Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf Cefnogi plant, pobl ifainc a theuluoedd yn ardal CWM TAF Fersiwn sy'n addas i blant a phobl ifainc Bydd RhCT a Merthyr Tudful (CWM TAF) yn gweithio gyda'i gilydd i wneud newidiadau er budd plant, pobl ifainc, teuluoedd a'u cymunedau. Gofynnon ni i blant, pobl ifainc ac oedolion am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Llunion ni strategaeth i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth sy'n digwydd. Dyma'r 3 phrif beth pwysicaf: 1. Y cymorth gorau posibl ar gyfer pobl sydd ei angen 2. Cymorth ar gael i bobl ar unwaith 3. Cymorth gwahanol ar gyfer pobl wahanol