Top Banner
intouch RHIFYN 86 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West Yn y rhifyn hwn... Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2016: pwy yw eich arwr? Meithrin eich sgiliau, rhoi cynnig ar gre Rhoi gwybod i chi am y diweddaraf: ein Hadroddiad Chwarterol newydd Cymuned yn croesawu cynllun gofal ychwanegol i’r Drenewydd
40

Intouch Rhifyn 86

Aug 05, 2016

Download

Documents

 
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Intouch Rhifyn 86

Quarterly Report | intouch | www.wwha.co.uk | 1

intouchRHIFYN 86 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn...

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2016: pwy yw eich arwr?

Meithrin eich sgiliau, rhoi cynnig ar grefft

Rhoi gwybod i chi am y diweddaraf: ein Hadroddiad Chwarterol newydd

Cymuned yn croesawu cynllun gofal ychwanegol i’r Drenewydd

Page 2: Intouch Rhifyn 86

Ydych chi’n byw yn un o’n cartrefi ?Oes gennych chi ddiddordeb mewn:

• Lleoliadau gwaith• Dychwelyd

i weithio

• Ailhyff ordd• Prenti siaethau

Adeiladu a Chrefft au

Arlwyo Gofal

Gweinyddu/Gwasanaethau Cwsmeriaid

[email protected] 052 2526www.wwha.co.uk @wwha

Page 3: Intouch Rhifyn 86

Helo bawb,

Croeso i rifyn 86 InTouch - y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Mae llawer yn y rhifyn hwn, felly gadewch i ni gymryd golwg agosach ...

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi fod enwebiadau ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth eleni bellach yn agored! Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod yn barod, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw ein ffordd ni o ddathlu eich synnwyr cymunedol, eich dewrder, eich menter a’ch caredigrwydd – yn arddull Tai Wales & West. Eleni, bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Stadiwm SSE Swalec, Caerdydd, ddydd Gwener 4 Tachwedd 2016. Ac rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym pwy sy’n haeddu bod yno ar y noson fawr! Cewch ragor o wybodaeth am gategorïau’r gwobrau a sut i enwebu ar dudalen 10.

Ar dudalen 26, cewch wybod sut rydyn ni wedi bod yn helpu ein preswylwyr ifanc i gael gwaith a hyfforddiant gyda’n rhaglen ‘Rhoi cynnig ar grefft, meithrin eich sgiliau’ ddiweddaraf. Mae’r fenter dau ddiwrnod ar gyfer preswylwyr 16-24 oed gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, ac yn galluogi cyfranogwyr i roi cynnig ar nifer o grefftau yn ymwneud ag adeiladu a chynnal a chadw tai. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Ne Cymru, ac rydyn ni yn awr yn chwilio am breswylwyr brwd o Ogledd Cymru i ymuno â ni. Ewch i’r adran Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol am ragor o wybodaeth.

Ym myd datblygu, mae gan WWH gartrefi dwy ystafell wely newydd trawiadol ar gael i’w prynu yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd y gall fod i fynd ar yr ysgol dai, felly rydyn ni yma i helpu, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg. Mae’r eiddo yn rhan o’n Cynllun Cymorth Prynu, sy’n fenter ecwiti ar y cyd. Ewch i dudalen 14 am ragor o wybodaeth.

Ac yn olaf, oes gennych chi syniadau ar gyfer InTouch neu syniadau ar sut rydych chi’n meddwl y gallem wella? Wel, rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Anfonwch neges e-bost atom: [email protected] neu siaradwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526.

Llythyr y Golygydd a Chynnwys| intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd Cynnwys

Ieithoedd a fformatau eraillOs hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitter @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UDFfôn: 0800 052 2526Testun: 07788 310420E-bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, [email protected]

Newyddion a Gwybodaeth WWH 04Iechyd a Diogelwch 09Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 10Datblygiadau diweddaraf 14Byw’n wyrdd 16Y diweddaraf am elusennau 18Adroddiad chwarterol 19Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol 26Materion ariannol 28Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned 30Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 32Eich newyddion a’ch safbwyntiau 35

Rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen a, than y tro nesaf, cymerwch ofal a mwynhewch heulwen yr haf.

Y Tîm Golygyddol

Ydych chi’n byw yn un o’n cartrefi ?Oes gennych chi ddiddordeb mewn:

• Lleoliadau gwaith• Dychwelyd

i weithio

• Ailhyff ordd• Prenti siaethau

Adeiladu a Chrefft au

Arlwyo Gofal

Gweinyddu/Gwasanaethau Cwsmeriaid

[email protected] 052 2526www.wwha.co.uk @wwha

Page 4: Intouch Rhifyn 86

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth WWH

Mae’r uniad posibl yn rhoi cyfle gwych i ni wneud gwahaniaeth wrth ddiwallu anghenion tai yng ngorllewin Cymru, gyda’r ddau sefydliad yn rhannu llawer o’r un gwerthoedd ac ymrwymiadau o roi’r preswyliwr yn gyntaf, parchu’r iaith Gymraeg a chyflawni gweledigaeth o dwf cryf a chynaliadwy.

Mae gan WWH a Tai Cantref enw da am ddatblygu cartrefi newydd i ddiwallu anghenion lleol a darparu gwasanaeth ardderchog i’w preswylwyr. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n hyderus y gallwn gael hyd yn oed mwy o effaith ar gefnogi cymunedau lleol.

Tai Wales & West yn trafod uno â Tai Cantref

Gyda’r syniad cyffrous hwn ar y gorwel, rydyn ni eisiau i’n preswylwyr wybod na fyddan nhw’n cael eu heffeithio gan yr uno ac y byddan nhw’n parhau i dderbyn y gwasanaeth gorau gan WWH a’n tîm.

Efallai eich bod chi wedi clywed yn ddiweddar fod Cymdeithas Tai Cantref a WWH yn debygol o uno.

Do you live in one of our homes?Are you interested in:

• Work placements• Getti ng back

to work

• Re-training• Apprenti ceships

Constructi on &Trades

Catering Care

Admin/Customer Services

[email protected] 052 2526www.wwha.co.uk @wwha

Page 5: Intouch Rhifyn 86

Newyddion a gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Bu lansiad Llys Glan-yr-Afon mewn diwrnod gwybodaeth yn y Drenewydd ym mis Mawrth yn llwyddiant mawr, gyda mwy na 200 o ymwelwyr eisiau rhagor o wybodaeth am ein cynllun gofal ychwanegol blaenllaw sy’n werth £8 miliwn.Bydd y cynllun, sy’n cael ei adeiladu gan Anwyl Construction ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, yn darparu llety o ansawdd uchel y mae ei angen yn fawr, a ategir gan ofal a chymorth 24 awr i oedolion ar y safle.

Y datblygiad hwn, sy’n cynnwys 48 o fflatiau, yw ein trydydd cynllun gofal ychwanegol, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn yr hydref.

Roedd naw o fyfyrwyr gwaith coed o Goleg y Drenewydd wedi eu plesio hefyd gyda’r cynllun pan wnaethon nhw ymweld â’r safle adeiladu yn ddiweddar.

Yn cadw cwmni i’r myfyrwyr oedd y Darlithydd Gwaith Coed Gareth Jones, a ddywedodd: “Mae hwn yn amgylchedd gwaith go iawn sy’n rhoi gwir flas ar fyd gwaith i’n myfyrwyr, a sut mae datblygiad mawr yn edrych o’r tu mewn.

“Yn y Canolbarth, hwn yw’r datblygiad mwyaf a fu ers nifer o flynyddoedd ac fe fyddan nhw’n elwa llawer ar y profiad.”

Mae Ben Evans, myfyriwr 31 oed o

Fochdre, ger y Drenewydd, newydd gael ei gyflogi fel prentis a dywedodd: “Rwy’n gobeithio gwneud gyrfa i mi fy hun yn y byd adeiladu, felly mae wedi bod yn brofiad da iawn gweld beth sy’n digwydd ar safle o bwys.”

Dywedodd Rheolwr Safle Anwyl Construction, Andy Adamson: “Mae Anwyl Construction yn ymrwymedig i brentisiaethau ac rydyn ni’n eu gweld nhw fel enaid y diwydiant adeiladu – mae tua 30 y cant o’n gweithlu wedi dechrau gyda ni fel prentisiaid.”

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol WWH: “Rydyn ni’n credu mewn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl, a bydd cynllun gofal ychwanegol y Drenewydd yn cynnig dewis ardderchog nad yw ar gael i bobl Powys ar hyn o bryd.”

Am ragor o wybodaeth am Lys Glan-yr-Afon, ffoniwch 0800 052 2526 i siarad â’n Tîm Dewisiadau Tai.

Cymuned yn croesawu cynllun gofal ychwanegol

Page 6: Intouch Rhifyn 86

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth WWH

Hwb i yrfa newydd AliMae Ali, gŵr 41 oed sy’n un o’n preswylwyr yn Wrecsam, yn gweithio yn y maes diogelwch, ond mae wedi bod yn chwilio am newid. Roedd eisiau cydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd felly cofrestrodd ar gwrs plymio City & Guilds ar-lein - Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Plymwr a Gwresogi Domestig.Fodd bynnag, mae’r cwrs i gyd yn seiliedig ar ddamcaniaeth, felly cysylltodd Ali â WWH i weld a allai gael rhywfaint o brofiad ymarferol gyda chwmni Cynnal a Chadw Cambria.

Yn fuan cafodd ei hun yn dysgu sut i osod cawod newydd ar gyfer Linda a Gian Carlo Danzi, yn Sydney Hall Court yng Nghei Connah.

Dywedodd Ali: “Roeddwn i angen rhywfaint o brofiad ymarferol a gwelais dirmon yn gweithio yn fy nghynllun, a wnaeth i mi feddwl am ofyn i Tai Wales & West. Cysylltais â’r Swyddog Manteision Cymunedol Frances Maclean, ac fe wnaeth hi drefnu rhywfaint o brofiad gwaith i mi.

Fe fûm i’n cysgodi Dan Durham o gwmni Cambria ac rydw i wedi dysgu

cymaint. “Doeddwn i erioed wedi meddu ar grefft cyn hynny, ac roeddwn i eisiau bod yn blymwr. Mae’r profiad hwn wedi gwneud gwahaniaeth o ddifrif - ni allwch roi pris arno.”

Dywedodd Linda Danzi: “Yn dilyn llawdriniaeth ar fy mhen-glin doeddwn i ddim yn gallu mynd i mewn i’m baddon, felly mae Cambria wedi gosod cawod i mi allu cerdded i mewn iddi. Mae Ali a’r bechgyn wedi gweithio’n galed iawn ac rwy’n falch o’u gwaith.”

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith neu gyfleoedd hyfforddi, ewch i’r man preswylwyr ar ein gwefan (www.wwha.co.uk) neu ffoniwch Frances Maclean ar 0800 052 2526.

(o’r chwith i’r dde) Gian Carlo a Linda Carlo gydag Ali Thomas a Dan Durham o Cambria.

Page 7: Intouch Rhifyn 86

Newyddion a gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Mae’r ffordd rydyn ni’n rheoli ein gwaith atgyweirio wedi newid yn y misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi ymateb i adborth preswylwyr drwy ganolbwyntio ar ateb eich galwadau ffôn yn gyflym, a sefydlu tîm cydymffurfio, sydd bellach yn rheoli’r holl atgyweiriadau gwresogi a nwy. Rydyn ni hefyd yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o drefnu gwaith ein gweithwyr Cambria, sy’n sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei gwblhau yn llawer cyflymach nag o’r blaen.

Ers dechrau ein ffordd newydd o weithio ym mis Ionawr, rydyn ni wedi gostwng amseroedd aros cyfartalog galwadau a’r amser hiraf y mae unrhyw un yn gorfod ei aros. Yn wythnos gyntaf mis Ebrill yr amser aros ar gyfartaledd

oedd 2 funud, tra mai’r amser hiraf y bu’n rhaid i rywun aros oedd 13 munud. Rydyn ni’n dal i weithio i wella pethau hyd yn oed ymhellach a cheisio’n galed i gwrdd â’ch disgwyliadau. Rhywbeth i’w gofio yw bod mwy o bobl yn rhoi gwybod am atgyweiriadau ar ddyddiau Llun a dyddiau Gwener, felly os nad yw eich gwaith atgyweirio yn fater brys, efallai y cewch well hwyl ar gysylltu ar y dyddiau eraill.

I drefnu atgyweiriad, ffoniwch

0800 052 2526 Dewis 1 – Atgyweiriadau gwresogi a gwasanaethu offer nwy

Dewis 2 – Atgyweiriadau cyffredinol

Allwn ni ei drwsio? Gallwn siŵr iawn!

Hysbysiad diogelwch pwysigTynnwyd ein sylw at y ffaith y gall nifer fechan o wresogyddion gwyntyll trydanol dros dro a roddwyd i breswylwyr achosi problem ddiogelwch, oherwydd nam technegol.

Mae perygl i’r plwg neu’r ffiws orboethi, a allai ddod yn berygl tân.

Y gwresogydd dan sylw yw’r model FH-06A 2kW â’r brand yn y canol, fel yn y llun isod.

Os oes gennych chi’r gwresogyddion hyn yn eich cartref, peidiwch â’u defnyddio. Cofiwch gael gwared â nhw mewn

modd priodol fel yn un o ganolfannau’r cyngor sy’n ailgylchu gwastraff y cartref.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0800 052 2526 a phwyswch 1 pan gewch chi’r dewis.

Page 8: Intouch Rhifyn 86

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth WWH

Rhoddodd WWH £500 i dalu am grysau wedi eu brandio ar gyfer timau Caerau a Threlái fel rhan o brosiect Premier League Kicks Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Mae’r fenter elusennol, sy’n anelu at chwalu’r rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r gymdeithas wrth leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn golygu bod Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn darparu sesiynau chwaraeon wythnosol am ddim i bobl ifanc 14-19 oed ar draws nifer o gymunedau yn ne Cymru.

Fe wnaeth WWH, sydd ag eiddo yn ardal Caerau a Threlái, gefnogi’r achos oherwydd ymroddiad y prosiect i wneud yn fawr o botensial pobl ifanc yn y cymunedau.

Cafodd y gwisgoedd noddedig newydd eu dadorchuddio mewn twrnamaint arbennig yn Nhŷ Chwaraeon Caerdydd yn ddiweddar, lle daeth dros 50 o bobl ifanc at ei gilydd i chwarae. Cafodd y peldroedwyr brwd hefyd eu gwobrwyo am eu hymddygiad da a’u presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi Premier League Kicks wythnosol.

Dywedodd Zac Lyndon-Jones, Cydlynydd Cynnwys y Gymdeithas yn Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Tai Wales & West am y rhodd o ddillad chwaraeon y bydd ein

pobl ifanc yn cael budd o’u defnyddio. Mae’r dillad yn ennyn balchder yn ein pobl ifanc pan fyddan nhw’n cynrychioli eu cymuned leol mewn twrnameintiau a gemau eraill.”

Ychwanegodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Yn ogystal â darparu cartrefi fforddiadwy y mae eu hangen yn fawr yng Nghaerdydd, rydyn ni’n ymroddedig i helpu i wella bywydau a chymunedau pobl, a dyna pam rydyn ni’n awyddus i gymryd rhan yn y prosiect gwych hwn sy’n rhoi cymaint o gefnogaeth ac anogaeth i bobl ifanc.”

Am fanylion ynghylch sesiynau Premier League Kicks yn ne Cymru, ewch i www.cardiffcityfcfoundation.org.uk neu ffoniwch Zac Lyndon-Jones yn Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar 07701 287689.

Nawdd WWH yn helpu pêl-droedwyr ifanc!Mae dau o dimau pêl-droed ieuenctid Caerdydd wedi dechrau eu twrnamaint diweddaraf mewn gwisgoedd newydd sbon, diolch i nawdd gan WWH.

Page 9: Intouch Rhifyn 86

Iechyd a diogelwch | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Defnyddio eich larwm personolWeithiau mae pawb ohonom ni angen rhywfaint o gefnogaeth a help ychwanegol. Mae ein gwasanaeth larwm personol yn rhoi tawelwch meddwl drwy eich helpu chi i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Mae WWH wedi bod yn darparu ei wasanaethau dros y ffôn a theleofal Connect24 ers dros ddeng mlynedd – rydyn ni yma 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ar hyn o bryd rydyn ni’n darparu cymorth i dros 8,500 o gartrefi ledled Cymru, gan ateb cyfartaledd o 495 o alwadau y dydd.

Cyngor doeth ar wneud y defnydd gorau o’ch system larwm:

Er mwyn helpu i sicrhau eich bod chi’n cadw’n ddiogel ac yn defnyddio eich larwm yn y ffordd orau bosibl, dilynwch ein cyngor:

• Ewch i’r arfer o wisgo eich larwm personol bob amser yn eich cartref. Mae yna adegau allweddol pan fydd pobl yn cwympo - fel codi yn y nos i fynd i’r tŷ bach, neu fynd i mewn ac allan o’r bath neu’r gawod.

• Rydyn ni’n cynghori eich bod chi’n cadw eich botwm larwm yn agos wrth law pan fyddwch chi yn y bath neu’r gawod, dim ond i fod yn ddiogel. Peidiwch â phoeni os bydd yn mynd ychydig yn wlyb - bydd yn dal i weithio ar ôl hynny.

• Peidiwch â phoeni am droi eich larwm ymlaen yn ddamweiniol – nid yw hynny’n poeni dim arnom ni, a byddai’n well gennym ni i chi fod yn

ddiogel. Yn wir, rydyn ni’n cael tua 1,500 o alwadau damweiniol y mis, felly mae’n rhan o’n gweithgarwch o ddydd i ddydd. Mewn achosion o’r fath byddwn yn gwirio eich bod yn iawn.

• Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio bod eich larwm o gwmpas eich gwddf a/neu eich cortyn tynnu yn gweithio unwaith y mis. Pwyswch y botwm neu tynnwch y llinyn yn eich cartref a dywedwch wrthym ni eich bod chi’n gwneud galwad brawf. Os nad ydych chi wedi defnyddio eich larwm o fewn 3 mis, byddwn yn cysylltu â chi i’w wirio.

• Os mai dim ond llinyn tynnu sydd gennych chi, ac nid larwm o gwmpas eich gwddw, yna rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni i gael un - mae’n rhad ac am ddim i drigolion WWH.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am eich larwm, cysylltwch â ni ar 0800 052 2526 neu gweithredwch eich larwm i siarad ag un o’n derbynwyr galwadau. Rydyn ni’n ateb tua 10 galwad frys y dydd. Dyma ychydig o sylwadau gan gwsmeriaid:

“Cafodd y larwm ei ateb yn brydlon ac fe wnaeth y ddynes a atebodd drefnu bod cymorth yn cyrraedd yn gyflym. Heb y larwm gallwn fod wedi bod ar y llawr am gryn dipyn o amser. Rwy’n gwisgo’r larwm o gwmpas fy ngwddw bob dydd ac yn teimlo’n fwy diogel pan fyddaf yn gwybod ei fod yno.”

“Torrodd mam ei chlun y tu allan ac roedd y system larwm yn dal i weithio’n berffaith. Mae’n wasanaeth rhagorol.”

Page 10: Intouch Rhifyn 86

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

2016

Main sponsor:

Page 11: Intouch Rhifyn 86

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 11

A hwythau bellach yn eu nawfed flwyddyn, mae ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu synnwyr cymunedol, dewrder, menter a charedigrwydd ein preswylwyr – yn arddull Tai Wales & West.

Eleni, bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Stadiwm SSE Swalec, Caerdydd, ddydd Gwener 4 Tachwedd 2016, lle byddwn unwaith eto yn cael cwmni’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a noddwyr y digwyddiad i ddathlu llwyddiannau unigolion arbennig iawn.

Yn ddi-os, mae llawer o arwyr di-glod yn ein cymunedau sydd mor deilwng o gydnabyddiaeth o’r fath - ac mae angen i chi ddweud wrthym ni amdanyn nhw!

Mae’n hawdd enwebu - siaradwch â’ch swyddog tai, neu cysylltwch â’n Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar y rhif Rhadffôn 0800 052 2526 ac fe wnân nhw nodyn o’ch manylion chi.

Y CategorïauGwobr Camau at lwyddiant (Newydd ar gyfer 2016)Gall mynd yn ôl i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant fod yn gam mawr i’w gymryd, felly mae’r wobr hon yn cydnabod yr unigolion ymroddedig hynny sydd wedi dechrau ar eu taith tuag at lwyddiant. Pa un ai cychwyn busnes, ennill cymwysterau,

gwirfoddoli ynteu fynd yn ôl i’r gweithle fyddan nhw, mae’r bobl hyn i gyd wedi dangos penderfyniad i wireddu eu breuddwydion.

Gwobr Prosiect Cymunedol Mae’r categori hwn yn ymwneud â’r unigolion a’r grwpiau hynny sydd wedi dechrau rhywbeth arbennig yn eu cymuned er lles y rhai sy’n byw yno. Mae’r prosiectau hyn yn aml yn helpu eraill, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn newid y gymdogaeth er gwell.

Y noddwyr CJS Electrical gydag Enillwyr ein Gwobr Prosiect Cymunedol yn 2015, The Squirrel’s Nest o Ben-y-bont ar Ogwr

Page 12: Intouch Rhifyn 86

12 | www.wwha.co.uk | intouch |Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Gwobr Cymydog DaMae’r categori hwn yn dathlu caredigrwydd y bobl arbennig hynny y mae eu gweithredoedd bach o ddydd i ddydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eu cymdogion. O roi help llaw neu glust i wrando, mae’r unigolion calon gynnes hyn yn mynd allan o’u ffordd i helpu pobl eraill sy’n byw gerllaw iddyn nhw.

Gwobr Byw’n Wyrdd (Newydd ar gyfer 2016) Mae’r categori hwn yn cydnabod preswylwyr dawnus sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hamgylchedd. O dyfu arddangosiadau blodau prydferth i ailgylchu ac ailddefnyddio nwyddau yn yr ardd, neu hyd yn oed gynhyrchu ffrwythau a llysiau i eraill eu mwynhau, mae’r preswylwyr hyn yn arwain y ffordd pan ddaw hi at fyw’n wyrdd.

Peter Jackson o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Kathy Smart (ar y dde) gydag Una Roberts, enillydd Gwobr Cymydog Da 2015

Page 13: Intouch Rhifyn 86

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth| intouch | www.wwha.co.uk | 13

Gwobr Dechrau NewyddGall bywyd fod yn llawn o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, felly mae’r wobr hon yn cydnabod y bobl ddewr hynny sydd wedi goroesi cyfnod anodd a throi pethau o gwmpas er gwell. O oresgyn salwch, wynebu materion personol neu gefnogi eu teulu trwy gyfnod anodd, mae’r unigolion eithriadol hyn yn gosod esiampl i ni i gyd.

Arwr LleolMae ein harwyr lleol yn ymdrechu i wneud eu cymuned yn lle gwell neu’n helpu eraill llai ffodus na nhw eu hunain. O redeg grwpiau cymunedol, mynd i’r afael â materion lleol a chodi arian i elusen – mae’r unigolion anhunanol hyn yn rhoi o’u hamser a’u hymdrechion i wneud gwahaniaeth.

Craig Sparrow o WWH (chwith) a Kathy Smart yn cyflwyno gwobr enillydd Dechrau Newydd 2015 i Shane Egan ar ran y noddwr, Anwyl Homes & Construction

Robert Jenkins o Solar Windows a Kathy Smart (ar y dde) yn cyflwyno Gwobr yr Arwr Lleol i Jenny Rigby ar ran ei mam, yr enillydd Marguerite Kinsella

Gwobr Seren DdisglairYn arbennig ar gyfer rhai 25 dan oed, Mae Gwobr y Seren Ddisglair yn dathlu cyflawniadau pobl ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, neu i’w cymuned. Yn agored i’n preswylwyr a’r rhai sy’n gweithio’n agos gyda nhw, mae’r bobl ifanc hyn yn haeddu cydnabyddiaeth oherwydd effaith sylweddol a chadarnhaol eu gweithredoedd.

Mark Austin o’r noddwr Thorlux Lighting (ar y chwith) a Kathy Smart (ar y dde) yn cyflwyno Gwobr y Seren Ddisglair 2015 i bobl ifanc o Brosiect Getting Together ym Merthyr Tudful.

Page 14: Intouch Rhifyn 86

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Cartrefi newydd hyfryd ar werth ym Mro MorgannwgMae gan WWH gartrefi newydd trawiadol â dwy ystafell wely ar werth am 70% o bris y farchnad yng Ngwenfô, Bro Morgannwg.Mae’r eiddo yn rhan o’n Cynllun Cymorth Prynu ac maen nhw ar gael i brynwyr tro cyntaf (neu’r rhai sydd mewn sefyllfa debyg) sy’n gweithio ac yn gallu cael morgais, ond sy’n methu fforddio eiddo addas ar y farchnad agored. Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd â chysylltiad lleol â’r ardal.

Mae’r cynllun yn gweithredu ar sail ecwiti a rennir, gyda rhaniad 70/30. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n talu 70% (£125,000) o werth yr eiddo gyda’r 30% sy’n weddill o’r ecwiti yn cael ei gadw gan Tai Wales & West fel pridiant cyfreithiol ar yr eiddo.

Bydd y 30% o ecwiti yn cael ei dalu yn ôl i WWH ar bris y farchnad ar hyn o bryd pan fyddwch chi’n gwerthu’r eiddo.

Mae’r tai yn rhan o ddatblygiad newydd sbon ac yn cael eu hadeiladu i gyrraedd lefel uchel o gynaliadwyedd, yn ogystal ag elwa ar 10 mlynedd o warant NHBC.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526.

Page 15: Intouch Rhifyn 86

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Cartrefi newydd ar eu ffordd i Faes GlasMae datblygiad newydd cyffrous WWH sy’n werth £5 miliwn yng Nglan-y-Don yn agor yn fuan!

Mae’r rhestrau aros yn agored ar gyfer cartrefi 1, 2, 3 a 4 ystafell wely (44 o dai a 14 o fflatiau). Mae’r rhain yn cynnwys eiddo a addaswyd i gadeiriau olwyn.

Mae’r datblygiad newydd gwych o gartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, sy’n gynnes ac yn fforddiadwy, wedi cael ei wireddu diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint.

Mae’r cynllun yn darparu ateb i’r angen am dai fforddiadwy ym Maes Glas yn ogystal â rhoi hwb i’r economi a rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn y gymuned leol.

Ydych chi’n chwilio am rywle i fyw ym Maes Glas?

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ein Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526.

(O’r chwith i’r dde) Tom Anwyl o Anwyl Construction, Rheolwr Datblygu WWH Craig Sparrow, Prif Weithredwr WWH Anne Hinchey a’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint yng Nglan y Don

Page 16: Intouch Rhifyn 86

16 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Tŷ Ponthrun yn blodeuo diolch i arian WWH!

adeiladu’r gwely wedi ei godi a sicrhau ei fod yn ei le i’r preswylwyr ei ddefnyddio dros fisoedd yr haf.

Roedd Pauline Orchard, un o’r preswylwyr, yn falch iawn o gael man hygyrch i dyfu ei hoff flodau a phlanhigion. Esboniodd: “Mae hi mor hyfryd cael man plannu wedi ei godi fel nad oes yn rhaid i mi blygu. Gallaf sicrhau bod arddangosfa flodau i breswylwyr y cynllun ei fwynhau hefyd.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd, cysylltwch â Sarah Willcox ar 0800 052 2526 neu e-bostiwch [email protected]

Mae preswylwyr Tŷ Ponthrun, Troedyrhiw, Merthyr Tudful, yn enwog am eu harddangosfa blodau hyfryd ar flaen y cynllun. Fodd bynnag, roedden nhw’n cael trafferth ynghylch gofalu am lawer o botiau mawr, felly fe wnaethon nhw gais i WWH am grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd gyda’r gobaith o gael gwely plannu wedi ei godi i ddarparu lle tyfu mwy hygyrch.

Yn dilyn eu cais llwyddiannus fe wnaeth y preswylwyr brynu gwely plannu wedi ei godi gan fenter gymdeithasol Cynnyrch Coed Meifod o Ddinbych, sy’n darparu hyfforddiant a chyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu.

Bu Arolygwyr Safle Lleol WWH yn ddigon caredig i dreulio amser yn

Arolygwyr Safel WWH Phil Howells (ar y chwith) a Mike Fowler yn torchi eu llewys i helpu preswylwyr

Page 17: Intouch Rhifyn 86

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Prosiect garddio’n cael dechrau da yng Nglan yr Afon

i greu gardd hygyrch a gwastad i’r preswylwyr allu mynd at eu gwelyau plannu wedi eu codi newydd.

Yna, roedd yn gyfle i grŵp o wirfoddolwyr brwd WWH i dorchi eu llewys a gweithio gyda’r preswylwyr i adeiladu’r gwelyau ar ddiwrnod heulog hyfryd o wanwyn.

Gyda’r gwelyau plannu bellach yn eu lle i dyfu ffa, letys, tomatos a chynnyrch arall, mae’r grŵp yn edrych ymlaen at gyrhaeddiad eu tŷ gwydr newydd a fydd yn eu galluogi nhw i dyfu cynnyrch o hadau.

Dywedodd Patricia Lavercombe, sy’n un o’r preswylwyr ac sy’n aelod o’r grŵp garddio: “Rydyn ni mor hapus gyda’r ardd! Mae’r staff i gyd wedi gweithio mor galed, a byddwn yn gallu tyfu llawer o lysiau ar gyfer y cynllun.”

Bydd preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Glan yr Afon ym Maesteg yn mwynhau digonedd o ffrwythau a llysiau ffres dros y misoedd nesaf, diolch i help gan WWH.

Tarddiad y prosiect oedd pan benderfynodd y rhai sy’n byw yn y cynllun eu bod nhw eisiau gwella eu tiroedd a thyfu cynnyrch i breswylwyr allu gwneud prydau iach.

Gyda chymorth Owen Jones, Swyddog Cynaliadwyedd WWH, a Sarah Willcox y Cynorthwyydd Amgylcheddol, fe wnaeth y garddwyr brwd gais am grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd WWH.

Yn dilyn eu cais llwyddiannus am arian a llawer o gynllunio, dechreuodd y prosiect ym mis Mawrth eleni.

Bu staff o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn gweithio’n galed

Daeth tîm WWH a’r preswylwyr at ei gilydd yn ddiweddar i adeiladu gwelyau plannu wedi eu codi yn y cynllun

Page 18: Intouch Rhifyn 86

18 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Cambria yn cyfrannu £3,500 at Macmillan a hosbis

Rhoddodd staff Cambria yn Ne Cymru £1,750 i Gymorth Canser Cymru Macmillan. Cododd y Rheolwr Gweithrediadau Tom Creed y swm gwych o £725 o’r cyfanswm drwy reidio beic o Aberhonddu i Fae Caerdydd ... wedi gwisgo fel uwch-arwr!

Yn y cyfamser, roedd staff nyrsio yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd

Yn ddiweddar, fe wnaeth ein cydweithwyr yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria gyfrannu’r swm gwych o £3,500 i elusen ganser a chanolfan driniaethau.

Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, yn falch iawn o dderbyn siec am £1750 gan dîm gogleddol Cambria.

(O’r chwith i’r dde) Paul Davies a Rebecca Parke o Macmillan, gydag Andrea James o Cambria, Prif Weithredwr WWH Anne Hinchey, Tom Creed o Cambria a Phennaeth Cambria Peter Jackson.

Page 19: Intouch Rhifyn 86

Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 19

Adroddiad chwarterol:golwg ar y darlun llawn i chi

Mae’r chwe graffig gwybodaeth hyn yn rhoi gwybodaeth allweddol ar sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y byddwch yn gweld ar y tudalennau nesaf.

Darperir gwybodaeth am bob un o’n prif systemau. Y rhain yw:

- Rhagor o gartrefi

- Ymddygiad gwrthgymdeithasol

- Rydw i eisiau cartref

- Helpwch fi i dalu

- Trwsio fy nghartref

- Sut rydyn ni’n cynnal ein busnes

Felly, mae modd i chi gael gwybod popeth - o faint o dai rydyn ni wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i pa mor

Mae ein hadroddiad chwarterol ar ei newydd wedd wedi ei gynllunio i roi gwybod y diweddaraf i chi ar sut hwyl rydyn ni’n ei gael ar bethau fel sefydliad a beth rydyn ni’n ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr.

hir mae’n ei gymryd i wneud gwaith atgyweirio.

Cymerwch olwg dda, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bostio [email protected] neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526.

Wyddech chi …?Rydyn ni eisiau i chi allu dod o hyd i’r holl wybodaeth am ein perfformiad a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn hawdd. O ganlyniad, rydyn ni wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan i chi.

Mae hyn yn cynnwys ein graffigau gwybodaeth, yr adroddiad blynyddol,

datganiadau ariannol, dyfarniad Llywodraeth Cymru ynghylch hyfywedd ariannol ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru.

I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan - www.wwha.co.uk – a chliciwch ar y ddolen ‘ein perfformiad’ ar ochr dde gwaelod y dudalen hafan.

Trwsio fy nghartref

9.5allan o 10

Perfformiad

Bodlonrwydd CwynionAdborth gan breswylwyr

yw’r sgôr a roddodd

preswylwyr i ni am y

gwasanaeth atgyweiriadau a

gawson nhw

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

Fe ddywedoch chi wrthym ni eich bod chi eisiau iddi fod yn haws i chi roi gwybod am atgyweiriadau. Mewn ymateb rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ei bod yn hawdd i chi ein ffonio ni a gwneud trefniadau ar gyfer atgyweiriadau. Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o reoli ein llwyth gwaith i sicrhau bod unrhyw amser a dreulir yn aros ar y ffôn yn ystod cyfnodau prysur yn cael ei gadw i gyn lleied â phosibl. O ganlyniad i hyn, mae pethau wedi gwella yn ystod ein cyfnod prysuraf o’r flwyddyn - yn union ar ôl gwyliau’r Nadolig. Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar hyn yn ystod misoedd yr haf sydd i ddod.

Rydych chi hefyd wedi dweud wrthym ni ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cwblhau atgyweiriadau o fewn cyfnod rhesymol o amser. Felly, i wneud hyn, rydyn ni wedi rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o reoli llwyth gwaith staff sy’n gwneud gwaith atgyweirio. Mae gan y staff hyn fwy o hyblygrwydd yn awr i drefnu eu hamserlenni gwaith fel y gallan nhw ddod yn ôl yn gyflym a chwblhau’r gwaith maen nhw wedi ei ddechrau.

Rydyn ni wedi gweld canlyniadau da a byddwn yn parhau i ddatblygu’r dull hwn mewn meysydd eraill, fel y gall pawb deimlo’r buddiannau.

Ansawdd y gwaith | Gweithiwr cwrtais a chyfeillgar | Atgyweiriadau llwyddiannus

Cwblhau atgyweiriadau’n gyflymach | Haws rhoi gwybod am atgyweiriadau | Rhagor o atgyweiriadau llwyddiannus

Beth mae preswylwyr yn dymuno ei weld yn cael ei wella

o atgyweiriadau wedi eu cwblhau

o atgyweiriadau wedi eu cwblhau’n llawn ar ein hymweliad cyntaf

0-5 diwrnod

6-10 diwrnod

11-15 diwrnod

16+ diwrnod

Nifer cyfartalog y diwrnodau y gwnaethom eu cymryd i

gwblhau atgyweiriad

Sef tua un gŵyn am bob 310 o atgyweiriadau a

gwblhawyd

7416 % days

24o gwynion

7416o atgyweiriadau a

gwblhawyd

allan o

64% 17

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

Page 20: Intouch Rhifyn 86

Trwsio fy nghartref

9.5allan o 10

Perfformiad

Bodlonrwydd CwynionAdborth gan breswylwyr

yw’r sgôr a roddodd

preswylwyr i ni am y

gwasanaeth atgyweiriadau a

gawson nhw

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

Fe ddywedoch chi wrthym ni eich bod chi eisiau iddi fod yn haws i chi roi gwybod am atgyweiriadau. Mewn ymateb rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau ei bod yn hawdd i chi ein ffonio ni a gwneud trefniadau ar gyfer atgyweiriadau. Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o reoli ein llwyth gwaith i sicrhau bod unrhyw amser a dreulir yn aros ar y ffôn yn ystod cyfnodau prysur yn cael ei gadw i gyn lleied â phosibl. O ganlyniad i hyn, mae pethau wedi gwella yn ystod ein cyfnod prysuraf o’r flwyddyn - yn union ar ôl gwyliau’r Nadolig. Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar hyn yn ystod misoedd yr haf sydd i ddod.

Rydych chi hefyd wedi dweud wrthym ni ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cwblhau atgyweiriadau o fewn cyfnod rhesymol o amser. Felly, i wneud hyn, rydyn ni wedi rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o reoli llwyth gwaith staff sy’n gwneud gwaith atgyweirio. Mae gan y staff hyn fwy o hyblygrwydd yn awr i drefnu eu hamserlenni gwaith fel y gallan nhw ddod yn ôl yn gyflym a chwblhau’r gwaith maen nhw wedi ei ddechrau.

Rydyn ni wedi gweld canlyniadau da a byddwn yn parhau i ddatblygu’r dull hwn mewn meysydd eraill, fel y gall pawb deimlo’r buddiannau.

Ansawdd y gwaith | Gweithiwr cwrtais a chyfeillgar | Atgyweiriadau llwyddiannus

Cwblhau atgyweiriadau’n gyflymach | Haws rhoi gwybod am atgyweiriadau | Rhagor o atgyweiriadau llwyddiannus

Beth mae preswylwyr yn dymuno ei weld yn cael ei wella

o atgyweiriadau wedi eu cwblhau

o atgyweiriadau wedi eu cwblhau’n llawn ar ein hymweliad cyntaf

0-5 diwrnod

6-10 diwrnod

11-15 diwrnod

16+ diwrnod

Nifer cyfartalog y diwrnodau y gwnaethom eu cymryd i

gwblhau atgyweiriad

Sef tua un gŵyn am bob 310 o atgyweiriadau a

gwblhawyd

7416 % days

24o gwynion

7416o atgyweiriadau a

gwblhawyd

allan o

64% 17

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

Page 21: Intouch Rhifyn 86

Helpwch fi i dalu

UN

ddodrefnu eu cartref

rheoli eu harian a gwneud cais am y budd-daliadau

priodol

apelio yn erbyn penderfyniadau i ddod â thaliadau

budd-daliadau i ben

Perfformiad

Cymorth CwynionPreswylwyr sy’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Fe wnaethon ni helpu preswylwyr i:

O ran talu eich rhent, fe ddywedoch chi wrthym ni ei bod yn bwysig ein bod ni’n deall eich sefyllfa, yn helpu’n gyflym ac yn rhoi gwybodaeth glir a chywir i chi.

Rydyn ni’n gwybod y gall newidiadau i incwm a Budd-dal Tai fod yn straen. Felly, rydyn ni’n gweithio gyda phreswylwyr i’w cefnogi nhw wrth symud i dderbyn Budd-dal Tai yn uniongyrchol, yn ogystal â helpu pobl i sefydlu Debydau Uniongyrchol i wneud y gwaith o gyllidebu’n haws.

Rydyn ni’n gwybod nad gwneud pethau i chi ydi’r hyn rydych chi ei eisiau, a dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda phreswylwyr i’w cefnogi a’u galluogi i reoli eu harian eu hunain. Rydym wedi darparu, ac yn parhau i ddarparu, cymorth ariannol manwl i dros 100 o breswylwyr ar unrhyw un adeg benodol.

Felly, os ydych chi angen help i reoli eich arian, cysylltwch â ni drwy ein ffonio ni ar 0800 052 2526 neu siaradwch â’ch Swyddog Tai.

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu, gyda thaliadau’n cael eu tynnu o’ch cyfrif banc ar ddyddiad wythnosol neu fisol sefydlog sy’n fwyaf addas i chi, felly nid oes rhaid i chi boeni!

0

500

1000

1500

2000

2500

3000

MarFebJan

0

10

20

30

40

50

MarFebJan

DENANTIAETHo denantiaethau ddim

mewn trefniant i dalu eu hôl-ddyledion

o denantiaethau yn talu eu rhent yn brydlon neu’n

talu eu hôl-ddyledion

Nifer yr achosion o droi allan oherwydd ôl-

ddyledion rhent

1253

0Cwyn

1253o denantiaethau ag ôl-ddyledion

allan o

89%

Pres

wyl

wyr

Ion Chwe Maw

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

Page 22: Intouch Rhifyn 86

Rydw i eisiau cartref

9.3allan o 10

Perfformiad

Bodlonrwydd CwynionAdborth gan breswylwyr

yw’r sgôr a roddodd preswylwyr i ni am ein

gwasanaeth wrth i ni ddod o hyd i gartref

iddyn nhw

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

O ran dod o hyd i gartref, fe ddywedoch chi fod deall beth sy’n gwneud yr eiddo’n iawn i chi yn bwysig.

O ganlyniad, rydyn ni wedi newid y ffordd rydyn ni’n mynd ati i gwrdd ag ymgeiswyr newydd – rydyn ni’n ceisio dod i’ch adnabod chi a’ch helpu chi i ddod i’n hadnabod ni fel landlord. Mae hyn yn ein galluogi ni a chithau i ddeall a fydd yr eiddo sydd ar gael yn addas ar gyfer eich anghenion.

Fe ddywedoch chi wrthym ni hefyd nad ydych chi eisiau teimlo dan bwysau i ruthro i wneud penderfyniad. Ein nod yw sicrhau fod pobl yn cael

cymaint o rybudd ag y bo modd ynghylch eiddo posibl, fel eich bod chi a ninnau’n cael amser i sicrhau fod popeth yn ei le ar gyfer tenantiaeth lwyddiannus yn y tymor hir.

Rydyn ni wedi gweld fod dod â’r preswylwyr sy’n gadael ac sy’n symud i mewn at ei gilydd hefyd yn gweithio, gan fod pobl yn aml yn gwneud cytundebau rhyngddyn nhw eu hunain am yr eitemau yn yr eiddo, a gall y sawl sy’n symud i mewn holi am fyw yn yr ardal ac ati.

Fe fyddwn ni’n parhau i ddefnyddio arolygon bodlonrwydd gyda’n preswylwyr newydd i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall yr hyn sy’n bwysig i breswylwyr.

Y cymorth a’r gefnogaeth a ddarperir | Nodweddion eu cartref | Lleoliad eu cartref

Atgyweiriadau wedi eu cwblhau yn gynt | Eiddo glanach | Ychydig mwy o amser i symud

Beth mae preswylwyr eisiau ei weld yn cael ei wella

o gartrefi wedi eu gosod

Ar gyfartaledd mae’n cymryd 40 diwrnod i osod eiddo a chynorthwyo

preswylwyr i sefydlu cartref

o’r amser, mae’r cartref yn addas i’r un cyntaf sy’n dod

i’w weld

0

10

20

30

40

50

Anghenion cyffredinol Tai er ymddeol Gofal ychwanegol

199

1gŵyn

199o gartrefi a osodwyd

allan o

0

10

20

30

40

50 53%di

wrn

od

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

Page 23: Intouch Rhifyn 86

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

7.4allan o 10

Perfformiad

Bodlonrwydd CwynionAdborth gan breswylwyr

yw’r sgôr a roddodd

preswylwyr i ni am y gefnogaeth

ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

a gawson nhw

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

Rydyn ni’n gweithio gyda phreswylwyr i sicrhau fod ein rôl yn eich cefnogi chi i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned yn glir ac yn effeithiol, ac yn eich annog chi i drafod a datrys materion.

Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau eraill, fel yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol, i fynd i’r afael â phroblemau ehangach neu fwy difrifol.Fe ddywedoch chi wrthym ni fod gallu siarad â’r unigolyn priodol ac ein bod ni’n deall eich

amgylchiadau personol yn bwysig i chi.

Eich Swyddog Tai yw’r un cyntaf y dylech siarad ag ef neu hi os oes gennych chi unrhyw broblem, ac fe fyddan nhw’n gweithio gyda chi i ddeall a’ch helpu chi i ddatrys y problemau.

Yn ystod tri mis cyntaf eleni, fe wnaethon ni helpu i ddatrys 12 cwyn ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ddod â phobl at ei gilydd.

Siarad gyda’r unigolyn priodol i drafod eu mater ymddygiad gwrthgymdeithasol | Ein bod ni’n ystyried amgylchiadau personol | Yr ymateb cyflym

Rhagor o weithredu i ddatrys achosion | Darparu rhagor o ddiweddariadau am yr achos

Beth mae preswylwyr eisiau ei weld yn cael ei wella

Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi eu

hagor neu eu hailagor gennym ni

Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi

eu datrys gennym ni

Y materion ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyaf

cyffredin

57 72

1gŵyn

57o achosion ymddygiad

gwrthgymdeithasol a adroddwyd

allan o

SŴNANIFEILIAID YN NIWSANS

YMDDYGIAD BYGYTHIOL

$%&@! $%&@!

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

Page 24: Intouch Rhifyn 86

Rhagor o gartrefi

8.3allan o 10

Perfformiad

Bodlonrwydd CwynionAdborth gan breswylwyr

yw’r sgôr a roddodd

preswylwyr i ni am eu cartref

newydd

Beth mae preswylwyr yn ei hoffi

Mae gennym nifer fawr o gartrefi ar y safle y byddwn yn eu cwblhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a fydd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd tai - o rent fforddiadwy i berchentyaeth cost isel.

Mae deall beth sy’n bwysig i breswylwyr newydd yn bwysig i ni, ac mae rhai o’n preswylwyr newydd wedi sôn wrthym ni am broblemau gyda pharcio a’r tirwedd.

O ganlyniad, rydyn ni’n rhoi cynnig ar wahanol ddulliau o wneud pethau’n well - o dreialu gwahanol fathau o dyweirch, i dalu mwy o sylw i ddyluniad cynlluniau ffyrdd a mannau parcio.

Rydyn ni hefyd wedi adolygu ein canllaw i ddefnyddwyr cartrefi ac wedi creu llyfryn llai o faint a haws ei ddefnyddio, sy’n cynnig arweiniad cliriach ar sut i ddefnyddio’r gwahanol gydrannau yn eich cartref, fel y bwyler a’r thermostat.

Mwy fforddiadwy na’r sector rhentu preifat | Y lleoliad | Maint y cartref

Maint y mannau parcio | Yn dymuno cael ceginau ar wahân | Ansawdd y pridd a’r glaswellt

Beth mae preswylwyr eisiau ei weld yn cael ei wella

o gartrefi yn cael eu hadeiladu

gennym ni

Rydyn ni wedi cwblhau 31 o

gartrefi newydd

Wedi dechrauWedi cwblhau 433

0cwynion

31o gartrefi newydd

a gwblhawyd

allan o

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

Page 25: Intouch Rhifyn 86

Sut rydyn ni’n rhedeg ein busnes

0

1

2

3

4

0

100

200

300

400

500

Q4 2015Q3 2015Q2 2015Q1 2015Q4 2014Q3 2014Q2 2014Q1 2014

Perfformiad

Arian a wariwyd CwynionGwerth am arian

Atgyweirio cartrefi preswylwyrPobl i gefnogi ein preswylwyrCeginau, ystafelloedd ymolchi ac offer newyddAd-dalu benthyciadau a llogAdeiladu cartrefi newyddRhedeg ein busnes

0

1

2

3

4

0

100

200

300

400

500

Q4 2015Q3 2015Q2 2015Q1 2015Q4 2014Q3 2014Q2 2014Q1 2014Q12014

£ a wariwyd fesul cartref

Q22014

Q32014

Q42014

Q12015

Q22015

Q32015

Q42015

Faint mae’n gostio fesul cartref i redeg ein busnes

3

2

1

Ein nod yw rhedeg ein busnes yn effeithlon a defnyddio ein harian yn ddoeth. Mae’r rhan fwyaf o’n hincwm yn cael ei wario ar gynnal a chadw cartrefi naill ai drwy wneud atgyweiriadau neu welliannau fel adnewyddu ceginau, ystafelloedd ymolchi neu ffenestri. Rydyn ni hefyd yn gwario rhywfaint o’n hincwm ar adeiladu cartrefi newydd a thalu’r morgeisi sydd gennym ar eiddo sydd eisoes yn bodoli.

Rydyn ni’n adolygu gwariant a’n costau yn rheolaidd i wneud arbedion a chyfyngu ar gynnydd posibl mewn costau. Mae’r graff

gwerth am arian uchod yn dangos ein bod ni wedi cadw cost rheoli’r busnes bron yn gyson, sef tua £200 yr eiddo yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf er gwaethaf cynnydd mewn prisiau mewn sawl maes.

Rydyn ni wedi newid ein prosesau fel y gallwn ateb galwadau yn gyflymach, gan ein bod ni’n gwybod fod hyn yn bwysig i breswylwyr. Mae amser galwadau wedi haneru ar gyfartaledd a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y maes hwn. Ein cyfnodau prysur yw ben bore, ac mae galwadau’n cael eu hateb yn gynt yn ddiweddarach yn y dydd.

o alwadau wedi eu hateb yn ystod y

chwarter hwn

Yr amser cyfartalog y gwnaethon ni ei gymryd i ateb

eich galwadau

Galwadau atgyweiriadau

0

1

2

3

4

0

100

200

300

400

500

Q4 2015Q3 2015Q2 2015Q1 2015Q4 2014Q3 2014Q2 2014Q1 2014

0

1

2

3

4

0

100

200

300

400

500

Q4 2015Q3 2015Q2 2015Q1 2015Q4 2014Q3 2014Q2 2014Q1 2014

Pob galwad arall

Ein cyfnodaugalw prysuraf

29,591

9yb 11yb

10yb 10yb

£

11yb

9yb

cwyncyfanswm o

yn ystod ychwarter hwn

Mun

ud

Rheoli Cynnal a Chadw Arall

400

500

300

200

100

Chwarter 1 (Ionawr - Mawrth 2016)

29Cwynion

Ion Chwe Maw

Page 26: Intouch Rhifyn 86

26 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol

Gan weithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, mae’r fenter dau ddiwrnod yn caniatáu i breswylwyr ifanc 16-24 oed roi cynnig ar nifer o grefftau’n gysylltiedig ag adeiladu, ynghyd â phrosiect dylunio ac adeiladu bychan i’w helpu nhw i fod yn fwy parod am swydd.

Preswylwyr yn rhoi cynnig ar grefft! Bu preswylwyr o Gaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn ein menter newydd gyffrous ‘Meithrin eich sgiliau, rhoi cynnig ar grefft’ yn ddiweddar.

Ar y diwrnod cyntaf, cafodd y grwpiau brofiad o amrywiaeth o’r rolau mae Cambria yn eu cyflawni; o osod brics i waith saer a theilsio. Cafodd preswylwyr gyfle i roi cynnig ar bethau a gweld a fydden nhw’n hoffi gyrfa ym maes cynnal a chadw tai.

Pennaeth Cambria Peter Jackson (ar y dde) yn dangos i un o’n preswylwyr sut i fynd ati

Page 27: Intouch Rhifyn 86

Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Ar yr ail ddiwrnod fe wnaeth y grŵp gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r enw ‘Llunio Prosiect’, lle’r oedden nhw’n cael briff i greu daliwr ffôn symudol, gan geisio ei werthu wedyn i banel yn arddull ‘Dragon’s Den’.

Yn dilyn y rhaglen ddeuddydd, fe gawson nhw hefyd y cyfle i gwblhau profiad gwaith ar y safle gyda Cambria yn eu dewis o faes.

Dywedodd Matthew, un o’n preswylwyr a gymerodd ran yn y fenter: “Fe wnes i fwynhau’r ddau ddiwrnod yn fawr iawn. Cefais y cyfle i roi cynnig ar nifer o grefftau gwahanol, nad oeddwn i byth yn credu y byddwn i’n cael y cyfle i’w gwneud nhw.

“Fe wnes i gwrdd â phobl wych hefyd. Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu rhagor yn ystod fy mhrofiad gwaith! “

Dywedodd Peter Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria:

“Mae cynnig cyfle i’n preswylwyr brofi a rhoi cynnig ar amrywiaeth o sgiliau ymarferol wedi bod yn bleser o ddifrif.

“Rhan fawr o Cambria yw meithrin ei staff ei hun, a dim ond dechrau ar fuddsoddi sy’n annog unigolion i symud ymlaen i leoliad gwaith llawn amser ym maes cynnal a chadw tai yw’r fenter hon.”

Dywedodd Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn WWH: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu preswylwyr o bob rhan o Dde Cymru i’n digwyddiad ‘Meithrin eich sgiliau, rhoi cynnig ar grefft’ cyntaf.

“Mae’n gyfle gwych i ddatgloi potensial pobl ifanc yn ein cymunedau, gan roi sgiliau defnyddiol iddyn nhw a meithrin eu hyder.”

Bydd gennym yr un cyfle ffantastig i ‘feithrin eich sgiliau, rhoi cynnig ar grefft’ ar gyfer ein preswylwyr yng Ngogledd Cymru yn fuan. Felly os ydych chi’n 16-24 oed ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn adeiladu, beth am i chi ddod draw?

Bydd y sesiwn flasu dros ddau ddiwrnod yn cael ei chynnal ddydd Iau 9 Mehefin a dydd Gwener 10 Mehefin yn Ngholeg Cambria yng Nghei Connah, Glannau Dyfrdwy.

Yn ogystal bydd cyfle i fynd ar leoliad gwaith gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, yn seiliedig ar wythnos

Fyddech chi’n hoffi meithrin eich sgiliau a rhoi cynnig ar grefft yng ngogledd Cymru?

waith 40 awr yn cychwyn ddydd Llun 20 o Fehefin.

Er mwyn cofrestru i gymryd rhan, cysylltwch â Frances Maclean, y Swyddog Buddion Cymunedol, drwy:

- Rhadffôn 0800 052 2526

- E-bost [email protected]

- Ewch i www.wwha.co.uk ac ewch i’n hadran ‘Barod am Waith’

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener 3 Mehefin 2016.

Page 28: Intouch Rhifyn 86

28 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol

Diddordeb mewn gyrfa ym myd y gyfraith?Mae’r cwmni cyfreithiol Blake Morgan yn cynnal cynllun lleoliad gwaith ar gyfer pobl ifanc 15-18 oed ym mis Gorffennaf 2016.Bydd y cynllun yn gyfle i chi dreulio diwrnod ym mywyd un o gyfreithwyr y cwmni, cwrdd â hyfforddeion a dysgu sut gwnaethon nhw ddechrau ar eu gyrfa ym myd y gyfraith, cymryd rhan mewn gweithdai a chael awgrymiadau ar dechnegau cyfweld a chwblhau ceisiadau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter, Alun Harries, ar 0800 052 2526.

Page 29: Intouch Rhifyn 86

Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Beth yw’r manteision?• Mae’r cyfrifon wedi eu cynllunio

i’w gwneud yn haws i reoli arian. Nid oes ganddyn nhw gyfleuster gorddrafft, felly ni fyddwch chi’n gallu gwario arian nad yw gennych chi, ac ni allwch chi fynd i ddyled

• Bydd yn eich galluogi chi i dalu eich biliau drwy Ddebyd Uniongyrchol, talu sieciau i mewn am ddim a chymryd arian allan neu weld eich balans mewn man arian parod gyda cherdyn debyd.

• Ni chodir tâl arnoch os bydd Debyd Uniongyrchol yn methu (os nad yw’r trafodyn yn cael ei wneud oherwydd diffyg arian)

Manteision cyfrif banc Yn gynharach eleni, cafodd cyfrifon banc sylfaenol heb ffioedd eu lansio. Maen nhw ar gael i bobl nad oes ganddyn nhw gyfrif banc safonol, sy’n anghymwys i gael cyfrif, neu nad ydyn nhw’n gallu defnyddio eu cyfrif banc cyfredol oherwydd anawsterau ariannol.

Sut mae modd cael un o’r cyfrifon hyn?Fe allwch chi sefydlu cyfrif banc heb ffioedd heddiw gan fod bron pob un o fanciau’r stryd fawr yn cynnig y cyfrifon hyn, sy’n eich galluogi chi i gael eich cyflog, eich budd-daliadau neu eich pensiwn yn syth i gyfrif banc.

Credyd CynhwysolOs ydych chi’n cael budd-daliadau, byddwch angen cyfrif banc yn barod ar gyfer pan fyddwch chi’n symud i’r cynllun Credyd Cynhwysol newydd. Mae hyn oherwydd bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi ac mae’n rhaid i chi wedyn wneud eich trefniadau eich hun i dalu eich rhent.

Cewch ragor o wybodaeth am gyfrifon banc heb ffioedd drwy fynd i www.moneyadviceservice.org.uk neu eu ffonio nhw ar 0800 138 7777.

Peidiwch ag anghofio fod ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth hefyd wrth law i’ch helpu a rhoi cyngor ariannol i chi. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 0800 052 2526 neu e-bostiwch [email protected]

Page 30: Intouch Rhifyn 86

30 | www.wwha.co.uk | intouch | | Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Gwneud gwahaniaeth… yng Nghwrt Andrew BuchanMae’r gerddi cymunol yng nghynllun er ymddeol Cwrt Andrew Buchan, y Rhymni, wedi cael ei drawsnewid yn fwrlwm o weithgarwch, diolch i gyllid gan WWH.

Yn ystod yr hydref y llynedd, bu preswylwyr a staff WWH yn gweithio’n galed i adeiladu llwybr hygyrch, tŷ gwydr, sied a gwely plannu wedi ei godi, wedi ei gyllido gan ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd.

Mae’r grŵp garddio yn y cynllun yn ffodus o gael arbenigwyr yn eu plith - Royston Hill a Lyndon Harry - sydd ill ddau wedi hyfforddi i fod yn arddwriaethwyr cymwys fel myfyrwyr aeddfed. Ynghyd â’r garddwr profiadol Alan Fisher, maen nhw yn awr yn tyfu amrywiaeth o ffrwythau, llysiau a blodau fel y gall preswylwyr fwyta’n iach a mwynhau’r ardd brydferth.

Yn ddiweddar hefyd, mae Rhostiwn ac Alan, ynghyd â Linda, gwraig Alan, ac un arall o’u cyd-breswylwyr, Pat Thomas, wedi llwyddo yn eu harholiadau Lefel 2 Diogelwch Bwyd fel y gallan nhw wneud danteithion blasus ar gyfer digwyddiadau yn yr ardd, diolch i arian drwy ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned.

Mae Alan a Royston hefyd wedi bod ar gwrs hyfforddi cadw gwenyn i gael gwybod mwy am gael cwch gwenyn yn eu cynllun. Bu’r grŵp hyd yn oed yn gwerthu eu planhigion yn ein Prif Swyddfa yn ddiweddar i godi arian ar gyfer eu gweithgareddau garddio yn y dyfodol.

Page 31: Intouch Rhifyn 86

Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned | intouch | www.wwha.co.uk | 31

Dywedodd rai o breswylwyr Cwrt Andrew Buchan: “Mae Royston, Alan, Lyndon a’r gwirfoddolwyr eraill wedi gwneud gwaith gwych yn yr ardd. Mae pawb yn dweud mor wych mae’n edrych. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth mae Tai Wales & West wedi ei roi i ni.

“Rydyn ni’n mwynhau dysgu mwy, ac mae gweithio yn yr ardd yn ein helpu ni i gael awyr iach, ymarfer corff ac yn bwysicaf oll, cyfeillgarwch. Mae’n wych ar gyfer ein hiechyd a’n lles.”

Os hoffech chi Wneud Gwahaniaeth fel preswylwyr Cwrt Andrew Buchan, mae yna lawer o ffyrdd y gallwn eich helpu chi.

Gall ein grantiau dalu am eitemau rydych chi eu hangen i ddatblygu gardd gymunedol, dysgu sgiliau newydd a chynnal gweithgareddau cymunol. Felly, os oes rhywbeth y byddech chi a’ch cyd-breswylwyr yn hoffi rhoi cynnig arno yn ystod yr haf eleni, yna cysylltwch â ni i weld a allwn ni helpu!

Os ydych chi angen hyfforddiant i’ch helpu chi i ddysgu mwy am eich gweithgareddau, gallwn hyd yn oed:

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut gallwn ni helpu, cysylltwch â Claire Hammond ar:• E-bost: [email protected]• Ffôn: 0800 052 2526• Testun: 07766 832 692

Darparu trafnidiaeth (gan gynnwys trafnidiaeth hygyrch) neu filltiroedd ar gyfradd sy’n ystyried y draul ar eich cerbyd

Talu am ofal plant a chostau gofal

Darparu gwybodaeth yn y ffordd rydych chi ei angen (e.e. ieithoedd, sain, Braille ac ati)

Gwneud hyfforddiant a gweithgareddau’n hygyrch, wedi eu teilwra ar gyfer anghenion unigol

Talu am hyfforddiant a ffioedd cynadleddau

Talu am lety dros nos a gwneud y trefniadau

Page 32: Intouch Rhifyn 86

32 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Cynnal a chadw wedi’i gynllunioIsod, rhestrir yr eiddo rydyn ni’n bwriadu eu huwchraddio rhwng Ebrill a Mehefin 2016: CeginauCaerau Court Road, Caerdydd (tai)

Caerau Court Road, Caerdydd (eiddo yn y tŵr)

Cwrt Berllan, Prestatyn

Ystafelloedd ymolchiPowys Close, Glannau Dyfrdwy

Radnor Close, Glannau Dyfrdwy

Wilfred Brook House, Caerdydd

Ffenestri/Ymylon toeauCelyn Avenue, Caerdydd (ynghyd â gwaith mawr yn cael ei gynnal yn y cynllun)

Fairleigh Court, Caerdydd

Fields Park Road, Caerdydd

Maelor Place, Rhiwabon

“Mae fy nrysau newydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth!”Yn ddiweddar fe wnaeth Snowdonia Windows osod drysau newydd yn lle’r hen rai yn Scotts Close, Marchwiail, Wrecsam, fel rhan raglen cynnal a chadw wedi ei gynllunio Tai Wales & West. Roedd y preswylwyr wrth eu bodd.

Dywedodd Caroline Jeffs, un o’r preswylwyr, sy’n 46 oed: “Roedd fy nghyntedd yn eithaf tywyll yn flaenorol. Mae’r drysau ffrynt a chefn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i oleuni’r tŷ. Roedd tîm Snowdonia Windows mor gyfeillgar a chymwynasgar. Rydw i’n falch iawn gyda’r gwaith. “

Page 33: Intouch Rhifyn 86

PH Jones Prize Draw | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Cam 1 Chwiliwch am darddiad y broblemMae angen gollwng aer o bob system yn achlysurol. Yr arwyddion nodweddiadol yw pan fydd hi’n cymryd llawer iawn o amser i wresogi a/neu os ydi’r rheiddiaduron yn oerach yn eu rhannau uchaf.

Cam 3 Diff oddwch eich gwresMae’n bwysig iawn eich bod chi’n diff odd eich gwres cyn i chi fynd i’r cam nesaf. Fel arall, rydych chi mewn perygl o anafu eich hun a/neu gael dŵr dros y llawr i gyd.

Cam 5 Caewch y falfFe ddylech chi glywed yr aer yn dianc. Cadwch olwg pan fydd yr aer olaf yn dianc – wrth i’r dŵr poeth deithio i fyny i wthio’r aer allan, mae’n gwneud ei ff ordd i fyny at y falf lle mae eich dwylo. Unwaith y bydd dŵr yn dechrau diferu allan, caewch y falf yn gyfl ym. Ailadroddwch y camau hyn yn ôl yr angen ar reiddiaduron eraill.

Aseswch bob rheiddiadurTaniwch eich system wresogi. Aseswch bob rheiddiadur drwy gyff wrdd y pen a’r gwaelod (byddwch yn ofalus rhag i chi losgi eich hun), gan weld a oes anghysonderau o ran cynhesrwydd.

Cam 2

Gollyngwch yr aerEstynnwch am allwedd y rheiddiadur ac ambell glwt/lliain. Gosodwch yr allwedd yn y rhigol yn y falf ar ben eich rheiddi-adur. Daliwch un lliain ar waelod y falf i ddal diferion; un arall i amddiff yn eich dwylo. Trowch yr allwedd yn araf, yn groes i gyfeiriad y cloc.

Cam 4

Gwiriwch y pwyseddYn olaf, edrychwch ar fesurydd eich bwyler - os yw’r pwysedd yn rhy isel ar ôl gwaedu, bydd angen i chi ei ‘gynyddu’. Addaswch y lefel gan ddefnyddio’r ddolen llenwi - dilynwch gyfarwyddiadau gwneuthurwr eich bwyler.

Cam 6

Sut i ollwng aer o reiddiaduronSut i ollwng aer o reiddiaduron

Dilynwch y camau syml hyn i ollwng (neu “waedu”) aer o’ch

rheiddiaduron i sicrhau bod eich system wresogi yn eff eithlon ac yn gweithio i’w photensial llawn.

Peidiwch â gadael i aer wedi ei ddal greu traff erth yn eich bwyler a gyda’ch biliau gwresogi!

Page 34: Intouch Rhifyn 86

34 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Fitters Direct yn synnu preswylwyr drwy ailwampio eu garddRhoddodd staff un o’r contractwyr sy’n bartneriaid i WWH syrpreis hyfryd i breswylwyr yn ddiweddar drwy ailwampio gardd gymunol.

Bu Fitters Direct Integrated Services (FDIS) yn ddigon caredig i ymgymryd â’r prosiect heb unrhyw gost yn Llys Hebron ym Mhentre, Rhondda.

Treuliodd pedwar aelod o dîm FDIS y penwythnos yn gweithio’n galed i wella’r ardd yn sylweddol, gan ymgymryd â gwaith sy’n werth bron i £2,500.

Fe wnaethon nhw dynnu paent diffygiol o’r brif wal yn ofalus, mynd â darnau o hen bren oddi yno a chlirio chwyn, cyn gwneud border â thrawstiau rheilffordd a llenwi’r lle â phridd gorau ffres yn barod ar gyfer plannu. Fe wnaeth y tîm hefyd osod pilen mewn tair ardal

a oedd yn edrych yn flinedig, gosod carreg addurnol newydd ac adeiladu patio. Fe wnaeth FDIS hyd yn oed roi dodrefn awyr agored ar gyfer y patio, fel y gall preswylwyr fwynhau heulwen yr haf.

Roedd preswylwyr yn y cynllun er ymddeol yn wirioneddol ddiolchgar am y gwaith, ac fe wnaethon nhw ofalu am y bechgyn gyda llawer o ganmoliaeth, te a bisgedi.

Dywedodd Steve Donaldson, Rheolwr Gyfarwyddwr FDIS: “Ar ôl gweithio gyda Tai Wales & West am oddeutu naw mlynedd roedd yn bleser llwyr cael bod yn rhan o’r prosiect yn yr ardd a helpu’r preswylwyr.”

Diolch yn fawr iawn gan ein preswylwyr a WWH hefyd!

Page 35: Intouch Rhifyn 86

Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Preswylwyr yn cynnal arwerthiant planhigion i staff WWH!Fe wnaeth y grŵp garddio dawnus o Gwrt Andrew Buchan, y Rhymni, ymweld â’n prif swyddfa yng Nghaerdydd yn ddiweddar i gynnal arwerthiant planhigion arbennig ar gyfer y staff.

Yn y digwyddiad, gwerthwyd gwahanol fathau o eginblanhigion, a oedd wedi cael eu tyfu yn y cynllun er ymddeol gan breswylwyr dawnus yn yr ardd.

Mae’r ardd gymunol yng Nghwrt Andrew Buchan wedi bod yn llwyddiant mawr, a chafodd ddechreuad da diolch i waith caled ac ymroddiad y preswylwyr yn ogystal ag arian drwy ein grantiau Gwneud Gwahaniaeth.

Llwyddodd y preswylwyr i godi £66.30, a fydd yn awr yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn yr ardd gymunol.

Dywedodd Royston Hill, sy’n un brif arddwyr y grŵp: “Roedd staff Tai Wales & West mor garedig a chyfeillgar – fe wnaeth hyd yn oed y rhai nad oedd yn gwybod llawer am arddio ddod i’n gweld ni i wneud cyfraniad.

“Yn ogystal â chodi £66.30 tuag at ein cronfeydd, roedd modd i ni hefyd roi ychydig o blanhigion i elusennau lleol eraill, a oedd yn golygu hyd yn oed mwy i mi.

“Mae helpu grwpiau eraill yn ein cymunedau yn hollbwysig i mi - ac mae Tai Wales & West nid yn unig yn fy helpu i gael fy mywyd a’m hiechyd ar y trywydd iawn, ond mae hefyd yn rhoi’r cyfle i mi helpu pobl eraill.”

Page 36: Intouch Rhifyn 86

36 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Kathy yn helpu preswylwyr crefftus!Mae 21 o’n grwpiau crefft wedi cael hwb gan rodd feddylgar gan Gadeirydd y Bwrdd, sy’n gorffen ei thymor o 4 blynedd fel Cadeirydd ym mis Mai.Mae Kathy Smart yn camu i lawr fel Cadeirydd ac aelod o’n Bwrdd ar ôl gwasanaethu am y cyfnod hiraf a ganiateir, sef 13 mlynedd, ac mae wedi rhoi rhodd ffarwel hyfryd o ddeunyddiau ac offer gwerth £50 y grŵp i’r grwpiau crefft.

Dywedodd Kathy: “Dewisais ein grwpiau crefft oherwydd eu bod yn hybu cyfeillgarwch ac yn gallu cyrraedd llawer o breswylwyr yn ein cynlluniau. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gwrdd â merched o grwpiau crefft lleol yn swyddfa WWH yng Nghaerdydd yn ddiweddar sy’n gwneud cardiau, gemwaith ac eitemau wedi eu gwau. Rodd eu cardiau cyfarch mor hyfryd fel fy mod i wedi prynu sawl un, gan roi’r cyfle iddyn nhw wneud mwy er mwyn talu am wledd Nadolig.”

Fe wnaeth Kathy, ynghyd â’n Prif Weithredwr Anne Hinchey, gyfarfod ag aelodau o grwpiau crefftau Craftynanas.com (Caerdydd), Crafty Tuesdays (y Barri) a Langford Close (Wrecsam). Cafodd y ddwy gwmni aelodau o’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr a oedd yn awyddus i weld beth maen nhw’n ei wneud.

Fel y gwelwch o’r lluniau, mae’r crefftwyr clyfar yn creu amrywiaeth eang o gardiau, placiau a theganau, y maen nhw’n eu gwerthu i godi arian ar gyfer gweithgareddau yn eu cynlluniau ac ar eu stadau.

Dywedodd Barbara Edwards o’r grŵp Crafty Tuesdays: “Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi cael gwahoddiad i Gaerdydd i dderbyn grant hael Kathy a dangos ein gwaith. Y mae wedi bod yn brofiad ysbrydoledig iawn cyfarfod ag eraill sydd â diddordebau tebyg! Rydyn ni wrth ein bodd yn herio ein hunain gyda phrosiectau newydd ac yn gwerthfawrogi’r cymorth a’r cyllid a gawsom gan Tai Wales & West.”

Page 37: Intouch Rhifyn 86

Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Te, Trafod a Thechnoleg yn Constantine Court!Daeth preswylwyr Constantine Court ac aelodau eraill o’r gymuned leol yn y Rhondda at ei gilydd yn ddiweddar yn lolfa gymunol y cynllun ar gyfer cael te, trafod a thechnoleg.Roedd y digwyddiad yn arbennig ar gyfer pobl dros 50 oed a’r rhai sydd â diddordeb mewn dod i wybod mwy am grwpiau a gweithgareddau lleol.

Roedd tîm Phoenix Initiative (a ddangosir uchod) hefyd wrth law i helpu pobl i wella eu sgiliau technoleg, ochr yn ochr â nifer o asiantaethau eraill oedd â llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer aelodau’r gymuned.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol baned neis o de a digon o gacennau hyfryd, wrth iddyn nhw gael y cyfle i sgwrsio a chwrdd â phobl newydd.

Diolch Dymuna Richard Lambert, un o’n preswylwyr ym Mhenrhyn/Headland, Mynydd Cynffig, ddiolch i gymdogion am eu caredigrwydd yn ystod cyfnod anodd iawn.

Bu farw gwraig Richard ym mis Mawrth, ac fe wnaeth cymdogion

caredig gasglu arian i fynd ag ef a’i bedwar o blant allan am ddiwrnod, yn ogystal â phrynu arddangosfa flodau hardd ar gyfer yr angladd.

Dywed Richard fod pawb wedi bod yn anhygoel, yn enwedig teulu rhif 17, a chafodd y plant ddiwrnod hyfryd allan, ac roedd y blodau’n wirioneddol syfrdanol.

Hoffai’r teulu ddiolch yn ddiffuant i bawb am eu meddyliau caredig a’u haelioni.

Page 38: Intouch Rhifyn 86

38 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Blas ar y Pasg yn Llys Hafren

Dathlodd Preswylwyr Llys Hafren y Pasg gyda phryd o fwyd blasus.Paratôdd Mrs Sherrie Jones a Rheolwr y Cynllun, Amy Parry, bryd o fwyd 2 gwrs i dros 20 o breswylwyr. Fe wnaethon nhw hefyd gynnal cystadleuaeth addurno teisen.

Cynth yn ffarwelio ar ôl 33 mlynedd â WWH!

Fe wnaeth Cynth Preston, swyddog gweinyddol yn ein swyddfa yn y Fflint, ymddeol yn ddiweddar ar ôl y swm anhygoel o 33 mlynedd o waith i Tai Wales & West.

Dywedodd Cynth: “Rydw i’n falch iawn o fod wedi gweithio i Tai Wales & West - mae’r staff wedi bod yn wych a byddaf yn gweld eisiau pawb.”

Dymunwn bob llwyddiant i chi ar gyfer eich ymddeoliad, Cynth!

Page 39: Intouch Rhifyn 86

Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Bu rhai o breswylwyr Western Court ar ymweliad hyfryd â’r Rhosan ar Wy yn ddiweddar. Dyma un o’r preswylwyr, Marjorie Holtham, yn adrodd hanes eu taith...Ar fore hyfryd o wanwyn ddydd Gwener 8 Ebrill aethom ar fws VEST Caerdydd (Trafnidiaeth Gwasanaethau Brys Gwirfoddol) i Hotel Merton House - prosiect gwasanaeth cymunedol nid er elw yn y Rhosan ar Wy.

Fe wnaethom gyrraedd cylchfan y Rhosan ar Wy a throi i fynd ar Ffordd Wilton a thros y bont. O’n blaenau ni roedd ehangder llif llawn Afon Gwy, gyda’r dref ymhellach ymlaen a meindwr eglwys uchel i’w weld ar y bryn.

Fe wnaethom droi i’r chwith wrth gerflun mawr o bysgodyn piwter symudliw a gwyrdd, ac roedd y gwesty rownd y gornel.

Cawsom groeso mawr a chinio pysgod a sglodion wedi ei weini â gwasanaeth arian, rholiau bara cynnes gyda menyn, a tharten Bakewell a chwstard i ddilyn, a digon o de.

Yna, fe wnaeth Graham y rheolwr fynd â ni o gwmpas y gerddi hyfryd gyda mynediad gwastad, a oedd yn edrych dros yr afon. Mae’r holl ystafelloedd yn y gwesty wedi cael eu hadnewyddu i safon uchel yn ddiweddar, ac mae’r cyfleusterau en suite wedi cael eu cynllunio i gwrdd ag anghenion pawb.

Yn y cyntedd roedd rhes o sgwteri symudedd cymunol ac mae gan y gwesty fws tebyg i’r bws VEST gyfer gwibdeithiau.

Trefnir adloniant ar gyfer gwesteion, ac fe wnaeth y rhai a oedd yn aros yno ar y pryd ddweud wrthym eu bod nhw’n falch iawn. Roedd y staff yn garedig iawn ac roedden nhw’n cael amser da.

Aethom i ganolfan werthu Labels wedyn am rywfaint o therapi manwerthu; yn llythrennol mae’n bum munud o daith o’r gwesty.

Cawsom ddiwrnod hyfryd, ac ar y ffordd yn ôl wrth i ni nesáu at Gymru cawsom ein cyfarch gyda chlawdd o gennin Pedr a oedd yn ymddangos fel pe bai’n dal i fynd am filltiroedd.

Gwefan gwesty Merton House yw www.mertonhouse.org os hoffech gael golwg arni drosoch chi eich hunan.

Marjorie Holtam

Preswylwyr yn uno am daith i’r Rhosan ar Wy

Page 40: Intouch Rhifyn 86

40 | www.wwha.co.uk | intouch Making a Difference to Your Community

Pwy yw eich arwr chi?Enwebwch nhw nawr!

TI enwebu rhywun, cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu ffoniwch yr Adran Cysylltiadau

Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526

#MADAwards16

Cymydog daByw’n wyrddArwr lleolProsiect cymunedol

Seren ddisglairDechrau o’r newyddCamau at lwyddiant(newydd ar gyfer 2016)