-
Y T INCERPRIS 75c
Rhif 340
Mehefin2011
P A P U R B R O G E N A U ’ R - G L Y N , M E L I N D W R , T I
R Y M Y N A C H , T R E F E U R I G A ’ R B O R T H
AR Y FFORDD
Dydd Sadwrn y 18fed o Fehefin fe gychwynodd 7 gãr ifanc o ardal
Aberystwyth a Bryste seiclo 1,000 o filltiroedd mewn 10 diwrnod,
gan obeithio codi £10,000 ar gyfer 4 elusen. Mae’r tîm yn bwriadu
codi’r arian ar gyfer Apêl Elain. Merch fach leol ydy Elain James,
sydd yn dioddef o afiechyd y galon (congenital heart disease) ac er
nad yw ond 14 mis oed, mae wedi gorfod cael nifer o lawdriniaethau
a bydd rhaid cael un arall yn yr wythnosau nesaf.
Mae Apêl Elain yn codi arian ar gyfer pedair elusen sydd wedi
helpu Elain ers ei genedigaeth: Ambiwlans Awyr Cymru, The Leon
Heart Fund, Wallace and Gromit’s Grand Appeal a Ronald McDonald
House Bristol.
Mae’r saith aelod yn cynnwys
Merched Grãp Crefft Llandre yn trosglwyddo cwiltiau bychain i
Sue Wilson a Liz Coles ym Methlehem Llandre. Mae’r aelodau yn cwrdd
yn wythnosol yn ystod y gaeaf, ac eleni eu prosiect oedd gwneud
cwiltiau i’r Prosiect Linus - prosiect sydd wedi deillio o Unol
Daleithiau’r America. Bydd y cwiltiau, a’r capiau yn cael eu
trosglwyddo at anghenion plant a phobl ifainc sydd â salwch hir
dymor, yn dioddef o drawma, neu i fabanod sydd wedi cael eu geni yn
gynnar. Bydd y cwiltiau yn mynd i’r ysbytai lleol ac i lochesi
merched, a chaiff pob dioddefwr berchnogaeth bersonol o’r cwiltiau
yma. Sue Wilson a Liz Coles yw’r ail a’r drydedd o’r chwith.
Gruff Lewis, Llys Aeron, Penrhyn-coch, pencampwr rasio ffordd
newydd Cymru! Er mai dim ond ers diwedd 2009 y dechreuodd Gruff
seiclo fe ddaeth yn ddiweddar yn Bencampwr Rasio Ffordd Cymru 2011
yng Nghwm Ogwr. Llongyfarchiadau mawr iddo a dymuniadau gorau i’r
dyfodol!
Trosglwyddo cwiltiauPencampwr Cymru
edwar bachgen lleol - Andrew Simkins o Waunfawr; Dylan Lewis o
Dre’r-ddôl; Dafydd Erwan Davies o Landre a Clint Middleton o
Maesafallen, Bow Street; ail, trydydd, pumed a chweched o’r
chwith.. Yr aelodau eraill ydy James
Bradbury-Willis o Aberdyfi, Martin White o Gernyw a Simon Blay o
Fryste.
Maent eisoes wedi bod yn ymarfer yn galed ac wedi trefnu llawer
o waith codi arian. Gyda ychydig o wythnosau yn unig
i fynd, mae’r tîm angen eich help i gyrraedd eu targed! Os
hoffech chi eu noddi, neu am fwy o wybodaeth am y daith yn cynnwys
lluniau a ‘blogio’, ewch i’w gwefan www.bristoltobarcelona.co.uk.
Pob lwc iddynt!
-
2 Y TINCER MEHEFIN 2011
Y T INCER- u n o b a p u r a u b r o C e r e d i g i o n | S e f
y d l w y d M e d i 1 9 7 7
I SS N 0 9 6 3 - 9 2 5 X | R h i f 3 4 0 | M e h e f i n 2 0 1
1
Y DYDDIAD OLAF Y BYDD GOHEBWYR LLEOL YN DERBYN DEUNYDD AR GYFER
Y RHIFYN NESAF FYDD MEDI 1 a MEDI 2 I’R
GOLYGYDD. DYDDIAD CYHOEDDI MEDI 15
DYDDIADUR Y TINCER
CYDNABYDDIR CEFNOGAETH
Cyhoeddir y Tincer yn fisol o Fedi i Mehefin gan Bwyllgor y
Tincer. Argreffir gan y Lolfa, Tal-y-bont. Nid yw’r Pwyllgor o
angenrheidrwydd yn cytuno ag unrhyw farn a fynegir yn y papur hwn.
Dylid cyfeirio unrhyw newyddion i’ch gohebydd lleol neu i’r
Golygydd, ac unrhyw lythyr neu ddatganiad i’r wasg i’r
Golygydd.Telerau hysbysebuTudalen lawn (35 x 22 cm) £100Hanner
tudalen £60Chwarter tudalen £30neu hysbyseb bach ca. 5 x 8 cm £6 y
rhifyn - £40 y flwyddyn (10 rhifyn - misol o Fedi i Fehefin); mwy
na 6 mis + £4 y mis , llai na 6 mis - £6 y mis. Cysyllter â Rhodri
Morgan os am hysbysebu.
SWYDDOGION
GOLYGYDD - Ceris GruffuddRhos Helyg, 23 MaesyrefailPenrhyn-coch
% [email protected]
TEIPYDD - Iona Bailey
CYSODYDD - Dylunio GraffEG % 832980
CADEIRYDD - Elin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawr, Y Borth %
871334
IS-GADEIRYDD - Bethan Bebb, Penpistyll, Cwmbrwyno. Goginan %
880228
YSGRIFENNYDD - Anwen Pierce46 Bryncastell, Bow Street %
828337
TRYSORYDD - Hedydd Cunningham, Tyddyn- Pen-y-Gaer, Llandre,
Aberystwyth SY24 5NX % 820652 [email protected]
HYSBYSEBION - Rhodri Morgan, Maes MieriLlandre, % 828 729
[email protected]
LLUNIAU - Peter HenleyDôleglur, Bow Street % 828173
TASG Y TINCER - Anwen Pierce
TREFNYDD GWERTHIANT A THREFNYDD CYFEILLION Y TINCER - Bryn
Roberts4 Brynmeillion, Bow Street % 828136
GOHEBYDDION LLEOL
ABER-FFRWD A CHWMRHEIDOLMrs Beti Daniel, Glyn Rheidol % 880
691
Y BORTH Elin Hefin, Ynyswen, Stryd Fawr
[email protected]
BOW STREETMrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro % 828 102Lynn Phillips,
1 Cae’r Odyn % 820908Anwen Pierce, 46 Bryncastell % 828 337
CAPEL BANGOR/PEN-LLWYNMrs Aeronwy Lewis, Rheidol
BancBlaengeuffordd % 880 645
CAPEL MADOG, CEFN-LLWYD A CAPEL DEWIDai Evans, Fferm Fronfraith,
Comins-coch, % 623660Elwyna Davies, Tyncwm % 880275
DÔL-Y-BONTMrs Llinos Evans, Dôlwerdd % 871 615
DOLAUMrs Margaret Rees, Seintwar % 828 309
GOGINANMrs Bethan Bebb, Penpistyll, Cwmbrwyno % 880 228
LLANDREMrs Mair England, Pantyglyn, Llandre % 828693
PENRHYN-COCHMairwen Jones, 7 Tan-y-berth % 820642
TREFEURIGMrs Edwina Davies, Darren Villa Pen-bont Rhydybeddau %
828 296
MEHEFIN 24 Nos Wener Noson gwin, caws a chân gyda Chôr Meibion
Caron ac Ysgol Gynradd Tal-y-bont a Pedwarawd Taliesin am 7.30 yn
Eglwys St. Pedr, Elerch. Tocynnau: £6
MEHEFIN 25 Pnawn Sadwrn Garddwest fawreddog a barbeciw gan
Eglwys Sant Mihangel, Llandre yn y Parc Chwarae; agorir gan y
Parchg Peter Jones am 3.00.
MEHEFIN 26 Dydd Sul Marchogaeth er budd Neuadd y Penrhyn Ceffyl
cyntaf: 9.30; Ceffyl olaf 11.00 a.m. 10 milltir ar gyfer pob gallu,
o’r ieuenga i’r daith gyflymach i’r rhai mwy profiadol; taith fer 5
milltir hefyd ar gael. Ffi mynediad: £10 ar y diwrnod. Dechrau o
fferm Cwmcanol, Cwmsymlog. Manylion cyswllt: 07515 494 710
GORFFENNAF 1 Nos Wener Noson goffi flynyddol Noddfa yn y
festri
GORFFENNAF 2 Dydd Sadwrn Te Hufen a Mefus yn Neuadd Eglwys Sant
Ioan Penrhyn-coch rhwng 3.00-5.00
GORFFENNAF 5 Nos Fawrth Cwmni Drama Licris Olsorts yn cyflwyno
‘Ni’n dwy’ a ‘Y sics ten o Euston’ yn Neuadd Goffa Tal-y-bont am
8.00
GORFFENNAF 9 Dydd Sadwrn Taith o ardal Treffynnon, Sir y Fflint
yng nghwmni Gron Ellis, Treffynnon
GORFFENNAF 13 Nos Fercher Cyfarfod blynyddol y Tincer yn festri
Noddfa, Bow Street am 5.30
GORFFENNAF 18 Dydd Llun Ysgolion Ceredigion yn cau am wyliau’r
haf
AWST 6 Dydd Sadwrn Sioe Capel Bangor a’r cylch. Am fanylion
cysylltwch â Nerys ar 01970 880 691 neu
http://www.capelbangorshow.co.uk
AWST 20 Dydd Sadwrn Sioe Penrhyn-coch
MEDI 3 Dydd Sadwrn Sioe Rhydypennau
MEDI 3 Dydd Sadwrn Sioe Trefeurig
MEDI 5 Dydd Llun Ysgolion Ceredigion yn ail agor ar ôl gwyliau’r
haf
MEDI 7 Nos Fercher Pwyllgor Sioe Capel Bangor manylion oddi wrth
Nerys Daniel 880691
MEDI 9 Nos Wener Eisteddfod Papurau Bro Ceredigion yn Felin-fach
am 7.30, Bydd manylion ar wefan Cered yn fuan. www.cered.org
MEDI 9 Nos Wener Swper Haf Bach Mihangel Capel Y Garn yn Ysgoldy
Bethlehem, Llandre am 6.00
MEDI 10 Pnawn Sadwrn Te prynhawn yng Nghartref Tregerddan am
2.30 MEDI 12 Nos Lun Noson agoriadol Merched Y Wawr Rhydypennau yn
Neuadd Rhydypennau am 7.30
MEDI 13 Nos Fawrth Cyfarfod blynyddol y Tincer yn Noddfa am
7.00
MEDI 21 Nos Fercher Noson yng nghwmni Russell Jones – noson
agoriadol Cymdeithas y Penrhyn am 7.30 yn festri Horeb
Y Tincer ar dâp - Mae modd cael y Tincer ar gaset ar gyfer y
rhai sydd â’r golwg yn pallu. Cysylltwch â Rhiain Lewis,
Glynllifon, 17 Heol Alun, Aberystwyth, SY23 3BB (% 612 984)
Camera’r Tincer - Cofiwch am gamera digidol y Tincer – mae ar
gael i unrhyw un yn yr ardal fydd am ei fenthyg i dynnu llun ar
gyfer y papur o gyngerdd, cinio neu ddigwyddiad a gynhelir o fewn
ein dalgylch. Fe’i cedwir gan Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro, Bow
Street (% 828102). Os byddwch am gael llun eich noson goffi yn Y
Tincer defnyddiwch y camera.
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 3
CYFEILLION Y TINCERDyma fanylion enillwyr Cyfeillion Y Tincer
mis Mai
£25 (Rhif 81) Gordon Jones, Y Wern, Bow Street.£15 (Rhif123)
Gwen Morgan, Y Bynglo, Cwmrheidol£10 (Rhif 38) Mrs D M Stanleigh,
Dolfawr, Cwmrheidol.
Fe dynnwyd y rhifau buddugol gan gan Eleri Roberts, Dewi Hughes
a Ceris Gruffudd yn dilyn ymarfer Côr Cantre’r Gwaelod nos Sul y
22ain o Fai.
Cysylltwch â’r Trefnydd, Bryn Roberts, 4 Bryn Meillion, os am
fod yn aelod. Am restr o Gyfeillion y Tincer 2010/11 gweler
http://www.trefeurig.org/uploads/cyfeilliontincer2009.pdf
30 Mlynedd ’Nôl
Rhai o aelodau Cyngor Cymuned Tirymynach yn cael hoe haeddiannol
ar ôl bod wrthi yn clirio rhan o’r llwybr cyhoeddus sy’n arwain o
Dregerddan heibio’r Hen Gaer ac i lawr i Benrhyn-coch. O’r chwith:
Y Cynghorwyr Doris Jones, Vernon Jones, Byron Jones, Lilian Magor,
Nia Davies ac Emyr Davies. Nid yw Nia (merch Mr Emyr Davies) yn
aelod o’r Cyngor Cymuned, ond bu’n help mawr y noson honno i’r
Cynghorwyr blinedig. Llun: Tegwyn Jones (o Dincer
Mehefin/Gorffennaf 1981)
HYSBYS
CARTREF TREGERDDAN
Te Prynhawn yn y Cartref
Dydd Sadwrn, Medi 10, 2011 am 2.30 o’r gloch
Croeso cynnes i bawb
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Steven Jones, Yr Hafan, Cwmbrwyno sydd wedi
derbyn dyrchafiad i Is-Gorporal yn y fyddin.
Hefyd i Ann Bennet, Arfon House ar gael y fraint o dorri’r
dywarchen gyntaf yn y datblygiad diweddaraf yn Ysbyty Bron-glais.
Cafodd Ann ei dewis gan ei bod yn gogydd yn yr ysbyty ers deugain o
flynyddoedd, y weithwraig hiraf.
Genedigaethau
Llongyfarchiadau i Julian ac Andrea ar enedigaeth merch fach,
Iola Sophie May, chwaer i Sam ac wyres gyntaf i Alun a Margaret
Rees, Seintwar.
Newyddion hapus hefyd o Madryn gan fod Dafydd a Mair Evans wedi
dod yn Dad-cu a Mam-gu am y tro cyntaf; Eleri a Xavier wedi cael
merch fach, Erin Betsan. Llongyfarchiadau iddynt i gyd. Pawb wrth
eu bodd.
Cyd-ddigwyddiad?
Mae tri o fechgyn y Dolau yn byw o fewn llai na 10 milltir i’w
gilydd yn ardal Caerdydd, ac mae pob un yn awr yn dad i fachgen a
merch; David a’i wraig Ruth, Wyn a Martina ag yn awr Julian ag
Andrea. Mae rhieni y bechgyn yn y Dolau i gyd yn hapus iawn nawr.
Bydd y plant yn debyg o fynychu’r ‘un ysgol Gymraeg yn yr ardal pan
ddaw’r amser.
Cydymeimlad
Estynnwn ein cydymdeimilad dwysaf â Hywel Ellis a’r teulu yn
Hywelfan ar farwolaeth ei ewythr Ken Williams ym Mhenrhyn-coch.
Dewis i feirniadu
Llongyfarchiadau calonog i Dafydd Morris, Neuadd Parc, ar gael
yr anrhydedd o feirniadu y Cobiau Cymraeg Adran C yn Sioe Frenhinol
Cymru Llanelwedd 2012.
GOGINAN
DOLAUABER-FFRWD A CHWMRHEIDOL
RhoddionCydnabyddir yn ddiolchgar y rhoddion isod. Croesewir pob
cyfraniad boed gan unigolyn, gymdeithas neu gyngor.Cyngor Cymuned y
Borth £50Cyngor Cymuned Tirymynach £300Cyngor Cymuned Trefeurig
£250Cyngor Cymuned Melindwr £225Cyngor Cymuned Genau’r –glyn £200
Clwb Cylch Cinio Aberystwyth £100
Yn y llun gwelir pedair o ferched ardal y Tincer a fu’n cystadlu
fel rhan o dîm hoci Ysgol Penweddig yn nhwrnament Cwpan Hoci Cymru
o dan 18 a gynhaliwyd yn Wrecsam yn ddiweddar. Aeth y tîm drwodd
i’r rownd gyn-derfynol.Y merched yw - Gwenno Morris, Beca Williams
(capten y tim) Danielle Pryce ac Anna Evans.
Tîm Rygbi Ysgol Gynradd Trefeurig a enillodd gwpan rygbi yr
ysgolion llai am yr ail dro eleni. Aelodau’r tîm yw: Shaun a
Steffan Robinson, Owen a Daniel Simkins, Dafydd Morgan, Stuart Mee,
Dylan Hughes a Sharon Williams. Llongyfarchiadau calonnog iddynt,
ac i’w dwy athrawes ymroddedig Mrs Megan Creunant Davies a Mrs
Della Williams. (o Dincer Mehefin/Gorffennaf 1981)
Y T
INC
ER
ytin
cer@
goog
lem
ail.c
om
-
4 Y TINCER MEHEFIN 2011
Y BORTHFfilm leol
Mae gan Stuart Evans ( Cliff House ) ffilm fydd yn cael ei
dangos yn Y Box yng Nghanolfan y Celfyddydau ym Mehefin -18,
Gorffennaf 6, 11, 16, 21, 26, 31 ac Awst 5, 10, 15 a 20. Cynnwys y
ffilm yw saith tirlun; golygfeydd o’r Borth a Llandre saethwyd yn y
90au.
Cylch Meithrin y Borth
Cynhaliodd Cylch Meithrin y Borth ddiwrnod agored llwyddiannus
ar Fai 24ain a’i gyfunao â dathliad pen blwydd y Mudiad yn 40 oed.
Yn y llun gwelwn blant y Cylch Jodie ac Eric gyda chynorthwyydd y
Cylch Shan Bailey ac Ewan, Summer a Mark gyda arweinydd y Cylch,
Cath Reeves. Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos eu hardal
chwarae newydd a gwahodd pobl yr ardal i’r Cylch i fwynhau paned a
theisen. Hoffai’r Cylch ddatgan eu diolch i’r gymuned leol ac i
Ysgol Craig yr Wylfa am eu cefnogaeth parhaol. Derbyniwyd rhoddion
gan Nisa, Family Stores, Oriel Tir a Môr, The Art House, siopau’r
Hubbards, y Brodyr Davies (y paentwyr), yn ogystal ag aelodau’r
gymuned sydd wedi rhoi o’u hamser i helpu gyda’r ardal chwarae.
Diolch arbennig i Becky Green hefyd am godi £200 drwy wneud naid
bynji yn Aberystwyth .
Pen blwydd hapus hwyr!
Nain - Iona Jones, Bodfor, y Borth yn dathlu ei phen blwydd yn
80 mewn parti sypreis yn Sir Fôn yn gynharach yn y flwyddyn. Daeth
pump ar hugain o’i theulu ynghyd i ddymuno’n dda iddi a chafwyd
cyfarchion oddi wrth ei hãyr, Tom dros Skype o Beijing!
Canolfan Teulu y Borth
Cynhaliwyd cwrs dysgu Cymraeg o dan ofal Zoe Pettinger bob
dyddMawrth yn Neuadd Gymunedol y Borth hyd at Fehefin y 7fed.
Roeddynt yn sesiynau hwyliog,gyda llawer o ganu a gêmau. Mae
Canolfan y Teulu ar agor bob dydd Mawrth yn y Neuaddrhwng
09.30-15.00 o’r gloch. Mae croeso cynnes i rieni, Mamau a Thadau-cu
a gofalwyr plant bach.
Y Morglawdd – y diweddara’
Braf yw nodi fod y gwaith ‘ar amser’ ac o fewn y cyllid. Mae Ray
Jones, rheolwr y gwaith yn awyddus i ddiolch i drigolion y Borth am
eu hamynedd a’u hewyllys da. Fel arwydd o’i werthfawrogiad mae
B.A.M. wedi cyfrannu i’r gymdeithas mewn gwahanol ffyrdd e.e. talu
am lyfryn y Carnifal, paratoi fflôt (edrychwn ymlaen i weld hwnnw!)
a noddi cystadleuaeth gwneud poster am y Morglawdd i blant Craig yr
Wylfa.
Ar wahân i’r cerrig anferth o Norwy (hapus gôf am Charlie Rock),
cerrig Cymreig fydd yn ein hamddiffyn; cynyrch chwareli
Ystradmeurig, Llanfair-ym-Muallt a Chefn Grainiog. Heddiw (Mehefin
10fed) mae yna bedwar Jac Codi Baw yn cwblhau y Sarn dros dro, sy’n
golygu eu bod yn gallu dechrau ar y rîff o fewn ychydig amser.
Edrychwn ymlaen at fisoedd yr Hâf a’r Hydref a diwedd ar y rhan
gyntaf yma o’r Morglawdd.
Mrs.Pam Gibbs
Galar sy’n dilyn y newydd am farwolaeth Mrs. Gibbs.Gwaaig
arbennig.Er yn ei nawdegau, roedd wastad i’w gweld yng
ngweithgareddau’r pentre; gwisgai bindi, dysgodd
Gymraeg,darllenai’n frwd,
cerddai’n ddiflino, ymarferai Yoga ac yn Gatholiges bybyr.Hi
oedd gweddw y diweddar Squadron Leader Gibbs, mam Sarah Pugh y
Friendship a Mam-gu Jenks, Emma, Lizzie, Amy a Trystan. Bydd yr
angladd ar ddydd Gwener Mehefin yr 17eg yn Eglwys Gatholig
Aberystwyth.Cydymdeimlwn â’r teulu oll a’u llongyfarch am y gofal
gafodd Pam ganddynt.
Henoed
Ar ddydd Iau y 5ed o Fai, aeth Clwb Henoed y Borth ar eu
gwibdaith Gwanwynol i Henllan i gwrdd â Mr. Bill
Thompson,perchennog a churadur capel a adeiladwyd gan garcharorion
rhyfel o’r Eidal. Rhoddodd sgwrs ac aeth â ni o gwmpas y capel a’r
gwersyll. Roedd y lle yn dyst i ffydd anhygoel y carcharorion
rhyfel ac
yn ymweliad gwerth chweil iawn.Yna ymlaen i ymweld â’r Felin
Wlân Genedlaethol i weld eu harddangosfa a chael cinio blasus tu
hwnt. Hoffwn ddiolch i Mr. Jones ein gyrrwr am drip cofiadwy arall.
Edrychwn ymlaen at y nesa sef i taith i Gaer mis hwn. J.C.
Gwobr!
Mewn cynhadledd ym Mhortmeirion yn ddiweddar derbyniodd George
Romary (Rock House) wobr hynod, sef Gwobr Cyfraniad Personol
Arbennig. Yn y gynhadledd a gynhaliwyd gan Drenau Arriva Cymru-
Mabwysiadu Gorsaf, dim ond un o’’r gwobrau yma oedd ar gael am y
flwyddyn a George gafodd hi! Mae George wedi gweithio’n ddiflino yn
llywio criw o wirfoddolwyr dros rhai blynyddoedd erbyn hyn (gyda
Jo
‘Race 4 Life’
Ar ddydd Sul 15fed o Fai aeth criw o blant o Ysgol Sul Eglwys
Sant Matthew i gymryd rhan yn y ras flynyddol i godi arian i
Ymchwil Cancr. Noddwyd with o’r merched i rhedeg, sef Hattie,
Lauren, Megan, Hannah, Eleanor, Finlay, Toohey a Mackenzie, ond
daeth y rhan fwyaf o’r ysgol Sul i gefnogi ac yn wir ymunodd yr
holl ferched yn ras (rhai’n rhedeg, eraill yn cerdded) rhai mor
ifanc â thair. Codwyd cyfanswm o £1,000 tuag at yr elusen. Diolch
yn fawr i’r bechgyn hefyd am ddod i gefnogi. Ar ôl dychwelyd i’r
Borth cafwyd cinio bwffe a phnawn gymdeithasol. Llongyfarchiadau i
bawb! J.C.
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 5
Eich cigydd lleolPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30
Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewn
rhai siopau lleol
CIGYDD BOW STREET
Plant Dewi
Roedd plant Dewi yn hynod falch o dderbyn rhodd caredig iawn o
£200 gan Eglwys St. Mihangel, Llanfihangel Genau’r-glyn. Cynhaliwyd
digwyddiadau codi arian llwyddiannus iawn gan aelodau’r eglwys oedd
yn caniatau rhoi rhodd mor hael. Trefnodd Mrs. Lis Collinson ei
thaith gerdded flynyddol i weld yr eirlysiau, er budd elusen blant
yr esgobaeth. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad arall adeg y
Grawys, sef cwrdd am ginio’r Grawys a gwrando ar siaradwr ,sef
Gweithiwr Prosiect Plant Dewi yn sôn am ei gwaith.
Yn y llun, gwelir Catrin Evans Gweithiwr Prosiect Plant Dewi
gyda rhieni a gweithwyr Canolfan Deulu y Borth, sydd yn un o
brosiectau Plant Dewi, hefyd Lis Collinson, Sue Jenkins, Doreen
Haggar ac Avril Thomas.
ei wraig a John Toller, Ynys-las wrth ei ochr bob amser). Mae’n
haeddu hyn a mwy!
Erbyn hyn mae’r gwaith adeiladu yn yr Orsaf ar ben a’r agoriad
swyddogol ar ddigwydd. Casglwyd llawer o hen bethau rheilffordd yn
ogystal â memorabilia y pentre yn barod ar gyfer creu yr
arddangosfa. Mae angen gwirfoddolwyr i edrych ar ôl yr amgueddfa
dros wyliau’r hâf-os oes diddordeb
Roedd fy nhad yn blismon, felly fe gawsom fel teulu ein symud yn
gyson, e.e. Cydweli, Llanelli a Chaerfyrddin. Yno fe es i Ysgol
Ramadeg Queen Elizabeth a rhannu yr un dosbarth C.S.E. maths â Ray
Gravell. Gwrthododd ein hathro i ni sefyll yr arholiad hyd yn oed,
roeddem ni’n dau mor anobeithiol!O’r ysgol es i i’r Cambridge
Institue of Education a chael B.Ed. mewn Celf.Wedi graddio cefais
T.B. ac o’r herwydd roedd dysgu’n amhosib-felly cefais flwyddyn heb
waith a chyfle i grwydro galerïau Llundain- cyfnod anodd ond
gwerthfawr. Wedi gwella, cefais swydd fel ‘security guard’ yn y
Royal Academy a chyfle arall i grwydro o amgylch Meistri y byd Celf
am ddim. Ardderchog, ond roeddwn i am ddod nôl i Gymru a byw ar
bwys y môr.Yn ’76 cefais swydd yn Amgueddfa Ceredigion a byw gyda
chyd artistiaid yng Nghapel Bangor. Yn eu plith oedd Jenny Fell
(sy’n byw yn y Borth) a Bob Meyrick (sydd nawr yn bennaeth yr Ysgol
Gelf). Roedd dau ddylanwad ar fy ngwaith ar y pryd, Jenny, a
gychwynnodd fy niddordeb mewn ‘Lino cuts’ a Gwenllian Ashley a’m
cefnogodd i ddatblygu fy nghelf. Tra yn yr Amgueddfa, gwelais sawl
llun o longau ac ar eu cefnau, wybodaeth am enw’r Capten, a’r Llong
a’r cwmni a.y.y.b.. Penderfynais symud y wybodaeth o’r cefn a’i roi
ar flaen y llun-profodd hyn yn eitha llwyddiannus. Wedi creu nifer
o ‘lino cuts’ am lefydd glan môr, penderfynais neud rhai am lefydd
fel Tregaron a’u eliffant enwog a’r gãr a gladdodd ei goes yn
Ystrad Fflur.Redd ‘gofod’ fy arddangosfa yn y Llyfrgell
Genedlaethol yn brofiad pleserus wrth imi gydweithio â’r bardd Elin
ap Hywel –hi â’r geiriau a minnau â’r lluniau.Y dylanwadau cynnar
arnaf oedd Degas a Munch ond erbyn hyn Joseph Cornell a Jim Ede
yw’r rhai pwysig. Yn y cyfnod hapus yma o’m bywyd, rwy’n gweithio
pedwar diwrnod yn yr Amgueddfa ac un yn yr Ysgol Gelf yn
astudio-cyfuniad hapus sy’n rhoi i mi y gorau o’r gorffennol a holl
egni’n presennol.
Artist y Mis - Stuart Evans
gallwch gysylltu â George ar 871850. Bydd ei wobr - cloc
arbennig, yn cael ei arddangos yno hefyd!
Deuawdwyr
Llongyfarchiadau i Mared Pugh-Evans ar ddod yn drydydd gyda
Emily o Ben-uwch ar y ddeuawd bl.7-9 yn Eisteddfod Genedlaethol yr
Urdd Abertawe a’r cylch.
Bois y Graig
Dyma lun hwyliog iawn o Bois y Graig wedi iddynt ddathlu
buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Penuwch Snipes yng Nghyngrair Cynradd
Pêl-droed Aberystwyth. Da iawn nhw!
ytin
cer@
goog
lem
ail.c
om
-
6 Y TINCER MEHEFIN 2011
LLANDRECroeso
Croeso i Landre i Endaf a Siwan Griffiths a’u merch fach Megan
Lois sydd wedi symud i Trafford House o Ffordd y Gogledd,
Aberystwyth. Gobeithio y byddwch yn hapus yn ein plith.
Cyfarfod Sefydlu’r Parchg Peter Owen Jones
Cynhaliwyd cyfarfod sefydlu’r Parchg Peter Owen Jones, Nos Lun
Mai 16eg am 7.00 o’r gloch yn Eglwys yr Holl Saint, Llangorwen.
`Roedd y croeso yn gynnes a’r Eglwys yn orlawn gyda nifer fawr o
glerigwyr o ogledd Ceredigion ynghyd â chlerigwyr o Eglwys
flaenorol Peter yn Ne Sir Benfro lle bu yn Giwrad. Mae Peter a’i
wraig Carol a’i ferch ddeg oed Ellen eisoes wedi ymgartrefu yn y
Ficerdy ym Maes y Garn gyda Ellen yn setlo i mewn yn Ysgol Gynradd
Plas-crug.
Ganwyd ef yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr yn fab i dad a oedd yn
siarad Cymraeg a mam Seisnig (y mae Peter wrthi’n gloywi ei
Gymraeg) a graddiodd mewn electroneg. Treuliodd sawl blwyddyn yn
gweithio mewn diwydiant cyn ymateb galwad ganol-gyrfa a’i
arweiniodd i hyfforddi mewn coleg diwinyddol yn Llundain am dair
blynedd. Yna bu Peter yn gurad mewn gofalaeth tair eglwys yn
Hubberston, Sir Benfro am dair blynedd.
Cafodd Peter ei sefydlu yn Offeiriad gyda gofal dros Eglwysi San
Mihangel, yn Llandre, Dewi Sant, Tal-y-bont ac Eglwys yr Holl
Saint, Llangorwen.
Roedd y cyfarfod yng ngofal y Parchg Ddoctor Will Strange
Archddiacon Aberteifi a’r Parchedig Andy Herrick, Ficer y Santes
Ann, Penparcau. Y Parchg Herrick yw’r Deon Gwlad dros dro yn ystod
salwch y Parchg
John Livingstone.Roedd gwragedd Eglwys
Sant Mihangel, Llandre wedi paratoi te ar gyfer yr ymwelwyr o
Dde Sir Benfro yn Neuadd Rhydypennau cyn y cyfarfod sefydlu a
chafwyd gwledd yn dilyn y cyfarfod sefydlu wedi ei pharatoi gan
chwiorydd Eglwys yr Holl Saint, Llangorwen mewn pabell bwrpasol
wedi ei chodi ger Eglwys Llangorwen.
Yn ddiau bydd y gymuned yn elwa o’i garedigrwydd, ei egni, ei
ysbrydoliaeth a’i arweiniad yn y blynyddoedd i ddod. Mae Peter yn
awyddus iawn i ddod i adnabod pobl yr ardal ac felly mae ef wedi
cytuno i agor yr arddwest flynyddol Ddydd Sadwrn, Mehefin 25ain am
3yp ym Maes Chwarae Llandre
Cerddor dawnus
Llongyfarchiadau i Seren Powell-Taylor, Troed-y-bryn ar ddod yn
gyntaf ar yr unawd chwythbrennau a hefyd cyntaf fel rhan o ensemble
offerynnol Ysgol Tal-y-bont.
Llwyddiant llenyddol
Llongyfarchiadau mawr iawn i Dylan Huw Edwards ar ennill
cystadleuaeth Barddoniaeth Blwyddyn 10/11 yn Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a’r Fro ac yn Eisteddfod Gadeiriol
Llandudoch. Daeth ar y brig hefyd yng nghystadlaethau Barddoniaeth
a Rhyddiaith y Rotary, Aberystwyth. Y Beirniad yn Eisteddfod yr
Urdd oedd Aneirin Karadog ac mae’r gerdd i’w gweld yn y gyfrol
Cyfansoddiadau.
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn â D. Bryan James, Dolhuan, ar farwolaeth sydyn ei
wraig Dr Eleanor M. James ar Fehefin 15.
Ennill gwobr
Llongyfarchiadau i Lleucu Roberts am ennill gwobr Gymraeg Tir Na
N-og categori uwchradd am ei nofel Stwff Guto S. Tomos (Y Lolfa) –
dyddiadur bachgen pedair ar
ddeg oed sy’n byw mewn teulu anghonfensiynol. Yn frodor o Landre
mae Lleucu yn byw gyda’i theulu yn Rhostryfan, ger Caernarfon ers
pymtheng mlynedd. Dyma’r ail dro iddi ennill y wobr hon.
Mrs Gladys James, Bronberllan
Ar 17eg Mawrth 2011 bu farw un o drigolion hynaf y pentref, sef
Mrs Gladys Susannah Jones, Bronberllan. Bu farw yn Ysbyty
Bron-glais a hithau yn 98 oed.
Fe’i ganwyd yn un o wyth o blant i Henry a Susannah Richards,
Rhydycochiaid, Trawsgoed. Mynychodd Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn,
ond gadawodd yno pan yn 14 oed i gynorthwyo ei rhieni a’r teulu ar
y fferm. Adeg y rhyfel bu croeso mawr i ifaciwis o Lundain ar yr
aelwyd. Roedd yn hoff iawn ac yn dda am goginio ac roedd yn hynod
grefftus gyda’i dwylo. Roedd yn aelod ffyddlon o Gapel Rhydyfagwyr
yr adeg hynny.
Priododd ag Ivor Jones, Bronberllan, Llandre yn Hydref 1954, ac
yno y bu hi a’i phriod yn byw ar hyd eu bywyd priodasol, ac yno y
bu hi hyd y diwedd er iddi golli ei phriod flynyddoedd yn ôl.
Wedi priodi bu’n gweini mewn nifer o westai yn Aberystwyth. Hyd
yn ddiweddar bu’n ffyddlon iawn yng Nghapel y Garn, Bow Street a
hefyd yn aelod o gangen Llanfihangel Genau’r-glyn o Ferched y Wawr.
Roedd hefyd yn gefnogol i bopeth arall yn y pentref. Bu ei
ffrindiau a’i chymdogion yn garedig iawn wrthi ar hyd y blynyddoedd
ac yr oedd yn ddiolchgar iawn am hyn.
Bu’r angladd yng Nghapel y Garn ddydd Gwener, 25ain o Fawrth, a
chladdwyd ei gweddillion ym mynwent y capel. Gwasanaethwyd gan
ei
Eglwys Sant Mihangel, Llandre
Prynhawn o hwyl a chymdeithasu
Garddwest Fawreddog a Barbeciw
yn y Parc chwaraeDydd Sadwrn,
Mehefin 25ain 2011
Agorir yr arddwest ganY Parchedig Peter Jones
am 3 o’r gloch
Ymunwch yn yr hwyl a’r sbri. Dewch a’r teulu, ffrindiau a
chymdogion gyda chi.
gweinidog, y Parchg Wyn Rh. Morris.
Dymuna’r teulu ddiolch i wragedd y Capel am baratoi’r te, i
staff Plas Cwmcynfelin am eu gofal yn ystod ei arhosiad byr yno ac
i C. Trefor Evans am ei drefniadau trylwyr ac urddasol. Diolch
hefyd am y cyfraniadau tuag at Gapel y Garn, a Chlwb y Deillion a
Rhannol Ddall, Aberystwyth.
Pen blwydd hapus
Pen blwydd hapus a phob dymuniad da i Dei Evans, Ruel Isaf ar
ddathlu ei ben blwydd yn 80 oed yn ddiweddar.
GWASANAETH TEIPIO
Cysylltwch â
Mrs Glenwen MorgansHeulwenGarth
Penrhyn-coch
Ffôn: 01970 820385Ebost: glenwen.morgans
@btopenworld.com
Chwith : Parchedig Andy Herrick Ficer y Santes Ann Penparcau;
canol – Y Parchg Peter Jones, dde Y Parchg Ddoctor Will Strange,
Archddiacon Aberteifi.
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 7
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr i Rhydian Davies, Ceunant, y pêl-droediwr
ieuanc, a enillodd gap drwy chwarae i dîm Cymru o dan 16 yn erbyn
gwlad Pãyl. Derbyniodd y cap oddi wrth Ian Rush a Gary Speed, ym
Mharc y Scarlets diwrnod ffeinal Cwpan Cymru.
Y penwythnos canlynol cafodd Rhydian ei wahodd i Latham Park yn
y Drenewydd i seremoni gwobrwyo Pêl-droed Cymunedau Cymru. Yno y
derbyniodd dlws chwaraewr y flwyddyn dros ganolbarth
Cymru.Diweddglo arbennig i Rhydian i dymor bythgofiadwy. Rhagorol
iawn a phob dymuniad da iddo i’r dyfodol.
Ysgol Sul
Llawer o ddiolch i Mrs Jean Ann Watson, Pant-y-crug, ar fodloni
cymryd at y dosbarth iau yn ysgol sul Pen-llwyn, bob yn eilfis. Mae
Jean yn cymryd lle Mrs Sian Spink a symudodd i Faenceinion yn
ddiweddar.
Teithio
Pob hwyl i Aled Jenkins, Y Pandy, sydd wedi gadael gyda
ffrindiau i deithio yr Amerig dros dro. Boed iddo ddychwelyd yn
ddiogel ymhen rhyw flwyddyn, wedi dysgu a mwynhau llawer.
Gwella
Hyfryd clywed fod y Ficer, y Parchg John Livingstone yn well ei
iechyd ac yn dechrau yn ôl yn ei swydd ( rhan amser) ddiwedd mis
Mehefin.
Priodas
Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau da am briodas dda, i Hannah
merch Mr a Mrs Wynne Jones, Tan-y-gaer, Pen-llwyn, ac Owain Jones
mab Mr a Mrs Bob Jones, Lodj Nanteos, Aberystwyth. Aeth ffrindiau a
pherthnasau allan i Ffrainc (ardal y Pyrenees) erbyn y briodas ar
28ain o Fai. Cawsant ychydig o fraw, pan nad oedd yr awyrennau i
gyd yn hedfan ar y pryd, oherwydd, os cofiwch, am y cwmwl lludw a
glywsom amdano.
Ond yn wir i chi aeth y cyfan yn ei flaen yn iawn, a chafodd
pawb benwythnos bendigedig a bythgofiadwy, gyda’r tywydd yn hyfryd
tu hwnt. Pob hapusrwydd i Hannah ac Owain yn y dyfodol, a
dymuniadau gorau i’r ddau deulu ar eu mab a’u merch yng nghyfraith
newydd.
Ennill Gradd
Llongyfarchiadau i Iona Davies, Maencrannog, ar ennill ei gradd
M.A. mewn Addysg o’r Brifysgol Agored yn ddiweddar. Pob dymuniad da
i ferch ddawnus iawn. Mae Iona yn Ddirprwy yn Ysgol Dyffryn
Teifi.
Bedydd
Cynhaliwyd bedydd Ania Marged yng nghapel Pen-llwyn fore Sul
Mehefin 5ed,
PEN-LLWYN A CAPEL BANGOR
O’r chwith i’r dde Catrin Evans, y Parchedig Elwyn Pryse gydag
Ania Marged, Elystan Evans. Tu blaen Owen, brawd Ania.
Yn ddiweddar yn y Drwm yn LLGC bu dangosiad wedi ei hyrwyddo gan
BAFTA o gyfres o ffilmiau Precious Life - cyfres a wnaethpwyd gan
fyfyrwyr cyfryngol blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Ceredigion, sy’n
dangos hanes diddorol Cymru drwy lens camera y gwneuthurwr ffilm
amatur. Wrth sôn am y prosiect ddigwyddodd ar y cyd â Archif Sgrin
a Sain y Llyfrgell Genedlaethol eglurodd y myfyriwr cyfryngol o
Gapel Bangor Andy Marshall: “Roeddym eisiau darganfod rhywbeth am
fywyd y bobl oedd yn yr hen ffilmiau yma a rhywbeth am fywyd y rhai
wnaeth y ffilmiau. Gyda chymorth yr Archif bu’n bosibl i ni leoli a
wedyn gyfweld pobl oedd yn berthnasol i’r ffilmiau gwreiddiol.”
Cafodd Andy gymorth y bugail Erwyd Howells wrth edrych ar hen ffilm
“Tom Jones: the Welsh shepherd” - a ffilmiwyd ym 1936 am waith
bugail o Ynys-y-bw^ l a Threorci. Arbenigai Tom ar ddysgu triciau i
gw^ n. Mae Erwyd yn ymddangos yn y ffilm fer gyfredol a grëwyd gan
Andy ac a ffilmiwyd yn Nhynllechwedd, Llandre.”
Ar ôl i Andrew Green, Llyfrgellydd, a Gwyn L. Williams,
Rhaglennydd Creadigol 2012 ar gyfer yr Olympiad yng Nghymru annerch
y gynulleidfa cafodd Andy gyfle i rwydweithio gyda theledwyr
proffesiynol yn y derbyniad lle y bu iddo gyfarfod ymhlith eraill
Colin Thomas (cyfarwyddwr y gyfres The dragon has two tongues) a
bu’n trafod y posibilrwydd o fynd i Lundain i wneud ffilm ar gais
yr hanesydd celf Christopher Grindley oedd yn arbennig o falch o
weld deunydd archifyddol am y teulu Grindley yn un o ffilmiau
Precious Life Andy. Yn y llun gwelir Andy Marshall, Erwyd Howells,
a dau fyfyriwr arall - Pamela Atzori ac Oakley Edwards. Llun:
Richard Jackson.
gan y Parchg Elwyn Pryse. Baban Elystan a Catrin Evans, Ardwyn,
yw Ania, chwaer fach Owen Ellis. Roedd nifer dda o deulu a
ffrindiau wedi ymuno â’r gynulleidfa, ac fe gafwyd oedfa ddymunol
iawn. Dymuniadau gorau i mam-gu a tad-cu Arnold a Cynthia Evans ac
Elfin a Celia Jones. Roedd y bedydd hwn yn achlysur hanesyddol, gan
fod cofnod y bedydd cyntaf yng nghapel Pen-llwyn union 200 o
flynyddoedd yn ôl.
Croeso
Croeso cynnes i Rhian ac Anthony, sydd wedi dod i fyw i 5
Cefnmelindwr yn ddiweddar. Byddai Aunty Gwyneth, y ddiweddar Mrs
Gwyneth Harries yn hapus iawn Rhian yn siwr, mai ti sy’n byw yn ei
thñ.
-
8 Y TINCER MEHEFIN 2011
BOW STREETSuliau Mai-Medi
Y Garn10 a 5Gweler http://www.capelygarn.org/
Mehefin 26 J. E. Wynne Davies Gorffennaf3 John Tudno Williams 10
Oedfa’r Ofalaeth 17 Bugail (C) 24 Rhidian Griffiths Beti
Griffiths31 Dilwyn O. Jones I’w drefnu Awst 7 Cyd-addoli yn Noddfa
y bore14 10.00 Lewis Wyn Daniel 21 Cyd-addoli yn Noddfa y bore28
M.J. Morris Dim gwasanaeth nos Medi 4 Reuben Roberts 11 Bugail Cen
Llwyd18 Bugail (C) 25 Adrian P Williams
Noddfa Mehefin 26 Oedfa am 5.00. Cymundeb.Gorffennaf3 Uno yn y
Garn am 10.0010 Oedfa am 2.0017 Oedfa am 10.0024 Oedfa am 10.00.
Cymundeb.31 Oedfa am 5.00Awst7 Oedfa am 10.00 14 Uno yn y Garn am
10.0021 Oedfa am 10.00. Cymundeb. 28 Uno yn y Garn am 10.00Medi4
Uno yn y Garn am 10.00 11 Oedfa am 2.0018 Oedfa am 2.00.
Cymundeb.25 Oedfa Ddiolchgarwch am 5.00
Genedigaethau
Dymuniadau gorau i James a Jaimie Thomas, gynt o Blaen ddôl, Bow
Street, ar enedigaeth mab, Dylan James Thomas, dydd Sul Mai 22ain,
ãyr i Glenwen ac Ieuan Thomas, Maes Ceiro. Llongyfarchiadau i’r
teulu oll.
Llongyfarchiadau i Nicole a Jim Finnigan ar enedigaeth merch -
Mari Aerona - ar Fehefin 1af- chwaer i Iwan; wyres i Raymonda a
Mike Roberts, Bryncastell.
Sul Cymorth Cristnogol
Ar Fai’r 15fed cafwyd Oedfa Cymorth Cristnogol bwrpasol yng
Nghapel y Garn dan arweiniad ein bugail, y Parchg Wyn Rh. Morris.
Dilynwyd hynny gan Ginio Bara a Chaws yn y Festri, wedi ei ddarparu
a’i weini gan aelodau Cymdeithas Chwiorydd y Garn.
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn a Menna ac Elgan Davies, Maes Afallen a’r teulu ar
farwolaeth tad Menna - Meirion Lewis - yn Nhreorci ar Fai 29. Roedd
yn gyn brifathro Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Treorci.
Pen blwydd arbennig
Ar Fai 17 dathlodd Trefor Lewis, Llys Alban, 4 Tregerddan, ei
ben blwydd yn 90 oed. Llongyfarchwn ef yn galonnog a dymuno iddo
flynyddoedd dedwydd eto yng nghwmni Kathleen sydd mor ofalus o’i
thad , a Leslie sy’n ymweld yn gyson i roi trefn ar yr ardd. Cafodd
Trefor brynhawn i’w gofio wrth fwrdd y dathlu yn Llety Ceiro yng
nghwmni Kathleen, Leslie a Sue; Anna y chwaer, flwydd yn hñn na’i
brawd; perthnasau eraill, cymdogion a chyfeillion. Buom yn cofio
hefyd am bartneriaeth hir Trefor gyda ‘r ddiweddar Mary ei briod
hoff. Mae Trefor am ddiolch am y nifer fawr o gardiau cyfarch a’r
anrhegion gwerthfawr a dderbyniodd ar ei ben blwydd.
O’r Ysbyty
Ar ôl bod yn Ysbyty Bron-glais am wythnosau da cael croesawu
Beryl Cadman, 14 Tregerddan, yn ôl i’w chartref at Clayton.
Gobeithio y bydd yn parhau i hybu.
Cofion
Mae’r cyfaill Charles Phillips, Cae’r Felin, ar hyn o bryd yng
Nghartref Canol y Llan, Llanwrin. Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau
da iddo gan obeithio y bydd yn atgyfnerthu’n fuan.
Pen blwydd hapus
Wrth longyfarch Gwen Pugh, 19 Tregerddan, ar ddathlu’i phen
blwydd yn 80 ar 9 Mehefin dymunwn bob bendith iddi hi a Dei.
Brysia wella
Dymuniadau gorau am wellhad buan i Seiriol Hughes, Maes y Garn,
sydd adre’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd.
Merched Y Wawr Rhydypennau
Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gangen ar Mai 9fed. Ar ôl trafod
materion yn ymwneud â’r gangen cafwyd adroddiad am weithgareddau’r
flwyddyn gan Shân. Etholwyd y pwyllgor canlynol ar gyfer 2011 -
2012Llywydd - Enid JonesIs-lywydd - Mair Lewis
Ysgrifennydd - Elizabeth JonesIs-Ysgrifennydd - Joyce
BowenTrysorydd - Beryl Hughes (Dolau)Is-drysorydd - Bet Evans
ynghyd â Meinir Roberts, Mair Davies, Shân Hayward, Mary Thomas ac
Ann Jones.
Yn dilyn cafwyd hwyl yn chwarae bingo yng ngofal Brenda cyn
mwynhau bwffe a baratowyd gan aelodau’r pwyllgor ac a drefnwyd gan
Annetta ac Elen. Enillwyd y raffl gan Ceris a diolchwyd i bawb gan
Beryl.Cafwyd cryn lwyddiant yn yr ãyl Fai yn Felin-fach.
Ffotograffiaeth - 1af Joyce, 3ydd ShânGosod Blodau - (m) 3ydd
BerylGosod Blodau (b) 2ail Brenda, 3ydd BerylPice Bach - 2ail
Joyce
Ar ddiwedd y pnawn gwelwyd fod cangen Rhydypennau yn gyfartal
gyntaf gyda changen Llanfarian a felly’n rhannu’r darian eleni.
Llongyfarchiadau hefyd i’r tîm dau ddwrn ar ennill y trydydd safle
yn y chwaraeon cenedlaethol.
Ar ôl y wibdaith ym mis Mehefin cawn seibiant byr dros yr haf
cyn cwrdd eto ar yr ail nos Lun o fis Medi sef, Medi 12fed pryd
bydd croeso i aelodau presennol ac aelodau newydd.
Cymdeithas Chwiorydd y Garn
Ddydd Mercher, Ebrill 6ed cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor.
Diolchwyd i’r swyddogion am y rhaglen ddifyr ac amrywiol a gafwyd
drwy’r tymor. Llinos Dafis oedd yn y gadair a Kathleen Lewis oedd
yn cyfeilio.
Yn ystod y tymor rydym wedi ymweld, drwy gyfrwng lluniau, ag
Oberammergau, Patagonia a Nepal, a’r tro yma taith i wlad Pãyl yng
nghwmni Meinir Lowry a Llinos Dafis oedd yr arlwy, i gloddfa halen
Wieliczka i fod yn fanwl gywir, sydd rhyw 10 milltir o Krakow. Bu’r
gloddfa hon yn cynhyrchu halen ers o leiaf fil o flynyddoedd ac i
ddynodi ei phwysigrwydd fe’i rhoddwyd ar restr gyntaf UNESCO o
Safleoedd Treftdadaeth y Byd yn
TAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a Bar
Prydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennig
Cinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dydd
neu yn yr hwyr
CROESO(mantais i archebu o flaen llaw)
CAPEL BANGOR01970 880 248 yt
ince
r@go
ogle
mai
l.com
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 9
DÔL-Y-BONT
MADOG, DEWI A CEFN-LLWYDSuliau Madog
2.00Mehefin 26 J. E. Wynne Davies Gorffennaf3 John Tudno
Williams 10 Oedfa’r Ofalaeth yn y Garn 10.00 17 Bugail24 Rhidian
Griffiths 31 R. W. Jones Awst 7 14 Lewis Wyn Daniel 21 28 J. Elwyn
Jenkins Medi 4 Ruben Roberts 11 Bugail 18 Bugail 25 Adrian P
Williams
Alun Lewis Evans
Daeth y newydd am farwolaeth Alun Lewis Evans, Banc y Darren ar
14 Mai pan oedd rhifyn Mai o’r Tincer yn y wasg.
Ganwyd Alun Lewis Evans yn Nhanyffordd, Bancydarren 84 o
flynyddoedd yn ôl, ac ar wahân i gyfnod o dair blynedd yn syth ar
ôl priodi pan y bu’n byw a gweithio yn Llundain, ym Mancydarren y
bu fyw am y cyfan o’i fywyd, a hynny yn Carreg Wen y tñ y drws
nesaf i’r lle y’i magwyd. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Trefeurig a
mynychodd yr Ysgol Sul a’r gwasanaethau yng Nghapel Siloa, Cwmerfin
a pharhaodd ei gysylltiad â’r Capel gydol ei oes hyd nes iddo fethu
mynychu oherwydd cyflwr iechyd. Daeth tristwch mawr i fywyd Alun yn
niwedd yr 1970’au pan gollodd ei wraig gyntaf Millie a hynny wedi
28 mlynedd o fywyd hapus. Ymhen amser fodd bynnag cyfarfu â
Margaret ac fe’u priodwyd a chawsant 30 mlynedd o hapusrwydd gyda’i
gilydd.
Yn ystod ei ieuenctid bu’n chwarae pêl-droed i Ganeris Trefeurig
a chyfeirir ato yn llyfr Richard E. Huws ar hanes y tîm. Adeg yr
Ail Ryfel Byd bu’n gweithio mewn pwll glo yn ardal Rhydaman fel un
o’r ‘Bevin Boys’ ac yn ddiweddar cyflwynwyd iddo fedal am y
gwasanaeth hwnnw.
Ar wahân i’r cyfnod yn y pwll glo a’r amser yn Llundain bu’n
gweithio ar ôl gadael yr ysgol ar ffermydd lleol ac yna ym
meithrinfa Austin yn Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth a bu ganddo
ddiddordeb mewn garddio a byd natur gydol ei oes. Fodd bynnag yn
adran priffyrdd Cyngor Sir Aberteifi ac wedi hynny Cyngor Sir Dyfed
y bu’n gweithio am
y rhan helaethaf o’i oes ac am flynyddoedd maith bu’n arolygwr
ffyrdd yn yr adran honno; roedd yn adnabod pob twll a chornel o’r
rhwydwaith ffyrdd yng ngogledd y Sir. Yr oedd yn ãr cydwybodol iawn
a daeth ei waith ag ef i gysylltiad â llu o bobl o fewn ardal eang
o’r Sir. Er iddo fwynhau cyfnod hir o ymddeoliad ni fu ei iechyd
cystal yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma a bu gofal ei briod
Margaret yn fawr drosto. Yn ddiweddar treuliodd gyfnodau mewn
cartrefi preswyl a bu farw ar y 14eg o Fai yng Nghartref ’Rallt,
nid nepell o’r Trallwng. Bu colli ei fab David, a oedd yn byw yn
Birmingham, ar ôl salwch hir, dim ond tua mis ynghynt yn ergyd fawr
iddo.
Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Aberystwyth ar y 25ain o Fai.
Yr oedd y gwasanaeth yng ngofal perthynas i’w briod y Parchedig
Meredith Powell o Lanidloes a thalwyd teyrnged haeddiannol i Alun
gan gyn-gydweithiwr a ffrind iddo Glyn T. Jones. Derbyniwyd
rhoddion, er cof am Alun, tuag at ‘Crossroads’.
Estynnir cydymdeimlad dwys â’i weddw Margaret ac â Glenys ei
ferch a’i theulu sydd yn byw yn Henffordd ac hefyd gyda’i ferch yng
nghyfraith Anne a chyda’r teulu oll.
Bedydd
Ar 15 o Fai daeth nifer o berthnasau a ffrindiau i wasanaeth
bedydd yng Nghapel Madog o dan arweiniad y Parchg Wyn Rh. Morris.
Bedyddiwyd Elen Lleucu ap Llywelyn, merch fach Llywelyn a Sioned
Evans, Rhydyceir.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Mrs Eirlys Jones gynt o Treflys, Tregaron, a
ddathlodd ei phen blwydd yn 85 oed ar y 15 o Fai. Mae Mrs Jones yn
cartrefu gyda’i nith Catherine Thomas, Bronheulog a gobeithiwn ei
bod yn gwella ar ôl cyfnod o anhwylder yn ddiweddar;
i Aled Llñr Thomas, Bronheulog am ennill yn Rali CffI Ceredigion
yn adran barnu stoc;
i Michael ac Ursula Reeves ar eu priodas. Mae Michael yn ãyr i’r
diweddar Mr a Mrs Elfyn Williams, Ysgubornewydd.
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn â David a Cynthia Binks, Trysor, ar golli dau
berthynas – Miss Agnes Morgan a Mr Gwyn Thomas.
Brysiwch wella
Da yw gweld Sw Gerallt, Leri, adre ar ôl bod yn Ysbyty
Bron-glais yn cael clun newydd. Brysiwch wella Sw.
Genedigaeth
Llongyfarchiadau mawr i deulu Lewis, Cysgod yGwynt ar enedigaeth
ãyr bach – Taylor James. Mae Taylor James hefyd yn or-wyr i Mrs.
Primrose Watkin, Penbont.
Llwyddiant
Ymfalchïwn yn llwyddiant Jason Lewis, Cysgod y Gwynt, ar gael ei
ddewis i chwarae ei drwmped yng Ngherddorfa Ieuenctid
Ewrop. Mae hyn yn gryn gamp gan fod miloedd yn cael eu cyfweld
am le yn y Gerddorfa a dim ond 140 yn cael eu dewis – dim ond Jason
ac un arall gafodd eu dewis o Gymru eleni. Pob hwyl i ti Jason wrth
deithio’r Almaen, Awstria, yr Eidal a’r Iseldiroedd yn ystod yr
haf.
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn â Anne Till – Bodlondeb gynt - ar farwolaeth ei
thad ym Meddgelert ganol mis Mai
ac â Gareth Morgan, Glenside ar farwolaeth ei gefnder – Alun
Evans, Bancydarren.
1978. Yr hyn sy’n rhyfeddod yn ei chylch bellach yw’r holl
gerfluniau, galeriau, siambrau a chapeli tanddaearol gwych sydd i’w
gweld yno, - i gyd wedi eu naddu o halen, a’r cwbl o waith y
cloddwyr eu hunain.
Aelodau’r pwyllgor oedd yn trefnu a gweini’r te, sef Gwenan
Price, Shân Hayward, Judith Morris, a Meinir Lowry.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni ar ddyddiau Mercher cyntaf bob mis
y tymor nesaf eto, - mae croeso i unrhyw un ymuno â ni.
Dyweddiad
Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Llñr mab Gareth a Gaenor
Jones, Hafle, ar ei ddyweddiad â Llinos, merch Bryn a Mair Edwards,
Y Fedw, Llanycil, y Bala.
Byd yr Aderyn Bach
Treuliwyd awr ddifyr iawn yng nghapel y Garn nos Sul, Mai’r
22ain, pan ddaeth Cwmni’r Morlan yno gyda’u cyflwyniad o fywyd a
gwaith Waldo Williams, ‘bardd yr adnabod a’r gwarchod’.
Trwy ddarlleniadau o farddoniaeth, a pheth rhyddiaith, cawsom
dystiolaeth o agweddau gwahanol ar waith y bardd o grynwr: ei
ddoniolwch a’i asbri, ei fedr dihafal i weld y byd drwy lygad
plentyn, ei ddaliadau dwys-ddyngarol, a’i safiad gwleidyddol a
arweiniodd at gyfnod yng ngharchar. Ar ôl arfer â chlywed cymaint
o’i farddoniaeth yn cael ei goradrodd mewn eisteddfodau, amheuthun
oedd clywed telynegion megis Cofio, y Tangnefeddwyr, ac yn enwedig
Menywod, yn cael eu mynegi’n synhwyrol ddi-rwysg.
-
10 Y TINCER MEHEFIN 2011
PENRHYN-COCHGwasanaethau
HorebMehefin 26 10.30 GweinidogGorffennaf3 2.30 Gweinidog 10
10.30 Gweinidog17 2.30 Gweinidog24 10.30 GweinidogAwst ymuno gyda
eglwysi’r dref7 Unedig - Seion - Casi Jones14 Unedig - Bethel -
Terry Edwards21 Unedig - Morfa - Eifion Roberts28 Unedig - Seion -
Rhodri Glyn Medi 4 2.30 Gweinidog11 10.30 Gweinidog18 2.30 Lyn
Lewis Dafis25 10.30 Gweinidog
Salem Mehefin26 10am Y Parchg J. Tudno Williams -
CymundebGorffennaf10 2pm Y Parchg Richard H Lewis 24 5pm Y Parchg
Richard H Lewis - CymundebAwst 14 5pm Mr Arwyn Pierce28 10am Mr
Raymond Davies - CymundebMedi 11 5pm Y Parchg Richard H Lewis25 2pm
Y Parchg Richard H Lewis
Priodas
Prynhawn Sadwrn Mai 28ain priodwyd Bethan Bowyer a Jason Davies
o Gomins-coch yn Eglwys Sant Ioan gwasanaethwyd gan y Parchedig Ian
Girling, a’r organyddes oedd Mrs Eirwen Hughes.
Cymorth Cristnogol
Cyfanswm casgliad Penrhyn-coch eleni yw £1,110.92 – mae hyn yn
cynnwys £125 a godwyd yng nghinio’r tlodion a drefnwyd gan Eglwys
Sant Ioan. Hoffai’r Trefnydd, Ceris Gruffudd, a’r Trysorydd, Eleri
James, ddiolch i bawb a fu’n casglu yn y pentref er sicrhau fod
casgliad yn digwydd yn y pentref eleni eto. Y caslgwyr eleni oedd
Gabi Coulter-Brown, Glyn Collins, Mair Evans, Alwen Fanning, Ceris
Gruffudd, Mervyn Hughes, Glenys Morgan, y Parchg Judith Morris,
Wendy Reynolds, Edward Roberts, Wendy Roberts, Elenid Thomas, a
Ceri Williams.
Urdd y Gwragedd
Ar ddydd Sadwrn Mehefin 4ydd gyda’r haul yn disgleirio
teithwyd tuag at Rhaeadr Gwy, ble cafwyd seibiant cyn mynd
ymlaen i gael cinio yng ngwesty ‘Gwystre’. Cyrraedd Abaty Cwm Hir
erbyn tri o’r gloch a chael croeso cynnes a’n tywys o amgylch y
neuadd, gan y perchnogion presennol Paul a Victoria Humpherston
maent wedi bod yn byw yn y neuadd ers tair mlynedd ar ddeg, ac wedi
adnewyddu’r 52 ystafell i safon arbennig, yn ogystal ar ddeuddeg
acer o erddi a llwybrau o amgylch y stad. Roedd pawb yn barod am
baned ar ôl dwy awr bleserus iawn, diolchwyd ar ran y gwragedd gan
ein llywydd Edwina Davies.
Biniau
Yn dilyn amlhau casgliadau rheolaidd o’r drws mae Cyngor
Ceredigion wedi symud y biniau oedd wrth Neuadd y Penrhyn ar wahân
i’r un sydd yn dal gwydr. Mae’r biniau dillad ac esgidiau yn aros
yna.
Anrhydedd
Llongyfarchiadau i Dr Jeremy Davies, Glan Ceulan, ar ennill MBE
am ei waith fel gwyddonydd gyda’r Arolwg Daeareg Prydeinig..
Gardd Gymunedol
Mae’r ardd i’w gweld yn ei holl ysblander ar hyn o bryd. Diolch
i’r rhai sydd yn gofalu yn gyson amdani.
Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â theulu y diweddar Kenneth Williams,
(Bronderw), 51 Glanceulan, un o blant hoffus yr ardal;
Hefyd â theulu y diweddar Gwyn Thomas, Maelgwyn. Yntau hefyd
wedi bod yn un ohonom yma yn y Penrhyn ers blynyddoedd lawer.
ac â Sioned, Rob ac Osian, Llwynderw, ar farwolaeth taid Sioned
- Ernest Jones - yn Aberystwyth ddiwedd Mai
Ysbyty
Dymunwn wellhad buan i Christine Swift, 6 Tan-y-Berth sydd wedi
bod yn yr ysbyty yn ddiweddar;
Hefyd gwellhad buan i Mr a Mrs Urry, Ger-y-Nant. Cafodd Mr Urry
driniaeth yn ddiweddar ac ar hyn o bryd mae Mrs Urry yn derbyn
triniaeth;Da yw deall fod Connie Evans, Gwawrfryn yn dal i wella;
hefyd y Parchg John Livingstone. Dymuniadau gorau hefyd i’n
Ennill gwobrau
Llongyfarchiadau i Wendy Reynolds, Ger-y-llan, am ennill Gwobr
Mentor a Chefnogi cyd-wirfoddolwyr gyda CAVO (Cymdeithas Mudiadau
Gwirfoddol Ceredigion) yn ddiweddar. Daeth i ddiwedd cyfnod o bum
mlynedd fel Comisiynydd Rhanbarthol y Brownies yn ardal Ystwyth ac
yn ddiweddar cafodd hi a Glenys Morgan fathodynau gwasanaeth 10
mlynedd.Yn y llun gwelir Wendy wedi derbyn plat CAVO. .
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau calonnog i Gwyddno Dafydd, Rhandir, a Lisa
Charles o Lanuwchllyn a briodwyd yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth,
ar 3 Mehefin. Cafwyd diwrnod arbennig o hapus; dymuniadau gorau i’r
ddau yn eu bywyd priodasol. Llun: Einion Dafydd
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 11
gohebydd Mairwen Jones sydd yn disgwyl dyddiad i gael triniaeth
yn Ysbyty Bron-glais. .
Merched y Wawr Penrhyn-coch
Nos Iau 12fed o Fai i ddiweddi y tymor aeth y gangen ar ei
thaith ddirgel flynyddol. Fel arfer wrth fynd ar y bws roeddynt yn
ceisio dyfalu lle roeddent yn mynd. O’r diwedd cyrraedd Ystrad
Fflur ac fe dreuliwyd y noson yno yng nghwmni Charles Arch ac fe
roddodd i ni holl hanes am Ystrad Fflur a’r ardal. Yn anffodus ni
chafwyd mynediad i’r adfaelion yr hen Abaty ond fe aed i mewn i’r
Eglwys ac fe fuom o amgylch y fynwent a chael hanes rhai o’r
enwogion sydd wedi eu claddu yno, rhai fel Dafydd ap Gwilym, a’r
dyn dienw a ddarganfuwyd ar y mynydd ar ei ffordd i
Bontrhydfendigaid a chael yn ei boced llun merch. Mae barddoniaeth
wedi cael ei ysgrifennu gan Ifan Jenkins am yr achlysur er mwyn
codi arian i roi carreg ar ei fedd.
Yno yn y fynwent roedd yna fedd lle mae coes yn unig wedi cael
ei chladdu. Diddorol dros ben. Diolchwyd i Charles Arch am yr holl
hanes gan Ceri Williams.
Yna fe aed ymlaen i’r Llew Coch yn y Bont i gael swper.
Treuliwyd amser hapus iawn yno a chafwyd bwyd blasus dros ben. Ac
fe gymerwyd y cyfle o wneud swyddogion newydd. Diolchwyd i bawb yno
gan y Parchg Judith Morris. Aeth pawb tua thre wedi mwynhau yn fawr
iawn.
Symud
Dymuniadau gorau i Bethan ac Eurfyl Rees, Dôl Helyg, sydd wedi
symud i Rydyfelin.
Cymdeithas y Penrhyn
Yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas y Penrhyn nos Fercher
Mehefin 8 etholwyd y swyddogion isod ar gyfer Tymor 2011/12.
Cadeirydd: Menai Lloyd Williams Is-gadeirydd: Dr W. B. L.Evans
Ysgrifennydd: Ceris Gruffudd Ysgrifennydd Aelodaeth:Dafydd
Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, y 3ydd a’r 4ydd o Fehefin,
mentrodd rhyw naw ohonom (gan gynnwys un ci bach annwyl ac egnïol
iawn o’r enw Toss) ar Daith Mari Jones o Lanfihangel-y-Pennant i’r
Bala, i gofio am yr ymdrech aruthrol a gyflawnodd y ferch ifanc hon
er mwyn prynu Beibl gan Thomas Charles. Mae’r daith ar ei hyd yn
gyfanswm o 28 milltir a cheir yr holl fanylion mewn llyfryn
deniadol a baratowyd gan Mary Thomas ac a gyhoeddwyd gan Gymdeithas
y Beibl yn y flwyddyn 2009.
Ar ôl ymweld â Tñ’n y Ddôl yn Llanfihangel-y-Pennant, lle cafodd
Mari Jones ei magu, dyma gychwyn ar y daith trwy ddilyn y llwybrau
drwy Gwm Llan a Chwm Tal-y-llyn i Finffordd. Roeddem yn ffodus ei
bod yn ddiwrnod braf ac yn weddol fuan ar y daith clywsom y gog yn
canu fwy nag unwaith. Roedd y profiad o syllu i lawr ar Lyn
Tal-y-llyn a gweld yr eglwys fechan lle priodwyd Mari Jones a
Thomas Lewis Jones yn 1813 yn wledd i’r llygaid. Wedi cyrraedd
Minffordd rhaid oedd dilyn y ffordd fawr am ychydig cyn troi i
Gwmrhwyddfor ac yna dringo’n raddol ar hyd yr hen lwybr ceffyl
islaw yr A487 lle roedd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar y
ffordd. Roedd yr haul yn danbaid erbyn hyn ac fe brofodd y rhan yma
o’r daith yn waith caled i rai ohonom! Ar ôl gadael Dyffryn
Tal-y-llyn braf oedd cyrraedd Cwm Hafod Oer a cherdded ar hyd y
llwybrau gwastad. Erbyn hyn roeddem wedi cyrraedd ardal y Crynwyr
ac yn ôl y wybodaeth yn y llyfryn fe deithiodd George Fox, y Crynwr
cyntaf, i’r ardal hon nôl yn 1657 a chael gweledigaeth ‘y cyfodai
Duw bobl iddo’i hun i eistedd dan ddysgeidiaeth’. Mewn dim o dro
dyma gyrraedd Gwesty’r ‘Cross Foxes’ a chael hoe haeddiannol i
dorri syched cyn bwrw ymlaen unwaith eto am Fferm Gwanas nes
cyrraedd pen y daith am y diwrnod cyntaf yn y Brithdir!
Ar y bore canlynol, rhaid oedd teithio i’r Bala i adael y ceir
yno, cyn dal y bws yn ôl i’r Brithdir
i ail-gychwyn y daith. Cawsom gerdded am yr awr gyntaf o dan
gysgod y coed a mynd heibio man geni Evan Jones – Ieuan Gwynedd
(1820-1852), sef y gweinidog, emynydd, newyddiadurwr a’r gwladgarwr
enwog. Prynodd ei fam, Catherine Evans, Feibl gan Thomas Charles a
thalodd amdano bob yn ychydig o’i henillion prin. Cafodd ei alw y
‘Beibl Coch’ am i Catherine ddiogelu’r Beibl a’i lapio mewn brethyn
coch.
Roedd y rhan nesaf o’r daith yn cychwyn yn Nolfeili ac erbyn hyn
synhwyrem fod Llyn Tegid yn agosáu. Wrth gerdded ar hyd y llwybrau
sylwem ar safle Hufenfa Meirion ar y ffordd fawr islaw, lle prysur
iawn rhwng yr 1930au a dechrau’r 1970au. Hefyd medrem weld un o
dollbyrth y ffordd dyrpeg a adeiladwyd rhwng 1750 a 1805. Erbyn hyn
roedd Cadair Idris ymhell y tu ôl inni a gogoniant yr Arennig ac
Aran Benllyn i’r chwith ac i’r dde. Dyma gyrrraedd Llanuwchllyn a
chan fod yr amser yn dechrau tynnu ‘mlaen fe benderfynodd pump
ohonom mai gwell fyddai dal y bws o Lanuwchllyn i’r Bala. Ond aeth
y pedwar arall yn eu blaenau ar hyd ochr y Llyn gan gyrraedd y Bala
tua 7 yr hwyr. Llongyfarchiadau iddynt am gerdded y 28 milltir dros
y ddau ddiwrnod a diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r Daith.
Cawsom ddau ddiwrnod bythgofiadwy: cwmni difyr, tywydd braf a
Sir Feirionydd ar ei gorau. Mawr yw ein hedmygyedd o ddycnwch Mari
Jones yn cerdded yn droednoeth yn ôl ac ymlaen o
Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala i brynu Beibl.
Diolch i John Leeding, Rehoboth, Taliesin am arwain y Daith a
sicrhau ein bod wedi dychwelyd adre’n ddiogel. Byddwn yn dilyn ôl
traed Mari Jones unwaith eto yn ystod yr haf a’r hydref eleni, dros
nifer o wythnosau, mewn pum rhan benodol, oddeutu 5-6 milltir yr
un. Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â ni cysylltwch â John
Leeding (832672) neu Judith Morris (820939).
Sheppard Trysorydd: Eirian Reynolds
Bydd taith tymor eleni yn mynd i ardal Treffynnon, Sir y Fflint
dan arweiniad Gron Ellis dydd Sadwrn Gorffennaf 9fed. Enwau i a mwy
o fanylion gan yr Ysgrifennydd. Bydd noson agoriadol y tymor newydd
nos Fercher Medi 21 pan geir noson yng nghwmni Russell Jones (Byw
yn yr ardd).
Nain a taid
Llongyfarchiadau i Gwenan a Richard Wyn Davies, Ger-y-llan, ar
ddod yn nain a taid yn ddiweddar. Ganwyd merch fach - Maia - i Nia
a Pete yng Nghaerdydd.
PACT
Deallir na fydd mwy o gyfarfodydd PACT gan Heddlu Dyfed-Powys ym
Mhenrhyn-coch gan nad oedd pobl yn troi allan i’r cyfarfodydd - dim
ond tri oedd yn y cyfarfod diwethaf.
Clwb Cymunedol Penrhyn-coch
Bydd y Clwb yn cyfarfod yn Neuadd yr Eglwys dyddiau Mercher 13,
27 Gorffennaf, 10, 24 Awst, 14, 28 Medi. Cysylltwch â Egryn Evans
828 987 am fwy o fanylion neu i fwcio eich cinio.hwn o dan y llun -
dileu beth sydd yna
Swydd newydd
Dymuniadau gorau i Trystan Davies, Glan Ceulan, yn ei swydd
newydd - Rheolwr Siop ac Arddangosfa yng Nghanolfan Owain Glyndwr
ym Machynlleth. Ailagorwyd y Ganolfan ganol y mis gan Alun Davies,
Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni
Ewropeaidd ar ôl gwaith adnewyddu a gostiodd tua £350,000.
Taith Mari Jones
-
12 Y TINCER MEHEFIN 2011
Y T
INC
ER
ytin
cer@
goog
lem
ail.c
om
Blodau i bob achlysur
Blodau’r BedolPriodasau . Pen blwydd .
Genedigaeth . Angladdau . Blodau i Eglwysi a
Chapeli neu unrhyw achlysur
Donald MorganHen Efail, Llanrhystud SY23 5AB
Ffôn 01974 202233Danfon am ddim o fewn dalgylch y Tincer
GWASANAETHTEIPIO
CYSYLLTWCH Â
MAIR ENGLANDPANTYGLYNLLANDRE
CEREDIGIONSY24 5BS
FFON: 01970 828693
E-BOST: [email protected]
CYNGOR CYMUNED TIRYMYNACH
Ar nos Iau 26 Medi, cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned
Tirymynach yn Neuadd Rhydypennau. Eleni eto ni phresenolwyd y
cyfarfod gan un o drethdalwyr yr ardal. Yn ei adroddiad blynyddol
diolchwyd y Cadeirydd, y Cyng. Owain Morgan am bob cymorth a
chydweithrediad yn ystod ei ail flwyddyn fel Cadeirydd, a dymunodd
yn dda i’r Cynghorydd Heulwen Morgan, ei olynydd yn y gadair.
Trafodwyd nifer o faterion yn ystod y flwyddyn, ac fe roddwyd
sylw manwl i bob un. Y broblem fwyaf, meddai’r Cyng. Morgan ar hyn
o bryd sy’n dal unrhyw ddatblygiad yn ôl yn y gymuned yw’r
helyntion gyda’r garthffosiaeth, sy’n golygu nad oes ceisiadau am
godi tai newydd yn cael eu cymeradwyo. Mae’r sefyllfa yn anfoddhaol
ac mae’r Cyngor yn pwyso’n daer
ar yr awdurdodau perthnasol am weithredu brys ar y mater.
Etholwyd y Cyng. Dewi James, Llangorwen, yn is-Gadeirydd y
Cyngor. Bydd yr un Cynghorwyr yn cynrychioli’r Cyngor ar wahanol
fudiadau yn y gymuned eleni eto. Derbyniwyd yr adroddiad ariannol,
gyda chyfanswm o £12, 587.17 mewn llaw ar hyn o bryd.
Dilynwyd y cyfarfod uchod gan gyfarfod mis Mai y Cyngor.
Cadarnhawyd ein bod yn archebu dwy sêt newydd o ddeunydd ail-gylchu
i’w gosod yn neupen y pentref. Defnyddir darnau o’r hen seti i
atgyweirio y rhai toredig. Y bwriad yw pwrcasu dwy sêt newydd bob
blwyddyn.
Ni chafwyd unrhyw olau ynglñn â’r llwybr cyhoeddus yn
Nhregerddan. Wedi cryn drafod penderfynwyd ysgrifennu eto at Tai
Ceredigion yn eu hatgoffa
mai eu cyfrifoldeb hwy fel perchnogion y rhan gyhoeddus o’r
ystâd yw cynnal a chadw y llwybr.
Nid oes fawr ddim wedi symud ymlaen yn ystod y mis diwethaf
gydag ail-raddio rhan o ystad Maesafallen.
Daeth llythyr oddi wrth Mr Roy Hancock yn mynegi cwyn trigolion
Llangorwen am y goryrru ar y ffordd o Blas Cwmcynfelin at
Nantcellan. Oherwydd y nifer cynyddol o ddamweiniau ar y darn hwn
o’r ffordd, penderfynwyd ysgrifennu ar Brif Weithredwraig
Ceredigion i annog yr adran briodol i ystyried gosod arwyddion a
thawelyddion traffic ar y ffordd.
Adroddodd y Cyng. Paul Hinge ei fod yn gwasgu ar yr awdurdodau i
symud ymlaen gyda’r cynlluniau technegol i osod llwybr beiciau
o Rydypennau i gysylltu â’r un sydd eisoes yn arwain o
Dal-y-bont i ben lôn y Fagwyr. Y gobaith yw y byddai tirfeddianwyr
yn fodlon rhyddhau tir yn rhad, gallai hyn dorri i lawr yn enbyd ar
y costau a’r amser.
Mae’r Cyng. Hinge hefyd yn ffyddiog y gellir uwchraddio ffordd
Clarach o Bow Street fel y bydd yn cael ei graeanu yn ystod y gaeaf
ar fyrder. Mae’n bosibl y bydd y Cyngor Cymuned yn talu am y grit
a’r halen i lenwi’r biniau ar yr ystadau, ond rhaid gosod arwyddion
ar y biniau yn dynodi mai at wasanaeth yr ystad yn unig y defnyddir
y graean!
Bydd cyfarfod o PACT yn Neuadd Rhydypennau am 7.30pm ar nos
Fercher, 8 Mehefin. Cynhelir cyfarfod nesaf o’r Cyngor ar 30
Mehefin.
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 13
RHODRI JONESBrici a chontractiwr
adeiladu
07815 121 238Gwaith cerrig
Adeiladu o’r newydd Estyniadau Patios
Waliau garddLlandre Bow Street
FFENESTRI
IMEJFFENESTRI PVCu, HEULFANNAU,
DRYSAU a.y.y.b. Am y GWASANETH, PRIS a’r SAFON GORAU gan GWMNI
LLEOL
Sefydledig dros 30 mlynedd
01970 880330Marilyn a Ifor Jones
Edrychwch am y Ty^ Twt
Cofrestrwyd gyda
ytin
cer@
goog
lem
ail.c
om
CYNGOR CYMUNED TREFEURIG
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol a chyfarfod misol arferol Cyngor
Cymuned Trefeurig yn Hen Ysgol Trefeurig nos Fawrth 17 Mai.
Cychwynnwyd y cyfarfod gyda’r Cadeirydd am 2010/11, Trefor Davies,
yn y gadair, ac roedd naw o’r cynghorwyr eraill a’r Clerc yn
bresennol; derbyniwyd ymddiheuriad gan Melvyn Evans. Roedd
cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2010 wedi’u derbyn ym Mehefin 2010. Yn
ei araith yn ymadael â’r gadair, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu
cymorth a’u cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Nododd rai o’r prif
faterion y bu’r Cyngor yn ymwneud â hwy yn ystod y flwyddyn: yr
ymdrech i gadw Ysgol Trefeurig fel adeilad ar gyfer defnydd y
gymuned; y ddadl am y fferm wynt arfaethedig yn Nant y Moch; ac
ymateb y Cyngor i gynigion y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer yr
ardal.
Etholwyd yr Is-Gadeirydd, Dafydd Sheppard, yn Gadeirydd ar gyfer
2011/12, a chymerodd ef y gadair. Diolchodd yn gynnes i Trefor
Davies am ei waith yn ystod y flwyddyn a aethai heibio. Etholwyd
Edwina Davies yn Is-Gadeirydd ar gyfer 2011/12, ac etholwyd y
canlynol yn gynrychiolwyr y Cyngor ar wahanol bwyllgorau a
sefydliadau: Neuadd y Penrhyn a PATRASA – Gwenan Price; Cae Chwarae
Pen-bont a Chymdeithas Hen Ysgol Trefeurig – Trefor Davies; Cartref
Tregerddan – Dai Rees Morgan a Gwenan Price; Un Llais Cymru –
Dafydd Sheppard ac Edwina Davies; pwyllgor y Fferm Wynt a Gohebydd
y Wasg – Richard Owen; Llywodraethwyr Ysgol Penrhyn-coch – Mervyn
Hughes.
Yn y cyfarfod arferol a ddilynodd, adroddwyd fod llythyr wedi’i
dderbyn gan PC Hefin Jones yn cadarnhau na fyddai cyfarfodydd PACT
yn cael eu cynnal ym Mhenrhyn-coch o hyn ymlaen. Adroddodd Trefor
Davies fod y gwaith o lunio ail ran cais Grãp Datblygu Ysgol
Trefeurig i Gronfa’r Loteri yn awr ar y gweill, ac yn debyg o
gymryd hyd at chwe mis. Penderfynwyd y dylai’r Cyngor ysgrifennu at
Gyngor Ceredigion i ofyn iddynt ailystyried y rhent y bwriedid ei
ofyn ar gyfer yr ysgol gan ei fod yn uchel iawn ar gyfer grãp
gwirfoddol.
Cytunodd Dafydd Sheppard i fynd i gynrychioli’r Cyngor yng
nghyfarfod blynyddol Cyngor Ceredigion ar 10 Mai pan fyddai
Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2011/12 yn cael ei hurddo.
Roedd llythyr o ymddiswyddiad wedi dod oddi wrth y Cyng. Kari
Walker, gan ei bod yn mynd dramor i weithio am o leiaf flwyddyn.
Diolchwyd iddi am ei chyfraniad i’r Cyngor, a dymunwyd yn dda iddi
yn y dyfodol. Byddai’r Clerc yn hysbysu Cyngor Ceredigion o’r
sefyllfa. Hefyd roedd Mrs Pat Walker, y cyn-Glerc, wedi anfon
llythyr yn diolch i’r Cyngor am y cinio a fu ar 6 Mai i nodi ei
hymddeoliad.
Cytunodd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i gynrychioli’r Cyngor yng
Nghynhadledd a Chyfarfod Blynyddol Un Llais Cymru ym
Mhontrhydfendigaid ar 8 Hydref. Ceir y cofnodion yn llawn ar
www.trefeurig.org.
R.J.EdwardsAdeiladau Fferm y Cwrt
Cwrt Farm Buildings Penrhyn-coch
01970 82014907980 687475
Contractiwr, masnachwr gwair a gwellt.
Arbenigwr ar ailhaduCyflenwi a gwasgaru calch
Gwrthtaith Fibrophos a rhai organig
Ymgymymerir â phob math o waith amaethyddol
am brisiau cystadleuol
Lorïau a pheirianau amaethyddol i’w llogi
Nos Wener, 6 Mai, cynhaliodd Cyngor Cymuned Trefeurig ginio yn
Llety Parc, Llanbadarn, i anrhydeddu Mrs Pat Walker, Cwmsymlog, ar
ei hymddeoliad o fod yn Glerc y Cyngor, swydd y bu ynddi am 32 o
flynyddoedd. Trefnwyd a llywyddwyd y noson gan y Cyng. Trefor
Davies, Cadeirydd y Cyngor, ac fe dalwyd teyrngedau i Mrs Walker am
ei gwasanaeth gloyw dros yr holl flynyddoedd gan y cyn-Gynghorydd
Daniel Huws a’r Cyng. Edwina Davies. Yn y llun gwelir Daniel Jones,
Trefor Davies, Kari Walker, Pat Walker, Gwenan Price, Dafydd
Sheppard, Richard Owen, Mervyn Hughes, Tegwyn Lewis, Edwina Davies.
Roedd dau gynghorydd yn absennol - Mel Evans a Dai Rees Morgan.
-
14 Y TINCER MEHEFIN 2011
COLOFN MRS JONES
Fel llawer ohonoch, fe fyddaf yn hoffi bwyta grawnfwyd i
frecwast, ar hyn o bryd, Shreddies sydd ar y fwydlen. ‘Knitted by
nanas’ sydd yn fy wynebu bob bore y dyddiau hyn.Ymgais yw’r slogan,
wrth gwrs, i danlinellu pa mor faethlon yw’r bwyd, mae yna ymgais
i’n perswadio ei fod cystal â rhywbeth wedi ei goginio gartref ac
mae’n ddiddorol mai at neiniau y cyfeirir, mae yna rhyw awgrym mai
dim ond hwy sydd yn coginio a gweu ac nad yw plant yn arfer a gweld
eu mamau yn gwneud yr un o’r ddau beth. Ond bid a fo am hynny, fe
gododd yr ymadrodd ei hun atgofion ynof. Fe roedd gen i un nain
oedd yn medru gweu - mam fy nhad; arbenigedd honno oedd dillad isa
a sannau, y pethau mwyaf anghysurus a choslyd a welais erioed ond,
o leiaf, roedd eu gwau hi yn ffitio.Yr oedd fy nain arall yn gwau
hefyd, ond nid oedd ei sgiliau hi cystal, fe roedd y llewys wastad
yn rhy hir a chofiaf yn dda am un siwmper a weuodd i’m tad. Roedd
yn ddigon mawr i eliffant a’r gwddf polo yn ymdebygu i gwcwll
mynach. Fel y dywedodd fy nhad, a honno a dillad isaf wedi eu gweu
gan ei fam amdano, roedd yn teimlo fel petai yn fynach rhyw urdd a
gredai fod anghysur corfforol yn anhepgor i lwyddiant enaid ac un a
oedd a siars yn y diwydiant gwlan ar ben hynny. A mae gan bron bawb
ydw I yn ei adnabod straeon o’r fath. Fe allai fy mam weu a gweu
fel ei mam yng nghyfraith, roedd y dillad yn ffitio. Ac ni weuai
ddillad isaf, ychwaith, diolch i’r drefn.Yn ddigon naturiol, pan
oeddwn i yn iau, fe geisiodd fy nysgu ond methiant llwyr fu pob
ymdrech pryd hynny, er fe ddysgodd Gwynn, fy mrawd hynaf, weu dim
ond trwy wylio mam yn ceisio fy nysgu i, y fi oedd yn stiwpid.
Roeddwn i yn fy ugeiniau pan ddysgais weu pan lwyddodd mam i’m
dysgu trwy fy nhrin fel petawn yn hanner pan oedd yn gwybod dim.
Bu’r arbrawf yn llwyddiant a, bellach, gallaf innau weu er mai pur
anaml y gwnaf hynny. Y mae plant y teulu
wedi tyfu ac ni fum erioed ag amynedd creu dillad oedolion. Yn
yr haf y gweuai fy mam pan oedd darlithoedd WEA drosodd. Byddai hi
a mi yn gweu’n gwmnius gyda’n gilydd wrth wylio’r teledu gyda’r nos
a’nhad yn cwyno ei bod hi fel byw gyda dwy Madame Defarge. A
chofiaf ei gwylio yn gweu gyda’r ddwy nain, mam fy nhad yn gweu
sannau gyda phedair gweillen yn troi yn gylch o arian yn ei dwylo,
ei mam ei hun yn arafach –a chlic, clic, clic y gweill yn gyfalaw
i’r sgwrs. Nid oes gennyf gof gweld fy modryb yn gweu, unwaith
erioed y mentrodd, hyd y gwn i, ac ni bu llwyddiant pryd hynny.
Roedd ei merch hynaf yn disgwyl a gwyddai fy modryb mai hogyn
fyddai ac roedd Mari wedi prynu gwlan a phatrwm romper suit ar
gyfer y babi newydd. Ond roedd yn methu cael y patrwm i weithio a
chan feddwl mai arni hi ei hun oedd y bai, dyma basio’r patrwm a’r
gwlan i mam, Gwynn a mi. Ac fe fethodd y tri ohonom. Barn Gwynn
oedd fod bai ar y patrwm ac aeth ati i arbrofi a gweld mai’r bai
oedd fod y patrwm yn gofyn am fasglu niferoedd cyfartal o bwythau
ond bod yn rhaid iddynt fod mewn niferoedd anghyfartal i’r patrwm
weithio mewn difrif... O fasglu , dyweder, 5 yn lle 4 pwyth, roedd
y patrwm yn gweithio. Ac fe weuodd Gwynn y siwt mewn chwinciad. Fe
awgrymais i y dylai ysgrifennu at Paton’s – ac fe wnaeth hynny, gan
gael copi cywir o’r patrwm a phopeth oedd angen i’w greu a llythyr
yn diolch i Mrs ap Gwilym am ddangos y camgymeriad iddynt… Ychydig
a wyddai Patons, mae’n amlwg, yw bod yna ddigon o ddynion yr ochr
yma i’r ffin fedr weu ac sydd yn fodlon cyfaddef hynny. Wedi’r
cyfan, bu dynion yn gweu sannau i’w gwerthu at y rhent ers
canrifoedd. Mae yna aml i gyfeiriad, er enghraifft, at wenidogion a
weuai sannau ar eu ffordd i’w cyhoeddiadau – cyn dyddiau car, wrth
reswm! – er mwyn gofalu fod corff ac enaid yn aros yn un.
GWELY A BRECWAST MAIR
9 Heol Llangrallo, Pen-y-Bont ar Ogwr CF31 3AR
Croeso cynnes Cymreig mewn lleoliad delfrydol i ganolfanau
siopa gorau de Cymru, Canolfan y Mileniwn, Stadiwm y Mileniwm
a
Cae Pêl-droed Caerdydd.
www.mairsbedandbreakfast.co.uke-bost : [email protected]
01656 65544207768 286303
Cysylltwch â Huw a Sarah Tudur
Y T [email protected]
O’R CYNULLIAD
Dyma fy erthygl gyntaf ers imi gael fy ail-ethol i gynrychioli
Ceredigion yn yr etholiadau Cymreig ar 05 Mai, a hoffwn gymryd y
cyfle i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unwaith eto. Rwy’n edrych
ymlaen at barhau i gynrychioli buddiannau Ceredigion a’i thrigolion
yn y Senedd ym Mae Caerdydd dros y pum mlynedd nesaf ac mae croeso
i chi, fel arfer, i gysylltu â mi os allaf fod o unrhyw gymorth i
chi.
Un o fy nghyfarfodydd cyntaf wedi’r etholiad oedd gyda Rhodri
Williams, Cadeirydd OfCom yng Nghymru, er mwyn trafod cais
perchnogion newydd Radio Ceredigion i newid fformat ieithyddol yr
orsaf. Ers i’r gwasanaeth ddod o dan reolaeth perchnogion Radio Sir
Gar a Radio Sir Benfro, mae nifer o drigolion lleol wedi bod yn
pryderu y byddai’r defnydd o’r Gymraeg yn y darllediadau yn
lleihau. Yn awr, mae OfCom wedi derbyn cais i leihau faint o
Gymraeg sy’n cael ei darlledu yn ystod oriau brig ac maent wedi
cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau.
Yn ystod mis Mai, gwnes hefyd fynychu’r rali a gynhaliwyd yn
Aberystwyth i wrthwynebu’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus
mae’r
llywodraeth ConDem yn eu cyflwyno. Ceredigion yn Erbyn y
Toriadau oedd yn gyfrifol am yr orymdaith a’r cyfarfod ac roeddwn
yn falch iawn i gael fy ngwahodd i annerch y dorf a’u hatgoffa
cymaint y bydd y toriadau yn effeithio ar Geredigion, lle mae tua
40 y cant o weithwyr lleol yn cael eu cyflogi gan y sector
gyhoeddus.
Yn olaf, roeddwn yn falch i glywed y bydd y Dorch Olympaidd yn
dod trwy Geredigion y flwyddyn nesaf yn ystod ei daith o amgylch y
Deyrnas Unedig yn yr wythnosau cyn cychwyn y Gêmau Olympaidd yn
Llundain. Roeddwn wedi dechrau pryderu na fyddai Ceredigion yn elwa
dim o’r paratoadau ar gyfer y cystadlaethau yn ne-ddwyrain Lloegr
ac rwy’n gobeithio y bydd trigolion lleol yn cael y cyfle i gario’r
dorch.Elin Jones
Gofal Traed Aber
Ceiropodydd / Podiatrydd cofrestredig H.P.C.
Triniaeth ar ewinedd a chyrnLlawdriniaeth ar gasewinedd
Triniaeth / asesiad arbenigol ar draed diabetig
Gwadnau ac asesiad biomecanyddol
TRINIAETH YN Y CARTREF AR GAEL
Cysylltwch gyda Shân Jones neu Richard Ellison
ar 01970 617269 am apwyntiad
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 15
ADOLYGIADAU
GOLCHDYLLANBADARN
CYTUNDEB GOLCHI GWASANAETH GOLCHI
DUFET MAWRCITS CHWARAEON
FFÔN: 01970 612 459 MOB: 07967 235 687
GERAINT JAMES
Elgan Philip Davies Yr Hen Goleg, The Old College. Gwasg Gomer
32t. £3.99
Dyma lyfr hylaw, diddorol, a dymunol i’w ddarllen gan Elgan
Philip Davies yn y gyfres Cip ar Gymru. Mae’n dechrau trwy
amlinellu twf cynnar tref Aberystwyth, yn cynnwys bwydlen y wledd
yng Ngwesty’r Belle Vue i ddathlu agor y rheilffordd o’r Amwythig i
Aberystwyth yn 1864. Bu’r rheilffordd honno, a rheilffordd y de, yn
fodd i gludo miloedd o fyfyrwyr i’r coleg dros y ganrif a hanner
oddi ar hynny.
Clywn am adeiladu adeilad yr Hen Goleg i fod yn westy i
ddechrau, ac yna ei brynu yn 1867 gan Bwyllgor y Brifysgol dan
arweiniad Hugh Owen, i fod yn gartref i Brifysgol gyntaf Cymru, yr
oedd galw mawr amdani yn sgil anfri Brad y Llyfrau Gleision ugain
mlynedd yng nghynt. Difrodwyd
rhan helaeth o’r adeilad yn 1885 gan dân a ddechreuodd yn y
labordy Cemeg ac a laddodd dri o ddiffoddwyr. Er cymaint y
drychineb bu hynny hefyd yn gyfle i wneud yr adeilad yn fwy addas
ar gyfer gweithredu fel Prifysgol.
Yna, ymlaen at heddiw. Beth, tybed, fydd dyfodol yr adeilad hwn
pan fydd holl adnoddau Prifysgol Aberystwyth wedi ailgartrefu ar
Ben-glais? Barn yr awdur yw y dylai barhau yn ‘adeilad cyhoeddus
fel y gall cenedlaethau’r
dyfodol hefyd ryfeddu ato a’i fwynhau.’ Rwy’n siwr y byddai’r
rhan fwyaf ohonom
yn dweud Amen i hynny. Ond nid ni sydd i benderfynu!
Mae’r llyfr bach dwyieithog hwn yn ddelfrydol ar gyfer pawb sydd
â diddordeb yn hanes Aberystwyth, yn drigolion lleol neu yn
ymwelwyr â’r ardal, ac yn siaradwyr Cymraeg neu beidio.
Randall Evans Enoch, Llanfihangel Genau’r Glyn. The History of a
Community, Wendall Publishing, Glynteg, Llandre, 275 tt., £9.50
Wyddech chi mai hen blwy Llanfihangel Genau’r-glyn oedd un o
blwyfi mwyaf Cymru gynt? Wyddech chi fod darn arian o’r Aifft wedi
ei ddarganfod ar draeth y Borth yn y 1950au sy’n awgrymu bod
trigolion y fro yn masnachu â’r Rhufeiniaid cyn y goncwest
Rufeinig? Wyddech chi fod cwpan cymun ‘Eglwys Castell Gwallter’ ac
arno’r dyddiad 1573 yn dal i gael ei ddefnyddio yn eglwys y plwy;
fod dau gwpan ar un adeg yn ôl traddodiad, a’r ddau wedi eu dwyn
ond i un gael ei ddarganfod mewn ffos gerllaw’r ffordd i
Gaerfyrddin? Wyddech chi y byddai teithwyr yng Ngorsaf Paddington
yn Oes Fictoria yn gweld poster yn hysbysebu rhinweddau iachaol
Ffynnon Mihangel yng nghysgod yr eglwys? Dyna rai o’r danteithion
sydd i’w cael rhwng cloriau’r gyfrol hon a gyhoeddwyd y llynedd gan
Randall Enoch, un o hynafgwyr y pentre a fu’n gadeirydd
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Llandre ers 2002.Fel un a symudodd i
Landre o bellter byd Bow Street ar ddiwedd y nawdegau, roedd cael
fy nhywys drwy hanes cyfoethog y pentre a’r ardal gyfagos yn
agoriad llygad i mi. Er bod yma sylw o raid i fywyd crefyddol y
plwy, hanes y gymuned seciwlar yw’r gyfrol hon, chwaer-gyfrol i
Llanfihangel Genau’r Glyn – A Church History a gyhoeddwyd gan yr
awdur yn 2002. Cawn wybod am y trigolion cynharaf cyn boddi
Cantre’r Gwaelod, am fryngaerydd Oes yr Haearn fel Pwll-glas a
Bryn-hir (sef safle’r castell yn ddiweddarach) a fyddai’n gwarchod
y dyffryn strategol bwysig islaw, ac yn yr Oesoedd Canol am hanes
cythryblus Castell Gwallter ynghanol yr ymrafael rhwng y Normaniaid
a’r tywysogion Cymreig. Wrth gyrraedd y cyfnod modern clywn am
ddylanwad cynyddol teulu Pryse Gogerddan o gyfnod y Tuduriaid
ymlaen. Neilltuir pennod
gyfan yn nes ymlaen yn y llyfr i’r teulu dylanwadol hwnnw,
ynghyd â phennod ar hen blasty Glanfrêd, man geni mam Edward Lhuyd,
a ddaeth i feddiant teulu Gogerddan yn 1597. Difyr hefyd yw’r
penodau byrion ar y ddwy ganrif ddilynol lle cawn olwg, er
enghraifft, ar dwf anghydffurfiaeth grefyddol. Ond o’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg ymlaen, diolch yn bennaf i’r ffurflenni
cyfrifiad, clywn lawer mwy am hynt a helynt pentrefwyr cyffredin.
Felly cawn bennod am fywyd trigolion Pen-y-garn, Rhydypennau a’r
Dolau rhwng 1850 ac 1950, a phennod arall ar Landre, Tai Gwynion a
Dôl-y-bont yn yr un cyfnod. O dai annedd i ffermydd, o dai
crefftwyr llewyrchus fel teilwriaid Penygroes i siopau sydd, rai
ohonynt, yn dal yn fyw yng nghof y to hynaf, mae’r cyfan yma; ac
mae’r lluniau’n ychwanegu llawer iawn at ddiddordeb y gyfrol.
Dadlennol hefyd yw’r penodau ar flynyddoedd y ddau ryfel byd, yn
enwedig hanes y faciwîs a heidiodd yma, o Lerpwl yn bennaf, o 1939
ymlaen, i’w lletya gan amlaf yn sãn dieithr y Gymraeg a’u haddysgu
dan amodau anodd ochr yn ochr â’r plant lleol yn yr hen Ysgol
Rhydypennau uwchlaw’r pentre ac yn ysgolion eraill y fro. Neilltuir
penodau wedyn i graffu ar wahanol agweddau ar fywyd y gymuned hyd
ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Cawn hanes addysg o gyfnod ysgolion
cylchynol ac elusennol y ddeunawfed ganrif hyd ysgol bresennol
Rhydypennau, a phennod arbennig o ddiddorol am hanes yr hen ysgol
ramadeg ar y bryn sy’n dñ annedd bellach. Cawn glywed am y
newidiadau chwyrn ym myd amaeth a’r diwydiant mwyngloddio – bu sawl
un o drigolion Llandre gynt yn ennill ei damaid ym mwyngloddiau
Tal-y-bont a’r cyffiniau – am ddylanwad y môr, am drafnidiaeth, am
y degwm ac am les cymdeithasol (gan gynnwys hanes difyr yr hen Dñ
Clwb, Penlan bellach), am
hanes geni a phriodi a marw’r trigolion fel y’i cofnodir yn y
cofrestri plwy ac ym mynwent Llanfihangel a mynwent y Garn. O bryd
i’w gilydd bydd atgofion personol yr awdur neu
atgofion ei fam yn dod â’r cyfan yn fyw, fel yn y darn yma sy’n
sôn am Felin Leri yn Nhal-y-bont:The author remembers going to the
Leri Mill in the 1960s to buy goods from the shop on the site and
to watch the weaver at work. During the Second World War his mother
used to go there to buy raw yarn to knit socks and kneecaps for
soldiers. The wool was very oily and had a very noticeable smell.
It was knitted in this raw condition and then, when the finished
garment was washed, it was as white as snow. (t. 61)Yn olaf rhoddir
sylw i gerddorion nodedig fel J. T. Rees, Bronceiro, tad y
llysgennad a’r awdur T. Ifor Rees, ac i drafaelwyr a fu’n
gysylltiedig â’r ardal hon – yr enwog Abram Wood a theulu Tom
Macdonald y rhoes ei hunangofiant Y Tincer Tlawd ei enw i’n papur
bro. Daw’r gyfrol i ben â bywgraffiadau byrion o rai o drigolion
amlwg y fro ers y ddeunawfed ganrif, a’r rheini mor amrywiol â’r
Methodist blaenllaw Evan Richardson a aned ym Mryngwyn Bach yn
1759, y Prifardd Dewi Morgan a’r brodyr Raw-Rees. Mae mwy i’w
ddweud am draddodiad llenyddol y fro, fel y gwelir cyn bo hir pan
gaiff Llwybr Llên Llandre ei agor gerllaw’r eglwys. Fe allai’r
golygu fod wedi bod yn fwy gofalus, ond rhaid cofio na fu’r gyfrol
hon drwy ddwylo un o’r gweisg mawrion ac mae’r awdur yn haeddu ein
diolch am ei lafur cariad. £9.50 yw’r pris ac mae’n werth pob
ceiniog, yn enwedig gan fod yr elw yn mynd, yn briodol ddigon, i
goffrau Treftadaeth Llandre. Huw Meirion Edwards
-
16 Y TINCER MEHEFIN 2011
COLOFNYDD Y MIS
Prin y gwyddwn pan ofynnwyd i mi ‘sgwennu’r golofn hon yn Y
Tincer y buaswn heddiw yn hel meddyliau am y ddinas sydd wedi bod
yn ail gartref imi am fwy na deng mlynedd ar hugain. A minnau yn
hel fy mhàc am Normandi a’i thraethau byd enwog, yn symud o un
ddinas a ddinistrwyd gan fomiau’r Ail Ryfel Byd i’r llall – Caen –
sy’n rhannu’r un dynged, mae’r cysylltiad cryf rhyngof â Brest yn
datod fesul tipyn, er na welaf fy hun byth yn torri’r llinyn fydd
yn fy nghlymu i’r pwt yma o dir ar ben draw gorllewinol Ewrop.
Mae rhai llefydd yn gafael ynoch, yn treiddio’n ddwfn o dan y
croen. Trieste, Venice, Efrog Newydd, Lisbon ... I bob awdur llên
trafaelio mae ‘na atyniad arbennig i ddinasoedd y byd, rhyw enaid
anweledig sy’n araf godi i’r wyneb ymysg y brawddegau brwdfrydig.
Does neb yn dod i Frest ar hap a damwain. Mae’n rhaid bod angen dod
yma. Yr hyn a glywir yn yr orsaf wrth i’r teithiwr chwilfrydig
ddisgyn o’r trên yw Brest! Brest! Terminus du train! Does yr un lle
pellach ar y lein. Mae Brest fel mur, neu lidiart, yn ôl yr hyn a
fynnwch. Mae Brest fel Gwales a minnau bellach yn cofio’r holl
foethau y bu’n fraint i mi eu profi.
Pobl Brest, les Brestois, neu gydag acen y ddinas, les Bressois.
Criw byrlymus, gwresog, di-flewyn-ar-dafod, â’u hathroniaeth pennaf
yn gwreiddio o’r digwyddiadau hanesyddol cyfoes a barodd i’r ddinas
gael ei dinistrio’n deilchion ac i’r boblogaeth orfod trigo mewn
cabanau pren wrth aros i’r ddinas newydd godi o’r lludw. Os ydych
am ddeall ystyr y dywediad Carpe diem, dowch i Frest. Mae’r asbri
heintus sy’n llifo i lawr y rue de Siam a’r rue Jean Jaurès ar
nosweithiau Iau, Wener neu Sadwrn – gystal â dweud bob noswaith o’r
wythnos – fel rhyw darian yn y meddwl er mwyn amddiffyn trigolion
Brest rhag anghofio y gall bywyd gael ei gwtogi neu’i dorri’n chwap
gan ffolineb rhyfel. Petai rhywun yn amau hynny, ar draws Bae Brest
mae safle arfau niwclear llynges Ffrainc ar l’Ile Longue – Yr Ynys
Hir – yn atgoffa’r rhai sydd â’u bryd ar glêra o un dafarn i’r
llall -
tirer une piste, chwedl pobl Brest – y gall y chwalfa fod yn fwy
enbyd, yn fwy parhaol, y tro nesaf .
Dwi’n gallu gweld l’Ile Longue o ddwy lofft cefn fy nghartref.
Gyda’r nos, mae’r goleuadau’n chwincio yn y tywyllwch fel rhes o
oleuadau Nadolig ar ryw goeden wedi’i dymchwel. Ac mae’r tñ wedi
goroesi’r bomiau. Fe’i adeiladwyd yn 1938 gan ddau frawd, brodorion
o Frest, a ddychwelodd ar ôl gweithio yn un o gyn-wladfeydd Ffrainc
– Indochine, Cochinchine – a dylanwad dinasoedd trofannol yn amlwg
yn y bensaernïaeth. Mae’r tñ mewn stryd fach uwchben safle’r
llynges. Dyna lle angorwyd llongau tanfor yr Almaenwyr yn ystod y
rhyfel a dyna lle tywalltwyd tunelli o fomiau – 30,000 tunnell o’r
7fed o Awst tan y 18fed o Fedi, 1944 - o berfeddion awyrennau
Prydeinig nes treiddio tyllau yn rhwydwaith glos y strydoedd. Yma
ac acw, saif gweddillion tai Brest o’r amser cynt. A fy nhñ i yn un
ohonynt. O’r 11,700 adeilad ym Mrest, dim ond 1,200 a oroesodd pan
ryddhawyd y ddinas o grafangau’r Natsïaid. Dywedodd un gymdoges i
mi, a oedd yn hogan fach ar y pryd ac yn gwylio o ffenest ei thñ,
ei bod yn cofio gweld peilot Prydeinig yn codi llaw arni wrth i’w
awyren sleifio’n isel heibio toeon y tai. Roedd yr RAF yn
ymwybyddus o’r difrod a’r lladdfa a’u dilynai ac am hynny, pan oedd
modd, ceisient dywallt y bomiau wrth hedfan yn isel, er mai ar
berygl bywyd y gwnaethpwyd hyn.
Dwi’n byw yn Kerangoff, neu Kerango yn y Llydaweg, ac er nad wyf
yn sicr o ystyr yr enw, tybiaf mai Tre’r Gofaint sydd wrth ei
wraidd. Ond gwell peidio camu’n bellach ar lwybr llithrig enwau
lleoedd. I mi, mae Kerango yn filltir sgwâr; mewn un congl mae
marchnad les Quatre Moulins, y melinau blawd a falai’r gwenith ar
gyfer y trueiniaid yn hen garchar Brest, lle dwi’n prynu llysiau a
blodau bob bore Sadwrn oddi wrth hen gyfaill sydd yr un mor
benboeth â minnau pan fydd tymor y rygbi am gychwyn. Mewn congl
arall mae siop bysgod Raguénès, paradwys arianlliw Anne-Marie, sy’n
bwydo cathod coll y ddinas o duniau dryd, er y byddai llond coflaid
o bennau pysgod yn llawer mwy llesol. Dwi’n ei gweld rwan yn codi’r
crancod o focs yn ei dwylo medrus, yn
eu pwyso a’u gosod yn grefftus mewn cwdyn plastig fel petai’n
gosod baban i gysgu yn ei grud. Dilyn muriau mynwent Recouvrance
wedyn, a dyma fi’n sefyll o flaen gardd daclus yn gymysg o lysiau a
blodau – tatws, moron, ffa, pys, wyniwns a’r anfarwol farchysgall
neu artichaut Camus, symbol gogledd sir Finistère, y llysieuyn sy’n
wir ddantaith i’r tlawd, chwedl dyn digrif enwog, am fod na fwy yn
eich plât ar ôl i chi’i fwyta na phan ddechreusoch. Mae’n
draddodiad yn Llydaw tyfu llysiau a blodau hefo’i gilydd, y naill
yn fwyd i’r meidrol a’r lleill yn gysur i’r meirw. Ac unwaith eto,
mae hen erddi Brest yn fwrlwm o hanes y ddinas, yn adlewyrchu
mordeithio brwd gwyddonwyr yr 18fed ganrif a gludai’n ôl i’r
glannau hyn y camelia, y lili arwm, y ffiwsia, lili’r Affrig a
ledi’r India, sy’n dal i urddo gerddi bychain Brest.
Bu Carys Lewis, a fagwyd yn y Borth, yn dysgu Saesneg i fyfyrwyr
gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Brest am bymtheng mlynedd. Mae newydd ei
phenodi i swydd yn yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Caen,
Normandi.
ytin
cer@
goog
lem
ail.c
om
CYSY
LLTW
CH
 N
I
Am bob math o waith garddio
ffoniwch Robert ar (01970) 820924
Caryl Lewis - Gadael Brest
-
Y TINCER MEHEFIN 2011 17
YSGOL PENRHYN-COCHTrawsgwlad
Cynhaliwyd Gãyl Chwaraeon yr Urdd yn Aberystwyth yn ddiweddar.
Aeth criw o ddisgyblion i lawr i gystadlu yn y rasys trawsgwlad
cenedlaethol. Da iawn iddynt am eu hymdrechion.
Hoci
Aeth tim hoci’r ysgol i lawr i chwarae yng nghystadleuaeth
Activate ar gae astro’r Brifysgol yn Aberystwyth. Cafwyd nifer o
gêmau arbennig o dda ond yn anffodus ni lwyddwyd i fynd drwodd i’r
rowndiau nesaf. Da iawn i holl chwaraewyr hoci’r ysgol am eu
hymroddiad yn ystod y flwyddyn wrth ymarfer a chwarae. Diolch i’r
rhieni am eu cefnogaeth ac i Miss Cory am yr hyfforddi.
Bagiau Mary
Daeth Mr Ian Rees o Glwb Rotary Aberystwyth i sgwrsio gyda’r
disgyblion am waith yr elusen gyda “Bagiau Mary.” Mae’r elusen yn
anelu i gasglu eitemau addysgol i greu bagiau cefn ar gyfer plant
llai ffodus yn Affrica. Dangoswyd DVD i’r disgyblion ar yr effaith
mae derbyn y bagiau yn ei gael ar y plant. Dilynwyd taith un bag o
gartref disgybl i’r porthladd ac yna ar long yr holl ffordd i’r
Affrica ac i’r disgybl lwcus. Yn ystod yr wythnos ddilynol, bu’r
ysgol yn derbyn eitemau gan y disgyblion e.e. pensiliau, rwberi
ayyb. Gwahoddwyd Mr Rees yn ôl i’r ysgol a chafwyd cyfle i
gyflwyno’r eitemau ynghyd ag
ambell i fag a lenwyd eisioes. Diolch i bawb a ddaeth ag eitemau
i mewn i’r ysgol.
Criced
Chwaraewyd gêm ragbrofol ar gyfer twrnament y cylch yn erbyn
Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Chwaraewyd y gêm ar gae Baker ym
Mhenrhyn-coch. Cafwyd gêm dda iawn, rhwng dau dîm yn llawn
brwdfrydedd. Y tîm cyntaf i fatio oedd Ysgol Gymraeg Aberystwyth a
lwyddodd i sgorio 218. Tro Ysgol Penrhyn-coch oedd hi nesaf a
chafwyd nifer o belawdau clos iawn. Ar ddiwedd y gêm, sgoriodd
Ysgol Penrhyn-coch 238 o rediadau gan ennill drwodd i’r rowndiau
terfynol. Llongyfarchiadau iddynt a diolch i Mr Lewis am ei waith
wrthi yn eu hyfforddi.
Gruff Lewis
Bu Gruff Lewis yn rasio beiciau o amgylch Aberystwyth fel rhan o
daith Halfords. Er mwyn ceisio rhoi hwb lleol iddo, aeth criw o
ddisgyblion wrthi i greu baner arbennig gyda chyfarchion o’r ysgol.
Er yr holl dywydd gwael, llongyfarchiadau iddo.
Pêl-droed
Bu tim pêl-droed yr ysgol yn cystadlu yn nhwrnament ysgolion
cylch Aberystwyth ar gaeau Blaendolau yn ddiweddar. Chwaraewyd y
gêmau ar ffurf cynghreiriau cyn symud ymlaen i chwarae y rowndiau
cyn derfynol ac yna’r gêm derfynol. Llwyddodd y tîm i guro Ysgol
Llanilar ac yna Ysgol Plas-crug a symud ymlaen i chwarae Ysgol
Comins-coch yn y gêm gyn derfynol. Cafwyd gêm arbennig gyda
chyfleon i’r ddau dîm a bu’n rhaid symud i amser ychwanegol wrth
i’r sgôr orffen yn 0-0. Ar ddiwedd y gêm, llwyddodd Penrhyn-coch i
sgorio gôl i ennill y gêm a symud i chwarae yn erbyn tîm Ysgol
Gymraeg Aberystwyth yn y rownd derfynol. Cafwyd gêm dda llawn
cyffro yma gyda’r ddau dîm yn mynd yn agos i sgorio. Yn y diwedd,
llwyddodd tîm Ysgol Gymraeg i
Disgyblion yr ysgol gyda baner yn cefnogi Gruff Lewis.
Tîm hoci’r ysgol a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Activate yn
ddiweddar.
Tyler, Rhys, Cerys Ann, Iestyn ac Aneurin a fu’n rhedeg yn rasys
trawsgwlad cenedlaethol yr Urdd yn ddiweddar.
CLWB AR ÔL YSGOLAr Agor Llun-Gwener o
3.30 y.p - 5.30 y.p.£6 y sesiwn £5 ail blentyn
Sesiynau wrth yr awr ar gael
Bwyd a Diod Iachus yn GynwysedigGofal Plant Cofrestredig
CLWB GWYLIAUMae’r clwb hefyd ar agor yn ystod gwyliau’r ysgol a
diwrnodau HMS
08.30 y.b. – 5.30 y.p.
£20 y diwrnod plentyn cyntaf£18 y diwrnod ail plentyn
Sesiwn hanner diwrnod08.30 – 1.00 y.p. neu 1.00 y.p. – 5.30
y.p.
£10 plentyn cyntaf . £9 ail plentyn
CLWB CW^ LPenrhyn-coch
www.facebook.com/pages/Clwb-Cwl-Penrhyn-coch-After-School-Club/235577369148?ref=ts
I fwcio cysylltwch â Delyth James neu Katy Nash ar
07972 [email protected]
Neu cipiwch mewn i’r clwb ar ôl Ysgol
gymryd eu cyfleon gan ennill i 2-0. Da iawn i aelodau’r tîm am
eu hagwedd wrth chwarae.
Pêl-rwyd
Aeth tîm pêl-rwyd yr ysgol i lawr i Ganolfan Plas-crug i gymryd
rhan yng nghystadleuaeth pêl-rwyd y cylch. Cafwyd dwy gêm dda iawn.
Yn anffodus, ni lwyddodd y tîm i ennill drwodd i’r rownd
derfynol.
Dodgeball
Bydd yr ysgol yn cynnal noson Dodgeball unwaith eto eleni. Bydd
y cyfan yn cychwyn am 5-30 p.m. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch
â’r ysgol. Bydd Ffair Haf a Barbeciw i ddilyn.
-
18 Y TINCER MEHEFIN 2011
YSGOL RHYDYPENNAUGwasanaethau Arbennig
Er mwyn dathlu Neges Ewyllys Da eleni cynhaliwyd gwasanaeth
arbennig yn neuadd yr ysgol gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth y
plant o’r Neges Heddwch sydd bellach yn draddodiad blynyddol ers
dros hanner canrif. Eleni, fe ddaeth Efan Williams i’n plith i
arwain y gwasanaeth. Efan Williams yw Swyddog Plant ac Ieuenctid
Eglwysi Gogledd Ceredigion. Cyflwynodd Efan hanes a chynnwys y
neges eleni.
Eisteddfod yr Urdd
Yn hytrach na’ ymlacio a mwynhau gwyliau hanner tymor bu nifer o
blant ac athrawon yr ysgol yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr
Urdd yn Abertawe. Roedd Parti Cerdd Dant yr ysgol yn perfformio ar
fore Llun gyda’r bwriad i gyrraedd llwyfan y Pafiliwn yn y p’nawn.
Perfformiodd y parti yn wych ac er fod y feirniadaeth yn galonogol
tu hwnt; aflwyddiannus oedd y cynnig i gyrraedd y llwyfan. Hen dro!
Hoffa’r ysgol ddiolch i’r plant am eu gwaith diwyd, y rhieni am eu
cefnogaeth a chan’ diolch hefyd i Mrs Helen Medi Williams a Mrs
Eleri Roberts am eu hyfforddiant arbennigol dros yr wythnosau
diwethaf.
Ymweliadau a digwyddiadau
Fel rhan o thema’r tymor, fe aeth plant blwyddyn 3 a 4 ar
ymweliad â’r dre. Yn gyntaf, cafwyd ymweliad diddorol iawn yn yr
amgueddfa er mwyn deall a dysgu mwy am hanes yr ardal. Yna fe
dreuliodd y plant gyfnod wrth ymyl yr harbwr er mwyn hel gwybodaeth
ddaearyddol am yr ardal arbennig hon o’r dre.
Diwrnod y 60au
Rhai diwrnodau yn ddiweddarach, fe aeth plant a
staff blwyddyn 3 a 4 nôl mewn amser. Fel rhan o’u gwaith Hanes
gwisgodd y plant mewn dillad o’r 60au. Cafodd y plant flas ar y
cyfnod trwy fwynhau nifer o weithgareddau amrywiol gan orffen y
dydd gyda disco yn cynnwys caneuon a cherddoriaeth o’r cyfnod
cyffrous.
Taith Gerdded
Trefnodd yr ysgol daith gerdded ar yr 20fed o Fai. Ar ôl casglu
enwau noddwyr , cerddodd y plant a’r staff ar hyd lwybrau cyhoeddus
yr ardal, ac yn y broses codwyd swm sylweddol o arian tuag at
goffre’r ysgol. Diolch i’r noddwyr am eu cefnogaeth hael.
Chwaraeon
Ar y 27ain o Fai, bu tîm pel-droed bechgyn a thîm pel-rwyd
merched yr ysgol yn cystadlu ym mhencampwriaeth Chwaraeon Cylch
Aberystwyth. Cystadleuaeth rhwng holl ysgolion Aberystwyth oedd
hon; ac yr oedd ansawdd y pêl-droed a’r pel-rwyd o’r safon
uchaf.
Mewn grãp anodd iawn
chwaraeodd y bechgyn yn neilltuol o dda; ond er ymdrechu’n galed
ymhob gêm, methu wnaethant i fynd ymlaen i’r rowndiau
gyn-derfynol.
Ar y llaw arall, llwyddodd y merched pel-rwyd i guro Ysgol
Plas-crug, Yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Padarn Sant. Galluogodd hyn
iddynt gyrraedd y rownd derfynol. Yn y ffeinal curodd y merched
Ysgol Comins Coch o 7 gôl i 1. Dyma’r pedwerydd tro o’r bron i’r
ysgol ennill y gystadleuaeth hon. Campus! Llongyfarchiadau mawr i
chwaraewyr y ddau dîm am eu hymdrechion ardderchog.
Ymweliad gan Faer y Dre Braint ac anrhydedd oedd croesawu Maer
newydd y dre i’r ysgol yn ddiweddar. Pwrpas yr ymweliad oedd helpu
lawnsio ‘Splish, Splash, Splosh’; sef ymgyrch newydd gan Apêl Arch
Noa. Yn ystod yr ymweliad cafodd y plant grysau-T a chapiau coch
tra’n cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol; ac yn y broses
tynnu sylw y lawnsiad er mwyn codi arian ar draws y genedl.
Clwb CantDyma ganlyniad fis Mehefin:-
Rachel West, Cae Crwth, Llandre - £25Annette Lewis, Cysgod y
Gwynt - £15Christine Griffiths, Tynllechwedd Bach - £10
Gwefan yr ysgolAm fwy o wybodaeth a llwyth o luniau cliciwch ar
http:/