Top Banner
Mae’r Dinesydd eich angen chi! Nawr mae prysurdeb yr Eisteddfod wedi cilio beth am wneud rhywbeth i helpu'r Dinesydd? Mae angen pob math o sgiliau gwahanol, fel gohebu, golygu, pwyllgora, dosbarthu, rheoli arian ac yn y blaen. Mae Pwyllgor Y Dinesydd yn gobeithio gallu manteisio ar waith gwych y Pwyllgorau Apêl yn uno ardaloedd yng Nghaerdydd i alluogi'r papur i ddarparu newyddion hyd yn oed yn fwy lleol o fewn Caerdydd. Os oes gennych ddiddordeb rhowch alwad i Peter Gillard ar 01446760007 neu 07859007406. Hanner can mlynedd yn ôl comisiynwyd yr artist Ray Howard Jones i greu murlun i ddathlu agoriad swyddfeydd newydd y ‘Western Mail’ a’r ‘Echo’ yn Thomson House ar gornel Havelock Street yng nghanol y ddinas. Cynhyrchwyd mosaig trawiadol, ugain metr o uchder a deg metr o led gyda’r siapiau lliwgar yn awgrymu llifeiriant papur yn tasgu o’r wasg y cyfan yn cyfleu bwrlwm y byd argraffu. Codwyd y murlun ar dalcen adeilad Thomson House a daeth yn olygfa gyfarwydd i filoedd dros y blynyddoedd, wrth iddynt droedio i’r hen bwll nofio neu’n ddiweddarach wrth anelu at gatiau cefn y Stadiwm Genedlaethol. Fel y gwyddoch bellach, mae’r pencadlys wedi ei ail leoli ac felly mae’r gwaith o ddymchwel yr hen Thomson House, yn cynnwys y murlun yn mynd rhagddo. Ganwyd Ray HowardJones yn Lloegr i rieni o Gymry. Roedd ganddi gysylltiadau cryf â Chymru ers ei phlentyndod pan fu’n aros ym Mhenarth gyda’i nain. Aeth i Goleg Celf Slade yn Llundain cyn gwasanaethu fel artist rhyfel am gyfnod. Ymgartrefodd yn ardal Penfro a threulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn darlunio yn yr ardal. Mae ei gwaith i’w weld mewn nifer o leoliadau yn cynnwys yr ‘Imperial War Museum’, Lundain, Caeredin ac yn Amgueddfa Dinbych Y Pysgod. Bu farw ym 1996 yn 93 mlwydd oed. Parhad ar dudalen 2 > Clwb Gwawr yng Nghaerdydd Bydd cyfarfod i sefydlu Clwb Gwawr yn y Brifddinas yn y Cameo Club nos Iau 9fed o Hydref am 7.30. Mae Clybiau Gwawr yn gyfle i fenywod ifanc i gwrdd unwaith y mis i ymlacio a joio drwy fwynhau gwahanol weithgareddau, yn amrywio o flasu gwin a chwarae bingo i ddawnsio salsa a saethyddiaeth. Mae’r clybiau’n mynd o nerth i nerth, gyda 10 clwb newydd wedi agor yn ne Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Am fwy o fanylion cysylltwch gyda’r Fenter neu Ruth Morgan, Swyddog Hyrwyddo Clybiau Gwawr y de [manylion ar wefan Clybiau Gwawr : www.clybiaugwawr.com ] Hydref 2008 Papur Bro Dinas Caerdydd a’r Cylch Rhif 332 www.dinesydd.com Roedd disgyblion Ysgol Sant Curig y Barri yn ffodus o gael cyfle i gwrdd ag un o nofwyr amlycaf Prydain. Daeth David Davies, sydd yn wreiddiol o’r Barri, i siarad am y profiad gwych o gystadlu yng ngemau Olympaidd Beijing. Dathlu Llwyddiant yn y Gemau Olympaidd Colli Murlun Rhan o sioe Tri10 yn yr Eisteddfod. Rhagor ar dudalen 3.
12

Dinesydd Hydref 2008

Mar 18, 2016

Download

Documents

Y Dinesydd

 
Welcome message from author
This document is posted to help you gain knowledge. Please leave a comment to let me know what you think about it! Share it to your friends and learn new things together.
Transcript
Page 1: Dinesydd Hydref 2008

Mae’r Dinesydd eich angen chi!

Nawr mae prysurdeb yr Eisteddfod wedi cilio beth am wneud rhywbeth i helpu'r Dinesydd? Mae angen pob math o sgiliau gwahanol, fel gohebu, golygu, pwyllgora, dosbarthu, rheoli arian ac yn y blaen. Mae Pwyllgor Y Dinesydd yn gobeithio gallu manteisio ar waith gwych y Pwyllgorau Apêl yn uno ardaloedd yng Nghaerdydd i alluogi'r papur i ddarparu newyddion hyd yn oed yn fwy lleol o fewn Caerdydd. Os oes gennych ddiddordeb rhowch alwad i Peter Gillard ar 01446­760007 neu 07859­007406.

Hanner can mlynedd yn ôl comisiynwyd yr artist Ray Howard Jones i greu murlun i ddathlu agoriad swyddfeydd newydd y ‘Western Mail’ a’r ‘Echo’ yn Thomson House ar gornel Havelock Street yng nghanol y ddinas. Cynhyrchwyd mosaig trawiadol, ugain metr o uchder a deg metr o led gyda’r siapiau lliwgar yn awgrymu llifeiriant papur yn tasgu o’r wasg ­ y cyfan yn cyfleu bwrlwm y byd argraffu. Codwyd y murlun ar dalcen adeilad Thomson House a daeth yn

olygfa gyfarwydd i filoedd dros y blynyddoedd, wrth iddynt droedio i’r hen bwll nofio neu’n ddiweddarach wrth anelu at gatiau cefn y Stadiwm Genedlaethol. Fel y gwyddoch bellach, mae’r

pencadlys wedi ei ail leoli ac felly mae’r gwaith o ddymchwel yr hen Thomson House, yn cynnwys y murlun yn mynd rhagddo. Ganwyd Ray Howard­Jones yn Lloegr

i rieni o Gymry. Roedd ganddi gysylltiadau cryf â Chymru ers ei phlentyndod pan fu’n aros ym Mhenarth gyda’i nain. Aeth i Goleg Celf Slade yn Llundain

cyn gwasanaethu fel artist rhyfel am gyfnod. Ymgartrefodd yn ardal Penfro a threulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn darlunio yn yr ardal. Mae ei gwaith i’w weld mewn nifer o leoliadau yn cynnwys yr ‘Imperial War Museum’, Lundain, Caeredin ac yn Amgueddfa Dinbych Y Pysgod. Bu farw ym 1996 yn 93 mlwydd oed.

Parhad ar dudalen 2 >

Clwb Gwawr yng Nghaerdydd

Bydd cyfarfod i sefydlu Clwb Gwawr yn y Brifddinas yn y Cameo Club nos Iau 9fed o Hydref am 7.30. Mae Clybiau Gwawr yn gyfle i fenywod ifanc i gwrdd unwaith y mis i ymlacio a joio drwy fwynhau gwahanol weithgareddau, yn amrywio o flasu gwin a chwarae bingo i ddawnsio salsa a saethyddiaeth. Mae’r clybiau’n mynd o nerth i nerth, gyda 10 clwb newydd wedi agor yn ne Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Am fwy o fanylion cysylltwch gyda’r

Fenter neu Ruth Morgan, Swyddog Hyrwyddo Clybiau Gwawr y de [manylion ar wefan Clybiau Gwawr : www.clybiaugwawr.com]

Hydref 2008 Papur Bro Dinas Caerdydd a ’r Cylch Rhif 332

www.dinesydd.com

Roedd disgyblion Ysgol Sant Curig y Barri yn ffodus o gael cyfle i gwrdd ag un o nofwyr amlycaf Prydain. Daeth David Davies, sydd yn wreiddiol o’r Barri, i siarad am y profiad gwych o gystadlu yng ngemau Olympaidd Beijing.

Dathlu Llwyddiant yn y Gemau Olympaidd Colli Murlun

Rhan o sioe Tri10 yn yr Eisteddfod. Rhagor ar dudalen 3.

Page 2: Dinesydd Hydref 2008

Y Dinesydd www.dinesydd.com

CYFRANNU'N ARIANNOL Mae parhad Y Dinesydd yn dibynnu ar r o d d i o n g a n u n i g o l i o n a chymdeithasau. Rydym yn croesawu pob rhodd, bach a mawr. Anfonwch at: Trysorydd y Dinesydd, d/o Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd. CF14 2FG .

2 ISSN 1362­7546

Golygydd y rhifyn hwn: Elin Jones

Golygydd y rhifyn nesaf: Siân Parry­Jones

Anfonwch ddefnyddiau ar gyfer rhifyn Tachwedd 2008

erbyn 24 Hydref at: Siân Parry­Jones,

87 Halliard Court, Glanfa Iwerydd, Caerdydd CF10 4NH

ebost: [email protected] ffôn: 07985043633

neu at Gadeirydd Pwyllgor Y Dinesydd:

Peter Gillard, Tŷ Llwyd, Drope Rd., Sain Siorys, Bro Morgannwg CF5 6EP (e­bost: [email protected]

ffôn: 01446­760007). MANYLION CYSYLLTU

Calendr y Dinesydd Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys

Newydd, Caerdydd CF14 2AJ ([email protected];

029­2062­8754) Hysbysebion

Glyn Jones, Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf,

Caerdydd CF14 2FG ([email protected]; 029­2056­5658)

Derbyn a dosbarthu copïau Ceri Morgan, 24 Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7HU

([email protected]; 07774­816­209) Rhoddion a thaliadau

Trysorydd y Dinesydd, d/o Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf,

Caerdydd CF14 2FG Noddi rhifynnau

ac ymholiadau cyffredinol Peter Gillard 01446­760007. Cyhoeddir Y Dinesydd gan

Bwyllgor Y Dinesydd. Fe’i cysodir gan Penri Williams

a’i argraffu gan Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.

Y DINESYDD HYDREF 2008

Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd Erbyn i chi darllen hwn, bydd y Cylch wedi cael ei gyfarfod cyntaf ar ôl seibiant yr haf. Mae’r Llywydd, Alun Reynolds, wrthi yn trefnu rhaglen am y tymor newydd. Yn 2008 bydd y Cylch yn cyfarfod ar Hydref 6ed, Tachwedd 3ydd a Rhagfyr 1af. Am fanylion am gyfarfodydd y tymor newydd cysylltwch â Tony Couch ­ (029) 2075 3625. [email protected]

Sioe Nadolig Cyw Bydd Sioe Nadolig Cyw 2008 yn teithio i ddeuddeg o leoliadau ledled y wlad yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddathlu’r Nadolig. Ar ddydd Sul, 6 Rhagfyr, bydd y daith

yn cyrraedd ardal Y Barri gyda thair sioe yn ystod y dydd, yn cychwyn am 11.00pm, 1.00pm a 3.00pm. Bydd llu o wynebau cyfarwydd yn

ymddangos yn y sioe a gynhelir yn Ysgol y Fro, gan gynnwys Sali Mali, Hana a Francis o Holi Hana, Now o Ribidirês, cymeriad Heini, Cyw ac wrth gwrs, Siôn Corn. Bydd pris mynediad o £3.00 i bawb, yn

blant ac oedolion, a bydd system o archebu tocynnau ymlaen llaw yn weithredol trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad cenedlaethol). Am ragor o wybodaeth i’r wasg neu

am gyfle i anfon ffotograffydd, cysylltwch â Gareth Evans ar 029 20 741214 Dyma fanylion lleoliadau’r Daith

Nadolig yn y cylch: Rhagfyr 4 Theatr y Dolman, Casnewydd (10.30pm a 1.30pm) Rhagfyr 6 Ysgol y Fro, Y Barri (11.00pm, 1.00pm a 3.00pm) Rhagfyr 12 Theatr Tudful, Merthyr Tudful (10.30pm a 1.30pm)

RhAG ­ Rhieni Dros Addysg Gymraeg

GWAHODDIAD

Cynhadledd Flynyddol 2008

Dymuna RhAG estyn gwahoddiad cynnes iawn i chi fynychu ein

Cynhadledd Flynyddol a gynhelir ar ddydd Sadwrn Hydref 18, 2008 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd.

10.00am – 2.00pm Siaradwr Gwadd Mr David Williams –

Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe

Sesiwn drafod a chwestiynau o'r llawr

Cinio bwffe Pris mynediad yn cynnwys cinio fydd

£10.

Pe na byddech yn dymuno derbyn cinio yna codir £2 yn unig.

Cysylltwch â Ceri Owen, Swyddog Datblygu RhAG ar 02920 399575 / 07912175403 neu [email protected].

Ethol Swyddogion Pwyllgor Y Dinesydd

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Dinesydd yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina ar 9 Medi. Fe etholwyd Peter Gillard yn Gadeirydd, Sian Parry­Jones yn Is­Gadeirydd, Siân Couch yn Ysgrifennydd, Peter Gillard yn Drysorydd­dros­dro, Ceri Morgan yn Swyddog Dosbarthu, a Glyn Jones yn Swyddog Hysbysebion. Fe etholwyd y canlynol fel aelodau o'r Pwyllgor, sef Robin Griffith, E Wyn James, Gwilym Roberts, Alun Williams, Penri Williams, Elfrys Jones a Rhun Jones. Llongyfarchwyd Dr E Wyn James ar gael ei urddo i wisg wen yr Orsedd yn Eisteddfod Caerdydd.

Colli Murlun (Parhad o dudalen 1)

Bellach mae un o weithiau mwyaf yr artist arwyddocaol hon wedi diflannu am byth. Mae hyn, nid yn unig yn golled i Gaerdydd ond yn dolc arall yn yr ymgyrch i hybu’n hymwybyddiaeth o gelf cyfoes Cymru. Mae’n siŵr fod yna rhai pobol digon

hapus yn y ddinas y dyddiau hyn. Mae caredigion y gân yn cael cerflun o’r cyfansoddwr Ivor Novello i’w leoli y tu allan i Ganolfan y Mileniwm cyn hir. Mae’r llyfrbryfaid hefyd wedi cael rhywfaint o newyddion calonogol ynglŷn â bwriad y Cyngor i werthu rhai o lyfrau prin y genedl. Arbedwyd tri deg ohonynt rhag morthwyl yr ocsiwnïar wrth i’r Brifysgol gytuno i’w gwarchod. Ond ‘dyw hi ddim yn fêl i gyd. Mewn

rhan arall o’r ddinas fe ddinistriwyd un o weithiau celf fwyaf nodedig o dan ein trwynau, yn gwbl ddiseremoni a heb unrhyw lais gwrthwynebus.

Page 3: Dinesydd Hydref 2008

3 Y DINESYDD HYDREF 2008

Cofroddion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

I gofio dathlu pen­blwydd yn 30ain oed, mae’r ysgol wedi cynhyrchu nifer o nwyddau. Comisiynwyd plât a mwg arbennig o hardd gan Grochendy Rhymni. Maent ar werth o’r ysgol .Pris y plât yw £15 a’r mwg yn £6.50 (neu £8 mewn bocs ). I’r rhai iau eu hysbryd mae amrywiaeth

o grysau T, eto ar gael o’r ysgol. Cynhyrchwyd cardiau cyfarch a

chardiau Nadolig ,sy’n gwerthu am 4 cerdyn am £1 bargen! Ar gael o’r ysgol eto ac o Siop y Felin yn y man.

Glantaf yn cwmnïa’n llon!

Rhowch 170 o gyfeillion Ysgol Glantaf mewn stafell, ychwanegwch fwyd blasus ac Aled Gwyn fel Meuryn a be gewch chi? Noson hwyliog iawn! Daeth criw amrywiol eu hoedran

ynghyd yn yr Happy Gathering Treganna,fel rhan o ddathliadau “Glantaf yn 30”. Cafwyd cwis ar ddigwyddiadau pwysig 1978­flynyddoedd cyn geni rhai oedd yno! Bu crafu pen dros “dingbats” dwl a bu Aled Gwyn yn cloriannu limrigau Cymraeg a Saesneg. Gellir dweud gyda pheth sicrwydd nad oedd darpar brifardd yn y cwmni! Ond pa ots? Cael hwyl gyda’n gilydd oedd y nod ac fe gawsom hynny yn bendifadde.

Ysgol Glantaf yn yr Eisteddfod

Bellach a phawb nol yn y tresi daeth cyfle i fwrw golwg yn ôl ar wythnos brysur a llwyddiannus yr ysgol yn yr Eisteddfod. Fe ddechreuodd yr wythnos ar nodyn

uchel iawn, gyda’r cyngerdd Tri10, ffrwyth misoedd o ymarfer a pharatoi..Braf oedd gweld nifer o gyn­ ddisgyblion yn rhannu eu doniau gyda ni. Hir yr erys perfformiad Gareth Bonello a Ieuan Wyn yn y cof. Trueni oedd deall na chafodd y gynulleidfa gatre weld na chlywed y pedwarawd na ‘r plant iau yn canu rhan o Joseff. Ond noson a erys yn hir yn y cof a diolch i Delyth Medi ac Alun Guy am eu holl waith. Mlan o’r pafiliwn i’r parti! Cyfle

wedi’r sioe i gwrdd â hen ffrindiau ac ail­lygadu hen gariadon, i edrych nôl dros ysgwydd y blynyddoedd ac ail fyw dyddiau ysgol.. “Ti ddim wedi newid dim!” “Pam smo ni neud hyn yn amlach?” “Wyt ti’n cofio…” Roedd hi’n braf gweld cymaint o gyn rieni, cyn ddisgyblion a chyn athrawon yn cymysgu gyda chymdeithas Glantaf y presennol. Ac ni chafodd neb fwy o groeso na Malcolm Thomas, y prif athro cyntaf a Huw Thomas ei olynydd. Mawr yw diolch Glantaf heddiw am y seiliau cadarn a osodon nhw. Gan fod Plasmawr a Glantaf yn dathlu

penblwyddi arbennig, penderfynwyd rhannu pabell sylweddol ei maint ar y maes i roi cyfle i ddangos rhychwant darpariaeth y ddwy ysgol. Bu trefnu gofalus, comisiynwyd baneri, a bu hen chwilio am luniau difyr i greu arddangosfa liwgar. Buan yr aeth yr hanes ar led am yr

arddangosfa a gwelwyd llafnau tal a merched soffistigedig yn rhythu a syllu …a chanfod eu hunain yn dwts bach bochog unwaith eto. Fe ddaeth Mathew Rhys o ganol ei brysurdeb derwyddol i weld ei hun fel Elvis unwaith eto ac i wisgo ei glogyn euraidd..Ac i dynnu ei lun gyda llu o edmygwyr. A dyna fu’r drefn gydol yr wythnos.

Hel clecs a chwrdd â hen ffrindiau dros baned o goffi (diolch Siân!) bob bore ac

amrywiol weithgaredd gan Glantaf a Plasmawr bob pnawn. Côr Glantaf un pnawn a Random Elbow Pain,grwp o Blasmawr bnawn arall. Caneuon o’r sioeau gan grŵp o

ddisgyblion Glantaf yn tynnu torf i wrando. Cwis gan Gareth Roberts, un o rieni Plasmawr, yn creu cystadleuaeth iach rhwng timau o’r ddwy ysgol. A neb yn hidio pwy enillodd dim ond mwynhau yr hwyl. Ydych chi’n gwybod sawl mis sy â 28 diwrnod ynddo??? Rhag ofn i’r ddwy ysgol gwympo mas

daeth RHAG a Chronfa Glyndŵr i rannu’r babell hefyd. Y naill fudiad wedi ymladd achos addysg Gymraeg yn brifddinas a ledled Cymru ac yn dal i wneud a’r llall wedi bod yn gefn i addysg Gymraeg ar hyd y blynyddoedd ac wedi ariannu nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus RhAG.. Ni chyfyngwyd cyfraniad Glantaf i’r

pafiliwn. Bnawn Mawrth cyflwynwyd rhaglen ar Gaerdydd, yn seiliedig ar waith llenyddol a ysbrydolwyd gan y brifddinas. Roedd y rhaglen yn slic a soffistigedig, fel sy’n gweddu i raglen ddinesig a phlant y ddinas. Roedd adrodd i cerdd gan Emyr Lewis

am yr Ais i gyfeiliant sacsoffon yn arbennig o drawiadol. A diolch i’r disgyblion rheiny gymerodd rhan am roi eu hamser gwyliau i ymarfer. Efallai daw cyfle eto i glywed y rhaglen hon ­ mae’n haeddu mwy o gynulleidfa nag oedd yn y Babell Lên Wythnos lawn. Wythnos brysur.

Wythnos lwyddiannus. Diolch i bawb gyfrannodd at y bwrlwm.

Y gacen yn ddiweddglo sioe Tri10 yr Eisteddfod

Côr Meibion y sioe Tri10

Plât y Dathlu

Page 4: Dinesydd Hydref 2008

4 Y DINESYDD HYDREF 2008

AELWYD HAMDDEN CYMRY CAERDYDD

Wedi ymddeol ac amser ar eich dwylo ? Hoffi cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg? Newydd symud i Gaerdydd efallai. Yna beth am droi i mewn i'r Aelwyd Hamdden? Rydym yn cwrdd am 2.30 o'r gloch bob yn ail ddydd Mercher, yn festri capel Minny Street, y Waun Ddyfal, gyda'r cyfarfod nesaf ar Hydref 22 ain . Mae'r rhaglen am y flwyddyn yn cynnwys sgyrsiau, ambell gyngerdd, te Nadolig a chinio Gŵyl Ddewi a thrip neu ddau a'r cyfan am dâl aelodaeth o £5 y flwyddyn. I'r rheiny ohonoch sy'n hoff o ganu mae cyfle hefyd i ymuno â chôr yr Aelwyd Hamdden sydd bellach wedi ennill ei blwyf ymhlith corau Pensiynwyr Cymru. Efallai y gellir trefnu cludiant o rai ardaloedd. Os am ragor o fanylion ffoniwch

Marian Lake ar 593776.

CF1 Bu Haf 2008 yn dipyn o antur i gôr CF1. Dechreuodd yr anturio ar gaeau Pontcanna, a gorffen yng ngwres tanbaid Chicago!

YR EISTEDDFOD! Mwynheuodd y côr gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod eleni. Diolch i bawb am eu gwaith caled yn sicrhau’r llwyddiannau isod: 1af ­ Parti Cerdd Dant Agored, 2il ­ Côr Poblogaidd dan 35 o leisiau, 2il ­ Côr SATB rhwng 20 a 45 o leisiau, 2il ­ Côr Cerdd Dant Agored, 2il ­ Parti Gwerin Agored

AMERICA! Dechreuodd ein taith i America yn Efrog Newydd. Cawsom amser braf yn ymweld â nifer o atyniadau megis: Central Park, Yr Empire State Building, Ellis Island, So­Ho, Tiffanys, galerïau celf a nifer o sioeau Broadway. Cawsom hefyd y cyfle i gadw cyngerdd yn Eglwys y Drindod ­ Trinity Church ar Wall Street. Profiad hollol unigryw a fydd yn aros gyda’r aelodau am byth rwy’n siŵr. Wedyn, aethom ymlaen i Bensylvannia

a chael croeso cynnes iawn gan Beth Landmesser a’i theulu. Yr oeddem yn aros yng nghoedwig odidog ‘Yr Indian Lake Park’ yn Wilkes­barry mewn tai pren o gwmpas llyn. Fe fu Beth yn hwylio prydau bwyd ar ein cyfer i gyd ­ 37 ohonom yn ei chartref! Cawsom gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon o gwmpas, ac yn y llyn! Ar ein noson olaf cawsom fwynhau Hog Roast a thân gwyllt gyda’r teulu. Cawsom groeso hyfryd hefyd yn ein cyngerdd yng nghapel Coleg y Brenin, a braf oedd cael siarad Cymraeg gyda nifer o’r Americanwyr. Yr oedd rhan olaf ein taith yn ein tywys i Chicago. Cawsom amser unwaith eto i anturio o gwmpas y ddinas hardd. Aeth llawer i’r ŵyl Jazz, nifer i’r orielau celf a’r Ciars Tower, a nifer i weld y cerfluniau hardd sydd yng nghanol y ddinas. Daeth ein taith i ben gyda chyngerdd mawreddog yn y gymanfa ganu ryngwladol yn y ddinas. Roedd yn brofiad gwefreiddiol gyda’r croeso yn aruthrol ac yn fraint cael canu i gynulleidfa mor wresog.

TYMOR NEWYDD! Mae’r côr yn ôl yn ymarfer yng Nghymru fach ac yn croesawu aelodau hen a newydd i’r ymarferion sydd yn cael eu cynnal yn Eglwys Dewi Sant bob nos Lun am 7.00. Dewch yn llu!!!

Dechra araf i dymor

Clwb Cymric Dechra eithaf araf y bu i dymor Clwb Cymric gyda sawl gem yn cael ei gohirio oherwydd y tywydd gwlyb. Hyd yn hyn dim ond un gêm mae’r tîm cyntaf wedi chwarae, gem gyfartal tair gôl yr un yn erbyn y Tyllgoed gyda Dylan Jones yn sgorio gydag ergyd o’r hanner ffordd yn eiliadau cynta’r gem, Rhodri Williams yn rhoi Cymric dwy ar y blaen cyn i’r Tyllgoed gael cyfnod llewyrchus a mynd tair i ddwy ar y blaen. Ond yn lwcus i Cymric dyma Carl Roberts yn dod i’r maes fel eilydd ac unioni’r sgôr ym munudau ola’r gêm. Bu’r ail dîm yn llwyddiannus iawn yn

eu gêm gyntaf ers dyrchafiad i’r gynghrair gyntaf gan guro Bridgend Street o wyth gôl i un. Colli o un i ddim bu eu hanes yn yr ail gêm yn erbyn tîm profiadol Cogan Coronation a methu cic o’r smotyn yn eiliadau ola’r gêm. Eleni bydd holl gemau cartref Clwb

Cymric yn cael eu chwarae ym Mharc Trelái nes i’r Cyngor orffen gwaith adnewyddu caeau Pontcanna. Mae sesiynau hyfforddi’r clwb yn cael eu cynnal ar gae astro turf Leckwith rhwng 8 a 9 pob nos Lun yn dechrau ar Hydref y 6ed ac mae croeso i unrhyw chwaraewyr newydd. Bydd Clwb Cymric yn dathlu pedwar

deg mlynedd diwedd y tymor ac mae’r trefnu wedi dechrau ar gyfer dathliad mawr. Mae’r clwb yn annog cyn chwaraewyr i gysylltu er mwyn gallu eu gwahodd i’r dathliadau a’r gobaith yw cael cynrychiolaeth ac anerchiad o bob degawd i ddathlu bodolaeth a hanes y clwb. Os oes diddordeb chwarae i un o’r timau, diddordeb helpu’r clwb neu yn y dathliadau pedwar deg cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Rhys Meilir Davies, [email protected] ffôn 07775 992 673.

Llongyfarchiadau i Wynn ac Angela Roberts, Pentyrch ond gynt o Riwbeina ar ddathlu eu Priodas Aur ar 23 Awst

Tony Couch, y Mynydd Bychan ar ei ymddeoliad o Adran Gyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ar ôl gyrfa hir a llwyddiannus ac am ddathlu ei ben­blwydd yn 60 oed ar 12 Medi

Geraldine Brooks, Treganna ar ennill ei doethuriaeth ym mis Medi.

Priodwyd Aled Walters a Siân Eleri Jones yng Nghapel Minny Street ar 29 Awst ac wedi hynny yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd. Maen nhw wedi ymgartrefu yn ardal Pontcanna

Priodas

Page 5: Dinesydd Hydref 2008

5

Genedigaethau

Jonathan Richards, MBA; BSc.(Hons.)

Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol Arbenigo mewn darparu cyngor ariannol diduedd yn y meysydd

canlynol:

Cynilion a Buddsoddiadau (gan gynnwys Cronfa

Ymddiriedolaeth Plant a chynllunio ar gyfer ffioedd

ysgol/prifysgol)

Cynllunio Ymddeoliad a Diogelu

(o Yswiriant Bywyd i Salwch Difrifol, o Ailosod Cyflog i

Ddiswyddiad).

ebost: [email protected]

Ffôn Symudol: 07957 140650

Y DINESYDD HYDREF 2008

Ysgol y Berllan Deg

Croeso nôl i bawb ar ôl gwyliau’r haf. Erbyn hyn, mae pawb wedi dechrau setlo yn eu dosbarthiadau newydd. Eleni am y tro cyntaf, mae gennym ddau ddosbarth ym Mlwyddyn 6 sef plant hynaf yr ysgol.

Llongyfarchiadau i nifer o blant am ennill tystysgrifau am lunio logo ar gyfer Cartref Gofal Tŷ Enfys, Pentwyn. Caiff syniadau’r plant eu defnyddio ar gyfer datblygu logo ar gyfer y cartref.

Llongyfarchiadau hefyd i Ella Boyle, Abi King, Gwion Robertson, Hannah Watkin a Samuel Wilkes am lunio cerddi heddwch ar gyfer cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Gangen De Cymru o Soroptimist Rhyngwladol. Caiff cerddi’r plant eu cyhoeddi mewn llyfryn i ddathlu Diwrnod Heddwch Rhyngwladol.

Cafodd Blwyddyn 5 dridiau i’w cofio yng nghanolfan awyr agored ‘Call of the Wild’ ar fferm Maes y Fron, Abercraf. Buont yn lwcus iawn o’r tywydd, ac yn amlwg roedd pawb wedi mwynhau’r holl weithgareddau oedd yn amrywio o gwrs antur i sgramblo ceunant. Diolch i bawb am yr holl drefniadau.

Bydd Blwyddyn 2 yn mynd ar drip i Gasnewydd i weld perfformiad Llyfr Bach y Plant.

Rydym yn falch o groesawu staff newydd i’n plith. Croeso nôl atom i Mr Siôn Williams fydd yn addysgu Blwyddyn 3 tan y Nadolig; Miss Alex Avoth fel cynorthwywraig yn y Dosbarth

Côr Meibion Taf

Rhai o aelodau Côr Meibion Taf yn dilyn eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Gen ed l a e t h o l e l en i . Roedden nhw’n fuddugol yn y gystadleuaeth i gorau meibion rhwng 20­45 o leisiau. Mae’r côr yn ymarfer pob nos Sul am 7.30 yn festri Capel Y Tabernacl, Yr Ais. Mae nifer o gyngherddau a nosweithiau cymdeithasol eraill yn cael eu trefnu’n gyson. Croeso cynnes i aelodau newydd. Os ydych am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â’r ysgrifennydd, Owain Evans drwy e­bost ar [email protected]

Llongyfarchiadau i Brengain ac Aron Evans, Yr Eglwys Newydd, ar enedigaeth Menna Llwyd ar y 7fed o Fedi. Chwaer fach i Elan, Rhiannon, Gwern a Luned, ac wyres i Ruth a Meic Stephens a Glenys ac Anthony Evans, yr Eglwys Newydd.

Llongyfarchiadau i Alex Jenkins (gynt o Riwbeina) a Lyndsey Thomas (gynt o Gynwyl Elfed) ar enedigaeth eich merch fach, Mali, ar 18 Gorffennaf 2008. Wyres newydd i Eira a Picton Jenkins a Glan a Veronica Thomas. Hefyd carai'r teulu ddymuno Pen­

blwydd Hapus i Thomas Rhys, mab Stephen (Frog) Jenkins a Siân Thomas o Dreganna, sy'n dathlu ei ben­blwydd yn un oed ar 30 Medi 2008. Pob dymuniad da iddo oddi wrth Eira a Picton a Rhys a Helen.

Doethuriaeth Llongyfarchiadau i Steffan Morgan ar ennill ei ddoethuriaeth mewn Hanes ym mhrifysgol Abertawe dan diwtoriaeth yr Athro Chris Williams. Ei bwnc oedd streic y glowyr 84­85. Bu Steffan yn astudio Hanes ym mhrifysgol Bryste lle enillodd radd B.A a gradd M.A (gydag anrhydedd). Mae Steffan yn gyn­ ddisgybl yn ysgol Glantaf, ac yn fab i'r actores Sharon Morgan a Julian Courtenay, Llundain. Bu Steffan yn ddarl ithydd ym Mhrifysgol ion Morgannwg a Caerdydd, ac ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu rhaglenni dogfen i ITV.

Clwb y Diwc Cymdeithas newydd Gymraeg wedi'i sefydlu yn sgil gweithgarwch codi arian i'r Eisteddfod yn Nhreganna yw Clwb y Diwc. Y bwriad yw cynnal digwyddiad

cymdeithasol ar drydydd nos Wener bob mis. Cynhaliwyd y noson gyntaf ar nos Wener 19 Medi yng nghwmni Gwyneth Glyn. Ym mis Hydref cynhelir Cwis gyda

Aled Wyn a Glyn Goll ­ nos Wener 17 Hydref. Noson Beirdd yn y Bar nos Wener

Tachwedd 21. Parti Nadolig ­ nos Wener 12 Rhagfyr.

Felly rhowch y dyddiadau yn eich dyddiadur a dewch draw i fwynhau a chymdeithasu!

Cangen y De, Cymdeithas

Cymru­Ariannin Cynhelir sosial/te parti i gyfeillion ac aelodau'r Gangen am 3.30 pm brynhawn Sadwrn 11 Hydref yn Neuadd Eglwys St Catherine, Kings Road, Pontcanna (y drws nesa i Siop Llyfrau Cymraeg Y Caban). Croeso cynnes i bawb.

Meithrin; Miss Rhian Gregory yn gynorthwywraig ym Mlwyddyn 1, ac i Mrs Morag Jones sy’n gynorthwywraig yn y Dosbarth Meithrin ac yn yr Adran Iau. Gobeithio y byddwch yn hapus yn ein plith.

Llongyfarchiadau i Miss Ffion Jones ar ei dyweddïad yn ddiweddar gyda Chris. Pob lwc i’r dyfodol.

Page 6: Dinesydd Hydref 2008

Hoffai bawb yn y Meithrin diolch i Aled Williams, rheolwr banc Nat West Radur, a’r staff i gyd am eu rhodd ariannol ar ddiwedd tymor diwethaf. Bydd yr arian yn cael ei wario ar adnoddau newydd i blant yr Ysgol Feithrin yn ystod y tymor yma. Ar ôl cael egwyl dros wyliau’r Haf a

nawr gyda thymor yr Hydref ar fin dechrau yn yr Ysgol Feithrin ‘rydym yn croesawu arweinydd newydd, sef, Anti Jade i weithio gyda Anti Angharad a’r plant bach i gyd. Mae’r tymor yma yn mynd i fod yn un prysur eto gyda gweithgareddau diddorol! Mae Anti Jade hefyd yn arwain cylch

Ti a Fi ar fore Gwener o 09.15 – 10.45. Bydd hyn yn dda i’r plant bach sydd yn bwydo mewn i’r Meithrin pan yn 2 ½ oherwydd byddant yn adnabod wyneb cyfarwydd! Croeso mawr i bawb i ymuno gyda ni yn y cylch bach yma lle mae cyfle i’r plant i chwarae a rhieni / gwarchodwyr cael paned a sgwrsio yn y Gymraeg. Dyma le gwych os ydych am fagu eich plant trwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu Cymraeg eich hun! Am fwy o wybodaeth cysylltwch â

Rhian ar 029 20842038 neu [email protected]

6

Hysbysebwch yn

Cylchrediad eang yn y ddinas a’r cylch ac ar y we

www.dinesydd.com Ffôn: 029 20565658

Y DINESYDD HYDREF 2008

Ysgol Iolo Morganwg

Hwyl iddynt oll wrth lwyddo

Croesawyd disgyblion yr ysgol nôl i’r ysgol â newyddion arbennig ym Mis Medi. Bu’r ysgol yn llwyddiannus yn y cynnig am grant loteri i ddatblygu tir yr ysgol. Cyflwynwyd siec am dros £4,000 i blant Ysgol Iolo er mwyn datblygu cysgodfan pwrpasol dros ardaloedd dysgu allanol. Fe fydd y gwaith yn cychwyn yn fuan ar yr ardal a fydd yn cael y defnydd orau posib nid yn unig gan ddisgyblion yr ysgol ond y Cylch “Ti a Fi” sydd nawr yn cwrdd yn yr uned feithrin pob prynhawn Gwener.

Mae dewis cyngor Ysgol newydd yn gallu bod yn benderfyniad anodd, felly er mwyn ceisio hwyluso’r broses i’r disgyblion daeth Mr Alun Cairns AS i gynnal gwasanaeth i’r disgyblion ar gefndir etholiad a dewis cynrychiolwyr newydd. Bu’r plant wrth eu bodd yn cynnig syniadau newydd a meddwl am ffyrdd o ddatblygu’r ysgol­ gyda rhai yn crybwyll adeiladu pwll nofio! Diwedd y gân yw’r geiniog!

Aeth disgyblion Blwyddyn chwech i barc y Bont Faen er mwyn dysgu sgiliau cyfesurynnau, cyd­weithio a datrys problemau. Roedd gofyn i’r plant feddwl yn ofalus, cyfathrebu , holi cwestiynau a datrys problemau yn yr awyr agored. Sgiliau sy’n datblygu’r plant i fod yn gyfrifol a helpu eraill. Diolch i Mr Richard Hamilton am arwain y diwrnod.

Daeth David Davies a’r fedal arian a enillodd am nofio 10,000 metr i ddangos i holl ddisgyblion a staff yr ysgol. Neges David os am lwyddo mewn unrhyw faes yw ymdrechu’n galed a gwneud eich gorau. Diolch yn fawr iawn i gwmni Darren

Evans Flooring am roi a gosod carped newydd sbon yn Nosbarth Mr Jones Blwyddyn 4 a hynny am DDIM!!. Mae’r dosbarth yn edrych yn grêt erbyn hyn.

Ysgol Sant Curig, Y Barri

Cynhaliwyd bore Coffi ar fore Gwener y 19eg o Fedi er mwyn codi arian tuag at elusen NSPCC. Noddwyd y bore Coffi gan Tesco a gan fod yr ysgol eisoes yn Ysgol Masnach Deg paratowyd bagiau Masnach Deg fel gwobrau raffl i gyd fynd a’r achlysur. Blwyddyn 3 a 5 oedd yn gyfrifol am wasanaethu’r bore. Diolch i bawb am gefnogi’r bore coffi.

Ysgol Feithrin a Cylch Ti a Fi Radur a Phentrepoeth

Buodd y plant yn brysur dros wyliau’r Haf yn paratoi ar gyfer Pasiant y Plant at Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ar Awst 3ydd, fe wnaeth 8 o’r plantos bach sefyll ar y llwyfan mawr a chanu caneuon yn llawn hwyl am y tymhorau yng nghwmni meithrinfeydd eraill Caerdydd. Braf oedd gorffen y dydd ar y maes gyda pharti mawr!

Rhyddfraint y Dre Llongyfarchiadau i David Davies, Y Barri, ar ennill medal arian yn y Chwaraeon Olympaidd yn Beijing. Daeth anrhydedd unigryw i'w ran ar 9 Medi yng Ngwesty'r Mount Sorrell, Y Barri, pan gyflwynwyd rhyddfraint y dre iddo. Fe yw'r person cyntaf i dderbyn yr anrhydedd ers 1956 pan gyflwynwyd yr un anrhydedd i'r Aelod Seneddol Dorothy Rees. Ymddengys mai David yw'r ifancaf, yn 23 oed, i dderbyn rhyddfraint unrhyw dre. Mae David Davies wedi cael medal aur

am ennill y ras nofio ar hyd Llyn Windermere. Roedd dros 2,000 o nofwyr yn y ras o filltir o hyd a chyflawnodd David y gamp mewn 17 munud 2 eiliad. Llongyfarchiadau iddo.

Mae Meic Stephens, Yr Eglwys Newydd, wedi cyhoeddi nofel newydd yn Saesneg, Yeah, Dai Dando (Cinnamon). Gosodir rhan fwyaf y nofel yn Ystum Taf a'r Eglwys Newydd a bydd trigolion gogledd Caerdydd yn adnabod y lleoedd eraill a enwir. Mae Dai Dando, dyn ifanc sy'n dod o deulu dosbarth­ gweithiol ym Mhontypridd, yn ennill ei fara beunyddiol gyda Chymdeithas Adeiladu'r Gwalia ac yn byw yn Andrews Street. Mae'n canlyn Eleri Vaughan Jones, ac mae ei theulu hi'n byw mewn tŷ (band H) yn Radur. Nofel ddarllenadwy a ddychanol am Gymreictod a'r Gymru newydd yw hon.

Nofel am yr Eglwys Newydd

Page 7: Dinesydd Hydref 2008

7 Y DINESYDD HYDREF 2008

Mae sesiynau 'hei­di­ho' yn galluogi rhieni/gofalwyr i gael hwyl gyda'u gilydd wrth ddod yn gyfarwydd a phrofiadau

chwarae creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae dysgu yn hwyl yn 'hei­di­ho'; ac yn cynnig cyfle i ganu hwiangerddi, caneuon actol ac i chwarae offerynnau. Drwy

odl ac ailadrodd mae plant yn dysgu rhifau, lliwiau, rhannau'r corff a llawer mwy.

Sesiynau: Eglwys Newydd, Capel yr Ararat, Y Philog

Dydd Llun ­ 10.00yb ­ 11.00yb

Treganna, Neuadd Heol Y Frenin, Heol Y Frenin Dydd Mawrth ­ 10.00yb ­ 11.00yb

Am fwy o manylion cysylltwch a Stephanie:

Rhif ffon: 029 20655031 E­bost: [email protected] Wefan: www.heidiho.co.uk

Apêl Llosgfynydd Chaitèn ­ y Dysgwr Cyntaf yn Cyrraedd

Cymru o’r Wladfa.

Ar ddydd Gwener, Mai 2il 2008 fe ffrwydrodd llosgfynydd Chaitèn yn Chile gan chwydu fflamau a mwg filltiroedd i'r awyr. Cariwyd y llwch a'r lludw hynny dros y ffin i’r Ariannin gan effeithio'n ddrwg ar drigolion Godre’r Andes lle mae ‘na gymdeithas Gymraeg gref. Pan ddigwyddodd hyn roedd trafodaethau eisoes ar y gweill rhwng Menter Iaith Patagonia ag Urdd Gobaith Cymru ynglŷn â’r syniad o bobl ifanc o’r ardal yn derbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Pryd hynny glywsom ni gan Ceri Jones o Hwlffordd, Sir Benfro.

Eleni cystadlodd mewn triathlon a llwyddodd i godi dros £200. Yn sgil darllen amdanon ni yn y wasg penderfynodd ein dewis ni i dderbyn y nawdd y tro hwn. Wedi ein hysbrydoli gan y rhodd hael hon wnaeth Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Iaith Patagonia apêl yn y wasg ac ar radio a theledu Cymru. Fe wnaeth ymateb hael a thwym galon pobl Cymru ein syfrdanu.

Daeth lif o gyfraniadau ac erbyn hyn rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod digon o arian wedi cyrraedd i ni ddanfon dau berson eleni. Mae un newydd gychwyn gydag un arall i ddilyn yn fuan. Yr un cyntaf i gyrraedd bydd Laura Niklitschek (23 oed) o Drevelin. Bydd hi’n aros am 6 mis yng Nghanolfan Preswyl Awyr Agored yr Urdd yn Llangrannog. Mae Laura wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes ers dwy flynedd a bydd yn dysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion yn ystod ei arhosiad. “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y profiad o gael gweld Cymru,

dysgu mwy am ei diwylliant ac wrth gwrs y cyfle i ddefnyddio a gwella fy Nghymraeg.” meddai Laura. Ar ran Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Patagonia hoffwn

ddiolch o galon i bawb yng Nghymru am wneud y profiad hwn yn bosibl.

www.mentercaerdydd.org 029 20 56 56 58

Diwrnod Teulu

Cymru v De’r Affrig

1.30pm, Dydd Sadwrn, Tachwedd 8 Taff Suite

Canolfan Chwaraeon Gerddi Soffia £3 i bawb.

Tocynnau ar gael o swyddfa’r Fenter.

[email protected]

Mae’r diwrnod yn rhan o ddathliadau Menter Caerdydd yn 10 oed.

CaerDydd a Nos 24 awr mewn prifddinas

Noson o gerddoriaeth a barddoniaeth yng nghwmni Heather Jones, Catrin Dafydd, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth, ac Owain Rhys.

Nos Iau, Tachwedd 6 Tafarn Tair Pluen (Owain Glyndwr)

Tocynnau £6 ar gael o swyddfa’r Fenter.

Mae’r noson yn rhan o ddathliadau Menter Caerdydd yn 10 oed.

Cynlluniau Gofal Hanner Tymor yr Hydref Fe fydd 3 Cynllun Gofal yn rhedeg yn ystod wythnos Hanner Tymor yr Hydref hwn – Ysgol Pwll Coch, Ysgol Melin Gruffydd ac Ysgol y Berllan Deg. Yn ystod yr wythnos, fe fydd llu o weithgareddau difyr wedi’u trefnu a fe fydd trip i’r sinema ar y Dydd Mercher. I gofrestru, cysylltwch â Gwyneth – [email protected]

Gwersi Syrffio Cymraeg yn y Gwyr Yn dilyn llwyddiant y cwrs syrffio tymor diwethaf, rydym yn cynnal dau sesiwn adeg Hanner Tymor eleni – Dydd Llun, Hydref 27 a Dydd Iau, Hydref 30. Mae’r tripiau yn addas i blant blwyddyn 4, 5 a 6. Cost sesiwn yw £40. Am ffurflen gofrestru, ebostiwch [email protected]

Gig Ieuenctid 14+ Just Like Frank,

Nos Sadwrn Bach, Byd Dydd Sul

a’r The Lay-lows

Nos Wener, Tachwedd 7 Clwb Ifor Bach

Drysau’n agor am 7.30pm Tocynnau ar gael o’r

Fenter,Ysgolion Glantaf a Phlasmawr

Cwis Tafarn Cymraeg Fe fydd cwis nesaf y

Fenter yn cael ei gynnal Nos Sul, Hydref 26

yn y Mochyn Du. 8pm. Croeso i bawb

Page 8: Dinesydd Hydref 2008

8

Newyddion o’r Eglwysi Eglwys y Crwys

Minny Street, Caerdydd

Y DINESYDD HYDREF 2008

Bedydd Hyfrydwch oedd tystio i fedydd Osian Elis Owen, mab Dewi a Nuria (Yr Eglwys Newydd) a brawd bach Alwyn, Ddydd Sul, Medi 7 fed .

Ail­gydio a chroesawu Wedi cyfnod cymharol dawel dros yr haf, ‘roedd wythnosau cyntaf mis Medi yn gyfle i ail­gydio yn holl weithgarwch yr Eglwys. Daeth pawb o amgylch Bwrdd y Cymun yn yr oedfa foreol ar y Sul cyntaf ac yna, yn yr hwyr, dechreuodd ein Gweinidog, y Parchg Owain Llyr Evans ar gyfres o bregethau ar liwiau’r enfys – lliwiau cyfamod Duw â’i bobl. Yn yr oedfa gynnar ar yr ail Sul, gyda phenawdau’r newyddion yn llawn gwybodaeth am ronynnau is­atomig yn chwildroi mewn cylch anferth, cawsom glywed a gweld pwysigrwydd pob unigolyn i gadw olwynion yr Eglwys i droi a mynd yn ei blaen. Dyma’r Sul hefyd cawsom air o arweiniad ac anogaeth gan ein Gweinidog am ein gwaith dros y flwyddyn i ddod. Mae’r Ysgol Sul, Clwb Pobl Ifanc, Bethania, Cyfarfodydd Gweddi, Cylch Darllen a Thrafod, a’r Teithiau Cerdded eisoes wedi ail gychwyn a bydd y Gymdeithas yn dechrau ar ei thymor o weithgareddau ym mis Hydref ­ digon i’n cadw yn brysur dros y misoedd i ddod!

Braint oedd croesawu'r Parchg John Gwilym Jones (Peniel, Caerfyrddin) i’n Cyfarfodydd Blynyddol ar drydydd Sul y mis. Cafwyd oedfaon bendithiol gyda dwy bregeth rymus a heriol. Diolchwn i gyfeillion eglwysi Cymraeg y ddinas am eu cefnogaeth a’u presenoldeb yn yr oedfa hwyrol.

‘Rydym eisoes wedi cael cwmni nifer o fyfyrwyr yn ein hoedfaon ­ rhai yn dychwelyd atom wedi gwyliau’r haf ac eraill yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Estynnwn groeso cynnes iawn i unrhyw un, boed yn fyfyriwr neu beidio, i ddod atom ar y Sul ac i weithgareddau’r wythnos. Os am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r Gweinidog, Owain Llyr (2019 3828) neu’r Ysgrifennydd, Bethan (2022 3657).

Yn ôl ym mis Ebrill llwyfannwyd Dydd y Cymod gan gwmni Drama Minny Street. ‘Roedd y ddrama ddwys gymhleth hon yn fenter fawr i gwmni a oedd, i raddau helaeth iawn, wedi arfer

llwyfannu comedïau. Wedi ymateb i brif bwyntiau’r beirniad aethpwyd â’r ddrama i’r Eisteddfod Genedlaethol. Gyda’r cyfuniad o berfformiadau disgybledig gan y cast, sef Zac Davies, Glyn Evans, Elinor Patchell ac Owain Llyr; a chyfarwyddo tynn a beiddgar gan Hywel Gwynfryn, daeth Cwmni Drama Minny Street i’r brig gan ennill y wobr am ddrama’r gystadleuaeth, ac yn ogystal enillodd Hywel y wobr am gyfarwyddwr y gystadleuaeth. Diolch i Elfrys Jones, Dwyfor Lynn Jones a Dyfrig Davies am eu cymorth mawr a pharod. Llongyfarchiadau mawr i Gwmni Drama Minny Street!

Hir fu’r haf yn dod ac yn y diwedd ni ddaeth, ac yn ei le diffoddwyd naws tymor y gwyliau gan lawogydd diddiwedd a drois ambell ddiwrnod ar faes ein Prifwyl yn fwy tebyg i gyfnod cynaeafu reis mewn gwledydd gwahanol. Serch hynny llifodd fflam gobaith drwy’r holl weithgareddau ar gaeau Pontcanna. Cynigiwyd paned, sgwrs a chysgod gan eglwysi’r ddinas o dan nawdd Cytun a chafwyd cymorth parod gan aelodau’r Crwys i gyfrannu at lwyddiant y fenter

THEATR Y MAES Yn Theatr y Maes llwyfannodd Cymdeithas Ddrama’r Crwys ddwy ddrama yn ystod yr wythnos. Ar y Nos Iau cyflwynwyd Pethma drama o waith Alan Ayckbourn a addaswyd i’r Gymraeg gan Bob Roberts, drama a leolwyd mewn ysbyty oedd hon ac yr oedd iddi gast o ddau ar bymtheg. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad yma gan Betsan Evans ag Arran Dallimore. Teyrnged i’r dramodydd W S Jones neu Wil Sam fel y’i hadnabyddid yn gyffredinol oedd cynhyrchiad Alan Cook o’r ddrama adnabyddus Y Fainc a lwyfannwyd ar y Nos Wener. Fel rhan o’r deyrnged cafwyd anerchiad byr a thrafodaeth yn nodi nodweddion y dramodydd unigryw hwn. Rhaid cydnabod hefyd gyfraniad nifer dda o’n haelodau a fu’n stiwardio yn y Theatr trwy gydol yr wythnos.

CYFEILLION YN CYFNEWID Fel arfer adnabyddir y mudiad hwn yn ôl y talfyriad Saesneg O. F. neu Operation Friendship, bu cangen yn y Crwys ers rhyw ugain mlynedd. Prif amcan y mudiad yw rhoi cyfle i’n ieuenctid i deithio dramor gan gyfnewid cartrefi yn ôl y cyfleon a ddaw bob yn ail flwyddyn. Eleni ein tro ni yn Y Crwys oedd derbyn

ieuenctid o’r Unol Daleithiau yn ystod Mis Gorffennaf, ac roedd y rhelyw ohonynt yn dod o dalaith Massachusetts. Gwnaed y trefniadau gan Hanna Jones yn cael ei chynorthwyo gan rieni ymroddgar a brwdfrydig.

Llongyfarchiadau Llongyfarchiadau i bawb o’n hieuenctid a fu’n llwyddiannus mewn arholiadau yn ystod yr haf eleni. Yr un dymuniadau da i Iestyn Shapey ar achlysur ei briodas â Rachel Atkins yn Harrogate ar ddiwedd Mis Gorffennaf. Ar y pegwn arall mae hi’n hyfryd cael llongyfarch Y Parch Tom Roberts a’i briod Gwen ar ddathlu ei priodas aur yn ddiweddar. Estynnwn hefyd freichiau llawenydd a phob bendith i Benjamin David mab bychan i Dafydd Huw a Caroline Jones a anwyd ganol Mis Medi, mae David yn frawd i Samuel ac yn ail ŵyr i David a Beryl Jones. Mae David wedi gwasanaethu ei Gapel a’i Enwad ers nifer fawr o flynyddoedd bellach. Ar yr un nodyn o lawenydd y llongyfarchwn Dafydd Herbert ar gael ei ddewis fel aelod o sgwad nofio tair ar ddeg oed Dinas Caerdydd. Mae Dafydd yn arbenigo yn y dull broga. Pob llwyddiant iddo yntau.

Cofio a Dathlu. Ddydd Sul Medi 21ain cafwyd cyfle i ddathlu a chofio i ni symud o’r hen addoldy yn Heol Crwys ugain mlynedd yng nghynt. Cynhaliwyd oedfa arbennig yn y bore oedd yn adlewyrchiad o’r holl weithgareddau a gysylltir â’r Eglwys, yn ogystal ag arddangosfa oedd yn gofnod gweladwy o’n bywyd ysbrydol. Yn dilyn yr oedfa cafodd pawb gyfle i fynd i’r festri i gymdeithasu ac i rannu atgofion uwch ben ‘paned o de.

Bethel, Rhiwbeina Yn ystod y Cwrdd Diolchgarwch derbyniwyd nwyddau i'w dosbarthu i'r anghenus yn Rwmania. Rydym wedi cefnogi'r ymgyrch leol yn Rhiwbeina a'r Eglwys Newydd ers sawl blwyddyn bellach ac mae'r trefnwyr yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth yr eglwysi. Mae loriau yn llawn nwyddau wedi gadael Caerdydd am Rwmania bum gwaith eisoes eleni ac mae chwech lori arall yn gadael Hydref 23ain.

Bu ein cyn­weinidog, y Parchedig D. Haydn Thomas, yn pregethu ym Methel yn ystod mis Medi a cafwyd y cyfle i ddymuno'n dda iddo yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Page 9: Dinesydd Hydref 2008

9

Eglwys Dewi Sant Salem Treganna Ebeneser, Heol Siarl Y DINESYDD HYDREF 2008

Lansio Apêl Elusen Ebeneser am 2008 ­ 09 yw Apêl De Affr i ca HIV/Aids mewn cydwei thrediad ag Undeb yr Annibynwyr a Chymorth Cristnogol. Hyfrydwch oedd cael croesawu Mrs Delyth Evans, Alltwen, atom i’r Cwrdd Ieuenctid i lansio'r Apêl. Rhannodd gyda ni ei phrofiadau a’i hargraffiadau o’i hymweliad diweddar â De Affrica gan ddangos yr angen dybryd sydd yno. Unwaith eto roeddem yn sylweddoli pa mor gyfoethog a breintiedig ydym yma yng Nghymru. Cymerwyd rhan yn yr oedfa gan Esyllt Jones, Erin Gough, Ifan Jones, Gwilym Tudur, Ffion O’Brien, Elin Harding a Rebeca Thomas.

Eisteddfod 2008 Gyda chaeau Pontcanna yn wag, heblaw caban neu ddau, anos iawn yw dirnad fod yr eisteddfod wedi bod yn y ddinas o gwbl, o leiaf yn weladwy! Er gwaetha’r tywydd cafwyd eisteddfod lwyddiannus. Ar y dydd Gwener gyda’r tywydd fymryn gwell cafwyd y nifer mwyaf o ymwelwyr ers sawl blwyddyn. Bu llwyddiant ym mhob un o’r prif seremonïau. Côr Caerdydd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth i gorau cymysg dros 45 mewn nifer ar y dydd Sadwrn cyntaf a llongyfarchiadau hefyd i Gôr Aelwyd Hamdden ar gyrraedd y trydydd safle yn y gystadleuaeth i gorau pensiynwyr ar y dydd Mawrth. Braf iawn i ni yn Ebeneser oedd cael llongyfarch Gweneth Evans ar gael ei derbyn i’r Orsedd eleni. Mae’r eisteddfod wedi’i gadael ei marc eleni ac mae’n eithaf sicr na fydd 30 mlynedd yn mynd heibio cyn y daw hi’n ôl i’r brifddinas.

Dechrau tymor newydd Ar ôl haf siomedig o ran y tywydd, daeth criw da o blant i ddechrau tymor newydd o weithgareddau’r ysgol Sul ar 14 Medi. Cafwyd gwledd o bitsas yn ginio a bu sgwrsio a rhannu storïau am wyliau tramor a’r tywydd gwell gafwyd.

Garddwr o fri Nid pawb sydd â dawn i arddio ond mae un yn ein plith yn Ebeneser sydd wedi dangos i’r ddinas gyfan ei ddawn. John Davies yw hwnnw. Ef oedd y buddugwr yn y gystadleuaeth flynyddol, Caerdydd yn ei Blodau; nid yn unig am y tro cyntaf, dros ardal Rhiwbeina ond hefyd dros y ddinas gyfan. Llongyfarchiadau mawr iddo. a phob dymuniad da ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Myfyrwyr Dyma ni ar ddechrau blwyddyn goleg arall a’r myfyrwyr yn hen a newydd yn dychwelyd i Gaerdydd. Mae croeso cynnes i unrhyw fyfyriwr ymuno â ni yn ein gwasanaethau. Cynhelir ein gwasanaethau am 10:00 y bore a 6:00 yr hwyr. Beth am ymweld â’n gwefan hefyd? Ewch i www.ebeneser.ik.com i gael blas ar ein gweithgareddau.

Llongyfarchion Llongyfarchiadau i’n pobl ifanc fu’n llwyddiannus yn yr arholiadau dros yr haf a phob dymuniad da i’r dyfodol. Y mae un o’n hieuenctid sef Ioan Evans yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Daearyddiaeth. Dymunwn yn dda iddo yntau.

Steddfod Caerdydd Rydym fel capel am ddiolch o galon i bawb a gynorthwyodd ym mhob ffordd yn ystod yr ŵyl ar ran Salem, ac am longyfarch yr holl grwpiau a chorau sy'n ymarfer yn Salem a berfformiodd yn ystod yr ŵyl. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn eich llwyddiant.

Colli Richard Chwith sobor i ni, wrth i weithgareddau'r flwyddyn ail ddechrau wedi'r haf, yw bod heb Richard Hall Williams, oedd yn flaenor mor arbennig, mor barod ei gyngor a'i frwdfrydedd yn heintus. Byddai Richard wedi bod yng nghanol yr holl weithgarwch ar ddechrau tymor fel hyn, ac mor barod ei anogaeth i bob peth.

Clwb Brecwast Mae'r clwb wedi ail dechrau yn Ystafell Edwin, festri Salem ar foreau Mercher, y cyntaf a'r trydydd o'r mis. Croeso mawr i rieni a'u babanod i ymuno a ni rhwng 9.45 a 11.15.

Priodas Llongyfarchiadau mawr i Martin a Lowri a briododd yn Salem ddiwedd Awst.

Bedydd Cafwyd dau fedydd yn ystod y mis. Bedyddiwyd Maya, merch Manon ac Ashok, a chwaer i Noa ac Osian. Yn ogystal, bedyddiwyd Daniel, mab i Mona a Bleddyn, a brawd bach i Siwan a Caradog. Dymunwn yn dda iddynt.

Picnic yn y Parc Brynhawn Sul yr 21ain o Fedi cawsom bicnic yn y parc wedi'r oedfa. Yn ffodus, roedd yr amseru'n wych ­ haul braf ha' bach Mihangel! Cawsom gyfle i gymdeithasu ac fe gafodd y plant fodd i fyw.

Bedydd Braint i ni fel cynulleidfa yng ngweinyddiad o'r Cymun Bendigaid ar fore Sul ym mis Awst, oedd bod yn dystion i fedydd Selyf Illtud, mab bychan Carys Alun (aelod o gôr yr eglwys), a Norman Harries, ac i dderbyn a chroesawu'n llawen y bychan i mewn i deulu'r Arglwydd.

Garddwest A hithau yn un o'r prynhawnau mwyaf tesog a gawsom eleni, mwynhawyd Garddwest yng ngartre Dr. Stuart a Catherine Owen­Jones a'r teulu: mawr yw ein dyled iddynt am eu croeso a'u haelioni arferol. Cafwyd blas arbennig ar y te­mefus­a­­hufen ac ar y cymdeithasu hamddenol. Gwnaethpwyd elw o dros £750 at Gronfa­ail­doi'r eglwys.

Graddio Llongyfarchwn Rhodri Owen­Jones ar ennill Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caerfaddon. Dymuniadau gorau iddo yn ei swydd barhaol gyntaf gyda chwmni Shell yn yr Iseldiroedd.

Dathlu Gweinidogaeth Newydd Ar nos Lun, 15 Medi, estynnwyd croeso cynnes yn ôl i ardal Caerdydd i Y Parchedig Hywel J. Davies pan drwyddedwyd ef yn offeiriad­a­gofal o Eglwys Dewi Sant. Fe'i trwyddedwyd gan Archesgob

Cymru, Y Parchedicaf Ddr. Barry Morgan, yng ngŵydd cynulleidfa o dros ddau gant ­ a oedd yn cynnwys, nid yn unig aelodau Eglwys Dewi Sant ac offeiriaid o Esgobaethau Llandaf a Thyddewi a chynrychiolwyr o gapeli Cymraeg Caerdydd, ond nifer hefyd o'i gyn­ gydweithwyr a'i gyfeillion o'r ddinas a hefyd o'i fro enedigol, Cwmbach, Aberdâr, ynghyd â thyrfa luosog o gyn­blwyfolion Hywel o blwyfi Llanarthne a Llanddarog. Cafwyd gwasanaeth bendithiol gyda

chanu o safon arbennig o dan arweiniad ein horganydd a'n côr­feistr, David Leggett, a chôr yr eglwys. I ddilyn, bu cyfle i bawb gymdeithasu

dros baned a bwffe ac i ddymuno’n dda i Hywel yn ei weinidogaeth newydd.

Archesgob Cymru gyda Y Parchedig Hywel Davies a Wardeiniaid yr

Eglwys, D. Rhys Jones a Margaret Lloyd Hughes.

Page 10: Dinesydd Hydref 2008

10 Y DINESYDD HYDREF 2008

Cydymdeimlo Merched y Wawr Cangen Radur

Nos Fercher Medi'r 3ydd oedd Noson Agoriadol y Gangen, a dyna gadarnhau fod Ha­Ha­Haf 2008 yn rhan o hanes. `Roedd hi'n braf cael cyfle i `mochel glaw, hynny yng nghwmni llond ystafell o aelodau hen a newydd ac i glywed Llywydd y Gangen, Mary Wiliam yn ein hatgoffa am lwyddiant a mwyniant ein `Steddfod Genedlaethol `ni' eleni. O'r llwythi o `bice bach' baratowyd i borthi'r dyrfa fu ym Mhabell M.Y.W., i'r Cyflwyniad ar lwyfan mawr y Pafiliwn, i'r gweithwragedd diwyd fu'n paratoi a chynnal gwerddon o groeso dros yr Ŵyl, a heb anghofio gwirfoddolwyr y Darllenathon Beiblaidd, fe ddaeth rhyw deimlad fel pan ddaw `haul ar fryn' drosom ­ a rywsut fe giliodd y cof am dipyn o law, nid dyna oedd y 'Steddfod i ni yng Nghangen Radur. Chymerodd Mary fawr o amser i ddweud ei dweud ac fe aeth a ni at atyniad y noson, ein siaradwraig Manon Rhys. Efallai mai Rhondda a Ffosyffin piau calon Manon, ond mae gan Gaerdydd, hefyd, ran bwysig yn ei `heddiw' hi. Arddangosfa o 'gameos' o'r cymeriadau

sy'n bodoli yn ei llyfrau gawsom ni gan Manon, ond nid lluniau statig mohonyn nhw, trwy'i llais, trwy ddarlleniadau ac ambell i esboniad a datgelu cyfrinach y cymeriad fe agorwyd i ni ddrws arddangosfa o luniau hyfryd. Rhai lluniau ysgafn eu cyffyrddiad fel dyfrlliw, eraill yn fwy lliwgar a phob un ohonyn' nhw yn agos at y galon. Rhoddodd Manon gyngor bach syml o'r dechneg o droi geiriau yn ddarlun, a'r cyfan yn llachar ond syml, 'doedd dim straen wrth geisio gweld beth yn union oedd ym meddwl yr artist yma, a thrwy'r holl arddangosfa yr oedd cyffyrddiad yr artist mor ysgafn â deilen yn cwympo ­ ac fe gawsom gerdd fach hyfryd ar siâp deilen. Rhag ofn i neb feddwl mai noson di hiwmor gawson ni fe fu'r saga o greu `Sundae' Hufen Ia mewn cafe ar y Prom yn Y Rhyl yn hwyliog dros ben, rhaid gwneud yn siŵr mai ceiriosen yw pob lwmpyn pinc o hyn ymlaen. Ac yr oedd y llun o'r teimladau a'r tyndra yng nghalon y fam a'i phlentyn wrth i dennyn cariad gael ei ymestyn pan fo'r plentyn bach yn troi at fyd mawr agored oedolyn yn ddealladwy i bawb fagodd blant. Yr hyn sy'n anhygoel yw nad oedd angen cyfarpar y technegau modern i arddangos y lluniau, 'doedd dim i ddod rhwng y syllwr (y gwrandäwr) a'r llun yn ei ddychymyg. Noson oedd hon i ryfeddu ati ac i'w

thrysori. Diolch yn fawr Manon.

CYNGERDD PAUL CAREY JONES A LLYR WILLIAMS

Bydd dau artist disglair sy'n mwynhau cefnogaeth cryf yng Nghaerdydd yn rhannu'r llwyfan yn Neuadd Gyngerdd y Brifysgol, nos Fawrth Tachwedd 11eg. Mae'r bariton Paul Carey Jones yn enedigol o'r ddinas ac yn mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn gyda Chwmni Opera'r Alban ac fel datgeinydd prysur mewn cyngherddau ac operâu ar draws Ewrop. Nid oes raid cyflwyno ei gyfeilydd nodedig Llyr Williams, sydd bellach yn fyd enwog fel pianydd a chyfeilydd athrylithgar. Rhaglen amrywiol a berfformir, gyda

chaneuon gan Schubert a sawl cyfansoddwr poblogaidd o Gymru. O ddiddordeb arbennig fydd y perfformiad cyntaf o bedwar gosodiad gan Richard Elfyn Jones (un ohonynt ,"Ymbil San Ffransis' , yn y Gymraeg) o farddoniaeth hudolus y bardd Saesneg cyfriniol, Gerard Manley Hopkins, oedd a chysylltiadau agos a Chymru . M a n y l i o n p e l l a c h g a n :

[email protected]. Ffon: 029 2087 5939.

Cydymdeimlwn â theulu'r diweddar Gerallt Evans, cyn­bennaeth Coleg Cerdd a Drama Cymru a fu farw yn 89 oed ar 8 Awst. Bu'r angladd yn Amlosgfa'r Ddraenen ar 18 Awst.

Cydymdeimlwn â theulu'r diweddar Lyn Osborne, Ystum Taf a fu farw'n dawel yn 94 oed yn Ysbyty'r Brifysgol ar 25 Awst. Bu'r angladd yn Eglwys y Santes Fair yn yr Eglwys Newydd ar 4 Medi ac yn dilyn ym mynwent y Ddraenen. Bu'n gweithio yng Nghanolfan y BBC yn Llandaf am bum mlynedd ar hugain nes ei ymddeoliad.

Marw ymhell o gartref Bu farw Ioan Kenrick gynt o Lanrwst mewn damwain ar rig olew ym Malaysia ym mis Awst. Roedd yn fab i Dr Arthur a Gwyneth Kenrick, Llanrwst ac yn gefnder i'r actores Gwyneth Strong. Bu ei fam Gwyneth a'i chwaer Mair a'r teulu'n aelodau yng Nghapel y Crwys blynyddoedd yn ôl. Cydymdeimlir â'r teulu yn eu colled.

Teyrnged i Gerallt Aylwin Evans

1919­2008 Fy mraint yw cyflwyno teyrnged i Gerallt. Cymro i’r carn ac yn falch o hynny. Carodd ei wlad a wasanaethodd ac a gyfrannodd gymaint iddi mewn llawer dull, modd a chyfeiriad. Gerallt y Cerddor mawr a wnaeth enw

iddo ei hun mewn maes a oedd wrth fodd ei galon. Y feiolinydd ­ a gafodd wersi yn gynnar gan Morgan Lloyd, Abertawe. Y pianydd, y canwr, y cyfansoddwr, ffurfiwr ac arweinydd corau, arweinydd cerddorfeydd a Chymanfaoedd Canu. A bu’n beirniadu mewn Eisteddfodau lleol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ganwyd Gerallt ym Mhontneddfechan, lle’r oedd ei dad, y Parchedig JT Evans yn weinidog. Symud yn gynnar i Abertawe pan aeth ei dad yn weinidog i Saron, Gendros. Yno y treuliodd y rhan fwyaf o’i flynyddoedd cynnar. Aeth i Goleg Caerdydd ac ennill Gradd

mewn Cerddoriaeth. Ymhlith ei gyd­ fyfyrwyr roedd Alun Williams, Cyril Williams a’n cyfaill, y Parch Noel Evans. Adeg yr ail ryfel byd yr oedd Gerallt yr

heddychwr yn wrthwynebydd cydwybodol ac ymaelododd ag ENSA. Yr adeg yna, arweiniodd os nad ffurfiodd Gôr Clasurol gan ddiddanu milwyr yn y Dwyrain pell, India a mannau eraill. Cychwynnodd ei yrfa ym myd addysg fel

athro yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Ystalyfera cyn cael ei benodi yn Drefnydd Cerdd Sir Benfro yn 1951. Dyna’r adeg pan gwrddodd â chariad mawr ei fywyd, Mair, y ferch o Dreletert a hynny mewn cyngerdd yn Nhyddewi. Fel trefnydd yr oedd yn gyfrifol am hyrwyddo Cerddoriaeth drwy Ysgolion y Sir a hefyd gan fod Ymddiriedolaeth Carnegie yn noddi’r gwaith, ymestynnodd ei gyfrifoldeb i hybu cerddoriaeth drwy ddosbarthiadau nos. Wedi gwneud ei farc yn Sir Benfro, apwyntiwyd ef yn Bennaeth Adran Cerddoriaeth Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd ac yna yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg. Aeth llawer i fyfyriwr disglair trwy ei ddwylo. Mae’n sicr y byddant oll yn cydnabod eu dyled mawr iddo. Ar ben hyn oll yr oedd yn ŵr bonheddig

diymhongar, yn gymeriad hoffus, i raddau yn berson tawel ond yn llawn hiwmor ac yn gyfathrebwr heb ei ail gyda llawer o ddiddordebau eraill gan gynnwys barddoni a barddoniaeth. Hyfryd oedd cael ei gyfrif yn ffrind. Braint oedd cael ei adnabod a threulio amser yn ei gwmni.

Parch Haydn Thomas Cyn Weinidog Capel Salem, Treganna.

Page 11: Dinesydd Hydref 2008

11 Y DINESYDD HYDREF 2008

YSGOL PLASMAWR

Cystadleuaeth ddringo Am y drydedd flwyddyn yn olynol, cynhaliwyd cystadleuaeth ddringo lwyddiannus tu hwnt yng nghanolfan ddringo Boulders yng Nghaerdydd. Wedi eu hysbrydoli gan y gemau Olympaidd mae’n siŵr, brwydrodd disgyblion o flwyddyn 7 hyd 13 i’r brig gan arddangos cryn gryfder a ffitrwydd.

Llangrannog – 2008 Mymryn bach o hanes Llangrannog gan un o’r Swogs: “…Ar ddydd llun yr 8 fed o Fedi mi wnaeth Plasmawr ymosod ar wersyll yr Urdd Llangrannog â 163 o ddisgyblion bl. 7, 14 aelod o staff ac 17 swog o’r chweched dosbarth. Mi roedd hi’n wythnos wych, er iddi fod yn wlyb ar adegau mi wnaeth yr haul dywynnu arnom erbyn diwedd yr wythnos. Mi wnaeth pawb fwynhau’r gweithgareddau’n fawr ­ a dim un trip yn y bws mini i ysbyty Glan Gwili! Cafwyd bore bythgofiadwy ar y traeth ac mi roedd pawb wrth eu boddau’n cael clywed hanesion Mr Aled Williams a’r swogs am eu hamser yn labordy dirgel Llangrannog(!) Diolch yn fawr i’r staff i gyd a wnaeth goresgyn Brawd Mawr Plasmawr ac i’r swogs am ei gwneud hi’n wythnos anhygoel ­ ac yn sicr i flwyddyn saith am fod yn arbennig.” gan Geraint Lloyd Herbert

Llwyddiannau hoci Llongyfarchiadau i Lowri Morgan, Bl 9, ac i Marianne Dupuy, Erin Gough, Megan a Gwenan Price, Bl 11, ar gael eu dewis i dimoedd hoci'r Sir eleni.

I’r gofod …ac yn ôl!

Taith i Houston a Florida oedd y wobr anhygoel a enillodd ddwy ferch o Flwyddyn 11 fel rhan o gystadleuaeth ffilmio Ysgolion Caerdydd. Yno, byddent yn ymweld â rhai o ganolfannau NASA gan dreulio amser gyda ‘gofod­deithwyr’ a staff allweddol y gyfundrefn. Mae Mari Fazackerley a Katie Smith­Allen yn barod wedi cwrdd ag un ‘astronaut’ oedd yn ymweld ag Ysgol Cathays, ac yn prysur baratoi ar gyfer y daith anhygoel i’r UDA. Bydd mwy o wybodaeth a lluniau yn ymddangos maes o law ar wefan yr Ysgol.

I’r dyddiadur Cwis CRAP, Nos Wener, Hydref 17, 7.30pm, Neuadd yr Ysgol. Tocynnau Ar gael gan Siriol Burford/Seimon Edwards neu'r Brif Swyddfa. Cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i hela arian ar gyfer elusen Latch: Tachwedd 24, Dachwedd. Tocynnau ar werth yn y Brif Swyddfa, Ysgol Plasmawr

Cyfleoedd i glybiau darllen Cymraeg

Caerdydd? Gyda nosweithiau cynnar yr hydref yn dechrau cau amdanom, dyma’r amser i ddarllenwyr droi at y silff lyfrau a’r rhestr ‘na o nofelau i’w darllen sydd gyda nhw yn rhywle ers y gwyliau. Dyma’r amser hefyd bydd cyhoeddwyr yn dechrau meddwl am lyfrau ar gyfer anrhegion Nadolig, a llyfrgelloedd am ddyfeisio ffordd o gael mwy ohonom i fenthyg y miliynau o lyfrau sydd gyda nhw ar ein cyfer. Mae sefydlu clybiau darllen, ffenomenon y bymtheg mlynedd diwethaf, wedi bod yn gyfle i’r llyfrgelloedd ddarparu ar gyfer ddarllenwyr o argyhoeddiad, ac mae nifer ohonynt yn cynnig cymorth i sefydlu a chynnal clybiau o’r fath. Mae dwy nofel sydd newydd eu

cyhoeddi yn cynnig cyfleoedd gwych i ddarllenwyr o Gymry. Mae nofel Meic Stephens Yeah Dai Dando yn ychwanegu at y rhestr o lyfrau sy’n trafod bywyd yn y ddinas. Mae’r nofel newydd yn trafod hanes dyn ifanc sy’n dod i’r ddinas, yn ymgartrefu yn Andrews Street, ac yn dod i ‘nabod merch sy’n byw yn Radur. Cyfle i drigolion gogledd orllewin Caerdydd i weld eu milltir sgwâr trwy lygaid newydd. Mae’n dilyn nofelau Owain Llwyd, a agorodd lygaid trigolion y Rhath i agweddau newydd ar ddiwylliant y ddinas, megis posibiliadau mynwent Cathays a thafarn y ‘Three Arches’, a rhai Mihangel Morgan a roddodd weledigaeth i ni ar fywyd dirgel y dosbarthiadau nos. Mae’r rhain, fel gwaith y nofelwyr Saesneg eu cyfrwng, megis Bernice Rubens, Trezza Azzopardi a John Williams, yn cynnig testunau trafod difyr. Mae’r nofel Ffreshars gan Joanna

Davies yn dilyn hanes criw o las fyfyrwyr yn Aberystwyth ar ddechrau’r ‘90au. Dyw broliant y cyhoeddwyr ddim yn debyg o gysuro rhieni pryderus sydd newydd ollwng eu plant annwyl mewn ystafell fach lom yng nghanol pobl ddiarth, ond mae’n siŵr o brofocio trafod cyn­fyfyrwyr prifysgol ­ canran uchel o ddarllenwyr yDinesydd, efallai? Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd

newydd i’r clybiau llyfrau Cymraeg eu cyfrwng yng Nghaerdydd. Faint sydd ohonom, tybed? Ydy darlun Tony Bianchi ohonynt ar ddechrau Pryfeta yn un deg neu ddychanol? Trafodwch!

Hwyl Llangrannog

Mae pethe'n argoeli'n dda i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ar ôl dechrau llwyddiannus i'r tymor newydd. Gyda Keri P Evans wrth y llyw a Baz a Specs yn cynorthwyo, mae'r holl garfan yn gweithio fel uned. Cafwyd tair gem brawf cyn i'r tymor ddechrau. Cafwyd perfformiadau gwych yn y gemau i gyd ond yr uchafbwynt oedd y gêm yn erbyn Pill. Colli o 4 cais i 2 oedd y canlyniad ond roedd y perfformiad yn erbyn tim sydd dair Adran yn uwch yn ganmoladwy. Gêm gyntaf y 1XV oedd un gartref yn

erbyn Llandrindod. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig a chanlyniad bendigedig: 37­ 10, 6 chais i 2 i CRCC ac ail hanner i'w gofio yn yr heulwen. Pwyntiau llawn i CRCC a Guto Llywelyn oedd seren y gêm. Colli yn y funud ola' oedd hanes yr ail

dîm yn Nhongwynlais. Roedden nhw ar y blaen o 16­15, a gydag eiliadau yn unig yn weddill llwyddodd y tim o Ogledd Caerdydd i groesi. Teithiodd y 1XV i Lwyncelyn yng

Ngwent yn ystod ail wythnos y tymor, ar gyfer Cwpan Worthington. Roedd hi'n hanner cyntaf agos gyda'r tîm cartref yn cadw meddiant ymhlith y blaenwyr. 7 ­ 3 oedd y sgôr ar yr hanner. gyda Guto Llywelyn y canolwr yn croesi, a Dafydd Shurmer y maswr yn trosi. Ond yn yr ail hanner ­ 5 cais i 1. Alun Roberts Jones (2) Cian Murphy (1) Nick kiwi(1) a Guto Llywelyn (1) Llwyddodd Dafydd Shurmer i drosi ddwywaith. A'r canlyniad ­ CRCC 36 Llwyncelyn 10. Dewisodd KP Geraint Hampson Jones fel seren y gêm. Os am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chlwb

Rygbi Cymry Caerdydd ewch i'r wefan www.clwbrygbi.com neu e­bostiwch Rhys, [email protected].

Page 12: Dinesydd Hydref 2008

12 ISSN 1362­7546

Calendr y Dinesydd Llun, 6 Hydref Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd. Siaradwr: Tony Couch. Yng Ngwesty Churchills am 7.30pm. Manylion pellach gan Tony Couch (029­2075­3625) neu [email protected]. Mercher, 8 Hydref Cymdeithas y Beibl. Gwasanaeth, Ffair a Noson Goffi yn Eglwys Dewi Sant, am 7.00pm. Mercher, 8 Hydref Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Cylch Darllen: Trafodaeth ar Jackie Jones (Stori Sydyn Caryl Lewis), yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm. Mercher–Sadwrn, 8–11 Hydref Gŵyl Llên y Lli: ‘Deffro’r Dychymyg’. Bydd nifer o gyflwyniadau a pherfformiadau Cymraeg a dwyieithog yn yr ŵyl lenyddol hon a drefnir gan yr Academi ym Mae Caerdydd. Ymhlith y llenorion Cymraeg bydd Joanna Davies, Eurig Salisbury, Ceri Elen, Huw Foulkes, Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth a Mererid Hopwood. Manylion pellach: 029­2047­ 2266; www.academi.org. Gwener, 10 Hydref Agoriad swyddogol Arddangosfa Gelf a Dylunio Ysgol gyfun Glantaf. Cyfle i weld ac edmygu gwaith disgyblion presennol, cyn­ ddisgyblion, a ffrindiau’r ysgol. Mynediad am ddim. Gwener, 17 Hydref Cylch Llyfryddol Caerdydd. ‘Ernest Jones: Y Dyn a Achubodd Fywyd Freud.’ Darlith gan Dr Tom Davies, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Sadwrn, 18 Hydref Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs gan John Emyr am John Bunyan a’i lyfr dylanwadol, Taith y Pererin, am 11.00am. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys. Llun, 20 Hydref Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni’r Athro Glyn O. Phillips yng nghapel Bethany am 7.30pm. Llun, 20 Hydref Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am

7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol. Llun, 3 Tachwedd Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd. Yng Ngwesty Churchills am 7.30pm. Manylion pellach gan Tony Couch (029­2075­3625) neu [email protected]. Mawrth, 4 Tachwedd Theatr Bara Caws yn cyflwyno’r sioe gerddorol ‘Llyfr Mawr y Plant’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am 1.30pm a 7.30pm. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.sioegerddllyfr mawryplant.co.uk neu ffoniwch swyddfa docynnau’r Ganolfan ar 08700 40 2000 neu Theatr Bara Caws ar 01286 676335. Mercher, 5 Tachwedd Cymun Bendigaid Cymraeg yn Eglwys yr Holl Saint, Rhiwbina am 7.00pm. Mercher, 5 Tachwedd Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. ‘Cymreictod Caerdydd.’ Sgwrs gan Owen John Thomas, yn festri Capel y Methodistiaid Saesneg, Windsor Road, Radur, am 7.30pm. Gwener, 7 Tachwedd Cymrodorion Caerdydd. ‘Trysorau Llyfrgell Dinas Caerdydd a Sgandal Eu Gwerthu.’ Noson yng nghwmni E. Wyn James, J. Brynmor Jones a J. Gwynfor Jones, yn festri Capel Minny St., am 7.30pm. Croeso cynnes i bawb. Gwener, 7 Tachwedd Cinio Carnhuanawc yng Ngwesty Churchills am 7.00 ar gyfer 7.30p.m. Gŵr gwadd: Dr Eurwyn Wiliam. Tocynnau: £16.00. Cysyllter â Nans Couch (029­2075­3625) neu Catherine Jobbins (029­20623­275). Croeso cynnes i bawb. Gwener, 7 Tachwedd Merched y Wawr, Cangen Bro Radur. Cwis Hwyl Cenedlaethol yn yr Old Church Rooms, Radur, am 7.30pm. Mercher, 12 Tachwedd Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Cylch Darllen: Sgwrs gan Mary Wiliam ar y testun ‘Dawn Ymadrodd’, yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm. Iau, 13 Tachwedd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Seiat yr Ifanc: ‘Beth yw Cymdeithas Aml­Ffydd?’ Arweinydd: Mathew Evans. Yng nghapel Bethel, Rhiwbina am 7.30pm. Sadwrn, 15 Tachwedd Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd

Y DINESYDD HYDREF 2008

Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs gan Dr Phil Ellis am y Wladfa ym Mhatagonia am 11.00am. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys. Llun­Iau, 17­20 Tachwedd Byd Islaw’r Bont. Sioe gerdd Ysgol Gyfun Glantaf. Tocynnau ar werth o’r ysgol 029 20333090. Llun, 17 Tachwedd Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni’r Dr Harri Pritchard Jones yng nghapel Bethany am 7.30pm. Llun, 17 Tachwedd Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol. Gwener, 21 Tachwedd Cylch Llyfryddol Caerdydd. ‘Igam Ogam – Y Llwybr tuag at Ysgrifennu Nofel Gyntaf.’ Sgwrs gan Ifan Morgan Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Cydnabyddir nawdd yr Academi.

Gwener, 28 Tachwedd Cylch Cadwgan. Yr Athro Richard Wyn Jones yn siarad ar y testun ‘Rhoi Cymru’n Gyntaf: “Dulliau chwyldro” neu’r llwybr seneddol?’ yng Nghampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys am 8.00pm. Cydnabyddir nawdd yr Academi Sadwrn, 29 Tachwedd Cynhelir Wythfed Gynhadledd Flynyddol Canolfan Uwchefrydiadau Cymry America ddydd Sadwrn, 29 Tachwedd 2008, rhwng 10.15am a 4.00 pm. Thema’r gynhadledd: ‘Y Cymry ac America Ladin’. Siaradwyr: Walter Brooks, Chris Evans, Geraldine Lublin, Diana Luft, Bill Jones, Dafydd Tudur. Lleoliad: Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd. Manylion pellach: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd (029­2087­4843; ebost: [email protected]; www.caerdydd.ac.uk/cymraeg/

Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 029­ 2062­8754; ebost: [email protected]).