Haf 2017 www.llgc.org.uk
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
DarlithoeDD a ChyflwyniaDau
Haf 2017
www.llgc.org.uk
32
CYNNwYs
Cipolwg 3
Arddangosfeydd 4
Caffi Pen Dinas 8
Siop 8
Darlithoedd 9 a Chyflwyniadau
Ffilm 17
Cerddoriaeth 18
Gweithgareddau i Blant 20
Adnoddau Newydd 22
Gwybodaeth i Ymwelwyr 24
Cadwch mewn Cysylltiad 26
Cipolwg
Mai 03 Wales-China 250 years of history 1.15pm06 Wildlife Wanderer 2.00pm10 Gwlad y Gân 1.15pm12 Carto-Cymru 9.45am – 4.30pm13 Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol 10.00am – 4.00pm Diffodd yr Awen 11.00am Me, the media and family history 2.00pm 17 Finding Welsh Saints in Welsh Churches 1.15pm31 The Dancing Pilgrimage of Water 1.15pm Mehefin 07 Ffenest ar Ffilm: Tîm y Casgliad Ffilm 1.15pm09 Noson yng nghwmni Dylan a Llinos Rowlands / An evening 6.30pm with Dylan and Llinos Rowlands Gwin Dylanwad Wines, Dolgellau16 Gŵyl Gregynog 2017: Pageantry Curating Pageantry 2.30pm Paul Dooley (telyn) 4.30pm Thomas Dunford (liwt) 7.30pm21 Cenhadaeth i’r Cremlin 1.15pm gorffennaf 05 Perfformio Culhwch ac Olwen 1.15pm08 George Powell, etifedd a sgwier Nanteos 2.00pm19 The National Library of Wales’ Building Fund and its Subscribers, up to 1910 1.15pm25 Chwedlau gan y delynores Glain Dafydd 11.00am27 Chris Grooms (gitâr clasurol) 3.30pm 31 Ffilm: Hedd Wyn 2.00pm Awst 15 Sesiwn Stori 11.00am22 Sesiwn Stori 11.00am23 Mapiau-stori, Hanesion Gwerin Cymru a Darlunio Llyfrau Plant 2.00pm29 Trysor y Chwedlau 11.00am Medi 06 Williams Pantycelyn trwy lygad ei lythyrau 1.15pm20 Drysau Agored 10.00am – 4.00pm
Rhif Elusen Gofrestredig 525775
CRoEso
Mae 2017 yn ‘Flwyddyn Chwedlau’ – dewch i ddarganfod chwedlau Cymru
#gwladgwlad
DigwYDDiADAu
C Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg
E Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg
B Digwyddiad dwyieithog
T Darperir cyfieithu ar y pryd
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol CymruHaf 2017Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol CymruHaf 2017
Clawr: Bendigeidfran – Valériane Leblond
5Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru4Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol CymruHaf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
oRiEloRiEl
ARDDANgosfEYDD Dewch i fwynhau casgliadau hynod y Llyfrgell Genedlaethol sy’n cael eu harddangos yn ein horielau. Os dyma’ch ymweliad cyntaf neu os ydych wedi ymweld o’r blaen, mae’r croeso wastad yn gynnes. Mae ein holl arddangosfeydd am ddim ac rydym yn croesawu teuluoedd. I ychwanegu at eich ymweliad beth am alw yn ein siop rhoddion am brofiad siopa unigryw, a mwynhau golygfeydd arbennig Bae Ceredigion wrth ymlacio yng Nghaffi Pen Dinas?
Arthur a Chwedloniaeth Cymru
Oriel Gregynog 22.07.17 – 16.12.17
Y mae yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ddweud stori, neu ‘grefft y cyfarwydd’. Mae’r Mabinogi, llên gwerin a mythau a hanesion lleol wedi bod yn rhan o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol o gyfnod cynnar iawn ac yn parhau felly hyd heddiw. Yn ein harddangosfa, Arthur a Chwedloniaeth Cymru, byddwn yn cwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar ein chwedloniaeth, ac yn cyflwyno’u storïau ar dudalennau llawysgrifau, ar gynfasau gweithiau celf a thrwy ein harchif sgrin a sain helaeth.
Delwedd: Cŵn a’r Twrch Trwyth – Kyffin Williams
Diffodd yr Awen: Hedd wyn ac Edward Thomas
Anecs Gregynog Tan 02.09.17
Gan mlynedd yn ôl bu farw dau fardd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr: Hedd Wyn ac Edward Thomas. Trwy ein casgliadau amrywiol byddwn yn dathlu bywyd a gwaith y beirdd rhyfel hyn.
#cymruncofio
Delwedd: ‘Yr Arwr’ a’r pabi coch
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7Haf 2017Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 6Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
oRiEloRiEl
Chwedlau’r seintiau
Hengwrt Tan 10.06.17
O Sain Ffagan i Landudno, o Dyddewi i Bennant Melangell, mae enwau’r seintiau ynghlwm wrth gyfansoddiad y wlad. Bu chwedlau’r seintiau yn doreithiog yn y Gymru ganoloesol ar un adeg, er bod nifer wedi mynd yn angof erbyn heddiw. Amlyga’r arddangosfa hon oroesiad traddodiadau canoloesol am y gwŷr a’r gwragedd sanctaidd sy’n cynrychioli rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad.
#seintiau
Delwedd: Llansteffan MS 28
Clawr i glawr
Llawr Gwaelod, Byd y Llyfr Tan 03.02.18
Byddwn yn olrhain hanes y llyfr ar ei daith o’r Aifft i’r e-lyfr, gan edrych ar fathau o lyfrau, y broses o greu llyfr, a llyfrau fel darnau o gelf ynddynt eu hunain.
Delwedd: Y llyfr lleiaf yn y byd- ‘Old King Cole’
Arwyr!
Neuadd Ganolog Uwch Tan Mawrth 2018
Cyfle i ddod wyneb yn wyneb ag arwyr Cymru o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol.
#gwladgwlad
Delwedd: Together Stronger - Owain Fon Williams
Cofiwch weld...
Cyfle i weld rhai o’n trysorau cenedlaethol – Llyfr Du Caerfyrddin: y llawysgrif hynaf i oroesi yn yr iaith Gymraeg. Cymru yw gwlad y gân, a dyma gyfle i weld ein hanthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau, yr Hafod vase, a llawer iawn mwy!
Delwedd: Vase yr Hafod
pete Davis ‘observations – Collections – Recollections’: a lifetime in photography
Gregynog Gallery Tan 17.06.17
Arddangosfa ôl-syllol bwysig o ffotograffau sy’n rhychwantu cyfnod o 60 mlynedd, ynghyd â gwaith newydd sy’n amlygu diddordeb oes y ffotograffydd mewn agweddau penodol ar y byd o’n cwmpas. Llwydda i grisialu, trwy lygad y camera, yr eiliadau a’r amgylchoedd cyffredin hynny na fyddai’n tynnu sylw heblaw i lygad sympathetig daro arnynt.
Delwedd: Splott Cardiff - Pete Davis
gwEiTHgAREDDAu
i BlANT
9Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
DARliTHoEDD A CHYflwYNiADAu
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol CymruDigwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 8Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
CAffi pEN DiNAssiop
siop
Mae siop y Llyfrgell yn cynnig eitemau unigryw a gwaith wedi ei wneud â llaw a chrefftau a rhoddion anarferol a ysbrydolir gan gasgliadau’r Llyfrgell.
Rydym yn gwerthu nwyddau hardd i’r cartref, gemwaith o ansawdd uchel a wneir â llaw yng Nghymru, teganau, llyfrau a chryno ddisgiau.
Rydym ar agor o 9.00am hyd 5.00pm, ddydd Llun hyd ddydd Sadwrn.
siop.llgc.org.uk
Dydd Mercher 3 Mai 1.15pm
wales–China 250 years of history Ena Neidergang
Wrth weithio yn Wuhan, Canol Tsieina, ddechrau’r 1990au, canfu Ena mai dyma’r ddinas lle treuliodd Griffith John, y cenhadwr o Abertawe, hanner can mlynedd o’i fywyd yn sefydlu ysbytai, eglwysi, colegau ac ysgolion. Ar ôl ymchwilio ymhellach daeth o hyd i gysylltiadau eraill rhwng Cymru a Tsieina, a fu’n sbardun iddi dreulio ugain mlynedd yn darganfod mwy am hanes y berthynas honno.
Mynediad am ddim trwy docyn
E
Dydd Sadwrn 6 Mai 2.00pm
wildlife wanderer
Y ffotograffydd bywyd gwyllt a’r awdur David Bailey sy’n trafod ei lyfr diweddaraf, Wildlife Wanderer, yng nghwmni Dr Rhys Jones o Brifysgol Caerdydd a Chennad Ymddiriedolaethau Natur Cymru.
Mynediad trwy docyn £3.00
E
Delwedd: Hare - David Bailey
Caffi pen Dinas
Mae Caffi Pen Dinas yn ymfalchïo mewn darparu bwyd o ansawdd uchel sy’n cael ei baratoi yma gyda chynnyrch Cymreig lleol.
Dewch i fwynhau ein hamrywiaeth o frechdanau, paninis, tatws trwy’u crwyn, cawl cartref a phrydau’r dydd. Mae diodydd poeth ac oer ar gael trwy’r dydd a beth am flasu ein teisennau cartref godidog?
Lleolir Caffi Pen Dinas mewn man cyfleus yn ymyl y brif fynedfa, a darperir mynediad rhwydd a chyfleusterau i deuluoedd. Rydym yn agored o 9.00am hyd 5.00pm ddydd Llun hyd ddydd Gwener, ac o 10.00am hyd 4.00pm ddydd Sadwrn.
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 11Haf 2017Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 10Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
DarlithoeDD a ChyflwyniaDau
Dydd Mercher 10 Mai 1.15pm
gwlad y gân Valériane Leblond a Peter Stevenson
Valériane Leblond sy’n cyflwyno’i map newydd o Gymru sy’n llawn darluniau yn seiliedig ar y straeon yng nghyfrol newydd Peter Stevenson, Welsh Folk Tales. Mae map stori Valériane yn dangos lleoliadau straeon poblogaidd fel genedigaeth Taliesin a hanesion o’r Mabinogi, ond
Dydd Gwener 12 Mai 9.45am – 4.30pm
Carto-Cymru Symposiwm Mapiau Cymru 2017 Mesur y Meysydd
Diwrnod cyfan o symposiwm i werthuso datblygiad y gwaith o fapio ystadau a’i werth wrth ddarlunio’r dirwedd hanesyddol.
hefyd yn cyflwyno chwedlau a ddylai fod yn fwy adnabyddus: Plant Rhys Ddwfn Paradwys Cymru, Eliffant Tregaron, Alarch-fenywod Gŵyr, Bwbach Rhandirmwyn, Cawr Glo Rhymni, Shemi Wâd a’r Gwylanod, Ifan Gruffydd yn cwrdd â’r tylwyth teg, Dawnswraig Prestatyn, a’r Tŷ â Drws Ffrynt yn y Cefn.
Mynediad am ddim trwy docyn
B
Delwedd: Gwlad y Gân – Valériane Leblond
Bydd y siaradwyr yn cynnwys: Peter Barber, OBE, Cyn-Bennaeth Mapiau, Llyfrgell Brydeinig; Dr Bob Silvester, Athro Gwadd, Prifysgol Caer; Dr Jacinta Prunty, Pennaeth Hanes, Prifysgol Maynooth; Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor; John Dollery, Swyddog Mapio, a Scott Lloyd, Cydlynydd Codi Arian a Datblygu Prosiectau, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Dr Sarah Bendall, Cymrawd a Chyfarwyddwr Datblygu, Coleg Emmanuel, Caergrawnt; Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Huw Thomas, Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mynediad trwy docyn £20.00 sy’n cynnwys cinio bwffe
C E T
#CartoCymru #CaruMapiau
a wyddoch chi fod gan y Llyfrgell
dros 1.5 miliwn o fapiau?
Delwedd: NLW Gogerddan Map 105
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 13Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
DarlithoeDD a ChyflwyniaDau
Dydd Sadwrn 13 Mai 10.00am – 4.00pm
ffair Hanes Teulu a Hanes lleol
Diwrnod llawn o sgyrsiau, cyflwyniadau a stondinau, a chyfle i siarad ag arbenigwyr yn y maes. Diwrnod hynod o ddiddorol i bawb sy’n ymddiddori ym mhob agwedd ar Hanes Teulu a Hanes Lleol
Diffodd yr Awen
11.00am
Agoriad swyddogol arddangosfa gyfredol y Llyfrgell, Diffodd yr Awen, sy’n nodi canrif ers marwolaeth y ddau fardd, Hedd Wyn ac Edward Thomas. Cynhelir yr agoriad yng nghwmni Gerald Williams, nai Hedd Wyn. RSVP [email protected]
Mynediad am ddim
B
Me, the media and family history Cat Whiteaway
2.00pm
Gan ddefnyddio’i phrofiadau amrywiol a niferus tra’n gweithio i’r BBC dros y 15 mlynedd diwethaf, mae Cat yn ymchwilio i rôl y cyfryngau ochr yn ochr â’r twf ym mhoblogrwydd hanes teulu, yn y cyfnod cyn y rhyngrwyd, a chyn cyfnod Who Do You Think You Are?
Mynediad am ddim trwy docyn
E
a wyddoch chi fod y Llyfrgell yn cynnal
sesiynau gwybodaeth Hanes Teulu bob dydd?
Dydd Mercher 17 Mai 1.15pm
finding welsh saints in welsh Churches Dr Martin CrampinI cyd-fynd ag Arddangosfa Chwedlau’r Seintiau yn y Llyfrgell, mae’r cyflwyniad hwn yn trafod delweddau o seintiau Cymru sydd i’w gweld mewn eglwysi ar hyd a lled Cymru. Yn aml, mae delweddau canoloesol o’r seintiau wedi’u difrodi, ond mae adfywiad y diddordeb yn seintiau Cymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen wedi rhoi i ni gyfoeth o ddelweddau mewn ffenestri lliw, cerfluniau a chyfryngau eraill.
Mynediad am ddim trwy docyn #seintiau
E
Delwedd: St Illtyd, Aberpennar - Martin Crampin
Dydd Mercher 31 Mai 1.15pm
The Dancing pilgrimage of water*
Phil Cope, awdur Holy Wells Wales a Borderlands: new photographs and old tales of the sacred springs, holy wells and spas of the Wales / England border sy’n ein tywys ar daith yn llawn darluniau o amgylch ffynhonnau sanctaidd Cymru.
Mynediad am ddim trwy docyn #seintiau
E
* Tony Curtis, o’i gerdd At Gumfreston Church
Delwedd: Govan’s Well – Phil Cope
Dydd Mercher 7 Mehefin 1.15pm
ffenest ar ffilm: Tîm y Casgliad ffilm
Cyfle i ymuno efo staff y Llyfrgell i ddysgu am y casgliad gwerthfawr o ffilmiau sydd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Mae’r casgliad yn cynnwys dros 5 miliwn troedfedd o ffilm yn dyddio o 1898. Ymunwch efo ni i ddarganfod sut yr ydym yn casglu treftadaeth delweddau symudol Cymru a’i phobl ac yn ei chadw a darparu mynediad iddi.
Mynediad am ddim trwy docyn
B
Delwedd: Staff o’r Archif
DARliTHoEDD A CHYflwYNiADAu
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Haf 2017 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 12
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 15Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14Haf 2017
DarlithoeDD a ChyflwyniaDau
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
DarlithoeDD a ChyflwyniaDau
Dydd Gwener 9 Mehefin 6.30pm
Noson yng nghwmni Dylan a llinos Rowlands, gwin Dylanwad wines, Dolgellau
Cyfle i glywed hanes y masnachwyr gwin o Gymru sydd wedi ennill gwobr bwyd o fri yn ddiweddar.
Cyhoeddwyd mai ‘Rarebit and Rioja: Recipes and wine tales from Wales’ gan Dylan a Llinos Rowlands o Gwin Dylanwad Wines, Dolgellau, oedd yr enillydd Prydeinig yn ei gategori, Bwyd a Gwin Gorau, yng ngwobrau Gourmand 2017. Mae’r llyfr bwyd a gwin Cymreig yn deillio o 30 mlynedd o brofiad y ddau yn y diwydiant.
Dyma gyfle i gwrdd â’r ddau, clywed eu hanes a blasu rhai o’r rysetiau a’r amrywiaeth eang o winoedd y mae Dylan wedi eu darganfod wrth deithio o amgylch Ewrop: heb sôn am y gwin a ddaw o winllannoedd yng Nghymru.
Trefnir y noson mewn cydweithrediad â Gwasg Y Lolfa, ac fe’i cynhelir yng Nghaffi Pen Dinas. Mynediad trwy docyn £12.00 (i gynnwys gwin a canapés)
B
Delwedd: Dylan a Llinos Rowlands
Dydd Mercher 21 Mehefin 1.15pm
Cenhadaeth i’r Cremlin Keith Bush, Athro Anrhydeddus (Coleg Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe)
Hanes Joe Davies, y Cymro o Wisconsin â’i wreiddiau yng Ngheredigion a Sir Fôn, a gyfrannodd mewn ffordd allweddol at lunio’r berthynas rhwng UDA a’r Undeb Sofietaidd cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn ystod y cyfnod hwnnw. Pa ddylanwad gafodd ei gefndir Cymreig a Chymraeg ar ei fywyd cyhoeddus? Dyma gyfle i gloriannu cyfraniad y Cymro Cymraeg a oedd yn gyfaill ac yn gydweithiwr i’r Arlywydd Roosevelt ac a eisteddodd o amgylch y bwrdd gyda Truman, Stalin a Churchill ym Mhotsdam yn 1945 i drafod dyfodol Ewrop.
Mynediad am ddim trwy docyn #gwladgwlad
C T
Delwedd: Joe Davies – Mia Grosjean, Washington
Dydd Mercher 5 Gorffennaf 1.15pm
perfformio Culhwch ac olwen Yr Athro Sioned Davies
Yn ystod Blwyddyn Chwedlau ac i gyfynd ag arddangosfa Arthur a Chwedloniaeth Cymru, sgwrs gyffredinol yn cyflwyno chwedl Culhwch ac Olwen ac yn dangos sut mae’n adlewyrchu crefft y cyfarwydd canoloesol.
Mynediad am ddim trwy docyn
C T
Delwedd: Mabinogion – Charlotte Guest
a wyddoch chi fod yr archif Wleidyddol
Gymreig yn rhan o gasgliadau’r
Llyfrgell?
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 17Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 16Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
DARliTHoEDD A CHYflwYNiADAu
Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf 2.00pm
Digwyddiad Cyfeillion y llyfrgell: ‘george powell, etifedd a sgwier Nanteos’ Gerald Morgan
Cyflwyniad gan yr hanesydd a’r awdur Gerald Morgan ar George Powell, etifedd a sgwier Nanteos.
Mynediad trwy docyn £4.00, am ddim i Gyfeillion y Llyfrgell
B
Delwedd: Nanteos - NLW Photo Album 240A
Dydd Mercher 19 Gorffennaf 1.15pm
The National library of wales’ Building fund and its subscribers, up to 1910 Calista Williams
Cyfrannodd llawer o bobl o Gymru a thu hwnt at Gronfa Adeiladu’r Llyfrgell Genedlaethol, ac roedd y rhoddion yn amrywio o ychydig geiniogau i £5,000. Pwy oedd y bobl hyn, a beth oedd eu rhesymau dros gyfrannu?
Mynediad am ddim trwy docyn
E
Delwedd: Syr John Williams
Dydd Mercher 6 Medi 1.15pm
‘williams pantycelyn trwy lygad ei lythyrau’ Yr Athro E. Wyn James
Yn y sgwrs hon, cawn olwg trwy gyfrwng ei lythyrau ar fywyd a gwaith y ‘Pêr Ganiedydd’, un o gewri’r diwylliant Cymraeg ac awdur rhyngwladol ei safle a’i arwyddocâd – a hynny ym mlwyddyn dathlu 300 mlwyddiant ei eni.
Mynediad am ddim trwy docyn #gwladgwlad
C
Delwedd: William Williams, Pantycelyn
Dydd Mercher 20 Medi 10.00am – 4.00pm
Drysau Agored
Dyddiad i’r dyddiadur. Diwrnod sy’n llawn sgyrsiau difyr â theithiau tywys, wedi’u trefnu ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Ceir mwy o wybodaeth yn rhaglen tymor yr Hydref.
Dydd Llun 31 Gorffennaf 2.00pm
Ffilm: Hedd wyn (110 munud)
Heddiw rydym yn coffáu union ganrif ers marwolaeth y bardd Hedd Wyn, sef Ellis Evans o Drawsfynydd. Mae’n ffilm am fywyd gwledig Cymreig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf osod cyfeillion, perthnasau a chydnabod yn erbyn ei gilydd. Gwelwn Ellis yn gweithio, chwerthin a charu fel unrhyw ddyn ifanc arall, nes daeth yr alwad i ymladd i ymyrryd â’i freuddwyd o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. A fyddai nerth ei awen yn drech na maes y gad? Enillodd y ffilm wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilmiau Geltaidd yn 1994 a chafodd enwebiad am Oscar.
Mynediad am ddim trwy docyn
C
Delwedd: Hedd Wyn – trwy ganiatad S4C
12
DARliTHoEDD A CHYflwYNiADAu /ffilM
a wyddoch chi fod casgliad Stâd Nanteos
yn cael ei gadw’n y Llyfrgell?
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol CymruHaf 2017 19
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
18Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol CymruHaf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
CERDDoRiAETHCERDDoRiAETH
gŵyl gregynog 2017: pageantryDydd Gwener 16 Mehefin
Ystafell y Cyngor 7.30pm
Thomas Dunford, liwt
Un o’r talentau gorau ym maes rhyngwladol cerddoriaeth gynnar. Bydd y liwtenydd Ffrengig ifanc gwych yn chwarae Dowland a Bach.
Mynediad trwy docyn: oedolion £20.00; plant £10.00
E
Ystafell Summers Arddangosfa 15-19 Mehefin 2017
pasiant hanesyddol a ffantasi
Gan ddechrau gyda’r cerddor enigmatig Robert ap Huw (c. 1580-1665), bydd yr arddangosfa fechan hon yn canolbwyntio ar dri artist o ddechrau’r ugeinfed ganrif fu’n ailddarganfod ac yn ailddychmygu’r gorffennol: Arnold Dolmetsch (1858-1940) a’i gymdeithas arbennig, Early Welsh Music Society; Thomas Evelyn Scott-Ellis (8fed Barwn Howard de Walden, 1880-1946) a’i nawdd i’r celfyddydau yng Nghastell y Waun; ac Alvin Langdon Coburn (1882-1966), y ffotograffydd a’r derwydd o Harlech.
Heddiw yw diwrnod cyntaf gŵyl gregynog 2017: pageantry sy’n rhedeg o 16 o Fehefin tan 2 Gorffennaf 2017.
www.gregynogfestival.org
Drwm 2.30pm
Curating pageantry Dr Rhian Davies
Cyfarwyddydd Artistig Gŵyl Gregynog sy’n adrodd hanes coll cymuned greadigol Harlech ynghyd â’r Gwyliau Cerddorol a’r Pasiantau yn y dref sydd wedi ysbrydoli’r rhaglen eleni dan ei churadaeth.
Mynediad trwy docyn: oedolion £5.00; plant am ddim
E
Ystafell y Cyngor 4.30pm
paul Dooley, telyn
Cerddoriaeth o lawysgrif ddirgel Robert ap Huw, wedi ei chopïo oddeutu 1613 gan delynor o Sir Fôn, a ddefnyddiodd dabl nodiant unigryw a soffistigedig.
Mynediad trwy docyn; oedolion £10.00; plant £5.00
E
Aber MusicfestBydd MusicFest yn dathlu 30 mlynedd eleni gyda’i rhaglen fwyaf helaeth a chyffrous eto. Mae’r ŵyl wyth niwrnod hon o gerddoriaeth glasurol yn gyfle i glywed artistiaid sy’n adnabyddus ar draws y byd yn perfformio cerddoriaeth gerddorfaol a siambr. Ochr yn ochr â hyn ceir rhaglen o ddigwyddiadau cerddoriaeth a storïa rad ac am ddim sy’n cynnwys cerddoriaeth draddodiadol, jazz a gwerin mewn lleoliadau ar draws Aberystwyth.
Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 11.00am
Chwedlau gan y delynores glain Dafydd
Mae Cerdd a Chelf yn ddigwyddiad dyddiol a gynhelir mewn orielau yn Aberystwyth. Bydd MusicFest yn gosod digwyddiad cerddoriaeth neu storïa a cherddoriaeth ymhob oriel am 11.00am, gan gynnig cyfle i’r gynulleidfa brofi’r arddangosfa i gyfeiliant cerddoriaeth. Yn llyfryn MusicFest ceir gwybodaeth ynghylch yr holl arddangosfeydd sy’n rhan o’r fenter hon.
Mynediad am ddim trwy docyn
Dydd Iau 27 Gorffennaf 3.30pm
Chris grooms
Chris Grooms, chwaraewr gitâr clasurol o Dexas a siaradwr Cymraeg, sy’n rhannu ei siwrne yn llawn darluniau wrth iddo drefnu cerddoriaeth heb ei chyhoeddi o lawysgrifau Iolo Morganwg, Ifor Ceri, a Nicholas Bennett sydd â’u cartref yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i ymchwil i mewn i drefniannau Beethoven o alawon Cymreig a gyhoeddwyd gan George Thomson yn y 19eg ganrif.
Mynediad am ddim trwy docyn
B
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 21Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 20Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
gwEiTHgAREDDAu i BlANT
gwEiTHgAREDDAu i BlANT
Dydd Mawrth 15 Awst + 22 Awst 11.00am
sesiwn stori mewn cydweithrediad â Cered, Menter Iaith Ceredigion
Dewch i ymuno yn yr hwyl i gael stori, cân a chrefft. Addas i blant dan 12 oed.
Mynediad am ddim trwy docyn
C
Dydd Mercher 23 Awst 2.00pm – 4.00pm
Mapiau-stori, Hanesion gwerin Cymru a Darlunio llyfrau plant Valériane Leblond a Peter Stevenson
Ymunwch â Valériane Leblond, artist a darlunydd y gyfrol The Four Branches of Y Mabinogi, a Peter Stevenson, storïwr ac awdur Welsh Folk Tales, am brynhawn o weithdy. Bydd cyfle i chi greu a darlunio llyfr plant ar sail map newydd Valériane sy’n llawn darluniau o Lên Gwerin Cymru, a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r digwyddiad hwn yn addas i deuluoedd a phlant sy’n 7 neu’n hŷn.
Mynediad trwy docyn £5.00 # gwladgwlad
B
Delwedd: Bendigeidfran – Valériane Leblond
Dydd Mawrth 29 Awst 11.00am
Trysor y Chwedlau
Dewch i wrando ar y chwedlau tu ôl i’n trysorau, ac os profwch eich hun yn deilwng cewch fod yn arwr eich hun trwy gael eich peintio fel rhyfelwr Celtaidd, draig neu dylwythen deg. Dewch i ymuno yn yr hwyl gyda’n cyfeillion o Gastell Henllys, y pentref o’r Oes Haearn yn Sir Benfro. Mae’r digwyddiad yn addas i blant 3-12 oed.
Mynediad trwy docyn £4.00 # gwladgwlad
E
Delwedd: Castell Henllys
Tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau: 01970 632 548 neu digwyddiadau.llyfrgell.cymru
gwEiTHgAREDDAu
i BlANT
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 23Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 22Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
ADNoDDAu NEwYDD ADNoDDAu NEwYDD
Cylchgronau Cymrupapurau Newydd Cymru Arlein
Mae Cylchgronau Cymru’n darparu mynediad i gylchgronau’n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735-2006. Mae’r teitlau’n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.
Mae’r adnodd yn dwyn ynghyd gylchgronau a ddigidwyd fel rhan o brosiectau a arianwyd gan JISC, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.
Mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn adnodd ar-lein di-dâl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle gallwch ddarganfod miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol o gasgliad cyfoethog y Llyfrgell.
Ar hyn o bryd mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn caniatáu i chi chwilio a chael mynediad i dros 1,100,000 o dudalennau allan o dros 120 o gyhoeddiadau papur newydd yn gyffredinol i fyny at 1910.
cylchgronau.llyfrgell.cymru
Dros 450 o deitlau
Dros 1,000,000 o dudalennau
papuraunewydd.llyfrgell.cymru
Dros 15,000,000 o erthyglau
Dros 124 o deitlau
Dros 1,000,000 o dudalennau
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 25Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 24Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
gwYBoDAETH i YMwElwYR
gwYBoDAETH i YMwElwYR
YsTAfElloEDD DARllEN
–– Hanes Lleol –– Hanes Teulu –– Ymchwil
Beth bynnag yw eich diddordebau, dyma’r lle delfrydol i gael mynediad at gasgliadau eang y Llyfrgell. Dewch i ddefnyddio ein dwy ystafell ddarllen groesawgar a deniadol a gwneud y gorau o’n holl adnoddau, gyda chymorth staff profiadol a chyfeillgar.
DARgANfoD
Eisiau manteisio i’r eithaf ar gasgliadau a gwasanaethau’r Llyfrgell? Os felly, cynhelir sesiynau gwybodaeth ar y pynciau canlynol:
–– Sesiwn Croeso –– Catalogau ac e-adnoddau –– Hanes Teulu a Hanes Lleol –– Hanes adeiladau
Am ragor o wybodaeth neu i archebu eich lle yn un o’r sesiynau, ewch i www.llgc.org.uk/cymorthfeydd neu ffoniwch 01970 632 933
YMwElD
Mae teithiau tywys o amgylch y Llyfrgell ar gael bob dydd Llun am 11.00am a phob dydd Mercher am 2.15pm. I archebu tocyn cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01970 632 548 neu archebwch ar y we drwy fynd i digwyddiadau.llyfrgell.cymru Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnig teithiau tywys i grwpiau a chymdeithasau – am ragor o wybodaeth ffoniwch 01970 632 800 neu e-bostiwch [email protected]
gwAsANAETH llETYgARwCH
Os ydych yn chwilio am leoliad godidog ac unigryw ar gyfer eich seremoni briodas, cynhadledd neu ddigwyddiad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig nifer o ystafelloedd i’w hurio, gwasanaeth arlwyo a chymorth technegol i hyd at 100 o bobl. Cysylltwch â’r Swyddog Lletygarwch ar [email protected] neu 01970 632 801 i drafod eich anghenion ymhellach.
TEiTHio
Mae maes parcio cyfleus ger y Llyfrgell neu teithiwch ar fws 03 sy’n dilyn taith gylch rhwng tref Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.
Dylai pobl sy’n ymweld â digwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir yn y Llyfrgell fod yn ymwybodol y gallai ffotograffwyr y Llyfrgell fod yno’n tynnu lluniau. Efallai y bydd y Llyfrgell yn dymuno defnyddio’r lluniau hyn mewn deunydd hyrwyddo a marchnata. Os oes gennych unrhyw wrthwynebiad i’r fath ddefnydd o lun y gallech fod ynddo, rhowch wybod i aelod o staff y Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell yn cadw’r hawl i newid amserau a dyddiadau unrhyw ddigwyddiad neu arddangosfa. Mae’r manylion a geir yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. pe bai digwyddiad yn cael ei ohirio, gwneir pob ymdrech i hysbysu deiliaid y tocynnau.
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 27Haf 2017
Tocynnau 01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 26Haf 2017
Tocynnau01970 632 548digwyddiadau.llyfrgell.cymru
CADwCH MEwN CYsYllTiAD
CADwCH MEwN CYsYllTiAD
CADwCH MEwN CYsYllTiAD!
Ymunwch â’n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Llyfrgell. Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r cyfeiriad isod.
Enw
Cyfeiriad
Rhif ffôn
E-bost
Sut hoffech chi dderbyn eich copi? Drwy’r post Drwy e-bost
Cefais y llyfryn hwn yn
(nodwch ble, er enghraifft, y Llyfrgell Genedlaethol, Canolfan Groeso Aberystwyth ayb) Rwy’n deall y caiff yr wybodaeth uchod ei chadw yn y Llyfrgell yn unig, ac na fydd unrhyw gwmni na sefydliad arall yn ei defnyddio. Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau at: uned Hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU Neu drwy e-bost at [email protected]
llyfrgell genedlaethol Cymru The National library of wales Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU
01970 632 800 [email protected]
oriau Agor Cyffredinol
Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.00pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 5.00pmCyfle i ennill taleb gwerth £20.00
i’w wario yn Siop y Llyfrgell. Danfonwch eich syniadau at yr Uned Hyrwyddo, [email protected]
CEfNogi
CYfEillioN Y llYfRgEll Ymunwch â Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chewch ostyngiad o 10% ar rai o’r eitemau yn Siop y Llyfrgell: www.llgc.org.uk/cyfeillion
pENoDAu Mae cefnogaeth yn ei hamryfal ffyrdd yn allweddol i ffyniant Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymunwch â ni fel Noddwr:
www.llgc.org.uk/cy/am-llgc/gweithio-gyda-ni/cefnogwch-ni/penodau/
RHoDDi’N RHEolAiDD Sefydlwyd y Llyfrgell gan roddion pobl Cymru. Wrth ddewis rhoi’n rheolaidd fe fyddwch chi’n parhau â’r traddodiad hwnnw:
www.llgc.org.uk/cy/am-llgc/gweithio-gyda-ni/cefnogwch-ni/rhoin-rheolaidd/
Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni: [email protected]
BARN Y BoBl
Beth, neu bwy, hoffech chi eu gweld yn y Llyfrgell? Os oes gennych unrhyw awgrym am siaradwr, cerddor neu ddigwyddiad yr hoffech ei gynnig, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.
Cysylltwch â:
uned Hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU
01970 632 471 [email protected]