Top Banner
Enillwyr 2017 I Winners 2017 Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Adult Learning Awards 2017 Ysbrydoli! TM Inspire! TM
22

Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Dec 20, 2018

Download

Documents

phamphuc
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Enillwyr 2017 I Winners 2017

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Page 2: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Ddogfen ryngweithiol / Interactive document

Croeso i’r DDOGFEN RYNGWEITHIOL yma i ddathlu Wythnos Addysg Oedolion 2017

Please circulate and share this content with your networks.When you click the table of contents, you will be taken directly to that page.To find your way back, simply click on the ‘back to contents’ button and it will bring you back to the contents page.If you’re reading this booklet online, you can press this button when you see it to link to some great video content.

Inspire! Awards:Inside you’ll find the stories and films of the 2017 Inspire! Award Winners. They all picked up their awards at Cardiff City Hall on Thursday 15 June. Follow the Ceremony tweets on #InspireCymru17

Adult Learners’ Week:Our Festival of Learning has been running across Wales and our key campaign, Adult Learners’ Week happens from 19-25 June.

What’s On?Thanks to our many stakeholders and campaign partners for delivering hundreds of have a go events and promotional activity. Go to http://www.learningandwork.wales/festivaloflearningevents/ to see a listing of events across Wales.

Media coverage for the campaign is pointing to Careers Wales and the Skills Gateway for Adults With advice, course information, case studies and resources and signposting to local event activity.

https://www.careerswales.com/en/skills-gateway/

Welcome to this INTERACTIVE DOCUMENT to celebrate Adult Learners’ Week 2017

Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cylchredeg y ddogfen ac yn rhannu ei cynnwys gyda’ch rhwydweithiau.Pan gliciwch ar y tabl cynnwys, byddwch yn mynd yn syth i’r dudalen honno.I fynd yn ôl, y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys.Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch bwyso’r botwm yma pan welwch ef i gysylltu gyda chynnwys fideo gwych.

Gwobrau Ysbrydoli!Tu mewn mae straeon a ffilmiau Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! 2017. Byddant i gyd yn derbyn eu gwobrau yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Dydd Iau 15 Mehefin.Dilynwch negeseuon trydar y Seremoni yn #InspireCymru17

Wythnos Addysg Oedolion:Bu’n Gŵyl Ddysgu yn digwydd ar draws Cymru a chynhelir ein hymgyrch allweddol, Wythnos Addysg Oedolion, rhwng 19-25 Mehefin.

Beth sydd ymlaen?Diolch i’n llu o randdeiliaid a phartneriaid ymgyrch am gyflwyno cannoedd o ddigwyddiadau rhoi cynnig arni a gweithgaredd hyrwyddo.Ewch i http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/digwyddiadaugwyldysgu/ i weld rhestr o’r digwyddiadau a gynhelir ledled Cymru.

Mae sylw ar y cyfryngau i’r ymgyrch yn cyfeirio at Gyrfa Cymru a’r Porth Sgiliau i Oedolion gyda chyngor, gwybodaeth am gyrsiau, astudiaethau achos ac adnoddau ar gyfer digwyddiadau lleol.

https://www.careerswales.com/cy/porth-sgiliau/

2 3

Page 3: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Adult Learners’ Week hits the road! Watch our roundup of pan-Wales activity.

In 2016 we celebrated 25 years of Adult Learners’ Week and we’ve caught up with some previous Inspire! Winners. Watch their film to get an update on their learning journey.

#carudysgu #lovetolearn

What would you love to learn? Use the hashtag and tell us about your burning ambitions.

Media CoverageAdult Learners’ Week is all about telling the stories of adults who have changed their lives and promoting the value of investing in learning and skills. We’ve already secured some great media coverage!

This is how adult learning can be beneficial for your health and wellbeing.

It’s time to reap the benefits of learning.

Yr Wythnos Addysg Oedolion yn taro’r ffordd! Edrychwch ar ein crynodeb o weithgaredd ar draws Cymru.

Yn 2016 fe wnaethom ddathlu 25 mlynedd o’r Wythnos Addysg Oedolion a rydym wedi dal lan gyda rhai o gyn-enillwyr gwobrau Ysbrydoli! Ecdrychwch ar eu ffilm i gael diweddariad ar eu taith ddysgu.

#carudysgu #lovetolearnBeth fyddech chi’n caru ei ddysgu? Defnyddiech yr hashnod a dweud wrthym am eich uchelgais fawr.

Sylw ar y CyfryngauHanfod yr Wythnos Addysg Oedolion yw dweud hanesion oedolion sydd wedi newid eu bywydau a hyrwyddo gwerth buddsoddi mewn dysgu a sgiliau. Rydym eisoes wedi cael sylw gwych yn y cyfryngau!

Dyma sut y gall addysg oedolion fod yn fuddiol i’ch iechyd a’ch lles.

Mae’n amser medi manteision dysgu

4 5

Page 4: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Julie JamesY Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Minister for Skills and Science

Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r llyfryn sy’n rhoi hanes yr holl ddysgwyr a chyflogwyr a enwebwyd ar gyfer gwobrau Ysbrydoli! Wythnos Addysg Oedolion 2017.

Mae’r llwyddiannau rhyfeddol a amlinellir yn y ddogfen hon yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom ac yn dangos sut y gallwn newid ein bywydau drwy fynd ati i ddysgu.

Dewisodd pob un o’r dysgwyr a wobrwyir heddiw fynd ati i ddysgu am resymau gwahanol iawn ac mae’r straeon sydd y tu ôl i’r rhesymau hynny’n cyffwrdd â’r galon.

Gan amrywio o wella hyder i greu rhwydweithiau cymdeithasol, mae a wnelo’r gwobrau hyn â mwy o lawer na dim ond meithrin sgiliau drwy ddysgu. Maent yn ymwneud hefyd â’r

manteision ehangach sy’n gysylltiedig â dysgu ac â’r effaith gadarnhaol y gall y manteision hynny eu cael ar ansawdd bywyd yr unigolyn.

Mae’r dysgwyr hyn yn ymgorffori’r gorau o Gymru. Mae eu hegni, eu huchelgais a’u dewrder yn esiampl inni i gyd. Mi fentraf y bydd darllen eu hanes ac am yr hyn y maent wedi’i gyflawni yn cyffwrdd ac yn ysbrydoli pob yr un ohonom.

Mae datblygu sgiliau newydd, dod o hyd i waith, gwella hyder a chefnogi iechyd a lles yn hanfodol os ydym am wireddu’n gweledigaeth o grey gwlad sy’n gryfach, yn fyw llewyrchus ac sy’n anelu’n uwch. Mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn helpu oedolion i ddysgu – mae’n rhoi cyfle i bobl lwyddo mewn bywyd ac yn rhoi’r ‘ail gyfle’ hanfodol hwnnw iddynt.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn rhan bwysig o Wythnos Addysg Oedolion, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn. Bydd cannoedd o ddigwyddiadau lleol yn cael eu cynnal yn ystod yr ymgyrch eleni er mwyn annog llawer mwy o oedolion i gymryd y cam cyntaf a fydd yn newid eu bywydau. Rwy’n falch o gael cefnogi rhaglen eleni ac o gael gweld y bartneriaeth rhwng darparwyr dysgu wrth iddynt gydweithio ar y rhaglen.

Julie JamesY Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

It gives me great pleasure to introduce the Inspire! Adult Learner’s Week 2017 profile book and I’d like to congratulate all of the learners and employers who were nominated for this year’s awards.

The extraordinary achievements set out in this document serve as an inspiration to us all of the change we can make to our lives through learning.

Each learner rewarded today chose to learn for very different reasons and the stories behind those reasons are quite touching.

From improved confidence to building social networks, these awards are not just about the valuable skills gained from learning but also

the wider benefits offered and the positive impact these can have on someone’s quality of life.

These learners embody the very best of Wales. Their drive, ambition and courage serve to humble us all. I challenge anyone to read their stories and not be moved and inspired by what they have accomplished.

Developing new skills, gaining employment, improving confidence and supporting health and well-being are essential to our vision of creating a stronger, more prosperous and ambitious country. Supporting adult learning is so important because it gives people the chance to prosper in life and offers that vital ‘second chance’.

The Inspire! Awards is an important part of the annual Adult Learners’ Week. This year’s campaign will include hundreds of local events to encourage many more adults to take the first step to changing their lives. I am pleased to support this year’s programme and see the partnership of learning providers working together for this campaign.

Julie JamesMinister for Skills and Science

Rhagair / Introduction

6 7

Page 5: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

David HagendykCyfarwyddwr / Director

Learning and Work Institute

This is my first Inspire! Awards as Director of Learning and Work Institute in Wales. It has been impossible not to be inspired and awed by the stories of each and every nomination. Every single story is unique but all share a common experience of the barriers that each learner has had to overcome to achieve their potential.

A lack of self-confidence. Addiction. Poor mental health. Low pay. Every one of them is a real barrier that our award winners have overcome to realise their potential and to make their own lives and the lives of their families and communities better. Each one underlines the need for second chance education through the full range of lifelong learning opportunities.

The Inspire! Awards celebrate the success stories of lifelong learning. However, for too many people the barriers they face will prove insurmountable, without the right support and the access to services. They are not given the chance to fulfil their potential. The Awards are both a celebration and a call to arms for all of us to do more to campaign, advocate and agitate for better access for everyone and especially for those people yet to take their first step back into education.

Thank you to all the providers of lifelong learning across Wales, including the Adult Learning Partnership, further and higher education institutions, work-based learning providers, unions, councils, voluntary organisations and the many others who are supporting learners.

To all Inspire! Award Winners - enjoy the celebration of your learning journeys and be proud of what you have achieved. All we ask is that you continue to learn and that you work to inspire others about the positive change possible through lifelong learning.

David HagendykDirector for Wales, Learning and Work Institute

I’m delighted to welcome you to the Inspire! Awards. The awards continue to be the centre-piece of Adult Learners’ Week and an opportunity for the sector to celebrate the achievements of some incredible learners and organisations.

Rhagair / Foreword

8 9

Dyma fy nhro cyntaf yn y Gwobrau Ysbrydoli! fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru. Mae wedi bod yn amhosibl peidio cael eich ysbrydoli a’ch gwefreiddio gan straeon bob un sydd wedi cael ei enwebu. Mae pob un stori yn unigryw ac yn rhannu’r profiad o’r rhwystrau y mae pob dysgwr wedi gorfod eu goresgyn i gyflawni eu potensial.

Diffyg hunanhyder. Caethiwed. Iechyd meddwl gwael. Cyflog isel. Mae pob un ohonynt yn rhwystr gwirioneddol y mae enillwyr ein gwobrau wedi ei oresgyn er mwyn cyflawni eu potensial a gwneud eu bywydau eu hunain a bywydau eu teuluoedd a’u cymunedau yn well. Mae pob un yn pwysleisio’r angen am addysg ail gyfle trwy’r ystod lawn o gyfleoedd dysgu gydol oes.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu straeon llwyddiant dysgu gydol oes. Fodd bynnag, i ormod o bobl, bydd y rhwystrau y byddant yn eu hwynebu yn anorchfygol, heb y cymorth cywir a mynediad i wasanaethau. Nid ydynt yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial. Mae’r Gwobrau yn ddathliad ac yn galw pawb ynghyd i wneud mwy i ymgyrchu, eirioli a chynhyrfu er mwyn cael mynediad gwell i bawb ac yn arbennig i’r bobl hynny sydd yn cymryd eu cam cyntaf yn ôl i addysg.

Diolch i’r holl ddarparwyr dysgu gydol oes ledled Cymru, yn cynnwys y Bartneriaeth Addysg Oedolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, darparwyr dysgu yn y gwaith, undebau, cynghorau, sefydliadau gwirfoddol a llawer o bobl eraill sydd yn cefnogi dysgwyr.

I holl Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! – mwynhewch ddathlu eich teithiau dysgu ac ymfalchïwch yn yr hyn yr ydych wedi ei gyflawni. Yr unig beth yr ydym yn gofyn yw eich bod yn parhau i ddysgu a bod eich gwaith yn ysbrydoli eraill ynghylch y newid cadarnhaol sydd yn bosibl trwy ddysgu gydol oes.

David HagendykCyfarwyddŵr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i Wobrau Ysbrydoli!. Mae’r gwobrau’n dal i fod yn ganolbwynt Wythnos Addysg Oedolion ac yn gyfle i’r sector ddathlu cyflawniadau dysgwyr a sefydliadau anhygoel.

Page 6: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Cynnwys / Contents

10 11

Page 7: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Sam Gardner

Cymeradwyaeth Uchel – Gwobr Oedolyn Ifanc 2017

Highly Commended – Young Adult Award 2017 Sam always dreamed of becoming a primary school teacher, so at the age of 18 he embarked on a BA Honours degree in Education Studies at University Wales Trinity St David.

Coming from a care background with limited contact with his family, the isolation Sam felt during his studies soon became problematic. He spent his first Christmas alone in his student accommodation while others returned home to parents and loved ones. Over the next year or so that loneliness became a prominent feature of his life and although he did then manage to spend key holiday periods with previous foster parents and sometimes friends, it was a struggle for him. Sam’s

grades were not the highest within his cohort but his ambition to succeed certainly was and he continued to make progress. As time went on it was clear that Sam was struggling with anxiety and depression and by the middle of what should have been his final year of studies he was no longer coping, the lack of a support structure outside university meant that he felt he was unable to continue.

Sam made the decision that he would take a break from his studies and return in the following academic year for a fresh start, to give him the best chance to improve his grades and attain his degree. He returned to his studies for his final year stronger, more

confident and determined to succeed. He successfully completed his degree and graduated in the summer of 2015. He went on to secure a job as a teaching assistant and then applied to complete his PGCE qualification. Sam has shown determination and resilience despite his adverse life experiences and is now about to achieve his dream of becoming a fully qualified teacher.

“I believe that education is a tool that empowers, opens our minds and enables us to become socially mobile. I have never let my past define me but believe it has only made me stronger and more determined to succeed.”

12 13

“I will continue to speak and write on behalf of looked after children who lack a voice or are under-represented. You can achieve no matter what your circumstance. Grasp education with both hands. It opens doors and builds your character and mind.”Gwobrau Addysg

Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Mae Sam bob amser wedi breuddwydio am fod yn athro ysgol gynradd, felly yn 18 oed, dechreuodd ar radd BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn dod o gefndir gofal heb lawer o gyswllt â’i deulu, daeth y teimlad ynysig oedd gan Sam wrth astudio yn broblem yn gyflym iawn. Treuliodd ei Nadolig cyntaf ar ei ben ei hun yn ei lety i fyfyrwyr tra bod ei gyfoedion yn mynd adref at eu rhieni a’u hanwyliaid. Dros y flwyddyn nesaf, daeth yr unigrwydd hwnnw yn nodwedd amlwg o’i fywyd ac er iddo wedyn lwyddo i dreulio gwyliau penodol gyda rhieni maeth blaenorol ac weithiau ei ffrindiau, roedd yn anodd iddo. Nid oedd graddau Sam gyda’r uchaf yn ei garfan ond roedd ei uchelgais i lwyddo yn amlwg ac fe wnaeth barhau i wneud cynnydd. Wrth i amser fynd ymlaen, roedd yn amlwg bod Sam yn dioddef o orbryder ac

iselder ac erbyn canol ei flwyddyn olaf o astudio, nid oedd yn ymdopi bellach. Roedd y diffyg strwythur cefnogaeth y tu allan i’r brifysgol yn golygu ei fod yn teimlo nad oedd yn gallu parhau.

Gwnaeth Sam y penderfyniad y byddai’n cymryd saib o’i astudiaethau ac yn dychwelyd y flwyddyn academaidd ddilynol i ddechrau o’r newydd, er mwyn cael y cyfle gorau i wella ei raddau a chael ei radd. Dychwelodd i’w astudiaethau am ei flwyddyn olaf yn gryfach, yn fwy hyderus ac yn benderfynol o lwyddo. Llwyddodd i gwblhau ei radd a graddiodd yn haf 2015. Aeth ymlaen i gael swydd fel cynorthwyydd addysgu ac yna gwnaeth gais i gwblhau ei gymhwyster TAR. Mae Sam wedi dangos penderfyniad a chadernid er gwaethaf ei brofiadau niweidiol mewn bywyd ac mae bellach ar fin gwireddu ei freuddwyd o fod yn athro cymwys.

“Rwy’n credu bod addysg yn offeryn sy’n eich grymuso, yn agor eich meddyliau ac yn ein galluogi ni i symud yn gymdeithasol. Nid wyf erioed wedi gadael i’r gorffennol fy niffinio ond credaf ei fod wedi fy ngwneud yn gryfach ac yn fwy penderfynol o lwyddo”.

PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT / UNIVERSITY OF WALES TRINITY ST DAVID

“Byddaf yn parhau i siarad ac ysgrifennu ar ran plant sy’n derbyn gofal sydd heb lais neu’n cael eu tangynrychioli. Gallwch gyflawni waeth beth yw eich amgylchiadau. Gafaelwch mewn addysg gyda dwy law. Mae’n agor drysau, yn datblygu eich cymeriad a’ch meddwl”.

Page 8: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Jimama (JJ) was born in Sierra Leone, West Africa, in 1995. She lost her entire family during the civil war and aged 7, she was saved by family friends who managed to bring her to the UK when they fled.

Unable to speak English and with no formal education or family in the UK, Jimama was moved between several foster homes. This unsettled and chaotic childhood caused disruption to JJ’s education and heightened her anxieties, resulting in extreme shyness.

Aged 10, Jimama was diagnosed with dyslexia. Learning support was provided which helped but she still

found school challenging and achieved G grade GCSEs.

However, her educational journey after leaving school set Jimama on the path to success. She enrolled in a level 1 Hairdressing course at Gower College in Swansea where her learning needs were recognised and supported from the outset, she began to flourish and her true sunny personality shone through. She went on to study level 2 and 3 qualifications in Hairdressing and Beauty Therapy, alongside this she continued to improve her essential skills. Now 21, JJ will qualify and finish college this June and will set sail for

adventures – literally – having landed a job as a cruise-ship spa worker.

Jimama says, “All the challenges have made me even more determined to make the most of the opportunities I’ve been given. I would say if you’ve got a dream and you want it badly enough then work hard and don’t let anything get in your way. Stability isn’t something that I’ve had much of in my life, I lost both my parents at a young age, but I’m sure they’d be proud of me right now. Coming to college and getting my qualifications has brought me structure, friendships and a future.”

14 15

“Jimama’s learning journey is quite unlike any other student I have taught in 25 years. She has struggled most days but has a dogged determination to succeed and achieve her goals. She is a much-admired student who now has life skills and a host of qualifications with a bright future ahead.”Joanna McEwan-ThomasGower College

Jimama Ansumana

Gwobr Oedolyn Ifanc 2017

Young Adult Award Winner 2017

Ganed Jimama (JJ) yn Sierra Leone, Gorllewin Affrica, ym 1995. Collodd ei theulu cyfan yn ystod y rhyfel cartref ac yn 7 oed, cafodd ei hachub gan ffrindiau i’r teulu a lwyddodd i ddod â hi i’r DU pan wnaethant ffoi.

Yn methu siarad Saesneg heb unrhyw addysg flaenorol na theulu yn y DU, cafodd Jimama ei symud rhwng sawl cartref maeth. Amharodd y plentyndod ansefydlog a di-drefn hwn ar addysg JJ a chynyddu ei phryder, gan arwain at swildod eithafol.

Yn 10 oed, cafodd Jimama ddiagnosis o ddyslecsia. Cafodd gymorth dysgu a oedd o gymorth, ond roedd yn dal i weld yr ysgol yn heriol a chafodd raddau G yn ei harholiadau TGAU.

Ond, rhoddodd taith addysgol Jimama ar ôl gadael yr ysgol hi ar y llwybr tuag at lwyddiant. Ymrestrodd ar gwrs Trin Gwallt lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle cafodd ei hanghenion dysgu eu cydnabod a’u cefnogi o’r cychwyn. Dechreuodd ffynnu a daeth

ei phersonoliaeth hapus, wirioneddol i’r amlwg. Aeth ymlaen i astudio cymwysterau lefel 2 a 3 mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch, ynghyd â hyn, aeth ymlaen i wella ei sgiliau hanfodol. Bellach yn 21 oed, bydd JJ yn cymhwyso ac yn gorffen yn y coleg ym mis Mehefin a bydd yn dechrau ar daith o antur - yn llythrennol - am ei bod wedi cael swydd mewn sba ar long fordeithio.

Dywed Jimama, “Mae’r holl heriau wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol o fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd yr wyf wedi eu cael. Byddwn yn dweud os oes gennych freuddwyd a’ch bod ei eisiau gymaint, yna gweithiwch yn galed a pheidiwch â gadael i unrhyw beth eich rhwystro. Nid wyf wedi cael llawer o sefydlogrwydd yn fy mywyd, collais fy mam a’m tad yn ifanc iawn, ond rwy’n siŵr y byddent yn falch iawn ohonof nawr. Mae dod i’r coleg a chael cymwysterau wedi rhoi strwythur, cyfeillgarwch a dyfodol i mi.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

COLEG GŴYR ABERTAWE /GOWER COLLEGE SWANSEA

“Mae taith ddysgu Jimama yn wahanol i un unrhyw fyfyriwr yr wyf wedi ei addysgu mewn 25 o flynyddoedd. Mae wedi wynebu anawsterau bob dydd bron, ond mae’n benderfynol i lwyddo a chyflawni ei nodau. Mae’n fyfyrwraig sy’n cael ei hedmygu sydd â sgiliau bywyd a chymwysterau bellach a dyfodol disglair o’i blaen.”Joanna McEwan-ThomasColeg Gŵyr

Page 9: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Christopher Joyce

Gwobr Newid Bywyd neu Yrfa 2017

Life or Career Change Award 2017

Christopher Joyce, aged 35, came to Itec Skills and Employment having been unemployed for 12 years. He’d given up any hope of having a job. He’d been with the job centre a long time and had numerous sanctions as a result of not taking agreed job search actions.

Chris worked with Itec to help him overcome anger issues that masked a lack of confidence and a negative mindset. His nominator, Natalie Rees comments; “Having been unemployed for such a long time, Chris suffered from low self-esteem. However, he settled into the programme and

embraced what it had to offer and slowly started to build his confidence through hard work and determination.”

As part of developing his skills and employability he secured a work placement as a groundsman at a local cemetery, something which has proved a turning point for Chris. He flourished in this role and became a focused individual determined to make a success of himself.

Chris has managed to turn his life around after recognising and addressing the issues he had with anger and a lack of confidence.

He now has a bright and exciting future ahead of him. He has secured a full-time position at Glyntaff Cemetery & Crematorium in Rhondda Cynon Taff. His employer comments; “He’s a really hard worker and fits in with us. He is our Chris.”

Chris says: “Since completing the programme I feel like a new man; I’m more confident, know my own self-worth and I’m earning my own money for the first time. If I can change my life around after so many knockbacks, anyone can.”

16 17

“I feel like a new man; I’m more confident, know my own self-worth and I’m earning my own money for the first time. If I can turn my life around after so many knockbacks anyone can.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

SGILIAU A CHYFLOGAETH ITEC / ITEC SKILLS AND EMPLOYMENT

Daeth Christopher Joyce, 35 oed, at Sgiliau a Chyflogaeth Itec ar ôl bod yn ddi-waith am 12 mlynedd. Roedd wedi anobeithio o ran cael swydd. Roedd wedi bod gyda’r ganolfan waith am amser hir ac roedd ganddo nifer o sancsiynau o ganlyniad i beidio cymryd y camau y cytunwyd arnynt i chwilio am swydd.

Gweithiodd Chris gydag Itec i’w helpu i oresgyn problemau dicter oedd yn cuddio ei ddiffyg hyder a’i feddylfryd negyddol. Dywed ei enwebydd, Natalie Rees; “Ar ôl bod yn ddi-waith am gymaint o amser, roedd gan Chris ddiffyg hunan-barch. Fodd bynnag, setlodd i mewn i’r rhaglen a chroesawodd yr hyn yr oedd ganddi i’w gynnig ac yn araf, cynyddodd ei hyder trwy waith caled a phenderfynoldeb.”

Fel rhan o ddatblygu ei sgiliau a’i gyflogadwyedd, cafodd leoliad gwaith fel gofalwr tir mewn mynwent leol, rhywbeth sydd wedi bod yn drobwynt i Chris. Datblygodd yn ei rôl a daeth yn unigolyn â ffocws, yn benderfynol o lwyddo.

Mae Chris wedi llwyddo i drawsnewid ei fywyd ar ôl cydnabod a mynd i’r afael â’r problemau yr oedd ganddo gyda dicter a diffyg hyder. Bellach, mae ganddo ddyfodol disglair a chyffrous o’i flaen. Mae wedi sicrhau swydd amser llawn ym Mynwent ac Amlosgfa Glyn-taf yn Rhondda Cynon Taf. Dywed ei gyflogwr; “Mae’n weithgar tu hwnt ac yn gartrefol iawn yma. Fe yw ein Chris ni.”

Dywed Chris: “Ers cwblhau’r rhaglen, rwy’n teimlo fel dyn newydd; rwy’n fwy hyderus, yn gwybod pa mor werthfawr ydw i ac rwy’n ennill fy arian fy hun am y tro cyntaf. Os wyf i’n gallu trawsnewid fy mywyd ar ôl cymaint o ergydion, gall unrhyw un wneud.”

“Rwy’n teimlo fel dyn newydd; rwy’n fwy hyderus, yn gwybod pa mor werthfawr ydw i ac rwy’n ennill fy arian fy hun am y tro cyntaf. Os wyf i’n gallu trawsnewid fy mywyd ar ôl cymaint o ergydion, gall unrhyw un wneud.”

Page 10: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Nutica Neacsu

Gwobr Dysgu fel Teulu 2017

Family Learning Award 2017Nutica, 34, and daughter Iulia, 5, moved to Cardiff in March 2016, leaving Romania to seek a better life.

Nutica spoke some English but her daughter spoke very little, so they found it difficult to integrate with the local community. Their learning journey started when they joined the Families Learning Together – ESOL course at Radnor Primary School. The course helped the pair meet other families in the same position as them while also developing their English-language skills. Nutica was having to work until late at night and attend the course in

the morning, but she didn’t miss one session.

Support and guidance was provided by tutors and both grew in confidence. The course helped them to make friends and learn more about life and education in Wales. Iulia started making good progress with English, while Nutica became more aware of what she would like to do for a future job. On completing the course in December 2016, Nutica wanted to continue learning. She attended an open day at Cardiff and Vale College and secured a place on the level 2 Business Administration course.

Nutica now studies alongside work as a hotel food and beverage assistant.In September she will start working towards a Public Services qualification at Cardiff and Vale College and is considering a career in hotel or events management or even police work. Her daughter wants to be a teacher.

She says, “The Family Learning course was my first qualification in English. I am very proud of it and also my daughter’s achievements – she is now doing really well at school.”

18 19

“I made friends with other mums in the group, we supported each other, we learned how education is different in Wales, as we came to the end of the course I knew I would like to carry on learning. I also hope this is an example for my daughter.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

COLEG CAERDYDD A’R FRO / CARDIFF AND VALE COLLEGE

“Gwnes i ffrindiau gyda mamau eraill yn y grŵp, fe wnaethom gefnogi ein gilydd, fe wnaethom ddysgu sut mae addysg yn wahanol yng Nghymru. Wrth i ni ddod i ddiwedd y cwrs, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau parhau i ddysgu. Rwyf hefyd yn gobeithio bod hyn yn esiampl i fy merch.”

Symudodd Nutica, 34 oed, a’i merch Lulia, 5 oed, i Gaerdydd ym mis Mawrth 2016, gan adael Romania i chwilio am fywyd gwell iddi hi ei hun a’i merch.

Roedd Nutica yn siarad ychydig o Saesneg ond nid oedd ei merch yn siarad rhyw lawer, felly roedd yn anodd integreiddio i’r gymuned leol. Dechreuodd eu taith ddysgu pan wnaethant ymuno â Theuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd – cwrs ESOL yn Ysgol Gynradd Radnor. Helpodd y cwrs y ddwy i gyfarfod â theuluoedd eraill oedd yn yr un sefyllfa â nhw tra’n datblygu eu sgiliau Saesneg. Roedd Nutica yn gorfod gweithio’n hwyr y nos ac yn mynychu’r cwrs yn y bore, ond chollodd hi’r un sesiwn.

Rhoddwyd cymorth ac arweiniad gan diwtoriaid a chynyddodd hyder y ddwy. Helpodd y cwrs nhw i wneud ffrindiau a dysgu mwy am fywyd ac addysg yng

Nghymru. Dechreuodd Lulia wneud cynnydd da gyda Saesneg, a daeth Nutica yn fwy ymwybodol o’r hyn y byddai’n hoffi ei wneud fel gwaith yn y dyfodol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn Rhagfyr 2016, roedd Nutica eisiau parhau i ddysgu. Mynychodd ddiwrnod agored yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro a chafodd le ar y cwrs Gweinyddu Busnes lefel 2.

Mae Nutica bellach yn astudio ac yn gweithio fel cynorthwyydd bwyd a diod mewn gwesty. Ym mis Medi, bydd yn dechrau gweithio tuag at gymhwyster

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ac mae’n ystyried gyrfa yn rheoli gwestai neu ddigwyddiadau neu hyd yn oed waith gyda’r heddlu. Mae ei merch eisiau bod yn athrawes.

Dywed, “Y cwrs Dysgu fel Teulu oedd fy nghymhwyster cyntaf yn Saesneg. Rwy’n falch iawn ohono ac o gyflawniadau fy merch - mae’n gwneud yn dda iawn yn yr ysgol erbyn hyn”.

Page 11: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Ysgol Gynradd Treorci – Ystafell Teulu /Treorchy Primary School - Family Room

Gwobr Dysgu fel Teulu 2017

Family Learning Award 2017

20 21

Over the last five years, Treorchy Primary School in Rhondda Cynon Taff, has developed a mix of formal and informal learning opportunities for parents and children in the school’s Family Room.

With 23% of pupils receiving free school meals, the activities connected with the Family Room aim to make children and parents feel welcome and valued and to break down any prior barriers to learning that they may have had.

Natalie Johnson, the school’s wellbeing officer says: “Many families have told us that they would like to support their children in their learning but do not know how or do not have the confidence. The Family Room provides guidance to parents and carers to support them to create a home environment that enhances and promotes learning.”

Programmes range from cooking on a budget and housekeeping to ‘Men Behaving Dadly”, an afterschool group for children and their fathers, alongside more formal learning courses such as First Aid, Food Hygiene and Literacy and Numeracy. For

many, engagement in informal learning has progressed on to more formal courses and qualifications and even University. Mum, Vicky Clarke started on the Family Learning provision then enrolled on a range of courses which has led her to a BSc in Social Science. For many individuals who attend, this may be the only social interaction they get. They benefit from engagement and peer support with other parents and their first `good’ experience of learning.

The storytelling project was used to highlight the importance of reading at home and gives parents the skills that they needed to do this. Some of the most vulnerable families, many of whom were not even coming to the school gates have published the story which they created together.

Parent Debbie Entwistle says, “I am building more confidence and life skills to help me teach my children to learn. I

am gaining skills to better myself. I feel like I am doing something with my life, not sitting in the house all the time.”

Headteacher Louise Reynolds, says: “Our main aim is to raise expectations of parents for themselves and for their children. We’ve managed to reach out to our parents by providing a Family Room which is a welcoming and nurturing environment. Here, parents are given the tools, expertise and knowledge to equip themselves and their children with the skills they need to thrive.”

“I am a very young, single Mum of two children. I left school without any qualifications and I struggled with my confidence. I also struggled to know how to play with my children but that changed after going to the Family Room. We have been interacting together and my confidence has grown. It has given me an insight into the world of work. I am now excited about my job prospects.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

YSGOL GYNRADD TREORCI / TREORCHY PRIMARY SCHOOL

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Ysgol Gynradd Treorci yn Rhondda Cynon Taf wedi datblygu cymysgedd o gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol i rieni a phlant yn Ystafell Teulu’r ysgol.

Gyda 23% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim, nod y gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Ystafell Teulu yw croesawu plant a rhieni a’u gwneud i deimlo’n werthfawr a chwalu unrhyw rwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu.

Dywed Natalie Johnson, swyddog lles yr ysgol: “Mae llawer o deuluoedd wedi dweud wrthym y byddent yn hoffi cefnogi addysg eu plant ond nad ydynt yn gwybod sut i wneud hynny neu os nad oes ganddynt yr hyder i wneud. Mae’r Ystafell teulu’n rhoi arweiniad i rieni a gofalwyr i’w cynorthwyo i greu amgylchedd yn y cartref sydd yn gwella ac yn hybu dysgu.”

Mae’r rhaglenni’n amrywio o goginio ar gyllideb a chadw tŷ i ‘Men Behaving Dadly”, grŵp ar ôl ysgol i blant a’u tadau, ynghyd â chyrsiau mwy ffurfiol fel Cymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd a Llythrennedd a Rhifedd. I lawer, mae ymgysylltu mewn dysgu anffurfiol wedi datblygu’n gyrsiau mwy ffurfiol a chymwysterau a hyd yn oed y Brifysgol. Dechreuodd Vicky Clarke, sy’n fam, ar y ddarpariaeth Dysgu fel Teulu, yna ymrestrodd ar ystod o gyrsiau a arweiniodd ati’n gwneud BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol. I lawer o unigolion sy’n mynychu, efallai mai dyma’r unig adeg y maent yn

rhyngweithio. Maent yn cael budd o ymgysylltu a chael cefnogaeth gan rieni eraill ac efallai mai dyma yw eu profiad ‘da’ cyntaf o ddysgu.

Defnyddiwyd y prosiect adrodd stori i amlygu pwysigrwydd darllen yn y cartref a rhoi’r sgiliau angenrheidiol i rieni wneud hyn. Mae rhai o’r teuluoedd mwyaf agored i niwed, llawer ohonynt ddim hyd yn oed yn dod at glwydi’r ysgol, wedi cyhoeddi’r stori y maent wedi ei chreu gyda’i gilydd.

Dywed Debbie Entwistle sydd yn rhiant, “Rwy’n datblygu mwy o hyder a sgiliau cymdeithasol i’m helpu i ddysgu fy mhlant i ddarllen. Rwy’n cael sgiliau i wella fy hun. Rwy’n teimlo fy mod yn gwneud rhywbeth gyda fy mywyd, nid yn eistedd yn y tŷ drwy’r amser.”

Dywed y Pennaeth, Louise Reynolds: “Ein prif nod yw cynyddu disgwyliadau rhieni iddyn nhw ac i’w plant. Rydym wedi llwyddo i estyn allan i’n rhieni trwy ddarparu Ystafell teulu sydd yn amgylchedd croesawgar a chefnogol. Yma, mae rhieni’n cael yr offer, yr arbenigedd a’r wybodaeth i gael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw a’u plant i ffynnu.”

“Rwy’n fam sengl, ifanc iawn, i ddau o blant. Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ac rwy’n dioddef o ddiffyg hyder. Roeddwn hefyd yn cael anhawster yn gwybod sut i chwarae gyda fy mhlant, ond ar ôl mynd i’r Ystafell Deulu. Mae hynny wedi newid. Rydym wedi bod yn rhyngweithio gyda’n gilydd ac mae fy hyder wedi cynyddu. Mae wedi rhoi cipolwg i mi o’r byd gwaith. Rwyf bellach yn llawn cyffro am fy rhagolygon am waith.”

Page 12: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Laura Harris

Gwobr Iechyd a Llesiant 2017

Health and Wellbeing Award 2017

22 23

“I wanted to better myself and the best way I thought I could do that was by going to college, I had so little confidence, I feel much better about myself and stronger too. My message to anyone who suffers from mental health, alcohol and drug problems like I did - the answer is education! It transformed my life. Education has empowered me, it has been my life saver. I’ve proved to myself and others that I can do it.”

Laura Harris has transformed into a confident and successful student progressing to university, having worked to overcome a troubled childhood where she experienced homelessness, substance abuse, domestic violence and mental health issues.

The 33-year-old mother-of-three moved to Aberdare, she knew no-one in the area so decided to enrol in college and this was when Laura’s learning journey began in 2015. Laura started with an Access to Humanities course and progressed onto Level 3 Business & Administration. She says, “I wanted to get an education to help my children with their school work. I relish learning

and nothing feels more rewarding than getting distinctions in my work.”

Determined, Laura excelled at her studies and in her coursework. She has also used her challenging background to help others. As part of a theatre workshop Laura devised a DVD which features her experiences on relationships and domestic violence. The DVD was rolled out across schools and colleges in the county and won a National Union of Students Enterprise award in 2016.

As a result of the trauma of her past life, Laura suffers panic attacks, however her nominator, Laura Wilson of Coleg y Cymoedd comments; “Laura’s story could have ended so differently but she

continues to inspire and amaze those around her. Education has proved a turning point for her health and wellbeing and I am so very proud of her.”

Laura is now moving on to Higher Education, having secured a place to study Events Management at the University of South Wales in September.

Laura says: “I wanted to better myself and the best way I thought I could do that was by going to college. I had so little confidence, I feel much better about myself and stronger too. My message to anyone who suffers from mental health, alcohol and drug problems like I did - the answer is education! It transformed my life. Education has empowered me, it has been my life saver. I’ve proved to myself and others that I can do it.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

COLEG Y CYMOEDD

Mae Laura Harris wedi trawsnewid i fod yn fyfyrwraig hyderus a llwyddiannus sydd yn mynd ymlaen i’r brifysgol, ar ôl gorfod goresgyn plentyndod cythryblus pan brofodd ddigartrefedd, cam-drin sylweddau, trais domestig a phroblemau iechyd meddwl.

Symudodd y fam i dri o blant, sydd yn 33 oed, i Aberdâr. Nid oedd yn adnabod unrhyw un yn yr ardal felly penderfynodd ymrestru yn y coleg a dyma’r adeg y dechreuodd taith ddysgu Laura yn 2015. Dechreuodd Laura gyda chwrs Mynediad i’r Dyniaethau ac aeth ymlaen i wneud Busnes a Gweinyddu Lefel 3. Dywed, “Roeddwn eisiau cael addysg er mwyn helpu fy mhlant gyda’u gwaith ysgol. Rwy’n mwynhau dysgu a does dim yn rhoi mwy o foddhad na chael cael rhagoriaeth am fy ngwaith.”

Yn benderfynol, rhagorodd Laura yn ei hastudiaethau, gan gael rhagoriaeth yn eu gwaith cwrs. Mae hefyd wedi defnyddio ei chefndir heriol i helpu

eraill. Fel rhan o weithdy theatr, dyfeisiodd Laura DVD sydd yn cynnwys ei phrofiadau am berthynas a thrais domestig. Cafodd y DVD ei gyflwyno ar draws ysgolion a cholegau yn y wlad ac enillodd wobr Fenter Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 2016.

O ganlyniad i drawma ei bywyd blaenorol, mae Laura yn cael pyliau o banig, ond dywed ei henwebydd, Laura Wilson o Goleg y Cymoedd; “Gallai stori Laura fod wedi gorffen mor wahanol ond mae’n parhau i ysbrydoli a synnu pawb o’i chwmpas. Mae addysg wedi bod yn drobwynt i’w hiechyd a’i lles ac rwyf yn falch iawn ohoni.” Bydd Laura bellach yn symud ymlaen i Addysg Uwch, ar ôl sicrhau lle i astudio Rheoli Digwyddiadau ym Mhrifysgol De Cymru ym mis Medi.

Dywed Laura: “Roeddwn eisiau gwella fy hun a’r ffordd orau yr oeddwn yn credu y gallwn wneud hynny oedd trwy fynd i’r coleg. Nid oedd gennyf lawer o hyder. Rwy’n teimlo’n llawer gwell

amdanaf i fy hun ac yn gryfach hefyd. Fy neges i unrhyw un sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, alcohol a chyffuriau fel yr oeddwn i yw – yr ateb yw addysg! Fe wnaeth drawsnewid fy mywyd. Mae addysg wedi fy ngrymuso, mae wedi achub fy mywyd. Rwyf wedi profi i mi fy hun ac i eraill y gallaf wneud hyn.”

“Roeddwn eisiau gwella fy hun a’r ffordd orau yr oeddwn yn credu y gallwn wneud hynny oedd trwy fynd i’r coleg. Nid oedd gennyf lawer o hyder. Rwy’n teimlo’n llawer gwell amdanaf fy hun ac yn gryfach hefyd. Fy neges i unrhyw un sy’n dioddef problemau iechyd meddwl, alcohol a chyffuriau fel yr oeddwn i yw – yr ateb yw addysg! Fe wnaeth drawsnewid fy mywyd. Mae addysg wedi fy ngrymuso, mae wedi achub fy mywyd. Rwyf wedi profi i mi fy hun ac i eraill y gallaf wneud hyn.”

Page 13: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Shafiq Mohammed

Cymeradwyaeth Uchel –Gwobr Mewn i Waith 2017

Highly Commended – Into Work Award 2017Shafiq started studying with The Open University in 2010 and is due to complete his BA (Hons) Humanities in the summer of 2017. His goal has always been to improve his job prospects, specifically by moving from his original call centre job to a position within the education sector.

Growing up, home life was difficult and this impacted on his schooling and academic achievements. As an adult, Shafiq was keen to return to learning and improve his skills and employability. However, the road has not been an easy one and when Shafiq’s wife was 8 months pregnant they were made homeless.

He says; “This was the most difficult moment of my life. I borrowed money from a friend to move into a flat which was in poor condition. There was no furniture, no fridge. It was summer time, I can still remember that I would get milk and place it in the bucket and I would fill it with cold water to last throughout the night. I was in total financial crisis; my wage would come in and everything would go straight out to pay bills. I would cycle to the hospital and my wife being heavily pregnant would catch the bus. I couldn’t travel with her as I had no bus fare.”

He spent time studying at the library or reading by a mobile phone light during the nights to save on electricity. Despite these dark times, Shafiq has continued to meet deadlines for his assignments, he said, “I have been on an extremely long and difficult journey but it has all been 100% worthwhile. I have secured a job as an assistant teacher at a local high school and feel like I am finally reaching my dream goal. I feel like everything is finally coming together and I can build a future for both me and my family.”

24 25

“To save on electricity I would not put the lights on in the nights whilst studying, so I would use my mobile phone light to read the chapters. I would use the local library to surf the internet, to browse the OU site and to submit essays. I continued to study hard, my dreams and goals were still alive and served as a lantern that I kept throughout my studies.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Y BRIFYSGOL AGORED YNG NGHYMRU /THE OPEN UNIVERSITY IN WALES

Dechreuodd Shafiq astudio gyda’r Brifysgol Agored yn 2010 ac mae i fod cwblhau ei BA (Anrh) yn y Dyniaethau yn haf 2017. Ei nod bob amser oedd gwella ei ragolygon am swydd, yn benodol trwy symud o’i swydd wreiddiol mewn canolfan alwadau i swydd yn y sector addysg.

Pan oedd yn tyfu i fyny, roedd bywyd yn anodd gartref a chafodd hyn effaith ar ei addysg a’i gyflawniadau academaidd. Fel oedolyn, roedd Shafiq yn awyddus i ddychwelyd i ddysgu a gwella ei sgiliau a’i gyflogadwyedd. Fodd bynnag, nid yw’r daith wedi bod yn hawdd a phan oedd gwraig Shafiq 8 mis yn feichiog, cawsant eu gwneud yn ddigartref.

Dywed; “Dyma adeg anoddaf fy mywyd. Benthycais arian gan ffrind er mwyn symud i mewn i fflat oedd mewn cyflwr gwael. Nid oedd unrhyw ddodrefn, dim oergell. Roedd hi’n haf, rwy’n cofio cael llaeth a’i roi mewn bwced a’i lenwi â dŵr

oer er mwyn parhau’r nos. Roeddwn mewn argyfwng ariannol llwyr; byddwn yn cael fy nghyflog a byddai popeth yn mynd allan yn syth i dalu’r biliau. Byddwn yn beicio i’r ysbyty a byddai fy ngwraig feichiog yn dal y bws. Nid oeddwn yn gallu teithio gyda hi am nad oedd gennyf arian am docyn.”

Treuliodd amser yn astudio yn y llyfrgell neu’n darllen gyda golau ffôn symudol yn ystod y nos er mwyn arbed ar drydan. Er gwaethaf yr adegau tywyll hyn, mae Shafiq wedi parhau i wneud ei aseiniadau ar amser, dywed “Rwyf wedi bod ar daith hir ac anodd ond mae wedi bod yn werth chweil 100%. Rwyf wedi cael swydd fel athro cynorthwyol mewn ysgol uwchradd leol ac rwy’n teimlo fy mod yn cyrraedd fy nod o’r diwedd. Rwy’n teimlo bod popeth yn dod ynghyd o’r diwedd ac rwy’n gallu creu dyfodol i fi a’m teulu.”

“Er mwyn arbed trydan, ni fyddwn yn rhoi’r golau ymlaen gyda’r nos tra’n astudio, felly byddwn yn defnyddio golau fy ffôn symudol i ddarllen y penodau. Byddwn yn defnyddio’r llyfrgell leol i fynd ar y rhyngrwyd, neu bori ar safle’r Brifysgol Agored ac i gyflwyno traethodau. Astudiais yn galed, roedd fy mreuddwydion a’m hamcanion yn dal yn fyw ac fel llusern i’m harwain trwy fy astudiaethau”.

Page 14: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Stuart Hughes

Gwobr Mewn i Waith 2017

Into Work Award 2017

Stuart has won the ‘Into Work’ award after turning his life around through learning and now carving a successful career for himself as a support worker.

A former Royal Marine, in September 2015 a gambling addition took control of Stuart’s life leading him to seek rehabilitation. But it was when Stuart joined a supported living scheme that his life began to change for the better.

Living in an environment with support workers on site proved instrumental for Stuart’s recovery and with the encouragement of a support worker, by September 2016, Stuart had secured a place on the 12-week ‘Opening Doors

Enhancing Lives’ (ODEL) learning and training programme.

The programme provided Stuart with the opportunity to learn key skills and competencies including an accredited Customer Service Level 2 award. The second stage of the course provided Stuart with the opportunity to put his skills into practice.

After completing the course Stuart secured a job with the ODEL Involve team. His attitude paired with his hard work and empathetic nature helps him relate to clients, helping them with issues such as benefits and housing.

Stuart is now furthering his learning, and is working towards counselling qualifications at Glyndwr University in Wrexham.

Stuart says: “I was in a bad place at one time and the future did seem pretty hopeless but things are going well for me now. I was proud when I found out I’d been nominated for this award and I wasn’t expecting to win. But I was proud to tell my mum and dad. My three-year-old son Riley has been a big inspiration.”

26 27

“I was in a bad place at one time and the future did seem pretty hopeless but things are going well for me now. My three-year-old son Riley has been a big inspiration.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

CYMDEITHAS TAI CLWYD ALYN / CLWYD ALYN HOUSING ASSOCIATION

Mae Stuart wedi ennill y wobr ‘I Mewn i Waith’ ar ôl trawsnewid ei fywyd trwy ddysgu a bellach trwy greu gyrfa lwyddiannus i’w hun fel gweithiwr cymorth.

Ym mis Medi 2015, aeth Stuart, oedd yn Fôr-filwr yn flaenorol, yn gaeth i gamblo ac o ganlyniad, bu’n rhaid iddo chwilio am adferiad. Ond pan ymunodd Stuart â chynllun byw gyda chymorth, dechreuodd ei fywyd newid er gwell.

Roedd byw mewn amgylchedd gyda gweithwyr cymorth ar y safle yn dyngedfennol i adferiad Stuart a gyda anogaeth gweithiwr cymorth, erbyn mis Medi 2016, roedd Stuart wedi sicrhau lle ar y rhaglen dysgu a hyfforddiant 12 wythnos ‘Agor Drysau Gwella Bywydau’ (ODEL).

Rhoddodd y rhaglen gyfle i Stuart ddysgu sgiliau allweddol a chymwyseddau yn cynnwys Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2. Rhoddodd ail gam y cwrs gyfle i Stuart roi ei sgiliau ar waith.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, sicrhaodd Stuart swydd gyda thîm Cynnwys ODEL. Mae ei agwedd, ynghyd â’i waith caled a’i natur empathetig, o gymorth iddo ymwneud â’i gleientiaid a’u helpu gyda materion fel budd-daliadau a thai.

Mae Stuart bellach yn datblygu ei addysg ac yn gwneud cymwysterau cwnsela ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Dywed Stuart: “Roeddwn mewn lle gwael ar un adeg ac roedd y dyfodol yn ymddangos yn anobeithiol, ond mae pethau’n mynd yn dda i mi nawr. Roeddwn yn falch o ganfod fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon ond nid oeddwn yn disgwyl ennill. Roeddwn yn falch iawn o ddweud wrth fy mam a’m tad. Mae fy mab tair oed, Riley, wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr.”

“Roeddwn mewn lle gwael ar un adeg ac roedd y dyfodol yn ymddangos yn anobeithiol ond mae pethau’n mynd yn dda i mi nawr. Mae fy mab tair oed, Riley, wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr.”

Page 15: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Nina Miklaszewicz

Gwobr Cynnydd 2017

Progression Award 2017Nina is an adult learner who has progressed against the odds, through different stages and now on to a degree. Nina has managed to stick with her studies while battling issues such as finance, housing, her own health and the wellbeing of her children.

Nina left school at 16, she then brought up her children as a single parent, working three jobs to make ends meet. During this time she faced significant mental health issues and was hospitalised for a short period.

In September 2015, Nina decided to return to education after helping a friend attend an open evening at Coleg Sir Gar in Carmarthen. With support, guidance and encouragement from tutors who recognised her potential, Nina enrolled on a BTEC Level 3

Enterprise course. Nina has caught the learning bug, she describes being “written off” previously but now feels that she has a new start in life and a new outlook.

On completion of her BTEC, she decided to embark on a BA in Fashion at Coleg Sir Gar. Now, aged 40, Nina has completed the first year of her degree and is excited about what the future holds for both her and her family. Her return to education has not just affected her wellbeing and situation, her children have stayed on or returned to education because of her influence. She’s determined to break the cycle of poverty and show her children and grandchildren that anything is possible.

Nina says: “I am the first one in my family to do a degree. My grand-daughter calls me Nana Sparkles and

I am determined that my children and grandchildren will get an education. When you are told you can do something it is like magic dust to someone who feels worthless.”

Influencing friends and others in her community to engage with learning is something that Nina is passionate about. “It makes me upset to think that people feel they can’t get anywhere, that they’ve got no opportunity and no way out, so they stay low. Actually there’s more out there for them. If I can change their minds then that’s a good thing. They only need a hand onto the ladder – then they will run up the ladder.”

28 29

“I am the first one in my family to do a degree. My grand-daughter calls me Nana Sparkles and I am determined that my children and grandchildren will get an education. When you are told you can do something it is like magic dust to someone who feels worthless. It makes me upset to think that people feel they can’t get anywhere, that they’ve got no opportunity. If I can change their minds then that’s a good thing.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

COLEG SIR GAR Mae Nina yn ddysgwr sy’n oedolyn sydd wedi gwneud cynnydd er gwaethaf popeth, trwy gyfnodau gwahanol ac mae bellach yn mynd i’r brifysgol. Mae Nina wedi llwyddo i astudio tra’n brwydro yn erbyn materion fel cyllid, tai, ei hiechyd ei hun a lles ei phlant.

Gadawodd Nina’r ysgol yn 16 oed, Yna magodd ei phlant fel rhiant sengl, yn gwneud tair swydd er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd. Yn ystod y cyfnod hwn, wynebodd broblemau iechyd meddwl sylweddol a bu yn yr ysbyty am gyfnod byr.

Ym mis Medi 2015, penderfynodd Nina ddychwelyd i addysg ar ôl helpu ffrind i fynychu noson agored yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin. Gyda chymorth, arweiniad ac anogaeth gan diwtoriaid oedd yn gweld ei photensial, ymrestrodd Nina ar gwrs Menter BTEC Lefel 3. Mae Nina’n mwynhau dysgu. Mae’n disgrifio cael ei “chyfri’n fethiant” o’r blaen ond bellach mae’n teimlo bod ganddi ddechrau newydd mewn bywyd ac agwedd newydd.

Ar ôl cwblhau ei BTEC, penderfynodd ddechrau BA mewn Ffasiwn yng Ngholeg Sir Gâr. Bellach yn 40 oed, mae Nina wedi cwblhau blwyddyn

gyntaf ei gradd ac mae’n llawn cyffro am y dyfodol iddi hi a’i theulu. Mae dychwelyd i addysg nid yn unig wedi effeithio ar ei lles a’i sefyllfa, ond mae ei phlant wedi aros ymlaen mewn addysg oherwydd ei dylanwad hi. Mae’n benderfynol o dorri’r cylch tlodi a dangos i’w phlant a’i hwyrion bod unrhyw beth yn bosibl.

Dywed Nina: “Fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i wneud gradd. Mae fy wyres yn fy ngalw’n Nana Sparkles ac rwy’n benderfynol y bydd fy mhlant a’m hwyrion yn cael addysg. Mae clywed gan rywun eich bod yn gallu gwneud rhywbeth yn hudol i rywun sydd yn teimlo’n ddiwerth.

Mae dylanwadu ar ffrindiau ac eraill yn ei chymuned i feddwl am ddysgu yn rhywbeth y mae Nina’n angerddol yn ei gylch. “Mae’n fy ngwneud yn drist i feddwl bod pobl yn teimlo nad ydynt yn gallu mynd i unrhyw le, nad oes ganddynt unrhyw gyfle a dim ffordd allan, felly maent yn aros yn isel. Mae mwy allan yno iddynt mewn gwirionedd. Os gallaf newid eu meddyliau yna mae’n beth da. Dim ond help llaw sydd ei angen arnynt i gamu ar yr ysgol – byddant yn rhedeg i fyny wedyn.

“Fi yw’r person cyntaf yn fy nheulu i wneud gradd. Mae fy wyres yn fy ngalw’n Nana Sparkles ac rwy’n benderfynol y bydd fy mhlant a’m hwyrion yn cael addysg. Mae clywed gan rywun eich bod yn gallu gwneud rhywbeth yn hudol i rywun sydd yn teimlo’n ddiwerth. Mae’n fy ngwneud yn drist i feddwl bod pobl yn teimlo nad ydynt yn gallu mynd i unrhyw le, nad oes ganddynt unrhyw gyfle. Os gallaf newid eu meddyliau yna mae’n beth da.”

Page 16: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Broceriaid Yswiriant Rhyngwladol Arthur J. Gallagher /Arthur J. Gallagher Insurance Brokers

Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn 2017

Small Employer of the Year Award 2017

Arthur J. Gallagher is an insurance brokerage based in Llantrisant, Rhondda Cynon Taff. The firm has received the award in recognition of its commitment to training and retaining staff. This commitment has seen the firm implement a programme of apprenticeships and continuing professional development and as a result it has a staff retention rate above 95%.

Arthur J. Gallagher’s commitment to staff learning and development has seen it recruit its own in-house trainer to oversee the development of new and existing staff, alongside business growth which has seen the number

of workers go from 52 to 150 over the past six years. They are putting people development at the forefront of their business model using apprenticeships as the vehicle to drive this.

Over the last 3 years the numbers completing an apprenticeship has grown dramatically, with programmes offered at Foundation, Apprenticeship and Higher levels, achieving a 98% attainment rate.

Paul Norman, Regional Manager at Arthur J. Gallagher says: “To have a clear development programme to help our colleagues succeed and progress through our business is essential

and we’re delighted that we’ve been recognised independently to win this award. It’s great to get recognition for all the efforts we’re putting into developing and retaining valued colleagues.

“Our structured Vocational Qualifications which include apprenticeships, industry qualifications, NVQs as well as an internal induction and training programme, allows us to evidence internally and externally that we have professional colleagues, with exemplary ethical behaviours to sell our products and service our clients.”

30 31

“It’s great to get recognition for all the effort we’re putting into developing and retaining valued colleagues.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Mae Arthur J. Gallagher yn froceriaeth yswiriant wedi ei leoli yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf. Mae’r cwmni wedi derbyn y wobr i gydnabod ei ymrwymiad i hyfforddi a chadw staff. Mae’r ymrwymiad wedi arwain at y cwmni’n sefydlu rhaglen o brentisiaethau a datblygiad proffesiynol parhaus ac o ganlyniad

mae wedi arwain at gyfradd cadw staff uwchlaw 95%.

Mae ymrwymiad Arthur J. Gallagher i ddysgu a datblygu staff wedi arwain ato’n recriwtio hyfforddwr mewnol i oruchwylio datblygiad staff newydd a phresennol, ynghyd â thwf busnes sydd wedi arwain at nifer y gweithwyr yn cynyddu o 52 i 150 dros y chwe blynedd

diwethaf. Maent yn gwneud datblygiad pobl yn flaenllaw yn eu model busnes gan ddefnyddio prentisiaethau fel ffordd o ysgogi hyn.

Dros y 3 blynedd diwethaf, mae’r niferoedd sydd yn cwblhau prentisiaeth wedi cynyddu’n sylweddol, gyda rhaglenni’n cael eu cynnig ar lefelau Sylfaen,

Prentisiaeth ac Uwch, gan gyflawni cyfradd gyrhaeddiad o 98%.

Dywed Paul Norman, Rheolwr Rhanbarthol yn Arthur J. Gallagher: “Mae cael rhaglen ddatblygu glir i helpu ein cydweithwyr i lwyddo a datblygu trwy ein busnes yn hanfodol ac rydym yn falch ein bod wedi cael ein cydnabod yn annibynnol ac wedi ennill y wobr hon. Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am ein holl ymdrechion i ddatblygu a chadw cydweithwyr gwerthfawr.

“Mae ein Cymwysterau Galwedigaethol strwythuredig, sydd yn cynnwys prentisiaethau, cymwysterau diwydiant, NVQ yn ogystal â rhaglen sefydlu a hyfforddi fewnol, yn ein galluogi i ddangos yn fewnol ac yn allanol bod gennym gydweithwyr proffesiynol, ag ymddygiad moesegol rhagorol, i werthu ein cynnyrch a gwasanaethu ein cleientiaid.”

“Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am ein holl ymdrechion i ddatblygu a chadw cydweithwyr gwerthfawr.”

Page 17: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Grŵp Admiral ccc / Admiral Group plc

Cymeradwyaeth Uchel – Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn 2017

Highly Commended – Large Employer of the Year Award 2017

32 33

Admiral Academy is made up of 25 dedicated learning & development professionals. Together with specialist department-based trainers, this brings the number of learning & development professionals across the business to more than 100. The investment from Admiral reflects both a strong commitment from the company to the personal and professional development of their workforce, as well as a recognition that continued success and profitability requires staff that are well-trained, motivated and have opportunities to grow.

In 2017 the Company launched an Apprenticeship Programme, delivered in partnership with Cardiff and the

Vale College, alongside investment in the online learning platform. ILearn hosts more than 200 courses, work related and non-work related, over 57,000 courses were completed last year by staff at all levels and in all areas of the business. Admiral have also been focused on progression in the workplace and during 2016, 88 people completed an Institute of Leadership and Management qualification and a further 54 have started the course.

Trainers within the business can now study towards an in-house postgraduate qualification, accredited by the University of South Wales. The innovative new programme ensures trainers are equipped with the latest skills to deliver the best training. Instead

of a dissertation, participants undertake a business-related research project. The first cohort graduated in 2016, with the second cohort underway.

Their Buy a Book Scheme gives a commitment to purchase any book which supports personal development and in the community, a partnership with Prince’s Trust has supported 35 young people to develop skills for employment, 9 of these went on to secure permanent roles within the Company.

Elizabeth James-Mahoney, Training Manager at Admiral Academy, says: “Our staff make it easy for us because they want to learn, they want to develop.”

“Our staff make it easy for us because they want to learn, they want to develop.”Mae Academi Admiral yn cynnwys

25 o weithwyr dysgu a datblygu proffesiynol ymroddedig. Ynghyd â hyfforddwyr arbenigol yn seiliedig ar adrannau, mae hyn yn golygu bod dros 100 o weithwyr dysgu a datblygu proffesiynol ar draws y busnes. Mae’r buddsoddiad gan Admiral yn dangos ymrwymiad cadarn gan y cwmni i ddatblygiad personol a phroffesiynol eu gweithlu, yn ogystal â chydnabyddiaeth bod llwyddiant a phroffidioldeb parhaus yn gofyn am staff wedi eu hyfforddi’n dda, sydd ag ysgogiad ac sy’n cael cyfleoedd i ddatblygu.

Yn 2017, lansiodd y Cwmni Raglen Brentisiaeth, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro, ynghyd â buddsoddiad yn y llwyfan dysgu ar-lein. Mae Ilearn yn cynnal dros 200 o gyrsiau, yn ymwneud â gwaith a rhai nad ydynt yn ymwneud â gwaith. Cwblhawyd dros 57,000 o gyrsiau’r llynedd gan staff ar bob lefel ac ym mhob maes busnes. Mae Admiral hefyd wedi canolbwyntio ar gynnydd yn y gweithle ac yn ystod 2016, cwblhaodd 88 o bobl gymhwyster y Sefydliad

Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae 54 arall wedi dechrau ar y cwrs.

Gall hyfforddwyr yn y busnes bellach astudio i gael cymhwyster ôl-radd yn fewnol, wedi ei achredu gan Brifysgol De Cymru. Mae’r rhaglen arloesol newydd yn sicrhau bod gan hyfforddwyr y sgiliau diweddaraf i gyflwyno’r hyfforddiant gorau. Yn lle traethawd hir, mae’r cyfranogwyr yn gwneud prosiect ymchwil yn ymwneud â busnes. Graddiodd y garfan gyntaf yn 2016, ac mae’r ail garfan wrthi ar hyn o bryd.

Mae eu Cynllun Prynu Llyfr yn ymrwymo i brynu unrhyw lyfr sy’n cefnogi datblygiad personol ac yn y gymuned. Mae’r bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi cefnogi 35 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth. Aeth 9 o’r rhain ymlaen i gael swyddi parhaol yn y Cwmni.

Dywed Elizabeth James-Mahoney, Rheolwr Hyfforddiant yn Academi Admiral: “Mae ein staff yn ei wneud yn hawdd i ni am eu bod eisiau dysgu, maent eisiau datblygu.”

“Mae ein staff yn ei wneud yn hawdd i ni am eu bod eisiau dysgu, maent eisiau datblygu.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Page 18: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

Cyngor Sir Ceredigion / Ceredigion County Council

Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn 2017

Large Employer of the Year Award 2017

34 35

“The success of the project was getting workers involved from the start to design the course and having managers on board who saw the need for staff to be computer literate and so were accommodating in releasing staff for training.”

Ceredigion County Council have worked closely with trade union UNISON’s DigiSkills Wales Union Learning Fund Project and local learning provider Dysgu Bro Ceredigion to enable over 100 members of staff to develop their basic digital skills in the last year.

Ceredigion County Council has fully supported this union-led learning initiative, releasing staff to attend the courses during work time and providing the tutors with the facilities to deliver their sessions. The project has delivered a range of outreach sessions to meet the learning needs of those working off site in care homes and at

waste management depots. Digiskills Champions were created and were instrumental in rolling out the training. It is an example of how a partnership in the workplace can deliver learning opportunities for sections of the workforce that can be hard to reach.

Working together the digital skill needs of colleagues were identified and a range of initiatives were co-designed, aimed at building the skills and confidence of the workforce. The result was five sessions of short, flexible workshops. The sessions were designed to address the skills needed for work and home life. For example, the session on online forms helped staff

use the employer’s online HR system and do their car tax online

Denise Owen, Community Education Manager at Ceredigion County Council, says: “I think the success of the project was getting workers involved from the start to design the course and having managers on board who saw the need for staff to be computer literate and so were accommodating in releasing staff for training.

“So far, 118 people have taken the course. Now, the TUC has given us a quality mark so our plan is to train more council staff and possibly roll it out to other workplaces.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gweithio’n agos gyda Phrosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru UNSAIN, sef DigiSkills Cymru, a’r darparwr dysgu lleol, Dysgu Bro Ceredigion, i alluogi dros 100 o aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cefnogi’r fenter ddysgu hon sy’n cael ei harwain gan undebau, gan ryddhau staff i fynychu’r cyrsiau yn ystod amser gwaith a rhoi’r cyfleusterau i diwtoriaid gyflwyno eu sesiynau. Mae’r prosiect wedi darparu ystod o sesiynau allgymorth i fodloni anghenion dysgu’r rheiny sydd yn gweithio oddi ar y safle mewn cartrefi gofal a chanolfannau

rheoli gwastraff. Crëwyd Hyrwyddwyr Digiskills ac roeddent yn allweddol yn cyflwyno’r hyfforddiant. Mae’n enghraifft o’r ffordd y gall partneriaeth yn y gweithle darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer adrannau o’r gweithlu all fod yn anodd eu cyrraedd.

Gan gydweithio, cafodd anghenion sgiliau digidol cydweithwyr eu nodi a chafodd ystod o fentrau eu dylunio ar y cyd, gyda’r nod o ddatblygu sgiliau a hyder y gweithlu. Y canlyniad oedd pum sesiwn o weithdai byr, hyblyg. Dyluniwyd y sesiynau i fynd i’r afael â’r sgiliau oedd eu hangen ar gyfer bywyd yn y gwaith a’r cartref. Er enghraifft, roedd y sesiwn ar ffurflenni ar-lein o gymorth i staff ddefnyddio system AD

ar-lein y cyflogwr a threfnu eu treth car ar-lein.

Dywed Denise Owen, Rheolwr Addysg Gymunedol yng Nghyngor Sir Ceredigion: “Rwy’n credu mai llwyddiant y prosiect oedd cynnwys gweithwyr o’r cychwyn wrth ddylunio’r cwrs a chael rheolwyr i gymryd rhan, oedd yn gweld yr angen i staff ddeall cyfrifiaduron ac felly roeddent yn barod i ryddhau staff i gael hyfforddiant.”

Hyd yn hyn, mae 118 o bobl wedi gwneud y cwrs. Bellach, mae’r TUC wedi rhoi marc ansawdd i ni am y cwrs felly ein bwriad yw hyfforddi mwy o staff y cyngor ac o bosibl ei gyflwyno i weithleoedd eraill.”

“Llwyddiant y prosiect oedd cynnwys gweithwyr o’r cychwyn wrth ddylunio’r cwrs a chael rheolwyr i gymryd rhan, oedd yn gweld yr angen i staff ddeall cyfrifiaduron ac felly roeddent yn barod i ryddhau staff i gael hyfforddiant”.

Page 19: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

“Cymeradwyaeth Uchel – Gwobr Prosiect Cymunedol y Flwyddyn 2017

Highly Commended – Community Project of the Year Award 2017

36 37

Established by volunteers, the Vale Parent and Child Homework and Support Club provides a weekly homework club for children, many with multiple physical and learning difficulties. Created in 2012 by a group of parents and individuals it has grown from just two children to over one hundred, now offering a series of pioneering support services for families as well as additional qualifications for the children, young people and the wider community who attend.

The project works closely with Adult Community Learning to upskill attendees by offering a series of courses like craft confidence, stress management, counselling, customer service, first aid, fire safety, food hygiene, ICT and moneywise.

Some younger learners have left school with few formal qualifications but through the project they have been able to achieve vocational qualifications and take part in volunteering right on their doorstep and they’ve been encouraged to join the Essential Skills course and improve their English and Maths. Many of those involved in the project have developed the confidence and self-esteem to go on to further education and training.

Developing further partnerships with Cardiff Metropolitan University and The Open University has resulted in 17 people currently completing degree courses including Law, Psychology and Maths.

The project has no significant funding and depends solely on partnerships

and the volunteers who work tirelessly to strive to make learning fun for everyone involved. It has benefited so many individuals and families within the local community who would never have considered further education or training previously.

Founder, Catherine Watkins (a former Inspire! Award Winner) said, “When I first launched the club I never imagined that it would grow so quickly and have such an impact on the lives of so many people. I am so proud of what we have achieved to date and it’s so great to watch some of our members really flourish and become determined to go on to make a success of themselves and accomplish their dreams.”

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

“I am so proud of what we have achieved to date and it’s so great to watch some of our members really flourish and become determined to go on to make a success of themselves and accomplish their dreams.”

Mae Clwb Gwaith Cartref a Chymorth Rhieni a Phlant y Fro, a sefydlwyd gan wirfoddolwyr, yn darparu clwb gwaith cartref wythnosol i blant, llawer ohonynt ag anawsterau corfforol a dysgu lluosog. Fe’i crëwyd yn 2012 gan grŵp o rieni ac unigolion ac mae wedi tyfu o gynnwys dau blentyn i fwy na chant gyda thîm o wirfoddolwyr bellach yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth arloesol i deuluoedd yn ogystal â chymwysterau i’r plant, y bobl ifanc ac aelodau’r gymuned ehangach sy’n mynychu.

Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned i wella sgiliau’r rheiny sy’n mynychu trwy gynnig cyfres o gyrsiau fel hyder crefftau, rheoli straen, cwnsela, gwasanaeth cwsmeriaid, cymorth cyntaf, diogelwch tân, hylendid bwyd, TGCh a doeth gydag arian.

Mae rhai o’r dysgwyr iau wedi gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau ffurfiol ond, trwy’r prosiect, maent wedi gallu cwblhau cymwysterau galwedigaethol a chymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli ar drothwy’r drws. Trwy hyn, maent wedi cael eu hannog i ymuno â’r cwrs

Sgiliau Hanfodol a gwella eu Saesneg a’u Mathemateg. Mae llawer o’r rheiny oedd yn gysylltiedig â’r prosiect wedi datblygu’r hyder a’r hunan-barch i fynd ymlaen i addysg bellach a hyfforddiant.

Mae datblygu partneriaethau pellach gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a’r Brifysgol Agored wedi arwain at 17 o bobl yn cwblhau cyrsiau gradd ar hyn o bryd, yn cynnwys y Gyfraith, Seicoleg a Mathemateg.

Nid yw’r prosiect yn cael unrhyw gyllid sylweddol ac mae’n dibynnu ar bartneriaethau a’r gwirfoddolwyr sydd yn gweithio’n ddiflino i wneud dysgu’n hwyl i bawb sydd yn gysylltiedig. Mae wedi bod o fudd i gymaint o unigolion a theuluoedd yn y gymuned leol na fyddai byth wedi ystyried addysg bellach na hyfforddiant yn flaenorol.

Dywedodd y sylfaenydd, Catherine Watkins (cyn-enillydd Gwobr Ysbrydoli!), “Pan wnes i lansio’r clwb gyntaf, nid oeddwn wedi dychmygu y byddai’n tyfu mor gyflym ac yn cael cymaint o effaith ar fywydau cymaint o bobl.”

Clwb Gwaith Cartref a Chymorth Rhieni a Phlant y Fro / Vale Parent & Child Homework Support Group

“Rwyf mor falch o’r hyn rydym wedi ei gyflawni hyd yma ac mae mor wych gweld rhai o’n haelodau yn fynnu a dod yn benderfynol i wneud llwyddiant o’u hunain a gwireddu eu breuddwydion.”

Page 20: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

3Gs Only Men Allowed

Gwobr Prosiect Cymunedol y Flwyddyn 2017

Community Project of the Year Award 2017The 3Gs Only Men Allowed project was set up three years ago to give long-term unemployed men in the North Merthyr Tydfil Communities First area the opportunity to get together and take part in activities to help improve the community and develop their own skills and learning.

The project partnered with outdoor activities initiative Come Outside and environmental charity Keep Wales Tidy to provide a range of activities for men. At that time, more than 90% of people engaged with the North Merthyr Tydfil Communities First were women, so there was a clear lack of provision and support for men.

Project members say, “We’ve become positive role models within our community. The project has brought us together, many of us were suffering social isolation and depression. We are now a family that looks after each other and we continue to encourage new members so that they can benefit”. The group is open to all, but the majority are long term unemployed, working together they have improved their confidence and basic skills, providing them with paths to employment. The group meets most week days for a variety of structured activities and learning ranging from basic skills classes, outdoor leader awards, dry stone walling and child protection. Group member Jeremy Davies says, “When I became the sole carer for my child, I started to suffer from

depression, the project helped me gain qualifications, got me into voluntary work and gave me the chance to put the skills I was taught to good use.”

The project has developed links with Cardiff University and a range of other partners including the National Museum Wales. Lee Davies, Community Engagement Officer, who oversees the project, says: “We’ve helped around 40 men. We’re all about getting people active and out in the community. We get them working on the community garden at Cyfarthfa

Park, doing carpentry with mental health charity Hafal and community clear-ups.” The group also developed the Trek to Connect Geocaching history trail from Cyfarthfa Park to Abercynon.

Carol Martin talks about the difference it has made to her husband, “Karl has dementia, and if it wasn’t for the project I don’t know what I would be doing. He had been an active member in the local community and all of this came crashing down when he was diagnosed. This group is his life line.”

38 39

Gwobrau Addysg Oedolion 2017

Adult Learning Awards 2017

Ysbrydoli!TM

Inspire! TM

Sefydlwyd prosiect Only Men Allowed 3G dair blynedd yn ôl, i roi cyfle i ddynion sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Gogledd Merthyr Tudful ddod ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i wella’r gymuned a datblygu eu sgiliau a’u haddysg eu hunain.

Roedd y prosiect mewn partneriaeth â’r fenter gweithgareddau awyr agored, Come Outside a’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, i ddarparu ystod o weithgareddau i ddynion. Ar yr adeg honno, roedd dros 90% o’r bobl oedd yn ymwneud â Chymunedau yn Gyntaf Gogledd Merthyr Tudful yn fenywod, felly roedd diffyg darpariaeth a chefnogaeth amlwg i ddynion.

Dywed aelodau’r prosiect, “Rydym wedi dod yn fodelau rôl cadarnhaol yn ein cymuned. Mae’r prosiect wedi dod â ni ynghyd, llawer ohonom yn dioddef ynysu cymdeithasol ac iselder. Rydym bellach yn deulu sydd yn gofalu am ein gilydd ac rydym yn parhau i annog

aelodau newydd er mwyn iddyn nhw elwa”. Mae’r grŵp yn agored i bawb ond mae’r rhan fwyaf yn bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir. Mae’r gwaith y maent wedi ei wneud wedi gwella eu hyder a’u sgiliau sylfaenol, gan roi llwybrau i gyflogaeth iddynt. Mae’r grŵp yn cyfarfod y rhan fwyaf o ddiwrnodau’r wythnos am amrywiaeth o weithgareddau strwythuredig a dysgu yn amrywio o ddosbarthiadau sgiliau sylfaenol, gwobrau arweinwyr awyr agored, adeiladu waliau sychion ac amddiffyn plant. Dywed Jeremy Davies, aelod o’r grŵp, “Pan wnes i ddod yn unig ofalwr i’m plentyn, dechreuais ddioddef o iselder. Helpodd y prosiect fi i gael cymwysterau, gwneud gwaith gwirfoddol a rhoddodd gyfle i mi ddefnyddio’r sgiliau yr oeddwn wedi eu dysgu.”

Mae’r prosiect wedi datblygu cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd ac ystod o bartneriaid eraill yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dywed Lee Davies, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol sydd yn goruchwylio’r prosiect: “Rydym wedi helpu tua 40 o ddynion. Ein hanfod yw annog pobl i fod yn egnïol ac allan yn y gymuned. Rydym yn eu hannog i

weithio ar yr ardd gymunedol ym Mharc Cyfarthfa, gan wneud gwaith coed gyda’r elusen iechyd meddwl Hafal a gwaith clirio cymunedol.” Mae’r grŵp hefyd wedi datblygu’r llwybr hanes Trek to Connect Geocaching o Barc Cyfarthfa i Abercynon.

Mae Carol Martin yn son am y gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i’w gŵr, “Mae gan Karl ddementia, ac oni bai am y prosiect d’wn i ddim beth fyddwn yn ei wneud. Bu’n aelod gweithredol o’r gymuned leol a chwalwyd hyn i gyd pan gafodd y diagnosis. Y grŵp hwn yw ei achubiaeth.”

“We’ve become positive role models within our community. The project has brought us together, many of us were suffering social isolation and depression. We are now a family that looks after each other and we continue to encourage new members so that they can benefit.”

“Rydym wedi dod yn fodelau rôl cadarnhaol yn ein cymuned. Mae’r prosiect wedi dod â ni ynghyd, llawer ohonom yn dioddef ynysu cymdeithasol ac iselder. Rydym bellach yn deulu sydd yn gofalu am ein gilydd ac rydym yn parhau i annog aelodau newydd er mwyn iddyn nhw elwa”.

3Gs DEVELOPMENT TRUST / YMDDIRIEDOLAETH DATBLYGU 3G

Page 21: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

CLICIWCH AR LOGO I YMWELD Â GWEFAN / CLICK ON A LOGO TO VISIT WEBSITE

40 41

http://www.adultlearning.wales/

https://www.agored.cymru/Hafan

https://www.agored.cymru/

http://www.cteg.org.uk/ https://www.courses.southwales.ac.uk/courses/

http://www.colegaucymru.ac.uk/Hafan

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Dysgu-i-oedolion/Pages/default.aspx

http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ eich-digwyddiadau

http://www.learningandwork.wales/ adult-learners-week-events

https://www.careerswales.com/cy/porth-sgiliau/ https://www.careerswales.com/en/skills-gateway/

http://www.open.ac.uk/wales/events

https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Schools-and-learning/Adult-Learning/Pages/default.aspx

http://www.colegaucymru.ac.uk/Hafan

Page 22: Gwobrau Addysg Oedolion 2017 Ysbrydoli! · clicio ar y botwm ‘nôl i’r cynnwys’ a byddwch yn dychwelyd i’r dudalen cynnwys. Os ydych yn darllen y llyfryn ar-lein, gallwch

The campaign combines national promotion with local action. We are grateful for the many organisations delivering hundreds

of free outreach and taster activities for the festival.

Adult Learners’ Week and the Inspire! Awards is a partnership campaign supported by Welsh Government, the Skills Gateway

for Adults and Careers Wales.

The Inspire! Awards have been sponsored by The Open University in Wales and

Betsi Cadwaladr University Health Board.

The Award Ceremony has been supported by Agored Cymru, Adult Learning Wales, the Adult Learning Partnership Wales,

Cardiff City Council, Chwarae Teg, University of South Wales and Colegau Cymru.

To find out about free learning events for Adult Learners’ Week please visit

http://www.learningandwork.wales/festivaloflearningevents/ Or go to the Skills Gateway for Adults:

https://www.careerswales.com/en/skills-gateway/

Skills Gateway twitter channel: @skillsgatewaycw / @porthsgiliaugc

Adult Learners’ Week 19-25 June 2017 is a nationwide celebration and promotion of learning, co-ordinated by Learning and Work Institute.

3rd floor, 35 Cathedral Road Cardiff CF11 9HB3ydd Llawr, 35 Heol Eglwys Gadeiriol Caerdydd CF11 9HB

+44(0)29 2037 [email protected]

www.learningandwork.wales / www.sefydliaddysguagwaith.cymru

Mae’r ymgyrch yn cyfuno hyrwyddo cenedlaethol gyda gweithredu lleol. Rydym yn ddiolchgar i’r sefydliadau niferus sydd yn cyflwyno

cannoedd o weithgareddau allgymorth a blasu am ddim ar gyfer yr ŵyl.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion a Gwobrau Ysbrydoli! yn ymgyrch partneriaeth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, y Porth Sgiliau i

Oedolion a Gyrfa Cymru.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! wedi cael eu noddi gan y Brifysgol Agored yng Nghymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol

Betsi Cadwaladr.

Cefnogwyd y Seremoni Wobrwyo gan Agored Cymru, Addysg Oedolion Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru,

Cyngor Dinas Caerdydd, Chwarae Teg, Prifysgol De Cymru a Cholegau Cymru.

I ganfod mwy am ddigwyddiadau dysgu am ddim ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion Ewch i :

http://www.learningandwork.wales/festivaloflearningevents/Neu ewch i’r Porth Sgiliau i Oedolion:

https://www.careerswales.com/en/skills-gateway/

Sianel trydar Porth Sgiliau: @skillsgatewaycw / @porthsgiliaugc

Mae Wythnos Addysg Oedolion 19-25 Mehefin 2017 yn ddathliad cenedlaethol ac yn achlysur hyrwyddo dysgu, wedi ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.