Top Banner
Rheoli Wyna Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 1
18

Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Feb 28, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 1

Page 2: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Cyflwyniad

Sefydlwyd Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales (HCC)yn Ebrill 2003, a dyma nawr yw’r corff strategol ar gyferhyrwyddo a datblygu’r diwydiant cig coch yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i ddatblygu marchnadoedd proffidiol achynaliadwy er budd y rhanddalwyr yn y gadwyn gyflenwi.

Daeth Hybu Cig Cymru a gweithgarwch tri chorff at eigilydd, sef y Comisiwn Cig a Da Byw yng Nghymru (MLCCymru), Awdurdod Datblygu Cymru, a Hybu Cig Oen aChig Eidion Cymru Cyf. Roedd pob un o’r cyrff yma yn

gyfrifol am wahanol agweddau o weithgarwch yn ymwneudâ chig coch, ac sydd nawr wedi ei integreiddio i waith HCC.

HCC bellach yw’r unig gorff ar gyfer hyrwyddo a datblygucig coch yng Nghymru.

Mae’r llyfryn yma yn un o gyfres o gylchgronnau a ddarperirgan Dim Datblygu Diwydiant Hybu Cig Cymru.

Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o'r cyhoeddiad hwn na’i drosglwyddo mewnunrhyw ddull heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y perchennog. Er y cymerwyd

pob gofal rhesymol wrth ei baratoi, ni roddir sicrwydd ynghylch ei gywirdeb, ac nidderbynnir cyfrifoldeb dros unrhyw golled neu ddifrod a achosir trwy ddibynnu ar

unrhyw ddatganiad neu ddiffyg yn y cyhoeddiad hwn.

Cynnwys technegol MLC 2004Dylunio Hybu Cig Cymru 2004h

h

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 2

Page 3: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Rheoli Wyna 1

Rheoli’r famog yn ystod wyna ar borfa ac o dan do

Mae’r llyfryn hwn yn crynhoi’r dulliau diweddaraf o reoli mamogiaid yn ystod wyna. Mae’rpwyslais ar weithio gyda’r famog er mwyn cael y cynhyrchedd, effeithlonrwydd a llesgorau posibl. Mae’r argymhellion yn seiliedig ar ymchwil i ymddygiad anifeiliaid, maetha thrafodaethau â ffermwyr sy’n defnyddio’r systemau a ddisgrifir. Mae arferion wyna ynamrywio yn fawr; bydd y llyfryn hwn yn llwyddiant os caiff ond ychydig o’r syniadauhyn eu mabwysiadu.

Awdur gwadd - Dr John Vipond, Gwasanaethau Eidion a Defaid , Coleg Amaethyddolyr Alban, Adeilad Syr Stephen Watson, Bush Estate, Penicuik, Midlothian EH26 0PH

John yw’r Uwch Arbenigwr Defaid yng Ngholeg Amaethyddol yr Alban yng Nghaeredin.Ers sawl blwyddyn, mae wedi bod yn weithgar o ran ymchwil, addysgu ac ymgynghoriar gyfer diwydiant defaid y DG.

Wyna yn yr awyr agored

Mae defaid mynydd erioed wedi wyna yn yr awyr agored, ond bellach mae nifersylweddol o ddiadelloedd tir isel hefyd yn wyna yn yr awyr agored er mwyn arbedcostau bwyd a llafur. Gall y bydd diadelloedd mynydd ag un person yn gofalu am1000 neu fwy o famogiaid wrth wyna yn yr awyr agored mewn cymhariaeth ag unperson yn gofalu am 600 o famogiaid tir isel yn wyna yn yr awyr agored ac un personyn gofalu am 250-350 o famogiaid yn wyna dan do. Mae ymchwil yn Iwerddon wedidangos fod wyna yn yr awyr agored yn golygu bod 30% yn llai o amser yn cael eidreulio ar y tasgau sy’n gysylltiedig ag wyna. Mae’r rhan fwyaf o’r amser sy’n cael eiarbed yn ymwneud â bwydo, rhoi gwellt mewn llociau, gweithio mewn llociau unigolgydag wyn, a goruchwyliaeth, oherwydd cyfyngir hynny i olau dydd. Ar ffermydd tirisel, ni ellir wyna nes bod y glaswellt yn tyfu’n ddigon cryf i ddarparu digon o fwyd.

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 3

Page 4: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Yn dilyn diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), mae’n debygol y bydd diadelloeddyn mynd yn fwy o faint a bydd ffermwyr yn wyna yn yr awyr agored er mwyn bod yn fwyeffeithlon, ond rhaid rhoi sylw i les anifeiliaid yn ogystal. Felly, mae’n galonogol darganfody gellir, trwy ddefnyddio systemau addas, gadw mwy o wyn yn fyw mewn cymhariaethâ’r systemau dwys arferol dan do. Y pwyntiau allweddol er mwyn cyflawni hyn yw:

• Tywydd da, (caeau cysgodol, wyna’n hwyrach)

• Defnyddio bridiau cymwys - Hyrddod terfynol sy’n rhoi wyn cryf adeg eu genedigaethMamogiaid o fridiau sy’n wyna’n hawdd

• Y system reoli yn caniatáu mamogiaid i ymddwyn yn naturiol.Mae wyna yn yr awyr agored yn arbennig o fanteisiol i gynhyrchwyr organig, gan leihau’r perygl o gegleithedd a’r angen am wrthfiotigau.

Bondio’r famog a’r oen yn well er mwyn cadw mwy o wyn yn fyw

Os ceir bondio cryf rhwng y fam a’i hepil, cysgod digonol a goruchwyliaeth dda,bydd cyfradd uchel o’r wyn sy’n cael eu geni yn yr awyr agored yn goroesi a bydd yllwyth gwaith a’r straen yn llai.

Er mwyn i wyn oroesi yn yr awyr agored, rhaid gweithio gydag ymddygiad naturiol y famoga’r oen. Felly, mae’n bwysig cael wyn sy’n llawn egni - ac mae llawer o hyn yn enetig.Bydd yr wyn hynny sy’n codi ar eu traed ac yn sugno heb oedi yn gallu gwrthsefyll tywyddgwael am fod eu boliau’n llawn. Mae hyn yn un o’r teithi pwysicaf i’w gael mewn brîd, ynhytrach na chroen trwchus neu got wlanog adeg genedigaeth, ond fel arfer nid yw’n ddewisgan fridwyr defaid pedigri sydd fel arfer yn wyna dan do. Rhaid i’r ffermwyr sy’n newid iwyna yn yr awyr agored ar dir isel ailasesu eu hamcanion bridio mewn hyrddod terfynol,gan fynnu cael llinachau mewn bridiau sy’n llawn egni ac yn codi ar eu traed yn gyflym arôl cael eu geni. Yn hyn o beth, caiff hyrddod Texel a Charollais eu dewis ar gyfer y rhanfwyaf o ddiadelloedd sy’n wyna yn yr awyr agored, yn hytrach na Suffolk. Rhaidpwysleisio, fodd bynnag, fod yna fwy o amrywiad oddi mewn i fridiau na rhyngddynt, acmae astudiaethau diweddar yn Iwerddon wedi dod i’r casgliad fod yr holl enoteipiau aastudiwyd - gan gynnwys Suffolk x Cheviot - yn addas ar gyfer wyna yn yr awyr agored.

Bydd mwy o wyn yn marw oherwydd bondio gwael rhwng y famog a’r oen nagoherwydd anawsterau wyna. Mae’n talu’n well i roi mwy o sylw i wella’r bondiomamol na threulio amser yn goruchwylio mamogiaid sy’n wyna. Bydd y mamogiaidag ymddygiad mamol da yn aros gyda’u hwyn ac yn eu llyfu’n rymus wrth wneudsynau isel. Mae ymddygiad da mewn oen yn golygu ei fod yn llawn brwdfrydeddwrth chwilio am laeth.2 Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 4

Page 5: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Ymchwil i achosion anawsterau wyna

Pan fydd angen helpu mamog i wyna, y rheswm am hynny fel arfer yw’r oen/wyn y mae’nei gario/ eu cario. Fodd bynnag, bydd anifeiliaid sy’n esgor am y tro cyntaf yn cael helpyn aml - nid o angenrheidrwydd am fod angen mwy o gymorth arnynt ond am eu bodyn araf yn rhoi genedigaeth. Mae’r graff isod yn dangos yr amrywiad yng nghanran ymamogiaid sydd ag angen help, gan ddibynnu ar dad eu hwyn. Oddi mewn i frîd roeddgan dad yr oen ddylanwad pwysig o ran a oedd angen help ai peidio adeg genedigaeth,waeth beth oedd pwysau cyfartalog ei wyn. Mae ffordd y mae’r hwrdd yn dylanwaduar anawsterau wyna yn cynnwys siâp yr oen ac effeithiau datblygiad y brych ar egni’r oenadeg yr enedigaeth. Pan fo mamogiaid yn cael help i wyna, mae’n golygu cynorthwyo’rwyn i gael eu geni fel arfer yn hytrach na helpu’r mamogiaid i roi genedigaeth.

Canran gyfartalog y cymorth sydd ei angen ar wyn o wahanol hyrddod

Cafwyd hyd i amrywiadau tebyg ymhlith hyrddod o ran yr amser y mae’n ei gymryd iwyn sefyll a sugno. Mae diadelloedd caeedig sy’n wyna’n naturiol yn yr awyr agoredac sy’n defnyddio hyrddod na chafodd gymorth wrth gael eu geni yn gwneudcynnydd cyflymach o ran lleihau’r angen am gymorth adeg wyna na diadelloedd âhyrddod wedi’u prynu.

Rheoli Wyna 3

50

60

40

30

20

10

0

% y

r wyn

yn

cael

cym

orth

Tadau’r wyn

Bl1 Bl2 Bl3 Bl4 Bl5 Bl6 Bl7 Bl8 Bl9 Bl10 Bl11 Bl12Bl13 Bl14 Bl15 Su1 Su2 Su3 Su4 Su5 Su6 Su7 Su8 Su9

Blackface

Suffolk

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 5

Page 6: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Ymddygiad y famog a’r oen cyn ac ar ôl genedigaeth.

Bydd y rhan fwyaf o famogiaid yn chwilio am le i fod ar eu pennau eu hunain ar gyferwyna. Mae’n bwysig i’r famog fod yn gyfarwydd â’r safle wyna a gwybod lle gall fod arwahân. Dylai gael ei rhoi yno 14 diwrnod cyn wyna; mae cyfnod hirach yn iawn ac yn arbedcostau porthiant gaeaf. Ymhlith y manteision i’r famog o fod ar ei phen ei hun, mae llai oymyrraeth gan famogiaid eraill sydd ar fin wyna ac a allai geisio dwyn wyn eraill neu, os ydyntwedi wyna, a allai ymosod ar wyn dieithr. Y fantais i’r oen, a fydd yn chwilio am y pethagosaf ato sy’n symud ar ôl genedigaeth, yw ei fod yn llai tebygol o fondio â mamog ddieithr.

Mae bod ar wahân yn helpu gyda bondio oherwydd mae’r fan a ddewisir ar gyfer genedigaethyn cael ei thrwytho â hylif amniotig ac yn helpu’r famog i adnabod ei oen/ei hwyn trwyeu harogli. Mae hyn yn fyrhoedlog oherwydd bydd y famog a’i hepil yn dysgu’n fuan sut iadnabod eu brefiadau ei gilydd. Ar rai caeau bydd mamogiaid ac wyn yn aros ar y saflegeni am gyfnod hir, a chredir y gallai eu gadael yno olygu gwell bondio hyd yn oed.Ar gaeau eraill, sydd â nifer cyfyngedig o lefydd geni dewisol, bydd y mamogiaid yn caeleu symud ar ôl wyna. Nid yw mamogiaid sy’n wyna yn yr awyr agored yn cael eu trafodmor aml, a chânt eu drysu llai gan arogleuon dynol, diheintyddion, etc., ac o'r herwyddgall y byddant yn bondio’n well â’u hwyn. Mae hyn yn gwella perfformiad yr oen acyn golygu y gall mamogiaid â thripledi fagu’r tri oen os oes ganddynt ddigon o laeth.

Dewis safle

Dylid dewis caeau wyna â safleoedd naturiol lle gall mamogiaid fod ar wahân, e.e. caeauâ brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain acmaent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid sy’n wyna yn anwybyddu cysgod artiffisial.Bydd mamogiaid yn chwilio am gysgod naturiol cyn wyna, yn enwedig os yw cyflymder ygwynt dros 11 km yr awr. Yn ddelfrydol, dylai’r caeau wyna fod yn gysgodol rhag gwyntsy’n chwythu o sawl cyfeiriad, wedi’u draenio’n dda, a heb eu pori am gyfnod sylweddol,a’r glaswellt tua 6-8 cm. o uchder pan fydd y defaid yn cael eu troi allan. Bydd hyn yn golygudigon o laswellt am oddeutu pythefnos os nad yw’r glaswellt yn tyfu llawer oherwyddtywydd oer. Yn ystod wyna, mae glaswellt 4 cm. yn ddigon uchel oherwydd nid oes llawer olaswellt yn cael ei fwyta cyn wyna ac mae gormod o laswellt yn golygu mwy o ddygwympiadac wyna anodd. Fodd bynnag, pan fo’r glaswellt yn is na 3-4 cm ac os yw’r tywydd yn wael,bydd angen porthiant atodol ar y mamogiaid. Mae’n well gan y rhan fwyaf o ffermwyr sy’nwyna yn yr awyr agored osgoi hyn ar bob cyfrif oherwydd mae’n creu rhagor o waith felcanlyniad i gamfamaeth ac amharu ar y broses o roi genedigaeth. Mae’r dyddiad wynamewn perthynas â’r cyflenwad o laswellt yn hollbwysig. Mae gwreiddlysiau wedi’ugwasgaru ar hyd y caeau yn ddefnyddiol fel porthiant atodol.Mae bod yn agos i adeiladau neu lociau trafod yn fanteisiol wrth ddelio â mamogiaidsy’n cario wyn sengl neu dripledi. Mamogiaid â gefeilliaid neu dripledi adeg sganio addylai greu’r lleiaf o broblemau wyna, a gallant wyna ar gaeau mwy diarffordd. 4 Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 6

Page 7: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Rheolaeth

Gellir cadw llygad ar famogiaid yn ystod y dydd drwy ymweld â nhw bob 3-4 awr argerbyd-pob-tir. Dim ond y mamogiaid hynny sy’n cael trafferth (ar ôl 2 awr) y dylideu dal er mwyn tynnu’r oen. Os oes angen rhoi oen i famog arall neu os oes angensylw arall ac os yw’r tywydd yn ffafriol, gall mamogiaid gael eu clymu dros dro neu eurhoi mewn lloc a wnaed o glwydi yn y cae. Neu fe ellid eu cario’n ôl i lociau unigol odan do os yw’r tywydd yn wael, neu os oes uned groesfaethu ar gael.

Mae gosod rampiau beiciau yn gost effeithiol o ran amser a llafur pan fo diadelloeddmawr yn wyna yn yr awyr agored.

Yn ystod y cyfnod wyna rhoddir nod cyffredin i wyn o’r un torllwyth er mwyn atalunrhyw gymysgedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod yr ymweliad olaf cyniddi nosi er mwyn osgoi problemau yn y bore. Nid oes angen rhoi rhif i’r famog. Osnad yw pethau’n rhy brysur, ac os yw’r tywydd yn dda, gellir dal, ysbaddu a thociocynffonnau’r wyn os yw eu boliau’n llawn. Os yw’n brysur ac os yw’r tywydd yn wael,gellir aros cyn ysbaddu neu docio cynffonnau. Mae’r goruchwylion rheoli yn ystodwyna yn cynnwys trin bogeiliau, archwilio cadeiriau a thethau, rhoi wyn gwan i sugno,croesfaethu neu symud mamogiaid i lociau ar wahân er mwyn mynd i’r afael âphroblemau eraill, e.e. mamogiaid yn dioddef o ddygwympiad/ twymyn llaeth/ dera’rborfa neu glefyd yr eira. Fel arfer bydd wyn yn cael eu tagio yn ddiweddarach, wrthadael y fferm. Gall ychydig o lociau cae wedi’u gosod yn strategol fod yn defnyddioliawn i gadw mamogiaid sydd â thrafferthion. Gellir cadw clwydi-defaid ysgafn yn y

Rheoli Wyna 5

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 7

Page 8: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

cae wyna neu ar drelar cerbyd-pob-tir, neu fe ellir dal mamogiaid penchwiban a’uclymu wrth ffens â rheffyn, gan adael digon o le iddynt adweithio’n naturiol â’u hwyn.

Fel arfer dylid gadael tripledi gyda’u mam oni bai fod angen maethu. Gellir cymrydtripledi oddi wrth y famog ar ôl dau neu dri diwrnod, ac erbyn hynny fe fyddant wedicael digon o golostrwm a gellir eu rhoi i famog ag un oen (maethu gwlyb) neu ifamog sydd wedi colli un gefell (maethu oen wedi’i flingo).

Gellir cyflogi bugeiliaid contract ychwanegol yn ystod y cyfnod wyna brig (y 3 wythnosgyntaf). Wedyn, gellir trosglwyddo’r mamogiaid sydd heb wyna i gaeau cyfleus ar gyfer sylw.

Gofal hawdd

Mae graddau’r trafod arferol sydd ei angen ar famogiaid yn amrywio yn ôl teithi gofal-hawdd y famog. Pan fyddant yn gymedrol, e.e. gyda mamogiaid wedi’u croesi âhyrddod terfynol, gall y bydd wyna’r mamogiaid yn yr awyr agored yn gyfyngedig i’rmamogiaid holliach hynny sy’n cario gefeilliaid. Parthed mamogiaid trafferthus megishesbinod gwag, mamogiaid hesb, mamogiaid wedi torri dannedd/ tenau, mamogiaidyn cario tripledi a mamogiaid yn cario oen sengl, gellir eu cadw dan do (yn enwedighesbinod/mamogiaid yn cario oen sengl ag angen croesfaethu) neu eu cadw yn yrawyr agored (yn enwedig mamogiaid wedi torri dannedd/ mamogiaid yn cariotripledi). Yn y naill achos a’r llall dylent gael y borfa orau/ cysgod mwyaf, ond felarfer nid oes angen bwydo dwysfwydydd i ddiadelloedd sy’n wyna ar laswellt.

Gall unrhyw frîd o ddefaid ddatblygu teithi gofal-hawdd ar gyfer wyna, e.e., defaidLlyn. Mae cwlio trwm am o leiaf 5 mlynedd trwy waredu mamogiaid y mae’n rhaid eutrafod am ba reswm bynnag a bridio anifeiliaid cyfnewid gan ddefnyddio hyrddod sy’ncael eu magu yn yr un modd yn effeithiol. Serch hynny, gan ystyried prisiaumamogiaid ar hyn o bryd, mae’n ddrud. Mae’n well gan lawer o ffermwyr wneud ypeth hawdd, sef prynu anifeiliaid cyfnewid, Mae’r rhan fwyaf o anifeiliaid croesfrid ofamogiaid mynydd yn ddigon hawdd o ran gofal fel y gall un person drafod 600 ofamogiaid os yw’r hyrddod terfynol cywir yn cael eu defnyddio. Ymhlith y bridiaugofal-hawdd penodol sy’n galluogi un person i wyna 1000+ o famogiaid maeRomney Seland Newydd a’r Easycare (defaid nad oes angen eu cneifio).

6 Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 8

Page 9: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Bridiau gofal-hawdd penodol ag angen llai o waith

Viewfield Romney

• Yn defnyddio geneteg Seland Newydd

• Yn addas i ffermydd tir isel/uchel

• Yn cynhyrchu llawer o wlân (4-5kg)

• Dim angen cymorth wyna fel arfer

• Mamogiaid 75Kg, wyn 19 Kg oddi ar laswellt

• % sganio160 –175%

• Yn cael eu bridio gan Marcus Maxwell, Viewfield, New Galloway Castle Douglas.01644420328 http://www.romneysheep.co.uk

Integreiddio adeiladau

Os oes modd, dewiswch gaeau ffres bob blwyddyn ar gyfer wyna, ond nid yw hyn ynhanfodol. Ystyriwch rannu caeau mawr iawn (dros 15-20 hectar) yn ddau, ganddefnyddio un hanner ar gyfer y tair wythnos gyntaf o wyna a’r hanner arall ar gyfermamogiaid sy’n wyna yn ddiweddarach. Bydd hyn yn lleihau’r perygl o wyn sy’n caeleu geni’n hwyrach yn cael eu heintio gan heintiau sydd wedi datblygu yn ystod ycyfnod wyna.

Rheoli Wyna 7

Viewfield Romney

Easycare

• Yn deillio o ddefaid Wiltshire corniog

• Yn addas i ffermydd tir uchel/ mynydd

• Dim angen cneifio

• Wedi’u dewis am 30 mlynedd ar sail teithi gofal-hawdd

• Mamogiaid 60 kg

• % sganio 160-175%

• Ysg. Cymdeithas Ddefaid Easycare: Iolo Owen, Glantraeth Bordorgan Môn.01407840250 http://www.ateal.co.uk/easycare

Easycare

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 9

Page 10: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Mae’n well gan lawer o ffermwyr sy’n wyna mamogiaid yn yr awyr agored beidio â defnyddioadeiladau o gwbl oherwydd y gwaith ychwanegol y mae hynny’n ei olygu. Ar rai ffermydd,fodd bynnag, gall fod yn fanteisiol i gael adeilad i gadw mamogiaid ag wyn sengl dros nos.Wrth roi’r anifeiliaid sengl dan do dros nos, gellir cadw’r bugail ar y sifft nos yn brysuryn croesfaethu wyn a rannwyd oddi wrh dripledi yn ystod y dydd ar famogiaid syddwedi wyna yn ystod y nos.

Croesfaethu

Fel arfer bydd hyn yn cael ei wneud fel maethu gwlyb, h.y. trwythir yr oen maeth mewn dwrcyn ei rwbio â hylifau a brych yr oen newydd-anedig. Yna caiff y ddau oen eu cyflwynoi'r famog sydd newydd wyna er mwyn cael eu llyfu ganddi. Mae ymateb mamol y famogyn cael ei sbarduno gan ocsitosin sy’n cael ei ryddhau yn yr ymennydd - er fe all diffygmaeth neu esgor hir leihau hyn. Wrth faethu wyn, bydd lledu ceg y groth â llaw mewnmaneg yn ysgogi rhyddhau ocsitosin yn yr ymennydd ac yn helpu’r famog i dderbyn yr oen.Yr unig bryd y bydd hyn yn gweithio’n dda yw pan fo’r famog wedi rhoi genedigaeth tuadiwrnod neu ddau ynghynt, oherwydd mae ymddygiad mamol yn dibynnu nid yn unig arocsitosin ond hefyd ar lefelau perthynol o estradiol a progesteron – ac mae’r rhain ynlleihau’n gyflym ar ôl genedigaeth. Mae’r effaith orau i’w chael tua 6 awr ar ôl yr enedigaeth,oherwydd bydd ceg y groth wedi crebachu erbyn hynny ac yn hawdd ei hymestyn.

Y gyfradd stocio adeg wyna

Bydd y system wyna a ddefnyddir gan gynhyrchwr defaid unigol yn dibynnu aramgylchiadau’r fferm. Y dull a ddefnyddir amlaf erbyn hyn yw pennu cyfradd stociocychwynnol (nifer sefydlog o famogiaid y cae). Defnyddir wyna symudol ar raddfa lai,ond mewn system â chyfradd stocio sefydlog bydd llawer o ffermwyr yn symudmamogiaid heb wyna allan o’r grwp wyna ar ôl i hanner y mamogiaid wyna. Mae hynyn ei gwneud yn haws i’r mamogiaid sydd heb wyna ac mae hefyd yn haws eu gweld.

Mae cyfraddau stocio o tua 11-15 o famogiaid + wyn lluosol yr hectar yn nodweddiadol,gyda glaswellt sy’n 6 cm o uchder pan fo’r anifeiliaid yn cael eu troi allan (porfa hebei phori oddi ar fis Ionawr). Os yw’r cyfraddau stocio yn uwch na hyn, mae camfamaethyn fwy tebygol, ond fe gadwyd hyd at 35-40 o famogiaid ag wyn sengl yr hectar er mwyncadw’r glaswellt yn fyr a chadw pwysau’r wyn i lawr er mwyn osgoi anawsterau wrthwyna. Gall camfamaeth waethygu yn ystod tywydd gwlyb pan fydd mamogiaid yn crynhoimewn mannau cysgodol. Ni ddylid gwahanu mamogiaid ar sail y dyddiad wyna a ddynodirgan y marciau radl oherwydd mae hyn yn cynyddu camfamaeth am fod gormod ynwyna ar yr un pryd. Fodd bynnag, os yw mamogiaid yn cael eu sganio gellir eugwahanu ar sail nifer yr wyn a ddisgwylir a phroblemau a allai godi o ran rheoli, gyda’rmamogiaid ag wyn sengl a’r mamogiaid esgoredd cyntaf yn cael eu trafod ar wahân.8 Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 10

Page 11: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Problemau: anawsterau wrth wyna/colledion/ysglyfaethu

Y broblem fwyaf sy’n cael ei chrybwyll yw bod wyn sy’n rhy fawr yn creu anawsterauwrth gael eu geni. Yn y diadelloedd hynny lle mae wyna’n digwydd ar ôl i’r mamogiaidgael eu troi allan ddechrau/ganol Ebrill, mae’r rhan fwyaf o famogiaid yn cael tua misar laswellt cyn wyna, a gallant wella’u cyflwr yn ystod y cyfnod hwn cyn iddynt wyna.Os ydynt yn dechrau â Sgôr Cyflwr 22 byddant yn gorffen â Sgôr Cyflwr 2 panfyddant yn cael mis o laswellt cyn wyna. Gall tywydd gwael fod yn broblem fawr arallwrth wyna yn yr awyr agored; os oes modd, dylid cadw mamogiaid dan do dros nosheb eu bwydo. Gall llwynogod fod yn broblem yn lleol, ond nid yw’r broblem ynwaeth nag yw gyda systemau eraill ac mae ffensys trydan pum-gwifren ar y ffin ynddefnyddiol. Mae defaid sy’n wyna yn yr awyr agored yn fwy tebygol o ddioddef olyngyr ac euod, a dylid monitro’r sefyllfa trwy ddefnyddio cyfrifiad wyau ysgarthol.

Manteision wyna â chyfradd stocio benodol yn yr awyr agored

Manteision

1. Gall pob bugail ofalu am y nifer fwyaf bosibl o famogiaid. Pan fo’r tywydd yn ffafriol, gyda mamogiaid gofal-hawdd, y colledion yn isel.

2. Costau is am fod angen llai o gyfleusterau, e.e., llociau/ cludiant/ adeiladau a chostau is ar gyfer porthiant, anghenion/gwrthfiotigau wyna, etc.

3. Yn fwyaf addas pan fo’r ganran wyna oddeutu 175% ac oes gan y mamogiaid deithi gofal-hawdd.

Anfanteision

1. Angen padogau cysgodol.

2. Angen personel profiadol.

3. Yr wyn yn cael eu geni yn hwyrach, yn gorffen pesgi yn hwyrach. Gallant golli’r farchnad orau a gall y bydd angen cnwd pesgi arbennig. Canran sganio is - gallfod hyd at 20% yn is oherwydd paru hwyrach dan amodau gwaeth o ran porthiant a thywydd.

4. Yn yr ardaloedd sychaf, gall wyn orffen y glaswellt cyn iddynt orffen pesgi.

Rheoli’r famog o dan do

Bydd llawer o famogiaid yn cael eu rhoi o dan do adeg wyna; mae hyn yn rhoicysgod i’r bugail hefyd, yn rhoi gorffwys i’r borfa ac yn golygu treulio llai o amser ynteithio o gwmpas y defaid. Yn anaml y bydd yn lleihau’r gyfradd marwolaethau i’r

Rheoli Wyna 9

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 11

Page 12: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

targed o 5-10% o’r wyn sy’n cael eu geni - mae wyn mewn adeiladau yn dal i ddioddefo hypothermia am fod yn rhaid awyru siediau defaid yn dda, ac mae wyn yn fwytebygol o ddioddef o glefydau heintus pan fyddant o dan do. Erbyn amser wyna,mae’r siediau defaid yn llawn iawn fel arfer, oherwydd rhaid cael lle i'r holl lociauunigol (1 lloc ar gyfer pob 8-10 o famogiaid sy’n wyna). Mae’r gyfradd stocio ddwyshon yn ei gwneud yn anos i gadw’r gwasarn yn sych, yn enwedig os taw silwair yw’rporthiant. Gall gwasarn gwlyb beri i facteria E. Coli grynhoi a gall greu problemaucynyddol o ran cocsidiosis a phroblemau traed ar ôl i’r anifeiliaid gael eu troi allan.

Rhaid cynllunio ar gyfer wyna dan do - mae angen digon o le cychwynnol a rhaid i’rholl gyfarpar angenrheidiol fod wrth law. Mae sgiliau bugeiliol da i helpu mamogiaidâ phroblemau wyna ac amynedd i gael wyn i sugno yn flaenoriaeth. Mae defnyddiocerbyd i symud defaid o’r sied wyna i’r cae yn golygu llai o straen ar yr anifeiliaid a llaio waith i’r bugail.

Rheolaeth

Wrth wyna o dan do, fel arfer bydd y mamogiaid yn cael eu symud i lociau unigol a byddhyd at 50% o’r mamogiaid yn cael cymorth i wyna (ar lawer o ffermydd gwneir hyn ermwyn gallu cario ymlaen â gorchwylion eraill, yn hytrach na bod yn rhaid rhoi cymorth).Rhaid i’r llociau unigol fod yn hawdd eu cyrraedd o’r tu mewn i’r sied wyna. Ar ôl cael eucadw ar wahân mewn llociau unigol, ac ar ôl iddynt sugno, caiff yr wyn eu hysbaddu achaiff eu cynffonnau eu tocio. Wedyn, cânt eu symud am 2-3 diwrnod i lociau sy’ncynnwys 10-20 o famogiaid a’u hwyn cyn cael eu troi allan i’w porfa haf. Bydd problemau’ncodi pan fydd tywydd gwael yn golygu na ellir symud wyn i’r awyr agored a phan fodiffygion cyfathrebu ymhlith staff ar y ffermydd mwyaf. Mae cadw cofnod syml yn ôltrefn amser o gynnydd wyn mewn llociau unigol yn help, e.e., symud disg sy’n troi aca gafodd ei hoelio ar flaen y lloc fel bod y rhif uchaf yn dynodi cynnydd gyda chod o:

1. Un bogail – wedi’i drin â thoddiant ïodin cryf

2. Dwy deth – wedi’u harchwilio ar gyfer colostrwm

3. Tri phryd sylweddol – wyn wedi sugno’n llwyddiannus

4. Yn barod i symud - tociwyd, ysbaddwyd, bogail yn iawn a dim hypothermia.

Meincnodi

Mae meincnodi yn ffordd ddefnyddiol o ddangos a yw perfformiad eich diadell yn ddaneu a oes angen gweithredu er mwyn gwella’r canlyniadau.10 Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 12

Page 13: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Mewn diadelloedd iach o dan do, ni ddylid cael llawer o golledion ymhlith yr wynrhwng sganio ac wyna. Fel arfer bydd y colledion yn ystod y cyfnod hwn ynymwneud ag erthylu neu ffetws braensych sy’n dod i'r amlwg adeg wyna a dylai’rcolledion fod oddi mewn i ffin wallau’r sganiwr (1-2%). Pan fo mamogiaid mewncysylltiad â rhywbeth sy’n achosi erthylu, sy’n fwy tebygol o fod yn erthyliad ensöotigneu tocsoplasmosis, neu glefydau bacteriol efallai megis salmonela/campylobacterneu listeriosis, yna gall y cyfraddau erthylu amrywio rhwng 5-30%.

Dylid cyfyngu marwolaethau mamogiaid rhwng hwrdda ac wyna i ambell achos oniwmonia a dylai'r cyfanswm fod yn llai na 2%. Bydd y rhan fwyaf o’r marwolaethauymhlith mamogiaid yn digwydd ychydig cyn wyna ac yn cael eu hachosi gan broblemaumetabolaidd sy’n gysylltiedig ag wyna – hypomagnesemia (dera’r borfa), clefyd yr eira, neuhypocalsemia (twymyn llaeth). Bydd rhai mamogiaid hefyd yn marw wrth roi genedigaeth.Mewn blwyddyn dda gall y colledion tuag adeg wyna fod yn is na 2%, ond gall y colledionfod yn uwch mewn diadelloedd o famogiaid drafft. Os yw’r ddiadell yn dioddef oafiechydon hirdymor megis Jaagsiekte neu glefyd Johne neu, yn llai cyffredin, MaediVisna, yna fe fydd y gyfradd marwolaethau yn gyffredinol yn uwch o lawer na 5%.

Mae meincnodi yn dangos perthynas amlwg rhwng elw gros a pherfformiad epiliomewn diadelloedd tir isel.

Diadelloedd tir isel - yn bennaf mamogiaid Miwl wedi’u croesi â hyrddodterfynol (600 o famogiaid mewn diadell ar gyfartaledd)

Pob 100 mamog yr hwrddYn ôl yr elw gros/ha Traean uchaf Cyfartaledd Traean isaf

Gwag 3 5 3Mamogiaid wedi marw 5 6 7Mamogiaid wedi wyna 94 92 95wyn a sganiwyd 196 184 182wyn a fagwyd 163 149 150% wyn wedi goroesi o sganio hyd at wyna 83 81 82

Roedd cyfanswm yr wyn a gollwyd mewn diadelloedd tir isel yn uwch nag yn y diadelloeddtir uchel am fod mwy o famogiaid yn cario gefeilliaid a thripledi. Mae colli wyn yn ystod ycyfnod tyngedfennol yn ystod ac yn syth ar ôl genedigaeth yn anochel, a dim ond ychydigiawn o ffermwyr sy’n gallu cadw’r nifer o dan 10 oen/100 mamog yr hwrdd. Mae maethy famog yn cael effaith fawr ar bwysau wyn adeg eu geni ac ar faint o golostrwm syddar gael. Y pwysau targed adeg genedigaeth ar gyfer wyn o famogiaid croesfrid wedi’ucroesi â hyrddod terfynol yw: wyn sengl 5 kg, gefeilliaid 4 kg a thripledi 3 kg.

Rheoli Wyna 11

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 13

Page 14: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

12 Rheoli Wyna

Bydd mamogiaid a gafodd eu tanfwydo yn rhoi genedigaeth i wyn sydd hanner cilogramyn ysgafnach. Gall gorfwydo hefyd achosi problemau oherwydd wyn sy’n rhy fawr; mae hynyn digwydd yn aml tua diwedd y cyfnod wyna pan fo wyn tua 0.5 kg yn drymach nag arfer.

Mae’n syniad da i fonitro marwolaethau wyn o gwmpas y cyfnod wyna trwy ddefnyddiodyddiadur neu galendr. Does dim ond rhaid cofnodi wyn wrth iddynt gael euhychwanegu at y pentwr o rai marw yn ôl a ydynt wedi’u marcio (mae rhifau ar yr ochryn dynodi y gallai'r oen fod wedi byw) neu heb eu marcio (wyn na lwyddodd i godi yniawn). Mae hyn yn help yn nes ymlaen wrth ddadansoddi i adnabod problemau a oeddyn berthynol i’r tywydd (clystyrau o wyn wedi’u marcio yn ystod cyfnod o dywyddgwael) neu oherwydd problemau rheoli/clefydau.

Tywydd gwael a newyn

Tywydd gwael a newyn yw prif achosion marwolaethau wyn cyn eu geni. Byddhypothermia yn digwydd pan fo’r oen newydd-anedig yn colli gwres yn gyflymachnag y gall ei gynhyrchu, hyd yn oed os oes ganddo egni wrth gefn. Enghraifft eithafolo hyn yw oen nad yw’n cael ei lyfu yn ystod storm eira.

Mae hypothermia oherwydd newyn (hypoglycemia – prinder glwcos yn y gwaed) yndigwydd mewn wyn dros 12 awr oed pan fo’r cyflenwadau wrth gefn wedi cael eudefnyddio ond heb gael eu hadnewyddu o golostrwm. Mae hyn yn digwydd ar ôlcamfamaeth hyd yn oed mewn tywydd da, er y bydd tywydd gwael yn cyflymumarwolaeth yr oen. Mae’n hanfodol i’r oen dderbyn colostrwm yn ystod y ddwy awrgyntaf ar ôl genedigaeth os yw newyn i gael ei atal. Mae colostrwm yn fwyd maethlon,yn llawn egni, ac yn cynnwys gwrthfiotigau sy’n gwarchod yr oen rhag clefydau.

Os oes amheuaeth ynghylch a yw oen wedi sugno neu faint o golostrwm y maewedi’i gael, dylid rhoi colostrwm trwy diwb stumog. Dydy wyn sy’n dangosarwyddion o ddolur rhydd neu gegleithedd ddim yn gallu treulio llaeth neu golostrwma dylent gael hylif amnewid electrolyt sy’n cynnwys 10% glwcos trwy diwb stumog.

Mae tiwb stumog yn llai defnyddiol gydag wyn hyn (hypothermig a hypoglycemig)sydd wedi oeri’n ddifrifol. Yn aml, bydd yr wyn hyn yn wan neu’n lled-ymwybodol acyn methu codi eu pennau. Rhaid wrth ofal a phrofiad wrth ddefnyddio'r tiwb neu feallai gael ei rhoi yn y bibell wynt – ac wedyn bydd yr anifail yn boddi. Hyd yn oed osyw’r bwyd yn cael ei roi’n llwyddiannus yn y stumog, bydd y llaeth yn cael eiamsugno’n araf iawn (bydd glwcos yn cael ei amsugno’n gynt) ac mae yna berygl ochwydu a’r bwyd yn cael ei anadlu i mewn i’r ysgyfaint. Gellir adfywhau’r cyfryw wynâ thymheredd o dan 37oC trwy ddefnyddio glwcos mewnberfeddlennol.

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 14

Page 15: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Iogwrt - bwyd iach ar gyfer wyn

Er mwyn i wyn newydd-anedig allu goroesi a bod yn iach, rhaid iddynt gael digon ogolostrwm. Fel rheol, mae wyn sy’n cael eu geni dan do ag angen 230-240 ml/kgpwysau corff, ac mae wyn sy’n cael eu geni yn yr awyr agored ag angen 280 ml/kg(wedi’i rannu dros sawl amser bwyd) yn ystod 24 awr cyntaf eu bywyd. Mae colostrwm yngolygu bod oen yn gallu cynhyrchu gwres 40% yn well, mae’n rhoi gwarchodaethwrthfiotig yn lleol yn y perfeddyn ac yn systematig yn y gwaed, ac yn gweithredu felcarthydd gan helpu i gael gwared â’r meconiwm (y tail brown tywyll cyntaf) a allachosi cegleithedd os na cheir gwared ag ef.

Gofynion colostrwm wyn

Maint yr oen Math o oen Gofyniad Colostrwm

Mawr Sengl cyffredin (5kg) 250 ml/bwydo 3 waith y dydd

Cymedrol Gefell cyffredin (4kg) 200 ml/bwydo 3 gwaith y dydd

Bach Tripled cyffredin (3kg) 100 ml/bwydo 4 gwaith y dydd

Mae’r bacteriwm sy’n achosi cegleithedd (E.coli) yn gyffredin lle bydd defaid yn byw acmae’n cynyddu yn ystod y cyfnod wyna. Mae’n anochel bod wyn newydd-anedig ynamlyncu E.coli ond gall digon o golostrwm helpu i’w hatal rhag ymsefydlu trwyasideiddio cynnwys y stumog. Mae clefydau perfeddol yn fwy tebygol os nad yw’rwyn yn cael digon o golostrwm a gall wyn sy’n amlyncu llawer o facteria ymddangosyn isel eu gwedd a/neu yn chwyddedig pan fyddant tua 2-3 diwrnod oed. Mae 30ml o iogwrt naturiol, wedi’i roi drwy diwb stumog yn 24 awr oed yn help i asideiddiocynnwys stumog yr oen ac atal/ trin y symptomau hyn.

Osgoi cegleithedd a achosir gan wasarn gwlyb

Bydd cegleithedd yn aml yn datblygu tua diwedd y cyfnod wyna, a gall y bydd angentrin yr holl wyn â gwrthfiotig. Mewn tywydd da iawn mae’n well troi allan y mamogiaidag efeilliaid cyn gynted ag y bo modd oherwydd yn aml mae llociau unigol yn gallu bodyn heintus. Gall y bydd llociau yn yr awyr agored â chysgod rhag y tywydd uwchben,yn y cefn a’r ochrau yn gynhesach na llociau o dan do, sydd yn aml yn ddrafftiog acwedi’u draenio’n wael. Yn aml, argymhellir ffermwyr i osgoi ailddefnyddio llociau llemae wyn wedi marw neu wedi dioddef o’r dolur rhydd, o leiaf hyd nes bod y llociauwedi cael eu glanhau a’u diheintio’n drwyadl. Fodd bynnag, mae glanhau a gosodgwellt mewn llociau unigol yn cymryd amser a gellir defnyddio mathau eraill o wasarnyn hytrach na gwellt. Mae naddion pîn mân yn amsugno dwr yn well a gellir eu prynuam oddeutu £5 a chludiant am becyn 20-kg. Os defnyddir y naddion yn lle gwelltmewn llociau unigol, mae angen tua 1.5 kg (37c) y famog. Yn ystod y cyfnod wyna,gellir disgwyl crynhoad o oddeutu modfedd o naddion a thail yr wythnos.

Rheoli Wyna 13

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 15

Page 16: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

14 Rheoli Wyna

Hwyrach fod naddion sy’n costio £250 y dunnell yn ymddangos yn ddrud ondymddengys hefyd fod yr arbedion yn cyfiawnhau’r gost:

• Gwasarn sych

• Arbed costau gwrthfiotig ar gyfer dolur rhydd Gellir arbed 25c yr oen

• Dim angen glanhau lloc 5c yr oen

• Time saved administrating antibiotic 5c yr oen

• Llai o wyn yn marw Hyd at 50c yr oen

Mae rheolaeth yn cynnwys symud brychau o’r lloc ar ôl pob wyna, gan adael y famog yn ylloc am oddeutu 24 awr. Ar ôl i bob mamog gael ei symud, caiff tri dyrnaid da o naddion eugwasgaru ar y llawr er mwyn cael wyneb sych. Dylai’r mamogiaid gael dwr o fwcedi sy’nsownd wrth ochrau’r lloc y tu mewn a dwysfwyd o hopran (peledi pwlp betys). Ar rai ffermyddsy’n defnyddio’r dull hwn, ni fu’n rhaid defnyddio unrhyw wrthfiotigau clwyrwystrol. Yn hytrachna defnyddio diheintydd gwlyb mewn llociau unigol, gellir defnyddio powdwr Stalosan F.

Procedure for reviving chilled lambs

Tymheredd Oed yr anifail Triniaeth

37-39ºC(99% - 102ºF) Unrhyw oed Sychwch yr oen

Bwydwch drwy diwb stumogRhowch gysgod iddo gyda mamog ac wyn eraill

O dan 37ºC (99ºF) 0-5 awr Sychwch yr oen Cynheswch yr oen nes i’r tymheredd ddychwelyd i 37ºCBwydwch drwy diwb stumog Dychwelwch yr oen at y famogneu ei drosglwyddo i'r uned wyngwan

O dan 37ºC (99ºF) Dros 5 awr ac yn gallu Sychwch yr oendal ei ben i fyny Bwydwch drwy diwb stumog

Cynheswch yr oen nes i’rtymheredd ddychwelyd i 37ºCDychwelwch yr oen at y famogneu ei drosglwyddo i'r uned wyngwan

O dan 37ºC (99ºF) Dros 5 awr ac yn methu Sychwch yr oendal ei ben i fyny Rhowch bigiad mewnberfedd-

-lennol o glwcos Cynheswch yr oen nes i’rtymheredd ddychwelyd i 37ºC

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 16

Page 17: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

Nodiadau am y tabl:

1. Cludiant: Os na ellir rhoi triniaeth i'r oen ar unwaith, e.e. oherwydd pellter, gellir ei lapio mewnffoil fel bod llai o wres yn dianc.

2. Sychu: Wrth gael ei sychu bydd yr oen yn cynhesu’n gyflymach am fod llai o wres yn dianc.Mae hefyd yn golygu nad yw’r oen yn cael niwed yn y blwch cynhesu.

3. Bwydo: Gofalwch fod yr oen yn cael pryd o golostrwm mamog neu fuwch o leiaf deirgwaith ydydd – yn unol â’r dognau a roddir uchod - os nad oes modd ei ddychwelyd at yfamog. Dylid gwneud hyn trwy diwb stumog wedi’i gysylltu â chwistrellwrhypodermig 50ml. Gellir defnyddio llefrith mamog gosod os oes rhaid ar gyfer wyndros 2 ddiwrnod oed, Mae wyn sy’n cael eu bwydo trwy diwb am gyfnod estynedigyn fwy tueddol o ddioddef o heintiau perfeddol, yn enwedig os cafodd colostrwm eiroi’n rhy hwyr neu os na chafodd digon ei roi. Fe allai rhoi gwrthfiotigau geneuol i’roen helpu i leihau’r risg. Gofynnwch i’ch milfeddyg am gyngor.

4. Mamaethu: Os yw’r oen yn un o efeilliaid neu dripledi, cymerwch yr oen arall/ wyn eraill oddi ar yfamog ar yr un pryd. Wedyn dylai’r pâr neu’r triawd gael eu cymysgu’n drylwyr amgyfnod er mwyn ailsefydlu arogl cyn mynd yn ôl at y famog.

5. Cynheswr wyn:Caiff yr wyn eu cynhesu mewn siambr â gwres o 35-40oC. Dylid gadael yr oen yn ycynheswr nes bod ei dymheredd wedi cyrraedd 37oC. Ni ddylai’r tymhereddcynhesaf godi’n uwch na 40oC. Sychwch yr oen cyn ei roi yn y cynheswr neu fefydd y dwr sy’n anweddu yn peri oeri pellach.

6. Pigiad glwcos:Gall wyn newynog dros 5 awr oed fod â lefelau isel iawn o glwcos yn eu gwaed agallant ymddwyn fel pe baent yn cael ffit a marw wrth gael eu cynhesu. Y fforddfwyaf effeithiol o godi lefel y glwcos yn y gwaed yw chwistrellu toddiant glwcos imewn i’r abdomen, h.y. pigiad mewnberfeddlennol. Gall eich milfeddyg ddangos i chisut i wneud hyn yn rhwydd ac yn ddiogel. Cyflenwir y toddiant glwcos ar gryfder o40% a rhaid ei deneuo 50:50 â dwr sydd newydd ferwi er mwyn cael y toddiant20% sydd ei angen. Mae hyn hefyd yn darparu toddiant ar dymheredd sydd fwy neulai’n iawn ar gyfer ei chwistrellu (tymheredd gwaed ~ 39oC). Oherwydd bod ynaberygl o gyflwyno haint wrth roi’r pigiad glwcos, dylai union fan y pigiad gael ei

Rheoli Wyna 15

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 17

Page 18: Lambing management CYM - meatpromotion.wales · â brwyn, danadl poethion, llwyni ac ambell gornel; mae'n well gan famogiaid y rhain ac maent yn fwy cysgodol. Yn aml bydd mamogiaid

ddiheintio o flaen llaw â thoddiant ïodin cryf a dylid rhoi pigiad o wrthfiotig hirhoedlogar yr un pryd – mynnwch air â’ch milfeddyg yngl_n â hyn. Os nad oes modd rhoipigiad glwcos, gall y bydd yn fanteisiol i fwydo’r oen trwy diwb stumog os nad yw’nrhy wan. Fodd bynnag, mae’n anos dadebru wyn o’r fath.

Ôl-ofal

Dylid dychwelyd wyn at eu mamau cyn gynted ag y bo modd ar ôl cynhesu er mwynsicrhau fod y bondio’n gryf cyn y troi allan. Rhaid i’r wyn gael digon o fwyd – os oesamheuaeth ynghylch cyflwr oen, cymerwch ei dymheredd.

0s nad oes modd dychwelyd oen yn gyflym at famog – efallai am ei fod yn rhy wan –dylid ei roi ar wahân mewn bocs cardbord wedi’i leinio â phapur newydd ac o danlamp isgoch sy’n hongian tua 1-2m (4t) uwchben y bocs. Ar ôl eu defnyddio, dylai’rbocs a’r papur newydd gael eu llosgi. Dylid bwydo’r oen yn gyson trwy diwb stumognes ei ddychwelyd at famog.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch a Thim Datblygu Diwydiant Hybu Cig Cymru Ffon: 01970 625050 neu ebost: [email protected] wybodaeth bellach ar y llyfryn hwn neu ar waith Hybu Cig Cymru, ymwelwch awww.hccmpw.org.uk

16 Rheoli Wyna

Lambing management CYM 13/7/04 09:38 am Page 18