Colofn Iaith Ydych chi’n gwybod beth yw enw? Gair sy’n enwi rhywun, rhywle neu rhwybeth yw enw. Enwau yw’r gair ar fwy nac un enw. Ydych chi’n gwybod beth yw ansoddair? Gair sy’n disgrifio yw ansoddair. Ansoddeiriau yw’r enw ar fwy nac un ansoddair. Ydych chi’n gwybod beth yw berf? Mae berf yn dangos pwy sy’n gwneud rhywbeth. Berfau yw’r enw ar fwy nac un berf. Beth yw ystyr odl? Mae geiriau’n sy’n odli yn gorffen gyda’r un sain e.e. gwlân a tân. Ydych chi’n gallu meddwl am ddau air sy’n odli? Beth yw cymhariaeth? Dweud fod rhywbeth yn debyg i rywbeth arall yw cymhariaeth e.e. roedd y gwlân yn wyn fel yr eira, ond yn gynnes fel yr haul. Ydych chi’n gallu meddwl am gymhariaeth? Nod Maes Dysgu – Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd: Llinyn – Llafaredd Elfen – Datblygu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau. Agwedd – Cydweithio a Thrafod Tasg Ffocws ‘Dewch, mae’n amser datblygu a dysgu geirfa newydd’: • cynnig cyfle i’r disgyblion ddatblygu a dysgu geirfa newydd megis geiriau sy’n odli, geiriau tebyg, geiriau sy’n dechrau gyda’r un sain, ansoddeiriau, berfau, geiriau croes a chymariaethau drwy gyfrwng taflenni’n seiledig ar gwt ieir Lilwen a Dilwen • annog y disgyblion i ddefnyddio geirfa ar gyfer datblygu iaith goeth ar lafar • cymell y disgyblion i ddefnyddio geiriau tebyg yn eu gwaith ysgrifenedig Adnoddau Posib • bwrdd Enwau Lilwen • templed Enwau Lilwen • bwrdd Ansoddeiriau Dilwen • templed Ansoddeiriau Dilwen • bwrdd cofnodi ansoddeiriau ac enwau • taflen Geiriau Croes Lilwen a Dilwen • taflen Odl eiriau Lilwen a Dilwen Gweithgaredd 20 Llwybr Llythrennedd Cwt Geiriau Lilwen a Dilwen Arbed. Ailgylchu. Ailddefnyddio. Dyma hoff ferfau Mam-gu Iet-wen. Nodyn Gwyrdd Mam-gu Iet-wen Ewch am dro allan i’r awyr agored i archwilio a defnyddio ansoddeiriau neu eiriau croes am wrthrychau naturiol byd natur e.e. dail meddal neu bigog. Antur Natur Mam-gu Iet-wen Ansoddeiriau bach blasus crac drewllyd gorlawn gwichlyd gwyrdd hyfryd llawn meddal mud prysur Enwau arogl beudy bol buwch bwgan brain cenhinen gwlân gwellt gwlithen hedyn olwyn whilber Berfau arogli casglu dod gwacáu gwthio mynd