Top Banner
Canol y ddinas yn datblygu’n gyrchfan o fri MAE trawsnewid canol dinas Abertawe'n gyrchfan blaenllaw ar gyfer manwerthu, hamdden, adloniant a busnes yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae cais cynllunio amlinellol ar gyfer safle datblygu Dewi Sant wedi'i gyflwyno. Bydd gwaith yn dechrau'n hwyrach eleni ar wella Ffordd y Brenin, ac mae brîff datblygu sy'n gofyn am gynigion i adfywio Sgwâr y Castell bellach yn cael ei lunio. Rivington Land sy'n rheoli ailddatblygu safle Dewi Sant ar ran Cyngor Abertawe. Mae'r cynlluniau ar gyfer safle hen ganolfan siopa Dewi Sant a maes parcio'r LC, yn cynnwys arena ddigidol dan do, siopau, bwytai, sinema bwtîc, gwesty, digon o fannau parcio ceir a phont lydan i gerddwyr dros Heol Ystumllwynarth. Bydd y brîff datblygu ar gyfer Sgwâr y Castell yn nodi nifer o amcanion allweddol, gan gynnwys mwy o wyrddni, cadw'r un faint o fannau cyhoeddus, ac argaeledd parhaus ar gyfer digwyddiadau. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio Canol Dinas Abertawe Cyngor Abertawe, "Mae canol dinas Abertawe'n bwysig - nid ar gyfer preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr yn unig, ond hefyd fel ysgogwr economaidd ar gyfer Dinas- ranbarth Bae Abertawe. “Mae canol y ddinas wedi dirywio dros y blynyddoedd am sawl rheswm gan gynnwys siopa ar y we a pharciau manwerthu ar gyrion y ddinas, ond yn ogystal â'r polisi cynlluniau sydd gennym ar waith sy'n rhwystro datblygu parciau manwerthu ar gyrion y ddinas yn y dyfodol, rydym hefyd wedi nodi nifer o gynlluniau a fydd yn gwrthdroi'r dirywiad. "Bydd y datblygiad defnydd cymysg ar gyfer safle Dewi Sant yn rhoi hwb i'r cynnig manwerthu a hamdden, a gallai syniadau ar gyfer Sgwâr y Castell ei drawsnewid yn lle mwy bywiog a phleserus wrth wraidd canol y ddinas. "Mae hefyd yn glir iawn bod angen denu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas i wario mwy a fydd yn creu buddsoddiad newydd, felly bydd ardal gyflogaeth ar Ffordd y Brenin ymhlith y cynlluniau a fydd yn arwain at fwy o bobl yn byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas." BYDD gwaith dymchwel hen adeilad clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin bron wedi'i gwblhau, gyda gwaith yn dechrau'n hwyrach eleni ar gynllun a fydd yn gwella golwg a naws Ffordd y Brenin yn sylweddol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys mwy o ardaloedd gwyrdd a newid y system draffig unffordd bresennol am system ddwyffordd, ynghyd â dileu'r lôn fysus ddynodedig. Cynlluniau Ffordd y Brenin tu mewn eich dinas: eich papur Eich Cyngor Y gwasanaethau sy'n gweithio drosoch chi bob dydd tudalennau canol • AMSER SBLASH: Nid yw'n rhywbeth arferol i bobl ifanc ddysgu nofio gydag enillydd medal aur ond dyna'r hyn y mae Chloe Davies, y nofiwr Paralympaidd, yn ei wneud ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Mwy ar dudalen 10. Llun gan Jason Rogers hefyd Sioe Awyr Y Red Arrows yn dychwelyd i'r sioe genedlaethol tudalen 3 Rho 5 Ymunwch â Leon wrth iddo chwilio am y sêr tudalen 9 Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe Rhifyn 107 Mai 2017
12

Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Jul 21, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Canol y ddinas yn datblygu’ngyrchfan o friMAE trawsnewid canol dinasAbertawe'n gyrchfan blaenllaw argyfer manwerthu, hamdden,adloniant a busnes yn dechrau dwynffrwyth.

Mae cais cynllunio amlinellol ar gyfer safledatblygu Dewi Sant wedi'i gyflwyno. Bydd gwaithyn dechrau'n hwyrach eleni ar wella Ffordd yBrenin, ac mae brîff datblygu sy'n gofyn amgynigion i adfywio Sgwâr y Castell bellach yn caelei lunio.

Rivington Land sy'n rheoli ailddatblygu safleDewi Sant ar ran Cyngor Abertawe. Mae'rcynlluniau ar gyfer safle hen ganolfan siopa DewiSant a maes parcio'r LC, yn cynnwys arena ddigidoldan do, siopau, bwytai, sinema bwtîc, gwesty, digono fannau parcio ceir a phont lydan i gerddwyr drosHeol Ystumllwynarth.

Bydd y brîff datblygu ar gyfer Sgwâr y Castell ynnodi nifer o amcanion allweddol, gan gynnwys

mwy o wyrddni, cadw'r un faint o fannaucyhoeddus, ac argaeledd parhaus ar gyferdigwyddiadau.

Meddai Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio acAdfywio Canol Dinas Abertawe Cyngor Abertawe,"Mae canol dinas Abertawe'n bwysig - nid ar gyferpreswylwyr Abertawe ac ymwelwyr yn unig, ondhefyd fel ysgogwr economaidd ar gyfer Dinas-

ranbarth Bae Abertawe.“Mae canol y ddinas wedi dirywio dros y

blynyddoedd am sawl rheswm gan gynnwys siopaar y we a pharciau manwerthu ar gyrion y ddinas,ond yn ogystal â'r polisi cynlluniau sydd gennym arwaith sy'n rhwystro datblygu parciau manwerthu argyrion y ddinas yn y dyfodol, rydym hefyd wedinodi nifer o gynlluniau a fydd yn gwrthdroi'rdirywiad.

"Bydd y datblygiad defnydd cymysg ar gyfersafle Dewi Sant yn rhoi hwb i'r cynnig manwerthu ahamdden, a gallai syniadau ar gyfer Sgwâr y Castellei drawsnewid yn lle mwy bywiog a phleserus wrthwraidd canol y ddinas.

"Mae hefyd yn glir iawn bod angen denu mwy oymwelwyr i ganol y ddinas i wario mwy a fydd yncreu buddsoddiad newydd, felly bydd ardalgyflogaeth ar Ffordd y Brenin ymhlith y cynlluniaua fydd yn arwain at fwy o bobl yn byw ac yngweithio yng nghanol y ddinas."

BYDD gwaith dymchwel hen adeilad clwbnos Oceana ar Ffordd y Brenin bron wedi'igwblhau, gyda gwaith yn dechrau'nhwyrach eleni ar gynllun a fydd yn gwellagolwg a naws Ffordd y Brenin ynsylweddol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys mwy oardaloedd gwyrdd a newid y system draffigunffordd bresennol am system ddwyffordd,ynghyd â dileu'r lôn fysus ddynodedig.

Cynlluniau Ffordd y Brenintu

mew

n eich dinas:eich papur

Eich CyngorY gwasanaethau

sy'n gweithiodrosoch chi bob

dyddtudalennau canol

• AMSER SBLASH: Nid yw'n rhywbeth arferol i bobl ifanc ddysgu nofio gydag enillydd medal aur ond dyna'r hyn y mae ChloeDavies, y nofiwr Paralympaidd, yn ei wneud ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Mwy ar dudalen 10. Llun gan Jason Rogers

hef

yd

Sioe AwyrY Red Arrows yn

dychwelyd i'r sioegenedlaethol

tudalen 3

Rho 5Ymunwch â

Leon wrth iddochwilio am y sêr

tudalen 9

ArwainAbertawePapur newydd Dinas a Sir Abertawe Rhifyn 107 Mai 2017

Page 2: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

ArwainAbertawe2 am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk Mai 2017

gw

ybod

aeth

Rhifau ffôndefnyddiol

Canolfannau HamddenAbertawe Actif

Penlan01792 588079Treforys01792 797082Penyrheol01792 897039Cefn Hengoed01792 798484Pentrehafod01792 641935Canolfan ChwaraeonLlandeilo Ferwallt01792 235040

Priffyrdd

Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937

Draenio - dydd Llun iddydd Gwener 01792 636121

Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081

Materion eraill y priffyrdd 01792 843330

Tai Y prif rif 01792 636000

Atgyweiriadau (tenantiaidy tu allan i oriau arferol) 01792 521500

Y GwasanaethauCymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol01792 636110

Tîm Ymchwilio MynediadPlant a Theuluoedd01792 635700

Tîm Derbyn yr Henoed a’rAnabl 01792 636519

Anableddau Plant, CefnogiTeuluoedd01792 635700

Addysg Y prif rif 01792 636560

Yr Amgylchedd01792 635600

Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000

Cysylltwch ag Arwain Abertawe

I gysylltu â’r tîmnewyddion ffoniwch01792 636092

ArwainAbertawe ywpapur newyddCyngor Dinasa Sir Abertawe

I gael y papur newydd hwnmewn fformat gwahanolffoniwch 636226, ffôn testun636733

Mai - Gorffennaf 2017

Am fwy o ddigwyddiadau gwych, ewch i joiobaeabertawe.com

Parth Anifeiliaid: Bywyd Pryfed 30 - 31 Mai and 1 Mehefin Plantasia

01792 474555

Trysorau Coll Bae Abertawe 16 Mai - 13 Awst Amgueddfa Abertawe

01792 653763

Ysgrifennu i Blant gydag Eloise Williams 27 Mai Canolfan Dylan Thomas

01792 463980

Gweithgareddau Gwyliau’r Hanner Tymor i Blant Actif 29 Mai - 2 Mehefin Canolfannau Hamdden Abertawe Actif abertawe.gov.uk/ abertaweactif

Hwyl gyda Chrefftau i Blant 31 Mai Castell Ystumllwynarth

01792 635458

Taith Gyfrinachol George Ezra 3 Mehefin Neuadd Brangwyn

01792 635428

Gwyl Jazz Ryngwladol Abertawe 15 - 18 Mehefin Canolfan Dylan Thomas a Theatr Dylan Thomas jazzwales.com

Sioe Awyr Cymru 1 a 2 Gorffennaf Bae Abertawe sioeawyrcymru.co.uk

Diwrnodau Dawns 8 a 9 Gorffennaf Lleoliadau Amrywiol

01792 602060

Gwyl Arbennig Abertawe 11 & 12 Gorffennaf Prifysgol Abertawe

01792 635428 SWANSEA – CANDIDATE CITY

ABERTAWE – DINAS YMGEISIOL

joiobaeab

ertawe.com

Timau trwsio tyllau yn yffordd yn ein cadw ni i symud

MAE’R tîm trwsio tyllau ynffyrdd ein dinas, PATCH,yn paratoi ar gyfer eiDaith Fawr flynyddol oAbertawe y mis hwn.

Bydd y tîm yn ymweld â phob uno'r 34 o wardiau am hyd at bythefnosfel rhan o ymrwymiad parhaus ycyngor i atgyweirio ffyrdd a llenwityllau yn y ffordd o fewn 48 awr iadrodd am unrhyw ddiffyg.

Y mis diwethaf canolbwyntiwyd aratgyweirio ffyrdd yng Ngŵyr mewnlleoedd fel Llanilltud Gŵyr, BurryGreen, Scurlage a Llangynydd cyn iymwelwyr ddechrau heidio i'r ardalyn yr haf i weld rhai o atyniadauharddaf Prydain.

Mae tyllau yn y ffordd ar draws yddinas yn cael eu hatgyweirio argyfradd o 100 yr wythnos gyda

llawer mwy na 90% ohonynt yn caeleu llenwi o fewn 48 awr i adroddamdanynt.

Meddai Stuart Davies, PennaethPriffyrdd a Chludiant CyngorAbertawe, y bydd yr addewid tyllauyn y ffordd yn parhau dros y misoeddnesaf.

Meddai, "Mae Cyngor Abertawewedi buddsoddi £1m ychwanegol oran cynnal a chadw priffordd eleni,

ac mae peth o'r arian ychwanegol yncefnogi'r Timau Trwsio Tyllau yn yFfordd dynodedig.

“Mae hyn yn ychwanegol at ytimau cynnal a chadw cyson a thîmPATCH, sy'n ymweld â phob wardbob blwyddyn er mwyn targedudiffygion ffyrdd a'u trwsio.”

Ers lansio'r addewid 48 awr argyfer tyllau yn y ffordd yr hafdiwethaf, mae mwy na 3,000 o dyllau

yn y ffordd wedi cael eu llenwi acmae adborth gan breswylwyr wedibod yn gadarnhaol iawn.

Dywedodd bron 94% o'rpreswylwyr a holwyd eu bod ynfodlon ar sut yr ymdriniwyd â'u cais i lenwi twll yn y ffordd adywedodd 93% ohonynt y cafodd ytwll yn y ffordd ei lenwi o fewn 48awr.

Dywedodd Mr Davies, “Llebynnag yr ewch, mae tyllau yn yffordd yn broblem barhaus ond, yn ôlystadegau annibynnol LlywodraethCymru, mae ffyrdd Abertawe ymysgy rhai sy'n derbyn y gofal gorau yngNghymru.

“Rydym yn benderfynol o gynnallefel y gwaith hwn dros y misoeddnesaf a bydd tîm PATCH mor brysurag erioed yr haf hwn.”

• YN EICH ARDAL CHI: Bydd ein timau PATCH yn ymweld â'ch cymdogaeth chi dros yr haf

EWCH i www.abertawe.gov.uk/patch i weld pryd bydd y tîm yn dodi'ch ardal chi eleni.

Gall preswylwyr roi gwybod am ddiffygion ffyrdd ar-lein, ac osydynt yn darparu cyfeiriad e-bost, bydd y staff priffyrdd yn anfone-bost atynt, gyda lluniau, pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. Gellirdod o hyd i'r rhaglen waith ynwww.abertawe.gov.uk/tyllauynyffordd

Buddsoddiad sy’n gwneud gwahaniaeth

Page 3: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

YN fuan bydd arddangosiadauerobatig o safon ryngwladolyn gwefreiddio cannoedd arfiloedd o bobl yn yr awyruwchben Abertawe.

Mae timau arddangos Red Arrows a

Typhoon yr RAF eisoes wedi cael eu

cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, un

o ddigwyddiadau am ddim mwyaf y DU,

a gynhelir ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a

dydd Sul 2 Gorffennaf.

Mae Prifysgol Abertawe'n noddi Sioe

Awyr Cymru eleni.

Amcangyfrifir bod y digwyddiad, a

ddenodd fwy na 200,00 o wylwyr y

llynedd, yn werth miliynau o bunnoedd i

economi Abertawe.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr

Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer

Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a

Digwyddiadau, “Mae'r sioe awyr, a

gynhelir yr haf hwn am y drydedd

flwyddyn yn olynol, yn ddigwyddiad

mawr sy'n rhan o raglen digwyddiadau a

gweithgareddau Joio Bae Abertawe.

“Yn ogystal â darparu adloniant o

safon ryngwladol i breswylwyr ac

ymwelwyr, mae'r sioe awyr hefyd yn

ddigwyddiad pwysig i fusnesau oherwydd

nifer yr ymwelwyr ychwanegol a'r

gwariant oherwydd hynny. Mae Sioe

Awyr Cymru bellach yn ddigwyddiad

allweddol yn ein calendr blynyddol o

ddigwyddiadau.”

Yn ogystal ag arddangosiadau awyr,

bydd adloniant ar y tir hefyd yn rhan o

sioe awyr yr haf hwn, gydag awyrennau

cyfranogol eraill i'w cadarnhau dros yr

wythnosau nesaf.

Ymysg digwyddiadau eraill a gynhelir

yn fuan bydd Gerddi Clyn yn eu Blodau

trwy gydol mis Mai, diwrnod hanes byw

canoloesol yng Nghastell Ystumllwynarth

ddydd Sadwrn 27 Mai, a Threiathlon

Abertawe ddydd Sul 28 Mai.

Gyda 40 o ddigwyddiadau mewn 15 o

leoliadau ar draws yr Ardal Forol, mae

Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe hefyd

yn dychwelyd i'r ddinas o ddydd Iau 15

Mehefin i ddydd Sul 18 Mehefin.

Mae'r gantores Ruby Turner, sy'n

adnabyddus am gydweithredu â Jools

Holland, ymhlith y perfformwyr sy'n

cymryd rhan.

Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog yn

Sgwâr y Castell ar 24 Mehefin cyn i

Farathon Abertawe JCP ddychwelyd

ddydd Sul 25 Mehefin.

Uchafbwyntiau’r sioeawyr gyda’r Red Arrows

• YN HEDFAN HEIBIO: Tîm arddangos erobatig enwocaf y byd ar waith yn sioe awyr y llyned Llun gan Stephanie Rutt

MAE digwyddiadau arfaethedig eraill yn cynnwysCynhadledd Comics a Gemau CyfrifiadurolAbertawe 2017 yn y Brangwyn ar 27 Mai, SioeBeiciau Modur Clasurol Amgueddfa Abertawe ar11 Mehefin, Footloose yn Theatr y Grand o 19Mehefin i 24 Mehefin, ac Olly Murs yn fyw ymMharc Singleton ar 12 Awst.

Ewch i www.joiobaeabertawe.com i gael mwy owybodaeth.G

wyb

odae

th

Clod i'r Glynn Viviano ran ailgylchuDENGYS ffigurau fod 82.9% owastraff y prosiect adnewydduwedi'i ailgylchu, cafodd 12.1%ei drawsnewid yn ynni achafodd 1.8% ei atal neu eiail-ddefnyddio.

Dyma rai o'r rhesymau pammae adnewyddu Oriel GelfGlynn Vivian wedi'i amlygu ganRagoriaeth Adeiladu yngNghymru fel enghraifft o arfergorau.

Ac yntau'n gyfrifol amadeiladu amgylchedd adeilediggwell, dywed RhagoriaethAdeiladu yng Nghymru fodcyflawni cyfradd o 96.6% argyfer ailddefnyddio, ailgylchuneu adfer deunyddiau eraill argyfer prosiect Glynn Vivian, yndangos pa mor hwylus ywcyflawni targed presennolLlywodraeth Cymru o 70%.

Roedd adnewyddu OrielGlynn Vivian yn un o nifer obrosiectau ar draws Cymrusydd wedi cymryd rhan yn yfenter Galluogi Dim Gwastraff,gyda Rhagoriaeth Adeiladu yngNghymru'n darparu cyngortechnegol ac arweiniad.

£100k i weddnewidmeysydd parcio prysurMAE nifer o barciau yng nghanoly ddinas wedi cael eu hailwynebufel rhan o raglen weddnewidgwerth £100,000.

Ymysg y chwe maes parcio areolir gan Gyngor Abertawe agafodd eu hailwynebu maeSalubrious Passage, Stryd Pell,Heol East Burrows, Y Llaethdy yny Mwmbwls a Heol Brighton,Gorseinon.

Meddai Stuart Davies,Pennaeth Priffyrdd a Chludiant,“Meysydd parcio awyr agoredcymharol fach yw'r rhain ondcânt eu defnyddio'n rheolaidd acmae'n bwysig ein bod yn sicrhaueu bod yn addas at y diben.”

Haf disgleiriachar fin blodeuoCAIFF cannoedd o fasgedi crogeu harddangos ar drawsAbertawe dros yr haf.

Gyda'r gwanwyn bellach wedicyrraedd, dywed CyngorAbertawe ei fod eisoes wediderbyn archebion am dros 700o fasgedi crog gan breswylwyra busnesau ar draws y ddinas.

Meddai Mark Russ, owasanaeth parciau a glanhauCyngor Abertawe, "Yn ogystalâ'r holl waith y mae'rgwasanaeth parciau'n ei wneudar draws y ddinas drwy gydol yflwyddyn i wneud Abertawe'nlle mor hyfryd â phosib, maegennym hefyd gynllun basgedicrog poblogaidd y mae llawer obreswylwyr a busnesau'ngwneud yn fawr ohono bobhaf.”

ArwainAbertaweMai 2017 I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe 3

Crynodeb o’r newyddion

Eich Arwain AbertaweY Post Brenhinol sy’ndosbarthu’ch ArwainAbertawe i chi. Foddbynnag, nid yw unrhywbost a ddosberthir ynghydag Arwain Abertawe’n caelei gefnogi gan Ddinas a SirAbertawe.

Page 4: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Amser iysgolionddisgleirio BYDD paneli solar yn cael eugosod mewn chwe ysgol ynAbertawe er mwyn lleihau euhôl troed carbon a darparucyfleoedd i ddisgyblion ddysguam yr amgylchedd a'rdechnoleg a ddefnyddir argyfer y paneli.

Cyngor Abertawe sy'ngyfrifol am y cynllun a fyddhefyd yn gweld paneli'n cael eugosod yn Oriel Gelf GlynVivian.

Mae'r cyngor yn buddsoddioddeutu £200,000 yn y prosiectac yn amcangyfrif y bydd ypaneli'n talu ar eu canfed ofewn 10 mlynedd ac wedyn yndarparu incwm i'r awdurdod arôl hynny.

Cynhaliwyd astudiaethaudichonoldeb er mwyn nodi ymmha ysgolion y byddai'rpaneli'n gweithio orau, ganystyried ffactorau megisaddasrwydd y to a gallu'rrhwydwaith trydan lleol.

Caiff paneli eu gosod yn yrysgolion canlynol: YsgolGynradd Pentrechwyth, YsgolGynradd Talycopa, YsgolGynradd Llandeilo Ferwallt,Ysgol Gynradd Cilâ, YsgolGynradd St Thomas ac YsgolGyfun yr Olchfa.

Mae'r cynllun yn cyd-fynd âStrategaeth Ynni CyngorAbertawe a'i ymroddiad ileihau'r defnydd o ynni agwella effeithlonrwydd ynni ynadeiladau'r cyngor.

Mae hefyd yn cyd-fynd âtharged Llywodraeth Cymru ileihau allyriadau tŷ gwydr hollawdurdodau lleol y wlad 80%erbyn 2050.

MAE busnesau canol y ddinasyn cael eu hannog i reoli eugwastraff masnachol yn gywirneu wynebu camau gorfodi.

Daw'r arweiniad gan GyngorAbertawe ar ôl i fusnes arall arHeol San Helen dderbyn dirwya chostau gwerth dros £1,500.Cyflwynwyd nifer o gosbaupenodol yn ddiweddar hefydsy'n ymwneud â gwastraffmasnachol wedi'i adael ar YStrand.

Meddai llefarydd ar ran ycyngor, "Gobeithio y bydd yrachosion hyn yn anfon neges ifusnesau eraill bod gwaredueich gwastraff yn anghyfrifolyn annerbyniol.”

Mae'r cyngor yn gwario mwyna £2m y flwyddyn ar gadw'rstrydoedd yn lân a mynd i'rafael â thipio anghyfreithlon.

Galw amstrydoeddglanach

MAE gyrwyr tacsis wedi cymeradwyo sesiwnhyfforddi am ddim i'w helpu i chwarae rhan wrthddiogelu pobl ddiamddiffyn yn Abertawe.

Hyd yn hyn, mae dros 200 o yrwyr wedi dilyn ycwrs a gynhelir gan staff arbenigol gwasanaethaucymdeithasol Cyngor Abertawe.

Yn ôl llawer ohonynt, mae'r cwrs yn amhrisiadwygan eu bod bellach yn gwybod beth i'w wneud osydynt yn pryderu am ddiogelwch plentyn neuoedolyn diamddiffyn.

Meddai'r gyrrwr Nigel Lucas, "Rwy'n credu y dylaipob gyrrwr fynd ar y cwrs er mwyn lledaenu'r neges.Rwy'n falch fy mod i wedi bod."

Mae'r cyngor yn bwriadu darparu'r sesiynau 90munud am ddim i'r 1,100 o yrwyr tacsis sy'n gweithioyn y ddinas dros y misoedd nesaf.

Mae mwy na 5,000 o weithwyr y cyngor - oblymeriaid a seiri coed i gyfrifwyr a gweithredwyrcanolfannau galwadau - hefyd wedi derbyn

hyfforddiant.Mae'r cyngor hefyd yn ystyried cynnig yr

hyfforddiant i grwpiau allweddol eraill o weithwyr yny dyfodol.

Meddai Jayne Harries o Wasanaeth Tai a Diogelu'rCyhoedd y cyngor, "Rydym yn falch iawn o'r adborthrydym wedi'i dderbyn gan y gyrwyr sydd wedi dilynyr hyfforddiant hyd yn hyn, ac rydym yn ddiolchgariawn iddynt am roi o'u hamser a gwneud ymdrech igymryd rhan.

"Mae Cyngor Abertawe'n credu y dylai diogelupobl ddiamddiffyn ein cymunedau fod ynflaenoriaeth i bawb, a gall gyrwyr tacsis chwarae rôlbwysig oherwydd eu bod yn gweld llawer o'r hynsy'n digwydd pan fyddant y tu ôl i olwyn eu cerbydau."

Gyrwyr tacsis yn ymuno ag ymgyrch ddiogelu

OS bydd Gwasanaeth DatblyguGwaith Cyngor Abertawe'ncynnal cinio i ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed, gallaiwneud dewisiadau llawergwaeth na dewis y caffi bacha'r ciosg mae'n eu cynnal ymMharc Victoria fel y lleoliad.

Gyda phastai corn-bîff, sglodion a grefi

am £2.75 yn ogystal â phrydau dyddiol

arbennig, mae digon ar gael am bris

rhesymol. Mae'r ciosg yn un o saith

prosiect a gynhelir gan y Gwasanaeth

Datblygu Gwaith, neu sydd wedi'i

ddatblygu ganddo er mwyn helpu pobl ag

anableddau dysgu neu broblemau iechyd

meddwl i ddod o hyd i swydd, a'i chadw,

gan gefnogi adrannau'r cyngor ar yr un

pryd.

Yn yr amser hwnnw, mae dros 245 o

bobl wedi cael cymorth i fynd i'r byd

gwaith o ganlyniad i'r hyfforddiant a

ddarperir, a'r hyder maent wedi'i fagu.

Meddai Angela Hann, sy'n cefnogi'r

ciosg, "Rydym yn teilwra'r patrwm gwaith

i fod yn addas i'r unigolion ac felly, os oes

ganddynt sgiliau mewn maes penodol,

byddwn yn eu helpu i ffynnu. Yr hyn rwyf

wir yn ei fwynhau yw gweld y newid

cadarnhaol yn ein cleientiaid a sut maent

yn tyfu - rydych yn gweld person hollol

wahanol." Meddai Rachel Richards, sydd

wedi bod yn y ciosg ers mis Medi, "Rwyf

wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ac

rwy'n mwynhau cwrdd â'r cwsmeriaid. Gall

fod yn brysur, ond rwyf wir yn mwynhau

dod i'r gwaith."

Dywedodd Debora Webb, rheolwr y

gwasanaeth a'r prosiectau, fod prosiectau

eraill y gwasanaeth, yn ogystal â'r ciosg, yn

cynnwys y tîm ailgylchu sy'n gweithio

gyda Gwastraff Abertawe i ddidoli'r

deunyddiau ailgylchu sy'n cael eu derbyn

yn y safle byrnu er mwyn sicrhau bod

popeth y gellir ei ailgylchu yn Abertawe'n

cael ei ailgylchu.

Meddai, "Mae'r Tîm Cynnal a Chadw

Tiroedd yn cefnogi'r henoed i gynnal a

chadw eu gerddi, ac yn helpu elusennau

megis Ymddiriedolaeth Penllergaer gyda'r

gwaith maent yn ei wneud. Mae'r

rhandiroedd ym Meithrinfa Fforestfach yn

tyfu ffrwythau a llysiau ffres drwy gydol y

flwyddyn er mwyn eu defnyddio mewn

siopau megis y ciosg, ac yn gweithio gyda

myfyrwyr ac ysgolion i helpu i addysgu

pobl ifanc am bwysigrwydd bwyta'n iach a

lles."

Mae ein timau’n cynnigysbryd cymunedol gwych

• YN EICH GWASANAETHU: Mae Rachel Richards yn mwynhau'r her o weithio yng Nghiosg Parc Victoria.

YMYSG y saith gwasanaeth gwych a ddarperir gan y Gwasanaeth DatblyguGwaith mae'r Podiau Cymunedol sy'n mynd i'r afael â materion megisgordyfiant, sbwriel a chyfeirio aelodau'r cyhoedd i wasanaethau eraill y cyngor.

Mae’r prosiect glanhau cymunedol adnabyddus, NEAT, bellach wedi cynyddu isaith tîm sy'n gyfrifol am bob ward yn ninas Abertawe.

Nod y prosiect Uwchgylchu Beiciau yw trin beiciau sy'n cael eu cyfrannu neusydd wedi'u taflu er mwyn creu rhai newydd sydd wedyn yn cael eu rhoi iysgolion ac i achosion da eraill.

Ein saith gwasanaeth gwych

MAE mwy na 5,000 o weithwyr y cyngor - oblymeriaid a seiri coed i gyfrifwyr agweithredwyr canolfannau galwadau - hefydwedi derbyn hyfforddiant.

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cynnig yrhyfforddiant i grwpiau eraill o weithwyr yn ysector preifat yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am ddiogelu ynAbertawe ewch iwww.abertawe.gov.uk/diogeluoedolion neuwww.abertawe.gov.uk/diogeluplant

Cadw ein cymunedau'n ddiogel

ArwainAbertawe4 am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk Mai 2017

Page 5: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

10k Bae AbertaweAdmiral 2017GALL y rhai sy'n frwd drosffitrwydd, pobl sy'n codi arian ielusennau ac addunedwyrBlwyddyn Newydd osod dyddiadyn eu calendrau ar gyfer 10kBae Abertawe Admiral eleni.

Mae Cyngor Abertawe wedicadarnhau y bydd Ras 10k BaeAbertawe Admiral yn dychwelydi'r ddinas ddydd Sul 24 Medi.

Cyflwynwyd y 10k gyntaf ym1981 ac mae wedi denucannoedd ar filoedd ogystadleuwyr o bob oed a lefelffitrwydd dros y blynyddoedd acmae Admiral wedi penderfynuparhau i noddi'r digwyddiad.Meddai Geraint Jones, PrifSwyddog Ariannol Admiral,"Rydym yn falch iawn o noddiRas 10k Bae Abertawe Admiralam dair blynedd arall.”

Ewch iwww.10kbaeabertawe.com igofrestru ar gyfer Ras 10K BaeAbertawe Admiral 2017.

Mae gan ein siopdan yr unto bopethMAE mwy o wasanaethau nagerioed o'r blaen bellach ar gaelar Info-Nation yn Ffordd yBrenin.

Mae'r siop dan yr unto argyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25oed ac mae'n darparugwybodaeth am ddim achyfrinachol yn ogystal âchyngor ar amrywiaeth obynciau, gan gynnwys iechydrhywiol, perthnasoedd,camddefnyddio sylweddau a dodo hyd i waith. Ewch i www.info-nation.org.uk/cymraeg-home igael mwy o wybodaeth neuffoniwch 01792 484010.

Rhybudd ibreswylwyr amalwyr diwahoddiad MAE Swyddogion SafonauMasnach yn annog preswylwyr iddefnyddio'u synnwyr cyffredina phwyllo cyn cytuno i boblwneud mân dasgau agwelliannau yn eu cartrefi.

Daw'r alwad hon wrth i'rnosweithiau hwyhau ac maemasnachwyr a chwmnïaudiwahoddiad yn dechraucysylltu â phreswylwyr yddinas.

Mae'r cyngor hefyd yn dilyncwyn gan breswylydd ynNynfant a roddodd wybod iGyngor Abertawe'n ddiweddaram gwmni a oedd yn curo arddrysau yn yr ardal, er ei bodhi wedi datgan ei hun yn 'ArdalDim Galw Diwahoddiad'. Mwy owybodaeth yma

http://www.abertawe.gov.uk/safonaumasnach

Llygad barcud ar dipio'n anghyfreithlonMAE camerâu dirgel wedi'u gosodmewn nifer o fannau tipioanghyfreithlon poblogaidd ynAbertawe mewn ymgais i leihau tipioanghyfreithlon.

Mae Cyngor Abertawe'n gobeithioy bydd y camerâu'n helpu i ganfodpobl sy'n gwaredu gwastraff arunrhyw un o'r safleoedd er mwyn euherlyn.

Bydd y camerâu hefyd yn helpu iatal pobl rhag ystyried gwaredugwastraff yn anghyfreithlon.

MAE un o dirnodau mwyaf poblogaidd ein dinas wedi

agor ei gatiau i'r cyhoedd ar gyfer tymor yr haf.

Bydd Castell Ystumllwynarth, sy'n edrych dros

gymuned y Mwmbwls, ar agor i'r cyhoedd rhwng 11am a

5pm bob dydd tan 30 Medi.

Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell

Ystumllwynarth sy'n rheoli'r atyniad.

Mae nodweddion y castell yn cynnwys hen waith celf

o'r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a

grisiau preifat sy'n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd

a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.

Meddai Erika Kluge, Swyddog Cymunedol Castell

Ystumllwynarth yng Nghyngor Abertawe, "Mae'r cyngor

yn gweithio'n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell

Ystumllwynarth, i gynnal yr atyniad hanesyddol a hefyd

i drefnu nifer o ddigwyddiadau sy'n addas i deuluoedd

bob haf.

"Daeth miloedd ar filoedd o bobl i ymweld â Chastell

Ystumllwynarth y llynedd i fwynhau detholiad o

weithgareddau, felly rydym yn disgwyl niferoedd tebyg

eleni.

"Mae'r castell yn cynnig profiad o'r radd flaenaf i

ymwelwyr sydd yr un mor bleserus ag y mae'n addysgol.

Yn ogystal â hybu twristiaeth treftadaeth yn Abertawe,

mae stori lwyddiant defnydd y castell drwy gydol

misoedd yr haf hefyd yn cefnogi ein cynnig am statws

Dinas Diwylliant 2021."

Cyflawnwyd cynllun cadwraeth sylweddol yng

Nghastell Ystumllwynarth yn ddiweddar gydag arian o

Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru trwy

Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cefnogwyd y cynllun gan Gyfeillion Castell

Ystumllwynarth.

Castell ar agor i’r cyhoedd bob dydd

YN sgîl llofnodi'r FargenDdinesig, mae Abertawewedi gwneud cais amstatws Dinas Diwylliant yDU 2012.

Wedi'i chanmol fel rhaglen adfywio

a arweinir gan ddiwylliant, bydd statws

Dinas Diwylliant y DU yn gweld y

ddinas lwyddiannus yn dilyn yn ôl

troed Lerpwl, Glasgow, Hull a Deri.

Yn Abertawe, creadigrwydd ac

arloesedd yw ysgogwyr allweddol

cynigion i drawsnewid canol y ddinas

ac mae Cyngor Abertawe wedi bod yn

gweithio’n agos gyda phartneriaid a

grwpiau lleol dros y flwyddyn

ddiwethaf i sicrhau bod strategaeth

ddiwylliannol yn rhan o'r weledigaeth.

Creda'r cyngor y bydd meddu ar

statws Dinas Diwylliant y DU yn rhoi

dimensiwn newydd i'r gwaith hwn

drwy ddatgloi gwerth miliynau o

bunnoedd o gyllid ychwanegol a

fyddai'n galluogi preswylwyr ac

ymwelwyr â'r ddinas i fwynhau

amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau,

gwyliau, cynyrchiadau teithiol a

phrosiectau cymunedo.

Ymysg y cynlluniau adfywio ar

gyfer Abertawe mae adeiladu

isadeiledd digidol o safon byd-eang a

fydd yn cynnig lled band a chysylltedd

gwell y gall busnesau a chymunedau

elwa ohonynt.

Mae hyn yn cynnwys sgwâr digidol

a fydd yn cynnig mynediad digyffelyb

i wybodaeth ac ymchwil, yn ogystal ag

arena dan do newydd â gallu digidol

cwbl gyfoes. Mae cynigion eraill yn

cynnwys cyrchfan digidol ar Ffordd y

Brenin lle gall diwydiannau creadigol

fanteisio ar isadeiledd digidol blaengar.

Roedd Abertawe wedi colli allan o

drwch blewyn i fod yn Ddinas

Diwylliant y DU yn 2017, ond mae'r

cyngor a'i bartneriaid wedi bod yn

meithrin partneriaethau tymor hir,

ymrwymiadau polisi a strategaethau i

gefnogi'r cais ar gyfer statws Dinas

Diwylliant y DU yn 2021 hyd yn oed

yn fwy.

Meddai Tracey McNulty, Pennaeth

Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor

Abertawe, "Gydag amser ac arian yn

brin, mae llwyddiant y tîm yn 2013

wrth ein helpu i gyrraedd y rhestr fer

ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2017

yn dangos y gefnogaeth a gynigir yn

Abertawe ar gyfer diwylliant.

"Mae datblygu cyfleoedd newydd

drwy raglen Dinas Diwylliant y DU ar

gyfer ein cymunedau mwyaf tlawd a

difreintiedig i greu a rhannu

gweithgareddau diwylliannol a

chreadigol a manteisio arnynt wrth

wraidd ein cynnig. Rydyn ni am i'n

cymunedau elwa, a'n pobl ifanc yn

arbennig."

• FFORDD I LWYDDIANT: Bydd arena canol y ddinas yn rhan allweddol o'n cynlluniau ar gyfer Dinas Diwylliant 2021.

MAE cynghorau Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot, PrifysgolAbertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, PABM, Clwb Pêl-droed Abertawe, BID Abertawe a busnesau lleol yn cefnogi'r cynnig. Bydd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn disgwyl igynigion terfynol gan ddinasoedd sydd wedi cyrraedd y rhestr fergael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Medi.

Mae gwneud yn fawr o'n hasedau'n brif flaenoriaeth

Gall pawb gefnogi’ncais Dinas Diwylliant

ArwainAbertaweMai 2017 I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe 5

Crynodeb o’r newyddion

Page 6: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Preswylwyr yn dod yn gyfarwyddâ newidiadau i’r drefn ailgylchuPRYD nad yw plastig yn blastig?Neu, yn hytrach - pa blastigiony gellir eu hailgylchu a pha rainad oes modd eu hailgylchu?

Mae rhai preswylwyr wedi bod yn gofyn y

cwestiwn hwn ers i'r newidiadau hyn gael eu

cyflwyno yn gynharach eleni i gasgliadau

plastig ymyl y ffordd.

Gofynnir i bawb sy'n helpu'r cyngor i

ailgylchu osgoi rhoi bagiau plastig a haenen

blastig yn y casgliadau sachau pinc. Gall hyn

deimlo fel cam yn ôl i rai, ond mae'n

hanfodol bod y cyngor yn ymateb i ofynion

newidiol ailbroseswyr fel ein bod yn gallu

gwneud y gorau o'r plastig sy'n cael ei

gasglu.

Meddai Chris Howell, Pennaeth Gwastraff

Cyngor Abertawe, "Mae preswylwyr yn

gwneud gwaith gwych o ran ailgylchu eu

plastig. Mae'n wych gweld cynifer o sachau

pinc ar y strydoedd ar ddiwrnod casglu'r

biniau ac mae'n dangos yn glir bod

aelwydydd yn gwneud y peth iawn.

"Mae'r newidiadau diweddar i'r hyn sy'n

cael mynd yn y sachau yn bwysig am ein

bod yn trosglwyddo'r plastigion i gwmniau

ailgylchu trydydd parti, ac mae'n rhaid i

safon y plastig y maent yn ei dderbyn fod

mor uchel â phosib. Mae eitemau megis

bagiau plastig, deunydd lapio a haenen

blastig yn blastigion o ansawdd gwael iawn,

ac felly nid yw llawer o'r cwmnïau ailgylchu

eisiau nhw rhagor."

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cyflwyno

cynlluniau i gyflwyno bagiau pinc y gellir eu

hailddefnyddio ar draws y ddinas fel ffordd

well o gasglu plastig.

Meddai Mr Howell, "Rydym yn

ymwybodol y gall sachau pinc untro, hyd yn

oed pan maent yn llawn blastig, fod yn eithaf

ysgafn, ac, oherwydd hyn, gallant gael eu

chwythu ar draws y strydoedd pan fydd

tywydd garw a gwyntog. Mae'r bagiau pinc

newydd yn debyg i'r sachau gwyrdd

presennol ar gyfer gwastraff gardd ac mae

ganddynt hefyd bwysau yn y gwaelod sy'n

helpu i'w hatal rhag chwythu i ffwrdd.

Erbyn 2020, bydd angen i gynghorau

Cymru ailgylchu 64% o'r gwastraff a

gynhyrchir. • YN Y PINC: Rydym yn ei gwneud mor hawdd â phosib i ailgylchu

BYDD mwy na 180 o safleoedd ar draws y ddinas, gan

gynnwys cylchfannau, ymylon ffyrdd a pharciau, yn

blodeuo erbyn canol mis Mehefin.

Mae Gwasanaeth Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe

wedi bod yn hau mwy na 41,000 milltir sgwar o flodau

gwyllt - sydd gyfwerth ag oddeutu saith cae pêl droed o ran

maint. Bydd y blodau'n cael eu plannu yn ystod mis Ebrill a

Mai.Ers iddo ddechrau, mae cynllun y blodau gwyllt wedi

tyfu a thyfu, ac wedi dennu canmoliaeth preswylwyr ac

ymwelwyr.

Bydd rhywfaint o weithio eleni i ddileu nifer o safleoedd

lle nad yw'r blodau wedi ffynnu o'r rhestr ac ychwanegu

safleoedd eraill. Ariennir y cynllun blodau gwyllt gan

Gyngor Abertawe gyda chyfraniadau gan rai cynghorau

cymuned a rhai adrannau mewnol. Meddai Mark Russ, o'r

Gwasanaeth Parciau, "Mae'r cynllun blodau gwyllt wedi bod

yn hynod boblogaidd gyda phreswylwyr ac ymwelwyr ers

cael ei gyflwyno gyntaf, felly rwy'n falch o ddatgan bod

paratoadau eisoes ar waith iddo ddychwelyd yr haf hwn.

"Mae'n gynllun ardderchog gan ei fod yn codi hwyliau

pobl, yn gwella golwg y ddinas ac yn rhoi hwb i

fioamrywiaeth drwy ddenu mwy o wenyn a pheillwyr eraill

i ardaloedd trefol.

"Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar gyfer y cynllun

bob blwyddyn ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn talu ar ei

chanfed eto."

Mae gwasanaeth parciau'r cyngor hefyd yn gweithio

mewn partneriaeth â Chyfeillion y Gerddi Botaneg, sy'n

gwerthu'r hadau yn ystod eu digwyddiadau gwerthu

planhigion.

Haf blodeuog ar y gweill

CeisiadauprentisiaidMAE cannoedd o boblwedi cyflwynoceisiadau ambrentisiaethau mewnplymwaith, gwaithtrydanol, gwaith saer,plastro a gosod briciauyng NghyngorAbertawe.Mae'r cyngor ynchwilio am 12 obrentisiaid newydd ynyr AdranGwasanaethauAdeiladau ac EiddoCorfforaethol, a fyddyn helpu i weithio arbrosiectau fel gosodystafelloedd ymolchi acheginau newydd ynnhai'r cyngor, adeiladucartrefi cyngor newydda chynnal a chadwcyfleusterau idwristiaid ar benrhynGŵyr.Ar ôl y profion,gwahoddir yrymgeiswyrllwyddiannus iddechrau swyddipedair blynedd ym misMedi.Meddai Martin Nicholls,Cyfarwyddwr LleoeddCyngor Abertawe,"Mae nifer y ceisiadauam brentisiaethau'ndangos poblogrwyddac enw da'r swyddiprentisiaeth yn ycyngor."

Sinema gydagolygfeydd goiawnYN ôl oherwydd galwmawr yng NghastellYstumllwynarth elenimae'r sinema enfawr.Bydd ffilm RussellCrowe, Gladiator,ymysg y ffilmiau syddar gynnig, trwybartneriaeth rhwngCyngor Abertawe aThe Luna Cinema. Bydd y ffilm, sy'ncynnwys RussellCrowe, yn cael eidangos yn y castellnos Fercher 13 Medi.Bydd y ffilm MammaMia, sy'n cynnwysMeryl Streep a PierceBrosnan, yn cael eidangos nos Iau 14Medi. Mae tocynnau argyfer y ddwy ffilm arwerth ynwww.thelunacinema.com

• Pam na allaf roi fy haenen lynu blastig a'm bagiauplastig mewn sachau pinc? Er mwyn ailgylchu'r plastig yn y DU, mae'n rhaid i niwahanu'r haenen blastig/bagiau o'r pecynnau plastiganhyblyg oherwydd gofynion newydd y cwmnïau ailgylchu.• Mae'n bosib ailgylchu bagiau plastig, felly pam maerhaid i mi eu tynnu nhw o'r sach binc?Pan fydd y deunyddiau hyn yn cael eu cymysgu ag eitemauplastig anhyblyg sy'n uwch eu gwerth megis poteli, tybiau ahambyrddau, mae hi'n anodd iawn gwahanu'r rhain ac maentyn cael eu dal ym mheirianwaith y ganolfan ailgylchu, sy'nachosi llawer o drafferthion. • Ble dylwn i roi fy haenen blastig/bagiau plastignawr?

Bydd rhaid i'r eitemau hyn fynd yn eich sachau du. Yn y pendraw, bydd y penderfyniad hwn i gael gwared â'r haenenblastig a'r bagiau plastig yn diogelu'r gwasanaethau casgluailgylchu. • A allaf roi fy magiau plastig unrhyw le arall?Mae gan rai o'r archfarchnadoedd mawr fannau casglu argyfer bagiau plastig yn eu siopau. • Ydy hyn yn golygu y gallaf roi sach ddu ychwanegolallan i'w chasglu?Gan fod modd cywasgu'r math hwn o wastraff yn hawdd, niddylai gymryd llawer o le ychwanegol yn eich sach ddu.Sicrhewch eich bod yn gwneud defnydd llawn o'n casgliadauailgylchu ymyl y ffordd.• RHAGOR o wybodaeth: www.abertawe.gov.uk/recycling

Cw

esti

ynau

Cyf

fred

in

ArwainAbertawe6 am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk Mai 2017

Gof

ynn

om n

iD

ywed

och

ch

i

Lleisiwcheich barnMAE preswylwyr syddam ddweud eu dweudam wasanaethau'rcyngor a materion lleolyn gallu ymuno â'npanel dinasyddion,Lleisiau Abertawe.Adnewyddir ei

aelodaeth yn gyson isicrhau bod y panel yndal i gynrychiolipoblogaeth y sir a rhoi'rcyfle i gynifer o bobl agy bo modd gymrydrhan. Gwnewch gais ynwww.abertawe.gov.uk/article/7003/Lleisiau-Abertawe

Gw

nae

thon

ni

Page 7: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Clod am agweddragorolMAE pedair o ysgolionAbertawe wedi cael eucydnabod mewn gwobraucenedlaethol sy'n dathlurhagoriaeth mewn addysg.

Cafodd Ysgol Gynradd SanHelen, Ysgol GynraddPenllergaer, Ysgol GyfunPontarddulais ac YsgolGymunedol Cefn Hengoed ysylw i gyd mewn seremoni adrefnwyd gan Estyn, y BrifArolygiaeth Addysg aHyfforddiant yng Nghymru.

Roedd y gwobrau'n cydnabodysgolion a cholegau y barnwydeu bod yn rhagorol o ran euperfformiad presennol neu eurhagolygon i wella, neu'r ddau.

Derbyniodd cynrychiolwyr o'rysgol dystysgrif allongyfarchiadau gan MeilyrRowlands, Prif ArolygyddEstyn. Meddai, "Mae'n bwysigdathlu rhagoriaeth agyflawnwyd trwy waith caledac ymrwymiad yn addysgCymru."

Diolch, KingsleyMAE dwsinau o blant ysgol,athrawon a ffrindiau wedi dodynghyd i ffarwelio ag arwrdiogelwch ffyrdd Abertawesy'n ymddeol.

Cynhaliodd disgyblion ynYsgol Gynradd Gwyrosyddwasanaeth arbennig i ddathluymdrechion KingsleyMacCarthy o Drefansel, syddwedi bod yn wirfoddolwrDiogelwch Ffyrdd Kerbcraft amy 15 mlynedd diwethaf. MaeKingsley, a fydd yn 80 oedeleni, wedi penderfynu gadaela rhoi o'i amser i waith arall aarweinir gan y gymuned.

Mae cais ariannuyn gyfle NEETMAE awdurdodau lleol ar drawsgorllewin Cymru'n ymuno iwneud cais am arian Ewropeaiddar gyfer prosiect â'r nod odrawsnewid bywydau pobl ifancnad ydynt mewn addysg,cyflogaeth na hyfforddiant(NEET).

Os yw'r cais yn llwyddiannus,gallai tua £1m o gyllid yr UE fodar y ffordd i Abertawe fel y gallpobl ifanc sy'n ei chael hi'nanodd ennill y sgiliau sylfaenol ifod yn rhan o'r farchnad swyddigael yr hwb sydd ei angenarnynt. Enw'r cynnig newydd yw"Cam Nesa" ac mae'n sôn amddarparu cefnogaeth un i un felbod y bobl ifanc hyn yn medduar y sgiliau ac yn cael yrhyfforddiant y mae ei angenarnynt i fod yn "barod i weithio".

Fe'i cefnogir gan gynghorau,gan gynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Chaerfyrddin.

Gwaith yn cychwynMAE gwaith i osod caeau 3Gmaint llawn newydd yn Abertawewedi cychwyn.

Mae'r cyngor yn creu tri o'rcyfleusterau pob tywydd yngnghanolfannau hamddenPenyrheol, Treforys a ChefnHengoed.

Dechreuodd gwaith ym misEbrill ar yr un cyntaf – caenewydd sbon y gellir ei lifoleuoym Menyrheol gyda'r nod ogwblhau'r prosiect erbyn diweddmis Mehefin.

MAE cynlluniau llawn hwyl i annog plant i beidio â cholli

ysgol yn dwyn ffrwyth yn Abertawe.

Mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod presenoldeb

mewn ysgolion cynradd am y flwyddyn academaidd hon

hyd yn hyn yn 95.3%, sydd wedi codi o 94.9% yn

2015/16.

Eleni cyflwynodd Cyngor Abertawe ei Raglen Ysgogi

Presenoldeb sy'n rhoi'r cyfle i bob disgybl sydd â

phresenoldeb ardderchog neu sy'n gwella ennill gwobrau a

gyflwynir mewn seremoni ar ddiwedd bob hanner tymor.

Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnal eu cynllun

gwobrwyo mewnol eu hunain. Nawr mae un grŵp o

ysgolion cyfagos wedi sefydlu her rhwng yr ysgolion gyda

thabl cynghrair wythnosol a'r cyfle i ennill gwobrau ar

draws yr ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.

Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yw Waun Wen, Clwyd,

Gwyrosydd, Burlais, Brynhyfryd, Plasmarl a

Phentrehafod. Mae pob ysgol yn cyfrifo'i data presenoldeb

ar ddiwedd yr wythnos ac mae hyn yn cael ei ychwanegu

at fwrdd râs bresenoldeb sy'n cael ei arddangos yn yr

ysgol.

Caiff presenoldeb ei raddio o bwyntiau 1 i 7 gyda'r tair

ysgol orau yn ennill y wobr aur, arian ac efydd. Mae hyn

yn newid bob wythnos gan ddibynnu ar bwy sy'n sgorio'r

nifer mwyaf o bwyntiau ar gyfer yr wythnos flaenorol.

Anogir rhieni i chwarae eu rhan wrth helpu'r ysgol i

sicrhau'r safle gorau.

Cynhelir Gŵyl Bresenoldeb ym mis Mehefin ar gyfer yr

ysgol sy'n ennill y wobr aur a bydd yr ysgolion sy'n ennill

arian ac efydd yn cael eu cydnabod hefyd.

Presenoldeb yn anelu at y safon aur

MAE mwy na 500 oddisgyblion yn Abertawewedi dychwelyd i gaelgwersi ar ôl gwyliau'rPasg mewn ysgol newyddsbon.

Mae pobl ifanc a staff yn YGGLôn-las yn dod i'r arfer â'uhamgylchoedd newydd ar ôl i'rgwaith ailadeiladu gwerth £9.8 gaelei gwblhau cyn amser.

Mae arweinwyr yr ysgol yn dweudbydd eu cartref newydd o les i bawb.

Nid oedd yr ysgol i fod i agor tanfis Medi ond gorffennodd Dawnus,prif gontractwr y gwaith, y gwaith yngynnar.

Dywedodd Karen Thomas y bustaff, disgyblion a rhieni yn gyffrousiawn am symud.

Roedd YGG Lôn-las wedi bod ynrhannu safle Ysgol Gymraeg y Cwmym Monymaen wrth i'r hen adeiladaua oedd mewn cyflwr truenus gael eu

dymchwel. Meddai Mrs Thomas, "Mae'n

mynd i gael effaith gadarnhaol iawnarnom ni i gyd. Roedd yr hen adeilada oedd gennym mewn cyflwr gwael,ond bydd yr adeilad newydd hwn yncefnogi safon uchel yr addysg rydymyn ei darparu.

"Hoffwn ddiolch i'r Cwm am roi

lle i ni wrth i'r gwaith fynd rhagddo.Roedd ein partneriaeth yn arbennigac rydym yn dymuno pob lwc iddynnhw am y dyfodol."

Ariennir prosiect Lôn-las ganGyngor Abertawe a LlywodraethCymru fel rhan o Raglen Ysgolion argyfer yr 21ain Ganrif i adnewydducyfleusterau ysgolion ar draws y

ddinas a helpu i wella addysg a hybucyrhaeddiad disgyblion.

Yn ogystal â gorffen yn gynt na'rdisgwyl, mae Dawnus hefyd wedigwneud gwaith ychwanegol yn YsgolGymraeg y Cwm ar ben prosiectaucymunedol yn ardaloedd Bonymaena Llansamlet.

Mae'r cwmni wedi atgyweirio adiweddaru llwybrau mynediad iwarchodfa natur chwe hectar yn agosat Lôn-las, sy'n un o'r ychydigardaloedd o wlyptir ar ôl yn y ddinas.

Meddai Matthew Morgan,Cyfarwyddwr Rhanbarthol Dawnus,"Mae Lôn-las wedi bod yn brosiectenghreifftiol, a gyflawnwyd yn gyntna'r disgwyl ac i safon uchel, ahwyluswyd trwy ymdrechion tîmrheoli prosiectau Dawnus a'r cyngor.

"Mae'r prosiect wedi cefnogigweithlu o dros 250 o bobl a gyflogiryn uniongyrchol yn Ninas-ranbarthBae Abertawe."

MAE gwaith bellach yn mynd rhagddo ar brosiect gwerth £15.1m iadnewyddu Ysgol Pentrehafod.Mae'n cynnwys cael gwared ar gabanau presennol, gosod to affenestri newydd, ailfodelu, adnewyddu ac estyn yr adeiladaupresennol, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon gwell.Dyma un o'r darnau mawr olaf o waith sydd i'w wneud yng nghamdiweddaraf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Abertawe,sydd wedi cynnwys buddsoddiad o oddeutu £100m mewnadeiladau ysgol yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.Mae prosiectau eraill wedi cynnwys adeiladau newydd ar gyferysgolion cynradd Tregŵyr a Burlais, gwaith adnewyddu helaeth ynYsgol Gynradd Pentre'r Graig a buddsoddiad o £22m yn YsgolGyfun Treforys.

Buddsoddiad addysg sydd o bwys

Disgyblion i ffynnu mewnysgol newydd gwerth £9.8m

• ADEILADU DYFODOL Bydd ysgol newydd Lôn-las yn ysgol y gall cymuned gyfan Llansamlet ymfalchïo ynddi.

ArwainAbertaweMai 2017 I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/newyddion 7

Crynodeb o’r newyddion

Page 8: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Maethu yn cynnig profiadbythgofiadwy i deuluoeddMAE galwad i gyplau,teuluoedd ac unigoliongofalgar yn Abertawe ystyriedmaethu.

Mae tîm Maethu Abertawe Cyngor

Abertawe yn gwneud ymdrech arbennig i

annog mwy o bobl i ddilyn gyrfa'n gofalu

am blant, pobl ifanc a hyd yn oed rhieni â

babanod neu blant.

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ar

draws y ddinas yn ystod Pythefnos Gofal

Maeth a gynhelir y mis hwn i dynnu sylw

at y gwaith arbennig mae gofalwyr maeth

yn ei wneud.

Mae gan Faethu Abertawe 135 o

ofalwyr maeth cymeradwy ar hyn o bryd.

Ymhlith y rhain mae Ian a Claire Hieron

sydd â thri o blant eu hunain ac a

ddechreuodd faethu dair blynedd yn ôl.

Dywedodd Claire nad oes gan unrhyw

swydd fwy o botensial na maethu i newid

plentyn neu fywyd er gwell.

Dywedodd y gall bod yn ofalwr maeth

beri gofid ond bod y gefnogaeth mae hi

a'i theulu wedi'i derbyn gan Faethu

Abertawe'n amhrisiadwy.

Meddai, "Roeddwn wedi bod yn

warchodwr plant am 10 mlynedd ac roedd

ffrind i mi'n maethu; gwnaeth ein hannog

i ystyried y peth o ddifrif."

"Mae'n heriol dros ben ond mae'n rhoi

boddhad mawr i mi sy'n drech na'r heriau

hynny. Dyma'r peth gorau wnes i erioed -

pan fyddwch chi'n gweld y gwahaniaeth

yn rhai o'r plant hyn mewn blwyddyn,

mae'n gwneud y cyfan yn werth chweil i

mi. Mae fy nau blentyn ieuengaf yn rhan

fawr o helpu'r plant hyn i ymgartrefu yn

ein cartref.

"Rydym bob amser wedi dweud wrthyn

nhw y byddem yn rhoi'r gorau iddi os

bydd unrhyw adeg pan nad ydynt am i ni

faethu. Pan ddaw pob lleoliad i ben mi

fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw - 'ydyn ni

am faethu eto?' a'r ateb bob tro yw 'ydym

- pwy fydd yn dod drwy'r drws nesaf?'

"Mae grwpiau bach i ofalwyr maeth

lle gallwch ddod ynghyd am goffi a sgwrs

ac mae hynny'n ddefnyddiol, yn enwedig

os ydych chi newydd ddechrau.

Bydd y tîm Maethu Abertawe'n cynnal

sioeau teithiol yn Tesco ac yn y Cwadrant.

Byddant yn cynnal dwy noson wybodaeth

yn y Ganolfan Ddinesig ar 15 ac 22 Mai

rhwng 6pm ac 8pm.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300

555 0111 neu ewch i

www.maethuabertawe.org

0300 555 0111 www.maethuabertawe.org

Pwy gaiff faethu? Cael gwybod mwy...

MAE’R cyngor wedi'i gydnabod fel cyflogwr swyddogol sy'ncefnogi gofalwyr maeth. Mae gan y cyngor nifer o bolisïau ihyrwyddo maethu, gan gynnwys absenoldeb o'r gwaith i helpugweithwyr sy'n cyflwyno cais neu'n hyfforddi i fod yn ofalwrmaeth ac i ddiwallu anghenion y plant maent yn gofaluamdanynt pan gânt eu cymeradwyo.

Meddai Matt Simons, Swyddog Datblygu Busnes MaethuAbertawe, "Mae'r cyngor yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wneirgan ofalwyr maeth ac ymrwymiad staff sy'n darparu gofal maethi blant. Rydym yn hapus i siarad â chyflogwyr eraill syddefallai'n awyddus i ddilyn ein hesiampl ac esbonio'r buddion maehyn yn eu cynnig i'r gymuned gyfan."

gw

ybod

aeth

• CEFNOGAETH ARBENNIG: Mae'r gefnogaeth y mae teuluoedd maeth yn ei derbyn wedi gwneud argraff ar Claire Hieron,gofalwr maeth gyda Maethu Abertawe.

Ceisiadauam gyllid MAE byrddau padlo ar eich traed,

rhaffau sgipio, sgwteri a ffoeliau

cleddyfa newydd ymysg y cyfarpar sydd

wedi rhoi hwb i brosiectau chwaraeon a

gweithgareddau corfforol yn Abertawe

dros y flwyddyn ddiwethaf.

Nawr mae £129,000 ar gael eto i

glybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid a

grwpiau cymunedol yn Abertawe wneud

cais amdano dros y flwyddyn nesaf i

dalu am Amrywiaeth o bethau, o

gyfarpar newydd a datblygiad staff i

gyrsiau gwella i hyfforddwyr.

Dyrennir arian y Gist Gymunedol a

ddarperir gan Chwaraeon Cymru yn

lleol gan Gyngor Abertawe. Mae

grantiau gwerth hyd at £1,500 ar gael i

glybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid

neu grwpiau cymunedol sydd am helpu i

wella cyfranogiad a safonau.

Mae rhai o'r sefydliadau a elwodd y

llynedd yn cynnwys Tenis Abertawe

365, Rygbi Cyffwrdd Gower Dragons,

Action Bike Ladies, Surfability UK,

Clwb Celtic Mini Fencing, Canolfan

Gymnasteg Abertawe a Chlwb Jiwdo

Samurai.

Meddai Ian Beynon, Rheolwr

Datblygu ac Allgymorth yng Nghyngor

Abertawe, "Gobeithiwn y bydd y math

hwn o fuddsoddiad yn ein clybiau lleol

yn annog mwy o bobl nag erioed i

wneud chwaraeon ac ymarfer corff yn

rhan allweddol o'u bywydau, gan helpu i

roi hwb i'w hiechyd a'u lles."

Cysylltwch â Nia Parry yn y cyngor

trwy e-bostio [email protected]

neu ffonio 01792 635452 i gael mwy o

wybodaeth.

MAE swyddogion safonau masnach yn

cynghori landlordiaid ac asiantiaid rhentu

i gymryd camau ychwanegol i fonitro

gwaith blynyddol er mwyn cynnal a

chadw boeleri nwy yn eu heiddo.

Daw'r alwad ddiogelwch hon yn sgîl

achos llys diweddar yn Llys y Goron

Abertawe lle cafodd peiriannydd nwy

hunangyflogedig yn y ddinas ei garcharu

am 14 mis ar ôl cyflwyno tystysgrifau

diogelwch nwy am waith na chafodd ei

gyflawni.

Yn dilyn yr achos, meddai Mr Picken

o Gyngor Abertawe, "Rydym am

bwysleisio y dylai unrhyw un sy'n

ystyried gwaith nwy geisio gwasanaeth

peiriannydd diogelwch nwy cofrestredig

bob amser."

Dylai cwsmeriaid wirio'r gofrestr ar-

lein yn www.gassaferegister.co.uk

Pwysigrwyddgwirio gwaithnwy

ArwainAbertawe8 am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk Mai 2017

Page 9: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Leon yn chwilio am ein sêr Rho 5MAE seren pêl-droed, LeonBritton, yn chwilio am sêr Rho5 Abertawe wrth i'r gwobrau ibobl ifanc ysbrydolusgyrraedd ei chweched tymor.

Mae chwaraewr canol cae'r Elyrch yn

annog pawb i ystyried enwebu person

ifanc, grŵp o bobl ifanc neu ddosbarth

ysgol sydd wedi goresgyn adfyd neu sydd

wedi gwneud eu hysgol neu'u cymuned yn

falch ohonynt.

Caiff y gwobrau eu harwain gan Gyngor

Abertawe, eu noddi gan Goleg Gŵyr

Abertawe a'u cefnogi gan fusnesau a

sefydliadau ar draws y ddinas.

Meddai Leon, "Dechreuodd Rho 5

gyda'r nod o ddangos pa mor ysbrydolus

yw plant a phobl ifanc yn y ddinas hon.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae eich

enwebiadau yn ein helpu i brofi bod hyn

yn wir.

"Trwy ymdrechu i fod y gorau a

gweithio'n galed, mae'r plant a'r bobl ifanc

sydd wedi'u henwebu yn ysbrydoliaeth i

eraill, yn glod iddynt eu hunain, eu

cymunedau neu'u hysgolion, ac yn haeddu

cydnabyddiaeth.

"Peidiwch â gadael i berson ifanc

teilwng rydych chi'n ei adnabod golli'r

cyfle. Ewch ar-lein ac enwebwch yn:

www.abertawe.gov.uk/gwobraurho5 ”

Eleni mae Rho 5 wedi ychwanegu

categori newydd wedi'i ysbrydoli gan gais

gan fam o'r enw Heidi yn 2016 i gyd-

ddisgyblion yn nosbarth ei mab. Mae ei

mab, Ellis Bonham Clatworthy yn anabl,

ac roedd Heidi eisiau cydnabod yr holl

ddisgyblion ym mlwyddyn 4 Ysgol

Gynradd Penyrheol am eu cariad, eu

dealltwriaeth a'u hymdrechion i addasu

popeth y maent yn ei wneud er mwyn i

Ellis gael bod yn rhan o bopeth. Mae hyn

yn helpu ei mab i fod yn hapus ac yn

llwyddiannus yn yr ysgol. Yn anffodus,

roedd gormod o blant yn y flwyddyn i

gymryd rhan yn seremoni wobrwyo

swyddogol Rho 5 y llynedd. Ond, cafodd y

stori gymaint o effaith ar y beirniaid,

trefnwyd i'r disgyblion dderbyn gwobr

arbennig. Dyna pam fod yr enwebiadau

eleni yn cael eu gwahodd i'r wobr

ychwanegol newydd ar gyfer enwebiadau

ysgolion mwy. Mae'n hawdd enwebu

person ifanc am wobr Rho 5 gan fod

popeth mae ei angen arnoch ar-lein. Mae'r

gwobrau yn agored i unrhyw blentyn neu

berson ifanc neu grŵp mewn tri ystod

oedran - dan 13 oed, 19 oed neu iau neu

bobl 20-25 oed sy'n byw yn Abertawe,

neu'n cael addysg neu gefnogaeth yma.

Gall disgyblion ysgol gael eu cofrestru

o hyd fel unigolion, clybiau neu grwpiau

yn y prif gategorïau hyn, ond ar gyfer

enwebiadau 2017, bydd croeso hefyd i

enwebu dosbarth ysgol/blwyddyn gyfan

sy'n cael eu dysgu yn y ddinas.

Mae'r beirniaid yn chwilio am

enghreifftiau o unigolion neu grwpiau sy'n

dyheu i gyrraedd nodau personol neu i

wella bywydau eraill yn eu teulu, ysgol

neu'u cymuned ac, wrth wneud hynny,

maen nhw'n ysbrydoli eraill.

• SEREN: Mae llysgennad Rho 5, Leon Britton, am glywed gennych chi.

• Coleg Gŵyr• Clwb Pêl-droed DinasAbertawe • Clwb Rotari Abertawe • Cymdeithas AdeiladuAbertawe • Swyddfa'r Arglwydd Faer • Stenor Environmental

Services Ltd• Day's Rental• Tîm Ailgylchu CyngorAbertawe • LC Abertawe, • McDonalds a • Pharc Trampolinau Go Air,AbertaweD

iolc

h y

n f

awr

MAE llwybr trafnidiaeth gwerth £5 miliwn obunnoedd ger canol dinas Abertawe yn cael eigwblhau.

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu cwblhaucynllun Ffordd Ddosbarthu'r Morfa sy'n ymestynam 1.7km o Stadiwn Liberty, wrth ymyl afon Tawe,i ganol y ddinas.

Datblygwyd y llwybr er mwyn darparucysylltiadau trafnidiaeth uniongyrchol i nifer osafleoedd datblygu ar hyd coridor afon Tawe a

lleihau tagfeydd ar Heol Castell-nedd gerllaw.Ers dechrau'r gwaith adeiladu ar y ffordd, mae

datblygiad preswyl newydd wedi cael ei gwblhauac mae Hitachi Rail hefyd am agor depo gerllaw felrhan o'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd.

Mae'r cynllun trafnidiaeth gwerth miliynau obunnoedd wedi cael ei ariannu gan gyfres ograntiau trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru acmae'r arian a dderbyniwyd yn 2016 wedi golygubod y cyngor wedi gallu cwblhau'r datblygiad

flwyddyn yn gynnar.Mae safleoedd eraill ar hyd y llwybr hefyd yn

cael eu hystyried ar gyfer datblygiadau pellach.Unwaith y bydd ar agor, mae'r cyngor yn

gobeithio y bydd yn arwain at ansawdd aer gwellyn yr Hafod i filoedd o breswylwyr.

Mae peth o'r cyllid wedi'i ddefnyddio er mwyndiogelu rhai o'r nodweddion hanesyddol ar hyd yllwybr sy'n gysylltiedig â Gwaith Copr yr Hafod.

Ffordd newydd yn cynnig llwybr i aer glanach

Edrychwch ar yrarwyddion cynymdrochi MAE arwydd electronig bellachar waith i helpu ymdrochwyr ibenderfynu a ydynt am fynd i'rdŵr yn nhraeth Abertawe.

Bydd yr arwydd, a fydd yndechrau gweithio pan fydd ytymor ymdrochi'n dechrau ar15 Mai, yn cynnwys rhagolwgansawdd dŵr dyddiol.

Mae wedi'i osod ger pwyntsamplu dŵr dynodedig traethAbertawe ar ben y llithrfa gery promenâd. Bydd gwybodaethyn cael ei dangos ar ddwy ochry sgrîn, sy'n golygu y byddpobl yn gallu gweld manylionar ansawdd dŵr, naill ai o'rtraeth neu o'r promenâd, ac yngallu penderfynu a ydynt amfynd i nofio.

Meddai llefarydd ar ranCyngor Abertawe fod rheoliady DU sy'n deillio oddeddfwriaeth Ewropeaidd yngolygu y bydd yn rhaid i bobtraeth ar draws y wladddangos dosbarthiad ansawdddŵr, sy'n seiliedig ar ddata agasglwyd dros gyfnod o bedairblynedd.

Taro'r nodyn anghywirMAE mwy na 40 o fanwerthwyry ddinas wedi derbyn ymweliadgan Safonau Masnach Abertawea'r heddlu fel rhan o ymgyrchymwybyddiaeth o dwyll.

Cydlynwyd yr ymgyrch yndilyn adroddiadau o dwyllwyr yntargedu preswylwyr Abertawe,yn eu twyllo i brynnu talebauiTunes i dalu am filiaucyfleustodau ffug agwasanaethau eraill.

Mae swyddogion SafonauMasnach Abertawe yn gweithiogyda'r heddlu ar hyn o bryd, ynymweld â siopau sy'n gwerthutalebau iTunes, i gynydduymwybyddiaeth o'r twyll.

Dadorchuddio plac yndilyn taith cenhadwrDROS 5,000 o filltiroedd oddicartref, bydd plac glas yn cael eiddadorchuddio i ddathlu bywyddyn o Abertawe a'i lwyddiant yny dyfodol.

Pan fydd cynrychiolwyr sy'nymweld o Wuhan yn Tsieina'nymweld â'r ddinas nesaf, byddcyngor Abertawe cyflwyno placglas iddynt i gydnabod GriffithJohn.

Bydd y plac - sydd wedi'iysgrifennu'n Gymraeg, ynSaesneg ac yn yr iaith Fandarin- yn cael ei osod y tu allan iYsbyty'r Undeb yn Wuhan, asefydlwyd gan John 150 oflynyddoedd yn ôl ac syddbellach yn un o gyfleusterauymchwil meddygol pwysicafTsieina.

Roedd John, a anwyd yn StrydLlangyfelach ym 1831, yn un o'rcenhadon Cristnogol cyntaf iymweld â Tsieina.

Yn mynd, ar fynd, wedi myndMAE adeilad yng nghanol y ddinaswedi'i werthu am chwe gwaith ypris y gofynnwyd amdano.

Er gwaethaf y pris awgrymedig o£20,000, mae Cyngor Abertawewedi gwerthu'r safle 0.47 erw argornel y Strand Uchaf a Stryd yrHafod am £120,000 mewnarwerthiant yn Llundain.

Caiff elw o werthiant y safle eiailfuddsoddi yng ngwasanaethau'rcyngor a bydd yn helpu i leihaucostau cynnal a chadw eiddo.

Ni fyddai'n bosib cynnal Gwobrau Rho5 heb gefnogaethdeyrngar ein noddwyr. Eisoes wedi cofrestru eleni y mae:

ArwainAbertaweMai 2017 I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe 9

Crynodeb o’r newyddion

Page 10: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Ewch amdro yn ycoedMAE taflen newydd igerddwyr a phecyngweithgareddau i ysgolionwedi cael eu lansio gan GyngorAbertawe i annog mwy o bobli fwynhau chwe llwybr coediogyn y ddinas.

Meddai Mark Winder,ecolegydd Cyngor Abertawe,fod coetir hynafol yngyfoethog iawn o ran bywydgwyllt, harddwch acamgylchedd, a'i fod yn un o'ncynefinoedd mwyafgwerthfawr yma yng Nghymru.

Dywedodd fod coetiroedd areu prydferthaf am ychydig owythnosau yn gynnar yn ygwanwyn, pan fydd blodau'rcoetir, megis clychau'r gog agarlleg gwyllt, yn blodeuo.

Mae'r daflen ar gael ar hyn obryd o lyfrgelloedd cymunedolyn Abertawe ac o'r GanolfanDdinesig, a bwriedir eidosbarthu mewn mwy oleoliadau ar draws Abertawe aphenrhyn Gŵyr cyn bo hir.

Mae'r llwybrau coed yncynnwys lleoedd fel CwmIorwg ger Llanmadog, DyffrynLlandeilo Ferwallt a ChwmClydach. Mae'r arweiniadhefyd yn cynnwys CoedNicholston, Coed CwmPenllergaer a Choed yr Esgob.

Crëwyd y daflen fel rhan obrosiect Cronfa Dreftadaeth yLoteri i gofnodi bioamrywiaethcoetir hynafol yn Abertawe, sefprosiect ar y cyd rhwng TîmCadwraeth Natur y cyngor aGwasanaeth ArchifauGorllewin Morgannwg.

MAE Cyngor Abertawe ynymdrechu i wella llif y traffigi'r Mwmbwls ac yn ôl.

Mae gwaith wedi'i gwblhauar gyfres o oleuadau traffig arhyd rhan o Heol y Mwmbwls addylai olygu y bydd gyrwyr yngallu symud drwy oleuadautraffig yn gyflymach.

Disgwylir i'r gwelliannauhyn gael eu cyflwyno wrth ygroesfan i gerddwyr sy'ncysylltu llwybr beicio'rblaendraeth â Dyffryn Clun.

Mae'r gwaith yn cynnwysgwneud y groesfan yn fwyllydan a chael gwared ar ycynllun croesgam.

Bydd gwelliannauychwanegol i ddau fan arallgerllaw sydd wedi'u rheoli ganoleuadau traffig lle cânt eucysylltu â'r groesfan newydd.

Myndgyda’rllif

NID bob dydd y caiff nofwyr ifanc y cyfle i gael eu

dysgu gan nofiwr Paralympaidd sydd wedi torri

recordiau ac sydd yn bwriadu cystadlu yng Ngemau

Tokyo yn 2020.

Ac eto, dyna'n union y mae pobl ifanc sy'n heidio i

Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n ei dderbyn bob

wythnos gan Chloe Davies.

Pan oedd Chloe yn 13 oed, hi oedd aelod ieuengaf tîm

Paralympaidd Prydain Fawr yng Ngemau Llundain

2012. Ers hynny, mae hi wedi cynrychioli Prydain Fawr

ar sawl achlysur ac wedi ennill medalau ar lefel

genedlaethol a rhyngwladol.

Ei llwyddiant diweddaraf oedd cipio'r fedal aur yn y

ras nofio ar y cefn 100m wrth gynrychioli Cymru yng

nghystadleuaeth Cyfres Nofio Paralympaidd Ryngwladol

2017 yn Copenhagen.

Bellach mae hi hefyd yn lansio gyrfa fel athrawes

nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe sy'n

denu llawer o bobl ifanc i'w sesiynau, gyda rhai ohonynt

yn gobeithio dilyn ei hôl troed hi. Felly ble dechreuodd

hi?

"Mae cael hwyl yn hollbwysig," meddai. "Dechreuodd

fy mam fynd â fi i nofio pan oeddwn i'n fabi, a thyfais i

fyny yn dwlu arno. Roeddwn i'n wirioneddol wrth fy

modd pan gefais fy newis ar gyfer Llundain 2012 ac

roedd yn anhygoel i feddwl mai fi oedd aelod ieuengaf y

tîm."

Mae cyflawniadau Chloe'n cynnwys meddu ar

recordiau Prydeinig, Ewropeaidd a Rhyngwladol mewn

sawl gornest yn ei chategori S14. Mae hi hefyd wedi

ennill llawer o fedalau ar lefel y DU a byd-eang, gan

gynnwys medal efydd ym Mhencampwriaethau Nofio'r

IPC a gynhaliwyd ym Montreal, yng Nghanada.

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn bwll

cymunedol yn ogystal ac yn ganolfan hyfforddi i nofwyr

profiadol, gan feithrin y genhedlaeth nesaf o nofwyr â

photensial Olympaidd a Pharalympaidd.

Dywedodd fod ei rôl addysgu yn bluen arall yn ei

chap ac mae'n credu y bydd yn ei helpu fel cystadleuydd

hefyd. Meddai, "Mae gan Bwll Cenedlaethol Cymru

Abertawe gyfleusterau gwych ac mae'r staff yn dda

iawn, felly dyma'r lle perffaith os ydych chi am ddysgu

sut i nofio neu wella eich sgiliau. Fel athrawes, fy nod i

yw cefnogi nofwyr i fagu hyder yn y dŵr. Pan fyddwch

yn dysgu sut i nofio, mae'n sgil sy'n aros gyda chi am

oes. Pan fyddwch yn gweld plant yn gwneud yn dda

iawn ac maent am wneud yn dda, gallwch eu hannog ac

wedyn gallant wneud hyd yn oed mwy."

Y seren aur Chloe yn troi’n athrawes

NI fydd pobl â dementia bythyn rhy bell o gyfaill achefnogaeth yn Abertawe.

Dyma nod y fenter Ystyriol o

Ddementia sydd wedi gweld cannoedd o

staff rheng flaen yn cofrestru ar ei chyfer.

Mae miloedd o heddweision,

gweithwyr iechyd ac aelodau'r

gwasanaeth tân hefyd am weld

Abertawe'n dod yn ddinas sy'n Ystyriol o

Ddementia.

Mae llu o staff y cyngor eisoes yn

ymateb i'r her ac mae'r cyngor wedi

derbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan y

Gymdeithas Alzheimer am ei ymdrechion

hyd yn hyn.

Mae Tim Gill yn gweithio i dîm tai'r

cyngor ac, yn ei farn ef, mater o fod yn

gymydog da'n unig yw bod yn

hyrwyddwr Ystyriol o Ddementia.

Meddai, "Mae mwy na 45,000 o bobl

yng Nghrymu yn byw gyda dementia. Os

yw pawb yn Ystyriol o Ddementia, yna

mae'n golygu nad yw unrhyw un sydd â

dementia byth yn rhy bell o rywun a allai

ei helpu."

Cafodd mam Tim ei diagnosio â'r

clefyd dair blynedd yn ôl a dyna'n

rhannol pam roedd ef am gymryd rhan yn

y fenter Ystyriol o Ddementia a gefnogir

gan y Gymdeithas Alzheimer.

Meddai, "Mae yna lawer o

gamsyniadau ynghylch dementia ac, fel

hyrwyddwr, fy rôl i yw newid agweddau

pobl tuag at y clefyd drwy roi'r ffeithiau

iddynt. Mae'n waith hynod werthfawr

oherwydd bod gan wasanaethau

cyhoeddus, fel ein gwasanaeth ni,

gannoedd o staff rheng flaen, a’r mwyaf

maen nhw'n deall dementia, gorau oll

bydd y gwasanaethau mae'r rhai sy'n

dioddef ohono yn eu derbyn."

Meddai Tim mai un o'r camdybiaethau

ynghylch dementia oedd bod pobl yn

meddwl bod diagnosis yn golygu bod y

person yn wynebu dyfodol heb ansawdd

bywyd.

Nid yw hyn yn wir; mae canfod y

clefyd yn gynnar yn helpu, ac mae

cefnogaeth gan sefydliadau gwirfoddol a

gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig

hefyd.

Tim yn cynnig cefnogaethi ddioddefwyr dementia

• HYRWYDDWR: Tim Gill, un o Hyrwyddwyr Dementia Cyngor Abertawe

MAE cefnogaeth y cyngor i'r fenter Ystyriol o Ddementia yn rhan o'rcynllun gweithredu ar gyfer Heneiddio'n Dda. Mae'r cynllungweithredu yn cynnwys datblygu mentrau megis Dinas sy'nGroesawgar i Bobl o Bob Oed, cyflwyno Cydlynwyr Ardaloedd Lleol ameithrin partneriaethau â sefydliadau eraill er mwyn hyrwyddo lles.

I wybod mwy am ddementia, ewch i www.alzheimers.org.uk ac iwybod mwy am fod yn Ystyriol o Ddementia yn Abertawe, ewch iwww.abertawe.gov.uk/dementia Os ydych chi neu aelod o'r teulu neugyfaill yn byw â dementia a hoffech chi helpu i lunio gwasanaethausy'n ystyriol o ddementia, e-bostiwch [email protected]

Sut gallwch chi helpu

ArwainAbertawe10 am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk Mai 2017

Page 11: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

Y llynedd, gwnaeth eich treth y cyngo

Mwy o wybodaeth: Gallwch ddod o hyd i’r daflen "Gwybodaeth am eich bil Treth y Cyngor 2016/17" a gwGallwch ofyn am gopi caled drwy ffonio 01792 635382.

Page 12: Layout 1 (Page 1) · Arwain 2 Abertawe am holl wybodaeth y cyngor, ewch i Mai 2017 gwybodaeth Rhifau ffôndefnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys

or ein helpu i wneud hyn i gyd a mwy…..

DIGWYDDIADAU yn Abertawe 2017

MAI� 1-31 MaiGerddi Clun yn euBlodau Gerddi Clun

� 5 Mai CGG y BBC:Berlioz - SymphonieFantastique Brangwyn

� 27 Mai DiwrnodHanes Byw CanoloesolCastell Ystumllwynarth

� 28 Mai TreiathlonAbertawe Canol DinasAbertawe

MEHEFIN� 11 Mehefin SioeBeiciau Modur ClasurolSgwâr Dylan Thomas

� 16-18 MehefinGŵyl JazzRyngwladolAbertaweLleoliadau amrywiol

� 25 MehefinHanner MarathonAbertawe JCP CanolDinas Abertawe

GORFFENNAF� 1 a 2 Gorffennaf Sioe AwyrGenedlaethol CymruBae Abertawe

� 8 GorffennafDatblygu GyrfaYsgrifennu gydaJulia Forster Canolfan Dylan Thomas

� 15 Gorffennaf GŵylFeganaidd AbertaweBrangwyn

� 16 GorffennafTaith Feicio SefydliadPrydeinig y Galon DeCymru Abertawe

� 22 GorffennafDiwrnod HwylArchaeoleg CastellYstumllwynarth

� 22 Gorffennaf5k Pretty Muddy Parc Singleton

� 23 GorffennafRas am Oes Parc Singleton

AWST� 1-31 AwstGerddi Botaneg yneu Blodau GerddiBotaneg Singleton

� 12 AwstOlly Murs Parc Singleton

� 20 Awst Ras Rafftiau RNLI yMwmbwlsY Mwmbwls

� 24-26 Awst Gŵyl Cwrw a Seidr Bae Abertawe Brangwyn

wybodaeth am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn www.abertawe.gov.uk/trethycyngor.

� 27 Awst TaithDywys: Abertawe DylanCanolfan Dylan Thomas

� 28 Awst DiwrnodTywysogion aThywysogesau CastellYstumllwynarth

MEDI� 9 MediDrysau AgoredCastell Ystumllwynarth

� 13 a 14 MediThe Luna CinemaCastell Ystumllwynarth

� 24 Medi 10k BaeAbertawe AdmiralBae Abertawe

� 30 Medi - 14 HydrefGŵyl RyngwladolAbertaweLleoliadau amrywiol

HYDREF� 7 Hydref Treiathlony MwmbwlsY Mwmbwls

� 21 Hydref GŵylGwrw AlmaenigBrangwyn

Ewch i joiobaeabertawe.com iweld mwy o ddigwyddiadau