Top Banner
Addysg i bawb – gweithgareddau Gweithgaredd 1 - Beth sy'n gwneud addysg dda? Continwwm barn Nod y gweithgaredd hwn yw ymgysylltu pobl ifanc â meddwl yn feirniadol am yr hyn sy'n gwneud 'addysg dda'. Ei ddiben yw annog pobl ifanc i adnabod yr elfennau o 'addysg dda' y maen nhw'n teimlo gryfaf amdanyn nhw. Mae continwwm barn (neu linell farn) 1 yn ffordd syml o annog pobl ifanc i feddwl drwy eu safbwynt ar fater. Mae'n ffordd ddefnyddiol o archwilio materion cymhleth a safbwyntiau amrywiol. Rhoddir y gosodiadau i'w hystyried, gyda gwybodaeth gefndir gryno i'w defnyddio yn y drafodaeth ddilynol, isod ac ar sleid 3 y sioe sleidiau sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau. Gellir gadael gosodiadau allan, yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael. Mae gosodiadau 1–6 yn fwy addas i ddysgwyr iau. Ar ddiwedd yr ymarfer, gofynnwch i'r dysgwyr nodi'r tri neu'r pedwar gosodiad y maen nhw'n cytuno gryfaf â nhw a pham. Gosodiadau 1. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gorffen yr ysgol gynradd. Dyma oedd prif amcan Nod Datblygu'r Mileniwm 2. Ar un llaw, mae plant yn dysgu sgiliau hanfodol llythrennedd a rhifedd erbyn iddyn nhw orffen yr ysgol gynradd. Ar y llaw arall, dydy gwybodaeth a sgiliau mwy soffistigedig ddim yn cael eu haddysg tan 1 Rhoddir manylion llawn am sut mae trefnu llinell farn yn Oxfam (2015) Global Citizenship in the Classroom: A guide for teachers, t. 16 http://www.oxfam.org.uk/education/global-citizenship/global-citizenship- guides GLP © Hawlfraint y Goron
24

GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Jan 16, 2020

Download

Documents

dariahiddleston
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Addysg i bawb – gweithgareddau

Gweithgaredd 1 - Beth sy'n gwneud addysg dda? Continwwm barn

Nod y gweithgaredd hwn yw ymgysylltu pobl ifanc â meddwl yn feirniadol am yr hyn sy'n gwneud 'addysg dda'. Ei ddiben yw annog pobl ifanc i adnabod yr elfennau o 'addysg dda' y maen nhw'n teimlo gryfaf amdanyn nhw.

Mae continwwm barn (neu linell farn)1 yn ffordd syml o annog pobl ifanc i feddwl drwy eu safbwynt ar fater. Mae'n ffordd ddefnyddiol o archwilio materion cymhleth a safbwyntiau amrywiol.

Rhoddir y gosodiadau i'w hystyried, gyda gwybodaeth gefndir gryno i'w defnyddio yn y drafodaeth ddilynol, isod ac ar sleid 3 y sioe sleidiau sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau. Gellir gadael gosodiadau allan, yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael. Mae gosodiadau 1–6 yn fwy addas i ddysgwyr iau.

Ar ddiwedd yr ymarfer, gofynnwch i'r dysgwyr nodi'r tri neu'r pedwar gosodiad y maen nhw'n cytuno gryfaf â nhw a pham.

Gosodiadau

1. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gorffen yr ysgol gynradd.

Dyma oedd prif amcan Nod Datblygu'r Mileniwm 2. Ar un llaw, mae plant yn dysgu sgiliau hanfodol llythrennedd a rhifedd erbyn iddyn nhw orffen yr ysgol gynradd. Ar y llaw arall, dydy gwybodaeth a sgiliau mwy soffistigedig ddim yn cael eu haddysg tan yr ysgol uwchradd, ac efallai nad yw nod sy'n hepgor addysg uwchradd neu bellach yn cael ei ystyried yn uchelgeisiol iawn.

2. Mae addysg dda'n golygu bod gan bob plentyn werslyfr.

Mae llawer o ysgolion heb ddigon o werslyfrau, neu werslyfrau annigonol. Yn aml, yr athro'n unig sydd â gwerslyfr.

1Rhoddir manylion llawn am sut mae trefnu llinell farn yn Oxfam (2015) Global Citizenship in the Classroom: A guide for teachers, t. 16 http://www.oxfam.org.uk/education/global-citizenship/global-citizenship-guides

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 2: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

3. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu darllen, ysgrifennu a rhifo.

Dydy 250 miliwn o blant, y bydd llawer ohonyn nhw wedi mynychu'r ysgol gynradd neu hyd yn oed wedi'i gorffen, ddim yn gallu darllen neu rifo, ac mae 775 miliwn o oedolion yn anllythrennog. Canfu arolwg diweddar mai 44% yn unig o ddisgyblion Blwyddyn 8 yng nghefn gwlad India sy'n gallu gwneud rhannu syml mewn mathemateg, felly dydy mynychu'r ysgol ddim yn gwarantu dysgu sgiliau sylfaenol.

4. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cael ei addysgu gan athro sydd wedi'i gymhwyso.

Mae'r byd yn brin o 1.7 miliwn o athrawon. Mewn llawer o ysgolion mae maint dosbarthiadau'n hynod o fawr a/neu mae dosbarthiadau'n cael eu haddysgu gan athrawon sydd heb gymhwyso.

5. Mae addysg dda'n golygu bod gan ferched a bechgyn gyfleoedd cyfartal.

Merched yw dros hanner y plant sydd ddim yn mynd i'r ysgol, a menywod a merched yw dau draean pobl anllythrennog y byd. Mae hyn er gwaethaf yr effaith sylweddol y mae addysg merched yn ei chael ar iechyd a lles teulu.

6. Mae addysg dda'n golygu bod gan bob ysgol ddŵr yfed a thoiledau.

Mae diffyg dŵr a glanweithdra'n rhwystr sylweddol i blant, yn enwedig i ferched, fynychu'r ysgol.

7. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cofrestru mewn ysgol.

Mae cofrestru'n bwysig ond dydy e ddim yn warant fod plant yn mynychu neu'n gorffen yr ysgol.

8. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn mynd i'r ysgol rhwng 9am a 3.30pm bum diwrnod yr wythnos.

Dyma'r oriau ysgol safonol yn y DU. Ond mae gan lawer o ysgolion mewn gwledydd sy'n datblygu shifftiau ysgol byrrach yn y bore, y prynhawn a/neu gyda'r nos. Efallai bod hyn er mwyn datrys y broblem fod gormod yn yr ystafell ddosbarth, neu er mwyn cynnig addysg i blant sydd hefyd yn gorfod gweithio neu er mwyn dysgu merched a bechgyn ar wahân.

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 3: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

9. Mae addysg dda'n golygu bod pob plentyn yn cael ei addysgu mewn dosbarth heb fod yn fwy na 30 disgybl.

Mae maint dosbarth o 30 wedi dod yn norm yn rhan fwyaf o ysgolion y DU. Mae gan lawer o ddosbarthiadau mewn gwledydd sy'n datblygu dros 100 o blant. Mae llawer yn dadlau bod meintiau dosbarthiadau o 40 neu 50 yn darged cyraeddadwy.

10. Mae addysg dda'n golygu bod anghenion plant sydd ag ADY yn cael eu hateb.

Mae anabledd yn rhwystr mawr i blant sy'n mynychu'r ysgol. Mae traean y plant sydd ddim yn mynd i'r ysgol yn byw gydag anabledd.

11. Mae addysg dda'n golygu bod plant yn saff ac yn ddiogel yn yr ysgol.

Mae hanner y plant sydd ddim yn mynd i'r ysgol yn byw mewn gwledydd sydd wedi'u heffeithio gan wrthdaro. Nigeria, Pakistan ac Afghanistan yw'r tair gwlad sydd â'r nifer mwyaf o blant sydd ddim yn mynd i'r ysgol. Mae gwrthdaro mewnol yn y tair gwlad sy'n cyfrannu at eu niferoedd mawr o blant sydd ddim yn mynd i'r ysgol (er nad dyma'r unig reswm am hyn). Mae digwyddiadau fel saethu Malala Yousafzai, a herwgipio 279 o ferched o'u hystafelloedd gwely mewn ysgol yn Chibok, Nigeria, wedi ysgogi ymgyrchwyr a gwneuthurwyr polisi i roi mwy o sylw i fater ysgol a diogelwch plant.

12. Mae addysg dda'n golygu bod yr ysgol yn parchu diwylliant ac iaith gartref y plentyn.

Mae plant yn aml yn cael eu haddysgu mewn iaith sy'n wahanol i'w hiaith gartref (er enghraifft yn Saesneg neu Ffrangeg). Mae methu deall cynnwys gwersi'n aml yn rhwystr i blant fynychu'r ysgol.

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 4: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Gweithgaredd 2 - Beth sy'n gwneud addysg dda? Diemwnt naw

Diben diemwnt naw2 yw hyrwyddo trafod neu fyfyrio am bwysigrwydd cymharol amrywiaeth o ffactorau. Mae'n annog canolbwyntio ar yr un ffactor pwysicaf, yna'r ddau nesaf, y tri nesaf ac yn y blaen, er enghraifft, er mwyn trafod blaenoriaethau mewn addysg.

Yn y gweithgaredd hwn mae naw o'r gosodiadau sy'n disgrifio addysg dda a ystyriodd y disgyblion yn y continwwm barn (Gweithgaredd 1). Erbyn diwedd y gweithgaredd, dylai'r disgyblion fod wedi penderfynu ar y tair neu'r pedair elfen bwysicaf y bydden nhw'n eu blaenoriaethu petaen nhw'n rhoi 'addysg dda' i bob plentyn.

Gellid gwahaniaethu'r gweithgaredd hwn drwy ofyn i blant iau ddosbarthu 20 cownter neu sticer ymysg y gwahanol flychau er mwyn adlewyrchu pa osodiad (neu osodiadau) sydd bwysicaf yn eu barn nhw. Dylid dweud wrth y disgyblion nad oes isafswm neu uchafswm nifer o gownteri ar gyfer unrhyw osodiad, hynny yw, gallai rhai gosodiadau fod â dim un a gallen nhw roi'r cownteri i gyd ar un os ydyn nhw eisiau.

Argraffwch a thorrwch allan y cardiau diemwnt naw ar y dudalen nesaf. Dewis pellach yw ychwanegu cardiau gwag i'r disgyblion ysgrifennu eu syniadau eu hunain arnyn nhw.

Rhowch amser ar ddiwedd y gweithgaredd i'r disgyblion rannu eu syniadau fel dosbarth cyfan.

TREFNU DIEMWNT NAW

Diben trefnu diemwnt naw yw ysgogi trafodaeth neu fyfyrio am werth cymharol amrywiaeth o ffactorau. Gellir defnyddio’r dull hwn o drefnu mewn llawer o wahanol gyd-destunau lle mae angen diffinio, blaenoriaethu neu wneud penderfyniadau. Er enghraifft, gellid ei ddefnyddio i werthuso naw diffiniad gwahanol o ‘ddatblygiad’ neu i ddewis rheolau’r ystafell ddosbarth.

2Rhoddir manylion llawn am sut mae trefnu diemwnt naw yn Oxfam (2015) Global Citizenship in the Classroom: A guide for teachers, tt. 15 a 19 http://www.oxfam.org.uk/education/global-citizenship/global-citizenship-guides

GLP © Hawlfraint y Goron

© Oxfam (2015)

Page 5: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

TREFNU DIEMWNT NAW

Mae addysg dda'n golygu bod pob

plentyn yn cofrestru mewn ysgol.

Mae addysg dda'n golygu bod pob

plentyn yn gorffen yr ysgol gynradd.

Mae addysg dda'n golygu bod pob

plentyn yn mynd i'r ysgol rhwng 9am a

3.30pm bum diwrnod yr wythnos.

Mae addysg dda'n golygu bod gan bob

plentyn werslyfr.

Mae addysg dda'n golygu bod pob

plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu darllen,

ysgrifennu a rhifo.

Mae addysg dda'n golygu bod pob

plentyn yn cael ei addysgu gan athro

sydd wedi'i gymhwyso.

Mae addysg dda'n golygu bod plant yn

saff ac yn ddiogel yn yr ysgol.

Mae addysg dda'n golygu bod gan

ferched a bechgyn gyfleoedd cyfartal.

Mae addysg dda'n golygu bod gan bob

ysgol ddŵr a thoiledau.

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 6: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Gweithgaredd 3 – Addysg yn Sierra LeoneMae Sierra Leone yng Ngorllewin Affrica3 ac mae gan y wlad boblogaeth o 6.3 miliwn. Mae'n un o'r gwledydd tlotaf yn y byd ac mae yn safle 182 allan o 186 gwlad ym Mynegai Datblygiad Dynol Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig.4 Mae Sierra Leone yn dal i ddod dros ryfel cartref creulon a barodd ddeng mlynedd ac a

ddaeth i ben yn 2002. Fodd bynnag mae'r wlad wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran addysg ers i'r brwydro ddod i ben.

Yn 2011 aeth Oxfam i ymweld â Sierra Leone a buon nhw'n cyfweld â phlant am eu profiadau o'r ysgol. Mae tystiolaeth astudiaeth achos pedwar plentyn yn dilyn, ynghyd â disgrifiad o ysgol gynradd mewn cymuned slym ar gyrion Freetown, prifddinas Sierra Leone, ynghyd â set o ystadegau addysg o Sierra Leone.

Diben y gweithgaredd hwn yw i bobl ifanc adolygu eu syniadau am 'addysg dda' yng ngoleuni profiadau a thystiolaeth plant go iawn. Mae sleidiau 5–8 y sioe sleidiau sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau'n cyflwyno'r pedwar plentyn y mae eu storïau wedi'u cyflwyno yn yr astudiaethau achos.

Mae Rhannau 1 a 2 y gweithgaredd yn addas i bob disgybl. Cyn gwneud y gweithgareddau dylid trafod beth maen nhw'n ei ystyried yw 'addysg dda'. Mae Rhan 3 (wedi'i thywyllu yn y grid isod) yn fwy addas i ddisgyblion hŷn a mwy galluog. Felly dylai athrawon addasu'r templed yn unol â hynny.

Er mwyn cwblhau'r gweithgaredd, dylai disgyblion adolygu'r astudiaethau achos a'r dystiolaeth, a llenwi'r tabl a roddir isod. Dylen nhw bwyso a mesur i ba raddau y mae'r gwahanol blant wedi cael 'addysg dda' ac, yn y gweithgaredd estyn, i ba raddau mae anghenion plant mewn gwahanol amgylchiadau'n cael eu hateb gan y Nodau Byd-Eang sy'n newid.

3 Map Wikimedia Commons http://bit.ly/1M7MMaQ 4 http://hdr.undp.org/en/countries/profiles/SLE

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 7: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Addysg yn Sierra Leone

1.

Ydyn nhw wedi cael 'addysg dda'?

Pam/ pam lai?

2.

Beth sydd ar goll o'u haddysg?

Beth yw eu hanghenion?

3.

I ba raddau y byddai Nod Datblygu Cynaliadwy 4 yn ateb yr anghenion hyn?

Adama

Hawanatu

Gbessay

Fatmata

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Pamaronkoh

Plant yn Sierra Leone

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 8: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

© Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Adama

Pan gwrddodd Oxfam ag Adama, roedd hi'n ddisgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh, ychydig y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Roedd hi'n 12 mlwydd oed.

'Pan o'n i ym mlwyddyn 5 doedd fy mam ddim yn gallu fforddio talu'r tâl o 9,000 Leones (£1.40) i gronfa datblygu'r ysgol. Dyma'r arian y mae'n rhaid i rieni ei dalu er mwyn i'r ysgol allu prynu pethau fel dodrefn ac offer. Pan oedd hi'n methu talu roedd rhaid imi stopio mynd i'r ysgol. Doeddwn i ddim yn mynd i'r ysgol am flwyddyn. Drwy'r amser ro'n i'n byw yma, yn union wrth ymyl yr ysgol.

'Roedd fy mam yn mynd â fy chwaer a minnau i'r farchnad ac ro'n ni'n gwerthu gari (blawd casafa) bob dydd. Do'n i ddim yn hoffi gweithio yn y farchnad. Dydy e ddim yn fuddiol i blentyn a'r cyfan ro'n i'n meddwl amdano oedd beth ro'n i'n ei golli yn yr ysgol.

'Siaradais â fy rhieni. Dywedais wrthyn nhw nad o'n i eisiau gwerthu yn y farchnad. Dywedais, plîs gwnewch eich gorau i'm hanfon i'n ôl i'r ysgol.

'Ro'n i wir yn hapus pan ddywedodd fy rhieni wrtha i fy mod i wedi cael fy lle yn yr ysgol yn ôl. Roedd rhaid i mi ddechrau Blwyddyn 5 eto a nawr dwi ym Mlwyddyn 6 sy'n fy mharatoi at yr arholiadau terfynol. Dwi'n hoffi'r ysgol achos mae'r ysgol yn fanteisiol i mi ar gyfer y dyfodol. Pan fyddaf i'n henach dwi eisiau bod yn rhywun fel nyrs neu gyfreithiwr.

'Dwi'n gwerthfawrogi'r ysgol a dwi'n astudio'n galed iawn. Dwi eisiau pasio fy arholiadau a mynd i'r Ysgol Uwchradd Iau.'

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 9: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

© Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Hawanatu

Pan gwrddodd Oxfam â Hawanatu roedd hi'n wrthi'n gweithio, yn torri llysiau yn y stryd yn Pamaronkoh, ychydig y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Roedd hi'n 13 blwydd oed.

'Es i i bob blwyddyn ysgol yn yr ysgol gynradd hyd at Flwyddyn 5. Yna buodd fy nhad farw wan o'n i ar fin dechrau Blwyddyn 6. Dwi'n byw gyda fy anti a doedd hi ddim yn gallu fforddio'r tâl ysgol, felly roedd rhaid i mi adael heb orffen fy arholiadau ysgol gynradd.

'Dwi ddim yn teimlo'n dda o gwbl am hyn achos dwi'n gorweithio. Mae fy anti'n gwerthu eba (toes casafa), halen a winwns o stondin y tu allan i'n tŷ ni. Dwi'n gweithio bob dydd yn nôl dŵr, yn ysgubo ac yn paratoi bwyd. Hefyd mae'n rhaid i mi helpu i gadw'r tŷ'n daclus.

'Dydy fy mrodyr a'm chwiorydd ddim yn mynd i'r ysgol chwaith. Ers i fy nhad farw does dim un ohonon ni'n mynd i'r ysgol.

'Un rheswm hoffwn i fynd yn ôl a gorffen yr ysgol yw achos bod y gwaith hwn yn ormod i mi. Ond hefyd hoffwn i fod yn nyrs ac mae hynny'n hollol amhosibl os nad ydw i'n gorffen yr ysgol.'

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 10: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

© Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Gbessay

Cwrddodd Oxfam â Gbessay yn Grassroots, canolfan hyfforddi galwedigaethol yn Pamaronkoh yn union y tu allan i Freetown yn Sierra Leone. Doedd Gbessay erioed wedi bod i'r ysgol a chofrestrodd yn Grassroots er mwyn dysgu gwneud dillad. Roedd hi'n 15 mlwydd oed.

'Dwi erioed wedi bod i'r ysgol. Roedd ysgol wrth ymyl fy nghartref pan o'n i'n byw yn y pentref ond es i byth. Mae fy rhieni'n dlawd iawn a doedd dim arian gyda nhw i dalu i mi fynd i'r ysgol.

'Ro'n i'n teimlo'n wael am golli'r ysgol. Aethon nhw â fi i fferm y teulu ac roedd rhaid i mi weithio yno. Ro'n i'n teimlo'n wael am hynny. Dechreuais weithio pan o'n i'n chwe blwyddyn oed, yn gwneud pethau fel chwynnu a gyrru'r adar i ffwrdd. Gweithiais ar y fferm am bum mlynedd heb fynd i'r ysgol o gwbl. Roedd fy ffrindiau yn y pentref yn gwrthod siarad â mi. Ro'n nhw'n mynd i'r ysgol a do'n i ddim, felly pan o'n nhw'n fy ngweld i, ro'n nhw'n gwrthod siarad â mi.

'Ro'n i'n teimlo fy mod i'n cael fy esgeuluso oherwydd mai merch o'n i. Siaradais â fy rhieni ac ymbil arnyn nhw i'm hanfon i'r ysgol. Dywedon nhw wrtha i nad oedd arian gyda nhw i wneud hynny. Dim ond nawr mae rhieni'n anfon merched i'r ysgol.

'Daeth fy nain â fi i Freetown pan o'n i'n 11. Roedd hi eisiau i mi ddysgu rhywbeth. Des i i'r ganolfan (Grassroots) a dechrau dysgu sgiliau newydd. Darllenais ddarllen pan o'n i'n 13. Roedd ysgrifennu fy ychydig eiriau cyntaf yn braf iawn.

'Nawr dwi'n dysgu gwneud dillad. Hoffwn sefydlu fy menter fy hun os gallaf godi'r arian. O edrych yn ôl hoffwn i ddweud pa mor bwysig yw hi i ferch fynd i'r ysgol. Y rheswm? Os yw person yn anllythrennog, mae bywyd yn anodd iawn iddyn nhw.'

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 11: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

© Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Fatmata

Pan gwrddodd Oxfam â Fatmata roedd hi'n fyfyriwr Blwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Iau yn Makeni, Sierra Leone. Roedd yn 16 blwydd oed.

'Dwi'n byw ym mhentref Mashirmba y tu allan i Makeni. Roedd yr ysgol gynradd yn weddol agos i'm cartref ond mae'r ysgol uwchradd yn y dref ac yn bell o gartref. Dwi'n codi am 5 y bore er mwyn gallu cerdded i'r ysgol erbyn y gwersi am 8am. Dwi'n gadael yn syth ar ôl i'r gwersi orffen am 4pm ac yn cerdded adref, gan gyrraedd y tŷ am 7pm. Yna dwi'n bwyta, yn gwneud fy ngwaith cartref ac yn helpu fy rhieni yn y tŷ. Mae gen i saith brawd a phedair chwaer.

'Ar y penwythnos mae fy rhieni'n disgwyl i mi eu helpu nhw gyda'r fferm. Weithiau dwi'n dweud fy mod i eisiau gwneud gwersi ychwanegol ond mae fy rhieni'n dweud: paid â gwneud rhagor o ysgol, dere i helpu dy rieni. Does dim un o'm rhieni wedi cael addysg. Maen nhw eisiau i mi fod yn gyfreithiwr, ond hefyd mae fy angen i arnyn nhw i helpu.

'Weithiau dwi'n colli'r ysgol oherwydd fy mod i mor flinedig, ond rwy'n benderfynol o wneud yn dda a dwi eisiau bod yn gyfreithiwr. Mae rhai o'm ffrindiau wedi gadael yr ysgol. Naill ai does dim arian gyda nhw ar gyfer yr ysgol neu mae eu hangen nhw i weithio. Maen nhw'n gwneud pethau fel gwerthu yn y farchnad neu weithio yn y caeau'n cario coed. Dwi bob amser yn dweud wrthyn nhw fod addysg yn bwysig iawn. Fydd addysg byth yn eich siomi chi. Mae llawer o ferched sydd ddim yn mynd i'r ysgol yn cael babis, ac yna mae'n amhosibl mynd yn ôl.'

Dywedodd athrawes Fatmata ei bod hi'n fyfyriwr gwych ond roedd hi'n cwyno ei bod hi'n aml yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol a'i bod hi'n flinedig. Byddai hi wedi hoffi i Fatma aros yn y prynhawniau i wneud gweithgareddau allgyrsiol.

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 12: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

© Aubrey Wade/Oxfam

Astudiaeth achos: Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Pamaronkoh yn Pamaronkoh, ardal slymiau ar gyrion dwyreiniol Freetown, Sierra Leone. Pan fuodd Oxfam yn ymweld, roedd gan yr ysgol 1,000 o ddisgyblion oedd yn astudio mewn dwy shifft. Roedd Blynyddoedd 1, 2 a 6 yn dod i'r ysgol yn y bore ac roedd Blynyddoedd 3, 4, a 5 yn dod yn y prynhawn.

Roedd rhwng 60 a 70 o ddisgyblion yn y dosbarthiadau yr ymwelodd Oxfam â nhw. Roedd gan bob disgybl desg a chadair, roedden nhw'n ysgrifennu mewn llyfr nodiadau ac yn gwisgo gwisg ysgol. Yn y wers a welodd Oxfam, roedd yr athro'n ysgrifennu problemau mathemategol ar y bwrdd ac yn dweud sut roedd eu datrys gyda'r dosbarth. Roedd y disgyblion yn codi llaw i ateb ac yn datrys y cyfrifiadau yn eu llyfrau nodiadau, ond doedd dim trafod neu waith grŵp. Roedd y llyfrau wedi cael eu marcio'n rheolaidd.

Roedd yr athro'n addysgu o werslyfr, ond doedd y disgyblion ddim yn defnyddio eu gwerslyfrau eu hunain yn ystod y wers. Ond, roedd setiau bychain o werslyfrau diweddar ar gyfer rhai pynciau ar ddesg yr athro, er nad oedd hanner digon i bob plentyn yn y dosbarth. Roedd posteri'n addurno'r ystafell ddosbarth, fel hen dabl cyfnodol o elfennau.

Dim ond dau doiled oedd i'r ysgol gyfan; roedd un wedi'i gloi ac i'r athrawon yn unig, roedd y llall i'r disgyblion yn unig. Doedd y toiledau ddim yn cael eu cynnal a'u cadw ac roedden nhw'n gorlifo ar iard yr ysgol. Roedd arogl cryf ac annymunol o gwmpas y toiledau ac ar un ochr i'r iard.

Cwrddodd Oxfam â rhiant yn yr iard a oedd wedi dod i gwrdd â'r pennaeth. Roedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr ysgol yn gofyn i rieni dalu am gostau cofrestru disgyblion ar gyfer yr arholiadau a phrynu'r gwerslyfrau arholiad angenrheidiol.

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 13: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 14: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

© John McLaverty/Oxfam

Plant yn Sierra Leone

Mae'r ystadegau hyn yn rhoi trosolwg o brofiadau plant yn Sierra Leone.

Cyfanswm y boblogaeth: 6.319 miliwn (2015)

Oedrannau addysg orfodol: 6 i 11 (2015)

Poblogaeth y rhai mewn addysg orfodol: 952,000 (2015)

Llythrennedd oedolion: Cyfanswm: 48%, Benywod: 38%, Gwrywod: 59% (rhagamcan – 2015)

Llythrennedd ieuenctid (15–24 oed): Cyfanswm: 68%, Benywod: 59%, Gwrywod: 76% (rhagamcan – 2015)

Canrannau'r disgyblion cynradd: Benywaidd 70%, Gwrywod: 72% (2014)

Canran y plant sydd ddim yn mynd i'r ysgol: 21% (2014)

Cyfradd gorffen yr ysgol gynradd: 72.6% (2013)

Canran yr athrawon cynradd hyfforddedig: 57% (2013)

Cymhareb disgybl–athro (athrawon hyfforddedig ac anhyfforddedig): 35 (2013)

Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd is: 77% (2012)

Gwariant ar addysg: 2.9% o'r CMC (2012), 15.2% o wariant y llywodraeth (2013)

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 15: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Gweithgaredd 4 – Fy nodau addysg

Yn olaf, gallai'r disgyblion gynhyrchu eu nodau addysg eu hunain a fyddai'n sicrhau bod pob plentyn, gan gynnwys plant mewn gwledydd tlawd iawn fel Sierra Leone, yn cael 'addysg dda'.

Gallai nodau addysg gynnwys hyfforddi mwy o athrawon, adeiladu mwy o ysgolion ac ati.

Gallai'r cwestiynau estynnol ar gyfer disgyblion hŷn a mwy galluog gynnwys:

● Ai'r blaenoriaethau sydd yn Nod Datblygu Cynaliadwy 4 yw'r blaenoriaethau cywir? Mae gan Sleid 11 fersiwn wedi'i olygu o dargedau manwl Nod Datblygu Cynaliadwy 4 er mwyn cymharu.

● A oes unrhyw flaenoriaethau pwysig wedi'u gadael allan o eiriad y nod newydd?

● Pa bolisïau addysg yw'r pwysicaf wrth geisio cael addysg i bawb?

GLP © Hawlfraint y Goron

FY NODAU ADDYSG

Page 16: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Gweithgaredd 5 – Pa nod sydd orau?

Mae hwn yn weithgaredd estynnol i ddisgyblion hŷn a mwy galluog,

Yn 2015 lansiodd y Cenhedloedd Unedig y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) newydd. Roedd y SDGs yn disodli Nodau Datblygu'r Mileniwm (MDGs), a'u bwriad yw adeiladu ar lwyddiant y MDGs ac arwain at ddileu tlodi erbyn 2030.

Mae prif destun MDG2 a SDG4 wedi'i gyflwyno ar sleid 9 y sioe sleidiau. Mae'r nodau'n darllen:

MDG2 (2000–15)

● 'Sicrhau, erbyn 2015, y bydd plant ym mhobman, bechgyn a merched fel ei gilydd, yn gallu cwblhau cwrs llawn o addysg gynradd.'

SDG4 (2015–30)

● ‘Sicrhau bod addysg gynhwysol a chydradd o ansawdd dda a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.’

Dysgu gydol oes: Canolfan hyfforddi galwedigaethol i ieuenctid yn Sierra Leone© Aubrey Wade/Oxfam

GLP © Hawlfraint y Goron

Page 17: GLP · Web viewRoedd hi'n cwyno bod cyfanswm cost cofrestru ei phlentyn ar gyfer yr arholiadau cyhoeddus yn fwy na'i hincwm misol ac allai hi ddim fforddio hyn. Fel arfer roedd yr

Mae Sleid 10 yn gofyn i ddisgyblion ystyried, trafod a dod i gasgliadau am ddau gwestiwn allweddol:

● Beth yw'r pethau sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y nodau?

● Pa un o'r nodau sydd agosaf at eich syniadau chi am addysg dda?

Efallai y bydd angen edrych ar ddealltwriaeth disgyblion o beth o'r derminoleg, fel 'cwrs llawn', 'cynhwysol', 'cydradd' ac 'ansawdd'.

Erbyn diwedd y gweithgaredd hwn, dylai fod gan ddisgyblion syniad clir am eu diffiniad eu hunain o 'addysg dda', ac i ba raddau mae MDG2 a SDG4 yn mynd tuag at ateb eu diffiniad.

Adnodd wedi'i greu gan Oxfam GB ar gyfer y Rhaglen Dysgu Byd-Eang.

Amodau defnyddio

Pob llun © Oxfam GB

Cewch ddefnyddio'r ffotograffau hyn a'r wybodaeth gysylltiedig at ddibenion addysgol yn eich sefydliad addysgol. Bob tro y'i defnyddiwch, rhaid ichi gydnabod y ffotograffydd a enwyd ar gyfer y ddelwedd honno ac Oxfam. Ni chewch ddefnyddio delweddau a gwybodaeth gysylltiedig at ddibenion masnachol neu'r tu allan i'ch sefydliad addysgol. Mae pob gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r delweddau hyn yn ymwneud â'r dyddiad a'r amser pan ddigwyddodd y gwaith prosiect.

GLP © Hawlfraint y Goron