Gwna Coleg y Cymoedd bob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir adeg ei argraffu. Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'nôl unrhyw un o'r cyrsiau, cyfleusterau cwrs neu gymorth a ddisgrifir heb rybudd. Bydd y wefan www.cymoedd.ac.uk bob amser yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Ein gweledigaeth yw bod yn goleg ardderchog sy'n canolbwyntio ar lwyddiant y dysgwr
Mae cynllunio eich dyfodol yn gyffrous ac ychydig yn frawychus.Mae llawer i'w ystyried - pa lwybr gyrfa i'w ddilyn, ble i astudio, pagwrs i'w wneud. Yma yn CYC, rydym yma i'ch helpu i wneud y dewiscywir.
P'un a ydych eisoes yn gwybod yr hyn yr hoffech ei wneud, neu’n dal ifeddwl, rydym yma i'ch helpu yng ngham nesaf eich taith.
Mae gennym ystod enfawr o bynciau ar gael a phobl eithriadol yn euhaddysgu. Rhown eich llwyddiant wrth wraidd popeth a wnawn, acmae hynny'n golygu darparu'r cyfleoedd gorau ichi ennill y sgiliau, ywybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Gobeithio bydd y canllaw hwn o ddefnydd ichi pan fyddwch ynystyried eich opisynau, yn dysgu sut beth yw bywyd coleg ac yngweld sut y gallwch gyrraedd eich nodau a chyflawni'ch uchelgais.
Campws Aberdâr Wellington Street, Aberdâr,Rhondda Cynon Taf, CF44 8EN
Ffôn: 01685 887500
Campws Nantgarw Heol y Coleg, Parc NantgarwCaerdydd, CF15 7QX
Ffôn: 01443 662800
Campws Rhondda Llwynypia, TonypandyRhondda Cynon Taf, CF40 2TQ
Ffôn: 01443 663202
Campws Ystrad Mynach Heol y Twyn, Ystrad MynachHengoed, CF82 7XR
Ffôn: 01443 816888
"Croesawn alwadau yn y Gymraeg” “We welcome calls in Welsh"
Einlleoliadau...
Gwneud Cais i’r ColegDerbynnir ceisiadau o 1 Tachwedd bob blwyddyn. Ar-lein yw’r ffordd hawsaf o wneud cais, ond gallwchein ffonio neu alw heibio unrhyw bryd i gael cyngorar gyrsiau ac astudio yn y coleg. Rydym yn dechraucyfweld ym mis Ionawr, ac mae llawer o'n cyrsiau'nllenwi'n gyflym, felly gwnewch gais cyn gynted ag ybo modd.
Digwyddiadau AgoredMae Diwrnodau Agored yn gyfle ichi ymweld â'r coleg,dysgu mwy am ein cyrsiau a chwrdd â'n staff. Mae'nffordd wych o gael blas ar fywyd coleg, a byddwn ynateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Nid oes angenbwcio lle, dim ond galw heibio ar y diwrnod. Edrychwch ar ein gwefan am ddyddiadau acamseroedd www.cymoedd.ac.uk/open
Beth mae rhieni’n ei ddweud:"Rwyf am ddweud diolch yn fawr i Goleg y Cymoedd am y gefnogaeth a roddwyd i'mmerch Meg dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ers iddi fod yn blentyn bach, mae Meg wedi bod yn llawn cymhelliant a ffocws, acmae'r coleg wedi ategu hyn gyda'r gefnogaeth wych a ddarparwyd ganddynt - byddafyn ddiolchgar am byth. Mae canlyniadau Meg yn fwy nag y gallem fod wedi dymunoamdanynt ac rydym i gyd yn gyffrous iawn i weld beth a ddaw yn y dyfodol. "
Allison McCarthy (enillodd ei merch le i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen)
Shwmae Mae eich dyfodolyn dechrau yma...
DEWISdros 400 o gyrsiau galwedigaethol a Safon Uwch.
ARBENIGEDDathrawon medrus sy’n benderfynol o'ch helpu i gyflawni.
CEFNOGAETHstaff cefnogi ymroddedig pryd bynnag y byddeu hangen arnoch.
PARTNERIAETHAUcysylltiadau rhagorol â chyflogwyr aphrifysgolion ledled y Du.
CYFLEUSTERAUcyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar drawspob campws.
DYSGU AT DDIBEN carreg gamu i brifysgol, prentisiaeth neu
gyflogaeth.
ADOLYGIADAU CYNNYDD sesiynau tiwtorial rheolaidd i sicrhau eich bod
ar y trywydd iawn ac yn ymdopi â'r cwrs.
LLWYDDIANTbyddwn yn disgwyl ichi weithio'n galed ondbyddwn hefyd yn gweithio'n galed gyda chi
i'ch helpu i gyflawni'ch potensial.
PROFIAD GWAITHmynychu lleoliadau profiad gwaith gydachyflogwyr, neu yn ein salonau a bwytai
proffesiynol ar y safle.
RHAGLEN GYFOETHOGI Dylai dysgu fod yn hwyl hefyd. Mae pob
campws yn cynnig gweithgareddau allgyrsiolyn ogystal â'ch cwrs.
Gwybodaeth i Rieni Rhesymau i astudio ungNgholeg y Cymoedd?
Yng Ngholeg y Cymoedd, fe wnawn bopeth a allwn iwneud yn siŵr:
• bod y pontio mor llyfn â phosib i chi’ch dau
• y cewch chi a'ch rhieni eu cefnogi drwy gydol eich cwrs
Byddwn hefyd yn darparu:
• staff cymwysedig, profiadol ac ymroddedig
• safonau ardderchog o addysgu a dysgu
• cymorth dysgu ychwanegol pan fo angen
• system diwtorialau strwythuredig gan gynnwys adolygiadau 1: 1 rheolaidd
• cefnogaeth i ymgeisio i'r brifysgol
• cefnogaeth i symud ymlaen i gyflogaeth
• amgylchedd dysgu ardderchog, llawn technoleg gyda chyfleusterau ac adnoddau o safon diwydiant
• cysylltiadau ardderchog â diwydiant
• tiwtoriaid personol ar gyfer pob dysgwr – sy’n cynnig arweiniad, cefnogaeth ac anogaeth.
• nosweithiau cynnydd / rhieni ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau
• mynediad at eich tiwtor personol ar unrhyw adeg i chi a'ch rhieni chi
Rydym yn cynnig y garreg gamu hanfodol honno i waithneu brifysgol
Mae penderfynu mynd i'r coleg a pharhau agaddysg yn benderfyniad mawr i chi a'ch rhieni.
Beth mae rhieni'n eiddwud?“Byddem yn disgrifio Coleg y Cymoedd fel coleg sy’nymfalchïo yn ei fyfyrwyr ac felly mae’n ymroddedig ac ynangerddol ynglŷn â helpu datblygu eu potensial iberfformio hyd eithaf eu gallu.
Mae gan y coleg aelodau o staff cymwys, profiadol acymroddedig a oedd yno i’n mab bob amser, gan annog eiyrfa academaidd a’i yrfa chwaraeon. Gyda chefnogaeth ycoleg enillodd y graddau uchaf posibl sydd wedi ei alluogi iddilyn ei yrfa mewn Meddygaeth, a bod yn gapten tîmrygbi dan 18 Cymru, gan ennill pedwar cap rygbirhyngwladol dros Gymru.
Cymeradwywn Goleg y Cymoedd am ei ragoriaeth a’igefnogaeth amhrisiadwy”.
Adam a Linda Haggett
CefnogaethRydym yma i’ch helpu i lwyddo
Angen help?Mae dechrau yn y coleg yn un o'r pethau mwyaf cyffrous ygallwch ei wneud. Mae gwneud ffrindiau newydd, astudiorhywbeth newydd, a gwneud eich penderfyniadau eich hun i gydyn brofiadau cadarnhaol, ond os ydych yn teimlo bod angencyngor neu wybodaeth arnoch, rydym yma i helpu.
Ein tîm Gwasanaethau Dysgwyr yw eich cyrchfan cyntaf. Maentyn darparu cymorth a chefnogaeth dydd-i-ddydd ar faterionymarferol fel grantiau a theithio.
Cymorth Dysgu YchwanegolMae'r tîm Gwasanaethau Dysgwyr hefyd yn darparu cefnogaethos oes gennych anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol.Rhowch wybod inni beth yw eich anghenion yn ystod y brosesymgeisio, a byddwn yn llunio pecyn cymorth i gyd-fynd â'chgofynion unigol.
Yn Derbyn Gofal neu'n Gadael GofalOs ydych wedi bod yn derbyn gofal neu'n gadael gofal ac yndymuno cael rhywfaint o gefnogaeth tra byddwch yn y coleg neui baratoi ar gyfer astudio ymhellach neu weithio, yna gadewch i'rtîm Gwasanaethau Dysgwyr wybod. Gallwn ddarparu unigolynpenodol i siarad â nhw yn ystod eich amser yn y coleg.
Gofalwyr IfaincGall y tîm Gwasanaethau Dysgwyr hefyd helpu os oes gennychgyfrifoldebau gofalu am aelod o'r teulu ac rydych yn poeni y gallaieffeithio ar eich gwaith coleg. Siaradwch â ni am eichamgylchiadau, a rhown wybod ichi ba gymorth a chefnogaeth ygallwch eu cael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor owybodaeth am gymorth ychwanegol, bydd aelod o'r tîmGwasanaethau Dysgwyr yn hapus i siarad â chi.
Lles a Llesiant MyfyrwyrOs ydych yn dioddef anawsterau personol gan gynnwys materionyn ymwneud â thai a pherthnasoedd, gallwch gysylltu â'nSwyddogion Lles Myfyrwyr. Gallant roi cymorth cyfrinachol ichineu eich cyfeirio at weithwyr proffesiynol eraill os oes angen.
Cymorth AriannolYn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys igael cymorth ariannol i helpu gyda'r gost o fynd i'r coleg.
Os ydych rhwng 16 ac 18 oed gallech fod yn gymwys ar gyferLwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) o £30 yr wythnos. Neugallwch wneud cais am Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) i helpu idalu am ffioedd meithrinfa, arholiadau, gwisg ac offer diogelwchar gyfer cyrsiau ymarferol.
CymorthYchwanegol
Prydau Am DdimGallech dderbyn lwfans prydau bwydi'w wario ar y campws os yw'chrhieni / gofalwyr yn derbyn rhaimathau o fudd-daliadau sy'ngysylltiedig ag incwm.
TeithioOs ydych dan 19 oed ac yn bodlonimeini prawf cymhwyso, efallai ygallwch gael cymhorthdal teithio ganeich cyngor lleol neu Gronfa AriannolWrth Gefn y coleg.
Ewch i'n gwefanwww.cymoedd.ac.uk/financialam ragor o wybodaeth am gymorthariannol a allai fod ar gael ichi.
Cyrsiau Galwedigaetholyng Ngholeg y Cymoedd
Mae cyrsiau galwedigaethol wedi'u cynllunio i'ch helpu i ennill cymhwyster ymarferol ar gyfer swydd neu yrfa benodol. Erenghraifft, os ydych am drin gwallt, byddai cwrs galwedigaethol yn cynnwys torri a lliwio gwallt. Os ydych am weithio yn y maesDatblygu TG, yna byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu cod.
Gallant eich helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau swydd neu symud ymlaen yn eich gyrfa, trwy gymysgedd owaith theori ac ymarferol. Byddwch hefyd yn ennill cymhwyster yn eich pwnc.
Rydym wedi datblygu ein cyrsiau galwedigaethol mewn partneriaeth â busnesau lleol. Rydym yn ymgynghori â hwy yn rheolaidd isicrhau mai’r sgiliau yr ydym yn eu dysgu ichi yw’r rhai y mae cyflogwyr eu heisiau a'u hangen.
Mae cwrs galwedigaethol yn opsiwn da i rywun sy'n gwybod pa yrfa y maent am ei dilyn, gan eu bod yn cysylltu'n uniongyrchol âswydd neu ddiwydiant penodol.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau galwedigaethol yngNgholeg y Cymoedd megis:
Prentisiaethau - Amrywiol lwybrau
Busnes - Astudiaethau Busnes, Rhaglenni TG, Cyfrifeg
Gofal - Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Astudiaethau Plentyndod,Cwnsela
Arlwyo - Arlwyo, Lletygarwch, Patisserie
Cyfrifiadureg - Technoleg Gwybodaeth, Cymorth Systemau,Cynnal a Chadw Cyfrifiaduron, TG Creadigol
Adeiladu - Bricwaith, Gwaith Saer, Trydan, Peintio ac Addurno,Plastro, Plymio
Diwydiannau Creadigol - Celf, Cerddoriaeth, CelfyddydauPerfformio, Cyfryngau Digidol, Ffotograffiaeth, Ffasiwn, Teledu aFfilm (Cyfryngau, Colur, Effeithiau Arbennig, Creu Propiau,Cynhyrchu Technegol)
Peirianneg - Awyrofod, Electroneg, Peirianneg, Mecanyddol,Cerbydau Modur, Rheilffyrdd
Dysgu Sylfaenol - Lefel Mynediad
Trin Gwallt - Therapi Harddwch, Trin Gwallt, Technoleg Ewinedd
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwyddoniaeth
Chwaraeon - Pêl-droed, Rygbi'r Gynghrair, Rygbi’r Undeb, Pêl-rwyd
Teithio - Criw Caban Awyr, Teithio, Twristiaeth
Mae gan Goleg y Cymoedd gysylltiadau rhagorol â diwydiant ac mae'n cydweithio'n agos â nifer o sefydliadau:
Mae dros 600 o'n dysgwyr yn ymgeisio i'r brifysgol bob blwyddyn.
Tiwtoriaid gyda phrofiad mewn diwydiant, yn gwneud eich cwrs yn
berthnasol i'ch gyrfa
Gweithdai a chyfleusterau ardderchog o safon diwydiant, a llawer
ohonynt ag offer o'r radd flaenaf.
Mae dros 1,000 o ddysgwyr yn astudio ar ein rhaglen Brentisiaethau
gyda dewis o 27 llwybr.
Ble nesaf i mi?Pan fyddwch wedi cwblhau'ch astudiaethau gyda ni, bydd gennych ystod eang o sgiliau, megis:• Hyfforddiant penodol i swydd neu yrfa• Rhifedd a llythrennedd• Hyfedredd TG• Galluoedd ymchwil• Trefnu a chadw amser• Sgiliau rhyngbersonolBydd nifer o opsiynau ar gael ichi. Os ydych am fynd i'r brifysgol, mae llawer o gymwysteraugalwedigaethol bellach yn cael eu cydnabod fel cymwysterau mynediad, ac mae unrhyw brofiadgwaith rydych wedi'i gwblhau yn gallu cryfhau'ch cais prifysgol.Efallai yr hoffech gael swydd neu ddechrau eich busnes eich hun, a gallwch dynnu ar yr hynrydych wedi'i ddysgu i fwrw ati’n syth. Rydych eisoes wedi datblygu’r sgiliau a werthfawrogirgan gyflogwyr a gallwch ganolbwyntio ar ehangu'ch gwybodaeth.
Llwyddiant Galwedigaethol
Cwrs: Coginio Proffesiynol Lefel 2 a Patisserie Lefel 3Cyflogaeth: Vale of Glamorgan Resort a Cocorico Patisserie
Astudiodd Alys Evans, 20 o Gilfach Goch, Lefel 2 Coginio Proffesiynol a Lefel 3 Patisserie yng Ngholeg yCymoedd. Yn ystod ei hamser yn y coleg, sefydlodd Alys ei busnes cacennau llwyddiannus ei hun, Alys’Cakes & Cupcakes; gan ganolbwyntio ar gacennau arbenigol.
Cymerodd ran hefyd mewn nifer o gystadlaethau sgiliau, gan ennill nifer o wobrau, gan gynnwys: MedalRhagoriaeth Aur City & Guilds; aur, arian, efydd a’r Gorau yn y Dosbarth ym Mhencampwriaethau CoginioCymru ac aur a'r Gorau yn y Dosbarth yn Bake International yn Llundain. Mae ei llwyddiant yn ycystadlaethau hyn wedi arwain at gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills gan gystadlu ynerbyn cystadleuydd arall i gynrychioli'r DU yn Rwsia.
Enillodd Alys hefyd y Wobr Cymhwyster Galwedigaethol. O ganlyniad fe'i gwahoddwyd i fod yn aelod oGymdeithas Coginio Cymru (grŵp sy'n cynghori'r diwydiant Arlwyo) ac mae'n ei gwneud eihymddangosiad cyntaf gyda nhw yng Nghwpan Coginio'r Byd yn Lwcsembwrg.
Ymunodd â Vale of Glamorgan Resort, fel Cogydd Pastai Llawn Amser a bu'n gweithio i CocoricoPatisserie, patisserie blaenllaw yng Nghaerdydd. Mae gan Alys ddyheadau i weithio mewn bwyty â serenMichelin yn y dyfodol.
Dywedodd Alys "Byddaf yn ddiolchgar am byth i Goleg y Cymoedd. Mae'r profiad a gefais o weithio ynNant, bwyty masnachol y coleg, wedi rhoi sylfaen dda imi. Roedd fy nhiwtoriaid yn brofiadol iawn adysgais lawer iawn ganddynt. Byddwn yn argymell Coleg y Cymoedd yn fawr i unrhyw un”.
Cwrs: Diploma Cenedlaethol yn y Gwyddorau CymhwysolCyflogaeth: CERN, y Swistir
Cofrestrodd Victoria Griffiths ar Ddiploma Cenedlaethol BTEC yn y Gwyddorau Cymhwysol yng Ngholeg yCymoedd. Ar ôl cwblhau ei chwrs, sicrhaodd swydd prentis Technegydd Labordy yn y coleg.
Tra’r oedd yn gweithio yn y coleg, ymunodd Victoria â staff a dysgwyr ar ymweliad â CERN yn y Swistir acfe’i cyfareddwyd yn llwyr. Yn ystod yr ymweliad roedden nhw wedi dweud bod angen rhagor o dechnegwyrar CERN. Ar ôl iddi ddychwelyd ymchwiliodd i swyddi CERN, a daeth o hyd i TTE (Tech Training GroupLtd), gwnaeth gais a chafodd swydd.
Yn yr ysgol, roedd Victoria yn cael trafferth canolbwyntio ac nid oedd yn gwybod beth yr oedd am ei wneud -ond gwyddai ei bod am wneud rhywbeth corfforol. Nawr mae'n helpu creu amodau gwactod mor berffaith âphosibl, felly gall pelydrau gronynnau’r Hadron Collider deithio yn agos at gyflymder golau.
Cyngor Victoria yw "Peidiwch byth ag amau eich hun a pheidiwch byth â meddwl bod rhywbeth y tu hwnt i’chcyrraedd. Er enghraifft, rydw i’n dod o Dde Cymru, es i ddim i'r brifysgol ac rwy'n gweithio yn CERN. Rydw i’ncredu ei bod yn bwysig nad yw pobl yn cyfyngu eu hunain a’u bod yn ddigon dewr i roi cynnig arni. Os nafyddant yn ceisio, ni fyddant byth yn gwybod ble gallant gyrraedd, ac os byddant yn methu, dyna ni, gallant bobamser roi cynnig ar rywbeth arall! "
Cwrs: BTEC Lefel 3 ac NVQ Lefel 3 Cynnal a Chadw Peirianneg AwyrennolCyflogaeth: British Airways Maintenance Cardiff (BAMC)
Cofrestrodd Gareth Jarvis ar Brentisiaeth gyda British Airways, gan astudio Diploma Lefel 3 BTECLefel 3 a NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrennol yng Ngholeg y Cymoedd. Wedi cwblhau eibrentisiaeth 3 blynedd, enillodd Brentis y Flwyddyn a sicrhaodd swydd e i freuddwydion felpeiriannwr awyrennau yn BAMC; gan weithio ar awyrennau fel Boeing 747, 777 a 787.
Dywedodd Gareth; "Aeth fy mhrentisiaeth 3 blynedd gyda British Airways Maintenance Cardiffheibio’n gyflym iawn a rhoes imi sgiliau hanfodol sy'n caniatáu imi gwblhau fy swydd o ddydd iddydd gyda British Airways; i safon broffesiynol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y cymorthamhrisiadwy gan staff yng Ngholeg y Cymoedd, yn enwedig fy Asesydd NVQ Steve. Rwyf hefyd ynddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniais gan y staff ar draws amrywiol adrannau British AirwaysMaintenance Cardiff. Pe bawn yn rhoi cyngor i rywun sydd am lwyddo mewn prentisiaeth, byddwn yndweud wrthynt am fanteisio ar bob cyfle a roddir ger eich bron. Mae wedi fy ngalluogi i ennill profiadgwaith mewn gwahanol feysydd o'm busnes, yn ogystal â mynd â mi ledled y byd ".
Mae Coleg y Cymoedd yn llwyddiannus iawn wrth
ddarparu carreg gamu i’ch gyrfa yn y dyfodol
Canolfan Safon UwchColeg y CymoeddMae'r Ganolfan Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd yn cynnig y dewis o dros 20 obynciau UG / Uwch a 7 opsiwn Tystysgrif / Diploma Lefel 3. Mae ein tiwtoriaid ynarbenigwyr pwnc sy'n ymfalchïo mewn darparu'r cyfleoedd addysgu a dysgu gorau.Mae'r ganolfan wedi'i lleoli yng Nghampws Nantgarw.
Beth allwch ei astudio gyda ni?
Mae'r rhaglen yn eich galluogi i astudio tair neu bedair Safon UG ynghyd âBagloriaeth Cymru (Uwch) yn eich blwyddyn UG. Ar ôl ichi gael y canlyniadau UGgofynnol, byddwch yn symud ymlaen i astudio ar Safon U2, gan gynnwysBagloriaeth Cymru. Gallwch ehangu'ch dewisiadau trwy ddewis cwrs cyfunol o unneu ddau bwnc UG, ynghyd â dewisiadau BTEC. Byddwn yn siarad â chi am eichopsiynau yn ystod y broses ymgeisio.
Rhaglen Ymestyn a Herio
Gan weithio gyda rhai o brifysgolion blaenllaw’r DU, Llywodraeth Cymru aRhwydweithiau Seren Hub lleol, nod ein rhaglen Ymestyn a Herio yw ceisio helpu eindysgwyr Safon Uwch i gyflawni eu llawn botensial.
O gefnogaeth un-i-un gyda cheisiadau UCAS, i weithgareddau ysgol haf ynRhydychen a Chaergrawnt aPhrifysgolion blaenllaw eraill,bydd y rhaglen yn eich gwthio iwneud eich gorau glas. Byddwnyn siarad â chi ynghylch a ydychyn gymwys i gymryd rhan yn yrhaglen ar ôl ichi gael eichderbyn i astudio yng Ngholeg yCymoedd.
Gyda chyfradd basio wych o 98% yn 2018, mae llawer o'n dysgwyr yn dilyn yn ôl troed dysgwyr y gorffennol ac yn mynychu prifysgoliongorau’r 'Russell Group' uchaf megis Rhydychen, Caergrawnt, King's College London, Exeter, Caerdydd, Manceinion a Durham.
Pynciau Safon Uwch:
Pynciau Tystysgrif / Diploma Lefel 3:
Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cyrsiau a ddisgrifirheb rybudd.Bydd y wefan www.cymoedd.ac.uk bob amser yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Prifysgol: Imperial College London
Mae cyn-ddysgwr Safon Uwch, Calum Haggett, arhyn o bryd ym mlwyddyn olaf gradd mewnGwyddoniaeth Fiofeddygol yn Imperial CollegeLondon, yn arbenigo mewn Niwrowyddoniaeth acIechyd Meddygol, ar ôl ennill y graddau Safon UwchA * A A A yn y pynciau STEM.
Ar ôl graddio eleni, cynigwyd lle ôl-raddedig i Callumyng Ngholeg Magdalen, Rhydychen i astudioMeddygaeth.
Dywedodd Calum "Alla i ddim diolch ddigon i Goleg yCymoedd am eu cefnogaeth. Maent wirioneddol wedimynd y filltir ychwanegol honno i sicrhau fy mod yncael y canlyniadau yr oedd eu hangen arnaf, o drefnurhagor o diwtora i'm helpu gyda'm lleoliad gwaith yn ybrifysgol. Roedd fy nghanlyniadau Safon Uwch yngymaint o ryddhad ac mae'n wir brawf o’r gwaith awnes yn y coleg a’r gefnogaeth a gefais gan y staff.”
Prifysgol: Prifysgol Rhydychen
Shannon Britton, a fu'n astudio yn ein Canolfan Safon Uwch, oedd ein dysgwr cyntaf i ennill lleym Mhrifysgol Rhydychen neu Gaergrawnt. Graddiodd Shannon yn y Saesneg o BrifysgolRhydychen yr haf diwethaf. Bu’n uchelgais ganddi ers amser i weithio yn y diwydiant ffilm, agyda grŵp o ffrindiau rhyddhaodd ei ffilm fer gyntaf yn ddiweddar – ‘Fish Bowl’ - a leolwyd ynei thref enedigol sef Glynrhedynog.
Mae Shannon wrthi'n gweithio i gwmni ffilimiau dogfen newydd o'r enw MonsterFilms sy’ncynnig syniadau i gomisiynwyr. Ym mis Chwefror, bydd yn ymgymryd â Chynllun HyfforddaiSgript gyda Doctor Who, gyda'r nod yn y pen draw o weithio mewn adran sgriptiau.
Llwyddiant Safon Uwch
Troseddeg - Tystysgrif Lefel 3 CBAC sy'n arwain at Ddiploma
Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Tystysgrif BTEC sy'n arwain at Ddiploma Gyfrannol
TG - Tystysgrif BTEC sy'n arwain at Ddiploma Gyfrannol
Gwyddoniaeth Gymhwysol - Tystysgrif BTECsy'n arwain at Ddiploma Gyfrannol
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff -Diploma Israddedig BTEC Lefel 3
Busnes - Tystysgrif BTEC sy'n arwain at Ddiploma Gyfrannol
Y Gyfraith - Tystysgrif BTEC sy'n arwainat Ddiploma Gyfrannol
Mae dros 80% o'n
dysgwyr Safon Uwch
yn mynd ymlaen i'r
brifysgol bob blwyddyn.
Cyfradd basio Safon Uwch
o 98% yn 2018, yn uwch
na chyfartaledd CBS RhCT
a Chaerffili.
Celf a Dylunio Ffrangeg Ffotograffiaeth
Busnes Daearyddiaeth Ffiseg
Bioleg Hanes Seicoleg
Cemeg Y Gyfraith Astudiaethau’r Cyfryngau
Drama Mathemateg Cymdeithaseg
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Mathemateg Bellach Cymraeg (Ail Iaith)
Astudiaethau Ffilm Astudiaethau’r Cyfryngau Bagloriaeth Cymru (Uwch)
Cyfleusterau RhagorolMae ein cyfleusterau heb eu hail. Byddwch yn astudio'r cwrs a ddewiswyd gennych yn un o'n pedwarcampws, gyda chyfarpar arbenigol a chyfleusterau hyfforddi wedi'u cynllunio'n benodol i'ch helpu ibaratoi ar gyfer eich gyrfa.
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gaffis, bwytai, stiwdios ffitrwydd a lles, salonau gwallt aharddwch i wella'ch profiad yn y coleg.
A ydych yn hoffi’r hyn
a welwch hyd yn hyn?
Beth am ymweld â'n gwefan neu alw heibio
am lyfryn? www.cymoedd.ac.uk
Mae'r coleg yn cynnig rhaglen gyfoethogi, 'HWB' yn ogystal â'chcwrs. Bydd HWB yn digwydd bob prynhawn Mercher gydag ystodeang o weithgareddau, gan gynnwys:
Chwaraeon: Dewiswch o amrywiaeth o opsiynau chwaraeon gangynnwys pêl-rwyd, zumba, pêl-droed, disgo rholer, dawnsio stryd,aelodaeth o’r gampfa a digwyddiadau tîm.
Hobïau: Ymunwch â chlwb, neu beth am ddechrau eich un eich hun!Beth bynnag fo’ch diddordebau, boed yn seryddiaeth neu wnïo,garddio neu chwarae gemau fideo, gallwch gysylltu â phobl sy'nrhannu eich angerdd, neu gallwn eich helpu i ddod o hyd iddynt.
Diwylliant: Ffotograffiaeth, ffilmiau, animeiddio, dylunio'ch ap eichhun, cerddoriaeth, trafod ac adolygu hyd yn oed.
Chi: Dysgwch bopeth y mae angen ichi ei wybod am gam nesaf eichbywyd. Byddwch y math o berson yr hoffech ei fod.
Swyddi: Gosodwch eich hun ar wahân; gwnewch yn siŵr fod eichCV yn llawn pethau y mae cyflogwyr am eu gweld ... lleoliadaugwaith; gwirfoddoli; dysgu o fodelau rôl; codi arian ayb
Cymwysterau: Naill ai yn y maes yr ydych yn ei astudio neu'n mewnmaes gwbl newydd; efallai y bydd yn sicrhau’r swydd ran-amserhonno ichi.
Cynllun MentoraMae cynllun mentora ar gael lle mae dysgwyr yn gallu cael eu mentora ganweithwyr proffesiynol o ystod o gefndiroedd a fydd yn cefnogi dysgwyr iddatblygu sgiliau a nodau sy’n gysylltiedig â gyrfa. Bydd mentor yn gweithredufel seinfwrdd cyfrinachol, a byddwch yn gallu trafod eich dyheadau gyrfa a'chdatblygiad personol gyda nhw.
Gyda'ch gilydd, byddwch yn llunio cynllun gweithredu i'ch galluogi i gyrraeddeich nodau. Dywedodd Sian Davies, sylfaenydd y cynllun mentora:
"Fel Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol (DCRJ), rwyf wedi bod ynsiaradwr gwadd i ddysgwyr Safon Uwch y coleg ers nifer o flynyddoedd. Panoeddwn i'n astudio Safon Uwch, nid oeddwn erioed wedi cwrdd â chyfreithiwro'r blaen ac nid oedd gennyf lawer o syniad am ba yrfaoedd oedd ar gael imi.Mae bod yn DCRJ yn rhoi cyfle imi chwalu rhai camsyniadau ynghylchbarnwyr a rhoi gwybod i ddysgwyr am ein rôl yn y gymdeithas. Roeddwn wrthfy modd pan gytunodd y coleg i sefydlu'r cynllun mentora, i ddarparu anogaethwedi’i thargedu’n fwy i ddysgwyr. Daw ein mentoriaid o bob math ogefndiroedd proffesiynol, nid yn unig y gyfraith, ac maent yn darparucefnogaeth benodol i fyfyrwyr sydd mewn cyfnod hollbwysig yn eu haddysg.Fel mentor, fy nod yw cefnogi hyder myfyrwyr ac i'w hannog i ystyriedamrywiaeth eang o yrfaoedd cyfreithiol. Mae adnabod rhywun sy'n cyflawnirôl, yn ei gwneud yn fwy realistig fel gyrfa bosibl; efallai bydd y sawl rwy’nfentor arnynt yn farnwyr hefyd un diwrnod ". Barnwr Cyflogaeth Sian Davies
Meddai cyn-ddysgwr y coleg Megan Howells "Mae'rcynllun mentora sy'n cael ei redeg gan y coleg wedirhoi'r cyfle imi ystyried llwybrau gyrfa nad oeddwnyn eu hystyried yn bosibl o'r blaen. Rwy'n bwriadubod yn fargyfreithwraig ond roedd gennyf bron iddim cysylltiadau ym mhroffesiwn y Gyfraith, aoedd yn golygu nad oeddwn yn teimlo bod gennyfunrhyw siawns o lwyddo. Fodd bynnag, diolch iGoleg y Cymoedd rwyf eisoes wedi cwblhau untymor prawf byr ac rwy’n bwriadu gwneudrhagor dros y flwyddyn i ddod. Rwyf yn fy ailflwyddyn yn astudio gradd yn y Gyfraith ymMhrifysgol Rhydychen ac rwy’n teimlo fy mod mewn sefyllfa dda i ddilyn fy ngyrfa ddelfrydol ".
Os oes gennych ddiddordeb mewndechrau eich busnes eich hun neu osoes gennych eich busnes eich huneisoes, gallwch gael cyngor arbenigolgan ein Entrepreneur Preswyl, PeterWright. Penodwyd Pete yn 2017, adyma'r penodiad cyntaf o'i fath mewnSefydliad Addysg Bellach yn y DU.Ymhlith ei rolau blaenorol mae 10mlynedd fel Cyfarwyddwr BuddsoddiGrŵp Cyllid Cymru a 40 mlynedd yn ysector gwasanaethau ariannol. Maeganddo brofiad helaeth o helpu amentora mentrau newydd.
Ei rôl yw cefnogi ac annog dysgwyrsydd am ddechrau eu busnesau euhunain ar ôl gadael y coleg.Dywedodd Peter: "Mae'r coleg yn uno'r rhai mwyaf dynamig a blaengar yrwyf imi eu gweld ac mae'n fraint goiawn gweithio gyda nhw a helpu eudysgwyr i gyflawni eu nodau a'uhuchelgeisiau busnes".
Profiad Gwaith a theithiau Yng Ngholeg y Cymoedd mae nifer o gyrsiau yn cynnwyslleoliad gwaith a theithiau (yn y DU a thramor).
Treuliodd Katie Price 20, bythefnos yn gweithio mewn ysgolnyrsio ac ysgol gynradd mewn tref yng Ngogledd yr Eidal o’renw Castelfranco Veneto. "Roedd gweithio yn yr Eidal yn profiadhollol anhygoel na fyddaf byth yn ei anghofio. Rwyf wedi dysgullawer ar y daith a byddaf yn bendant yn mynd â hynny yn ôlgyda mi i'r ystafell ddosbarth pan fyddaf yn cymhwyso felathrawes ".
Y Dimensiwn Ychwanegol
College Lifeis fun too!
Mae Bywyd Coleg ynhwyl hefyd!