roberts, Mrs MenaiWilliams yr organyddes ac iGareth Williams am eidrefniadau trylwyr a gofalus.

    Babi NewyddLlongyfarchiadau mawr i Alex aCassie ar enedigaeth merchfach, sef Lottie Wyn. Da hefydcael llongyfarch Henryk a Carol,Ystad Coetmor, ar ddod yn naina thaid am y tro cyntaf, a Mrs.Elsie Evans, Garneddwen, arddod yn hen nain. Y teulu ollwedi gwirioni efo’r fechan!

    YsbytyCofion cynnes at sawl un a fuyn yr ysbyty yn ddiweddar. Dadeall fod rhai wedi dychwelydgartref erbyn hyn. Gwellhad ichwi oll, a chofion at bawb sy’nsâl yn eu cartrefi. Dyma rai addaeth i sylw’r Llais:- Mr. JoeEvans, Glanffrydlas; Mr. LlewTudur, Pant Glas; Mr. Roy Jones,Stryd Fawr; Mr. Bert Hughes,Stryd John ac Owie Williams,Maes y Garnedd.

    DyweddïadLlongyfarchiadau a phobdymuniad da ar achlysur eu

    dyweddïad i Lois a Mathew, ErwLas. Mae Lois yn ferch i Helenac Arfon, Erw Las, a Mathew ynfab i Jason a Gwenda, Y Groeslon.

    CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad atMr. a Mrs. Trystan Pritchard a’rplant, Allt Pen y Bryn, yn euprofedigaeth o golli nain a hennain ym Mhenrhosgarnedd.

    Nain a Hen NainLlongyfarchiadau i Mrs. JulieDavies, Pant Glas, a Mrs. DorisJones, Maes Coetmor, ar yrachlysur hapus o ddod yn nain ahen nain yn dilyn genedigaethmerch fach i Chris a’i gymar ymMae Colwyn.

    GorffwysfanAr ddydd Mercher, 16 Rhagfyr,yn y Clwb Criced a Bowlio,cafwyd cinio Nadolig ardderchogwedi ei baratoi gan Karen a staffCaffi Coed y Brenin. Croesawydpawb gan ein cadeirydd gydachroeso arbennig i Eirwen, ErwLas, yn dilyn cyfnod yn yrysbyty. Offrymwyd gweddi cyn ycinio gan Ceri Dart. Wedi’r ciniocafwyd gêm o Bingo a raffl, adiolchwyd i bawb am ytrefniadau gan y cadeirydd.Yna, ar brynhawn dydd Iau, 17Rhagfyr, aeth rhai o’r aelodau iYsgol Dyffryn Ogwen am deprynhawn ac adloniant.Unwaith eto, cafwyd gwledd achroeso cynnes gan bawb.Diolch yn fawr iawn!

    Ffiona Cadwaldr OwenBryn Meurig Bach,Coed y Parc, Bethesda,LL57 4YW

    601592

    Joe Hughesawel y Nant, Ffordd Ffrydlas,RachubLL57 3LW

    601902

    Bethesda

    MERCHED YWaWR, BETHESDa

    Dydd Gwener Rhagfyr 11egdathlwyd y Nadolig gydachinio yng ngwesty BrynMenai Caernarfon. Cafwyddewis helaeth o fwydlenNadolig draddodiadol o dwrcia'r trimins arferol neugigoedd eraill gan gynnwyseog. Yna'r pwdin 'dolig cartrefneu dreiffl. Canmolodd pawbyr awyrgylch gartrefol a safony bwyd ardderchog. ‘Roedd ynunion fel cinio adref.Diolchwyd am y cyfan, y

    lluniaeth a'r trefniadau awnaed gan Gwenno a Jean,yn gynnes iawn gan yllywydd Elina. Anfonodd eincofion i'r aelodau a fethoddfod yn bresennol achydymdeimlwyd â RitaBullock a'r teulu yn euprofedigaeth o golli brawd.Cyfeiriodd Elina at y ffaith

    ei bod yn ddiwrnod cofio’rTywysog Llywelyn ap

    Newyddion Sefydliad y Merched, Carneddi ar dudalen 21.

    Gruffudd neu Llywelyn EinLlyw olaf, a fu farw ar Ragfyr11eg 1282 ( gweler nofeligPeter Gordon The  Life andDeath of a Warrior cyh. YLolfa.)  Gwnaeth apel i ni gydfod yn Gymry da yn ystod yflwyddyn nesaf, pan fyddwnyn trafod newidiadau i drefny cyfarfodydd oherwyddanableddau henoed acafiechyd yr aelodau.Dymunodd Nadolig Llawen aBlwyddyn newydd dda ibawb  Edrychir ymlaen at ycyfarfod nesaf ddiweddIonawr.

    Blwyddyn Newydd Dda i hollffrindiau Marchnad Ogwen -yn Stondinwyr achwsmeriaid! 'Rydym wedicael blwyddyn lwyddiannusdros ben ac mae ein diolchyn ddiffuant i bawb syddwedi cefnogi'r Farchnad yn2015. Mae tair o'ncwsmeriaid - sydd wedi eincefnogi trwy'r misoedddiwethaf ac wedi defnyddioeu 'Cerdyn Glas' yn yFarchnad - wedi bod ynlwcus! Enillydd y wobr o £50oedd Mrs Bessie Buckley,Tregarth. 'Roedd dwy wobr o£25 ac fe'u henillwyd ganMrs Beryl Burgess, Bethesdaa Ms Sharon Williams,Pentir. Oherwydd llwyddianty Farchnad Nos ym misTachwedd, mae un arall wediei threfnu ar Ebrill 20fed.Mae cryn edrych ymlaen!Mae Stondin Elusen misChwefror yng ngofal ClwbLlewod Dinas Bangor - sy'ncyfrannu at achosion teilwngyn y gymuned.

    Bydd Cyfarfod BlynyddolMarchnad Ogwen Chwefror15fed yn y Douglas Arms am7 o'r gloch.Bydd y Farchnad nesafChwefror 13eg yn NeuaddOgwen o 9.30 - 1.30 ac maecroeso cynnes i chwi oll.Mae'r wybodaeth gyfredol amy Farchnad ar ein gwefanwww.marchnadogwen.co.ukac ar Facebook a Twitter.

    Tlws Cyngor Cymuned BethesdaEnillydd Tlws Cyngor Cymuned Bethesda am yr addurniadauNadolig gorau mewn ffenestr siop ar y Stryd Fawr eleni oedd BlodauHyfryd. Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cyng. Paul Rowlinson:“Roedd yn bleser mawr gweld cynifer o ffenestri deniadol eleni. Roeddllawer o’r busnesau wedi gwneud ymdrech dda iawn i greu ffenestrihardd dros ben. Roedd y cyfan yn creu argraff dda iawn i’r Stryd ac ynfodd i ddenu pobl i weld beth sydd gan ein siopau i’w gynnig. Hoffwnlongyfarch Siop Blodau Hyfryd am ei ffenestr ragorol.”

    Cyng Paul Rowlinson a'r Cyng Ann Williams gyda rhai o breswylwyrPlas Ogwen yn ystod yr ymweliad.

  • LLaIS  OGWaN| 11 |

    Yr Eglwys unedig, BethesdaCyfarfu’r Gymdeithas nos Iau,Rhagfyr 10fed. Croesawydpawb gan Joe Hughes, yLlywydd, a darllenwyd yrenglyn gan Neville. Cafwydnoson ddifyr iawn yngnghwmni Parti Traeth Lafan, adiolchwyd iddynt gan JeanOgwen Jones. Diolchodd hefydi’r merched a oedd yn gweini’rbaned, sef Carys, Beryl,Heulwen a Minnie.Fore Sul, Rhagfyr 13eg,cynhaliwyd Gwasaneth Nadoligyr Ysgol Sul. Rhaid canmol yplant a’r pobl ifainc am euperfformiadau caboledig, ahefyd Lowri a Menai am eugwaith yn eu paratoi. Diolch iSioned a Fflur am eu gwaithhwythau gyda’r plant iau, ac iNerys, Alwenna a’r rhieni ambaratoi a gweini gwledd i ni igyd ar gyfer y parti a ddilynoddy Gwasanaeth. Rhaid diolchhefyd i Siôn Corn am ddodatom i rannu anrhegion i’rplant. Gwnaed casgliad o dros£160.00 tuag at yr Ysgol Sul arfore cofiadwy iawn. Gyda’rhwyr, cawsom gwmni’rParchedig WR Williams mewnoedfa hyfryd – diolch iddoyntau.Fore Sul, Rhagfyr 20, cawsom yfraint o groesawu’r ParchedigDdr. Huw John Hughes i’ngwasanaethu, ac yna, gyda’rhwyr, cynhaliwyd einGwasanaeth NadoligCymunedol, gyda chynulleidfafawr wedi dod at ei gilydd –noson arall i’w chofio. Mae’rcasgliad o £510.00 yn myndtuag at adeiladu ysbyty yn yrIndia. Diolch i Menai amdrefnu’r cyfan yn ôl ei harfer. Fore’r Nadolig, cynhaliwydGwasanaeth Cymun o dan ofaly Parchedig WR Williams –diolch yn fawr iddo unwaitheto.Cofiwch am ‘Lenwi’r Cwpan’bob bore Iau rhwng 10 ahanner dydd – dewch ambaned a sgwrs ddifyr mewnawyrgylch cynhesol!

    CYHOEDDIADAU:IONAWR 17: Y Parchedig WH Pritchard24: Mr Richard Lloyd Jones31: Yng ngofal yr aelodau(10:00 a 5:00)CHWEFROR7: Y Parchedig D CoetmorWilliams14: Y Parchedig CledwynWilliams21: Y Parchedig Gwyndaf Jones28: Y Parchedig GarethEdwards

    Y plant yn canu yn ystod Gwasanaeth Nadolig Ysgol Sulyr Eglwys Unedig.

    Eglwys Crist,GlanogwenCynhelir Gwasanaethau fel aganlyn:Sul Cyntaf pob mis Cymun Bendigaid – 8.00am

    Boreol Weddi Cymraeg –11.00am

    Ail Sul pob misCymun Bendigaid Cymraeg –11.00amTrydydd Sul pob misCymun Bendigaid dwyieithog– 110.00amPedwerydd Sul pob misCymun Bendigaid dwyieithog– 11.00amPumed SulGwasanaeth ar y cyd gydaMynydd Llandegai a Pentir(Lleoliad i’w gyhoeddi)

    Pob bore Mercher am10.30am - Cymun Bendigaid

    Gwasanaethau Ionawr 2016

    Sul, Ionawr 17Ail Sul Yr YstwyllCymun Bendigaid -11:00amSul, Ionawr 24Trydydd Sul Yr YstwyllCymun Bendigaid - 11:00amSul Ionawr 31Pedwerydd Sul Yr YstwyllAr y Cyd, St Cedol, Pentir,Cymun Bendigaid - 10:00am

    Mae nifer o aelodau yn cwynooherwydd amrywiolanhwylder. Dymunwnadferiad llwyr a buan i chwigan fawr obeithio y byddwchcyn hir yn medru mynychurhai o’r gwasanaethau.

    Dymunwn Flwyddyn NewyddDda, hapus, dedwydd abendithiol i bawb.

    PartneriaethOgwenAr y 25ain o Dachwedd,cynhaliwyd Cyfarfod BlynyddolCyffredinol Partneriaeth Ogwen.Yn ystod y cyfarfod cyflwynwydadroddiad drafft a llongyfarchwydy staff ar eu gwaith caled a diflinoyn ystod 2015. Dim ond 3 aelodo staff sydd i’r Bartneriaeth –Sara de Waart, ein cynorthwy-

    ydd yn Siop Ogwen a’r swyddfa,Donna Watts ein Clerc i’r trichyngor cymuned (rhan amser) aMeleri Davies fel Prif Swyddog(rhan amser). Mae’r tair wedigweithio’n galed ar amrywiolbrosiectau dros y flwyddyn – ynbennaf, prosiect Hydro Ogwen,datblygu Swyddfa Ogwen yngartref parhaol i’r heddlu achartref dros dro i asiantaethaufel Cyngor ar Bopeth ac eraill, adatblygu siop lyfrau newyddBethesda, Siop Ogwen. Mae’rBartneriaeth yn brysur wneudgwahaniaeth ar Stryd Fawr,Bethesda gyda swyddfa’rBartneriaeth yn cartrefugwasanaethau cyngor amrywiol ahyd yn oed wersi gitâr! Mae SiopOgwen hefyd, ein menternewydd gyda Neuadd Ogwen ynbrysur dyfu gyda gwerthiantllyfrau i’r cyhoedd a sefydliadaulleol yn cynyddu yn gyson.

    Yn ogystal â’r gwaith caled oymsefydlu a rheoli’r Bartneriaetho ddydd i ddydd, gellir crynhoiprif gyflawniadau PartneriaethOgwen yn ystod y flwyddyn fel aganlyn:• Agor Canolfan WasanaethauLleol Ogwen a rheoli eiddo 26Stryd Fawr gyda Heddlu GogleddCymru yn denantiaid ar lawr isafyr adeilad a thenant lleol yn yfflat uwchlaw’r swyddfa.• Busnesau/Sefydliadau newydda grëwyd – 2 (Ynni Ogwen Cyf aSiop Ogwen)• Derbyn Caniatâd Cynllunio a

    datblygu cynllun Hydro Ogwen • Swyddi wedi eu creu neu eucynnal – 3 • Gwasanaethau Newydd addarparwyd o GanolfanWasanaethau Lleol Ogwen – 7(Cymorth i Ferched, WardeiniaidYnni Grãp Cynefin, CynllunNyth/Nest Llywodraeth Cymru,Banc Bwyd, Undeb CredydGogledd Cymru, Cymorth arBopeth a Chyfreithwyr HughJames.)• Mudiadau, cynlluniau agweithgareddau cymunedol wedicael cefnogaeth – FfarmMoelyci/Gorymdaith/Cefnfaes/Maes Parcio Gerlan/DarganfodDyffryn Ogwen/Cymru i Calais amwy.

    Mae prosiect Hydro Ogwen yngyflawniad arwyddocaol ac maewedi bod yn fraint ac ynhollbwysig fod y Bartneriaethwedi sbarduno prosiect morbwysig yn y dyffryn. Rydym ynawr wedi cofrestru Ynni OgwenCyf fel Cymdeithas BuddCymunedol, ac Ynni Ogwen Cyffydd yn datblygu prosiect HydroOgwen tua’r dyfodol.  Mae’ngyfnod eithriadol o gyffrous i ni oran ein cynlluniau ynniadnewyddadwy. Yn  syth ar ôlderbyn ein trwydded echdynnudãr gan Gyfoeth NaturiolCymru, byddwn yn cofrestru eincynllun ar gyfer taliadau FITsgyda Ofgem. Rydym yn gobeithioagor cynllun cyfranddaliadaucymunedol i ddatblygu cynllunHydro Ogwen ym mis Chwefrorac rydym yn awr yn trafod gydachyllidwyr cynllun LEADER i’nhelpu gydag ymgyrch farchnatabroffesiynol i’r ymgyrch. Mae Ynni Ogwen Cyf hefyd yn

    rhan o gonsortiwm Cyd Ynni, sefconsortiwm o gwmnïau ynnicymunedol yng Ngwynedd. Maehyn yn agor llawer o ddrysau i nio fewn y sector ynni ac rydymeisoes yn cydweithio â chynllunYnni Lleol – Energy Local iedrych ar botensial defnyddioynni ein cynllun Hydro igyflenwi trydan yn lleol. Mae hi wedi bod yn flwyddyn

    gyffrous a llwyddiannus i’rBartneriaeth ac rydym ynddiolchgar i bawb am eucefnogaeth yn ystod y flwyddyn.Diolch hefyd i’n Cadeirydd ynystod y cyfnod, Paul Rowlinson.Yn y Cyfarfod CyffredinolBlynyddol, etholwyd DafyddMeurig i’r Gadair a Mair Pierceyn Is-Gadeirydd. Os hoffech gopi o AdroddiadBlynyddol y Bartneriaeth, maecroeso i chi dderbyn copi o’radroddiad trwy gysylltu â[email protected] neu alwheibio’r swyddfa am sgwrs.Meleri Davies, Prif Swyddog ,Partneriaeth Ogwen 01248602131

  • LLaIS  OGWaN| 12 |

    Llongyfarchiadau i SteffanEvans, Pentre Llandygái ar eilwyddiant diweddar. Cafodd eiddewis gan Gynllun Addysg

    Peirianneg Cymru yn Fyfyriwr yFlwyddyn 2015.  Derbyniodd eiwobr gan Ken Skates AS yngNgwesty Vale Resort, Caerdydd.Mae Steffan yn ddisgybl ymmlwyddyn 13 yn Ysgol Friars, adyma'r ail flwyddyn yn olynnoli’r ardal brofi llwyddiant. LlyneddAngus Coyne-Grell or pentreoedd yr enillydd. Mae Angusbellach yn astudio GwyddoniaethNaturiol ym MhrifysgolCaergrawnt. 

    Blwyddyn Newydd Dda i bawb yn yr ardal oddi wrthEirlys a Iona, Gohebwyr y Pentre.Cofiwch gysylltu gydag unrhywnewyddion.

    Iona Wyn JonesDyma Fo, 16 PentrefLlandygái, Bangor LL57 4Hu

    01248 354280

    Eirlys EdwardsSŵn y Coed, 23 PentrefLlandygái, Bangor LL57 4Hu

    01248 351633

    Llandygái

    CYNLLUN GYRWYR HŷNMae tîm diogelwch ffyrdd Cyngor Gwynedd wedi lansio cynllun‘Gyrwyr Hñn’. Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r uned Diogelwch Ffyrdd ynhybu’r hyfforddiant sydd ar gael yn rhad ac am ddim i yrwyr hñn65+. Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth Cymru. Meddai Paula Owen, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd:

    “Mae’r cynllun yn gyfle i unigolion fynd allan gyda hyfforddwr gyrrucymwys yn eu car eu hunain am daith fer, ar ffyrdd cyfarwydd, ermwyn cael awgrymiadau a chyngor ar sut i aros yn ddiogel wrth yllyw. Bydd hyn yn help i drigolion hñn gael cadw’r annibyniaethmaent yn ei gael drwy yrru car. Yn ystod yr wythnos, rydan ni wedibod allan mewn amryw leoliad ac roedd cyfle i’r cyhoedd hefyd i holiam newidiadau yn y gyfraith a chael cyngor am fod yn yrrwr diogel.” Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor

    Gwynedd ar gyfer Diogelwch y Ffordd: “Mae’n debyg fod ymchwil diweddar yn dangos fod perfformiad

    gyrru yn lleihau wrth i ni heneiddio, serch hynny nid yw’r dirywiadyn amlwg pob tro. Wrth gynnal cynlluniau fel rhain, mae’n sicrhaubod cyfle ymarferol i bobl hñn wella eu sgiliau a rhoi mwy o hyderiddynt ar y lôn.” Mae swyddogion diogelwch ffordd Cyngor Gwynedd mewn nifer o

    leoliadau yn ystod yr wythnos yn hybu’r cyrsiau. Mae modddarganfod mwy o wybodaeth am y cyrsiau wrth fynd i wefanDiogelwch Ffordd Gwynedd a Môn:http://www.dffgwyneddmon.net/gwyneddmon/cymraeg/ neu ffonioPaula Owen, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ar 01286679 439.

    Y Gymdeithas HanesRhagfyrWel am noson ddifyr - a hwyliog hefyd – a gawsom wrth i ni fynd“Ar y Bysus” yng nghwmni ‘r Dr. J. Elwyn Hughes, a’i ddaugynorthwyydd profiadol, sef Dafydd Pritchard o deulu ModuronPorffor, a Derfel Owens, perchennog Bysus Gwyrdd Rhiwlas.Cafwyd stôr o wybodaeth am fysus a fu yn yr ardal, gyda llu ostraeon am Gwmni Moduron Porffor, yn cynnwys dogn helaetho droeon trwstan.

    Diolch i’r tri ohonynt:- Elwyn, y prif gyflwynydd, am roi’r cyfanat ei gilydd; Dafydd am drosglwyddo’r straeon i Elwyn , a rhoi eibig i mewn ar y noson; a Derfel am rannu’r holl wybodaethdrylwyr oedd ganddo am yr hen fysus.

    Paula Owen, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Gwynedd; y CynghoryddDafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd, a Robert Eifion

    Davies o Fethesda a fydd yn cymryd rhan yn yr asesiad gyrru.

    Nyth y GânY Llwybr ger y Llyn

    Mor braf oedd cerdded ynoAr hyd y llwybr gyntGan wrando ar y synauA greuwyd gan y gwynt.

    Caed wyneb pedwar tymorYn eglur hyd y llawr,Ond cuddid yr holl fangrePan ddeuai’r eira i lawr.

    Ei wyneb gwyn a loywaiDan olau’r ddisglair loerAr noson glir serennogBoed dywydd mwyn neu oer.

    Mae meddwl am y gwanwynA’r haf o hyd i miYn deffro y dychymygI lifo fel y lli.

    Yr adar ddeuai ynoI ganu am yn hir,A lliwiau hynod naturI grwydro hyd y tir.

    Mor flêr yw’r llecyn heddiw,Mieri, drain a chwynSydd wedi ei orchuddioA’i wasgu ef mor dynn.

    Does neb yn sôn amdano,Mae’n angof erbyn hynAc ni bydd mwy o gerddedNa sgwrsio ger y llyn.

    Mona Lisa

    Dynes yw hon a daniodd, a’i hwynebHynod a ddangosodd;

    Yno’n rhoi ei gwên yn rhodd,Y cyfan, hi a’i cafodd.

    Dafydd Morris

    Er Cof am y PrifarddGwynfor ab Ifor

    Prifardd a fu yn garddio tiriogaethTrwy agwedd ddi-ildio;

    Hefyd, rhoes heb anghofioEi orau ef i’w hen fro.

    Goronwy Wyn Owen

  • LLaIS  OGWaN| 13 |

    AnrhydeddYn rhestr anrhydeddau’rflwyddyn newydd, dyfarnwydMedal y Frenhines amWasanaeth hyglod i DdirprwyBrif Gwnstabl Gogledd Cymru,Gareth Pritchard.Fel y gãyr rhai ohonoch, maeGareth yn fab i Eirian a’rdiweddar Amwel Pritchard (18,Rhes Gordon gynt), fe’i magwydym Mryn Hafod y Wern, achafodd ei addysg yn YsgolLlanllechid ac Ysgol DyffrynOgwen, cyn ymuno â HeddluGogledd Cymru ym 1984.Llongyfarchiadau!

    parhad Rachub a Llanllechid

    Capel CarmelY Clwb GwauBu’r merched yn mwynhau eute Nadolig yng Nghaffi Coed yBrenin ar Ragfyr 7fed. Diolch iKaren a'r genod am ofaluamdanom ac am baratoi temor ardderchog. Cynhaliwydy Te Bach wythnos ynddiweddarach yn y Festri. Ganbod y Nadolig yn agosáu buEira a Gwenda yn brysur yndarparu gwledd ar ein cyfer.Diolch i'r merched a fu morbarod eu help yn ystod ymisoedd diwethaf, gan sicrhaubod y Te Bach yn rhedeg ynhwylus ac yn llwyddiannus, aci bawb a gefnogodd ygweithgreddau drwy’rflwyddyn.Gwasanaeth y NadoligDaeth cynulleidfa niferus i'rcapel i wrando ar y plant a'rbobl ifainc yn cymryd rhan yny gwasanaeth. Y thema y trohwn oedd 'Y Nadolig Gwyn',ac yn ystod yr oedfa cafwydcyflwyniad dramatig gan yplant yn portreadu anifeiliaidyn chwilio am y ffordd iFethlehem, gyda help mawrgan y tylluanod. Y plant lleiaffu'n actio stori'r Geni tra buaelodau’r Clwb Dwylo Prysuryn darllen rhannau o'r Beibl acyn canu carolau, gydag Owainyn cyfeilio ar yr organ.Bore’r NadoligCynhaliwyd gwasanaeth oganu carolau, darlleniadau,gweddïau, unwadau a chylchofferynnol o garolau ac alawony Nadolig. Diolch i bawb agymrodd ran. ‘Roedd yn brafgweld cymaint o aelodauifainc yn y gynulleidfa, llawerohonynt wedi dychwelyd i'rardal i ddathlu'r Ãyl. Cafwydeitemau hefyd ganCharmaine, Mabon aGwydion. ‘Roedd y casgliadeleni yn £116 ac fe'itrosglwyddir i Apel NadoligCymorth Cristnogol.

    Trefn GwasanaethauIonawr 17: Y Parchedig Ddr.Siôn Aled Owen (2.00yp)Ionawr 24: Y Gweinidog(5.00)Ionawr 31: Y Parchedig Ddr.Dafydd Wyn Wiliam (2.00)Chwefror 7: Y Gweinidog(Cymun) (5.00)Chwefror 14: Y ParchedigDafydd Coetmor Williams(5.00)Chwefror 21: Y ParchedigJohn Lewis Jones (5.00)

    Yr Ysgol Sul am 10.30 yb.Clwb Dwylo Prysur: NosWener am 6.30 yh.Te Bach: Dydd Llun, 25Ionawr. 2.30 – 4.00.Croeso cynnes i bawb.

    Croeso AdrefI Abbie Edwards, FforddLlanllechid, a fu'n treulio trimis yn gwneud gwaithgwirfoddol yn Tansanïa,Affrica. Cawn fwy o hanesAbbie yn y rhifyn nesaf.Geni Llongyfarchiadau i Non acAwen, Llwyn Bleddyn, arenedigaeth merch, sef NelBeca - chwaer i Efa.

    CAPEL CARMELTE BACHPNaWN LLuNIONaWR 25, 2016.

    2.30 - 4.00 O'R GLOCH

    CROESO CYNNES I BaWB

    Gwasanaeth Nadolig, Capel Carmel

    Clwb Llanllechid

    Gwasanaeth Nadolig Capel Bethlehem

    Neville Hughes14 Pant, Bethesda

    600853

    Talybont

    parhad ar y dudalen nesaf...

    Capel BethlehemGwasanaeth Nadolig i’r Teulu

    Daeth cynulleidfa dda ynghydi’r oedfa Nadolig yngnghwmni plant yr Ysgol Sul aryr 20fed o Ragfyr. Diolch ibawb a fu’n cymryd rhan, ynblant ac oedolion, gyda diolcharbennig i Barbara Jones am eiholl waith caled. Mwynhawydparti gan y plant, a phaned amins pei i bawb ar y diwedd.Gwnaed casgliad arbennig o£127.00 tuag at Apêl NadoligCymorth Cristnogol. Diolchyn fawr i bawb!

    Llifogydd yn amharu arOedfaon

    Am yr ail dro mewn tairblynedd daeth llifogydd â’ullanast i Fethlehem, ganwneud cryn ddifrod i’r festria’r capel. Golyga hyn na fyddyn bosib cynnal oedfa nacunrhyw gyfarfod arall am raiwythnosau. Mae’r gwaithadfer a thacluso yn mynd yn eiflaen cyn gyflymed a phosib ac‘rydym yn ddiolchgar iawn i

    bawb a ddaeth i godi’r hollgarpedi a ddifethfwyd gan ydyfroedd a’r budreddi.

    ‘Rydym ninnau ymMethlehem yn cydymdeimlo âphawb yn Nhalybont syddwedi dioddef yn yr un modd acyn cefnogi pob ymdrech iddatrys y broblem llifogydddifrifol hyn yn yr ardal.

  • LLaIS  OGWaN| 14 |

    Llais Ogwan

    Olwen Hills (Anti Olwen)44 Bro Syr Ifor, Tregarth

    600192

    Angharad Williams23 Ffordd Tanrhiw, Tregarth

    601544

    Tregarth

    parhad Capel Bethlehem

    CydymdeimloRoedd yn ddrwg iawn gennymglywed am farwolaeth Mrs.Peggy Williams yn ddiweddar.‘Roedd Peggy yn hogan oDalybont, ac yn chwaer i Mrs.Rhiannon Williams, 15 CaeGwigin. Anfonwn eincydymdeimlad dwysaf ati hi,ei brawd, Merfyn, a’r teulu ollyn eu profedigaeth.

    Eglwys St CrossCynhaliwyd ein gwasanaethCarolau undebol ar yr 20fed oRagfyr, o dan arweiniad einFicer, y Parchedig JohnMatthews. Geraint Gill oeddyn cyfeilio, a chymerwyd rhangan rai o'r aelodau.Mwynhawyd lluniaeth ysgafnar ddiwedd yr oedfa. Diolch ibawb am eu cefnogaeth, ac amaddurno'r eglwys mor hardd.

    Ar y Sul olaf o'r mis,cynhaliwyd gwasanaeth ar ycyd yng ngofal dau o'rDarllenwyr Lleyg, sef MartinLewis, a Judith Page yntraddodi'r bregeth.

    Dymuniadau gorau i GracieGriffiths, Llwyn y Wern, syddar hyn o bryd yng NghartrefPlas Ogwen ac wedi setlo yndda erbyn hyn.

    Adferiad iechyd buan i bawbsydd ddim yn dda, ac anfonwnein cofion at y rhai sy'ndioddef o ganlyniad i'rllifogydd yn yr ardal. 

    Cynhaliwyd angladd Mrs. BetGriffiths, o Gartref y Rhos,Malltraeth, (Dolhelyg gynt) ynyr eglwys ar yr 11eg o Ragfyr, odan arweiniad y ParchedigJohn Mathews, gyda Mr.Martin Brown wrth yr organ.Fe’i rhoddwyd i orffwys ymmynwent yr eglwys. Anfonwnein cydymdeimlad at Eleri aHuw a’r teulu.

    Golygydd Ionawr

    Lowri Roberts

    Pob deunydd i law erbynDydd Mercher, 3 Chwefror,os gwelwch yn dda.Plygu nos Iau, 18 Chwefror yng Nghanolfan Cefnfaesam 6.45.

    NODYN ATGOFFA:RHIFYN NESAF Y LLAIS

    Merched y WawrAeth nifer o’r aelodau am swperi ddathlu’r Nadolig i westy’rBlack Boy yng Nghaernarfon achafwyd noson ddifyr iawn yno,y bwyd yn flasus a digon ogloncian. Llongyfarchwyd Lindaar ei llwyddiant yn un ogystadlaethau crefft y Ffair Aeaf.Cawsom hwyl yn datrys posauNadolig a osodwyd inni gan Niaac ‘roedd rhai yn hynod ofrwdfrydig ac yn benderfynol ogael yr ateb cywir, heb enwi neb!Diolchwyd i Annes am drefnu’rnoson.

    Clwb RhiwenGwledda fu hanes Clwb Rhiwenhefyd, - cafwyd cinio Nadoliggwerth chweil yng NgwestyVictoria Llanberis. ‘Roedd ynddiwrnod stormus ond ygwesty’n groesawus a chynnes aphawb yn canmol y bwyd.Diolchwyd i Ann am wneud ytrefniadau.

    CydymdeimloDaeth profedigaeth i ran sawl undros gyfnod y Nadolig,ac ‘rydymyn cydymdeimlo â’r canlynol:Mrs Linda Jones, Erw Wen - bu

    farw ei mam, sef Mrs NorahWilliams, yn sydyn ond yndawel yn Ysbyty Gwynedd yn 92oed. ‘Roedd yn wreiddiol o SirGaer, ond â’i diweddar ŵr oDdeiniolen, bu’n byw am

    flynyddoedd yn Ninorwig, cynsymud i Gil y Coed ym Mangor.Treuliodd ychydig fisoedd ymMhlas Hedd, lle bu’r gofal ynarbennig. Anfonwn ein cofion atLinda a Melfyn, Gwyn a Catrina’u teuluoedd a hefyd at Anne,chwaer Linda, a’i theulu hithau. Mr a Mrs Hefin Williams,

    Ffiolau’r Grug - bu farw ewythrHefin, sef Mr Owen Jones, oLangefni ond yn wreiddiol oDdeiniolen. ‘Roedd yn frawd iMrs Eirlys Williams, mam Hefinac anfonwn ein cydymdeimlad aty teulu.Mr Dennis Lloyd Wright - bu

    farw ei wraig, Christine, yndawel yn eu cartref ym Maes yGerddi, Maesgeirchen. MagwydDennis yn Rhiwlas a bu’n bywyma am beth amser wedi priodi.Mae ganddo ddiddordeb o hyd yny pentref ac anfonwn eincydymdeimlad ato ef a Nicola a’rteulu. Mrs Valmai Jones a Mrs Eunice

    Jones - bu farw Shirley, eucyfneither, yng Nghanada.‘Roedd yn un o deulu Cae Mawr,yn ferch i’r diweddar Mr WilliamWilliams a oedd yn frawd i MrEmyr Williams, tad Valmai acEunice.

    Lolfa newydd yn YsbytyGwyneddYn ddiweddar agorwyd lolfaarbennig ar gyfer cleifion sy’ndioddef o dementia, wedi’ihariannu gan yr elusen AwyrLas. Mae’n ystafell dawel achartrefol ac ar y waliau maenifer o furluniau gan JoanneWarren sy’n dechnegydd yn ytheatr. Mae Joanne yn byw yn

    Bro Rhiwen a bu’n astudio celfam gyfnod.

    Cneifio yn Nant FfranconYn Rhifyn Mis Tachwedd ‘roeddllun cneifwyr, a bu cryn drafodyn Rhifyn Rhagfyr, ond, oddarllen y sylwadau, yr hyn addaeth i’m meddwl i yn sythoedd tebot. Ia, tebot a roddwyd iNeuadd Rhiwlas gan y ddiweddarMrs Maggie Jones, PenrhynTerrace . Fe’i magwyd yn y Nant,a bob tro y defnyddwyd y tebot,un eitha mawr , fe ddywedai maihwn a ddefnyddiwyd yn eichartref ar ddiwrnod cneifio. Ynôl Elwyn, ei mab, mae’n debygi’r tebot gael ei ddefnyddio arfferm Pentre i ddechrau a Bodesiwedyn - ac erbyn hyn mae wrthei waith yn y Neuadd!

    Gwasanaeth NadoligCymunedol, Capel JerusalemEleni eto braf oedd gweld pedwaro’r pentref yn canu yng NghôrYsgol Dyffryn Ogwen, sef Megana Gwen Williams, Carreg y Gath,Erin George, Tyddyn Canol aGeorgio Brown, Bron y Waun.Rwy’n sicr iddynt fwynhau yprofiad.

    Dymuniad Blwyddyn Newydd Dda i bawba dymuniadau gorau i’r rhai nafu’n teimlo’n dda ac a fu’n gaethi’r tñ yn 2015.Eleni eto braf oedd gweld pedwaro Rhiwlas yng Nghôr YsgolDyffryn Ogwen, sef Megan aGwen Williams, Carreg y Gath,Erin George, Ty’n Canol aGeorgio Brown, Bron y Waun.Rwy’n sicr iddynt fwynhau yprofiad

    Iona Jones17 Bro Rhiwen, Rhiwlas

    01248 355336

    Rhiwlas

    Ymunwch â niMae canolfannau pentref ynchwarae rhan bwysig yn eincymunedau gan eu bod yncynnig man cyfarfod i bobl agwahanol gymdeithasau, adnoddi gymdeithasu, diddanu, chwaraea diwyllio. Heb os nac onibaimae’r canolfannau hyn yn gwellasafon bywyd ein hardalwyr. Tu ôli bob canolfan lwyddiannus maepwyllgor rheoli ymroddedig. Maepwyllgor felly yn Nhregarth onder mwyn gwarchod y ganolfanmae angen eich help chi.Helpwch ni i warchod CanolfanGymdeithasol Tregarth er mwynlles ein pobl a’n plant a’r

    cenedlaethau sydd i ddod. Maegwaith ymchwil wedi ei wneudgan Dr. Suzanne Richards oBrifysgol Exeter yn dangos bodpobl sy’n gwirfoddoli yn byw ynhirach ac yn dioddef llai o iselderysbryd, felly os am hwb i’r iechydbeth am wirfoddoli gyda ni arFwrdd Rheoli’r Ganolfan, ar y3ydd nos Fercher o bob mis am6:30 yn y Ganolfan. Mae ganbawb rywbeth i’w gynnig.

    Y Ganolfan a’r tywydd garwFore Gãyl San Steffan ar ôl yrholl law noson y Nadolig ac ynystod oriau mân y bore, cafwydgwybodaeth bod CanolfanTregarth wedi dioddef peth difrodoherwydd y llifogydd. Ynanffodus mae hyn wedi’i gwneudyn amhosib i’w defnyddio amamser amhenodedig. Mae’rpwyllgor wedi bod yn astudio’rdifrod ac mae popeth a ellir yncael ei wneud i’w chael i drefn.Os ydych wedi’i llogi ar gyferunrhyw weithgaredd yna gallwchgysylltu ag aelodau’r pwyllgor,neu ffonio Angharad ar 601544am wybodaeth pellach. Ofnwn y

    gwelir colli’r Ganolfan, aninnau’n dibynnu cymaint arni.Gobeithio nad oes lawer o

    drigolion yr ardal wedi dioddefgormod oherwydd y tywydd garw.

    Aduniad arbennigMae wedi bod yn gyfnod cyffrousi Mrs Carole Singleton o Yr Efail,Caerhun, a’i theulu. Fedderbyniodd Carole lythyr oddiwrth Fyddin yr Iachawdwriaeth arddechrau 2015 yn gofyn iddi higysylltu â nhw ‘ar fater teuluol’.Fe gysylltodd Carole â nhw a

    darganfod fod ganddi frawd yn

    Marred Glyn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor, LL57 4uP

    01248 351067

    [email protected]

    GlasinfrynCaerhun

    parhad ar y dudalen nesaf...

  • LLaIS  OGWaN| 15 |

    Croesair Rhagfyr 2015ar draws

    1 Gan ei fod yn wydr yn ycanol, gwna sãn mawr wrthchwalu (7)

    5 Sefydliad gwleidyddol (5)8 Hen fis, y cyntaf efallai (5)9 Maent ar ei ôl ac yntau heb

    le i droi yn ddryslyd i gyd (7)10 Yn ferch neu’n llanc heb

    fodrwy (7)11 Gwlybaniaeth eithafol (5)12 I wneud dillad, neu rywsut

    ganol dydd (6)14 Dinas enwocaf Dyfnaint (6)17 Tñ od i fod yn feddw ynddo?

    (5)19 Yn ddiarhebol, ddaw hwn

    ddim atoch ar ben ei hun (7)22 Tolstoy a Chekhov (7)23 Heb laesu dwylo (5)24 Ffotograffydd cyfoes o

    Geredigion (5)25 Mewn gair, enw i bysgota (7)

    I lawr

    1 Caredig ar lafar gwlad (5)2 “Hen _ _ _ _ _ _ _”, clasur

    D. J. Williams (7)3 Gwrid yr anifail yn ddrwg,

    bwyta gormod o bysgodefallai (5)

    4 Mae’n slic ar y môr (4,2)5 Darganfyddiad meddygol

    pwysig yr AlmaenwrRoentgen (6,1)

    6 Y dalar sy'n fro ar wasgar (5)7 Mynychwyr 17 Ar Draws

    (7)12 Euog ynteu dieuog, arhoswn

    am hwn (7)13 Saeth yw y bicell fach ar

    chwâl, gwaetha’r modd (7)15 Defnyddio 12 Ar Draws (7)16 Hedfan yn farddonol efallai

    (6)18 ‘Canol _ _ _ _ _’, disgrifio’r

    cyfnod o’r 5ed i’r 15fedganrif (5)

    20 d. neu r. neu m. (5)21 Dylan y bardd, Owen y

    comedïwr neu Pandy y

    Atebion erbyn 5 Chwefror, 2016 i ‘Croesair Rhagfyr’, Bron Eryri,12 Garneddwen, Bethesda. LL57 3PD

    Enw:

    Cyfeiriad:

    pentref (5)

    atebion RHaGFYR 2015

    AR DRAWS 1 Canfod, 5 Mabi,8 Eryr, 9 Gogoneddu, 10 Marian,11 Uwchradd, 12 Paned Foreol,15 Icarws, 17 Cadwyn, 19Esgeulus, 20 Lisa, 21 Eofn, 22AmrantI LAWR 2 Aorta, 3 Fersiwn, 4Digon, 5 Mynych, 6 Boddhaol, 7 Egluro, 12 Picasso, 13 Di-sylw,14 Eidalwr, 16 Raean, 17 Cosfa,18 Ymson

    Y canlynol lwyddodd i ddatryscroesair Rhagfyr yn hollol gywir :Gwenda Roberts, Rhosmeirch;Gwyneth Jones, Glasinfryn;Rosemary Williams, DulcieRoberts, Sara a Gareth Oliver,Elizabeth Buckley, Tregarth;Gaynor Elis-Williams, GwenEvans, Rita Bullock, AnnCarran, Bethesda; Eirlys Lewis,Penicuik; Doris Shaw, Bangor;Dilys A. Pritchard-Jones,Abererch; Ellen Whitehouse,Birmingham; Gareth WilliamJones, Bow Street; EmrysGriffiths, Rhosgadfan; DilysParry, Derek a Mai Jones,Rhiwlas; Elfed Evans, Karen aTom Williams, Llanllechid.Blwyddyn Newydd Dda i bob unohonoch, a diolch i chi amgystadlu mor gyson. Yn anffodusmae rhai ymgeision yn cyrraeddyn hwyr bob mis. O hyn allan nifedrir eu cynnwys, gan fod trefnnewydd i gysodi ac argraffu’r

    papur. Felly rhaid glynu wrth y dyddiad cau penodol bob mis.Yr un sy’n gyntaf allan o’r het am y wobr y tro yma yw ymgaisDafydd Evans, Sycharth, Penisarwaun, Caernarfon LL55 3HE.Llongyfarchiadau i chi.Dyma groesair ola’r flwyddyn. Diolch o galon i’r rhai ohonoch aanfonodd gyfarchion Nadolig a gair o werthfawrogiad am y croesair. Atebion erbyn 5 Chwefror, 2106 i  ‘Croesair Rhagfyr’, Bron Eryri, 12 Garneddwen, Bethesda LL57 3PD.

    NEUADD OGWENNoson Gomedi TUDUR OWEN, WELSH WHISPERER + HYWEL PITTSDydd Sadwrn 30 Ionawr am 7:30 pmTUDUR OWEN, y digrifiwr a chyflwynydd sioeau teledu adnabyddus o Fôn.WELSH WHISPERER, y canwr pop a digrifiwr a dalai deyrngedau i rhai o fawrion canu pop Cymraegmegis Tony ac Aloma, mewn modd cofiadwy!HYWEL PITTS, y seren ddisglair ym myd adloniant  a digrifwch a fydd yn ymuno â ni a’i ddeunyddiaunewydd sbon danlli. Tocynnau: £7.00 o Siop Ogwen, 33 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AN. 01248 208 485

    Awstralia oedd yn cofio gweld eichwaer fach ddiwethaf 68 oflynyddoedd yn ôl! Ar ôl nifer onegeseuon e-bost a galwadauffôn, daeth ei brawd, sef David,draw i Gymru yn ddiweddar ganaros gyda Carole a’i gãr Bob yngNghaerhun am bum wythnos. Acwrth gwrs fe gafwyd aduniadteuluol, gyda David a Carole a’ubrodyr a’u chwaer sef Ifor, Melfynac Everil yn dod at ei gilydd.Meddai Carole, “Mae pob un o’rbrodyr a’r chwiorydd yn awrmewn cysylltiad yn rheolaidddrwy e-bost. Mae hyn yn

    ffantastig ar ôl yr hollflynyddoedd!” Mae Melfynbellach yn byw yngNghaernarfon, Ifor yn Rugby, acEveril yn Llanfairpwll.

    Dathlu pen-blwyddLlongyfarchiadau mawr i MrsEirlys Edwards, 51 Bro Infryn,Glasinfryn, fu’n dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed ar Ionawr y10fed.

    LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i AnnaPritchard a Dewi Griffith, BrynGwredog Isaf, Waen Wen, ar eudyweddïad Ddydd Nadolig. Pobdymuniad da i’r ddau. Yn y llun, o’r chwith i’r dde, gwelir Melfyn, David, Ifor, Carol ac Everil.

    parhad Glasinfryn a Chaerhun

  • LLaIS  OGWaN| 16 |

    DYDDIaDuR BOREau COFFI 2016Ionawr 201616 Cefnfaes – Capel JerusalemMawrth201605 Cefnfaes - Plaid Cymru.19 Cefnfaes - Cronfa Goffa Tracey SmithEbrill 201609 Cefnfaes – Plaid Lafur.16 Cefnfaes – Capel Jerusalem.23 Cefnfaes – Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen.30 Cefnfaes – Eglwys Sant Cedol, PentirMai 201607 Cefnfaes – Neuadd Talgai.14 Cefnfaes - Cymorth Cristnogol21 Cefnfaes - GorffwysfanMedi 201624 Cefnfaes – Cronfa Goffa Tracey Smith.Hydref 201629 Cefnfaes – Eglwys Sant Cedol, PentirTcahwedd19 Cefnfaes – Neuadd Talgai.

    PwysigOs yn trefnu Bore Coffi yn ardal Bethesda, bydd y rhestruchod yn gymorth i chi ddewis dyddiad gwag.Gallwch wedyn gynnwys eich dyddiad chi ar y rhestr hon. Bydd yn cael ei diweddaru ac yn ymddangos pob mis.anfonwch y manylion at Neville Hughes (600853).

    Cymdeithas HanesDyffryn Ogwen

    Nos Lun 8 Chwefror 2016 am 7.00 o’r gloch

    yn Festri Capel Jerusalem

    BOB MORRIS: ‘Teml Fawr Diwydrwydd’ – Dau

    Gymro a’r Palas Grisial

    £1.50 wrth y drws neu am ddim i aelodau.

    MMaarrcchhnnaadd OOggwweenn Chwefror 13eg

    Neuadd Ogwen, 9.30am - 1.30pm

    Mawrth 12fed Neuadd Ogwen, 9.30am - 1.30pm

    Ebrill 9fed Neuadd Ogwen, 9.30am - 1.30pm

    Ebrill 20fed Neuadd Ogwen 5pm - 8pm

    BBwwyyddyydddd,, CCrreeffffttaauu,, LLlleeooll

    www.marchnadogwen.co.uk Twitter #MarchnadOgwen

    Facebook

    Canolfan CefnfaesBETHESDA

    • GYRFA CHWIST •26 Ionawr

    9 a 23 Chwefror, 2016am 7.00 o’r gloch

    • BORE COFFI•Sadwrn, 16 Ionawr, 2016

    10:00 – 12:00Mynediad £1.00

    Elw at Apêl Capel Jerusalem Tuag at ‘Ffynnon Affrica’Dewch i fwynhau gweithgareddau difyr

    Beth sy’n mynd ymlaen yn y Dyffryn

    Cofiwch BrynuCalendr Llais Ogwan

    £4.00 yn y siopau lleol

    neu ffoniwch Dafydd FônWilliams 01248 601583

    PLAID CYMRUCangen Dyffryn Ogwen

    Cynhelir